2017 GĹľyl
Talaith Gogledd Cymru
Helpwch blentyn i wenu
Oddi wrth Brif Feistr y Dalaith
A
r ran y Dalaith hon, roeddwn yn falch o dderbyn gwahoddiad Yr Ymddiriedolaeth Fasonaidd ar Gyfer Bechgyn a Merched i drefnu gŵyl er mwyn cefnogi eu gwaith. Ar y dechrau, mae’n rhaid i mi ddiolch i’r Ymddiriedolaetrh am y gefnogaeth ragorol a roddwyd i’r Dalaith hyd yma ac am eu cyflwyniad ardderchog. Rydw i’n ddiolchgar iddyn nhw am eu parodrwydd i gynhyrchu llyfryn, fydd yn cael ei gyflwyno i bob Brawd yn y Dalaith, yn dweud eu hanes ac yn egluro rhywfaint am eu gwaith clodwiw. Wrth ddarllen y llyfryn fe ddeuwn oll i sylweddoli’r cyfrifoldeb mawr sydd arnom i gefnogi’r Elusen tra phwysig hon. Rydw i’n dweud ‘tra phwysig’ am ei bod yn gofalu am blant y Seiri Rhyddion mewn cymaint o ffyrdd. Ni allwn adael i ni’n hunain golli’r cyfle rhagorol hwn. Fe lawnsiwyd yr Ŵyl yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Dalaith ym mis Hydref ac fe wyddoch oll am y ffigwr y soniais amdano fel ein targed. Rwy’n sicr y bydd Brodyr y Dalaith yn dangos unwaith eto pa mor barod y maent i gefnogi’r rhai sy’n llai ffodus na hwy eu hunain a’r teuluoedd hynny na allent roi, i’w plant, y manteision y dylent eu cael. Mae sawl dull o godi arian ac rwy’n siwr bod Pwyllgor Gwaith yr Ŵyl yn barod i wrando ar, a chynghori, unrhyw un sy’n gwybod am ddulliau o godi arian neu sydd â syniadau ynglŷn â sut i wneud hynny. Gadewch i ni oll fwynhau’r dasg hon gyda’n gilydd. Peidiwch ag anghofio arwyddo’r ffurflenni Rhoddion Cymorth a chofiwch y bydd swm fechan wythnosol yn tyfu’n gyfraniad da erbyn 2017. Efallai na fyddaf yn Brif Feistr y Dalaith yn 2017 ond yn bendant, os Duw a’i mynn,
Y Gwir Hybarch Ieuan Redvers Jones, Prif Feistr y Dalaith dros Dalaith Gogledd Cymru byddaf yn ymuno â’r Dathliadau a byddaf yn falch iawn o weld fy olynydd yn cyhoeddi gyda balchder bod y targed wedi ei gyrraedd neu, gyda lwc, wedi ei basio. Ieuan Redvers Jones Prif Feistr y Dalaith
Ar y clawr blaen: Louis, sy’n derbyn cefnogaeth ers 2006 (gweler tud. 9)
2
Cyflwyno’r YFFFM Mae gwreiddiau’r Ymddiriedolaeth Fasonaidd Frenhinol i Fechgyn a Merched yn mynd yn ôl cyn belled â 1788 pan sefydlodd Chevalier Ruspini ysgol i ferched Seiri Rhyddionn a fu farw neu a oedd mewn cyni. Cyflwynwyd cynllun i ddilladu ac addysgu meibion Seiri Rhyddion tlawd ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1798. Ym 1982 fe gyfunwyd elusennau’r bechgyn a’r merched i ffurfio’r Ymddiriedolaeth a chreu un corff. Heddiw dyma ein bwriad:
Dileu tlodi a hyrwyddo addysg plant teuluoedd Y Seiri Rhyddion a phan fo cyllid yn caniatáu, cefnogi plant eraill a fo mewn angen. Deisebau: Prif Waith yr Ymddiriedolaeth Rydym yn cynorthwyo plant a phobl ifanc o bob oed i goncro meini tramgwydd, megis tlodi, ac i gwblhau eu haddysg. Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth o’r prif ffynonellau, rhaid i deulu fod wedi dioddef trallod (e.e. marwolaeth, anabledd neu ymadawiad rhiant) sydd wedi arwain at gyni ariannol. Rhaid bod yna gystylltiad Masonaidd bob amser ; fel arfer, bydd yr aelod o’r Seiri Rhyddion sy’n gymwys neu yn creu y cysylltiad hwn naill ai yn dad neu yn daid yn y sefyllfa, ond mewn rhai achosion, gall fod yn rhywun arall sydd yn aelod o’r Seiri Rhyddion ac yn rhywun a fedr ddangos ei fod yn magu’r plentyn/plant fel ei blentyn/blant ei hun. Rydym yn bwriadu cynorthwyo buddiolwyr i dderbyn yr addysg a’r hyfforddiant sy’n angenrheidiol er mwyn gwireddu eu potensial ac felly i lwyddo mewn bywyd. Enghreifftiau
o hyn yw: cynorthwyo gyda chostau astudiaethau academaidd neu brentisiaeth gyda chrefftau ymarferol. Rhoddir cefnogaeth i blant a phobl ifanc mewn ystod eang o gyddestunau addysgol, gan gynnwys ysgolion y wladwriaerth ac ysgolion preifat, colegau a phrifysgolion. Gellir rhoi cefnogaeth ariannol trwy gyfrwng lwfansau cynhaliaeth, ffioedd ysgol neu ffioedd cwrs, offer cyfrifiadurol, gwersi cerddoriaeth neu wersi chwaraeon neu grantiau am deithiau addysgiadol, offer a defnyddiau addysgiadol ac ateb gofynion llawer o ofyniadau addysgiadol eraill. Gellir rhoi cefnogaeth hefyd i ychwanegu at arian neu gyflog hyfforddiant pan fo’r rhain yn annigonnol ac mae rhywfaint o lety ar gael i’r rhai hynny sy’n astudio neu yn hyfforddi ar gyfer gweithio mewn swyddi yn Llundain. Mae’n bosib y bydd cymorth ar gael gyda ffioedd ysgol ond ni fydd hyn yn debygol o ddigwydd ond mewn achosion lle bo plentyn yn barod mewn ysgol lle telir ffioedd, pan ddaw sefyllfa o galedi i ran y teulu. Nid ystyrir ffioedd pan fo’r rhieni wedi anfon eu plant i ysgolion o’r fath a hwythau heb fod â’r gallu ariannol i gefnogi eu plant. Ni allwn gysidro ffioedd er mwyn galluogi plentyn i fynd i ysgol lle telir ffioedd, ar sail gallu academaidd neu pan fo’r rhieni yn anfodlon gyda’r ysgol wladwriaethol y mae eu plant/ plentyn ar fin ei mynychu. Gellir rhoi grantiau i fuddiolwyr gydag anghenion addysgol neu gorfforol arbennig, er mwyn cynorthwyo gyda thiwtora arbennig ac offer arbennig. Er enghraifft gellir rhoi hyn er mwyn prynu cadair olwyn neu wneud addasiadau i’r cartref er mwyn gwella ansawdd bywyd. Gall teuluoedd gyda chyflogau isel iawn dderbyn grantiau gwyliau Nadolig neu wyliau Haf er mwyn gwneud y gwyliau yn rhai hapus a boddhaol i’r teulu oll.
3
Ysgafnhau Baich Tlodi
Marcus ac Isabella
Pan Ddaw Trallod Mae Marcus yn chwech oed a’i chwaer Isabella’n unarddeg. Bu farw eu tad yn ifanc yn 2001 ag yntau ond yn 37 mlwydd oed. Yn fuan wedi hyn, fe ddechreuon ni helpu’r teulu. Mae’r ddau blentyn yn derbyn lwfans bob tymor at eu cadw ac yn cael cymorth i dalu am wersi nofio. Yn ogystal â hyn, mae Isabella’n dysgu sut i ganu’r clarinet ac fe delir am ei gwersi gan yr Ymddiriedolaeth. Rydym yn deall yn iawn y gall fod galw arnom am fwy o gefnogaeth a hynny am sawl blwyddyn eto. Yn aml gall grant unigol ddatblygu i fod yn ymrwymiad i blentyn am gyfnod o flynyddoedd maith. Nid ydym wedi methu yn ein cyfrifoldeb tuag at un o blant y Seiri Rhyddion hyd yma ac rydym angen eich cefnogaeth os ydym i barhau â’r gwaith pwysig hwn. Mae Blake yn dioddef o Downs Syndrome. Bu farw ei dad yn y flwyddyn 2000 pan oedd Blake ond yn dair oed. Yn 2004 daethom ni i mewn i’r sefyllfa a dechrau ei gynorthwyo gyda lwfansau cynhaliaeth bob tymor. Defnyddiwyd peth o’r arian i dalu am wersi marchogaeth.
Erbyn hyn mae Blake yn ddeuddeg oed ac wedi dechrau mewn ysgol newydd yn ddiweddar. Rhoesom grant iddo tuag at ei wisg ysgol newydd ac rydym rwan yn rhoi cymorth gyda thiwtora arbennig iddo. Mae gan Blake gartref sefydlog gyda’i fam ac mae’r awyrgylch yno yn llawn ysbryd cariad a gofal. Mae ei daid wedi bod yn aelod o’r Seiri Rhyddion am fwy nag ugain mlynedd ac rydym wedi medru cefnogi Blake oherwydd aelodaeth ei daid. Bob blwyddyn, rydym yn gwario tuag wyth miliwn a hanner o bunnoedd yn helpu pobl ifanc fel Blake. Ar hyn o bryd rydym yn wynebu dewis syml: naill ai codi mwy o arian neu leiháu ar y cymorth a roddwn i blant teuluoedd dioddefus y Seiri Rhyddion. Byddai’n anfaddeuol i Seiri Rhyddion heddiw fethu â chynorthwyo plant sy’n dioddef a’r plant hynny’n perthyn i deuluoedd sydd â chysylltiad â’r Seiri Rhyddion. Byddwn yn cynorthwyo’r plant yma tra bo angen. Ni all dim lenwi’r bwlch o golli tad ond fe wnawn bopeth a allwn i gynorthwyo’r plant hyn i gyrraedd a gwireddu eu potensial.
A wnewch chi ein helpu yn ein bwriad a chefnogi’r Ymddiriredolaeth? 4
Datblygu Addysg Dyma Blake, sy’n cael cymorth gan yr Ymddiriedolaeth ers 2004
Derbynydd TalentAid Mae Harriet yn un sy’n cael ei noddi gan ein cynllun TalentAid. Mae Harriet wedi bod ar ei gorau eleni ar ôl cael ei choroni yn bencampwraig Slalom Fawr Lloegr. Ym mis Mawrth 2009, bu’n cystadlu yn y Bencampwriaeth Genedlaethol a gynhaliwyd yn Bormio yn Yr Eidal ac enillodd fedal aur yn y Slalom Fawr a medal arian yn y ras Super-G ond yn anffodus llesteiriwyd ei chais i gael gwobr driphlyg yn ei phrif faes arbenigol, y Slalom, gan rwymiad wedi torri wrth iddi ddod allan o’r fynedfa gyntaf. Anghofiodd Harriet am y siom honno a llwyddodd i ddod yn ail yn y gystadleuaeth yn gyffredinol. Rydyn ni wedi bod yn noddi Harriet ers 2006. Pan roddwyd y nawdd iddi gyntaf oll, roedd Harriet eisoes yn un o’r bobl ifanc mwyaf talentog yn ei maes. Ers pan oedd yn unarddeg oed bu’n rhan o’r gylchdaith genedlaethol gan gyrraedd safon ieuenctid mewn Sgio Alpaidd ym mis Ionawr 2004. Teithiodd i Awstria i gystadlu ym Mhencampwriaeth Brydeinig Clybiau Rasio Alpaidd a Sgio. Yno ennillodd dair medal aur mewn tair adran wahanol i oedrannau gwahanol. Mae Harriet rwan yn gobeithio cystadlu yng Ngêmau Olympaidd y Gaeaf yn 2014. Rydym yn parahau i roi hynny o gymorth a allwn i Harriet er mwyn iddi wireddu ei huchelgais a mynd am y fedal aur. Yn ystod 2008 bu i chwe deg dau o bobl ifainc dderbyn nawdd a chymorth trwy gyfrwng TalentAid. Mae pump o ddynion a merched yn cynnwys athletwyr, nofwyr a beicwyr yn rhan o wahanol gynlluniau a all arwain at aelodaeth o dîm Prydain Fawr a gobaith pob un ydi llwyddo yng Ngêmau Olympaidd 2012.
Harriet
5
Beth Mae Eich Cefnogaeth Chi’n Medru Ei Wneud
6
Yr Ymddiriedolaeth yn Gweithredu Heddiw
Y
n ystod 2008 bu i ni gefnogi 796 o ferched a 766 o fechgyn mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Cafodd nifer o rai eraill fudd o grantiau o’n cronfeydd atodol. Yn gyfangwbl, bu i ni gynorthwyo 1,730 o unigolion ar gost o bron i £8.5 miliwn.
Ein Presenoldeb yng Ngogledd Cymru Y flwyddyn diwethaf rhoddwyd grantiau o dros £28,000 i bedwar ar bymtheg o fechgyn a merched o’r Dalaith. Yn ogystal â hyn, cafodd un person ifanc gyfanswm o bron i £1 mil mewn grantiau o gynllun TalentAid. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi rhoi grantiau gwerth bron i £175,000 i unigolion o fewn y Dalaith. Rhoddwyd grantiau pellach o fwy nag £21,000 trwy gyfrwng ein cynllun TalentAid.
Grantiau Corawl Rydym hefyd yn darparu grantiau i aelodau corau mewn sawl eglwys gadeiriol. Yn 2008, cafodd chwech ar hugain o gantorion grantiau ar gost o £207,000.
yng Ngogledd Cymru Sefydlwyd LifeLites gan yr Ymddiriedolaeth fel ei phrosiect am y mileniwm. Erbyn hyn mae’n elusen gofrestredig ar wahan (Rhif 1115655) ac rydym yn falch o barhau i roi cefnogaeth sylweddol i’r fenter werthfawr hon sy’n dod â goleuni i fywydau plant sy’n annhebygol o fyw i fod yn oedolion Mae LifeLites yn rhoi offer addysgol ac adloniannol yn Nhŷ Gobaith, sef hosbis y plant yng Nghonwy. Agorwyd yr hosbis yn ystod Haf 2004 ac erbyn hyn, mae’n rhoi cyfnodau rheolaidd o seibiant a gofal i fwy na 70 o blant sy’n gleifion terfynol wael ac hefyd i’w teuluoedd. Er mwyn cael mwy o wybodaeth am waith LifeLites, ewch at www.lifelites.org
7
Gwneud iddo Fo Ddigwydd : Codi’r Arian
Y
ffordd hawddaf i wneud gwahaniaeth go iawn ydi trefnu Archeb Banc ac arwyddo datganiad Gweithred Roddi. Fel canlyniad, bydd eich arian yn mynd i Gyfrif Yr Ŵyl. Rydym yn annog gyda brwfrydedd ar i bob noddwr cymwys ddefnyddio Gweithred Roddi oherwydd bod hyn yn ein galluogi i gael y mwyaf allan o fantais y rhodd. Er mwyn i’ch taliad fod yn gymwys o fewn cynllun Gweithred Roddi bydd yn angenrheidiol i chi fod yn talu rhywfaint o Dreth Incwm a/neu Dreth Enillion Cyfalaf sydd o leiaf yn gyfartal â‘r dreth y mae’r Ymddiriedolaeth yn ei hawlio’n ôl ar eich rhodd yn y flwyddyn dreth berthnasol. (Ar hyn o bryd mae’n 20c am bob punt y byddwch yn ei chyfrannu er y bydd rhyddhad trosianniol yn daladwy hyd 2011).
Amlenni Gweithred Roddi
Gadewch i ni wybod, os gwelwch yn dda, os bydd eich sefyllfa’n newid parthed eich Treth Incwm neu os byddwch yn newid eich cyfeiriad cartref.
Gallwch gyfrannu trwy gyfrwng cerdyn credyd trwy Charity Choice a dilyn y cyswllt ar ein tudalen gartref www.rmtgb.org
Mae Amlenni Gweithred Roddi ar gael hefyd. Mae’r Amlenni’n galluogi’r Ymddiriedolaeth i gael ad-daliad y dreth ar gyfraniadau a wneir trwy gasglu elusen, gwyliau achlusurol a Nosweithiau i’r Merched.
JustgivingTM
Rydym wedi ymuno â JustgivingTM i hwyluso’r weithred o gyfrannu oddi wrth Daleithiau, Cyfrinfeydd ac unigolion yn enwedig wrth ddefnyddio cardiau credyd neu ddebyd ac i gynorthwyo trefnwyr digwyddiadau i farchnata achlysuron ac annog nawdd. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda am fanylion ynglŷn â sut i ddefnyddio gwefan JustgivingTM www.justgiving.com
Cymunroddion
Wrth gofio amdanom yn eich ewyllys gallwch wneud gwahaniaeth mawr i lefel y gefnogaeth a roddir. Mae cymunroddion yn rhan bwysig iawn o’n gwaith. Mae gwneud ewyllys yn gam syml ond pwysig. Dyma’r unig ffordd i sicrhau mai chi sy’n penderfynu pwy fydd yn elwa o’ch stad wedi i chi farw.
Trefnu Diwrnod Agored?
Wyddoch chi bod gennym ni stondin gyflwyno broffesiynnol? Gellir ei defnyddio i arddangos y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gennym.
Siaradwyr Gwadd
Tlws Gŵyl 2017 Cysylltwch â’ch Stiward Elusen am fanylion ynglŷn â Thlws yr Ŵyl a’r Anrhydeddau
8
Ar eich cais, gallwn drefnu i siaradwyr gwadd ddod i gyfarfodydd Cyfrinfeydd i sôn am waith yr Elusen. Cysylltwch Ray Collings yn yr Ymddiriedolaeth : 0209 7405 2644 neu rcollings@rmtgb.org
Diolch i Chi am Eich Cefnogaeth Mae Ellie yn 13 a Louis yn chwech oed. Roedd eu tad yn un o’r Seiri Rhyddion. Daeth y plant i’n sylw ni pan adawodd eu tad y cartref ac ers 2006 maent wedi bod yn derbyn lwfansau cynnal a chadw bob tymor yn ogystal â chymorth gyda gwersi cerddoriaeth, dillad a theithio. Byddwn yn parháu i gefnogi Ellie a Loius tra bo angen. Pymtheg oed ydi Tomas ac mae’n dioddef o ddirywiad niwrolegol, sy’n salwch prin. Mae Tomas, sy’n fab i un o’r Seiri Rhyddion, yn cael cefnogaeth gennym ni ers 2002. Tynnwyd y llun a welir ohono yn dilyn ei fuddogoliaeth yng nghystadleuaeth Pencampwr Plentyn Dewr, am Ddewrder a Buddugoliaethau Mewn Chwaraeon. Yn ddiweddar, rhoesom grant o £8,000 tuag at ystafell wlyb gyda mynediad i gadair olwyn. Mae Tomas hefyd yn datblygu fel Paralympiad yng nghamp Boccia.
“Nid yw dyn fyth mor fawr ag y mae pan fydd yn penlinio i helpu plentyn.” Ar ran y miloedd o blant a phobl ifainc a gefnogir gan yr Ymddiriedolaetrh, mae’r Cyngor yn diolch yn fawr i Ranbarth Gogledd Cymru. Bydd eich haelioni yn ein galluogi i barhau gyda’n cefnogaeth i’r plant sydd â’r angen mwyaf, o blith teuluoedd Y Seiri Rhyddion. Mae gwir angen y gefnogaeth arnynt a gall drawsnewid eu bywydau. Mae ein gwefan www.rmtgb.org yn cynnwys manylion llawn am ein gwaith. Rydym yn dibynnu ar eich cymorth chi i ddarganfod achosion o angen a thrallod ac os oes gennych unrhyw amheuon am y cymorth all fod ar gael neu am yr hawl i gael cymorth, cysylltwch â ni yn syth os gwelwch yn dda.
Tomas
9
Eu Dyfodol Hwy yn Eich Dwylo Chi
Yr Uwch Lywydd HRH The Duke of Kent, KG, GCMG, GCVO, ADC, Grand Master Llywydd Mike Woodcock, DLitt, ClntMC, JP Prif Weithredwr Les Hutchinson, BA(Hons), MBA, MCMI Yr Ymddiriedolaeth Fasonaidd Frenhinol i Fechgyn a Merched 60 Great Queen Street London WC2B 5AZ Telephone: 020 7405 2644 Facsimile: 020 7831 4094 Web-site: www.rmtgb.org Registered Charity No. 285836
Bwriad: dlieu tlodi a hyrwyddo addysg plant teuluoedd Y Seiri Rhyddion a, phan fo cyllid yn caniatรกu, cefnogi plant eraill sydd mewn angen
Design: www.intertype.com