Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

Page 1


Tynnwch eich esgidiau sglefrio amdanoch a brysiwch i Wledd y Gaeaf ar y Glannau o 18 Tachwedd tan 8 Ionawr, pan gaiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn faes chwarae Nadolig. Mae llawer i edrych ymlaen ato, o sglefrio iâ go iawn ar lyn Admiral i'r ffair bleser i deuluoedd, bwyd y tymor, groto Siôn Corn ac Olwyn Fawr Miles Hire ynghyd â rhaglen adloniant wych. Mae hud y Nadolig yn dechrau yma yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, Abertawe!

Oriau agor Dydd Llun tan ddydd Gwener (tan 18 Rhagfyr) 12 ganol dydd – 10.00pm 10.00am – 10.00pm Dydd Llun tan ddydd Gwener (o 19 Rhagfyr) Dydd Sadwrn a dydd Sul 10.00am – 10.00pm Noswyl Nadolig 10.00am – 7.00pm Dydd Nadolig Ar gau Gwˆ yl San Steffan 12 ganol dydd – 7.00pm Nos Galan Oriau Estynedig! 10.00am – 10.00pm Dydd Calan

2

12 ganol dydd – 7.00pm

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau


Sglefrio iâ Dewch i sglefrio ar iâ go iawn ar lyn Admiral - dim arwynebau ffug i'n sglefrwyr ni! Gall sglefrwyr ifancach fwynhau eu llyn iâ eu hunain yn benodol i blant Cylch Cochyn yw'r unig un o'i bath yng Nghymru! Mae cyfyngiadau taldra'n gymwys felly sicrhewch eich bod yn mesur eich hun yn erbyn Cochyn y Ceiliog Diogelwch Ffyrdd cyn sglefrio.

Tocynnau sglefrio a gwybodaeth am sglefrio Mae prisiau'n dechrau o £5.50 y sesiwn. Canolfan Croeso Abertawe 01792 637300 neu prynwch docynnau ar-lein nawr yn www.gwleddygaeafaryglannau.com Neu gallwch brynu tocynnau wrth lyn Admiral o 18 Tachwedd.

Ewch i'r mwyn e wefan er nni gwych, g ll gwobrau an tocynna gynnwys us iâ a pha glefrio ntomei Nadolig m !

Argymhellir cadw lle'n gynnar ar gyfer y ddau lyn iâ i osgoi cael eich siomi. Y sesiwn sglefrio olaf ar y ddau lyn iâ yw un awr cyn cau.

Nadolig Abertawe

3


Adloniant y Nadolig Yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau, gallwch fwynhau reidiau ffair i deuluoedd gydag atyniadau i bawb eu mwynhau, megis y Llygoden Loerig, reid y Storm Eira a'r carwsél sy'n atgoffa pobl am oes a fu. Mae danteithion y tymor, siocled poeth a llawer mwy i'ch cynhesu yn ystod eich ymweliad a chofiwch edrych ar y wefan bob hyn a hyn i weld y rhaglen adloniant yn cael ei llunio yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau.

Hyrwyddiadau a chynigion arbennig Cadwch lygad am hyrwyddiadau a chynigion arbennig yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer sesiynau sglefrio amser cinio a chyda'r hwyr, gan gynnwys gostyngiad ar bris siocled poeth gyda phob tocyn sglefrio a brynir rhwng 12 ganol dydd a 2.00pm. Casglwch daleb pryd plentyn am ddim gyda phob tocyn sglefrio plentyn a brynir a thaleb am gwrs cyntaf neu bwdin gyda phob tocyn sglefrio oedolyn a brynir tan 8 Ionawr 2012. Mae amodau a thelerau'n berthnasol, felly ewch i'r wefan am fanylion llawn cyfnewid.

Teithiau ysgol ac ymweliadau grw ˆp Rydym yn cynnig pecynnau arbennig ar gyfer teithiau ysgol ac ymweliadau grwˆ p gan gynnwys partïon pen-blwydd. I drefnu eich taith ysgol  01792 635428 neu ymweliad grwˆp  01792 468321 (yn amodol ar 15 person neu fwy yn gwneud trefniad ar y cyd) neu ewch i’r wefan.

4

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau


Groto

Siôn Corn

Groto Siôn Corn Gwnewch yn siwˆr fod eich plentyn yn cael amser hudol yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau gydag ymweliad â groto Siôn Corn. Mae'r groto y tu mewn i gaban pren croesawgar a bydd plant yn cael eu cyfarch gan goblynnod Siôn Corn cyn cwrdd â'r dyn ei hun a derbyn anrheg Nadolig. Hefyd bydd cyfle i gael tynnu llun gyda Siôn Corn. Rhowch eich llythyr i Siôn Corn yn y blwch post Nadolig erbyn 16 Rhagfyr a byddwch yn cael ateb o Begwn y Gogledd. Anfonwch y llythyr at Siôn Corn, Pegwn y Gogledd, SAN TA1. Bydd groto Siôn Corn ar agor o 20 Tachwedd tan 23 Rhagfyr.

Pris £4.00 y plentyn £5.00 y plentyn

i weld Siôn Corn i weld Siôn Corn a chael tynnu llun gydag ef

Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Gwener: Dydd Sadwrn a dydd Sul: (Ac eithrio dydd Sul 20 Tachwedd)

Nadolig Abertawe

3.30pm - 7.00pm 11.00am - 7.00pm 11.00am - 5.00pm

5


Dewch i ganol dinas Abertawe am le gwych i siopa i'r Nadolig a chael hwyl yr wˆyl! Siopa i'r Nadolig Gyda dewis o fwy na 230 o siopau sydd erbyn hyn yn cynnwys Superdry, Office, Zara, H&M a Disney, bydd siopwyr Nadolig wrth eu boddau gyda'r amrywiaeth o frandiau stryd uchel a siopau annibynnol unigryw o safon. I gael oriau agor siopau, gan gynnwys siopa gyda'r hwyr, ewch i'r wefan.

Marchnad Dan Do Abertawe Siop dan yr unto. Marchnad dan do fwyaf Cymru yw'r lle i fynd ar gyfer eich holl nwyddau Nadolig. Ewch i  www.swanseaindoormarket.co.uk

Cynnig Talebau Nadolig Mae BID Abertawe'n cynnig sawl gostyngiad Nadolig cyffrous i chi fanteisio arno yn y cyfnod cyn y Nadolig. Ewch i  www.nadoligabertawe.com i lawrlwytho eich talebau.

Hamdden Gyda mwy na 90 o leoedd i fwyta ac yfed, tretiwch eich hun dros y Nadolig yn un o'n bwytai di-ri'. Wrth i fywyd nos lliwgar ein tafarnau a'n clybiau ddod yn fyw ar ôl iddi nosi, dewch i ymuno yn naws y tymor trwy roi cynnig ar y llu o leoliadau sydd ar agor tan oriau mân y bore. Mae atyniadau megis Theatr y Grand Abertawe, Plantasia, Amgueddfa Abertawe, yr LC ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac enwi ond ychydig, yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau.

6

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau


ˆ yl Digwyddiadau'r W Dyma rai uchafbwyntiau'r tymor: 12/13 Tachwedd * Dyluniwch eich cardiau Nadolig eich hun a/neu gwnewch eich calendr Adfent eich hun Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

1-2 Rhagfyr A Childs Christmas, Theatr y Grand

19 Tachwedd Parti Lansio'r Nadolig Stryd Rhydychen 10.00am-4.00pm

5 Rhagfyr Cantorion y Nadolig, Theatr y Grand

20 Tachwedd Gorymdaith a Chynnau Goleuadau'r Nadolig Cynnau'r goleuadau o 5.00pm

11 Rhagfyr Carolau Ceirw a Siôn Corn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

26/27 Tachwedd Gwnewch eich addurniadau Nadolig eich hun Amgueddfa Genedlaethol y Glannau 25 Tachwedd - 18 Rhagfyr Marchnad/Adloniant y Nadolig Stryd Rhydychen a Ffordd y Dywysoges

Nadolig Abertawe

3 a 4 Rhagfyr Plu Eira Prydferth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

16 Rhagfyr – 15 Ionawr Pantomeim Aladdin gyda Jimmy Osmond, Theatr y Grand * Rhaid cadw lle ymlaen llaw

7


Sut i gyrraedd yma... Cludiant cyhoeddus Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn daith gerdded 5 munud o ganol y ddinas. I gael gwybodaeth am fysus a theithio arall, ewch i  www.traveline-cymru.org.uk

Mae Abertawe'n darparu gwasanaethau parcio a theithio yng Nglandwˆ r, Fforestfach a Ffordd Fabian. Mae'n costio £2.50 yn unig i barcio trwy'r dydd a theithio ar y bws i 4 person a bydd y cyfleusterau ar agor saith niwrnod yr wythnos o 20 Tachwedd tan 18 Rhagfyr. I gael amserlenni llawn a manylion eraill, ewch i  www.abertawe.gov.uk/parkandride

Parcio ceir Rydym yn argymell maes parcio Dewi Sant, 1 funud yn unig o'r safle. Mae hefyd AM DDIM i barcio ym mhob maes parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y ddinas bob dydd Sul.

Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe O'i ganolfan yng Ngorsaf Fysus Dinas Abertawe, mae'r gwasanaeth hwn ar gael i unrhyw un â phroblemau symudedd. Gallwch logi sgwteri trydan neu gadeiriau olwyn trydan/a yrrir â llaw. Ffoniwch  01792 461785.

Gwybodaeth I dderbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn Abertawe, tanysgrifiwch ar wefan  fyabertawe.info neu dilynwch ni ar www.facebook.com/swanseaevents www.twitter.com/my_swansea

Os hoffech gael y llyfryn hwn mewn fformat gwahanol, ffoniwch y Gwasanaethau Marchnata ar  01792 635478. Roedd yr holl fanylion yn gywir wrth fynd i'r wasg. Ewch i'r wefan yn rheolaidd i gael y newyddion diweddaraf.

8

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.