Geirfa o dermau gwaith chwarae Agendâu gan oedolion
Rhesymau dros wneud pethau ar sail syniadau, anghenion neu ddymuniadau oedolion.
Amddifadedd chwarae
Os na fydd plant yn chwarae byddant â diffyg profiad sy’n hanfodol i’w datblygiad, a gall hyn arwain iddynt gael eu hanablu’n gymdeithasol ac yn fiolegol.
Amddiffyn plant
Arsylwi
Gwylio ymddygiadau chwarae’r plant ac ymatebion oedolion er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd yn parhau i ddarparu mannau chwarae effeithlon.
Asesu risg-budd
Asesiad o risg sydd hefyd yn ystyried buddiannau’r gweithgaredd i’r plentyn sy’n chwarae.
Y ddyletswydd sydd ar oedolion i ofalu am blant mewn modd fydd yn sicrhau na fyddan nhw, nag eraill, yn achosi niwed i blant ac i adrodd am a chofnodi unrhyw bryderon sy’n ymwneud â phlentyn yn cael ei niweidio (gweler diogelu plant).
Asesu risg-budd dynamig
Amgylchedd chwarae o safon
Awdit chwarae
Mae darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn a phlentyn yn ei arddegau ryngweithio’n rhydd gyda neu i brofi’r canlynol: plant a phobl ifanc eraill, y byd naturiol, rhannau rhydd, yr elfennau naturiol, her a mentro, chwarae gyda hunaniaeth, symud, chwarae corfforol gwyllt, y synhwyrau a theimladau.
Arddulliau ymyrryd
Ystod o ddulliau y gall y gweithiwr chwarae eu defnyddio yn yr amgylchedd chwarae. Gall y rhain amrywio o beidio ymyrryd o gwbl hyd at ymyriad penodol i ehangu chwarae’r plant.
Arfer gwrth-wahaniaethol
Cymryd camau gweithredol i wrthsefyll gwahaniaethu – bydd hyn yn cynnwys clustnodi a herio gwahaniaethu a bod yn gadarnhaol yn eich arfer ynghylch amrywiaeth, a hynny heb beryglu hawl unigolion i chwarae.
Arfer myfyriol
Gweithwyr chwarae’n meddwl yn ddwys am yr hyn y maent yn ei wneud er mwyn dynodi’r hyn y maent yn ei wneud yn dda a’r hyn y gallent ei wella er mwyn cyfoethogi eu harfer proffesiynol.
Asesu risg-budd gweithredol, parhaus o sefyllfaoedd wrth iddynt ddigwydd – fydd yn digwydd gan amlaf fel proses feddyliol yn hytrach na phroses ysgrifenedig.
Rhestr o ddarpariaeth chwarae, neu’r cyfleoedd chwarae sydd ar gael.
Ciw chwarae
Mynegiant yr wyneb, iaith neu iaith gorfforol sy’n cyfathrebu dymuniad y plentyn neu’r plentyn yn ei arddegau i chwarae neu wahodd eraill i chwarae.
Cwricwlwm gwaith chwarae
Y profiadau allweddol y bydd gweithwyr chwarae’n sicrhau sydd ar gael i blant yn cynnwys yr elfennau, hunaniaeth, cysyniadau a’r synhwyrau.
Cyfleoedd cyfartal
Cydnabod bod chwarae ar gyfer pob plentyn – rydym i gyd yn wahanol ac mae gan wahanol blant wahanol bethau i’w cynnig a gwahanol anghenion fydd angen eu cyflawni. Mae cyfleoedd cyfartal yn golygu cefnogi pob plentyn â pharch a thegwch.
Cyfyngiant
Cefnogi chwarae trwy ddarparu amddiffynfa ‘rithwir’ yn erbyn ymyrraeth.