Papur cyfarwyddyd
Rheoli risg dynamig ymddygiadau chwarae cyffredin allai fod yn beryglus
Mae’r papur cyfarwyddyd yma’n cyflwyno crynodeb o asesiad risg-budd manwl sy’n ystyried ymddygiadau chwarae cyffredin, ond allai fod yn beryglus, y bydd plant yn eu harddangos yn ystod sesiynau chwarae wedi eu staffio.
Cynhaliwyd yr asesiad yma er mwyn cefnogi asesiad risg dynamig gan ymarferwyr unigol tra’n gweithio gyda phlant sy’n chwarae. Mae’n cydnabod, tra gall ymddygiadau chwarae plant fod yn gymhleth ac amlygu eu hunain mewn llawer o wahanol ffurfiau, mae’r union ffyrdd y gallai niwed difrifol ddigwydd yn debygol o fod yn debyg ar draws gwahanol fathau o ymddygiadau. Er enghraifft, mae’r ffyrdd y gallai anaf ddigwydd, ac o ganlyniad y ffactorau y bydd angen i ni fel ymarferwyr eu hystyried, yn debygol o fod yn debyg waeth os yw’r plentyn yn dringo coeden, siglo ar raff neu’n llithro i lawr torlan fwdlyd. Gellir defnyddio asesu risg-budd dynamig gydag ystod eang o ymddygiadau, yn hytrach na chael nifer o asesiadau gwahanol sydd, mewn gwirionedd, yn dyblygu ei gilydd. Y bwriad yw y bydd y dull yma’n cynnig gwell cefnogaeth i ymarferwyr gydag asesiad dynamig o risg, gan daro cydbwysedd gyda buddiannau gweithredoedd a moddau ymddygiadol y plant. Mae’r asesiad yn amlygu’r gweithredoedd niweidiol posibl allai godi’n sgîl ymddygiadau chwarae cyffredin y mae plant yn debygol o’u harddangos, waeth beth fo’r adnoddau a ddarperir gan oedolion. Fydd llawer o’r gweithredoedd hyn ond yn fater pryder pan fo oedolion yn bresennol i’w gweld – mae’n debyg y byddent yn digwydd beth bynnag. Fodd bynnag, gan fod oedolion yn bresennol tra bo plant yn chwarae, mae’n anorfod bod ganddynt ddyletswydd gofal i sicrhau nad yw’r ymddygiadau hyn yn peri risg afresymol, o niwed corfforol neu emosiynol difrifol, i’r rhai sy’n rhan o’r chwarae neu bobl eraill. Mae’n bwysig cydnabod cyfyngiadau’r asesiad hwn ac na fyddai, o reidrwydd, yn ddigonol ar gyfer y sefyllfaoedd hynny ble y bydd plant,
trwy weithredoedd oedolion, yn wynebu mwy o risg nag y byddent yn ei wynebu’n arferol ac o’u dewis eu hunain, gallai hyn gynnwys: strwythurau chwarae eraill a adeiladwyd gan oedolion (er enghraifft, siglenni rhaffau), rhai gweithgareddau a arweinir gan oedolion (er enghraifft, cynnau tân) neu nodweddion sy’n unigryw i’r safle (er enghraifft, cyrsiau dŵr), ble y gellir bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i reoli peryglon sy’n gysylltiedig â nodweddion ffisegol y gwrthrychau neu’r deunyddiau dan sylw. Hefyd, mae’r asesiad yma’n cymryd bod pob lleoliad wedi ei archwilio’n ddigonol i ddynodi unrhyw beryglon annerbyniol a bod camau wedi eu cymryd i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r rhain cyn i unrhyw sesiynau chwarae gychwyn (cyn belled â bo’n rhesymol ymarferol). Yn ogystal, tra bo’r asesiad risg-budd yma’n ymwneud yn bennaf â rheoli risgiau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad chwareus plant ac, os oes angen, leihau’r risg o niwed uniongyrchol, nid yw’n delio â’r canlyniadau y gellir disgwyl i blant eu profi o ganlyniad i ymddygiad y mae staff yn ei ystyried sy’n annerbyniol yn y lleoliad.
Mae’r ymddygiadau chwarae cyffredin penodol gaiff eu hystyried yn yr asesiad yn cynnwys: • Rhedeg • Dringo • Neidio o uchder • Balansio • Llithro • Siglo • Taflu • Ymladd / chwarae gwyllt • Carcharu • Defnyddio geiriau ac ystumiau annymunol • Chwarae gydag arfau • Llosgi • Bwyta ac yfed • Adeiladu a chwalu. Cafodd yr ymddygiadau hyn eu dynodi gan grŵp o weithwyr chwarae profiadol fel y rhai sy’n peri pryder iddynt amlaf; ond mae’n debyg y byddai’r dull a ddisgrifir isod yn addas hefyd ar gyfer ymddygiadau chwarae eraill nad ydynt wedi eu rhestru uchod.
Cydbwysedd anodd Tra gallai fod yn bosibl datblygu canllawiau penodol ar gyfer adeiladu strwythurau chwarae (er enghraifft, siglenni rhaffau), ni ellir dweud yr un fath am reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhyngweithiad chwareus plant â’r strwythur hwnnw neu unrhyw nodwedd arall yn eu hamgylchedd. Oherwydd natur newidiol ac ansicr chwarae plant, mae’n amhosibl cynhyrchu datganiadau pendant sy’n dweud yn union pryd y dylai ymarferwyr ymyrryd mewn unrhyw sefyllfa benodol a gallai gwaharddiad cyffredinol arwain at weld senarios sy’n hynod o fuddiol yn cael eu hatal.
Bydd manylion pob sefyllfa unigol yn unigryw a bydd sut y mae gwahanol bobl yn dirnad y rhain yn hynod o oddrychol. Ond, mae’r papur hwn yn anelu i annog mwy o gysondeb o ran y modd y byddwn ni, fel ymarferwyr, yn meddwl am ac yn ymateb i ymddygiad chwareus plant. Wrth wneud hyn, mae’n bwysig sylweddoli bod yr asesiad wedi ei gwblhau ar y cynsail bod plant yn bobl yn eu rhinwedd eu hunain, gyda’u profiadau, eu meddyliau, eu teimladau a’u diwylliannau eu hunain, sydd â rhywfaint o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain. Mae’n bwysig hefyd bod yn ymwybodol o’r disgwyliadau a osodir ar ymarferwyr ac effeithiau niweidiol posibl gweld pobl eraill yn camddehongli agwedd o ystyried cyn ymyrryd fel agwedd ddiofal neu esgeulus.
Barn risg-budd Yn y bôn, mae buddiannau sylweddol i blant o allu rheoli cynnwys a bwriad eu chwarae a phrofi lefel rhesymol o risg fel rhan o hyn. Trwy ymyriadau gorfrwdfrydig, sydd yn y pen draw yn cyfyngu ar ryddid plant i gyfarwyddo eu hymddygiad eu hunain, gall oedolion, yn anfwriadol, amddifadu plant o’r buddiannau uniongyrchol a gohiriedig sy’n gysylltiedig â’r ymddygiadau chwarae cyffredin hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygu gwytnwch, creadigedd a’r ddawn i ymgyfaddasu, sydd i gyd yn nodweddion allweddol sy’n angenrheidiol i fodau dynol gefnogi eu lles eu hunain. Hefyd, mae’n bosibl y bydd plant yn tyfu’n fwyfwy rhwystredig pan fo oedolion yn gosod cyfyngiadau diangen ar eu chwarae, allai ynddo’i hun arwain at ymddygiadau risg uwch. Ar sail buddiannau galluogi plant i chwarae’n rhydd, dylid glynu at y rheol gyffredinol – y dylid caniatáu cymaint â phosibl o ryddid, cyn belled â bod hynny ddim yn cyfyngu’n ormodol ar hawl person arall i chwarae neu’n peri i’r chwaraewr, neu i bobl eraill, wynebu risg afresymol o niwed corfforol neu emosiynol difrifol (gall hyn gynnwys dwyn enw drwg ar y ddarpariaeth chwarae allai, yn y pen draw, olygu na chaiff ei gynnig).
© New Model Army Photography
Y Model ABC Bydd os, a sut, i ymyrryd yn ystod y broses chwarae yn ddewis i ni fel ymarferwyr unigol a’n timau o staff. Caiff hyn ei seilio ar ein barn broffesiynol o ran yr hyn yr ydym yn amgyffred sy’n rhesymol a realistig o dan yr amgylchiadau. Fodd bynnag, mae’r canllaw hwn yn anelu i gynorthwyo asesiad risg dynamig ymarferwyr trwy ddynodi:
• A yw gweithgaredd yn debygol o achosi niwed? (gweithredoedd)
• Beth yn ymddygiad y plant, all achosi
iddynt fod yn llai ymwybodol ac yn llai abl i reoli risg drostynt eu hunain a/neu dros eraill o’u cwmpas (Moddau Ymddygiadol*)
• Cyd-destun a’r ffactorau penodol a all
gynyddu tebygolrwydd a difrifoldeb unrhyw niwed posibl (cyd-destun).
Gellir ystyried hwn fel y ‘Model ABC’. Ceir eglurhad manylach o’r ffactorau y gellid bod angen eu hystyried o dan bob un o’r tri maes yma yn yr atodiad, ond mae’r hyn sy’n dilyn yn grynodeb o’r materion y dylem ni fel ymarferwyr geisio eu hystyried pan fyddwn yn cynnal asesiad risg-budd dynamig o chwarae plant.
A – Gweithredoedd
Mae’r gweithredoedd sy’n debyg o beri niwed y dylem fod yn arbennig o ymwybodol ohonynt pan fyddwn yn cynnal asesiad dynamig o risgiau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad chwareus plant, yn cynnwys: crafu, llosgi, taro yn erbyn rhywbeth, carcharu, cwympo, anafu, difrodi, llyncu, boddi a digio. Felly, er enghraifft, gallai’r posibilrwydd o niwed o ganlyniad i ymddygiad chwarae cyffredin fel chwarae ymladd, godi’n sgîl nifer o weithredoedd posibl fel anafu, carcharu neu ddigio, a dyma’r peryglon y dylem gadw llygad amdanynt.
B – Moddau Ymddygiadol
Mae cyswllt anorfod rhwng ysfa sylfaenol ymddygiad plant a’u hemosiynau. Bydd cyflwr emosiynol plant yn dylanwadu ar y ciwiau chwarae y byddant yn eu mynegi yn ogystal â’r modd y byddant yn ymateb i giwiau chwarae gan blant eraill. Y modd y caiff yr emosiynau hyn eu mynegi trwy weithredoedd pob plentyn all beri risg i’r plentyn yn chwarae neu bobl eraill yn yr ardal gyfagos. Tra ei bod yn hanfodol inni gydnabod dawn plant i reoli risg, bydd y modd y mae plant
yn ymwneud â’r amgylchedd a gyda’i gilydd yn dylanwadu’n fawr ar eu hymwybyddiaeth a’u gallu i reoli’r risgiau cysylltiedig. Er enghraifft, mae plant sy’n ymddwyn mewn modd byrbwyll yn debyg o beri mwy o risg i’w hunain ac i eraill, na phlant sydd â rheolaeth ac sy’n bod yn ofalus. Yn yr un modd, gall gorgynnwrf neu ymgolli yn y broses chwarae arwain at blant yn bod yn llai ymwybodol o’r peryglon o’u hamgylch. Bydd gallu plant unigol yn allweddol hefyd yn ogystal ag i ba raddau yr ydym yn ymwybodol o hyn. Mae’n bosibl na fydd plant sy’n amhrofiadol wrth chwarae mewn lleoliad penodol yn ymwybodol o’r risgiau cysylltiedig ag y byddant, trwy amryfusedd, yn eu gosod eu hunain mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i’w rheolaeth. Os nad ydym yn adnabod plentyn penodol yna mae’n fwy tebygol y dylem ymyrryd yn gynharach os ydym yn ansicr ynghylch gallu’r plentyn hwnnw mewn maes penodol. Dylem hefyd ymdrechu i geisio deall y bwriad y tu ôl i weithredoedd plant ac, yn anad dim, os oes unrhyw falais y tu ôl iddynt ai peidio ac os yw’r gweithredoedd hyn yn ‘real’ neu’n rhan o esgus neu ffugio chwarae, hynny yw – a yw’r plant dan sylw wir yn bwriadu achosi niwed corfforol neu emosiynol go iawn. Unwaith eto, bydd hyn yn dibynnu ar gyflwr emosiynol y plant dan sylw ac felly mae’n bwysig inni geisio bod yn ymwybodol o, a deall sut y mae plant unigol yn teimlo a sut y gallai hyn effeithio ar eu hymddygiad.
C – Cyd-destun Gall y lefel o risg sy’n gysylltiedig ag unrhyw ymddygiad chwarae penodol gael ei ddylanwadu’n sylweddol gan ffactorau eraill sy’n benodol i gyd-destun, yn cynnwys: • Diwylliant y gymuned • Cyflwr y tywydd, ddoe a heddiw • Pa mor agos yw chwarae’r plant i bobl, eiddo neu beryglon eraill
• Nifer neu drwch y plant mewn gofod penodol a ‘llif’ neu symudiad plant o amgylch y gofod hwnnw • Mathau o ddeunyddiau a ddefnyddir • Diogelwch strwythurau • Difrifoldeb unrhyw uchder y gellid cwympo ohono.
Cynllunio ar gyfer chwarae Mae’r naratif uchod yn awgrymu bod llawer mwy i reoli risg na dim ond ymateb i sefyllfaoedd allai, o bosibl, fod yn beryglus. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod pob plentyn yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn ddiogel yn y lleoliad, eu harsylwi’n fanylach pan maent yn newydd i’r ddarpariaeth, treulio amser yn dod i adnabod plant a’u cefndiroedd ac, efallai’n bwysicaf oll, greu amgylchedd sy’n caniatáu i blant chwarae gyda a mynegi ystod eang o emosiynau mewn cyd-destun cymharol ddiogel. Fel ymarferwyr bydd angen inni hefyd feddwl sut y defnyddir y gofod sydd ar gael a cheisio osgoi unrhyw gyfyngiadau diangen ar y defnydd o’r gofod allai gynyddu natur gystadleuol y gofod hwnnw, fydd yn golygu bod mwy o blant yn gorfod chwarae gyda’i gilydd mewn ardal llai o faint.
Atodiad A – Gweithredoedd Crafu Gallai niwed ddigwydd o ganlyniad i blentyn yn crafu ei groen ar arwyneb garw, yn enwedig pan fydd yn symud yn gyflym. Po gyflymaf y bydd y plentyn yn symud a pho arwaf yw’r arwyneb y mwyaf difrifol y bydd unrhyw anaf posibl. Gall y math yma o anaf fod yn gysylltiedig â rhedeg neu ddefnyddio tegan ar olwynion, fel sglefrfwrdd a go-cart, ond gallai ddigwydd hefyd wrth i blentyn lithro i lawr torlan a chael ei anafu ar wrthych sy’n sticio allan o’r ddaear. Yn ogystal, gall gemau’n defnyddio rhaffau arwain at losgiadau rhaff, yn enwedig ble defnyddir grym sylweddol, er enghraifft wrth chwarae Tynnu Rhaff. Fel ymarferwyr mae’n bosibl y byddwn yn teimlo bod angen gwneud y plant yn ymwybodol o beryglon posibl, cael gwared â pheryglon nad yw’r plant yn debyg o fod yn ymwybodol ohonynt neu arafu’r plant os yw’n ymddangos eu bod y tu hwnt i’w rheolaeth.
Llosgi Mae creu a rheoli tanau wedi bod yn rhan allweddol o fywyd bodau dynol trwy gydol ein hesblygiad ac, felly, efallai nad yw’n syndod bod plant yn rhyfeddu gymaint at chwarae â thân. Ond, mae’n amlwg bod risgiau sylweddol yn gysylltiedig â’r ymddygiad yma a’i fod yn rhywbeth y gallai aelodau eraill o’r cyhoedd fod yn ochelgar iawn ohono. O ganlyniad, mae’n bosibl y byddwn angen hyfforddiant ac arweiniad pellach ynghylch hwyluso cynnau tanau, ond gallai’r weithred o losgi hefyd gynnwys chwarae gyda chanhwyllau, defnyddio lens i geisio llosgi gwahanol ddeunyddiau neu goginio ar stôf. Waeth pa ddull a ddefnyddir, bydd agosrwydd y plant i’r tân yn ystyriaeth allweddol yn ogystal â’r deunydd sy’n cael ei losgi, lefel profiad y plant a lefel y gofal y maent yn ei gymryd. Dylem atal plant rhag llosgi deunyddiau gwenwynig neu ffrwydrol, talu mwy o sylw i blant sy’n llai profiadol neu sy’n ymddangos fel nad ydynt yn ymwybodol o’r risgiau cysylltiedig iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill, ac annog y plant i glymu gwallt hir yn ei ôl a thynnu unrhyw ddillad llac. Dylem hefyd sicrhau bod cyflenwad dŵr wrth law rhag ofn i’r tân fynd allan o reolaeth.
Taro yn erbyn rhywbeth Y risg tebygol mwyaf cyffredin sy’n gysylltiedig ag unrhyw ofod ble fo plant yn chwarae yw taro yn erbyn rhywbeth. Er enghraifft, gallai hyn fod o ganlyniad i blant yn taro yn erbyn ei gilydd neu yn erbyn gwrthrychau neu arwynebau. Ar ei waethaf, gallai hyn arwain at farwolaeth yn dilyn cwymp o uchder i lawr ar arwyneb caled neu wrthdrawiad rhwng plentyn a cherbyd sy’n symud. Ond gallai, yn fwy cyffredin, gynnwys plant yn rhedeg ar draws ei gilydd neu blentyn yn cael ei daro gan wrthrych. Pan fyddwn yn ystyried tebygolrwydd a difrifoldeb gwrthdrawiadau posibl, dylem roi ystyriaeth i’r nifer o blant sydd yn y gofod, eu hagosrwydd at ei gilydd a chyfeiriad a chyflymder eu symudiad. Wrth wneud hyn, dylem fod yn arbennig o ystyriol os yw plentyn yn taro ei ben, a bod yn ymwybodol o arwyddion posibl cyfergyd (concussion). Mae angen inni feddwl sut y defnyddir y gofod sydd ar gael a cheisio osgoi unrhyw gyfyngiadau diangen, allai gynyddu’r cystadlu am y gofod hwnnw – sy’n golygu y bydd rhaid i fwy o blant orfod chwarae gyda’i gilydd mewn ardal lai o faint. Tra dylai oedolion gydnabod gallu plant i drafod telerau defnyddio’r gofod rhyngddynt eu hunain, dylem fod yn ystyriol o wrthdaro rheolaidd rhwng fframiau chwarae plant ac ymyrryd, os oes angen, i helpu’r plant i reoli eu defnydd cyfrannol o’r gofod yn well. Carcharu Yn aml, bydd plant yn defnyddio clymu neu ddal rhywun yn gaeth fel rhan o’u chwarae ac mae’n bosibl y byddant yn mwynhau cymryd tro i garcharu ei gilydd, er enghraifft wrth chwarae ymladd. Dylid talu sylw i’r ffaith os yw’r rheini sy’n rhan o’r gêm yn gwneud hynny o’u gwirfodd neu os ydynt yn cael eu carcharu’n groes i’w ewyllys ac os ydynt yn gallu rhyddhau eu hunain o’r sefyllfa os ydynt yn dewis gwneud hynny (gallai hyn fod mor syml â gofyn i’r plant os ydyn nhw’n iawn). Dylem fod yn arbennig o ystyriol os yw rhaff neu ddeunydd arall yn cael ei glymu am wddf plentyn, allai beri risg o dagu.
Mae risg cynyddol yn gysylltiedig â phlant yn cwympo os yw eu breichiau wedi eu caethiwo, sy’n golygu nad oes modd iddynt glustogi eu cwymp. Gallai hyn arwain at anaf difrifol, yn enwedig os byddant yn cwympo ar arwyneb sy’n arbennig o galed. Yn y sefyllfaoedd hyn, gallem sefyll yn agos i’r plentyn er mwyn ei ddal os bydd yn cwympo a / neu ei annog i symud i dir meddalach. Cwympo Mae rhai o’r damweiniau mwyaf cyffredin yn cynnwys baglu dros wrthrychau ar lawr, ar dir anwastad neu hyd yn oed dros bobl eraill. Mae posibilrwydd hefyd y gall plant gwympo oddi ar neu allan o strwythurau yn cynnwys coed, cistiau llwytho neu offer chwarae sefydlog. Bydd difrifoldeb unrhyw anaf posibl, fel arfer, yn dibynnu ar uchder y gwymp a’r arwyneb y cwympir arno. Bydd tebygolrwydd gweld damwain yn digwydd, fel arfer, yn dibynnu ar allu’r plant dan sylw, sefydlogrwydd y strwythur y maent yn ei ddringo neu’n sefyll arno a’r tywydd (er enghraifft, yw hi’n wlyb neu’n rhewllyd?). Dylem hefyd fod yn ymwybodol o orlenwi, plant yn gwthio i gael tro a phobl, o bosibl, yn cael eu gwthio cyn eu bod yn barod i neidio. Os ydym yn bryderus, gallwn ofyn i’r plant os ydynt yn teimlo eu bod â rheolaeth neu, os oes angen, ofyn iddynt ddod i lawr i uchder yr ydym yn fwy cyfforddus ag o. Weithiau gall plant eu cael eu hunain i sefyllfaoedd ble byddant angen arweiniad neu gymorth ymarferol gennym i ddringo i lawr. Gallwn hefyd leihau risgiau trwy waredu gwrthrychau o ardal y gwymp a / neu ddarparu rhyw fath o ddeunydd lleddfu cwymp i’r plant neidio i lawr arno, er enghraifft mat cwympo. Anafu Mae chwarae ymladd neu ‘chwarae gwyllt’ yn rhan bwysig o chwarae plant sy’n meithrin buddiannau uniongyrchol, yn ogystal â buddiannau gohiriedig. Ond mae gwir ymladd neu drais yn erbyn person arall, wrth gwrs,
yn llai dymunol a gallai alw am ymyriad mwy uniongyrchol gan y gallai arwain at niwed difrifol. Fel arfer, gellir dweud os yw ymladd yn ffug neu’n real trwy arsylwi iaith gorfforol, mynegiant wyneb ac iaith y plant. Dylid hefyd ystyried os yw’r rheini sy’n rhan o’r chwarae’n ffrindiau ac os oes hanes o chwarae ymladd neu ‘gweryla’ rhyngddynt. Mae rhaid i oedolion dderbyn y bydd plant yn anghydweld a bod rhaid rhoi cyfle iddynt ddatrys anghydfodau drostynt eu hunain. Gall ein cyfraniad ni wneud y sefyllfa’n waeth ac yn aml iawn y ffordd gyflymaf i ddatrys anghydfod yw gadael iddynt ei ‘chwarae allan’. Dylem felly osgoi ymyrryd mewn ‘mân gweryla’ a mân anghydfodau, yn enwedig ble fo’r rhain yn digwydd yn rheolaidd ymysg grwpiau o ffrindiau. Mae’n bwysig hefyd cydnabod pan fo sefyllfa wedi peidio â bod yn chwareus neu wedi datblygu i fod yn rhywbeth mwy difrifol ac y gall y plant droi atom ni i atal anghydfodau rhag ‘mynd dros ben llestri’. Mae’n bosibl defnyddio llawer o wrthrychau fel arfau ond, yn gyffredinol, y bwriad y tu ôl i’r defnydd o’r gwrthrych (a yrrir gan gyflwr emosiynol y plentyn) fydd yn galw am ystyriaeth ofalus i bennu’r risg a berir. Yn ogystal, bydd difrifoldeb anaf posibl yn dibynnu ar nodweddion ffisegol y gwrthrych, er enghraifft, ydi o’n drwm neu’n finiog? Os yw’n ymddangos nad oes unrhyw fwriad i beri niwed ond bod staff yn dal i fod yn bryderus ynghylch y math o wrthrych sy’n cael ei ddefnyddio, gallent gynnig ‘arf’ amgen ond sydd â llai o risg gan ganiatáu i’r chwarae barhau. Wrth wneud hyn dylid ystyried os yw’r plant dan sylw’n ymddangos fel eu bod yn ymwybodol o’r potensial y gallai’r gwrthrych beri niwed ac os ydyn nhw wir yn bwriadu peri niwed neu os ydyn nhw’n ceisio’n fwriadol i osgoi anafu pobl eraill. Bydd agosrwydd y gweithgaredd i bobl eraill yn allweddol hefyd, er enghraifft, mae plentyn sy’n troelli cangen dros ei ben fel cleddyf yn annhebyg o beri niwed os nad oes unrhyw un yn agos ond gallai hyn beri mwy o risg pe bae’n gwneud yr un peth yn agos i bobl eraill.
Os oes angen, gallwn roi rhybuddion ar lafar, denu sylw’r plant yma gyda gweithgaredd gwahanol, arwain y plant mewn gwahanol gyfeiriadau i ffwrdd oddi wrth ei gilydd neu sefyll rhwng y plant i’w hatal rhag taro neu gael eu taro. Mewn achosion eithafol mae’n bosibl y bydd rhaid inni ddal plentyn yn ôl ond dylid gwneud hyn pan fetho popeth arall ac os oes risg uchel y bydd yn niweidio ei hun neu rywun arall yn ddifrifol. Difrodi ’Dyw difrod ynddo’i hun ddim yn angenrheidiol yn beth drwg os yw’r eitem sy’n cael ei difrodi o ddim, neu fawr ddim gwerth. Os yw plentyn yn teimlo’n ddig, mae’n sicr yn well iddynt fynegi eu rhwystredigaeth ar sborion yn hytrach nag ar berson arall neu offer costus. Weithiau gall y weithred o ddinistrio gwrthrych fod yn rhan o’r broses chwarae a gall ‘malu stwff’ fod yn gathartig ac yn hwyl ynddo’i hun. Mae’r raddfa y bydd hyn yn dderbyniol i bobl eraill yn debyg o ddibynnu ar gost y deunyddiau dan sylw a phwy sy’n berchen arnynt. Er enghraifft, mae’n debyg y byddai’r mwyafrif o bobl yn goddef plentyn yn rhwygo bocs cardboard neu’n tynnu hen gyfrifiadur oddi wrth ei gilydd ond prin y byddai unrhyw un yn derbyn gweld plant yn mynd ati’n fwriadol i ddifrodi cerbydau neu’n dinistrio offer costus. Weithiau gall y weithred o ddifrodi gwrthrych ei wneud yn fwy peryglus. Er enghraifft, efallai bod tiwb plastig yn bygwth fawr o risg ar y cyfan, ond pan gaiff ei ddifrodi mae’n bosibl y byddai ymylon miniog yn peri risg niwed sylweddol, yn enwedig os caiff ei ddefnyddio mewn ffordd fygythiol. Mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd darparu adnoddau sydd â dim neu fawr ddim gwerth ond sicrhau hefyd ein bod yn gwaredu unrhyw ddeunyddiau sydd wedi eu difrodi sydd heb unrhyw ddefnydd ymarferol bellach. Bydd angen inni wneud yn siŵr hefyd, os yw plant yn ‘malu stwff’ bod ganddynt ddigon o le o’u cwmpas a bod pobl eraill yn cael eu cadw o’r ffordd neu o leiaf yn cael eu rhybuddio am y peryglon.
Llyncu
Boddi
Wrth gwrs mae bwyta ac yfed yn ymddygiadau normal, ond bydd y sylwedd a lyncir yn dylanwadu’n fawr ar y potensial i niwed ddigwydd. Er enghraifft, mae plant yn mwynhau casglu aeron neu godennau ond dylid gofalu na fyddant yn bwyta planhigion allai fod yn wenwynig. Mae plant wrth eu bodd hefyd yn chwarae â dŵr ac mae’n bosibl y cant eu temtio i’w yfed, sydd ddim yn broblem os yw’n ffres a glân, ond dylem geisio atal plant rhag yfed dŵr marw, drewllyd sydd wedi newid lliw.
Mae unrhyw sefyllfa ble fo digon o ddŵr i orchuddio ceg a thrwyn plentyn yn peri risg boddi posibl ac, yn yr achos gwaethaf gallai hyn achosi marwolaeth. Ond, o sicrhau goruchwyliaeth ddigonol, mae’r tebygrwydd y bydd hyn yn digwydd yn sylweddol is. Mae ymwybyddiaeth am fodolaeth crynofa ddŵr o unrhyw fath yn allweddol er mwyn sicrhau goruchwyliaeth ddigonol ac mae’n bosibl y byddwn angen hyfforddiant neu arweiniad ychwanegol er mwyn hwyluso chwarae mewn ac o amgylch dŵr dwfn.
Gall baw anifeiliaid hefyd beri niwed o’i lyncu. Fel arfer, baw cŵn neu gathod fydd hyn, all yn aml iawn blagio mannau a fwriedir ar gyfer chwarae plant. Dylid archwilio safleoedd am faw anifeiliaid cyn cychwyn sesiynau chwarae a, ble fo modd, dylem ei waredu’n ddiogel.
Yn gyffredinol, bydd dyfnder y dŵr yn cynyddu’r risg cysylltiedig, a pha gyflymaf yw llif y dŵr y mwyaf yw’r risg. Os yw’r plant yn chwarae mewn dŵr yna dylid ystyried os oes perygl iddynt fynd allan o’u dyfnder, presenoldeb posibl gwrthrychau peryglus o dan y dŵr, y tebygolrwydd y bydd torlannau’n chwalu o dan draed a pha mor llithrig yw arwynebau (allai, yn eu tro, gynyddu’r risg o gwympo). Dylem hefyd ystyried os bydd modd inni gerdded trwy’r dŵr i achub plentyn, os oes rhaid.
Gall bwyd sydd heb ei goginio’n iawn beri risg i blant hefyd. Dylid rhoi ystyriaeth ddoeth i’r holl baratoadau bwyd a dylai unrhyw un sy’n bwriadu paratoi a / neu goginio bwyd fod yn gymwys ym maes hylendid bwyd, yn enwedig os am baratoi cig.
Digio Mae’n bwysig inni sylweddoli ei bod yn anochel y bydd plant yn chwarae gydag ystumiau ac iaith allai fod yn annymunol a bod galw enwau, gwneud hwyl, dweud geiriau anweddus a jôcs budron yn rhan naturiol o dynnu coes chwarae plant. Gall hyn fod yn rhan o broses gadarnhaol o greu cwlwm rhwng ffrindiau ond gall hefyd helpu plant i ddod i delerau â theimladau o embaras. Ond, yn yr un modd â’r gwahaniaeth rhwng chwarae ymladd ac ymladd go iawn, dylem ystyried y bwriad y tu ôl i unrhyw sarhad a sut y mae’r rheini sy’n cael eu sarhau’n debyg o ymateb; a chydnabod y gall yr un geiriau fod ag ystyron cwbl wahanol yn ddibynnol ar y bwriad y tu ôl i’w dweud. Er enghraifft, gellir defnyddio rhegfeydd unai â bwriad cas neu i gwestiynu gweithredoedd person arall mewn modd chwareus.
Gall yr hyn y bydd gwahanol bobl yn digio wrtho fod yn hynod o oddrychol ac mae’n bosibl iawn y perir tramgwydd er nad oedd unrhyw fwriad gwneud hynny. Bydd rhai achosion o sarhad yn llai derbyniol yn gymdeithasol nag eraill, yn arbennig rhai sy’n gysylltiedig â golwg neu gefndir unigolyn, a dylem fynd ati’n fwy gweithredol i annog y plant i beidio â gwneud hyn. Yn ogystal, bydd gan effaith cymdeithasol digio aelodau eraill o’r cyhoedd y potensial i ddifrodi enw da’r ddarpariaeth chwarae a gall hyn, yn ei dro, atal ymdrechion i eiriol dros chwarae plant yn lleol. Mae’r egwyddor bod gan bawb hawl i chwarae yn arbennig o berthnasol mewn sefyllfaoedd ble y gellid peri dig. Efallai y bydd plant yn ei chael yn anodd chwarae os ydynt yn cael eu dychryn gan weithredoedd neu iaith pobl eraill, yn yr un modd mae’n bosibl na fydd rhieni’n caniatáu i’w plant ymuno yn y chwarae os byddant yn clywed neu’n dyst i ymddygiad y maent yn ei ystyried sy’n sarhaus. Felly, dylai ein barnau ddibynnu ar yr hyn gafodd ei ddweud neu ei wneud, at bwy yr anelwyd hyn a phwy arall oedd yn bresennol. Yna gall ymyriadau amrywio o ofyn i’r plant i fod yn fwy gofalus o’u hiaith, sicrhau eu bod yn ymwybodol o bobl eraill sydd o’u hamgylch, gofyn iddyn nhw symud draw oddi wrth bobl eraill, neu atgoffa’r plant am eu cyfrifoldeb tuag at enw da’r ddarpariaeth a chanlyniadau posibl gweld y lleoliad chwarae’n cael ‘enw gwael’.
B – Moddau Ymddygiadol Malais Caiff y bwriad y tu ôl i weithredoedd person effaith sylweddol ar y risg sy’n gysylltiedig â nhw a, tra bo damweiniau’n digwydd, os oes bwriad peri niwed yna mae niwed yn llawer mwy tebygol o ddigwydd. Mae malais (fel arddangos emosiynau sylfaenol cryfion megis dicter, cenfigen ac ofn) yn cyfeirio at yr ‘awydd i weld eraill yn dioddef’ ac mae’n debyg o arwain at sefyllfaoedd ble y byddwn yn penderfynu bod angen inni ymyrryd.
Fodd bynnag, pan fyddwn yn gwneud hyn mae’n allweddol inni ystyried os yw’r plant wir yn bod yn faleisus neu ddim ond yn esgus – hynny yw, ydyn nhw wir yn bwriadu peri niwed neu ydyn nhw ond yn chwarae? Mae hyn yn tueddu i fod yn arbennig o bwysig pan fyddwn yn ystyried ymyrryd mewn achosion o chwarae ymladd, y defnydd o arfau ac ystumiau neu iaith allai bechu yn erbyn rhywun. Bydd gwybod am bersonoliaeth a chefndir plant unigol yn ein helpu i ddynodi’r rheini allai fod yn fwy tebygol o fod yn ymosodol tuag at eraill. Gall ymwybyddiaeth o broblemau y gallai plant fod yn gorfod ymdopi â nhw y tu allan i’r lleoliad chwarae ein helpu hefyd i ddeall (ond nid o reidrwydd esgusodi) yr ymddygiad yma. Dylem ganolbwyntio ar sicrhau bod lle i blant draw oddi wrth bawb arall pan maent yn teimlo’n ddig, rhybuddio eraill rhag eu ‘herian’ ac efallai ddenu plant sy’n fwy tebygol o ‘anelu ergyd’ at eraill i ymuno mewn gemau tynnu sylw.
Cyffro Gall cyflyrau emosiynol cadarnhaol amlwg, fel arddangos cyffro, arwain hefyd at sefyllfaoedd allai fod yn beryglus. Gall lefelau uchel o gyffro olygu bod plant yn llai ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’u hamgylch ac unrhyw beryglon posibl. Mae plant wedi eu harsylwi yn peri mwy o risg i’w hunain pan maent wedi ‘gorgynhyrfu’ ac mae hyn wedi arwain at staff yn gorfod ymyrryd i dawelu’r plant a thynnu eu sylw at y peryglon o’u hamgylch. Ymgolli Pan maent yn chwarae, bydd plant yn ymgolli’n llwyr yn yr hyn y maent yn ei wneud, ond mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd hyn yn arwain at weld plant yn bod yn llai ymwybodol o’r peryglon o’u hamgylch. Er enghraifft, mae plant wedi eu harsylwi’n cerdded yn syth ar draws llwybr siglen rhaff a hynny, mae’n debyg, yn gwbl anymwybodol o’r gwrthdrawiad allai ddigwydd. Felly, mae’n bosibl y bydd angen inni weiddi er mwyn tynnu sylw’r plentyn at y perygl, a hynny ar unwaith, neu i dynnu sylw pobl eraill at bresenoldeb y plentyn hwnnw yn yr ardal benodol yma. Diffyg profiad Bydd dawn a phrofiad plant unigol yn dylanwadu’n fawr ar eu gallu i berfformio gweithgareddau penodol. Dylem fod yn arbennig o ofalus o blant sy’n ymddangos yn llai profiadol, o ran eu dawn gyffredinol fel chwaraewyr yn ogystal â’u gwybodaeth am y lleoliad penodol y maent ynddo. Tra bo’r lefel o oruchwyliaeth fydd ei angen yn debyg o ddibynnu ar oed a dawn y plant dan sylw, dylem geisio osgoi rhagdybio ynghylch lefel dawn plant yn seiliedig ar eu hoedran a’u golwg yn unig. Wrth gwrs, bydd lefel yr oruchwyliaeth sydd ei angen yn dibynnu ar y math o weithgaredd ac mae’r gweithgareddau hynny sy’n peri lefel risg uwch yn debyg o alw am sylw agosach. Mae’r modd y byddwn yn ymwneud â chwarae plant hefyd yn debyg o ddibynnu ar brofiad yr
unigolion dan sylw. Er enghraifft, wrth chwarae cwrso mae’n bosibl y byddwn yn rhedeg yn gyflymach gyda phlant sy’n fwy profiadol na phlant iau a llai profiadol – byddwn yn cymedroli ein hymateb yn seiliedig ar yr hyn yr ydym yn ei wybod am y plant sy’n chwarae. Felly, bydd arsylwadau a myfyrdodau ar ddoniau plant yn ein cynorthwyo i bennu lefel yr oruchwyliaeth sydd ei angen. Mae’n bosibl y bydd adegau pryd y gallwn oruchwylio plant hynod o gymwys o bellter ond bydd adegau eraill pryd y bydd angen inni fod llawer yn nes i gynorthwyo plant sy’n ymddangos fel eu bod yn llai abl. Felly, mae ymarferwyr sydd â gwell dealltwriaeth am ddoniau plant unigol yn debyg o fod yn fwy llwyddiannus wrth gynnig lefelau priodol o gefnogaeth. Byrbwylltra Gallai plant amhrofiadol gael eu hystyried yn fyrbwyll os byddant yn rhuthro i mewn i sefyllfaoedd y tu hwnt i’w rheolaeth. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd hyd yn oed plant cwbl brofiadol yn ymddwyn yn fyrbwyll pan fyddant yn ceisio dangos eu hunain i eraill neu o ganlyniad i fod yn ddiamynedd neu’n orgynhyrfus. Caiff pwysau gan gyfoedion a / neu ‘herio rhywun i wneud rhywbeth’ eu cysylltu’n aml ag ymddygiad byrbwyll a gallent amharu ar grebwyll plant. Gall plant sydd â lefelau isel iawn o hunan-barch fod yn arbennig o debygol o anwybyddu eu diogelwch personol mewn ymdrech i wneud argraff dda ar bobl eraill. Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd angen inni ofyn i’r plant ymdawelu, tynnu eu sylw at y risgiau anochel neu eu hatgoffa nad oes raid iddynt wneud dim os nad ydyn nhw am ei wneud. Mae’n bosibl y bydd plant hyd yn oed yn edrych atom ni i’w helpu i ‘arbed eu hunanbarch’ trwy ymyrryd cyn iddynt gael eu gorfodi i mewn i sefyllfa sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.
C – Cyd-destun Diwylliant Mae’r hyn gaiff ei farnu’n dderbyniol neu’n briodol mewn unrhyw leoliad chwarae wedi ei staffio’n debyg o ddibynnu ar ddiwylliant a hanes y sefydliad hwnnw a’r gymuned leol. Mae’n bosibl y bydd rhai cymunedau’n fwy goddefgar tuag at ymddygiad chwareus plant na chymunedau eraill ac mae hyn yn debyg o gael ei ddylanwadu gan gredau, gwerthoedd a phrofiadau blaenorol pobl. O ganlyniad, dylem ymdrechu i ddeall hanes a diwylliant y mannau yr ydym yn gweithio ynddynt a bod yn ymwybodol o hyn pan fyddwn yn hybu neu’n ymateb i chwarae plant. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd pobl o gymuned leol sydd wedi dioddef digwyddiad trasig yn ymwneud â phlentyn yn ddiweddar yn fwy nerfus ynghylch caniatáu i’w plant chwarae allan ac, o’r herwydd, mae’n bosibl y byddant yn disgwyl i staff sicrhau lefel uwch o oruchwyliaeth. Trwch o blant Wrth gwrs, po fwyaf o blant sy’n chwarae mewn gofod penodol y mwyaf fydd risg gweld damwain yn digwydd. Gall mwy o drwch o blant gynyddu’r risg o wrthdrawiadau, dwysau tensiwn rhwng unigolion ac arwain at weld rhai ymddygiadau chwarae’n llywodraethu dros y gofod chwarae ar draul rhai eraill. Mae’n anorfod y bydd rhaid i blant chwarae yn nes at ei gilydd ac efallai y byddant yn ei chael yn anos i osgoi’r rheini nad ydyn nhw’n cyd-dynnu â nhw. Hefyd, gall gorlenwi fod yn broblem benodol ble y ceir gweithgareddau risg uwch a gallai hyn arwain at weld staff yn gorfod rheoli system cymryd tro. Uchder Mae’r wefr o fod yn uchel i fyny’n atyniad penodol i nifer sylweddol o blant. Mae’n annhebyg y bydd plentyn yn neidio i lawr o uchder os nad yw’n teimlo’n hyderus yn ei allu i wneud hynny ond mae ffactorau eraill, fel
pwysau gan gyfoedion, allai ddylanwadu ar ei benderfyniadau ac wrth gwrs mae wastad bosibilrwydd y gallai gwympo. Bydd difrifoldeb anaf yn dilyn cwympo neu neidio yn dibynnu ar uchder y gwymp a’r math o arwyneb y cwympir arno. Ble fo modd, dylem fynd ati’n weithredol i berswadio plant rhag eu cael eu hunain mewn sefyllfa ble y maent yn debyg o gwympo ac anafu eu hunain yn ddifrifol. Deunydd Bydd gwneuthuriad gwrthrych yn dylanwadu’n fawr ar y potensial iddo beri niwed. Mae rhai sylweddau’n wenwynig a gallai eu llyncu fod yn niweidiol. Mae rhai yn finiog a gyda’r potensial i dorri neu drywanu. Mae’n amlwg y bydd cael ergyd i’r pen gyda gwrthrych caled yn debyg o achosi mwy o niwed na gwrthrych meddal. Mae rhai deunyddiau’n fwy garw, fel papur llyfnu neu darmac, ac maent yn peri mwy o risg o grafu’r croen. Efallai y bydd gweithgaredd sy’n dderbyniol pan fo’r arwyneb yn sych yn llai derbyniol os yw’r arwyneb yn wlyb. Yn yr un modd, mae’n bosibl y bydd arwynebau sy’n elwa o fod yn wlyb er mwyn hwyluso gweithgaredd, fel llithren ddŵr, â’r potensial i achosi llosgiadau os nad oes digon o ddŵr arnynt. Mae glaswellt, ar y cyfan, yn arwyneb da am leddfu gwrthdrawiadau ond gall cywasgiad dros amser leihau ei rinweddau lleddfu gwrthdrawiadau, yn enwedig mewn lleiniau sy’n cael llawer o ddefnydd. Agosrwydd Bydd agosrwydd plant at berygl yn dylanwadu’n fawr ar lefel y risg sy’n gysylltiedig ag o. Er enghraifft, byddai chwarae’n nes at gwymp mawr, tân, traffig neu afon sy’n llifo’n gyflym, i gyd yn cynyddu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r ymddygiad hwnnw. Gallai agosrwydd fod yn ystyriaeth allweddol hefyd os oes gan blant penodol hanes o wrthdaro rhyngddynt neu gallai agosrwydd chwarae plant (yn enwedig yr ymddygiadau
hynny allai gael eu hystyried fel rhai llai dymunol) i aelodau eraill o’r cyhoedd, a / neu eu heiddo, gynyddu’r risg o achwynion yn erbyn y lleoliad chwarae. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd adegau pan fydd angen inni ymyrryd yn syml iawn i greu mwy o bellter rhwng plant penodol, gwahanol fathau o chwarae neu blant yn chwarae ac aelodau eraill o’r cyhoedd. Strwythur Bydd sadrwydd strwythurol gwrthrych neu nodwedd benodol yn dylanwadu ar lefel y risg os yw plant yn chwarae arno neu oddi tano. Mae’r risg pennaf yn debyg o fod yn gysylltiedig â rhyw lefel o fethiant strwythurol, yn enwedig ble fo hyn yn annisgwyl. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gangen yn cwympo oddi ar goeden neu guddfan yn chwalu’n llwyr, allai yn ei dro beri i blentyn gwympo neu gael ei daro gan wrthrychau’n cwympo. Felly, mae angen inni fod yn ymwybodol o’r hyn y mae plant yn chwarae arno neu oddi tano ac ystyried pa mor ddiogel y mae’r strwythur yma’n ymddangos. Gallai hyn ofyn inni ysgwyd y strwythur i weld pa mor sad ydi o neu ei ddringo’n ofalus ein hunain er mwyn gwerthuso faint o bwysau y gall ei ddal. Os yw strwythur yn llai sad, a yw’r plant yn ymwybodol o hyn ac ydyn nhw’n cymryd mwy o ofal?
Y Tywydd Bydd gwahanol fathau o dywydd yn cynnig gwahanol gyfleoedd ar gyfer chwarae, ond gall y tywydd hefyd ddylanwadu’n sylweddol ar lefel y risg sy’n gysylltiedig â chwarae plant. Er enghraifft, byddai gwyntoedd cryfion yn golygu bod mewn man agored, uchel yn fwy peryglus a gallai gynyddu’r risg y gallai gwrthrychau, fel canghennau, gwympo ar bobl oddi tano. Gallai glaw wneud arwynebau’n fwy llithrig a chynyddu’r risg o gwympo, yn enwedig pan fo pobl yn dringo neu’n neidio o uchder. Mewn tywydd oer iawn gallai plant fynd yn sâl os nad ydynt wedi eu lapio’n gynnes mewn dillad pwrpasol neu gallent orboethi ar dywydd hynod o gynnes neu losgi os nad ydynt wedi rhoi eli haul. Felly, efallai y byddwn yn teimlo ei bod yn angenrheidiol inni beidio â hwyluso mathau penodol o chwarae ar dywydd gwael hyd yn oed os byddwn yn caniatáu’r rhain fel arfer pan fo’r tywydd yn well.
* Defnyddir y term ‘moddau ymddygiadol’ yn Yr Hawl Cyntaf ... fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae gan Bob Hughes (Chwarae Cymru, 2001) ac fe’i defnyddir i ddisgrifio’r modd y bydd plant yn ymroi i chwarae neu’n mynegi eu hemosiynau.
© New Model Army Photography
Medi 2016
© Chwarae Cymru
Awduron: Mike Barclay, Simon Bazley a Dave Bullough Cyhoeddwyd gan Chwarae Cymru
www.chwaraecymru.org.uk
Chwarae Cymru yw’r mudiad cenedlaethol dros chwarae plant, elusen annibynnol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu hawl plant i chwarae ac i gynnig cyngor ac arweiniad ar faterion sy’n ymwneud â chwarae. Elusen cofrestredig, rhif 1068926 Cwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258 Cofrestrwyd yng Nghymru