Alleston Solar Farm - Statutory Consultation Boards (Cymru)
Croeso
Rydym yn cynnig fferm solar â chapasiti o tua 30MW, wedi’i lleoli rhwng Penfro a Llandyfái.
Yn dilyn ymgysylltu cynnar ar y cynigion yn 2023, cawsom adborth gwerthfawr gan y gymuned leol, gan ein helpu i fireinio gosodiad a chynlluniau’r safle.
Bydd adborth a dderbynnir yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol yn cael ei ddefnyddio i lywio’r cynigion terfynol, y disgwyliwn eu cyflwyno i Benderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru (PEDW) yn ystod Gaeaf 2024/2025.
Ynglŷn â Statkraft
Cynhyrchydd mwyaf ynni adnewyddadwy yn Ewrop
40 o brosiectau ar waith neu’n cael eu datblygu ledled y DU
Yn tarddu o ynni dŵr Norwy dros 125 mlynedd yn ôl
Wedi caffael SolarCentury yn 2020, gan ddod â hanes cryf o ddatblygiad solar yn y DU ac Ewrop i mewn
Yn gweithredu yn y DU er 2006 gyda swyddfeydd ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd
Datblygu, adeiladu a gweithredu gwasanaethau sefydlogrwydd gwynt, solar, hydrogen a grid
Dosbarthu dros £4 miliwn i gymunedau ger ein prosiectau ynni adnewyddadwy
I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru am ddiweddariadau, ewch i www.alleston-solar.co.uk
ALLESTON
Ein cynigion
Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys paneli solar wedi’u gosod ar y ddaear, ar uchder mwyaf o 3.4m, ac offer, seilwaith a gwaith ategol cysylltiedig.
Crynodeb o’r prosiect
Capasiti o tua 30 MW yn helpu i bweru Cymru
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy cyfwerth ag angen dros
14,000 o GARTREFI (1)
Amcangyfrif o £50,000 o ardrethi busnes i Gyngor Sir Penfro bob blwyddyn
CRONFA BUDD CYMUNEDOL O
£480,000 dros oes y prosiect
PERLLAN NEWYDD
i wella nodweddion treftadaeth a bioamrywiaeth leol
Budd net i FIOAMRYWIAETH gwella bioamrywiaeth trwy ddarparu cynefinoedd newydd
HAWL TRAMWY CYHOEDDUS wedi’i ailgyfeirio (2) i’w symud tua’r gorllewin, ochr yn ochr a Choed Alleston Tua 1.4km o blannu gwrychoedd newydd
(1) Yn seiliedig ar ddefnydd cyfartalog cartrefi Cymru o 3,032kWh y flwyddyn (DESNZ, Ionawr 2024)
(2) Trwy gydsyniad eilaidd
Ein cynigion
Pam yma?
Mae cysylltiad ar y safle â llinell bŵer
132kV bresennol yn golygu na fydd angen unrhyw geblau ychwanegol
y tu allan i ffin y safle
Dyddiad cysylltu o 2027
Lefelau arbelydru solar rhagorol i wneud y mwyaf o gynhyrchu trydan effeithlon
Cyfrannu at dargedau ynni lleol a chenedlaethol:
- Nod Cyngor Sir Penfro yw dod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030
- Targed cenedlaethol Cymru o 100% o drydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2035
Cynllun y safle
Mae paneli solar a seilwaith cysylltiedig wedi ‘u trefnu i leihau effaith weledol ac i osgoi ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd.
Rydym wedi datblygu ein cynlluniau i leihau’r effaith ar dir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas (GMA) ac ardaloedd sy’n sensitif yn archeolegol.
FFERM SOLAR ALLESTON
Tirwedd a Delweddau
Rydym yn deall y bydd aelodau’r gymuned eisiau gwybod sut y gallai’r cynigion presennol edrych. Heddiw gallwn ni rannu golygon a ragwelir o dri lleoliad.
Wrth ddylunio’r safle, rydym wedi:
Gwneud y defnydd gorau o wrychoedd presennol ac wedi’u hadfer i ddarparu sgrinio
Seilwaith safle wedi’i leoli i leihau’r effaith ar ddefnydd tir ac anheddau lleol
Paneli wedi’u tynnu o’r caeau gogleddol i leihau’r golygon o Heol Llandyfái Isaf
Gwneud defnydd o wrychoedd a choetir presennol neu newydd i leihau golygfeydd o’r hawl tramwy cyhoeddus
Creu perllan newydd i wella lleoliad treftadaeth a golygfeydd y Ffermdy o Heol Llandyfái Isaf
Mae ein Hasesiad o’r Effaith ar y Dirwedd ac Effaith Weledol (LVIA) wedi dod i’r casgliad y bydd dim ond ychydig iawn, os o gwbl, o effeithiau gweledol ar nodweddion treftadaeth neu gadwraeth a nodwyd gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Delweddau
Sut olwg fydd ar Fferm Solar Alleston?
Golygfan a ragwelir 1.
Lleoliad 1: Llwybr cyhoeddus o Heol Llandyfái Isaf yn cerdded tuag at Ffermdy Alleston
Golygfa bresennol
Ffotogyfosodiad blwyddyn 0
Ffotogyfosodiad blwyddyn 15
Delweddau
Sut
olwg
fydd ar Fferm Solar Alleston?
Golygfan a ragwelir 2.
Lleoliad 10: Golygfa o ochr orllewinol Ffordd Llandyfái Isaf (yn edrych i’r de ar draws Fferm Alleston)
Golygfa bresennol
Ffotogyfosodiad blwyddyn 0
Ffotogyfosodiad blwyddyn 15
Delweddau
Sut olwg fydd ar Fferm Solar Alleston?
Golygfan a ragwelir 3.
Lleoliad 19: Golygfan o ben Sixth Lane, Penfro
Golygfa bresennol
Ffotogyfosodiad blwyddyn 0
Ffotogyfosodiad blwyddyn 15
Ecoleg a Bioamrywiaeth
Mae’r prosiect hwn yn gyfle gwerthfawr i wella bioamrywiaeth a darparu cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi amrywiaeth o rywogaethau trwy fentrau ar y safle ac oddi arno. Bydd y prosiect yn cyflawni o leiaf 10% o gynnydd net mewn bioamrywiaeth.
Mae ffermydd solar yn cynnig cysgod i fywyd gwyllt trwy fwy o wrychoedd a phlannu arall
Mae mwy o ddolydd blodau gwyllt a glaswelltir yn annog rhywogaethau mwy amrywiol o blanhigion a phryfed
Tua 1.4km o blannu gwrychoedd newydd
Mae astudiaethau wedi nodi bod ffermydd solar yn gartref i lawer o rywogaethau o blanhigion a phryfed
Mae ffermydd solar yn cadw tir amaethyddol a gallant gynorthwyo adferiad pridd
[Ar gael yn: https://randd.defra.gov.uk/ProjectDetails?ProjectId=15536]
Fel aelodau o’r Ymddiriedaeth Cadwraeth Cacwn, rydym yn gweithio’n agos i sicrhau bod ein harferion rheoli cynefinoedd yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwella, creu ac adfer cynefinoedd cacwn
Adeiladu a Mynediad
Rydym wedi cwblhau asesiad manwl o’r llwybrau traffig adeiladu a gweithredol posibl a’r pwyntiau mynediad. Rydym yn canolbwyntio ar leihau’r effeithiau ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, yn enwedig yn ystod y cyfnod adeiladu o tua 9 mis.
Yn ystod y cyfnod gweithredu
Os caniateir y datblygiad, bydd y fferm solar weithredol yn derbyn ychydig iawn o draffig yn unig gan nad oes angen presenoldeb parhaol ar y safle.
Yn ystod y gwaith adeiladu
Bydd mynediad i’r fferm solar arfaethedig o Heol Llandyfái Isaf, trwy’r gyffordd fynediad bresennol i Fferm Alleston.
Yn rhan o’r cais cynllunio, rydym wedi paratoi Cynllun Adeiladu a Rheoli Traffig (CTMP), sy’n nodi mesurau i leihau’r effaith adeiladu ar Benfro a Llandyfái. Mae hyn yn cynnwys cynllun i reoli danfoniadau i’r safle, gan gynnwys llwybr rhagnodedig y mae’n rhaid i gerbydau adeiladu a danfoniadau ei ddilyn.
Er mwyn darparu ar gyfer traffig adeiladu sy’n gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig, cynigir y mesurau lliniaru canlynol:
Bydd Cerbydau Nwyddau Trwm yn cyrchu’r safle y tu allan i amseroedd gollwng a chasglu’r ysgol yn unig. Lledu’r heol wrth fynedfa’r safle.
Mân ledu troadau i wella mynediad.
Tocio llystyfiant ymylon, lle bo angen, i wella gwelededd.
Ymestyn mannau pasio presennol. Gall y rhain fod yn rhai dros dro neu’n barhaol, yn dibynnu ar adborth gan yr awdurdod priffyrdd lleol.
Buddsoddi Lleol
Rydym yn ymdrechu i fod yn gymydog da a sicrhau’r buddion
mwyaf posibl i gymunedau. Rydym yn croesawu eich
syniadau ar sut y gallwn ni gyflawni ar gyfer y gymuned.
Cyflenwyr Lleol
Mae’r perthnasoedd a feithrinwn â chyflenwyr lleol yn helpu ein prosiectau i ddod yn llwyddiannus ac yn darparu buddion economaidd gwerthfawr trwy fewnfuddsoddi.
Mae gennym hanes da o gynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn ystod cyfnod adeiladu ein prosiectau. Sganiwch y Cod QR i gofrestru’ch diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect.
Perchnogaeth Gymunedol
Rydym yn edrych ar gyfleoedd perchnogaeth a rennir a chymunedol ar gyfer Alleston.
Mae amrywiaeth o fodelau sy’n caniatáu rhanberchnogaeth ar brosiectau ynni adnewyddadwy. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch rhanberchnogaeth neu berchnogaeth gymunedol, rhowch wybod i ni sut olwg rydych yn meddwl y gallai fod arni ar gyfer y datblygiad hwn.
Cronfa Budd Cymunedol
Mae Statkraft wedi ymrwymo i gydweithio’n agos â’r gymuned leol i ddod â gwerth hirdymor a chyflawni prosiect y gellir ei ystyried yn ased lleol.
Bydd Fferm Solar Alleston yn darparu cronfa budd cymunedol o tua £480,000 dros oes o 40 mlynedd y prosiect.
Bydd y gronfa hon byddai’n cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau a mentrau ym Mhenfro a Llandyfái sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth i drigolion ar faterion fel addysg, effeithlonrwydd ynni, ac gwelliannau amgylcheddol, yn ogystal â chyfleusterau cymunedol gwell. .
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ynghylch grwpiau neu brosiectau lleol a allai elwa o’r gronfa, rhowch wybod i ni.
Adborth a’r Camau Nesaf
Diolch am ymweld â’n digwyddiad ymgynghori.
Mae eich adborth yn bwysig i helpu i lywio’r cynigion terfynol ar gyfer Fferm Solar Alleston.
Y camau nesaf
Byddwn yn nodi ein hymateb i’r holl adborth pan gyflwynir y cais cynllunio, gan amlygu lle gallai’r cynllun fod wedi newid.
Rhowch eich sylwadau i ni erbyn 19 Tachwedd 2024.
Yn dilyn yr ymgynghoriad statudol, byddwn yn adolygu ac yn ymateb i sylwadau i’n helpu i lywio’r cynigion terfynol.
Dysgu rhagor ac adborth
I ddysgu rhagor am y cynnig ac adolygu’r cais cynllunio drafft llawn, ewch i wefan y prosiect: alleston-solar.co.uk. Gallwch chi lenwi ffurflen adborth ar-lein, neu gysylltu â ni drwy:
Dychwelyd y ffurflen ateb rhadbost i freepost STATKRAFT
Hydref/Gaeaf 2023
Ymgynghoriad cymunedol ag ymgysylltu cynnar ar gynigion a chyflwyniad cwmpasu amgylcheddol.
Gaeaf 2023/Gwanwyn 2024
Ymchwiliadau ac astudiaethau safle i lywio’r cynigion terfynol.
Hydref 2024
Ymgynghoriad cymunedol statudol ar y Cais Cynllunio Drafft.
Gaeaf 2024/2025
Cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru (PEDW).
Gaeaf 2025
Argymhelliad a ragwelir gan PEDW a phenderfyniad gan Weinidogion Cymru.