Canolfan Dylan Thomas: Rhaglen Yr Haf 2013

Page 1

CANOLFAN DYLAN THOMAS

RHAGLEN Yr Haf 2013


CROESO Ar 14 Mai 1953, cynhaliwyd y perfformiad llwyfan cyflawn cyntaf o Under Milk Wood yn Efrog Newydd, a'r cast yn cynnwys Dylan Thomas a phum actor Americanaidd. Byddwn yn nodi chwe deg mlwyddiant y noson honno gyda'n Diwrnodau Dan y Wenallt ym mis Mai, a byddwn yn parhau i ddathlu Dylan ac eraill yn ystod Gwˆ yl Dylan Thomas yn yr hydref a fydd yn cynnwys Diwrnod Doctor Who, digwyddiad ar The Killing gydag Emma Kennedy a David Hewson a llwyfannu Rebecca’s Daughters gan Dylan. “Love the words”, meddai Dylan wrth y cast yn Efrog Newydd, a gobeithio y byddwch yn ymuno â ni drwy'r flwyddyn i wneud yr union beth.

SWYDDFA DOCYNNAU:  01792 463980 Gallwch gadw lle ar-lein:  www.ticketsource.co.uk/ dylanthomas F Pris Llawn C Consesiynau PTL Pasbort i Hamdden 2

Nos Fercher 8 a nos Iau 9 Mai, 7.30pm

ROUGH DIAMONDS #1 A #2 Drama newydd uchelgeisiol o waith myfyrwyr rhaglen Ysgrifennu Creadigol nodedig Prifysgol Abertawe. Cyflwynir y perfformiadau a'u cyfarwyddo gan y dramodydd D.J.Britton, Athro Cysylltiol Ysgrifennu Dramatig Prifysgol Cymru. Caiff y gwaith ei berfformio gan gwmni theatr neilltuol Fluellen Theatre Company o Abertawe. Ymhlith y dramodwyr mae Teresa Chambers, Joe Downes, Sabiha Hussain, Jean James, Elli Martin, Jan Newton, Benjamin Palmer, Glynn Scott, Tobin Snelling, James Taylor, A.M. Lassessen a Ricky Stevenson. POB TOCYN: £4 Rhaglen Yr Haf


Dydd Iau, 9 Mai 10am – 5.30pm

DIWRNOD YR YSGRIFENWYR Y jamborî geiriau, cyngor a thrafodaeth flynyddol sy'n cynnwys darlleniadau a sgyrsiau gan Menna Elfyn, Stevie Davies, Jo Bell, Bethany Pope , Nigel Jenkins a Dave Oprava. Bydd John Lavin, Gary Raymond a Rhys Milsom yn trafod golygu ar-lein gyda Jon Gower, a Jeni Williams yn archwilio dyfodol cyhoeddi gydag Elwyn Jones pennaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Richard Davies o Parthian. I gloi, byddwn yn dathlu canmlwyddiant R.S. Thomas. Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe, gyda nawdd H'mm Poetry Foundation. TOCYNNAU: Am ddim, ond cofiwch archebu tocyn ymlaen llaw o'r Ganolfan

www.dylanthomas.com

3


Dydd Gwener 10 Mai a dydd Sadwrn 11 Mai

DIWRNODAU DAN Y WENALLT Dathlu chwe deg mlwyddiant perfformiad llwyfan cyntaf ‘drama i leisiau’ Dylan gyda chyfres o ddigwyddiadau arbennig. Dydd Gwener, 10am - 4.30pm UNDER MILK WOOD TWITTER EXCHANGE #2 Yn dilyn llwyddiant detholion y llynedd, rydym yn cyflwyno sgyrsiau eraill rhwng trigolion Llareggub leisiau' Dylan. Dilynwch ni @DTCSwansea i gymryd rhan.

Dydd Sadwrn, 10am GWEITHDY SGWAD SGWENNU'R IFANC Ar thema Milk Wood (yn llawn) Dydd Sadwrn, 1pm MILK WAKING WOOD Fluellen yn cyflwyno adloniant i ddathlu'r ail ddiwrnod ‘Dan y Wenallt’ drwy roi cipolwg ar rai o drigolion Llareggub a sut maen nhw a'r ddrama wedi dylanwadu ar ysgrifenwyr eraill ar hyd y blynyddoedd. POB TOCYN: £5

4

Rhaglen Yr Haf


Lewis Davies

Nos Fercher, 15 Mai, 7.30pm

Stevie Davies

Nos Iau, 16 Mai, 7pm YN LANSIO TEITLAU NEWYDD GAN

SEX AND POWER AT THE BEAU RIVAGE STEVIE DAVIES A DAI SMITH GAN LEWIS DAVIES Stevie Davies yn lansio'i llyfr diweddaraf, Cynhyrchiad gafaelgar a llawn emosiwn sy'n archwilio'r cyfyng gyngor sy'n wynebu dau awdur sydd wedi ceisio dihangfa mewn tref wyliau Ffrengig a'i chyfaredd ddiflanedig. Yr ysgrifenwyr yw D.H.Lawrence a Rhys Davies, a'r catalydd i'w cyfarfyddiad yw ffigur oriog Frieda Lawrence. POB TOCYN: £4

www.dylanthomas.com

Awakening. Flwyddyn wedi cyhoeddi gwaith ffrwydrol Darwin The Origin of Species, mae'r chwiorydd Anna a Beatrice Pentecost yn deffro i fyd sydd wedi'i chwalu gan wyddoniaeth, radicaliaeth a chyffro cynnar y gwrthryfel ffeministaidd. Mae Dai Smith,golygydd y gyfres Library of Wales, yn trafod ei nofel gyntaf, Dream On, sy’n rhannol gomedi ddu a stori ias a chyffro 'noir', yn rhannol fyfyrdod ar fywyd ei hun. Mae hefyd yn cyflwyno teitl diweddaraf y gyfres Library of Wales, gan James Hanley, A Kingdom. Mynediad a gwin am ddim. 5


Nos Iau, 23 Mai, 7.30pm

PETER LORD: RELATIONSHIPS WITH PICTURES Bydd Peter Lord yn trafod ei lyfr newydd o Parthian, sy'n disgrifio, drwy gyfres o bymtheg llun, esblygiad ei ymdeimlad o hunan-werth; o'i blentyndod wedi'r Ail Ryfel Byd, coleg celf yn y 1960au, drwy densiwn rhwng mewnfudwyr a phobl leol yng Nghymru yn y 1970au a'r 80au, ac yna drwy ei archwiliad o'u dylanwad ar fywydau'r artistiaid a'u creodd. PRIS LLAWN: F £5 C £3.50 PTL £1.70

6

Kathryn Maris

Nos Iau 30 Mai, 7.30pm

POETS AT THE DTC GYDA

KATHRYN MARIS Mae Kathryn Maris, bardd o ddinas Efrog Newydd sydd bellach yn byw yn Llundain, yn dathlu cyhoeddi ei hail gasgliad, God Loves You (Seren, 2013). Mae wedi ennill Gwobr Pushcart, a gwobr Academy of American Poets, ac mae ei cherddi wedi ymddangos mewn sawl casgliad gan gynnwys Best British Poetry 2012 a'r Oxford Poets Anthology. Mae'n dysgu ysgrifennu creadigol yn Morley College a'r Poetry School. Yn cynnwys meic agored. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60 Rhaglen Yr Haf


Dydd Sul 9 Mehefin, 10.30am Dydd Sadwrn 8 Mehefin, 1pm

THEATR

fluellen YN CYFLWYNO

PORCELAIN AND PINK GAN F. SCOTT FITZGERALD Chwiorydd yw Julie a Lois sy'n edrych ac yn swnio'n debyg ond mewn gwirionedd, maen nhw'n wahanol iawn. Mae drama gywrain a sylwgar F Scott Fitzgerald o'r 1920au yn diffinio'n glyfar iawn y newidiadau anferthol a ddaeth i gymdeithas yn sgîl yr Oes Jazz. Mae holl gyflwyniadau Theatre-In-Focus yn gyflwyniadau sgript-mewnllaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 www.dylanthomas.com

RETURN JOURNEY Lighthouse Theatre Ltd, ynghyd â Chanolfan Dylan Thomas, Gw ˆ yl Gerdded Gŵyr a DT100, yn cyflwyno cynhyrchiad promenâd o Return Journey, yn cael ei hactio ar y strydoedd a'i hysbrydolodd a'i phlethu â phytiau o hanes. Mae'n dechrau yn Stryd y Castell ac yn gorffen ym Mharc Cwmdoncyn. TOCYNNAU: £4.00, ffoniwch 01792 363392 neu ewch i www.gowerwalkingfestival.org Nos Wener 14 Mehefin, 7.30pm

PRODUCTIONS YN CYFLWYNO

‘WHAT WE SHOULD HAVE SAID…’ Tipyn o barti gwyllt sy'n llawn difyrrwch, goleuni, arloesedd na ellir ei ragweld, ac sy'n cynnwys artist y gair llafar a enwebwyd am wobr Bafta, Stuart Silver, y bydd ei fath arbennig o athroniaeth a hiwmor yn cystadlu â barddoniaeth Ian Gregson, Tiffany Atkinson a Richard Douglas Pennant a meistr cerddoriaeth fyrfyfyr yr allweddellau, Huw Warren. Dewch i brofi plethiad cyfoethog o syniadau, archwiliadau, cymeriadau ac offeryniaeth a gafodd dderbyniad brwdfrydig yn y Troubadour a'r Ledbury Poetry Festival. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60 7


Natalie Holborow

Joao Morais

Sion Tomos Owen

Jemma King

Nos Wener 21 Mehefin, 7pm

Nos Iau 27 Mehefin, 7.30pm

GWOBR TERRY HETHERINGTON

POETS AT THE DTC GYDA

Dathlwch gyflawniadau ymgeiswyr eleni ar gyfer Gwobr Terry Hetherington i ysgrifenwyr o dan 30 oed, gyda gwobr o £1000. Ymhlith y rhai fydd yn darllen eu gwaith fydd yr enillwyr Joao Morais (cyntaf), Natalie Holborow a Sion Tomos Owen (cydradd ail). Unwaith eto, caiff eu gwaith ei gyhoeddi gan Parthian yn y gyfrol ddiweddaraf o Cheval a gaiff ei lansio ar y noson.

JEMMA KING

Am ddim.

8

Bydd Jemma King yn darllen o'i chasgliad newydd gan Parthian, The Shape of a Forest. Mae'r gyfrol gyntaf soffistigedig hon, sy'n hiraethus, yn unigryw ac yn nwydus, yn cynnig arolwg pwerus o fywyd a'r profiad dynol. Jemma, sy'n dysgu llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, oedd enillydd Gwobr Terry Hetherington 2011. Yn cynnwys meic agored. TOCYNNAU: F £4 C £2.80 PTL £1.60 Rhaglen Yr Haf


Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf

JOE DUNTHORNE A CRAIG ROBERTS YN SUBMARINE SWANSEA Ffilm a thaith a gyflwynir gan Llenyddiaeth Cymru, Canolfan Dylan Thomas ac Asiantaeth Ffilm Cymru Dangos ffilm: 11.00 am – 1.00 pm Taith: 2.00 pm – 6.00 pm Roedd Submarine, cyfrol gyntaf Joe Dunthorne, yn boblogaidd ar unwaith, gan arwain at ei haddasu'n ffilm gan Joe a Richard Ayoade yn 2010. Gyda Craig Roberts, fel y prif actor, cwblhawyd y ffilmio ar draws de-orllewin Cymru. Dewch i ymuno â Joe a Craig i archwilio rhai o'r mannau hyn mewn bws ac ar droed, gan orffen gyda diodydd yn y goedwig sydd yn y ffilm. Caiff y ffilm ei dangos, gyda chyflwyniad gan Joe a Craig, cyn y daith - dewch i fod yn rhan o'r cyfan neu yn lle'r daith. TOCYNNAU: Dangos ffilm: F £5 C £4 drwy Ganolfan Dylan Thomas Taith yn unig: F £11 C £9 drwy Llenyddiaeth Cymru 02920 472266 Ffilm a thaith: F £15 C £13 www.dylanthomas.com

9


Alan Bennett

Christopher Meredith

Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf, 1pm

Nos Iau, 25 Gorffennaf, 7.30pm

THEATR fluellen YN CYFLWYNO

POETS AT THE DTC GYDA

A VISIT FROM MISS PROTHERO GAN ALAN BENNETT

CHRISTOPHER MEREDITH

Ac yntau wedi ymddeol ac yn eistedd gartref, mae Mr Dodsworth yn myfyrio ar ei fywyd a'i gyflawniadau yn dawel foddhaus. Ond mae ei synfyfyrio'n cael ei chwalu'n sydyn wrth i'w gyn-ysgrifenyddes gyrraedd, ac ni fydd bywyd fyth yr un fath eto. Mae drama wych Alan Bennett yn plethu comedi a phathos yn gywrain ac yn effeithiol iawn. Mae holl gyflwyniadau Theatre-In-Focus yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5 10

Mae casgliad diweddaraf, Christopher Meredith, Air Histories, yn dechrau yn yr Oes Gerrig ac yn dod i ben yn y dyfodol, gan archwilio amrywiaeth o bynciau, y personol ochr yn ochr â'r amhersonol a'r arbrofol ochr yn ochr â'r adnabyddus. Mae'n awdur pedair nofel, a thri chasgliad blaenorol o gerddi ac mae'n Athro Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Morgannwg. Yn cynnwys meic agored. PRIS LLAWN: F £4 C £2.80 PTL £1.60

Rhaglen Yr Haf


August Strindberg

THEATR fluellen YN CYFLWYNO

Dydd Sadwrn 10 a dydd Sadwrn 24 Awst, 2pm – 4pm

PARIAH GAN AUGUST STRINDBERG

TAITH DYWYS: ABERTAWE DYLAN

Mae teithiwr o America yn aros yng nghartref syml archeolegwr o Sweden. Ond pwy yn union yw e a beth mae'n ei wneud yno, ac a allwn ymddiried yn yr hyn mae'n ei ddweud? Mae strwythuro gwych Strindberg yn y ddrama yn darlunio gornest strywiau llawn tyndra yn gampus. Mae holl gyflwyniadau Theatre-In-Focus yn gyflwyniadau sgript-mewn-llaw a bydd sgwrs am y dramodydd cyn y perfformiad. POB TOCYN: £5

Cwmni Theatr Fluellen yn cyflwyno taith dywys fywiog a difyr wedi'i seilio ar berfformiad o gwmpas canol Abertawe Dylan, gan ddechrau o Ganolfan Dylan Thomas, ac yn cynnwys The Three Lamps, safle'r Kardomah, Sgwâr y Castell, gan orffen yn y No Sign Wine Bar. PRIS LLAWN: F £10 C £7

Dydd Sadwrn, 3 Awst, 1pm

www.dylanthomas.com

11


ARDDANGOSFA 5 Gorffennaf tan 28 Awst

25/25 VISION: WELSH HORIZONS ACROSS 50 YEARS FFOTOGRAFFAU GAN JOHN BRIGGS Arddangosfa ffotograffaidd sy'n cynnwys rhai o ysgrifenwyr cyfoes blaenllaw Cymru, yn eu plith, Zoe Skoulding, Owen Sheers, John Williams, Rhian Edwards, Catrin Dafydd a Patrick McGuinness. Mae'n rhan o brosiect sy'n dathlu chwarter canrif yr IWA drwy archwilio profiadau ysgrifenwyr dros y chwarter canrif diwethaf ac edrych ymlaen at y pum mlynedd ar hugain nesaf.

CANOLFAN DYLAN THOMAS Cefnogir gan:

SOMERSET PLACE, ABERTAWE SA1 1RR

01792 463980

www.dylanthomas.com

Credyd Lluniau: Joe Dunthorne gan Angus Muir. Stevie Davies gan Stephen Howell. Milk Wood Day gan John Fry. Menna Elfyn a'r IWA gan John Briggs

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod manylion yn y rhaglen hon yn gywir, ond mae Dinas a Sir Abertawe yn cadw’r hawl i newid rhan o’r rhaglen hon heb rybudd.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.