Mathau chwarae
Mae chwarae’n hynod o amrywiol. Gall fod yn swnllyd, di-drefn a chymdeithasol neu gall fod yn dawel, llawn ffocws ac unig. Oherwydd ei fod mor amrywiol mae llawer wedi ceisio dosbarthu ymddygiad chwarae’n wahanol fathau. Mae modelau’n amrywio o ddim ond dau fath – llif rhydd a strwythuredig – i’r rheini sy’n dynodi 308 o fathau1. Ym maes gwaith chwarae, yma yn y DU, byddwn gan amlaf yn defnyddio model gyda’r 16 math chwarae a ddynodwyd ac a amlinellwyd gan Bob Hughes2.
Gall dosbarthu mathau chwarae ddarparu model defnyddiol ar gyfer gweithwyr chwarae, ond dylid nodi nad yw hon yn rhestr gyflawn, mae mwy y gellid eu dynodi. Mae’r amrywiol fathau chwarae’n anelu i ddisgrifio’r ystod lawn o ymddygiadau chwarae plant a sut y gallent gyfrannu at ddatblygiad corfforol, gwybyddol ac emosiynol plant. Fel gweithwyr chwarae, oedolion sy’n hwyluso chwarae plant, ein cyfrifoldeb ni yw creu a darparu amgylchedd hyblyg. Mae’n gwneud yn iawn am absenoldeb cyfleoedd chwarae a ddarperir gan yr amgylchedd naturiol neu gaiff eu cwtogi gan ffactorau fel ofnau rhieni sy’n codi o fyw mewn ardal boblog, lefelau uchel o draffig, ofn perygl dieithriaid a’r teimlad bod pobl eraill yn anghytuno gyda chaniatáu i blant fod allan heb eu goruchwylio. Mae’n un y gall plant ei addasu i weddu i’w anghenion eu hunain er mwyn cymryd rhan mewn unrhyw fath, neu bob math, o chwarae.
Chwarae cyfathrebu Chwarae sy’n cynnwys geiriau, arwyddion ac iaith gorfforol – er enghraifft dweud jôcs, galw enwau a meim. Mae chwarae cyfathrebu’n defnyddio’r corff cyfan. Defnyddir mynegiant yr wyneb, amneidiau, ffyrdd penodol o symud yn ogystal â geiriau, caneuon, ochneidiau a rhochiadau, i gyd i gyfleu ystyr a mynegiant. Yn aml bydd plant (a gweithwyr chwarae da) yn gwybod mwy am sut y mae plentyn yn teimlo oddi wrth ei iaith gorfforol yn hytrach na’r hyn y mae’n yn ei ddweud. Yn benodol, byddwn yn adnabod yr ‘wyneb chwarae’ (ceg agored, y dannedd i’w gweld, llawer o wenu) sy’n dweud ‘rydw i am chwarae’ neu ‘rydan ni’n dal i chwarae’3. Mae chwarae â geiriau, jôcs, sarhad, dwli, rhigymau, dynwarediadau, caneuon, chwarae rôl, barddoniaeth a graffiti i gyd yn galluogi plant i arbrofi gyda, a datblygu eu dealltwriaeth o iaith ac ystyr.
Mae’n bosibl y bydd plant yn arbrofi â rhegi a’r hyn y gallai rhai ei hystyried yn iaith atgas neu gymdeithasol anaddas. Mae hwn yn faes ble y mae angen i ni, fel gweithwyr chwarae, arddangos rhywfaint o oddefgarwch, heb iddo fynd yn llethol neu godi ofn ar blant eraill, y staff neu oedolion eraill. Mae’r man chwarae’n bodoli’n bennaf er budd y plant a dylem geisio osgoi gweithredu syniadau a pholisïau sy’n atal plant, yn gyfan gwbl, rhag archwilio eu gwerthoedd a’u hymddygiad eu hunain4.
Chwarae creadigol Chwarae sy’n cynnwys arbrofi a chreu gydag ystod o ddeunyddiau neu offer ble fo digon o amser a ble nad yw baeddu’n broblem. Chwarae creadigol yw un o’r mathau chwarae mwyaf gweledol yn y mwyafrif o leoliadau chwarae wedi eu staffio. Mae’n fwy na dim ond caniatáu i blant gael mynediad i ddeunyddiau celf a chrefft ac nid yw’n golygu creu rhywbeth yn unol â thempled neu gyfarwyddiadau rhywun arall. Mae creadigedd yn rhannu nifer o nodweddion â chwarae. Mae’n aml iawn yn plygu rheolau ac arferion gweithgarwch arferol ac yn cyfuno syniadau, persbectifau a deunyddiau digyswllt. Mae’n aml yn annisgwyl. Mae creadigedd yn perthyn yn agos i chwilfrydedd, datrys problemau ac ysfa plant i archwilio’u hamgylchedd. ’Does dim rhaid i hwyluso chwarae creadigol fod yn gostus. Mae casgliad o brops sylfaenol, sborion a rhannau rhydd yn cynnig llawer mwy o gyfleoedd
na’r mwyafrif o ddeunyddiau arbenigol a drud a gellir eu hail-ddefnyddio, eu hail-gyfuno neu eu gwaredu fel bo angen. Fel gweithwyr chwarae, byddwn wastad yn cadw llygad am ddeunyddiau anarferol neu newydd all sbarduno chwarae creadigol a rhwystro’r amgylchedd rhag mynd yn ddiflas ac ystrydebol. Gellir mynegi chwarae creadigol mewn llu o ffyrdd ac yn aml caiff ei gyfuno â mathau chwarae eraill. Fel gyda phob elfen o chwarae, mae angen iddo fod o dan reolaeth lwyr y plentyn. Trwy gyfyngu’n ddiangen ar y profiadau a’r cyfleoedd sydd ar gael i’r plentyn, byddwn yn cyfyngu ar feddwl y plentyn a’i opsiynau i archwilio. Mae hefyd yn galw am awyrgylch sy’n ‘llawn caniatâd’ ble mae ffyrdd newydd o chwarae’n dderbyniol, heb ofni embaras, gwatwar neu gerydd. Heb gyfleoedd, bydd plant yn parhau i fod yn ddychmygus ond nid yn greadigol.
Chwarae dwfn Chwarae sy’n galluogi plant i wynebu risg, her a phrofiadau peryglus, er enghraifft sefyll ar wal uchel, neidio dros nant a marchogaeth beic heb ddefnyddio’r dwylo. Caiff chwarae dwfn ei ddiffinio gan ymddygiad chwarae sy’n cynnwys risg, ac yn aml iawn risg sylweddol, er enghraifft dringo coeden fawr, ‘chwarae cachgi’ neu ‘gwir neu her’, neu wynebu bwli. Mae gan chwarae dwfn fuddiannau pwysig i blant. Mae’n caniatáu iddynt brofi, rheoli a goresgyn risg – allai fod yn gorfforol, meddyliol neu emosiynol. Mae hefyd yn diwallu angen dyfnach i wynebu ein marwoldeb ein hunain ac i deimlo’r wefr o fod yn fyw a bod wedi goresgyn ein hofnau. Rydym yn fwy tebygol o weld chwarae dwfn mewn plant hŷn ond gan fod rhyw lefel o risg yn bresennol ym mron pob math o chwarae, gall plant cymharol ifanc hyd yn oed arddangos rhai elfennau o chwarae dwfn, megis ofn chwareus5. Mae’n bwysig cofio bod lefel y risg a geir mewn chwarae dwfn o safbwynt y plentyn (ac nid yr oedolyn) ac y bydd yn amrywio’n sylweddol gyda oedran a gallu, o blentyn i blentyn a dros amser. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd mynd i lawr gwifren uchel yn ‘hen gamp’ i blentyn profiadol, hŷn, ond yn llawn dychryn i blentyn iau sy’n ei defnyddio am y tro cyntaf.
Mae’n bosibl mai chwarae dwfn yw’r math chwarae mwyaf heriol i’w ystyried gan ei fod yn tarfu ar ein dyletswydd reddfol, broffesiynol a chyfreithiol i amddiffyn plant. Fel gweithwyr chwarae dylem fod yn ymwybodol y dylai profiadau chwarae dwfn ond fod ar gael i’r rheini sydd wir eu heisiau. Po fwyaf o risg y mae gweithgaredd yn ei gynnwys yna’r mwyaf anodd y dylai’r mynediad i’r weithgaredd honno fod. Er enghraifft, bydd gwneud coeden fawr yn haws i’w dringo’n creu risg o anaf i’r plant hynny fyddai, fel arall, heb fod â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i’w dringo. Gall cymryd risg o flaen eu cyfoedion fod yn elfen bwysig wrth gynnal perthnasau cymdeithasol i rai plant6. Weithiau, bydd plant yn defnyddio heriau ac yn cymryd rhan mewn ymddygiad llawn risg fel modd o wneud argraff ar ffrindiau a chynnal perthnasau. Fodd bynnag, gall pwysau gan gyfoedion, neu hyd yn oed bwysau gan weithwyr chwarae, fynd yn ormod ac ymyrryd â sgiliau asesu risg arferol. Fel gweithwyr chwarae, byddwn yn cynnal awyrgylch ble nad yw plant yn teimlo bod pwysau arnynt i or-ymestyn eu hunain. Bydd plant yn ymgymryd â chwarae dwfn yn raddol, o dro i dro ac ar eu telerau eu hunain.
Chwarae dramatig
Chwarae archwiliol
Chwarae digwyddiadau dramatig nad yw’r plentyn wedi cyfranogi ynddynt, er enghraifft esgus bod yn bêl-droediwr neu’n seren bop mewn cyngerdd, cyflwyno rhaglen deledu neu dramateiddiad o angladd.
Chwarae sy’n cynnwys canfod gwybodaeth trwy drin gwrthrych, er enghraifft trin neu daflu clai, neu dynnu beic oddi wrth ei gilydd i weld sut y mae’n gweithio ac yna ei ‘drwsio’.
Mae chwarae dramatig neu thematig yn cynnwys ail-greu cymeriadau a straeon adnabyddadwy a gymerir o fyd cymdeithasol ehangach y plentyn, yn hytrach na golygfeydd personol neu ddomestig. Yn aml, caiff ei strwythuro neu ei berfformio o flaen cynulleidfa a chaiff ei ystyried yn un o’r mathau chwarae mwyaf cymhleth7. Gall colur a gwisgoedd helpu plant i fabwysiadu rôl a mynegi eu hunain ac arbrofi â’u hunaniaeth bersonol a sut deimlad yw bod yn berson arall. Gall props syml, yn cynnwys gwisgoedd a phaent wyneb, cerddoriaeth, llwyfan a chynulleidfa barod, i gyd helpu i hwyluso’r math yma o chwarae. Mae chwarae dramatig yn wahanol i chwarae dramatig-gymdeithasol – mae’r olaf yn golygu chwarae trwy brofiadau uniongyrchol a chyfoes y plentyn, tra bo chwarae dramatig yn golygu actio allan a dramateiddio digwyddiadau (yn aml gydag elfennau o chwarae ffantasi a dychmygus) sydd o leiaf un cam ymhellach o’r plentyn.
Caiff chwarae archwiliol ei nodweddu gan blant yn asesu posibiliadau gwrthrych neu amgylchedd penodol, er enghraifft, adeiladu â briciau Lego, darganfod sut y mae siglen rhaff newydd yn gweithio, a morthwylio hoelen i mewn i ddarn o bren. Mae sefyllfaoedd a phrops newydd yn hybu chwarae â gwrthrychau8 gan fod hyn yn bodloni chwilfrydedd naturiol plant a’u hawydd am gyffro. Fel arfer, bydd chwarae archwiliol yn tyfu’n fwy cymhleth i blant hŷn wrth i’w rhyddid gynyddu. Gellir hwyluso chwarae archwiliol trwy dirwedd amrywiol a hyblyg. Bydd coed, llwyni, bryniau a ffosydd, twnelau, strwythurau, mannau i guddio neu fod oddi ar y ddaear a nodweddion anarferol, i gyd yn annog plant i archwilio ac ymchwilio.
Chwarae ffantasi Chwarae esgus mewn ffyrdd sy’n annhebygol o ddigwydd mewn bywyd go iawn, er enghraifft bod yn archarwr neu eistedd ar gwmwl.
Mae chwarae ffantasi’n helpu plant i archwilio’r ffiniau rhwng realiti ac afrealrwydd ac mae’n cynnig gollyngfa ar gyfer yr anymwybod, yn enwedig breuddwydion a chorneli tywyllach y dychymyg. Mae ffantasi a dychymyg yn caniatáu i blant archwilio posibiliadau ‘beth pe bae’ ac i roi tro ar wahanol rolau a hunaniaethau. Mae’r rhain yn ffyrdd pwysig y bydd plant yn mynegi a rheoli eu hemosiynau a delio â phryderon ag elfennau newydd yn eu hamgylchedd9. Gall cael gormod o oedolion yn bresennol ffrwyno chwarae esgus plant. Mae plant yn ystyried bod oedolion yn ffigyrau awdurdod sy’n debyg o gymryd drosodd neu roi stop ar bob anghydfod, sy’n gwneud chwarae’n llai anrhagweladwy a hwyl. Hefyd, os bydd plant yn ymddwyn mewn ffyrdd allai fod yn wirion neu afrealistig bydd rhaid inni ddarparu amgylchedd ble na fydd oedolion neu blant eraill yn eu pryfocio neu’n chwerthin am eu pen.
Chwarae dychmygus Chwarae wedi ei seilio ar realiti ond sydd ddim yn real, er enghraifft esgus bod yn llewpard, bod â ffrind dychmygol neu fod yn blanhigyn. Mae chwarae dychmygus yn caniatáu i blant chwarae trwy a chymryd rheolaeth o’u profiadau, ac ennill sefydlogrwydd a thawelwch meddwl10. Mewn gwirionedd, mae’n edrych yn debyg iawn i chwarae ffantasi ac mae’n rhwydd iawn i gymysgu rhwng y ddau. Fodd bynnag, tra bo chwarae ffantasi’n delio ag afrealaeth, er enghraifft esgus hedfan fel Superman neu droi’n ddeinosor sy’n rhuo, mae chwarae dychmygus yn cynnwys elfennau sy’n seiliedig ar realiti (er, efallai, na fydd rheolau arferol yn gymwys), er enghraifft, esgus bod yn gi, gyrru trên, neu sgorio’r gôl fuddugol â phêl sydd ddim yn bodoli. Yn yr un modd â phob math chwarae arall sy’n cynnwys elfen o esgus, mae chwarae dychmygus yn weithgaredd fewnol, feddyliol gaiff ei hamlygu’n
allanol11. Wrth i’r mwyafrif o blant dyfu’n hŷn byddant yn cefnu fwyfwy ar chwarae ffantasi a dychmygus wrth iddynt fewnoli eu meddyliau a’u teimladau. Er enghraifft, efallai y caiff gemau smalio eu hystyried yn blentynnaidd, er y bydd chwarae dychmygus yn aml yn parhau ar wahanol ffurfiau, fel gemau cyfrifiadurol. Fel chwarae ffantasi, bydd chwarae dychmygus yn elwa o gael awyrgylch sy’n llawn caniatâd a darparu props sylfaenol sy’n caniatáu i blant ddianc o’u gwir sefyllfa ac ymgolli mewn sgyrsiau a thirweddau dychmygol.
Chwarae symudiad Symud er mwyn symud, er enghraifft chwarae dal, rhedeg, neidio, sgipio a dringo coed. Caiff chwarae symudiad, a elwir hefyd yn chwarae gweithgarwch corfforol, ei nodweddu gan symud er ei fwyn ei hun ac mewn unrhyw gyfeiriad posibl. Mae’n cynnwys neidio, siglo, sboncian, seiclo, gemau pêl, gymnasteg a dawnsio. Mae llawer o blant yn mwynhau cyffro’r helfa, neu gêm o tic, neu tic oddi ar lawr.
© New Model Army Photography
Caiff chwarae ffantasi ei nodweddu gan sefyllfaoedd, cymeriadau a doniau dychmygol, er enghraifft, cael eich hela gan ddeinosoriaid neu fod yn ddewin sy’n creu hud a lledrith. Bydd rhaid i’r plentyn gyfarwyddo’r chwarae ffantasi, er y gellir ei gyd-drafod ag eraill.
Mae Hughes yn awgrymu bod chwarae symudiad yn fodd o ‘ymgynefino â’r amgylchedd, dysgu pa elfennau sy’n ddiogel a pha elfennau y dylid eu hosgoi’12. Mae eraill yn pwysleisio’r ymddygiadau hela a dianc sydd mor nodweddiadol o chwarae symudiad ac sy’n awgrymu ei fod wedi esblygu i ddarparu hyfforddiant goroesi13 neu bwysleisio’r buddiannau i weithgarwch corfforol a ffitrwydd, yn cynnwys ystwythder, balans, hyblygrwydd, cryfder a dycnwch. Yn yr un modd â chwarae gwyllt, ceir nifer o wahaniaethau rhwng hela a chwrso chwareus ag ymddygiad cwrso ‘o ddifrif’, yn cynnwys cyfnewid rôl, hunan-atal, a galwadau rhybuddio (‘Dwi’n mynd i dy ddal di!)14. O ystyried pryderon cyfoes ynghylch iechyd plant ac yn enwedig y cynnydd sylweddol mewn gordewdra, mae hwyluso chwarae symudiad bellach yn bwysicach nac erioed.
Chwarae meistrolaeth Rheolaeth dros yr amgylchedd naturiol, er enghraifft codi argae ar draws nant, adeiladu coelcerth, palu tyllau a chreu twmpathau mewn pridd a thywod. Mae chwarae meistrolaeth yn disgrifio’r ysfa sydd gan blant i reoli, trin a thrafod a meistroli eu hamgylchedd ffisegol ac affeithiol. Mae adeiladu cuddfannau a chwarae â dŵr neu â thân yn darparu dealltwriaeth i blant o’r hyn y mae’r amgylchedd yn ei ganiatáu. Mae rheoli’r amgylchedd yn caniatáu i blant arddangos eu gallu a theimlo’n hyderus am eu doniau ac yn gyfforddus yn eu hamgylchedd. Mae’n caniatáu iddynt ymgysylltu â’r byd naturiol a, thrwy hynny, helpu i greu cysylltiad emosiynol a datblygu parch tuag at yr hyn y gall ei wneud. Gellir annog chwarae meistrolaeth trwy ddarparu gofod a deunyddiau ar gyfer adeiladu a chreu cuddfannau, plannu a thyllu, barbeciwio a chwarae â thân. Ar lefel ymarferol, mae’n bwysig ein bod ni, fel gweithwyr chwarae, yn hyderus ac yn gymwys yn yr ymddygiad yr ydym yn ei hwyluso. Dylai ymddygiad sy’n dod â lefel sylweddol o risg, fel cynnau tanau a phalu tyllau dyfnion, gael eu hasesu’n ddigonol ar gyfer risg a chael eu cynnal mewn ardaloedd penodol o’r amgylchedd chwarae.
Chwarae gwrthrych Trin gwrthrychau â llaw-llygad, er enghraifft archwilio cregyn, edrych ynddynt a’u troi drosodd a throsodd. Mae rhyfeddod plant â’r gwrthrychau o’u hamgylch yn ymestyn yn llawer pellach na’r teganau neu’r gwrthrychau y mae oedolion yn eu hystyried yn addas i blant chwarae â hwy. Gall gwrthrychau gynrychioli teimladau neu ddiddordebau plentyn. Gallant gynnig dull ar gyfer cyfathrebu â phlant ac oedolion eraill. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer archwilio, darganfod, deall a chwarae pellach15. Mae chwarae gwrthrych yn caniatáu i blant ennill dealltwriaeth am bosibiliadau gwrthrychau – ‘Sut mae hwn yn gweithio?’ a ‘Beth mae’n ei wneud?’ Mae hefyd yn caniatáu datblygiad cydsymudiad llaw a llygad a mân-symudiadau wrth i blant drin a thrafod a rheoli gwrthrychau. Gall peli, offer, brwshys paent a phlastig swigod (bubble wrap) i gyd ddarparu cyfleoedd i archwilio posibiliadau’r hyn y gallai gwrthrych ei ganiatáu. Caiff plant eu denu gan newydd-deb a gan wrthrychau sy’n newydd neu’n anarferol. Mae gwrthrychau sy’n caniatáu mwy nag un defnydd ac sy’n gofyn am ymateb hyblyg yn fwy diddorol na rhai cyfyngedig, anhyblyg16. Er enghraifft, gellir
defnyddio bocs cardbord mewn miloedd o wahanol ffyrdd tra bo gwahanol ddefnyddiau carreg yn fwy cyfyngedig. Tra bo plant wrthi’n gweithio allan sut y mae gwrthrych yn gweithio, mae’n bwysig i ni, fel gweithwyr chwarae, wrthsefyll y temtasiwn i’w dysgu am ei ‘ddefnydd cywir’ a thrwy hynny gwtogi proses darganfod a dysgu’r plentyn. Wrth gwrs, mewn gwirionedd, gall hyn arwain at offer yn cael ei golli a’i dorri ond mae hwn yn rheswm da dros ddefnyddio ffynonellau deunyddiau rhad a rhad ac am ddim, fel sgrap ac adnoddau wedi eu lloffa.
Chwarae ailadroddol Chwarae sy’n cynnwys cymryd rhan mewn defodau, creu a defnyddio arfau, adeiladu llochesi a chreu ieithoedd cyfriniol. Mae chwarae ailadroddol yn cyfeirio at y syniad efallai bod rhai agweddau o chwarae plant yn atgrynhoi ein hanes esblygiadol. Mae atgrynhoi yn awgrymu bod ymddygiadau allweddol penodol yn gysylltiedig â goroesi’n cael eu pasio ymlaen yn enetig a bod yr ymddygiadau hyn yn cael eu deffro neu’n cael eu darparu’n isymwybodol pan fo plant yn chwarae mewn ffyrdd (ailadroddol) penodol. Pan fydd plant yn chwarae fe welwch, wedi ei adlewyrchu yn hynny, rywfaint o’r hyn y byddai bodau dynol yn ei wneud yn y gorffennol pell17. Mae chwarae ailadroddol yn cwmpasu defodau, straeon a chaneuon a digwyddiadau grwpiau mawrion fel ffug-frwydrau, adeiladu tanau a choginio, tyfu bwyd, adeiladu cuddfannau, a phob agwedd o chwarae dwfn. Ers y cychwyn, bu cryn ddadlau ynghylch bodolaeth y math chwarae yma. Mae cwestiynau difrifol yn parhau i fodoli am y syniad o chwarae ailadroddol, yn cynnwys: •
Pam ddylai atgrynhoi ein profiadau dynol hynafol fod yn bwysig?
•
Sut yn union gaiff y wybodaeth yma ei basio i lawr a’i gyrchu’n anymwybodol?
•
Mae plant yn chwarae mewn nifer o ffyrdd eraill ar wahân i’r rheini gaiff eu hystyried yn gyffredinol fel rhai ailadroddol. A yw’r ymddygiadau hyn wedi eu pasio ymlaen hefyd?
Er gwaetha’r nifer o bosibiliadau a chwestiynau sydd heb eu hateb, ’does dim dwywaith bod llawer o blant am chwarae mewn ffyrdd y gellid eu galw’n ailadroddol a’u bod yn cael cryn fodlonrwydd o’r ymddygiad hwnnw.
Chwarae rôl Chwarae sy’n archwilio rhoi tro ar rolau na fyddent yn eu profi fel arfer, er enghraifft gyrru car neu olchi dillad. Wrth chwarae rôl, bydd plant yn dynwared pobl eraill y gallent fod yn gyfarwydd â nhw, fel aelodau o’r teulu, athrawon neu gymeriadau y maent wedi eu gweld ar y teledu. Nid yw chwarae rôl yn bortread cywir o berson arall – mae’n bosibl y caiff manylion eu newid neu eu gorliwio i greu caricatur neu fersiwn ystrydebol o’r rôl hwnnw. Caiff ei gyfyngu hefyd gan lefel dealltwriaeth y plentyn o’r cymeriad hwnnw. Bydd plant yn creu fersiynau ‘nodweddiadol’ o’r cymeriadau y maent yn eu mabwysiadu, er enghraifft, yr athro llym neu’r rhiant sydd dan ormod o bwysau. Mae chwarae â gwahanol rolau’n helpu plant i archwilio a rhoi tro ar rolau eraill o’u hamgylch a,
thrwy hynny, ennill rhywfaint o ddealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd a pham ei fod yn digwydd18. Mae’n caniatáu i blant fynd ‘y tu allan’ i’w hunain, a gweld eu hunain o bersbectif gwahanol. Trwy wneud hynny, byddant yn dod i delerau â’r syniad eu bod ar wahân i, ond yn debyg i bobl eraill.
chwarae gwyllt, ar yr wyneb, edrych fel ymddygiad difrifol o gas, ceir nifer o wahaniaethau allweddol. Mae gwrthwynebwyr chwarae gwyllt yn aml yn honni y bydd, yn anochel, yn gwaethygu i fod yn ymladd go iawn. Mae hyn yn annhebygol os yw’r chwarae gwyllt wir yn gydsyniol.
Yn debyg iawn i’r mathau chwarae eraill sy’n seiliedig ar esgus; gellir annog chwarae rôl trwy ddarparu dillad gwisgo lan, colur ac ategolion bob dydd arferol.
Mae chwarae gwyllt yn caniatáu i blant bwyso a mesur eu cryfder a’u hystwythder a dechrau datblygu ymwybyddiaeth gorfforol o’u hunain ac eraill. Ceir rhywfaint o wahaniaethau rhyw o ran chwarae gwyllt – mae bechgyn yn tueddu i gymryd rhan mewn mwy o chwarae gwyllt na merched, ac mae chwarae bechgyn yn ymddangos yn fwy ymosodol. Mae’r gwahaniaeth hwn yn gyson ar draws gwahanol ddiwylliannau.
Chwarae gwyllt Chwarae sy’n cynnwys ymladd, cwympo, cosi, chwarae gyda chyswllt corfforol, ond dim anafu bwriadol, ble mae’r plant dan sylw’n chwerthin a gwichian ac, o’r mynegiant ar eu hwynebau, yn amlwg yn mwynhau eu hunain. O’r holl fathau chwarae, gellid dadlau mai chwarae gwyllt yw’r un y byddwn yn ei gamddeall fwyaf, er gwaetha’r ffaith iddo gael ei astudio’n helaeth mewn bodau dynol ac anifeiliaid. Fel arfer, bydd yn cynnwys reslo, taro (â llaw agored), gwthio, sblasio neu drochi, ac mae’n cael ei fritho’n aml â (neu gall ddatblygu i fod) yn gemau cwrso. Yn aml iawn, bydd oedolion yn camddeall chwarae gwyllt ac yn ceisio ei wahardd neu ei atal fel ymddygiad ymosodol. Mae’n amlwg bod y plant, ar y llaw arall, yn gwybod y gwahaniaeth. Er y gall
Chwarae cymdeithasol Chwarae gydag eraill ble y gellir archwilio rheolau ymwneud cymdeithasol, er enghraifft sgyrsiau, creu pethau gyda’i gilydd neu greu clwb. Mae’n debyg mai chwarae cymdeithasol fydd y math chwarae gaiff ei arsylwi amlaf mewn lleoliad chwarae. Mae’n cynnwys rhyngweithio ag eraill, a dyna un o’r prif resymau pam fod plant yn dewis ymweld â lleoliad chwarae. Chwarae yw un o agweddau pwysicaf datblygiad cymdeithasol, oherwydd y bydd dysgu yn digwydd ar nifer o lefelau yn ystod chwarae cymdeithasol.
Yn ogystal â gwybodaeth, a sgiliau prosesu, bydd plant yn ennill dealltwriaeth am arferion, rheolau a pherthnasau pŵer. Yn ogystal, mae profiadau chwarae yn ystod plentyndod yn galluogi plant i ddysgu sgiliau cymdeithasol hanfodol, sef cydymdeimlad ac empathi19. Mewn llawer o ffyrdd, chwarae cymdeithasol sy’n taflu mwyaf o amheuaeth ar ddilysrwydd y dosbarthiad yma o fathau chwarae. Efallai bod chwarae cymdeithasol yn ffurf mor drech o chwarae, fel y byddai’n fwy defnyddiol i ddynodi’r amrywiol fathau o chwarae cymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar y mân-wahaniaethau a geir rhwng chwarae dramatig a dramatig-gymdeithasol, neu rhwng chwarae ffantasi a dychmygus.
Chwarae dramatig-gymdeithasol Ail-greu golygfeydd o fywydau’r plant eu hunain, er enghraifft chwarae mam a dad neu chwarae tŷ. Mae chwarae dramatig-gymdeithasol yn ymwneud â phrofiadau personol a chymdeithasol bob dydd bywydau plant, fel mynd i’r ysgol, mynd i siopa, cael swper neu fynd i’r gwely. Mae’n caniatáu i blant brofi neu ymarfer sefyllfaoedd cyffredin o’u bywydau. Bydd chwarae dramatig-gymdeithasol yn aml yn galw am o leiaf ddau blentyn, er y gall ac y bydd plant yn chwarae fel hyn ar eu pen eu hunain. Yn anffodus, mae’n bosibl na fydd ‘digwyddiadau bob dydd’ mor normal â hynny i rai plant a gall chwarae dramatig-gymdeithasol ganiatáu iddynt weithio trwy emosiynau dychrynllyd, poenus neu ddryslyd, megis bod yn dyst i drais yn y cartref neu fwlio yn yr ysgol. Mewn chwarae dramatiggymdeithasol bydd plant yn efelychu profiadau o’r byd go iawn ond gan ychwanegu elfennau o esgus. Mae eu chwarae’n troi’n offeryn therapiwtig ar gyfer delio ag emosiynau ac ofnau anymwybodol, a gwireddu dymuniadau20. Mae chwarae dramatiggymdeithasol yn darparu modd i blant archwilio sut y mae pobl eraill yn teimlo, i gyd-drafod neu i gyfaddawdu ond hefyd i sefyll yn gadarn dros eu hamcanion eu hunain. Mae chwarae dramatiggymdeithasol wedi ei gysylltu â nifer o feysydd datblygiadol eraill, yn cynnwys iaith a llythrennedd, creadigedd a datrys problemau. Tra bo bechgyn a merched yn defnyddio straeon fel rhan o chwarae dramatig-gymdeithasol, ceir
rhywfaint o wahaniaeth rhwng y rhywiau. Mae’n ymddangos bod merched yn fwy tebygol o gynnwys golygfeydd domestig, wedi eu nodweddu gan drefn neu oresgyn perygl, tra bo straeon bechgyn yn fwy treisgar ac anrhagweladwy. Mae’n ymddangos hefyd bod gwahaniaeth yn y modd y bydd y ddau’n cyd-drafod â’u partneriaid chwarae. Mae’n ymddangos bod merched yn fwy tebygol o ddefnyddio strategaeth sy’n cyfuno eu diddordebau eu hunain â rhai plant eraill, tra bo bechgyn yn cynnig llai o opsiynau ac yn mynnu agwedd unochrog21. Gall natur ‘bywyd go iawn’ chwarae dramatiggymdeithasol ac ail-greu digwyddiadau ei wneud yn llawn emosiwn. Mae’n hanfodol ein bod ni, fel gweithwyr chwarae, yn cynnal agwedd anfarnol ac yn rhoi amser a lle i’r plant chwarae eu profiadau allan.
Chwarae symbolaidd Defnyddio gwrthrychau neu arwyddion i gynrychioli pethau eraill, er enghraifft ffon i gynrychioli cleddyf neu ddarn o ddefnydd i gynrychioli ystafell. Chwarae symbolaidd yw’r ddawn i gynrychioli gwrthrychau, gweithredoedd, syniadau neu deimladau â symbolau. Ar y dechrau, mae’n bosibl y bydd plant yn defnyddio un gwrthrych i gynrychioli un arall, er enghraifft, defnyddio ffon fel gwn. Yn hwyrach, mae’n bosibl y byddant yn defnyddio symbolau i gynrychioli gwrthrychau, er enghraifft, defnyddio llinell igam-ogam i gynrychioli’r môr neu ddefnyddio symbolau i gynrychioli cysyniadau haniaethol fel baner i gynrychioli gwlad neu aelodaeth o giang. Y pwynt allweddol gyda chwarae symbolaidd yw nid y prop neu’r gwrthrych penodol a ddewisir gan y plentyn ond yn hytrach yr ystyr y mae’n dewis ei roi iddo. Yr ystyr yma sy’n pennu’r chwarae. Mae chwarae symbolaidd wedi ei gysylltu â datblygiad y ddawn i ddefnyddio arwyddion a geiriau ysgrifenedig22. Fel gyda mathau chwarae eraill sydd ag elfen gref o esgus, mae chwarae symbolaidd yn galw am amgylchedd cefnogol, anfarnol ble fo plant yn teimlo wedi ymlacio ac yn hyderus na fydd neb yn gwneud hwyl am eu pen.
Casgliad
Casgliad Mae hwyluso’r mathau chwarae yn ymarferol, er mwyn sicrhau bod plant yn profi ystod o gyfleoedd a phrofiadau, yn galw am le, caniatâd ac amrywiaeth. Mae gofod awyr agored yn elfen hanfodol o leoliad chwarae. Ble fo’r gofod yn annigonol ar gyfer anghenion y plant, er enghraifft ei fod yn rhy fach neu heb ofod awyr agored, rydym yn debygol o arsylwi absenoldeb ystod gyflawn o ymddygiadau chwarae’n cael eu mynegi gan y plant.
Cyfeiriadau Sutton-Smith, B. (2011) Play as Emotional Survival. Ffilm. Ar gael ar: www.chwaraecymru.org.uk/cym/ipa2011fideos
1
Hughes, B. (2002) A Playworker’s Taxonomy of Play Types, Ail argraffiad. Llundain: PLAYLINK a Hughes, B. (2006) Play Types: Speculations and Possibilities. Llundain: The London Centre for Playwork Education and Training.
2
Bateson, G. (1972) Steps to an ecology of mind. San Francisco: Chandler.
3
Hughes, B. (2001) Yr Hawl Cyntaf… fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae. Caerdydd: Chwarae Cymru ac Ely: Play Education.
4
5
Else, P. (2009) The Value of Play. Llundain: Continuum.
Gladwin, M. (2005) Participants’ Perceptions of Risk in Play in Middle Childhood. Traethawd Meistr heb ei gyhoeddi. Prifysgol Metropolitan Leeds.
6
Garvey, C. (1990) Play. Cambridge, MA: Harvard University Press.
7
Hutt, C. (1966) Exploration and Play in Children. Yn: Bruner, J. S., Jolly, A. and Sylva, K. (gol.) (1976) Play: Its role in development and evolution. Efrog Newydd: Penguin. Pennod 18.
8
Singer, J. L. (1995) Imaginative Play in Childhood: Precursor of Subjunctive Thoughts, Daydreams, and Adult Pretending Games. Yn: Pellegrini, A. D. (gol.) The Future of Play Theory. Albany: State University of New York Press. Pennod 9.
9
Gellid dadlau mai ‘caniatâd’ yw’r dylanwad pwysicaf pan yn hwyluso mathau chwarae. Yn ein gwaith ymarferol, mae’n golygu galluogi plant i deimlo ‘bod hawl gennym i fod yma ac i wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud’ heb gael eu barnu. Mae’n galw am oddefgarwch, cydsyniad a hawl. Heb ganiatâd, ni fydd plant yn teimlo perchenogaeth o’r man chwarae na rhyddid o fod ynddo. Mae’r holl fathau chwarae’n elwa o gael amgylchedd amrywiol gaiff ei gefnogi gan ystod o brops a deunyddiau sylfaenol. Mae angen iddynt gynnig hyblygrwydd a newydd-deb a gellir, a dylir, eu darparu heb fawr ddim cost.
10
Play Types: Speculations and Possibilities.
Ariel, S. (2002) Children’s Imaginative Play: A visit to wonderland. Westport: Praeger.
11
12
A Playworker’s Taxonomy of Play Types.
Power, T. (2000) Play and Exploration in Children and Animals. New Jersey: Erlbaum.
13
14
Ibid.
15
Play.
16
Play Types: Speculations and Possibilities.
17
Ibid.
18
Ibid.
Brown, F. and Webb, S. (2005) Children without play, Journal of education, no.35.
19
Freud, S. (1974) The standard edition of the complete psychological works of Sigmund Freud, 24 cyfrol, (cyfieithiad). Llundain: Hogarth Press, Institute of Psycho-analysis.
20
Nourot, P. M. (2006) Sociodramatic Play Pretending Together. Yn: Fromberg, D. P. and Bergen, D. (gol.) (2006) Play From Birth to Twelve: Contexts, Perspectives, and Meanings. Llundain: Routledge. Pennod 10.
21
Isenberg, J. a Jacobs, E. (1983) Literacy and symbolic play: A review of the literature. Childhood Education, 59 (4), 272-276.
22
Hydref 2017 © Chwarae Cymru
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru