Mae’n anodd iawn ceisio cael ni i gyd yn barod i fynd mas yn y bore
Pe bai fy mhlentyn wedi dod gyda llawlyfr
Mae Tîm Partneriaeth Teulu Abertawe yma i famau, tadau a gofalwyr, gan gynnig cefnogaeth un i un a grwp. ˆ Cynhelir y grwpiau mewn lleoliadau gwahanol ar draws Abertawe.
ae l g i n w e m i Dewch wrs g s a d e n a p
BETH YW’R TÎM PARTNERIAETH TEULU?
Hoffech chi gael cefnogaeth gydag ymddygiad eich plant, rhai awgrymiadau ar gyfer trefn, heriau a pherthnasoedd teulu o ddydd i ddydd?
“Roeddwn i ar fy mhen fy hun fel tad; trwy fynd i’r gr wp ˆ magais i’r hyder i wybod fy mod i’n gwneud yn dda a fy mod i ddim ar fy mhen fy hun. Mae’r gr wp ˆ yn lle i mi siarad am fy mhroblemau a’m helpu i ddod o hyd i ffordd o fynd i’r afael â phethau.”
Mae’r tîm yn cynnig cefnogaeth un i un a grwp ˆ mewn lleoliad anffurfiol. Mae’r ddarpariaeth hon i dadau a gofalwyr sy’n wrywod mewn teuluoedd ag amrywiaeth o anawsterau a heriau sy’n effeithio ar fagu plant a bywyd teulu. Mae gofal plant am ddim ar gael. im yn “Dwi a mam fy mhlentyn dd wedi byw gyda’n gilydd ac mae no ar bod yn anodd iawn i ni gytu th y adegau. Mae cael cefnogae hyd i tîm wedi fy helpu i ddod o riau ffordd o fynd i’r afael â’r he dwi’n eu hwynebu bob dydd fel tad. Nawr mae gen i berthynas lawer gwell â’m plentyn a’i fam.” Tad a gafodd gefnogaeth ˆ un i un a gr wp
Mae’r grwpiau’n cynnwys:
Grwpiau Cymunedol Tadau Mayhill a Blaenymaes - amrywiaeth o bynciau sy’n effeithio ar fod yn dad
Tadau Cefnogol - rhaglen 8 wythnos sy’n ceisio cefnogi tadau i feithrin perthynas fwy cadarnhaol â’u plant
Tadau Gwych yn ysgolion cymunedol Sea View a Townhill
Men & Children Allowed yn Ysgol Gymunedol Blaenymaes
Can Cook Will Cook Family Man - yn edrych ar berthnasoedd iach â phartneriaid
Teen Start - yn cefnogi tadau yn eu harddegau
CEFNOGAETH I DADAU
Cefnogaeth i Dadau
Ydych chi a’ch partner, neu fam/dad eich plentyn yn dadlau’n gyson neu hyd yn oed yn ymladd? Hoffech chi ddod o hyd i ffyrdd o gyfathrebu’n well? Hoffech chi i’ch plentyn deimlo’n fwy diogel? “…wnaeth fy nhad ddim rhoi’r arweiniad i mi y dylwn i fod wedi’i gael ac, oherwydd y ffordd roedd e’n fy nhrin, o’n i’n meddwl bod ymddygiad tebyg yn dderbyniol gan ddynion eraill…”
Mae’r tîm yn cynnal grŵp Perthnasoedd Iach sy’n edrych ar sut mae cam-drin yn y cartref yn effeithio ar blant. Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth a’ch cefnogi i newid y ffordd rydych chi’n cyfathrebu ac yn magu plant gyda’ch gilydd.
Family Man
“Ces i ofn pan guddiodd fy merch fach rhagof i ryw ddydd, dywedodd hi fy mod i wedi codi ofn arni hi pan waeddais i ar ei mam a tharo twll yn y drws. O’n i’n meddwl mai’r drws o’n i’n taro, nawr dwi’n sylweddoli bod fy merch fach yn meddwl o’n i’n mynd i daro’i mam. Dwi ddim eisiau codi ofn ar fy merch fach…”
I dadau sy’n poeni am effaith bosibl eu hymddygiad ar eu plant Ydych c hi g w e id d ’n n e u ’n ta i ro adegau ar ? Os hoffech chi gael cefnogaeth i archwilio ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â’r materion hyn, cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu’r Tîm
Partneriaeth Teulu
PERTHNASOEDD IACH A FAMILY MAN
Perthnasoedd Iach
Cefnogaeth Un i Un
Dyw bod yn rhiant ddim yn dod gyda llawlyfr, ond mae’n gallu dod â llawer o hapusrwydd. Ydy rhai dyddiau’n fwy heriol? Hoffech chi gael cyfle i siarad â rhieni eraill, trafod rhai strategaethau i gefnogi’ch plant a dysgu technegau i reoli ymddygiad? Mae’r Tîm Partneriaeth Teulu’n cynnal grwpiau a allai helpu. Rydyn ni’n cyflwyno amrywiaeth o raglenni wedi’u gwerthuso, gyda hanes profedig o helpu rhieni i ddod o hyd i ffordd o wynebu’r heriau hynny a chefnogi eu plant i gyflawni eu potensial llawn. “Y cyfan y gallwn i ei glywed oedd fy hun yn gweiddi trwy’r amser. Ers mynd i’r gr wp, ˆ dwi wedi stopio gweiddi a dechrau gwrando.”
Ar gael i deuluoedd ag anawsterau magu plant ac mae angen cefnogaeth unigol arnynt. Gellir cyflwyno’r gefnogaeth yn eich cartref neu mewn lleoliad addas.
“Dysgais i i dderbyn fy mhlant fel maen nhw, nid fel dwi eisiau iddyn nhw fod.”
Rhai o’r rhaglenni rydyn ni’n eu cynnig:
• Blynyddoedd Anhygoel - Rhieni a Phlant Bach M a e ’r r • Gro Brain han f w y • Trin ymddygiad plant af o g r w p ia u • Bywydau teulu d a r p a r u ’n • Rhaglen parodrwydd p la n t a m g o fa l d ysgol a llu n ia d im e th • Magu hyder eich plentyn • STEPS
GRWPIAU FFOCWS TEULU
Grwpiau Ffocws Teulu
Mae’r Tîm Partneriaeth Teulu, mewn partneriaeth â’r Timau Bydwreigiaeth yn Dechrau’n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf, yn gweithio gyda rhieni i’w cefnogi wrth fagu plant. i bob rhiant. Nod y Mae bywyd yn anodd iliau magu plant a prosiect yw dysgu sg i hyder i alluogi rhieni gwybodaeth a magu rau wrth roi’r dechrau go ol on rs be n u’ yg bl at dd plant. posibl mewn bywyd i’w
Mae’r tîm yn gweithio gyda mamau a thadau’n unigol a/neu mewn grwpiau. Rydym yn cynnig cyfleoedd i rannu profiadau a datrys problemau wrth wynebu heriau dyddiol bod yn rhiant ifanc. Mae’r holl grwpiau’n rhyngweithiol ac yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd i gymdeithasu a bod yn rhan o’r gymuned ehangach.
Nodau: Adeiladu ar sgiliau a dulliau cyfathrebu presennol y teuluoedd i feithrin cadernid a chryfder yn y berthynas a’r teulu. Meithrin sgiliau datrys problemau’r teuluoedd i wella strategaethau ymdopi i geisio lleihau anghydfodau teulu ac atal chwalu teulu. Cynyddu hyder a dealltwriaeth y rhieni o’r sgiliau angenrheidiol i ddiwallu anghenion eu plentyn yn y dyfodol a datblygu amgylchedd cynnes, meithringar i’w plentyn gyrraedd ei botensial llawn.
RHIENI IFANC
Rhieni Ifanc
MAGU PLANT
Magu Plant Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau byr o faband i’r arddegau. Dyma rai enghreifftiau: Parentline Plus/ Family Lives amrywiaeth eang o gyrsiau ymarferol a gweledol i rieni.
Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol
Parodrwydd Ysgol nodi’r cyfnod pontio o Dechrau’n Deg i’r Cyfnod Sylfaen.
rhaglen 12 wythnos sy’n amlygu pwysigrwydd chwarae, canmol a rhyngweithio cadarnhaol cyn archwilio dulliau rheoli ymddygiad mwy strwythuredig.
STEPS rhaglen DVD 13 wythnos sy’n canolbwyntio ar ysgogiad ac ymddygiad dynol, a gynigir i rieni ar ôl ymyriadau blaenorol.
Trin Ymddygiad Plant cwrs 12 wythnos sy’n canolbwyntio ar strategaethau i rieni eu defnyddio gartref.
Am y tro cyntaf erioed, dechreuais i feddwl am beth dwi eisiau o fywyd
Mae’r gr wp ˆ yma wedi fy helpu gyda’m plant a’r pwysigrwydd i’w dysgu gartref ac yn yr ysgol
Dwi wedi magu hyder i gwrdd â phobl
Roedd hi’n anodd iawn i mi ddod i adnabod rhieni eraill a thrafod materion
Ers mynd i’r gr wp, ˆ dwi wedi magu hyder a dysgu trin sefyllfaoedd anodd yn wahanol. Mae’n hawdd mynd at y gweithwyr a byddan nhw bob amser yno i’m cefnogi a’m haddysgu os yw’n rhywbeth dwi ddim yn ei wybod
Mae’r gwasanaeth cefnogi wedi fy ngalluogi i ffurfio agwedd well a chadarnhaol ar fywyd a thadolaeth
Trwy’r gr wp ˆ tadau, dwi wedi gallu cofrestru ar gyfer llawer o weithdai sgiliau ymarferol. Mae’r cyfarfodydd gr wp ˆ wedi rhoi’r hyder a’r gallu i mi ddarganfod fy nghryfderau a’m priodoleddau. Dwi hefyd wedi gwneud ffrindiau newydd ac adnabod fy mhotensial
Cefnogaeth o safon i deuluoedd a rhieni sengl ym materion bywyd dyddiol. Mae’n darparu gweithgareddau i’ch galluogi i fynd mas, gan ddangos nad oes rhaid i chi wario arian i gael amser un i un gyda’ch plant
Eisiau bod yn dad gwell? Ymunwch â’r gr wp ˆ i fod cystal ag y gallwch fod
Mae pethau wedi newid cymaint ers i’r ail fab fynd i’r ysgol
Mae’r tîm yn wir wedi fy helpu i fagu llawer o hyder. Mae wedi helpu fy nheulu i ddod o hyd i lety a dodrefnu fy nhˆy trwy grantiau gydag eitemau hanfodol nad oedden ni’n gallu eu fforddio
Mae’r rhaglen yn gampus a dwi’n teimlo y bydd hi’n helpu llawer o rieni i baratoi eu plant cyn mynd i’r ysgol
Roedd clywed barn pawb am drafodaeth yn fy helpu i ddeall fy mod i ddim ar fy mhen fy hun
Dwi’n siarad â’m plant gyda’r parch maen nhw’n ei haeddu a dwi’n haeddu’r un peth yn ôl
(Dysgu) Mae gen i ddewis i reoli fy meddyliau ac emosiynau a dysgu ymateb a gwneud y penderfyniadau cywir i helpu fi a’r plant i fyw mewn cartref mwy cadarnhaol
ADBORTH
Tadau Gwych yw’r peth gorau sydd wedi digwydd i mi a’r wyres gan nad oedd ffiniau gyda hi cyn iddi hi ddod i fyw gyda ni
Manylion Cyswllt Defnyddiol Tîm Partneriaeth Teulu Gwasanaethau Ymyrryd yn Gynnar 5ed Llawr, Canolfan Oldway, 36 Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5LD Ffôn: 01792 635400 Ffacs: 01792 635997 E-bost: IntegratedPEIService@swansea.gov.uk
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ffôn: 01792 517222 E-bost: IntegratedPEIService@swansea.gov.uk
Dechrau’n Deg Ffôn: 01792 635400 E-bost: IntegratedPEIService@swansea.gov.uk