Pecyn cymorth sydd wedi ei ddylunio ar gyfer unrhyw un sy’n derbyn cyfrifoldeb am reoli neu ddatblygu man chwarae mewn cymuned. Gallai fod yn gyngor cymuned, yn gymdeithas chwarae leol neu’n grŵp o drigolion. Bwriedir iddo fod yn ffynhonnell cefnogaeth a chyfeirio unigol ar gyfer grwpiau cymunedol, i lywio eu ffordd trwy rai o’r heriau o reoli neu ddatblygu man chwarae. Trwy hyn, mae’n anelu i gefnogi pobl i greu a chynnal a chadw mwy o fannau cymunedol, wedi eu dylunio’n well, a thrwy hynny wella cyfleoedd plant i chwarae.