Rhan 1 Beth ydych yn ei wneud? Bydd y cwestiynau canlynol yn eich helpu i ystyried sut y gallai nodau eich menter gymdeithasol / sefydliad a'ch cleientiaid effeithio ar y ffordd y byddwch yn ystyried eich presenoldeb ar-lein. a) Pa fath o fenter cymdeithasol / sefydliad ydych chi? Manwerthu Gwasanaeth Busnes i Fusnes Cyfeirio Arall (Math/nodwch eich ateb isod)
b) Pwy yw'ch cleientiaid/cwsmeriaid? Unigolion Preifat Teuluoedd Sefydliadau eraill Busnesau Arall (Math/nodwch eich ateb isod)
c) Ble mae'ch cleientiaid/cwsmeriaid? Lleol Sir Cenedlaethol Rhyngwladol
d) Beth mae'ch cwsmeriaid/cleientiaid yn dymuno'i gael gan eich presenoldeb ar-lein? Dod o hyd i'ch lleoliad(au) Gweld eich oriau agor Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 1 o 23
Cysylltu 창 chi Darganfod mwy am eich cynhyrchion neu'r gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig Prynu cynhyrchion a gwasanaethau Arall (Math/nodwch eich ateb isod)
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 2 o 23
Rhan 2 Cael eich rhestru mewn Cyfeiriaduron Cael eich rhestru mewn cyfeiriadur ar-lein yw isafswm lleiaf eich presenoldeb ar-lein. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn ddigon. Mae 97% o gwsmeriaid yn chwilio am fusnesau lleol ar y Rhyngrwyd. Mae cyfeiriaduron ar-lein fel Google Places (www.google.com/places) ac Yell.com (www.Yell.com) yn helpu eich cleientiaid i ddod o hyd i'ch sefydliad ar sail eich lleoliad a'r math o wasanaeth yr ydych yn ei gynnig. Mae modd i chi restru eich hun ar y gwefannau hyn yn rhad ac am ddim. Bydd lefel y manylder y bydd angen i chi ei chael yn eich rhestriad ar-lein yn amrywio, fodd bynnag, bydd angen y canlynol arnoch fel yr isafswm: -
Enw'ch sefydliad.
-
Eich gwybodaeth at ddibenion cysylltu (cyfeiriad, cod post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn)
-
Disgrifiad byr o bwy ydych chi.
Yn ogystal, mae modd i chi ystyried ychwanegu: -
Dolen i'ch gwefan
-
Lluniau o'ch cynhyrchion, neu'ch gwasanaethau, neu'ch adeilad
-
Eich oriau agor
-
Digwyddiadau rheolaidd neu untro
Trefnu Rhestriad ar Google Places
Er mwyn ychwanegu eich sefydliad i Google Places, bydd angen Cyfrif Google arnoch chi (os ydych yn defnyddio Gmail, bydd un gennych chi yn barod). Os nad oes gennych chi Gyfrif Google, trowch at www.google.co.uk gan glicio ar ‘Sign in’, cliciwch 'Sign Up' ar y dudalen ddilynol yng nghornel y dudalen ar yr ochr dde a dilynwch y cyfarwyddiadau. Pan fydd gennych chi Gyfrif Google, trowch at www.google.com/places/ gan glicio ar Get Started Now Ar y dudalen ddilynol, dylech fewngofnodi i'ch Cyfrif Google; bydd y dudalen nesaf yn gofyn i chi nodi eich rhif ffôn busnes (dylech sicrhau eich bod yn dewis y Deyrnas Unedig). Bydd hyn yn edrych i weld a ydych chi wedi cael eich rhestru ar Google Places yn barod. Y dudalen ddilynol yw prif fanylion y rhestriad, lle y bydd angen i chi nodi: Eich gwlad, Enw eich Cwmni/Sefydliad, Cyfeiriad Stryd, Dinas/Tref, Cod Post, prif Rif Ffôn ac o leiaf un categori y mae'ch sefydliad neu'ch busnes yn perthyn iddo. Mae'r penderfyniad i lenwi gweddill y ffurflen yn un dewisol, ond dylech lenwi'r adrannau yn ôl y gofyn.
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 3 o 23
Byddwch yn sylwi ar fap o'ch ardal leol ar y bar ochr, ac mae modd i chi newid y marciwr i'ch union leoliad. Ar 么l i chi orffen, Cliciwch Submit Yn y blwch isod, nodwch eich Enw Defnyddiwr Google, eich cyfrinair ac URL eich rhestriad i'ch atgoffa ohonynt:
Trefnu Rhestriad ar Yell.com Trowch at yell.com (http://marketing.yell.com/products/yell-free-listing/ ), gan gofrestru am
gyfrif gyda'ch enw, eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Bydd angen i chi ddarparu manylion sylfaenol am eich sefydliad, ac yna, bydd y rhain yn ymddangos ar-lein ar Yell, yng nghyfeiriadur y Tudalennau Melyn, ar wasanaeth 118 24 7 ac ar ap symudol Yell. Mae modd i chi fewngofnodi i'ch rhestriad ar unrhyw adeg er mwyn diweddaru neu ychwanegu manylion. Yn y blwch isod, nodwch eich manylion mewngofnodi i Yell.com er mwyn eich atgoffa:
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 4 o 23
Pa fanteision y bydd cael presenoldeb ar-lein yn eu cynnig? a) Yn yr ymarfer nesaf, meddyliwch am yr hyn sy'n bwysig i'ch sefydliad neu'ch grĹľp, ei nodau, a pha mor bwysig yw'r manteision o fod ar-lein i chi. Ceir rhesi gwag er mwyn cynnwys manteision eraill i'ch sefydliad Ddim yn bwysig Mantais Ar-lein
1
Pwysig Iawn 2
3
4
5
Mwy o Werthiant
Cleientiaid Newydd
Casglu Gwybodaeth am Gleientiaid Creu cymuned
Cyfraddau gwell er mwyn cadw Cleientiaid Darparu Gwybodaeth
Gostwng y Gwariant ar Hysbysebu Llai o Waith Gweinyddol Adborth gan gleientiaid am gynhyrchion/ gwasanaethau Recriwtio staff / gwirfoddolwyr Rhoddion
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 5 o 23
Hyrwyddo achos neu wasanaeth
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 6 o 23
b) Gan eich bod wedi nodi'r manteision sydd bwysicaf i chi a'ch sefydliad yn eich barn chi, defnyddiwch y blwch isod er mwyn ysgrifennu datganiad byr am yr hyn yr ydych yn dymuno'i gyflawni trwy gael presenoldeb ar-lein:
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 7 o 23
Beth sy'n Gwneud Presenoldeb Ar-lein Da? Mae gweithgareddau ar-lein nifer o sefydliadau yn canolbwyntio ar fwy na phrif wefan yn unig. Mae'r presenoldeb ar-lein yn cynnwys gweithgareddau niferus: -
Gwefan y Sefydliad
-
Rhestru ar Gyfeiriaduron Ar-lein
-
Blaen siop Ar-lein e.e. Amazon, Ebay, Etsy, Folksy
-
Tudalennau ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, Google +
-
Podlediadau a chynnwys Fideo
-
Cylchlythyrau E-bost
-
Blogiau a sylwadau gan staff a defnyddwyr
-
Fforymau a Byrddau Trafod
a) Dewiswch fusnes neu sefydliad yr ydych yn gyfarwydd ag ef, ac y mae ganddo bresenoldeb ar-lein effeithiol yn eich barn chi. Efallai bod ganddo bresenoldeb amrywiol, gyda nifer fawr o'r pethau a restrwyd uchod neu ychydig ohonynt yn unig. Dylech lenwi'r blychau isod. Enw'r Busnes
A ydych o'r farn bod y wybodaeth a ddarparir o ansawdd uchel? Pam ei bod o ansawdd uchel yn eich barn chi?
A yw'r Presenoldeb ar-lein yn hawdd manteisio arno? Beth sy'n ei wneud yn hawdd manteisio arno? Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 8 o 23
A yw'r wybodaeth wedi cael ei strwythuro mewn ffordd eglur? Sut mae'r busnes yn sicrhau bod y strwythur yn eglur?
Beth yw'ch amcanion chi – sut fyddwch ar eich ennill trwy fynd ar-lein? Gallai'r amcanion er mwyn mynd ar-lein fod yn wahanol o sefydliad i sefydliad. Efallai y bydd un sefydliad yn dymuno cyrraedd marchnad newydd neu garfan o gleientiaid newydd; efallai y bydd un arall yn dymuno darparu gwybodaeth a chyfeirio. Yn ogystal, mae modd i chi yn symud ar-lein gael effaith ar brosesau busnes a gweinyddol. Bydd nodi amcanion eglur yn eich helpu i gynllunio ar gyfer eich presenoldeb ar-lein mewn ffordd effeithiol. Gallai fod o ddefnydd i chi ystyried eich cynllun busnes neu nodau eich sefydliad. a) Beth yw amcanion eich sefydliad (yn gyffredinol, nid ar-lein yn unig) -
Cynyddu nifer y cleientiaid
-
Cyfathrebu mewn ffordd well gyda chwsmeriaid
-
Cynyddu nifer yr ymholiadau
-
Cynyddu gwerthiant / archebion
-
Gostwng y gwariant ar hysbysebu
-
Lleihau'r gwaith gweinyddol
-
Arall (defnyddiwch y blwch isod)
b) Nodwch y 3 amcan pwysicaf a restrwyd gennych uchod, esboniwch sut y gallai presenoldeb ar-lein gynnig datrysiad neu gyfle. Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 9 o 23
Beth ydych yn dymuno ei gyflawni a sut allai presenoldeb ar-lein helpu? Rhestrwch eich 3 amcan pwysicaf a sut y gallai presenoldeb ar-lein gynnig datrysiad neu gyfle i gyflawni'r rhain. Amcan
Datrysiad/Cyfle
Gwerthuso Er mwyn cael syniad o'r ffordd y mae sefydliadau eraill yn troi at strategaethau ar-lein, mae o ddefnydd adolygu eu gwefannau a'u cymharu gyda'r hyn yr ydych yn dymuno'i gyflawni. Yn gyntaf, meddyliwch am sawl sefydliad sy'n gweithio mewn maes tebyg, mewn cystadleuaeth uniongyrchol gyda chi neu sy'n gweithio gyda materion tebyg. Agorwch eich porwr a throwch at chwilotwr (Google, Yahoo, Bing, ac ati): •
Teipiwch enw eich cystadleuydd cyntaf.
•
Nodwch ble y mae eu tudalen we yn ymddangos yn y rhestr.
•
Chwiliwch am eu gwefan swyddogol (byddwch ar eich gwyliadwriaeth am hysbysebion!) ac ewch ati i lenwi'r ffurflen (ar y tudalennau nesaf)
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 10 o 23
•
Dylech wneud hyn gyda thri o'r sefydliadau a restrwyd gennych.
Nesaf, os yw hynny'n berthnasol, ewch ati i lenwi'r ffurflen er mwyn adolygu eich gwefan chi a'ch presenoldeb ar-lein.
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 11 o 23
Sefydliad 1
Beth yw enw'r Sefydliad?
Pa dermau chwilio y gwnaethoch chi eu defnyddio?
Ble wnaeth y sefydliad ymddangos yn rhestr y canlyniadau? Pa mor gyflym y mae eu gwefan yn llwytho? A fyddai modd ei gwella? A oes unrhyw gamgymeriadau neu ddelweddau ar goll?
Pa mor ddefnyddiol, eglur a manwl yw'r wybodaeth ar y wefan? Awgrymwch o leiaf un gwelliant a fyddai'n sicrhau bod y wefan yn haws i'w defnyddio.
Rhestrwch unrhyw nodweddion ychwanegol ar y wefan? E.e. Archebu ar-lein, siop ar-lein.
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 12 o 23
Pa mor hawdd i'w defnyddio yw'r nodweddion? Awgrymwch o leiaf un nodwedd y byddai modd ei gwella a sut y byddech ei gwella.
Yn eich barn chi, pa mor reolaidd y caiff y wefan ei diweddaru? Sut mae modd i chi weld hynny? A oes unrhyw dystiolaeth o gyfranogiad defnyddwyr?
Beth ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Beth yw'r hyn nad ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Sefydliad 2
Beth yw enw'r Sefydliad?
Pa dermau chwilio y gwnaethoch chi eu defnyddio?
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 13 o 23
Ble wnaeth y sefydliad ymddangos yn rhestr y canlyniadau? Pa mor gyflym y mae eu gwefan yn llwytho? A fyddai modd ei gwella? A oes unrhyw gamgymeriadau neu ddelweddau ar goll?
Pa mor ddefnyddiol, eglur a manwl yw'r wybodaeth ar y wefan? Awgrymwch o leiaf un gwelliant a fyddai'n sicrhau bod y wefan yn haws i'w defnyddio.
Rhestrwch unrhyw nodweddion ychwanegol ar y wefan? E.e. Archebu ar-lein, siop ar-lein. Pa mor hawdd i'w defnyddio yw'r nodweddion? Awgrymwch o leiaf un nodwedd y byddai modd ei gwella a sut y byddech ei gwella.
Yn eich barn chi, pa mor reolaidd y caiff y wefan ei diweddaru? Sut mae modd i chi weld hynny? A oes unrhyw dystiolaeth o
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 14 o 23
gyfranogiad defnyddwyr?
Beth ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Beth yw'r hyn nad ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Sefydliad 3
Beth yw enw'r Sefydliad?
Pa dermau chwilio y gwnaethoch chi eu defnyddio?
Ble wnaeth y sefydliad ymddangos yn rhestr y canlyniadau? Pa mor gyflym y mae eu gwefan yn llwytho? A fyddai modd ei gwella? A oes unrhyw gamgymeriadau neu ddelweddau ar goll?
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 15 o 23
Pa mor ddefnyddiol, eglur a manwl yw'r wybodaeth ar y wefan? Awgrymwch o leiaf un gwelliant a fyddai'n sicrhau bod y wefan yn haws i'w defnyddio.
Rhestrwch unrhyw nodweddion ychwanegol ar y wefan? E.e. Archebu ar-lein, siop ar-lein. Pa mor hawdd i'w defnyddio yw'r nodweddion? Awgrymwch o leiaf un nodwedd y byddai modd ei gwella a sut y byddech ei gwella.
Yn eich barn chi, pa mor reolaidd y caiff y wefan ei diweddaru? Sut mae modd i chi weld hynny? A oes unrhyw dystiolaeth o gyfranogiad defnyddwyr?
Beth ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Beth yw'r hyn nad ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 16 o 23
Eich Sefydliad Chi
Pa dermau chwilio y gwnaethoch chi eu defnyddio er mwyn dod o hyd i'ch gwefan? Ble wnaeth eich sefydliad chi ymddangos yn rhestr y canlyniadau? Pa mor gyflym y mae'ch gwefan yn llwytho? A fyddai modd ei gwella? A oes unrhyw gamgymeriadau neu ddelweddau ar goll?
Pa mor ddefnyddiol, eglur a manwl yw'r wybodaeth ar y wefan? Awgrymwch o leiaf un gwelliant a fyddai'n sicrhau bod y wefan yn haws i'w defnyddio.
Rhestrwch unrhyw nodweddion ychwanegol ar y wefan? E.e. Archebu ar-lein, siop ar-lein. Pa mor hawdd i'w defnyddio yw'r nodweddion? Awgrymwch o leiaf un nodwedd y byddai modd ei gwella a sut y Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 17 o 23
byddech ei gwella.
Pa mor reolaidd y caiff eich gwefan ei diweddaru? Sut mae modd i chi weld hynny? A oes unrhyw dystiolaeth o gyfranogiad defnyddwyr? Beth ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Beth yw'r hyn nad ydych yn ei hoffi am ddyluniad y wefan?
Pa un o'r sefydliadau yr ydych wedi eu hystyried sy'n meddu ar y presenoldeb ar-lein mwyaf effeithiol? Meddyliwch am eu gwefan a'u gweithgareddau ar-lein eraill, a sut y maent yn ymwneud 창 diben a gweithgareddau all-lein y sefydliad. Beth sy'n gwneud y presenoldeb ar-lein yn effeithiol?
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 18 o 23
Beth yw effeithiau mynd ar-lein? Mae mynd 창 sefydliad ar-lein yn gallu golygu y bydd yn wynebu sawl her, o'r gwaith o sefydlu gwefan i'w chynnal, yn ogystal 창 delio gyda materion cyfreithiol a diogelwch. Mae pob sefydliad yn wynebu her unigryw, gan ddibynnu ar y math o bresenoldeb ar-lein sy'n angenrheidiol neu a ddymunir. Mae'n bwysig bod yn ymwybodol o'r sialensiau hyn a sut y gallant effeithio ar y gwaith o redeg y sefydliad o ddydd i ddydd. Pa gyfyngiadau y gallech eu hwynebu wrth sefydlu gwefan? Defnyddiwch y tabl isod er mwyn helpu i nodi'r rhain, gan ddechrau cynllunio camau ynghylch sut i ddatrys neu leihau'r materion y byddwch yn eu nodi. Beth yw'ch cyfyngiadau? Nodwch a allai'r cyfyngiadau canlynol effeithio ar eich sefydliad chi, ac os gallent, pam y gallent effeithio ar eich sefydliad a pha gamau y mae modd i chi eu cymryd er mwyn lleihau effaith y rhain Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 19 o 23
gymaint ag y bo modd.
Cyfyngiad
A fydd hyn yn effeithio ar eich sefydliad? Pam?
Gweithredu
Mae angen adnoddau er mwyn sefydlu a chynnal gwefan sefydliad. Materion sy'n ymwneud 창 diogelwch ynghylch taliadau a manylion cwsmeriaid / cleientiaid Ystyriaethau Cyfreithiol a/neu rwystrau
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 20 o 23
Nodweddion eich Presenoldeb Ar-lein Rydych wedi ystyried y ffordd y mae sefydliadau eraill yn defnyddio'r rhyngrwyd ac yn creu eu presenoldeb ar-lein. Yn ogystal, rydych wedi ystyried rhai o'r cyfyngiadau y mae'ch sefydliad yn eu hwynebu wrth greu'ch presenoldeb chi ar-lein. Nodwedd
Hafan
Priodol?
Ydy
Pam?
Prif dudalen lanio ar gyfer y defnyddwyr
Ffurflen Gysylltu
Ffurflen Archebu
Geirda Client
Siop Ar-lein
Dewislenni
Map o'r Wefan
Diogelwch
Fideo
Newyddion
Fforymau / Cyfryngau Cymdeithasol
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 21 o 23
Dolenni Allanol
Nawr mae'n bryd dechrau cynllunio yr hyn yr ydych yn dymuno'i gael o ran nodweddion. Edrychwch ar y tabl isod ac yna, dewiswch y nodweddion sy'n briodol ar gyfer eich sefydliad chi, gan nodi un rheswm pam. Ceir rhesi gwag er mwyn llenwi unrhyw nodweddion ychwanegol y byddwch yn meddwl amdanynt.
Dewis URL Mae creu gwefan sefydliad yn cychwyn trwy benderfynu ar enw parth neu URL. Yr enw parth yw enw cofrestredig y wefan, a'r URL yw ei chyfeiriad gwe. Er enghraifft, enw parth y BBC yw bbc.co.uk, a'i URL yw www.bbc.co.uk. Pan fyddwch yn ystyried yr enw parth yr ydych yn dymuno'i ddefnyddio, meddyliwch pa mor hawdd yw hi i'w gofio, a yw'n cynnwys unrhyw atalnodi, pa mor hir ydyw. Yn ogystal, ystyriwch yr 么l-ddodiad y byddwch yn ei ddefnyddio (.co.uk, .org, .com) gan bod y rhain yn cyfeirio at statws eich sefydliad, er enghraifft, defnyddir .org gan sefydliadau di-elw fel arfer ac yn aml, defnyddir .co.uk gan gwmn茂au yn y DU. Meddyliwch am sawl enw addas ar gyfer eich parth, yna defnyddiwch gofrestrydd enwau parth (www.nominet.org.uk, www.123-reg.co.uk, whois.domaintools.com neu ddewis amgen, mae nifer i gael!) er mwyn darganfod a yw'r enwau parth y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt ar gael i chi eu cofrestru. Defnyddiwch y blwch isod er mwyn cofnodi unrhyw gyfeiriadau sydd ar gael i chi.
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 22 o 23
Y Camau Nesaf Bydd y canllaw hwn wedi peri i chi feddwl am y ffordd yr ydych yn dymuno dechrau creu eich gwefan, ond mae rhai pethau i'w hystyried o hyd: A ydych yn meddu ar y capasiti i greu gwefan eich hun? Os felly, beth yw'r datrysiad cywir i chi? Os na, pa ddewisiadau sydd ar gael? A ydych chi wedi penderfynu ar logos a lliwiau eich sefydliad? Pa wasanaethau eraill yr ydych yn eu defnyddio neu'n bwriadu eu defnyddio? Cofiwch bod gennych chi rwymedigaethau cyfreithiol:
Hygyrchedd, yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010 Preifatrwydd, yn ôl Rheoliadau Preifatrwydd CE, sy'n cynnwys Cyfarwyddeb Cwcis UE, a ddaeth i rym ym mis Mai 2012 Rheoliadau gwerthu o bell, os ydych yn masnachu ar-lein – Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000
Cymunedau 2.0 Rhagfyr 2012
Tudalen 23 o 23