Digonolrwydd chwarae yng Nghymru
‘Ein nod yw sicrhau bod cymunedau’n croesawu mwy o gyfleoedd chwarae drwy werthfawrogi a chynyddu nifer y cyfleoedd chwarae o ansawdd sydd ar gael ym mhob rhan o’r gymuned. Ein nod yw gweld mwy o blant yn chwarae … a thrwy hynny’n mwynhau’r manteision iechyd, cymdeithasol, gwybyddol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â chwarae.’ Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae Llywodraeth Cymru Amser, lle a chaniatâd i chwarae Mae Llywodraeth Cymru am greu amgylchedd yng Nghymru ble y caiff pob plentyn y cyfleoedd gorau i chwarae ac i fwynhau eu hamser hamdden. Mae’n credu y gallai cyfleoedd chwarae o safon uchel ar gyfer pob plentyn gyfrannu at leddfu effeithiau negyddol tlodi ar fywydau plant a helpu i gynyddu eu gwytnwch. Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn wlad lle mae plant yn cael eu gweld fwyfwy y tu allan yn mwynhau manteision chwarae – gwlad chwarae-gyfeillgar sy’n rhoi amser, lle a chaniatâd i bob plentyn chwarae. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod, er mwyn cyflawni’r nod o greu Cymru sy’n chwaraegyfeillgar ac er mwyn darparu cyfleoedd chwarae gwych ar gyfer ein plant i gyd, ei bod yn angenrheidiol i awdurdodau lleol, eu partneriaid a rhanddeiliad eraill weithio tuag at y diben hwn hefyd. Er mwyn helpu i gyflawni’r newid hwn, pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 sy’n nodi ymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant. Yn allweddol iawn, mae’r Mesur hwn yn cwmpasu chwarae a chyfranogaeth.
Mae Mesur yn ddarn o gyfraith gaiff ei ffurfio gan Senedd Cymru (a elwid gynt yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru). Mae ganddo rym tebyg i Ddeddf Seneddol.
Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae Mae adran o’r Mesur yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio chwarae fel unrhyw weithgaredd hamdden ac mae digonolrwydd, mewn perthynas â chyfleoedd chwarae, yn ymwneud â nifer ac ansawdd y cyfleoedd i blant chwarae. Daw’r ‘Dyletswydd Digonolrwydd Chwarae’, fel y’i hadnabyddir bellach, yn rhan o agenda Llywodraeth Cymru yn erbyn tlodi, sy’n cydnabod y gall plant ddioddef o dlodi profiad, cyfle ac uchelgais, ac y gall y math hwn o dlodi effeithio ar blant o bob cefndir cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ar draws Cymru. Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i basio deddf ar gyfer chwarae plant, felly nid oes unrhyw fodelau na chanllawiau’n bodoli eisoes ar gyfer y gwaith yma. Mae gan y Ddyletswydd y potensial i sicrhau newidiadau real ac ystyrlon sy’n cefnogi hawl plant i chwarae, yn ogystal â darparu llu o brofiadau a chyfleoedd ar eu cyfer. Cyflwynwyd y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae mewn dau ran. Cychwynnwyd y rhan cyntaf, sy’n mynnu y dylai awdurdodau lleol asesu digonolrwydd y cyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardaloedd, ym mis Tachwedd 2012.
Cychwynnwyd yr ail ran, sy’n mynnu y dylai awdurdodau lleol sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd, cyn belled ag sy’n rhesymol ac ymarferol, ym mis Gorffennaf 2014. Mae’r Ddyletswydd yn mynnu hefyd bod awdurdodau lleol yn cyhoeddi a chadw gwybodaeth wedi ei ddiweddaru am gyfleoedd chwarae ar gyfer plant yn eu hardaloedd.
Cyfarwyddyd Statudol Er mwyn cefnogi cyflwyniad y Ddyletswydd hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae – Canllawiau Statudol sy’n amlinellu’r hyn y dylai awdurdodau lleol ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd.
Asesiadau Digonolrwydd Chwarae Fel rhan o’r Ddyletswydd, mae gofyn i bob awdurdod lleol gynnal Asesiad Digonolrwydd Chwarae a datblygu Cynllun Gweithredu sy’n disgrifio’r hyn y maent yn ei wneud, a hynny bob tair blynedd. Nid yw darparu ar gyfer chwarae plant yn ymwneud yn unig â meysydd chwarae ac ardaloedd chwarae. Mae’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae yn cynnwys:
•
Proffiliau demograffig o’r ardal
•
Asesiad o:
•
•
fannau agored a mannau chwarae posibl
•
darpariaeth chwarae penodedig
•
darpariaeth hamdden
Ffactorau eraill sy’n hybu cyfleoedd chwarae, yn cynnwys cynllunio, traffig, trafnidiaeth, gwybodaeth, cyhoeddusrwydd, a datblygu’r gweithlu.
Bydd Asesiad Digonolrwydd Chwarae, o’i gyflawni’n dda, yn darparu’r dystiolaeth sy’n angenrheidiol i ddynodi bylchau mewn darpariaeth ac yn cynorthwyo gyda datblygiad Cynlluniau Gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau hyn. Er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i gynnal Asesiadau Digonolrwydd Chwarae, crëwyd Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae gan Lywodraeth Cymru a Chwarae Cymru, mewn cydweithrediad â darparwyr chwarae ar draws Cymru. Mae’r pecyn cymorth yn cynnig cymorth i awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau. Mae hefyd yn egluro pwrpas y Ddyletswydd a’r gwahanol faterion y dylid eu hystyried wrth asesu digonolrwydd chwarae.
Mae’r materion yn cynnwys: •
Poblogaeth
•
Darparu ar gyfer anghenion amrywiol
•
Gofod sydd ar gael i blant chwarae
•
Mannau agored
•
Mannau chwarae awyr agored penodedig heb eu staffio
•
Meysydd chwarae
•
Darpariaeth â goruchwyliaeth
•
Darpariaeth gwaith chwarae
•
Gweithgareddau hamdden strwythuredig
•
Codi tâl am ddarpariaeth chwarae
•
Mynediad i le/darpariaeth
•
Gwybodaeth, cyhoeddusrwydd, digwyddiadau
•
Sicrhau a datblygu’r gweithlu chwarae
•
Cyfranogaeth ac ymgysylltu â’r gymuned
•
Chwarae ym mhob agenda polisi a gweithredu perthnasol.
Ar 1 Mawrth 2013 cyflwynodd pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru eu Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae a’u Cynlluniau Gweithredu cyntaf i Lywodraeth Cymru. Cynhelir Asesiadau Digonolrwydd Chwarae bob tair blynedd. Yn ogystal, mae rhaid i awdurdodau lleol gynhyrchu Cynllun Gweithredu Chwarae Blynyddol sy’n amlinellu’r camau gweithredu, y blaenoriaethau a’r cerrig milltir i gynnal cryfderau a mynd i’r afael â diffygion a ddynodwyd yn yr Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Bydd angen Cynllun Gweithredu Chwarae wedi ei ddiweddaru bob blwyddyn, yn ogystal ag Adroddiad Cynnydd Blynyddol. Mae gofyn hefyd i awdurdodau lleol gyhoeddi crynodeb o’u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae, ac mae rhaid i’r rhain gynnwys canlyniadau’r Asesiadau ac amlinellu’r camau gweithredu y maent yn bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni cyfleoedd chwarae digonol. Ceir dolenni i’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae, yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer swyddogion chwarae’r awdurdodau lleol, ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ gwasanaethauchwarae Am ragor o wybodaeth am ddigonolrwydd chwarae ewch i: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ digonolrwydd
New Model Army Photography
Tachwedd 2020 © Chwarae Cymru
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif 1068926