GlynnVivMay13

Page 1

Oriel Gelf Glynn Vivian Art Gallery OFFSITE / ODDI AR Y SAFLE May – August Mai – Awst 2013


OFFSITE / ODDI AR Y SAFLE

Cover/ Clawr: Toril Brancher, Looking for Glenys Cour, 2012 Courtesy the artist / Trwy garedigrwydd yr artist


Welcome / Croeso The Gallery redevelopment is making good progress, with the recent successful formal launch of the project attended by the Minister for Culture and Sport, John Griffiths and Councillor Nick Bradley, Swansea Council’s Cabinet Member for Regeneration. The project is funded by the City & County of Swansea, Arts Council of Wales, the Heritage Lottery Fund and Welsh Government. Colourful displays are a new addition to the hoardings outside the Gallery; based on the theme of ‘place’, these include many views of Swansea selected from the collection by our 55+ and Young People groups. Commentaries are also online, together with detailed plans of the future Gallery. Our offsite Learning programme offers a warm welcome at the YMCA, whilst our 4site programme continues in schools. Please join us too at Mission Gallery for the opening of a new work in progress by Toril Brancher, exploring the life of artist, Glenys Cour, who has contributed so much to our city in the last sixty years and more. Thank you for your continued support.

www.glynnviviangallery.org twitter.com/glynnvivian facebook.com/glynnvivian

Mae'r gwaith o ailddatblygu'r Oriel yn mynd rhagddo'n dda a chynhaliwyd lansiad swyddogol llwyddiannus yn ddiweddar yng nghwmni John Griffiths AM, Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, a'r Cynghorydd Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio. Ariennir y prosiect gan Ddinas a Sir Abertawe, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru. Mae arddangosfeydd lliwgar wedi’u hychwanegu at yr hysbysfyrdd y tu allan i'r Oriel; yn seiliedig ar thema 'lle', mae'r rhain yn cynnwys nifer o olygfeydd o Abertawe a ddetholwyd o'r casgliad gan ein grwpiau 55+ a phobl ifanc. Gellir gweld sylwebaeth ar-lein hefyd, ynghyd â chynlluniau manwl yr Oriel ar ei newydd wedd. Mae ein rhaglen ddysgu oddi ar y safle'n estyn croeso cynnes yn y YMCA ac mae'r rhaglen 4safle'n cael ei chynnal mewn ysgolion o hyd. Ymunwch â ni yn Oriel Mission ar gyfer agoriad gwaith ar y gweill newydd Toril Brancher. Mae'n archwilio bywyd yr artist, Glenys Cour, sydd wedi cyfrannu cymaint at ein dinas dros y 60 mlynedd diwethaf a mwy. Diolch am eich cefnogaeth barhaus.

Jenni Spencer-Davies Curator / Curadur Oriel Gelf Glynn Vivan Art Gallery


Toril Brancher Looking for Glenys Cour A work in progress / Gwaith ar y gweill First floor, Mission Gallery 21 May - 2 June

Llawr cyntaf, Oriel Mission 21 Mai - 2 Mehefin

“Looking for Glenys Cour began with a desire to see where the content in her paintings originates, where those fabulous colours and landscapes come from… I walked where she walked and looked for the colours and shapes that she found and I think I found fragments of her paintings,” Toril Brancher, March 2013. Toril has been commissioned to produce a film, an artist’s portrait of Glenys Cour. In this exhibition we get a rare glimpse of a work in progress, including film and photography of Toril’s search for Glenys within the local landscape. A solo exhibition of Glenys Cour’s work, curated by Mel Gooding, will be part of our exhibition programme when we return to the Gallery, post redevelopment. “Dechreuodd Looking for Glenys Cour gydag awydd i weld o ble daw'r cynnwys yn ei phaentiadau'n wreiddiol - o ble daw'r lliwiau a'r tirweddau gwych... Bûm yn cerdded lle y cerddodd hithau gan chwilio am y lliwiau a'r siapiau yr oedd hi wedi'u darganfod ac rwy'n credu i mi ddod o hyd i ddarnau o'i phaentiadau,” Toril Brancher, Mawrth 2013. Mae Toril wedi'i chomisiynu i gynhyrchu ffilm, sef portread artist o Glenys Cour. Yn yr arddangosfa hon cawn gipolwg prin o waith ar y gweill gan gynnwys ffilm a ffotograffiaeth o ymgais Toril i chwilio am Glenys yn y dirwedd leol. Bydd arddangosfa unigol o waith Glenys Cour, wedi'i churadu gan Mel Gooding, yn rhan o'n rhaglen arddangosfa pan fyddwn yn dychwelyd i'r Oriel ar ôl yr ailddatblygiad.

EXHIBITIONS / ARDDANGOSFEYDD


Image / Llun: Toril Brancher, Looking for Glenys Cour, 2012 Courtesy the artist / Trwy garedigrwydd yr artist

Preview Thursday 23 May, 6.30pm

Mission Gallery

Friday 24 May, 12pm

YMCA, Swansea

Toril Brancher talks about influences and development within her own practice. All events are free. Everyone welcome, no booking required. A Glynn Vivian Offsite Exhibition in partnership with Mission Gallery.

Rhagarddangosfa Nos Iau 23 Mai, 6.30pm

Oriel Mission

Dydd Gwener 24 Mai, 12pm

YMCA, Abertawe

Bydd Toril Brancher yn siarad am ddylanwadau a datblygiad yn ei harfer ei hun. Mae pob digwyddiad am ddim. Croeso i bawb. Dim angen cadw lle. Arddangosfa Oddi Ar y Safle'r Glynn Vivian mewn partneriaeth ag Oriel Mission.


COLLECTIONS / CASGLIADAU


Focus on Conservation Whilst the Gallery is offsite, our technical team is engaged in improving our future storage systems for Works on Paper, to improve access to our collection. Our Technical Officer, Ray Davies, is photographed here removing one of the artworks from an old acidic mount, in order to remount it in museum standard board, so that the work will be safely preserved for years to come. Ray will be working with hundreds of works on paper, under the supervision of accredited conservator, Kate Newton, and as part of our Investors in People training programme, supported by a grant from CyMAL, Ray has recently been awarded a much deserved Diploma in Cultural Heritage (Conservation) by EDI, for his work on this project.

Ffocws ar Gadwraeth Tra bod yr oriel yn gweithredu oddi ar y safle, mae ein tĂŽm technegol wrthi'n gwella ein darpar systemau storio ar gyfer gwaith celf ar bapur, er mwyn gwella mynediad i'n casgliad. Mae ein Swyddog Technegol, Ray Davies, yn y llun hwn yn tynnu darn celf o hen osodiad asidig, er mwyn ei ailosod mewn bwrdd amgueddfa safonol, fel y bydd y gwaith yn cael ei gadw'n ddiogel am flynyddoedd i ddod. Bydd Ray yn gweithio gyda channoedd o weithiau celf ar bapur, dan oruchwyliaeth Kate Newton, gwarchodwr achrededig, ac fel rhan o'n rhaglen hyfforddi Buddsoddwyr mewn Pobl, gyda chefnogaeth grant gan CyMAL. Yn ddiweddar mae Ray wedi ennill diploma teilwng iawn mewn Treftadaeth Ddiwylliannol (Cadwraeth) gan EDI, am ei waith ar y prosiect hwn.


Activities / Gweithgareddau All activities are free. Booking essential tel 01792 516900.

Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle ffôn 01792 516900.

Workshops take place at the YMCA, Swansea.

Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe.

Families

Teuluoedd

Saturday Family Workshops

Gweithdai Dydd Sadwrn i’r Teulu

10am - 1pm With artists Tom Goddard and Dan McCabe.

Join us to create an animated film about the adventures of Richard Glynn Vivian and his travels around the world. Explore different animation techniques and work on storyboards, prop making, scripts, characters and sound effects. Workshops take place twice a month and participants are asked to try and attend all sessions. Saturday 1 & 8 June, 6 & 13 July and 3 & 10 August. Continues September to January 2014. All children under 10 must be accompanied by an adult.

LEARNING / DYSGU

10am - 1pm Gyda’r artistiaid Tom Goddard a Dan McCabe. Ymunwch â ni i greu ffilm wedi'i hanimeiddio am anturiaethau Richard Glynn Vivian a'i deithiau o gwmpas y byd. Cewch gyfle i archwilio technegau animeiddio gwahanol a gweithio ar fyrddau stori, gwneud celfi, sgriptiau, cymeriadau ac effeithiau sain. Cynhelir y gweithdai ddwywaith y mis a gofynnir i gyfranogwyr geisio dod i bob un. Dydd Sadwrn 1 ac 8 Mehefin, 6 a 13 Gorffennaf a 3 a 10 Awst. Yn parhau o fis Medi i fis Ionawr 2014. Mae'n rhaid i bob plentyn dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.



Holiday Activities

Gweithgareddau'r Gwyliau

All activities are free. Booking essential tel 01792 516900.

Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle ffôn 01792 516900.

Workshops take place at the YMCA, Swansea.

Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe.

May

Mai

Saturday 25 May Create a Comic With the Comic Stripper Studio 11am - 4pm Age 7+ Learn how comics are made from pencil to printer with Rob and Adam from the Comic Stripper Studio.

Dydd Sadwrn, 25 Mai Creu Llyfr Comic Gyda'r Comic Stripper Studio 11am - 4pm 7+ oed Cyfle i ddysgu sut caiff llyfrau comics eu gwneud o'r pensil i'r argraffydd gyda Rob ac Adam o'r Comic Stripper Studio.

Tuesday 28 May ‘Adventures of Richard Glynn Vivian’ Comic Book Launch 10am - 3pm Head to Oxford Street, Swansea to pick up your free copy of the Saturday morning art club’s new comic book and create your own badge!

Dydd Mawrth 28 Mai Lansio LIyfr Comics 'Anturiaethau Richard Glynn Vivian’ 10am - 3pm Dewch i Stryd Rhydychen, Abertawe i godi copi am ddim o lyfr comics newydd clwb celf bore Sadwrn a chreu eich bathodyn eich hun!

Wednesday 29 May Family Film Club: East meets West Watch family movies with us at the YMCA. Free popcorn.

Dydd Mercher 29 Mai Clwb Ffilmiau i Deuluoedd: Y Dwyrain yn cwrdd â'r Gorllewin Dewch i wylio ffilmiau i'r teulu gyda ni yn y YMCA. Popgorn am ddim.

The Adventures of Tin Tin: Secret of the Unicorn (PG) 11am - 1pm Nausicaä of the Valley of the Wind (PG) 2pm - 4pm For Film Club information, visit www.glynnviviangallery.org

The Adventures of Tin Tin: Secret of the Unicorn (PG) 11am - 1pm Nausicaä of the Valley of the Wind (PG) 2pm - 4pm I gael gwybodaeth am y Clwb Ffilmiau, ewch i www.glynnviviangallery.org


August

Awst

Tuesday 6 August Bring a Sock to Life With artist Arwen Roberts 11am - 4pm Age 7+ Richard Glynn Vivian was very fond of pug dogs. Spend a day creating a dog from an old pair of socks and recycled materials.

Dydd Mawrth 6 Awst Rhoi Bywyd i Hosan Gyda'r artist Arwen Roberts 11am - 4pm 7+ oed Roedd Richard Glynn Vivian yn hoff iawn o gžn smwt. Treuliwch ddiwrnod yn creu ci o hen bâr o sanau a deunyddiau wedi'u hailgylchu.

Wednesday 7 August Future Artefacts With artist Dan McCabe 11am - 4pm Age 7+ Imagine our future and create the gadgets of tomorrow from recycled materials. Thursday 8 August Around the World With artist Sara Holden 11am - 4pm Age 5 - 12 Using pen and ink, paints and paper, make a travel diary and tell the story of your adventures as you journey around the world. All children under 10 must be accompanied by an adult.

Dydd Mercher 7 Awst Arteffactau'r Dyfodol Gyda'r artist Dan McCabe 11am - 4pm 7+ oed Cyfle i ddychmygu ein dyfodol a chreu teclynnau'r dyfodol o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu. Dydd Iau 8 Awst O Gwmpas y Byd Gyda'r artist Sara Holden 11am - 4pm 5 - 12 oed Gan ddefnyddio ysgrifbin ac inc, paent a phapur, dyma gyfle i greu dyddiadur teithio ac adrodd straeon eich anturiaethau wrth i chi deithio o gwmpas y byd. Mae'n rhaid i bob plentyn dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn.


Adults

Oedolion

All activities are free. Booking essential tel 01792 516900.

Mae pob gweithgaredd am ddim. Rhaid cadw lle ffôn 01792 516900.

Workshops take place at the YMCA, Swansea.

Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Abertawe.

Saturday Adult Classes

Dosbarthiadau Dydd Sadwrn i Oedolion

11am - 4pm Age 16+ Create works inspired by Richard Glynn Vivian’s collection and learn new skills in our ‘Master Class’ sessions run by practising artists.

11am - 4pm 16+ oed Dewch i greu gwaith wedi'i ysbrydoli gan gasgliad Richard Glynn Vivian a dysgu sgiliau newydd yn ein sesiynau ‘Master Class’ a gynhelir gan artistiaid mewn gair a gweithred.

Saturday 18 May Learn to create transfer and monoprints in this hands on workshop investigating printmaking Dydd Sadwrn, 18 Mai with artist Lucy Donald. Cewch ddysgu i greu troslun a monoprint yn y gweithdy ymarferol Saturday 1 June hwn sy'n ymchwilio i wneud Explore the world of found printiau gyda'r artist Lucy Donald. photography and the archive with artist Laura Reeves. Dydd Sadwrn 1 Mehefin Cyfle i archwilio byd ffotograffiaeth No previous experience necessary, a gafwyd a'r archif gyda'r artist complete beginners welcome. Laura Reeves. Dim angen profiad blaenorol, croeso i ddechreuwyr pur.


55+

55+

55+ Exhibition, Civic Centre Monday 22 July - Monday 19 August See work recently created by our 55+ class. Free admission.

Arddangosfa 55+, Canolfan Ddinesig 22 Gorffennaf - 19 Awst Gweld gwaith a grĂŤwyd yn ddiweddar gan ein dosbarth 55+. Mynediad am ddim.


Events / Digwyddiadau All events are free. Everyone welcome, no booking required. Events take place at the YMCA, Swansea.

Mae pob digwyddiad am ddim. Mae croeso i bawb. Dim angen cadw lle. Cynhelir yr holl weithdai yn y YMCA, Swansea.

Glynn Vivian Young People

Pobl Ifanc Glynn Vivian

Join our team of Young People (YP) aged 14-19 and host your own gigs, films and events in Swansea.

Ymunwch â'n tîm o Bobl Ifanc rhwng 14 a 19 oed i gynnal eich digwyddiadau cerddoriaeth, ffilmiau a gweithdai eich hun yn Abertawe.

YP Film Club ‘12 films to watch before you grow old’ See classic and cult films selected by our Young People that represent a generation. Wednesday 29 May The Matrix Trilogy (PG) From 4.30pm Tuesday 25 June 127 Hours (15) From 5.30pm Tuesday 30 July Back to the Future Trilogy (PG) From 2pm For Film Club information visit www.glynnviviangallery.org

Clwb Ffilmiau Pobl Ifanc ‘12 ffilm i'w gwylio cyn i chi fynd yn hŷn’ Dewch i weld ffilmiau clasurol a chwlt a ddewiswyd gan ein Pobl Ifanc sy'n cynrychioli cenhedlaeth benodol. Dydd Mercher 29 Mai Cyfres The Matrix (PG) O 4.30pm ymlaen Dydd Mawrth 25 Mehefin 127 Hours (15) O 5.30pm ymlaen Dydd Mawrth 30 Gorffennaf Back to the Future Trilogy (PG) O 2pm ymlaen I gael gwybodaeth am y Clwb Ffilmiau, ewch i www.glynnviviangallery.org


Community CafĂŠ

Caffi Cymunedol

Join art historian and painter Barry Plummer and be part of our stimulating community discussions, as we take a look at works from the Richard Glynn Vivian bequest and Gallery collection.

Ymunwch â'r hanesydd celf a'r arlunydd Barry Plummer a bod yn rhan o'n trafodaethau cymunedol ysgogol wrth i ni edrych ar waith o gymynrodd Richard Glynn Vivian a chasgliad yr Oriel.

Thursday 23 May 5pm - 6pm The Tradition of Landscape Painting: from Richard Wilson to William Grant Murray.

Dydd Iau 23 Mai 5pm - 6pm Traddodiad Paentio Tirluniau: o Richard Wilson i William Grant Murray.

Thursday 4 July 5.30pm - 6.30pm The Tradition of Portrait Painting: from Peter Lely to Alfred Janes.

Dydd Iau 4 Gorffennaf 5.30pm - 6.30pm Traddodiad Paentio Portreadau: o Peter Lely i Alfred Janes.

Thursday 15 August 5.30pm - 6.30pm The Tradition of Figurative Art: from Penry Williams to Josef Herman.

Dydd Iau 15 Awst 5.30pm - 6.30pm Traddodiad Celf Ffiguraidd: o Penry Williams i Josef Herman.


Artist in Residence

Image/ Llun: Huw Andrews, The New Golden Bridge (One Way), 2012

Huw Andrews May - June

Mai - Mehefin

Huw was born in 1980 in Carmarthen and completed a Fine Art degree at Leeds Metropolitan University in 2010. Huw gathers photos, video, sound, objects and uses documentation material to record his struggle with conventional aspirations.

Ganed Huw ym 1980 yng Nghaerfyrddin a chwblhaodd radd mewn celfyddyd gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Leeds yn 2010. Mae Huw yn casglu ffotograffau, fideos, sain a gwrthrychau ac mae'n defnyddio deunydd dogfennaeth i gofnodi ei frwydr 창 dyheadau confensiynol.

Artist Talk Friday 7 June 12pm Join Huw to talk about his practice and his residency work. Everyone welcome. www.huwandrews.com

Sgwrs Artist Dydd Gwener 7 Mehefin 12pm Ymunwch 창 Huw i siarad am ei arfer a'i waith preswyl. Croeso i bawb.


Artist Preswyl

Image / Llun: Gemma Copp, Rise, 2012

Gemma Copp June - August

Mehefin - Awst

Gemma studied Fine Art at Swansea Met gaining both her BA and MA. She was named Welsh Artist of the Year 2012. Gemma Copp is an artist who works with the moving image. Her works often explore the notion of escapism. By using objects and set environments she attempts to evoke emotions relating to identity and basic human instinct.

Astudiodd Gemma Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe gan ennill BA ac MA. Cafodd ei henwi'n Artist y Flwyddyn Cymru yn 2012. Mae Gemma Copp yn artist sy'n gweithio gyda'r ddelwedd symudol. Mae ei gwaith yn aml yn archwilio'r syniad o ddihangdod. Drwy ddefnyddio gwrthrychau ac amgylcheddau gosod mae'n ceisio ysgogi emosiynau sy'n ymwneud 창 hunaniaeth a greddf ddynol sylfaenol.

Artist Talk Friday 16 August 12pm Gemma discusses her practice and residency work. Everyone welcome. www.gemmacopp.com

Sgwrs Artist Dydd Gwener 16 Awst 12pm Bydd Gemma yn trafod ei harfer a'i gwaith preswyl. Croeso i bawb.


Image / Llun: Simon Fenoulhet, Curtain, 2012

Simon Fenoulhet August - September Simon studied Fine Art at both Newport and Cardiff gaining a Masters Degree in 1987. He works as a freelance artist and lecturer and in 2011 was awarded the Gold Medal for Fine Art at the National Eisteddfod.

Awst - Medi Astudiodd Simon Gelfyddyd Gain yng Nghasnewydd a Chaerdydd ac enillodd Radd Meistr ym 1987. Mae'n artist llawrydd ac yn ddarlithydd ac yn 2011 rhoddwyd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain iddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Artist Talk

Sgwrs Artist

Friday 20 September 12pm Simon Fenoulhet is an artist who plays with our preconceptions. He takes the mundane and mass produced object and brings them to life through his exploration and fascination with light. Join him for a talk about his current practice and residency. www.simonfenoulhet.co.uk

Dydd Gwener 20 Medi 12pm Mae Simon Fenoulhet yn artist sy'n chwarae 창'n rhagdybiau. Mae'n cymryd gwrthrychau cyffredin sy'n cael eu masgynhyrchu ac yn rhoi bywyd iddynt drwy ei archwilio a'i ddiddordeb mawr mewn golau. Ymunwch ag ef i siarad am ei arfer a'i waith preswyl.


Coming Soon / Yn dod yn fuan

Image / Llun: Maleonn, Studio Mobile, 2012 Courtesy the artist / Trwy garedigrwydd yr artist

Let’s see what happens... Tim Davies, Yingmei Duan, Paul Emmanuel, Owen Griffiths, Maleonn Ma, Fern Thomas, Zeng Huanguang From 28 September to 3 November 2013, Glynn Vivian Art Gallery presents a major exhibition featuring the work of seven artists from Wales and China at various venues across the city. O 28 Medi tan 3 Tachwedd 2013, bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno arddangosfa fawr sy'n cynnwys gwaith saith artist o Gymru a Tsieina mewn lleoliadau amrywiol ar draws y ddinas.


Where to find Glynn Vivian Offsite programme

Rhaglen Oddi Ar y Safle Glynn Vivian

Venues May - August

Lleoliadau Mai - Awst

YMCA, 1 The Kingsway, Swansea SA1 5JQ

YMCA, 1 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5JQ

Mission Gallery, Gloucester Place, Maritime Quarter, Swansea SA1 1TY

Oriel Mission, Gloucester Place, Ardal Forol, Abertawe SA1 1TY

Support the Gallery – Join the Friends of the Glynn Vivian

Cefnogi'r Oriel - Ymunwch â Chyfeillion y Glynn Vivian

Details are available from the Membership Secretary: 01792 476187 h.a.barnes@btinternet.com www.friendsoftheglynnvivian.com

Mae manylion ar gael gan yr Ysgrifennydd Aelodaeth: 01792 476187 h.a.barnes@btinternet.com www.friendsoftheglynnvivian.com

Contact us / Cysylltu â ni: Glynn Vivian Art Gallery, Administrative Offices c/o Room 261t, The Guildhall, Swansea SA1 4PE Oriel Gelf Glynn Vivian, Swyddfeydd Gweinyddol d/o Ystafell 261t, Neuadd y Ddinas, Abertawe SA1 4PE 01792 516900

glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk

Join in online & find out more / Ymunwch â ni ar-lein i gael mwy o wybodaeth www.glynnviviangallery.org www.facebook.com/glynnvivian

Blog: www.glynnvivian.com www.twitter.com/glynnvivian


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.