Cylchlythyr Ceidwaid Parc Iau
Haf 2010
Newyddion Byd Natur Gofalu am ein Gwenyn
Helo CPI Croeso i'n cylchlythyr haf. Yr haf yw'r adeg brysuraf yn ein parciau; yn ychwanegol at yr hwyl sydd ar gael yn eich parc lleol, rydym wedi cynllunio llwyth o weithgareddau CPI gwych i chi eu mwynhau. Yn y rhifyn hwn, edrychwn ar wenyn mêl a'r hyn y gallwn ei wneud i'w helpu a chael gwybod sut i fwynhau chwarae pêl-droed dros yr haf. Er mwyn arbed ein coed, rydym yn mynd i ddechrau lleihau nifer y cylchlythyrau rydym yn eu postio ac yn fuan, byddwn yn gofyn i chi ddarllen ein fersiwn cw ˆ l o'r cylchlythyr ar-lein. Os oes gennych unrhyw sylw am ein cylchlythyr neu os hoffech i ni roi sylw i unrhyw fater penodol, cofiwch roi gwybod i ni.
ys .................. ...1 w n n y C ...... ...... .....1
I r.... so CP Natu ....2 d y Croe B n ........ o . i . . d f i d t Ac ...3 Newy Arnie ........ . . u . . . a . . d ..... ...3 Synia dau ........ a . i . . d . . . d . y ...4 ...... Digw ........ ff ..... . . e . . J . l . . e ..... Corn mau e G a Hwyl
Yn ystod misoedd yr haf, gwelwch wenyn yn brysur yn peillio blodau yn eich gardd ac mewn parciau. Ond, mae llai o wenyn i’w gweld nawr nag a fu yn y blynyddoedd blaenorol. Nid yw gwyddonwyr yn siw ˆ r beth sy'n achosi'r gostyngiad yn nifer y gwenyn, ond gallai fod am nifer o resymau, megis clefyd, y tywydd newidiol, llai o lecynnau gwyrdd, ac efallai cemegion hyd yn oed. Mae ychydig o bethau y gallwn i gyd eu gwneud i'w helpu. Gallwn ddechrau drwy blannu planhigion sy'n addas i wenyn.
Planhigion sy'n addas i wenyn Mae gwenyn mêl yn dibynnu ar flodau gardd am eu deiet o neithdar a phaill, felly gallwch eu helpu trwy blannu pethau yn eich gardd fel mint, ffa a pherlysiau blodeuol. Mae gwenyn hefyd yn hoffi blodau siâp llygad y dydd megis serenllys a blodau haul, yn ogystal â blodau tal fel bysedd y cˆ wn.
Pam mae gwenyn mor bwysig? Mae gwenyn yn bwysig iawn i bawb am eu bod yn cynhyrchu mêl a chwyr gwenyn a ddefnyddir mewn colur, canhwyllau a chwyr dodrefn. Rydym hefyd yn dibynnu arnynt am rywbeth hanfodol...mae gwenyn yn peillio tua thraean o'r holl blanhigion a’r bwydydd rydym yn eu bwyta, gan gynnwys ffrwythau, llysiau, cnau, hadau. Heb wenyn, ni fyddai llawer o gnydau planhigion yn tyfu, felly ni fyddai afalau na mefus i'w bwyta, dim crysau cotwm a llawer llai i anifeiliaid fferm.