Oriel Gelf Glynn Vivian, Gweithgareddau Oddi Ar y Safle, Ionawr-Mawrth 2012

Page 1

gweithgareddau oddi ar y safle Ionawr - Mawrth 2012

digwyddiadau

sgyrsiau, ffilmiau a cherddoriaeth am ddim yn yr YMCA, Ffordd y Brenin, Abertawe. Gwe 13 Ion 1pm Pen-blwydd Celf. Dewch i ddathlu Pen-blwydd Celf wrth i ni gyflwyno dangosiad cyntaf y DU o'r ffilm Old Age Should Burn And Rave At Close Of Day gan Matt Hulse gydag Elizabeth Lawrence. Gwe 27 Ion 1pm Sgwrs Artist: Llysiau’r Vetch. Bydd yr artist Owen Griffiths yn trafod ei brosiect diweddaraf, Llysiau’r Vetch, lle mae wedi newid cyn-gae pêl-droed Dinas Abertawe yn rhandir cymunedol. Gwe 10 Chwe 1pm Sgwrs Artist: Artist y Flwyddyn Cymru 2011. Bydd Paul Emmanuel yn trafod ei waith gan gynnwys ei ‘gnuoedd paentiedig’ unigryw a’i daith gyfnewid i Tsieina a drefnwyd gan y Glynn Vivian. Sad 25 Chwe 3.30pm Sesiynau Free:30 yn Cyflwyno: Thistledown. Bydd Thistledown y band o Abertawe yn dod â’u brand unigryw eu hunain o gerddoriaeth werin fodern amgen i’r sesiwn Free:30 gyntaf yn 2012. Sad 10 Maw 2pm Film Bunker yn cyflwyno: Between Two Rivers. Ffilm ddogfen newydd gan Jacob Cartwright a Nick Jordan. Canolbwynt y ffilm yw Cairo, Illinois, tref lan afon hanesyddol ag iddi orffennol tywyll a chythryblus. Gwe 30 Maw 1pm Comisiynau’r Glynn Vivian: Ffilm gan Anthony Shapland. Bydd Anthony Shapland yn dangos ei ddehongliad o’r Glynn Vivian am y tro cyntaf, sy’n canolbwyntio ar fannau nas gwelwyd yn yr oriel.

01792 516900

www.glynnviviangallery.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.