Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru - Papur Newydd - Rhifyn 3, Gaeaf 2015

Page 1

AM DDIM GAEAF 2015

RHIFYN 3

Llun: Kiran Ridley

Tu fewn i GOLEG BRENHINOL CYMRU

www.rwcmd.ac.uk

Cymru ar Frig Byd y Bandiau Pres W

rth i dîm Rygbi Cymru golli gêm hollbwysig yn erbyn Awstralia yn Twickenham yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015, roedd tîm gwych arall o Gymru yn codi tlws Pencampwriaeth Prydain yn Neuadd Frenhinol Albert a sicrhau eu lle ar frig rhestr y byd am y nawfed flwyddyn yn olynol. Roedd Band Cory, sef band preswyl CBCDC, yn fuddugol yn rownd derfynol y Pencampwriaethau Bandiau Pres Cenedlaethol am seithfed tro, sy’n gamp anhygoel. O blith 29 aelod o’r band, mae 10 yn fyfyrwyr presennol neu’n raddedigion o’r Coleg.

Wild Creations

Mae traean o aelodau band buddugol y bencampwriaeth, Band Cory, yn naill ai’n gyn-fyfyrwyr neu’n fyfyrwyr presennol y Coleg.

Gwahoddwyd Hannah Plumridge i ymuno â Band Cory ym mis Medi pan ddechreuodd ei astudiaethau gradd yn CBCDC. “Hwn oedd fy mhrofiad cyntaf o’r rowndiau terfynol cenedlaethol a chwarae yn Neuadd Frenhinol Albert,” meddai. “Roedd yn deimlad gwefreiddiol i fod yn rhan o berfformiad mor wych, ac roedd ennill yn anhygoel – profiad bythgofiadwy.” Nid Band Cory yn unig sy’n parhau etifeddiaeth bandiau Cymru. Mae Band Tref Tredegar yn un o gewri eraill byd y bandiau pres ac wedi ennill lle yn rheolaidd ymhlith pump uchaf y byd.

2

Cynllunwyr Llwyfan Newydd Gorau’r DU 3 4

Y Diweddaraf: Llwyddiannau Graddedigion

8

Clod Cenedlaethol i Ddrama ‘Splott’

CBCDC i Gynnal Gŵyl Delynau Fwyaf y Byd

M

ae’r Coleg wedi Delyn yn CBCDC ynghyd cyhoeddi y bu ei â’r cyn-delynores frenhinol, gais i Gaerdydd Catrin Finch. gynnal Cyngres Telynau’r Byd yn 2020 (WHC2020) “Bydd Caerdydd yn cynnal yn llwyddiannus. Cynhelir digwyddiadau diwylliannol, Cyngres Telynau’r Byd gwleidyddol a chwaraeon bob tair blynedd a’i nod rhyngwladol yn rheolaidd,” yw hyrwyddo cerddoriaeth meddai Catrin Finch, sy’n Artistig y delyn yn rhyngwladol Gyfarwyddwr WHC2020. “Ac mae gennym mewn gŵyl o gyngherddau, gweithdai a seminarau yn leoliadau gwych ar gyfer cwmpasu pob agwedd ar cyngherddau, arddangosfeydd gerddoriaeth a pherfformiad y a dosbarthiadau meistr o’r radd delyn a fydd yn para wythnos. flaenaf, yn cynnwys adeilad trawiadol Coleg Brenhinol Arweiniwyd y cynnig Cerdd a Drama Cymru, sef y llwyddiannus i ddod a’r Ŵyl lleoliad fydd yn cynnal yr ŵyl.” i Gymru gan Caryl Thomas, Pennaeth Astudiaethau’r

7

6

Uchafbwyntiau’r Proms

7


2

Llun: Johan Persson

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Dark Arterie Rambert, yn cynnwys Band Tref Tredegar

Parhad o dudalen 1 Band Tredegar chwaraeodd y trac sain ar gyfer y ffilm Pride yn 2014, a oedd yn adrodd stori digwyddiadau’n ymwneud â streic y glowyr 1984, 30 mlynedd wedi’r digwyddiad. Eleni bu’r band yn gwthio ffiniau artistig traddodiadol y bandiau pres drwy ymuno â chwmni ballet cyfoes, Rambert, ar gyfer premiere byd o Dark Arteries yn Sadler’s Wells. Mae’r darn, a gafodd ganmoliaeth eang gan y beirniaid, yn edrych ar storïau’r mudiad bandiau pres a’r diwydiant glo yng Nghymru sy’n plethu drwy’i gilydd. Mae CD Band Tredegar o sgôr Dark Arteries, a gyfansoddwyd gan Gavin Higgins, wedi ei dewis fel

CD y Flwyddyn gan y cylchgrawn Brass Band World. Ymunodd Jack Lapthorne â Band Tredegar yn ei flwyddyn gyntaf yn CBCDC ac ef nawr yw’r Unawdydd Bariton. “Mae cydweithrediadau proffesiynol fel hyn yn bosibl oherwydd y safonau cerddorol rhyfeddol o uchel sydd gan y bandiau pres gorau,” meddai. “Mae’r pwyslais ar gystadlu yn golygu y creffir ar eich chwarae yn gyson. Bob blwyddyn daw’r darnau prawf yn fwyfwy cymhleth wrth iddi fynd yn gynyddol anodd i feirniadu rhwng y bandiau gorau. Mae dwysedd y profiad hwnnw yn baratoad gwych ar gyfer unrhyw sefyllfa perfformio, nid dim ond y

Penodiad Cyfansoddwr Ifanc

P

Mae’r Coleg wedi chwarae rôl allweddol mewn helpu i ddod â bandiau o Gymru i’r brig.

enodwyd y myfyriwr gyfansoddwr 18 oed, Daniel Hall, yn Gyfansoddwr Preswyl Ifanc gyda Band Pwll Glo Grimethorpe. Perfformiwyd ei gomisiwn cyntaf, Sea of Crisis – Mare Crisium, yn ystod Pencampwriaethau Brass in Concert yn The Sage Gateshead ym mis Tachwedd a chaiff ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni gan Prima Vista Musikk. Dywedodd Dr Robert Childs, Cyfarwyddwr Cerdd Grimethorpe, ei fod wedi ei ‘lorio’ gan ‘ffresni ac aeddfedrwydd’ cerddoriaeth Hall.

bandiau pres. Mae llawer o’r prif chwaraewyr cerddorfaol wedi dod ar hyd llwybr y bandiau pres.” Kevin Price yw Pennaeth Astudiaethau Pres y Coleg. “Mae’r Coleg wedi chwarae rôl allweddol mewn helpu i ddod â nifer o fandiau o Gymru i’r brig dros y ddeng mlynedd ddiwethaf ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr ein perthynas agos gyda’r bandiau cymunedol,” meddai. “Maent yn rhoi profiad gwych i’n myfyrwyr, ac mae pawb yn elwa wrth rannu syniadau. Mae’r gwaith hwn yn bwysig dros ben er mwyn helpu i ddatblygu rôl y Coleg nid yn unig fel conservatoire ond hefyd fel canolfan gelfyddydau i’r gymuned ehangach”

Mae gan gerddorion pres CBCDC y cyfle i ddilyn llwybr band pres arbenigol wedi ei gyfarwyddo gan Dr Robert Childs. Mae dau fand pres yn cyfarfod yn rheolaidd i archwilio repertoire a chyfleoedd cyngherddau, gyda darlithoedd ychwanegol sy’n rhoi’r cyfle i ddatblygu sgiliau ategol mewn cyfansoddi, trefnu, arwain a beirniadu. Gall cerddorion pres y Coleg hefyd elwa o brofiad ehangach sy’n cynnwys perfformio fel unawdwyr, cerddoriaeth siambr, chwarae cerddorfaol, perfformio hanesyddol, jazz, addysgu a gweithgareddau allgymorth.

Band Hyfforddi Ieuenctid Newydd i Gymru

M

ewn partneriaeth â Tŷ Cerdd, yn gynharach eleni cyhoeddodd CBCDC sefydlu Band Pres Hyfforddi Cenedlaethol Ieuenctid Cymru newydd. Cynhaliwyd ei ddiwrnod hyfforddi cyntaf erioed yn y Coleg ym mis Hydref lle daeth 35 o chwaraewyr 11-16 oed o bob rhan o Gymru ynghyd i weithio gyda Chyfarwyddwr Cerdd Band Cory, Philip Harper, a Band Pres CBCDC. Nod y prosiect arloesol hwn yw meithrin chwaraewyr y dyfodol ar gyfer Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.


3

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Y Tu Hwnt i’r Band

Matt a Wild Creations

B

u Matthew Williams yn perfformio gyda Band Cory cyn ennill cytundeb fel Cyd Brif Drymped gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ystod blwyddyn olaf ei astudiaethau gradd yn CBCDC yn 2013. Ers hynny mae wedi ymddangos gyda’r Cherddorfa Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Symffoni Bournemouth a Cherddorfa Ffilharmonia.

M

ae’r cyn-fyfyriwr offerynnau taro ac aelod o Band Cory, Dave Danford, erbyn hyn yn cydbwyso amserlen brysur o ddatganiadau unawdol, perfformiadau concerto cerddorfaol, sesiynau recordio mewn stiwdio a dosbarthiadau meistr. Mae wedi perfformio gydag artistiaid yn cynnwys Bryn Terfel, Evelyn Glennie a Karl Jenkins. Mae Danford hefyd yn gweithio fel cyfansoddwr a chynhyrchydd, ac mae’n rheoli tair cerddorfa – British Sinfonietta, Cinematic Sinfonia a Cherddorfa Sesiwn Cymru.

Y

n dilyn ei lwyddiant yng Nghystadleuaeth Concerto flynyddol CBCDC yn gynharach eleni, perfformiodd y chwaraewr ewffoniwm Grant Jameson fel unawdydd gyda Band Cory yn Neuadd Dora Stoutzker ym mis Hydref. Mae Jameson, sy’n hanu o Ohio UDA, yn fyfyriwr gradd yn ei bedwaredd flwyddyn yn CBCDC lle mae’n astudio gyda’r perfformiwr dawnus David Childs. Jameson yw deiliad presennol teitl Cerddor Pres Ifanc y BBC a rhyddhawyd ei CD unawdol cyntaf, Genesis, yr haf hwn. Caiff cynulleidfaoedd gyfle i’w weld yn perfformio gyda Band Canolog yr Awyrlu Brenhinol yn CBCDC ym mis Mawrth 2016.

Y

mddangosodd un o ddelweddau mwyaf eiconig Cwpan Rygbi’r Byd 2015 – y bêl yn y wal yng Nghastell Caerdydd – dros nos i nodi dechrau Cwpan Rygbi’r Byd ym mis Medi. Roedd y stỳnt yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac ymwelwyr gan arwain at lu o hunluniau a pharodïau yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar un adeg roedd yr hashnod #ballinthewall yn fwy poblogaidd ar Twitter na #RWC2015 – sef hashnod swyddogol Cwpan Rygbi’r Byd 2015.

Symudodd y cwmni, sy’n creu pob math o brosiectau gwych a gwahanol ar gyfer y diwydiant adloniant, i adeilad mwy ym Mae Caerdydd yn ddiweddar. Ar hyn o bryd mae’n cyflogi pump o bobl a’i nod yw dyblu’r gweithlu yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf. Ar gyfer prosiectau mawr bydd yn aml yn defnyddio tîm mwy o grefftwyr. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd lleoliad gwaith rheolaidd i fyfyrwyr o’r Coleg.

Pwy oedd y ddawn a oedd yn gyfrifol am y stỳnt? Matt Wild – un o raddedigion cwrs Rheoli Llwyfan CBCDC – a’i dîm Wild Creations. Bu Matt, a ddatblygodd ei hoffter o wneud propiau yn ystod ei gyfnod yn y Coleg, yn gweithio yn Adran Gelf Doctor Who BBC Cymru Wales cyn sefydlu Wild Creations bum mlynedd yn ôl.

Yn gynharach eleni creodd y cwmni fodelau o velociraptor maint llawn fel rhan o osodiad yng Ngorsaf Waterloo Llundain er mwyn hyrwyddo rhyddhau’r ffilm Jurassic World yn y sinemâu. Ym mis Hydref gwnaethant fadfall cynhanes maint llawn yn ffrwydro drwy’r palmant ar y South Bank fel rhan o ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus i nodi rhyddhau’r ffilm ar DVD a Blu-ray.

“Wedi i mi raddio o CBCDC nid oeddwn am symud o Gaerdydd,” meddai Matt, “Roeddwn wrth fy modd yn byw yma ac mae’r diwydiannau creadigol yn ffynnu, felly mae digonedd o gyfle am waith llawrydd. Ar ôl cael profiad gwerthfawr ym myd ffilm a theledu roeddwn yn gwybod fy mod eisiau dechrau fy musnes fy hun, a Caerdydd oedd y lle delfrydol i wneud hynny.”

“Y briff gan Gyngor Caerdydd oedd rhoi Caerdydd ar y map yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd. Rydym yn teimlo’n falch iawn ein bod wedi chwarae ein rhan i ddod â phobl i Gaerdydd a rhoi hwb i’r economi leol yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni wnaethom ragweld y byddai cystal ymateb iddo ac roedd hi’n wych gweld y gosodiad yn dod yn ffenomenon.”

“Fel busnes, rhoddodd gyfle i ni arddangos safon y cynnyrch y gallwn ei ddarparu – hyd yn oed yn y lleoliadau mwyaf heriol. Cafodd y prosiect sylw anhygoel gan y cyfryngau.”

Mae’r diwydiannau creadigol yn ffynnu yng Nghaerdydd, felly mae digonedd o gyfle am waith. Y bwriad gwreiddiol oedd tynnu’r bêl oddi ar Gastell Caerdydd wedi i gemau’r chwarteri gael eu chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, ond bu mor boblogaidd fel y penderfynodd y trefnwyr ei gadael yno tan ddiwedd y gystadleuaeth.


4

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Mwy o Raddedigion Cynllunio ar Restr Fer Linbury

Nid oes cyfle mwy i gynllunwyr llwyfan sy’n dechrau dod i’r amlwg.

G

wobr Linbury ar gyfer Cynllunio Llwyfan yw un o’r mwyaf pwysig o’i bath yn y DU, ac mae’n rhoi llwyfan unigryw i’r cynllunwyr gorau sy’n dod i’r amlwg ar ddechrau eu gyrfaoedd. Bob dwy flynedd caiff deuddeg o blith 150 o gynigion eu rhoi ar restr fer, gyda phob un yn derbyn gwobr ariannol a chyfle i weithio gyda chyfarwyddwr blaenllaw mewn cwmni theatr, dawns neu opera o bwys ym Mhrydain. Eleni mae CBCDC wedi bod yn dathlu lefelau gwell nag erioed o lwyddiant yn y gystadleuaeth – gyda chwech o’r deuddeg sydd yn

y rownd derfynol yn raddedigion diweddar y Coleg. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf bu Camilla Clarke a Cindy Lin (yn y llun) yn gweithio gyda’r Royal Court Theatre; Valeria Pacchiani a Rebecca Jane Wood gyda Nuffield Theatre, Southampton; David Allen gyda Lyric Theatre, Belfast; a Jen McGinley gyda Traverse Theatre, Caeredin. Caiff cynnyrch creadigol y cydweithrediadau hyn eu harddangos yn y National Theatre o ddydd Llun 30 Tachwedd 2015 tan ddydd Sul 3 Ionawr 2016.

Bydd pedwar enillydd yn derbyn comisiwn proffesiynol gan un o’r cwmnïau, ynghyd â gwobr ariannol ychwanegol. Mae CBCDC wedi mwynhau llwyddiant ysgubol yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd; cyn-enillwyr o’r Coleg yw Madeleine Girling (2013), Jean Chan (2009), Rhys Jarman (2007), Tom Scutt (2007), Adam Wiltshire (2003), Crista Noel Smith (2003) a Max Jones (2001), gyda llawer mwy wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol.

Enillydd 2013:

C

omisiynwyd cynlluniau buddugol Madeleine Girling gan Nottingham Playhouse ar gyfer ei gynhyrchiad o Time and the Conways. Y flwyddyn ganlynol cynlluniodd ail gynhyrchiad ar gyfer yr un cwmni, a hefyd dwy ddrama ar gyfer tymor Midsummer Mischief y Royal Shakespeare Company yn y Courtyard Theatre. Yn 2015 mae wedi gweithio ar gynyrchiadau yn y Nottingham Playhouse, yr Orange Tree Theatre, Bath Ustinov Studio a’r Gate Theatre yn Llundain.


5

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Enillydd 2007:

E

rs ennill Gwobr Linbury, mae Tom Scutt wedi sefydlu ei hun fel un o brif dalentau cenhedlaeth newydd o gynllunwyr theatr ym Mhrydain. Ef oedd y Cynllunydd Cynhyrchiad ar gyfer Gwobrau MTV Video Music yn Los Angeles ac mae’n un o’r tri beirniad ar gyfer y wobr eleni.

Rownd Derfynol 2003:

C Time and the Conways yn y Nottingham Playhouse.

Llun: Robert Day

Madeleine Girling gyda’r Fonesig Anya Sainsbury, un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Linbury, sy’n ariannu’r wobr.

Llun: Sheila Burnett

olin Richmond ar y set a gynlluniwyd ganddo ar gyfer cynhyrchiad diweddar Opera Cenedlaethol Cymru o Sweeney Todd. Richmond hefyd gynlluniodd gynhyrchiad presennol Wendy a Peter Pan ar gyfer y Royal Shakespeare Company.

Enillydd 2009:

M

ae gwaith diweddar Jean Chan, sy’n gyn-hyfforddai gyda’r Royal Shakespeare Company, yn cynnwys Mother Courage, Tonypandemonium a Bordergame ar gyfer National Theatre Wales.


6

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Wedi ei hysbrydoli gan chwedl Roegaidd, stori am anghyfiawnder cymdeithasol yw Iphigenia in Splott, ac mae’n ymddangos ei bod wedi cyffwrdd â nerf drwy’r wlad i gyd. Mae’n adrodd stori Effie, menyw ifanc y mae ei bywyd yn annibendod llwyr o ddiod, cyffuriau a drama bob nos. “Mae hi’r math o ferch yr ydym ni gyd wedi dod ar ei thraws,” meddai Melville. “Mae ei hagwedd yn

Ring Ring, Gary Owen a gomisiynwyd gan CBCDC fel rhan o’i dymor ysgrifennu newydd ym mis Chwefror 2015

Mae gan CBCDC berthynas hir â Gary Owen ers comisiynu ei ddrama Gymraeg Amser Canser yn 2003 mewn cydweithrediad â Sgript Cymru. Cyflwynwyd addasiad Owen o Spring Awakening Wedekind fel rhan o dymor cyntaf y Coleg o ysgrifennu newydd yn 2014, a Ring Ring – ei ailweithiad o La Ronde Schnitzler –

oedd un o’r pedair drama newydd i gael eu dangos am y tro cyntaf yn y CBCDC a’r Gate Theatre Llundain yn ystod tymor NEWYDD eleni.

Mae perfformiad Melville yn gorwynt perffaith o fygwth, hudo, trais a thrueni.

Llun: Mark Douet

fygythiol, ac mae’n benderfynol iawn. Fe wnes i uniaethu ag Effie ar unwaith – mae hi’n rhywun y gallwn i fod wedi bod yn hawdd iawn ac mae gennyf ffrindiau sydd wedi canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd tebyg, felly mae’n bersonol iawn. Rwy’n teimlo’n amddiffynnol iawn o’r cymeriad ac yn meddwl amdani drwy’r amser. Teimlaf reidrwydd i ddweud ei stori. Caf fy nghyffroi gan y syniad o adael i bobl dreulio amser gyda chymeriad na fyddent yn debyg o gymdeithasu â hi. Credaf fod Effie yn bodoli ym mhob man yn y byd ac mae’r neges yn gyffredinol – sy’n ein hatgoffa i fod yn ofalus rhag beirniadu neu anwybyddu unrhyw sefyllfa. Mae’n berthnasol iawn yng ngoleuni argyfwng presennol y ffoaduriaid. Ni allaf aros i gael mynd â’r sioe i Lundain ac rwy’n benderfynol i wneud tegwch â drama Gary.”

The Guardian

“Mae’r gwaith sy’n dod allan o Gymru ar hyn o bryd mor gyffrous,” meddai Melville. “Teimlaf mor ffodus i fod yma ac wedi fy amgylchynu â doniau creadigol llawn ysbrydoliaeth. Mae’n teimlo fel bod yn rhan o dîm a hoffwn yn fawr weithio mwy yng Nghymru ar ôl i’r daith ddod i ben ym mis Ebrill.”

M

ae Iphigenia in Splott yn y National Theatre o 27 Ionawr hyd 20 Chwefror 2016 yn y theatr dros dro, sy’n dathlu gwaith newydd gwreiddiol, uchelgeisiol ac annisgwyl. Bydd Gary Owen a’r Cyfarwyddwr Rachel O’Riordan yn siarad am y ddrama, a’i thaith o Gaerdydd mewn sgwrs yn dilyn y sioe ar 4 Chwefror.

H Llun: Patrick Baldwin

M

ae Iphigenia in Splott, a ysgrifennwyd gan Gary Owen ar gyfer Sherman Cymru, wedi bod yn ennill clod drwy Brydain gyfan yn dilyn ei pherfformiad cyntaf yng Nghaerdydd yn gynharach eleni. Cafodd y ddrama un fenyw hon a berfformir gan Sophie Melville, a raddiodd o CBCDC, ei henwi fel y Ddrama Newydd Orau yng Ngwobrau Theatr y DU eleni. Enillodd Sophie Melville Wobr The Stage am Ragoriaeth Actio am ei pherfformiad yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Cyhoeddwyd hefyd y bydd y ddrama, a ddisgrifiwyd yn adolygiad pum seren y Guardian fel ‘theatr berffaith’, yn rhan o raglen y National Theatre ar gyfer 2016.

Llun: Burning Red

Drama ‘Splott’ yn mynd yn Genedlaethol

efyd yn theatr dros dro y National Theatre o ddiwedd mis Ionawr bydd myfyriwr graddedig CBCDC, Arthur Hughes, yn serennu yn nrama dau gymeriad glodfawr The Solid Life of Sugar Water Jack Thorne – cyd-gynhyrchiad ar gyfer Cwmni Graeae Theatre a’r Theatre Royal, Plymouth.


7

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Lluniau drwy garedigrwydd BBC/Diogo Gomes

Tymor Proms gyda Phroffil Uchel i CBCDC

Y

n nhymor Proms y BBC 2015 cafodd myfyrwyr cerddoriaeth CBCDC gyfle i fod yn rhan o ŵyl cerddoriaeth glasurol fwyaf y byd. Ymddangosodd deugain o gantorion o’r Coleg gyda Chôr Ieuenctid Proms y BBC ar gyfer tri pherfformiad uchel eu proffil o Dream of Gerontius Elgar gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna a Syr Simon Rattle. Dilynodd y cyngerdd Proms yn Neuadd Albert berfformiad cyntaf yn y Neuadd Symffoni, Birmingham. Teithiodd yr ensemble wedyn i’r Swistir i gymryd rhan yn yr Ŵyl Lucerne enwog. Dywedodd adolygydd yn The Guardian, “Côr Ieuenctid Proms y BBC a

Parhad o dudalen 1 “Rydym eisiau defnyddio’r cyfle hwn i estyn allan ac ymgysylltu â thelynorion ifanc a chymuned ehangach y delyn a’u cysylltu i’r dathliad rhyngwladol hwn o’n hofferyn cenedlaethol. Mae’n fraint fawr i mi fod yn arwain y tîm artistig gwych hwn er mwyn cyflwyno gŵyl delynau hynod gofiadwy yn 2020.” Soniodd Caryl Thomas am y cyfleoedd ar gyfer telynorion yn y Coleg. “Bydd y myfyrwyr wrth galon y broses trefnu – yn rhan o bob digwyddiad a gynhelir hyd at yr

serennodd yn y perfformiad hwn o oratorio Elgar… eu cywirdeb a’u sain yn berffaith ac yn meddu ar ystod deinameg anghymharol… hollol ryfeddol.”

Yn ystod yr un wythnos daeth cerddorion ôl-radd CBCDC ynghyd a rihyrsio gyda’r cyfansoddwr o Sweden B Tommy Andersson cyn perfformio ei weithiau siambr mewn cyngerdd arbennig yn y

ŵyl ei hun. Caiff rhai ohonynt y cyfle i chwarae yn ystod y digwyddiad a chaiff eraill wneud rolau gwirfoddoli amrywiol. Cânt i gyd brofi cyffro mynychu dathliad wythnos o hyd o’r delyn a hefyd y cyfle i wrando ar raglen ryfeddol o ddatganiadau a chyngherddau gan brif delynorion y byd. Bydd yn brofiad unwaith mewn oes i’n myfyrwyr.” Dyma fydd y tro cyntaf ers deuddeg mlynedd i Gyngres Telynau’r Byd fod yn Ewrop. Yn 2014 fe’i cynhaliwyd yn Awstralia ac yn 2017 bydd aelodau o dros 50 o wledydd yn ymgynnull yn Hong Kong.

Coleg Cerdd Brenhinol (ar y chwith). Recordiwyd y cyngerdd ar gyfer ei ddarlledu fel rhan o raglen Portreadau Cyfansoddwyr Proms BBC Radio 3, a ddilynodd ddarllediad byw premiere byd o waith newydd gan Andersson wedi’i berfformio gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Hefyd, yn ystod dathliad y DU gyfan o’r Last Night of the Proms, perfformiodd Luke McCall (ar y dde) gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y cyngerdd Proms yn y Parc ym Mharc Singleton, Abertawe. Perfformiodd McCall, a gwblhaodd ei hyfforddiant theatr gerdd yn y CBCDC llynedd, ganeuon poblogaidd o Phantom a Les Mis mewn cwmni oedd yn cynnwys y soprano Rebecca Evans.

Gyda mwy o delynau y pen yng Nghymru nac yn unrhyw wlad arall yn y byd gall Cymru yn sicr hawlio ei lle fel cartref ysbrydol y delyn. Yng Nghaerdydd yn unig ceir tua 30 o delynorion proffesiynol ac mae dros 550 o blant ysgol yn dysgu canu’r delyn.

Arweiniwyd y cais llwyddiannus i gynnal Cyngres Telynau’r Byd yn 2020 gan Catrin Finch a Caryl Thomas.


8

GAEAF 2015 WWW.RWCMD.AC.UK

Crynodeb

Prif ran yn Cuffs y BBC i un o Raddedigion 2015

Blwyddyn Brysur ar Lwyfan a Sgrîn

M

Y

n gynharach eleni ymddangosodd Annes Elwy yn nrama glodfawr Anna Jordan YEN yn y Royal Exchange Theatre, Manceinion a bydd yn symud i’r Royal Court Theatre yn 2016. Ar y sgrin eleni ymddangosodd yng nghyfres ddrama S4C Lan a Lawr ac yn y ffilm Gymraeg Yr Ymadawiad, a gafodd ei pherfformiad cyntaf yn ddiweddar yn y Fantastic Fest yn Austin, Texas. Mae’r ffilm gan y tîm creadigol a oedd yn gyfrifol am y gyfres ddrama glodfawr Y Gwyll (Hinterland) y BBC hefyd yn cynnwys cyd raddedigion CBCDC Dyfan Dwyfor a Mark Lewis Jones.

ae Jacob Ifan yn ymddangos gyda Ashley Walters ac Amanda Abbington o Sherlock yn nrama heddlu newydd BBC One Cuffs (nosweithiau Mercher, 8pm). Mae Tom Rhys Harries hefyd wedi cael rôl oriau brig yn Jekyll and Hyde ITV (nosweithiau Sul, 7pm).

Cynllunio ar gyfer Pina Bausch

E

Cymrodoriaeth Glodfawr i’r Cyfansoddwr Mark Boden

rs cwblhau ei gradd meistr mewn cynllunio gwisgoedd yn CBCDC yn 2014, mae Rike Zoellner wedi rhannu ei hamser rhwng Llundain, Caerdydd a’i mamwlad yr Almaen. Yn fwyaf diweddar bu’n cynllunio ar gyfer Neue Stücke (Darnau Newydd) 2015, perfformiad arbennig i nodi dechrau tymor newydd y Cwmni Dawns Pina Bausch byd enwog yn Nhŷ Opera Wuppertal. Yng Nghaerdydd mae Zoellner wedi gweithio gyda NoFitState Circus, Rubicon Dance a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.

D

P

enodwyd cyn-fyfyriwr o Gonservatoire Iau CBCDC, Anne Denholm, yn Delynores Swyddogol EUB Tywysog Cymru. Enillodd Denholm yr ail wobr yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc Cymru Texaco pan oedd yn fyfyriwr yn y Conservatoire Iau yn 2009 cyn mynd ymlaen i astudio yn Ysgol Purcell, Prifysgol Caergrawnt a’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Mae’n olynu Hannah Stone, cyn-fyfyrwraig arall o’r Coleg, fel telynores frenhinol.

Menyw’r Dyfodol

H

annah Kendall, cyfansoddwr ac un o’n graddedigion Rheolaeth yn y Celfyddydau, oedd enillydd y categori Celfyddydau a Diwylliant yng Ngwobrau Menywod y Dyfodol 2015. Mae Kendall, a ymddangosodd ar raglen Cyfansoddwr yr Wythnos BBC Radio 3 yn gynharach eleni, hefyd yn gyfarwyddwr yr elusen, London Music Matters. Mae un arall o raddedigion cwrs Rheolaeth yn y Celfyddydau CBCDC, Melanie Goldsmith, i’w gweld ar restr 100 o fenywod sy’n ysbrydoli y BBC ar gyfer 2015.

Dyluniad papur newydd: Burning Red

Penodiad Brenhinol

Llun: Chris Alexander

yfarnwyd Cymrodoriaeth Collard uchel ei bri gan Gwmni Hybarch y Cerddorion i’r cyfansoddwr Mark David Boden. Mark, sy’n 29 oed, yw un o’r ieuengaf i dderbyn y wobr y mae Herbert Howells, Syr Lennox Berkeley, Alan Rawsthorne ac Edwin Roxburgh wedi ei hennill yn y gorffennol. Mae cerddoriaeth Mark, a gyhoeddir gan Cadenza, wedi cael ei darlledu ar BBC Radio 3 a’i pherfformio gan amrywiaeth o brif gerddorfeydd ac offerynwyr Prydain.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.