ar Weithiau, mae angen help ychwanegol iddynt blant, pobl ifanc a’u teuluoedd er mwyn us. fyw bywydau hapus, iach a llwyddiann cyngor, Mae’r Tîm Am y Teulu yn gallu cynnig ’n gallu help a chefnogaeth i ddod â’r bobl sy helpu ynghyd.
Sut mae’n gweithio Mae gan rywun – chi efallai – bryderon neu ofid am blentyn, person ifanc neu deulu.
Rydym yn cysylltu â chi ac yn trafod y pryderon yma gyda chi. Gyda’n gilydd, byddwn yn ystyried sut gallwn helpu.
Rydym yn gofyn i nifer bach o bobl rydym ni’n meddwl y bydden nhw’n gallu helpu ddod i gyfarfod Tîm Am y Teulu (TAT). Yn y cyfarfod, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gynllunio’r ffordd orau o helpu. Bydd UN person yn gwneud yn siwˆr bod y cynllun yn gweithio.
Mae gwneud pethau fel hyn yn golygu ■
Gwrando arnoch chi, siarad â chi, a gweithio gyda chi i weld beth sydd ei angen arnoch.
■
Rhannu gwybodaeth, gyda’ch caniatâd, fel na fydd yn rhaid i chi ddweud yr un peth wrth lawer o bobl.
■
Dylai hyn olygu bod yr help cywir yn cael ei gynnig ar yr adeg iawn er mwyn gwneud eich bywyd yn hapusach.
TîmAm Teulu y
Beth yw cyfarfod Tîm Am y Teulu (TAT)? ■
Cyfarfod bach yw hwn rhyngoch chi a’r bobl sydd wirioneddol am eich helpu.
■
Dim ond gyda’ch caniatâd chi y gellir ei drefnu.
■
Gallwch fod yn sicr y bydd pobl yn gwrando arnoch chi.
■
Byddwn yn gweithio gyda chi fel bo chi’n cael yr help angenrheidiol.
■
Byddwch yn cymryd rhan yn y penderfyniadau ynghylch sut bydd yr help yn cael ei ddarparu.
■
Bydd pawb yn y cyfarfod yn dewis un person a fydd yn arwain yn hyn ac a fydd yn gweithio’n agos gyda chi.
Gyda pha fath o bethau y gallwch chi gynnig help i ni? ■
Unrhyw anawsterau sydd gennych chi, eich plentyn neu’ch teulu
■
Anawsterau yn y gymuned
■
Problem mewn perthynas
■
Camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
■
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
■
Problemau tai
Pwysau a phroblemau bod yn rhieni
■
Beichiogrwydd yn yr arddegau
■
Problemau yn yr ysgol
Ymddygiad heriol gartref
■
Bwlio
■
Pobl ifanc yn gadael cartref/rhedeg i ffwrdd
■
Iechyd corfforol neu emosiynol gwael
■
■
DDIM YN SIWR? FFONIWCH (01792) 635400
ˆ
TîmAm Teulu y
Cael gwybod pa help sydd ei angen Ffurflen yw’r Asesiad Fy Myd sy’n cael ei defnyddio gyda chi i ystyried yr holl faterion pwysig ym mywyd plentyn neu berson ifanc – byddwn yn siarad am bethau fel Iechyd, Addysg, Perthnasoedd ac Ymddygiad. Bydd problemau sy’n ymwneud â magu plant fel afiechyd, camddefnyddio sylweddau, cam-drin yn y cartref, tai ac anawsterau ariannol yn cael eu hystyried hefyd.
Rhannu gwybodaeth Byddwn yn rhannu gwybodaeth dim ond gyda chaniatâd y person ifanc neu’r rhieni ac eithrio os oes perygl o niwed i blentyn neu berson ifanc. Fe wyddom pa mor anodd yw hi i ofyn am help pan fydd ei angen arnoch chi:
801 Ffoniwch (01792) 635400 neu 483
27543-11
i siarad â rhywun o TAT neu i adael neges.