TŷAgored Rhifyn 2 2018
Y Cylchgrawn ar gyfer Tenantiaid a Lesddeiliaid y Cyngor
Mwynhewch yr awyr agored – gweler cysylltiadau lleol ar dudalen 6
Cyfeiriad dychwelyd: Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN
Y tu mewn
Croeso i Tŷ Agored
ERTHYGLAU Ffocws ar... Y TÎm Lesddaliadau ........ 1 Dewch Ar-lein Abertawe ................... 3 Debyd Uniongyrchol ........................... 4 Sut hoffech chi dderbyn Tŷ Agored? .. 5
CYSYLLTIADAU LLEOL
6
TENANTIAETHAU A STADAU Llais y Tenantiaid ................................. 8 Newyddion Tai Lloches ....................... 10 HomeSwapper .................................... 11 Colliers Way a Chwrt Trefor wedi’u hagor yn swyddogol .......................... 12 Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi? ... 13 Dulliau talu rhent ................................ 14 Gwasanaethau cefnogi ..................... 15 Gwybodaeth Gyswllt .......................... 16 Rhaglen taenellwyr ar gyfer blociau o fatiau uchel ..................................... 16 Canolfan Blant Golwg Y Mynydd ....... 17 Arolwg Tenantiaid 2017 ...................... 18 Holiaduron Gwaith Gwella ................ 20 Atgoffa am Atgyweiriadau ................ 21
CYNGOR CYFFREDINOL Adrodd am dyllau yn y ffordd a cherrig palmant sydd wedi torri neu wedi’u difrodi .............................. 22 TyĚ‚ T.O.P.I.C. ............................................ 22 Age Cymru Cynnes ac Iach ................ 23 Gwirfoddoli ......................................... 24 County Lines ........................................ 25 Mae PwĚ‚er i fyny! ................................. 25 Sut i atal galwyr diwahoddiad yn eich stryd .............................................. 26 Cynllun Arian yn Ă”l Cewynnau Go Iawn ................................................... 27 Gwastraff bwyd .................................. 28 Cysylltiadau Defnyddiol ..................... 30 CafďŹ Dros Dro a Siop dan yr Unto Gorseinon ................................... 31
CYDRADDOLDEB Allwn ni eich helpu? ........................... 31 GDPR - Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ............................................ 32 Arolwg Cyswllt Cwsmeriaid .............. 32 MAE’R HOLL WYBODAETH YNG NGHYLCHGRAWN TŶ AGORED YN GYWIR WRTH FYND I’R WASG.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Croeso i Tŷ Agored, y cylchgrawn ar gyfer tenantiaid a lesddeiliaid y cyngor. Gobeithio bydd y rhifyn hwn yn llawn cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol ond os oes gennych unrhyw awgrymiadau am yr hyn yr hoffech weld yn y dyfodol, peidiwch ag oedi i roi gwybod i ni. Rydym yn cynnal Grŵp Adborth Tŷ Agored ar ôl pob rhifyn felly cysylltwch â’n Swyddog Cyfranogiad os hoffech gymryd rhan (manylion cyswllt ar dudalen 9). Ar dudalen 12 ceir gwybodaeth am agoriad swyddogol Colliers Way a Chwrt Trefor gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Dyma’r datblygiad newydd o dai cyngor ym Mlaen-y-maes. Ar dudalen 18, ceir adborth o’n harolwg i denantiaid a manylion am y cynnydd a wnaed o ran ein gwaith gwella i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Hefyd ar dudalen 20, cewch wybod am farn tenantiaid mewn perthynas â’r broses o osod eu ceginau a’u hystafelloedd ymolchi newydd. Rydym wedi clywed bod galwyr diwahoddiad yn ymweld â rhai ohonoch wrth eich drws, a gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol ynghylch yr hyn i’w wneud os oes gennych alwyr diwahoddiad yn eich cymdogaeth ar dudalen 26. Yn olaf, os yw’n well gennych ddarllen Tŷ Agored ar-lein yn lle derbyn copi papur, rhowch wybod i ni. Mae T ŷ Agored hefyd ar gael i’w ddarllen yn www.abertawe.gov.uk/tai Rachel Cole, Golygydd
Cysylltiadau Defnyddiol Golygydd - Rachel Cole .......................................................... Y Ganolfan Gyswllt Atgyweiriadau ........................................ Atgyweiriadau Brys y tu allan i Oriau Swyddfa ..................... Uned Cefnogi Cymdogaethau 24 awr .................................. Opsiynau Tai ............................................................................. Canolfan Gyswllt yr Amgylchedd ........................................... Ymholiadau Budd-dal Tai .........................................................
635045 635100 521500 648507 533100 635600 635353
Rhifau Swyddfeydd Tai Rhanbarthol Swyddfa Dai Ranbarthol Eastside .......................................... Swyddfa Dai Ranbarthol Treforys a’r Clâs .............................. Swyddfa Dai Ranbarthol Sgeti ................................................ Swyddfa Dai Ranbarthol Townhill a Mayhill .......................... Swyddfa Dai Ranbarthol Blaen-y-maes ................................ Swyddfa Dai Ranbarthol Gorseinon ...................................... Swyddfa Dai Ranbarthol Penlan ............................................ Swyddfa Dai Ranbarthol Canol y Dref ................................... Swyddfa Dai Ranbarthol West Cross ..................................... Mae pob rhif ffôn yn Abertawe (01792)
791251 601720 516810 513900 534060 897700 582704 650486 402500
Cyfeiriadau E-bost Swyddfeydd Tai Rhanbarthol SwyddfaDaiRanbartholBlaenymaes@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholEastside@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholGorseinon@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholTreforys@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholPenlan@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholSgeti@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholTownhill@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholCanolyDref@abertawe.gov.uk SwyddfaDaiRanbartholWestCross@abertawe.gov.uk Os hoffech gael yr wybodaeth hon mewn fformat arall e.e. print bras, Braille, disg neu ddull arall, cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid Tai 01792 635045 neu ewch i’n gwefan www.abertawe.gov.uk/tai neu e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk Croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg a byddwn yn ymdrin â gohebiaeth Gymraeg a Saesneg i’r un safonau ac amserlenni.
Ffocws ar... Y Tîm Lesddaliadau
Dewch i gwrdd â’r Tîm Lesddaliadau, sy’n rheoli 636 o fflatiau lesddaliad ar draws Abertawe. Rosie Jackson, Uwch-swyddog Polisi a Lesddaliadau, yw rheolwr y tîm, ac Amanda Richards a Debbie Parry yw’r Swyddogion Lesddaliadau. Mae’r tîm yn cynnig nifer o wasanaethau i lesddeiliaid, gan gynnwys: • Ateb ymholiadau am delerau prydlesi • Cyflwyno anfonebau tâl gwasanaeth blynyddol ac ateb unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ffïoedd. • Cynnal ymgynghoriadau ffurfiol ar gynlluniau gwaith sylweddol • Darparu gwybodaeth i gyfreithwyr pan gaiff eiddo lesddaliad ei brynu a’i werthu • Mynd i’r afael â materion cymdogaeth megis: - Dadleuon rhwng cymdogion - Cwynion am erddi sy’n gordyfu - Gollyngiadau - Defnyddio ardaloedd cymunedol Rhan bwysig o rôl y Tîm Lesddaliadau yw ymgynghori â lesddeiliaid a rhoi gwybod iddynt pan gynllunnir gwaith sylweddol ar gyfer eich cartrefi. Mae’n rhaid i holl eiddo’r cyngor gydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020, sy’n cynnwys yr holl eiddo lesddaliad. Mae’r math o waith y mae angen ei wneud i fodloni’r safon yn cynnwys:
• Ailosod nwyddau dŵr glaw a byrddau tywydd Cynhelir proses ymgynghori ffurfiol ar gyfer pob cynllun gwaith sylweddol er mwyn rhoi gwybod i lesddeiliaid am yr hyn a gynllunnir ac er mwyn rhoi’r cyfle i chi gyflwyno sylwadau neu ofyn cwestiynau a/ neu fynegi pryderon. Bydd lesddeiliaid hefyd yn cael gwybod faint y disgwylir iddynt gyfrannu at y costau. Mae hyn oherwydd bod angen i chi dalu tuag at y costau fel rhan o delerau’ch prydles. Mae’r brydles hefyd yn nodi cyfran y costau rydych chi’n atebol amdanynt. Gall y gost hon fod yn sylweddol ar adegau ac mae’r cyngor yn deall y gall fod yn anodd i lesddeiliaid ei thalu’n uniongyrchol. Felly rydym wedi cyflwyno’r Cynllun Cymorth Lesddeiliaid i helpu i reoli’r gost. Dan y cynllun, efallai y gall y cyngor roi benthyciad i chi. Mae hyn yn eich caniatáu i dalu’n fisol dros gyfnod o amser. Os nad ydych yn gallu fforddio ad-dalu’r benthyciad, mae dewis hefyd i chi gael Benthyciad Rhannu Ecwiti.
• Gwelliannau diogelwch tân
Mae’r Tîm Lesddaliadau ar gael i’ch helpu gydag amrywiaeth o faterion a gallwch gysylltu â’r tîm drwy ffonio 01792 635223 neu 01792 635011 neu drwy e-bostio lesddaliad@abertawe.gov.uk, gan gynnwys:
• Gwaith amgylcheddol megis waliau terfyn a ffensys
• Cwestiynau am waith sylweddol
• Ailosod toeon ac atgyweirio simneiau • Darparu rendro allanol wedi’i inswleiddio
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
1
• Ymholiadau am y Cynllun Cymorth Lesddeiliaid • Cwynion am breswylwyr eraill sy’n achosi poendod neu sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol • Cwynion am ardaloedd cymunedol anniben • Gwneud cais yswiriant • Is-osod eich cartref Os oes angen i chi dalu anfoneb mewn perthynas
â’ch eiddo lesddaliad, gallwch ffonio’r Tîm Cyllid ar 01792 635847. Os oes angen i chi dalu’ch Rhent Tir gallwch ffonio’r Tîm Eiddo Corfforaethol ar 01792 637655. Os oes angen i chi roi gwybod am atgyweiriad y mae angen ei wneud ar ardal allanol neu gymunedol bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Gyswllt Atgyweiriadau Tai ar 01792 635100.
Cofiwch mai’r cyngor sy’n gyfrifol am atgyweirio ardaloedd allanol a chymunedol, a all gynnwys atgyweirio y tu allan i’r adeilad neu ardaloedd cymunedol, er enghraifft teils to wedi’u torri, cafnau wedi’u blocio, llwybrau cymunedol wedi’u torri, atgyweiriadau i waliau allanol etc.). Y lesddeiliaid sy’n gyfrifol am atgyweiriadau mewnol. Ond os nad ydych yn siŵr o rywbeth, ffoniwch y Tîm Lesddaliadau.
Eich sylwadau am gylchgrawn Tŷ Agored Oes gennych unrhyw sylwadau am y rhifyn hwn o gylchgrawn Tŷ Agored neu am unrhyw un o’r erthyglau yr ydych wedi’u darllen? Os felly, gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol: Gwasanaethau Tai, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN, Rhadbost RSCT-JJZH-KLJZ neu e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635045 Diolch am eich amser. Rhowch wybod i ni os ydych yn hapus i ni gyhoeddi eich sylwadau yng nghylchgrawn Tŷ Agored.
Problemau dyled? Gwasgwch y botwm. Mae mynd i’r afael â’ch dyled yn haws nag a feddyliwch. Bydd y Botwm Panig Dyled yn eich helpu i ymdopi a chael cymorth priodol am ddim.
www.debtpanicswansea.org.uk
2
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Am ddysgu sut mae manteisio i’r eithaf ar y rhyngrwyd? Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu!
Cymerwch ran yn y cyrsiau AM DDIM i ddechreuwyr er mwyn i chi ddod ar-lein Dysgwch sut mae manteisio i’r eithaf ar y rhyngrwyd, anfon e-byst, arbed arian, trefnu gwyliau, syrfďŹ o’r we, cyfathrebu â ffrindiau a theulu a llawer mwy. Cynhelir y sesiynau AM DDIM hyn gan diwtor cymwysedig mewn lleoliadau ar draws Abertawe, gan gynnwys llyfrgelloedd ac adeiladau cymunedol. Bydd pob cwrs yn para 2 awr yr wythnos am 5 wythnos. Maen nhw i bobl heb ddim proďŹ ad, neu â phroďŹ ad cyfyngedig o ddefnyddio cyfriďŹ aduron, iPads neu dabledi Android i’w helpu i ddod ar-lein. Gallwch gofrestru ar gyfer un o’r cyrsiau hyn: 1.
Cwrs cyfriďŹ aduron i ddechreuwyr - rydyn ni’n darparu cyfriďŹ aduron i’w defnyddio ar gyfer y cwrs
2. Cwrs Tabledi i Ddechreuwyr - dewch â’ch iPad neu dabled android eich hun i’w ddefnyddio ar y cwrs
I gael gwybodaeth am ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau cyrsiau, ffoniwch y TÎm Dysgu Gydol Oes yn Nhŷ Bryn ar 01792 470171 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:15am tan 2:30pm) Fel arall, gofynnwch i rywun gadw lle ar-lein i chi yn www.dewcharleinabertawe.co.uk
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
3
Ydych chi’n talu unrhyw un o’ch biliau trwy ddebyd uniongyrchol (e.e. ffôn symudol, treth y cyngor, trwydded deledu, Dŵr Cymru)? Mae’n hawdd gwneud yr un peth gyda’ch rhent! Mae nifer o fanteision talu eich rhent drwy ddebyd uniongyrchol, gan gynnwys: Cyeustra Os oes gennych gyfrif banc, dyma’r ffordd symlaf o dalu’ch rhent i’r cyngor. Ni fydd angen i chi dreulio amser yn ymweld â swyddfeydd tai’r cyngor neu swyddfa’r post.
Tawelwch meddwl Mae taliadau’n awtomatig, felly byddwch yn llai tebygol o golli taliad.
Helpu i reoli eich arian Rydych yn gwybod yn union faint o arian sy’n dod allan o’ch cyfrif, a phryd.
Mae’n hawdd sefydlu debyd uniongyrchol i dalu’ch rhent... Pan sefydlwch ddebyd uniongyrchol i dalu’ch rhent, mae’r cyfan yn cael ei wneud yn awtomatig, felly does dim rhaid i chi boeni. Dyma’r camau y mae angen i chi eu dilyn.
Cam 1 Cytunwch ar swm yr arian rydych chi eisiau ei dalu ar gyfer eich rhent.
Cam 2 Llenwch ffuren debyd uniongyrchol syml gyda’ch manylion banc. Cynhwyswch eich rhif cyfeirnod rhent. Mae’r cyngor yn cynnig dau ddyddiad talu bob mis – y 15fed neu’r diwrnod gwaith agosaf ar ôl y dyddiad hwn a diwrnod gwaith olaf pob mis – yn ogystal â debyd uniongyrchol wythnosol. Ar ôl i hyn gael ei wneud, cymerir yr arian o’ch cyfrif banc yn awtomatig ar y dyddiad cytunedig neu’r diwrnod gwaith nesaf os yw’r dyddiad talu’n digwydd bod ar benwythnos neu ŵyl banc.
4
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Gallwch sefydlu debyd uniongyrchol i dalu’ch rhent trwy: • ffonio’r TÎm Rhenti ar 01792 534094 • mynd i www.abertawe.gov.uk/ sutidalueichrhent i lawrlwytho ffuren • defnyddio ffuren bapur (cysylltwch â’ch swyddog tai neu’ch swyddog rhenti) Am fwy o wybodaeth, ffoniwch y TÎm Rhenti ar 01792 534094 neu e-bostiwch rhenti@abertawe.gov.uk
Cwestiynau Cyffredin Oes modd newid swm yr arian i’w gymryd? Ar Ă´l cyfnod rhybudd penodol, gall swm y rhent y caiff y cyngor ei gymryd gael ei addasu pan fydd angen. Gaiff y cyngor gymryd mwy o arian na dwi wedi cytuno arno? Bydd y cyngor ond yn cael cymryd y swm rydych wedi’i gytuno ac, os yw am newid y swm neu’r dyddiad casglu, mae’n rhaid iddo siarad â chi amdano gyntaf. Beth sy’n digwydd os yw’r banc yn gwneud camgymeriad? Mae’n sicr y cewch ad-daliad ar unwaith gan eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Yr enw ar hyn yw gwarant debyd uniongyrchol. Dyw fy nghyog ddim yn aros yr un peth bob mis, felly mae swm yr arian yn fy nghyfrif yn amrywio llawer. Gallwch sefydlu debyd uniongyrchol o hyd, ond efallai y bydd yn well i chi sefydlu taliad wythnosol. Beth sy’n digwydd os oes gen i Ă´l-ddyledion? Os oes gennych Ă´l-ddyledion, gellir talu swm ychwanegol at eich debyd uniongyrchol yn wythnosol neu’n ďŹ sol. Mae’r cais am hyn ar waelod y ffuren debyd uniongyrchol. Nid yw debyd uniongyrchol yn cael ei gymryd yn yr wythnosau rhydd, mae’n rhaid defnyddio dulliau eraill i dalu Ă´lddyledion yn yr wythnosau rhydd.
Sut hoffech chi dderbyn TyĚ‚ Agored? Caiff TyĚ‚ Agored ei ddosbarthu fel copi papur i dros 14,000 o denantiaid a lesddeiliaid. Mae hefyd ar gael mewn fformatau eraill fel CD a phrint bras neu ar ein gwefan. Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd i wella TyĚ‚ Agored ac arbed costau ar yr un pryd. Felly hoffem glywed gennych os yw’n well gennych ddarllen TyĚ‚ Agored ar-lein. Yn lle anfon copi papur, byddwn yn anfon e-bost atoch sy’n rhoi dolen i chi i’r fersiwn ar-lein ddiweddaraf. Yna gallwch ei ddarllen ble bynnag a phryd bynnag y mynnwch, gan ddefnyddio’ch ffĂ´n, eich tabled neu’ch cyfriďŹ adur personol - mae’n hawdd! Mae hyn yn ei wneud yn fwy hygyrch, yn gynaliadwy ac yn fwy cost-effeithiol gan y byddwn yn lleihau nifer y copĂŻau printiedig.
tai@abertawe.gov.uk Defnyddiwch y ffuren ar-lein https://www. abertawe.gov.uk/article/8030/Ffurenymholiadau-tai 01792 635045 Os ydych chi’n credu y byddech yn elwa o dderbyn un o’r fformatau eraill y soniwyd amdanynt uchod, cysylltwch â ni.
Os hoffech ddarllen TyĚ‚ Agored ar-lein, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r dulliau isod. Dyfynnwch ‘TyĚ‚ Agored ar-lein’ a rhowch y rhain i ni • Eich enw a’ch cyfeiriad • Eich cyfeiriad e-bost • Eich rhifau ffĂ´n CoďŹ wch ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i’ch manylion cyswllt. Os yw’n well gennych dderbyn copi papur o TyĚ‚ Agored, does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Croesawn eich sylwadau neu’ch syniadau eraill ar gyfer gwella TyĚ‚ Agored. Ysgrifennwch atom: Gwasanaethau Tai, Dinas a Sir Abertawe, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN Rhadbost RSCT-JJZH-KLJZ
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
5
CysylltiadauLleol Mae Cysylltiadau Lleol yn rhoi gwybodaeth am weithgareddau a gynhelir yn eich ardal. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau o’r hyn yr hoffech i ni ei gynnwys, cysylltwch â ni. Mae llawer o barciau i chi eu mwynhau yn ardal Abertawe a’r cyffiniau. O erddi hardd i barciau chwarae i blant, mae rhywbeth i bawb. Felly, ewch allan i’r awyr agored, mwynhewch yr awyr iach ac ymwelwch â’r detholiad eang o barciau sydd gan Abertawe i’w gynnig! Dyma rai awgrymiadau o barciau y gallwch ymweld â hwy...
Parc Brynmill Mae hwn yn barc poblogaidd iawn, heb fod ymhell o ganol y ddinas. Mae nifer o gyfleusterau yno gan gynnwys lawnt fowlio, ardal chwarae i blant, llyn a chiosg byrbrydau. Yn ogystal â hyn, mae ystafell ddosbarth awyr agored unigryw yn y parc - Y Ganolfan Ddarganfod. Yn ogystal â chelf a chrefft a gemau rhyngweithiol ar gyfer y plant, mae amrywiaeth o weithgareddau addysgol i oedolion hefyd. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys ffenest wydr fawr lle gallwch weld yr adar a’r bywyd gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol.
Gerddi Clun Mae Gerddi Clun yn cynnwys casgliadau cenedlaethol amrywiol o blanhigion mewn parcdir hardd, gyda nodweddion megis pont Japaneaidd, Tŵr y Llyngesydd a Chapel Clun. Mae golygfeydd panoramig o Fae Abertawe. Mae’n bwysig i chi wybod bod rhai llwybrau serth ac ardaloedd lle ceir grisiau a all fod yn anodd i ddefnyddwyr cadair olwyn a’r rhai sy’n gwthio cadeiriau gwthio.
Parc Cwmdoncyn Mae Parc Cwmdoncyn yn barc hardd yn ardal Uplands, Abertawe. Mae llawer o gyfleusterau yno megis cyrtiau tenis, lawnt fowlio, ardal chwarae i blant, ystafelloedd te yn ogystal ag amryw gyfeiriadau at Dylan Thomas, gan gynnwys carreg goffa â llinellau o ‘Fern Hill’ arni.
6
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Parc yr Hafod Mae lle gwyrdd agored mawr yn y parc hwn sy’n darparu digon o gyfle i chi ymestyn eich coesau neu fynd â’r ci am dro. Mae cyfleusterau da i blant iau a hŷn. Mae Ardal Gemau Amlddefnydd, lle chwarae i blant a lawnt fowlio hefyd.
Parc Jersey Mae amrywiaeth o gyfleusterau ym Mharc Jersey i chi eu mwynhau. Mae’r parc hwn y tu allan i’r ddinas yn darparu gwasanaeth a werthfawrogir gan gymuned leol St Thomas a Dan-y-Graig. Mae ardal chwarae i blant, cwrt pêl-fasged a lawnt fowlio yma.
Parc Treforys Bydd y parc hwn yn apelio at bob oed am fod ganddo amrywiaeth eang o gyfleusterau. Mae’r parc yn cynnwys llwybrau cerdded sy’n amgylchynu llyn hwyaid ac ardal bywyd gwyllt. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys: • Neidiau BMX/sglefyrddio • Cyfarpar ffitrwydd • Llyn • Ardal chwarae i blant • Lawnt fowlio
Parc Pontarddulais (Parc Coed Bach) Mae ardal Parc Coed Bach yn un y gall yr holl deulu ei mwynhau. Mae gan y parc goedwig hardd aeddfed lle gallwch gerdded yn hamddenol ar hyd y llwybrau cerdded. Hefyd mae ardal chwarae i blant, ramp sgefrfyrddio, caeau pêl-droed a rygbi, cyrsiau tenis a meinciau picnic. Mae rhywbeth yma i bob oed.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
7
Helô, fy enw i yw Alison Winter a fi yw’r swyddog cyfranogiad. Dyma f’adroddiad rheolaidd am gyfranogiad tenantiaid yn Abertawe, lle dwi’n rhoi newyddion a gwybodaeth i chi am grwpiau lleol a grwpiau ar draws y ddinas a’r sir.
Grwpiau / Digwyddiadau Lleol Cyfarfod Cymdeithas Preswylwyr Clyne Court Roedd Darren Whetton, Syrfëwr Rheoli Risg, yn bresennol yn y cyfarfod i drafod y gwaith arfaethedig gosod systemau taenellu yn y blociau. Dangosodd Darren y taenellwyr ac esboniodd sut maent yn gweithio. Trafododd y grŵp y gwaith adnewyddu parhaus hefyd ac roedd cyfle i’r bobl godi unrhyw ymholiadau.
Sesiynau Galw Heibio Blaen-y-maes Yn ystod mis Mai 2018, trefnodd Gwalia (Pobl) sawl sesiwn galw heibio yn 104 Rhodfa Broughton ar gyfer trigolion Blaen-y-maes, er mwyn ceisio eu barn am sut y gellir gwella’r ardal. Derbyniodd pob person
8
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
a oedd yn bresennol yn y sesiwn ac a gwblhaodd yr arolwg daleb gwerth £10 ar gyfer busnes lleol. Bydd Gwalia’n coladu’r wybodaeth a gasglwyd ac yn darparu adborth a chynllun gweithredu ar gyfer yr ardal, a fydd yn seiliedig ar eu canlyniadau.
Grwpiau ar draws y ddinas a’r sir Yn ystod cyfarfod diwethaf y Grŵp Adeiladau ac Atgyweiriadau, roedd Dave Meyrick, Rheolwr Gweithrediadau Technegol, yn siarad am y sawl cynllun gwahanol sy’n ymwneud â sicrhau bod y stoc tai yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Ynghyd â thrafod manylion y gwaith, dangosodd Dave luniau cyn ac ar ôl rhai o’r cynlluniau, gan gynnwys adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi, diogelu rhag y gwynt a’r tywydd a gosod toeon newydd. Roedd y grŵp yn gadarnhaol
ynghylch y gwelliannau sy’n cael eu cyflawni.
Panel Rheoli Stadau a Gofalu Amdanynt Trafododd Dave Meyrick y gwaith a fydd yn cael ei wneud yn yr ardaloedd o gwmpas eiddo’r cyngor gyda’r grŵp. Bydd y gwaith yn cael ei wneud dan y Rhaglen Cyfleusterau Allanol a’r cynllun amgylcheddol er mwyn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Roedd y grŵp yn frwdfrydig am y gwaith hwn ac amlygodd rai meysydd yn eu cymunedau a fyddai’n elwa o waith o’r fath. Trafododd Sarah Jordan, sawl pwnc gyda’r grŵp, megis nifer yr eiddo gwag sydd wedi cael eu defnyddio eto yn ystod y blynyddoedd diwethaf (1,400 yn ystod y pum mlynedd diwethaf) a sut mae’r cyngor yn ceisio gweithio gyda pherchnogion preswyl, gan ddarparu gwybodaeth iddynt am y math o gymorth sydd ar gael iddynt. Rhoddodd Sarah gyngor i’r grŵp ar y gwaith gosod systemau taenellu yn ein blociau uchel. Rhoddodd Dave Thomas, Rheolwr y Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, yr wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am y gwaith parhaus a’r partneriaethau sy’n bodoli gydag asiantaethau allanol megis yr heddlu. Esboniodd Steve Sawyer i’r grŵp am y tasgau niferus y mae’r gofalwyr stâd wedi bod yn eu cyflawni, gan gynnwys y prosiect torri a chlirio ym Mlaen-y-maes a’r broblem barhaus o dipio anghyfreithlon yn y ddinas.
Ymweliad Ysgol Gynradd Derbyniodd y Gwasanaeth Tai sawl llythyr gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Parklands mewn perthynas â diogelwch tân yn ein blociau uchel. O ganlyniad, trefnom i’n Syrfëwr Rheoli Risg, Darren Whetton, ymweld â’r ysgol i siarad â’r disgyblion. Roedd y sesiwn hon yn ddiddorol ac yn addysgiadol ym marn y disgyblion.
Adborth gan y tenantiaid Cyfarfu’r grŵp adborth, Tŷ Agored, i drafod rhifyn diweddaraf y cylchgrawn a rhoi awgrymiadau ar gyfer y rhifyn nesaf. Os hoffech gymryd rhan yn y trafodaethau hyn, byddem yn croesawu aelodau newydd. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon dod i gyfarfodydd y grŵp, gallwch fynegi’ch barn am
y cylchgrawn, Tŷ Agored, drwy ffonio neu e-bostio (gweler isod). Lle bo’n bosib, byddwn yn ceisio cynnwys eich awgrymiadau mewn rhifyn yn y dyfodol.
Ymgynghoriad ar wefan tai a llyfryn ceginau ac ystafelloedd ymolchi Ar ddechrau’r flwyddyn, cynhalion ni gyfarfod er mwyn ceisio adborth gan denantiaid am y llyfryn ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd ac ar ein gwe-dudalennau Tai. Rhoddodd y grŵp adborth cadarnhaol am y llyfryn, ac mae hwn bellach yn cael ei roi i bob aelwyd sy’n derbyn gwaith gwella. Mewn ymateb i awgrymiadau ynghylch y wefan, gwnaed sawl newid i we-dudalennau Tai i’w gwneud yn haws eu llywio. Hoffem ddiolch i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, rydym yn ddiolchgar iawn am eich adborth.
Cyfarfodydd Swyddfa Archwilio Cymru gyda grwpiau cyfranogiad tenantiaid Ymwelodd Swyddfa Archwilio Cymru â’r awdurdod ym mis Ebrill 2018 i gwrdd â sawl un o’n grwpiau cyfranogiad tenantiaid er mwyn ceisio eu barn a’u sylwadau ynghylch y gwasanaeth y mae’r awdurdod yn ei ddarparu a chynlluniau’r cyngor i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Gall unrhyw denant neu lesddeiliad fod yn aelod o Banel Ymgynghorol y Tenantiaid. Fel aelod bydd gofyn i chi roi eich barn am ddatblygiadau newydd yn y gwasanaeth neu newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau. Gellir gwneud hyn trwy holiaduron, trwy e-bost neu neges destun, neu drwy fynd i gyfarfodydd – dewiswch chi. Os hoffech fod yn rhan o banel ymgynghorol y tenantiaid, ffoniwch Alison Winter ar y rhif isod.
Os hoffech ddweud eich dweud a chymryd rhan, ffoniwch Alison Winter, y Swyddog Cyfranogiad, ar 01792 635043 neu e-bostiwch alison.winter@abertawe. gov.uk neu anfonwch neges destun gyda’ch sylwadau ynghyd â’ch enw a’ch cyfeiriad i 07775221453
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
9
Newyddion Tai Lloches Grant y Loteri Gyda help ei warden, cyflwynodd y Clwb Cymdeithasol yng nghyfadeilad Coed Lan yn y Crwys gais am grant gan y loteri. O ganlyniad, roedd aelodau Clwb Cymdeithasol Coed Lan wrth eu boddau i dderbyn £5,000 a oedd wedi’u galluogi i gael gwyliau 5 niwrnod yn Eastbourne yn ystod mis Mai 2018. Trefnwyd y wibdaith yn dda ac roedd yn pawb a aeth wedi’i mwynhau.
Parti’r Pasg yng Nghoed Lan Yn ystod y Pasg, cafodd Cyfadeilad Coed Lan barti go wahanol! Yn lle gwneud bonedi’r Pasg, buon nhw’n creu trefniadau blodau i’w beirniadu. Cafodd y preswylwyr amser hyfryd ac roeddent wedi mwynhau’r digwyddiad yn fawr.
Gloucester House yn dathlu 30 mlynedd Ar 11 Mai 2018, bu Gloucester House yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu. Cynhaliwyd parti a oedd yn cynnwys bwffe ac adloniant i’r tenantiaid. Roedd 3 o’r tenantiaid gwreiddiol sy’n dal i fyw yn Gloucester House sef Mrs Barbra Cullen, Mrs Betty Morgans a Mrs Eileen Coleman, yn bresennol yn y parti. Mwynhaodd y tenantiaid y prynhawn, gan rannu atgofion am eu ffrindiau presennol a rhai’r gorffennol. Rhoddwyd areithiau gan Mrs Cullen a’r Rheolwr Tai Lloches, Diane Thomas, a ddaeth i’r parti gyda’r Swyddog Cymdogaeth, Hayley James. Diolchodd y tenantiaid i bawb a fu’n rhan o’r trefniadau am wneud y diwrnod yn Gloucester House yn un i’w gofio.
Cyfeiriadur Dinas Iach Adnodd iechyd a lles cymunedol Abertawe Mae Cyfeiriadur Dinas Iach Abertawe’n adnodd ar-lein er mwyn i chi chwilio am amrywiaeth eang o sefydliadau a grwpiau sy’n gallu cefnogi iechyd a lles. Mae gan y Cyfeiriadur Dinas Iach un o’r rhestrau mwyaf cynhwysfawr yn Abertawe ar gyfer grwpiau, clybiau a sefydliadau sy’n gallu cynnig cefnogaeth, addysg ac anogaeth i chi deimlo’n iach ac yn dda. Defnyddiwch y chwiliad i ganfod gwybodaeth am ystod o sefydliadau cefnogi lleol a chenedlaethol.
www.healthycitydirectory.co.uk
10 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Eisiau symud cartref? Gall HomeSwapper eich helpu! Os oes angen i chi symud cartref, gall cyfnewid eich cartref â thenant arall fod yn gyymach nag aros am drosglwyddiad. Mae Cyngor Abertawe’n aelod o HomeSwapper, sef gwasanaeth cyfnewid cartref mwyaf y DU ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol sy’n aros i gyfnewid cartref yn lleol ac yn genedlaethol. Gall tenantiaid Cyngor Abertawe gofrestru a defnyddio’r gwasanaeth am ddim. Ewch i’r wefan www.homeswapper.co.uk neu lawrlwythwch yr ap Homeswapper am ddim o’r Apple App Store neu Google Play ar gyfer ffonau Android. Awgrymiadau: Roedd 90% o’r cyfnewidiadau llwyddiannus yn 2016 yn cynnwys o leiaf un llun o’r cartref. Ychwanegwch rai lluniau gan ei fod yn rhoi mwy o wybodaeth i bobl am eich cartref. Ceisiwch ddangos eich cartref ar ei orau - gofynnwch i chi’ch hun “beth mae hyn yn ei ddangos i rywun sydd heb weld yr ystafell hon o’r blaenâ€?. Daliwch y camera yng nghornel yr ystafell i geisio cael cymaint ag y gallwch yn y llun. Hefyd, coďŹ wch fewngofnodi i’ch cyfrif yn aml i wirio’r cyeoedd cyfnewid posib ac i sicrhau bod eich cyfrif yn aros ar waith.
Dyma 10 awgrym gorau HomeSwappers er mwyn cyfnewid yn llwyddiannus 1. Ymchwiliwch i’r ardal. Ysgolion, cludiant cyhoeddus, lleoedd chwarae, trafďŹ g. 2. Beth sy’n cael ei gynnwys? Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y tenant sy’n gadael yn mynd i adael llenni, nwyddau gwyn, etc. 3. Addurno. Ceisiwch gyfrifo costau addurno’ch eiddo newydd. 4. Math o denantiaeth. Gwiriwch pa fath o denantiaeth sydd gan y cartref rydych am symud iddo a sicrhewch eich bod yn gwybod pa fath sydd gennych ar hyn o bryd. 5. Rhent a biliau. Darganfyddwch faint yw’r rhent gall fod yn wahanol i’r gost mae’r tenant presennol yn ei thalu oherwydd y gallant fod yn derbyn budd-dal tai ychwanegol. Mae’n werth gofyn beth yw cost arferol y biliau, e.e. nwy a thrydan. 6. Cymdogion. Dyma un o’r pethau pwysicaf i’w
ystyried. A oes unrhyw wrthdaro neu broblemau sŵn? 7. Cywr. A oes unrhyw arwyddion o leithder? A oes angen cwblhau atgyweiriadau? A oes digon o le storio? A oes gwres canolog? A oes digon o gypyrddau yn y gegin? Gwiriwch dapiau, cawodydd, gwifrau trydanol, etc. 8. Materion cymhwysedd. A oes unrhyw gyfyngiadau oed neu gyfyngiadau symudedd? A yw’r eiddo wedi’i addasu ar gyfer anabledd ac nid yw hyn yn berthnasol i chi? 9. Gofynion deiliadaeth. Os yw’ch cartref yn rhy fawr neu’n rhy fach ar eich cyfer efallai na fyddwch yn gallu symud yno. 10.Pa mor ddifrifol yw’r person arall sy’n cyfnewid? Peidiwch â newid pethau mawr yn eich bywyd nes bod eich cyfnewidiad wedi’i gymeradwyo gan eich landlord a’ch bod wedi llofnodi’r gwaith papur.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
11
Colliers Way a Chwrt Trefor wedi’u hagor yn swyddogol Dechreuodd tenantiaid symud i mewn i’r tai newydd yn Colliers Way a Chwrt Trevor ym Mlaen-y-maes ar ddiwedd 2017 ac mae pob un o’r 10 tŷ â dwy ystafell wely a’r 8 fflat ag un ystafell wely bellach yn llawn. Agorodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y datblygiad yn swyddogol ym mis Mawrth 2018 a dywedodd, “Roeddwn i’n falch o allu cwrdd â phreswylwyr newydd Colliers Way a Chwrt Trevor a chlywed sut roeddent yn ymgartrefu yn eu tai ynnieffeithlon newydd o safon.”
ddyluniad ei hun – ‘Safon Abertawe’, a disgrifir y rhain yn eiddo ‘ffabrig yn gyntaf’, ynni-effeithlon.
Er mwyn cydnabod pwysigrwydd y cynllun, mae’r cyngor wedi derbyn grant dan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru a fydd yn gwrthbwyso peth o’r costau. Daeth gweddill y buddsoddiad o gyllideb cyfalaf tai’r cyngor, lle caiff arian rhent ei ailfuddsoddi er mwyn gwella miloedd o dai cyngor presennol a darparu rhai newydd.
“Bydd y tai newydd yn dilyn dyluniad Safon Abertawe yn hytrach na dyluniad Passivhaus. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni wrth ddenu contractwyr lleol ac, o ganlyniad i hyn, bydd hyn yn helpu i wella’n heconomi leol.”
Parc yr Helyg yng Ngellifedw fydd y datblygiad nesaf i’w adeiladu, lle mae’r cyngor yn bwriadu adeiladu casgliad o dai newydd. Bydd y cam diweddaraf yn dilyn adeiladu’r tai arloesol ‘Passivhaus’ yn Colliers Way. Mae tai wedi’u dylunio gan ‘Passivhaus’ yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel tai ynni isel ac mae’n rhaid i gontractwyr fod wedi’u hachredu er mwyn cymryd rhan yn y gwaith adeiladu. Mae’r cyngor bellach yn ystyried cyflwyno ei
12 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Meddai’r Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, “Ein nod yw parhau i ddatblygu tai cymdeithasol yn Abertawe y gall y cyngor a thenantiaid y dyfodol fod yn falch ohonynt.
Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi? Yn y rhifyn hwn o Dŷ Agored rydym yn cynnwys digwyddiadau a gynhelir ym Mhort Tennant yng Nghanolfan Gymunedol Port Tennant. Os oes unrhyw ardaloedd yn Abertawe yr hoffech eu gweld yn cael eu cynnwys mewn rhifynnau o Dŷ Agored yn y dyfodol, rhowch wybod i ni!
Boreau Coffi Bob dydd Mawrth, 9.00am - 11.30am Cyfle i’r gymuned ddod ynghyd yn wythnosol. Croeso i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Eglwys Gymunedol New Springs 01792 417110
Clwb Crosio Bob dydd Mawrth, 1.00pm - 3.00pm Cyfarfod grŵp cymunedol a gynhelir unwaith yr wythnos lle gall pawb wneud eu hoff weithgaredd crosio a gwau! Croeso i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Maureen Pridmore 01792 884642
Bingo Bob nos Fercher, 7.30pm - 9.30pm Mae’r grŵp hwn wedi bod yn cwrdd ers blynyddoedd ac mae bob amser yn chwilio am aelodau newydd. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Lynne Dicks 07941 431865
Os hoffech gymryd rhan yn y gwaith a wneir gan Ganolfan Gymunedol Port Tennant, cysylltwch ag Arron Bevan-John (Swyddog Datblygu Cymunedol) 01792 635449 arron.bevan-john@abertawe.gov.uk
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 13
Dulliau talu rhent Mae ffurenni ar gael ar-lein neu gallwch ofyn i’ch Swyddog Rhent amdanynt drwy ffonio 601720 / 534094 neu e-bostio rhenti@abertawe.gov.uk Bydd angen cerdyn talu electronig arnoch, gofynnwch i’ch Swyddog Rhent, neu ffoniwch ni ar 601720 / 534094. Ni fydd taliadau a wneir ar ddydd Iau neu ddydd Gwener yn dangos tan yr wythnos ganlynol Payzone - Gallwch ddefnyddio cerdyn electronig i dalu mewn unrhyw siop sy’n dangos logo payzone. Am restr o’r siopau hyn, ewch i www.payzone.co.uk Drwy gysylltu â’ch Swyddog Rhent Dros y rhyngrwyd
Dros y ffĂ´n
Yn eich swyddfa dai leol
Gallwch dalu drwy ddefnyddio cerdyn debyd, Switch, Solo, Maestro neu gredyd drwy ffonio 601720 / 534094 neu eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol yn ystod oriau swyddfa Ewch i wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk a chliciwch ar “Gwnewch e ar-leinâ€? a “Taluâ€?. Os cewch unrhyw anawsterau, ffoniwch 601720 / 534094 am gymorth Os ydych yn gwybod eich rhif cyfeirnod rhent, gallwch ffonio ein gwasanaeth awtomataidd Saesneg 0300 456 2765 / Cymraeg 0300 456 2775 ar unrhyw adeg. (Os nad ydych yn gwybod eich cyfeirnod rhent, ffoniwch 601720 / 534094) Yn y Ganolfan Ddinesig a’r Swyddfeydd Tai Rhanbarthol canlynol: Townhill, Sgeti, West Cross, Blaen-y-maes, Penlan, Canol y Ddinas, Treforys, Eastside (Gorseinon - taliadau â cherdyn yn unig) Os ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol, caiff eich Costau Tai eu talu i chi’n uniongyrchol gan yr AGPh. Ffoniwch yr AGPh ar 0345 600 0723 os nad ydych wedi derbyn eich costau tai
14 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Gwasanaethau cefnogi Cywyno cais newydd am Fudd-dal Tai
I gywyno cais newydd am Fudd-dal Tai, ffoniwch y TĂŽm Hawlio ar 635885 neu e-bostiwch newclaims4beneďŹ ts@swansea.gov.uk
Budd-dal Tai
Er mwyn trafod eich hawliad â Swyddog Budd-dal Tai, ffoniwch 635353 neu e-bostiwch beneďŹ ts@swansea.gov.uk
Swyddog Cynhwysiad Ariannol
Os ydych yn cael anhawster gyda thalu eich rhent, ffoniwch Lesley Jenkins ar 01792 534064 E-bost rhenti@abertawe.gov.uk
UCT - Uned Cefnogi Tenantiaid
Dinas a Sir Abertawe sy’n rheoli’r UCT, a all gynnig gweithiwr cefnogi i helpu gyda phroblemau ariannol neu unrhyw faterion cefnogi eraill gyda’ch tenantiaeth. Ffoniwch eich Swyddog Rhent neu’r Uned Cefnogi Tenantiaid 774360 os teimlwch fod angen cefnogaeth arnoch Cyngor ar Bopeth Abertawe Llys Glas, Stryd Pleasant, Abertawe SA1 1PE 08444772020 www.adviceguide.org.uk/wales.htm Os ydych wedi’ch bygwth â digartrefedd, cynigir cyngor a chymorth i chi am ddim 01792 469400 Llinell Gymorth Cyngor ar Dai 0845 800 4444 http://www.sheltercymru.org.uk/?lang=cy
Opsiynau Tai
Cyngor ar arian a dyledion - hefyd, rhoddir cyngor am ddim os yw’ch tenantiaeth mewn perygl. Galwch heibio i 17 Y Stryd Fawr, Abertawe SA1 1LF 01792 533100 opsiynautai@abertawe.gov.uk Cyngor ar ddyledion gan Stepchange 0800 138 1111 www.stepchange.org Yn Awyddus i Weithio - Gweithffyrdd - Os hoffech gael cyngor ar sut i ddod o hyd i swydd, ffoniwch Rhadffôn 0800 328 6370 neu 01792 637112. www.workways.co.uk Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 15
Gwybodaeth Gyswllt Efallai y bydd angen i’r cyngor gysylltu â chi o bryd i’w gilydd ynglŷn â’ch rhent, gwelliannau i eiddo neu faterion eraill sy’n gysylltiedig â thai, felly mae’n bwysig bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf fel y gallwn gysylltu â chi pan fo angen. Mae hyn yn cynnwys eich rhif ffôn cartref, eich rhif ffôn symudol a’ch cyfeiriad e-bost. Mae’r cyngor yn cysylltu mwyfwy â chwsmeriaid drwy anfon negeseuon testun. Mae llawer o adrannau’r Gwasanaeth Tai, fel y Swyddfeydd Tai Rhanbarthol, y Tîm Rhent, Opsiynau Tai a’r Uned Cefnogi Tenantiaid yn defnyddio negeseuon testun. Rydym yn gweld ei bod yn ffordd dda iawn o drosglwyddo negeseuon i denantiaid yn gyflym ac rydym wedi sylwi bod y rhan fwyaf o denantiaid yn ei gweld yn ffordd rwydd o ymateb i ni. Rhowch wybod i ni os bydd unrhyw un o’ch manylion cyswllt yn newid fel ein bod ni’n gallu diweddaru’n system a pharhau i gysylltu â chi pan fo angen i ni wneud hynny.
Rhaglen taenellwyr ar gyfer blociau o fflatiau uchel Mae Cyngor Abertawe wrthi’n gosod systemau taenellwyr ym mhob un o’i 11 bloc o fflatiau uchel. Roedd hyn yn rhywbeth a oedd wedi’i drefnu eisoes, ond yn dilyn y marwolaethau trasig yn y tân yn Nhŵr Grenfell, Llundain, blaenoriaethwyd y gwaith hwn. Mae’r systemau atal tân yn y blociau o fflatiau uchel eisoes o safon dda ac wedi’u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Tân. Bydd gosod y systemau taenellu yn parhau i wella diogelwch tân yn y blociau o fflatiau uchel hyn. Jeffrey’s Court ym Mhen-lan oedd y bloc cyntaf o fflatiau i elwa o’r taenellwyr hyn a dechreuodd y gwaith ym mis Chwefror a mis Mawrth 2018. Ar ôl llawer o waith caled ac ymroddiad gan ein gosodwyr a pheirianwyr mecanyddol a thrydanol, mae’r bloc hwn eisoes wedi’i gwblhau ac yn weithredol. Mae pob un o’r 40 o fflatiau, yr ardaloedd
16 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
cymunedol a’r tyllau grisiau bellach wedi’u diogelu rhag tân. Mae’r arbenigwyr diwydiant sydd wedi bod yn monitro cynnydd y gwaith yn Jeffrey’s Court wedi canmol safon uchel y gwaith a’r gorffeniad gan bawb a oedd yn rhan ohono ac maent hefyd wedi canmol gallu’r cyngor i gyflawni’r prosiect. Roedd cydweithrediad a chymorth y tenantiaid lleol a’r swyddfeydd tai yn golygu yr oedd y gwaith yn gallu cael ei gwblhau heb darfu braidd dim ar y preswylwyr gyda’r gosodiadau i bob fflat unigol yn cymryd diwrnod i’w cwblhau. Mae gwaith i osod taenellwyr yn Stryd Matthew yn Nyfaty bellach ar waith ac yn mynd rhagddo’n dda yn y ddau bloc. Bwriedir cwblhau’r gwaith yn ddiweddarach y flwyddyn hon ac unwaith y bydd wedi’i orffen, bydd gwaith yn dechrau yn Clyne Court, Sgeti.
Bydd yr adeilad newydd trawiadol hefyd yn gartref i Fferyllfa Mayhill, a bydd Cyngor ar Bopeth a Chymorth i Fenywod yn cynnal gwasanaethau o’r ganolfan.
Dydd Llun
Pob session AM DDIM / Galwch heibio neu galwch i gofrestru i ddod ar ein cyrsiau
9.30am - 11.30am
Aros a Chwarae Sesiwn llawn hwyl ar gyfer plant a’u gwarchodwr
1.30pm - 2.30pm
Sesiwn galw heibio am Wybodaeth a Chefnogaeth Sesiwn gyfeirio / gymorth ar gyfer rhieni a gofalwyr
Dydd Mawrth 9.30am - 11.30am
Bwyd Bendigedig Coginio bwyd iachus heb wario llawer. Rhiad cadw lle ymlaen llaw
9.30am - 11.00am
Chwarae Llanast Peidiwch â gwisgo dilad taclus - fe gawn hwyl ond bydd llanast
1.00pm - 3.00pm
Bympiau a Babanod yn cynnwys tylino’r corff Grŵp Babanod (wedi archwiliad 6 wythnos ar gyfer tylino’r corff)
1.30pm - 2.30pm
Ymwybyddiaeth ofalgar Sesiwn ymlacio - rhaglen 8 wythnos
3.30pm - 5.00pm
Hwyl ar ôl ysgol Rhaid cofrestru ymlaen llaw
Dydd Mercher 9.30am - 11.00am
Aros a Chwarae Sesiwn llawn hwyl ar gyfer plant a’u gwarchodwr
10.00am - 11.00am
Tylino Babanod Dysgwch sut i dylino corff eich babi (wedi archwiliad 6 wythnos)
1.00pm - 3.00pm
Crefftau 10 sesiwn wythnosol - cysylltwch â’r ganolfan er mwyn cofrestru ar gyfer lle
1.00pm - 2.45pm
Aros a Chwarae Sesiwn llawn hwyl ar gyfer plant a’u gwarchodwr
3.30pm - 5.00pm
Clwb Bwyd Dewch i fwynhau pryd o fwyd gyda’r teulu. Rhaid cofrestru ymlaen llaw
Dydd Iau 9.30am - 11.00am
Byw’n Iach Rhaglen 10 wythnos sy’n cynnwys siaradwyr ar gyfer nifer o bynciau gwahanol - rhaid cofrestru ymlaen llaw
3.30pm - 5.00pm
Hwyl ar ôl ysgol Rhaid cofrestru ymlaen llaw
Dydd Gwener 9.30am - 10.30am
Hwyl gyda’r Teulu Mwynhewch amser hwyl gyda’ch plentyn
10.30am - 11.30am
Sesiynau Canu Hwyl gyda cherddoriaeth yn cynnwys caneuon ac offerynnau. O enedigaeth
Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe SA1 6TD.
Ffôn. 01792 468584
F
am
taf yn
dd yn G oe
ili e s Fir
st
Mae Canolfan Iechyd a Phlant Golwg y Mynydd wedi cymryd lle’r hen ganolfan i deuluoedd ar Heol Mayhill, ac mae’n gartref newydd i feddygfa Mayhill. Mae’r ganolfan hefyd yn rhoi mynediad i breswylwyr i wasanaethau plant a theuluoedd ehangach, gan gynnwys grwpiau rhieni a phlant bach, clybiau ar ôl ysgol, cyrsiau bwyta’n iach a maeth a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau.
Canolfan Blant Golwg Y Mynydd
Teu lu
Mae canolfan gyfoes newydd sbon wedi agor yn ddiweddar yn Mayhill.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
17
Arolwg Tenantiaid 2017 Yn 2017, anfonwyd arolwg at yr holl denantiaid yn gofyn am eu barn am eu cartrefi, eu cymdogaeth, y ffordd y darperir gwasanaethau a’r hyn yr hoffent ei weld yn cael ei ddarparu yn y dyfodol. Diolch i’r holl denantiaid a gymerodd yr amser i gwblhau’r arolwg. Cwblhawyd a dychwelwyd cyfanswm o 2807 o arolygon i’r cyngor. Cafodd enillwyr y gystadleuaeth eu cynnwys yn argraffiad blaenorol Tŷ Agored. Dengys crynodeb o’r prif ganfyddiadau yn y diagramau isod:
AROLWG TENANTIAID CYNGOR ABERTAWE 2017 CRYNODEB O’R CANFYDDIADAU
CARTREFI AC YSTADAU
CARTREFI AC YSTADAU
88%
82%
59%
yn fodlon ar ymateb y Gwasanaeth Tai i ymholiadau
yn fodlon ar eu cymdogaeth fel lle i fyw ynddi
wedi gweld gwelliannau yn eu cartref neu eu hystâd
18% yn anfodlon
83% yn fodlon eu bod yn cael y newyddion diweddaraf gan eu landlordiaid
17% yn anfodlon Mae ymatebwyr am gael mwy o gyfle i leisio barn am: Faterion sy’n ymwneud â chyflwr eu cartrefi
64% yn ymwybodol o Safon Ansawdd Tai Cymru
Roedd tenantiaid yn fodlon oherwydd cymdogion da, ardal dawel a lleoliad sy’n agos at gyfleusterau Roedd tenantiaid yn anfodlon oherwydd diffyg lle i barcio, sbwriel, tipio anghyfreithlon, baw cŵn a cheir/beiciau modur yn rasio Roedd tenantiaid am weld cyfleusterau megis parcio, lleoedd digonol a diogel i blant a ffyrdd/ llwybrau cerdded yn cael eu gwella
80% yn fodlon ar gyflwr cyffredinol eu cartrefi
20% yn anfodlon
Gwnaed gwelliannau i gartrefi ar ffurf y canlynol:
16% ceginau newydd 41% ystafelloedd ymolchi newydd 34% ailwefru
78% yn fodlon ar y canlyniadau
22% yn anfodlon
80% yn fodlon ar yr wybodaeth roeddent wedi’i derbyn cyn dechrau ar y gwaith
20% yn anfodlon
AM FWY O WYBODAETH, EWCH I WWW.ABERTAWE.GOV.UK
Yn gyffredinol roedd canlyniadau’r arolwg yn gadarnhaol ond rydym yn ymwybodol ein bod yn gallu gwneud mwy ac rydym am wneud gwelliannau pellach i’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Mae’r cyngor wedi cytuno ar gyllideb 3 blynedd gwerth £157 miliwn er mwyn gwneud gwelliannau i gartrefi i sicrhau eu bod yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020. Er bod 64% o denantiaid yn ymwybodol o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) mae nifer o bobl nad ydynt yn ymwybodol ohoni. Ceir gwybodaeth ar wefan y cyngor am y math o waith sy’n rhan o’r safon, pryd caiff ei gynllunio ac ym mha ardaloedd o’r ddinas. Mae hyn yn cynnwys y rhaglen ar doeon, ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, weiro trydanol, boeleri gwresogi newydd a larymau mwg newydd. Gwnaethom gwrdd â rhai tenantiaid i drafod y wefan ac rydym bellach wedi gwneud rhai newidiadau iddi er mwyn ei gwneud yn haws i’w deall, ac i sicrhau ei bod yn rhoi mwy o wybodaeth.
18 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn a gwaith cynlluniedig ar gyfer y dyfodol Gwneir gwaith allanol a mewnol i eiddo lle y bo angen fel eu bod yn bodloni’r SATC. Efallai bydd rhai eiddo eisoes yn bodloni’r safon ac ni fydd angen gwaith arnynt, ond gall fod angen llawer o waith ar rai eraill. Hysbysir tenantiaid yn unigol ymlaen llaw o ran pa waith a gynigir ar gyfer eu cartref, gan gynnwys dyddiadau dechrau posib a phwy fydd y contractwr. Dengys y tabl isod grynodeb o’r gwaith a gwblhawyd hyd yn hyn a gwaith cynlluniedig ar gyfer y dyfodol: Y math o waith i’w gyawni
Nifer a gwblhawyd hyd yn hyn
Nifer i’w cwblhau dros y 3 blynedd nesaf, hyd at 2020
Toi
12,737
782
Ffenestri
13,519
0
Drysau allanol
13,519
0
Ceginau
8,844
4,675
Ystafelloedd ymolchi
6,024
7,495
Gwresogi/boeleri
13,221
298
Ailwefru
13,478
41
Larymau mwg
13,519
0
Cyeusterau allanol/gerddi
5,300
8,219
satc, Yn ogystal ag edrych ar y wefan yn www.abertawe.gov.uk/satc, wy o gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddfa dai ranbarthol leol i gael mwy wybodaeth am unrhyw waith a gynllunnir ar gyfer eich cartref. Mewn perthynas â’n cynlluniau ceginau ac ystafelloedd ymolchi,, rydym hefyd wedi adolygu’n llyfryn gwybodaeth yn ddiweddar ac rydym yn falch o glywed bod 80% yn fodlon ar yr wybodaeth a dderbyniwyd cyn cwblhau unrhyw waith. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw syniadau o ran sut gallwn ni wella hyn ymhellach, rhowch wybod i ni. Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth i’r gwaith hwn gael ei gwblhau, mae’r TĂŽm Gwelliannau Tai ar gael i’ch helpu. Bydd eich Swyddog Gwelliannau Tai yn cywyno’i hyn cyn i unrhyw waith ddechrau. Gallwch eu ffonio ar 01792 635117 neu e-bostio HousingILT@swansea.gov.uk er mwyn gallu datrys unrhyw broblemau. Yn yr arolwg meddai tenantiaid eu bod am leisio eu barn dd am faterion mewn perthynas â chywr eu cartreďŹ , ond dywedodd d rhan. h B dd h yn 81% o denantiaid nad oedd ganddynt ddiddordeb mewn cymryd Byddwch ymwybodol nid oes angen i chi fynd i gyfarfodydd ffurďŹ ol i ddweud eich dweud ond rydym yn ddiolchgar os ydych yn rhannu’ch barn â ni fel y gallwn wella’n gwasanaeth. Byddwn yn dechrau ar adolygiad o’r ffordd rydym yn darparu’n gwasanaeth tai a hoffem i chi gymryd rhan. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut gallwn wella’n gwasanaeth yn y dyfodol rhowch wybod i ni drwy e-bostio tai@abertawe.gov.uk neu os hoffech ymuno yn y drafodaeth yn ein cyfarfodydd tenantiaid/rhanddeiliaid, ffoniwch Alison Winter ar 01792 635043.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 19
Holiaduron Gwaith Gwella Anfonwyd holiaduron bodlonrwydd at y tenantiaid a dderbyniodd gegin ac/neu ystafell ymolchi newydd rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2017 a gwaith selio rhag y gwynt a’r tywydd er mwyn cael eu barn ar y gwaith gwella a gyflawnwyd i’w cartrefi. Dyma grynodeb o’r canlyniadau ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
Gwaith selio rhag y gwynt a’r tywydd Derbyniwyd 73 o ymatebion. Dywedodd 94% fod y gwaith wedi gwella golwg eu cartrefi a golwg yr ardal yn gyffredinol. Teimlai 91% fod y gwaith a gynhaliwyd yn eu cartrefi a safon y gwaith gorffenedig hwnnw’n ‘foddhaol, yn dda neu’n ardderchog’. Dywedodd 48% ei fod yn ‘ardderchog’. Y datganiad gyda’r sgôr isaf eto oedd ‘pa mor dda yr oedd y tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wneir a’r cynnydd yn ystod cyfnod y gwaith’ gyda dim ond 62% yn dweud ei fod ‘yn foddhaol, yn dda neu’n ardderchog’.
20 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Atgoffa am Atgyweiriadau Mae’n hawdd adrodd am atgyweiriadau ar-lein ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le: www.abertawe.gov.uk/caisamwellacartref Y ffordd gyymaf o adrodd am atgyweiriad yw trwy fynd ar-lein. Mae’r wefan yn addas ar gyfer ffonau symudol ac yn berffaith os ydych hwnt ac yma oherwydd gallwch ei defnyddio ar amser ac mewn lle sy’n gyeus i chi. Os na allwch fynd ar-lein, gallwch hefyd ffonio’r Ganolfan Alwadau Atgyweiriadau Tai ar:
01792 635100 Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30am - 5.00pm, ac 8.30am - 4.30pm ar ddydd Gwener
Atgyweiriadau brys Atgyweiriad brys yw unrhyw broblem a allai beri anaf difrifol i chi neu unrhyw un yn eich cartref. Gellir adrodd am y rhain dros y ffĂ´n ar y rhif uchod yn unig. Ar gyfer gwasanaeth y tu allan i oriau (dydd Llun i ddydd Iau, 5.00pm - 8.30am ac o 4.30pm ar ddydd Gwener i 8.30am ar ddydd Llun) ffoniwch
01792 521500 Os oes gennych ymholiad am ba atgyweiriadau y byddwn yn eu gwneud, mae angen diweddariad arnoch am atgyweiriad rydych eisoes wedi adrodd amdano neu mae angen cyngor cyffredinol arnoch ar atgyweiriadau, e-bostiwch hrcc@swansea.gov.uk neu ffoniwch y rhif uchod.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 21
Adrodd am dyllau yn y ffordd a cherrig palmant sydd wedi torri neu wedi’u difrodi Gallwch adrodd am dyllau yn y ffordd ar-lein www.abertawe.gov.uk/adroddamdwllynyffordd Gallwch roi gwybod am broblem o ran arwyneb ffordd neu lwybr troed sydd wedi’i ddifrodi ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/article/6856/Adrodd-amgerrig-palmant-sydd-wediu-difrodi-neu-sydd-wedi-torriar-lein neu’n bersonol yn y Ganolfan Ddinesig. Mae angen gwybodaeth glir arnom am leoliad a siâp y twll/difrod fel y gallwn ddod o hyd iddo a’i atgyweirio mor gyym ag y gallwn. Rhowch enw’r stryd wrthym a defnyddiwch fap neu disgriďŹ wch ei leoliad. Gallwch dynnu llun ar eich ffĂ´n clyfar a’i lanlwytho a disgriďŹ o’r lleoliad e.e. y tu allan i ba eiddo, a yw yng nghanol y ffordd neu ger ymyl y ffordd ac ar ba ochr o’r ffordd. Er bod enw stryd yn hanfodol, po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi, mwyaf tebygol y gallwn ddod o hyd iddo a’i atgyweirio.
TyĚ‚ T.O.P.I.C. Canolfan Wybodaeth i Bobl HyĚ‚n Gweithgareddau cymdeithasol Boreau cofďŹ Bingo Dosbarthiadau Clwb gemau Ciniawau Bowls A llawer mwy...
Mae croeso cynnes yn aros amdanoch! Gallwch ddod o hyd i ni yn: 56-58 Cilgant Teilo Mayhill
22 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
s 9DYCHCHI NUNIG s (OFFECHCHI gwrdd â phobl newydd s .IDOESRHAIDICHI fyw yn Townhill
Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am - 4.00pm
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 23
Gwirfoddoli Oes gennych chi unrhyw amser sbâr? Hoffech chi wneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Ydych chi erioed wedi ystyried gwirfoddoli? Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’ch bywyd chi a bywydau’r rhai o’ch cwmpas. Yn ogystal â bod yn broďŹ ad difyr sy’n rhoi boddhad i chi, mae hefyd yn:
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe (CGGA) yn cefnogi gwirfoddoli yn Abertawe a gallant eich helpu i ddod o hyd i’r cye gorau ar eich cyfer chi. www.cgga.org.uk 01792 544000
• Rhoi ymdeimlad mawr o gyawniad i chi • Cye i gwrdd â phobl newydd • Ffordd i ddefnyddio’r sgiliau sydd gennych neu i ddysgu rhai newydd • Cye i wneud gwahaniaeth yn y gymuned Nid yw gwirfoddolwyr yn cael eu talu am y gwaith maent yn ei wneud, ond gallent gael mân dreuliau megis costau teithio.
Gwirfoddoli Cymru byddant yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am wirfoddoli yn ogystal â’r cyeoedd sydd ar gael yn eich ardal. Os hoffech gysylltu ag unrhyw un am wefan Gwirfoddoli Cymru volunteering-wales@wcva.org.uk neu ffoniwch y Ddesg Gymorth ar 0800 2888 329
Gwirfoddoli a Budd-daliadau Fel arfer, gall pobl sy’n derbyn budd-daliadau wneud gwaith gwirfoddol heb iddo effeithio ar eu budddaliadau, a gall gwaith gwirfoddol priodol gyfrif tuag at ‘chwilio am waith’. Fodd bynnag, os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol - ond nid Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn - rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith ac mae’n bosib bydd amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni fel rhan o’ch Ymrwymiad Hawliwr er mwyn parhau i dderbyn eich budd-dal.
24 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
County Lines Mae ‘County Lines’ yn fater sy’n tyfu’n genedlaethol. Mae’n broses lle mae gangiau’n defnyddio pobl ifanc neu ddiamddiffyn i gludo a gwerthu cyffuriau dros ffiniau sir. Mae’n ddull a ddefnyddir i hwyluso gwerthu cyffuriau gan gangiau y tu allan i’r ardal lle maent yn byw, felly’n lleihau’r risg ohonynt yn cael eu dal. Mae bron bob amser yn cynnwys cam-fanteisio ar bobl ddiamddiffyn, oedolion a phlant fel ei gilydd.
ddefnyddio brawychiad, trais, taeogaeth dyled a/ neu baratoi i bwrpas rhyw.
Mae gangiau o Lundain, Glannau Merswy a Birmingham yn gweithredu yng nghymunedau lleol de Cymru ac maent yn defnyddio eiddo lleol, sy’n eiddo i berson diamddiffyn gan amlaf, fel canolfan ar gyfer eu gweithgareddau. Yn aml, gwneir hyn drwy ddefnyddio grym neu orfodaeth, a chyfeirir at hyn fel ‘cuckooing’.
Os ydych yn gofidio am ‘county lines’ neu ‘cuckooing’, cysylltwch â’ch swyddfa dai leol, ffoniwch yr heddlu ar 101 neu os oes risg dybryd i chi neu rywun rydych yn ei adnabod, ffoniwch 999.
Mae gangiau’n camfanteisio ar blant i ddosbarthu cyffuriau o ardaloedd trefol i dde Cymru gan
Mae Taclo’r Tacle’n opsiwn os ydych am rannu gwybodaeth yn anhysbys am unrhyw weithgarwch troseddol, a gallwch ffonio’r gwasanaeth ar 0800555111.
Mae Pŵer i fyny! Mae Pŵer i fyny! yn ganolfan cyngor sy’n cynnig amrywiaeth o gymorth a chyngor ar incwm, tariffau ac effeithlonrwydd ynni i rhai a all fod o bosib yn agored i niwed mewn achos o doriad pŵer i arbed arian a chadw’n gynnes.
Cysylltwch â Pŵer i fyny! am ddim ar 0808 808 2274 a chael: Cyngor diduedd am ddim i gael y fargen ynni orau Gwiriad hawl i gael budd-daliadau Cyngor ar arbed ynni o amgylch y cartref Atgyfeiriadau i gynlluniau sy’n cynnig grantiau i inswleiddio atig a wal geudod Atgyfeiriadau i gynlluniau sy’n ailosod hen foeleri, aneffeithlon Cyngor ar reoli arian a dyledion Gwasanaeth ymweld â’ch cartref os yw’n haws i chi siarad â rhywun wyneb yn wyneb
Ffoniwch Pŵer i fyny! heddiw i ddysgu sut y gallwch gadw’n gynnes ac arbed arian ar eich biliau ynni.
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 25
Sut i roi Cyfyngiad ar Alw Diwahoddiad yn eich Stryd Ystyrir galwyr diwahoddiad yn bobl sy’n cnocio ar eich drws heb rybudd, gan gynnig nwyddau a/neu wasanaethau. Efallai, er enghraifft, y byddwch yn cael ymweliadau gan gwmnïau ffenestri dwbl, benthyciadau carreg y drws, gwasanaethau yswiriant, gwasanaethau cyfreithiol a gwerthwyr eraill. Yn Abertawe, mae Safonau Masnach wedi bod yn gweithio gyda chymunedau i sefydlu Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad. Yn y parthau hyn, rheolir galw diwahoddiad yn llym. Nid yw galw diwahoddiad yn anghyfreithlon ond, mewn Parth Rheoli Galw Diwahoddiad, mae’n rhaid i fusnesau barchu dymuniadau preswylwyr a pheidio â galw heibio’r eiddo. Nid yw’r Parth Rheoli Galw Diwahoddiad yn atal pob sefydliad rhag galw oherwydd ystyrir pobl sy’n cynnig nwyddau a/neu wasanaethau’n unig fel galwyr diwahoddiad. Er enghraifft, caniateir i grwpiau crefyddol megis Tystion Jehofa gnocio ar eich drws gan nad ydynt yn cynnig nwyddau neu wasanaethau am ffi. Yn yr un modd, gall elusennau hefyd gnocio ar eich drws gan nad ydynt yn cynnig nwyddau neu wasanaethau ychwaith. Nodir parthau fel arfer gan arwyddion ar bolion lampau a sticeri a osodir ar ddrysau neu ffenestri cartrefi yn ardal y parth. Mae manteision cael Parth Rheoli Galw Diwahoddiad fel a ganlyn: • Mae’n gallu gweithredu fel rhwystr i alwyr digroeso • Gall hyn roi’r hyder i chi ddweud ‘Na’ pan fydd galwyr digroeso ar garreg eich drws • Mae’n drosedd i alwr diwahoddiad wrthod gadael neu ddychwelyd i’ch eiddo os oes gennych sticer yn eich ffenestr sy’n gofyn iddynt beidio â galw Mae rhai Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad eisoes yn Abertawe ond ychydig o gartrefi’n unig sy’n cael eu cynnwys.
26 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Os hoffech ychwanegu’ch stryd chi at y rhestr hon o ardaloedd sy’n cael eu cynnwys, cysylltwch â’ch Swyddfa Dai Ranbarthol leol. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw rhoi eich enw a’ch cyfeiriad a dweud bod gennych ddiddordeb mewn cael Parth Rheoli Galw Diwahoddiad. Fel arall, gallwch e-bostio’r Gwasanaeth Tai ar tai@abertawe.gov.uk gan nodi’ch enw a’ch cyfeiriad a dweud bod gennych ddiddordeb. Os byddwn yn derbyn digon o geisiadau gan bobl yn eich ardal, byddwn yn hysbysu Safonau Masnach a fydd wedyn yn gwneud mwy o ymholiadau i asesu a ellir rhoi’r cyfyngiad ar alw diwahoddiad ar waith. Mae’n rhaid bod galw profedig am Barth Rheoli Galw Diwahoddiad er mwyn i Safonau Masnach ystyried ei roi ar waith felly mynegi’ch diddordeb yw’r cam cyntaf yn y broses. Hyd yn oed os nad oes galw yn eich ardal am sefydlu Parth Rheoli Galw Diwahoddiad, gallwch gael sticer a thaflen sy’n esbonio sut y gallwch ymdrin â galwyr diwahoddiad gan eich Swyddfa Dai Ranbarthol leol.
Cynllun Arian yn Ôl Cewynnau Go Iawn Newidiwch i gewynnau go iawn heddiw a bydd Dinas a Sir Abertawe’n rhoi £100 i chi tuag at y gost!
Hyd at
£ 100 !
Pam Newid?
Lleihau Gwastraff! Mewn cyfnod o ddwy flynedd a hanner, bydd plentyn yn defnyddio oddeutu 5000 o gewynnau. Dyna 156 o sachau du yn mynd i safleoedd tirlenwi. Arbed Arian! Gallech arbed hyd at £500 y flwyddyn. Dim Mwy o Frech Cewyn! Mae cewynnau go iawn wedi’u gwneud o ffibrau naturiol felly ni fyddant yn peri cosi poenus i groen y babi. Hawdd eu Defnyddio a’u Golchi! Mae felcro a phopwyr yn golygu nad oes angen pinnau ac mae modd golchi’r cewynnau yn y peiriant golchi. Hwyl! Maent yn dod mewn amrywiaeth o ddyluniadau a defnyddiau.
Sut i Gymryd Rhan Mae’r cynllun ar gael i holl breswylwyr Dinas a Sir Abertawe. Am restr lawn o’r amodau a thelerau ac i gyflwyno cais am y cynllun, ewch i
www.abertawe.gov.uk/cewynnau Ailgylchu@abertawe.gov.uk 01792 635600
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 27
28 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 29
Cysylltiadau Defnyddiol Cartrefi ac Ystadau Cymorth a Chefnogaeth Defnyddiwch y rhifau isod i gysylltu â’ch Swyddfa Dai Ranbarthol (SDR) leol:
Uned Cefnogi Tenantiaid 774320 / 774360
SDR Blaen-y-maes 534060
Twtio a Thrwsio 525152
SDR Eastside
791251
SDR Gorseinon
897700
SDR Treforys
601720
SDR Penlan
582704
SDR Sgeti a Gŵyr 516810 SDR Canol y Ddinas 650486
Tenantiaethau wedi’u Dodrefnu 584042 Addasiadau i’ch Cartref 635330
Adrodd
Ymddygiad gwrthgymdeithasol SDR West Cross 402500 (24 awr) Uned Cefnogi Cymdogaethau 648507 Gwelliannau i’ch cartref er mwyn bodloni Safon Ansawdd Atgyweiriadau SDR Townhill
513900
Tai Cymru 635215
Canolfan alwadau atgyweiriadau 635100
Casglu sbwriel / ailgylchu / gwaredu celfi Canolfan alwadau’r Amgylchedd 635600
Atgyweiriadau brys y tu allan i oriau swyddfa 521500
Eich Rhent Tîm Rhenti 534094 Debyd Uniongyrchol 635015
30 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018
Argyfwng nwy’n gollwng Gwasanaeth Cenedlaethol Argyfyngau Nwy 0800 111999
Problemau gyda draeniau ffordd, goleuadau stryd a thyllau yn y ffordd Priffyrdd 843330
Torrwch hwn a’i gadw neu tynnwch lun gyda’ch ffôn symudol fel bod y rhifau ffôn cyswllt ar gael gennych o hyd.
&DI¿ 'URV 'UR D 6LRS GDQ \U 8QWR *RUVHLQRQ Mae croeso i bawb ddod i gael te a choffi yng nghaffi cymunedol dros dro a siop dan yr unto Gorseinon ac, os bydd angen cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth arnoch, byddwn yn gwneud ein gorau glas i’w rhoi i chi.
Bob dydd Mercher o 18 Gorffennaf 1pm - 3pm, Yn Nhŷ Newydd Te, coffi a chefnogaeth am ddim ar gael
IECHYD A FFITRWYDD CYFLOGAETH CYFFURIAU AC ALCOHOL BUDD-DALIADAU A DYLEDION LLES
CYMUNED PLISMONA GWIRFODDOLI ANABLEDDAU UNIGRWYDD
TAI IECHYD MEDDWL LGBT CYNRYCHIOLWYR ETHOLEDIG GWASANAETHAU IEUENCTID
Lansiad swyddogol ddydd Mercher 1 Awst 1.00pm
Gwybodaeth: Ronan 07471 l45353 / Kelly 0779l 832172 Facebook: @gorseinononestopshop E-bost: gorseinononestopshop@gmail.com Canolfan Gymunedol Tŷ Newydd, 17 Stryd y Gorllewin, Gorseinon
Allwn ni eich helpu? Oes anhawster gennych yn darllen print mân neu efallai eich bod yn teimlo eich bod yn boddi dan swm yr wybodaeth rydych yn ei gweld ar lythyrau, taflenni a ffurflenni cais? Os mai dyma yw’r achos, gallwn ddarparu gwybodaeth i chi mewn ffyrdd eraill. Gallwn anfon gwybodaeth atoch mewn print bras, Braille neu ar gryno ddisg neu dâp. Os ydych yn siaradwr Cymraeg neu’n dysgu Cymraeg, gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth i chi yn Gymraeg.
holl Swyddfeydd Tai Rhanbarthol systemau dolen glyw, chwyddwydrau llaw, arweiniadau llofnod, pinnau gafael mawr a chymhorthion eraill sydd ar gael i’w defnyddio wrth y ddesg yn y dderbynfa neu yn yr ystafell gyfweld. Mae’n bwysig i ni eich bod yn gallu cael mynediad i’r holl wasanaethau sydd ar gael i chi gan y Gwasanaeth Tai; felly os hoffech i ni wneud pethau’n wahanol i chi, gofynnwch a byddwn yn hapus i wneud hynny.
I dderbyn gwybodaeth mewn fformat arall, rhowch wybod i’r staff yn eich Swyddfa Ranbarthol neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid drwy ffonio 01792 635045 neu e-bostio tai@abertawe.gov.uk Os oes angen help arnoch i gwblhau ffurflen rydym wedi’i rhoi i chi, gofynnwch i’r staff yn eich Swyddfa Ranbarthol am gymorth. Mae ystafell gyfweld breifat ar gael os nad ydych yn dymuno gwneud hyn yn y dderbynfa. Mae gan ein
Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018 31
GDPR - Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Efallai y gwyddoch fod rheoliadau diogelu data newydd ar waith sef y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, GDPR. Ers ei gywyno ym mis Mai 2018, mae’r gyfraith wedi cryfhau hawliau unigolion mewn perthynas â diogelu data, ac fe’i lluniwyd i sicrhau bod sefydliadau fel y cyngor yn cymryd mwy o gamau i ddiogelu’ch gwybodaeth bersonol. Beth yw gwybodaeth bersonol? Gallai gwybodaeth bersonol olygu eich enw, eich cyfeiriad a’ch manylion cyswllt ond gall gynnwys gwybodaeth fwy sensitif hefyd megis gwybodaeth feddygol os yw’n ymwneud â’ch amgylchiadau tai.
Beth rydym yn ei wneud gyda’ch data personol Dylai’r cyngor fod yn agored am yr wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch a bod yn gyfrifol am ei chadw’n ddiogel. Er mwyn bod yn fwy agored am sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, o hyn ymlaen pan fyddwn yn gofyn i chi lenwi unrhyw ffurenni lle’r ydym yn gofyn am wybodaeth bersonol, dywedir wrthych yr hyn rydym yn ei wneud â’ch gwybodaeth ac â phwy, os unrhyw un, y byddwn yn ei rhannu.
Eich Hawliau Dylai’r wybodaeth rydym yn ei chasglu fod yn berthnasol ac yn gyfyngedig i’r diben rydym yn ei chasglu. Dylai hefyd fod yn gywir ac yn gyfoes, felly os bydd eich manylion yn newid neu os ydych yn credu bod yr wybodaeth sydd gennym yn anghywir, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. Gallwch hefyd ofyn i ni am yr wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Sut rydym yn ei rhannu? Weithiau mae’n rhaid i ni rannu’ch gwybodaeth hefyd er mwyn rhoi gwasanaeth o safon i chi. Gallai’r sefyllfa hon godi pan fyddwn yn defnyddio asiantaeth arall i gywyno gwasanaeth ar ein rhan neu pan fyddwn yn cydweithio ag asiantaethau eraill. Mae rhannu gwybodaeth yn ffordd bwysig o’n helpu i wneud hyn, ond caiff ei wneud dim ond pan fydd yn angenrheidiol a lle’r ydym wedi dweud wrthych amdano.
Beth dylwn i ei wneud os rwyf am wybod mwy? Mae gan y cyngor bellach hysbysiad preifatrwydd corfforaethol lle gallwch ddarllen mwy am sut defnyddir eich gwybodaeth gan y cyngor www.abertawe.gov.uk/hysbysiadpreifatrwydd
Arolwg Cyswllt Cwsmeriaid Yn ystod mis Medi a mis Hydref, byddwn yn cynnal arolwg yn ein holl swyddfeydd tai rhanbarthol. Byddwn yn gofyn i denantiaid / lesddeiliaid sy’n ymweld â’r swyddfeydd sut maent yn teimlo am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu a’r ffyrdd y maent yn cael mynediad i’r gwasanaeth ar hyn o bryd, ac yn gofyn am unrhyw syniadau ynghylch sut gallwn wella. Rydym hefyd am wybod sut gallwn gael mwy o denantiaid / lesddeiliaid i ymwneud â’r ffordd rydym yn rheoli cartreďŹ ac ystadau.
Galwch heibio i ddweud eich dweud yn ystod oriau swyddfa arferol. 32 Tŷ Agored: Rhifyn 2 2018