Cynyddu gwytnwch – pwysigrwydd chwarae
Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae, fel sydd wedi ei amlinellu yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). ‘Mae pob elfen o Erthygl 31 yn atgyfnerthu ac yn cydberthyn yn llwyr â’i gilydd ac, o’u cyflawni, byddant yn cyfoethogi bywydau plant. Gyda’i gilydd maent yn disgrifio’r amodau sydd eu hangen i warchod natur unigryw ac esblygol plentyndod. Mae cyflawni’r elfennau hyn yn sylfaenol i ansawdd plentyndod, i hawl plant i sicrhau’r datblygiad gorau posibl, i hybu gwytnwch ac i gyflawni hawliau eraill.’i
Yn aml, ystyrir gwytnwch fel y ddawn i ‘ymdopi ag ergydion bywyd’. Gall rhai plant godi uwchlaw adfyd a gwrthsefyll risgiau, straen a heriau difrifol heb fawr o gymorth. I eraill, mae hyn yn anos a byddant angen cymorth i wneud hynny. Felly, mae gwytnwch yn gysyniad sy’n cynnwys nid yn unig rinweddau seicolegol y plentyn ond hefyd teulu’r plentyn, ei rwydweithiau cymdeithasol a’i gymdogaeth. Gwytnwch yw ein ymateb i brofiadau bywyd – y rhai da a’r rhai hynod o heriol sy’n peri pryder – yn ogystal â’r modd y byddwn yn cael eraill i’n helpu. Mae seicolegwyr wedi dynodi rhai o’r ffactorau ‘mewnol’ sy’n gwneud person yn wydn: • Agwedd bositif • Optimistiaeth • Y ddawn i reoleiddio emosiynau • Y ddawn i ddefnyddio methiant fel adborth defnyddiolii • Doniau datrys problemau. Mae plentyndod yn cynnig cyfle i ddatblygu ystod o ymatebion hyblyg i’r amgylchedd newidiol y bydd plant yn ei wynebu’n aml. Pan fyddant yn wynebu ansicrwydd, bydd
chwarae’n caniatáu i blant ddatblygu ac ymarfer ymddygiadau newydd heb risg gormodol. Mae chwarae’n cynnwys nodweddion penodol sy’n caniatáu i blant roi tro ar strategaethau newydd a datrysiadau i heriau, a hynny’n gymharol ddiogel. Mae chwarae’n hybu hyblygrwydd corfforol yn ogystal â hyblygrwydd emosiynol trwy ymarfer ymddygiadau a sefyllfaoedd newydd ac annisgwyl. Mae’n caniatáu i blant gyfaddasu eu hymddygiad er mwyn wynebu heriau eu hamgylchedd a, dros amser, i newid yr amgylchedd hwnnw. Mae’r hyblygrwydd hwn yn rhan annatod o’r broses chwaraeiii. ‘Mae mabwysiadu persbectif gwytnwch yn cynnwys canfod ffyrdd o godi uwchlaw anfanteision ar gyfer plant unigol ac hefyd i geisio dileu’r anafanteision hynny ar gyfer plant difreintiedig yn fwy cyffredinol. Mae gan therapyddion chwarae rôl bwysig i’w chwarae wrth gynorthwyo plant i ddychmygu, prosesu ac ymarfer ‘camau gwydn’ y gallant eu cymryd drostynt eu hunain. Fel rhan o’u cyfrifoldebau a’u rhwydweithio proffesiynol ehangach, gall therapyddion chwarae eiriol dros newid ar ran plant difreintiedig yn gyffredinol.’ Yr Athro Angie Hart
Sut y mae chwarae’n cyfrannu at wytnwch Un canfyddiad allweddol o dystiolaeth yw bod chwarae plant yn ‘darparu ymddygiad sylfaenol ar gyfer datblygu gwytnwch, a thrwy hynny wneud cyfraniad sylweddol i les plant’iv. Mae’r dystiolaeth yma’n awgrymu bod chwarae’n cyfrannu tuag at ddatblygu gwytnwch trwy nifer o systemau sy’n cydberthyn, yn cynnwys: • Rheolaeth emosiynol • Pleser a mwynhad hybu teimladau cadarnhaol • Y system ymateb i straen a’r gallu i ymateb i ansicrwydd • Creadigedd a’r gallu i lunio cysylltiadau newydd a gwahanol • Dysgu • Cysylltiadau â phobl a lleoedd • Datrys problemau.
v
Mae buddiannau cymdeithasol, corfforol a deallusol chwarae, sy’n gyffredinol gytûn, yn helpu i ddadlau ein hachos bod chwarae’n elfen bwysig wrth helpu i gynyddu gwytnwch. Bydd cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae’n helpu plant i: • Ddatblygu ymdeimlad o hunanddigonolrwydd ac annibyniaeth • Teimlo bod ganddynt ymdeimlad o reolaeth yn eu byd • Teimlo cysylltiad ag eraill a gyda’u cymuned • Profi ystod o emosiynau’n cynnwys rhwystredigaeth, penderfyniad, cyrhaeddiad, siom a hyder a, thrwy ymarfer, gallu dysgu sut i reoli’r teimladau hyn • Datblygu dychymyg a chreadigedd • Gwneud synnwyr o, a ‘gweithio trwy’, agweddau anodd a phoenus o’u bywyd • Cymdeithasu â’u ffrindiau a chyd-drafod gydag eraill ar eu telerau eu hunain.
Cynyddu gwytnwch trwy chwarae Gall oedolion gefnogi plant i gynyddu gwytnwch trwy chwarae’n y cartref ac mewn lleoliadau chwarae. Gellir cyflawni hyn trwy annog dewis ac annibyniaeth a thrwy sicrhau mynediad i amgylchedd chwarae cyfoethog. Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn amgylchedd ble y gall plant a phobl ifanc wneud ystod eang o ddewisiadau; ble y ceir llawer o bosibiliadau iddynt allu dyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain.
‘Mae chwarae rhydd yn rhoi i’r plentyn sydd ar ei dyfiant, y ddawn ddeallusol i ddatrys problemau, y gallu emosiynol i wrthsefyll caledi, y ddawn gymdeithasol i helpu ei gilydd a’r gallu corfforol i gyflawni hyn i gyd. Chwarae yw carreg sylfaen gwytnwch mewn plant, waeth beth fydd bywyd yn ei daflu atynt!’ Dr Mike Shooter, cyn-Seiciatrydd Ymgynghorol a Chadeirydd Chwarae Cymru
Gall hwn fod yn unrhyw le neu sefyllfa, unai dan do neu yn yr awyr agored, a gall gynnwys:
• rhannau rhydd – deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin, eu symud a’u haddasu, adeiladu a chwalu
• ardaloedd chwarae lleol
• yr elfennau naturiol – daear, awyr, tân a dŵr
• parciau • canolfannau chwarae • caeau chwarae antur wedi eu staffio • gofal y tu allan i’r ysgol • darpariaeth chwarae symudol • cylchoedd chwarae a meithrinfeydd • ysgolion. Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn amgylchedd ffisegol amrywiol, diddorol a llawn ysbrydoliaeth sy’n mwyafu’r potensial ar gyfer cymdeithasu, creadigedd, dyfeisgarwch a her. Mae’n le ble y bydd plant yn teimlo’n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ac ar eu telerau eu hunain. Mae mannau chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i ryngweithio’n rhydd gyda neu i brofi’r canlynol: • plant a phobl ifanc eraill – gyda’r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, cydweithio, anghytuno, a datrys anghydfod • y byd naturiol – y tywydd, y tymhorau, llwyni, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid a mwd
• her a mentro – ar lefel corfforol ac emosiynol • chwarae gyda hunaniaeth – chwarae rôl a gwisgo i fyny • symud – rhedeg, neidio, dringo, balansio a rholio • chwarae gwyllt – chwarae ymladd • y synhwyrau – sŵn, blas, ansawdd, arogl a golwg • teimladau – poen, llawenydd, hyder, ofn, dicter, bodlondeb, diflastod, diddordeb, hapusrwydd, galar, gwrthodiad, derbyniad, tristwch, balchder a rhwystredigaethvi.
Chwarae – rhan annatod o blentyndod
Er bod buddiannau chwarae’n sylweddol ac amrywiol iawn a bod ei effeithiau’n cael eu profi wedi inni dyfu’n oedolion, mae chwarae’n rhan annatod o blentyndod ac mae plant yn gosod gwerth mawr ar gael digonedd o amser a lle i chwaraevii. Mae plant yn ‘asiantau gweithredol’viii yn eu datblygiad personol, a dylid eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw ac nid dim ond am bwy y gallant
fodix. Pan gaiff chwarae ei werthfawrogi, mae’n dilyn y caiff plant eu gwerthfawrogi. Mae plant wastad wedi bod angen sgiliau ymdopi effeithiol a, thra bod ein byd newidiol yn sicrhau llawer o fanteision, mae’r angen i ddarparu lle ac amser i chwarae cyn bwysiced ac erioed. I lawer, mae plentyndod bellach yn llawn pwysau cynyddol ac amserlenni prysur y bwriedir iddynt gadw plant yn brysur a diogel. Pan fo amser plant wedi ei raglennu’n gaeth gan eraill, prin y gallwn ei ystyried yn amser y plant. Mae chwarae a ddewisir o wirfodd, pan fydd y plant eu hunain yn dewis pryd, sut a beth i’w chwarae, nid yn unig yn cynnig buddiannau sy’n amddiffyn rhag straen a phwysau eraill, ond mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i blant ddarganfod eu diddordebau a’u doniau eu hunain. Pan fo plant yn cyfarwyddo eu chwarae’n bersonol, byddant yn penderfynu’r rheolau a’r rolau y byddant yn eu mabwysiadu fel rhan o’u chwarae ac yn creu’r bydoedd y gallant eu meistroli. Ddylen ni ddim ystyried amser rhydd, heb ei drefnu, fel elfen ddiangen i blant. Mae’n allweddol i blant er mwyn iddynt gael hwyl ac ymlacio, yn ogystal ac ar gyfer eu hiechyd a’u lles. Mae’n rhan o’u ‘cydbwysedd bywyd a gwaith’.
Llyfryddiaeth General comment No. 17 (2013) on the right of the child to rest, leisure, play, recreational activities, cultural life and the arts (art. 31) Genefa: Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn i
Psychology Today, Resilience [ar-lein] Ar gael ar: www.psychologytoday.com/basics/resilience [Gwelwyd 30 Hydref 2015] ii
Lester, S. a Russell, W. (2008) Play for a Change: Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives. Llundain: Play England iii
Masten, A. a Obradovic, J. (2006) ‘Competence and resilience in Development’ Annals of the New York Academy of Science, 1094: 13-27. Dyfynnir yn Play for a Change
iv
Mae chwarae’n fecaniaeth allweddol ar gyfer datblygu gwytnwch a delio gyda straen a phryder. Mae’n darparu strategaethau effeithlon ar gyfer ymdopi ag ansicrwydd ac mae’n cyfrannu tuag at iechyd meddwl a chorfforol da. Gall plentyn sydd wedi datblygu ei wytnwch ymateb a chyfaddasu’n fwy effeithiol i amgylchiadau anodd. Mae’n fwy abl i oresgyn gofid na phlant eraill ac, wrth gwrs, mae’r hyn y byddwn ni fel oedolion yn ei wneud i’w helpu ar y ffordd yn allweddol bwysig.
Play for a Change: Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives
v
Llywodraeth Cymru (2014) Cymru: Gwlad sy’n creu Cyfle i Chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru
vi
vii UNICEF (2011) Children’s Well-being in the UK, Sweden and Spain: The Role of Inequality and Materialism
Play for a Change: Play, Policy and Practice: A review of contemporary perspectives
viii
Lester, S. a Russell, W. (2010) Children’s Right to Play: An examination of the importance of play in the lives of children worldwide. Yr Hag: Bernard van Leer Foundation
ix
Am fwy o wybodaeth am ymchwil ac arfer gwytnwch, yn cynnwys adnoddau defnyddiol, ymwelwch â: http://boingboing.org.uk
Tachwedd 2015 © Chwarae Cymru
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru