Sylw ar adal Sir y Fflint

Page 1

Sylw ar ardal

Sir y Fflint Gwanwyn 2012

Preswylwyr gwobredig WWHA’s Extra Care scheme in Prestatyn is Cynllun caredig i anifeiliaid SydneyCarwyn Hall Court officially opened by First Minister Jones ynWWHA neg uchaf y Cinnamon Trust drwy Brydain helps residents TakeCtrl My Home DVD - ‘Making every penny count’

Hefyd yn y rhifyn hwn...

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i ardal Sir y Fflint

DVD gwobredig ‘My home - every penny counts’


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Croeso i rifyn gwanwyn 2012 Sylw ar ardal Sir y Fflint

Mae Jane Styles, Cadeirydd Cymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton yng Nghei Connah, wrth ei bodd â’r murluniau yn eu parc chwarae, sydd newydd gael ei adnewyddu

Nid oes angen i mi ddweud fod pawb ohonom yn parhau i wynebu amodau economaidd heriol iawn, ac yn awr yn fwy nag erioed, rydym yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau rhagorol i gwsmeriaid, cefnogi arloesi i gwrdd â galw, ac yn syml, mynd y filltir ychwanegol i helpu ein preswylwyr a’u cymunedau i helpu eu hunain. Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd, i helpu ein preswylwyr ymdrin â phroblemau yn ymwneud ag arian, a chael cymaint â phosibl ohonyn nhw i ddefnyddio’r we fyd eang. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol er mwyn helpu pobl i gael gwaith neu hyfforddiant, naill ai o’r newydd neu ailafael yn yr hyn roedden nhw’n ei wneud yn flaenorol. Yna, mae ein datblygiadau diweddaraf yn y busnes, gan gynnwys newyddion am ein rhaglen ddatblygu sy’n werth £101 miliwn, ein strategaeth newydd

2 www.wwha.net

ar Gyfranogiad Preswylwyr, a sut rydym yn mynd ati i hunanasesu. Ac rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu dweud wrthych chi ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-erelw gorau Cymru yn rhestr cwmnïau gorau 2012 y Sunday Times. Felly, rydw i’n gobeithio y gwnewch chi roi pum munud o’ch amser i ddarllen y daflen newyddion hon, ac y bydd yn ddefnyddiol ac yn addysgiadol yn eich golwg chi. Yn olaf, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth bob amser, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni i ddweud wrthym beth yw eich barn ar ‘Sylw ar...’, y newyddion sydd ynddo, neu unrhyw agwedd arall ar ein busnes. Anne Hinchey Prif Weithredwr


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Rhagor o gartrefi fforddiadwy i ardal Sir y Fflint Mae datblygu rhagor o gartrefi fforddiadwy, cynaliadwy o safon uchel i bobl Cymru yn un o flaenoriaethau pennaf WWHA. Mae ein rhaglen ddatblygu gyfredol, sy’n werth £101 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd, yn cynnwys prosiectau arloesol ar gyfer preswylwyr sydd ag awtistiaeth ac anawsterau dysgu, ynghyd â thai anghenion cyffredinol a chyfleusterau gofal ychwanegol. Mae’r cyfan yn cael ei gefnogi gan £15 miliwn o grant tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol sy’n bartneriaid â ni a chan Lywodraeth Cymru. Mae datblygiadau WWHA sydd wedi dechrau neu a fydd yn dechrau’n fuan, yn cynnwys: Llys Jasmine, yr Wyddgrug Bydd y datblygiad hwn, sy’n werth £8.5 miliwn a’r adeiladwyr ar y safle ar hyn o bryd, yn darparu 61 rhandy gofal ychwanegol a gofal dementia, ynghyd â dau fyngalo gofal ychwanegol. Disgwylir y byddan nhw’n cael eu cwblhau ym Mehefin 2013. Y Contractwr yw Anwyl

Construction, cwmni o’r gogledd sy’n chwarae rhan weithredol yng nghyflogi a hyfforddi pobl yn y sector adeiladu. Bydd y prosiect yn darparu’r holl goethder arferol y disgwylir eu cael mewn cynllun gofal ychwanegol, gan gynnwys bwyty, ystafelloedd cymunol, teras ar y to, salon trin gwallt, ymolchi â chymorth ac ati. Cafwyd y safle gan Gyngor Sir y Fflint. Cynllun addysg awtistiaeth Llys y Binwydden, yr Wyddgrug Mae’r datblygiad hwn, sy’n werth £1 miliwn ac wedi ei lenwi erbyn hyn, yn brosiect byw â chymorth a byw’n annibynnol ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint, sy’n darparu chwe uned o lety arbenigol ar gyfer amrywiaeth o anghenion a galluoedd. Adeiladwyd y prosiect fel cam 1 mewn safle mwy o faint, a fydd nawr yn cynnwys y prosiect gofal ychwanegol a grybwyllwyd uchod. Mae pedwar o’r preswylfeydd yn hunangynhwysol, er mwyn darparu llety i’r rhai sydd angen annibyniaeth ond gydag ychydig o gefnogaeth.

Llys Y Binwydden

3

www.wwha.net


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012 Mae prosiectau arfaethedig eraill ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys 60 tŷ a rhandy yng Nglan y Don, Maes Glas, Sir y Fflint, ac rydym yn chwarae rhan amlwg yn y gwaith o gynllunio adfywiad y Fflint.

pobl leol sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.

Dywed Nikki Cole, Pennaeth Datblygu yn WWHA: “Er bod y maes tai i deuluoedd yn rhywbeth y mae gan WWHA gryn brofiad ac arbenigedd ynddo, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ledled Cymru i gwrdd ag anghenion

“Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i ddarparu atebion tai i gwrdd ag amrywiaeth eang o ofynion tai. “Mae cyllid grant i gynorthwyo datblygu tai cymdeithasol newydd yn brin, ond er hynny, mae’r Gymdeithas wedi llwyddo i sicrhau cyllid er mwyn helpu i ddatblygu amrywiaeth o gyfleoedd ym maes tai yn yr ardaloedd llw’r ydym yn gweithredu.”

Parhau i fuddsoddi yn ein heiddo

Cymryd camau

Yn ystod chwe mis olaf 2011, fe wnaethom wario £5.7 miliwn ar ailwampio ein cartrefi ledled Cymru, ac rydym wrth ein bodd ein bod ni’n debygol o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2012.

Rydym wedi sicrhau meddiant o gartref yn ardal yr Wyddgrug yn ddiweddar, ar ôl i’r preswyliwr ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn droseddol yn sgil problemau iechyd meddwl difrifol.

Rydym wedi adnewyddu ceginau mewn dros 400 o gartrefi (£1.3 miliwn), gan gynnwys un deg chwech yn Sir y Fflint ar gost o £64,000. Ledled Cymru, rydym wedi gwario dros £600,000 ar ailwampio ystafelloedd ymolchi, gan gynnwys £106,000 ar 53 ohonyn nhw yn Sir y Fflint, ac rydym hefyd yn buddsoddi £1.2 miliwn arall mewn rhaglen fawr i adnewyddu ffenestri, a ddylai wneud ein cartrefi yn fwy cyfforddus, yn gynhesach, yn rhatach i’w gwresogi ac yn llai tebygol o fod angen gwaith cynnal a chadw drud yn y dyfodol agos.

4 www.wwha.net

Roedd y Llys yn cydnabod y dylai’r preswyliwr fynd i ysbyty diogel, ac na ddylai barhau yn y gymuned, lle’r oedd yn peryglu ei fywyd ei hun ac eraill o’i amgylch.


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Tyfu eu planhigion eu hunain

Mae tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hunan wedi dod ychydig yn haws i nifer o’n preswylwyr ledled y wlad. Diolch i’n Cronfa Amgylcheddol newydd, mae 29 eco-brosiect newydd dan arweiniad preswylwyr wedi cael eu sefydlu erbyn hyn, gyda phwyslais mawr ar helpu grwpiau i dyfu eu cynnyrch eu hunain. Dywedodd Owen Jones, Swyddog yr Amgylchedd a Chynaladwyedd: “Rydym yn gwybod bod nifer o’n preswylwyr yn mwynhau garddio ac eisiau gwneud y defnydd gorau posibl o’r tir sydd ar gael iddyn nhw. “Rydym hefyd yn gwybod fod mwy a mwy o bobl yn pryderu am yr amgylchedd, ac eisiau gwneud beth allan nhw er mwyn helpu i gael

effaith gadarnhaol ar lle maen nhw’n byw, ynghyd â helpu i leihau eu hôl troed carbon. “Yr hyn rydym eisiau ei weld o ddifrif ydi tir nad yw’n cael ei ddefnyddio yn cael ei adfywio gan breswylwyr, ac mae tyfu ffrwythau a llysiau yn ffordd wych o gadw’n heini a chadw’r biliau bwyd yn isel.” Hyd yn hyn, mae’r gronfa wedi buddsoddi bron £15,000 mewn 29 prosiect ledled Cymru, a tua £1000 o hynny wedi mynd i gynllun er ymddeol Sydney Hall Court yng Nghei Connah ar gyfer gwelliannau amgylcheddol a gwelyau wedi’u codi, ar y cyd ag EON, ac i Ystad Goffa Court yn y Fflint, am gyflenwad o blanhigion a llysiau i’w clwb garddio.

5

www.wwha.net


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Enillwyr gwobrau Roedd 2011 yn flwyddyn ryfeddol i Gymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton yng Nghei Connah. Fe wnaethon nhw nid yn unig lansio eu Cymdeithas Breswylwyr newydd mewn steil drwy ei gyfuno â pharti i ddathlu’r Briodas Frenhinol, ond yn ystod eu blwyddyn gyntaf, fe wnaethon nhw hefyd ennill cefnogaeth ariannol sylweddol - £30,000 – gan Gyngor Sir y Fflint, i uwchraddio parc chwarae lleol i blant, gan arwain at le ar restr fer Gwobr Prosiect Cymunedol yng Ngwobrau Gwneud Gwahaniaeth WWHA yn 2011. Cafodd y parc, sydd wedi cael ei enwi gan blant lleol fel ‘Rainbow’s End’, ei agor yn ffurfiol gan Carl Sargeant, Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy, wythnos diwethaf. Ymysg y partneriaid eraill a oedd yn rhan o uwchraddio’r ardal, roedd banc Barclays, moneysupermarket. com, Cadwch Gymru’n Daclus, Coleg Glannau Dyfrdwy a Groundwork Sir y Fflint. Cafodd cynllun ecogyfeillgar WWHA i ailwampio 82 cartref yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai flaenllaw yn y Deyrnas Unedig Cafodd y prosiect ar Powell Road a Becketts Lane ym Mwcle, sy’n werth £852,000 ac a gafodd ei gyllido’n rhannol gan gynllun ARBED Llywodraeth Cymru (Rhaglen Buddsoddi Strategol mewn Perfformiad Ynni), le ar restr fer categori Cyflawniad Eithriadol yng Nghymru, gan drechu dwsinau o

6 www.wwha.net

gynigion eraill o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Dros gyfnod o 18 wythnos, fe wnaeth y prosiect helpu 82 cartref drwy: • osod system inswleiddio waliau allanol; • gosod ffenestri a drysau â gwydr dwbl yn lle’r hen rai, i’r preswylwyr allu defnyddio ynni yn fwy effeithlon; • atgyweirio a gwella ymylon y toeau; • gosod unedau adfer gwres i ddefnyddio ynni’n effeithlon mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau; fe wnaeth hyn i gyd y cartrefi’n fwy clyd, galluogi’r preswylwyr i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon, ac yn fwy ecogyfeillgar, ynghyd â gweddnewid y tu allan i gartrefi yn sylweddol, gan fod o fudd cymdeithasol, economaidd a seicolegol i bawb. Mae’r cynllun er ymddeol hynod garedig at anifeiliaid anwes, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, wedi cael ei gydnabod fel un o’r pum cynllun er ymddeol mwyaf caredig at anifeiliaid anwes yn y Deyrnas Unedig. Fel cydnabyddiaeth o’i gyflawniadau yn Sydney Hall Court, cafodd y rheolwr Cynllun, Rob Holmes, dystysgrif a siec am £250 i’w wario ar brosiectau yn ymwneud ag anifeiliaid anwes yn y cynllun, pan aeth i seremoni a gynhaliwyd gan y Cinnamon Trust yn Llundain. Am ragor o wybodaeth, ewch i www. cinnamon.org.uk


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Preswylwyr Sydney Hall Court yn cerdded gyda’u hanifeiliaid anwes

Prosiect SARTH Yng ngogledd ddwyrain Cymru, mae’r prosiect mynediad unigol at dai (SARTH) yn ceisio gwneud mynediad at dai cymdeithasol mor effeithlon, cyson a theg â phosibl. Mae’n brosiect ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, a Chymdeithasau Tai Gogledd Cymru, Tai Clwyd, Clwyd Alyn, Cartrefi Conwy a Wales & West. Mae holl aelodau cyfredol y bartneriaeth wedi cytuno i gydweithio ar fframwaith cyffredin i ddyrannu tai a rhoi

cyngor, ynghyd â gosod nodau ac amcanion, yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol. Yn y cyfamser, mae grŵp llywio’r prosiect wedi recriwtio swyddog datblygu’r prosiect, Nicholas Weatherall, sy’n cael ei gyllido ar y cyd gan yr holl bartneriaid ac sy’n dod dan ofal Cymdeithas Tai Wales & West, i gydlynu datblygu fframwaith ddyrannu gyffredin. Mae’r prosiect yn bwriadu peilota’r fframwaith cyffredin yn 2013.

7

www.wwha.net


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

DVD My home - ‘Making every penny count’ Rydym yn falch o fod yn aelod o Bartneriaeth Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, sydd wedi ennill dwy wobr genedlaethol fawreddog yn ddiweddar am eu DVD ‘My Home…making every penny count’: 1. Gwobr Hyrwyddo Annibyniaeth 2011 – Gwobr Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth 2011 2. Gwobr MoneyActionNet 2011 Mae’r DVD ‘My Home.. making every penny count’ yn cynnig dull arloesol o fynd i’r afael â materion ariannol o ddydd i ddydd y gallai tenant eu hwynebu wrth ddechrau ar denantiaeth gyda landlord cymdeithasol.

‘ddiofal’ at gyllid y cartref. Mae hefyd yn rhoi syniadau ymarferol ynghylch sut y gellir arbed arian ac osgoi dyledion. Yn neilltuol, mae’n amlygu sgil effeithiau benthyca gan fenthycwyr anghyfreithlon a ffynonellau eraill o fenthyca ar gost uchel. Mae’r DVD ar gael i bob preswyliwr tai cymdeithasol newydd yng ngogledd Cymru. Mae gan y Bartneriaeth gynrychiolwyr o holl gymdeithasau tai gogledd Cymru:

Mae’r ffilm yn archwilio’r dulliau ‘da’ a ‘drwg’ o ymdrin ag arian, ac yn amlygu peryglon cymryd agwedd

• • • • • • •

Hunanasesu a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Mynediad band eang Wi-fi i breswylwyr hŷn

Fel cymaint o gymdeithasau tai eraill, rydym yn cynnal ymarferion hunanasesu trylwyr i weld pa mor dda rydym yn perfformio, ac i’n helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad band eang WiFi ym mhob un o’n 100 o gynlluniau i bobl hŷn ledled Cymru o fewn y ddwy flynedd nesaf, gan fuddsoddi £1 miliwn yn y prosiect.

Rydym bob amser yn croesawu adborth adeiladol ynghylch unrhyw agwedd ar ein busnes, ein heiddo, neu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.

Rydym eisoes yn gweithio ar gynllun peilot yn Nhŷ Pontrhun, un o’n cynlluniau er ymddeol ym Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â’r darparwr o Gymru, Boynes. Bydd pedair llinell, llwybryddion a chyfnerthyddion ar waith yn y cynllun o fis Mawrth 2012 ymlaen, gan alluogi pob preswyliwr i lwytho i lawr 1MG yr un. Bydd y gost i’r preswylwyr yn swm fforddiadwy iawn, sef £1 y cartref fesul wythnos.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau a’n proses hunanasesu, ewch i: www.wwha.net/AboutUs/ CorporateInformation/Performance/ InspectionInformation

8 www.wwha.net

Cartrefi Cymunedol Gwynedd Cartrefi Conwy Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cymdeithas Tai Gogledd Cymru Cymdeithas Tai Clwyd Cymdeithas Tai Eryri Cymdeithas Tai Wales & West


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Take Ctrl

Mae Take Ctrl yn fenter cynhwysiant digidol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o dechnolegau digidol, ynghyd â darparu hyfforddiant ar sut i’w defnyddio, fel modd o fynd i’r adael â chynhwysiant ariannol ledled gogledd Cymru. Mae wedi cael ei dargedu’n benodol at dri o’r pedwar grŵp blaenoriaeth a nodwyd ym mhrosiect Cymunedau 2.0. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, nod y prosiect yw galluogi pobl i wneud dewisiadau gwybodus a rheoli eu cyllid yn well. Y nod eithaf yw sicrhau fod allgau digidol, ariannol a chymdeithasol yn cael ei leihau; tryfalu’r dull o ddelio â’r tri pheth hyn, a sicrhau fod y sail resymegol ar gyfer defnyddio technolegau digidol i roi terfyn ar dlodi yn rhan ganolog o feddylfryd y rhai a gaiff fudd o’r prosiect – o dimau datblygu polisi cymdeithasau tai, staff rheng flaen a staff eraill, i’w tenantiaid, a’r gymuned ehangach yn wir. Lluniwyd y cynnig gan gonsortiwm o aelodau o saith cymdeithas tai sy’n gwasanaethu gogledd Cymru – rhyngddyn nhw, mae gan y cymdeithasau stoc tai ar hyd a lled y gogledd, ac mae ganddyn nhw enw da am gydweithio’n

llwyddiannus ar fentrau tebyg. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal ledled gogledd Cymru. Prif ran y prosiect yw’r syniad o gyflogi swyddog cynhwysiant digidol am gyfnod o ddwy flynedd, dan ofal WWHA, a byddai ei amser yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y sefydliadau a’u tenantiaid perthnasol. Yn fras, bydd gwaith y swyddog yn ymgorffori cydlynu (ac weithiau darparu) hyfforddiant uniongyrchol a chodi ymwybyddiaeth; cywain gwybodaeth a chyfeirio pobl at wybodaeth sydd eisoes yn bod am dechnoleg ddigidol; dyfeisio a chadw at strategaethau marchnata a gwirfoddoli; meithrin cysylltiadau, a sefydlu sawl perthynas at y dyfodol. Er mai menter dwy flynedd sy’n cael ei chynnig, o’r dechrau un mae’r partneriaid wedi bod yn ystyried ei gynaladwyedd, ac yn gweld hyn fel cam cyntaf prosiect llawer mwy cynhwysol a allai ymuno â phrosiectau sydd eisoes yn bod yn lleol, gan sicrhau partneriaid newydd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, a chreu model ar gyfer delio ag allgau a allai gael ei ailgreu yn rhywle arall.

9

www.wwha.net


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Mentrau ecogyfeillgar Rydym yn ymroddedig i fod yn wyrdd drwy ein holl sefydliad, ynghyd â chefnogi ein preswylwyr i allu mwynhau manteision niferus bod yn garedig i’r amgylchedd. Rydym hefyd newydd basio archwiliad blynyddol y Ddraig werdd, gan gyrraedd Lefel 2.

Yn y llun gwelir y twll turio cyntaf yng Nghlos Pontganol ar gyfer gosod pympiau gwres o’r ddaear. Bydd un o’r 10 twll turio yn mynd tua 200 metr i lawr (tua 600 troedfedd).

Rydym yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o brosiectau, dan arweiniad Owen Jones, ein Swyddog Amgylchedd a Chynaladwyedd. Rydym wedi bod yn gosod Pympiau Gwres o’r Ddaear yng Nghlos Pontganol, Llangynidr, ynghyd â safleoedd ychwanegol yng Nghrughywel, Llanfair Caereinion a’r Fflint. Mae’r rhain yn brosiectau arloesol, sy’n mynd i gael effaith fawr ar helpu preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni. Mae rhai preswylwyr ym Maes yr Onnen, Crughywel, yn talu rhwng

10 www.wwha.net

£150 a £200 y mis ar eu biliau trydan, ac maen nhw nawr yn mynd i elwa ar ffenestri newydd, inswleiddio gwell a phympiau gwres o’r ddaear. Bydd camau pellach, fel tynnu eu cawodydd trydan a rhoi cawodydd cymysgu yn eu lle, hefyd yn helpu i leihau eu biliau. Mae pympiau gwres o’r ddaear ymysg y systemau gwresogi dŵr domestig mwyaf cynaliadwy sydd ar gael ar hyn o bryd, a bydd preswylwyr ar eu hennill drwy gael rheolaeth well ar eu systemau gwresogi. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gwneud hynny’n arbed arian iddyn nhw.


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012 Mae prosiectau eraill yn cynnwys: • Newid tanwydd • Parhau i dreialu dyfeisiau optimeiddio foltedd • Gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i ddatblygu cynlluniau llifogydd ar gyfer y cartrefi sydd gennym a allai gael eu heffeithio. Rydym hefyd wedi buddsoddi dros £15,000 o’n Cronfa Amgylcheddol mewn 29 prosiect ledled Cymru. Mae’r rhain i gyd yn brosiectau dan arweiniad preswylwyr, sydd wedi gwneud cais am gyllid ar lawr gwlad. Mae prosiectau yn cynnwys datblygu gerddi bioamrywiaeth, gosod gwelyau wedi’u codi ar gyfer plannu hygyrch, prynu hadau,

cyfarpar, tai gwydr a chyfarpar arall. Rydym yn gweithio’n galed yn barhaus i sicrhau ein bod ni’n defnyddio ac yn ymgorffori technolegau sy’n garedig i’r amgylchedd lle bynnag y medrwn ni ym mhob agwedd ar ein datblygiadau newydd, ynghyd â’n rhaglenni ailwampio. Er hynny, yn anffodus, mae ansicrwydd ynghylch cyllid wedi arwain at orfod oedi ein cynlluniau i osod paneli PV solar ar doeau ein cartrefi addas. Digwyddodd hyn yn sgil ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth, ac rydym ymysg nifer o ddarparwyr tai cymdeithasol eraill yn y Deyrnas Unedig sydd yn yr un sefyllfa.

Yn y llun, gwelir yr hen storfa finiau yn Western Court, Pen-ybont ar Ogwr, sydd wedi cael ei thrawsffurfio erbyn hyn yn dŷ gwydr, diolch i gyfraniad o £200 gan Gronfa Amgylcheddol WWHA.

11

www.wwha.net


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Uwchraddio sgiliau gyda Cymunedau 2.0 a Take Ctrl

Y diweddaraf am ddatblygiadau

Rydym hefyd yn cydweithio â nifer o bartneriaid i uwchraddio sgiliau unrhyw un o’n preswylwyr, beth bynnag fo eu hoedran neu eu profiad blaenorol, fel eu bod nhw’n gallu mwynhau manteision technoleg ddigidol.

Ledled Cymru, mae ein rhaglen ddatblygu, sy’n werth £101 miliwn dros bum mlynedd, yn mynd o nerth i nerth.

Ym Merthyr Tudful, rydym yn gweithio gyda Cymunedau 2.0 ar brosiect Connect Merthyr. Mae hwn yn cefnogi pobl hŷn sydd eisiau dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau ar y rhyngrwyd, gan gynnwys e-bost, Skype, peiriannau chwilio, Twitter a YouTube. Mae hefyd yn eu helpu i ddefnyddio amrywiaeth o gyfarpar digidol arall, gan gynnwys ffonau symudol, camerâu a chamerâu fideo. Daeth Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt, ar ymweliad â’r prosiect yn ddiweddar, i weld dros ei hunan yr effaith anhygoel o gadarnhaol y mae’n ei gael ar ei gyfranogwyr hŷn. Yn ogystal, yng ngogledd Cymru, rydym yn cyflogi Jen Bailey, cydlynydd Prosiect Take Ctrl. Mae hon yn bartneriaeth rhwng saith cymdeithas tai, gan gynnwys WWHA. Am ragor o fanylion, ewch i: www.takectrl.org

Rydym nawr naill ai wedi dechrau neu ar fin dechrau gweithio ar fwy na 250 uned mewn pum awdurdod lleol gwahanol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys tai anghenion cyffredinol, gofal ychwanegol, anghenion arbennig a llety gofal dementia. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi cwblhau cyfanswm o 47 uned ledled Cymru, gan gynnwys tai a rhandai anghenion cyffredinol, ynghyd ag unedau arbenigol tai â chymorth. Rydym hefyd yn peilota ein menter ‘Rhoi Cynnig Arni Cyn Prynu’ gyntaf, gydag 16 uned ar gael am rent fforddiadwy, gyda’r dewis o brynu’r cartref ar ôl blwyddyn o denantiaeth lwyddiannus. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynlluniau datblygu, ewch i: www. wwha.net/ourservices/development

Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth 2012 Bydd pumed seremoni flynyddol ein Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth yn cael ei chynnal ar 19 Hydref yn y Village Hotel, Coryton, Caerdydd.

Bydd y rhai sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i’n noson gala carped coch, lle bydd synnwyr o gymuned yn cael ei gydnabod gyda chyfres o wobrau.

Rydym bob amser yn croesawu enwebiadau gan unrhyw un sy’n dymuno enwebu unigolion neu grwpiau sy’n llawn ysbryd cymunedol. Ein hunig faen prawf yw bod yn rhaid i’r rhai a enwebir naill ai fod yn breswylwyr WWHA, neu’n cydweithio â phreswylwyr WWHA, ac mae’r broses enwebu yn gyflym ac yn hawdd.

Y categorïau yw: Dechrau o’r newydd, Arwr lleol, Cymydog da, Eco bencampwr, Garddwr gorau, Pencampwr cymunedol.

12 www.wwha.net

Am ragor o fanylion ac i enwebu rhywun, ffoniwch Sharon Buckley ar 029 20 415363 neu e-bostiwch sharon.buckley@wwha. co.uk


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Achub morgeisi Mae ein cynllun achub morgeisi yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau cymaint o ddeiliaid sydd mewn perygl o weld eu cartref yn cael ei adfeddiannu. Rydym ymysg nifer prin o gymdeithasau sy’n gweithredu cynllun rydym yn ei gyllido ein hunain, nawr bod yr arian grant gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben. Mae galw sylweddol o hyd am y gwasanaeth, ac rydym yn ymrwymedig i barhau â’r cynllun achub morgeisi er mwyn helpu i leihau digartrefedd. Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi dros £2 miliwn yn y cynllun.

Hyd heddiw, mae WWHA wedi: •

Prynu 31 cartref yn gyfan gwbl – lle mae’r preswylwyr wedi dod yn denantiaid i ni. Mae hyn yn cynnwys 3 cartref a brynwyd heb grant fel rhan o gynllun y talwyd amdano gan y Gymdeithas. Mae 4 teulu arall wedi derbyn cynnig o gymorth fel rhan o’r cynllun hwn. Cwblhau 26 benthyciad i alluogi’r preswylwyr i aros yn eu cartrefi fel perchnogion

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein cynllun achub morgeisi, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 Neu ewch i: www.wwha.net/ OurServicesMortgageRescue/

Perfformiad ariannol cryf gan WWHA Mae’r Gymdeithas newydd ddod â blwyddyn arall o berfformiad ariannol cryf i ben. Yn gyntaf, fel rhan o fframwaith reoleiddio newydd Llywodraeth Cymru, cawsom radd pasio am farn hyfywdra ariannol, sef y radd uchaf sy’n cael ei dyfarnu, ac mae hynny’n dangos bod gennym ddigon o adnoddau i gwrdd ag ymrwymiadau busnes ac ariannol sydd gennym ar hyn o bryd ac a fydd gennym yn y dyfodol. Yn ail, mae ein canlyniadau am y flwyddyn yn dangos gwarged a llif arian rhydd a chadarnhaol. Mae hyn wedi ein galluogi i fuddsoddi dros £30 miliwn dros y tair blynedd ddiwethaf yn ein cartrefi presennol i

wella ansawdd ein cartrefi. Gyda £10 miliwn yn rhagor o fuddsoddiad ar y gweill eleni, rydym yn debyg iawn o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn y dyddiad targed, sef 2012. Yn barod, mae gennym £35 miliwn o fuddsoddiadau ar gyfer datblygiadau’r dyfodol. A ninnau wedi dechrau rheoli 165 cartref newydd eu datblygu yn ystod eleni yn unig, mae gennym gynlluniau i ddod â 600 yn rhagor i’n portffolio dros y 5 mlynedd nesaf. I wneud hyn, byddwn angen cyllid pellach, ac rydym yn gwneud cynnydd da at y nod, gyda geriad isel a phortffolio mawr o gartrefi o ansawdd uchel sydd heb eu sicrhau ar ein llyfrau.

13

www.wwha.net


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Gwobrau yn gryno Ers ein rhifyn blaenorol o ‘Sylw ar...’, rydym wedi ennill y gwobrau canlynol: • Cwmnïau Gorau 2012 y Sunday

Times. Yn 2012, enwyd WWHA fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, gan gyrraedd yr 8fed safle, i fyny o safle 14 yn 2011.

Yn ogystal, ni oedd yr unig gymdeithas Tai o Gymru i gael gwobr tair seren y Cwmnïau Gorau – gwobr a chwenychir yn fawr.

“Rydw i wedi gwirioni ein bod ni wedi cael ein cydnabod fel sefydliad nid-er-elw gorau Cymru, ac ein bod ni ymysg y deg cwmni nid-er-elw gorau yn y Deyrnas Unedig. Mae cyrraedd y raddfa uchaf o dair seren yn wych,” meddai Anne Hinchey.

“Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gwmni sy’n cael ei yrru gan werthoedd – bod yn deg, agored, cefnogol, effeithlon a chyfrifol – tuag at ein staff, yn ogystal â phawb rydym yn gweithio gyda nhw ac yn gweithio ar eu cyfer.

• Roeddem wrth ein bodd yn WWHA pan gawsom ein henwi ymysg y 30 Cwmni mwyaf caredig at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig gan Working Families, sefydliad sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd rhwng bywyd hamdden a gwaith. Roeddem yn un o ddau sefydliad o Gymru a gafodd le ar y rhestr, sy’n llawn cwmnïau o’r radd flaenaf. • Fe wnaeth ein Prosiect Digartrefedd Rhagor o Ddewisiadau yn Stoneleigh Manor, ar y cyd â Chyngor Sir Powys, ennill Gwobr Comisiynu Da Hyrwyddo

14 www.wwha.net

Annibyniaeth 2011 Cymorth Cymru. Cafodd y prosiect hwn le ar restr fer Gwobr Tai Cymru CIH am ‘wneud y defnydd gorau o stoc.” • Fe wnaeth Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru, yr ydym yn aelod ohono, ennill Gwobr 2011 Hyrwyddo Annibyniaeth Cynnwys Defnyddwyr y Gwasanaeth am y DVD My Home… ‘Making Every Penny Count’. Ers hynny, mae’r DVD wedi ennill ail wobr – Gwobr MoneyActionNet 2011 gan y darparwyr gwybodaeth am weithredu cymdeithasol, Lemos & Crane. • Mae preswylwyr WWHA wedi cael dwy wobr gan TPAS Cymru. Fe wnaeth y grwpiau o Gwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr, a stad Barracksfield yn Wrecsam, ddod i’r brig mewn cystadleuaeth gref gyda grwpiau landlordiaid cymdeithasol eraill yng Nghymru. • Cafodd ein Prosiect Adfywio Ecogyfeillgar ar Powell Road yn Sir y Fflint le ar restr fer Gwobr Tai CIH y Deyrnas Unedig am Gyflawniad Eithriadol yng Nghymru. • Cafodd ein cynllun er ymddeol, Sydney Hall Court yng Nghei Connah, sy’n cael ei redeg gan y rheolwr cynllun Rob Holmes, ei gynnwys ar restr fer Gwobr Cartref Caredig i Anifeiliaid Anwes y Flwyddyn y Cinnamon Trust. • Rydym wedi cael Safon Aur Ôl Troed Tai RSPCA.


Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

Cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant Rydym yn parhau i gydweithio â’n contractwyr ac eraill i ddarparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle’r ydym yn gweithio. Mae Donna Samuel yn un o ddau sydd wedi dychwelyd i weithio a gafodd swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch, Pen-ybont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Donna gyfarfod â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (yn y llun isod) mewn digwyddiad Iechyd a Lles lleol, a manteisiodd ar y cyfle i egluro sut roedd dod o hyd i waith llawn amser wedi trawsnewid ei bywyd.

• Gweithio gyda JobMatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni pwrpasol, a fydd yn lledaenu’r gair ymysg preswylwyr am sut i gael y bargeinion gorau ar danwydd a’r ffordd orau i dorri costau. • Cefnogi ein contractwyr a chyflenwyr i greu prentisiaethau mewn gwaith trydanol a gosod ffenestri. • Creu lleoliadau gwaith drwy’r Ganolfan Byd Gwaith a Rhaglen Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. • Ac rydym yn ymchwilio i’r cyfleoedd y gallem eu creu drwy ailgylchu.

Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym wedi diweddaru ein strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.wwha.net/NR/ rdonlyres/6C6733C0-FA834302-912C-F846D2D3C68F/0/ InTouchWinter20112.pdf Mae nifer o’n contractwyr wedi cyflogi prentisiaid o ganlyniad i’r gwaith rydym yn ei gomisiynu. Mae enghreifftiau eraill o’r modd rydym yn cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio yn cynnwys:

Neu, gallwch ddarllen y strategaeth lawn yn: www.wwha.net/NR/ rdonlyres/10FD0DC5-E4DD4B9C-9FC0-EF0F5A83AA1B/0/ WHALTPS2011.pdf

15

www.wwha.net


Cysylltiadau

Sylw ar ardal Sir y Fflint – Gwanwyn 2012

allweddol

Swyddfa’r Fflint Uned 2 Parc Busnes Acorn Aber Road, Y Fflint, Sir y Fflint CH6 5YN

Prif Swyddfa 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD

E-bost: info@wwha.co.uk Minicom: 0800 052 5205 Dilynwch ni ar @WWHA

Ffôn: 0800 052 2526 Ffacs: 029 2041 5380 Gwefan: www.wwha.net

STRATEGOL Anne Hinchey, Prif Weithredwr 029 2041 5335 anne.hinchey@wwha.co.uk

Tony Wilson, Cyfarwyddwr Cyllid 029 2041 5346 tony.wilson@wwha.co.uk

Shayne Hembrow, Cyfarwyddwr Gweithrediadau 029 2041 5362 shayne.hembrow@wwha.co.uk

TAI Lynnette Glover, Pennaeth Tai 029 2041 5365 lynnette.glover@wwha.co.uk

Cate Porter, Rheolwr Tai (Anghenion Cyffredinol) 01352 736325 catherine.porter@wwha.co.uk

Anne Caloe, Rheolwr Tai (Tai er Ymddeol / Tai â Chymorth) 01352 736323 anne.caloe@wwha.co.uk

D AT B LY G U Nikki Cole, Pennaeth Datblygu 029 2041 4093 nikki.cole@wwha.co.uk

GWASANAETHAU EIDDO Steve Porter, Pennaeth Gwasanaethau Eiddo 029 2041 5373 steve.porter@wwha.co.uk

WalesTai & Wales West Housing & West wedi Association ei chofrestru is registered fel cymdeithas as a charitable elusennol dan 16Mae Cymdeithas association Ddeddf Cymdeithasau under the Industrial Diwydiannol and Provident a Darbodus Societies 1965,Act Rhif 1965 21114R No. 21114R www.wwha.net


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.