Walking in Swansea

Page 1

Why Walk? There’s no doubt about it, being active is good for you. It’s good for your health, general well-being, improves mood and gives you more energy. So, by taking part in at least 30 minutes of physical activity 5 times a week, your health will benefit and brisk walking is the perfect activity to get you started. Benefits of regular physical activity •

Reduces the risk of coronary heart disease and stroke

Lowers blood pressure

Reduces cholesterol levels

Reduces body fat

Enhances mental well-being

Increases bone density, hence helping to prevent osteoporosis

Reduces the risk of cancer of the colon

Reduces the risk of non insulin dependant diabetes

Helps to control body weight

Helps osteoarthritis

Helps flexibility and co-ordination reducing the risk of falls

The best thing about walking is that not only will you benefit from the above, you won’t need any specialist equipment, just a comfy pair of shoes and water. Best of all it’s free! If walking alone, let someone know where you’re going, or better still take someone with you. For more information on other ways to get active visit www.activeswansea.com

My Swansea Fy Abertawe


Pam cerdded? Does dim dwywaith amdani, mae bod yn egnïol yn dda i chi. Mae'n dda i'ch iechyd, eich lles cyffredinol, yn gwella'ch hwyl ac yn rhoi mwy o egni i chi. Felly drwy wneud o leiaf 30 munud o ymarfer corff 5 gwaith yr wythnos, bydd o fudd i'ch iechyd, a cherdded yn gyflym yw'r gweithgaredd perffaith i ddechrau. Manteision ymarfer corff yn rheolaidd •

Mae'n lleihau'r perygl o glefyd coronaidd y galon a strôc

Pwysedd gwaed is

Lleihau lefelau colesterol

Lleihau braster y corff

Gwella lles meddyliol

Cynyddu dwysedd esgyrn, gan helpu i atal osteoporosis

Lleihau'r risg o ganser y colon

Lleihau'r risg o ddiabetes nad yw'n ddibynnol ar inswlin

Helpu i reoli pwysau'r corff

Helpu osteoarthritis

Helpu hyblygrwydd a chydsymudiad ac felly'n lleihau'r risg o gwympo

Y peth gorau am gerdded yw nid yn unig y manteision uchod ond nid oes angen unrhyw gyfarpar arbenigol arnoch, dim ond pâr o esgidiau cyfforddus, dŵr a gadael i rywun wybod i ble rydych yn mynd, neu'n well fyth, mynd â rhywun gyda chi. Ond y peth gorau am gerdded yw ei fod am ddim. Am fwy o wybodaeth am ffyrdd eraill o ymarfer corff ewch i www.abertawe.gov.uk My Swansea Fy Abertawe


Three Cliffs Bay Bae y Tri Chlogwyn P This pleasant walk through a wooded valley, past a WWII bunker, takes in views of Pennard Castle before arriving at the golden sands at Three Cliffs, a big favourite with local girl Katherine Jenkins. Mae'r daith gerdded braf hon drwy ddyffryn coediog, heibio i fyncer yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys golygfeydd o Gastell Pennard cyn cyrraedd traeth euraidd y Tri Chlogwyn, ffefryn mawr y ferch leol, Katherine Jenkins.

My Swansea Fy Abertawe

Grade / Gradd 3 Distance / Pellter 2.8km 1.7 miles / milltir


Directions • Start at car park outside Shepherdʼs, next to Gower Heritage Centre • Cross road and access footpath alongside Maes yr Haf Restaurant (sign-posted Three Cliffs Bay) • Walk along footpath crossing bridge before bearing right, where path continues through wooded area (path is uneven and can be slippery depending on weather) • On leaving wooded area walk along sandy track, keeping to left • Continue walking, past WWII bunker on your right, until you reach boardwalk running alongside stream, youʼll see Pennard Castle on left at top of valley • Follow boardwalk, walking along sandy track until you reach beach, you have now walked 1.4km / 0.8 miles • If youʼre going onto beach please observe safety notices, otherwise, turn around and head back

Information • There is a charge for parking • Café at Shepherdʼs • Not suitable for pushchairs and wheelchairs due to uneven surfaces and sandy tracks • No benches or toilets on this route

Cyfeiriadau • Dechreuwch yn y maes parcio tu allan i Shepherdʼs, drws nesaf i Ganolfan Treftadaeth Gŵyr • Croeswch y ffordd ac ewch i'r droedffordd ger Bwyty Maes yr Haf (arwydd i Fae y Tri Chlogwyn) • Cerddwch ar hyd y droedffordd, gan groesi'r bont ac yna troi i'r dde, lle mae'r llwybr yn parhau drwy ardal goediog (mae'r llwybr yn anwastad, a gall fod yn llithrig gan ddibynnu ar y tywydd) • Wrth adael yr ardal goediog, cerddwch ar hyd y llwybr tywodlyd, gan gadw i'r chwith • Cerddwch ymlaen, heibio i fyncer yr Ail Ryfel Byd ar y dde, nes i chi gyrraedd y llwybr pren sy'n rhedeg gerllaw'r nant, a byddwch yn gweld Castell Pennard ar y chwith ar ben y dyffryn • Dilynwch y llwybr pren, gan gerdded ar hyd y llwybr tywodlyd, nes i chi gyrraedd y traeth - rydych bellach wedi cerdded 1.4km / 0.8

milltir • Os ydych am fynd i'r traeth, darllenwch yr arwyddion diogelwch. Fel arall, trowch yn ôl

Gwybodaeth • Mae angen talu am barcio • Caffi yn Shepherdʼs • Anaddas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn oherwydd arwynebau anwastad a llwybrau tywodlyd • Nid oes meinciau na thoiledau ar y llwybr


Coed Gwilym Park, Clydach Parc Coed Gwilym, Clydach

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 1.6km 1 mile / milltir

P This walk takes you along the towpath of Swansea Canal. As you stroll in the tranquil surroundings you’ll find it hard to imagine times when the canal was busy with horsedrawn barges carrying coal down the valley to Swansea, the one time copper smelting capital of the world also known as ‘Copperopolis’. Mae'r daith hon yn eich tywys ar hyd llwybr halio Camlas Abertawe. Wrth i chi gerdded drwy'r ardal dawel, byddwch yn ei chael hi'n anodd dychmygu adeg pan oedd y gamlas yn brysur gydag ysgraffau wedi'u tynnu â cheffylau yn cludo glo drwy'r dyffryn i Abertawe a oedd unwaith yn brif ardal mwyndoddi copr y byd a elwir yn 'Copperopolis'.

My Swansea Fy Abertawe


Directions

Cyfeiriadau

• Start at car park in Coed Gwilym Park

• Parciwch yn y maes parcio yn Parc Coed Gwilym

• Head for path and follow sign for Coed Gwilym Centre

• Ewch tuag at y llwybr a dilynwch yr arwydd ar gyfer Canolfan Coed Gwilym

• At end of path, by monolith, turn right at entrance to canal and follow path • Keep walking until you reach gate posts, you have now walked 0.8km / 0.5 mile • Turn around and head back • If you would like a longer walk you can keep going along the canal and head up towards Pontardawe. The gravel path is one straight route and relatively flat

• Ar ddiwedd y llwybr, wrth ymyl y monolith, trowch i'r dde ger y fynedfa i'r gamlas a dilynwch y llwybr • Cerddwch yn eich blaenau nes cyrraedd pyst gât. Rydych nawr wedi cerdded 0.8km / 0.5 milltir • Trowch yn ôl • Os hoffech fynd am dro hwy, gallwch barhau ar hyd y gamlas a mynd tuag at Bontardawe. Mae'r llwybr graean yn llwybr hir syth sy'n gymharol wastad

Information • The walk is flat and in dry weather suitable for both pushchairs and wheelchairs • No benches or toilets on this route

Gwybodaeth • Mae'r daith gerdded yn wastad ac mewn tywydd sych mae'n addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn • Does dim meinciau na thoiledau ar y daith hon


Ty-Draw, Bonymaen Walk T欧-Draw, Taith Gerdded B么n-y-maen

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 1.8km 1.1 miles / milltir

P This walk has lovely views over Crymlyn Burrows towards Port Talbot before taking you past the site of the former Bonymaen Truant Industrial School, a brutal institution designed for children who were truants. Bydd y daith hon yn eich gwobrwyo 芒 golygfeydd hyfryd dros Dwyni Crymlyn tuag at Bort Talbot, cyn eich arwain heibio safle hen Ysgol Ddiwydiannol Driwant B么n-y-maen, sefydliad creulon ar gyfer plant a oedd yn driwantiaid.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start at Bonymaen Community Centre, heading towards park going past the takeaway • Cross road and go down Ty-draw Road, passing park on left • There is no pavement in parts, use verge and be aware of traffic • Turn left at end of houses, proceed along uneven path • Bear right at fork for 30 metres before turning left along path • Continue to park entrance, passing bowls green on left, on your right is the site of former Bonymaen Truantsʼ Industrial School • Turn left into park through entrance • Follow path around, passing playground on right • Turn right out of park and cross road, going past shop towards community centre

Information • This walk crosses some roads and is unpaved in parts • No toilets on this route

Cyfeiriadau • Dechreuwch yng Nghanolfan Gymunedol Bôn-y-maen, ewch tuag at y parc heibio'r siop cludfwyd • Croeswch y ffordd ac ewch ar hyd Heol Tŷ-draw gan fynd heibio'r parc ar yr ochr chwith • Nid oes palmant ar hyd yr holl ffordd, felly defnyddiwch ymyl y ffordd a byddwch yn ymwybodol o'r traffig • Trowch i'r chwith ar ddiwedd y tai, ac ewch ymlaen ar hyd llwybr anwastad • Ewch i'r dde wrth y fforch am 30 metr cyn troi i'r chwith ar hyd y llwybr • Ewch ymlaen i fynedfa'r parc gan fynd heibio'r lawnt fowls ar y chwith, ac ar y dde i chi mae safle hen Ysgol Ddiwydiannol Driwant Bôn-y-maen • Trowch i'r chwith i mewn i'r parc drwy'r fynedfa • Dilynwch y llwybr, gan fynd heibio'r ardal chwarae ar y dde • Trowch i'r dde allan o'r parc a chroesi'r heol gan fynd heibio'r siop tuag at y ganolfan gymunedol

Gwybodaeth • Mae'r daith gerdded hon yn croesi rhai ffyrdd lle nad oes palmant • Dim toiledau ar y daith


Pontarddulais Town Tref Pontarddulais

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 2.4km 1.5 miles / milltir

P Affectionately know as the ‘Bont’ to local people this walk gently guides you around the heart of this small bustling village with its small boutiques and welcoming cafés.

'Y Bont' i bobl yr ardal, mae'r daith gerdded hon yn eich arwain o gwmpas canol y pentref bach prysur hwn gyda'i siopau bwtîc bach a chaffis croesawgar.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start at the Mechanics Institute on St Teilo Street (although this is a circular route so it can be started from any point in the instructions) • Head down the one way system towards the Workingmenʼs Club along St Teilo Street • Cross the road by the Workingmenʼs Club and turn right into Station Road • Walk past the surgery and into High Street • Take the next left towards the factories • Follow the main road around and take a right at the top of the hill into Tyʼn Y Bonau Road • Head past the cricket club (on your left) • Continue past William Street and past the fire station which can be found on your right hand side • Head through the chicane and into Dulais Road • Walk past the post office and turn right back into St Teilo Street and back to the Mechanics Institute

Information • Passing local cafés and shops • Roads can get busy • No toilets or benches on this route

Cyfeiriadau • Dechreuwch wrth y Sefydliad Mecaneg ar Stryd Sant Teilo (er, mae hon yn gylchdaith felly gellir ei dechrau o unrhyw bwynt yn y cyfarwyddiadau) • Ewch i lawr y system un ffordd tuag at Glwb y Gweithwyr ar hyd Stryd Sant Teilo • Croeswch y ffordd wrth Glwb y Gweithwyr i mewn i Heol yr Orsaf • Cerddwch heibio'r feddygfa ac i mewn i'r Stryd Fawr • Cymerwch y tro nesaf i'r chwith tuag at y ffatrioedd • Dilynwch y brif ffordd o gwmpas a throi i'r dde ar ben y tyle i mewn i Heol Ty'n y Bonai • Ewch heibio'r Clwb Criced (ar eich chwith) • Ewch ymlaen heibio Stryd William a heibio'r Orsaf Dân sydd ar yr ochr dde • Ewch drwy'r rhwystrau gosod ac i mewn i heol Dulais • Cerddwch heibio'r Swyddfa Bost a throwch i'r dde yn ôl i Stryd Sant Teilo ac yn ôl i'r Sefydliad Mecaneg

Gwybodaeth • Mae'r daith yn mynd heibio caffis a siopau lleol • Gall y ffyrdd fod yn brysur iawn • Dim toiledau na meinciau ar y daith


Hafod Walk Taith Gerdded yr Hafod

Grade / Gradd 2 Distance / Pellter 1.6km 1 mile / milltir

Hafod is an area that has just benefited from a ÂŁ10 million injection as part of a renewal project to restore some of the houses and amenities in the area. This walk allows you to witness some of these developments that have stretched over a 10 year period and are due to be completed in 2011. A gentle walk to be enjoyed with some minor inclines.

Mae'r Hafod yn ardal sydd newydd elwa ar ÂŁ10 miliwn fel rhan o brosiect adfywio i adnewyddu rhai o'r tai a'r cyfleusterau yn yr ardal. Mae'r daith gerdded hon yn eich galluogi i weld rhai o'r datblygiadau hyn sydd wedi digwydd dros gyfnod o 10 mlynedd a disgwylir ei gwblhau yn 2011. Taith gerdded hamddenol i'w mwynhau, gyda rhai llethrau graddol.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start at the community centre on Odo Street • Head right towards the school and gap between the houses (Vivian Street and Odo Street) • Once you have passed the houses, turn left past the bowls club and follow the path to the bottom of the road • At the bottom of the path turn left along the road, past the Three Feathers public house • Turn left into Cwm Road and follow the road to a bridge • At the bridge, head up the ramp at the side of the bridge onto the main road • Turn left at the top of the ramp heading along Neath Road towards the shops for about 10 metres • Follow a path left into Aberdeberthi Street, up the slight incline, past the bollards • Take the next turning left into Morgan Street past Coed Nant Clos • Take the next right into Odo Street past Hafod Primary School and head back to the community centre

Information • Shorter route available: turn into park after bullet point 3 • No toilets on this route

Cyfeiriadau • Dechreuwch ger y ganolfan gymunedol yn Stryd Odo • Ewch i'r dde tua'r ysgol a'r bwlch rhwng y tai (Stryd Vivian a Stryd Odo) • Ar ôl i chi fynd heibio i'r tai, trowch i'r chwith heibio i'r clwb bowls a dilynwch y llwybr i waelod yr heol • Ar waelod y llwybr, trowch i'r chwith ar hyd yr heol • Trowch i'r chwith i Heol y Cwm a dilynwch yr heol i bont ar waelod yr heol • Wrth y bont, ewch i fyny'r ramp ar ochr y bont ar y brif heol • Trowch i'r chwith ar ben y ramp ac ewch ar hyd Heol Castell-nedd tua'r siopau am ryw 10 metr • Dilynwch lwybr i'r chwith i Stryd Aberdeberthi, i fyny'r llethr fach, heibio i'r bolardiau • Cymerwch y tro nesaf i'r chwith i Stryd Morgan heibio i Glos Coed Nant • Cymerwch y tro nesaf i'r dde i Stryd Odo heibio i Ysgol Gynradd yr Hafod ac ewch yn ôl i mewn i'r ganolfan gymunedol

Gwybodaeth • Llwybr byrrach ar gael: trowch i mewn iʼr parc ar ôl pwynt bwled 3 • Dim toiledau ar y llwybr


Mayhill Walk Taith Gerdded Mayhill

Grade / Gradd 2 Distance / Pellter 1.8km 1.1 miles / milltir

P Everyone knows about the benefits of walking in the countryside or along the coast but if you can’t access these parts of the county then this short urban walk could prove the ideal solution. This is a more challenging walk with a steep incline on the route, however you will be rewarded with spectacular views of the city and docklands area.

Mae pawb yn gwybod am fanteision cerdded yng nghefn gwlad neu ar hyd yr arfordir, ond os na allwch gyrraedd y rhannau hyn o'r wlad, yna mae'n bosib y gall y daith gerdded drefol fer hon ddatrys y broblem. Mae'n daith gerdded ychydig mwy heriol sy'n cynnwys llethr serth, ond fe'ch gwobrwyir â golygfeydd trawiadol o'r ddinas ac ardal y dociau.

My Swansea Fy Abertawe


Directions

Cyfeiriadau

• Start at Mayhill Community Centre

• Dechreuwch yn y ganolfan gymunedol Mayhill

• Leave the community centre and take a left downhill

• Gadewch ganolfan gymunedol a throwch i'r chwith i lawr y tyle

• Turn right into Granogwen Road

• Trowch i'r dde i mewn i Heol Granogwen

• Head up towards Mayhill Primary School (uphill) • Walk around the school using the paths • Follow the path around to Creidiol Road

• Ewch tuag at Ysgol Gynradd Mayhill (i fyny'r tyle) • Cerddwch o gwmpas yr ysgol gan ddefnyddio'r llwybrau • Dilynwch y llwybr i Heol Creidiol

• Head from Creidiol Road over to Cadraw Road

• Ewch o Heol Creidiol draw at Heol Cadraw

• From Cadraw Road head back onto Mayhill Road

• O Heol Cadraw, ewch yn ôl i Heol Mayhill

• Back to community centre

• Ewch yn ôl i'r ganolfan gymunedol

Information • No toilets on this route

Gwybodaeth • Dim toiledau ar y llwybr hwn


Penclawdd Walk Taith Gerdded Penclawdd

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 3.2km 2 miles / milltir

P

Once a flourishing sea port Penclawdd was regarded as the bustling commercial centre for much of North Gower. Today the village is still considered to be a fishing and cockling community, proud of its long standing heritage. This walk allows you to enjoy spectacular views over the Loughor estuary and the surrounding countryside. Yn borthladd llewyrchus ar un adeg, ystyriwyd Penclawdd yn ganolfan fasnachol brysur ar gyfer Gogledd GĹľyr. Heddiw mae'r pentref yn dal i gael ei ystyried yn gymuned bysgota a chasglu cocos, yn falch o'i threftadaeth hirsefydlog. Mae'r daith gerdded hon yn eich galluogi i fwynhau golygfeydd trawiadol dros Foryd Llwchwr a'r ardal wledig o'i chwmpas.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start at CKʼs Supermarket • Head from the car park and turn left using the roadside path until you reach the entrance of the cycle route next to the Gower Timber building • This walk follows a flat route and can become busy. Please be aware of other walkers and cyclists • Once you reach the Sea Garden Chinese Restaurant & Bar you have completed 1.6km / 1 mile. At this point turn around and walk back in the direction you have come from

Cyfeiriadau • Parciwch ym maes parcio archfarchnad CK • Ewch o'r maes parcio a throwch i'r chwith gan ddefnyddio llwybr ochr yr heol nes i chi gyrraedd mynedfa'r llwybr beicio nesaf at adeilad Gower Timber • Mae lefel y llwybr yn isel iawn, ond byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill ar hyd y ffordd • Ar ôl i chi gyrraedd bwyty Tsieineaidd a bar y Sea Garden, byddwch wedi cwblhau 1.6km / 1 filltir. Bryd hynny, trowch yn ôl a cherddwch i'r cyfeiriad y daethoch ohono

Information • In CKʼs Supermarket there is a coffee shop that serves hot and cold snacks and is an ideal venue to either meet up or stop off after completing the walk

Gwybodaeth

• Pushchair and wheelchair friendly

• Yn archfarchnad CK mae siop goffi sy'n gweini byrbrydau poeth ac oer ac mae'n lle delfrydol naill ai i gwrdd neu i orffwys ar ôl cwblhau'r daith gerdded

• A number of benches along the route

• Addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn

• No public toilets along this route

• Ceir sawl mainc ar hyd y llwybr

• On bus route

• Dim toiledau cyhoeddus ar hyd y llwybr hwn • Ar y llwybr bysus


Townhill Walk Taith Gerdded Townhill This walk allows you to experience one of the finest panoramic views of Swansea Bay from one of the highest points in the city. A reasonably challenging walk with some gradual inclines and a rest point on the route. Mae'r llwybr hwn yn rhoi cyfle i chi weld un o'r golygfeydd panoramig gorau o Fae Abertawe o un o'r mannau uchaf yn y ddinas. Llwybr rhesymol o heriol gyda rhai llethrau graddol a lle i orffwys ar hyd y ffordd.

My Swansea Fy Abertawe

Grade / Gradd 2 Distance / Pellter 2.4km 1.5 miles / milltir

P


Directions • Start at Townhill Community Centre • Take a right hand turn and head along Powys Avenue • At the roundabout by the shops head down Townhill Road which will take you down the hill • Take the second left hand turn onto Pant-y-Celyn Road • Walk along the road (there are benches there to have a rest and enjoy the view) • Follow the road around to Dyfed Avenue (incline) • From Dyfed Avenue head back onto Powys Avenue • Head back to the community centre

Information • Route passes shops • There is a bench on route for a rest (if required) • There are no public toilets along this route

Cyfeiriadau • Dechreuwch wrth Ganolfan Gymunedol Townhill • Trowch iʼr dde ac ewch ar hyd Rhodfa Powys • Wrth y gylchfan ar bwys y siopau, ewch i lawr Heol Townhill sy'n mynd â chi i lawr y bryn • Cymerwch yr ail dro i'r chwith i Heol Pant y Celyn • Cerddwch ar hyd yr heol (ceir meinciau yno i chi orffwys a mwynhau'r olygfa) • Dilynwch yr heol o'i chwmpas i Rodfa Dyfed (llethr) • O Rodfa Dyfed, ewch yn ôl i Rodfa Powys • Ewch yn ôl i'r ganolfan gymunedol

Gwybodaeth • Byddwch yn cerdded heibio siopau • Mainc ar y ffordd i orffwys arni (os oes angen) • Dim toiledau cyhoeddus ar hyd y llwybr hwn


Penlan Walk Taith Gerdded Penlan

Grade / Gradd 2 Distance / Pellter 2km 1.2 miles / milltir

P A slightly challenging uphill urban walk that gives you a real sense of community, as you pass by the local school, library, place of worship and leisure centre. Taith gerdded drefol ychydig yn heriol sy'n rhoi ymdeimlad cryf o gymuned i chi, wrth i chi fynd heibio i'r amwynderau lleol - yr ysgol, y llyfrgell, y lle addoli a'r ganolfan hamdden.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start at the community centre • Head left out of the community centre down the hill onto Heol Frank • Walk down the hill to Eiddwen Road • Take a left on to Penderry Road • Turn left on to Heol Gwyrosydd and up the hill until you reach the police station • Turn left into Cadnant Road and back to the community centre

Information

Cyfeiriadau • Dechreuwch yn y ganolfan gymunedol • Ewch i'r chwith allan o'r ganolfan gymunedol i lawr y bryn i Heol Frank. • Cerddwch i lawr y bryn i Heol Eiddwen • Trowch i'r chwith i Heol Penderi • Trowch i'r chwith i Heol Gwyrosydd ac i fyny'r bryn nes i chi gyrraedd yr orsaf heddlu • Trowch i'r chwith i Heol Cadnant ac yn ôl i'r ganolfan gymunedol

Gwybodaeth

• No toilets on this route

• Dim toiled ar y ffordd

• Some inclines

• Rhai llethrau


Fendrod Lake Walk Taith Gerdded Llyn y Fendrod The lake is a prominent landmark situated in the centre of Swansea Enterprise Park, with a land mass of about 13 acres and clearly visible from the main roads passing either side of it. Mae'r llyn yn dirnod amlwg yng nghanol Parc Menter Abertawe gyda thirfas o ryw 13 erw ac mae'n hawdd ei weld o'r prif heolydd sydd o bobtu iddo.

My Swansea Fy Abertawe

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 1.6km 1 mile / milltir

P


Directions • The walk starts at the car park opposite the Honda Garage on Valley Way in the Enterprise Park • The walk is a circular route so you can join the walk at any point • From the car park head right in the direction of the Fiat garage / Liberty Stadium • Follow the tarmac footpath around the lake • Once you are on the other side of the lake and are nearing a complete circle ensure that you take a left turn off the path and over the bridge • This will ensure that you return back to the car park

Information • Car parking available • Flat tarmac path • The lake is regularly used by anglers • Excellent picnic spot • The walk will take you around the whole lake

Cyfeiriadau • Mae'r llwybr yn dechrau yn y maes parcio gyferbyn â garej Honda ar Valley Way yn y Parc Menter • Mae'n llwybr cylchol, felly gallwch ymuno ag ef ar unrhyw fan • O'r maes parcio, ewch i gyfeiriad garej Fiat / Stadiwm Liberty • Dilynwch y llwybr troed tarmac o gwmpas y llyn • Pan fyddwch ar ochr arall y llyn ac yn agosáu at gyflawni cylch, gwnewch yn siŵr eich bod yn troi i'r chwith oddi ar y llwybr a thros y bont • Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn dychwelyd i'r maes parcio

Gwybodaeth • Mannau parcio ar gael • Llwybr tarmac gwastad • Mae pysgotwyr yn defnyddio'r Llyn yn rheolaidd • Man gwych i gael picnic • Mae'r llwybr yn mynd â chi o gwmpas y llyn cyfan


Blaenymaes Walk Taith Gerdded Blaenymaes

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 1.5km 0.9 miles / milltir

P

Everyone knows about the benefits of walking in the countryside or along the coast but if you can’t access these parts of the county then this short urban walk could prove the ideal solution. This is a gentle walk with only one small incline.

Mae pawb yn gwybod am fuddion cerdded yng nghefn gwlad neu ar hyd y glannau, ond os na allwch fynd i'r rhannau hyn o’r sir, gallai'r daith gerdded ddinesig fer hon fod yr ateb delfrydol. Taith gerdded ysgafn yw hon, gyda dim ond un llethr fach.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Turn right out of the community centre • Follow the hill down and bear left after the ARC (Action Resource Centre) • Follow the road past Ozanam Court • Turn left onto the footpath after Fermoyo Court • Turn right at the paths junction up the hill • Turn left at the next set of gates • Bear left through Whitland Close • Carry on through the estate down the hill • Head right towards the barrier • Go through the barrier and take an immediate right on to the dirt path • Follow the dirt path through Weobley Close and head back to the community centre to the right

Cyfeiriadau • Trowch i'r dde allan o'r ganolfan gymunedol • Dilynwch y bryn ar i lawr a chadwch i'r chwith ar ôl yr ARC • Dilynwch yr heol heibio i Lys Ozanam • Trowch i'r chwith i'r llwybr troed ar ôl Llys Fermoy • Trowch i'r dde wrth gyffordd y llwybrau i fyny'r bryn • Trowch i'r chwith wrth y set nesaf o gatiau • Cadwch i'r chwith trwy Glos Whitland • Parhewch drwy'r ystâd i lawr y bryn • Ewch i'r dde tua'r atalfa • Ewch drwy'r atalfa a throwch i'r dde'n syth i'r llwybr garw • Dilynwch y llwybr garw trwy Lys Weobley ac ewch yn ôl i'r ganolfan gymunedol i'r dde

Information • No toilets on this route

Gwybodaeth • Dim toiled ar y ffordd


Rhossili Cliffs Walk Taith Gerdded Clogwyni Rhosili

Grade / Gradd 2 Distance / Pellter 2.6km 1.6 miles / milltir

P

Rhossili is the most Western point of the Gower Peninsula and a village steeped in history dating as far back as the Bronze Age. The walk allows you to experience for yourself why Rhossili is widely regarded as the most picturesque and photographed part of the Gower, with breath taking views of Rhossili Bay and the iconic landmark Worms Head. Rhosili yw pwynt mwyaf gorllewinol Penrhyn Gŵyr ac maeʼn bentref syʼn llawn hanes yn dyddio yn ôl iʼr Oes Efydd. Ar y daith, cewch brofi drosoch chiʼch hun pam fod Rhosiliʼn cael ei ystyried fel rhan fwyaf hardd a dynnir lluniau ohoni yng Ngŵyr gyda golygfeydd godidog o Fae Rhosili aʼr tirnod eiconig Pen Pyrod.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start at Rhossili Car Park. Please note there is a cost for parking during the summer months • Head to the bottom corner of the car park by the toilet block then access the path, which heads past the National Trust Shop and Cottages, until you reach a gate. At this point please read all the safety signs before continuing • Once past the gate keep to the gravel path and continue heading to the small building which is known as the Outer Lookout and is now manned by the National Coastwatch Institution • At this point you have walked a distance of 1.3km / 0.7 miles • At this point turn around and walk back in the direction you came from • The path is reasonably flat but be aware of other users along the way

Information • The Worms Head Hotel is available for refreshments • Benches along this route • Toilets on this route at the bottom of the car park • The route is not best suited for pushchairs/wheelchairs due to the gravel path

Cyfeiriadau • Dechreuwch ym Maes Parcio Rhosili. Sylwer bod cost am barcio yn ystod misoedd y gaeaf • Ewch i gornel gwaelod y maes parcio ger y bloc toiledau yna ewch ar y llwybr, sy'n mynd heibio i Siopau a Bythynnod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tan i chi gyrraedd gât. Ar y pwynt hwn, darllenwch yr holl arwyddion diogelwch cyn parhau • Pan fyddwch wedi pasio'r glwyd, cadwch ar y llwybr graean ac ewch ymlaen tua'r adeilad bach o'r enw'r 'Outer Lookout', sydd bellach yn cael ei warchod gan Sefydliad Gwylio'r Glannau Cenedlaethol • Ar y pwynt hwn byddwch wedi cerdded am 1.3km / 0.7 milltir • Bryd hynny, trowch o gwmpas a cherddwch yn ôl i'r cyfeiriad y daethoch ohono • Mae'r llwybr yn gymharol wastad, ond byddwch yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill ar hyd y ffordd

Gwybodaeth • Mae Gwesty Pen Pyrod ar gael ar gyfer lluniaeth • Meinciau ar hyd y llwybr hwn • Toiledau ar hyn y llwybr hwn ar waelod y maes parcio • Oherwydd y llwybr graean, nid yw'r llwybr yn addas iawn i gadeiriau gwthio/cadeiriau olwyn


LC (short) Walk Taith LC (fer)

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 1.4km 0.8 miles / milltir

P A delightful short walk that enables you appreciate Swansea’s vibrant waterfront and all its splendour and is an ideal gentle walk for beginners. Taith fer hyfryd sy'n caniatáu i chi werthfawrogi glannau bywiog Abertawe yn eu gogoniant ac mae'n daith hamddenol sy’n berffaith i ddechreuwyr.

My Swansea Fy Abertawe


Directions • Start in the council car park next to the LC, on Oystermouth Road • Carefully head across the car park passing the main entrance to the LC on your left hand side followed by a right turn that leads you to the Marina • At this point turn left and follow the path alongside the Marina passing the National Waterfront Museum and continue until you reach the Pump House • As you pass the Pump House on your left you will notice a bridge on your right hand side. Cross this and bear right then follow the path back around the Marina back to the LC

Information • The LC is a suitable place to start and finish the walk as there is a café inside that can be used for a meeting place • There is a charge for parking • No toilets on this route • The walk is suitable for push chair and wheelchair access • Ensure you stay a safe distance away from the waterʼs edge • The walk takes you past some key tourist attractions, including the LC and the National Waterfront Museum

Cyfeiriadau • Parciwch ym maes parcio'r cyngor drws nesaf i'r LC, yn Heol Oystermouth • Ewch ar draws y maes parcio'n ofalus gan ddefnyddio prif fynedfa'r LC ar yr ochr chwith ac yna troi i'r dde a fydd yn eich arwain at y Marina • Yn y man hwn, trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr gerllawʼr Marina gan fynd heibio'r Amgueddfa a pharhewch nes i chi gyrraedd y Pump House • Wrth i chi fynd heibio'r Pump House ar y chwith, byddwch yn sylwi ar bont ar y dde. Croeswch y bont hon gan droi i'r dde ac yna dilynwch y llwybr yn ôl o gwmpas y Marina i'r LC

Gwybodaeth • Mae'r LC yn lle addas i ddechrau a gorffen y daith oherwydd bod caffi y tu mewn iʼr ganolfan y gellir ei ddefnyddio fel man cwrdd • Codir tâl am barcio • Dim toiled ar y daith • Mae'r llwybr yn addas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn • Sicrhewch eich bod yn ddigon pell o ymyl y dŵr • Mae'r llwybr yn mynd â chi heibio rhai atyniadau twristiaeth allweddol gan gynnwys yr LC, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau


LC Swansea Marina (long) Walk Taith LC Marina Abertawe (hir) This walk is an extension of the short walk and takes you around the circumference of the Maritime Quarter and its selection of restaurants, shops and marine businesses. This is a walk that can be enjoyed by all. Mae'r llwybr hwn yn estyniad o'r daith fer sy'n mynd o gwmpas yr Ardal Forol a'i dewis o fwytai, siopau a busnesau morol. Mae'n daith y gall pawb ei mwynhau.

My Swansea Fy Abertawe

Grade / Gradd 1 Distance / Pellter 3.1km 1.9 miles / milltir

P


Directions • Start in the council car park next to the LC. Head across the car park passing the main entrance to the LC on your left • Turn right towards the Marina, then left and follow the path passing the National Waterfront Museum, continue, passing the Pump House on your left • Follow the path that runs alongside the Marina until you reach East Burrows Road. Bear left onto the road and continue straight ahead towards the Dylan Thomas Centre • Turn right, head across the Sail Bridge, turn right again and continue walking until you reach the Barrage Crossing • After the Crossing turn right, passing a ʻfishing shopʼ on your left • Follow the path straight ahead passing the public toilets, bear left and follow the path alongside the Marina • Keep to the path around the Marina till you get back to where you started

Information • There is a charge for parking • Benches and seating areas are located along the walk • Suitable for pushchair and wheelchair access • Stay a safe distance away from the waterʼs edge

Cyfeiriadau • Parciwch ym maes parcio'r cyngor drws nesaf i'r LC ac yna ewch ar draws y maes parcio'n ofalus gan fynd heibio prif fynedfa'r LC ar y chwith • Trowch iʼr dde tuag at y Marina, yna trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr ac ewch heibio Amgueddfaʼr Genedlaethol y Glannau, a pharhewch nes i chi gyrraedd y Pump House ar y chwith • Dilynwch y llwybr sy'n mynd ar hyd y Marina nes i chi gyrraedd Heol Burrows. Yn y man hwn, trowch i'r chwith ar y ffordd ac ewch syth ymlaen tuag at Ganolfan Dylan Thomas • Yng Nghanolfan Dylan Thomas, trowch i'r dde ac ewch ar draws yr Hwylbont a throwch i'r dde eto gan barhau i gerdded nes i chi gyrraedd Croesfan y Morglawdd. • Ar ôl y Groesfan, trowch iʼr dde gan fynd heibio i 'siop bysgota' ar y chwith • Dilynwch y llwybr yn syth ymlaen wrth fynd heibio toiledau cyhoeddus a throwch i'r chwith a dilynwch y llwybr gerllawʼr Marina • Arhoswch ar y llwybr a fydd yn parhau i'ch arwain o gwmpas y Marina nes i chi gyrraedd eich man cychwyn

Gwybodaeth • Codir tâl am barcio • Ceir meinciau a seddi ar hyd y daith • Addas i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn • Cadwch yn ddigon pell o ymyl y dŵr


Walking by Bus Yes, that’s right, you can now go ‘Walking by Bus’, with a selection of short, self-guided, circular walks linked to bus routes in Swansea Bay, Mumbles and Gower. There are 5 ‘Walking by Bus’ leaflets, covering Langland and Caswell, Felindre and Lower Lliw Reservoir, Llanmadoc, Rhossili and Penmaen. Each walk is no more than two-and-a-half miles long, follows public footpaths with distinctive waymarks, crosses easy terrain and all have fantastic views. The leaflets are available throughout the area, at Swansea Tourist Information Centre (in Plymouth Street, Swansea), visitor attractions, hotels, restaurants and other public buildings. They can also be downloaded from www.visitswanseabay.com For further information, please contact Swansea Tourist Information Centre on 01792 468321 or e-mail tourism@swansea.gov.uk

My Swansea Fy Abertawe


Mynd i gerdded ar y bws Ie, mae hynny’n iawn, gallwch bellach ‘Fynd i Gerdded ar y Bws’, gyda dewis o deithiau cylchol, byr, hunandywysedig sy’n gysylltiedig â’r llwybrau bws ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr. Mae 5 taflen ‘Mynd i Gerdded ar y Bws’, sy’n cynnwys Langland a Chaswell, Felindre a Chronfa Ddŵr Lliw Isaf, Llanmadog, Rhosili a Phenmaen. Nid oes un o’r teithiau’n fwy na dwy filltir a hanner. Maent yn dilyn llwybrau troed cyhoeddus gyda nodwyr llwybr penodol, ac yn croesi tir hwylus, a phob un â golygfeydd gwych. Mae’r taflenni ar gael ledled yr ardal, yng Nghanolfan Croeso Abertawe (yn Stryd Plymouth, Abertawe), atyniadau ymwelwyr, gwestai, bwytai ac mewn adeiladau cyhoeddus eraill. Gallwch hefyd eu lawrlwytho o www.dewchifaeabertawe.com Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Ganolfan Croeso Abertawe ar 01792 468321 neu e-bostiwch tourism@swansea.gov.uk

My Swansea Fy Abertawe


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.