Defnydd ymarferol o ddyfeisiau digidol mewn lleoliadau chwarae
Mae plant yn hoffi chwarae gyda thechnoleg ddigidol - ffonau clyfar, llechi a chyfrifiaduron. Mae’n eu cyfareddu a’u herio, gan gynnig mynediad i fyd cyffrous ble mae’n ymddangos bod pawb a phopeth ar-lein. Fel gweithwyr chwarae, byddwn yn ei chael yn anodd yn aml gweld sut mae hyn yn chwarae, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu beio’n rheolaidd am bopeth, yn cynnwys gordewdra, diffyg sgiliau cyfathrebu, a diffyg canolbwyntio. Mae realiti’r sefyllfa’n llawer mwy cymhleth.
Dywedodd y diweddar Douglas Adams : ‘Rwyf wedi dyfeisio cyfres o reolau sy’n disgrifio ein hymatebion i dechnolegau: 1. Mae unrhyw beth sydd yn y byd pan gewch eich geni yn normal a chyffredin ac, yn syml, yn rhan naturiol o’r modd y mae’r byd yn gweithio. 2. Mae unrhyw beth gaiff ei ddyfeisio rhwng pan fyddwch yn bymtheg a thri deg pump oed yn newydd a chyffrous a chwyldroadol ac mae’n debyg y gallwch gael gyrfa yn y maes hwn. 3. Mae unrhyw beth gaiff ei ddyfeisio pan fyddwch chi dros dri deg pump oed yn erbyn trefn naturiol pethau.’ 1
Gan fod gweithwyr chwarae o bob oed i’w cael, mae’n debyg y bydd un o’r ‘rheolau’ hyn yn canu cloch gyda phob un ohonom. Ond mae’r plant yr ydym yn gweithio gyda nhw, fodd bynnag, yn perthyn i’r dosbarth cyntaf – iddyn nhw, mae ymwneud â’r byd digidol yn normal a naturiol. Mae cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar ym mhobman a gallant fod yn hynod o ddefnyddiol, ond mae eu cyfraniad i chwarae’n destun dadlau. Mae’r daflen wybodaeth hon yn edrych ar rai o ddefnyddiau ymarferol, a’r materion sy’n ymuned â, dyfeisiau digidol mewn lleoliadau chwarae. Tra bo mwyafrif y wybodaeth yn berthnasol i bob dyfais ddigidol, mae’n canolbwyntio mwy ar ddyfeisiau cludadwy fel ffonau clyfar a llechi gan mai’r rhain gaiff eu defnyddio fwyaf gan blant a staff. Mae hefyd yn ychwanegu at gynnwys y daflen wybodaeth Chwarae a thechnoleg ddigidol sydd ar gael i’w lawrlwytho ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau/ taflennigwybodaeth
Ym mydoedd prysur newidiol y cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg ddigidol, mae’n bwysig inni geisio cadw i fyny gyda’r hyn sy’n digwydd ac yn newid. Y cyfan sydd angen ichi gofio yw ‘Peidiwch â chynhyrfu’! Mae’r mwyafrif o blant yn dal i fwynhau2, ac yn wir mae’n well ganddyn nhw chwarae’r tu allan3, dydyn nhw ddim yn destun seiberfwlio neu secstio, a dydyn nhw heb weld delweddau annymunol ar y rhyngrwyd4. Fodd bynnag, mae plant yn chwarae mewn gofodau digidol ac yn cynnwys elfennau o’r rhain yn eu chwarae corfforol5. Nid yw’r Egwyddorion Gwaith Chwarae6 yn gwahaniaethu rhwng cefnogi creu gofodau digidol ar gyfer chwarae â rhai ffisegol. Un rhan o gadw i fyny gyda’r byd digidol (Egwyddor Gwaith Chwarae 6) yw ystyried sut y gallwn ni fel gweithwyr chwarae gefnogi hyn, yn ogystal â darparu elfennau eraill sy’n ffurfio amgylchedd chwarae wedi ei gyfoethogi7. Yn aml, defnyddir y tacsonomi mathau chwarae i siarad am y gwahanol ffyrdd y bydd plant yn chwarae. Mae’r modd y bydd plant yn chwarae gyda thechnoleg yn cyfateb i un neu fwy o’r mathau hyn – ni chyflwynwyd yr un achos argyhoeddiadol ar gyfer math unigol o ‘chwarae digidol’. Fodd bynnag, nid yw chwarae ar ddyfeisiau digidol yn unig yn darparu’r profiad cymhleth y bydd chwarae wyneb-yn-wyneb yn ei gynnig, ond caiff llawer o’r amser a dreulir yn chwarae gyda thechnoleg ei gyfuno â rhyngweithio corfforol, a thrwy hynny gyfuno elfennau o’r ddau.
Awgrymiadau anhygoel Dyma awgrymiadau ar gyfer delio gyda dyfeisiau digidol yn eich lleoliad chwarae: Dysgwch am y gemau, yr apiau, yr eirfa a’r jargon diweddaraf Y ffordd orau i ddysgu yw trwy wneud yr hyn y bydd gweithwyr chwarae’n ei wneud beth bynnag, sef trwy arsylwi, ymateb i giwiau chwarae – yn cynnwys rhai digidol – siarad, a dangos diddordeb yn y modd y mae plant yn chwarae. Mae’n debyg y byddan nhw’n falch eich bod yn dangos diddordeb ac y byddant yn barod i rannu’r hyn y maent yn ei wneud gyda chi. Y rhan fwyaf o’r amser, bydd plant yn chwarae ar eu dyfeisiau, ac fel gweithwyr chwarae gallwn eu cefnogi yn y chwarae yma, cadw i fyny gyda’r chwiw ddiweddaraf, eu helpu i ddelio gyda pheryglon a risgiau, creu perthnasau da, a chael hwyl. Cadwch lygad cyffredinol ar y defnydd o ffonau a dysgwch sut y maent yn cael eu defnyddio (neu beidio) yn eich lleoliad chi Os oes unrhyw amrywiadau amlwg gallwch ymchwilio – gan ddangos diddordeb. Mae’r rhan fwyaf o ddefnydd ffôn yn gymdeithasol, ond os bydd grŵp o blant yn dechrau cadw eu ffonau pryd bynnag y bydd aelod o staff yn nesu atyn nhw, dylem geisio darganfod pam. Mae seiberfwlio, secstio a pheryglon eraill yn bodoli. Os bydd plant yn dod â ffonau newydd drud i mewn gall fod yn arwydd bod rhywun yn eu paratoi i bwrpas rhyw (grooming), a gall bod â dau ffôn awgrymu eu bod ynghlwm â gwerthu cyffuriau. Cynigwch le diogel i gadw ffonau a llechi Mae ffonau’n bethau bregus ac mae llawer o blant (ond ddim pob un) yn ymwybodol o hyn a ddim am i’w ffôn gael ei ddifrodi. Gallai cael system labelu ac atgoffa fod yn ddefnyddiol, neu fel arall gallech fod â drôr yn llawn ffonau dros nos. Byddwch yn gwbl glir gyda’r plant a’r plant yn eu harddegau, yn ogystal â gyda’r staff a’r rhieni, ynghylch eich polisi ar ddefnyddio ffonau Mae hyn yn enwedig o bwysig o ran rhannu delweddau a manylion cyswllt. Gallai gosod posteri neu arwyddion fod yn ddefnyddiol. Rydym yn byw mewn oes ble mae mwy a mwy
o ddelweddau ar-lein, ac mae nifer o leoliadau’n defnyddio delweddau’n gyhoeddus er mwyn hyrwyddo, dathlu a gwerthuso’r hyn y maent yn ei wneud. Mae’n hanfodol cael datganiad polisi cwbl glir y mae’r plant, y staff a’r rhieni’n ei ddeall. Gall hyn amrywio o waharddiad llwyr ar dynnu lluniau i agwedd mwy rhydd, ble mae’n iawn os gofynnwch i’r person sydd yn y llun. Fodd bynnag, unwaith y mae delwedd ar-lein mae yno, o bosibl, am byth. Gweler yr adran Polisi isod am restr fanwl o ystyriaethau. Meddyliwch am ffyrdd creadigol i ymgorffori technoleg mewn chwarae Gellid defnyddio ffonau, llechi neu beiriannau MP3 i chwarae cerddoriaeth ar gyfer perfformio iddo neu er mwyn creu awyrgylch, fel ysbrydoliaeth ar gyfer pethau i’w gwneud (defnyddio Pinterest, er enghraifft), neu hyd yn oed i greu ffilm neu animeiddiadau ffrâm stopio. Mae llawer o blant yn wylwyr YouTube brwd, ac yn aml byddant yn gwylio pobl yn arddangos sgiliau, fel sglefrfyrddio, y maent am eu gwneud eu hunain. Gallech eu hannog i greu fideos o’u hunain yn arddangos sgil yn eich lleoliad, waeth bod hynny’n daflu pen ôl dros ben, adeiladu cuddfan, neu dric sglefrfyrddio. Edrychwch pa mor ddiddorol yw eich gofod chwarae Os nad yw’n fwy diddorol, cyffrous, heriol neu hwyliog na chwarae gyda thechnoleg, yna efallai y bydd angen ichi wneud rhywfaint o waith! Efallai y bydd gwahardd ffonau, yn enwedig mewn lleoliadau mynediad agored neu gyda phlant yn eu harddegau, yn wrthgynhyrchiol gan y bydd hynny’n golygu mai’r staff yw’r gelyn ac yn cau cyfleoedd ar gyfer dialog. Gwahanwch y syniad o ddyfeisiau ffisegol oddi wrth y cyfryngau cymdeithasol Yn aml, byddwn yn ystyried bod dyfeisiau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol bron â bod yr un peth, ond gall gwahaniaethu rhwng y ddau fod yn ddefnyddiol iawn. Hyd yn oed pan nad yw’r plant ar-lein byddant yn canfod llawer o bethau i’w gwneud gyda’u ffonau a’u llechi. Mae hyn yn cynnwys gemau all-lein, ond yn aml iawn y nodweddion symlaf gaiff eu defnyddio amlaf – chwarae cerddoriaeth, tynnu lluniau a recordio fideos, ac edrych faint o’r gloch yw hi.
Meddyliwch sut i gadw ffonau plant yn ddiogel rhag niwed Mae’n debyg y bydd lleoliadau mynediad agored a fynychir gan blant yn eu harddegau’n delio gyda’r defnydd o ddyfeisiau digidol yn wahanol i leoliadau sy’n croesawu plant iau. Efallai y bydd meysydd chwarae antur, yn enwedig y rheini sydd wedi eu seilio ar y model ‘maes chwarae jync’, yn sylwi bod plant yn dewis cynnau tân, creu cuddfannau a neidio yn hytrach na chwarae ar eu ffonau symudol, os byddant yn dod a nhw i’r maes chwarae o gwbl. Efallai mai’r cyfan fydd ei angen i gadw ffonau rhag cael eu difrodi fydd drôr yn y swyddfa neu fag gweithiwr chwarae mewn sesiwn chwarae ar y stryd.
sy’n cael ei anfon. Mae angen i bolisïau gynnwys sut i ddiogelu plant a staff rhag risgiau digidol, ac mae angen i bawb yn y lleoliad ddeall eu rhan nhw wrth gadw’n ddiogel.
Diogelu – peidiwch â chynhyrfu!
Staff a gwirfoddolwyr
Fel gweithwyr chwarae rydym yn cydnabod yr angen i blant gymryd risgiau yn eu chwarae, tra ein bod yn anelu i leihau peryglon ac anafiadau9. Mae’r agwedd gwaith chwarae’n seiliedig ar asesiadau risg-budd10 a, tra cafodd y rhain eu dylunio gan ystyried risg corfforol, maen nhw’r un mor berthnasol ar gyfer chwarae gyda dyfeisiau digidol. Yn aml, caiff yr agwedd yma ei hamlinellu mewn polisi sefydliadol. Bydd eich polisïau’n dibynnu ar nifer o bethau, yn cynnwys y math o leoliad yr ydych yn gweithio ynddo a ble y mae wedi ei leoli, ac ystod oedran y plant sy’n mynychu. Mae’n bosibl y bydd eich lleoliad yn cynnwys dyfeisiau digidol mewn polisi chwarae cyffredinol, fel rhan o’ch polisi rhyngrwyd a diogelu, neu efallai y bydd gennych bolisi unigol ar eu cyfer. Waeth pa un sydd gennych, dylid ei adolygu’n flynyddol, o leiaf, er mwyn ei ddiweddaru’n drylwyr.
Rydym, fel gweithwyr chwarae a darparwyr chwarae, wedi dod i arfer defnyddio cyfrifiaduron i gadw cofnodion ac ar gyfer monitro a gwerthuso. Fodd bynnag, gellir defnyddio llechi a ffonau symudol i dynnu lluniau a recordio fideos o ddathliadau a digwyddiadau yn eich lleoliad, a hyd yn oed gyfweld y plant a’r staff. Gellir defnyddio’r rhain ar gyfer monitro a gwerthuso, arfer myfyriol, neu’n syml i atgoffa’r plant a’r oedolion am amseroedd da. Gellir eu defnyddio hefyd i gatalogio risgiau wrth gyflawni asesiadau risg-budd, a chadw cofnodion am ddigwyddiadau. Rydym, fel oedolion a gweithwyr chwarae, yn fodelau rôl, a gall ein defnydd (neu ein diffyg defnydd) ni o ffonau clyfar a llechi o flaen y plant ddylanwadu ar eu hagweddau a’u hymddygiadau hwythau.
Gall y cyfryngau cymdeithasol beri peryglon difrifol i blant, er enghraifft defnyddir ffonau symudol a mynediad preifat i’r rhyngrwyd ar gyfer camfanteisio’n rhywiol ar blant a rhwydweithiau dosbarthu cyffuriau ‘County Lines’. O safbwynt gweithiwr chwarae, gellir mynd i’r afael â’r peryglon hyn trwy sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf, ynghyd ag arferion a pholisïau da. Bydd lluoedd yr heddlu ac asiantaethau eraill yn diweddaru rhestrau o apiau sy’n peri risg i blant yn rheolaidd, yn ogystal â rhestrau o fyrfoddau tecstio a ddefnyddir gan blant a phlant yn eu harddegau, er enghraifft, i rybuddio pryd fo rhieni’n gwylio’r hyn
Rydym wedi arfer ystyried risgiau corfforol difrifol yn ein hasesiadau risg-budd, ac mae angen inni fod yr un mor realistig ynghylch y rheini fydd yn codi’n sgîl y cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd symudol. Bydd cynnwys dyfeisiau digidol yn unig mewn polisïau diogelu’n golygu eu bod yn fwy tebygol o gael eu hystyried mewn goleuni negyddol, felly bydd eu cynnwys fel rhan o bolisi chwarae neu fel dogfen annibynnol yn cefnogi barn sy’n fwy cytbwys.
Polisi ’Does dim rhaid i ysgrifennu polisïau fod yn broses gymhleth, a bydd y rhai gorau’n dod yn rhan o ddiwylliant lleoliad chwarae. Un o rolau pob polisi yw pennu ffiniau, sy’n egluro’r hyn y gallwn ei wneud, nid dim ond yr hyn na allwn ei wneud. Gall cynnwys y staff, gwirfoddolwyr a’r plant eu helpu i fod yn wirioneddol werthfawr. Fel rhan o’n polisïau a’n harfer gweithio, dylem ystyried a chytuno: Os gall plant a phlant yn eu harddegau ddod â ffôn, llechen neu liniadur i’r lleoliad ac, os felly, beth sy’n ddefnydd derbyniol ac annerbyniol •
A yw’r staff neu’r gwirfoddolwyr yn gallu cadw ffonau neu lechi’r plant yn ddiogel pan ofynnir iddynt – a beth am ‘tshiarjo’ ffonau a llechi
•
Beth am golledion, difrod neu ddwyn ffonau neu lechi
•
Sut fyddwch chi’n delio gyda bychanu plant sydd ddim yn berchen ffôn neu lechen.
Pwy sydd â hawl i dynnu lluniau a recordio fideos – a ffrydio’n fyw o’r lleoliad chwarae Meddyliwch am y staff a’r gwirfoddolwyr, yn ogystal â’r plant •
Sut y byddwch yn delio gyda defnydd rhieni ac ymwelwyr eraill o ffonau neu lechi a thynnu lluniau.
Sut y byddwch yn casglu a chadw pob caniatâd, a sicrhau y caiff dymuniadau plant a rhieni neu ofalwyr i beidio â chael tynnu eu llun neu fod mewn fideo eu parchu Mae hyn yn arbennig o bwysig pan na ellir rhannu enwau a lluniau o blant ar-lein oherwydd rhesymau diogelu •
Yr hyn y byddwch yn ei wneud pan fyddwch yn credu bod rhywun yn tynnu neu’n rhannu lluniau heb ganiatâd – bydd hyn yn cynnwys plant, staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â rhieni ac ymwelwyr
•
Sut y byddwch yn delio gydag amheuon o seiberfwlio neu secstio
•
Sut y byddwch yn delio gyda phlant neu oedolion yn rhannu delweddau amhriodol.
Sut ac os byddwch yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu rhwng aelodau o staff Mae hyn yn cynnwys os ydych yn disgwyl i bob aelod o staff a phob gwirfoddolwr i fod yn berchen ar eu ffôn eu hunain, eu cadw ymlaen bob amser a’u cadw ble y gallant gael mynediad rhwydd iddyn nhw, a bod yn barod i’w defnyddio at ddibenion gwaith. Os felly, bydd canllawiau ar rannu neu dderbyn gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif yn bwysig •
Os ydych yn darparu ffonau clyfar ar gyfer y staff, beth yw’r canllawiau ar gyfer eu defnyddio, yn cynnwys lawrlwytho apiau, monitro, a defnydd personol
•
Defnydd personol staff a gwirfoddolwyr o’u ffonau neu eu llechi eu hunain yn ystod amser gwaith, ac os gallan nhw fynd â nhw i mewn i ardaloedd ble mae plant
•
Pwy all bostio negeseuon ar dudalennau neu safweoedd cyfryngau cymdeithasol eich lleoliad chwarae, a beth yw eich criteria ar gyfer blocio pobl rhag postio ar eich tudalennau neu safweoedd cyfryngau cymdeithasol
•
Os gall staff a gwirfoddolwyr fod yn ‘ffrind’ neu ddilyn plant ar y cyfryngau cymdeithasol a’r hyn y dylai staff a gwirfoddolwyr ei wneud pan fydd plant yn gofyn i fod yn ‘ffrind’ iddyn nhw neu i ddilyn eu cyfrifon.
Sut y byddwch yn sicrhau bod staff, gwirfoddolwyr a phlant yn deall pwysigrwydd yr hyn y mae’r polisi’n ceisio ei wneud a sut y bydd hyn yn effeithio arnynt o ddydd-i-ddydd. Sut y byddwch yn gorfodi’r polisi, monitro ei effeithlonrwydd, ymgorffori’r hyn yr ydych yn ei ddysgu i mewn iddo, a gwneud yn siŵr bod pawb yn deall y newidiadau. Efallai y bydd eich lleoliad yn penderfynu bod llawer o’r awgrymiadau hyn yn amherthnasol i chi, ac efallai y meddyliwch am rai eraill sydd yn berthnasol. Mae’n bosibl y bydd temtasiwn i wahardd pob dyfais ddigidol yn llwyr, ond mae hynny, o bosibl, yn dwyn cyfleoedd chwarae ystyrlon oddi wrth y plant a dysg ar gyfer y staff a’r gwirfoddolwyr – fydd claddu ein pennau mewn blwch tywod ddim yn golygu bod y materion llosg yma’n diflannu!
Nodweddion ffisegol ffonau a llechi Fydd ffonau clyfar a dyfeisiau eraill ddim yn difetha chwarae, ond fe allan nhw gael effaith sylweddol arno, yn enwedig ar ba mor fywiog yw’r plant. Mae ffonau’n bethau drud a bregus. Gall glaw a mwd eu difetha, a gall eu gollwng falu’r sgrîn. Gan fod plant mor hoff o’u ffonau, ’does ryfedd eu bod yn ceisio eu cadw’n ddiogel trwy ymgasglu mewn grwpiau ac aros yn rhywle cysgodol. Mae bodau dynol yn greaduriaid cymdeithasol, ac mae’r mwyafrif o’r hyn y bydd plant yn ei wneud gyda thechnoleg yn gymdeithasol. Hyd yn oed pan fo’u pennau wedi crymu dros lewyrch y sgrîn, maent yn aml wedi ymgolli mewn byd hybrid sy’n cynnwys elfennau digidol a biolegol. Rydym hefyd yn fodau biolegol, yn rhan o natur yn hytrach nac ar wahân iddo, ac mae hyn yn golygu bod plant angen mannau gwyrdd ac amser penodol, di-dor i redeg, dringo a chwarae. Rydym i gyd wedi gweld plant sydd wedi ymgolli cymaint yn eu chwarae fel eu bod wedi colli pob syniad o amser, a gall y ‘llif’11 yma gael effaith cadarnhaol sylweddol ar blant. Tra yn y cyflwr hwn gall plant fod yn anymwybodol o lawer o ymyriadau a synau allanol, ac mae gan
ffonau symudol y potensial i darfu ar y cyflwr hwn neu i’w gwneud hi’n anos i blant ymgolli yn y llif. Tra nad yw hyn yn golygu nad oes lle i ddyfeisiau digidol mewn chwarae, mae’n werth ystyried sut i ddelio â nhw yn eich lleoliad chwarae. Weithiau bydd y manylion lleiaf yn bwysig. Mae plant yn llai nag oedolion, ond mae’r ffonau y maent yn eu defnyddio’n faint oedolyn, ac weithiau’n fwy na’u dwylo. Gall hyn fod yn broblem – ble fydd plant yn cario eu ffonau pan maen nhw’n chwarae neu allan yn crwydro – a pham fod hyn yn bwysig? Fe fyddan nhw’n eu cadw mewn tri phrif le: •
Dwylo. Yn aml iawn bydd plant a phobl ifanc yn cerdded o gwmpas gyda’u ffonau yn eu dwylo. Mae hyn yn golygu eu bod yn hawdd i’w defnyddio ond yn fwy tebyg o gael eu difrodi, a gallant fod yn rhwystr i chwarae mwy egnïol.
•
Pocedi cefn. Mae’r mwyafrif o ffonau, yn enwedig ffonau clyfar, yn rhy fawr ac anghyfforddus i blant a phlant yn eu harddegau eu cario ym mhocedi blaen trowsus, felly fe fyddan nhw’n aml yn eu cario yn eu poced cefn, ble maen nhw’n sticio allan
fel arfer. Mae hyn yn golygu eu bod mewn perygl o gael eu colli, eu dwyn, eistedd arnyn nhw neu eu torri. •
Bagiau. Yn aml, dyma ble caiff ffonau eu taflu pan fo plant allan ar eu beiciau, sgwteri neu sglefrfyrddau. Dyma’r lle mwyaf diogel o’r tri, tan i fagiau gael eu taflu blith draphlith ar lawr caled. Mae ffonau mewn bagiau’n golygu bod ffonau ‘allan o olwg, allan o feddwl’, a dyma gaiff leiaf o effaith ar chwarae. Mae’n golygu hefyd bod plant yn llai tebygol o glywed galwadau neu negeseuon testun oddi wrth eu rhieni.
Bioleg yr ymennydd Bydd y corff dynol yn creu chwistrelliad bychan o’r cemegyn ‘dopamin’ pan deimlwn fod rhywbeth yn bleserus, fel derbyn negeseuon testun oddi wrth ffrind, sgorio gôl mewn gêm bêl-droed neu ‘hoffi’ ar y cyfryngau cymdeithasol. Tra bo dopamin yn un o elfennau naturiol y corff ac mae’n bwysig ar gyfer canolbwyntio a dysgu, gallwn ddod yn gaeth i’n ffonau gan nad ydyn ni’n gwbl siŵr pryd y cawn ni’r ‘chwistrelliad’ hwn, felly byddwn yn edrych arni trwy’r amser. Mae dopamin yn achosi inni geisio mwy a mwy o’r ‘chwistrelliadau’ hyn ac o ganlyniad yn creu cylch o chwilio ac ymateb. Gan fod dopamin yn sbarduno’r ymennydd i chwilio a darganfod, mae’n gysylltiedig hefyd â chwilfrydedd ac ymchwilio, sy’n elfennau allweddol o chwarae. Mae rhai wedi awgrymu hefyd bod diffyg dopamin
yn cyfateb i anhwylderau fel ADHD a sgitsoffrenia. Un o’r sgîl effeithiau eraill yw diffyg gweithgarwch corfforol. Gall torri’r cylch dopamin yma fod yn anodd, gan ei fod yn ffisegol yn hytrach na’n seicolegol. Caiff dopamin ei gynhyrchu hefyd pan fo plant yn mwynhau ffurfiau mwy ‘traddodiadol’ o chwarae, sy’n un rheswm pam fod plant yn parhau gyda bron i unrhyw weithgaredd pleserus.
Chwarae llawn risg a dyfeisiau digidol Mae perthynas uniongyrchol rhwng chwarae corfforol fywiog a chwarae sy’n cynnwys risg a defnyddio’r ffôn. Yn gyffredinol, po fwyaf bywiog a llawn risg fo’r chwarae, y lleiaf y defnyddir ffonau. Os defnyddir ffôn, fel arfer y nodweddion mwy goddefol a ddefnyddir, fel chwarae cerddoriaeth. Yr eithriad i hyn yw pan fydd plant yn mynd ati’n bwrpasol i wneud rhywbeth heriol, fel gorchest acrobatig neu gamp glyfar, ac mae’n bosibl y byddant yn ail-adrodd hyn nifer o weithiau tra bo’u ffrindiau yn gwneud fideo ohonynt. Mae hyn yn codi o fideos YouTube, ble bydd plant yn ceisio efelychu neu wella ar rywbeth y maent wedi ei weld ar-lein. Gan fod hyn yn ganlyniad pendant gellid dadlau a yw hyn yn chwarae ai peidio, ond beth bynnag ydi o, bydd plant yn dewis ei wneud ac mae’n boblogaidd.
Casgliad Tra bo llawer o weithwyr chwarae’n teimlo’n anghyfforddus gyda phlant yn defnyddio dyfeisiau digidol, mae rhaid inni hefyd ystyried hawl plant i chwarae gyda’u ffonau, llechi a dyfeisiau eraill. Nid yw Erthygl 31 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn12 yn cynnwys cyfeiriad penodol at ddyfeisiau digidol, ond mae Sylw Cyffredinol rhif 17 ar Erthygl 31 yn nodi’n glir: ‘Mae mynediad i’r Rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn ganolog i gyflawni hawliau erthygl 31 yn yr amgylchedd byd-eang’13, tra’n tynnu sylw at y peryglon ar yr un pryd.
Mae angen i bob lleoliad gwaith chwarae benderfynu ynghylch y defnydd o ddyfeisiau digidol a ’does dim ymateb ‘un maint i weddu i bawb’. Mae’n debyg y byddwn yn cael rhai o’n hymatebion yn gywir a rhai yn anghywir, ond fe wnawn wella gydag ymarfer. Mae dal angen i chwarae plant fod yn flaenoriaeth inni, yn ei holl annibendod gwych ac anrhagweladwy. Mae dal angen i’r plant fod â rheolaeth dros eu chwarae, sef yr hyn yr ydym ni weithwyr chwarae yma i’w gefnogi.
Cyfeiriadau
10
Adams, D. (2002) The Salmon of Doubt: Hitchhiking the Universe One Last Time (Cyfrol 3). Harmony.
1
Playday (2013) Pôl piniwn Diwrnod Chwarae a gynhaliwyd gan One Poll. Ar gael o: www.playday.org.uk/2013-opinion-poll
2
Caswell, R. a Warman, T. (2014) Play for today. Halifax: Eureka! The National Children’s Museum.
3
4
NSPCC (2017) How safe are our children?
Martin, C. (2017) Children, Mobile Phones and Outdoor Play. Yn W. Russell, H. Smith, a S. Lester (Gol.), Practice-based Research in Children’s Play. Bryste: Policy Press.
5
Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae (2005) Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Caerdydd: Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.
6
National Playing Fields Association (2000) Best play: what play provision should do for children. National Playing Fields Association.
7
Hughes, B. a Melville, S. E. (1996) A playworker’s taxonomy of play types (2il arg.). PlayEducation.
8
Ball, D. J., Gill, T., a Spiegal, B. (2008) Managing risk in play provision: Implementation guide. Nottingham: DCSF Publications.
9
Ibid
Csikszentmihalyi, M. (2000) Beyond boredom and anxiety. Jossey-Bass.
11
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (1989) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
12
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2013) Sylw Cyffredinol rhif 17 ar hawl y plentyn i orffwys, hamdden, chwarae, gweithgareddau adloniadol, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau (erthygl 31). Genefa: Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.
13
Gorffennaf 2018 © Chwarae Cymru Awdur: Chris Martin
Mae Chris yn weithiwr chwarae, yn ymchwilydd ac yn ymgyrchydd dros chwarae. Ar hyn o bryd mae’n ymchwilio i ryngweithiadau plant gyda thechnoleg ddigidol symudol ar gyfer ei Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerlŷr.
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru