DIWEDDARIAD Gwanwyn
Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De De--orllewin Cymru
2014
Mega Fathmateg Ar 25 Mehefin bydd Prifysgol Abertawe’n cynnal cwis Mathemateg rhyngweithiol rhanbarthol i fwy na 100 o ddisgyblion Blwyddyn 7. Bydd timau o ddisgyblion o ysgolion Gellifedw, Esgob Fychan, Cefn Hengoed, Cwmtawe, Dylan Thomas, Glan Afan, Pentrehafod a Threforys yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Bydd rowndiau’r cwis yn gofyn bod y disgyblion yn ateb cyfres o gwestiynau a phroblemau mathemategol diddorol. Bydd y rownd gyntaf wedi’i seilio ar fathemateg drefniadol, a bydd y cwestiynau’n adlewyrchu’r rhai a ofynnir fel rhan o brofion y fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd y rowndiau eraill yn cynnwys arsylwi a llythrennedd ariannol. Y gobaith yw y bydd y cwis yn ddiwrnod rhyngweithiol, llawn hwyl, a fydd yn ychwanegu at y cwricwlwm Mathemateg Cyfnod Allweddol 3 ym Mlwyddyn 7. Datblygwyd y digwyddiad mewn cysylltiad â Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach (FMSP) Cymru, ac ymgynghorydd Mathemateg yr AALl. Yn ystod mis Ebrill, er mwyn paratoi ar gyfer y cwis, bu myfyrwyr oedd yn astudio pynciau STEM yn y brifysgol yn ymweld â phob ysgol fydd yn cymryd rhan i helpu’r disgyblion i baratoi ar gyfer y cwis ac i gyflwyno gweithdai mathemategol.
Ymweliadau Cynradd
Inside12this Year Summer issue:University 2011
Ddydd Iau 20 Mawrth croesawodd Ymgyrraedd yn Ehangach eu hymwelwyr ifancaf erioed i Brifysgol Abertawe pan ddaeth 27 o ddisgyblion yno o Flynyddoedd 4, 3 a 2 yn Ysgol Gynradd Cymer Afan. Yn ystod eu cyfnod ar y campws, bu’r disgyblion yn gweithio gydag arweinyddion myfyrwyr, ac yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng ysgolion cynradd, ysgolion cyfun, colegau a phrifysgolion. Roedd yn rhyfeddol gweld cymaint a ddysgwyd mewn amser mewn fyr! Cyn ymweld â’r campws, bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithdy gwyddoniaeth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – yno cafwyd gweithdy ar y thema ‘Tywyll a Golau’ gan Jon Chase, seren CBeebies. Roedd y gweithdy hwn yn asio â gwaith y disgyblion ar y synhwyrau yn yr ysgol.
I:Spell Ar ôl wythnosau o ymarfer, daeth timau o ysgolion Coedcae, Dyffryn Aman, Aberdaugleddau, Pentrehafod, a Sandfields at ei gilydd ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gymryd rhan yng nghystadleuaeth I:Spell. Bu 10 tîm o 5 disgybl yn cymryd rhan mewn gwahanol rowndiau oedd yn profi eu gallu i sillafu geiriau lletchwith, ateb posau cymhleth a dewis y gair cywir i orffen y frawddeg. Crewyd argraff fawr ar y tîm Ymgyrraedd yn Ehangach, nid gan sgiliau sillafu’r disgyblion yn unig, ond hefyd gan eu gallu i beidio â chynhyrfu o dan bwysau mewn sefyllfa gystadleuol. Wedi rownd derfynol agos iawn, oedd yn llawn tensiwn, yr enillwyr yn y pen draw oedd disgyblion o ysgol Dyffryn Aman.
Motiv8! Yn ystod tymor y gwanwyn, bu Ymgyrraedd yn Ehangach yn peilota rhaglen newydd o’r enw Motiv8! ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 8. Daeth 58 o fyfyrwyr o Ysgol Gymunedol Dylan Thomas i’r digwyddiad ym Mhrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant (Campws Townhill). Datblygwyd y diwrnod o’r model ACE Day Blwyddyn 9 poblogaidd y mae’r Bartneriaeth wedi bod yn ei ddefnyddio ers sawl blwyddyn, ond newidiwyd y ffocws er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd iau. Bu’r diwrnod yn archwilio llwybrau i AU, gyrfaoedd amgen sy’n bodoli o amgylch gwahanol broffesiynau, ac yn y prynhaawn bu’r disgyblion yn gwneud rhywbeth i fyfyriwr, yn ogystal â mynd dros yr hyn roedden nhw wedi’i ddysgu yn ystod y diwrnod trwy weithgaredd cardiau fflach. “Roedd yr holl ddisgyblion yn canolbwyntio ar y dasg ac yn mwynhau’r diwrnod. Llu o ddisgyblion hapus yn gwenu. Pawb wedi ymgysylltu’n llawn” (adborth athro)
Digwyddiadau’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Ar 9-10 Ebrill, daeth 47 o fyfyrwyr Blwyddyn 10 Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Ysgol Gymunedol Cwrt Sart ac Ysgol Gymunedol Dylan Thomas i weithgaredd deuddydd ym Mhrifysgol Abertawe
Bu’r myfyrwyr hefyd yn edrych ar strwythur penglogau anifeiliaid
oedd yn gysylltiedig â Gyrfaoedd STEM ym maes Meddygaeth. Yn ystod y ddau ddiwrnod bu’r disgyblion yn archwilio gyrfaoedd ym maes meddygaeth sy’n defnyddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, mewn ymgais i ddangos iddyn nhw beth yw posibiliadau’r pynciau y maen nhw’n eu hastudio, sut mae
Archwilio strwythur celloedd o dan feicrosgop
modd eu datblygu, ac i ble y gallan nhw arwain ym myd gwaith. Ymhlith y gweithdai roedd Nano Iechyd, Meddyginiaeth, DNA, Peirianneg Feddygol ac Uwch-Feirysau. Wrth edrych ymlaen, bydd Ymgyrraedd yn Ehangach yn hwyluso model Blwyddyn 12 ar 9-11 Gorffennaf, a fydd yn cynnwys arhosiad preswyl dwy noson a thri diwrnod ar Gampws Prifysgol Abertawe. Bydd y myfyrwyr yn archwilio llwybrau ym meysydd Biocemeg Meddygol, Ffiseg Meddygol a Meddygaeth. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Ymgyrraedd yn Ehangach.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i ddysgu am CPR
Ariannir y ddwy raglen gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.
Prifysgol Haf 2014 Cynhelir Prifysgol Haf 2014 o 14 Gorffennaf tan 1 Awst 2014. Y myfyrwyr sy’n gymwys i gyflwyno cais yw’r rhai sy’n astudio ar hyn o bryd ar gyfer cymhwyster Lefel 3 (BTEC neu Lefel A) ym Mlwyddyn 12 yn Ne-orllewin Cymru. Mae’r cwrs yn gwbl ddi-dâl, gan gynnwys cludiant a gweithgareddau gyda’r hwyr. Bydd y myfyrwyr sy’n bresennol yn astudio un modiwl pwnc (opsiynau eleni yw’r Gwyddorau Biolegol; Busnes, Marchnata a Rheoli Hamdden; Cyfrifiadureg; Celfyddydau Creadigol; Peirianneg; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Seicoleg; Troseddeg a’r Gyfraith neu Celf a Dylunio) yn ogystal â modiwl Sgiliau Addysg Uwch. Yn ystod tair wythnos y cwrs, bydd y myfyrwyr yn astudio am wythnos ar gampws Townhill Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn gostyngiad yn eu graddau UCAS wrth wneud cais am gwrs yn un o’r sefydliadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: http://www.swansea.ac.uk/reaching-wider/year12summeruniversity/
Gwe: www.swansea.ac.uk/reaching-wider/ Ffôn: 01792 602128 E-bost: reachingwider@swansea.ac.uk