Ionawr 2019
Ffocws ar chwarae Chwarae ac addysg Mae’r ddogfen friffio hon ar gyfer swyddogion addysg awdurdodau lleol, yn darparu gwybodaeth ar sut y mae gwasanaethau addysg yn dylanwadu ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl i gael, mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd.
Mae’r ddyletswydd yn anelu i ‘sicrhau bod cymunedau’n croesawu mwy o gyfleoedd chwarae drwy werthfawrogi a chynyddu nifer y cyfleoedd chwarae o ansawdd sydd ar gael ym mhob rhan o’r gymuned. Ein nod yw gweld mwy o blant yn chwarae … a thrwy hynny’n mwynhau’r manteision iechyd, cymdeithasol, gwybyddol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â chwarae’.1
Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles
Fel rhan o’r Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol (PSA), mae rhaid i awdurdodau lleol asesu chwarae ym mholisïau addysg ac ysgolion (Mater Ff).
Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni eraill i chwarae â nhw bob dydd, o bwys mawr i bob plentyn a phlant yn eu harddegau – mae angen inni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn. I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Maent yn gwerthfawrogi cael amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnir beth sy’n bwysig iddyn nhw, bydd plant a phlant yn eu harddegau yn dweud yn gyson chwarae gyda’u ffrindiau – y tu allan.
Polisi cenedlaethol a rhyngwladol Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros chwarae trwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, cyfarwyddyd statudol i awdurdodau lleol, yn amlinellu ystod eang o Faterion y mae angen eu hystyried ar draws nifer o feysydd polisi.
Mae’r cyfarwyddyd statudol yn nodi bod ysgolion yn rhoi cyfle pwysig i blant chwarae yn ystod y diwrnod ysgol ac am gyfnodau cyn ac ar ôl eu gwersi. Gall ysgolion hefyd gynnig lle gwerthfawr i blant chwarae dros y penwythnos ac yn ystod y gwyliau. Mae Llywodraeth Cymru’n argymell y dylai awdurdodau lleol gynghori ysgolion i ddarparu lle chwarae o safon uchel a digon o amser i blant chwarae’n ystod y diwrnod ysgol a rhoi ystyriaeth lawn i agor y ddarpariaeth yma y tu allan i oriau addysgu. Dylai’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ‘asesu: •
i ba raddau y darperir amgylchedd chwarae diddorol i blant ar gyfer egwyliau yn ystod y diwrnod ysgol.
•
i ba raddau y mae ysgolion yn darparu cyfleoedd chwarae y tu allan i amser ysgol, gan gynnwys cyn yr ysgol, gyda’r nos, dros y penwythnos ac yn ystod y gwyliau, yn ogystal â mynediad agored i diroedd
ysgolion a defnyddio’r safleoedd ar gyfer gweithgareddau. •
i ba raddau y mae ysgolion yn annog plant i gerdded neu seiclo i’r ysgol.
•
i ba raddau y mae plant yn cael egwyliau chwarae yn y bore, amser cinio ac yn y prynhawn.’2
Yn rhyngwladol, caiff pwysigrwydd chwarae ei gydnabod a’i warchod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 31 o GCUHP yn datgan bod gan y plentyn hawl i chwarae ac ymuno mewn gweithgareddau hamdden eraill. Fel arwydd o’r pwys y mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei osod ar chwarae plant, fe gyhoeddodd Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31.3 Mae hwn yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr agwedd o GCUHP sydd angen dehongliad neu bwyslais pellach. Bwriad y Sylw Cyffredinol yw egluro ystyr a phwysigrwydd Erthygl 31. Yn ogystal, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn pwysleisio bod yr hawliau dan Erthygl 31 o fudd cadarnhaol i ddatblygiad addysgol plant, ac y dylid eu hwyluso’n ystod cwrs pob diwrnod trwy gydol addysg plentyndod cynnar, yn ogystal ag yn yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd.
Mae’r Pwyllgor yn nodi ei bod yn bosibl i’r pwysau am gyrhaeddiad addysgol rwystro’r hawl i blant chwarae, gan dynnu sylw at y canlynol: •
‘Mae addysg plentyndod cynnar yn canolbwyntio fwyfwy ar dargedau academaidd a dysgu ffurfiol ar draul cyfranogi mewn chwarae ac ennill deilliannau datblygiad ehangach;
•
Mae gwaith cartref a gwersi allgyrsiol yn ymyrryd yn amser plant ar gyfer gweithgareddau a ddewisir o wirfodd;
•
Yn aml, nid yw’r cwricwlwm a’r amserlen ddyddiol yn cydnabod yr angen am, nac yn darparu ar gyfer chwarae, hamdden a gorffwys;
•
Nid yw’r defnydd o ddulliau addysgu ffurfiol neu ddidactig yn yr ystafell ddosbarth yn manteisio ar gyfleoedd ar gyfer dysgu chwareus, gweithredol;
•
Mae cyswllt â natur yn lleihau mewn llawer o ysgolion gyda phlant yn gorfod treulio mwy o amser dan do;
•
Mae cyfyngiadau ar y math o chwarae y gall plant gymryd rhan ynddo yn yr ysgol yn ffrwyno eu datblygiad cymdeithasol a’u cyfleoedd i fod yn greadigol ac i archwilio.’4
Camau gweithredu lleol posibl allai sicrhau digonolrwydd chwarae Gallai swyddogion addysg ystyried: •
Datblygu canllawiau i ysgolion ar gyfer hyrwyddo gwarchod amser chwarae. Gellir cynghori ysgolion i ystyried y gwerth i les disgyblion wrth wneud penderfyniadau ar gynllunio a hyd y diwrnod ysgol yn cynnwys amserau chwarae, amserau cinio ac amserlennu gwaith cartref.
•
Rhannu pecyn cymorth Chwarae Cymru Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant5 i gefnogi ysgolion i gynnig amrywiaeth o adnoddau ar gyfer chwarae.
•
Cynghori ysgolion i ddatblygu polisi chwarae ysgol6.
•
Sicrhau bod dylunio tirluniau ysgolion a dylunio meysydd chwarae’n cefnogi nodweddion chwarae mewn dylunio ysgolion newydd o gychwyn cyntaf y broses.
•
Rhannu pecyn cymorth Chwarae Cymru Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu7 i gefnogi cymunedau ysgolion i ystyried agor tiroedd ysgol i blant lleol y tu allan i oriau addysgu.
Gwerthfawrogi chwarae Mae nifer o astudiaethau8 wedi casglu bod buddiannau iechyd cadarnhaol i’w cael o ymyriadau amser chwarae mewn ysgolion. Mae’r mentrau hyn ymysg yr ymyriadau mwyaf effeithlon ar gyfer gwella lefelau gweithgarwch corfforol. Maent wedi eu cysylltu hefyd ag amrywiaeth o welliannau mewn sgiliau academaidd, agweddau ac ymddygiad, a gyda gwell sgiliau cymdeithasol, gwell perthnasau cymdeithasol rhwng gwahanol grwpiau ethnig, a gwell addasiad i fywyd ysgol. Mae chwarae’n cyfoethogi lles corfforol ac emosiynol plant, fodd bynnag, mae pwysau cynyddol ar amser rhydd plant yn golygu i rai, bod y diwrnod ysgol yn cynnig un o’r ychydig gyfleoedd iddynt chwarae. Felly, mae’n bwysig bod ysgolion yn cael eu cefnogi i ddarparu’r gofodau a’r cyfleoedd o’r safon gorau posibl ar gyfer chwarae. Mae chwarae hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau posibl i’r ysgol ac i’r gymuned fel ysgogiad disgyblion, gwelliant mewn ymddygiad, gwell canfyddiad o ddiogelwch cymunedol a chysylltiadau mwy clos rhwng yr ysgol a’r gymuned. Yn ogystal, mae gan adeiladau ysgolion, eu cynnwys a’u tiroedd y potensial i ateb nifer o anghenion cymdeithasol a hamdden y gymuned. Ni ddylai’r gofynion ar ysgolion i gyflawni targedau academaidd gael eu gosod uwchlaw’r ddyletswydd i warchod iechyd a lles y plant yn eu gofal. Mae’r amser a’r lle a glustnodir ar gyfer chwarae’n gysylltiedig â lles disgyblion ac, o ganlyniad, dylid eu hystyried fel elfen gadarnhaol o fywyd ysgol.
Datblygwyd y pecyn cymorth Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant i gefnogi oedolion yn y sectorau chwarae, blynyddoedd cynnar ac addysg i ddarparu chwarae rhannau rhydd yn eu lleoliadau. Dyluniwyd y pecyn cymorth Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu i gynorthwyo penaethiaid, llywodraethwyr a mudiadau lleol i weithio gyda’i gilydd i ystyried sicrhau bod tiroedd ysgol ar gael i blant lleol y tu allan i oriau addysgu.
Lawrlwythwch y ddau becyn cymorth ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/cyhoeddiadau
Ystadegau allweddol Mae amser i chwarae yn yr ysgol yn cael ei ystyried yn bwysig gan blant yn ogystal â’u rhieni: •
Mae 73 y cant o blant yn dweud mai’r ysgol yw’r prif gyfle y maent yn ei gael i chwarae gyda’u ffrindiau.
•
Mae 94 y cant o rieni’n mynnu ei bod yn bwysig neilltuo amser ar gyfer chwarae’n ystod oriau ysgol.9
Mae’r athrawon yn sylwi ar y buddiannau hefyd:
•
Mae 55 y cant o blant yn nodi eu bod weithiau’n rhuthro eu cinio ysgol er mwyn cael amser i chwarae.
•
Mae 97 y cant o athrawon yn dweud bod chwarae’r tu allan yn allweddol er mwyn i blant gyflawni eu llawn botensial.
•
Mae 84 y cant o rieni’n dweud eu bod yn erbyn byrhau amser chwarae’r ysgol.
•
Mae 88 y cant o athrawon yn dweud bod plant yn hapusach ar ôl chwarae’r tu allan.
•
Mae 88 y cant o rieni ac 80 y cant o blant yn meddwl bod y plant yn hapusach yn eu gwersi os byddant yn cael rhyddid i chwarae yn ystod amser chwarae, ac mae’r ffigwr yn codi i 99 y cant ar gyfer rhieni plant pump i chwech oed.
•
Mae 86 y cant o athrawon yn dweud bod chwarae’r tu allan yn rhoi gwell dealltwriaeth i blant am yr amgylchedd.10
Cyfeiriadau Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Hawlfraint y Goron.
1
Am enghraifft, gweler: www.chwaraecymru.org. uk/cym/polisichwaraeysgol
6
Chwarae Cymru (2015) Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu. Caerdydd: Chwarae Cymru
7 2
Ibid, tud 30.
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2013) Sylw Cyffredinol Rhif 17 ar hawl y plentyn i orffwys, hamdden, chwarae, gweithgareddau adloniadol, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau (Erthygl 31). Genefa: Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.
3
4
Ibid, tud 13.
Chwarae Cymru (2017) Adnoddau ar gyfer chwarae – darparu rhannau rhydd i gefnogi chwarae plant. Caerdydd: Chwarae Cymru.
5
Gill, T. (2014) The Play Return: A review of the wider impact of play initiatives. UK Children’s Play Policy Forum.
8
Diwrnod Chwarae (2007) Ymchwil Playday: our streets too.
9
Prisk a Cusworth (2018) From muddy hands and dirty faces... to higher grades and happy places Outdoor learning and play at schools around the world. Learning through Landscapes.
10
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru