Cynllun Gwella - Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

Page 1

Cynllun Gwella

Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi


Cynnwys 1

Cyflwyniad

2

Cyfrif y dyddiau nes dechrau’r gwaith

3

Cynllun Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

3

Cegin

6

Ystafell ymolchi

7

Beth i’w ddisgwyl

7

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi

8

Diogelwch safleoedd

8

Cwestiynau cyffredin

9

Sylwadau, canmoliaeth, cwynion


Cyflwyniad Mae gwaith i sicrhau bod yr holl gartrefi sy’n eiddo i’r cyngor yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru wedi dechrau yn Abertawe a bwriedir cynnwys eich cartref chi yn y rhaglen. Dylai’r llyfryn gwybodaeth hwn gynnwys popeth y bydd angen i chi ei wybod am y gwaith a gynllunnir ar gyfer eich cartref. Dylech ei gadw trwy gydol y gwaith fel y gallwch gyfeirio ato pan fydd angen. Mae’r llyfryn yn cynnwys yr holl fanylion cyswllt a’r rhifau ffôn y bydd eu hangen arnoch. Mae’r cyngor wedi penodi 4 contractwr i gynnal y gwaith gwella ceginau ac ystafelloedd ymolchi:-

 01792 466213 Brys y tu allan i oriau swyddfa  01656 748020 (Dewiswch Opsiwn 2)

 01792 818378 Brys y tu allan i oriau swyddfa (defnyddiwch y rhif uchod ar gyfer cysylltiadau brys)

 01792 459105

 07584 148 048

Brys y tu allan i oriau swyddfa  Caerdydd, 02920 350800

Brys y tu allan i oriau swyddfa  01536 601 740

Mae gan y cyngor Dîm Gwelliannau Tai a’i rôl yw rhoi gwybodaeth i chi a’ch hysbysu’n gyson wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen yn eich cartref Tîm Gwelliannau Tai Cyngor Abertawe  01792 635117

Hefyd, mae gan y contractwyr Swyddogion Cyswllt Tenantiaid eu hunain a byddant yn eich arwain drwy’r broses ac yn eich cynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych. Bydd gan bob swyddog neu gontractwr a fydd yn ymweld â’ch cartref gerdyn adnabod fel y gallwch fod yn sicr pwy ydynt.

Cynllun Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

1


Cyfrif y dyddiau nes dechrau’r gwaith Dylid defnyddio hyn fel arweiniad yn unig, efallai y bydd y contractwyr yn gweithio ychydig yn wahanol i’w gilydd.

Cam 1 Derbyn llythyr cyflwyno i roi gwybod i chi y bydd eich cartref yn cael ei wella.

Cam 2 Derbyn llythyr apwyntiad gan y contractwyr ar gyfer yr ymweliad gwaith sylweddol.

Cam 3 Ymweliad Gwaith Sylweddol. Bydd eich Swyddog Gwelliannau Tai a Swyddog Cyswllt Tenantiaid y contractwr yn ymweld â chi ac yn amlinellu’r gwaith arfaethedig. Byddwch yn derbyn copi o’r llyfryn ceginau ac ystafelloedd ymolchi a’r Cytundeb Gwaith Sylweddol. Bydd y Swyddog Gwelliannau Tai hefyd yn nodi manylion unrhyw faterion iechyd neu anghenion neu ofynion addasu.

Cam 4 Ymweliad dylunio’r cartref. Ymweliad technegol yw hwn ac efallai y bydd Swyddog Cyswllt Tenantiaid y contractwr, dylunydd y gegin a’r trydanwr ynghyd â Syrfëwr neu Glerc Gwaith y cyngor yn bresennol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y gwaith sydd angen ei gynnal yn eich cartref, sut y bydd angen i chi baratoi ar gyfer y gwaith, ac yn rhoi syniad i chi am bryd y bydd y gwaith wedi’i gwblhau. Hefyd bydd rhaid i chi roi peth gwybodaeth i’r contractwr, megis manylion cyswllt, unrhyw faterion iechyd, a ydych yn gwneud gwaith shifft, neu fanylion unrhyw gyfnodau y byddwch i ffwrdd oddi cartref. Yn ystod yr ymweliad hwn byddwch hefyd yn dewis eich unedau cegin, wyneb gweithio, llawr, teils waliau a phaent etc. Cewch hefyd gopi o ddyluniad y gegin.

Cam 5 Derbyn llythyr dechrau’r cynllun (2-3 wythnos cyn i’r gwaith ddechrau). Bydd hyn yn rhoi dyddiad dechrau’r gwaith i chi fel y gallwch ddechrau paratoi ar gyfer y gwaith.

Cam 6 Ymweliad cyn dechrau. Mae hyn yn cael ei drefnu ymlaen llaw ac yn digwydd sawl diwrnod cyn i’r gwaith ddechrau i wirio bod popeth yn iawn i’r crefftwyr ddechrau’r gwaith.

Cam 7 2

Dechrau’r gwaith


Cynllun Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi Bydd y gwaith yn amrywio o eiddo i eiddo a bydd yr ymweliad dylunio’r cartref (Cam 4) yn nodi pa waith fydd yn cael ei wneud yn eich cartref.

Cegin Yr hyn a gaiff ei gynnwys yn eich cegin newydd: • Unedau Cegin • Wynebau gwaith • Sinc gyda thapiau lifer • Socedi trydan ychwanegol • Teils (3 rhes yn unig), atgyweiriadau i’r waliau ac addurno • Gwyntyll echdynnu (nid lwfer popty yw hon) • Lloriau finyl Mae 3 dewis ar gael ar gyfer y gegin ac mae lluniau o’r dewisiadau ar y dudalen nesaf.

Cynllun Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

3


Cegin wen

(Sylwer bod y gegin hon yn cynnwys lwfer popty sy’n cael ei ddarparu gan y tenant)

Cegin fasarn

Cegin rosbren

(Sylwer bod y gegin hon yn cynnwys lwfer popty sy’n cael ei ddarparu gan y tenant)

4


Mae’r ceginau ar dudalen 4 yn dangos yr unedau cegin a’r wynebau gwaith awgrymedig gyda’i gilydd. Yn eich ymweliad dylunio’r cartref (Cam 4), byddwch yn dewis yr unedau cegin, y wynebau gwaith, y llawr a’r teils ar gyfer y wal. Gallwch ddewis unrhyw gyfuniad o unedau cegin ac wynebau gwaith. Mae 2 ddewis o ddolenni ar gyfer eich unedau cegin newydd: Dolen bwa mat

Ffurf D daprog

Petai’n well gennych, yn amodol ar gytundeb â’r contractwr, gallech hefyd dalu am deils ac ati o’ch dewis a’u cyflenwi er mwyn i’r contractwyr eu gosod. Efallai bydd angen i’r contractwr ddarparu wyneb gwaith a chyfleusterau coginio a glanweithdra dros dro i chi yn ystod y gwaith yn eich cartref. Gan fod gofynion yn gallu amrywio o eiddo i eiddo, bydd Swyddog Cyswllt Tenantiaid y contractwr a Rheolwr y Safle yn trafod yr anghenion penodol yn ystod eu hymweliad â’ch cartref cyn dechrau’r gwaith (Cam 4) Yn ystod yr ymweliad dylunio’r cartref (Cam 4), bydd dylunydd ceginau profiadol yn cynllunio eich cegin newydd gyda chi.

Pwysig Ar ôl i chi ddewis eich cegin yn dilyn cyfnod ailfeddwl byr (7 niwrnod), bydd eich cegin yn cael ei harchebu ac ni allwch newid eich meddwl. Gallai fod angen gwneud gwaith addasu strwythurol neu waith gwella mewnol arall mewn rhai cartrefi i ddarparu’r holl gyfleusterau sy’n angenrheidiol i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Cynllun Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

5


Gwelliannau Mewnol Eraill • Gwaith ailweirio - os bydd angen cynnal gwaith ailweirio yn eich eiddo i gydymffurfio â’r safonau presennol, gwneir y gwaith hwn ar yr un pryd â’r gwelliannau i’ch cegin a’ch ystafell ymolchi. • Ailosod y boeler - os nad oes gennych foeler cyfun modern ac ynni-effeithlon, bydd eich boeler presennol yn cael ei newid naill ai yn union cyn i’r gwaith gwella’r gegin a’r ystafell ymolchi ddechrau neu yn ystod y gwaith hwn.

Ystafell ymolchi

Ystafell ymolchi wedi’i haddasu

Yr hyn a gaiff ei gynnwys yn eich ystafell ymolchi newydd: • Baddon, toiled a basn golchi dwylo • Cawod • Llen a rheilen • Teils (o gwmpas y bath a’r gawod), atgyweiriadau i’r waliau ac addurno • Gwyntyll echdynnu a golau • Lloriau finyl Bydd gennych ddewis o loriau a lliwiau paent. Yn ystod yr ymweliad gwaith sylweddol (Cam 3), byddwn yn nodi unrhyw addasiadau sydd eu hangen er mwyn ei gwneud yn haws i chi ddefnyddio’ch ystafell ymolchi. Byddwn yn cysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol er mwyn asesu eich anghenion. Mewn eiddo sydd eisoes wedi’i wella a’i addasu, efallai y bydd maint y gwaith a nodir uchod yn is. Sylwer: efallai y bydd addasiadau newydd yn effeithio ar eich cyfle i drosglwyddo i eiddo arall. Tynnwyd y lluniau hyn yng nghartrefi tenantiaid ar ôl cwblhau’r gwaith.

6

Ystafell ymolchi safonol


Beth i’w ddisgwyl Dyma grynodeb o’r prif bwyntiau - i gael yr holl fanylion, gweler eich llyfryn Cytundeb Gwaith Sylweddol. • Bydd y contractwr yn dangos parch tuag at eich cartref a’ch eiddo ar bob adeg a bydd yn broffesiynol ac yn gwrtais. Ni fydd yn defnyddio iaith anweddus, yn ysmygu nac yn gadael sbwriel ar ei ôl. • Bydd y contractwr yn eich hysbysu’n gyson wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen yn eich cartref. • Gallwch ddisgwyl rhywfaint o sŵn, llwch a tharfu o ganlyniad i’r gwaith, ond bydd y contractwr yn ymdrechu i leihau hyn. • Bydd y contractwr yn defnyddio gorchuddion i amddiffyn eich celfi yn ogystal â gorchudd lloriau. • Efallai y bydd y contractwr eisiau tynnu lluniau o’ch cartref cyn dechrau ar y gwaith fel y gall nodi’r cyflwr cyn y gwaith. Mae hyn yn ein helpu i ddatrys unrhyw broblemau’n gyflym ac yn effeithiol. • Bydd angen datgysylltu eich peiriant golchi a’i symud yn ystod y gwaith. • Hefyd bydd angen datgysylltu eich cwcer a’i symud felly efallai y byddwch eisiau cynllunio/gwneud prydau cyn i’r gwaith ddechrau. • Ni fydd gennych doiled, bath na sinc am gyfnod byr wrth i ni osod rhai newydd. Bydd gennych gyfleusterau ymolchi a thoiled ar ddiwedd pob diwrnod gwaith. • Bydd angen diffodd eich trydan a’ch dŵr yn ystod peth o’r gwaith ond bydd hyn yn digwydd cyn lleied â phosib. • Er diogelwch ni allwch gael mynediad i’r ardaloedd yn eich cartref lle bydd crefftwr yn gweithio.

Dylech gofio mai proses yw’r gwaith gwella a bod y gwaith wedi’i drefnu fel y bydd crefftwr yn eich cartref pan fydd angen iddo fod yno. Gall fod dyddiad lle nad oes unrhyw un yn gweithio yn eich cartref. Mae hyn yn arferol ac fel arfer yn digwydd pan fo angen i blastr sychu etc.

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi • Rhaid i chi ganiatáu i gontractwyr gael mynediad i’ch cartref i gynnal y gwaith yn ystod oriau gwaith arferol. • Dylech glirio wynebau gwaith a gwagio cypyrddau/droriau eich cegin a chabinetau eich ystafell ymolchi cyn i’r gwaith ddechrau. • Diogelwch unrhyw eitemau gwerthfawr neu sentimental ac unrhyw glociau / drychau / addurniadau / ategolion ac ati yn ystod y gwaith.

Cynllun Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

7


Gofynnir i chi dynnu unrhyw lenni / bleindiau gan gynnwys ffitiadau cyn i’r gwaith ddechrau.

Rhowch wybod i’ch Swyddog Cyswllt Tenantiaid os oes gennych unrhyw faterion iechyd rhag ofn bod angen gosodiadau arbennig arnoch yn ystod y gwaith.

Rhowch wybod i’ch Swyddog Cyswllt Tenantiaid ar unwaith os na allwch fod yn bresennol i roi mynediad i’ch eiddo.

Yr oriau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am-5.00pm. Sicrhewch fod mynediad rhwng yr oriau hyn neu, os nad yw hyn yn bosib, cysylltwch â’ch Swyddog Cyswllt Tenantiaid i wneud trefniadau eraill.

Diogelwch safleoedd •

Sicrhewch fod pob preswylydd ac ymwelydd yn ddiogel i ffwrdd o le mae’r gwaith gwella’n cael ei wneud.

Ni all y contractwr weithio yn eich cartref os bydd plentyn o dan 16 oed yn bresennol heb fod yng nghwmni oedolyn.

Sicrhewch fod unrhyw anifeiliaid anwes dan reolaeth er mwyn caniatáu i weithwyr weithio mewn amgylchedd diogel.

Os oes unrhyw beth yn yr eiddo sy’n cael ei ystyried yn risg iechyd, efallai y bydd rhaid i’r contractwr roi’r gorau i’r gwaith yn yr eiddo

Byddem yn ddiolchgar os gallech beidio ag ysmygu yn eich cartref pan fydd crefftwyr yn gweithio yno.

Byddwch yn ymwybodol bod contractwyr yn gallu ailgysylltu offer y gegin ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau yn unig, a pan fyddant wedi cynnal gwiriad diogelwch gyda’r offer i sicrhau bod hyn yn ddiogel.

Cwestiynau cyffredin A fydd rhaid i fi symud allan? Na fydd, bydd y gwaith yn cael ei wneud tra byddwch gartref. Am faint bydd y gwaith yn para? Os dewiswch y cynllun cegin ac ystafell ymolchi llawn, byddem yn disgwyl i’r gwaith bara tua 20-25 niwrnod gwaith. Gallai fod angen mwy o ddiwrnodau os bydd angen unrhyw waith ychwanegol arall. A fydd modd i fi ddefnyddio’r gegin yn ystod y gwaith? Na fydd, ni fydd modd defnyddio’r gegin yn ystod y gwaith. Bydd angen datgysylltu eich cwcer ac os nad oes gennych ficrodon, bydd y contractwr yn gallu rhoi benthyg un i chi (lle bydd un ar gael). Byddwn yn sicrhau bod gennych wyneb gwaith dros dro ar gyfer eich tegell ac ati. Oes modd dewis uned cegin o un cynllun ac wyneb gwaith o un arall? Oes, gallwch ddewis unrhyw uned cegin ac unrhyw wyneb gwaith.

8


Oes modd i fi ddarparu fy nheils / fy mhaent fy hun? Oes, os oes paent neu deils o liw arall yn well gennych na’r rhai a gyflenwir gan y cyngor, gallwch dalu amdanynt a’u cyflenwi, yn amodol ar gytundeb â’r contractwr. Trafodwch hyn gyda’ch Swyddog Cyswllt Tenantiaid a byddwch yn cael eich cynghori am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddarparu. A fydd modd i fi ddefnyddio’r toiled / baddon yn ystod y gwaith? Efallai y bydd amser byr pan na fydd yr un o’ch cyfleusterau ar gael. Fodd bynnag, ar ddiwedd pob diwrnod, bydd eich toiled a rhai o’ch cyfleusterau ymolchi ar gael i’w defnyddio. Fel arfer bydd y bath ar gael i’w ddefnyddio y diwrnod ar ôl ei symud. A fydd modd i fi ddefnyddio’r cyflenwad trydan, nwy a dwˆ r yn llawn? Efallai y bydd cyfnodau byr pan gaiff eich cyflenwad trydan, nwy neu ddwˆ r ei ddiffodd er mwyn cwblhau addasiadau i wasanaethau. Beth bydd disgwyl i fi ei wneud? Bydd disgwyl i chi wagio cypyrddau eich cegin / ystafell ymolchi cyn i’r gwaith ddechrau. Gall gweithwyr helpu i symud eich oergell / rhewgell / peiriant golchi i leoliad dros dro addas. A fyddaf yn cael iawndal am yr aflonyddwch? Byddwch. Bydd taliad aflonyddwch yn cael ei wneud ar ôl cwblhau’r gwaith yn eich cartref. Bydd y swm a fydd yn daladwy yn dibynnu ar unrhyw ôl-ddyledion a allai fod ar eich cyfrif rhent ac ar swm y gwaith a wneir. Gallai gymryd hyd at 3 mis ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau cyn i chi dderbyn eich taliad.

Sylwadau, Canmoliaeth, Cwynion Os bydd gennych broblem yn ystod y gwaith, y person cyntaf y dylech gysylltu ag ef yw Swyddog Cyswllt Tenantiaid y contractwr. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosib ar ôl i fater godi a dylent fod yn gallu helpu i ddatrys unrhyw broblemau sydd gennych. Os na fyddwch yn fodlon ar yr ymateb neu ni fydd y broblem wedi’i datrys ar ôl hynny, cysylltwch â’r Tîm Gwelliannau Tai ar  01792 635117 a byddant yn siarad â’r contractwr ar eich rhan. Hefyd rydym yn croesawu unrhyw adborth cadarnhaol sydd gennych. Bydd y contractwr a’r cyngor hefyd yn gofyn i chi gwblhau arolwg byr pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau. Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym am unrhyw beth a oedd yn dda yn eich barn chi, neu’r hyn y gallwn ei wneud yn well. Bydd hyn yn helpu’r contractwr a’r cyngor i wella yn y dyfodol. Taliadau Lwfans Aflonyddwch Telir y symiau canlynol i denantiaid: • £50 ar gyfer yr ystafell ymolchi • £100 ar gyfer y gegin • £200 ar gyfer ailweiriad trydanol cyfan Pwysig - Ni chaiff lwfansau eu talu os nad yw tenant wedi cydymffurfio â'i gytundeb tenantiaeth neu os yw wedi rhwystro'r cytundeb mewn unrhyw ffordd arall. Ni chaiff ei dalu os oes ôl-ddyledion rhent yn y cyfrif rhent, yn hytrach bydd y lwfans yn cael ei ddefnyddio? er mwyn lleihau neu dalu’r ôlddyledion.

Cynllun Gwella Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi

9


Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Gwelliannau Tai drwy ffonio  01792 635117 Os oes angen yr wybodaeth hon yn Saesneg neu mewn fformat arall arnoch, cysylltwch â’r Tîm Gwelliannau Tai drwy ffonio  01792 635117

Ffotograffau drwy garedigrwydd Tony Long  www.tonylongphotography.co.uk/


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.