Ionawr 2019
Ffocws ar chwarae Chwarae a thrafnidiaeth Mae’r ddogfen friffio hon ar gyfer swyddogion adrannau polisi a rheoli trafnidiaeth awdurdodau lleol, yn darparu gwybodaeth ar sut y mae cynllunio trafnidiaeth yn dylanwadu ar gyfleoedd plant i chwarae. Mae plant a phlant yn eu harddegau angen, ac mae ganddynt hawl i gael, mannau o safon ar gyfer chwarae fel rhan o’u bywyd bob dydd yn eu cymdogaeth a’u cymuned eu hunain.
Pwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni eraill i chwarae â nhw bob dydd, o bwys mawr i bob plentyn a phlant yn eu harddegau – mae angen inni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn. I’r plant eu hunain, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywydau. Maent yn gwerthfawrogi cael amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnir beth sy’n bwysig iddyn nhw, bydd plant a phlant yn eu harddegau yn dweud yn gyson chwarae gyda’u ffrindiau – y tu allan.
Polisi cenedlaethol a rhyngwladol Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros chwarae trwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sy’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal. Mae Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, cyfarwyddyd statudol i awdurdodau lleol, yn amlinellu ystod eang o Faterion y mae angen eu hystyried ar draws nifer o feysydd polisi.
Mae’r ddyletswydd yn anelu i ‘sicrhau bod cymunedau’n croesawu mwy o gyfleoedd chwarae drwy werthfawrogi a chynyddu nifer y cyfleoedd chwarae o ansawdd sydd ar gael ym mhob rhan o’r gymuned. Ein nod yw gweld mwy o blant yn chwarae … a thrwy hynny’n mwynhau’r manteision iechyd, cymdeithasol, gwybyddol ac emosiynol sy’n gysylltiedig â chwarae’.1
Fel rhan o’r Asesiadau o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol (PSAs), mae rhaid i awdurdodau lleol asesu mynediad i le / darpariaeth (Mater Dd). Mae hyn yn cynnwys mannau agored a mannau chwarae awyr agored penodedig heb eu staffio. Mae’r cyfarwyddyd statudol yn nodi wrth ‘gynnal asesiadau ac wrth fynd ati i greu cymunedau lle gall plant chwarae, dylai awdurdodau lleol sicrhau bod plant yn gallu symud o gwmpas eu cymunedau i chwarae; eu bod yn gallu cerdded neu seiclo i fannau agored neu i ddarpariaeth chwarae neu hamdden; eu bod yn gallu ymweld â’u teulu a’u cyfeillion neu fynd i’r ysgol, heb unrhyw berygl o niwed’2. Dylai’r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ystyried yr holl ffactorau sy’n helpu i sicrhau bod plant yn cael y cyfle i chwarae neu symud o amgylch eu cymunedau, gan gynnwys: •
Camau i dawelu traffig
•
Strydoedd chwarae / cau’r ffyrdd dros dro
•
Llwybrau cerdded a llwybrau beicio diogel
•
Darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus
•
Mannau a rennir
•
Parcio.
Dylai’r ffactorau hyn gael eu hasesu o ran: •
Nifer y mannau lle ceir terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr mewn ardaloedd preswyl, eu heffeithiolrwydd o ran galluogi plant i chwarae’n ddiogel yn yr awyr agored a’r potensial i gynyddu nifer y mannau lle ceir terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr er mwyn hyrwyddo cyfleoedd chwarae.
•
Y llwybrau cerdded a seiclo diogel a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol a’r potensial i ddarparu mwy ohonynt. Dylai hyn gyd-fynd â’r cynigion a gaiff eu nodi yn Neddf Teithio Llesol (Cymru) 20133.
•
Prosesau syml ar gyfer trefnu i gau ffyrdd dros dro a sicrhau bod gwybodaeth am y prosesau hynny i’w chael yn hawdd.
Yn rhyngwladol, caiff pwysigrwydd chwarae ei gydnabod a’i warchod yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae Erthygl 31 o GCUHP yn datgan bod gan y plentyn hawl i chwarae ac ymuno mewn gweithgareddau hamdden eraill. Fel arwydd o’r pwys y mae’r Cenhedloedd Unedig yn ei osod ar chwarae plant, fe gyhoeddodd Sylw Cyffredinol ar Erthygl 31.4
Mae hwn yn ddatganiad swyddogol sy’n ymhelaethu ar ystyr agwedd o GCUHP sydd angen dehongliad neu bwyslais pellach. Bwriad y Sylw Cyffredinol yw egluro ystyr a phwysigrwydd Erthygl 31. Mae’r Sylw Cyffredinol yn nodi y dylai plant gael: ‘amgylchedd sy’n ddigon rhydd o … draffig a pheryglon ffisegol eraill er mwyn caniatáu iddynt grwydro’n rhydd a diogel yn eu cymdogaethau lleol’. Mae’r Sylw Cyffredinol yn pwysleisio bod rhaid i gynllunio cyhoeddus osod blaenoriaeth ar greu amgylcheddau sy’n hybu lles y plentyn. Er mwyn sicrhau’r amgylcheddau trefol a gwledig angenrheidiol sy’n groesawus i blant, dylid ystyried: ‘Mesurau traffig ffyrdd, yn cynnwys cyfyngiadau cyflymder, lefelau llygredd, croesfannau ysgolion, goleuadau traffig, a chamau tawelu traffig er mwyn sicrhau hawl plant i chwarae’n ddiogel.’ Yr un cyn bwysiced, mae’r Sylw Cyffredinol yn annog gwledydd sydd wedi arwyddo’r Confensiwn i gyflwyno deddfau i gefnogi hawl plant i chwarae ac mae’n cynghori y dylid defnyddio mater digonolrwydd fel egwyddor sylfaenol ar gyfer deddfwriaeth o’r fath.
Effaith y car Mae effaith y car ar chwarae plant mor sylweddol fel bod angen annog a chefnogi datrysiadau priffyrdd cymdogaethol a chymunedol creadigol a dyfeisgar er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth ac annog datrysiadau cadarnhaol i broblemau lleol. Mae trwch traffig wedi cynyddu dros y blynyddoedd ac mae’n debyg o ddyblu erbyn 20355. Bydd rhieni a phlant yn aml yn nodi bod traffig yn elfen sy’n cyfyngu ar chwarae mewn cymdogaethau lleol. Mae rhai ardaloedd wedi mynd i’r afael â hyn trwy adennill strydoedd ar gyfer chwarae trwy brosiectau chwarae stryd dan arweiniad trigolion, ble caiff strydoedd eu cau am gyfnodau byr i ganiatáu i blant chwarae. Mae adroddiad6 diweddar yn awgrymu y gallai cefnogi trigolion lleol i gau eu strydoedd dros dro ar gyfer chwarae wneud cyfraniad arwyddocaol i lefelau gweithgarwch corfforol plant, gan fod plant dair i bum gwaith yn fwy bywiog yn ystod sesiynau chwarae’r tu allan na fydden nhw ar ôl ysgol ar ddiwrnod ‘arferol’. Mae’r astudiaeth yn dangos hefyd bod sesiynau chwarae stryd yn cynyddu hyder plant i chwarae’r tu allan a bod rhieni’n teimlo’n fwy cyfforddus wrth ganiatáu hyn.
Camau gweithredu lleol posibl allai sicrhau digonolrwydd chwarae •
Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cydnabod pwysigrwydd strydoedd, ffyrdd a llwybrau cerdded a beicio lleol wrth gynnig cyfleoedd chwarae ar gyfer plant o bob oed a gallu.
•
Mae’r awdurdod lleol wedi datblygu ffordd hysbys a hygyrch o drefnu cau ffyrdd dros dro, er mwyn cefnogi mwy o blant i chwarae’r tu allan i’w cartrefi.
•
Mae gan yr awdurdod lleol broses hysbys ar gyfer asesu effaith cyfyngu cyflymder a mesurau diogelwch ffyrdd eraill ar y cyfleoedd i blant chwarae’r tu allan.
•
Mae gan yr awdurdod lleol gynllun i wella mynediad cerdded a seiclo i barciau, cyfleusterau chwarae awyr agored a chanolfannau hamdden lleol o ardaloedd preswyl.
•
Defnyddir canllawiau Llawlyfr Strydoedd7 wrth ddylunio ardaloedd preswyl newydd.
•
Mae’r awdurdod lleol yn ystyried angen plant i gael mynediad i gyfleoedd chwarae wrth lunio penderfyniadau am wariant a chynllunio trafnidiaeth gyhoeddus.
Canolbwyntio ar y daith Mae Llywodraeth Cymru’n nodi yn Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae, i lawer o blant, bod y palmentydd a’r ffyrdd y tu allan i’w drysau ffrynt yn cynrychioli nid yn unig fynediad i ddarpariaeth chwarae, ond eu bod hefyd yn ofod yn eu hunain, ble y gallant chwarae – ac weithiau dyma’r unig fan agored cyhoeddus mewn cymdogaeth. Pan fydd plant yn teithio i rywle maen nhw’n gwneud mwy na dim ond cerdded neu seiclo, yn hytrach fe fyddan nhw’n chwarae eu ffordd trwy’r daith. Mae angen inni eiriol yn fwy huawdl bod chwarae’r tu allan yn digwydd y tu hwnt i barciau a meysydd chwarae. Mae chwarae ac ymgasglu gyda ffrindiau yn ymwneud â mwy na bod mewn cyrchfan benodol – mae’n ymwneud â’r daith trwy ac o amgylch y gymdogaeth. Yn ddelfrydol, dylai plant a phlant yn eu harddegau fod â’r hyder i chwarae a chymdeithasu ym mhob maes o’u bywydau. Mae mesurau i gynyddu cyfleoedd i chwarae yn galw am agwedd gydlynol, ymarferol rhwng asiantaethau, llunwyr polisïau a darparwyr yn ogystal â phobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phlant yn eu harddegau, eu rhieni a thrigolion lleol eraill.
Cyngor yn agor strydoedd ar gyfer chwarae – astudiaeth achos Caerdydd yw’r cyngor cyntaf yng Nghymru i weithio tuag at gydnabyddiaeth fyd-eang fel rhan o raglen Child Friendly City, Unicef. Fel rhan o hyn, mae’r Cyngor wedi dwyn partneriaid ynghyd i ddatblygu prosiect peilot Chwarae Stryd. Mae’r prosiect yn anelu i symleiddio’r broses ymgeisio i gau ffyrdd er mwyn galluogi trigolion mewn pum cymuned i gau eu strydoedd am gyfnodau byr i alluogi plant i chwarae’n ddiogel yn agos i’w cartrefi. Mae’r Cyngor a Chwarae Cymru yn gweithio gyda thrigolion i wneud strydoedd a chymunedau’n
fannau mwy chwarae-gyfeillgar ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Gan ddefnyddio’r model Playing Out - sesiynau chwarae stryd gaiff eu harwain gan gymdogion ar gyfer cymdogion - bydd trigolion ar draws y ddinas yn cau eu strydoedd i draffig am ddwyawr y mis ar gyfer cynnal sesiynau chwarae stryd. Meddai Lee Patterson, arweinydd strategol y Cyngor ar gyfer menter Child Friendly City: ‘Mae plant, pobl ifanc a’u teuluoedd wedi tynnu sylw … at yr angen am fwy o gyfleoedd i chwarae yn eu cymunedau ac i deuluoedd dreulio mwy o amser gyda’i gilydd. Mae’r plant hefyd wedi pwysleisio’r angen i leihau’r defnydd o geir yn y ddinas er mwyn gwella’r amgylchedd a gwneud Caerdydd yn ddinas fwy diogel i symud o’i chwmpas wrth gerdded, seiclo neu sgwtio.’ Fel rhan o’r prosiect, mae Chwarae Cymru wedi gweithio gyda Playing Out i gyfieithu rhai o’u hadnoddau i drigolion i’r Gymraeg. Mae’r prosiect hefyd wedi hysbysu datblygiad pecyn cymorth ar gyfer cynghorau sy’n cynnig arweiniad ac arfau i gefnogi datblygiad polisïau a gweithdrefnau i alluogi prosiectau chwarae dan arweiniad trigolion yn eu hardaloedd.
Meddai Toni Morgan, un o drigolion Caerdydd a mam i ddau o blant: ‘Roeddwn eisiau rhoi cychwyn i’r prosiect ar fy stryd oherwydd fy mod yn gwybod am yr holl deuluoedd sy’n byw yma, ond doeddwn i erioed wedi dod ar draws plant yn chwarae’r tu allan, ar unrhyw adeg, yn ystod y tair blynedd imi fyw yma. Roeddwn am i fy mhlant gael profiad mwy “organig” o chwarae, wedi ei arwain gan y plant, wrth iddynt dyfu a’r holl fuddiannau ddaw gyda hynny … dyma’r opsiwn agosaf, mwyaf diogel, heb iddo fod yn rhy artiffisial a chael ei ddifetha gan oedolion! A heblaw am hynny, mae’r term “play date” yn codi ias arna’ i!’ Dywedodd Marianne Mannello, Dirprwy-gyfarwyddwraig Chwarae Cymru: ‘Mae rhoi caniatâd i blant chwarae allan yn agos i’w cartref a chartrefi eu ffrindiau’n eu helpu i ennill dealltwriaeth o’r byd y maent yn byw ynddo, wrth iddynt ddysgu i ddelio gyda sefyllfaoedd y tu allan i’r cartref, heb fod yn rhy bell oddi wrth oedolion. Mae hwn yn gam pwysig tuag at ennill hunanddibyniaeth a mwy o annibyniaeth ar gyfer mynd i’r parc, y siop leol neu gerdded i’r ysgol.’ Ar fwy o wybodaeth am gychwyn chwarae stryd yn eich awdurdod lleol cysylltwch â ni: post@chwaraecymru.org.uk | 029 2048 6050.
Cyfeiriadau Llywodraeth Cymru (2014) Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, Hawlfraint y Goron.
1
2
Ibid, tud 23.
https://beta.llyw.cymru/cerdded-beicio?_ ga=2.86317840.987991726.15476392481773860043.1517307487
3
Yr Adran Drafnidiaeth (2012) TRA99 – Rhagolygon traffig. www.gov.uk/government/statistical-data-sets/ tra99-forecasts-of-traffic
5
Prifysgol Bryste, Canolfan Gwyddorau Ymarfer Corff, Maetheg ac Iechyd (2017) Why temporary street closures for play make sense for public health. Llundain: Play England.
6
Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn CRC (2013) Sylw Cyffredinol Rhif 17 ar hawl y plentyn i orffwys, hamdden, chwarae, gweithgareddau
4
adloniadol, bywyd diwylliannol a’r celfyddydau (Erthygl 31). Genefa: Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn.
https://gov.wales/topics/planning/policy/ guidanceandleaflets/manualforstreets/?skip=1&lang=cy
7
www.chwaraecymru.org.uk Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru