HE guide 7 11 welsh hr

Page 1

Canllaw i

i Flynyddoedd 7-11

ymgyrraedd.yn.ehangach@abertawe.ac.uk

Canllaw i addysg uwch i Flynyddoedd 7-11

Addysg Uwch


Ydy’r brifysgol i mi?

Canllaw i addysg uwch i flynyddoedd 7-11 Nid yw byth yn rhy gynnar i ystyried eich dyfodol a meddwl am yr hyn rydych chi eisiau’i gyflawni. Anelir y canllaw hwn at bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7 i 11 sy’n gwneud dewisiadau am eu haddysg a’u cyfeiriad i’r dyfodol ac sy’n ystyried addysg uwch.

Beth yw addysg uwch?

Pam ffwdanu ag addysg uwch? £ Ar ôl graddio, gallwch ennill, ar gyfartaledd, 20% yn fwy dros eich oes (i fenywod mae’n codi i 40%), felly er y bydd gennych ddyled ar ddiwedd eich gradd, dylech wneud i fyny amdano yn nes ymlaen £ Mae 40% o swyddi’n gofyn am gymhwyster addysg uwch £ Mae graddedigion 50% yn llai tebygol o fod yn ddi-waith na’r sawl sydd heb raddio £ Mae rhai proffesiynau’n gofyn i chi feddu ar radd berthnasol, er enghraifft y Gyfraith a Meddygaeth £ Er mwyn astudio pwnc rydych chi’n ei fwynhau

Astudio Bydd eich astudiaethau’n cael eu rhannu rhwng darlithoedd a sesiynau tiwtorial. Mae darlithoedd yn tueddu i fod mewn grwpiau mawr a disgwylir ichi wrando a gwneud nodiadau. Mae sesiynau tiwtorial yn llai o faint lle rydych chi’n trafod syniadau’n fanylach. Bydd gan rai cyrsiau sesiynau ymarferol mewn labordai. Disgwylir astudiaeth breifat ac mae hyn yn golygu gweithio ar eich pen eich hun mewn grwpiau llai o faint yn paratoi traethodau, cyflwyniadau neu’n darllen o gwmpas eich maes pwnc.

Llety Mae llawer o brifysgolion yn darparu llety mewn neuaddau preswyl i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, os penderfynwch astudio’n lleol, hwyrach y dymunwch fyw gartref. Gallwch hefyd fyw mewn tai a rennir gyda myfyrwyr eraill. Gall prydau gael eu darparu mewn neuaddau preswyl neu gallwch goginio i chi’ch hun mewn ceginau a rennir.

Bywyd Cymdeithasol Bydd y rhan fwyaf o’r myfyrwyr yn dweud wrthych fod bywyd cymdeithasol yn rhan fawr o fywyd prifysgol neu goleg. Trefnir llawer o weithgareddau cymdeithasol y brifysgol neu’r coleg gan Undeb y Myfyrwyr. Ceir llawer o glybiau a chymdeithasau y gallwch ymuno â nhw o glybiau drama a chwaraeon i gymdeithasau cyrri a grwpiau crefyddol a gwleidyddol. Gallech ysgrifennu i bapur newyddion y brifysgol neu wirfoddoli gydag elusennau lleol hefyd. Gall hyn fod yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau, gwneud ffrindiau ac arbrofi â syniadau am swyddi i’r dyfodol. Mae’n edrych yn wych ar geisiadau am waith ar ôl ichi raddio.

Cefnogaeth

£ Meithrin annibyniaeth, cyfrifoldeb a hyder

Mae gan bob prifysgol Ganolfannau Cymorth i Fyfyrwyr sy’n cynnwys ystod o gefnogaeth gan gynnwys:

£ Byddwch yn cwrdd â channoedd o bobl o bedwar ban byd. Bydd rhai’n ffrindiau y bydd gennych am byth

£ Help gyda materion ariannol a rheoli’ch arian £ Dod o hyd i waith rhan-amser £ Dod o hyd i lety £ Gwasanaethau cynghori £ Cymorth i astudio e.e. help wrth ysgrifennu traethodau £ Cymorth a chyngor penodol ac arweiniad i fyfyrwyr gydag anableddau £ Cymorth a chyngor gofal plant £ Cymorth i fynd at ofal iechyd

Tudalen 2

Bydd gennych rywun i droi atynt drwy’r amser os bydd gennych bryderon neu ofidiau wrth astudio.

Canllaw i addysg uwch i Flynyddoedd 7-11

Addysg uwch yw’r enw a roddir i addysg y tu hwnt i addysg bellach (addysg bellach yw’r hyn rydych chi’n ei astudio ar ôl i chi droi’n 16 oed mewn 6ed dosbarth neu goleg). Mae cymwysterau addysg uwch yn cynnwys cyrsiau gradd, Diplomâu Cenedlaethol Uwch a chyrsiau ôl-raddedig. Gallwch astudio am gyrsiau addysg uwch yn y brifysgol, colegau addysg uwch a rhai colegau addysg bellach. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn astudio am gymhwyster addysg uwch ar ôl gwneud Safon Uwch (neu’r hyn sy’n cyfateb) pan fyddant yn 18 oed ac wedi gadael y coleg Chweched Dosbarth neu’r Ysgol. Fodd bynnag, gallwch astudio mewn addysg uwch ar unrhyw oedran dros 18 oed. Mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau amser llawn yn cymryd tair neu bedair blynedd i’w cwblhau.

Sut beth yw bywyd fel myfyriwr?


Pa gymwysterau y mae arnaf eu hangen i fynd i addysg uwch?

Dewisiadau ym Mlwyddyn 9

Mae pob cwrs prifysgol a choleg yn dynodi gofynion mynediad. Graddau yw’r rhain y mae angen i chi eu cyflawni i gael lle ar eu cyrsiau. Mae rhai prifysgolion poblogaidd yn gofyn am raddau uchel wrth i eraill fynnu gofynion mynediad is. Efallai y credwch nad ydych yn ddigon da neu fod angen graddau gwirioneddol uchel arnoch - ond mewn gwirionedd y cyfan y mae arnoch ei angen yw cais da, penderfyniad a brwdfrydedd, diddordeb gwirioneddol a rhai graddau Safonau Uwch neu ddyfarniadau BTEC cenedlaethol neu gymwysterau galwedigaethol eraill.

£ Dechreuwch feddwl am yr hyn sy’n eich diddori chi a’r hyn hoffech chi ei wneud yn y dyfodol. Defnyddiwch y rhan syniadau am yrfaoedd ar www.careerswales.com i ymchwilio i syniadau a darganfod swyddi a gyrfaoedd nad ydych wedi’u hystyried o bosibl

£ Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn gofyn am TGAU gradd C neu uwch mewn Iaith Saesneg. Bydd prifysgolion Cymru’n derbyn gradd C neu uwch mewn iaith Gymraeg. Gallai rhai cyrsiau fel economeg ofyn am TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg

£ Cadwch eich dewisiadau’n agored trwy ddewis pynciau TGAU sy’n cwmpasu ystod o bynciau oherwydd gallech chi newid eich meddwl

£ Dylech anelu at 2-3 Safon A2 neu Ddiploma BTEC Cenedlaethol. I rai pynciau fel Ffrangeg, Hanes a’r Gwyddorau, fel rheol bydd angen ichi fod wedi astudio hyn yn Safon Uwch. I rai cyrsiau Peirianneg, gallai fod angen Mathemateg a Ffiseg arnoch ac i astudio Meddygaeth, byddai angen ichi gael rhai pynciau gwyddoniaeth gan gynnwys Cemeg

£ Dewiswch bynciau rydych chi’n eu mwynhau

£ Anelwch at raddau da £ Siaradwch â’ch athrawon a’ch ymgynghorydd gyrfaoedd

Dewisiadau ym Mlwyddyn 11

£ Nid oes angen unrhyw astudiaeth gefndir blaenorol ar lawer o gyrsiau fel Seicoleg a Throseddeg. Fodd bynnag, gallai fod yn well gan rai cyrsiau gefndir yn y Gwyddorau neu Fathemateg

Ym Mlwyddyn 11, byddwch yn wynebu sawl dewis o ran beth a ble byddwch yn astudio ar ôl eich arholiadau TGAU. Os ydych chi’n ystyried addysg uwch, dylech feddwl am astudio cymwysterau a fydd yn eich helpu chi i gael mynediad at gyrsiau sydd o ddiddordeb ichi yn y brifysgol.

£ Edrychwch ar ofynion y cwrs bob tro wrth ddewis opsiynau i wneud yn siŵr eich bod chi ar y trywydd iawn neu siarad â chynghorydd gyrfaoedd /athro

£ Edrychwch ar brosbectysau colegau a Phrifysgolion. Pa gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi?

£ Os na fyddwch chi wedi llwyddo i sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol tra byddwch yn yr ysgol/coleg, gallwch ddilyn cwrs Mynediad at addysg uwch

£ Archwiliwch pa bynciau y mae arnoch eu hangen ar gyfer cyrsiau penodol £ Meddyliwch am ba yrfaoedd sydd o ddiddordeb i chi a darganfyddwch pa gymwysterau y mae angen ichi weithio tuag atynt £ Pa bynciau ydych chi’n eu mwynhau a pha bynciau ydych chi erioed wedi eisiau eu hastudio? £ Pa bynciau ydych chi’n dda ynddynt? £ Pa brofiad arall y mae angen ichi ei gael? £ Siaradwch â’ch athrawon a’ch ymgynghorydd gyrfaoedd yn yr ysgol £ Ystyriwch Fagloriaeth Cymru a fydd yn rhoi’r hyn sy’n gyfwerth â gradd A mewn Safon Uwch ichi cyn belled ag y byddwch yn cwblhau’r cwrs £ Mynychu diwrnodau agored y coleg / chweched dosbarth

Tudalen 4

Os nad ydych chi’n siŵr pa swydd rydych chi eisiau ei gwneud i’r dyfodol, peidiwch â phoeni gan fod hyn yn gyffredin, ond dechreuwch feddwl amdano! Gallech arbrofi â rhai o’ch syniadau trwy drefnu profiad gwaith neu wirfoddoli.

Canllaw i addysg uwch i Flynyddoedd 7-11

£ Os hoffech fod yn athro/athrawes, bydd angen TGAU gradd C neu uwch arnoch mewn Mathemateg a Saesneg ac mewn Gwyddoniaeth hefyd os hoffech fod yn athro/athrawes ysgol gynradd

Wrth ddewis eich cyrsiau TGAU, ystyriwch y canlynol:


Nid yw popeth yn ymwneud â chymwysterau!

Beth fydd y gost?

Mae gan brifysgolion ddiddordeb mewn pethau eraill yn ogystal â chymwysterau. Maen nhw eisiau gwybod pa ddiddordebau eraill sydd gennych fel:

Wrth astudio yn y brifysgol, bydd gennych ddau fath o gostau - eich ffioedd dysgu a’ch costau byw. Ffioedd dysgu yw’r hyn rydych chi’n ei dalu i’r brifysgol am eich addysg a’r costau byw sy’n talu am bethau fel bwyd, cludiant, dillad, llety. Mae help ar gael gan y llywodraeth i’ch cefnogi chi gyda’r costau hyn ar ffurf Grantiau (arian nad oes rhaid ichi dalu’n ôl) a Benthyciadau (arian y mae’n rhaid ichi dalu’n ôl). Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich teulu (faint o arian mae’ch teulu’n ei ennill) ac i ble yr ewch i astudio.

£ Profiad gwaith

£ Profiad o Deithio

£ Gwaith gwirfoddol

£ Cyrhaeddiad Cerddorol

£ Gwobrau Dug Caeredin

£ Gwaith rhan amser

£ Cyflawniadau chwaraeon

£ Rolau gyda chyfrifoldeb

Sut i ddewis cwrs mewn Addysg Uwch Gyda thros 50,000 o gyrsiau ar gael ledled y DU, gall fod yn llethol os nad oes gennych syniadau clir. Ystyriwch: £ Pa bynciau rydych chi’n hoffi eu gwneud a beth ydych chi’n ei fwynhau yn eich amser rhydd £ Pa swydd hoffech chi ei chael yn y dyfodol? Bydd angen gradd pwnc penodol arnoch mewn rhai gyrfaoedd er enghraifft, meddygaeth, nyrsio, peirianneg a gwaith cymdeithasol £ Beth ydych chi’n dda am wneud a beth mae pobl eraill yn dweud rydych chi’n dda am wneud? £ Cymerwch ran mewn gweithdai blasu, ymweliadau â Phrifysgolion ac ysgolion haf. Darganfyddwch beth sydd gan eich Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach i’w cynnig £ Arbrofwch syniadau am yrfa trwy drefnu profiad gwaith neu drwy siarad â myfyrwyr ar y cwrs sydd o ddiddordeb i chi £ Siaradwch ag athrawon a’ch ymgynghorwyr gyrfaoedd ysgol £ Darllenwch brosbectysau/gwefannau sy’n rhoi manylion ichi am gyrsiau a gofynion derbyn £ Mynychwch ddiwrnodau agored y prifysgolion a’r colegau i gael syniad o sut byddai i astudio yno £ Defnyddiwch brawf Stamford ar www.ucas.ac.uk i baru’ch diddordebau a’ch galluoedd â chyrsiau mewn prifysgolion

Tudalen 6

Ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Canllaw i addysg uwch i Flynyddoedd 7-11

Gallai fod arnoch angen ennill profiad mewn maes penodol i gael mynediad i rai cyrsiau. Er enghraifft, byddai gwaith cymdeithasol yn gofyn am rywfaint o brofiad o weithio gyda phobl a allai fod mewn angen.

O 2012/2013 ymlaen, bydd prifysgolion yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon yn codi ffioedd o hyd at £9,000 y flwyddyn, ond bydd myfyrwyr o Gymru’n cael y rhan fwyaf o hwn wedi’i dalu gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny’n golygu y bydd myfyrwyr o Gymru ond yn gorfod talu £3,465 y flwyddyn ac mae benthyciad ar gael i dalu am hyn. Ni fydd raid ichi dalu hyn yn ôl hyd nes ichi adael y brifysgol a’ch bod yn ennill dros £21,000. Os ydych chi’n ennill £25,000 y flwyddyn, byddwch ond yn ad-dalu £6.92 yr wythnos.


Geirfa

Cwestiynau cyffredin

Tiwtoriaid - Derbyn Darlithwyr yn y coleg a’r prifysgolion sy’n penderfynu pwy sy’n cael eu derbyn ar gwrs

Pam ddylwn i fod yn meddwl am Addysg Uwch pan nad wyf yn 16 eto? Mae’n syniad da meddwl am addysg uwch yn gynnar oherwydd gallai gael effaith ar y pynciau y dewiswch eu hastudio yn TGAU a Safon Uwch. Gallai rhai cyrsiau prifysgol ofyn ichi basio’ch TGAU mewn Mathemateg, Saesneg a’r Gwyddorau. Bydd gwneud cymaint o ymchwil â phosibl yn gynnar yn eich helpu i ganfod yr hyn rydych chi eisiau’i wneud yn y dyfodol.

BA - Bagloriaeth y Celfyddydau, gradd prifysgol lle caiff pynciau’r celfyddydau eu hastudio gan mwyaf. Gall hyn gynnwys pynciau fel ieithoedd, hanes neu gerddoriaeth BSC - Bagloriaeth Gwyddoniaeth, gradd prifysgol lle astudir pynciau gwyddoniaeth gan mwyaf. Gall hyn gynnwys pynciau fel mathemateg neu wyddor gyfrifiadurol Bwrsarïau ac ysgoloriaethau - Cyllid a allai fod ar gael gan brifysgolion a cholegau unigol. Er enghraifft, gwobrau rhagoriaeth os byddwch chi’n gwneud yn dda mewn safonau uwch ac ysgoloriaethau chwaraeon Campws - Safle prifysgol sy’n arfer cynnwys pob cyfleuster y mae eu hangen ar fyfyrwyr fel neuaddau darlithio, llety, siopau, cantinau a bariau Gradd - Mae’r cymhwyster a enillir drwy astudio cyrsiau yn werth o leiaf 360 o gredydau ar lefel addysg uwch Wythnos y Glas - Yw wythnos gyntaf y tymor cyntaf yn y brifysgol. Byddwch yn cael eich gwahodd i ymuno â chlybiau a chymdeithasau ac yn cael eich tywys o gwmpas y Campws Graddedig - Dyma beth ydych chi ar ôl ichi gwblhau gradd Neuaddau preswyl - Y lle y mae llawer o fyfyrwyr yn byw yn ystod eu blwyddyn gyntaf HND/HNC - Mae HNC (Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch) a HND (Diplomau Cenedlaethol Uwch) yn gymwysterau addysg uwch cysylltiedig â gwaith (galwedigaethol). Maent fel arfer yn para blwyddyn neu ddwy Gradd Anrhydedd - Rhennir mwyafrif y graddau a’r graddau anrhydedd yn ddosbarthiadau; Dosbarth cyntaf, Ail ddosbarth uwch, ail ddosbarth is a thrydydd dosbarth Y Dyniaethau - Defnyddir y term hwn i ddisgrifio cyrsiau fel Saesneg, hanes, troseddeg, cerddoriaeth, ieithoedd a sawl un arall Cyrsiau heb fod yn alwedigaethol - nid yw’r radd rydych chi’n ei hastudio’n eich hyfforddi am swydd benodol, er enghraifft ffraneg, hanes a saesneg Diwrnodau AgoreD - Mae pob coleg a Phrifysgol yn cynnig cyfle ichi edrych o gwmpas y campysau a siarad â’r darlithwyr. Ffordd wych o ddod i wybod mwy am y sefydliadau sydd o ddiddordeb ichi Ôl-raddedig - Astudiaeth a wnewch ar ôl gradd fel meistr neu ddoethuriaeth Prosbectws - Mae prifysgolion a cholegau Unigol yn darparu’r llyfrau hyn yn rhad ac am ddim. Maen nhw’n amlinellu eu cyrsiau, llety, ffioedd, cyfleusterau a gofynion mynediad. Mae’r holl wybodaeth hon ar gael ar-lein hefyd Cwrs rhyngosod - Cwrs sy’n golygu treulio amser mewn diwydiant neu fusnes Undeb y Myfyrwyr - Mae gan bob prifysgol Undeb y Myfyrwyr sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr, ac mae’n cynrychioli buddion myfyrwyr yn ogystal â darparu gwybodaeth a threfnu gweithgareddau cymdeithasol Israddedig - Yr hyn y gelwir myfyrwyr sy’n gweithio tuag at radd UCAS - Gwasanaeth Derbyn y prifysgolion a’r colegau. Gwneir pob cais i’r brifysgol neu’r coleg ar-lein trwy UCAS ac eithrio cyrsiau celf sylfaenol Tariff UCAS - System bwyntiau a ddefnyddir gan sefydliadau addysg uwch i’w helpu i ddewis myfyrwyr. Dyfernir pwyntiau i bob un o’ch graddau Safon Uwch (neu’r hyn sy’n gyfwerth). Y radd orau fydd yn cael y pwyntiau uchaf Cyrsiau galwedigaethol - Mae’r swydd a gewch ar ddiwedd eich cwrs yn uniongyrchol gysylltiedig â’ch gradd. Er enghraifft, nyrsio, gwaith cymdeithasol, ffisiotherapi a pheirianneg

Tudalen 8

Faint mae graddedigion yn ei ennill? Cyflog cyfartalog unigolyn graddedig newydd gymhwyso yw £25,000. Bydd hyn yn dibynnu ar ba yrfa a ddewiswch. Ni fydd fy rhieni’n gallu fforddio talu am ffioedd y Brifysgol, sut gallaf fynd? Nid oes rhaid i bob myfyriwr dalu ffioedd. Mae rhai myfyrwyr yn talu rhan o’r ffioedd neu ddim o gwbl ac mae’r hyn a dalwch yn dibynnu ar faint mae’ch teulu’n ei ennill. Nid oes rhaid ichi ddod o hyd i’r arian i dalu am eich costau dysgu cyn neu tra byddwch yn astudio oherwydd gallwch wneud cais am fenthyciad i dalu am y costau hyn. O 2012/13, nid oes rhaid ichi ddechrau talu’ch benthyciad yn ôl hyd nes eich bod chi’n ennill dros £21,000 y flwyddyn. Os ydych chi’n ennill £25,000 byddwch ond yn ad-dalu 94 ceiniog yr wythnos (£6.92 y mis). Os ydych chi’n byw gyda gofalwyr maeth neu warcheidwaid, mae llawer o gymorth ariannol ar gael - gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol amdano. Ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Sut gallaf ddarganfod sut beth yw Addysg Uwch? Darganfyddwch yr hyn sydd gan eich Partneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach i’w chynnig (gweler tudalen 11 i gael manylion). Mae pob partneriaeth yn cynnig cyfleoedd i ddod i wybod mwy am addysg uwch fel Ysgolion Haf, Gweithdai Blasu, ymweliadau â’r campws etc. A allaf astudio’n rhan-amser? Gallwch. Mae llawer o sefydliadau’n cynnig cyrsiau y gallwch eu hastudio’n rhan-amser. Gallwch hefyd astudio o gartref trwy ddysgu o bell trwy’r brifysgol Agored. A allaf astudio cyrsiau yn y Gymraeg? Gallwch. Mae llawer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru’n cynnig modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwnewch ymchwil bellach yn www.mantais.ac.uk A allaf weithio wrth astudio? Gallwch. Mae llawer o fyfyrwyr yn gweithio’n rhan-amser ond mae’r prifysgolion yn argymell peidio â gweithio mwy na 15 awr yr wythnos. Gall hyn fod yn ffordd wych o ddysgu gwahanol sgiliau ac ennill profiad gwaith. Oes unrhyw gyrsiau Addysg Uwch am ddim? Oes. Ariennir llawer o gyrsiau proffesiynol Gofal Iechyd yn llawn gan y GIG tra caiff rhai eu hariannu’n rhannol gan y GIG ac yn rhannol gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Canllaw i addysg uwch i Flynyddoedd 7-11

Rhaglen Gyfnewid - Cyrsiau sy’n cynnig cyfle i astudio dramor

A fydd gradd yn sicrhau swydd raddedig dda imi? Ni fydd cael gradd yn sicrhau swydd ichi ond rydych chi’n fwy tebygol o fod mewn swydd sy’n talu’n well a diddorol os oes gennych un. Bydd gweithio mor galed ag y gallwch a chyflawni dosbarthiad gradd gwell yn rhoi mwy o ddewisiadau i chi.


Gwefannau defnyddiol

Ymgyrraedd yn Ehangach

www.cliconline.co.uk Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru

Sefydlwyd y fenter Ymgyrraedd yn Ehangach, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn 2002, i ehangu mynediad i ddysgu ac i helpu mwy o bobl i fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Mae pob partneriaeth yn cynnal gwahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau felly cysylltwch â’r Bartneriaeth berthnasol i’ch ardal i gael gwybod beth a gynigir.

www.directgov.uk/EducationandLearning Gwybodaeth am ddewisiadau ym Mlwyddyn 9, dewisiadau ar ôl troi’n 16 oed a Phrifysgol ac addysg uwch

Manylion Cyswllt y Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach

www.gyrfacymru.com Gwybodaeth a chyngor am yrfaoedd ac addysg

www.gogapyear.com Syniadau a gwybodaeth am gymryd blwyddyn allan www.nus.org.uk Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr

www.skill.org.uk Gwybodaeth i fyfyrwyr gydag anableddau

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk Cyllid i fyfyrwyr yng Nghymru gan gynnwys gwybodaeth am y LCA (Lwfans Cynhaliaeth addysg) www.studentsurvivor.org.uk Gêm ar-lein llawn hwyl lle mae’n rhaid ichi geisio cadw myfyriwr rhithwir yn fyw www.ucas.ac.uk Gwybodaeth am wneud cais i brifysgol www.hotcourses.com Chwilio am gyrsiau a darllen adolygiadau’r myfyrwyr www.mantais.ac.uk Mae’n eich helpu chi i ddod o hyd i gyrsiau a addysgwyd trwy gyfrwng y Gymraeg

Tudalen 10

Gogledd a Chanolbarth Cymru ems401@bangor.ac.uk

Ffôn: 01352 744 065

Campus Cyntaf (De Ddwyrain Cymru) www.firstcampus.org Ffôn: 01443 482 550 De Orllewin Cymru reachingwider@swansea.ac.uk

Ffôn: 01792 602 128

Canllaw i addysg uwch i Flynyddoedd 7-11

www.brightknowledge.org Gwybodaeth ddefnyddiol i bob grŵp blwyddyn gan gynnwys help ar ba bynciau TGAU i’w dewis, beth i wneud ar ôl Blwyddyn 11 etc.


Lluniwyd y canllaw hwn gan Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach De Orllewin Cymru a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Dyma aelodau’r Bartneriaeth: Gyrfa Cymru Dinas a Sir Abertawe Coleg Sir Gâr Coleg Gŵyr Abertawe Coleg Castell-nedd Port Talbot Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot Cyngor Sir Caerfyrddin Y Brifysgol Agored yng Nghymru Coleg Sir Benfro Cyngor Sir Penfro Prifysgol Fetropolitan Abertawe Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Rhoddwyd y wybodaeth yn y canllaw hwn at ei gilydd gan Jane Lingard. Sylwch mai bwriad hwn yw bod yn ganllaw cyffredinol ac roedd y wybodaeth a ddarperir yn gywir adeg argraffu. Mae gan bob prifysgol a choleg wahanol ofynion mynediad sy’n debygol o newid o un flwyddyn i’r llall. Mae trefniadau cyllido a ffioedd yn tueddu i newid bob blwyddyn hefyd. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: Ffôn: +44 (0)1792 602 128 E-bost: ymgyrraedd.yn.ehangach@abertawe.ac.uk

ymgyrraedd.yn.ehangach@abertawe.ac.uk

Tudalen 12


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.