Cyflwr Chwarae 2019

Page 1

Cyflwr Chwarae 2019

Adroddiad ar Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a Chynlluniau Gweithredu Chwarae 2019


Rhagfyr 2019

© Chwarae Cymru

Cedwir pob hawl. Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull gan unrhyw berson heb ganiatâd ysgrifenedig y cyhoeddwr. Cyhoeddwyd gan Chwarae Cymru, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH 2


Cynnwys Adolygiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a Chynlluniau Gweithredu Chwarae 2019

4

Cefndir

4

Newidiadau i’r Ffurflen ADCh

5

Ymchwilio i Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – awdurdodau lleol

6

Ymchwilio i Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – barn y plant

7

Yr adolygiad

8

Prosesau angenrheidiol – crynodeb o gynnydd

8

Gweithio mewn partneriaeth, cysylltiadau â’r Cynllun Llesiant, monitro Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

8

Mwyafu adnoddau

8

Ymgynghoriad cyfranogiad ac ymgysylltiad

9

Negeseuon allweddol

10

Crynodeb

10

Hygyrchedd mannau chwarae ar gyfer plant anabl

12

Cefndir

12

Creu mannau chwarae hygyrch

12

Yr Adolygiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a mynediad i fannau chwarae awyr agored

15

Sylwadau clo ar hygyrchedd

15

Cyfeiriadau

15

3


Adolygiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a Chynlluniau Gweithredu Chwarae 2019 Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Chwarae Cymru gynnal dadansoddiad o’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) a’r Cynlluniau Gweithredu Chwarae a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2019.

Defnyddir yr adolygiad i hysbysu:

Dyma’r wythfed adolygiad cenedlaethol i Chwarae Cymru ei gynnal. Mae’n ehangu ar adroddiad Cyflwr Chwarae 2000 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2000, a ddiweddarwyd wedi hynny gan Chwarae Cymru yn 2003, 2006, 2009 a 2011. Ers cychwyn y ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae, mae Chwarae Cymru wedi adolygu’r ADCh a gyflwynwyd yn 2013 a 2016 ac mae hefyd wedi adolygu amryw o Adroddiadau Cynnydd yn y blynyddoedd cyfamser. Cynhaliwyd yr adolygiad hwn rhwng mis Awst a mis Hydref 2019.

Adolygiad Chwarae’r Gweinidog a gychwynnodd yn hydref 2019

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am gynnydd wrth roi’r ddeddfwriaeth chwarae ar waith a’r effaith gafodd hyn, neu gyfrannodd at, sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd digonol i chwarae

Awdurdodau lleol am y sefyllfa ar draws Cymru gyfan o ran digonolrwydd cyfleoedd chwarae

Meysydd polisi Llywodraeth Cymru am ganlyniadau’r ADCh, sy’n berthnasol i’w meysydd gwaith penodol a chynigion ar gyfer camau gweithredu i’r dyfodol.

Gofynnwyd i Chwarae Cymru gyflwyno trosolwg: •

Cefndir

o sut y mae cyfleoedd chwarae’n cael eu sicrhau ar gyfer plant ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru o’r cynnydd a wnaethpwyd gan bob awdurdod lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae yn eu hardal ers yr ADCh blaenorol o uchelgais ac addasrwydd y Cynlluniau Gweithredu Chwarae wrth sicrhau digonolrwydd cyfleoedd chwarae gan ystyried ADCh yr awdurdod lleol o’r cyflawniadau a’r heriau dan y prosesau gofynnol a phob mater i’w ystyried sy’n ofynnol gan yr ADCh.

Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae yn Gyfarwyddyd Statudol i awdurdodau lleol ar asesu ar gyfer a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd. Mae’n cynorthwyo awdurdodau lleol i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 11 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101, a gychwynnodd ar 1 Gorffennaf 2014. Mae’r Cyfarwyddyd Statudol, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, yn rhestru nifer o Faterion y dylid eu hystyried:

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn hefyd am wybodaeth benodol am gyfleoedd chwarae ar gyfer plant anabl, gan roi sylw penodol i fynediad i fannau chwarae awyr agored, fel ardaloedd chwarae a meysydd chwarae. Adroddir ar hyn yn nes ymlaen yn yr adran Hygyrchedd mannau chwarae ar gyfer plant anabl.

4

Mater A: Poblogaeth

Mater B: Diwallu anghenion amrywiol

Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae

Mater Ch: Darpariaeth dan oruchwyliaeth

Mater D: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae

Mater Dd: Mynediad i le / darpariaeth


Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae

Mater F: Ymgysylltu â’r gymuned a’i chynnwys

Mater Ff: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.

Yn y cyfnod cyn Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2019, cynhaliodd Chwarae Cymru arolwg o’r rhwydwaith Swyddogion Arweiniol ar Ddigonolrwydd Chwarae trwy holiadur electronig i hysbysu’r adolygiad o’r Ffurflen Asesu Digonolrwydd Chwarae.

Datblygwyd y Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn 2012 i ddarparu cefnogaeth i bob awdurdod lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau, fel yr amlinellir yn Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012. Paratowyd y pecyn cymorth gan Chwarae Cymru a Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â darparwyr chwarae ledled Cymru fel modd o gynorthwyo gweithredu’r ddyletswydd.

Derbyniodd Chwarae Cymru 14 o ymatebion i’r holiadur byr. O’r 14 ymateb dim ond un ymatebwr nododd nad oeddent yn teimlo bod y statws Coch Melyn Gwyrdd (RAG) yn ddefnyddiol. Yn gyffredinol, roedd pawb yn teimlo bod y templed yn ddefnyddiol neu’n ddefnyddiol iawn gan ofyn i fawr ddim newidiadau gael eu gwneud iddo. Cyflwynwyd canlyniadau’r arolwg i’r Rhwydwaith mewn cyfarfodydd rhanbarthol a gynhaliwyd yn ystod Mehefin 2018. Cafwyd trafodaeth am y templed, gyda phob cyfarfod, yn gyffredinol, yn cytuno i gadw at y broses o bennu statws RAG ar gyfer pob criteria.

Cynghorwyd yr awdurdodau lleol y dylid defnyddio’r pecyn cymorth gan gyfeirio hefyd at Reoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012 a dogfen gysylltiedig Cyfarwyddyd Statudol, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae. Mae’r rhain yn amlinellu manylion yr asesiad sydd angen i bob awdurdod lleol ei gwblhau, yn dilyn cychwyn Adrannau 11(1), 11(2), 11(5) ac 11(6) Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) (2010).

Pwyntiau allweddol o’r ymarfer hwn: •

Mae angen diweddaru polisïau trwyddo draw

Ychwanegu colofn er mwyn galluogi rhifo’r templed yn lleol

Mater A: Poblogaeth – dros amser, teimlwyd efallai bod hwn wedi tyfu’n fater blwch ticio. Lleisiwyd barn bod angen i’r ffocws fod ar sut y defnyddir y wybodaeth ac i ddynodi tueddiadau yn y boblogaeth a’r effaith ar chwarae, fyddai efallai’n cael ei grynhoi’n well mewn naratif

Dynodi’n gwbl eglur unrhyw griteria sydd wedi ei ddiweddaru neu ei newid mewn unrhyw fodd

Darparu arweiniad cwbl eglur ar sut y mae’r templed wedi ei newid.

Newidiadau i’r Ffurflen ADCh Ar gyfer 2016, diwygiodd Llywodraeth Cymru’r Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r Ffurflen Asesu Digonolrwydd Chwarae er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddogfennu’r cyfeiriad a’r pellter a deithiwyd o ran digonolrwydd cyfleoedd chwarae rhwng ADCh 2013 a 2016. Mae Chwarae Cymru’n hwyluso’r Rhwydwaith Digonolrwydd Chwarae, sy’n anelu i gynorthwyo gyda rhannu gwybodaeth rhwng swyddogion awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ledled Cymru. Tra bo pob awdurdod lleol yn defnyddio’r un broses, mae amrywioldeb yn dal i fodoli o ran sut y bydd pob un yn mynd i’r afael â’r ddyletswydd i asesu ar gyfer chwarae plant.

Rhannodd Chwarae Cymru’r wybodaeth yma gyda Llywodraeth Cymru a dosbarthwyd templed diwygiedig, oedd yn ymateb i’r materion uchod, ynghyd â nodyn cyfarwyddyd i awdurdodau lleol ym mis Medi 2018.

5


Mae amrywioldeb yn dal i fodoli yn y defnydd o’r ffurflen ADCh ac mae hyn yn gwbl ddealladwy gan ei bod yn ymwneud â chapasiti a materion lleol. Mae’r adolygiad hwn wedi amlygu’r materion canlynol: •

Mae lefel y manylion ar gyfer pob criteria yn amrywio o ffurflen i ffurflen

Oherwydd capasiti, mae nifer o’r adrannau yn cael eu rhannu rhwng cydweithwyr i’w cwblhau. Mae hyn yn arwain at weld rhai o’r criteria yn cael eu camddeall neu ddim yn cael eu cwblhau

a nodiadau a gymerwyd mewn cyfarfodydd rhanddeiliaid mewn tri awdurdod lleol astudiaeth achos, nodiadau a gymerwyd wrth fynychu cyfarfodydd rhanbarthol i rannu profiadau ar draws awdurdodau lleol, cyfweliadau gyda swyddog o Lywodraeth Cymru a swyddogion allweddol o bartneriaid cenedlaethol (Chwarae Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) ac arolwg ar-lein ar gyfer rhanddeiliaid allweddol oedd ynghlwm â’r broses ADCh. Mae Tuag at Sicrhau Cyfleoedd Chwarae Digonol yn brosiect ymchwil graddfa fechan a:

Gwelir defnydd anghyson o’r statws RAG.

Mae diddordeb cynyddol yn yr ADCh ar lefel leol a chenedlaethol, ond gall fod yn anodd dehongli peth o’r wybodaeth a nodir ynddynt.

edrychodd ar yr hyn ddigwyddodd dros y 12 mis wedi cyflwyno Asesiad Digonolrwydd Chwarae 2013

edrychodd ar sut y gwnaeth awdurdodau lleol dethol ymbaratoi ar gyfer ymateb i gychwyn sicrhau cyfleoedd chwarae digonol.

Mae Chwarae Cymru’n argymell y dylem weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Rhwydwaith o Swyddogion Arweiniol ar Chwarae i ystyried mireinio’r templed er mwyn cefnogi casglu a chyflwyno’r data yn well.

Yn 2019, comisiynodd Chwarae Cymru Russell i arwain astudiaeth ddilynol edrychodd ar yr hyn yr oedd pobl yn teimlo oedd wedi newid ers cyflwyno’r Ddyletswydd. Cyflawnwyd hyn trwy:

Ymchwilio i Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – awdurdodau lleol Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gydag ymchwilwyr i ymchwilio i weithrediad y ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Yn 2013 a 2014, cynhaliodd Stuart Lester a Wendy Russell2 ddau brosiect ymchwil i ymatebion awdurdodau lleol i’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, oedd yn newydd ar y pryd.

ddadansoddi ADCh a dogfennau eraill awdurdodau lleol

siarad gyda swyddogion allweddol mewn awdurdodau lleol, Chwarae Cymru, Llywodraeth Cymru a Swyddfa’r Comisiynydd Plant

siarad gyda gweithwyr proffesiynol, plant a theuluoedd mewn tri awdurdod lleol astudiaeth achos.

Mae’r papur, Hawl Plant i Chwarae yng Nghymru: Chwe blynedd o straeon a newid ers cychwyn Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Cymru yn dynodi’r hyn weithiodd yn dda, yr heriau a wynebwyd, a’r hyn allai fod yn wersi ar gyfer y dyfodol, er mwyn gwneud digonolrwydd yn gynaliadwy ac yn fwy llwyddiannus fyth. Ceir hyd i grynodebau gweithredol o bob adroddiad ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ymchwil

Mae Welingtons Croen Llewpard, Het Silc a Phiben Sugnwr Llwch: Dadansoddiad o ddyletswydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae Cymru yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ymchwil graddfa fechan oedd yn archwilio sut ymatebodd awdurdodau lleol i gyflwyno’r ddyletswydd i asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae ar gyfer plant. Mae’n tynnu ar ddata o ADCh 20 awdurdod lleol a’r dogfennau cysylltiedig, cyfweliadau 6


Ymchwilio i Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – barn y plant

I gefnogi Diwrnod Chwarae 2019, cyhoeddodd Chwarae Cymru uchafbwyntiau o’r ymchwil newydd sy’n adrodd ar yr hyn y mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru. Rhannwyd y rhain gyda Llywodraeth Cymru.

Gweithiodd Chwarae Cymru gyda’r Dr David Dallimore o Brifysgol Bangor i ddadansoddi holiaduron a gwblhawyd gan bron i 6,000 o blant ar draws ardaloedd tri ar ddeg o awdurdodau lleol yng Nghymru fel rhan o’u ADCh yn 2019.

Ceir trosolwg o’r arolwg yn rhifyn haf 2019 o gylchgrawn Chwarae dros Gymru. www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau/ cylchgrawn

Cafodd y data ei goladu gyda chymorth sylweddol swyddog ystadegol trwy’r Rhaglen Gwirfoddolwyr Dadansoddol, cynllun gan y llywodraeth i gefnogi mudiadau gwirfoddol. Derbyniodd Chwarae Cymru ddata oddi wrth 18 o awdurdodau lleol. Darparodd tri ar ddeg wybodaeth yn y fformat oedd yn angenrheidiol i gynorthwyo gyda datblygu set ddata gyson ac yn ystod yr amser cyfyngedig yr oedd ein gwirfoddolwr dadansoddol ar gael.

Cyhoeddwyd adroddiad llawn ym mis Tachwedd 2019 fel cyfraniad at ddathliadau 30ain pen-blwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r adroddiad llawn ar gael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/newyddion/1222new-research-what-children-say-about-play-inwales-

Trwy’r arolwg, mae’r plant yn dweud wrthym yr hyn sy’n dda am y cyfleoedd chwarae yn eu hardal leol a pha mor fodlon y maen nhw ynghylch pryd, sut a ble y gallant chwarae.

7


Yr adolygiad Prosesau angenrheidiol – crynodeb o gynnydd

Adran 11 Cyfleoedd Chwarae wedi gweithredu fel sbardun cenedlaethol ar gyfer cynllunio darpariaeth chwarae’n lleol. Mae datblygiad Gweithgorau Digonolrwydd Chwarae (neu debyg), sydd wedi ei hwyluso yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, wedi cyfrannu at ddatblygiad agwedd cynyddol gydlynol tuag at gynllunio ar gyfer chwarae plant, gyda mwy o ryngweithio rhwng y bobl hynny sy’n gyfrifol am ddarpariaeth chwarae wedi ei staffio a mannau chwarae / agored.

Mae ADCh pob awdurdod lleol yn cynnwys Datganiad o Egwyddorion, sy’n mynegi gwerth chwarae. Mae’r adran Cyd-destun yn disgrifio’r fethodoleg a defnyddiwyd i gyflawni a chymeradwyo’r ADCh a’r Cynllun Gweithredu. Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae yn amlinellu nifer o egwyddorion sylfaenol y mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i awdurdodau lleol weithio iddynt wrth ymateb i’w dyletswyddau i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol. Yn ogystal, mae’r Pecyn Cymorth ADCh yn cynnwys nifer o brosesau angenrheidiol i bob awdurdod lleol eu cwblhau: •

Gweithio mewn partneriaeth

Ymgynghoriad a Chyfranogiad

Mwyafu Adnoddau

Cysylltiadau â’r Cynllun Llesiant

Monitro Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae.

Mae’r ADCh yn awgrymu bod cynnydd cymharol sylweddol yn dal wedi ei wneud ynghylch cynllunio strategol ar gyfer chwarae plant yn y mwyafrif o awdurdodau lleol Cymru. Mae ADCh bron pob un o’r awdurdodau lleol yn arddangos cysylltiadau gyda’r Cynlluniau Llesiant ac yn cynnwys cyfarwyddwr arweiniol enwebedig ac aelod arweiniol. Fodd bynnag, mae hwyluso Gweithgor Digonolrwydd Chwarae yn her, yn enwedig i’r ardaloedd hynny sydd heb swyddog digonolrwydd chwarae penodedig. Ble gwelwyd cynnydd cyfyngedig, mae’r mwyafrif o ADCh wedi gallu dynodi rhesymau am hyn a datrysiadau ar gyfer sut y gellid cyflawni’r rhain fel rhan o’r Cynlluniau Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae. Mae’n amlwg bod cynnwys yr ADCh yn adlewyrchu’r seilwaith, y capasiti a’r wybodaeth digonolrwydd chwarae yn lleol. Mewn nifer o achosion, mae Materion penodol yn derbyn mwy o sylw trylwyr. Mae’n ymddangos bod hynny’n adlewyrchu’r cynllun gwaith neu wybodaeth y swyddog sy’n cwblhau’r asesiad cyffredinol.

Gweithio mewn partneriaeth, cysylltiadau â’r Cynllun Llesiant, monitro Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Mae canfyddiadau’r adolygiad yn dynodi, er gwaethaf y pwysau ariannol sylweddol a digynsail parhaus y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, bod gweithio partneriaeth a chydweithredu’n parhau wrth baratoi’r ADCh a’r Cynlluniau Gweithredu. Mae’n ymddangos bod cydweithredu da rhwng adrannau o fewn awdurdodau lleol. Mae hyn i’w weld amlycaf yn yr ardaloedd hynny sydd â swyddog arweiniol digonolrwydd chwarae dynodedig.

Mwyafu adnoddau Mae pob ADCh yn nodi bod yr awdurdodau wedi wynebu materion sylweddol o ran ariannu a chapasiti staffio. Mae’n ymddangos bod cynnydd

Mae cyfarfodydd y Rhwydwaith Digonolrwydd Chwarae a’r ADCh yn dangos bod cychwyn

8


wedi ei wneud o ran cyflawni rhai o dargedau’r Cynlluniau Gweithredu Digonolrwydd Chwarae. Fodd bynnag, mae hyn o ganlyniad, yn bennaf, i Grantiau Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan ychwanegol a ddosbarthwyd gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

capasiti swyddogion awdurdodau lleol wedi lleihau dros amser.

Ymgynghoriad, cyfranogiad ac ymgysylltiad Er gwaetha’r pwysau ariannol cynyddol, mae’n ymddangos bod ymrwymiad parhaus i sicrhau y glynir at egwyddorion sylfaenol ymgynghori, cyfranogi ac ymgysylltu.

Mae pob ADCh yn nodi effaith negyddol mesurau cynni ar y ddarpariaeth ar lefel leol ac ar gapasiti’r awdurdod lleol i gwblhau’r asesiad. Mewn rhai achosion, mae’n ymddangos bod adrannau o’r ADCh wedi eu cwblhau gan adrannau ar wahân i’w gilydd. Er nad yw hyn yn rhywbeth newydd, dylid nodi efallai bod newid swyddogion yn ystod oes y broses ADCh yn effeithio ar wybodaeth am a dealltwriaeth o chwarae, ac o ganlyniad yn dylanwadu ar yr asesiad a’r statws RAG.

Mae nifer o ADCh yn nodi y defnyddiwyd y Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan i gynnal ymgynghoriadau mwy trylwyr gyda phlant a chymunedau. Cynhaliwyd y rhain gyda grwpiau ffocws mewn cymdogaethau neu gyda grwpiau o blant penodol. Mae’r asesiadau i gyd yn dynodi rhyw lefel o ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a rhieni. Ble ceir capasiti datblygu chwarae un ai mewn awdurdod lleol neu sefydliad partner, mae’n ymddangos y cafwyd ymgysylltu da iawn. Ble fo capasiti datblygu chwarae cyfyngedig, mae’n bosibl bod ymgysylltiad â’r plant yn llai effeithiol.

Mae adolygiad 2019 wedi dynodi ei bod yn ymddangos bod cynnydd yn y defnydd anghyson o’r statws RAG dros Gymru. Ble fo adrannau wedi eu cwblhau ar wahân, mae’n ymddangos bod y dadansoddiad yn oddrychol yn hytrach na’n asesiad corfforaethol cytûn. Mae hyn yn adlewyrchu’r neges a geir ym mhob ADCh, bod

9


Negeseuon allweddol •

Mae ariannu Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi arwain at gynnydd mewn camau gweithredu i sicrhau cyfleoedd chwarae ar draws Cymru. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch sut y dylid defnyddio buddsoddiadau yn erbyn tlodi a buddsoddiadau â ffocws eraill i gefnogi digonolrwydd chwarae.

Mae’n heriol i awdurdodau lleol hwyluso Grwpiau Monitro Chwarae, yn enwedig mewn ardaloedd heb swyddog digonolrwydd cyfleoedd chwarae penodedig.

Mae’n ymddangos bod dryswch yn dal i fodoli ynghylch y termau gweithlu gwaith chwarae a’r gweithlu chwarae, er gwaethaf cynnwys ddiffiniadau yn nhempled ADCh 2019.

Mae’r criteria sy’n heriol i ymateb iddynt ers 2013 yn cynnwys: •

Cynllun yswiriant sy’n darparu diogelwch i ddarparwyr trydedd sector (Mater Ff)

Cludiant cymorthdaledig (Mater Dd)

Asesiad safle tir llwyd (Mater C).

Crynodeb Mae’r adolygiad hwn o ADCh 2019 wedi dangos gostyngiad sylweddol mewn staff awdurdodau lleol a gyflogir i ddatblygu a throsglwyddo cyfleoedd chwarae, yn ogystal â chau cymdeithasau chwarae rhanbarthol. Yn 2010 roedd 10 cymdeithas chwarae, yn 2019 mae dwy gymdeithas yn gweithredu ar gapasti cyfyngedig. Mae diffyg amser swyddogion yn dal i gael ei ddynodi’n gyson fel cyfyngiad ar symud ymlaen â chamau gweithredu a geir yn y Cynlluniau Gweithredu Digonolrwydd Chwarae ac wrth fonitro digonolrwydd cyfleoedd chwarae’n lleol. Mae cyfyngiadau ariannol difrifol a newidiadau yng nghapasiti awdurdodau lleol a’u partneriaid yn milwriaethu fwyfwy yn erbyn cynnydd wrth fynd i’r afael â blaenoriaethau a glustnodwyd. Mae hefyd yn effeithio ar y gallu i ymgysylltu mewn rhai ardaloedd.

Mae nifer o ADCh yn dal i nodi’r angen am broses Asesu Ansawdd ar gyfer darpariaeth gwaith chwarae wedi ei staffio.

Er gwaetha’r heriau, mae pob un o’r ADCh yn arddangos ymrwymiad i sicrhau newid er gwell, gan gydnabod yr angen i fod yn ystyrlon o adnoddau a chapasiti sy’n bodoli eisoes. Mae dadansoddiad o’r ffurflenni a ddychwelwyd yn nodi bod y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae wedi gweithredu fel sbardun cenedlaethol ar gyfer cynllunio darpariaeth chwarae’n lleol. Mae’r adolygiad yn awgrymu bod awdurdodau lleol a’u partneriaid yn teimlo bod y ddyletswydd i gwblhau ADCh wedi codi proffil chwarae’n lleol ac wedi cyfrannu at ffurfio cysylltiadau trawsadrannol cryfach rhwng swyddogion llywodraeth leol.

10


11


Hygyrchedd mannau chwarae ar gyfer plant anabl Cefndir

Fe wnaeth ein gwaith yn ymchwilio ac yn ymgynghori ar gyfer datblygiad y pecyn cymorth arddangos bod mynd i’r afael â phob mater sy’n ymwneud â hygyrchedd yn gymhleth. Ar hyn o bryd, mae llawer o ddarparwyr chwarae ac ymgyrchwyr yn canolbwyntio ar offer sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod llawer o wahanol fathau o anabledd ac anghenion arbennig. Mae offer anghyfarwyddol, y gellir gwneud defnydd hyblyg ohono – fel siglen ‘nyth’ – yn ddeniadol i ac yn ateb anghenion nifer fawr o blant sydd â gwahanol anghenion a doniau.

Ym mis Chwefror 2018, cyflwynodd Vicky Howells AC Ddadl Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod ynghylch chwarae cynhwysol. Er mwyn hysbysu’r drafodaeth, paratôdd Chwarae Cymru bapur briffio a’i ddosbarthu i bob Aelod o’r Cynulliad. Amlinellodd y papur y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi hawl plant i chwarae yng Nghymru. Cyflwynodd drosolwg o ganfyddiadau o ADCh awdurdodau lleol, dynododd ddatrysiadau i fynd i’r afael â materion ehangach oedd yn ymwneud â mynediad, a gorffennodd gydag argymhellion gan Chwarae Cymru.

Cytunodd yr ymgynghorai, pan fo difrifoldeb cyflwr neu nam y plentyn mor sylweddol fel eu bod angen offer penodol, mae’n debyg y bydd angen i’r offer fod yn benodol ar eu cyfer hwy fel unigolyn. Mae’r sefyllfa hon yn gymwys i nifer fechan iawn o blant. Mae’n bwysig cydnabod nad oes agwedd ‘un maint i weddu i bawb’ tuag at ateb anghenion pob plentyn. Mae’n bwysig hefyd i addasu darpariaeth er mwyn sicrhau y gall plant chwarae gyda’u ffrindiau ar y maes chwarae a bod y chwarae’n cael ei gyfoethogi gan ddarnau penodol o offer.

O ganlyniad i’r gweithgarwch hwn, comisiynodd Chwarae Cymru ddatblygiad pecyn cymorth Creu Mannau Chwarae Hygyrch.

Creu mannau chwarae hygyrch Datblygodd Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad ag Alison John & Associates, y pecyn cymorth i gefnogi awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, gwleidyddion ar bob lefel, cynllunwyr mannau agored, cymdeithasau tai a rheolwyr meysydd chwarae eraill i’w helpu i gyflawni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae siglo’n weithgaredd boblogaidd iawn mewn mannau chwarae. Gall offer arbenigol ddarparu cyfle gwerthfawr i rai plant anabl brofi’r teimlad o siglo a throelli, ond mae’r offer yma’n aml yn gostus iawn. Yn achos ambell ddarn o offer, yn enwedig siglenni cadeiriau olwyn, ceir pryder oherwydd eu dyluniad, y gall rhai hybu arwahanu. Mae’r rhain, yn gyffredinol, wedi eu ffensio a’u cloi ac nid ydynt yn cyfrannu at gynhwysiant.

Fe weithiom gyda grŵp ffocws bychan o rieni, rheolwyr ardaloedd chwarae awdurdodau lleol, swyddogion datblygu chwarae a chynrychiolwyr o fudiadau plant a roddodd gyngor ar gynnwys. Cyhoeddwyd pecyn cymorth Creu mannau chwarae hygyrch ym mis Tachwedd 2017: www.playwales.org.uk/eng/ creatingaccessibleplayspaces https://issuu.com/playwales/docs/creu_mannau_ chwarae_hygyrch?e=5305098/55847719

Ar y cyfan, mae’r arfer cyfredol ar gyfer darparu mannau chwarae hygyrch yn canolbwyntio ar yr amgylchedd ffisegol a gwasanaethu pobl sydd ag anawsterau symudedd. Mae’r pecyn cymorth yn anelu i ganolbwyntio sylw ar yr amgylcheddau synhwyraidd a chymdeithasol sy’n 12


Yr Adolygiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a mynediad i fannau chwarae awyr agored

gysylltiedig â chwarae. Mae ystyried ffactorau ffisegol, cymdeithasol a synhwyraidd yn cynyddu ansawdd a hygyrchedd mannau chwarae ar gyfer pob plentyn, gan gynnig amgylchedd chwarae cyfoethog i bawb.

Mae’r Cyfarwyddyd Statudol, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, yn rhestru nifer o Faterion y dylid eu hystyried:

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys trosolwg o’r polisïau a’r deddfau sy’n sail ar gyfer creu mannau chwarae hygyrch a chynhwysol. At ddiben y papur hwn, mae’r diffiniadau canlynol yn ddefnyddiol: Offer chwarae neu faes chwarae Offer sydd wedi ei ddylunio ar gyfer chwarae – fel siglenni, llithrennau a strwythurau dringo. Chwarae cynhwysol Mae chwarae cynhwysol yn golygu bod gan bob plentyn a pherson ifanc fynediad cyfartal i ddarpariaeth chwarae leol o safon dda. Mae hyn yn golygu y gallant chwarae gyda phlant eraill neu ar eu pen eu hunain fel y mynnant mewn amgylchedd cyfoethog sy’n cefnogi eu hanghenion chwarae ac sy’n rhoi mynediad iddynt i ystod eang o gyfleoedd chwarae.

Mater A: Poblogaeth

Mater B: Diwallu anghenion amrywiol

Mater C: Y lle sydd ar gael i blant chwarae

Mater Ch: Darpariaeth dan oruchwyliaeth

Mater D: Codi tâl am ddarpariaeth chwarae

Mater Dd: Mynediad i le / darpariaeth

Mater E: Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae

Mater F: Ymgysylltu â’r gymuned a’i chynnwys

Mater Ff: Chwarae ym mhob polisi perthnasol ac agenda weithredu berthnasol.

Caiff mynediad ar gyfer plant anabl i fannau chwarae ei asesu amlaf a’i ddelio ag e trwy Gynlluniau Gweithredu Chwarae awdurdodau lleol trwy Faterion A, B, C ac Dd y cyfarwyddyd statudol.

Man chwarae hygyrch Man chwarae sydd wedi ei ddylunio heb unrhyw rwystrau amgylcheddol afresymol i’r gofod neu i symud y tu mewn iddo ac o’i amgylch. Mae mynediad rhwydd i’r cyfleoedd chwarae o’i fewn. Fodd bynnag, nid yw’n dileu heriau derbyniol, sy’n nodwedd bwysig o fannau chwarae o safon. Gellir defnyddio man chwarae hygyrch gan fwy nag un plentyn ar y tro ac mewn mwy nag un ffordd. Mae amrywiol ffyrdd i symud trwy’r lleoliad a detholiad o wahanol ddarnau o offer i’w defnyddio ac i roi tro arnynt.

Ar gyfer ADCh 2019, mireiniodd Llywodraeth Cymru rai o’r criteria yn nhempled yr ADCh. Roedd hyn yn cynnwys diwygio asesiad Mater A er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddynodi orau sut y maent yn defnyddio data poblogaeth er mwyn ymateb i a sicrhau darpariaeth sy’n ateb anghenion chwarae pob plentyn. At hynny, gofynnwyd i awdurdodau lleol ystyried criterion newydd wrth asesu Mater C: ‘Mae’r Awdurdod Lleol yn cyfeirio at gyfarwyddyd sy’n ymwneud â chreu mannau chwarae hygyrch pan yn adnewyddu neu’n datblygu meysydd chwarae newydd.’

13


Mae pob awdurdod lleol yn adrodd am ryw gamau gweithredu sy’n ymwneud â’r criterion hwn. Yn bennaf oll, mae llawer yn cydnabod bod angen cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 wrth greu cytundebau gyda datblygwyr, er nad yw hyn bob amser yn glir yng nghyfarwyddyd y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) neu’r Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG). Mae’r adolygiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae yn 2019 wedi tynnu sylw at y ffaith bod cost offer yn rhwystr penodol wrth gefnogi mynediad i fan chwarae, ar gyfer pob plentyn. Mae hyn yn dueddiad mynych sy’n bresennol hefyd yn yr adolygiadau a gynhaliwyd yn 2013 a 2016. Fodd bynnag, mae’n amlwg, pan fo ariannu ar gael, mae ymdrechion yn cael eu gwneud i ddadansoddi data poblogaeth (Materion A a B) wrth ystyried gosodiadau ardaloedd chwarae a gwelliannau i fynediad (Materion C a Dd).

prynu a gosod siglenni basged hygyrch, siglen harnais a rowndabowts

prynu offer synhwyraidd y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiol leoliadau trwy gynlluniau benthyca

creu ardal synhwyraidd awyr agored, yn cynnwys nodwedd ddŵr, clychau gwynt, goleuadau solar, a gwaith celf y plant

prynu twneli cadeiriau olwyn a chuddfannau synhwyraidd

prynu offer chwarae awyr agored arbenigol i’w ddefnyddio mewn cynlluniau chwarae cynhwysol mewn ysgolion arbenigol

prynu rowndabowt arbenigol i’w ddefnyddio ar dir ysgol sy’n caniatáu mynediad i blant a’r gymuned y tu allan i oriau addysgu

cynllun prawf i gyflwyno siglenni cefnau uchel gyda chynllun benthyca strapiau

cynnal Archwiliadau Mynediad i Fannau Chwarae ar draws pob parc / ardal chwarae

gwella arwynebau a llwybrau mewn ardaloedd chwarae

gwella arwyddbyst, paneli dehongli a phontydd troed mewn mannau agored cyhoeddus er mwyn caniatáu mynediad i ddefnyddwyr anabl.

O ran cynllunio ar gyfer hygyrchedd, gwelir enghreifftiau da ar gyfer gwella mynediad i blant anabl yn y Cynlluniau Gweithredu Chwarae:

Mae’r adolygiad yn arddangos bod Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan wedi ei ddefnyddio ledled Cymru i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i’r afael a materion hygyrchedd o ran mannau chwarae awyr agored oedd wedi eu codi trwy’r broses Asesiad Digonolrwydd Chwarae. Mae ariannu wedi galluogi: •

Mae nifer o ardaloedd yn nodi bod y tîm Datblygu Chwarae’n gweithio’n agosach gyda’r Gwasanaeth Anabledd neu wedi sefydlu gweithgorau sy’n asesu ail-ddylunio ardaloedd chwarae newydd a rhai sy’n bodoli eisoes er mwyn sicrhau hygyrchedd.

Mae un ardal yn cyfeirio at sefydlu Grŵp Pobl Ifanc Anabl fel Ymgynghorwyr i archwilio hygyrchedd mannau chwarae cymunedol

Mae un ardal wedi cyhoeddi Dogfen Ystyriaethau Allweddol fel canllaw cynllunio er mwyn sicrhau bod ardaloedd newydd a rhai wedi eu huwchraddio yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hon wedi ei chynnwys ym mhecyn cymorth Chwarae Cymru.

Datblygu Canllawiau Cynllunio Atodol, sy’n mynd i’r afael â materion hygyrchedd, fel rhan o’r broses Asesu Mannau Agored.

Rhai negeseuon allweddol o’r adolygiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae:

14

Mae gan y mwyafrif o awdurdodau lleol raglenni adnewyddu cyfyngedig neu segur, o ganlyniad i doriadau mewn cyllidebau a chapasiti swyddogion

Mae gan lawer stoc sy’n heneiddio sy’n dal i weithio ond sydd ddim yn cynnig fawr o werth chwarae


Mae ambell awdurdod lleol wedi trosglwyddo rheolaeth ardaloedd chwarae i grwpiau lleol trwy Drosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng ardaloedd chwarae hygyrch â digon o offer a darparu darpariaeth ‘rhiniog drws’ mewn cymdogaethau.

Cyfeiriadau 1

Stuart Lester a Wendy Russell yw awduron yr ymchwil a’r adolygiad llenyddiaeth, dderbyniodd ganmoliaeth fawr, Play for a Change – Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives, a gyhoeddwyd yn 2008. Aethant ymlaen i ymchwilio ac i ysgrifennu Children’s Right to Play: An examination of the importance of play in the lives of children – a gomisiynwyd gan yr International Play Association a’i gyhoeddi gan y Bernard van Leer Foundation. Dylanwadodd y papur cysyniadol hwn yn sylweddol ar gynhyrchu Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 o GCUHP. Mae’r cyhoeddiadau cyfryngol hyn wedi helpu i ffurfio ein dealltwriaeth o roi cyfrif am a chymryd cyfrifoldeb am ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae.

2

Sylwadau clo ar hygyrchedd Mae ateb anghenion chwarae pob plentyn trwy ddarparu mannau chwarae awyr agored hygyrch yn dal i fod yn flaenoriaeth ar gyfer awdurdodau lleol a’u partneriaid yng Nghymru. Mae’n ymddangos, yn gyffredinol, y rhoddir mwy o ystyriaeth i egwyddorion cyffredinol cynwysoldeb. Mae’r mwyafrif o ADCh a gwblhawyd yn 2019 yn dangos gostyngiad cyffredinol mewn ardaloedd chwarae o ganlyniad i faterion sy’n ymwneud â chyllidebau a diffyg adnoddau ariannol i fuddsoddi, diweddaru ac adnewyddu safleoedd hŷn. Ble roedd rhaglenni buddsoddiad cyfalaf ar gael, mae materion sy’n ymwneud â chynwysoldeb wedi eu hystyried yn ddoeth ac wedi eu darparu ar eu cyfer.

15

www.legislation.gov.uk/mwa/2010/1/contents


Rhagfyr 2019

© Chwarae Cymru

Cyhoeddwyd gan: Chwarae Cymru, Tŷ Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH

www.chwaraecymru.org.uk

Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.