Tyˆ AGORED Rhifyn 1 2014 Y cylchgrawn ar gyfer Tenantiaid a Les-ddeiliaid y Cyngor
Open HOUSE The Magazine for Council Tenants and Leaseholders
Issue 1 2014
Return Address: Address: Return City and County of of Swansea, Swansea, City and County Civic Centre, Oystermouth Road, Swansea, Swansea, SA1 SA1 3SN 3SN Civic Centre, Oystermouth Road, Cyfeiriad dychwelyd: dychwelyd: Cyfeiriad Dinas aa Sir Sir Abertawe, Abertawe, Canolfan Canolfan Ddinesig, Ddinesig, Dinas Heol Ystumllwynarth, Ystumllwynarth, Abertawe, Abertawe, SA1 SA1 3SN 3SN Heol
Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall e.e. print bras, Braille, disg neu ddull arall, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai 01792 635045 neu ewch i’n gwefan www.abertawe.gov.uk/housing neu e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk
Mae budd-daliadau’n newid – erthygl arbennig
Golwg ar eich byd ffotograffau darllenwyr yn eisiau; gweler tu dalen 21
Window on your world – readers photos wanted see page 21 If you require this information in a different format eg large print, Braille, disc or other, please contact Housing Customer Services 01792 635045 or visit our website www.swansea.gov.uk/housing or email housing@swansea.gov.uk
Benefits are changing - special
– readers photos wanted see page 21
Window on your world The Magazine for Council Tenants and Leaseholders
Issue 1 2014
Open HOUSE
What’s Inside Open HOUSE welcome to
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
If you require this information in a different format eg large print, Braille, disc or other, please contact Housing Customer Services 01792 635045 or visit our website www.swansea.gov.uk/housing housing@swansea.gov.uk or email
791251 601720 516810 513900 534060 897700 582704 650486 402500
Benefits are changing - special
Swyddfa Dai Ranbarthol Eastside .................. Swyddfa Dai Ranbarthol Treforys a'r Clâs........ Swyddfa Dai Ranbarthol Sgeti ........................ Swyddfa Dai Ranbarthol Townhill a Mayhill ....... Swyddfa Dai Ranbarthol Blaenymaes ............ Swyddfa Dai Ranbarthol Gorseinon................ Swyddfa Dai Ranbarthol Penlan ..................... Swyddfa Dai Ranbarthol Canol y Dref ............ Swyddfa Dai Ranbarthol West Cross.............. Mae pob rhif ffôn yn Abertawe (01792)
Welcome to the latest edition of Open House, the magazine for council tenants and leaseholders.
Rhifau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol
BENEFITS ARE CHANGING
635045 635100 521500 648507 635600 635353
Pages............................................3 - 17
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Golygydd – Anne Webber .............................. Y Ganolfan Gyswllt Atgyweirio........................ Atgyweiriadau Brys y tu allan i Oriau Swyddfa ........ Uned Cefnogi Cymdogaethau 24 awr ............ Canolfan Gyswllt yr Amgylchedd.................... Ymholiadau Budd-dal Tai................................
FEATURES
2
Cysylltiadau Defnyddiol
Tenancy Support Unit ........................18 Are you missing out?.........................21 Window on your World .....................21 Grow Local Grants ............................22 Littering crackdown ..........................22
Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall e.e. print bras, Braille, disg neu ddull arall, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai 01792 635045 neu ewch i’n gwefan www.abertawe.gov.uk/housing E-bostiwch tai@abertawe.gov.uk
Anne Webber, Golygydd
Gardening Competition winners......24 Communities First .............................26 Be energy smart ...............................28 Looking Back.....................................30
MAE'R HOLL WYBODAETH YN TŶ AGORED YN GYWIR WRTH FYND I'R WASG.
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y cylchgrawn hwn, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio'r manylion cyswllt a ddarperir ar dudalen 29.
LOCAL LINKS
PTL .....................................................52 Ailgylchu............................................54 Safon Abertawe................................56
darllenwch yr erthygl newydd 'Cip ar eich Byd' sy'n eich gwahodd i anfon eich lluniau i Dyˆ Agored i rannu eich hoff leoedd a digwyddiadau yn eich cymuned.
Local Links .........................................32
Llais y Tenantiaid...............................36 Newyddion Tai Lloches.....................39 Dangosyddion perfformiad..............40 Ein galluogi ni i'ch helpu chi..............41 Y diweddaraf am atgyweiriadau.....42 Meddwl am adeiladu dreif?.............44 Cyfarpar nwy ....................................45 Man cymunedol Llanyrnewydd .......46 Sbwriel a thipio'n anghyfreithlon .....47 Gwelliannau i geginau ac ystafelloedd ymolchi .............................................48 Gwiriadau diogelwch tân yn y cartref am ddim ..................................................49 Carped rhad i'ch cartref ...................50 CYD Cymru.........................................51
GENERAL ADVICE & ISSUES
Tynnwyd y llun sydd ar ein clawr blaen yng nghanol coedwig
CYNGOR A MATERION CYFFREDINOL heddychlon Cwm Penllergaer. Os ydych yn ffotograffydd brwd,
As with the last edition, we’ve dedicated a large part of the magazine to some useful advice and information on the benefit changes to help you to make sure that your rent is paid and you don’t put your home at risk or run into trouble with your finances. It also includes information about Homeswapper, Swansea Credit Union, and working and claiming benefits. Even if you are not currently affected by the changes, it’s worth taking the time to read through this section just in case your circumstances change in the future. There are loads of other interesting articles including news on the new bathrooms and kitchens scheme, recycled carpet tiles and staying fit with Passport to Leisure and if you need something to brighten the dark winter days, then take a look at the photos of the winning gardening competition entries. You’ll also find all the regular features. Our front cover photograph is taken in the peaceful Penllegare Valley Woods. If you’re a keen photographer, take a look at the new feature ‘Window on your World’ which invites you to send your photos to Open House to share your favourite places and events in your community. If you have any comments about this magazine, please contact us by using the contact details on page 29. Anne Webber, Editor
Cysylltiadau lleol ..............................32
Useful Contacts
CYSYLLTIADAU LLEOL
Mae llawer o erthyglau diddorol eraill gan gynnwys newyddion am y cynllun ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd, teils carped wedi'u hailgylchu a sut i ddefnyddio'r Pasbort i Hamdden i gadw'n heini. Os ydych am ychwanegu ychydig o liw at nosweithiau tywyll y gaeaf, beth am gael golwg ar luniau o ymgeiswyr buddugol y gystadleuaeth arddio? Fe welwch yr holl erthyglau rheolaidd hefyd.
635045 635100 521500 648507 635600 635353
Enillwyr y Gystadleuaeth Arddio .....24 Cymunedau'n Gyntaf ......................26 Bod yn graff am ynni ........................28 Ôl-fyfyrio............................................30
Editor – Anne Webber ......................................... Repairs Contact Centre........................................ Out of Hours Emergency Repairs........................ 24 hour Neighbourhood Support Unit............... Environment Contact Centre ............................... Housing Benefit Queries......................................
Uned Cefnogi Tenantiaid ..................18 Ydych chi'n colli cyfle? .......................21 Golwg ar eich Byd .............................21 Grantiau Tyfu'n Lleol .........................22 Mynd i'r afael â sbwriel....................22
District Housing Office Numbers
ERTHYGLAU
Fel yn y rhifyn diwethaf, rydym wedi clustnodi rhan helaeth o'r cylchgrawn ar gyfer cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am y newidiadau i fudd-daliadau i'ch helpu i sicrhau bod eich rhent wedi'i dalu ac nad ydych yn peryglu eich cartref neu'n mynd i drafferthion ariannol. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am HomeSwapper, Undeb Credyd Abertawe, a gweithio a hawlio budd-daliadau. Hyd yn oed os nad yw'r diwygiad lles yn effeithio arnoch ar hyn o bryd, mae'n werth treulio peth amser yn darllen yr adran hon rhag ofn y bydd eich amgylchiadau'n newid yn y dyfodol.
791251 601720 516810 513900 534060 897700 582704 650486 402500
Tudalennau ..................................3 - 17
All telephone numbers are Swansea based (01792)
MAE BUDD-DALIADAU'N NEWID
Croeso i rifyn diweddaraf Tyˆ Agored, y cylchgrawn i denantiaid a lesddeiliaid y cyngor.
Tenants Voice ....................................36 Sheltered Housing News..................39 Performance Indicators ....................40 Letting us in to help you ....................41 Repairs round up ..............................42 Thinking of building a driveway? .....44 Gas appliances.................................45 Llan yr Newydd Community Space..46 Rubbish & Flytipping .........................47 Kitchen & Bathroom improvements 48 Free home fire safety checks ...........49 Low cost flooring for your home ......50 CYD Cymru.........................................51
Ty ˆ AGORED mewn
Eastside District Housing Office........................... Morriston & Clase District Housing Office.............. Sketty District Housing Office............................... Townhill & Mayhill District Housing Office.............. Blaenymaes District Housing Office.................... Gorseinon District Housing Office ....................... Penlan District Housing Office............................. Town Centre District Housing Office.................... West Cross District Housing Office......................
Y tu
PTL .....................................................52 Recycling ...........................................54 The Swansea Standard ....................56
Croeso i
ALL INFORMATION IN OPENHOUSE IS CORRECT AT TIME OF GOING TO PRESS. If you require this information in a different format eg large print, Braille, disc or other, please contact Housing Customer Services 01792 635045 or visit the housing services website www.swansea.gov.uk/housing or email housing@swansea.gov.uk
If you require this information in a different format eg large print, Braille, disc or other, please contact Housing Customer Services 01792 635045 or visit our website www.swansea.gov.uk/housing or email housing@swansea.gov.uk
Benefits are changing - special
www.swansea.gov.uk/housing housing@swansea.gov.uk
Window on your world – readers photos wanted see page 21
Issue 1 2014
Open House: Issue 1 2014
The Magazine for Council Tenants and Leaseholders
2
Open HOUSE
Byddwch wedi darllen a chlywed llawer yn ddiweddar am newidiadau i’r system fudd-daliadau. Efallai yr effeithir arnoch gan y newidiadau a/neu eich bod yn adnabod rhywun yr effeithir arno ganddynt… Yn rhifyn arbennig diwethaf Tyˆ Agored, cafwyd gwybodaeth am newidiadau’r Llywodraeth i’r system fudd-daliadau a sut gallent effeithio arnoch chi. Ers hynny, cyflwynwyd mwy o newidiadau, megis cyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch eu derbyn (y terfyn budddaliadau). Yn y tudalennau canlynol, ceir cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol am y newidiadau i’r budd-daliadau i’ch helpu i sicrhau y telir eich rhent ac nad ydych yn rhoi eich cartref mewn perygl neu’n mynd i drafferthion gyda’ch arian.
Cynnwys Ydych chi am symud cartref ......................4 Digwyddiad cyfnewid cartrefi.....................5 Gwefan Tai Abertawe .................................6 Newidiadau i Fudd-dal Tai - tanfeddiannu ..6 Taliadau Tai Dewisol (TTD)...........................7 Undeb Credyd Abertawe............................8 Cymorth gyda symud o fudd-daliadau i swydd .........................................................10 Gweithffyrdd ...............................................11 A yw eich amgylchiadau wedi newid?.....12 Debydau uniongyrchol newydd................12 Cysylltiadau defnyddiol .............................13
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Mae gwybodaeth am ‘Homeswapper’, sut i wneud cais am Daliad Tai Dewisol (DTD), manteision ymuno ag Undeb Credyd Abertawe, gweithio a hawlio budd-daliadau a nifer o gysylltiadau defnyddiol. Hyd yn oed os nad effeithir arnoch gan y newidiadau ar hyn o bryd, mae’n werth treulio’r amser yn darllen drwy’r adran hon rhag ofn y bydd eich amgylchiadau’n newid yn y dyfodol.
Os oes angen help neu gyngor arnoch chi, cysylltwch â’r canlynol: Tîm Rhent y Cyngor ar 01792 534094 / 601720. I Eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol (mae rhifau ffôn ar glawr mewnol y cylchgrawn). I Gofynnwch am gyngor annibynnol gan Ymgynghorwyr Ariannol Tai Cymunedol Cymru drwy ffonio 0300 3031073, neu anfonwch neges destun ‘newid’ i 80018 neu ewch i www.yourbenefitsarechanging.co.uk Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
3
Ydych chi’n bwriadu symud cartref? Mae’n bosib y gall Homeswapper neu wefan Tai Abertawe helpu. Mae Homeswapper yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid y cyngor a Chymdeithasau Tai sydd am symud. Gall fod yn ffordd llawer gyflymach i symud na chyflwyno cais am drosglwyddo. Os effeithir arnoch gan newidiadau i’r rheolau budddaliadau ac yr hoffech symud i gartref llai, gall Homeswapper eich helpu i ddod o hyd i rywun i gyfnewid â chi y mae angen cartref mwy arno. Gallwch gyfnewid eich fflat neu’ch tyˆ (cyfeirir ato’n aml fel ‘cyfnewid drwy gytundeb’) gyda thenant arall Cymdeithas Tai neu’r cyngor. (Os ydych chi wedi dod yn denant yn ddiweddar a bod tenantiaeth ragarweiniol gennych bydd rhaid i chi aros am 12 mis tan eich bod yn denant sicr cyn symud cartref).
Mae cofrestru’n syml ac yn hawdd, dilynwch y camau hyn…
Wythnos yn unig ar HomeSwapper ac rydym wedi cyfnewid â rhywun yn barod. Diolch HomeSwapper!
Cam 1
Mewngofnodwch i www.homeswapper.co.uk
Cam 2
Ychwanegwch eich gwybodaeth bersonol, manylion am eich cartref presennol, manylion am y cartref rydych ei eisiau. Lanlwythwch ychydig o luniau. Y cyfnewidiadau mwyaf llwyddiannus yw’r rhai â’r fwyaf wybodaeth am yr eiddo.
Cam 3
Bydd Homeswapper yn eich paru’n awtomatig â chartrefi posib i’w cyfnewid. Byddwch wedyn yn derbyn e-bost neu neges destun gyda manylion y cartrefi hynny sy’n cydweddu â chi – mae mor syml â hynny!
Cam 4
Unwaith i chi ddod o hyd i dyˆ sy’n cydweddu â chi, bydd angen caniatâd arnoch gan eich Swyddfa Dai Ranbarthol i barhau â’r cyfnewid. Os nad oes mynediad gennych i gyfrifiadur, gallwch ymweld â’ch Swyddfa Dai Ranbarthol leol lle bydd aelod o staff yn eich helpu i gofrestru. Mae mynediad i’r rhyngrwyd hefyd yn rhad ac am ddim yn llyfrgelloedd Abertawe. Mae 1178 o’n tenantiaid wedi cofrestru’n barod ac mae 48 o aelwydydd a danfeddiannwyd yn Abertawe yn barod wedi symud gyda Homeswapper. Gallech chi fod nesaf!
4
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.swansea.gov.uk/housing housing@swansea.gov.uk
Dyma rai sylwadau gan denantiaid a symudodd drwy Homeswapper "Wedi cyfnewid cartrefi â theulu ifanc rhyfeddol. Hoffwn ddymuno’r gorau iddynt yn y dyfodol yn eu cartref newydd ac rwy’n edrych ymlaen at fy nyfodol fy hun yn y bwthyn. A llawer o ddiolch i Homeswapper am wneud hyn yn bosibl." D. T. 4/5/13 "Symudais o Sgeti i West Cross fis diwethaf! Diolch Homeswapper. Rwyf gerllaw fy mam nawr sy’n dost iawn felly mae’r symudiad hwn yn freuddwyd a wireddwyd.” J. J. 18/4/13 "Rydym yn cyfnewid am dyˆ 4 ystafell wely oherwydd teulu sy’n cynyddu." K. D. 16/4/13 "Symudom o fflat 2 ystafell wely i dyˆ 2 ystafell wely." A. R. 5/4/13 "Rydym yn symud yn nes at deulu fy mhartner a ffrindiau fy mab felly byddwn yn llawer hapusach. Diolch, Homeswapper." J. B. 30/3/13
Digwyddiad cyfnewid cartref Cynhaliwyd digwyddiad cyfnewid cartref, a drefnwyd gan Gyngor Abertawe ar y cyd â Coastal, Cymdeithas Tai Gwalia a Chymdeithas Tai Teuluoedd yn Abertawe ddydd Iau 26 Medi 2013. Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yn Abertawe a roddodd gyfle i denantiaid â thai sy’n rhy fach neu sy’n rhy fawr gwrdd â’i gilydd i geisio nodi unrhyw gyfnewidiadau cartrefi posib nid yn unig gyda’r cyngor ond gyda’r Cymdeithasau Tai hefyd. Roedd tenantiaid a oedd am gyfnewid am gartref llai neu fwy, yn gallu hysbysebu eu heiddo yn y digwyddiad, yn ogystal â chael cyngor am gyllido. Roedd tenantiaid a fynychodd y digwyddiad hefyd yn gallu cofrestru eu cartref gyda’r gwasanaeth cyfnewid drwy gytundeb, ‘Homeswapper’ - y gwasanaeth ar-lein sy’n helpu tenantiaid i ddod o hyd i eiddo addas a chydweddu eu gofynion â thenantiaid eraill ar ei gronfa ddata. Roedd y digwyddiad yn hynod lwyddiannus ac mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer un tebyg yn y dyfodol.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
5
Gwefan Tai Abertawe Nod gwefan Tai Abertawe yw helpu’r rhai hynny sy’n chwilio am gartrefi yn Abertawe i wneud dewisiadau am yr opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae’n rhoi gwybodaeth am Dai’r Cyngor, Cymdeithasau Tai, rhentu preifat a thai fforddiadwy eraill.
Eich siop dan yr unto am lety ar rent yn Abertawe Tai Cyngor, Cymdeithasau Tai, Tai Preifat ar Rent a Thai Fforddiadwy ...i gyd ar un wefan hawdd ei defnyddio!
Digonedd o Gyngor Gwybodaeth Gysylltu Cyfrifiannell Amser Aros Tai wedi’u Hysbysebu
Mae hefyd yn cynnwys cyfrifiannell amser aros i helpu pobl sydd wedi gwneud cais neu sy’n meddwl gwneud cais am dyˆ drwy Gofrestr Tai’r Cyngor (neu at landlord cymdeithasol arall) er mwyn penderfynu a yw tai cymdeithasol yn iawn ar eu cyfer. Mae’n cynnwys manylion am: I Leoliad pob eiddo tai cymdeithasol I Nifer y tai sydd ar osod mewn ardaloedd amrywiol yn y ddinas I Nifer yr ymgeiswyr sy’n aros i gael tyˆ I P’un ai bod cynnig yn debygol Mae gwefan Tai Abertawe hefyd yn hysbysebu eiddo preifat, y cyngor a Chymdeithasau Tai sydd ar gael i’w rhentu’n syth. Gallwch ymweld â’r wefan yn:
www.swanseahousing.co.uk
Newidiadau i Fudd-dal Tai tanfeddiannu Newidiwyd rheolau Budd-dal Tai ym mis Ebrill 2013 ac os tybir bod gennych ystafelloedd gwely ‘sbâr’, byddai eich Budd-dal Tai wedi cael ei ostwng. Fodd bynnag, mae nifer o eithriadau i’r newidiadau. Os ydych yn un o’r grwpiau isod mae’n bosibl bod gennych hawl i ystafell wely ‘sbâr’ a pheidio â chael eich Budd-dal Tai wedi cael ei ostwng.
Ystafelloedd i ofalwyr I
6
Nid effeithir ar ystafelloedd gwely ar gyfer gofalwyr sy’n byw gyda chi. Os oes angen gofalwr dros nos arnoch yn rheolaidd, caniateir ystafell wely. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol i gefnogi hyn.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Plant anabl I
Mae gan gynghorau’r hawl i ddewis a yw plant anabl yn gymwys i gael eu hystafelloedd gwely eu hunain.
Pensiynwyr Bydd y rheolau newydd yn gymwys ar gyfer hawlwyr oedran gwaith yn unig. I Bydd pobl sy’n hyˆ n na’r oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth neu â phartner hyˆn na’r oedran hwnnw yn cael eu heithrio. I Bydd cyplau oedran cymysg presennol yn parhau i gael eu heithrio. I
Llety â chymorth I
Bydd pobl sy’n derbyn gofal, cefnogaeth neu oruchwyliaeth gan eu landlord a rhai mewn llety â chymorth yn cael eu heithrio.
Rhieni myfyrwyr I
Os mai prif gartref myfyriwr yw cartref ei rieni, yna ni ystyrir ei ystafell wely’n un sbâr a bydd y rhieni wedi’u heithrio.
Teuluoedd mewn profedigaeth I
Lle bydd tanfeddiannu oherwydd marwolaeth, caniateir gras o flwyddyn fel bod amser gan y teulu mewn profedigaeth i ymgyfarwyddo â’u colled a’u bod yn gallu gwneud y penderfyniadau iawn am eu harian a maint eu cartref.
Gofalwyr maeth I
Bydd gofalwyr maeth, p’un ai a oes plentyn ganddynt yn eu gofal neu eu bod rhwng lleoliadau, wedi’u heithrio a chaniateir un ystafell ychwanegol iddynt, ar yr amod eu bod wedi maethu plentyn yn ystod y 12 mis diwethaf neu wedi dod yn ofalwr maeth cofrestredig o fewn y 12 mis diwethaf.
Personél y Lluoedd Arfog I
Bydd rhieni â phlant sy’n oedolion yn y Lluoedd Arfog sy’n byw gartref rhwng dyletswyddau gweithredol wedi’u heithrio.
Os ydych yn meddwl eich bod yn perthyn i unrhyw un o’r grwpiau hyn, dylai’r unigolyn sy’n hawlio Budd-dal Tai gysylltu â’r Adran Fudd-daliadau (gweler tudalen 14 i gael manylion cyswllt) i gael mwy o gyngor a gwybodaeth.
Ydych chi’n derbyn peth Budd-dal Tai? Oes angen help ychwanegol arnoch o hyd i dalu eich rhent? Gall y Cynllun Taliadau Tai Dewisol eich helpu o bosib. Gallai newidiadau diweddar i reolau Budd-dal Tai neu newidiadau yn eich amgylchiadau personol olygu eich bod yn wynebu diffyg rhwng eich Budd-dal Tai a’ch rhent, nad ydych yn gallu talu o’ch incwm. Mae’r Cynllun Taliadau Tai Dewisol (TTD) ar gael i helpu i dalu’r diffyg hwn ar gyfer pobl sy’n derbyn peth Budd-dal Tai’n barod. Nid yw TTD yn daliad budd-dal ac ni ellir ei warantu, ond mae’n bosibl y gallech dderbyn peth cymorth ychwanegol tuag at eich rhent. Mae fel arfer yn cael ei dalu am gyfnod penodol o amser ac nid yw’n ateb tymor hir i dalu unrhyw ddiffyg mewn Budd-dal Tai. I weld a allech dderbyn peth help ychwanegol, cwblhewch ffurflen gais sydd ar gael gan eich Swyddog Rhent (gweler tud 13 ar gyfer manylion cyswllt) neu’r Adran Budd-daliadau Tai yn y Ganolfan Ddinesig. Gallwch hefyd ffonio’r llinell gymorth ar 01792 635885 neu ymweld â’r wefan www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=1685 www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
7
Gall tenantiaid Cyngor Abertawe nawr ymuno ag Undeb Credyd Abertawe (Benthyciadau a Chynilion Abertawe) yn rhad ac am ddim Mae Undeb Credyd Abertawe, a adwaenir hefyd fel LASA - Benthyciadau a Chynilion Abertawe, yn gwmni cydweithredol nid er elw ar gyfer pobl sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe. Gall unrhyw un, beth bynnag yw ei statws cyflogaeth neu ariannol wneud cais i fod yn aelod o’r undeb credyd. Rheoleiddir Undeb Credyd LASA gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Fel aelod o’r Undeb Credyd, gallwch: ■
Gynilo arian gyda nhw
■
Derbyn benthyciad rhad fforddiadwy o bosib, hyd yn oed os ydych ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau
■
Prynu nwyddau trydanol rhatach drwy’r Gydweithfa Drydanol
■
Talu eich rhent a biliau eraill drwy eich cyfrif
I gael cyfrif bydd rhaid i chi gwblhau ffurflen gais a chyflwyno dogfennau adnabod. Mae ffurflenni ar gael gan eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol, gan Dîm Rhent y Cyngor drwy ffonio 01792 534094 neu e-bostio rhenti@abertawe.gov.uk neu swyddfa Undeb Credyd LASA.
8
Oriau agor y swyddfa:
dydd Llun i ddydd Gwener 10am i 2pm
Cyfeiriad:
139 Heol Walter, Abertawe SA1 5RQ
Ffôn:
01792 643632
E-bost:
query@lasacreditunion.org.uk
Gwefan:
www.lasacreditunion.org.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Oes angen i chi fenthyg arian? Mae llawer o bobl yn teimlo bod eu hincwm yn cael ei ymestyn ychydig bach ymhellach ac o bryd i’w gilydd mae bil annisgwyl yn cael ei dderbyn y bydd angen benthyg arian arnoch i’w dalu o bosib. Mae sawl man lle gallwch fenthyg arian ond bydd rhai’n peri i chi dalu mwy nag y byddech yn ei ddisgwyl – darllenwch hanes Mrs Rush a Mrs Wise i gael cyngor.
Mrs Rush
Mrs Wise
Annwyl Ddyddiadur Mae angen i mi fenthyg £300 i dalu am beiriant golchi dillad newydd. Rwyf wedi gweld hysbyseb am fenthyciadau hawdd yn y papur newydd.
Annwyl Ddyddiadur Mae angen i mi fenthyg £300 i dalu am garped newydd. Rwyf wedi gweld hysbyseb am Undeb Credyd LASA.
Wythnos 1 Rwyf wedi benthyg £300 gan fenthyciwr carreg drws*. Roeddent yn gyfeillgar iawn a gallaf ei ad-dalu am £10.50 yr wythnos dros 52 wythnos.
Rwyf wedi benthyg £300 gan Undeb Credyd LASA. Roeddent yn gyfeillgar iawn ac rwyf am ei ad-dalu am £10.50 yr wythnos.
Wythnos 10 Nid wyf yn sylwi ar £10.50 yr wythnos mewn gwirionedd felly rwy’n meddwl y byddaf yn gallu ei ad-dalu heb broblem.
Nid wyf yn sylwi ar £10.50 yr wythnos mewn gwirionedd felly rwy’n meddwl y byddaf yn gallu ei ad-dalu heb broblem.
Wythnos 26 Rwyf ond hanner ffordd i dalu am y benthyciad.
Dim ond 5 wythnos sydd gennyf yn weddill nes i mi dalu am yr holl fenthyciad!
Wythnos 32 20 wythnos arall i fynd! Rwy’n gallu ymdopi â’r ad-daliadau o hyd ond mae’n llusgo ymlaen am rhy hir. Byddwn wrth fy modd pe byddai wedi ei dalu!
Talwyd am y benthyciad yr wythnos ddiwethaf felly rwyf wedi penderfynu talu £10.50 yr wythnos o hyd yn yr undeb credyd i gronni fy nghynilion.
Wythnos 52 Heb ddyled o’r diwedd. Codon nhw 272.2% APR* arnaf – Roedd y benthyciad o £300 wedi costio £246 i mi mewn llog (cyfanswm o £546). Dim rhyfedd ei bod wedi cymryd mor hir i’w ad-dalu. Roedd y £10.50 yn bosibl fwy neu lai ond nawr mae angen benthyg mwy o arian ar gyfer carped. Gallaf fenthyg £300 arall, am yr un gost ag o'r blaen, ond bydd yn golygu blwyddyn arall o ddyled, yn talu £10.50 yr wythnos. Llog o £246! *cafwyd yr wybodaeth o wefan benthycwyr carreg drws 23.04.13
Heb ddyled, ac mae dros £220 gennyf yn fy nghyfrif nawr! Codon nhw 26.8% APR arnaf – Roedd y benthyciad o £300 wedi costio £22.46 yn unig i mi mewn llog (cyfanswm o £322.46). Dim rhyfedd fy mod wedi ei ad-dalu mor gyflym. Gallaf ddefnyddio fy arbedion neu gallaf fenthyg mwy gan LASA. Gyda’m cynilion, gallaf nawr fenthyg £300 ar 12.7% APR. Byddaf yn talu £10.36 yr wythnos a heb ddyled mewn ychydig dros 6 mis. Llog o £10.81!
I gael gwybodaeth, cysylltwch â Benthyciadau a Chynilion Abertawe (LASA): 01792 643632
www.lasacreditunion.org.uk Cofrestrwyd gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Rhif y Cwmni: 213520 www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
9
Help gyda symud o dderbyn budd-daliadau i weithio Mae cynlluniau amrywiol a allai eich cefnogi i chwilio am waith neu eich helpu i gael swydd. Bydd eich ymgynghorydd Canolfan Gwaith yn gallu eich cynghori am ba help sydd ar gael. Mae’r cyfrifiadau isod ar gyfer egluro’n unig a byddant yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol, ond hyd yn oed os nad ydych yn gallu gweithio cynifer o oriau ag yn yr enghreifftiau, gallai weithio nifer bach eich helpu’n ariannol. Er enghraifft, gall unig riant ar Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceiswyr Gwaith gadw hyd at £25 yr wythnos mewn cyflog cyn yr effeithir ar ei fudd-daliadau. Pe byddech yn gallu gweithio 4 awr yr wythnos ar isafswm cyflog byddech yn ennill £24.76 yr wythnos ac nid effeithir ar eich Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceiswyr Gwaith. Os byddwch yn cychwyn gwaith bydd yn rhaid i chi hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod iddynt sawl awr rydych yn gweithio a faint y byddwch yn ei ennill. Gallwch ei ffonio ar 0845 6003 016. Os hoffech gyfrifiad neu gyngor ynghylch swm y Budd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor byddai gennych hawl iddo pe byddech yn cychwyn gwaith, gallwch ffonio Tîm Cyngor Budd-daliadau’r cyngor ar 01792 635885.
Dyma 2 enghraifft i ddangos i chi sut mae gweithio wedi helpu’r bobl hyn Enghraifft Rhiant Sengl ar Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceiswyr Gwaith Mae Michelle wedi derbyn Cymhorthdal Incwm am y 5 mlynedd diwethaf. Mae ganddi ddwy ferch 4 a 10 oed. Mae’r newidiadau i’r rheolau Budd-dal Tai wedi effeithio ar Michelle ers mis Ebrill ac mae rhaid iddi nawr dalu £12.39 yr wythnos tuag at ei rhent. Mae Michelle yn meddwl am gychwyn gwaith am 16 awr yr wythnos ond mae’n poeni am allu fforddio ei rhent a Threth y Cyngor pan fydd yn gweithio. Ar hyn o bryd mae Michelle yn derbyn £71.70 yr wythnos mewn Cymhorthdal Incwm, £114.00 yr wythnos mewn Credyd Treth Plant, £76.11 tuag at ei rhent a £13.57 tuag at ei Threth y Cyngor. Cyfanswm o £275.38 yr wythnos mewn budd-daliadau. Pe bai Michelle yn cychwyn gwaith am 16 awr yr wythnos ar isafswm cyflog, byddai ei Chymhorthdal Incwm yn dod i ben ond byddai’n derbyn cyflog o £99.04 yr wythnos yn ogystal â Chredyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith o £189 yr wythnos, £71.61 tuag at ei rhent ac £8.33 tuag at ei Threth y Cyngor. Cyfanswm o £367.98 yr wythnos mewn incwm. Byddai hyn yn rhoi £92.60 yr wythnos ychwanegol i Michelle y gallai ei ddefnyddio i dalu’r £12.39 tuag at ei rhent a bod ag arian yn weddill i dalu am bethau eraill o hyd.
10 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Enghraifft Lwfans Cefnogi Cyflogaeth Mae Sam yn 38 oed ac wedi bod yn derbyn Lwfans Cefnogi Cyflogaeth gyda chydran waith am y 18 mis diwethaf. Mae e’n derbyn £200.30 y pythefnos. Ers mis Ebrill, mae Sam wedi cael anhawster i dalu ei holl filiau yn ogystal â cheisio talu £10.96 yr wythnos tuag at ei rent oherwydd bod y newidiadau i’r rheolau Budd-dal Tai wedi effeithio arno. Bedair wythnos yn ôl, cychwynnodd Sam weithio 10 awr yr wythnos ac mae’n ennill £70 yr wythnos. Dan y rheolau gwaith a ganiateir ar gyfer Lwfans Cefnogi Cyflogaeth, mae Sam yn cael cadw’r cyflog o £70 yr wythnos i gyd ac ni chaiff ei fudd-daliadau eu gostwng. Mae Sam nawr yn defnyddio’r arian ychwanegol hwn i dalu’r diffyg yn ei rent a thuag at ei filiau eraill. I gael manylion am reolau Gwaith a Ganiateir cysylltwch â’ch ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith neu’r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0845 6003 016 neu ewch i www.gov.uk/employment-support-allowance/eligibility
Gweithffyrdd yn helpu Jamie i gael swydd yn y Co-operative Mae prosiect Gweithffyrdd y De-orllewin a gefnogir gan yr UE yn cefnogi pobl i ddod o hyd i swyddi lleol. Ar ôl deunaw mis o fod yn ddi-waith, daeth Jamie, sy’n 27 oed, o hyd i waith yn archfarchnad y Cooperative diolch i help Gweithffyrdd. Ar ôl cofrestru gyda Gweithffyrdd, cwrddodd Jamie â mentor o’r prosiect a dechreuodd ei gyfnod chwilio am swydd ddatblygu’n gynt. Helpodd Gweithfffyrdd Jamie i chwilio am swyddi gwag, ei anfon ar gwrs Technegau Cyfweliad a’i gyflwyno i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe y bu’n gwirfoddoli â nhw ar brosiect ieuenctid. Cyn hir, cafodd Jamie swydd dros dro fel cynorthwy-ydd manwerthu yn y Co-operative. Gwnaeth Jamie ei orau glas yn ei rôl newydd ac ar ôl ychydig o wythnosau, gwnaeth ddigon o argraff ar ei gyflogwr newydd fel y cynigiodd swydd barhaol iddo. Ar ôl deunaw mis yn ddi-waith, roedd Jamie wrth ei fodd yn dod o hyd i gyflogaeth o’r diwedd a dywedodd, “Mae cael swydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Rwy’n llawer hapusach gan nad wyf yn eistedd gartref bob dydd. Mae hefyd wedi helpu’n ariannol gyda’m tyˆ a’m plant.” Cefnogir Gweithffyrdd y De-orllewin gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag dod o hyd i gyflogaeth wrth roi cefnogaeth i chwilio am swyddi, CV, ffurflenni cais, sgiliau cyfweliad, technegau ffôn, mynediad i gyfleoedd gwirfoddoli a chyfleoedd i ennill cymwysterau. Parir cyfranogwyr â busnesau lleol, gan eu helpu i ennill y profiad hanfodol y mae ei angen i ddod o hyd i gyflogaeth tymor hir. I gael mwy o wybodaeth am Gweithffyrdd, ffoniwch 01792 637112 neu ewch i www.workways.co.uk www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
11
A yw eich amgylchiadau wedi newid? Cofiwch ddweud wrth Adran Fudd-daliadau’r Cyngor Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor mae’n rhaid i chi ddweud wrth Adran Fudd-daliadau’r Cyngor yn syth os oes newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar swm y budd-dal rydych yn ei dderbyn. Gallai newidiadau mewn amgylchiadau fod yn newid mewn incwm, newid yn nifer y bobl sy’n byw yn eich cartref, cychwyn gwaith, ayyb. Mae’n bosibl y bydd angen i’r Adran Fudd-daliadau ofyn am dystiolaeth o’r newid ond yn y lle cyntaf mae nifer o ffyrdd y gallwch roi’r wybodaeth iddynt. 01792 635353 budd-daliadau@abertawe.gov.uk
Ar-lein gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Newid mewn Amgylchiadau’: http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=35165 Os yw’r newid yn eich amgylchiadau’n golygu y byddai hawl gennych i fwy o fudd-dal, yna mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt o fewn 1 mis o’r newid. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd unrhyw fudd-dal ychwanegol y mae gennych hawl iddo’n cael ei dalu o’r adeg y dywedoch wrthynt yn unig. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: http://www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=1657
Ydych chi wedi newid eich manylion cyswllt? Dywedwch wrthynt hefyd os ydych wedi newid unrhyw un o’ch manylion cyswllt fel rhif ffôn/ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost oherwydd y bydd hyn yn eu helpu i gadw mewn cyswllt yn haws. Dywedwch hefyd wrth eich Swyddfa Dai Ranbarthol – mae ei manylion cyswllt ar glawr mewnol Tyˆ Agored.
Debydau Uniongyrchol newydd ar gyfer talu eich rhent I roi mwy o hyblygrwydd i denantiaid wrth dalu eich rhent gyda Debyd Uniongyrchol, mae’r cyngor bellach yn cynnig dau ddyddiad talu bob mis a Debydau Uniongyrchol wythnosol hefyd. Debyd Uniongyrchol yw’r dull hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu eich rhent. Wrth ddewis talu gyda Debyd Uniongyrchol, ni fydd angen i chi boeni am golli taliad, ysgrifennu siec neu giwio yn swyddfeydd arian y cyngor na Swyddfeydd Post. Gallwch hefyd dalu unrhyw ôl-ddyledion drwy Ddebyd Uniongyrchol. I’w gwneud hyd yn oed yn haws i dalu gyda Debyd Uniongyrchol, mae’r cyngor nawr yn cynnig dau ddyddiad talu bob mis – y 15fed (neu’r diwrnod gwaith agosaf ar ôl y dyddiad hwn) a’r diwrnod gwaith olaf ymhob mis – yn ogystal â Debydau Uniongyrchol wythnosol. I dalu eich rhent gyda Debyd Uniongyrchol, cwblhewch y ffurflen Debyd Uniongyrchol – dewiswch y dyddiad sydd fwyaf cyfleus i chi dalu, nodwch eich manylion banc a chofiwch gynnwys eich cyfeirnod rhent. Telir eich rhent o’ch cyfrif banc yn awtomatig ar y dyddiad dyledus (neu’r diwrnod gwaith nesaf os yw’r dyddiad yn digwydd bod dros y Sul neu wˆ yl y banc). I gael mwy o wybodaeth am eich rhent cysylltwch â’r Tîm Rhent drwy ffonio 01792 534094 neu e-bostio rhenti@abertawe.gov.uk.
12 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Rhestr Cysylltiadau Defnyddiol Dysgwch sut y gall hyn effeithio arnoch, a pha gymorth sydd ar gael. 0300 3031073 www.yourbenefitsarechanging.co.uk
Cyngor ariannol 1. Tîm Rhent y Cyngor 01792 534094 neu 01792 601720 rhenti@abertawe.gov.uk Gall y Tîm Rhent eich helpu gyda phob agwedd ar eich cyfrif rhent. Os byddwch yn cael trafferthion gyda’ch rhent, cysylltwch â’r Tîm Rhent cyn gynted â phosib, maent yno i helpu a byddant bob amser yn ceisio helpu lle y bo’n bosibl. Maent yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau eraill sy’n gallu rhoi’r cyngor gorau posibl ar faterion fel rheoli dyled, budd-daliadau lles, cyngor ynghylch arian a chefnogaeth i denantiaid. Os bydd ôl-ddyledion rhent gennych, bydd y Tîm Rhent bob amser yn ceisio gwneud cytundeb fforddiadwy â chi i’ch helpu i dalu eich dyled a byddant yn gwneud eu gorau glas i helpu tenantiaid i gadw eu tenantiaeth. Paula Montez, Swyddog Cynhwysiad Ariannol, Tîm Rhent 01792 534098 neu 07920 560244 I gael gwybodaeth am: I Hawl i Fudd-daliadau I Rheoli eich Cyllideb I Cyngor ar Ddyled 2. Eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol Gweler clawr mewnol y cylchgrawn i gael rhifau ffôn. 3. Mae’r Gwasanaeth Cyngor Arian yn wasanaeth annibynnol, a sefydlwyd gan y Llywodraeth i helpu pobl i wneud y mwyaf o’u harian. Maent yn rhoi cyngor ariannol diduedd, rhad ac am ddim i bawb ledled y DU – ar-lein, dros y ffôn ac wyneb i wyneb. 0300 500 5000 I wneud apwyntiad gydag ymgynghorydd 0300 330 0520 www.moneyadviceservice.org.uk www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 13
Cyngor ar Fudd-daliadau 4. Tîm Hawlio Budd-daliadau Tai Mae Tîm Hawlio Budd-daliadau Tai’r Cyngor yn rhoi cyngor ar gymhwysedd Budd-dal Tai, Treth y Cyngor/Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor yn ogystal â chyngor cyffredinol ynghylch budd-daliadau lles eraill. 01792 635885 neu ewch i’r Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig, Abertawe newclaims4benefits@swansea.gov.uk 5. Turn2us Mae Turn2us yn helpu pobl ag anghenion ariannol i gael mynediad i fudd-daliadau lles, grantiau elusennol a chymorth ariannol arall - ar-lein, drwy ffonio ac wyneb yn wyneb drwy ein sefydliadau partner. 8am - 8pm dydd Llun i ddydd Gwener 0808 802 2000 www.turn2us.org.uk 6. Yr Adran Gwaith a Phensiynau Gwiriwch eich Hawl i Fudd-daliadau drwy wefan yr AGPh: www.gov.uk/benefitsadviser 7. Age UK Os ydych dros 50 oed gall Age UK ddarparu gwiriad budd-daliadau 0800 169 6565 www.ageuk.entitledto.co.uk
Cyngor ar ddyled 8. Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru 0800 107 1340 www.stepchange.org/LlinellGymorthDyledionTaiCymru.aspx 9. Stepchange (y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr – GCCD gynt) 0800 138 1111 www.stepchange.org
Biliau’r Cartref 10. Dw ˆ r Cymru Cysylltwch â Dwˆr Cymru os ydych yn cael anhawster talu eich bil dw ˆ r, mae nifer o opsiynau a all wneud talu eich bil yn haws. Llinell gymorth rhad ac am ddim Dwˆr Cymru: 0800 0520145.
14 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
11. Cymorth Dw ˆ r Cymru Mae’r cynllun hwn yn helpu cartrefi incwm isel gyda theuluoedd mawr neu gyflwr meddygol sy’n golygu y defnyddir mwy o ddwˆr. Bydd terfyn ar eich bil. www.dwrcymru.com/myaccount/Help-Paying-My-Bill/Welsh-Water-Assist.aspx www.dwrcymru.com
Effeithlonrwydd Ynni 12. Sian Walkey, Swyddog Effeithlonrwydd Ynni yng Nghyngor Abertawe 01792 635318 13. Ymddiriedolaeth Arbed Ynni 0800 512 012 www.energysavingtrust.org.uk/wales 14. Y Siop Gornel - Safle Ailgylchu Cymunedol Llansamlet www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=52134
Cyngor Cyffredinol 15. Mae Shelter Cymru’n gweithio i atal digartrefedd, gwella amodau tai, a sicrhau cartref diogel, addas a fforddiadwy i bawb. 0845 075 5005 www.sheltercymru.org.uk 16. Mae Ffederasiwn Tenantiaid Cymru’n sefydliad sy’n seiliedig ar hawliau ar gyfer tenantiaid yng Nghymru. 01685 723922 www.welshtenants.org.uk 17. Cyngor Ar Bopeth Swyddfa Abertawe, Llys Glas, Stryd Pleasant, Abertawe SA1 5DS 08444 77 20 20 volunteering@swanseabaycab.org.uk www.swanseaneathporttalbotcab.org.uk Gwefan genedlaethol: www.adviceguide.org.uk/wales.htm 18. Mae’r Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn rhoi help rhad ac am ddim neu gyngor cyfreithiol dros y ffôn ynghylch problemau gyda dyled, tai, cyflogaeth, addysg a budd-daliadau lles. Hefyd mae teclyn rheoli dyled ar gael ar–lein i gael cyngor rhad ac am ddim, diduedd ynghylch dyled a thaflenni gwybodaeth cyfreithiol a thaflenni ffeithiol rhad ac am ddim. 0845 345 4345 www.communitylegaladvice.org.uk www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 15
Dulliau Talu Rhent Mae ffurflenni ar gael ar–lein neu gallwch ofyn i’r Tîm Rhenti amdanynt ar 601720 / 534094 neu e-bostiwch eich cais i Rentsteam@swansea.gov.uk Bydd angen cerdyn talu arnoch, gofynnwch i’r Tîm Rhenti neu ffoniwch nhw ar 601720 / 534094. Ni fydd taliadau a wneir ar ddydd Iau neu ddydd Gwener gan ddefnyddio eich cerdyn yn dangos tan yr wythnos ganlynol. Payzone - Gallwch ddefnyddio eich cerdyn talu i dalu gydag unrhyw fanwerthwr sy’n arddangos logo’r payzone. I gael rhestr o fanwerthwyr ewch i www.payzone.co.uk. Neu gofynnwch i’ch Tîm Rhenti ble mae’r manwerthwr payzone agosaf. Wrth gysylltu â’ch Swyddog Rhent Dros y Rhyngrwyd
Dros y ffôn
Yn eich Swyddfa Dai leol
Gallwch dalu gan ddefnyddio Cerdyn Debyd, Switch, Solo, Maestro neu Gredyd wrth ffonio 601720 / 534094 neu eich SDL yn ystod Oriau Swyddfa. Ewch i wefan y cyngor, sef www.abertawe.gov.uk Cliciwch ar “Gwnewch o Ar-lein” a “Talwch”. Os cewch unrhyw anawsterau, ffoniwch 601720 / 534094 for am gymorth. Os ydych yn gwybod eich cyfeirnod rhent, gallwch ffonio ein gwasanaeth awtomataidd Saesneg 0845 3052199 Cymraeg 0845 8350123 unrhyw adeg. (Os nad ydych yn gwybod eich cyfeirnod rhent, ffoniwch 601720 / 534094). Yn y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol canlynol Townhill, Sgeti, West Cross, Blaenymaes, Penlan, Canol y Dref, Treforys, Eastside. Gellir gwneud taliadau hefyd yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth. Gallwch dalu eich rhent yn uniongyrchol o’ch budd-daliadau drwy Undeb Credyd Abertawe – bydd Cyngor Abertawe’n talu eich ffi aelodaeth UC. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01792 643632 neu e-bostiwch query@lasacreditunion.org.uk
16 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Gwasanaethau Cymorth Gwneud Hawliad Budd-dal Tai newydd
I wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai cysylltwch â’r Tîm Hawlio Ffôn 635885 Email newclaims4benefits@swansea.gov.uk
Budd-dal Tai
I drafod eich hawliad gyda Swyddog Budd-dal Tai ffoniwch 635885 neu e-bostiwch benefits@swansea.gov.uk
Swyddog Cynhwysiad Ariannol
Os ydych yn cael anhawster gyda’ch rhent ffoniwch Paula Montez, Ffôn 01792 534098 neu 07920 560244 E-bost rhenti@abertawe.gov.uk
UCT Uned Cefnogi Tenantiaid
Dinas a Sir Abertawe sy’n gyfrifol am yr Uned Cefnogi Tenantiaid; gallant gynnig gweithiwr cefnogi i helpu gyda phroblemau ariannol neu unrhyw faterion cefnogi eraill gyda’ch tenantiaeth. Ffoniwch y Tîm Rhenti neu’r Uned Cefnogi Tenantiaeth ar 774360 os ydych yn teimlo bod angen cefnogaeth arnoch. Cyngor ar Bopeth Abertawe Llys Glas, Stryd Pleasant, Abertawe SA1 1PE. Rhif ffôn 0844 477 2020 www.adviceguide.org.uk/wales.htm Os ydych yn cael eich bygwth gan ddigartrefedd byddant yn cynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim. Ffôn 01792 469400 Llinell Gymorth Cyngor Tai 0845 800 4444 www.sheltercymru.org.uk
Opsiynau Tai
Cyngor ar arian a chyngor ar ddyled – Hefyd rhoddir cyngor rhad ac am ddim os yw eich tenantiaeth mewn perygl. Galwch heibio yn 17 Y Stryd Fawr, Abertawe SA1 1LF. Rhif ffôn 01792 533100 E-bost housingoptions@swansea.gov.uk
Cyngor ynghylch Dyled
Llinell Gymorth Dyled Tai Genedlaethol Cymru Tel 0800 107 1340 www.housing-debt-helpline-wales.org/
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 17
Ffocws ar...
Yr Uned Cefnogi Tenantiaid
Mae galluogi rhywun i gadw'i gartref yn golygu llawer mwy na darparu to uwch ei ben. Fy enw i yw Clare James a fi yw rheolwr Uned Cefnogi Tenantiaid yr adran Dai. Rwy'n rheoli tîm bach sy'n cynnwys 2 Arweinydd Tîm, 14 o Weithwyr Cefnogi Tenantiaid amser llawn a rhan-amser, 4 Cynorthwy-ydd Cefnogi Tenantiaid amser llawn a rhan-amser a 3 aelod o staff gweinyddol. Ein prif amcan yw helpu tenantiaid cyfredol a newydd i reoli eu tenantiaethau a chadw eu cartrefi. Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau eraill i hybu annibyniaeth a lles.
Mae'r rhain yn cynnwys: l Cyllidebu, dyled a rheoli eich arian l Cymorth i hawlio'r budd-daliadau lles cywir l Sefydlu cartref newydd l Cydgysylltu â’ch landlord l Sgiliau bywyd a bod yn annibynnol yn eich cartref l Aros yn ddiogel yn eich cartref l Dod o hyd i feddyg, deintydd a ffynonellau gwasanaethau angenrheidiol eraill
dyled, dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, cam-drin yn y cartref, problemau iechyd meddwl neu hyd yn oed cwblhau ffurflenni'n gallu effeithio ar y ffordd y mae unigolyn yn ymdopi â'i denantiaeth. Felly mae'r tîm hwn yn gweithio gydag asiantaethau partner sy'n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth i ddarparu gwasanaethau cefnogi arbenigol iddynt.
Sut gallwn ni helpu? Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn cael trafferth rheoli ei gartref neu bod angen ychydig o gymorth arno mewn cyfnod anodd, yna codwch y ffôn i ddweud wrth y Tîm Cefnogi Tenantiaid am hynny. Ffôn: 01792 774360 neu 774320 neu e-bost tsu@swansea.gov.uk. Neu gallwch siarad â rhywun yn eich swyddfa dai leol.
l Cefnogaeth i gael mynediad i gyflogaeth, dysgu ac addysg
Gallwn gynnig cefnogaeth yn eich cartref eich hun a theilwra hynny i'ch anghenion arbennig chi. Mae'r gwasanaeth am ddim ac ar gael i l Cefnogaeth i fyw bywyd iach ac actif unrhyw un sy'n byw yn Ninas a Sir Abertawe l Cefnogaeth i reoli perthynas ag eraill; sydd dros 16 oed. Rydym yn cefnogi tenantiaid y cyngor, cymdeithasau tai, perchnogion tai l Cefnogaeth wrth ymwneud ag asiantaethau eraill megis y Gwasanaethau a'r bobl sy'n rhentu gan landlord preifat. Cymdeithasol, Iechyd, yr Heddlu etc. Wyddech chi?
l Sefydlu cysylltiadau a gweithgareddau cymdeithasol fel na fyddwch yn teimlo'n ynysig yn y gymuned leol. Mae materion megis problemau iechyd,
18 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid (UCT) yn cefnogi mwy na 700 o bobl ar unrhyw adeg ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r asiantaethau canlynol: www.swansea.gov.uk/housing housing@swansea.gov.uk
l Gweithredu dros Blant l BAWSO (Black Association of Women Step Out) l Y Groes Goch Brydeinig l Caerlas l Y Cyreniaid l Gofal l Gofal a Chefnogaeth Gwalia l Hafan Cymru l Sands Cymru l SYSHP (Prosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe) Llwyddodd yr Uned Cefnogi Tenantiaid i gyflawni'r canlyniadau ariannol canlynol gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf Cyfanswm y grantiau unigol a dderbyniwyd o ganlyniad i gefnogaeth
£153,972.00
Cyfanswm y dyledion rhent a leihawyd o ganlyniad i gefnogaeth
£53,960.00
Cyfanswm y budd-daliadau a ôl-ddyddiwyd o ganlyniad i gefnogaeth Cyfanswm y dyledion a'r dirwyon a ddiddymwyd o ganlyniad i gefnogaeth
www.swansea.gov.uk/housing housing@swansea.gov.uk
Derbyniodd yr uned 1765 o achosion cyfeirio am gefnogaeth rhwng 1/4/12 a 31/3/13
Dyfyniadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth “Roedd fy ngweithiwr cefnogi'n gefnogol iawn a dwi'n meddwl ei bod wedi mynd y filltir ychwanegol honno i'm helpu i ac rwy'n ddiolchgar iawn iddi. Fedra i ddim diolch digon iddi!” “Gyda chefnogaeth, roeddwn i wedi cadw fy annibyniaeth ac wedi dod yn fwy hyderus i symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol" “Mae'r Uned wedi rhoi cymaint o help i mi. Rwy'n teimlo fy mod i'n gallu gwneud mwy nawr. Fyddwn i ddim yma heddi oni bai am eu cefnogaeth" "Mae'r gefnogaeth wedi agor cynifer o ddrysau a oedd gynt ar gau i mi. Rwy'n ddeubegwn ac yn dioddef o ofn yr agored. Ond oherwydd y gefnogaeth, yr help a'r ddealltwriaeth dwi wedi ei chael, dwi wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn amhosib i mi ei gynnal o'r blaen!"
Astudiaeth Achos - Siân (enw wedi'i newid i gadw'n anhysbys) Cefndir
£217,870.00
£156,969
Cafodd Siân, sy'n 22 oed ac yn fam i 3 o blant bach, ei chyfeirio am gefnogaeth ar ôl i'w phartner ymosod arni. Cafwyd gorchymyn llys yn erbyn y partner, a'i gwaharddai rhag ymweld â'r ardal yr oedd Siân a'r plant yn byw ynddi.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 19
Doedd hi erioed wedi cael mantais o unrhyw brofiad gwaith am ei bod wedi gadael yr ysgol pan oedd yn feichiog ac felly doedd dim sgiliau bywyd sylfaenol ganddi. Pa fath o gefnogaeth oedd ei hangen arni? Roedd hawlio'r budd-daliadau cywir yn fater pwysig am fod ei holl incwm wedi cael ei atal, a'i gadael heb arian i fwydo'i hun na'i phlant. Roedd y budd-dâl tai hefyd wedi dod i ben, gan fygwth ei thenantiaeth. Roedd Siân hefyd yn dioddef o iselder a phryder ynghylch mynd i'r llys i roi tystiolaeth yn erbyn ei phartner. Sut roedden ni wedi helpu?
l Roedden ni wedi helpu Siân i hawlio'r budd-daliadau cywir yr oedd ganddi hawl iddynt a bellach, mae'r holl fudddaliadau'n cael eu talu. l Roedden ni hefyd wedi helpu Siân i drefnu ei budd-dâl tai, cydgysylltu â'r landlord a'i hatal rhag iddi hi a'i phlant golli eu cartref. l Roedden ni wedi cefnogi Siân drwy'r broses yn y llys yn achos erlyniad ei phartner a'i helpu hefyd i fynd i'r afael â'i phroblemau iechyd meddwl.
Partneriaeth Ymyrryd ar gyfer Teuluoedd UCT (FIP) Enillodd y Prosiect Partneriaeth Ymyrryd ar gyfer Teuluoedd (FIP), sef un o brosiectau blaengar yr uned, wobr yn ddiweddar am waith partneriaeth. Mae'r prosiect yn gweithio'n ddwys gyda rhai o'r teuluoedd mwyaf anodd eu cyrraedd yn Abertawe ac wedi cyflawni canlyniadau gwych gyda'r rhieni a'r plant. Mae'r prosiect yn cefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol Mae'n helpu teuluoedd i fynd i'r afael â sawl mater megis dyled, hawlio budd-daliadau, cael cyfleoedd cyflogaeth ac addysgu, ymdopi ag iselder, pryder a phroblemau ymddygiad. Mae hefyd yn cynnig cymorth a chyngor ynglyˆn â magu plant, gosod terfynau etc. Prif amcanion y prosiect yw atal digartrefedd, lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelu plant. I'r rhan fwyaf o deuluoedd sydd wedi'u cefnogi, nid ydynt bellach:
l Mae Siân bellach yn edrych ymlaen at ddyfodol mwy addawol ac mae am fynd i'r l mewn perygl o gael eu troi o'u cartref coleg i ddysgu sgiliau newydd er mwyn l mewn perygl o'r plant yn mynd i ofal yr cael swydd a chynnal ei phlant. awdurdod l Nid yw'r Gwasanaethau Cymdeithasol l mewn perygl o droi cefn ar addysg bellach yn pryderu am y teulu ac mae'r gweithiwr cefnogi wedi helpu Siân i l mewn perygl o fynd ymhellach i fyd ddatblygu rhai o'r sgiliau bywyd sylfaenol i cyfiawnder troseddol. sicrhau ei bod yn parhau'n annibynnol. Mae'r gweithwyr allweddol yn defnyddio Crynodeb ymagwedd tra chefnogol a chreadigol ond Pe na byddem wedi llwyddo i ymyrryd i eto'n defnyddio dull pendant a dyfal wrth eu gefnogi, roedd posibilrwydd y byddai'n rhaid i'r plant fynd i ofal am nad oedd Siân yn gallu gwaith. Maent yn barod i ddod o hyd i atebion hyblyg i broblemau cymhleth ac yn ymdopi â'r materion ariannol ei hunan ac cynnig pecyn o gefnogaeth gyfannol i roedd ei hiselder, ei diffyg hunanhyder a deuluoedd. hunan-barch yn broblem fawr. Roedd perygl hefyd y byddai'r teulu'n colli eu cartref a byddai hynny'n dod â chanlyniadau eraill yn ei sgîl i Siân a'r plant.
20 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Os ydych yn meddwl y gallech elwa o'r Cynllun Cefnogi Tenantiaid neu'r Prosiect Ymyrryd ar gyfer Teuluoedd, cysylltwch â'r uned ar Ffôn 01792 774360 nue 774320 neu e-bost tsu@swansea.gov.uk www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Ydych chi'n colli cyfle? Mae llawer o bobl yn newid eu ffôn symudol neu ddarparwr yn rheolaidd, ac yn aml mae'r rhifau ffôn hyn ac eraill yn newid hefyd. Rydym i gyd, fwy na thebyg, yn sicrhau bod ein ffrindiau a'n teuluoedd yn gwybod, ond efallai nad ydym bob amser yn rhoi gwybod i'r gwasanaethau rydym yn eu defnyddio am unrhyw newidiadau. Os ydych wedi newid eich rhif ffôn symudol, llinell sefydlog neu gyfeiriad
e-bost yn ddiweddar, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu cysylltu â chi yn gyflym a hawdd pan fo angen.
tai@abertawe.gov.uk. Os ydych yn lesddeiliaid, ffoniwch y Tîm Lesddeiliaid ar 01792 635223.
Cysylltwch â'ch Swyddfa Dai Ranbarthol a rhoi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau - mae'r rhifau ffôn y tu mewn i glawr y cylchgrawn hwn. Gallwch hefyd e-bostio
Pan fyddwn yn cysylltu â chi nesaf byddwn yn gwirio eich manylion cyswllt eraill fel ein bod yn siw ˆ r bod ein cofnodion yn gywir.
Golwg ar eich Byd Yn galw ar ffotograffwyr - Mae angen ffotograffau arnom gan ddarllenwyr Yn rhifynnau’r dyfodol o Dyˆ Agored, hoffem gynnwys rhywbeth newydd o’r enw “Golwg ar eich Byd” a’ch gwahodd i anfon lluniau atom yr ydych wedi’u tynnu mewn digwyddiadau lleol, golygfeydd godidog a phethau anarferol a welir yn Abertawe. Hoffem rannu’r rhain â darllenwyr Tyˆ Agored fel y gallwn oll brofi golygfeydd a digwyddiadau yn ein dinas.
Dywedwch wrthym ble a phryd y tynnwyd y llun ac unrhyw wybodaeth ddiddorol arall am y llun. Os ydynt yn cynnwys pobl bydd rhaid i chi gael eu caniatâd er mwyn eu cynnwys yn Nhyˆ Agored. Os ydych wedi tynnu’r llun gyda chamera digidol, ebostiwch gopi digidol i tai@abertawe.gov.uk Rhaid i’r holl luniau fod yn gydraniad uchel ac o leiaf 300dpi maint A4. Yn anffodus, nid yw lluniau a ddefnyddir ar y we neu ar Facebook o safon digon uchel i’w hargraffu. Os mai copi argraffedig
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
yn unig sydd gennych neu nid oes gennych e-bost, postiwch y llun i’r Gwasanaethau Tai, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN Rhadbost RSCTJJZH-KLJZ. Bydd yr holl luniau’n cael eu dychwelyd. Cofiwch gynnwys eich enw, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn, rhif ffôn symudol neu gyfeiriad e-bost cyfoes fel y gallwn gysylltu â chi.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 21
Grantiau Tyfu'n Lleol Mae Cyngor Abertawe'n cynnig help i drigolion lleol sydd am osgoi'r rhyngfasnachwr, sef yr archfarchnadoedd, a thyfu eu llysiau eu hunain. Mae'r cyngor wedi lansio cynllun grantiau Tyfu'n Lleol blaengar â'r nod o roi hwb i uchelgeisiau garddio pobl leol i arbed arian a bwyta'n iachach.
"Mae'r cynllun Tyfu'n Lleol yn annog ein cymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain trwy ariannu amrywiaeth o brosiectau tyfu cymunedol gyda'r nod o gael mwy o Mae'r cynllun yn cynnig grantiau rhwng £250 ffrwythau a llysiau ffres yn y ddinas, yn a £5,000 i grwpiau, sefydliadau ac ysgolion, a arbennig i'r rhai sydd ar gyflogau isel." gaiff ddefnyddio'r arian ar gyfer unrhyw beth Gellir defnyddio'r arian ar gyfer amrywiaeth o hadau i dai gwydr, siediau ac offer. eang o bethau, gan gynnwys siediau cymunedol a thai gwydr, cyfarpar ac offer, Meddai Sybil Crouch, Aelod y Cabinet dros gwelliannau safle fel ffensys neu gyflenwad Gynaladwyedd, "Mae'r cynllun Tyfu'n Lleol yn dwˆr, a hyd yn oed hyfforddiant i'r rhai nad ffordd benigamp i bobl leol gydweithio i ydynt yn siwˆr lle i ddechrau. wneud yn fawr o'u hamgylchedd lleol. "Mae tyfu'ch llysiau'ch hunan yn ffordd wych o ymarfer corff, yn hynod wobrwyol, yn well i'r amgylchedd a, gorau oll, rydych yn gwybod o ble mae'ch bwyd yn dod a gall arbed arian i chi hefyd.
Ewch i wefan Tyfu'n Lleol Abertawe am ragor o wybodaeth, www.abertawe.gov.uk/growlocal, neu ffoniwch Adam Mason ar 633813.
Anogir cymunedau i ymuno yn y frwydr i fynd i'r afael â sbwriel Mae cymuned a ddangosodd i weddill y ddinas sut i gadw eu strydoedd yn daclus ac yn lân yn annog eraill i'w dilyn. Penderfynodd preswylwyr Casllwchwr i ymuno â'r cyngor yn gynharach eleni i dacluso'r gymuned, gan ddechrau ym Mharc Williams ac yna ehangu'r ymdrech i'r blaendraeth ac ardaloedd eraill yn y pentref.
"Rwy'n credu bod y preswylwyr yn gallu gweld cymaint o wahaniaeth y mae wedi'i wneud a byddaf yn sicr yn annog cymunedau eraill yn Abertawe i greu eu grwpiau eu hunain er mwyn iddynt ddilyn ein hôl troed ni."
Mae ymgyrch newydd Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â sbwriel a baw cwˆn eisoes yn dwyn ffrwyth ond mae Eileen Bartlett, Ysgrifennydd Cyfeillion Parc Williams, yn credu y dylai cymunedau wneud eu rhan hefyd. Meddai, "Mae Llwchwr Isaf bob amser wedi bod yn gymuned agos iawn ond mae'r ymgyrch glanhau wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Mae Cyngor Abertawe yn gwario dros £2.5 miliwn y flwyddyn yn glanhau sbwriel, baw cwˆn a sbwriel a dipiwyd yn anghyfreithlon ac ym mis Medi fe gyflwynodd swyddogion gorfodi ychwanegol i sicrhau bod y cyhoedd yn gwneud eu rhan hefyd. Mae dros 200 o bobl eisoes wedi derbyn hysbysiad o gosb benodol gwerth £75 am daflu sbwriel, gan gynnwys gwm cnoi a bonion sigaréts.
22 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Cyflwynwyd y mesurau llym newydd ar ôl i breswylwyr ddweud wrth y cyngor yr hoffent weld mwy yn cael ei wneud am sbwriel a baw cwˆn. Meddai Fran Williams, Arweinydd Tîm Gorfodi a Sbwriel yn y cyngor, "Mae hyn yn dangos ein bod yn benderfynol o wneud ein rhan i roi diwedd ar sbwriel a baw cwˆn ar ein strydoedd. "Mae Llwchwr Isaf yn enghraifft wych o sut gall cymuned weld y broblem a mynd i'r afael â hi. "Ond ein nod yw gwneud i bobl sy'n taflu sbwriel deimlo fel nad oes lle iddynt guddio."
Sut i helpu G PEIDIWCH â thaflu sbwriel neu gallwch dderbyn hysbysiad o gosb benodol gwerth £75. G CYSYLLTWCH â'ch cymdeithas preswylwyr, grwˆp cymunedol neu gyngor cymuned lleol i weld a oes digwyddiadau codi sbwriel wedi'u trefnu. G CYSYLLTWCH â Chadwch Gymru'n Daclus. Gallant gefnogi grwpiau a sefydliadau lleol sy'n trefnu digwyddiadau codi sbwriel. G GALL y cyngor ddarparu offer codi sbwriel i grwpiau preswylwyr a sefydliadau. I drefnu offer, ffoniwch (01792) 841601. G I ADRODD am sbwriel, ewch i www.abertawe.gov.uk/reportit neu defnyddiwch yr app 'Fy Nghyngor' sydd ar gael ar ffonau clyfar. www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 23
Derbyniodd y 14eg Cystadleuaeth Arddio Flynyddol nifer sylweddol o ymgeiswyr unwaith eto. Rydym wedi creu dau gategori newydd - Yr Ardd Fwytadwy Orau a'r Ardd Blodau Gwyllt Orau. Yn ogystal â hyn, bydd y beirniaid hefyd yn dewis cystadleuydd y maent yn teimlo sy'n haeddu cydnabyddiaeth arbennig am ei ymdrech. Dyma oedd 'Gwobr dewis y beirniaid'. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Roedd y beirniaid yn falch iawn gyda safon uchel y garddwyr. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld eto'r flwyddyn nesaf! Mae ffurflenni cofrestru ar gael ym mhob Swyddfa Dai Ranbarthol, yn www.abertawe.gov.uk/housing neu drwy ffonio 01792 635025
Dyma rai o enillwyr cystadleuaeth y llynedd...
Llun o'r enillydd cyffredinol Mr Dent, yn derbyn ei wobr gan y Cynghorydd June Burtonshaw, Aelod y Cabinet dros Leoedd.
24 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Gardd Fwytadwy Orau Mr Bennett, Winch Wen
Cynhwysydd Gorau
Gardd Flodau Gwyllt Orau
^ Mr Bishop, Tregw yr
Mr Russ, Townhill
Gardd Orau, Blaenymaes Ms Williams
Gardd Orau, Treforys
Gardd Orau, Gorseinon
Gardd Orau, West Cross
Mrs Box
Mrs Evans
Mr Hughes
Newydd-ddyfodiad Gorau
Gwobr Dewis y Beirniaid
Ms Williams, Casllwchwr
Ms Yandell, Casllwchwr
Gardd Loches/Gymunedol Orau
Gardd Orau, Bonymaen
Gardd Orau, Penlan
Mr Scott
Mrs Young
Laugharne Court
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 25
Cymunedau'n Gyntaf
Dyw hi erioed wedi bod yn amser gwell i gymryd rhan yng nghynllun Cymunedau'n Gyntaf. Mae llawer o resymau i gymryd rhan: dod o hyd i ffyrdd gwell o arbed arian, dysgu rhywbeth newydd, annog eich plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd, gwella'ch iechyd neu wneud ffrinidiau newydd.
l Newid i Arbed – lleihau'r hyn rydych chi'n ei wario a chael yr incwm mwyaf posib
Beth am gysylltu â'ch Tîm Cymunedau'n Gyntaf lleol a chymryd rhan?
l Sgiliau Digidol – magu'ch hyder a chyfle i ddefnyddio'r rhyngrwyd
Mae'n dibynnu ar ble rydych chi'n byw, gan nad yw pob ardal o fewn Ardal Glwstwr Cymunedau'n Gyntaf. Mae gan Abertawe bum 'Ardal Glwstwr'. Mae’r tabl yn dangof y Clwstwr cymunedau’n Gyntaf ym mhob ardal a’r manylion cyswllt ar gyfer y Timau Clwstwr.
l Dysgu Drwy'r Amser – mynediad i amrywiaeth o sesiynau dysgu a hyfforddi
Dyma enghreifftiau o'r math o brosiectau sy'n digwydd ar hyn o bryd: l Gwres Fforddiadwy – lleihau eich biliau ynni a lleihau eich ôl troed carbon
26 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
l Hawlio Budd-daliadau Lles/Sesiynau Cynghori/ Cyllidebu/Cynilo – cymorth a chyngor i reoli eich arian
l Cefnogaeth i Gael Swydd – canolfannau gwaith, cefnogaeth, arweiniad a chyngor i ddod o hyd i waith l Cewri Lleol - prosiect hanes lleol sy'n dod â phobl o bob oed ynghyd l Rhieni a Babanod a Chylch Chwarae High Scope – chwarae a dysgu i blant cyn-oed ysgol
l Tyfu, Coginio, Bwyta cyfle i ymuno â chriw cymunedol i dyfu a mwynhau bwyd iach fforddiadwy l Colli Pwysau ac Arbed Arian - cyngor a chefnogaeth ar ddeiet, ffitrwydd a ffordd o fyw, gan gynnwys sesiynau coginio l Bwyd a Maeth – hyfforddiant mewn Bwyd a Maeth a sesiynau coginio Mae llu o brosiectau a gweithgareddau a ffyrdd eraill y gallwch ymuno â nhw... Ffoniwch eich Tîm Cymunedau'n Gyntaf heddiw a manteisiwch ar y gymuned sydd ar eich stepen drws.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Ardaloedd Clwstwr Cymunedau'n Gyntaf Abertawe Clwstwr Cymunedau'n Gyntaf
Cymunedau yn y Clwstwr
Manylion Cyswllt Clwstwr Cymunedau'n Gyntaf
Clwstwr y Gorllewin
Townhill
Uned 6, Canolfan y Ffenics Parc Paradwys Townhill SA1 6PH 01792 457025
Mayhill Waun Wen Brynmelyn Y Gors Blaenymaes
Clwstwr y Gogledd-orllewin
Portmead Penplas Rhan o Gendros Penlan Parc Sgeti
Clwstwr y De
Rhan o Sandfields Rhan o'r Hafod
Clwstwr y Dwyrain
St Thomas Port Tennant Bonymaen Y Trallwn
Yr ARC 45 Rhodfa Broughton Portmead Abertawe SA5 5JS 01792 586149 d/o Swyddfa Dai Leol Canol y Dref 64 Stryd Croft Dyfaty Abertawe SA1 1QB 01792 452300 55 - 57 Ffordd Caernarfon Bonymaen Abertawe SA1 7HU 01792 464751
Rhan o Gellifedw Clwstwr y Gogledd-ddwyrain
Rhan o Dreforys Y Clas Caemawr Graigfelen
Ysgol Gymunedol Daniel James Bloc D 926A Heol Llangyfelach Abertawe SA5 7HR 01792 700670
Mae mwy o wybodaeth ar gael neu gallwch gysylltu â ni o'n gwedudalennau ar Facebook: www.abertawe.gov.uk/communitiesfirst www.facebook.com/swanseacommunitiesfirst Cysylltwch, cymerwch ran a chael eich ysbrydoli www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 27
Byddwch yn gall gydag ynni Mae pawb yn ymwybodol o gostau cynyddol ynni ac o ganlyniad, mae pobl yn cael trafferth talu biliau'r cartref. Mae Dinas a Sir Abertawe wedi bod yn edrych ar ffyrdd o helpu pobl i arbed arian drwy wneud newidiadau bach i'w harferion dyddiol. Yn ddiweddar, roeddem wedi gofyn i ddau wirfoddolwr roi cynnig ar gael monitor ynni yn eu cartrefi. Mae'r monitor yn
dangos faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio gan alluogi i'r preswylydd gadw llygad ar faint o ynni mae'n ei ddefnyddio a pharatoi ei gyllideb yn haws.
Gosodwyd y monitorau yng nghartrefi dau o'n tenantiaid am ychydig wythnosau a dyma'r canfyddiadau: Mae Kevin yn byw mewn fflat llawr gwaelod â dwy ystafell wely yn West Cross. Sylwodd ar y monitor yn cyrraedd y brig pan ddefnyddiodd y peiriant golchi dillad a'r sychwr dillad ac roedd wedi syfrdanu ar swm yr ynni a ddefnyddiwyd ganddynt. O ganlyniad, mae Kevin wedi addo cyfyngu ar ei ddefnydd o'r sychwr dillad. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod eitemau trydanol yn cael eu diffodd ar y wal ac nad ydynt yn y modd parod.
Mae Lorna yn byw mewn fflat llawr cyntaf yn y Crwys. Drwy ddefnyddio'r monitor, mae wedi gallu nodi'r ardaloedd lle mae'n defnyddio llawer o ynni. Dywedodd Lorna ei bod yn sylwi bod y monitor yn cyrraedd y brig wrth iddi goginio. Roedd hefyd wedi syfrdanu ar y gostyngiad yn ei defnydd o ynni drwy gyfnewid bylbiau golau arferol am fylbiau arbed ynni. Mae'r monitor wedi creu argraff mor dda ar Lorna fel ei bod yn bwriadu parhau i ddefnyddio un yn y dyfodol.
O ganlyniad i gymryd rhan yn ein prawf, mae gan ein gwirfoddolwyr yr argymhellion canlynol ar gyfer lleihau defnyddio ynni yn eich cartref eich hun: l Ceisiwch leihau'r amser rydych yn treulio yn y gawod l Coginiwch brydau bwyd mewn sypiau mawr a'u rhewi i'w defnyddio ar ddiwrnod arall l Caewch y llenni gyda'r nos a defnyddiwch bethau atal drafft - bydd y rhain yn helpu i atal y gwres rhag dianc drwy fannau oer l Peidiwch â gadael eitemau trydanol yn y modd parod - dylech eu diffodd wrth y plwg l Peidiwch â sychu dillad ar reiddiaduron gan fod hyn yn atal gwres rhag teithio o amgylch yr ystafell - prynwch hors ddillad yn lle
28 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Panel Ymgynghorol y Tenantiaid - Effeithlonrwydd Ynni Y llynedd, gwahoddwyd tenantiaid ar Banel Ymgynghorol y Tenantiaid i gyfarfod i drafod effeithlonrwydd ynni. Daeth TPAS Cymru (Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru) i drafod ffyrdd y gallwch newid cyflenwyr ynni i leihau'r costau. Roeddent hefyd wedi rhoi awgrymiadau a chyngor i'r grwˆ p am arbed ynni yn y cartref. Roedd Swalec yn bresennol i gynnig gwybodaeth am ei gynllun Gwasanaethau Call. I gael mwy o fanylion am hyn, ewch i'w gwefan yn www.swalec.co.uk a chwiliwch am wasanaethau call.
Daeth Nwy Prydain i'r cyfarfod hefyd i drafod y cynllun inswleiddio llofftydd parhaus. Os nad ydych wedi manteisio ar hyn a hoffech wneud hynny, ffoniwch Adele Templeton ar 01792 635116 i drafod ymhellach a threfnu archwiliad.
Os hoffech fwy o fanylion am arbed ynni yn eich cartref, gallwch ffonio'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ar 0800 512 512. Neu, gallwch ffonio Siân Walkey, Swyddog Effeithlonrwydd Ynni Dinas a Sir Abertawe ar 01792 635318.
Eich Sylwadau am gylchgrawn Tyˆ Agored Oes gennych unrhyw sylwadau am y rhifyn hwn o gylchgrawn Tŷ Agored neu am unrhyw un o’r erthyglau yr ydych wedi’u darllen? Os felly, gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Tai, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN Rhadbost RSCT-JJZH-KLJZ neu e-bostio tai@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635045.
Diolch am eich amser. Rhowch wybod i ni os ydych yn hapus i ni gyhoeddi eich sylwadau yng nghylchgrawn Tŷ Agored.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 29
Edrych yn Ôl Mae Edrych yn Ôl yn erthygl arbennig sy'n canolbwyntio ar denantiaid a'u teuluoedd sydd wedi byw yn eu tai presennol am fwy na 50 mlynedd. Yn y rhifyn hwn rydym yn sôn am Mrs Dorothy Rees o Heol Dewi Sant ym Mhenllergaer, sydd wedi bod yn byw yn ei thyˆ am bron 62 mlynedd.
Dyma rai o'i hatgofion.
Symud i mewn Symudodd Dorothy i'r tyˆ newydd sbon yn Heol Dewi Sant, ar ddydd Gwˆyl San Steffan 1952 gyda'i gwˆr a'u tri o blant a oedd yn 5 mlwydd oed, 3 mlwydd oed ac 11 mis oed. Yn y pen draw fe gawsant ddau blentyn arall ac felly magodd Dorothy a'i gwˆr 5 plentyn yn eu cartref.
brofiad cyffrous iawn. Meddai Dorothy "Dyma oedd y tro cyntaf ni fyw mewn tyˆ gyda thoiled dan do ac ystafell ymolchi gyda dwˆr twym ac oer o'r tap felly fe gafodd argraff fawr arnom." Nes y gallai Dorothy fforddio peiriant golchi, byddai'n golchi dillad yn y Sinc Belfast yn y gegin gefn neu fel nifer o'i chymdogion ar y pryd, yn hurio peiriant golchi o'r siop drydanol lleol. Roedd coginio yn digwydd yn y gegin ar ffwrn tân agored ac ochr, lle byddai'n coginio bara ei hunan ac yn pobi cacennau a thartennau ffrwythau.
Fel nifer o'i chenhedlaeth, roedd Dorothy wedi byw Mae Dorothy'n cofio, mewn "ystafelloedd" yn nhyˆ “roeddwn i bob amser yn pobi ei rhieni cyn hynny, felly roedd ar gyfer y teulu ac er mwyn i'r symud i gartref newydd ei plant fynd â phicnic i bartïon. adeiladu eu hunain yn Roedd Dorothy a'i gwˆr yn ceisio bod mor hunangynhaliol â phosib ac roeddent yn tyfu llysiau eu hunain, ac roedd ganddynt berthi cyrens duon, gwsberis a riwbob yn eu gardd gefn.
30 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Ysbryd Cymuned Un o atgofion cyntaf Dorothy am symud i Heol Dewi Sant oedd y parti a gynhaliwyd i ddathlu Coroni'r Frenhines ym mis Mehefin 1953. Mae Dorothy'n cofio: "Roedd nifer o'r tai yn dal i gael eu hadeiladu ar yr ystâd ac roedd yr heolydd yn arw heb darmac, felly roedd rhaid i ni gynnal y "Parti Stryd" yn y cae gerllaw. Ni amharodd ar ein mwynhad, fe gawsom ddiwrnod hyfryd ac roedd digon o le i'r plant redeg a chwarae." Trwy gydol y 50au a'r 60au, roedd Penllergaer yn gymuned brysur a oedd yn ffynnu gyda fferyllfa, meddygfa, cigydd, crydd a nifer o siopau. Roedd yr eglwysi a'r capeli a Neuadd yr Eglwys yng nghanol y gymuned gyda chlwb i fechgyn, brownies, geidiau, cybiau, sgowtiaid a grwˆp dramâu amatur. Roedd gan Benllergaer Garnifal ei hun a byddai Heol Dewi Sant yn aml yn rhoi fflôt yn y parêd. Pan roedd ei phlant yn tyfu, mae Dorothy yn cofio ysbryd cymuned wych yn Heol Dewi www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Sant gyda'r stryd yn trefnu teithiau i Borth Einon yn ystod "Pythefnos Stop" pan fyddai'r Cwmni Dur Gwaith Tunplat Cymru lleol yn Felindre a glofeydd lleol yn cau ar gyfer gwyliau'r haf. Mae Dorothy'n cofio "Ar y teithiau byddai'r holl fwyd a diod yn cael ei rannu rhwng y cymdogion fel na fyddai unrhyw un yn mynd hebddynt. Roeddem yn gallu gadael ein drysau ar agor yn ystod y dydd ac roeddem yn edrych ar ôl ein gilydd petai rywun yn sâl."
Yn symud gyda'r oes Pan symudodd Dorothy i'w chartref, roedd eiddo'r cyngor ym Mhenllergaer yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Llwchwr, ac roedd Swyddfeydd y Cyngor yn Stryd Lime yng Ngorseinon. Defnyddiwyd y swyddfeydd gan Athrofa Gorseinon pan gymerodd Dinas a Sir Abertawe reolaeth dros yr eiddo ym mis Ebrill 1996.
"Dros y blynyddoedd cafwyd nifer o newidiadau yn y tyˆ, yn yr 1980au newidiwyd y ffwrn Bryd hynny doedd dim car tân glo hardd yn y gegin, lle gan nifer o bobl felly roedd roeddwn i'n gwneud fy holl pobl yn defnyddio'r goginio, i system wresogi gwasanaethau bws rheolaidd canolog. Roeddwn i'n drist i'w a oedd yn cysylltu Penllergaer weld yn mynd ond roedd y tyˆ â threfi Castell-nedd, Llanelli yn gynhesach felly doedd dim ac Abertawe. Byddai pobl ots gen i". Rhoddwyd ffenestri hefyd yn defnyddio'r trên a a drysau gwydr dwbl trwy'r tyˆ oedd yn mynd yn hefyd. Yn y gegin gefn, disodlwyd y sinc Belfast gan uniongyrchol o Gorseinon i uned sinc modern. Ac yn y Fae Abertawe a'r Mwmbwls.
pantri bellach, lle roedd carreg farmor ar un adeg er mwyn cadw'r bwyd yn oer, mae oergell rhewgell fodern Dorothy.
Cartref y teulu o hyd Ar ôl i'w gwˆr farw ym 1982, parhaodd Dorothy i fyw yng nghartref y teulu ac mae ei phlant, ei hwyrion a'i gorwyrion yn ymweld â hi'n aml, ac mae nifer ohonynt yn dal i fyw yn yr ardal. Mae gan Dorothy nifer o atgofion hapus o fyw yn Heol Dewi Sant ac mae'n edrych ymlaen at nifer fwy o flynyddoedd hapus yno.
Os ydych chi wedi bod yn byw yn eich tyˆ am 50 mlynedd neu fwy a hoffech rannu eich atgofion gyda darllenwyr tyˆ Agored, ffoniwch ni ar 01792 635037 neu e-bostiwch ni ar tai@abertawe.gov.uk www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 31
CysylltiadauLleol Mae Cysylltiadau Lleol yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau a gynhelir yn eich ardal. Os hoffech gyfrannu at rifynnau yn y dyfodol, ffoniwch 01792 635045. Rydym yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth yn y Cysylltiadau Lleol yn gywir, ond argymhellwn eich bod yn gwirio manylion gyda lleoliad/trefnydd y digwyddiad perthnasol.
BLAENYMAES Ardal Gemau Amlbwrpas Blaenymaes, Rhodfa Broughton, Blaenymaes. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys meysydd pêl-droed, ardal chwarae i blant ac Ardal Gemau Aml-bwrpas.
EASTSIDE Canolfan Hamdden Cefn Hengoed, Heol Caldicot, Winch Wen SA1 7HX. 01792 798484. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys ystafell ffitrwydd a neuadd chwaraeon. Mae'r gweithgareddau i blant yn cynnwys - Cicwyr Bach, Sgiliau Rygbi URC a Gymnasteg. Mae gweithgareddau i Oedolion yn cynnwys - Beicio i Ddechreuwyr, Beicio mewn Grwˆp, Ffitrwydd MMA ac Ioga. www.abertawe.gov.uk/cefnhengoedlc cefnhengoed.lc@swansea.gov.uk
GORSEINON Canolfan Hamdden Penyrheol, Heol Pontardulais, Gorseinon SA4 4FG. 01792 897039. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys pwll nofio, cyrtiau sboncen, campfa a neuadd chwaraeon. Mae'r gweithgareddau i blant yn cynnwys – Zumba, Dawnsio Stryd a Hip Hop, Pêldroedwyr Ifanc, cyrsiau pêl-droed actif a gwersi nofio i blant. Mae gweithgareddau i Oedolion yn cynnwys - Aerobeg dwˆr, Cylchedu Byw'n Actif, TRX Cyflym i Fenywod, Camu a thynhau, Pilates, Zumba, Hyfforddiant Dwys, 20/20/20, Pwysau Tegell, Bocsymarfer, ymarfer ysgafn i bobl dros 50 oed, Tabata, Ioga, Bokwa rhiant a phlentyn, Nofio Stamina, Hyblygrwydd a thynhau'r 80au, Coese, Penole a Bolie, ac Ioga Mamau Beichiog. www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=1301 penyrheol.lc@swansea.gov.uk Canolfan Hamdden Gymunedol Pontarddulais, Ysgol Gyfun Pontarddulais. 01792 885560. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys neuadd chwaraeon a champfa. Mae gweithgareddau i oedolion yn cynnwys beicio mewn grwˆp, pwysau tegell, ioga, cylchedu ysbeidiau, coese, penole a bolie a ffitrwydd MMA. www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=32476
TREFORYS Canolfan Hamdden Treforys, Heol Maes Eglwys, Treforys SA6 6NN. 01792 797082. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys pwll nofio, campfa a neuadd chwaraeon. Mae'r gweithgareddau i blant yn cynnwys - pêl-droedwyr ifanc, cyrsiau pêl-droed actif, gwersi nofio i blant a thrampolinio i blant 6 oed i 10 oed a hyˆn. Mae gweithgareddau i oedolion yn cynnwys dosbarthiadau ffitrwydd i oedolion, Tabata, cylchedu i oedolyn hyˆn, Pilates, Aerobeg dwˆr, TRX, Pwysau Tegell, Clwb Rhedeg i fenywod, Zumba, Tynhau a Thargedu, Bocsymarfer, Hyfforddiant Dwys ac Ioga Mamau Beichiog. www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=1294 morriston.lc@swansea.gov.uk
32 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
PENLAN Canolfan Hamdden Penlan, Heol Gwyrosydd, Penlan SA5 7BU. 01792 588079. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys pwll nofio, campfa a neuadd chwaraeon. Mae'r gweithgareddau i blant yn cynnwys Zumba, dawnsio stryd a hip hop, Pêl-droedwyr ifanc, cyrsiau pêl-droed actif, gwersi nofio i blant. Mae gweithgareddau i oedolion yn cynnwys Hyfforddiant Dwys, Aerobeg dwˆr, Ioga Mamau Beichiog, TRX Cyflym, Ioga Egnïol, Cylchedu a Choese, Penole a Bolie, Pwysau Tegell, TRX, Zumba, Pilates, Cylchedu, Tabata, Targedu a Ffyrfhau, Bokwa, Beicio mewn Grwˆp, Aerobeg camu, Bocsymarfer ac Aerobeg dwˆr i fenywod yn unig. www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=1286 penlanlc@swansea.gov.uk
ˆ YR SGETI/WEST CROSS/GW Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt, The Glebe, Llandeilo Ferwallt SA3 3JP 01792 235040. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys campfa a neuadd chwaraeon. Mae'r gweithgareddau i blant yn cynnwys pêl-dyroedwr ifanc, cyrsiau pêl-droed actif, tramplinio i blant 6 i 10 oed a hyˆn. Mae gweithgareddau i oedolion yn cynnwys Zumba, Pwysau Tegell, Byw Actif, Beicio Retro mewn Grwˆp, Bokwa a Choese, Bolie a Phenole. www.abertawe.gov.uk/index.cfm?articleid=10591 bishopston.sc@swansea.gov.uk Pwll Cenedlaethol Cymru, Lôn Sgeti SA2 8QQ. 07736 600126. Swansea Stingrays, sesiynau nofio i blant ac oedolion anabl. Bob dydd Sul o 9.30am i 10.30am. www.walesnationalpoolswansea.co.uk
CANOL Y DREF Neuadd Chwaraeon a Phwll Nofio Pentrehafod, Ysgol Gyfun Pentrehafod, Heol Pentremawr, yr Hafod SA1 2NN. 01792 588079 (dydd) a'r Neuadd Chwaraeon 455387 (nos) neu'r Pwll Nofio 641935 (nos). Mae'r cyfleusterau'n cynnwys Neuadd Chwaraeon, Pwll Nofio a chyfleuster chwaraeon aml-gamp adiZone. Mae gweithgareddau i blant yn cynnwys crefft ymladd i blant o 4 oed, pêl-droed, clwb badminton i blant iau ac oedolion a nofio i blant iau. Mae gweithgareddau i oedolion yn cynnwys nofio i fenywod, Aerobeg dwˆr, nofio i oedolion yn unig, nofio i rieni a babanod. www.abertawe.gov.uk/pentrehafod_lc
TOWNHILL Parc Paradwys, Canolfan y Ffenics, Rhodfa Powys, Townhill SA1 6PH 01792 479800. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys maes chwarae pob tywydd gyda llifoleuadau, Ardal Gemau Amlbwrpas mynediad agored. Maes chwarae mynediad agored, Pêl-fasged. Clwb Paffio Gwent, Rhodfa Dyfed, Townhill SA1 6NF. 07979 577933 Cyfleusterau’n cynnwys, stiwdio ffitrwydd a sawna i bobl dros 16 oed, jiwdo, paffio, karate a chodi pwysau.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 33
Gweithgareddau yn eich llyfrgell leol. Clybiau Gwaith Cartref! Os ydych rhwng 8 a 13 oed beth am ymuno â chlybiau gwaith cartref Llyfrgelloedd Abertawe? Cynhelir y clybiau YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. Mae gan bob clwb fynediad am ddim i'r rhyngrwyd, llungopïo, mynediad i adnoddau ar-lein am ddim fel Britannica Junior a Britannica student. Y cyfan mewn amgylchedd cyfeillgar gyda help ar gael gan staff i ddod o hyd i'r wybodaeth y mae ei hangen arnoch. Eich SDL
Eich llyfrgell agosaf
Dyddiad ac Amser y clwb Manylion cyswllt
Blaenymaes
Llyfrgell Fforestfach
Dydd Mercher o 3.30pm tan 5pm
586978
Dydd Llun o 3.50pm tan 5.30pm
655570
Dydd Gwener o 3.30pm tan 5pm
822822
Dydd Llun o 3.30pm tan 6pm
516780
Dydd Mawrth o 3.30pm tan 5pm
873272
Dydd Gwener o 3.30pm tan 6.55pm
516770
Dydd Mercher o 3.30pm tan 5pm
843300
Dydd Llun o 3.30pm tan 5pm
584674
Dydd Mercher o 3.30pm tan 5pm
586978
Dydd Gwener o 3.30pm tan 5pm.
516820
Dydd Gwener o 4pm tan 5.30pm
512370
Eastside Gorseinon
Llyfrgell St Thomas Llyfrgell Pontardulais Llyfrgell Gorseinon Llyfrgell Tregwˆyr
Treforys
Llyfrgell Treforys Llyfrgell Clydach
Penlan
Llyfrgell Penlan Llyfrgell Fforestfach
Sgeti a Gwˆyr Townhill a Mayhill Canol y Dref
Llyfrgell Cilâ Llyfrgell Townhill
Llyfrgell Ganolog Abertawe Dydd Mawrth i ddydd Gwener o 4pm tan 5.30pm 636464
34 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Gweithgareddau ar gyfer plant dan 5 oed yn Llyfrgelloedd Abertawe! Cynhelir y gweithgareddau YN YSTOD Y TYMOR YN UNIG. Bydd babanod, plant bach a'u gofalwyr yn gallu mwynhau straeon, caneuon, rhigymau ac amrywiaeth o weithgareddau megis crefftau a lliwio, ynghyd â'r cyfle i wneud ffrindiau newydd a dewis llyfrau i'w darllen gartref. Eich SDL
Eich llyfrgell agosaf
Dyddiad ac Amser y clwb Manylion cyswllt
Blaenymaes
Llyfrgell Fforestfach
Dydd Gwener o 2.15pm tan 2.45pm
586978
Dydd Llun o 2pm tan 2.30pm
655570
Dydd Llun o 2pm tan 2.30pm
822822
Dydd Mawrth o 2.15 pm tan 2.45 pm
516780
Dydd Gwener o 9.30am tan 10.30am
873272
Dydd Mercher o 10.30am tan 11pm
516770
Dydd Mercher o 2.15pm tan 2.45pm
843300
Dydd Llun o 11.45 am tan 12.15pm
584674
Dydd Gwener o 2.15pm tan 2.45pm
586978
Eastside Gorseinon
Llyfrgell St Thomas Llyfrgell Pontardulais Llyfrgell Gorseinon Llyfrgell Tregwˆyr
Treforys
Llyfrgell Treforys Llyfrgell Clydach
Penlan
Llyfrgell Penlan Llyfrgell Fforestfach
Sgeti a Gwˆyr
Llyfrgell Cilâ
Dydd Llun a dydd Gwener 10.30am tan 11am. 516820
Llyfrgell Sgeti
Dydd Mawrth o 10.30am tan 11am
202024
Dydd Gwener o 9.15am tan 9.45am
233277
Dydd Gwener o 10.30am tan 11am
512370
Llyfrgell Pennard Townhill a Mayhill
Llyfrgell Townhill
Canol y Dref
Llyfrgell Ganolog Abertawe Dydd Mercher o 10am 10.30am a 2pm 2.30pm (Amser Rhigymau) Dydd Iau (Amser Stori) o 2pm tan 2.30pm 636464
West Cross
Llyfrgell Ystumllwynarth
Dydd Mercher o 11am 11.30pm a 2.30 tan 3pm
368380
Ewch i www.abertawe.gov.uk/libraries am fwy o fanylion www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 35
Ar y tudalennau hyn byddwch yn dod o hyd i'r diweddaraf am faterion cynnwys tenantiaid a godwyd gan grwpiau lleol a grwpiau ar draws y ddinas a'r sir. Grwpiau Lleol
Grwpiau'r Ddinas a'r Sir Gyfan
Cyfarfu aelodau Cymdeithas Trigolion Clyne Court drafod gwaith rhagbaratoawl rhaglen welliannau sylweddol sydd wedi dechrau yn Clyne Court, Sgeti. Roedd staff o'r Swyddfa Dai Ranbarthol leol, ynghyd ag aelod ward lleol a chynrychiolydd y contractwyr sy'n gwneud y gwaith, yn bresennol i drafod dyfodol y gwaith yn fanylach.
Cyfarfu'r Panel Rheoli a Gofal Stadau i edrych yn fanylach ar yr Arolwg Rheoli a Gofal Stadau. Roedd adborth y grwˆp yn gadarnhaol. Meddai Mel o Graig-cefn-parc, "Rwy'n hapus gyda'r wybodaeth a'r canlyniadau a welais heddiw.”
Roedd y cyfarfod hefyd yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion Cymunedau'n Gyntaf a oedd wedi dechrau eu swyddi'n ddiweddar. Cafwyd amlinelliad o strwythur newydd Cymunedau'n Gyntaf a rhai o'r prosiectau byddant yn gweithio arnynt yn y dyfodol agos.
Ystyriodd y grwˆp hefyd wybodaeth ac ystadegau perfformiad y Gofalwyr Ystadau wrth fwrw'u targedau.
Os ydych yn byw yn Clyne Court, a hoffech fod yn rhan o'r grwˆp, cysylltwch ag Alison Winter ar y rhif ffon ar dudalen 38.
Yn ddiweddar trafododd y Grwˆp Adeiladu ac Atgyweirio yr Arolwg Cyflwr Stoc. Siaradodd Dave Meyrick, y Prif Arolygydd Adeiladu, am brif ganfyddiadau'r arolwg, yna cafwyd sesiwn holi ac ateb.
Sefydliad Tai Cymunedol Mayhill a Townhill Os hoffech fod yn rhan o'r grwˆp, ffoniwch y Cadeirydd, Tony, ar 01792 561824.
36 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Derbyniodd y grwˆp ddiweddariad gan y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai hefyd. Trafododd Adele Templeton, Rheolwr y Bartneriaeth Tai, y cynllun peilot ceginau ac ystafelloedd ymolchi yng Nghasllwchwr, a dangosodd i'r grwˆp ddewis o unedau cegin a fydd ar gael i'w gosod fel rhan o'r cynllun. www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Cyfarfu'r Grwˆp Adborth Tyˆ Agored i drafod rhifyn diweddaraf Tyˆ Agored. Rhoddodd y grwˆp adborth ar y dyluniad, y clawr blaen, y cynllun a'r cynnwys, a oedd yn gadarnhaol tu hwnt. Teimlodd y grwˆp fod gan y cylchgrawn gydbwysedd da o erthyglau a materion perthnasol, gan amrywio o ddiwygio lles i'r gystadleuaeth arddio. Cyfarfu'r Grwˆp Llywio Tenantiaid i drafod rhesymau darparu gwybodaeth yn ddwyieithog i aelodau'r grwˆp. Mynegodd rhai tenantiaid bryderon ynghylch cost darparu gwybodaeth yn ddwyieithog, ond cytunodd eraill ei bod yn bwysig hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Cafodd y grwˆp ddiweddariad hefyd ar gynnydd y Strategaeth Cyfranogiad Lleol, ac roeddent yn falch bod yr holl dargedau'n cael eu bodloni. Yn un o gyfarfodydd y Grwˆp Cynrychiolwyr Tai Lloches, gofynnwyd i denantiaid roi eu barn am y Gwasanaeth Tai Lloches. Bu peth dadlau ymysg y grwˆp, a derbyniwyd sylwadau gwerthfawr. Meddai Jim o Dy Caerloyw, "Mwynheais y cyfarfod yn fawr, cafwyd trafodaeth ddifyr a chafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud." Mae'r Grwˆp Cynrychiolwyr Tai Lloches yn www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
agored i unrhyw breswylydd sy'n byw mewn cyfadeiladau lloches. Os hoffech ymuno â'r grwˆp hwn neu dderbyn gwybodaeth, cysylltwch ag Alison Winter drwy ffonio’r rhif ffôn trosodd.
Ymgyrch Recriwtio Panel Ymgynghorol y Tenantiaid Gall unrhyw denant neu lesddeiliad fod yn aelod o'r Panel Ymgynghorol y Tenantiaid. Fel aelod bydd gofyn i chi roi eich barn am ddatblygiadau newydd yn y gwasanaeth neu newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau. Gellir gwneud hyn drwy holiaduron, drwy e-bost neu neges destun, neu drwy fynd i gyfarfodydd - gyda chi mae'r dewis! Os hoffech ymuno â Phanel Ymgynghorol y Tenantiaid, cysylltwch ag Alison Winter drwy ffonio'r rhif trosodd.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 37
hyder yn tyfu, a dechreuais siarad ar fy rhan fy hunan. Ers hynny rwyf wedi bod yn mynd i gyfarfodydd ac wedi cwrdd â llawer o bobl newydd, ac mae rhai wedi dod yn ffrindiau da. Mae gen i lawer mwy o hyder ynof i fy hun, ac rwy'n mwynhau dysgu am y gwasanaeth tai." Mae Heather hefyd wedi byw yn Abertawe ar hyd ei hoes, yn bennaf yn ardal Townhill. Cael llawer mwy o fudd trwy Dechreuodd gymryd rhan dros ugain gymryd rhan mlynedd yn ôl gyda Chymdeithas Tenantiaid a Mae Paula McConnell a Heather Mitchell wedi Phreswylwyr Townhill a Mayhill. Dros yr bod yn rhan o gyfranogiad tenantiaid ers sawl ychydig flynyddoedd diwethaf mae hyn wedi blwyddyn, gan fynd i gyfarfodydd yn ymestyn i gynnwys Panel Ymgynghorol y rheolaidd, rhoi adborth ar bob math o faterion Tenantiaid, y Grwˆp Adeiladu ac Atgyweirio, y a chynyddu gwybodaeth am amrywiaeth o Grwˆp Llywio Tenantiaid a Grwˆp Adborth Tyˆ bynciau. Hoffent rannu eu profiadau ac Agored. annog eraill i gymryd rhan a 'dweud eu Meddai Heather: "Rwy'n mwynhau mynd i dweud'. gyfarfodydd a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Meddai Paula am ei phrofiadau: ‘"Fy enw i yw Paula McConnell. Rwyf wedi bod Mae tenantiaid eraill ar y stad yn gofyn cwestiynau i mi yn aml. Rwy'n hapus i ateb eu yn denant cyngor ers sawl blwyddyn, gan cwestiynau, ond rwy'n eu hannog i gyfranogi symud i ardal canol y dref i ddechrau, yna'n fwy diweddar i Benlan. Dechreuais gymryd eu hunain. rhan oddeutu pum mlynedd yn ôl, pan holais i Rwyf hefyd wedi cynrychioli tenantiaid a fy ffrind ynghylch sefydlu cymdeithas Abertawe yng nghynhadledd flynyddol denantiaid leol i ddatrys problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ein stad leol. Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid (TPAS) Cymru yn y gorffennol, lle es Ers hynny rwyf wedi ymuno â Phanel i i weithdai a seminarau. Mwynheais hefyd Ymgynghorol y Tenantiaid, y Panel Rheoli a Gofal Stadau, Grwˆp Adborth Tyˆ Agored a'r gyfarfodydd tenantiaid o rannau eraill o Grwˆp Llywio Tenantiaid. Gymru, a dysgais lawer." Pan ddechreuais fynd i gyfarfodydd roeddwn Mae Paula and Heather ill dwy wedi elwa i'n swil a thawel iawn, ac ni fyddem erioed llawer drwy gyfranogi, gan gynnwys hybu wedi meddwl am siarad a dweud sut hyder, mwy o wybodaeth am amrywiaeth o roeddwn i'n teimlo am bethau. Y rhan fwyaf faterion a'r boddhad sy'n dod gyda 'dweud o'r amser roeddwn yn ddigon hapus i adael i eu dweud' am yr hyn sy'n effeithio arnynt yn bobl eraill siarad ar fy rhan, ond cefais, wrth i mi ddysgu mwy a mwy am bethau, fod fy eu cymunedau.
Os hoffech ddweud eich dweud a chymryd rhan, gallwch gysylltu ag Alison Winter’y Swyddog Cyfranogi drwy ffon 01792 635043 neu e-bost alison.winter@swansea.gov.uk neu gallwch anfon neges destun gyda'ch sylwadau ynghyd â'ch enw a'ch cyfeiriad i 07775 221453 38 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Newyddion Tai Lloches Codi arian yn Nhyˆ Dewi Sant
Barbeciw parti'r babi brenhinol yn San Clêr, Penlan
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae preswylwyr Tyˆ Dewi Sant wedi bod yn casglu arian mân i godi arian er Cronfa Ymddiriedolaeth Tyˆ Olwen. Cyflwynodd Mrs Joan Ford a Mrs Mona Parry siec ar ran tenantiaid Tyˆ Dewi Sant.
I ddathlu genedigaeth y babi brenhinol, cafodd rhai o drigolion Maes San Clêr, Penlan, farbeciw o selsig, byrgers a danteithion eraill. Dywedodd un preswylydd, Dorothy Williams, ei fod yn ddiwrnod da gyda bwyd da, cwmni da, a'i bod yn ffordd hyfryd o ddathlu'r enedigaeth.
Chwartercanmlwyddiant agoriad Tyˆ Caerloyw Roedd preswylwyr Tyˆ Caerloyw yn Abertawe ar eu gorau yn ddiweddar wrth iddynt ddathlu pum mlynedd ar hugain ers agor y cyfadeilad yn ôl ym 1988. Roedd Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru yn bresennol yn yr agoriad swyddogol, ac mae Pat Cullen yn cofio hynny'n dda. Meddai Pat, “Roedd y Tywysog Siarl yn ddyn dymunol iawn, a gwnaeth yr agoriad yn un cofiadwy. Sgwrsiom am fyw yma yn Nhyˆ Caerloyw, ac rwy'n cofio cael jôc gydag ef gan ddweud wrtho eu bod wedi tacluso'r ardd ar gyfer ei ymweliad, oherwydd roedd yn anniben cyn hynny, ac atebodd y byddant yn eu newid yn ôl ar ôl iddo adael.” Roedd y dathliadau'n cynnwys adloniant byw a chinio bwffe i bawb ei fwynhau. Aeth wyth o'r preswylwyr gwreiddiol sy'n dal i fyw yno i'r digwyddiad. www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 39
Dangosyddion Perfformiad Sut oedd ein perfformiad? Ystadegau yw Dangosyddion Perfformiad y mae'r Gwasanaeth Tai yn rhoi gwybod i denantiaid amdanynt bob blwyddyn. Dyma rai o ganlyniadau'r flwyddyn ariannol 2012/2013, gyda chanlyniadau 2011/2012 i'w cymharu. Dangosydd
2012/13
2011/12
13590
13609
278
221
Yr amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ailosod anheddau i'w rhentu neu a oedd yn aros am fân atgyweiriadau (diwrnodau gwirioneddol, gan gynnwys penwythnosau)
77.7 diwrnod
84.0 diwrnod
Swm yr ôl-ddyledion rhent a oedd yn ddyledus gan denantiaid cyfredol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
£850,187
£805,058
Swm y dyledion rhent a oedd yn ddyledus gan gyn-denantiaid ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
£386,658
£356,215
2.43%
2.29%
Nifer yr ymgeiswyr a gafodd gartref gan yr awdurdod lleol
1302
1202
Nifer tenantiaid yr awdurdod lleol a drosglwyddwyd i gartrefi awdurdodau lleol eraill
354
321
Nifer yr archwiliadau stryd a gynhaliwyd
7088
6610
Nifer yr archwiliadau eiddo a gynhaliwyd
3549
3117
Nifer y diwrnodau calendr ar gyfartaledd i gyflwyno addasiad ar gyfer tenant yr awdurdod lleol lle nad yw proses y Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn cael ei defnyddio
251 diwrnod
263 diwrnod
Canran yr aelwydydd digartref posib yr ataliwyd eu gwneud yn ddigartref am o leiaf 6 mis
49.3%
35.2%
213
290
Nifer yr anheddau a reolir gan yr awdurdod ar 31 Mawrth 2013 Nifer yr anheddau a oedd yn wag ar 31 Mawrth 2013
Ôl-ddyledion rhent fel % o'r cyfanswm
TNifer y prosiectau Adfywio Cymunedol a grwpiau cymunedol y gweithiwyd gyda hwy - a gynorthwyir yn flynyddol
Os oes gennych unrhyw sylwadau am y dangosyddion perfformiad hyn, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar dudalen 29.
40 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Ein gadael ni i mewn i'ch helpu chi Caniatáu gweithwyr atgyweirio i mewn i'ch cartref. Mae’r Gwasanaeth Tai yn ymrwymedig i ficrhau eich bod yn byw mewn cartref diogel. Er mwyn ein helpu ni, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn caniatáu i'r cyngor gael mynediad i'ch cartref er mwyn cyflawni atgyweiriadau a gwelliannau. Mae angen mynediad arnom i'ch cartref i gyflawni amrywiaeth o wiriadau gwasanaethu. Mae’r rhain yn cynnwys gwiriadau trydan, gwiriadau nwy, atgyweiriadau bach y gofynnwyd amdanynt gennych chi, gwaith mawr i wella eich eiddo - megis system wresogi newydd, weirio newydd, gwaith cegin neu ystafell ymolchi a llawer mwy. Efallai bydd arolygwr neu syrfëwr yn galw heibio i wirio pa waith y mae ei angen. Pan nad ydynt yn cael mynediad, gall hyn achosi oedi cyn i'r gwaith ddechrau. Wrth adrodd am atgyweiriad, nodwch eich holl fanylion cyswllt gan gynnwys rhif eich ffôn symudol, os oes gennych un, er mwyn i ni ffonio i drefnu amser cyfleus i ymweld. Ar gyfer rhai mathau o waith y byddwch yn dweud wrth y gwasanaeth tai amdano byddwch yn derbyn apwyntiad yn nodi'r amser y byddwn yn galw heibio. Mae'n bwysig iawn eich bod gartref i adael y technegydd i mewn - os na allwch fod yno, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r gwasanaeth atgyweirio er mwyn rhoi gwybod iddynt ac er mwyn i'r technegydd fynd i alwad arall a chwblhau eich un chi ar adeg sy'n fwy cyfleus i chi. Os ydych yn derbyn carden galw gan y cyngor, mae angen i chi ffonio'r rhif a ddarperir a threfnu amser iddynt alw heibio pan fyddwch chi ar gael. Efallai nad oeddech wedi gofyn am y gwaith gall fod yn waith y mae'r cyngor wedi'i drefnu ar gyfer eich cartref.
Wrth gwrs pan fydd gweithwyr neu dechnegwyr yn galw heibio, gwiriwch eu cerdyn adnabod. Bydd gan weithwyr y cyngor gerdyn adnabod gyda llun ohonynt arno. Os oes gennych unrhyw amheuon, ffoniwch eich Swyddfa Dai Ranbarthol i wirio. Bydd cwblhau atgyweiriadau i'ch cartref yn sicrhau bod y broblem yn cael ei hunioni'n gyflym er mwyn ei hatal rhag gwaethygu. Gall gollyngiadau achosi lleithder er enghraifft a gall atgyweiriadau bach ddatblygu'n beryglus os ni chânt eu trwsio. Bydd ailweirio trydanol yn sicrhau bod yr offer trydanol diweddaraf gennych yn eich tyˆ, a'u bod yn ddiogel a bydd yn sicrhau bod boeleri newydd yn fwy effeithlon a bod dwˆr twym yn llawer mwy hygyrch. Os oes gennych bryderon am adael pobl i mewn i'ch cartref gan nad ydych yn hollol siwˆr beth yw'r gwaith, yna ffoniwch eich Swyddfa Dai Ranbarthol a byddant yn cysylltu â'r tîm perthnasol a dod o hyd i'r holl wybodaeth i chi. Os ydych yn gweithio ac mae'n anodd i chi fod gartref i adael y gweithwyr i mewn yna ffoniwch eich Swyddfa Dai Ranbarthol a byddant yn ceisio trefnu apwyntiad arall sy'n cyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith. Gall ein gadael i mewn yn gyflym wneud gwahaniaeth mawr i'ch cartref, drwy ei wneud yn ddiogel. Hefyd gall gadael y cyngor i mewn y tro cyntaf hefyd wneud i'r gyllideb fynd ymhellach. Helpwch ni i'ch helpu chi.
Apwyntiadau ar gyfer Gwasanaethu Nwy Bydd pob tenant yn derbyn cerdyn yn y post yn nodi dyddiad ac amser rhwng 8am a 4pm. Gellir trefnu apwyntiadau AM neu PM trwy ffonio'r Adran Wresogi'n uniongyrchol ar 511011 gan roi rhybudd o leiaf 24 awr. Sicrhewch fod credyd ar y mesurydd a bod y tân nwy wedi'i ddiffodd cyn gwasanaethu'r nwy. Os oes angen unrhyw gyngor arnoch neu unrhyw wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â'r Adran Wresogi. Mae'r rhaglen Gwasanaeth Nwy yno i'ch diogelu chi. www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 41
Crynodeb o’r Gwaith Atgyweirio Materion atgyweirio a chynnal a chadw Mae atgyweirio a chynnal a chadw eich cartref yn flaenoriaeth i chi ac i ni! I wneud yn siwˆr eich bod yn gwybod yn union sut i roi gwybod am atgyweiriad, pa gamau y gallwch eu cymryd i gadw’ch cartref yn y cyflwr gorau posib, a sut i gysylltu â ni, byddwn yn cynnwys erthygl ym mhob rhifyn o Dyˆ Agored i roi’r wybodaeth a’r newyddion diweddaraf i chi.
Canlyniadau arolwg cwsmeriaid 2012/2013 Mae ein Tîm Atgyweiriadau Tai yn cynnal arolwg cwsmeriaid dros y ffôn bedair gwaith y flwyddyn i gasglu adborth yn ymwneud â phob agwedd ar y gwasanaeth atgyweirio. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi siarad â mwy nag 800 o’n cwsmeriaid, ac mae ciplun o’r canlyniadau isod:
Pa mor fodlon ydych chi â'r ffordd yr oedd y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai wedi ymdrin â'ch galwad?
% cyfartalog 2012/2013
Bodlon/Hapus/Hapus iawn
97%
Anhapus iawn/Anhapus
3%
Pa mor hapus ydych chi gyda gwaith y Gwasanaethau Adeiladu Corfforaethol?
% cyfartalog 2012/2013
Bodlon/Hapus/Hapus iawn
92%
Anhapus iawn/Anhapus
8%
Mae derbyn eich adborth yn bwysig iawn, oherwydd mae’n helpu i fonitro ansawdd y gwasanaeth, ac ar ben hynny mae’n helpu i’w lunio ar gyfer y dyfodol. Rhoir ystyriaeth i bob awgrym ar gyfer gwelliannau, a lle bo’n bosib, cânt eu rhoi ar waith. Os cysylltir â chi fel rhan o’r arolwg, cymrwch yr amser i roi cymaint o wybodaeth â phosib.
42 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Newydd symud i’ch cartref newydd? Rhowch wybod am unrhyw atgyweiriadau cyn gynted â phosib... Os ydych yn denant newydd, cofiwch roi gwybod am unrhyw atgyweiriadau cyn gynted â phosib yn eich tenantiaeth newydd. O fewn yr ychydig wythnosau cyntaf wedi arwyddo’r cytundeb tenantiaeth ar gyfer eich cartref newydd, byddwn yn trefnu'r rhan fwyaf o'r gwaith rydych yn rhoi gwybod i ni amdano. Efallai y bydd angen archwilio ambell beth ac efallai na chaiff y gwaith ei gwblhau ar unwaith, ond y peth pwysig yw gwneud yn siwˆr eich bod yn rhoi gwybod amdano cyn gynted ag y sylwch ar broblem. Cadwch hyn mewn cof, gwnewch restr a ffoniwch y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-5pm), neu rhowch wybod am atgyweiriadau ar-lein yn www.abertawe.gov.uk drwy glicio ar y botwm ‘Adroddwch’ amdano.
Dim trydan? canllaw gwiriad cyflym... Os byddwch yn colli’r cyflenwad trydan yn sydyn i rai ystafelloedd yn eich cartref neu bob un ohonynt, mae cwpl o wiriadau hawdd y gallwch eu gwneud i ddatrys y broblem ac atal gorfod galw trydanwr allan… l A yw’n effeithio ar rai ystafelloedd yn unig? Os felly, efallai fod bwlb neu ddyfais wedi achosi’r trydan i ‘dripio’. Gwiriwch eich uned ddefnyddwyr (mae fel arfer yn y gegin neu’r cyntedd), ac os oes unrhyw un o’r switsys torri cyflenwad yn wynebu i gyfeiriad gwahanol, ailosodwch y swits. Profwch eich dyfeisiau yn eu tro, newidiwch unrhyw fwlb sydd wedi torri, a dylai hyn amlygu beth achosodd y broblem. Bydd gosod bwlb newydd neu beidio â defnyddio’r ddyfais ddiffygiol yn atal y trydan rhag diffodd eto. Sylwer, os mai un o’ch dyfeisiau chi sy’n ddiffygiol, bydd angen i chi drefnu i drydanwr ymgymryd ag unrhyw atgyweiriadau eich hun. www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
l A yw’n effeithio ar yr eiddo cyfan? Os felly, efallai sod toriad pwˆer yn yr ardal. Gwiriwch gyda’ch cymdogion i weld a ydynt wedi colli pwˆer hefyd, ac os felly, ffoniwch eich cyflenwr trydan, a dylent allu rhoi mwy o wybodaeth i chi am ba mor hir y bydd y toriad pwˆer yn para. Sylwer, os mai un o’ch dyfeisiau chi sy’n ddiffygiol, bydd angen i chi drefnu i drydanwr ymgymryd ag unrhyw atgyweiriadau eich hun. Fodd bynnag, os nad oes un o’r awgrymiadau uchod yn gweithio, neu rydych yn poeni am ddiogelwch eich cartref, ffoniwch Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100 ar unwaith i drefnu i drydanwr alw heibio. Os yw hyn y tu allan i oriau, ffoniwch 01792 521500.
Sylwer hefyd bod angen i ni gynnal archwiliad diogelwch gwresogi blynyddol o hyd, hyd yn oed os ydych wedi cael boeler newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cysylltu ag atgyweiriadau tai
Cofiwch ei bod yn haws nag erioed roi gwybod am atgyweiriadau ar adeg sy’n gyfleus i chi, ddydd neu nos. Fel yr arfer, os ydych yn credu bod eich atgyweiriad yn argyfwng, ffoniwch ni’n uniongyrchol cyn gynted â phosib ar 01792 635100, neu os ydyw wedi 5pm, ffoniwch 01792 521500. Os nad yw eich atgyweiriad yn argyfwng, ffoniwch y Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai ar 635100 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am-5pm) i siarad ag asiant. Apwyntiadau gyda’r gwasanaeth Neu rhowch wybod am yr atgyweiriad ar-lein gwresogi yn www.abertawe.gov.uk drwy glicio ar ‘Adroddwch’ a dewis ‘Atgyweirio eich Cartref’ Fel landlord, mae gan y cyngor ddyletswydd o’r rhestr. Os ydych yn tanysgrifio i Sky neu gyfreithiol i wasanaethu eich system wresogi Virgin Media, gallwch hefyd roi gwybod am bob blwyddyn. Gyda chynifer o dai i’w atgyweiriadau drwy eich blwch pen set. gwasanaethu ar draws Abertawe, trefnir yr Cliciwch ar y botwm Interactive ar eich teclyn apwyntiadau ymhell ymlaen llaw, a byddwch yn derbyn cerdyn drwy’r post i roi’r dyddiad i chi. rheoli o bell a dewis ‘DirectGov’ os mai Sky sydd gennych, neu ‘Looking Local’ os mai Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus ac mae Virgin Media sydd gennych. Dewiswch ‘Quick angen i chi aildrefnu, neu os gallwch fod yn y Links’ yna ‘Housing Repairs’ o’r ddewislen tyˆ ar adegau penodol yn unig, ffoniwch yr ‘Adroddwch’. Prosesir ac ymatebir i bob cais adran wresogi cyn gynted â phosib ar 01792 ar-lein o fewn dau ddiwrnod gwaith. 511011 a byddant yn ceisio bodloni’ch cais.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 43
Meddwl am adeiladu dreif? Adeiladwyd sawl tyˆ yn Ninas a Sir Abertawe pan nad oedd llawer o bobl yn berchen ar gar; felly ychydig gartrefi'n unig a adeiladwyd gyda dreif neu rywle i barcio car. Os ydych yn meddwl am adeiladu dreif neu ardal llawr caled ger eich eiddo: 1. Rhaid i chi gael caniatâd gan eich Swyddfa Dai Ranbarthol 2. Os byddwch yn cael caniatâd, yna rhaid i chi drefnu gydag Adran Gwaith Stryd y cyngor i adeiladu “croesiad” a fydd yn galluogi i'ch car groesi'r palmant i'r dreif. Yn ôl y gyfraith (Deddf Priffyrdd 1980), rhaid i chi wneud cais am groesiad. Mae'n anghyfreithlon newid, addasu neu ddifrodi'r palmentydd a'r cwrbyn y tu allan i'ch eiddo - DIM OND yr Awdurdod Priffyrdd sy'n gallu gosod croesiad. Dylai'r canllawiau canlynol eich helpu gyda'r weithdrefn gwneud cais am groesiad a dreif: CAM UN Gwneud cais am ardal llawr caled/dreif
l Rhaid cael caniatâd y Swyddfa Dai Ranbarthol leol cyn adeiladu ardal llawr caled, a rhaid ei hadeiladu'n unol â manylion penodol. l Yn wahanol i'r croesiad, gallwch adeiladu hyn eich hun neu gyflogi adeiladwr o'ch dewis cyhyd â'ch bod yn bodloni'r manylion cywir. l Os cewch ganiatâd, yna gallwch wneud cais am ganiatâd i adeiladu croesiad. CAM DAU Gwneud cais am ganiatâd ar gyfer croesiad
l Gallwch gysylltu ad Adran Gwaith Stryd y cyngor mewn 3 ffordd: 1. Yn ysgrifenedig – Dinas a Sir Abertawe, Adran Gwaith Stryd, Ystâd Ddiwydiannol
44 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Players, Clydach, Abertawe SA6 5BJ 2. nue e-bost – highways@swansea.gov.uk 3. Rhadffon – 0800 132 081
l Bydd ffi o £62 i wneud cais (yn gywir ym mis Mawrth 2013) l Trefnir archwiliad i ddweud a yw'n bosib parhau a thrafodir costau a fydd hefyd yn cynnwys ffi osod a ffi gynllunio mewn rhai achosion. l Fel arfer cynhelir archwiliadau 2-3 wythnos ar ôl derbyn y cais a'r cadarnhad a bydd dyfynbris swyddogol yn dilyn. l Fel arfer bydd gwaith yn dechrau o fewn 8 wythnos o dderbyn y taliad. l Gallwch gael mwy o fanylion drwy gysylltu â'r uchod neu drwy fynd i wefan Cyngor Abertawe yn www.abertawe.gov.uk – cliciwch ar y ddolen Cludiant a Strydoedd – yna cliciwch ar y ddolen Priffyrdd, ffyrdd a phalmentydd – yna cliciwch ar y ddolen Mannau Croesi i Gerbydau. Gallwch weld rhifau ffôn y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol ar ein gwefan.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Cysgu mewn ystafelloedd lle mae cyfarpar nwy Yn ddiweddar rydym wedi bod yn ymwybodol, mewn rhai achosion, fod tenantiaid wedi bod yn cysgu lawr grisiau yn eu cartrefi, mewn ystafelloedd lle mae teclynnau nwy. Ar ôl ceisio cyngor gan Gas Safe, y rheoleiddwyr diogelwch nwy, dywedwyd wrthym ei fod yn erbyn rheoliadau diogelwch nwy i ganiatáu i rywun gysgu mewn ystafell gan wybod bod tân neu foeler nwy yno. Os ydym yn cael gwybod bod tenant yn cysgu mewn ystafell lle mae cyfarpar nwy, ni fydd dewis gan Is-adran Nwy ein Gwasanaethau Adeiladu ac Eiddo Corfforaethol (GAEG) nag ynysu'r system. Byddai hyn yn golygu na fyddai gwres na dwˆr poeth, mewn rhai achosion, yn y cartref (oni bai fod gan yr eiddo wresogydd troch), nes bod modd i ni adfer y sefyllfa. Mae angen i ni gymryd y cam hwn at ddiben iechyd a diogelwch oherwydd perygl gwenwyno gan garbon monocsid sydd wrth reswm yn gallu cael canlyniadau difrifol. Os oes angen ar hyn o bryd neu'n fuan i chi neu aelod o'ch teulu gysgu mewn ystafell lle mae cyfarpar nwy â ffliw agored, neu os ydych yn ansicr a yw'r cyfarpar yn gyfarpar â ffliw agored, cysylltwch â'ch Swyddfa Dai Ranbarthol cyn gynted â phosib i gael cyngor.
Problemau dyled? Gwasgwch y botwm. Mae mynd i’r afael a’ch dyled yn rhywyddach na feddyliwch. Bydd y Botwm Panig Dyled yn eich helpu i ymdopi a chael cymorth parod am ddim.
www.debtpanicswansea.org.uk Rhyngrwyd am ddim mewn unrhyw lyfrgell yn Aberatwe www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 45
Ardal Gymunedol Llanyrnewydd Mae Dinas a Sir Abertawe wedi trawsnewid ardal o dir ar gyfer tai yn Llanyrnewydd, Penclawdd yn ardal chwarae gymunedol. Cymerodd y prosiect, a ariennir gan y Loteri Fawr mewn partneriaeth â Chwarae Iawn, flwyddyn i'w gwblhau. Mae Chwarae Iawn, cymdeithas chwarae Abertawe a Chastellnedd Port Talbot, yn gweithio i wella cyfleoedd chwarae, hamdden ac addysgol i'r holl blant a phobl ifanc sy'n byw yn yr ardal. Gyda chymorth y plant a’r rhieni lleol, cliriwyd sbwriel, mieri a rwbel o'r ardal a gosodwyd offer chwarae naturiol newydd a ddewiswyd gan y plant. Mae bellach yn cael ei ddefnyddio'n aml gan y gymuned ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau'r plant yn barod.
Penclawdd, gwahoddwyd preswylwyr, Cynghorwyr lleol a sefydliadau partner i 'Barti yn y Parc' gyda balwˆns, bwyd parti a helfa wyau Pasg. Dywedodd un aelod o'r gymuned fod y parc yn 'wych a'i fod yn gadael etifeddiaeth am genedlaethau i ddod'. Mae'r ardal gymunedol yn ei dyddiau cynnar a gobeithir, gyda help Katie Harkness, Gweithiwr Chwarae'r Gymuned, a'r gymuned leol, y bydd y parc yn datblygu eto. Os hoffech fod yn rhan o'r datblygiad, cysylltwch â Katie Harkness drwy e-bostio Katie.harkness@swansea.gov.uk
Mae chwarae yn rhan bwysig o fywyd pob plentyn ac mae'n hanfodol ar gyfer datblygiadau cymdeithasol, emosiynol, deallusol a chorfforol. Trwy gael y lle newydd hwn, mae gan blant yr ardal le diogel i chwarae i ffwrdd o'r ffordd fawr a hefyd y cyfle i fod yn rhan o newid eu cymuned er gwell. Ar ddiwrnod y lansiad yn Llanyrnewydd,
46 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Sbwriel a Thipio'n Anghyfreithlon Mae'n bwysig bod pob tenant neu breswylydd ar ystadau yn gwybod y drefn ar gyfer casglu sbwriel ac ailgylchu Mae’n bwysig yn benodol i’r rhai sy'n byw mewn fflatiau heb ardaloedd biniau/ailgylchu dynodedig.
Arweiniad i'r Gwasanaeth Casglu Sbwriel: l Rhowch eich sachau ar ymyl y ffordd i'w casglu erbyn 7am ar eich diwrnod casglu. l Rhowch eich sachau wrth ymyl y palmant (oni bai fod gennych anabledd a bod Adran yr Amgylchedd yn gwybod am hyn) - ni allwn gasglu sachau o waliau, llwyni, dreifiau, ardaloedd glaswelltog cymunedol na gerddi. l Sicrhewch eich bod yn lapio gwrthrychau miniog yn ofalus e.e. gwydr sydd wedi torri a PHEIDIWCH Â rhoi nodwyddau/chwistrellau yn eich sachau sbwriel nac ailgylchu (NI ddylech roi'r rhain yn eich sbwriel cartref). Gall eich meddyg teulu/fferyllfa leol roi cyngor a chymorth i chi ynghylch gwaredu ar nodwyddau a biniau ar gyfer gwastraff miniog.
Mai echyd a diogelwch trigolion yn bwysig iawn i'r cyngor ac efallai y bydd yn rhaid i ni weithredu yn erbyn unrhyw drigolion sy'n rhoi eu sbwriel allan cyn y dyddiad casglu oherwydd gall achosi llanast neu hyd yn oed peryglu iechyd a diogelwch. Ystyrir sbwriel sy'n cael ei roi allan yn dipio'n anghyfreithlon a byddwn yn archwilio'r achos o dipio'n anghyfreithlon a allai arwain at Hysbysiad o Gosb Benodol.
Gallwn gyflwyno Hysbysiad o Gosb Benodol am faw cwˆn, tipio'n anghyfreithlon a sbwriel l Peidiwch â llenwi sachau sbwriel fel eu yn gyffredinol ac mae'r dirwyon yn amrywio bod yn rhy drwm (llai na 15kg). o £75 i £100. Y llys sy'n gorfodi'r dirwyon l Sicrhewch fod y sachau'n ddiogel rhag y hyn. gwynt ac anifeiliaid. Os bydd angen cyngor neu gymorth arnoch gyda'ch casgliadau sbwriel, ffoniwch 01792 635600, a bydd y staff yn hapus i'ch helpu.
Helpwch ni i gadw'ch cymdogaeth yn lân ac yn daclus.
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 47
Gwelliannau i Geginau ac Ystafelloedd Ymolchi Fel rhan o'r rhaglen i wella tai cyngor i Safon Ansawdd Tai Cymru, bydd ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn cael eu gosod yn y tai lle mae eu hangen. Yn dilyn rhaglen beilot gynharach, bydd y cynlluniau'n cynnwys 180 o gartrefi eleni, 600 y flwyddyn nesaf a nifer cynyddol dros y blynyddoedd nesaf.
os nad ydynt yn fodlon ar y dewis sydd ar gael. Cyn i'r gwaith ddechrau, dylunnir pob cegin i fod yn addas ar gyfer pob cartref unigol, sy'n caniatáu i denantiaid
Cynllun gwella
Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi
eleni yn canolbwyntio ar ardal Penlan, a'r flwyddyn nesaf bydd yn cynnwys Penlan ac ardaloedd yn Waunarlwydd. Fel rhan o'r rhaglen, caiff weld sut bydd popeth yn tenantiaid ddewis o dri edrych. 'phecyn' cegin, gydag opsiynau ar gyfer Mae cyfnod cyntaf y cynllun cypyrddau, wynebau gweithio a lloriau. Bydd yr ystafelloedd ymolchi newydd yn cynnwys bath, toiled a sinc newydd, yn ogystal â chawod dros y bath, rheiliau cawod, llenni a gwyntyll echdynnu. Dengys y ffotograffau un arddull gegin.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch y Tîm Partneriaeth Tai ar 01792 635117.
Gall y tenantiaid hefyd ddefnyddio'u teils eu hunain
48 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Gwiriadau diogelwch tân AM DDIM Er mwyn lleihau'r achosion o danau damweiniol yn yr ardal, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi dechrau rhaglen uchelgeisiol o Wiriadau Diogelwch Tân yn y Cartref. Bydd diffoddwyr tân a staff diogelwch tân cymunedol o'r gwasanaeth yn ymweld â chartrefi i roi cyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref ac i gyflenwi a gosod larymau mwg am ddim. Mae'r gwiriadau hyn yn gonglfeini rôl ragweithiol y gwasanaeth erbyn hyn yn ei ymgyrch i leihau nifer y marwolaethau a'r anafiadau a achosir gan danau damweiniol.
ymweld i gynnig cyngor ar sut i wneud eich cartref yn ddiogel. Mae gwiriad diogelwch tân yn cymryd oddeutu awr i'w gwblhau. Gall unrhyw sy'n byw yn Abertawe ofyn am ymweliad diogelwch tân yn y cartref.
Beth yw ymweliad diogelwch tân yn y cartref? Os ydych yn gofyn am ymweliad, bydd y Gwasanaeth Tân yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i
Ydych chi'n l bod y ymwybodo n cynnal th Tân y Gwasanae au/profion d ia il w h c r a n AM DDIM a d y tr i d e c blan wyddyn? fl y h it a w ddwy rhadffon if h r y h c ffoniw n. am fanylio
Pam gofyn am ymweliad? Os ydych yn poeni y gall eich cartref fod mewn perygl o dân neu'n gwybod am rywun y mae angen help arno, ewch ati i drefnu ymweliad. I drefnu ymweliad, ffoniwch 0800 169 1234 AM DDIM nawr www.tancgc.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Deg Awgrym Gorau 1. Gosodwch larwm tân a'i archwilio'n rheolaidd. 2. Lluniwch gynllun gweithredu tân fel bod pawb yn y tyˆ yn gwybod sut i ddianc os bydd tân. 3. Byddwch yn ofalus wrth goginio gydag olew poeth ac ystyriwch ddefnyddio peiriant ffrïo dwfn sy'n cael ei reoli gan thermostat. 4. Peidiwch â gadael canhwyllau wedi'u cynnau heb oruchwyliaeth 5. Sicrhewch fod sigaréts wedi'u diffodd a'u gwaredu'n ofalus. 6. Peidiwch byth â smygu yn y gwely. 7. Cadwch fatsis a thanwyr o afael plant. 8. Peidiwch â rhoi dillad yn agos at ddyfeisiau gwresogi. 9. Byddwch yn ofalus yn y gegin! Mae 59% o danau yn y cartref yn digwydd o ganlyniad i ddamweiniau wrth goginio. 10. Byddwch yn arbennig o ofalus pan fyddwch wedi blino neu os ydych wedi bod yn yfed.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 49
Llawr Rhad i'ch Cartref Ydych chi'n ei chael hi'n anodd fforddio carpedi ar gyfer eich cartref? Mae Greenstream Flooring yn gwmni menter gymdeithasol Cymreig sy'n cynnig teils carped i denantiaid, elusennau a busnesau am gost lai. Maent yn adfer miloedd o dunelli o deils carped rhag mynd i safle tirlenwi bob blwyddyn - mae'r rhan fwyaf mewn cyflwr da iawn neu'n newydd sbon a cheir pob math o liw a phatrwm. Ar ôl eu gosod, gall y teils carped droi llawr digarped, oer yn ystafell gynnes a chlyd am bris llawer is na charped confensiynol. Gellir prynu teils sbâr hefyd sy'n ddefnyddiol i'w cadw ar gyfer newid y teils yn y dyfodol os ydynt wedi treulio neu wedi'u difrodi.
50 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Gall gostio cyn lleied â £50 i osod carped mewn ystafell 15 metr sgwâr (heb gynnwys ffitio). Mae Greenstream Flooring, o ardal y Rhondda, yn cludo teils i Abertawe yn rheolaidd i nifer o denantiaid a busnesau sydd eisoes wedi elwa o'u prisiau cystadleuol.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Greenstream Flooring ar 01443 683123 neu ewch i'w gwefan yn www.findcarpettiles.co.uk
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
CY CYD
switch on to cheaper energy…
CYMR CYMRU Y U
WALES W A ALES TOGETHER T OGETHER OG ENERGY COLLECTIVE CYD CYDWEITHFA WEITHFA YNNI
ewidi h i ew newidiwch ynni n rhatach . . .
Sig Sign n up ttoday. oday. Collectively we save more. C ollectively w e can sa ve mor e. You could save between £60 and £250 off the cost of your household energy bill. By coming together to buy our energy in Wales, we can negotiate better deals and pass on the savings to you! There’s no obligation to switch, we will tell you how much you can save before you decide.
Cofrestrwch C ofrestrwch heddiw. heddiw. Gyda’n Gy da’n gilydd gilydd gallwn arbed arbed mwy. mwy. Gallech arbed rhwng £60 a £250 oddi ar gost biliau ynni eich cartref Drwy ddod ynghyd i brynu ein hynni yng Nghymru, gallwn sicrhau gwell bargen a throsglwyddo’r arbedion i chi! Does dim rhaid i chi newid, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint y gallwch ei arbed cyn i chi benderfynu.
www.cydcymru-energy.com www.cydcymru-energy.com www.cydcymru-egni.com www.cydcymru-egni.com
0800 093 5902 www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 51
Hoffech chi gael gostyngiad yng... ...Nghanolfannau Abertawe Actif, Bwytai, Taliesin, Theatr y Grand, Plantasia, yr LC, Siopau Beicio, 'H' Sports, Gwersi Syrffio a llawer, llawer mwy...?
Swnio'n dda?
Yna ffoniwch y Swyddog PTL ar 01792 635473 PTL (Pasbort i Hamdden) yw cynllun Cyngor Abertawe ar gyfer trigolion ar incwm isel. Mae'n cynnig gostyngiadau o hyd at 60% mewn amrywiaeth eang o leoliadau chwaraeon a hamdden y cyngor, yn ogystal â rhai partneriaid preifat.
Edrychwch faint y gallwch ei arbed gyda cherdyn PTL Parc Dwˆr Dosbarth Campfa Pwll Cenedlaethol yr LC yng NH Penlan Cymru Oedolyn
£7.00
£4.80
£4.20
Child
£4.00
£3.60
£2.85
PTL
£3.00
£2.40
£2.00
Gwersi Gower Surf Development (Syrff GSD)
£5 oddi ar wersi rhwng mis Ebrill a mis Medi
52 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
Edrychwch ar yr arbedion!
Schmoos Cycles
Theatr y Grand
15% oddi ar y pris manwerthu a argymhellir
Gostyngiadau penodol oddi ar sioeau penodol www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Felly, ydych chi'n gymwys i gael Pasbort i Hamdden? Ydych chi’n gallu ateb unrhyw un o'r cwestiynau hyn yn gadarnhaol? 4 Ydych chi’n derbyn Budd-dal Tai? Ydych chi'n derbyn Budd-dal Treth y Cyngor/Gostyngiad Treth y Cyngor? Ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm? Ydych chi'n derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm? Ydych chi'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth yn seiliedig ar Incwm? Ydych chi'n derbyn Credyd Pensiwn Gwarantedig? Ydych chi'n derbyn Credyd Treth Gwaith ac yn meddu ar gerdyn/tystysgrif eithrio credyd treth y GIG? Ydych chi'n derbyn Credyd Treth Plant ac yn meddu ar gerdyn/tystysgrif eithrio credyd treth y GIG cyfredol Oes gennych dystysgrif HC2 dan Gynllun Incwm Isel y GIG? Ydych chi'n geisiwr lloches? Ydych chi'n rhiant maeth? www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Ie? Yna gwnewch gais heddiw a dechrau arbed Galwch heibio un o'r lleoliadau canlynol: l Canolfannau Hamdden Penlan, Treforys, Penyrheol, Cefn Hengoed, Llandeilo Ferwallt l Eich llyfrgell leol l Theatr y Grand l Y Ganolfan Ddinesig
Ewch â'r canlynol: l Prawf eich bod yn derbyn budd-dal sy'n gymwys ar gyfer PTL l Prawf ar wahân o'ch cyfeiriad yn Ninas a
Sir Abertawe (Bil Treth y Cyngor/cyfleustodau) l Ffotograff maint pasbort diweddar ar gyfer
pob person l £2.00 yr un
Os hoffech gael mwy o fanylion am y cynllun PTL, ffoniwch Sue Tully ar 01792 635473 neu ewch i www.ptlswansea.com i lawrlwytho ffurflen gais. Gallwch hefyd godi llyfryn yn eich canolfan hamdden neu'ch llyfrgell agosaf.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 53
Ailgylchu yr hyn y mae angen i chi ei wybod Mae'r cyngor am ei wneud mor hawdd â phosibl i ailgylchu, felly rydym wedi rhoi sachau a biniau y mae eu hangen ar bob aelwyd i ailgylchu'r rhan fwyaf o'i gwastraff yn lle ei anfon i safleoedd tirlenwi drud. Angen mwy o sachau? Sachau gwyrdd a phinc Ceir streipen goch yng nghanol un o'r bagiau yng nghanol pob rholyn. Yna dylai'r criwiau ddod â sachau newydd i chi'n awtomatig. Leinwyr gwastraff cegin Rhowch y tag cofnodi o'r pecyn ar eich bin ar y diwrnod casglu. Dylai'r criw adael y pecyn wrth eich bin. Biniau a bagiau gwastraff cegin Os yw eich blwch wedi mynd ar goll neu wedi'i ddifrodi, gallwch gael un newydd am ddim. Gweler y rhestr isod. Bagiau gwastraff gardd Bydd y criwiau'n dychwelyd eich bagiau gardd i ochr y palmant. Bydd nodi eich cyfeiriad ar eich bag yn helpu'r criw i'w dychwelyd a dylech roi bricsen neu garreg arno fel nad yw'n chwythu i ffwrdd. Os bydd angen bagiau newydd neu ychwanegol arnoch chi, maent ar gael am 50c yr un. Er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o sachau a blychau, maent ar gael mewn nifer o leoedd. Mae biniau bwyd, sachau ailgylchu a bagiau gwastraff gardd ar gael o'r lleoliadau canlynol: l Y Ganolfan Ddinesig l Swyddfeydd Tai Rhanbarthol l Llyfrgelloedd l CH Hardware, Cilâ Gallwch gael biniau a sachau bwyd o: l Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet a Chlun l Ymddiriedolaeth Datblygu Gorseinon, Pentref Bryngwyn
l Canolfan Croeso Abertawe l Swyddfa Bost Crofty Ceir sachau ailgylchu yn y lleoliadau canlynol: l Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref l Canolfan Croeso'r Mwmbwls l Gorsaf Fysus, Fferm Gymunedol a Chanolfan yr Amgylchedd Abertawe ac maent hefyd ar gael mewn sawl un o'r lleoliadau canlynol: l Swyddfeydd Cymunedau'n Gyntaf l Cynghorau Cymuned a Marchnadoedd Cynnyrch l Swyddfeydd Post a Siopau Bach Lleol Cadwch lygad am y sticer pinc a gwyrdd "Sachau Ailgylchu Ar Gael Yma" yn y ffenestr! Sachau du Caiff y rhain eu dosbarthu unwaith y flwyddyn i bob cartref yn Abertawe. Os oes angen mwy o sachau arnoch, gallwch eu prynu hefyd o'r Ganolfan Gyswllt, Canolfan Ddinesig ac mewn Swyddfeydd Tai Rhanbarthol. Gallwch hefyd ddefnyddio sachau a brynwyd mewn siop, ond ni ddylech roi unrhyw fag sy'n pwyso mwy na 15kg allan. O 7 Ebrill 2014 gofynnir i aelwydydd osod dim mwy na thair sach ddu o wastraff allan ar gyfer y casgliad bob pythefnos. Bydd pob aelwyd yn derbyn taflen sy'n cynnwys gwybodaeth am y newidiadau i'r casgliadau sachau du. Bydd y cyngor hefyd yn cynnal cyfres o sioeau teithiol dros yr ychydig fisoedd nesaf i gynnig cyngor ac i annog preswylwyr i ymuno yn yr ymgyrch '3 i bob tŷ'. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, ffoniwch 01792 635600 neu ewch i www.abertawe.gov.uk/recycling
Am wybodaeth am sut, beth a phryd i ailgylchu, ewch i’r wefan www.abertawe.gov.uk/recycling 54 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
“Rhowch fag bwyd yn eich blwch cegin bach, a rhowch eich gwastraff bwyd ynddo ar oˆl pob pryd bwyd”
Plicion ffrwythau a llysiau Bagiau teˆ a gwaddodion coffi Plisg wyau Caws a chynnyrch llaeth Croen pysgod ac esgyrn Gwastraff cig ac esgyrn Bara wedi llwydo
“Pan fydd y bag yn llawn, clymwch ef i’w gau, a’i roi yn eich bin gwastraff Bwyd mawr y tu allan”
Gweddillion Bwyd Bwyd wedi’i goginio dros ben Tywelion papur a napcynau a lygrwyd gan fwyd
“Cadwch y ddolen yn y safle clo, a rhowch y bin ar ymyl y ffordd bob wythnos ar y diwrnod casglu”
Mwy o wybodaeth – Ffôn: 01792 635600 E-bost: ailgylchu.UCC@abertawe.gov.uk Gwefan: www.abertawe.gov.uk/recycling
Y Siop Gornel Mae'n siop unigryw oherwydd bod yr holl stoc wedi'i gwneud o eitemau dieisiau neu sydd bron yn newydd y mae preswylwyr wedi mynd â hwy i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref amrywiol i gael gwared arnynt. Mae'r Siop Gornel wedi bob yn boblogaidd iawn gyda phreswylwyr ac rydym wedi bod yn gwerthu cannoedd o eitemau bob wythnos. Mae'r stoc yn newid bob dydd ond mae llwyth o eitemau ar gael, o offerynnau cerdd i fyrddau, teganau, llestri a chelfi patio, gan gynnwys rhai eitemau newydd sbon. Mae'r fenter ailgylchu flaengar hon yn helpu i leihau swm y gwastraff cartref a anfonir i safleoedd tirlenwi ac mae'n rhoi bargeinion i breswylwyr.
Wel dewch â nhw i Siop Gornel Cyngor Abertawe yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet lle cânt fywyd newydd drwy gael eu gwerthu i gartref newydd. Roedd yr holl eitemau sydd ar werth yn y siop yn mynd i gael eu hailgylchu neu fynd i safle tirlenwi'n wreiddiol, ond maen nhw ar gael am brisiau sy'n fargen gyda llawer ar gael am £1! Mae'r arian sy'n cael ei godi o werthu'r nwyddau'n cael ei wario ar brosiectau addysgol y mae tîm ailgylchu'r cyngor yn eu cynnal i ddysgu plant am fanteision ailgylchu a rheoli gwastraff yn gynaliadwy. Mae'r stoc yn newid bob dydd ond mae pethau o ddodrefn, teganau, llestri, addurniadau, llyfrau, offerynnau cerdd a hefyd eitemau newydd sbon, yn aml ar gael.
33123-13 DesignPrint
Sefydlwyd y Siop Gornel ym mis Tachwedd 2012 yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Llansamlet.
Caiff eitemau eu gwerthu o £1 ac mae'r holl arian a godir yn mynd tuag at brosiectau addysgol i blant a gynhelir gan dîm ailgylchu'r cyngor. Mae'r Siop Gornel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 4.30pm. www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk
Dewch i gael bargen.
Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014 55
! !1% 2)#*, !,. 1! % #1-(!,% % ( 1 - ) !.$ 1! % !' !% . '2#/ 2) -#3' 2( $1%' #2 ) 1-(!,% % % -/. $*""!). # !' !/ .,%) .!#12 $2) # ) 2, /) 2( $1%' #2 ) -. "" % -/. ( !). 2) $*""% .,%) !%) 1-(!,% % 1, ( ! ( %1! , " 2(#2, $ "*) !,. 1! 1! % !' !% ' )-%* , , 12"'!/-.!, / , 2)#*, 2 !( 2) ,*!- 1/ !% $ *,.$ $%.$ / ) !) ).% % $*"" % , 2)#*, #'21! !% $ *,.$ .,12 # , % / +*-. *,.$ -2 ) !' !/ 2( , +/(
!1%
"
12-%
*- ,.$/ % '!*'% / , , 1- 2 %) # ) #2))12- -12 "!2 . % ,$ ) ,.$*' ''2",#!''*! )*'" )) / $ ( !) $2"'!/-.!, / !, %'' 2 2)#*, ) # ''1 $ #2(,2 ,$ ) $!"2 .,12 "2) % , 1!" ) 111 !,. 1! #*0 /& -1 )-! -. ) , - *!- #!))2 $ /),$21 -2'1 / ! *-.%1 $ 1 )-! -. ) , -1 )-! #*0 /& )!/ - "*) !,. 1! -1 )-! #*0 /&
12 2) -#3' 2, 2( $1%'
Bod yn gyfeillgar a thrin cwsmeriaid â pharch. Rhoi eich enw i gwsmeriaid. Mynd i'r afael â materion yn brydlon. Rhoi cyngor clir a defnyddio iaith glir. Ymddiheuro os ydym wedi gwneud rhywbeth o'i le.
56 Tyˆ Agored: Rhifyn 1 2014
www.abertawe.gov.uk/housing tai@abertawe.gov.uk