Diogelu plant
Polisïau a gweithdrefnau ar gyfer eu mabwysiadu a’u haddasu
Yn 2006-2007, yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, dywedodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) – gan gyfeirio’n benodol at ddarpariaeth chwarae mynediad agored – bod ‘dim ond 66 y cant o wasanaethau â pholisi neu weithdrefn amddiffyn plant digonol yn ei le’1. Mae hwn yn rhan allweddol o’r fframwaith ar gyfer amddiffyn plant a dylai’r 34 y cant arall roi sylw iddo ar fyrder. Mewn ymateb i’r diffyg penodol hwn, cynhyrchodd Chwarae Cymru daflen wybodaeth ar ddiogelu plant. Mae hwn yn ddiwygiad amserol sy’n cynnwys datblygiadau diweddar.
Cyflwyniad Fel darparwyr sefyllfaoedd chwarae wedi eu staffio mae angen i bob un ohonom fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldeb i amddiffyn plant rhag niwed ac hefyd, gwybod beth i’w wneud pan fyddwn yn wynebu pryder ynghylch diogelu. Ysgrifennwyd Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (GAPCG) gyntaf yn 2002. Fe’u diweddarwyd yn 2007 mewn ymateb i argymhellion Adroddiad Ymchwiliad Victoria Climbié 2003 a Deddf Plant 2004. Maent yn nodi mai pwrpas GAPCG yw amddiffyn plant trwy ddarparu ‘fframwaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol er mwyn llunio a chyflawni cynlluniau, penderfyniadau, camau gweithredu ac atgyfeiriad amddiffyn plant unigol.’ Aiff yn ei flaen i ddweud bod ‘amddiffyn plant rhag niwed yn gyfrifoldeb i bob unigolyn ac asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd …’2 Mae’n gyfrifoldeb ar bawb. Casglodd adroddiad yr NSPCC, How safe are our children?, Ebrill 2013, wybodaeth o bob cwr o’r Deyrnas Unedig gan ddefnyddio amrywiol ddangosyddion. Daeth i’r casgliad ‘er gwaethaf rhywfaint o welliannau mewn diogelwch plant, bod lefelau sy’n peri pryder o gam-drin plant yn dal i fodoli.’ Aiff ymlaen i ddweud nad yw’r ‘mwyafrif o achosion o gam-drin ac esgeuluso plant fyth yn dod i sylw’r awdurdodau statudol a bod gwasanaethau’n annhebyg i fyth gyrraedd pob plentyn dan amgylchiadau o’r fath.’ Mae’n cydnabod hefyd, er ‘y dylem wastad annog plant i ddweud os ydynt yn cael eu cam-drin, fydd hyn ar ei ben ei hun fyth yn ddigon.’3 Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn Gorff Cyhoeddus Anadrannol; mae’n helpu cyflogwyr i lunio penderfyniadau recriwtio mwy
diogel ac atal pobl anaddas rhag gweithio â grwpiau bregus, gan gynnwys plant. Fe’i crewyd trwy gyfuno’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (SCT) a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol (ADA). Dyma gyfraniad Llywodraeth ganolog i’r agenda diogelu plant. Gellir defnyddio’r canlynol fel sail i’w fabwysiadu a’i addasu ar gyfer sefyllfaoedd chwarae wedi eu staffio i’w ddefnyddio neu ei addasu i greu eu polisi eu hunain. Fodd bynnag, fydd polisi ond yn ystyrlon os y caiff ei rannu â’r holl staff a gwirfoddolwyr, fydd yn deall eu oblygiadau a’u cyfrifoldebau.
Diffiniadau o gam-drin ac esgeuluso plant Dylai pob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc (unrhyw un o dan 18 mlwydd oed) feddu ar ymwybyddiaeth o’r categorïau o gam-driniaeth. Felly mae’r sefyllfa chwarae yma, yn ymgymryd i wneud pob aelod o staff, yn gyflogedig ac yn wirfoddol, yn ymwybodol o ddiffiniadau cam-drin ac esgeuluso plant trwy ddarparu’r diffiniadau canlynol iddynt, sydd wedi eu tynnu’n uniongyrchol o Weithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008. ‘Caiff plant eu cam-drin neu eu hesgeuluso pan fo rhywun yn achosi niwed neu’n methu gweithredu i rwystro niwed iddynt. Gall plant gael eu cam-drin o fewn teulu neu mewn sefyllfa sefydliadol neu gymunedol, gan bobl y maent yn eu hadnabod neu, yn fwy anaml, gan ddieithryn. Gall plentyn neu berson ifanc hyd at 18 mlwydd oed ddioddef cam-driniaeth neu esgeulustod a bod angen cael eu hamddiffyn trwy gynllun amddiffyn plentyn rhyng-asiantaethol.’
© New Model Army Photography
Cam-drin corfforol Gall cam-drin corfforol gynnwys taro, ysgwyd, gwenwyno, llosgi neu sgaldio, boddi, mygu, neu achosi niwed corfforol fel arall i blentyn. Gall niwed corfforol gael ei achosi hefyd pan fo rhiant neu ofalwr yn ffugio neu’n achosi salwch mewn plentyn sydd yn eu gofal. Cam-drin emosiynol Cam-drin emosiynol yw trin plentyn yn wael yn emosiynol yn barhaus fel bod hyn yn achosi effeithiau niweidiol difrifol a pharhaus ar ddatblygiad emosiynol y plentyn. Gall gynnwys cyfleu i’r plentyn eu bod yn ddiwerth neu nad ydynt yn cael eu caru, eu bod yn annigonol neu ond yn cael eu gwerthfawrogi cyn belled â’u bod yn cwrdd â gofynion person arall. Gall gynnwys gosod disgwyliadau sy’n amhriodol i’w hoedran neu ddatblygiad ar blant. Gall gynnwys achosi i blant deimlo’n ofnus neu mewn perygl yn aml, er enghraifft trwy fod yn dyst i gam-driniaeth yn y cartref neu gael eu bwlio, neu, ecsbloetio neu lygru plant. Mae lefel benodol o gam-driniaeth emosiynol yn rhan o bob math o gam-drin plant, er y gall ddigwydd ar ei ben ei hun. Cam-drin rhywiol Mae cam-drin rhywiol yn cynnwys gorfodi neu hudo plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, waeth a yw’r
plentyn yn ymwybodol o beth sy’n digwydd a’i peidio. Gall y gweithgareddau hyn gynnwys cyswllt corfforol, yn cynnwys gweithredoedd treiddiol neu anhreiddiol. Gallant gynnwys gweithgareddau heb gyswllt corfforol fel cael plant i wylio deunydd pornograffig neu i fod yn rhan o ddeunydd pornograffig neu i wylio gweithgareddau rhywiol, neu annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol. Esgeuluso Esgeuluso yw methiant parhaus i gwrdd ag anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol plentyn, sy’n debygol o achosi nam difrifol i iechyd neu ddatblygiad plentyn. Gall gynnwys methiant rhiant neu ofalwr i ddarparu digon o fwyd, cysgod a dillad, methiant i amddiffyn plentyn rhag niwed neu berygl corfforol, neu fethiant i sicrhau mynediad i ofal neu driniaeth meddygol priodol. Gall hefyd gynnwys esgeuluso, neu beidio ag ymateb i, anghenion emosiynol sylfaenol plentyn. Yn ogystal, gall esgeuluso ddigwydd yn ystod beichiogrwydd o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau gan y fam.’4
Rhai arwyddion posibl o gamdrin Bydd yr holl staff yn y sefyllfa chwarae yma’n cael eu hysbysu am ddangosyddion posibl camdriniaeth trwy dderbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol. Yna bydd staff yn rhannu unrhyw
sylwadau a phryderon gyda’u cydweithwyr proffesiynol.
Beth i’w wneud pan ddywedir wrthych am gam-driniaeth – canllawiau
‘Mae rhannu a chyfnewid gwybodaeth perthnasol mewn modd effeithlon rhwng pobl broffesiynol yn hanfodol er mwyn diogelu plant.’5 GAPCG. Efallai y bydd pryder gaiff ei leisio gan un asiantaeth yn cyd-gysylltu â phryder a godwyd gan asiantaeth arall, allai wedyn adeiladu darlun o blentyn sydd mewn perygl o niwed.
Bydd staff yn y sefyllfa chwarae yma’n dilyn y canllawiau hyn os y bydd plentyn yn datgelu gwybodaeth iddynt. Cofiwch y bydd y plentyn yn dewis gyda phwy y mae am siarad, felly efallai nad dyma’r person yn y sefyllfa chwarae sydd â’r mwyaf, neu hynny oed unrhyw, brofiad a/ neu hyfforddiant i ddelio â datgeliadau. Gweler y canllawiau arfaethedig isod.
Nid yw’r rhestr isod o ddangosyddion posibl yn un cyflawn. Cam-drin corfforol • Cleisio ar rannau o’r corff. • Llosgiadau a sgaldiadau. • Torri esgyrn. • Ymddygiad bygythiol. • Ymddygiad encilgar, swil. Cam-drin emosiynol • Ymddygiad bygythiol. • Ymddygiad encilgar, swil. • Methu creu a/neu gynnal perthnasau. • Diffyg hunan-barch. • Diffyg hunan-hyder. Cam-drin rhywiol • Ffobia ysgol. • Ymddygiad encilgar. • Gwybodaeth rhywiol amhriodol. • Ymddygiad rhywioledig. • Beichiogrwydd. • Anfoesoldeb. • Rhai arwyddion corfforol, cleisio a thostrwydd. Esgeuluso • Iechyd a glendid gwael, yn arwain at fethiant i ffynnu. • Dillad annigonol ar gyfer y tywydd. • Diffyg cariad a sylw. • Diffyg amddiffyniad a goruchwyliaeth.
Gwrando • Gwrandewch a derbyniwch yr hyn sy’n cael ei ddweud. • Peidiwch â mynegi, yn eiriol neu’n aneiriol, sut y mae’n gwneud ichi deimlo, mae hynny’n fater ar wahân y dylech ddelio ag e’n hwyrach. • Gwnewch nodiadau.
Cysuro • Ceisiwch gysuro’r plentyn cyn gymaint â phosibl. • Mae datgelu cam-driniaeth yn beth anodd iawn i blentyn i’w wneud ac mae’n bwysig gadael gwybod iddynt eich bod yn eu cymryd o ddifrif. • Dywedwch wrth y plentyn y byddwch yn eu helpu neu y byddwch yn trefnu iddynt gael y cymorth angenrheidiol. • Peidiwch â gwneud addewidion gwag, fel ‘Wnaf i ddim dweud wrth neb’. Ymateb • Dylech ond ymateb i’r sgwrs cyn belled â sydd angen i chi wybod os oes angen gwneud atgyfeiriad at y Gwasanaethau Cymdeithasol. • Gofynnwch gwestiynau pen agored fel ‘A oes rhywbeth arall yr hoffet ei ddweud wrthyf?’ • Eglurwch wrth y plentyn yr hyn sy’n rhaid ichi ei wneud nesaf a gyda phwy y bydd raid ichi siarad. • Eglurwch hyn yn y fath fodd fel nad oes unrhyw feirniadaeth yn cael ei chyfeirio at y tramgwyddwr, y mae’n bosibl y bydd y plentyn yn eu caru. • Peidiwch â gofyn na chaniatáu i’r plentyn ail adrodd unrhyw beth wrth aelodau eraill o staff. Ysgrifennu • Ysgrifennwch nodiadau mewn modd mor gyflawn â phosibl, heb waredu unrhyw nodiadau gwreiddiol. • Defnyddiwch eiriau’r plentyn yn hytrach na’ch geiriau eich hun am unrhyw rannau o’r corff neu weithgareddau a ddisgrifiwyd. • Nodwch ddyddiad, amser, lle, ac unrhyw ymddygiad an-eiriol y bydd y plentyn yn ei arddangos tra’n siarad â chi, er enghraifft adegau o ofid a phryd y digwyddodd y rhain yn ystod y sgwrs. • Os y byddwch yn sylwi ar unrhyw gleisio neu farciau, tynnwch lun diagram i nodi ble y maent.
Dilyn • Dilynwch y gweithdrefnau ar gyfer eich sefyllfa chwarae. • Os oes angen gwneud atgyfeiriad, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth gyda chi. Siarad • Siaradwch ag aelod hŷn o’r staff ac egluro’r hyn sydd wedi digwydd, gan gofio cyfrinachedd. • Cofiwch gydnabod sut yr ydych yn teimlo, mae’n fwy diogel yn emosiynol, ac yn aml yn gorfforol, i egluro eich teimladau wrth oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo na gadael y gwaith yn teimlo’n ofidus, yn bryderus ac yn ansicr.
Amddiffyn plant rhag niwed rhywiol yn y dyfodol Mae’r adran flaenorol yn cyfeirio at yr hyn y dylid ei wneud pan fo cyhuddiad o gamdriniaeth wedi ei wneud ond bydd hefyd angen ymwybyddiaeth ynghylch ymddygiadau sy’n digwydd cyn i unrhyw gam-drin rhywiol ddigwydd. Mae’n bosibl y bydd dealltwriaeth o ddangosyddion ymddygiadol sy’n gysylltiedig â pharatoi i bwrpas rhyw yn ein helpu i atal camdriniaeth rhywiol rhag digwydd.
Dywed yr Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon (UAPC), yn ei bapur briffio Understanding the Grooming or Entrapment Process, Mehefin 2010, bod ‘Y Swyddfa Gartref yn diffinio paratoi i bwrpas rhyw fel cyfathrebu â phlentyn ble fo bwriad i gwrdd â’r plentyn a throseddu’n rhywiol. Yn gyffredinol gellir ei ystyried fel y broses y bydd unigolyn yn ei defnyddio i ddylanwadu ar bobl o’i amgylch – yn arbennig, ond nid yn unig, plant – i gynnig cyfleoedd i gam-drin a lleihau’r tebygolrwydd y byddant yn cael eu canfod neu bod rhywun yn hysbysu’r heddlu amdanynt.’6 Gall nodweddion pobl fydd yn paratoi plant i bwrpas rhyw fod hefyd yn nodweddion gweithwyr chwarae da, gan y gallant fod yn ofalgar, yn garedig, â’r gallu i ymgysylltu â phlant ac â diddordeb mawr yn eu bywydau. Dylem hefyd sylweddoli y bydd pobl sy’n paratoi plant i bwrpas rhyw yn mynd ati i ddylanwadu ar yr oedolion o amgylch y plentyn. Bydd hyn yn creu sefyllfa gymhleth ble y bydd rhieni a gofalwyr, yn ddiarwybod iddynt, yn cynnig rhagor o gyfleoedd i’r darpar-droseddwr, gan y byddant wedi tawelu eu meddyliau trwy ddangos diddordeb yn y plentyn a’u bod yn gofalu amdanynt. Fodd bynnag, ceir rhai dangosyddion allai helpu i ddynodi sut beth yw ymddygiad sy’n b paratoi plant i bwrpas rhyw. Nid yw’r rhestr isod yn un cyflawn ac yn sicr ni ddylai gymryd lle gweithdrefnau recriwtio trwyadl, canllawiau clir a chroyw ar gyfer ymddygiad gweithwyr chwarae a gwirfoddolwyr ac ymddiried yn eich teimladau eich hun am y modd y bydd unigolyn yn ymddwyn tuag at y plant yn y sefyllfa chwarae. Rhai ymddygiadau posibl paratoi i bwrpas rhyw ymysg oedolion: • Cyffyrddiad corfforol pan nad yw’n briodol neu pan nad yw’r plentyn ei eisiau. • Annog dim ond un, neu nifer dethol bychan o blant, i dderbyn sylw ychwanegol pan nad ydynt wedi gofyn amdano. • Eisiau bod ar eu pen eu hun gyda phlentyn am ddim rheswm amlwg, hyd yn oed yn fwy problemus os mai yr un plentyn fydd hwn bob amser. • Diffyg perthnasau ag oedolion neu gyfeillion sy’n oedolion a llawer o weithgareddau hamdden sy’n gysylltiedig â phlant.
• Cynnig cymorth yn aml i rieni / gofalwyr plentyn penodol, neu ddetholiad penodol, o blant. • Efallai’n prynu anrhegion i rieni / gofalwyr y plentyn neu anrhegion ar gyfer y plentyn ei hun. • Efallai’n gwneud eu hunain yn anhepgor i’r teulu trwy fod yn ‘barod ei gymwynas’. Mae’r rhestr uchod yn nodi’n gyffredinol rai enghreifftiau o ymddygiadau paratoi i bwrpas rhyw, ond heb fod yn or-gyfarwyddol, fodd bynnag nid yw’n rhestr cyflawn. Mae’n ddyletswydd ar bob darparwr chwarae a phob aelod o staff i fod yn wyliadwrus trwy’r amser ac i hysbysu eu Gwasanaethau Cymdeithasol lleol, neu linell gymorth Stop It Now! ar 0808 1000 900 neu www.stopitnow.org.uk am unrhyw bryderon.
Adrodd am bryderon wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol
‘Os oes gan unrhyw berson wybodaeth, bryderon neu amheuon bod plentyn yn dioddef, wedi dioddef neu’n debygol i fod mewn perygl o niwed, mae cyfrifoldeb arnynt i sicrhau fod y pryderon yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol neu’r heddlu, sydd â dyletswyddau statudol a phwerau i wneud ymholiadau ac i ymyrryd pan fo angen.’7 Ffoniwch y gwasanaethau cymdeithasol cyn gynted â bo modd ac o fewn 24 awr bob amser. Os y bydd y tu allan i oriau swyddfa yna bydd gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd ar gael yn y tîm y tu allan i oriau arferol/tîm dyletswydd brys (EDT). Os nad ydych yn sicr os yw’ch gwybodaeth yn gwarantu atgyfeiriad, gofynnwch am gyngor. Bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o fewn deuddydd.
Cyfrifoldebau ac argymhellion hyfforddi Dylid ystyried y pwyntiau canlynol a’u haddasu fel sy’n bridol: • Bydd pob sefyllfa chwarae a mynediad i, ac yn cydymffurfio â, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. • Dylai pob un sydd mewn cyswllt â, neu sy’n gweithio â phlant, dderbyn hyfforddiant sy’n briodol i’w lefel cyfrifoldeb yn eu sefyllfa chwarae benodol hwy.
• Mae gan sefyllfaoedd chwarae â darpariaeth blwyddyn gron swyddog amddiffyn plant enwebedig (yr uwchweithiwr ar ddyletswydd), sy’n derbyn hyfforddiant yn rheolaidd. • Bydd sefyllfaoedd chwarae tymhorol yn ymrwymo i drefnu hyfforddiant ar lefel briodol ar gyfer staff. • Bydd sefyllfaoedd chwarae tymhorol sy’n rhan o sefydliad ymbarél mwy o faint yn enwebu swyddog amddiffyn plant yn y sefydliad hwnnw. Bydd y swyddog amddiffyn plant enwebedig hwn yn gweithredu ar ran darpariaethau tymhorol llai o faint ac yn derbyn hyfforddiant yn rheolaidd. • Mae pob aelod o staff yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cyfathrebu’n effeithlon, yn rhannu’r cyfrifoldeb dros ddiogelu’r plant yr ydym yn gweithio â hwy.
Casgliad Tra y gall amddiffyn plant deimlo fel cyfrifoldeb aruthrol i ddarparwyr chwarae, ym mha bynnag swyddogaeth, nid yw’n gyfrifoldeb mwy na llai na’r gwaith o sicrhau bod cyfleoedd chwarae’n cyfoethogi iechyd corfforol, cymdeithasol, emosiynol, ffisiolegol a seicolegol y plentyn. Mae’r cyfan yn rhan o sicrhau bod bywydau plant yng Nghymru gystal ag y gallant fod.
Llyfryddiaeth 1. Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (2007) Gwasanaethau Gofal yng Nghymru, Adroddiad Blynyddol 2006-2007 2. Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan (2008) Cynhyrchwyd ar ran holl Fyrddau Diogelu Plant Lleol yng Nghymru 3. Harker, L., Jutte, S., Murphy, T., Bentley, H., Miller, P., a Fitch, K. (2013) How safe are our children? Llundain: NSPCC 4. Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 5. Ibid 6. Adran Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon (2010) Understanding the Grooming or Entrapment Process 7. Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
Adnoddau ychwanegol Arglwydd Laming (2003) The Victoria Climbie Inquiry Report of an Inquiry. NSPCC (2006) Prawfcyntaf: canllawiau gam wrth gam ar gyfer sefydliadau er mwyn diogelu plant.
Mawrth 2013 © Chwarae Cymru
Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth hon gan Sue Bradshaw ac mae wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.
Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru