Gerddi Botaneg yn eu Blodau

Page 1

Zj]Yl`]ÛkoYfk]Y YfY\dmÛYZ]jlYo]Û

Gerddi Botaneg yn eu Blodau 1 - 31 Awst

Dethlir y Gerddi Botaneg yn eu Blodau bob blwyddyn drwy gydol mis Awst pan mae’r Gerddi Botaneg ar eu gorau ac yn eu gogoniant llawn. Yn ystod y cyfnod hwn, cewch weld sawl enghraifft wych o blanhigion prin ac ecsotig o bedwar ban y byd, yn ogystal â’r rhai mwy traddodiadol. Bydd digwyddiadau amrywiol hefyd gan gynnwys adloniant i blant, cyngherddau bandiau pres, teithiau tywys, gweithdai, arddangosiadau a gwerthiannau planhigion. Rhaid i chi ymweld â Gerddi Botanegol Parc Singleton ym mis Awst, felly dewch i ymuno yn y gweithgareddau hwyl a dathlu’r Gerddi Botaneg yn eu Blodau. Teithiau tywys Mae taith dywys yn ffordd ardderchog o archwilio’r gerddi hyfryd a phrofi’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig Gellir trefnu teithiau grw ˆ p ar gyfer 10+ o bobl unrhyw bryd am £1.50 y pen.

Teithiau adar a bywyd gwyllt Dewch i weld yr amrywiaeth hyfryd o adar a bywyd gwyllt sy’n byw yn y gerddi. Bydd tywysydd profiadol yn eich tywys i’r mannau gorau i weld trigolion y gerddi.

Cyngherddau band Ymlaciwch yn amgylchedd hardd y gerddi i sain adloniant rhai o fandiau gorau Abertawe.

Dydd Sul 3pm – 5pm Am ddim Teithiau tywys o’r gerddi a sioe sleidiau Dydd Mawrth a dydd Iau 2pm – 4pm £1.50 oedolion, 50c plant

City and County of Swansea Dinas a Sir Abertawe

Gweithdai ac arddangosiadau Ydych chi erioed wedi ceisio help ar ddylunio gardd? Neu efallai yr hoffech ddysgu sut i dyfu llysiau? Os felly, mae’n siw ˆ r y bydd rhywbeth o ddiddordeb i chi yn y gweithdai hyn sy’n cynnwys llawer o bynciau diddorol.

Adar a bywyd gwyllt – sioe sleidiau a theithiau tywys gyda thywysydd bywyd gwyllt profiadol (cwrdd ger Tyˆ ’r Blodau) Dydd Mercher 10am – 12 ganol dydd £1.50 oedolion, 50c plant Gweithdai ac arddangosiadau Dydd Mercher 2pm – 4pm £1.50 oedolion

Gwerthiannau planhigion Dydd Sadwrn 10am – 2pm Am ddim

01792 205327 ☎ www.anadluabertawe.com 8

Mae’r Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton. Mae’r fynedfa agosaf oddi ar Heol Sgeti (A4118) ger Eglwys St Paul, Sgeti.

Tyˆ ’r Blodau ‘House of Flowers’

Education, Resource and Visitor Centre

Planhigion ar werth

Tai Gwydr

Ffynnon

Gardd gerrig

Tymherus

Teras Rhosynnau

Cactws

Cyngherddau band Dydd Sul 3pm – 5pm Am ddim Cynhelir sgyrsiau, arddangosiadau, arddangosfeydd a sioeau sleidiau yn Nhyˆ ’r Blodau. Lluniaeth ar gael yn ddyddiol o 12pm ymlaen. Mae pob taith yn cwrdd wrth brif fynedfa’r Gerddi Botaneg. Dim cw ˆ n.

Gwerthiannau planhigion Mae’r gwerthiannau planhigion hynod boblogaidd, a drefnir gan Gyfeillion y Gerddi Botaneg, yn cynnig cyfle gwych i chi brynu planhigion o ansawdd uchel a dyfwyd yn lleol am brisiau cystadleuol iawn.

I gael y newyddion diweddaraf drwy e-bost am ddim ewch i 8 www.fyabertawe.com Gwerthir y planhigion drwy drefniant caredig Cyfeillion y Gerddi Botaneg.

Rhaglen Ddigwyddiadau Adloniant i blant Dydd Llun a dydd Gwener 1pm – 4pm 50c

Gweithgareddau i blant Mae cynifer o weithgareddau i ddiddanu plant. Gadewch i’w dychymyg grwydro yn y gweithdai celf, neu gadewch iddynt ymlacio a gwrando ar stori gyffrous.

Economeg Trofannol

Gerddi Botaneg

Toiledau

Bandstand

Gardd berlysiau

PARC SINGLETON

I dderbyn y daflen hon mewn fformat gwahanol, ffoniwch ☎ 01792 635478. Mae’r holl fanylion yn gywir adeg eu cyhoeddi.

Gardd gors


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.