Lliw Eich Arian

Page 1


Mae’n beth rhyfedd pan fo pobl busnes yn gwrthod arian da – fel y bunt binc – o achos eu rhagfarn yn erbyn y person sy’n cynnig yr arian hwnnw. Ond yn waeth na hynny mae’n anfoesgar, sarhaus, annheg a bellach – o’r diwedd! – anghyfreithlon.

Ac os y gall rhywun arall ei brynu neu ei hawlio neu ei archebu, gallwch chi wneud hynny hefyd, boed yn ystafell ddwbl mewn gwesty, gwasanaeth gan y GIC, neu’n bryd bwyd rhamantus.

Nod y deddfau newydd – Y Ddeddf Rheoliadau Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007, os ydych chi eisiau’r teitl yn llawn – yw anghyfreithloni’r math hwn o gamwahaniaethu, gan olygu pan fo rhywbeth yn cael ei gynnig, y gallwch chi ei gael. Beth bynnag yw lliw eich arian.


Mae yno ardd hyfryd ac maent wedi bod mewn sawl gwledd briodas hyfryd yno. “O, mae’n ddrwg gen i,” meddai rheolwr y bwyty pan maent yn galw i gadarnhau’r trefniadau a phenderfynu ar y fwydlen. “Roeddwn i’n meddwl mai gwledd briodas oedd hon.” “Wel, mae’n wledd Partneriaeth Sifil,” meddai un o’r menywod. “Digon tebyg.” “Mae gen i ofn mai bwyty teuluol yw hwn,” meddai’r rheolwr. “Dydyn ni ddim yn gwneud y math yna o beth.” “Ym, wn i ddim a ydych chi wedi clywed am y deddfau newydd…”


Mae’n benwythnos o wyliau iddynt ac roedd rhywun wedi argymell y lle hwn. Mae’n hyfryd. “Fedrwch chi sicrhau ei fod yn wely dwbl?” meddai un o’r dynion wrth y gweithiwr yn y dderbynfa. Heb fod mewn ffordd bryfoclyd, ond y bwriad yw cael penwythnos rhamantus. “Mae’n ddrwg gen i, dydyn ni ddim yn gwneud hynny yma,” meddai’r gweithiwr yn y dderbynfa. “Dydyn ni ddim yn caniatáu i ddau ddyn rannu gwely dwbl. Gallwch gael dau wely sengl neu gallaf argymell gwesty arall os hoffech...” “Ym, wn i ddim a ydych chi wedi clywed am y deddfau newydd…”


Dyma’u plentyn cyntaf ac maent yn teimlo’n gyffrous iawn ac am wneud popeth yn iawn. “Dosbarthiadau i fenywod beichiog a’u partneriaid yw rhain,” meddai’r person sydd â’r rhestr enwau. “Nid cyfeillion.” “O, mae’n iawn,” meddai’r fenyw feichiog, “nid fy ffrind yw hon, ond fy mhartner. Rydym ni’n cael y babi hwn gyda’n gilydd.” “Wrth ddweud ‘partner’ rydyn ni’n golygu partner gwrywaidd,” meddai’r nyrs â’r rhestr. “Sef ‘tad’. Os fyddwn ni’n dechrau gadael pob math o bobl mewn…” “Ym, wn i ddim a ydych chi wedi clywed am y deddfau newydd…”


Meysydd Allweddol Addysg Ni all ysgol wrthod mynediad i ddisgyblion hoyw bellach am fod rhywun yn gwrthwynebu’r ffaith eu bod nhw – neu eu rhieni – yn hoyw. Ac ni ellir eu trin yn wahanol pan maent yno chwaith!

Iechyd Ni all Meddygon Teulu eich gwrthod bellach am fod yn hoyw – roedd rhai yn gwneud hynny yn y gorffennol! – na’ch atal rhag derbyn triniaeth y byddent yn ei gynnig i unrhyw un arall.

Gwestai Gwelyau dwbl i bawb! Wel, os

ydynt yn dymuno hynny.

Gwasanaethau Cyngor Byddai rhai cynghorau yn gwrthod cydnabod bwlio homoffobaidd fel rheswm da dros ailgartrefu person (neu daflu cymydog allan o’i gartref). Bellach mae’n rhaid iddynt weithredu.

Gwir neu gau Mae angen mis mêl ar bobl hoyw hefyd!

Mabwysiadu Rhaid i asiantaethau farnu eich addasrwydd fel cwpwl ar, wel, eich addasrwydd fel cwpwl. Nid eich rhywioldeb.

Bwytai

Tai

‘Dal llaw eich cariad ar draws y bwrdd? Dim problem, madam.’ Nid yr arian yn unig sy’n bwysig – bellach nid oes angen i chi oddef cael eich trin yn wahanol i unrhyw un arall.

Os oes ty^ neu fflat ar werth neu ar rent, ni all y perchennog na’r landlord eich gwrthod ar y sail eich bod yn hoyw.

Cwmnïau Teithio Mae’r lleoliadau gwyliau cyplau-yn-unig bellach yn agored i bob math o gyplau.

Bancio Roedd rhai banciau yn arfer gwrthod cyfrifon banc ar y cyd i gyplau o’r un rhyw. Nid oes modd iddynt wneud hynny bellach.

Rhai chwedlau poblogaidd am yr hyn y bydd y rheoliadau newydd yn ei olygu a pham y bydd pob busnes – hoyw a strêt – yn llawer gwell eu byd. Bydd yn golygu y bydd yn rhaid i glybiau hoyw ganiatáu mynediad i bobl strêt. Gwir. Ond mae’r mwyafrif o glybiau hoyw yn gwneud hynny beth bynnag. Yn amlwg, gall y rheolwyr gadw’r hawl i beidio â chaniatáu mynediad i unrhyw un y maent yn amau fydd yn creu trwbl, fel sy’n digwydd eisoes.

Bydd gwasanaethau cefnogi hoyw a lesbiaidd hefyd yn agored i bawb. Gau. Os yw’r gwasanaethau cefnogi yn cael eu hanelu at ran benodol o’r boblogaeth yna byddant yn parhau i gael eu targedu yn yr un modd. Felly os oes rhywun wedi sefydlu clwb chwaraeon fel bod lesbiaid ynysig yn medru cyfarfod, ni fydd y rheoliadau newydd yn effeithio ar hynny.

Os ydych yn sefydliad crefyddol nid oes yn rhaid i chi gydymffurfio gyda’r rheolau hyn. Gau. Oes, mae’n rhaid i chi! Efallai nad yw’r rheoliadau newydd yn cwmpasu gwasanaethau fel priodasau neu fedydd, ond penderfynwyd na ddylai unrhyw sefydliad crefyddol fedru cael ei eithrio’n awtomatig cyn belled ag y bo unrhyw beth arall yn y cwestiwn.

Nid oes modd i chi gael rhywbeth fel clinig dynion hoyw bellach. Gau. Gallwch, mi allwch chi. Yn union yn yr un modd ag y mae gwasanaethau iechyd yn cael eu cyfeirio yn benodol at fenywod neu blant neu’r henoed, gellir targedu gwasanaethau iechyd at ddynion hoyw. Neu lesbiaid o ran hynny. Mae anghenion pawb yn benodol.

Hyd yn oed os ydynt yn torri’r gyfraith hon, nid oes llawer y medrwch wneud am y peth. Gau. Wrth gwrs y medrwch chi. Os ydych chi’n dioddef camwahaniaethu o dan amodau’r rheoliadau, yn y lle cyntaf dylech ddweud wrth y person yn uniongyrchol am y deddfau newydd. Yn y pen draw, gallwch gymryd achos llys ac o bosib dderbyn iawndal hyd yn oed.


Cynlluniwyd y ddeddfwriaeth cyfeiriadedd rhywiol newydd i’ch amddiffyn chi – a’ch arian – yn erbyn camwahaniaethu gan bobl ym myd busnes a gwasanaethau cyhoeddus. Dyna’r ddeddf. Defnyddiwch hi! Mwy o wybodaeth ar www.stonewall.org.uk Cefnogwyd gan


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.