Ardd Berlysiau Parc Singleton, Gerddi Botaneg
4 5 6 3
7 2
8 1
Gwely 1. Casgliad o blanhigion lafant. Gellir defnyddio lafant fel moddion, i goginio ac yn economaidd. Gwelyau 2-8. Maent yn cynnwys amrywiaeth o berlysiau. Achillea ageratum (Pergibyn Cyffredin) - Mae ganddo ddail aromatig a gellir defnyddio’r rhain mewn cawl neu salad tato. Defnyddid gynt i wella clefydau’r afu a’r goden fustl. Achillea millefolium (Milddail) - Defnyddid naill ai o’r tu mewn i wella’r annwyd, y ffliw a’r frech goch neu o’r tu allan i wella clwyfau, gwaedlifau o’r trwyn ac wlserau.
Acorus gramineus (Gellesgen Japaneaidd) Perlysieuyn pwysig o safbwynt meddygaeth Tsieineaidd. Caiff y perlysieuyn hwn ei ddefnyddio hefyd yn Japan i goginio (sekisho).
My Swansea Fy Abertawe
City and County of Swansea Dinas a Sir Abertawe
Agastache foeniculum (Isop Anis) - Defnyddir fel
meddyginiaeth draddodiadol gan nifer o lwythau Gogledd America. Gellir rhoi’r blodau mewn salad neu ddefnyddio’r dail i wneud te.
Allium schoenoprasum Cennin Syfi yw enw cyffredin y perlysieuyn hwn sy’n cael ei ddefnyddio’n bennaf i goginio. Anthemis tinctoria (Camri Melyn) - Lliwlys pwysig a arferai cael ei ddefnyddio i liwio carpedi Twrcaidd cyn i lifynion synthetig ddod yn boblogaidd.
Armoracia rusticana (Rhyddygl Poeth) - Perlysieuyn llymsur iawn sy’n gallu rheoli heintiau bacteriol ac esmwytho twymyn. Baptisia australis (Llysiau’r Lliw Ffug) - Defnyddir fel meddyginiaeth draddiadol gan nifer o lwythau Gogledd America. Defnyddid gynt gan wrachod mewn sbeliau amddiffynnol. Cadwch ddeilen yn eich poced neu rhowch un mewn swynogl i’ch amddiffyn.
Chamaemelum nobile (Camri) - Perlysieuyn chwerw, aromatig sydd â rhinweddau gwrthlidiol ac sy’n achosi ymlacio. Mae’n gweithio’n bennaf ar y system dreuliol. Defnyddir y blodau yn Sbaen i wneud te a rhoi blas i sieri ‘manzanilla’. Foeniculum vulgare (Ffenigl) - Perlysieuyn melys, aromatig gyda phersawr sy’n debyg i arogl anis. Er defnyddir y planhigyn hwn gan feddygaeth i wella, llawer o glefydau, ers amser maith mae hefyd wedi
cael ei ddefnyddio fel llysieuyn mewn nifer o wahanol brydau. Hefyd, defnyddir olew Ffenigl yn helaeth gan y diwydiant bwyd i roi blas i wirodlynnau megis ‘Sambuca’. Defnyddir hefyd mewn past dannedd, sebon, chwistrellau ffreshau a phersawr. Inula helenium (Marchalan) Defnyddir fel poergarthydd, diwretig a chyffur gwrthlidiol sy’n effeithiol ar gyfer heintiau bacteriol a heintiau ffwngaidd. Un tro, roedd yn boblogaidd fel cynhwysyn i roi blas i felysfwydydd a sawsiau i’w rhoi ar bysgod. Defnyddir hefyd mewn diodydd megis fermwth ac absinth.
Iris germanica var. florentina (Elestr) - Caiff ei roi mewn cymysgeddau ar gyfer y dannedd ac i ffreshau’r anadl a defnyddir hefyd fel sefydlyn mewn persawrau. Defnyddir yr olew naws i roi blas i ddiodydd meddal, jin a gwm cnoi ac i drin peswch a chatâr. Isatis tinctoria (Llysiau’r Lliw). Mae eplesu’r dail yn creu llifyn glas. Ers y 1600au, defnyddid y planhigyn hwn gan feddygaeth Tsieineaidd draddodiadol i gynhyrchu ‘quing dai’.
Juniperus communis (Merywen). Defnyddir yr aeron i roi blas i heli piclo, sauerkraut a chig. Defnyddir olew’r ferywen i roi blas i jin, cwrw a gwirodlynnau. Hefyd defnyddir mewn meddyginiaethau llysieuol.
Mathau o Lavandula. (Lafant) - Er bod y planhigion hyn yn cael ei defnyddio’n helaeth gan feddygaeth, cânt eu tyfu’n bennaf am eu holewau naws a gaiff eu defnyddio i gynhyrchu persawr ac mewn aromatherapi. Marrubium vulgare (Llwyd y C wn) ˆ - Defnyddir yn bennaf i drin problemau’r frest megis asma, broncitis, y pas ac ati. Defnyddir y dail i gynhyrchu cwrw llysieuol ac i roi blas i wirodlynnau. Rumex acetosella – Sheep ˆ - Rhoddir Sorrel (Suran yr Yd) dail ifanc, ffres ar salad, mewn sawsiau, cawl, caws meddal a phrydau sy’n cynnwys wyau. Gellir defnyddio’r sudd i gael gwared lliain, pren, arian a gwiail rhag staenau rhwd, ffwng ac inc. Mae ganddo hefyd rai rhinweddau meddyginiaethol. Salvia officinalis (Saets) Defnyddir i flasio cig, saws a stwffin a hefyd i wneud te llysieuol. Defnyddir olew saets fel sefydlyn wrth gynhyrchu persawr a rhoir hefyd mewn past dannedd a chosmetigau. Mae meddyginiaethau llysieuol hefyd yn defnyddio’r planhigyn hwn.
Tanacetum cinerariifolium (Pyrethrwm) - Perlysieuyn aromatig sydd â rhinweddau pryfleiddiol cryfion.
Verbena officinalis (y Ferfaen) – parchwyd y ferfaen yn fawr iawn gan y diwylliant Celtaidd a Germanaidd ac roedd yn sanctaidd gan y Derwyddon a’r Rhufeiniaid. Roedd ganddi nodweddion hudol hefyd ac roedd yn aml yn cael ei chario fel talismon. Heddiw, caiff ei defnyddio ar gyfer meddyginiaethau’r gorllewin a meddyginiaethau Tsieineaidd. Gellir rhoi’r dail mewn saladau a defnyddio’r dail sych i wneud te. Defnyddir echdynnyn o’r planhigyn hwn i roi blas i’r gwirodlyn Ffrengig ‘Vervaine du Velay’.
Y mae llawer o blanhigion eraill i’w gweld yn yr ardd berlysiau hon ond nid oes gennym ddigon o le i ddisgrifio pob un ohonynt yma. Hefyd, defnyddir cannoedd o berlysiau eraill, nad ydynt yn cael eu tyfu yn yr ardd hon, ledled y byd.
www.anadluabertawe.com 01792 298637 I dderbryn y pamffled mewn fformat arall, ffoniwch yr Adran Farchnata 01792 635478. Mae’r holl fanylion yn gywir adeg eu cyhoeddi.
Solidago virgaurea (Eurwialen) - Perlysieuyn chwerw sydd â rhinweddau styptig ac sy’n achosi ymlacio. Defnyddir i drin llidau ac i adfywio’r afu a’r arennau. Mae’n boergarthydd, defnyddir i drin problemau traul ac mae ganddo rinweddau ffyngladdol.
Salvia officinalis (Common Sage)