Pam fod chwarae’n bwysig a’r hyn y gall pob un ohonom ei wneud yn ei gylch

Page 1

Pam fod chwarae’n bwysig a’r hyn y gall pob un ohonom ei wneud yn ei gylch


Mae chwarae’n cyfrannu at les a gwytnwch bodau dynol – yn enwedig rhai ifainc.

Mae cael mannau croesawus, digon o amser a chwmni pobl eraill i chwarae â nhw bob dydd, o bwys mawr i bob plentyn a pherson ifanc – fel oedolion bydd angen inni feithrin amgylcheddau sy’n cefnogi hyn. Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae fel a nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Caiff hyn ei gydnabod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd.

Chwarae allan a chyswllt gyda byd natur – pam mae’n bwysig? • Bydd plant yn tyfu i ddeall, gwerthfawrogi a malio am y byd naturiol trwy ymwneud â’r byd naturiol, chwarae wedi ei gyfeirio’n bersonol ac archwilio • Bydd atgofion o chwarae ym myd natur yn ystod plentyndod yn atgyfnerthu adnoddau personol i ymdopi â straen ac yn annog diddordeb mewn gofalu am yr amgylchedd

Yn aml caiff rhieni a gofalwyr eu dylanwadu gan negeseuon grymus, sy’n aml yn croesddweud ei gilydd, yn y cyfryngau ynghylch cadw plant yn ddiogel. Ond, ni ddylai hyn arwain at wrthod mynediad at chwarae allan mewn amgylchedd naturiol. Mae’n bwysig inni beidio â gwneud mor a mynydd o’n pryderon. Mae buddiannau chwarae’r tu allan yn llawer mwy nag unrhyw risgiau. Yn aml iawn y cyfan y bydd llawer o blant ei angen yw caniatâd i chwarae a newid mewn agwedd, i un sy’n gwerthfawrogi chwarae, yw’r newid unigol mwyaf y gall oedolion ei wneud i gefnogi chwarae plant. Er mwyn arddangos agwedd gefnogol tuag at chwarae dylem sicrhau nad ydym yn:

• Yn ogystal, bydd chwarae mewn lleoliadau naturiol yn cyfrannu at ystwythder, balans, creadigedd, cydweithredu cymdeithasol a chanolbwyntio.

• ei ddiystyru fel rhywbeth gwamal sy’n wastraff amser

Mae rhai elfennau hanfodol y bydd angen iddynt fod yn eu lle er mwyn hyrwyddo mynediad plant sy’n derbyn gofal at fyd natur a chwarae allan, sef: caniatâd, amser, lle a deunyddiau.

Amser

Caniatâd Pan fyddwn ni’n hel atgofion am ein plentyndod, bydd nifer ohonom yn cofio adegau hapus a dreuliom y tu allan ym myd natur. Mae ar blant angen caniatâd gan rieni a gofalwyr er mwyn cael chwarae allan.

• ei gyfyngu’n ddiangen trwy ofn • ei or-reoleiddio na’i or-drefnu.

Mae amser plant i chwarae wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a hynny am amrywiol resymau. Trwy wneud amser ar gyfer chwarae plant y tu allan ym myd natur byddwn yn hyrwyddo a gwerthfawrogi rhyddid, annibyniaeth a dewis plant ac mae’r rhinweddau hyn yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu gwytnwch plant, eu gallu i ddelio â straen a phryder, a’u lles yn gyffredinol. Tra bo cynnyrch neu fannau masnachol yn cynnig cyfleoedd newydd efallai, maent yn gwneud hynny ar


draul colli’r rheolaeth sydd gan blant dros eu chwarae eu hunain. Mae hwn yn golled sylweddol, gan mai’r elfen allweddol am chwarae yw’r rheolaeth y mae’n ei gynnig i blant. Wrth galon yr ymddygiad yma mae’r syniad y gall plant ddewis sut a pham y maent am chwarae. Mae’r lefel o reolaeth fydd gan blant dros eu chwarae eu hunain yn rhan o’r hyn sy’n ei wneud yn chwarae, ynghyd â’i nodweddion o hyblygrwydd, naturioldeb anrhagweladwy a dychymyg.

Lle Mae nodweddion llefydd o ansawdd i blant yn cynnwys cyfle ar gyfer rhyfeddu, cyffro a’r annisgwyl, ond yn bennaf oll cyfleoedd nad oes gormod o drefn na rheolaeth oedolion arnynt. Mae’r llefydd hyn yn hanfodol i ddiwylliant y plant eu hunain a’u hymdeimlad o le a pherthyn. Gorau oll os yw llefydd plant yn rhai awyr agored. O gael dewis, mae’n well gan blant chwarae allan ac maen nhw’n gweld gwerth yn yr annibyniaeth a’r cyfleoedd mae’n gynnig iddyn nhw ddarganfod.

darparu fydd yn hwyluso ac yn annog chwarae fel tywod, dŵr, cregyn, ffabrig, bwcedi, bocsys, rhaff, teiars, poteli, pren a deunyddiau sgrap o bob math. Gall deunyddiau o’r fath fod yn rhad ac yn hygyrch – y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw gadael pentwr ohonynt i blant eu harchwilio a chewch eich rhyfeddu gan y ffordd y mae chwarae plant yn ysgogi ac yn cydio. Nid oes angen llawer o deganau ar blant sy’n chwarae allan gydag eraill. Drwy ddarparu ychydig o deganau sydd wedi eu dewis yn ofalus ond nifer o rannau rhydd, gallwn gyfoethogi’r lle chwarae a hwyluso’r chwarae.

Gall rhannau rhydd fod yn naturiol neu’n synthetig a chynnwys:

Pren

Defnydd

Cynhwysyddion

Brigau

Siapiau

Boncyffion

Teganau

Cerrig

Cerrig

Blodau

Deunyddiau

Bonion

Rhaff

Er bod plant yn gallu ac y byddant yn chwarae yn unrhyw le a gyda bron unrhyw beth, mae yna adnoddau y gallwn ni eu

Tywod

Peli

Graean

Cregyn a hadlestri


Mae rhannau rhydd yn cyfeirio at unrhyw beth y gellir ei symud o gwmpas, ei gario, rowlio, codi, pentyrru neu gyfuno i greu strwythurau a phrofiadau diddorol a newydd. Gall chwarae mewn lleoliad naturiol gynnwys: • Gwylio adar, pryfed neu anifeiliaid • Adeiladu cuddfannau • Chwarae gyda thywod a dŵr • Chwilota ac archwilio coedwigoedd • Tyllu • Dringo coed • Casglu a chategoreiddio. Mae darparu rhannau rhydd yn caniatáu i’r plant ddefnyddio’r defnyddiau fel y mae nhw’n dewis. Mae darparu’r rhain yn cefnogi chwarae’r plant mewn sawl ffordd wahanol ac ar sawl lefel gwahanol. Mae amgylcheddau sy’n cynnwys rhannau rhydd yn tueddu i symbylu a chynnwys mwy ar blant na rhai llonydd. Mae rhannau rhydd yn hyrwyddo ac yn cefnogi chwarae creadigol wrth iddyn nhw ganiatáu plant i ddatblygu eu syniadau eu hunain ac archwilio’u byd. Mae chwarae mewn lle sy’n gyfoethog o ran y deunyddiau y cyfeiriwyd atynt, yn cefnogi amrediad eang o ddatblygiad, gan gynnwys hyblygrwydd, creadigrwydd, dychymyg, dyfeisgarwch, datrys problemau, hunan hyder ac ymwybyddiaeth o le.

Mae chwarae’n bwysig a dylem weithredu er mwyn ei hyrwyddo a’i warchod. • Dylem wrando ar yr hyn y bydd plant yn ei ddweud am eu chwarae a gwerthfawrogi eu cyfraniadau’n wirioneddol. • Dylem ystyried mannau chwarae plant fel amgylcheddau pwysig y dylid eu gwarchod. • Dylem eiriol bod chwarae plant yn hanfodol ar gyfer datblygiad iach a lles. Mae’n ymddygiad dilys ac yn un o’u hawliau dynol, ac mae’n berthnasol i blant sy’n chwarae’r tu mewn neu’r tu allan. • Yn aml iawn bydd chwarae plant yn ddi-drefn, yn wyllt a swnllyd, a bydd mannau chwarae plant yn aml yn flêr, anniben ac idiosyncratig. Mae angen inni ddeall nad yw cysyniad plant o fan chwarae dymunol yn edrych yr un fath â chysyniad oedolion. Mae angen inni ddysgu goddef llanast a baw! • Gallwn gefnogi chwarae plant trwy ddarparu rhannau rhydd a gwrthod gor-fasnacheiddio. • Gallwn roi blaenoriaeth i amser plant i chwarae’n rhydd. Os y byddwn yn gor-oruchwylio neu’n gor-amddiffyn byddwn yn dwyn rhyddid dewis y plentyn a’r union elfen sy’n golygu bod ei ymddygiad yn chwarae.

New Model Army Photography


Cynghorion ar gyfer cefnogi plant i chwarae allan yn hydreus Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i gefnogi a pharatoi ein plant i chwarae allan yn hyderus yn eu cymuned. Mae chwarae allan o fudd i blant, yn ogystal â’u rhieni, eu gofalwyr a’r gymuned ehangach. Mae cefnogi plant i chwarae allan yn eu cymuned yn cyfrannu at greu cymuned chwarae-gyfeillgar a chydlynol. Efallai y bydd y cynghorion yma’n ddefnyddiol er mwyn annog rhieni a gofalwyr a chymunedau lleol i gefnogi plant i chwarae allan yn hyderus:

1. Paratoi plant i fod yn ddiogel ar y stryd Mae strydoedd yn rhan sylweddol o ofod cyhoeddus mewn cymunedau. Gallwn baratoi plant o oedran ifanc trwy ddweud wrthynt a dangos iddynt sut i gadw eu hunain yn ddiogel ar ac o amgylch y strydoedd. 2. Ystyried ein harferion gyrru personol Yn aml bydd rhieni’n pryderu am draffig cyn caniatáu i blant chwarae allan. Fel gyrwyr, gallwn yrru ar gyflymder diogel yn yr un modd y byddem yn dymuno i eraill yrru ar y strydoedd preswyl ble y bydd ein plant ninnau’n chwarae. 3. Helpu plant i ddod i adnabod eu cymdogaeth Pe byddem ninnau’n dibynnu llai ar deithio yn y car yn ein cymunedau lleol, byddai plant yn dod i adnabod eu strydoedd lleol. Gallai cerdded i ac adref o gyfleusterau lleol, fel y siop, yr ysgol a’r parc, ein helpu i ddynodi ffyrdd, gyda’n plant, i’w cadw’n ddiogel. 4. Bod yn gymunedol-gyfeillgar Gallwn ddod i adnabod pobl leol, cymdogion a theuluoedd eraill, a chytuno gyda’n gilydd i gadw llygad ar y plant i gyd. Bydd hyn yn meithrin ymdeimlad o

gymuned ddiogel, fydd yn caniatáu i fwy o blant chwarae allan yn amlach, ac i fod yn fwy diogel yn gwneud hynny. 5. Ymddiried yn y plant Gallwn gytuno gyda’n plant i ble ac am ba hyd y gallant fynd allan i chwarae. Os ydynt yn adnabod eu hardal leol, eu cyfeiriad a’u rhif ffôn, pwy y gallant alw arnynt, a sut i ddweud yr amser, bydd yn helpu wrth wneud y trefniadau hyn. 6. Bod yn realistig Bydd cadw ein pryderon mewn persbectif a gwybod am gymdogion a thrigolion lleol y gallwn alw arnynt os oes gennych unrhyw bryderon o gymorth. Mae buddiannau chwarae’r tu allan yn llawer mwy nag unrhyw risg. 7. Sicrhau newid Gallwn ymuno â phobl leol eraill i ymgyrchu dros newidiadau i’n cymdogaeth allai wneud ein hardaloedd lleol yn fannau ble y gall plant chwarae allan yn hyderus. Gallwn hyrwyddo pwysigrwydd chwarae allan trwy siarad â phobl eraill yn ein cymdogaeth neu trwy gynnal digwyddiadau cymunedol a gadael i eraill wybod amdanynt.


Mai 2015 © Chwarae Cymru

www.chwaraecymru.org.uk Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae.

Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.