Ionawr 2019
Ffocws ar chwarae Chwarae a Chynllunio Gwlad a Thref Mae’r ddogfen friffio hon ar gyfer swyddogion yn adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth ar sut y mae cynllunio’n dylanwadu ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl i gael, mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymuned eu hunain.
Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni eraill i chwarae â nhw bob dydd, o bwys mawr i bob plentyn a phlant yn eu harddegau – mae angen inni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn. I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Maent yn gwerthfawrogi cael amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnir beth sy’n bwysig iddyn nhw, bydd plant a phlant yn eu harddegau yn dweud yn gyson chwarae gyda’u ffrindiau – y tu allan.
Polisi cenedlaethol a rhyngwladol Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant ac mae’n diffinio chwarae fel ‘ymddygiad y mae’r plentyn wedi’i ddewis o’i wirfodd, yn ei lywio ei hun ac yn ei wneud er ei fwyn ei hun. Mae’n cael ei wneud heb olwg ar unrhyw nod na gwobr allanol, ac mae’n rhan sylfaenol ac annatod o ddatblygiad iach – nid yn unig o ran y plant unigol, ond hefyd o ran y gymdeithas y maent yn byw ynddi’.1
Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod, er mwyn cyflawni ei nod o greu Cymru chwarae-gyfeillgar ac i ddarparu cyfleoedd i’n plant chwarae, bod angen i awdurdodau lleol, eu partneriaid a rhanddeiliaid eraill weithio hefyd tuag at y nod hwn. Felly, cafodd adran ar Gyfleoedd Chwarae ei chynnwys ym Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae’r Mesur yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant. Mae’r Mesur, gyda’r ddyletswydd benodol hon, yn cynrychioli cyfle unigryw i ystyried sut fyddwn ni fel cymdeithas yn cydnabod ac yn ateb anghenion chwarae plant, a darparu’n well ar eu cyfer. Yn ogystal â chyflwyno asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae manwl i Lywodraeth Cymru bob tair blynedd, bydd rhaid i awdurdodau lleol gynhyrchu ac adrodd ar gynlluniau gweithredu blynyddol hefyd. Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae2 yn gyfarwyddyd statudol i awdurdodau lleol ar asesu ar gyfer a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardaloedd. Mae’n nodi bod Cynllunio Gwlad a Thref yn ffactor bwysig wrth ddarparu mannau ble y gall plant chwarae. Mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i asesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae asesu i ba raddau y mae: •
Cynllunio’r amgylchedd adeiledig, yn cynnwys tai a’r defnydd o fannau cyhoeddus ac agored, yn darparu ar gyfer cyfleoedd plant i chwarae.
•
Y Cynllun Datblygu Lleol yn cydnabod ac yn ymdrin ag anghenion chwarae awyr agored plant o wahanol oed.