Newyddion Llywodraethwyr Gwanwyn 2013

Page 1

NEWYDDION LLYWODRAETHWYR RHIFYN 29

GWANWYN 2013

Neges gan Ian James Fel rydych chi’n gwybod cefais fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol Addysg ym mis Ionawr eleni. Fel cyn Bennaeth y Gwasanaeth Effeithiolrwydd Addysg, rwy’n ymwybodol iawn o pa mor bwysig y gall llywodraethwyr fod er mwyn gwella ysgolion. Mae eich rôl fel ffrind beirniadol i ysgolion, yn herio ac yn cefnogi effeithiolrwydd ysgolion, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’n plant a'n pobl ifanc. Mae’r Awdurdod Lleol yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â llywodraethwyr ysgol a chyrff llywodraethu er mwyn eich cefnogi chi a’r gwaith gwerthfawr yr ydych yn ei wneud. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda llywodraethwyr a byddaf yn cymryd y cyfle i gwrdd a thrafod materion gyda chi yng nghyfarfodydd Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe ac yn y Gynhadledd ar 18 Ebrill 2013 yn Ysgol Gymunedol Dylan Thomas. Os ydych yn bwriadu mynychu’r digwyddiad hwn, dylech gadarnhau eich lle gyda’r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr ar 636552. Gobeithio eich gweld chi yno ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y dyfodol.

Ian James Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg

Mae’r aelodau canlynol o staff yn ffurfio'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr: Kathryn Thomas

Rheolwr Cefnogi Ysgolion, Llywodraethwyr a Myfyrwyr Kate Phillips Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr Claire Abraham Dirprwy Reolwr/Swyddog Derbyniadau Ysgolion Uned Ysgolion a Llywodraethwyr Paul Henwood Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Ruth Rolfe Swyddog Llywodraethwyr Ysgolion Susan Pitt Cynorthwy-ydd Derbyniadau Alma Lodwick Cynorthwy-ydd Clercol Chantal Bideleux Cynorthwy-ydd Gweinyddol

Dyma Swyddogion Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Cyrff Llywodraethu Abertawe: Cadeirydd Mr Jeff Bowen • Ysgol Gyfun Penyrheol • Ysgol Gynradd Casllwchwr Is-gadeirydd Mrs Debbie Lloyd • Ysgol Tre-gŵyr

Trysorydd Mr. Peter Meehan • Ysgol Gynradd y Gendros • Ysgol Iau Brynhyfryd Cynrychiolydd Llywodraethwyr Cymru Mrs Debbie Lloyd • Ysgol Tre-gŵyr

CITY AND AND COUNTY COUNTY OF OF LEARNING LEARNING •• DINAS DINAS AA SIR SIR O O DDYSG DDYSG AA CITY


Gwobr Efydd Llywodraethwyr Cymru Mae’r Wobr yn seiliedig ar archwiliad polisi a gwybodaeth weithdrefnol, lle mae’n rhaid i gyrff llywodraethu greu portffolio o dystiolaeth yn seiliedig ar restr wirio, er mwyn gwella effeithiolrwydd cyrff llywodraethu. Mae’r Wobr yn gweithredu fel hunan-werthusiad i gyrff llywodraethu, sy’n darparu meincnod y gall cyrff llywodraethu ei ddefnyddio er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd. Mae wedi ei rhannu’n ddwy ran. Mae rhan 1 yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau statudol cyrff llywodraethu, tra bod rhan 2 yn cynnwys gofynion ychwanegol yn seiliedig ar arfer da. (Llywodraethwyr Cymru) Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, mae 5 ysgol yn Abertawe wedi bod yn gweithio ar bortffolios fel rhan o beilot Gwobr Efydd Abertawe. Byddant mewn safle cyn hir i gyflwyno’r portffolios i’r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr a byddwn ni’n eu hasesu ac yna’n eu hanfon at Lywodraethwyr Cymru er mwyn iddynt gael eu safoni. Bydd ail gyfnod y wobr yn cael ei gyflwyno ar ôl gwyliau’r Pasg ac mae 15 ysgol wedi cofrestru gyda Llywodraethwyr Cymru i gymryd rhan yn yr ail gyfnod. Bydd yr

ysgolion peilot yn gweithredu fel mentoriaid ac yn gallu cynnig arweiniad i’r cyfnod nesaf o gyrff llywodraethu a fydd yn mynd trwy’r broses. Yn yr wythnosau nesaf bydd pob ysgol yn cael ei gwahodd i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn nhrydydd cyfnod y wobr. Anogir pob ysgol i gyflawni’r wobr gan ei bod yn hunan-werthusiad ardderchog i gyrff llywodraethu. Os oes diddordeb gennych gael mwy o wybodaeth am y Wobr Efydd yna cysylltwch â mi ar 636551.

Kate Phillips Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr

A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG


Y Deg Gorau ar Gyfer Hyfforddi Llongyfarchiadau i’r 10 Corff Llywodraethu a gynrychiolwyd amlaf yn y sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2011 ac Ionawr 2013. Mae pedwar o’r ysgolion hyn yn gweithio tuag at eu Gwobr Efydd Marc Safon ar hyn o bryd. Mae hyfforddiant Llywodraethwyr yn rhan bwysig o’r wobr hon gan ei fod yn cynyddu gwybodaeth llywodraethwyr ac yn eu galluogi i gyflawni eu rôl yn fwy effeithiol.

DYMA’R 10 GORAU

Medi 2011 - Ionawr 2013 Nifer y Sesiynau Hyfforddi a fynychwyd

Ysgol Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas Ysgol Gymunedol Dylan Thomas Ysgol Gynradd San Helen Ysgol Gynradd Trallwn Ysgol Gynradd Mayals Ysgol Gynradd Plasmarl Ysgol yr Esgob Gore Ysgol Gynradd Tregŵyr Ysgol Gynradd Pentrechwyth Ysgol Gyfun Tregŵyr

38 38 36 36 35 32 32 31 29 28

Pam mynychu’r hyfforddiant? Bydd mynychu sesiynau hyfforddi yn galluogi llywodraethwyr i rwydweithio gyda llywodraethwyr eraill er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiadau. Gobeithio bydd yr amrywiaeth eang o hyfforddiant a ddarperir yn golygu bod rhywbeth o ddiddordeb i bob llywodraethwr ac rydym yn croesawu syniadau ar gyfer cyrsiau newydd. Pa bynnag ddull a fabwysiedir, rydym yn ffodus yn Abertawe i gael hwyluswyr cyrsiau sy’n ymrwymedig i sicrhau fod gan lywodraethwyr bob cyfle i ddysgu am eu swyddogaethau. Mae gan lywodraethwyr gyfle gwych i gymryd mantais lawn o'r rhaglen hyfforddi a’i defnyddio er budd yr ysgolion maent yn eu gwasanaethu. A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG


Hyfforddiant Cefnogi Llywodraethwyr Mae Ruth Rolfe, Swyddog Llywodraethwyr Ysgol, a Chantal Bideleux, Cynorthwy-ydd Gweinyddol Llywodraethwyr, yn mynd i'r afael â'r holl agweddau ar waith llywodraethwyr a chyrff llywodraethu ond prif ffocws eu gwaith yw hyfforddiant llywodraethwyr. Gyda rhai agweddau ar hyfforddiant llywodraethwyr yn orfodol yn y dyfodol (sy'n debygol o fis Medi 2013) mae disgwyl i nifer y sesiynau hyfforddiant gynyddu. Bydd llywodraethwyr yn cael gwybod a oes rhaid iddynt fynd i'r hyfforddiant gorfodol. Mae Ruth a Chantal yn hapus i gadw lle i chi ar unrhyw gwrs hyfforddi a byddant yn gallu ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am y cyrsiau. Byddant hefyd yn helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch rôl llywodraethwyr a chyrff llywodraethu a gallant gynnig cyngor ac arweiniad i chi ar waith, cyfansoddiad a gweithdrefnau cyrff llywodraethu. Yn ystod Tymor yr Haf, cysylltir â hwyluswyr i gael adborth o sesiynau hyfforddiant y flwyddyn gyfredol. Eleni, byddwn hefyd yn cysylltu â llywodraethwyr am adborth ac awgrymiadau ynghylch hyfforddiant.

Yna, cesglir gwybodaeth ar gyfer rhaglen hyfforddi’r flwyddyn ganlynol. Unwaith cytunir ar y sesiynau, cedwir lle yn y lleoliadau gwahanol. Caiff y rhaglen hyfforddi ei hargraffu er mwyn ei phostio yn ystod wythnos gyntaf Tymor yr Hydref. Rydym yn ceisio cynnwys datblygiadau newydd a cheisiadau parhaus ac felly gallwn addasu’r rhaglen yn ystod y flwyddyn. Caiff llywodraethwyr wybod am unrhyw arweiniad newydd neu wedi’i ddiweddaru a byddant hefyd yn derbyn gwybodaeth ynghylch cyrsiau hyfforddi ychwanegol.

Dyma’n manylion cyswllt: Ruth Rolfe  01792 636552 neu  ruth.rolfe@swansea.gov.uk Chantal Bideleux  01792 636848 neu  chantal.bideleux@swansea.gov.uk

A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG


Dyfyniadau o’r Ffurflenni Gwerthuso Hyfforddiant Llywodraethwyr 2011/12 – 2012/13 1 Cefnogi Plant sy’n Derbyn Gofal yn Ein Hysgolion – 27.11.2012 “Fel y Llywodraethwr PDG dynodedig yn fy ysgol, roedd yr holl wybodaeth a ddosbarthwyd heddiw yn hanfodol er mwyn i mi gyflawni fy rôl.” 2 Deall Data Ysgol - Cynradd – 22.03.2012 “Diolch yn fawr iawn. Nid oeddwn yn credu y byddwn i erioed mor frwdfrydig ac wedi fy swyno cymaint am ddata! Gwnaethoch lwyddo i’w gyflawni!! Sesiwn ardderchog.” 3 Hyfforddiant Diogelu Plant – 28.03.2012 “…roedd y cwrs yn wych. Roedd y cynnwys/cyflwyno yn cyd-fynd â’n hanghenion fel llywodraethwyr. Diolch yn fawr am sesiwn llawn gwybodaeth.” 4 Cyllid a Chyllidebau – 18.01.2012 “Amgylchedd hamddenol er mwyn gofyn cwestiynau a gwnaeth y cyflwynwyr esbonio pwnc cymhleth iawn yn dda iawn.” 5 Gwaharddiadau o Ysgolion a Rôl y PDC – 06.12.2012 “Cyflwyniad dosbarth cyntaf o’r holl waith sy’n ofynnol gan y pwyllgorau. Ardderchog.” 6 Llywodraethwyr Newydd – 21.06.2012 “Fel llywodraethwr newydd (llai na thri mis) roedd yn gyflwyniad clir heb ormod o jargon. Diolch.”

Danansoddiad o Bresenoldeb ar Hyfforddiant Llywodraethwyr Ionawr 2012 - Ionawr 2013 Ffigurau presenoldeb diweddaraf ar gyfer Hyfforddiant Llywodraethwyr 2012/13 Dyddiad y Cwrs

Enw’r Cwrs

Presenoldeb (%)

Presenoldeb (%) Llwywodraethwyr a aeth i’n cyrsiau diweddaraf i hyfforddi llywodraethwyr 100% 80%

30.01.13 Hyfforddiant Llywodraethwyr Newydd 72%

60%

17.10.12 Cadeiryddion Newydd

100%

40%

21.01.13 Clerc Newydd i'r Llywodraethwyr

100%

20%

21.11.12 Clerc i Fforwm y Llywodraethwyr

73%

0% Hyfforddiant Llywodraethwyr Newydd 30.01.2013

A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG

Cadeiryddion Newydd 17.10.2012

Clerc Newydd i'r Llywodraethwyr 21.01.2013

Clerc i Fforwm y Llywodraethwyr 21.11.2012


Gweithdrefnau Cwyno Corff Llywodraethu’r Ysgol Datblygodd Llywodraeth Cymru arweiniad diwygiedig yn ddiweddar er mwyn helpu ysgolion yng Nghymru i sefydlu gweithdrefnau cwyno effeithiol. Yn ôl Adran 29 Deddf Addysg 2002, mae’n rhaid i gyrff llywodraeth pob ysgol a gynhelir yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion meithrin, sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion gan rieni, disgyblion, aelodau o’r staff, llywodraethwyr, aelodau o’r gymuned leol ac eraill. Mae hyn yn cynnwys cwynion am yr ysgol ac unrhyw gyfleusterau neu wasanaethau cymunedol y mae’r ysgol yn eu darparu. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid ac mae wedi datblygu Gweithdrefnau Cwyno i Gyrff Llywodraethu Ysgolion yng Nghymru (Cylchlythyr 011/2012). Dosbarthwyd yr arweiniad newydd i ysgolion yn Nhymor yr Hydref 2012 ac felly mae polisi cwyno enghreifftiol yr Awdurdod Lleol wedi cael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu’r newidiadau a nodwyd yn nogfen Hydref 2012. Mae’r polisi diwygiedig hwn wedi cael ei anfon at benaethiaid a Chadeiryddion ac awgrymwyd bod cyrff llywodraethu

yn ystyried y polisi diwygiedig gyda’r bwriad o’i fabwysiadu a’i ddefnyddio. Dyma rai o’r newidiadau allweddol i’r polisi: • Rhaid bod person dynodedig gan ysgolion er mwyn delio â chwynion gan ddisgyblion. • Ni ddylai cadeirydd y pwyllgor cwynion fod yn gadeirydd nac yn is-gadeirydd y corff llywodraethu. • Nid oes cam apelio. Os ydych yn dewis mabwysiadu’r polisi enghreifftiol bydd rhaid i chi sicrhau ei fod yn cael ei gadarnhau gan y corff llywodraethu llawn a byddaf yn ddiolchgar petaech chi’n gallu anfon copi i’r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr er mwyn iddo allu disodli’r copi sydd gennym ar ffeil ar eich cyfer ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r arweiniad newydd a’r polisi enghreifftiol cysylltwch â’r Tîm Cefnogaeth i Lywodraethwyr.

Kate Phillips Rheolwr yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr  01792 636551 A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG


Cynhadledd i Glercod a Llywodraethwyr - 14 Mawrth 2013 LLYWODRAETHU EFFEITHIOL – CLERCIO EFFEITHIOL Mae Llywodraethwyr Cymru yn eich gwahodd chi a’ch cydweithwyr i gynhadledd ar y cyd i lywodraethwyr a chlercod a gwobr clercod yn Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed ar dydd Iau 14 Mawrth 2013. Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly fe’ch cynghorwn i archebu eich lle yn cynted â phosibl. Nod y gynhadledd yw rhannu

gwybodaeth ar amrediad o bynciau pwysig a chyfoes sydd yn effeithio ar lywodraethwyr ysgolion a chlercod. Bydd cyfleoedd hefyd i rwydweithio gyda llywodraethwyr eraill ar draws Cymru i gyfnewid gwybodaeth a phrofiadau o lywodraethu ysgolion yn effeithiol. Cynhelir y Wobr Clercod i’r clerc eithriadol yn y gynhadledd hefyd.

For information and booking form: www.governorswales.org.uk/digwyddiadau/2013/03/14/cynhadledd-i-glercod-llywodraethwyr/

Arfer Adferol Mae Arfer Adferol yn cael ei roi ar waith mewn ysgolion a sefydliadau ledled Abertawe sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Nod arferion adferol yw datblygu perthnasoedd a rheoli gwrthdaro a thensiynau drwy unioni niwed a chyflawni canlyniadau cadarnhaol. Gwelwyd llawer o ganlyniadau cadarnhaol eisoes o ganlyniad i ddefnyddio arfer adferol mewn ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys gwell presenoldeb ac ymddygiad, llai o waharddiadau, plant yn fodlon dysgu ac mae'r ymdeimlad o foddhad wedi gwella. Mae dwy sesiwn hyfforddi ar Arfer Adferol wedi’u cynnwys yn rhaglen hyfforddiant eleni a’n gobaith yw ehangu hyn yn y flwyddyn academaidd nesaf. Mae llywodraethwyr yn cael eu hannog hefyd i gael hyfforddiant yn eu hysgolion eu hunain os yw’n cael ei gynnig drwy sesiynau hyfforddiant mewnol. Mae mwy o wybodaeth am Arfer Adferol ar gael yn http://www.cypswansea.co.uk/cyppandei Hilary Davies Rheolwr Rhaglen Atal ac Ymyrryd yn Gynnar, Adran Addysg David Williams Hyfforddwr Arfer Adferol, Adran Addysg

A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG


Newyddion Diweddaraf y Cyllid Mae’r Fforwm Cyllideb Ysgolion, gan gynnwys llywodraethwyr, wedi cwrdd sawl gwaith er mwyn ystyried y gyllideb Addysg ac Ysgolion ar gyfer 2013/14. Mae gan y cyllidebau ysgolion dirprwyedig warant cyllid gan y Gweinidog a fydd yn cynyddu 2.08% yn 2013/14. Efallai na fydd ysgolion unigol yn derbyn y lefel yma o gynnydd oherwydd ffactorau yn eu hysgolion eu hunain, megis newid yn nifer y disgyblion. Mae blwyddyn bellach o amddiffyniad cyllid i ysgolion yn 2014/15 o 1.27%; fodd bynnag, mae’r rhagolwg ariannol ar gyfer awdurdodau lleol yn wael a bydd rhaid i lywodraethwyr ystyried cynllunio tymor canolig wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer 2013/14. Bydd fy nhîm yn darparu cyfran ddangosol o’r gyllideb ar gyfer 2013/14 i ysgolion ar ddechrau mis Mawrth gydag amcangyfrifon ar gyfer 2014/15 a 2015/16 yn cael eu darparu ar ddiwedd mis Mawrth. Rwy’n eich atgoffa bod angen i’r corff llywodraethu llawn gymeradwyo cynllun y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf erbyn 31 Mai a bydd yn rhaid i chi drefnu eich cyfarfodydd o amgylch y dyddiad cwblhau hwn. Yr unig newid fformwla sy’n cael ei gynnig ar gyfer 2013/14 yw newid bach wrth ddirprwyo Anghenion Difrifol a Chymhleth er mwyn cael gwared ar yr elfen ‘clustogi’. Amddiffyniad yw hwn a fydd ond yn caniatáu i ysgol golli uchafswm o £15,000 o un flwyddyn i’r

llall tra bod y fformiwla ariannu newydd yn cael ei weithredu’n raddol dros gyfnod o 4 mlynedd. Yn 2012/13 dim ond 5 ysgol dderbyniodd yr elfen ‘clustogi’, sef cyfanswm o £39,278. Cynigir cael gwared ar yr elfen ‘clustogi’ ond caniatáu i ysgolion sydd mewn trafferthion i hawlio o’r gronfa ‘Rheoli’r Angen’ yn lle, os yw’r meini prawf wedi'u bodloni. Bydd y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn adolygu goblygiadau’r cyhoeddiad diweddar ynghylch cyflogau athrawon yn ystod y flwyddyn sydd i ddod er mwyn gweld a oes unrhyw effaith ar fformiwlâu ariannu ysgolion h.y. os na fydd athrawon yn symud i fyny’r raddfa gyflog bob blwyddyn o fis Medi 2013. Cynghorwyd ysgolion yn ddiweddar o’r newidiadau i’r gofynion yswiriant lle bydd rhaid i ysgolion cynradd dalu £500 o Ebrill 2014 (yn lle’r £100 presennol) ac mae’n rhaid bodloni’r isafswm safonau diogelwch er mwyn sicrhau bod dyfeisiau electronig cludadwy ysgolion wedi’u diogelu gan yswiriant e.e. storio gliniaduron, iPads etc. Bydd fy nhîm yn gofyn i ysgolion ym mis Chwefror a ydynt yn dymuno bod yn rhan o’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth a’r Cynllun Salwch Tymor Hir ar gyfer 2013/14 ac efallai y byddai’r llywodraethwyr am drafod hyn yn eu cyfarfod Cyllid nesaf. Os oes angen ragor o wybodaeth arnoch, rhowch wybod i mi.

Kelly Small Rheolwr Cyllid a Gwybodaeth Ysgolion  kelly.small@swansea.gov.uk  01792 636686 A CITY AND COUNTY OF LEARNING • DINAS A SIR O DDYSG


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.