In Touch Winter 2011 (Welsh)

Page 1

intouch Rhifyn 70 – Gaeaf 2011/2012

Am ddim

www.wwha.net

Cylchgrawn Preswylwyr Cymdeithas Tai Wales & West

Atal y ddyled Sut i arbed arian ar eich biliau tanwydd Hefyd yn y rhifyn hwn... Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni… Cefnogi pobl i ddychwelyd i weithio Pwy sy’n gwneud beth? Gwaith a chyfrifoldebau allweddol staff Strategaeth Newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr Eich helpu chi i gymryd rhan

le i Cyf ill enn au ydd

Nw er Pott y r r Ha


CAB Caerdydd Gwasanaethau Cyngor ar Bopeth yng Nghaerdydd Os ydych angen cyngor wyneb yn wyneb: O 28 Tachwedd 11, mae cyngor gan CAB ar gael yn: Cymunedau yn Gyntaf Trelái a Chaerau, 4 Grand Avenue, CF5 4BL Dydd Iau 10 am – 1 pm Dydd Gwener 1 pm – 3 pm Llanedern – Canolfan Ddysgu Cymdogaeth y Pwerdy, Roundwood, Llanedern, Caerdydd CF23 9PN

Dydd Mawrth 10 am – 1 pm Llanrhymni, Y Llyfrgell, Canolfan Ddysgu a’r Gymuned, Countisbury Avenue, CF3 5NQ

Dydd Mercher 10 am – 1 pm Llyfrgell Trowbridge a Llaneirwg, 30 Crickhowell Road, CF3 0EF Dydd Gwener 10 am – 1 pm

Os ydych angen cyngor dros y ffôn: O 21 Tachwedd 2011 ymlaen, ffoniwch:

Adviceline Cymru 08444 77 20 20 O ddydd Llun i ddydd Gwener 10 am – 4 pm Yn fuan, bydd gennym Giosg Gwybodaeth yn Llyfrgell Caerdydd, lle bydd modd i chi gael mynediad am ddim at ein gwefan gynghori: www.adviceguide.org.uk

Am ddim

Annibynnol

Cyfrinachol

Diduedd


Cynnwys

LLYTHYR Y GOLYGYDD

Ffau Drake 4 Newyddion a 5 gwybodaeth am WWHA Cynhwysiant Digidol 10 Newyddion a 12 gwybodaeth am WWHA Fe ddywedoch chi, 14 fe wnaethom ni Cyfranogiad Preswylwyr 19 Adroddiad am y 22 Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth Byw’n iach 25 Materion ariannol 27 Ymddygiad 30 Gwrthgymdeithasol Eich newyddion 33 Pen-blwyddi 37 a dathliadau Llythyrau 38 Deddf Cydraddoldeb 39 2010

Annwyl Ddarllenwyr Yn y lle cyntaf, Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Rydw i’n gobeithio eich bod chi wedi cael Nadolig braf a’ch bod chi’n edrych ymlaen at beth allai fod o’n blaenau yn 2012. Rydym yn gwybod ei bod yn gyfnod anodd, a bod talu am ein biliau ynni’r adeg hon o’r flwyddyn yn gallu bod yn neilltuol o anodd i gymaint ohonom. Felly, yn y rhifyn hwn, rydym wedi neilltuo tair tudalen ar gyfer Materion Ariannol (tudalennau 27 - 29) sy’n cynnwys pob math o gynghorion ar sut i arbed arian ar eich biliau tanwydd, a ble mae modd cael help os ydych yn cael trafferth talu eich dyledion. Rydych hefyd wedi gofyn i ni ddweud wrthych chi am sut rydym yn helpu pobl i fynd yn ôl at addysg a hyfforddiant (tudalennau 14 ac 15). Rydym hefyd yn edrych ar rai o swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol ein staff – unwaith eto, rhywbeth y gofynnoch i ni ei wneud. Yn olaf, mae gennym adroddiad llawn am Wobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011, a gallwch ddarllen crynodeb o’n Strategaeth newydd sbon ar Gyfranogiad Preswylwyr (tudalennau 19 - 21). Cofion cynnes.

Wyddech chi eich bod chi nawr yn gallu cael mwy o newyddion a diweddariadau ar-lein? Dilynwch ni ar Dilynwch ni ar

@wwha In Touch mewn ieithoedd a fformatau eraill Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhifyn hwn o In Touch yn y Saesneg neu mewn iaith neu fformat arall, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

Sarah Manners, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata

Cysylltu â ni Cymdeithas Tai Wales & West Cyf., 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Ffôn: 0800 052 2526 E-bost: info@wwha.co.uk Gwefan: www.wwha.net Minicom: 0800 052 5205 Neu, fe allwch chi gysylltu â’r rhan fwyaf o aelodau o staff yn uniongyrchol drwy e-bost. Mae cyfeiriadau e-bost ein holl staff yn gorffen gyda wwha.co.uk. Os ydych chi’n gwybod beth yw enw’r aelod o staff, rhowch ddot rhwng eu henw cyntaf a’u cyfenw e.e. joe.bloggs@wwha.co.uk 55% Ffibr ôlddefnydd wedi’i ailgylchu

Ardystiwyd gan y Cyngor Stiwardio Coedwigoedd (FSC Cymysg 70%)

www.wwha.net

3


e k a r D u Ffa Pos Chwilair Eitemau Harry Potter D E S I R E F O R O R R I M F S X S T H BertieBottsBeans ChocolateFrog

S N O E L L A G O R F E T A L O C O H C FatLadyPortrait X R W Y E S E L K C I S T U N K X R E T Galleons M T L K E E W J W Q X Z F I B G N C S I GoldenSnitch Y X Y B N PWR Q I M P U G B D N E ON I N V I S I B I L I T Y C L O A K R R S N I M B U S T WO T H O U S A N D E T N L F A T L A D Y P O R T R A I T P R I E T E H P O R P Y L I A D E H T R N S ND D N AW L I A T X I N E O H P S B S G L Q U I D D I T C H C U P X K N K N T HO S N A E B S T T O B E I T R E B Q O A G T W I Z A R D C A R D S I L C B Q N T B H O U S E C U P E L L A R B M E M E R P

HouseCup InvisibilityCloak Knuts MirrorOfErised NimbusTwoThousand PhoenixTailWand QuidditchCup Remembrall Sickles SorcerersStone TheDailyProphet TheSortingHat WizardCards

CYFLE I ENNILL gwobrau Harry Potter Allwch chi ddod o hyd i’r 18 gair sydd wedi’u cuddio yn y grid? Os gallwch chi, rhowch gylch o’u hamgylch neu linell drwyddyn nhw ar y pos, a’i anfon ataf, ynghyd â’ch enw, eich oedran, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn. Keri Jones, WWHA, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Mae’r gystadleuaeth yn agored i bob oedran. Y dyddiad cau yw dydd Gwener, 16 Mawrth, 2012.

A’r enillwyr yw: •T ravis Randall o Gaerdydd, a enillodd lyfr blynyddol Beano 2012 • Jean Morgan o Gaerdydd, a enillodd lyfr blynyddol Barbie 2012 • J Halewood o Fae Cinmel, a enillodd lyfr blynyddol Jacqueline Wilson 2012 4

•D ylan Jones o Wrecsam, a enillodd lyfr blynyddol Dandy 2012 • V Wood o Bontcanna, a enillodd gemau cardiau Jungle Snaps a Pairs on Wheels • John Mellor o’r Rhondda, a enillodd gemau cardiau Happy Families a Farmyard Donkeys

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Dau gynllun newydd wedi’u hagor yn swyddogol Yn ystod yr hydref, agorwyd dau ddatblygiad newydd yn swyddogol gan WWHA.

r swylwy Côr Pre yn diddanu Môr u Nant y inidog Cymr ol W Prif e iad swyddog gor yn yr a is Tachwedd ym m Prif Weinidog Cymru ar daith o amgylch y cynllun, a oedd yn cynnwys ymweliad â rhandy Pam Barrow, sydd â golygfeydd hyfryd tuag at Eryri. Fe wnaeth Huw Lewis, Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, a’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, agor Brewery Court a Brewery Mews ym Merthyr Tudful ym mis Hydref. A dim ond mis yn ddiweddarach, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, agor ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf un, Nant y Môr, ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych. Mae Brewery Court a Brewery Mews yn darparu 20 cartref fforddiadwy newydd yng nghanol Merthyr Tudful, tra bod Nant y Môr yn cynnig 59 rhandy modern iawn i bobl dros 60 oed sydd ag anghenion gofal, y cyfan gyda gofal a chefnogaeth ar y safle 24 awr y dydd. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWHA,: “Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i ni, ac roeddem wrth ein bodd fod Prif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Tai wedi bod yn westeion anrhydeddus yn y digwyddiadau nodedig hyn yn hanes y Gymdeithas. “Ond yn fwy na hynny, y peth pwysicaf yw darparu beth mae pobl ei angen, a does dim ond angen i chi edrych ar ein rhaglen ddatblygu dros dair blynedd, sy’n werth £101 miliwn (gweler tudalen 6) i weld beth arall sydd gennym ar y gweill.

“Rydym yn ddatblygwyr galluog a phrofiadol, ac mae’n wych ein bod yn gweithio ac yn cyflawni mewn partneriaeth â nifer o awdurdodau lleol drwy Gymru gyfan, gan gynnwys Cynghorau Merthyr Tudful a Sir Ddinbych o ran Brewery Court a’r Mews a Nant y Môr.” Am ragor o wybodaeth, ewch i adran Newyddion Diweddaraf ein gwefan, ynghyd â http://tinyurl.com/ nantymoropening (Nant y Môr) a http:// tinyurl.com/brewerycourt (Brewery Mews).

Brewery Court a Brewery Mews, Merthyr Tudful.

Huw Lewis AC, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn dadorchuddio’r plac. www.wwha.net

5


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Y diweddaraf am ddatblygiadau Mae datblygu cartrefi o safon uwch i bobl Cymru, sy’n fforddiadwy a chynaliadwy, yn un o brif flaenoriaethau WWHA. Am grynodeb llawn o’n prosiectau datblygu dros dair blynedd, sy’n werth £101 miliwn, ewch i’n gwefan: www.wwha.net/ OurServices/Development. Neu, ffoniwch y rhif rhadffôn 0800 052 2526 a byddai’n bleser gennym anfon copi atoch chi. Yn Wrecsam rydym newydd orffen 15 cartref teuluol ynghyd â 5 cartref i bobl ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn ein hailddatblygiad yn Ysgol y Ponciau, ac rydym yn adeiladu 147 cartref a rhandy newydd yn Kingsmills Road / Rivulet Road, ynghyd â chanolfan gymunedol / cyfleuster meddygol. Sir y Fflint: Mae ein cynllun addysg awtistiaeth newydd, sy’n werth £1 miliwn, yn Llys Binwyddyn, yr Wyddgrug, nawr yn llawn, a hefyd yn yr Wyddgrug, mae cwmni Anwyl newydd ddechrau gweithio ar ein cynllun gofal ychwanegol a dementia yn Llys Jasmine, sy’n werth £8.5 miliwn. Sir Ddinbych: Rydym wedi dechrau gweithio ar ein safle newydd yn Henllan, sy’n werth £1.05 miliwn, ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Bydd yr ail gam yn darparu tai fforddiadwy i deuluoedd lleol. Rydym yn brysur ym Mhowys gan ein bod ni newydd gwblhau adeiladu 26 cartref newydd yng nghanol tref Aberhonddu, fel y gwelir yn y llun, ac mae 16 cartref arall yn cael eu hadeiladu yn Llanfaes ar hyn o bryd, gyda chynlluniau i godi 8 cartref arall yn Llanbedr. Merthyr Tudful: Merthyr Tudful: Yn amodol ar ganfyddiadau adolygiad barnwrol, yn 2012 bwriedir dechrau ailddatblygu’r adeilad rhestredig Gradd 2,

Y preswylwyr newydd Emily Penpraze a Robert Ogrodnik gydag allweddau eu cartrefi newydd, gydag Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWHA (ar y dde) a Terry Flynn, Swyddog Tai Fforddiadwy, Cyngor Sir Powys. Vulcan House, wrth ymyl Brewery Court a Brewery Mews (gweler tudalen 5). Rydym wedi cael caniatâd cynllunio. Prosiectau eraill sydd ar y gweill: 20 tˆ y ym Mhencoedtre Farm, y Barri; Cam 2 Coed Castell, yn cynnwys 23 tˆ y a fflat ym Mhen-y-bont ar Ogwr; Pen Morfa, Conwy, 12 tˆ y newydd; Severnside Yard, y Drenewydd, Powys, hyd at 50 rhandy, gan gynnwys llety er ymddeol; dau gynllun newydd yn Sir Ddinbych gan gynnwys llety i bobl ag anableddau dysgu; 30 uned yn Cogan, ym Mro Morgannwg; 18 tˆ y yng ngorllewin Caerdydd; a 60 tˆ y a fflat yng Nglan y Don Sir y Fflint. Mae cyfyngiadau ar gyllid grant i gynorthwyo â datblygu tai cymdeithasol newydd, ond mae WWHA wedi llwyddo i sicrhau cyllid i helpu i ddatblygu ystod o gyfleoedd tai drwy Gymru gyfan.

Newydd - ‘Rhoi cynnig arni cyn prynu’ Mae WWHA yn prynu 16 cartref newydd sbon gan Barratt Homes ym Mharc Tyn y Coed, Pen-y-bont ar Ogwr, fel rhan o gynllun RHOI CYNNIG ARNI CYN PRYNU y Gymdeithas. Cafodd y chwe rhandy dwy ystafell wely cyntaf eu cwblhau ym mis Hydref, a bydd 6 rhandy dwy ystafell wely arall, ynghyd â dau randy un ystafell wely a dau dˆ y pedair ystafell 6

wely, ar gael yn y Flwyddyn Newydd. Mae’r cynllun yn ceisio helpu pobl i fynd ar yr ysgol eiddo drwy gynnig cartrefi ar rent sy’n is na’r farchnad breifat. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r preswylwyr arbed arian tuag at flaendal i brynu’r cartref. Am fanylion a’r meini prawf cymhwyster, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ein Tîm Dewisiadau Tai ar 0800 052 2526.

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Arwain y ffordd gydag arferion da Partneriaethau WWHA yn fuddugol yn y Gwobrwyau Hyrwyddo Annibyniaeth Rydym yn dathlu ein cyfraniad at ddau gynnig buddugol yng Ngwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth eleni. Mae Swyddog Cyngor ar Arian WWHA, Les Cooper, yn cadeirio Fforwm Cynhwysiant Ariannol Gogledd Cymru (saith cymdeithas tai sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru, yn cael eu cefnogi gan Hyrwyddwr Cynhwysiant Ariannol Canolfan Cydweithredol Cymru) a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu DVD gwobredig i hyrwyddo llythrennedd ariannol i breswylwyr. Mae’r Fforwm wedi ennill Gwobr Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth 2011 y Gwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth.

Cafodd WWHA lwyddiant arall yng Ngwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth Cymorth Cymru, y tro hwn ar y cyd â Thîm Cefnogi Pobl Cyngor Sir Powys, Tîm Digartrefedd a Dewisiadau Tai Powys a Cefni Lettings (rhan o Agorfa) – gweler y llun uchod. Enillodd y bartneriaeth hon Wobr Comisiynu Da 2011 am brosiect Stoneleigh Manor yn Aberhonddu, sy’n darparu llety fforddiadwy o’r radd flaenaf i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn yr ardal. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr WWHA: “Rydw i wrth fy modd fod y ddau brosiect llwyddiannus iawn hyn wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Hyrwyddo Annibyniaeth 2011. Rydw i’n falch iawn o bawb ohonyn nhw.”

Anrhydedd i Sydney Hall Court am groesawu anifeiliaid Aeth Robert Holmes, Rheolwr Cynllun Sydney Hall Court, Cei Connah, i ddigwyddiad cartrefi gofal / cartrefi er ymddeol sy’n croesawu anifeiliaid anwes y Cinnamon Trust yng nghanol Llundain ddydd Mercher 12 Hydref gyda’r Rheolwr Tai Anne Caloe. Roedd Sydney Hall Court yn un o bum cynllun er ymddeol a gafodd le ar restr fer y wobr i gynlluniau sy’n rhoi’r croeso mwyaf i anifeiliaid anwes yn y Deyrnas Unedig.

I gydnabod ei lwyddiant yn Sydney Hall Court, cyflwynwyd tystysgrif i Rob gan y cyflwynydd teledu Pam Rhodes ac Averil Jarvis MBE, sylfaenydd y Cinnamon Trust, ynghyd â siec am £250 i’w wario ar brosiectau yn ymwneud ag anifeiliaid anwes yn y cynllun. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.cinnamon.org.uk Rydym yn garedig iawn at deuluoedd! Mae WWHA hefyd wedi cael ein henwi fel un o’r cwmnïau mwyaf cyfeillgar at deuluoedd yn y Deyrnas Unedig. Mae Working Families, y gr w ˆp sy’n ymgyrchu dros gydbwysedd gwell rhwng gwaith a bywyd hamdden, wedi rhoi WWHA ymysg 30 cyflogwr gorau’r Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â chwmnïau blaenllaw fel Dell Corporation, Deutsche Bank, McDonalds a Sainsbury’s. Ewch i www.wwha.net/ NewsandPublicity/LatestNews am ragor o wybodaeth. www.wwha.net

7


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Y diweddaraf am baneli solar Fel y byddwch wedi darllen yn rhifynnau blaenorol In Touch, roeddem wedi dechrau ar brosiect mawr i osod paneli solar PV ar doeau addas oedd yn wynebu’r de. Yn anffodus, am resymau y tu hwnt i’n rheolaeth, rydym wedi gorfod oedi’r prosiect hwn. Y bwriad oedd y byddai cyllidwr y prosiect hwn yn cael ei ad-dalu dros amser gydag arian wedi ei warantu gan y llywodraeth, a oedd yn cael ei alw’n tariff cyflenwi trydan, ar gyfer pob uned o drydan a gynhyrchwyd. Roedd ein cynlluniau yn seiliedig ar gyfradd y tariff cyflenwi trydan yr oeddem yn ei ddisgwyl ar gyfer systemau a osodwyd cyn 31 Mawrth 2012. Er hynny, ar ddiwedd Hydref 2011, dechreuodd y Llywodraeth ar broses ymgynghori a oedd yn cynnwys cynnig i dorri’r tariff cyflenwi trydan a oedd yn daladwy i lai na hanner y swm blaenorol, ar gyfer unrhyw baneli a osodwyd ar ôl 11 Rhagfyr 2011. Efallai eich bod chi wedi gweld a chlywed adroddiadau yn y cyfryngau am hyn.

Roedd amseru’r cyhoeddiad hwn, gwta chwe wythnos cyn y dyddiad cau newydd, mor ddirybudd fel nad oedd yn bosibl gosod yr un system cyn y dyddiad hwnnw. Mae’r cwymp arfaethedig yng nghyfradd y tariff cyflenwi trydan mor fawr fel na all y cyllidwr barhau â’r prosiect hwn yn y modd yr oedd yn bwriadu ei wneud. Rydym yn un o ddwsinau, os nad cannoedd, o ddarparwyr tai cymdeithasol drwy’r Deyrnas Unedig gyfan sydd wedi cael eu heffeithio’n anffafriol gan yr ymgynghoriad hwn a’i oblygiadau. Er bod protestiadau a heriau cyfreithiol yn parhau, nid ydym yn gwybod eto a fyddan nhw’n cael unrhyw effaith. Unwaith y byddwn yn gwybod beth fydd yn digwydd, byddwn yn adolygu ein dewisiadau o ran y prosiect hwn a rhai tebyg iddo.

Y Gweinidog Cyllid yn ymweld â chynlluniau Dyma un o breswylwyr WWHA, Anne Dixon, o Laneirwg, Caerdydd, yn dangos ei hystafell ymolchi newydd wedi ei haddasu i’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Gweinidog Cyllid ymweld ag Anne a’i g w ˆ r Brian i ddysgu rhagor am arferion da o ran gwneud y defnydd gorau o’r grant addasiadau corfforol. Yn ddiweddar, bu’r Gweinidog hefyd ar ymweliad â’n cynllun er ymddeol yn Nhˆ y Pontrhun, Merthyr Tudful, fel rhan o ail ymgyrch canfod ffeithiau am waith arloesol WWHA gyda phartneriaid fel Connect Merthyr a Cymunedau 2.0 i wneud technoleg ddigidol yn hygyrch i bawb. Am ragor o wybodaeth am gynhwysiant digidol, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. 8

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Helpwch ni i’ch helpu chi Mae Cyfranogiad preswylwyr yn golygu defnyddio eich safbwyntiau i wella ein gwasanaethau a’ch cymuned, ac rydym newydd ddiweddaru ein strategaeth i wneud hyn (gweler tudalennau 19 – 21). Mae ei strategaeth newydd ar Gyfranogiad Preswylwyr yn amlinellu sut rydym yn gwrando arnoch chi i sicrhau fod ein gwasanaethau yn gweddu i’ch anghenion, ac yn sefydlu sut gallwn ni gydweithio i wella lle’r ydych chi’n byw, meddai Claire Hammond, y Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr. Rydym wedi diweddaru’r ffyrdd y gallwch gymryd rhan, yn seiliedig ar yr hyn rydych wedi ei ddweud wrthym. Fe wnaethom siarad gyda nifer ohonoch a oedd eisoes yn cymryd rhan, a gofyn sut gallem wella’r ffyrdd rydych yn gallu eu defnyddio i gymryd rhan. Nid ydym wedi creu dewisiadau newydd, ond rydym wedi eu gwella, yn seiliedig ar yr hyn ddywedoch chi. Fe gafodd yr holl breswylwyr gyfle i ddweud beth oeddech chi’n ei feddwl o Gyfranogiad Preswylwyr mewn arolwg a gyhoeddwyd yn un o rifynnau blaenorol y cylchgrawn hwn. Fe wnaethom hefyd glywed safbwyntiau bron i 1,000 o breswylwyr drwy ein Harolwg o Fodlonrwydd Preswylwyr. Roedd dros 71% (593) o’r rhai a ymatebodd yn teimlo ein bod ni’n ystyried eich safbwyntiau, a dywedodd 55% (526) ohonoch nad ydych yn cymryd rhan gan eich bod yn fodlon â’r gwasanaeth rydych yn ei gael. Ond rydym eisiau clywed hyd yn oed mwy o’ch safbwyntiau – y da a’r drwg – felly rydym yn mynd i’w gwneud hi’n haws i chi gysylltu, ac rydym yn gwella sut rydym yn ymdrin â’ch cwynion. Rydym hefyd eisiau gwella’r ffordd rydym yn dweud wrthych sut rydym wedi defnyddio eich safbwyntiau i wneud gwelliannau. Rydym hefyd yn newid y ffordd rydym yn datblygu Cynlluniau Gwella Ardaloedd, sy’n dod â phenderfyniadau i lefel leol, fel eich bod chi’n gallu gweld sut rydym wedi gwella eich stad neu eich cynllun, yn seiliedig ar yr hyn ddywedoch chi.

Claire Hammond Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr Roedd dros 81% (759) ohonoch yn teimlo ein bod yn rhai da am roi gwybod i chi am bethau sy’n effeithio arnoch chi fel preswyliwr. Mae hynny’n ganlyniad da, ond rydym eisiau gwneud yn well byth drwy ofyn i chi pa wybodaeth rydych ei eisiau gennym ni, a thrwy ba ddull rydych eisiau i ni ei roi i chi – a hynny ynghylch materion lleol a rhai’r Gymdeithas yn gyffredinol. Mae’r crynodeb o’n strategaeth (gweler tudalennau 19 i 21) yn dangos i chi sut rydym yn gweithio i roi lle canolog i chi yn ein gwaith, a sut gallwn eich cefnogi, eich annog a’ch helpu i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n gweddu i chi. Os yw hyn wedi codi awydd arnoch i gymryd rhan, cysylltwch â ni, a byddem yn barod iawn i drafod y manylion gyda chi. www.wwha.net

9


Cynhwysiant Digidol

Eich helpu i gysylltu yng Ngogledd Cymru Fyddech chi’n hoffi arbed arian? Neu gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’ch teulu? Neu beth am ddysgu rhagor am gyfrifiaduron? Os felly, mae Take Ctrl yn berffaith i chi! Jen Bailey ydw i, a fi yw cydlynydd prosiect newydd a chyffrous o’r enwTake Ctrl. Bwriad Take Ctrl yw dod â gwasanaethau a chyfleoedd i chi a’ch cymuned leol yng ngogledd Cymru, nad oeddech o bosibl wedi cael cyfle i’w defnyddio neu eu profi o’r blaen. Yn fras, mae’n ymwneud â dod â thechnoleg ddigidol, gan gynnwys cyfrifiaduron a ffonau clyfar, i’ch bywyd, a’ch helpu i ddefnyddio’r rhain i gael mynediad at wasanaethau a allai fod o fudd i chi. Fe allech chi arbed arian ar hyd y ffordd, hyd yn oed! Efallai y byddwch eisiau dysgu sut i ddefnyddio technoleg i’ch helpu i dynnu lluniau gwych, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a’ch teulu o amgylch y byd, olrhain hanes eich teulu, sefydlu a defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein, neu ddod o hyd i’r fargen orau (e.e. dod o hyd i brisiau is am eich cyfleustodau).

Mae cyfrifiaduron hyd yn oed yn gallu eich helpu chi i ddod o hyd i waith – drwy eich helpu i lunio CVs gwych, chwilio am waith, a llawer, llawer mwy! Felly, os oes gennych UNRHYW syniadau am gyrsiau a fyddai’n ddefnyddiol i chi, cysylltwch â mi, gan y byddwn wrth fy modd yn clywed gennych chi! Gallwch gysylltu â mi ar 07972 225358 Neu, os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am Take Ctrl gallwch fynd i’n tudalen facebook swyddogol - facebook.com/TakeCtrlNorthWales; gallwch ein dilyn ni ar Twitter @take_ ctrl, mynd i’n gwefan takectrl.org neu gysylltu â’ch swyddog tai, a fydd yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi. Edrychaf ymlaen at glywed gennych yn fuan!

10

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Cynhwysiant Digidol

Cael blas ar dechnoleg yn ystod wythnos T[e]G a bisgedi Ym mis Medi, cynhaliwyd digwyddiad T[e]G a bisgedi yng nghynllun er ymddeol Llys Faen ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ystod eu dosbarth wythnosol i rai sy’n ceisio colli pwysau. Ynghyd â’r hyfforddwr colli pwysiau, Marie, fe wnaeth John o Gymunedau 2.0 ddangos gwefan newydd i’r gr w ˆ p, sydd wedi cael ei dylunio i helpu pobl i gadw cofnod o’u pwysau, mesur calorïau, dod o hyd i ryseitiau iach a chael ysbrydoliaeth i ddal ati. Gyda’r mwyafrif o’r rhai sy’n ceisio colli pwysau heb ddefnyddio llawer o TG, fe wnaeth y sesiwn amlygu perthnasedd y rhyngrwyd a sut mae dysgu ei ddefnyddio yn gallu eich helpu chi i gadw eich bys ar y pwls, dod o hyd i wybodaeth, cysylltu â phobl eraill a chyrraedd eich amcanion. Roedd un o drigolion Llys Faen, Janet, yn awyddus i ddysgu sut i ddefnyddio ei chamera digidol heb orfod gofyn i’w gw ˆ r neu aelodau eraill o’i theulu am help. Rhoddodd gwirfoddolwr TG help iddi gam wrth gam ar sut i ddefnyddio nodweddion gwahanol y camera. A hithau’n fodlon ei bod hi wedi meistroli’r pethau sylfaenol, dywedodd “Nawr, rydw i angen gwybod sut i dorri a gludo yn Microsoft Word a chadw rhifau fy nghyfeillion ar fy ffôn symudol!”

Janet James gyda gliniadur, ffôn symudol a chamera digidol wrth ei hymyl, yn siarad gyda Jackie Wenham o Age UK ynghylch sut dechreuodd hi ar ei thaith ddigidol. Felly, beth yw’r cam nesaf i Janet? “Facebook”, meddai, “oherwydd mae pawb yn sôn amdano!” Roedd tua hanner y rhai a ddaeth yno eisiau dysgu rhagor – a gyda WWHA yn cynnal rhaglenni peilot i dreialu mynediad cyflymder uchel at y rhyngrwyd i breswylwyr, megis dechrau y mae pethau o ddifrif! Mae’r gwaith paratoi a chydweithio a arweiniodd at wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant yn amlygu ein hymroddiad a’n brwdfrydedd dros gynnwys pobl hˆ yn o ddifrif yn yr oes ddigidol yng Nghymru.

T[e]G a bisgedi yn Nhˆ y Gwaunfarren, hefyd Fe wnaeth prosiect Connect hefyd gynnal digwyddiad T[e]G a bisgedi yn Nhˆ y Gwaunfarren, ein cynllun er ymddeol yn y Gurnos, ar 29 Medi. “Daeth nifer dda i’r sesiwn, a’r thema oedd Sut i ddefnyddio eich rheolydd o bell Sky,” meddai Alison Chaplin, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau WWHA ym Merthyr Tudful. “Fe wnaethom hefyd fanteisio ar y cyfle i holi’r rhai a oedd yno pa sesiynau eraill fyddai o ddiddordeb iddyn nhw”, meddai Laura Howe, cydlynydd y prosiect. Yn flaenorol, roedd prosiect Connect wedi cynnal

sesiynau yn Nhˆ y Gwaunfarren yn seiliedig ar raglen First Click y BBC. Nod y rhaglen hon oedd cyflwyno preswylwyr hˆ yn i fuddiannau mynediad at y rhyngrwyd, ac mae Roy Noble wedi hyrwyddo’r prosiect ar orsaf BBC Radio 2. Am ragor o wybodaeth ynghylch ein prosiectau cynhwysiant digidol, ewch i’n gwefan www.wwha.net neu ffoniwch ni ar 0800 052 2526. www.wwha.net

11


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Cadwch eich cartref rhag lleithder a llwydni y gaeaf hwn I ganlyn y gaeaf a’r tywydd oer, daw cynnydd yn nifer y preswylwyr sy’n gofyn am gyngor ynghylch beth i’w wneud gydag anwedd a llwydni yn eu cartrefi, fel yr ysgrifenna Robin Alldred, y Rheolwr Masnachol. Nid yw’n gyd-ddigwyddiad fod hyn yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn o’r flwyddyn, ac mae’n gallu effeithio ar bawb ohonom. Felly, beth sy’n ei achosi a beth allwn ni ei wneud ynghylch y mater? Mae rhywfaint o leithder yn yr aer bob amser, hyd yn oed os nad ydych yn gallu ei weld. Os yw’r aer yn oeri nid yw’n gallu dal yr holl leithder, ac mae diferion bach iawn o dd w ˆ r yn ymddangos. Anwedd yw hyn. Rydych yn sylwi arno pan welwch eich anadl ar ddiwrnod oer, neu pan fydd y drych yn cymylu wrth i chi gael bath. Mae anwedd yn digwydd yn bennaf pan fydd y tywydd yn oer, pa un ai a yw hi’n bwrw glaw neu’n sych. Mae’n ymddangos ar arwynebau oer ac mewn mannau lle nad yw’r aer yn symud llawer. Chwiliwch amdano mewn corneli, ar ffenestri neu wrth eu hymyl, mewn cypyrddau dillad a chypyrddau eraill neu’r tu ôl iddyn nhw. Mae’n ymffurfio’n aml ar waliau sy’n wynebu’r gogledd. Mae’r teulu arferol yn cynhyrchu 112 peint o anwedd d w ˆ r bob wythnos, ac mae’n rhaid i’r holl dd w ˆ r fynd i rywle! Mae sborau llwydni bob amser yn yr awyr; maen nhw’n ficrosgopig ac yn dechrau tyfu pan fyddan nhw’n cyffwrdd ag arwynebau llaith a llwch – sy’n ffynhonnell fwyd i’r sborau. Mae tyfiant llwydni i’w weld fel smotiau du mewn mannau lle ceir lleithder – hyd yn oed y tu mewn i gistiau o ddroriau 12

a chypyrddau dillad, ac yn enwedig o amgylch gwaelod cawodydd. Beth allaf ei wneud i ddatrys y broblem? •S ychwch ffenestri a’u siliau yn y bore. Gwasgwch y lliain yn hytrach na’i sychu ar reiddiadur. •G orchuddiwch sosbenni a pheidiwch â gadael i degellau ferwi’n hir. •S ychwch ddillad y tu allan ar lein ddillad, neu yn yr ystafell ymolchi gyda ffenestr ar agor a’r drws wedi ei gau. •S icrhewch fod gan beiriannau sychu dillad awyrell y tu allan. •A wyrwch y tˆ y. Cadwch ffenestr yn gilagored neu awyrydd araf ar agor os oes rhywun yn yr ystafell. •C aewch ddrysau’r gegin a’r ystafell ymolchi rhag i leithder ledaenu. •C adwch ffenestr yn gilagored pan fyddwch yn cysgu. •E wch ati i drin unrhyw smotiau llwydni sydd yn eich cartref. Gellir prynu pethau i gael gwared ar lwydni yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd. •A r ôl eu trin, ailaddurnwch gan ddefnyddio paent gwrth-ffyngau. •E wch â dillad sydd â llwydni arnyn nhw i’w sychlanhau, a golchwch garpedi â siampˆ w. Ni fydd llwydni’n diflannu ar ei ben ei hun, felly mae’n bwysig iawn eich bod yn ymwybodol o’r camau sydd angen eu cymryd i’w rwystro a’i reoli.

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Newyddion a Gwybodaeth Gyffredinol am WWHA

Cynnal a chadw wedi’i gynllunio 2012 Dyma’r cynlluniau rydym yn bwriadu eu huwchraddio rhwng Ionawr a Mawrth 2012 fel rhan o’n rhaglen barhaus i gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru. Fe wnawn ni ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pryd fydd y cyfarfodydd ymgynghori yn cael eu cynnal, fel y gallwch ddewis eich lliwiau, lle bo’n briodol, a hefyd holi unrhyw gwestiwn a allai fod gennych ynghylch yr uwchraddio.

• Thornton Close, y Rhyl • Sudbury Close, y Rhyl • Haddon Close, y Rhyl • Plas Foryd, Bae Cinmel • Clos yr Ardd, Rhiwbeina • Hope Court, Caerdydd • Heol Aneurin Bevan, Rhymni • Limebourne Court, Caerdydd Ceginau • Rhiw Cae Mawr, Pen-y-bont ar Ogwr • Maes Hyfryd, Wrecsam • Rhiw Tremaen, Pen-y-bont ar Ogwr • Station Court, Wrecsam • Glan yr Afon Court, Maesteg • Carling Court, Caerdydd • Rowan Court, Caerdydd • Greyfriars Court, Pen-y-bont ar Ogwr • Hanover Court, y Barri • Bryn Bragl, Pen-y-bont ar Ogwr • Moorland Court, Caerdydd • Heol y Ffynnon, Aberhonddu Os oes gennych chi unrhyw Ystafelloedd ymolchi sylwadau neu adborth, cysylltwch • Marsh Road, y Rhyl â ni ar 0800 052 2526. • Chatsworth Road, y Rhyl

“Mae fy nghegin wedi cael ei thrawsnewid yn llwyr!” “Ni allaf gyfleu mewn geiriau pa mor fodlon ydw i gyda’m cegin newydd; fe wnaethon nhw newid y cypyrddau, teils, llawr, sinc a’r golau am rai newydd, ynghyd â phaentio’r waliau. Mae’r cyfan wedi newid yn llwyr” meddai Nicola Tweedie o Netley Road yn y Rhyl, Sir Ddinbych. “Nid oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth. Fe wnaethon nhw godi’r llawr a’i lefelu. Fe wnaethon nhw symud fy mheiriannau trwm i gyd. Nid oedd yn rhaid i mi wneud unrhyw beth. Roedd safon y gwaith yn rhagorol, ac fe wnaethon nhw’n si w ˆ r fod y cyfan wedi cael ei wneud yn iawn. Fe wnaethon nhw weithio’n galed ac roedden nhw’n gyfeillgar iawn, ac roeddwn i’n teimlo y gallwn eu gadael ar eu pen eu hunain ac ymddiried yn llwyr ynddyn nhw. Ni allwn fod wedi gofyn am well criw o hogiau. Mi fyddwn i’n hoffi diolch iddyn nhw, oherwydd maen nhw wedi newid fy mywyd er gwell.” “Daeth y fforman draw ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau i holi a oeddwn i’n fodlon gyda’r gwaith ac a oeddwn i’n

fodlon gyda’r cyfan.” “Nawr, rydw i’n mwynhau fy nghegin yn fawr, mae fy ffrindiau’n galw’n aml ac yn mwynhau eistedd yma i sgwrsio. Mae’n rhyfeddol gallu eistedd yn y gegin gyda’r bwrdd a’r cadeiriau newydd a brynodd fy mam i mi. Rydw i nawr yn mwynhau coginio, ac mae’r gegin wedi cael ei gweddnewid yn llwyr.”

www.wwha.net

13


Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni

Cefnogi pobl sydd eisiau dychwelyd i weithio Yn y dyddiau caletach sydd ohoni’n economaidd, mae dod o hyd i swydd a dal gafael arni ar feddwl nifer fawr ohonom, fel yr ysgrifenna Bridget Garrod, Rheolwr Mentrau Cymdogaethau. Drwy gydweithio gyda’n contractwyr a phobl eraill, rydym wedi darparu gwaith a hyfforddiant i bobl yn nifer o’r cymunedau lle rydym yn gweithio ers nifer o flynyddoedd. Ar sail eich adborth, rydym yn gwybod fod gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am hyn. Felly, dyma grynodeb o’r hyn rydym wedi ei wneud hyd yn hyn. Cyllid Arbed Cawsom grantiau gan Lywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi cymwys dan gynllun Arbed 1. O ganlyniad i gynhyrchu rhagor o waith i gontractwyr, roedden nhw yn eu tro yn gallu cynnal naw swydd ychwanegol. Prosiectau JobMatch Mae Mark Evans a Donna Samuel, y ddau o Faesteg, wedi sicrhau swyddi parhaol gyda WWHA diolch i JobMatch Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Mark, sy’n 49 oed, nawr yn Arolygydd Safle, tra bod Donna, sy’n 43 oed, yn gweithio yng Nghanolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid y Gymdeithas, sy’n agored 24 awr y dydd. Dywedodd Donna: “Mae mynd yn ôl i weithio wedi rhoi boddhad mawr i mi, ac mae fy hyder wedi cynyddu’n fawr. Rwyf wedi gwneud ffrindiau hirdymor yn WWHA, ac mae’r swydd wedi fy ngalluogi i wneud gwahaniaeth i eraill. Mae’n wych!” Bu WWHA yn cydweithio â JobMatch Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi Mark a Donna ar raglenni Llwybrau Cyflogaeth, sy’n helpu pobl sydd wedi bod yn ddiwaith ers cyfnod hir i ddod o hyd i waith. Prentisiaethau a lleoliadau i hyfforddeion Mae ein contractwyr atgyweirio, paentio 14

Donna Samuel yn mwynhau ei gwaith yn y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ac addurno a glanhau ffenestri i gyd wedi cefnogi prentisiaethau, lleoliadau i hyfforddeion a hyfforddiant ychwanegol o ganlyniad i’r gwaith rydym yn eu comisiynu nhw i’w wneud i gadw eich cartrefi mewn cyflwr da. Prosiect Connect Merthyr Mae mwy a mwy o wasanaethau, gan gynnwys budd-daliadau lles, yn mynd ar-lein, a gydag amcangyfrifon yn awgrymu bod 900,000 o oedolion wedi’u hallgau’n ddigidol – mewn geiriau eraill, yn methu prynu nwyddau na chael mynediad at wasanaethau

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni a gwybodaeth ar-lein – mae prosiect Cynhwysiant Digidol Connect ym Merthyr yn helpu pobl i ddefnyddio technoleg ddigidol. Pobl sy’n ddiwaith neu’n sâl ers cyfnod hir yw un o’r grwpiau sy’n cael eu targedu gan y prosiect hwn, ac rydym yn un o’i bartneriaid. Mae sesiynau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, lle bydd rhai sy’n chwilio am waith yn gallu galw draw a chael cymorth i chwilio am swyddi, llenwi ceisiadau swydd a llunio CVs ar-lein, a chael mynediad at gyrsiau Learndirect, sy’n ceisio cynyddu sgiliau pobl mewn amrywiaeth o feysydd.

pobl sy’n gweithio, mae dod o hyd i’r arian i dalu biliau yn ddigon anodd, ac i’r rhai sy’n gweithio mae’n fwy byth o her. Drwy ein strategaeth cynhwysiant ariannol, mae ein nod yn syml – cynorthwyo pobl i wneud yn fawr o’u hincwm. Felly rydym yn ystyried sut gallwn ni wneud mwy i helpu rhagor o bobl i gael gwaith neu eu helpu i fod yn barod i weithio drwy hyfforddiant a lleoliadau gwaith.

Beth rydym yn bwriadu ei wneud: Rydym yn gweithio gyda Jobmatch i hyfforddi dau Ymgynghorydd Ynni Meithrinfa Gymunedol Llaneirwg ymroddedig sy’n gallu lledaenu’r gair Mae anhawster wrth geisio trefnu gofal ymysg preswylwyr am sut i gael y plant yn rhwystr mawr i bobl sydd eisiau fargen orau ar eu biliau tanwydd a hyfforddi er mwyn dod o hyd i waith. lleihau costau. Mae Meithrinfa Gymunedol Llaneirwg Rydym hefyd yn siarad gyda’n yng Nghaerdydd yn cynnig gofal plant partneriaid, sy’n gosod ffenestri fforddiadwy i rieni sydd eisiau mynd ar newydd, ystafelloedd ymolchi a gyrsiau hyfforddi neu addysgol. Mae’r cheginau, sy’n darparu gwasanaethau feithrinfa yn cael ei rhedeg fel elusen, ac rydym yn cyfrannu swm blynyddol ac paentio ac addurno ac atgyweiriadau yn eich cartrefi, gan eu holi sut mae’r amser ein staff i gefnogi’r gwasanaeth contractau i wneud y gwaith hwn yn cymunedol gwerthfawr hwn. gallu cynhyrchu swyddi a lleoliadau Dr Bike gwaith yn ein cymunedau. Dyma brosiect sy’n annog pobl i ddysgu Rydym yn bwriadu cefnogi ein am faterion elfennol cynnal a chadw contractwyr a’n cyflenwyr i greu beiciau, ac mae’n ceisio recriwtio prentisiaethau mewn gwaith trydanol pedwar o bobl i gymryd rhagor o ran a a gosod ffenestri. chael cymhwyster lefel 2 y Rhwydwaith Rydym hefyd yn ceisio creu lleoliadau Coleg Agored mewn cynnal a chadw gwaith mewn partneriaeth â’r Ganolfan beiciau. Rydym yn cefnogi’r prosiect Byd Gwaith a thrwy Raglen Waith yr hwn drwy wneud ceisiadau am gyllid Adran Gwaith a Phensiynau. Ac rydym a chynorthwyo i sicrhau fod y prosiect yn bwriadu archwilio pa gyfleoedd yn cwrdd â’r gofynion cyllido. newydd am swyddi y gallwn eu creu drwy feysydd newydd yn y diwydiant Hyfforddiant ailgylchu. Mae nifer o’n preswylwyr wedi ymgymryd â hyfforddiant fel rhan o Pan rydym yn adeiladu cartrefi newydd, grwpiau maen nhw’n ymwneud â nhw. rydym yn disgwyl i’n contractwyr Rydym yn cefnogi preswylwyr sy’n ddefnyddio llafur a chyflenwyr lleol rhan o grwpiau cydnabyddedig i gael a fydd yn sbarduno ac yn cefnogi’r hyfforddiant a meithrin hyder a sgiliau economi leol. a allai eu helpu i ddod o hyd i waith. Bydd preswylwyr yn gallu cael hyfforddiant sy’n cefnogi eu hawydd Felly, beth nesaf? i gymryd rhan, ond ar yr un pryd yn Mae mwy a mwy o bobl yn dod atom ennill credydau y gellid eu cronni i gael gan eu bod yn cael anhawster talu eu cymwysterau cydnabyddedig. rhent a biliau eraill y cartref. Yn achos www.wwha.net

15


Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni

Felly, pwy sy’n gwneud beth? Rydych wedi gofyn i ni am ragor o wybodaeth am swyddi a chyfrifoldebau amrywiol yn WWHA. Felly dyma ein herthygl gyntaf ar yr union bwnc hwnnw – pwy sy’n gwneud beth? Rydym yn rhoi sylw i bedair swydd y tro hwn: Rheolwr Cynllun (tai rhent), Swyddog Tai, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau ac Arolygydd Safle.

Swyddog Tai Mae ein Swyddogion Tai wedi eu lleoli mewn swyddfeydd amrywiol, ond maen nhw’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser gyda phreswylwyr ac yn y cymunedau lle mae eu cynlluniau. Rheolwr Cynllun – tai rhent Bydd Rheolwyr Cynllun yn ein cynlluniau Fe fyddan nhw’n gweithio naill ai yn ein cynlluniau anghenion cyffredinol neu yn rhent yn aml yn dweud wrthych nad ein cynlluniau er ymddeol, ac fe fyddan oes dau ddiwrnod yr un fath â’i gilydd, ond mae lefel y gwasanaeth sy’n cael ei nhw’n gyfrifol am reoli rheolwyr cynllun. ddarparu yn gyson ac yn cael ei deilwra Er enghraifft, bydd eich Swyddog Tai yn: i ateb eich anghenion unigol. • Darparu gwasanaethau rheng flaen Er enghraifft, bydd rheolwr cynllun yn: rhagorol i gwsmeriaid fel unigolyn a • Ymwybodol o les dyddiol yr holl thrwy dîm o Reolwyr Cynllun. breswylwyr, yn sicrhau fod cynlluniau • Gweithio gyda phreswylwyr i’ch helpu gofal yn cael eu cwblhau, a bod i gynnal eich tenantiaeth drwy gael unrhyw gamau a nodwyd yn cael cymorth, darparu cyngor ar fuddeu gweithredu, ynghyd ag ateb a daliadau a chyfleoedd i gymryd rhan delio â galwadau brys fel bo’r angen. yn eich cymunedau. • Darparu gwasanaeth rheoli • Darparu gwasanaeth rheoli ystadau tenantiaethau effeithiol, gan gynnwys effeithiol, gan sicrhau fod amodau delio â chyfrifon rhent, ymddygiad tenantiaethau’n cael eu cynnal, ac gwrthgymdeithasol lefel isel ac fe wnawn ni gysylltu ac ymgynghori unrhyw fater sydd yn eich cytundeb â phreswylwyr ar faterion sy’n tenantiaeth. effeithio arnoch chi, ynghyd â chynnig • Bod yn gyfrifol am adolygu a cyngor ar y materion hyn. monitro rhestrau aros, a chynnig • Monitro rhestrau aros a chynnig tenantiaethau i breswylwyr posibl. tenantiaethau yn unol â’r drefn y Fe fyddan nhw hefyd yn cynnig cyngor cytunwyd arni ac a sefydlwyd, monitro ar fudd-daliadau tai a lles. cyfrifon rhent i weld fod rhenti a • Hwyluso trefnu gweithgareddau yn thaliadau gwasanaeth yn cael eu talu, ôl gofynion y preswylwyr, a chwarae rheoli ôl-ddyledion a darparu cyngor i rhan weithgar yn y gwaith o hyrwyddo breswylwyr ar fudd-daliadau tai a lles. cyfranogiad preswylwyr, ynghyd â • Chwarae rhan weithredol gyda staff a rhoi’r grym iddyn nhw wneud pethau. phreswylwyr eraill yn strategaethau’r • Ymgymryd â gweithgareddau a Gymdeithas ar gyfranogiad chyfleoedd marchnata ar ran y preswylwyr a datblygu cymunedau. cynllun. Sicrhau safon uchel o gynnal a chadw yn yr adeiladau a’r tir o’u Swyddog Prosiect Datblygu hamgylch, a sicrhau bod y gwiriadau Cymunedau a’r archwiliadau gofynnol yn cael eu Mae ein tri Swyddog Prosiect Datblygu gwneud yn unol â’r drefn a gofynion Cymunedau yn treulio’r rhan fwyaf o’u Iechyd a Diogelwch. hamser gyda phreswylwyr ac yn 16

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni

Herman Valentin, Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedau, yn diddanu pobl ifanc yn Niwrnod Hwyl Sblot 2011. y cymunedau lle maen nhw’n gweithio. Maen nhw’n ymdrin â’n cynlluniau anghenion cyffredinol a’n llety er ymddeol. Mae’r Swyddogion hyn yn gyfrifol am ddatblygu a chefnogi prosiectau sydd ar themâu craidd y Gymdeithas ar Ddatblygu Cymunedau: • Cynaladwyedd tenantiaethau • Cynhwysiant ariannol • Rhoi sylw i anghenion pobl iau Mae’r prosiectau y mae’r swyddogion yn gweithio arnyn nhw yn helpu i ddatblygu a chefnogi cymunedau i gwrdd ag anghenion lleol. Maen nhw hefyd yn cysylltu â chyflawni blaenoriaethau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. Mae prosiectau gan amlaf yn ateb galw penodol, ac yn cael eu nodi gan y Swyddogion eu hunain, gan staff eraill, gan breswylwyr neu gan sefydliadau partner rydym yn gweithio â nhw. Er enghraifft, mae’r Swyddogion yn aml yn cydweithio’n agos â Swyddogion

Tai ar amrywiaeth o faterion lleol, gan gynnwys cynlluniau gwella ardaloedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyfranogiad preswylwyr. Mae cysylltiadau agos rhwng Swyddogion Prosiect Datblygu Cymunedau a’n Swyddogion Cyngor Ariannol ar brosiectau sy’n ceisio lleihau tlodi tanwydd a gwella galluoedd ariannol, gan gynnwys cynyddu defnydd o dechnoleg ddigidol i arbed arian ynghyd â chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Mae’r Swyddogion hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o asiantaethau, ac maen nhw’n aelodau o fforymau amrywiol a phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf. Mae eu briff yn bellgyrhaeddol ac yn cynnwys iechyd a lles, addysg a dysgu gydol oes, ynghyd â materion yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.

www.wwha.net

17


Resident Participation Strategy

Felly, pwy sy’n gwneud beth?

parhad

Tony Eggington, Site Superintendent, looking after the communal grounds as part of his role. Arolygydd Safle Mae Arolygwyr Safle yn gyfrifol am gynnal a chadw safleoedd WWHA’ yn effeithiol ac effeithlon, ac yn atebol yn uniongyrchol i’n Swyddogion Rheoli Asedau. Ar safleoedd lle nad yw contractwyr wedi cael eu cyflogi: • Maen nhw’n sicrhau bod yr holl fannau cymunol mewnol ac allanol, ynghyd â’r mannau ysbwriel, yn cael eu cadw’n lân a heb ysbwriel. • Maen nhw’n cael eu hyfforddi i ddefnyddio peirianwaith amrywiol fel tractorau torri gwair a pheiriannau trwm torri gwair, tocwyr gwrychoedd, strimers a llifau cadwyn. • Mae ganddyn nhw’r cymwysterau i ddefnyddio pla laddwyr. • Mae ganddyn nhw’r cymwysterau i ddefnyddio pla laddwyr. • Maen nhw’n sicrhau: oB od yr holl dir glaswelltog yn cael ei gadw’n daclus. oN ad oes chwyn yn y borderi a’r gwelyau blodau. 18

oB od gwrychoedd a choed yn cael eu tocio / eu torri. • Cynnal mân atgyweiriadau i’n hadeiladau a’n cartrefi. • Cynnal gwiriadau ac atgyweiriadau i oleuadau cymunol allanol. • Cynnal gwiriadau statudol i offer tân fel larymau tân, larymau gwasgaredig, diffoddwyr tân a goleuadau argyfwng (gan gynnwys newid bylbiau). • Llenwi bocsys halen / graean a graeanu yn unol â pholisi’r Gymdeithas ar raeanu. Gan eu bod yn gweithio ar y safle ac yn gallu ymweld â safleoedd bob dydd, maen nhw’n gallu rhoi gwybod am faterion fel camddefnyddio cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon a cherbydau a adawyd. Gobeithiwn fod yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi. Os hoffech i ni ddweud wrthych chi am swyddi eraill yn WWHA mewn rhifynnau In Touch yn y dyfodol, anfonwch e-bost atom: info@wwha.co.uk neu ffoniwch ni ar 0800 052 2526.

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12

www.wwha.net


Strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr

Fyddech chi’n hoffi gwneud gwahaniaeth i’ch cymuned? Neu a ydych chi’n ysu i ddweud wrthym sut y gallwn wella? Darllenwch hyn... Mae ein strategaeth ddiwygiedig ar Gyfranogiad Preswylwyr yn egluro sut rydym yn gweithio i roi lle canolog i’n preswylwyr yn ein gwaith, a sut gallwn ni eich cefnogi, eich annog a’ch helpu i gymryd rhan mewn ffordd sy’n addas i chi. Rydym eisiau parhau i wella ein gwasanaethau, a gan eich bod yn defnyddio ein gwasanaethau bob dydd, pwy well i ddweud wrthym sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau, a sut gallwn ni wella?

Y Swyddog Prosiect Datblygu Cymunedol Vy Cochran yn trafod gyda phreswyliwr Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i ni ddiweddaru ein strategaeth bob tair blynedd, ac rydym yn barod iawn i wneud hyn gan ein bod ni eisiau gwneud pethau’n iawn i chi. Fe wnaethon ni siarad gyda phreswylwyr sy’n rhoi eu barn i ni’n rheolaidd, ac fe wnaeth ein Gr w ˆ p Llywio Cyfranogiad Preswylwyr ein helpu ni i droi syniadau’r preswylwyr (a’n rhai ni ein hunain) yn strategaeth newydd. Mae’r Gr w ˆ p Llywio yn aelodau o Gr w ˆp 500 o bob rhan o Gymru sy’n ein helpu ni i fonitro ein bod ni’n gwneud yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud yn ein strategaeth.

Yn yr erthygl nodwedd arbennig hon dros y tair tudalen nesaf, rydym yn egluro sut mae pethau wedi newid. Mae Gr w ˆ p 500 wedi newid. Roeddem yn arfer holi aelodau am ein gwasanaethau ar ffurf arolygon drwy e-bost, drwy’r post neu ar y ffôn, ond roedd hyn yn golygu ein bod ni weithiau yn eich holi chi am wasanaethau na fyddech wedi eu derbyn yn ddiweddar. Felly, rydym nawr yn meddwl y bydd yn gwneud rhagor o synnwyr i holi sampl cynrychioliadol o breswylwyr am eich barn yn union ar ôl i chi ddefnyddio gwasanaeth penodol. www.wwha.net

19


Strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr Rydym nawr yn gwneud hyn ar gyfer gwasanaethau fel atgyweiriadau, rhenti a chartrefi newydd rydym wedi eu hadolygu a’u hailddylunio yn ddiweddar. Nawr, fe wnawn ni holi barn aelodau Gr w ˆ p 500 ar: • wasanaethau nad ydym wedi’u hailddylunio eto • pa mor dda y mae Cyfranogiad Preswylwyr yn gweithio a sut rydych chi’n teimlo am gymryd rhan • ein gwefan a chylchgrawn In Touch • hunanasesu ar gyfer fframwaith rheoleiddio Llywodraeth Cymru Mae’r Pwyllgor Llywio yn ein helpu ni i adolygu Gr w ˆ p 500. Adborth – yn dda neu’n ddrwg – a chwynion Rydym eisiau rhoi pob cyfle i chi ddweud wrthym beth rydych yn ei feddwl am ein gwasanaethau – y pethau da a’r pethau drwg. Rydym yn ei gwneud hi’n haws i chi ddweud wrthym os nad ydym wedi gwneud pethau’n iawn drwy adolygu ein trefn gwyno. Byddem hefyd yn hoffi clywed gennych os rydym wedi gwneud gwaith da neu os oes gennych syniad. Yn barod, gallwch roi eich safbwyntiau i’n staff ar y safle, drwy ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid neu drwy e-bost. Rydym hefyd eisiau i chi allu cysylltu drwy’r wefan a negeseuon testun. Cadwch olwg am erthyglau In Touch yn y dyfodol, lle byddwn yn rhoi gwybod i chi am sut mae hyn yn mynd yn ei flaen. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw syniadau am ffyrdd eraill y galwch ddweud wrthym beth yw eich safbwyntiau. Rydym eisiau dweud rhagor wrthych chi am sut rydym wedi defnyddio eich safbwyntiau i wella ein gwasanaethau fel eich bod chi’n gallu gweld y gwahaniaeth maen nhw wedi ei wneud. Yn ogystal, rydym eisiau deall beth rydych chi eisiau ei weld yn cael ei wneud pan fyddwch yn rhoi sylwadau, fel y gallwn roi’r ymateb rydych chi ei eisiau e.e. ydych chi eisiau trafod y mater gyda ni neu dim ond tynnu ein sylw at y mater? 20

Mae cymaint o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn yr hyn rydym yn ei wneud. Dyma lun o ddarpar breswylwyr yn edrych ar dˆ y Rydym yn defnyddio eich adborth, y sylwadau rydych yn eu gwneud a chanlyniadau’r cwynion i wella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi. Cymryd rhan yn lleol Rydym yn deall fod gan bawb ohonoch anghenion gwahanol. Rydym yn agored i’ch syniadau ac yn fodlon cefnogi gweithgareddau sy’n addas i anghenion preswylwyr unigol, grwpiau a chymunedau. Gallwn roi llawer o enghreifftiau i chi o brosiectau gwahanol os ydych chi eisiau ysbrydoliaeth. Fe wnawn ni hefyd dalu i chi gael hyfforddiant sy’n eich helpu chi i gymryd rhan, ac mae ein grantiau Gwneud iddo Ddigwydd yn gallu sbarduno prosiectau lleol. Fe gewch chi ein Llawlyfr Preswylwyr wedi’i ddiwygio yn gynnar flwyddyn nesaf, sy’n rhoi manylion llawn am ein dewisiadau o ran cymryd rhan yn lleol,

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Strategaeth ar Gyfranogiad Preswylwyr ond peidiwch â theimlo mai dyma’r unig ddewisiadau. Dywedwch wrthym beth hoffech chi ei newid, ac fe wnawn ein gorau i’ch cefnogi chi i wneud i hyn ddigwydd. Ffoniwch fi ar 0800 025 2526 am sgwrs ynghylch eich syniadau. Monitro ein strategaeth Mae cynllun gweithredu ein Strategaeth yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor Llywio, ac fe welwch ein cynnydd ar ein gwefan ac yn In Touch. Mae Cyfranogiad Preswylwyr yn golygu parch gan y ddwy ochr. Rydym yn holi beth yw eich barn fel ein bod ni’n cael gwybod beth yn union rydych chi’n ei feddwl am ein gwasanaethau, ac fe allwn ni eich trin chi fel rydych eisiau cael eich trin. Mae hyn yn gyfrifoldeb ar bob aelod o’n staff, felly cofiwch siarad gyda ni am ein gwasanaethau. Rydym o ddifrif eisiau gwybod beth yw eich barn fel y gallwn ddal ati i wella.

Rydym eisiau clywed gan bawb. Nid yw o bwys pa mor hen ydych chi, na pha mor ifanc ydych chi o ran hynny – mae eich safbwyntiau yn bwysig i ni. Peidiwch â meddwl y bydd yn cyfrif yn eich erbyn os byddwch yn dweud rhywbeth negyddol – os nad yw rhywbeth yn gweithio, rydym eisiau ei drwsio. Nid dim ond darparu gwasanaethau landlord ydym ni – rydym yn malio o ddifrif eich bod chi’n hapus yn eich cartref a lle’r ydych yn byw. Drwy ddweud wrthym beth yw eich syniadau, gallech fod yn helpu

Preswylwyr yn mwynhau gemau Wii yng nghynllun er ymddeol Tˆ y Pontrhun pobl eraill – meddyliwch pa mor falch fyddech chi petaech chi’n darllen In Touch ac yn gweld sut rydym wedi defnyddio eich syniad i wella gwasanaeth i bob un o’n 16,500 o breswylwyr! Felly, cysylltwch: • os hoffech gopi o’n strategaeth mewn fformat neu iaith arall •o s oes gennych ddiddordeb yn unrhyw rai o’r dewisiadau sy’n cael eu crybwyll yma •o s oes gennych unrhyw syniadau sut gallwn ni wella ein gwasanaethau mewn unrhyw ffordd Ffyrdd o gysylltu â ni: •s iarad – gydag aelod o staff lle rydych yn byw • f fôn – ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 025 2526 •e -bost – info@wwha.co.uk •n eges destun – 07766 832692 – cofiwch gynnwys eich enw a llinell gyntaf eich cyfeiriad. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Claire Hammond Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr www.wwha.net

21


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

Preswylwyr WWHA yn ‘Gwn Cynhaliwyd pedwaredd seremoni flynyddol Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth y Gymdeithas yn Neuadd y Ddinas ddydd Gwener 14 Hydref. Dyma ein fersiwn ni o’r “Pride of Britain Awards”, a nod y noson yw cydnabod a dathlu’r synnwyr gwych o gymuned sy’n cael ei ddangos gan gymaint o’n preswylwyr, mewn sawl ffordd, dull a modd. Enillwyr eleni oedd: Cymydog da – Dennis Brookes, o gynllun er ymddeol Hanover Court, Llandudno, a enwebwyd gan y rheolwr cynllun Gay Baines.

Dennis Brookes

Gwobr David Taylor i Arwr Lleol – Lena Charles, o gynllun er ymddeol Danymynydd, Cwm Garw, a enwebwyd gan y rheolwr cynllun Yvonne Humphreys.

Lena Charles (yr ail ar y chwith) Garddwr Gorau (Pobl hˆyn) – Eric Fitton a Margi Sharp, o Gynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr, Prestatyn, a enwebwyd gan y rheolwr cynllun Karen Boyce.

Bonnie Price

Dechrau newydd – Bonnie Price, o Hightown, Wrecsam, a enwebwyd gan y Swyddog Tai Donna Sutton. Hyrwyddwr Eco – Jeff Bunce a Derek Rose, o Great Western Court, a enwebwyd gan eu cyd-breswyliwr Jean Gorton a’r Swyddog Amgylcheddol Owen Jones.

Jeff Bunce a Derek Rose (yn y canol)

22

Eric Fitton a Margi Sharp Garddwyr Gorau (Anghenion Cyffredinol) – Andrew a Deana Taylor, o Glos Scotts, Marchwiail, Wrecsam, a enwebwyd gan Jill Willcox, y Swyddog Tai.

Andrew a Deana Taylor

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth

neud Gwahaniaeth’ o ddifrif Prosiect cymunedol – Cydweithfa Ffrwythau a Llysiau Cyfarthfa, Twyncarmel, Merthyr Tudful, a enwebwyd gan Helen O’Shea o Sefydliad Gellideg

Prosiect Cymunedol – Preswylwyr cynllun er ymddeol Danymynydd am brosiectau codi arian a chelf gymunedol, ar y cyd â Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro, wedi eu henwebu gan y rheolwr cynllun Yvonne Humphreys.

Ffrwythau a Llysiau Cyfarthfa Yn ychwanegol, fe wnaethom ddyfarnu tair Gwobr Ysbrydoliaeth Arbennig i: Garddwr Gorau (Pobl hˆyn) – Cynllun er ymddeol Llys Bryn Felin yn y Rhondda, gyda Lillian Randall, Robert a Hilary Shephard, Jeff Rogers a Margaret Tookey yn eu cynrychioli. Fe gawson nhw eu henwebu gan Clive Sheridan, yr Arolygydd Safle.

Llys Bryn Felin Garddwr Gorau (Anghenion Cyffredinol) – Mount View Angels, Merthyr Tudful, gyda Mary Cassidy ac Andrew Selway yn eu cynrychioli, wedi eu henwebu gan y Cynghorydd Brian Mansbridge.

Danymynydd Fe gawsom dros 70 o enwebiadau gan staff a phreswylwyr, felly unwaith eto, diolch i bawb a ddywedodd wrthym ni am y pethau da sy’n digwydd ar eich strydoedd ac yn eich cymunedau. Roedd y noson ei hunan yn llwyddiant mawr, ac mae’n rhaid i ni ddiolch yn arbennig i’n noddwyr a’n partneriaid contract GKR, LH Evans, Ian Williams, Bushmede Ltd, Gwasanaethau Technolegol Arbenigol Gibsons, Grŵp Graham a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria. Heb eu cymorth ariannol a’u diddordeb, ni fyddai’r noson wedi bod yn llwyddiant. Diolch hefyd i Gentlemen Prefer Blondes, ein diddanwyr ar y noson, ac i Minimal Media, am recordio’r noson ar fideo. Gwyliwch ein fideo o wobrau Gwneud Gwahaniaeth 2011 ar YouTube a chael eich ysbrydoli! Chwiliwch am ‘WWHA Making A Difference Awards 2011’.

Mount View Angels

www.wwha.net

23


Adroddiad TPAS

“Ydw i eisiau gwneud hyn o ddifrif?” Cafodd Jane Styles, Cadeirydd Cymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton ei gwahodd i Gynhadledd TPAS ym mis Tachwedd, a meddyliodd wrthi ei hun “ydw i eisiau gwneud hyn o ddifrif?”, gan nad oedd yn deall llawer am TPAS. Yna meddyliodd “Gallai hwn fod y lle gorau i ddysgu.” “Yn y Gynhadledd, dewisais ddau weithdy ‘addysgiadol’ ar dai cymdeithasol, ac un ar ‘Sgiliau, Diddordebau a Gweithgareddau Hamdden i gynnwys Pobl’, a fyddai o fudd i aelodau fy Nghymdeithas Preswylwyr. Roeddwn i’n meddwl y gallai trafodaethau’r bore fod yn ddiflas, ond roeddwn i’n anghywir, ac roedd cael rhestr o’r siaradwyr ac esboniwr jargon helpu, hefyd. Ni chafodd y ddau weithdy cyntaf eu cynnal fel ‘darlithoedd’, gan fod pawb yn cael eu hannog i gymryd rhan, ac roedd yn dda iawn clywed safbwyntiau a sylwadau pobl eraill ar agweddau gwahanol ar dai cymdeithasol. Roedd gweithdy’r prynhawn mor ddiddorol fel bod yr amser wedi

hedfan, a chyn i mi droi, roedd y diwrnod wedi dod i ben ac roedd hi’n amser i mi fynd adref. Ar ddechrau pob gweithdy, rydych yn cael eich gwahodd i gyflwyno eich hunan – roeddwn yn meddwl fod hyn yn syniad rhagorol, oherwydd er nad oedd pawb yn breswylwyr WWHA, roeddwn wedi synnu bod cymaint ohonyn nhw’n dod o fy ardal i! Mae un gr w ˆ p o arddwyr yn byw o fewn ychydig lathau i’m stad, felly rydw i’n gobeithio cyfnewid rhai syniadau garddio ar gyfer fy ngr w ˆ p fy hunan! Diolch i chi, WWHA, am ddeuddydd diddorol – roedd yn gyfle gwych i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd!” Jane Styles, Cymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton

Dod â phawb ynghyd yng Nghei Connah Diolch i loteri pêl fonws ar y stad, codwyd arian gan Gymdeithas Preswylwyr Cwrt Leighton i gynnig cyfle i’r holl breswylwyr a’u teulu fynd i weld pantomeim Eira Wen a’r Saith Corrach yn Theatr y Pafiliwn yn y Rhyl ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr. Cafodd un deg chwech o blant docynnau am ddim a dim ond £5 yr un fu’n rhaid i ddeg o oedolion ei dalu. Dywedodd Paula Ellis, Cadeirydd y Gymdeithas Preswylwyr, wrthym fod, “y plant wedi ymddwyn mor dda, yn enwedig o gofio nad oedd rhai ohonyn nhw wedi bod yn y theatr o’r blaen. Dywedodd y rhieni fod y plant yn llawn cyffro ar y ffordd adref ac wedi blino cymaint fel eu bod nhw wedi mynd i’r gwely’n gynnar. “Roedd naws gymunedol o ddifrif yn perthyn i’r penwythnos,” meddai Paula. “Fe wnaeth Raffl y Nadolig godi cyfanswm o £33 ddydd Gwener, ac yna aeth y plant i’r Pantomeim gwych ddydd Sadwrn.” 24

Dywedodd y Cadeirydd, Jane Styles, “Mae’n ymddangos y bydd Raffl y Nadolig a’r daith i weld y pantomeim yn ddigwyddiadau rheolaidd o hyn allan.”

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Byw’n Iach

Diogelwch tân mewn blociau o fflatiau a chynlluniau er ymddeol Pethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud COFIWCH • Ymgyfarwyddo â chynllun gwagio’r adeilad sydd yn y cynllun • Dilynwch y cynllun gwagio’r adeilad mewn argyfwng • Sicrhewch fod drysau tân wedi’u cau • Defnyddiwch oleuadau Nadolig gyda CE neu’r nod barcud arnyn nhw • Siaradwch gyda’ch Swyddog Tai neu eich Rheolwr Cynllun os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon • Caewch ddrysau tân os bydd tân • Ffoniwch y gwasanaethau brys (999) os ydych yn amau bod tân yn rhywle, ac yna ffoniwch ein canolfan alwadau 24 awr y dydd ar 0800 052 2526

PEIDIWCH • Gadael fflamau agored heb oruchwyliaeth • Gadael drysau tân yn agored • Mynd i gartref arall lle mae larwm mwg yn seinio – deialwch 999 neu ffoniwch y ganolfan alwadau 24 awr y dydd ar 0800 052 25 26 • Storio eiddo personol mewn mannau cymunol, oherwydd fe allen nhw fod y risg tân a tharfu ar wagio adeilad mewn argyfwng • Mynd yn ôl i adeilad sydd ar dân Cofiwch - mae diogelwch tân yn gyfrifoldeb ar bawb

Cyfle i ENNILL drwy dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol

ENILLYDD

Llongyfarchiadau… Mr a Mrs Vaughan, o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd i’w gweld yn y llun. Nhw oedd enillwyr ffodus ein Raffl Debyd Uniongyrchol yn nhrydydd chwarter 2011. Derbyniodd y cwpl buddugol siec gwerth £100. Am gyfle i ennill, mae angen i chi dalu eich rhent drwy Ddebyd Uniongyrchol. Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0800 052 2526 os hoffech sefydlu Debyd Uniongyrchol, neu mynnwch air â’ch Swyddog Tai. Rhaid talu drwy Ddebyd Uniongyrchol am gyfle i ennill!

££

£££

££

££ £

Am gymorth a chyngor ar eich materion ariannol, cysylltwch â’r Swyddogion Cyngor ar Arian, Mike Halloran (ar y dde), neu Les Cooper (ar y pen pellaf) ar

0800 052 2526

www.wwha.net

25


Byw’n Iach

Cyngor gwresog i’ch cadw’n gynnes dros y gaeaf 1. Tynnwch aer o’r rheiddiaduron: i sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n iawn, ac os oes gennych fwyler cyfun, gofalwch fod y gwasgedd yn iawn. Os nad ydych yn siw ˆ r sut i wneud hyn, ffoniwch ni i gael cyngor. 2. Llenni trwchus: Gosodwch lenni trwm â leinin dros ffenestri er mwyn helpu i gadw’r gwres i mewn, a thynnwch y llenni at ei gilydd cyn gynted ag y bydd hi’n dechrau tywyllu. Os oes gennych lenni delltog/Fenis, trowch y llafnau fel eu bod nhw am i lawr (yn troi at yr ystafell). 3. Ewch i’r afael â’ch thermostat: Gosodwch thermostat eich ystafell yn agos at y tymheredd a argymhellir, sef 21°C (70°f). Os byddwch yn troi thermostat eich gwresogydd i lawr 1°C fe allech chi arbed tua £60 y flwyddyn. 4. Cynlluniwch ymlaen llaw: Os bydd y tywydd yn oer iawn, gosodwch eich gwresogydd i gynnau ychydig yn gynt er mwyn rhoi amser i’r tˆ y gynhesu, yn hytrach na chodi lefel y thermostat. 5. Awyr iach: Cofiwch adael briciau aer ac awyrellau’n glir, gan fod eich cartref angen cael ei awyru i atal anwedd rhag cronni a sicrhau cyflenwad o awyr iach. Mae stofiau sy’n llosgi coed, bwyleri nwy a thanau agored hefyd angen cyflenwad da o aer i sicrhau eu bod nhw’n llosgi’n effeithiol. Din dwr ˆ poeth – beth nesaf? Ambell awgrym ynghylch mân drafferthion y gallech eu datrys eich hunain. Cyn i chi alw’r peiriannydd, gwiriwch: • A yw switsh/plwg arwahanu eich bwyler ymlaen? 26

• A yw’r bwyler ymlaen? • A yw’r thermostat ar y gosodiad cywir a’r cloc yn gweithio? • A yw rheolyddion y bwyler yn gweithio? • A yw’r mesurydd gwasgedd ar flaen eich bwyler yn iawn (os oes un arno) – dylai fod yn dangos tuag un bar. • Os oes gan eich cyfarpar olau peilot parhaol, a yw hwnnw ynghynn? • Os nad oes gwres na d w ˆ r poeth gennych chi ar ôl gwirio’r rheiny, efallai y byddwch chi angen help peiriannydd. Problemau gyda’r cloc / rhaglennwr? • Gwiriwch fod y cyflenwad trydan yn gweithio. • A yw’r awr wedi newid yn ôl neu ymlaen? Oes angen ailosod y cloc? Gwiriwch fod yr amser yn gywir ynghyd â’r gosodiadau ymlaen / i ffwrdd. • A oes symbolau anghyfarwydd ar ddangosydd yr amser? Edrychwch yn eich llawlyfr i weld beth i’w wneud nesaf. • Os oes botwm gwrthwneud y gellir ei addasu ar eich amserydd/ rhaglennydd, ar y dewis parhaol neu 24 awr, efallai y gallech ei ddefnyddio i wrthod y gosodiadau dros dro, a chael eich system i weithio felly.

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Materion ariannol – Sylw arbennig i filiau tanwydd

Yn cael anawsterau gyda’ch biliau tanwydd? Os ydych yn poeni am filiau tanwydd y gaeaf hwn, darllenwch hyn… Mae’r cynnydd ym mhrisiau ynni yn ddiweddar, ynghyd â chostau cynyddol eraill a gostyngiad mewn incwm, wedi gadael nifer o bobl yn cael anhawster talu eu biliau ynni. Nid yw nifer yn gwybod ble i droi am gymorth na beth ddylen nhw ei wneud nesaf. Felly, mae ymgyrchwyr yn Llais Defnyddwyr Cymru wedi lansio eu hymgyrch ‘Atal y Ddyled’, sy’n llawn o wybodaeth ddefnyddiol os ydych

chi’n cael anhawster i dalu eich biliau tanwydd, neu os ydych yn bryderus am fynd i ddyled. Dyma’r cyngor maen nhw’n ei gynnig.

Os ydych yn cael anhawster talu eich biliau tanwydd, dyma mae Llais Defnyddwyr Cymru a Chyngor ar Bopeth yn ei ddweud: 1. Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni ddim i helpu eich cartref rhag colli cyn gynted ag yr ydych chi’n gwres a gostwng eich biliau. sylweddoli y byddwch chi’n cael 4. Hyd yn oed os ydych chi mewn trafferth talu. Bydd dyledion yn dyled, efallai bod modd i chi cronni ac yn fwy anodd eu talu po newid i fargen ratach gyda’ch hiraf y byddwch chi’n eu gadael. cyflenwr presennol yn enwedig os Mae gan eich cyflenwr gyfrifoldeb i’ch ydych chi’n talu gydag arian parod, helpu os ydych chi’n cael problemau siec neu fesurydd talu ymlaen llaw. gyda thalu eich bil. Os ydych chi’n talu gyda mesurydd 2. Dywedwch wrth eich cwmni ynni talu ymlaen llaw ac os oes gennych beth ydych chi’n gallu fforddio ei chi lai na £200 o ddyled, gallwch chi dalu – mae’n rhaid iddo ystyried hyn hefyd newid i fargen ratach gyda wrth gytuno ar ad-daliadau’r arian chyflenwr arall. sy’n ddyledus gennych chi. 5. Mae cymorth ariannol ar gael 3. Holwch eich cwmni ynni, canolfan leol a allai ei gwneud yn haws i chi Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch Linell fforddio eich biliau – gwnewch yn Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 33 siwr ˆ eich bod chi’n derbyn yr holl 66 99 i gael gwybod am unrhyw fudd-daliadau a’r credydau treth y help arall sydd ar gael am ddim mae gennych chi hawl i’w cael drwy gydag ynni. Er enghraifft, gallech gysylltu â chanolfan leol Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad ar eich ar Bopeth neu drwy fynd i www. bil, neu wasanaeth insiwleiddio am adviceguide.org.uk

Cyfle i ENNILL £250 os bydd eich bwyler yn cael ei wasanaethu ar y cynnig cyntaf Mr a Mrs Roach o Laneirwg oedd enillwyr lwcus gwobrau PH Jones, sef £250, potel o siampên a thusw o flodau. “Roedd yn syrpreis hyfryd, nad oeddwn yn ei ddisgwyl o gwbl” meddai Mrs Roach. Mae pob preswyliwr sy’n caniatáu i

ni wasanaethu eu cyfarpar nwy ar yr apwyntiad CYNTAF y byddwn yn ei drefnu, neu a fydd yn rhoi o leiaf 48 awr o rybudd cyn gohirio, yn cael eu cynnwys yn awtomatig yn y raffl AM DDIM. www.wwha.net

27


Materion Ariannol – Adran arbennig ar filiau tanwydd

Ymhle mae modd cael help: Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol gynnig gwybodaeth, cyngor a help diduedd os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch biliau ynni. Efallai gall cynghorwyr eich helpu chi gyda’r canlynol: • gweld a ydych chi’n gymwys am ostyngiad ar eich bil, neu wasanaeth insiwleiddio am ddim i helpu gydag atal eich cartref rhag colli gwres a gostwng eich biliau • canfod a ydych chi’n colli cymorth ariannol ychwanegol Ewch i www.citizensadvice.org.uk neu chwiliwch yn y llyfr ffôn i ddod o hyd i’ch cangen leol. Mae’r cynllun Ynni – Y Fargen Orau sydd hefyd yn cael ei weithredu gan Cyngor ar Bopeth ac Ofgem, yn cynnig sesiynau cynghori wyneb yn wyneb sy’n helpu pobl i edrych ar wahanol gynigion a newid cwmni, gostwng eu biliau, a chael cymorth os ydynt ar ôl gyda thaliadau. Hefyd, mae cyngor ychwanegol ar gael arlein drwy gyfrwng chwe ffilm cymorth newydd.

Mae Llais Defnyddwyr yn cynnig help a chyngor amrywiol ar www.consumerfocus.org.uk Ewch i’r adran cymorth gydag ynni. Mae’r help sydd ar gael yn cynnwys: • Taflenni ynghylch beth i’w wneud pan ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau a sut mae cael gwybod os ydych chi’n colli gwasanaethau am ddim a budd-daliadau eraill • Templed llythyr i’w anfon at eich cyflenwr os ydych chi’n teimlo bod y swm mae gofyn i chi ei ad-dalu bob mis / chwarter yn anodd ei fforddio • Adnodd chwilio gyda chwestiynau ac atebion i helpu gyda gwybodaeth a chyngor sy’n rhoi sylw i ystod eang o faterion ynni.

Gallai canolfan leol Age UK gynnig cyngor a gwybodaeth os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni, gan ddweud wrthych am yr help sydd ar gael a gweld a oes gennych hawl i fudddaliadau ariannol ac i welliannau cost isel neu am ddim i’ch cartref.

Mae rhagor o gyngor annibynnol am faterion ynni ar gael gan Llais Defnyddwyr Cymru ar 08454 04 05 06 neu 01604 640 371.

28

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Materion Ariannol – Adran arbennig ar filiau tanwydd

Eich cwmni ynni: Mae’n rhaid i’ch cwmni ynni eich helpu i ad-dalu’r swm sy’n ddyledus ar gyfradd y gallwch ei fforddio. Nodir manylion cyswllt gwasanaethau cwsmeriaid gwahanol gwmnïau ynni isod: Nwy Prydain (British Gas) Ffôn: 0800 048 0202 EDF Energy Ffôn: 0800 096 9000 E.ON Ffôn: 0845 059 9905 npower Ffôn: 0845 070 4851 (debyd uniongyrchol bob mis) 0845 070 4850 (cwsmeriaid arian parod, siec neu ddebyd uniongyrchol bob chwarter) 0845 070 4853 (cwsmeriaid mesurydd talu ymlaen llaw) SSE Group Ffôn: 0845 7444 555 (SSE a Southern Electric) 0845 300 2141 (Scottish Hydro) 0800 052 5252 (SWALEC) 0845 073 3030 (Atlantic) Scottish Power Ffôn: 0845 270 0700 Co-operative Energy Ffôn: 0800 954 0693 Ebico Ffôn: 0800 458 7689 Ecotricity Ffôn: 0845 555 7100 (cwsmeriaid domestig) First Utility Ffôn: 0845 215 5000 Good Energy Ffôn: 0845 601 14104 Green Energy Ffôn: 0800 783 8851 Ovo Ffôn: 0800 5996 4440 Spark Energy Ffôn: 0845 034 7474 Utilita Ffôn: 0845 450 4357 Utility Warehouse

Ffôn: 0844 815 7777

Rhagor o gymorth gydag effeithlonrwydd ynni ac arbedion ynni: Gallwch gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 012 neu Llinell Gymorth Cartrefi Cynnes ar 0800 336699 am gyngor ynghylch arbed ynni ac am y grantiau a’r cynlluniau sydd ar gael i’ch helpu chi i wneud eich cartref yn gynhesach ac arbed arian. Hefyd, mae gwybodaeth gyffredinol ynghylch sut gall defnyddwyr arbed

arian ar eu biliau trydan drwy newid y dull o dalu, y tariff neu’r cyflenwr, a thrwy insiwleiddio eu cartref, ar gael fel rhan o’r ymgyrch Gwirio, Newid ac Insiwleiddio i Arbed, yn dilyn cynhadledd ynni’r Deyrnas Unedig ar 17 Hydref. Ceir manylion ar dudalennau cyngor ynni gwefan DirectGov. Ceir manylion ar dudalennau cyngor ynni gwefan DirectGov. www.wwha.net

29


Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Eira mân, eira mawr! Tua’r adeg hon o’r flwyddyn, mae’r nosweithiau a’r boreau yn rhewllyd, ac os bydd hi’n debyg i llynedd, mi fydd eira yn disgyn yn drwm. Er nad yw pawb yn hoffi eira, mae’n rhywbeth hudol i blant, yn gyfle i wneud dynion eira, angylion eira a thaflu peli eira at eu ffrindiau, ac yn aml dim ond am gyfnod byr y mae’n para. I ni yn yr Uned Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBU), mae gennym y dasg ddi-ddiolch o ddelio â’r cwynion, sy’n cynyddu yn ystod y cyfnod hwn. O ddifrif, byddem yn disgwyl i unrhyw breswyliwr sy’n cael eu taro gan belen eira, neu fydd yn cael ambell belen eira yn taro eu cartref, ddelio’n uniongyrchol gyda’r plant neu gyda’u rhieni, heb i’r Gymdeithas gymryd rhan, ac o bosibl gwneud pethau’n waeth rhwng cymdogion.

30

Dyma’r neges y mae preswylwyr yn debyg o’i chael os ydyn nhw’n gwneud cwynion am blant yn chwarae gyda pheli eira, ac mai tipyn o hwyl ddiniwed yw’r cyfan. Er hynny, os yw preswylwyr yn gallu dangos eu bod nhw’n cael eu targedu’n benodol ac yn cael eu haflonyddu, fe ddylen nhw roi gwybod i’r Gymdeithas a’r Heddlu am y broblem, a fydd yn cydweithio i ddatrys y broblem. Os hoffech ragor o wybodaeth ac arweiniad ar y pwnc hwn, peidiwch ag oedi cyn ffonio aelod o staff yr ASBU ar rif rhadffôn y Gymdeithas, 0800 052 2526.

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Newyddion a Gwybodaeth am WWHA

“Wedi gwirioni gyda’m gardd ar ei gwedd newydd!” Mae un o breswylwyr Llaneirwg, Angela Biston, yn dweud ei bod wedi gwirioni gyda’r ffordd y cafodd ei gardd ei gweddnewid gan wirfoddolwyr o Gymdeithasau Tai WWHA, Hafod a Linc-Cymru. Dywedodd Mrs Biston wrthym fod ei gardd gefn wedi mynd allan o reolaeth, gyda chwyn, mieri a glaswellt hir wedi tyfu dros ardd a oedd yn arfer bod yn daclus iawn. “Rwyf wedi bod yn byw yma am 23 mlynedd, ac roedd fy nhad yn arfer gofalu am yr ardd, ond ers iddo ein gadael mae’r ardd wedi bod yn llawer rhy fawr ac yn ormod o waith i mi ofalu amdani fy hunan – doedd dim modd caw trefn arni. Nid oedd gen i unrhyw un i’m helpu,” meddai Mrs Biston. Fe wnaeth y gwirfoddolwyr (gellir gweld rhai ohonyn nhw yn y llun ar y dde), a oedd i gyd yn rhan o is-gr w ˆ p Amgylcheddol a Stad Compact Llaneirwg, syfrdanu Mrs Biston drwy osod patio a llwybrau newydd, plannu llwyni, blodau a gardd lysiau newydd, a lleihau maint y llain o dir drwy osod ffens derfyn newydd, fel y byddai’n haws iddi ofalu am yr ardd. Yn ogystal, cyfrannodd Canolfan Arddio Blooms botyn yn llawn planhigion i’w hychwanegu at yr arddangosfa liwgar. “Nid oedd y tywydd o blaid y gwirfoddolwyr pan ddaethon nhw, a dim ond am hanner awr yr oedd modd i mi eu gweld gan fod yn rhaid i mi fynd allan am y diwrnod, felly nid oedd modd i mi weld beth roedden nhw’n ei wneud,” meddai Mrs Biston. “Roedd yn dywyll pan wnes i ddod yn ôl, felly ni feddyliais sut siâp oedd ar yr ardd. Dim ond yn y bore yr edrychais drwy’r ffenestr,

a chael fy syfrdanu’n llwyr – roedd y llanast wedi cael ei glirio, a’r ardd yn edrych yn hyfryd. Dyna beth oedd gweddnewidiad!” “Mae’n hyfryd dros ben, ac ni allaf ddechrau dweud pa mor falch ydw i. Doeddwn i ddim yn sylweddoli y bydden nhw’n gwneud cymaint, ac mae’r cyfan yn rhyfeddol. Daeth fy nheulu i gyd draw, ac roedden nhw’n syfrdan. Mi fyddaf yn si w ˆ r o ofalu am yr ardd o hyn allan, ac ni allaf ddisgwyl tan yr haf i mi allu gwahodd ffrindiau a’r teulu draw.” Dywedodd Chris Walton, Rheolwr Tai WWHA, “Mae’r ardd wedi cael ei gwella’n sylweddol, a dylai fod yn llawer haws i Mrs Biston ei chynnal. Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y gwaith o weddnewid yr ardd, a diolch yn arbennig i Ganolfan Arddio Blooms am eu cyfraniad hael. Rwy’n si w ˆ r y bydd Mrs Biston yn mwynhau ei gardd newydd, yn enwedig pan fydd y gwanwyn yn dod a’r ardd yn dechrau blodeuo!” I gael rhagor o wybodaeth am waith Is-grwp ˆ Amgylcheddol a Stad Compact Llaneirwg, cysylltwch â Chris Walton ar y rhif rhadffôn 0800 052 2526. www.wwha.net

31


Newyddion a Gwybodaeth am WWHA

Mis TASH-wedd gwych Efallai bod y rhai a ddaeth i swyddfa Wales & West yn ystod mis Tachwedd wedi sylwi ar nifer o ddynion gyda mwstas dan eu trwynau! Daeth 16 aelod o staff at ei gilydd i ffurfio’r grwp ˆ “Tashtonauts Tai” er mwyn codi arian at achos da Mis ‘Tashwedd’ (Movember). Mae Movember yn ddigwyddiad yn tyfu ynof ac mi ges i gemotherapi elusennol byd-eang, a’i nod yw tyfu i drin fy nghanser yn y ceilliau, a mwstas er mwyn codi arian hollbwysig chafodd fy nhad radiotherapi i drin a chodi ymwybyddiaeth o iechyd canser y prostad. Rydyn ni’n dau dynion, yn enwedig canser y prostad yn ymdopi’n dda, ond rydw i eisiau a chanserau eraill sy’n effeithio ar cefnogi a hyrwyddo hyn. Fe wnaeth rhai ddynion. aelodau o’r tîm gymryd rhan yn hanner marathon Caerdydd, tra bu eraill yn Roedd y tîm yn cynnwys 14 dyn a 2 ymgymryd â heriau ysgafn er mwyn codi ddynes: Alan Jones, Rhys Cousins, Tom arian. Erbyn diwedd y mis, roedd y tîm Griffiths, Julian Ling, Sion Phillips, Glyn wedi codi dros £1,300! Da iawn i bawb a Smith, Lyndon Griffiths, Robin Alldred, gymerodd ran! Mike Richards, Mike Barker, Darrell Smith, Chris Ball, Paul Wyatt, Cliff Goodwin, Dorrett Evans a Kim Rockcliffe. Ac eithrio’r hwyl a gafwyd yn tyfu a dangos eu hwynebau blewog, roedd y tîm eisiau codi cymaint â phosibl o arian i’r elusen, gan fod pob un wedi cael profiad o weld ffrind neu aelod o’r teulu yn goroesi neu’n marw oherwydd canser. Eglurodd un aelod o’r tîm, Alan Jones, “15 mlynedd yn ôl roedd gen i diwmor

Operation Christmas Child Yn y llun gwelir Louise Carpanini, Cyfrifydd Ariannol WWHA, gyda dim ond ychydig o’r 120 o focsys Nadolig a gafodd eu llenwi unwaith eto eleni gyda theganau, gemau a dilladau er mwyn helpu Operation Christmas Child i godi gwên a gwneud gwahaniaeth i fechgyn a merched anghenus rhwng 2 ac 14 oed ar draws y byd dros y Nadolig. Diolch i bawb a gyfrannodd eitemau. Am ragor o wybodaeth ynghylch gwaith yr elusen hon, ewch i www. operationchristmaschild.org.uk 32

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Eich Newyddion Chi

Brecwastau blasus yn codi arian at Help for Heroes Mae Kathy Klee, Karen McCann a Pam Baggett, rhai o breswylwyr Hanover Court, y Barri, ym Mro Morgannwg, wedi bod yn codi arian tuag at ‘Help for Heroes’ am dros dair blynedd. Mae’r merched yn trefnu brecwast elusennol bron bob mis i godi arian. Roedd y danteithion blasus ar fwydlen y neuadd ymgynnull yn cynnwys brechdanau wedi’u crasu torpido, pancos parafilwyr a diodydd y gad, gan gynnwys sudd oren ffres, te a thost - y cyfan yn werth gwych am arian am £1.50. Yn y llun gwelir Kathy, y prif gogydd, gyda’i chynorthwywyr medrus Karen, Pam ac wyres Kathy, Louise. Yn ychwanegol at y brecwastau, fe wnaeth Kathy, Pam a Karen drefnu

Diwrnod Hwyl yn 2010 lle casglwyd £70.00, y cynhaliwyd tawelwch noddedig ac y cefnogwyd taith ar draws y Sahara. Mae cannoedd o bunnoedd wedi cael eu cyfrannu at ‘Help for Heroes’, a hoffai WWHA ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu hymdrechion parhaus.

Blwyddyn lwyddiannus arall i Help for Heroes Mae’r tîm elusennol yn WWHA wedi bod yn brysur iawn yn 2011 yn trefnu digwyddiadau i godi arian tuag at Help for Heroes, yr elusen a ddewiswyd gan ein staff. Yn ogystal â pharti Body Shop, a gododd £126, mae WWHA wedi cyflwyno cynllun ‘rhowch eich ceiniogau’, sy’n golygu fod staff yn gallu dewis cyfrannu’r ceiniogau mân ar eu slipiau cyflog i’r elusen. Y prif ddigwyddiad, a oedd yn golygu llawer o gynllunio a threfnu, oedd Dawns Elusennol Nadolig y Staff, a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr yng Nghaerdydd. Roedd y noson yn llwyddiant mawr, a chasglwyd £884 yn y raffl yn unig. Y brif wobr oedd crys a phêl rygbi Cymru o Gwpan y Byd wedi eu harwyddo, a chasglwyd cyfanswm o £1,600 drwy’r raffl Nadolig, hefyd. Mae arian yn cael ei gasglu drwy’r amser, ac mae’r cyfanswm dros £11,000 erbyn hyn. Ni allai’r tîm elusennol fod wedi cyflawni hyn heb gefnogaeth barhaus, cymorth a chyfraniadau hael gan breswylwyr, teulu a ffrindiau, a byddai’r tîm yn hoffi

Y merched prydferth sydd i’w gweld yn y llun a gafodd ei dynnu yn nawns elusennol Help for Heroes yw Diane Barnes, Charmaine Deen, Paula Gauci, Verity Davies, Leah Jenkins, Suzanne Round, Rhiannon White a Lucy Simms. diolch i bawb a roddodd o’u hamser, neu a ymdrechodd neu a gyfrannodd at yr elusen deilwng hon. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer y flwyddyn newydd, neu os hoffech gael cyngor ar drefnu digwyddiad i Help for Heroes, ffoniwch 0800 052 2526 a gofynnwch am gael siarad gydag aelod o’n tîm elusennol. www.wwha.net

33


Eich Newyddion Chi

Fy atgofion o Gilfynydd yn y 1930au gan W. John Owen Mae “Memories of Cilfynydd from the 1930s” – sy’n sôn am bentref ger Pontypridd yn Rhondda Cynon Taf, yn llyfr diddorol iawn gan un o breswylwyr WWHA, W John Owen (sydd i’w weld yn y llun ar y dde fel y mae heddiw, ac ar y chwith, fel yr oedd fel dyn ifanc). Mae’n dwyn i gof hanesion a storïau am y cyfnod hwnnw, gyda nifer o ffotograffau o’r gorffennol. Mae’r gyfrol 96 tudalen yn drysor gwerth ei darllen. I gael copi, anfonwch siec am £4.99 yn daladwy i W. John Owen, ynghyd

â’ch manylion, at: Mr W. J. Owen, 28 Stephenson Court, Wordsworth Avenue, Caerdydd. CF24 3FX. Bydd yr holl elw a wneir drwy werthu’r llyfr yn mynd at: Sefydliad Geraint Evans Dros Ymchwil Y Galon Yng Nghymru The Sir Geraint Evans Wales Heart Research Institute

5ed pen-blwydd dosbarth ioga yn Llys Faen Ym mis Tachwedd 2005 daeth Linda ac Aldwyn Jones i fyw yng nghynllun er ymddeol Llys Faen ym Mhen-ybont ar Ogwr. Mae’r ddau yn athrawon ioga cymwys a phrofiadol, ac eleni fe wnaethon nhw ddathlu pum mlynedd ers iddyn nhw ddechrau cynnig cyrsiau ioga yn y cynllun. Dywedodd Mr Mansell Green, sy’n ymweld â Llys Faen, “Rwyf wedi bod yn mynd i’r dosbarth ioga ers chwe wythnos, ac rydw i’n fwy cyfforddus gydag Aldwyn nag ydw i gydag unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol. Mae hyn wedi gwneud byd o les i mi. Rydw i’n teimlo’n well o gael gwneud yr ymarfer

corff, ac mae’n hyfryd cymdeithasu ar ôl i’r wers ddod i ben.” Hoffai Aldwyn agor y dosbarth i breswylwyr o gynlluniau eraill yn yr ardal. Mae’r dosbarthiadau yn cael eu cynnal bob dydd Mercher rhwng 2.30pm a 3.30pm, gyda lluniaeth tan 4pm. Y pris mynediad yw £1. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, ffoniwch Aldwyn ar 01656 662292.

Nodwyddau’n barod dros elusen beth maen nhw’n gallu ei wneud gyda Dechreuodd preswylwyr o Gynllun Gofal Ychwanegol Nant y Môr ym phelen o wlân! Mae’r pethau hyn yn Mhrestatyn gyfarfod yn y lolfa yn cynnwys pyrsiau, bagiau llaw, hetiau, ystod y prynhawniau, a daeth nifer blancedi, a chynheswyr arddyrnau â’u gwaith gwau gyda nhw. ymysg pethau eraill. Maen nhw wedi cyfrannu sawl peth at y bocsys Dechreuodd pobl eraill ymuno â nhw, ac erbyn hyn, mae June Foster, Jean esgidiau oedd yn cael eu casglu ar Ward, Jane Morris, Lily Whitely a Joyce gyfer elusen Operation Christmas Child Brown yn cyfarfod yn rheolaidd yn eu (gweler tudalen 32). cylch crefftau / gwau. Mae’n anhygoel 34 Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Eich Newyddion Chi

Newyddion gwych ac amser cyffrous yn Oldwell Court, Caerdydd Cafodd myfyrwyr o Ysgol Teilo Sant groeso ym more coffi Oldwell Court un bore Gwener ym mis Hydref. Diben yr ymweliad oedd ymchwilio i wybodaeth ar gyfer cwrs canolradd Bagloriaeth Cymru ynghylch materion o bwys a phryderon a allai fod gan bobl hˆ yn, a chymharu’r canfyddiadau â’r materion sydd o bwys i bobl yn eu harddegau heddiw. Bydd hyn yn arwain at adroddiad ar eu holl ganfyddiadau. Dywedodd Sandy Houdmont, y Rheolwr Cynllun, “Mae’n hyfryd gweld cenedlaethau gwahanol yn rhannu profiadau a safbwyntiau hen a newydd. Fe wnaeth y preswylwyr fwynhau’r sgyrsiau bywiog, ac fe fydden nhw’n falch o weld y myfyrwyr yn dychwelyd rhyw dro. Maen nhw’n glod i Ysgol Teilo Sant.” Ym mis Medi, sefydlodd y gr w ˆ p heini arwerthiant pen bwrdd, gyda’r holl arian a gasglwyd yn mynd i elusen Cymorth Canser Macmillan. Dau o’r preswylwyr, Pauline ac Ivor Solsberg, a ddechreuodd feddwl am y syniad pan symudon nhw i Oldwell ym mis Gorffennaf, ac aeth y gr w ˆ p â’r mater ymhellach. Hysbysebwyd y diwrnod yn lleol, ac agorwyd y drysau ar yr 30ain i dyrfa fawr o bobl. Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr, a chodwyd cyfanswm o £211 tuag at yr elusen.

Yn ogystal, fe wnaeth y gr w ˆ p heini drefnu digwyddiad i godi arian at Blant mewn Angen. Roedd y diwrnod yn cynnwys ymweliad gan ddwy ysgol leol, cystadleuaeth baentio ac arwerthiant teisennau. Daeth disgyblion Ysgol Gynradd Parc y Rhath â’u paentiadau i gael eu beirniadu gan Jenny Willott AS, ac aeth myfyrwyr o Ysgol Sant Teilo yno gyda’u teisennau cartref, a gwerthu tocynnau raffl. Cafodd pawb ddiwrnod wrth eu bodd, yn ogystal â chasglu cyfanswm o £200.60 at Plant mewn Angen.

Yn y llun, gwelir tri enillydd y gystadleuaeth baentio o Ysgol Parc y Rhath, eu hathrawes Mrs Louise Knight, Saffron Lloyd, JakeFriday a Paige O’Sullivan o Ysgol Teilo Sant, Jenny Willott AS a Sandy Houdmont, y Rheolwr Cynllun.

Dywedodd Joyce, “Mae pawb ohonom yn cyfarfod yn y lolfa bob prynhawn os nad oes unrhyw beth arall yn digwydd ac os ydi hi’n oer y tu allan. Mae pawb ohonom o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol. Rydw i’n ceisio gorffen gwau pâr o sanau dynion ar hyn o bryd, ond rydw i’n cael fy nenu gan bethau eraill. Mae pawb ohonom yn mwynhau cyfarfod yn y prynhawniau gyda’n gwaith gwau a chael sgwrs.” www.wwha.net

35


Eich Newyddion Chi

Enillwyr ein cystadleuaeth Cerdyn Nadolig Cawsom gynigion lliwgar iawn yng nghystadleuaeth Cerdyn Nadolig eleni.

Y rhai eraill a wobrwywyd oedd: • 2il - Mr Harding o Landaf, a enillodd £50 o dalebau Argos

• 3ydd - Mr White o Brestatyn, Roedd pob cais yn enillydd teilwng, ond a enillodd £25 o dalebau Argos roedd yn rhaid i ni ddewis un o’u plith, ac aeth y wobr gyntaf i Dawn Primus o • 3ydd - S Gearing o Grughywel, Gaerdydd, a ddenodd sylw’r beirniaid gan a enillodd £25 o dalebau Argos yn ei fod yn dangos eira yn ei chymdogaeth ogystal. ger Caerau, Caerdydd. Fe wnaeth Dawn ennill £100 o dalebau Argos yn ogystal. Llongyfarchiadau, Dawn. Yn y llun gwelir cynnig buddugol Dawn (isod) a’r e-gerdyn gorffenedig, gyda cherdd wedi ei hysgrifennu gan Gill Sanger, Rheolwr Cyfrifo Ariannol WWHA.

Syrpreis hamper Nadolig i Mrs Sage Cafodd Mrs Sage, o Riw Cae Mawr yn Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr, syrpeis mawr pan ddaeth ei swyddog tai, Claire Pepper, â Hamper Nadolig iddi. Mrs Sage oedd enillydd ffodus y gystadleuaeth Hamper Nadolig yn rhifyn hydref ‘In Touch.’ Dywedodd Mrs Sage, “Rydw i byth a hefyd yn rhoi cynnig ar gystadlaethau, ac roedd yn syrpreis braf cael yr hamper hyfryd cyn y Nadolig.” Hoffem ddiolch i bawb a anfonodd gynigion, ond yn anffodus, dim ond un oedd yn gallu bod yn fuddugol, felly 36

cadwch olwg am ragor o gystadlaethau yn rhifynnau’r dyfodol. Yr ateb cywir oedd C – dros 9,000 o gartrefi. Yn y llun gwelir Claire Pepper, y Swyddog Tai, gyda’r enillydd, Mrs Sage, ei mab, James, ac Archie y ci.

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Pen-blwyddi a dathliadau

Sophie yn Bencampwraig y Dywysoges Diana Mae Sophie Sullivan, sy’n 15 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cyfartha, Merthyr Tudful, wedi cael ei gwobrwyo am fod yn Bencampwr Gwirfoddoli’r Dywysoges Diana. Cyflwynwyd y wobr gan Nick Gibb AS, Gweinidog Llywodraeth Prydain dros Ysgolion y Wladwriaeth, a Dr Maggie Atkinson, Comisiynydd Plant Lloegr, a chafodd ei arwyddo gan y Gwir Anrhydeddus David Cameron AS, Prif Weinidog Prydain ac arweinydd y Blaid Geidwadol. Mae Sophie yn or-wyres i un o gynbreswylwyr Tˆ y Gwaunfarren, Danny Sullivan, a chafodd y wobr am ei gofal dros ei thaid yn dilyn strôc. Mae hi hefyd yn helpu fel gwirfoddolwr i’r

Gymdeithas Strôc yn ystod gwyliau’r ysgol, ac yn treulio amser yn Nhˆ y Gwaunfarren y rhan fwyaf o ddyddiau Mawrth a Mercher. Dywedodd Dave Morgan, Rheolwr Cynllun yn Nhˆ y Gwaunfarren “Mae cyfraniad Sophie at y cynllun yn cael ei werthfawrogi’n fawr.” Sophie gyda’i Am ragor o wybodaeth thystysgrif. neu i enwebu, ewch i: http://diana-award.org.uk neu ffoniwch 0845 337 2987.

Pen-blwydd arbennig Hilda yn 100 oed

Vida yn 101 oed heini

Dathlodd Hilda Doubleday ei phenblwydd yn 100 oed yn Oldwell Court, Caerdydd, ar 1 Hydref, ac roedd wrth ei bodd pan gafodd gardiau pen-blwydd gan Ei Mawrhydi’r Frenhines a Llywodraeth Cymru. Ymunodd teulu Hilda, ei ffrindiau a’i chyd-breswylwyr â hi am damaid o deisen a gwydraid o sieri, a chafodd anrhegion pen-blwydd arbennig – tusw hyfryd o flodau a photel arbennig iawn o win coch gyda’i henw a’i dyddiad geni ar y label. Cyflwynwyd y gwin gan Christine Seargent a John Owen ar ran preswylwyr Oldwell Court, ei chymdogion a’r Grw ˆ p Heini. Dywedodd Hilda “Cefais ddiwrnod wrth fy modd.”

Dathlodd Vida Price ei phenblwydd yn 101 oed ar 19 Rhagfyr. Symudodd Vida i Ystad Goffa yn y Fflint chwe blynedd yn ôl, ac mae’r Rheolwr Cynllun Alison Moody yn dweud ei bod hi’n rhyfeddod. Pan fydd pobl yn holi sut mae hi, mae hi bob amser yn ateb drwy ddweud “yn dal ati, cofiwch.” Gyda chymorth ei ffrindiau, nid yw hi byth ar ei phen ei hun yn hir, ac mae pawb yn y cynllun wrth eu bodd yn ei gweld hi. Nid yw Vida yn hoffi ffwdan, ond ar 19 Rhagfyr, cynhaliwyd bore coffi arbennig iawn yn Ystad Goffa gyda’i holl ffrindiau yn bresennol. Lluniwyd cerdyn pen-blwydd arbennig gan gymydog, ac fe’i llofnodwyd gan yr holl breswylwyr a’i ffrindiau, cyn i’w cyfarchion cynnes gael eu cyflwyno iddi. Pen-blwydd hapus yn 101 oed Vida! www.wwha.net

37


Llythyrau at y Golygydd… Rydym bob amser yn awyddus i glywed gennych chi… Felly, os hoffech chi rannu unrhyw beth gyda ni, ysgrifennwch at Sarah Manners, Llythyrau at y Golygydd, In Touch, Cymdeithas Tai Wales & West, 3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD. Neu anfonwch e-bost sarah. manners@wwha.co.uk Rydym yn cadw’r hawl i olygu llythyrau yn amodol ar y lle sydd ar gael, neu ystyriaethau eraill.

Annwyl Sarah h chi bore heddiw yn Cefais alwad ffôn gennyc i wedi ennill y wobr d rhoi gwybod i mi fy mo Cerdyn Nadolig. A gaf h aet leu gyntaf yn y gystad i ddiolch yn fawr iawn i fanteisio ar y cyfle hwn & West, roeddwn yn les i bawb ohonoch yn Wa ennill; ni allai fod wedi falch iawn fy mod i wedi dod ar adeg well. hi’n gwneud teisen Pan ffonioch, roeddwn wrt 16 heddiw, felly mae n ben-blwydd i’n merch, sy’ . Rwy’n ymddiddori dau reswm dros ddathlu os hoffech weld mewn ffotograffiaeth, ac h Dawn Primus yn iwc teip rhagor o fy ngwaith, g ar fy ngwefan mewn Google a chymerwch olw r digidol. cylchgrawn ffotograffwy Diolch eto am eich caredigrwydd.

Preswylwyr Hanover Court yn dangos eu gwerthfawrogiad i Swyddogion Cymorth Dawn Primus Cymunedol yr Heddlu Mae’r PCSO Samantha Dance wedi bod yn patrolio ardal Llangatwg ger y Barri dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r PCSO Dominic Bury wedi bod yn gwneud hynny am ddwy flynedd a hanner. Eu nod yw cynnal patrolau amlwg er mwyn tawelu gofidiau’r gymuned drwy fod yn bresennol yno, a dod i adnabod y preswylwyr. Mae Sam a Dom wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r gymuned leol ers iddyn nhw ddechrau bod ar ddyletswydd, maen nhw bob amser wrth law i ymweld a sgwrsio gyda phreswylwyr Hanover Court, y Barri, ym Mro Morgannwg, gan dawelu unrhyw bryderon a allai fod ganddyn nhw. Fe fyddan nhw’n cynnal Cymhorthfa’r Heddlu yn Hanover Court ym mis Ionawr, ac maen nhw’n barod i drafod ffyrdd o atal troseddau. Mae Sam a Dom yn aml yn galw yn Hanover Court ar brynhawn Mawrth, pan fydd y preswylwyr yn cynnal grwp ˆ Dawnsio Llinell, wedi ei drefnu gan un o’r preswylwyr, Diolch i Sam a Dom gan bawb Mary Wood. Hyd yma, mae Mary wedi methu perswadio yn Hanover Court a WWHA. Sam a Dom i ymuno yn y dawnsio! Roedd y ddau PCSO yn chwilio am fusnesau lleol i roi tua £300 o nawdd i dalu am gyfarpar, ac roedd WWHA yn sydyn eu hymateb, gan roi nawdd i dalu am gyfarpar diogelwch i fynd gyda’r beiciau a oedd wedi cael eu prynu gan yr Awdurdod Heddlu. Fe wnaeth WWHA gydnabod gwaith anhygoel y PCSOs a’r gwahaniaeth y mae hynny wedi ei wneud i breswylwyr Hanover Court. 38

Cymdeithas Tai Wales & West Gaeaf 12


Deddf Cydraddoldeb 2010... ...beth yw ei arwyddocâd i chi? Fe wnaeth y ddeddf hon gymryd lle pob cyfraith flaenorol ar atal gwahaniaethu, gan greu un ddeddf i wneud y gyfraith yn symlach a chael gwared ar anghysonderau. Fe’i dyluniwyd i warchod rhai ‘nodweddion’: • Oedran • Anabledd • Ailbennu rhywedd • Beichiogrwydd a mamolaeth • Priodasau a phartneriaethau sifil • Hil • Crefydd neu gred • Rhyw • Tueddfryd rhywiol Yn rhifynnau nesaf In Touch fe wnawn ni egluro beth mae pob un o’r nodweddion hyn yn ei olygu. Pam fod oedran yn bwysig? Mae camsyniadau cyffredin fod pawb sy’n ‘hˆ yn’ yn debyg i Victor Meldrew o One Foot in the Grave a phawb sy’n ‘ifanc’ fel Vicky Pollard o Little Britain! Er hynny, fe wnaeth arolwg gan gwmni Saga yn ddiweddar ganfod fod pobl ifanc heddiw yn ystyried cenedlaethau eu rhieni a’u teidiau a’u neiniau fel pobl gyfeillgar, gwybodus, ac fel mae pobl ifanc yn ei ddweud, yn ‘cw ˆ l’! I’r rhan fwyaf o bobl, nid yw oedran yn broblem – mae heneiddio’n rhan o fywyd, ac mae pobl yn cael eu hannog i wneud yn fawr o’u bywydau a chyfrannu at y gymdeithas. A dyna sut y dylai pethau fod. Ond weithiau, mae unigolion, neu fusnesau, yn gallu dweud a gwneud pethau sy’n cael effaith negyddol, pa un ai a fwriadwyd hynny ai peidio. Beth yw gwahaniaethu ar sail oedran? Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn golygu rhagdybio pethau am unigolion, eu galluoedd, eu hamgylchiadau, y pethau maen nhw’n eu ffafrio, a llawer mwy, a hynny ar sail un peth – eu hoedran.

Mae nifer o ddatblygiadau cadarnhaol wedi bod o ran mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran – er enghraifft, nid oes yn rhaid i bobl ymddeol yn 65 oed erbyn hyn, ac mae achosion cyfreithiol wedi herio cyflogwyr ar eu safbwynt ar oedran. Un achos oedd hwnnw yn 2009, pan oedd cyfyngiad oedran o 35 oed yn gymwys i’r rhai oedd yn hyfforddi fel rheolwyr trafnidiaeth yr awyr. Nid oedd gan y cyflogwr dystiolaeth i gefnogi ei ddadl fod dirywiad ym mherfformiad rheolwyr trafnidiaeth yr awyr oedd yn hˆ yn, ac roedd y mesurau diogelwch helaeth a oedd ar waith yn barod yn golygu nad oedd angen cyfyngiad oedran i gyflawni’r nod o wella diogelwch. Penderfynodd y tribiwnlys na allai’r cyflogwr gyfiawnhau’r cyfyngiad oedran o 35, a gan hynny, roedd yn anghyfreithlon. Beth allaf i ei wneud ynghylch y ddeddf? Dewch i adnabod pobl hˆ yn ac iau eich cymuned, rhowch y gorau i wneud hwyl ar sail oedran a gallu, a dywedwch wrth eraill fod jôcs a sylwadau eraill o’r fath yn amharchus. Gwnewch bopeth allwch chi i ddysgu am ddoniau pob unigolyn, beth bynnag fo eu hoedran! www.wwha.net

39



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.