Sylw ar adal Pen-y-bont ar Ogwr

Page 1

Sylw ar ardal

Pen-y-bont ar Ogwr

Gwanwyn 2012

Cefnogi Clybiau i Bobl Ifanc Cymru Hefyd yn y rhifyn hwn...

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i Ben-y-bont ar Ogwr Mynd i’r afael â diweithdra


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr

Lena Charles, yr ail o’r chwith, yn cael ei Gwobr Arwr Lleol WWHA

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y filltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain. Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn flaenorol. Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101 miliwn, ein strategaeth newydd

2 www.wwha.net

ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times. Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y daflen newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi. Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes. Anne Hinchey Prif Weithredwr


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i ardal Pen-y-bont ar Ogwr Mae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o flaenoriaethau pennaf WWHA. Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfleusterau gofal ychwanegol. Mae’r cyfan yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru. Mae datblygiadau WWHA sydd wedi dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu a fydd yn dechrau’n fuan, yn cynnwys: Coed Castell, Cam 2 Ar ôl cael ei gwblhau, bydd y prosiect yn cynnig 39 uned yn Bracla. Mae 16 uned yn rhan o gam 1, a bydd 23 yn ychwanegol yn debyg o gael eu hadeiladu dan gam 2. Mae disgwyl i’r ail gam ddechrau y mis hwn (Mawrth), diolch i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Ffordd Maendy Drwy gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Barratt Homes de Cymru, rydym wedi sicrhau 16 cartref am rent fforddiadwy neu i’w prynu fel rhan o

fenter ‘Rhoi cynnig arni cyn prynu’. Mae chwe fflat â dwy ystafell wely wedi cael eu gosod, ac mae disgwyl i’r deg cartref arall gael eu cwblhau yn gynnar yn 2012. Coed Park Rydym wedi cael Coed Park gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda golwg ar ddatblygu prosiect preswyl o 40 uned yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Mae trafodaethau cychwynnol wedi dechrau gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a rhagwelir y bydd cais cynllunio yn cael ei gyflwyno yn gynnar yn ystod haf 2012. Dywedodd Nikki Cole, Pennaeth Datblygu WWHA: “Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofiad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth. “Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai. “Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfleoedd ym maes tai yn yr ardaloedd lle’r ydym yn gweithredu.”

3

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Mynd i’r afael â diweithdra

Donna Samuel yn cael ei thystysgrifau gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones

Mae dau o ardal Pen-y-bont ar Ogwr – a oedd rhyngddyn nhw wedi bod yn ddi-waith am fwy na 15 mlynedd – wedi codi o’r rhigol i sicrhau gwaith llawn amser gyda ni. Mae Mark Evans a Donna Samuel, y ddau o Faesteg, wedi sicrhau swyddi parhaol gyda WWHA diolch i Jobmatch Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Mark, sy’n 49 oed, yn awr yn Arolygydd Safle gyda WWHA, tra bod Donna, sy’n 43 oed, yn gweithio yng nghanolfan gwasanaethau cwsmeriaid 24/7 y cwmni. Gweithiodd WWHA ar y cyd â JobMatch Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi Mark a Donna ar raglen Llwybrau Cyflogaeth. Mae’r

4 www.wwha.net

rhain yn cefnogi pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers cyfnod hir i gael y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i’w cael nhw yn ôl i waith cyflogedig. Yn flaenorol, nid oedd Mark wedi gallu gweithio oherwydd salwch tymor hir, tra’r oedd Donna wedi bod yn ofalwr llawn amser am 12 mlynedd ar ôl gweithio ar y tiliau yn Tesco. Ar 8 Chwefror, fe gafodd Donna (sydd yn y llun uchod) dystysgrifau am ei gwaith gyda JobMatch gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mewn digwyddiad ‘Blwyddyn newydd, dechrau newydd’ ym Mhafiliwn Porthcawl.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cefnogi Clybiau i Bobl Ifanc Cymru

Anne Hinchey, y Prif Weithredwr, ac Ivor Gittens, Cadeirydd WWHA, gyda staff a phobl ifanc yn nhŷ clwb CYP yn y Betws, Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfrannodd Bwrdd WWHA £3,500 at Glybiau i Bobl Ifanc Cymru i gefnogi eu gwaith dros bobl ifanc ledled y wlad. Fe wnaeth y Prif Weithredwr, Anne Hinchey, ac Ivor Gittens, Cadeirydd y Bwrdd, dreulio amser gyda rhai yn eu harddegau a staff tŷ clwb CYP yn y Betws, Pen-ybont ar Ogwr, cyn cyflwyno siec i’r Prif Weithredwr, Joff Carroll.

Mae Clybiau i Bobl Ifanc Cymru yn elusen gofrestredig, sy’n cynnig help a chefnogaeth i glybiau ieuenctid / grwpiau / clybiau chwaraeon, drwy gynnig prosiectau adeiladol i bobl ifanc, nifer o gyfleoedd ym myd chwaraeon, hyfforddiant a llawer mwy.

5

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Gwobrau diweddaraf

Preswylwyr Danymynydd, gan gynnwys Lena Charles, yr ail o’r dde, gyda’u gwobr yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWHA 2011

Roedd 2011 yn flwyddyn lwyddiannus o ran gwobrau yn WWHA. Cafodd y rheolwr cynllun o Beny-bont ar Ogwr, Lucy Clewlow, le ar restr fer Gwobr Cyflawniad Academaidd Eithriadol yng Ngwobrau Tai Cymru 2011. Fe wnaeth preswylwyr hŷn o Danymynydd, cynllun er ymddeol WWHA yng Nghwm Garw, ennill Gwobr fawreddog Val Feld am Gyfathrebu ym Myd Tai yng Ngwobrau’r Gwasanaeth Cynghori ar Gyfranogiad Tenantiaid 2011, am eu prosiect adrodd storïau digidol, ‘Tyfu gyda’n gilydd’.

6 www.wwha.net

Fe wnaeth preswylwyr rhwng 80 a 92 oed weithio’n agos gyda phobl ifanc lleol i gofnodi eu storïau, gan ymgorffori hanesion ar lafar, cerddoriaeth a ffotograffau. Yn ddiweddar, cafodd Lena Charles, sy’n 93 oed, ei hanrhydeddu gan WWHA am oes o wasanaeth i’r gymuned. Treuliodd Lena fwy na 40 mlynedd yn gwirfoddoli i Wasanaeth Gwirfoddol Brenhinol y Merched yng Nghwm Garw cyn dod yn godwr arian brwd yn Danymynydd, lle mae hi’n byw erbyn hyn.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Enillodd Lena, sy’n hen fam-gu i chwech o blant, Wobr Arwr Lleol David Taylor 2011 yn ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth blynyddol. Fe wnaeth cynllun er ymddeol Danymynydd ennill Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011 WWHA am ddau brosiect – codi arian at blant amddifaid yn Belarus a’r prosiect adrodd storïau digidol a grybwyllwyd uchod.

2011 WWHA. Yn y llun isod, gwelir canlyniad eu gwaith caled yng ngerddi cymunol Western Court.

Fe wnaeth Jeff Bunce a Derek Rose, o gynllun er ymddeol Western Court, Pen-y-bont ar Ogwr, ennill gwobr Hyrwyddwyr Eco yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Gerddi yn Western Court, Pen-ybont ar Ogwr.

7

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein stoc bresennol yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru. Rydym yn debygol iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012. Rydym yn defnyddio labrwyr lleol, a lle bynnag y mae hynny’n bosibl, deunyddiau a gynhyrchwyd yn lleol, gan helpu i fuddsoddi yn yr economi leol. Ledled Cymru, rydym wedi adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi (£1.3 miliwn). Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae hyn yn cynnwys £68,000 ar waith yn Alexander Road, St Johns Street a chynllun er ymddeol Western Court.

8 www.wwha.net

Rydym hefyd wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi, gan gynnwys £60,000 yn Rhiw Las a Phen Onnen. Rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn yn rhagor mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos. Ymysg y cartrefi eraill sy’n cael budd drwy fuddsoddiadau lleol, mae Rhiw Cae Mawr, Rhiw Tremaen a Llys Hebron, a fydd yn cael drysau a/ neu ffenestri newydd. Rydym hefyd yn gwneud gwaith cynnal a chadw cyffredinol, gan gynnwys uwchraddio pafinau, estyn meysydd parcio, atgyweirio simneiau a gosod ffensys newydd.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cartrefi WWHA ar werth yn ardal Peny-bont ar Ogwr Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau o ran tenantiaethau i bobl hŷn sy’n dymuno rhentu neu brynu eu cartref eu hunain. Rydym yn rheoli 22 cynllun tai ar werth er ymddeol a chynlluniau prydles i bobl hŷn ledled Cymru, gan gynnig amrywiaeth o brisiau a lleoliadau i’r rhai sy’n dymuno prynu.

Restway Gardens

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae gennym y cartrefi canlynol ar werth ar hyn o bryd yn Restway Gardens, Pen-y-bont ar Ogwr:

tir eu hunain. Mae 23 cartref yno gyda’i gilydd – 2 fflat un ystafell wely, 4 fflat dwy ystafell wely ac 17 tŷ.

• Rhif 2 – rhandy un ystafell wely ar y llawr cyntaf – cysylltwch â’r Gwerthwyr Eiddo Watts & Morgan • Rhif 8 – tŷ dwy ystafell wely – cysylltwch â Peter Morgan • Rhif 22 - tŷ dwy ystafell wely – cysylltwch â Peter Morgan • Rhif 23 - tŷ dwy ystafell wely – cysylltwch â Peter Morgan

Mae preswylwyr yn gallu defnyddio ein Canolfan Larwm mewn Argyfwng 24/7, ac mae pob cartref yn cynnwys cortyn i’w dynnu mewn argyfwng ym mhob ystafell, a rhoddir larymau i bob preswyliwr eu gwisgo o amgylch eu gyddfau.

Mae’r cynllun yn cynnwys cymysgedd o randai a thai ar eu

Mae’r cynllun wedi ei amgylchynu gan dir sy’n cael ei gadw’n dda, gydag amrywiaeth eang o goed a llwyni prin.

9

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Tlodi tanwydd Mae lleihau tlodi tanwydd yn flaenoriaeth fawr i ni, ac rydym wedi bod yn brysur iawn yn ceisio helpu cymaint â phosibl o breswylwyr i arbed ynni. Yn lleol, rydym wedi rhoi mwy na 100 o becynnau arbed ynni i breswylwyr sy’n cael budd-daliadau cymwys, mewn digwyddiadau ym Merthyr Tudful, Aberhonddu, Bracla a’r Betws. “Mae’r pecynnau yn cynnwys monitor ynni i alluogi preswylwyr i wneud penderfyniadau gwybodus

am sut i ostwng eu biliau trydan” meddai Bridget Garrod, Rheolwr Tîm y Gymdogaeth. “Maen nhw hefyd wedi cael cebl estyniad sy’n lleihau faint o ynni y mae pethau sy’n gysylltiedig â’r teledu yn ei ddefnyddio, fel recordydd DVD neu’r blwch Sky, pan fydd y teledu’n cael ei ddiffodd.” Yn ychwanegol, mae cannoedd o lyfrynnau ‘Helping You Manage Your Energy Bills’, a gafodd eu cynhyrchu gydag Ymddiriedolaeth Ynni EDF, wedi cael eu dosbarthu.

Compact Bracla Mae’r Compact hwn rhwng y Gymdeithas, Cymdeithas Tai Linc Cymru a’n preswylwyr yn Bracla.

cynnal yn Bracla, ac yn cael gwybod am gynnydd gwaith sydd wrthi’n cael ei wneud.

Mae’r cyfarfodydd yn agored i bob preswyliwr, ac yn cael eu cynnal bob chwarter blwyddyn. Mae’r aelodau yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar gais y preswylwyr, gan gynnwys ystadegau ar:

Yn ystod cyfarfod Chwefror 2012 ein compact, fe roddom wybod i’r preswylwyr am y cynnydd a wnaed tuag at Gofrestr Dai Gyffredin Pen-ybont ar Ogwr (gweler tudalen 12 am ragor o wybodaeth), ac ar 16 Chwefror, fe wnaethom gynnal digwyddiad yng Nghanolfan Gymunedol Bracla gyda’r Dogs Trust, gan gynnig gosod sglodyn micro ar gŵn a’u gwneud yn ddiryw – rhywbeth a fyddai’n costio £30 fel arfer – i breswylwyr sy’n cael budddaliadau cymwys. Daeth eu Swyddog Addysg draw i siarad gyda’r plant am gyfrifoldebau bod yn berchen ar gi.

• lefelau bodlonrwydd ag atgyweiriadau • yr amser y mae’n ei gymryd i atgyweirio nam • a wnaeth yr atgyweiriad lwyddo ai peidio • nifer y cartrefi a osodwyd yn ystod y chwarter blwyddyn blaenorol • achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol Mae preswylwyr hefyd yn cael gwybod am unrhyw brosiectau cynnal a chadw wedi’u cynllunio sy’n debyg o gael eu

10 www.wwha.net

Yn ogystal, rhoddodd Sarah Richards o Bark Avenue Professional Dog Grooming gyngor ar ofalu am anifeiliaid anwes, gan gynnwys tacluso a thorri ewinedd.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf yn Bracla Fel aelod o fwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bracla, rydym wedi cefnogi nifer o weithgareddau sy’n cael eu cynnal gan y Pwyllgor Digwyddiadau. Mae’r rhain yn cynnwys Digwyddiad Cyngor ar Arian ac Ynni yn Brackla Meadows, lle cawsom gwmni’r heddlu lleol, MoneyLine Cymru, Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr a Chymunedau 2.0. Daeth Tropical Inc â nifer o anifeiliaid egsotig i helpu i ddiddanu’r plant iau. At hynny, fe wnaeth John, Gail a Steve o Gymunedau yn Gyntaf Bracla

drefnu BBQ a lluniaeth, gyda’r elw yn mynd at eu cronfa i osod polyn lamp newydd ar y llwybr i’r dref ger Heol Bryn Glas. Fe wnaeth preswylwyr gasglu 50% o’r gost, tra bod WWHA wedi ymuno â Chymdeithas Tai Linc Cymru i gyfrannu’r gweddill. Rydym hefyd wedi cefnogi digwyddiadau codi arian Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn, ac yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror 2012, fe wnaethom dalu am fws mini i fynd â phlant o Bracla i Ysgol Gyfun Maesteg ar gyfer digwyddiad her bêl-droed Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

11

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cofrestr Dai Gyffredin Pen-y-bont ar Ogwr Ynghyd â Hafod, Linc-Cymru a’r Cymoedd i’r Arfordir, rydym yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu cofrestr dai gyffredin. Mae cofrestr dai gyffredin yn ceisio gwneud y broses o ymgeisio am dai cymdeithasol yn symlach a thecach i bobl, gan mai dim ond un ffurflen gais am dai y bydd yn rhaid i’r ymgeiswyr ei llenwi, ac fe gawn nhw eu rhoi ar un rhestr, yn hytrach na gorfod ymgeisio’n unigol i’r holl landlordiaid. Bydd y gofrestr dai gyffredin yn cael ei chadw yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd y broses hon hefyd yn gymwys i breswylwyr cyfredol sy’n dymuno trosglwyddo i gynllun arall o fewn WWHA. Bydd y gofrestr dai gyffredin o

fantais i ymgeiswyr a’r landlordiaid, gan y bydd yn symleiddio’r broses ac yn galluogi’r mynediad gorau posibl at dai i’r rhai sydd eu hangen nhw fwyaf. Ymhellach, bydd y gofrestr dai gyffredin o fudd mawr i breswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr, a bydd yn gynllun tebyg i’r un a fabwysiadwyd gan WWHA yn 2009. Rydym yn gwybod mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i’r rhai sy’n ymgeisio am gartref yn yr ardal yw gallu cael y cyngor diweddaraf ar dai, ac nid dim ond cael eu hychwanegu at restr aros. Disgwylir i’r cynllun “fynd yn fyw” yn Awst 2012, ond yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiad ynghylch y gofrestr dai gyffredin, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Maria Edwards, y Swyddog Tai, ar 07929 201316 neu’r rhif rhadffôn 0800 052 2526.

Bracla Byw Wedi ei anelu at blant rhwng 8 ac 13 oed, mae Bracla Byw yn sesiwn chwarae glos â strwythur, sy’n cael ei chynnal unwaith yr wythnos yn Bracla. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau gan Gymunedau yn Gyntaf a Chyngor Cymuned Bracla i dalu am weithwyr chwarae proffesiynol

12 www.wwha.net

i ddarparu’r sesiynau, ac mae pobl leol yn cael eu hyfforddi i helpu i ddarparu’r sesiynau. Ynghyd â Chymdeithas Tai Linc Cymru, rydym yn talu am ddau fws mini i godi a gollwng plant o ardal Bracla bob nos Wener fel eu bod nhw’n gallu mynd i Bracla Byw.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu

darparu. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i: www.wwha.net/AboutUs/ CorporateInformation/ Performance/ InspectionInformation

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect. Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

13

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear. Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd. Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safleoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Fflint. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni. Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

14 www.wwha.net

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau. Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012 Mae prosiectau eraill yn cynnwys: • Newid tanwydd • Parhau i dreialu dyfeisiau optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio. Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad. Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall. Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio. Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa finiau yn Western Court, Pen-ybont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfio erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

15

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn gryno Ers ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol: • Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday

Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf. • Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

16 www.wwha.net

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.” • Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane. • Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru. • Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru. • Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust. • Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant Rydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio. Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-ybont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewn digwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfle i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau. • Cefnogi ein contractwyr a chyflenwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri. • Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. • Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfleoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/ rdonlyres/6C6733C0-FA834302-912C-F846D2D3C68F/0/ InTouchWinter20112.pdf Mae nifer o’n contractwyr wedi cyflogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/ rdonlyres/10FD0DC5-E4DD4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/ WHALTPS2011.pdf

17

www.wwha.net


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take Ctrl

Y diweddaraf am ddatblygiadau

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ledled Cymru, mae ein rhaglen ddatblygu, sy’n werth £101 miliwn dros bum mlynedd, yn mynd o nerth i nerth.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo. Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Rydym nawr naill ai wedi dechrau neu ar fin dechrau gweithio ar fwy na 250 uned mewn pum awdurdod lleol gwahanol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, gofal ychwanegol, anghenion arbennig a llety gofal dementia. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi cwblhau cyfanswm o 47 uned ledled Cymru, gan gynnwys tai a rhandai anghenion cyffredinol, ynghyd ag unedau arbenigol tai â chymorth. Rydym hefyd yn peilota ein menter ‘Rhoi Cynnig Arni Cyn Prynu’ gyntaf, gydag 16 uned ar gael am rent fforddiadwy, gyda’r dewis o brynu’r cartref ar ôl blwyddyn o denantiaeth lwyddiannus. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau datblygu, ewch i: www. wwha.net/ourservices/development

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2012 Bydd pumed seremoni flynyddol ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael ei chynnal ar 19 Hydref yn y Village Hotel, Coryton, Caerdydd.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i’n noson gala carped coch, lle bydd synnwyr o gymuned yn cael ei gydnabod gyda chyfres o wobrau.

Rydym bob amser yn croesawu enwebiadau gan unrhyw un sy’n dymuno enwebu unigolion neu grwpiau sy’n llawn ysbryd cymunedol. Ein hunig faen prawf yw bod yn rhaid i’r rhai a enwebir naill ai fod yn breswylwyr WWHA, neu’n cydweithio â phreswylwyr WWHA, ac mae’r broses enwebu yn gyflym ac yn hawdd.

Y categorïau yw: Dechrau o’r newydd, Arwr lleol, Cymydog da, Eco bencampwr, Garddwr gorau, Pencampwr cymunedol.

18 www.wwha.net

Am ragor o fanylion ac i enwebu rhywun, ffoniwch Sharon Buckley ar 029 20 415363 neu e-bostiwch sharon.buckley@wwha. co.uk


Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

Achub morgeisi Mae ein cynllun achub morgeisi yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu. Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben. Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd. Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi: • Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn. • Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/ OurServicesMortgageRescue/

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben. Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol. Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi. Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012. Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

19

www.wwha.net


Cysylltiadau

Sylw ar ardal Pen-y-bont ar Ogwr – Gwanwyn 2012

allweddol Swyddfa’r Fflint Uned 2 Parc Busnes Acorn Aber Road, Y Fflint, Sir y Fflint CH6 5YN

Prif Swyddfa 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD

E-bost: info@wwha.co.uk Minicom: 0800 052 5205 Dilynwch ni ar @WWHA

Ffôn: 0800 052 2526 Ffacs: 029 2041 5380 Gwefan: www.wwha.net

STRATEGOL Anne Hinchey, Prif Weithredwr 029 2041 5335 anne.hinchey@wwha.co.uk

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid 029 2041 5346 tony.wilson@wwha.co.uk

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau 029 2041 5362 shayne.hembrow@wwha.co.uk

TAI Lynnette Glover, Pennaeth Tai 029 2041 5365 lynnette.glover@wwha.co.uk

Jenny Williams, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 029 2041 4086 jenny.williams@wwha.co.uk

Jackie Bloxham, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth) 029 2041 4083 jackie.bloxham@wwha.co.uk

D AT B LY G U Nikki Cole, Pennaeth Datblygu 029 2041 4093 nikki.cole@wwha.co.uk

GWASANAETHAU EIDDO Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 5373 steve.porter@wwha.co.uk

Mae Cymdeithas Tai Wales & West wedi ei chofrestru fel cymdeithas elusennol dan 20 Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965, Rhif 21114R www.wwha.net


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.