Arweiniad i fudd-daliadau ar gyfer teuluoedd 창 phlant a phobl ifanc
.
'Lluniwyd a diweddarwyd gan Uned Cynhwysiad Cymdeithasol Dinas a Sir Abertawe - Awst 2013 Wedi'i llunio'n wreiddiol mewn partneriaeth 창 Phrosiect Cenhedlaeth 2020 a'r Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol
Cynnwys Cyflwyniad .......................................................................................................................................... 1 Rhan 1. Budd-daliadau a grantiau pan fyddwch yn feichiog .......................................................... 3 Bwyd Cychwyn Iach .......................................................................................................................... 3 Lwfans Mamolaeth ............................................................................................................................. 5 Taliadau Statudol ............................................................................................................................... 6 Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP). ....................................................................................................... 8 Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) ............................................................................................................ 8 Budd-daliadau eraill pan fyddwch yn feichiog ................................................................................ 9 Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ................................................................................................ 11 Rhan 2: Budd-daliadau i blant dan 16 oed ..................................................................................... 12 Budd-dal Plant .................................................................................................................................. 12 Credyd Treth Plant ........................................................................................................................... 13 Rhan 3: Yr annisgwyl mewn bywyd… ............................................................................................ 19 Lwfans Byw i’r Anabl (i’r rhai dan 16 oed) ..................................................................................... 20 Os caiff eich cais ei wrthod… ......................................................................................................... 30 Taliadau Annibyniaeth Bersonol........…………………………………………………………………... 28 Help arall i blant ag anableddau...................................................................................................... 29 Cynlluniau Bathodyn Glas............................................................................................................... 31 Cronfa’r Teulu ................................................................................................................................... 31 Lwfans Gofalwyr a Chredyd Gofalwyr ............................................................................................ 32 Lwfans Gwarcheidwaid.................................................................................................................... 33 Rhan 4: Help Ychwanegol ............................................................................................................... 34 Prydau Ysgol am Ddim a Grantiau Gwisg Ysgol ........................................................................... 32 Cronfa Cymorth Dewisol ................................................................................................................. 35 Cronfa Gymdeithasol Reoleiddiedig............................................................................................... 34 Cronfa Gymdfeithasol Ddewisol........………………………………………………………………….....35 Credyd Cynhwysol………………………………………………………………………………………......36 Herio Penderfyniad.....………………………………………………………………………………………36 Cyngor ac Awgrymiadau ................................................................................................................. 37 Rhifau ffôn defnyddiol ..................................................................................................................... 40 Atodiad .............................................................................................................................................. 41 Mwyafu Incwm ............................................................................................................................ 42 Crynodeb o’r Budd-daliadau ........................................................................................................... 42
Cyflwyniad Nod y pecyn hwn yw helpu rhieni a gofalwyr prysur plant a phobl ifanc i nodi budddaliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Ar ôl i chi nodi unrhyw fudd-dal y gallech ei hawlio, cysylltwch â’r asiantaethau cynghori lleol os bydd angen mwy o help arnoch i hawlio. Mae'r Arweiniad wedi'i rannu'n bedair rhan: • Rhannau 1 a 2 sy’n cynnwys y budd-daliadau i bob plentyn, wedi’u trefnu o feichiogrwydd cynnar i’r arddegau lle mae Budd-dal Plant yn dod i ben. • Rhan 3 sy’n cynnwys yr help ychwanegol i blant â phroblemau iechyd. • Rhan 4 sy’n cyfeirio at help arall. Mae'r Atodiad yn y cefn yn esbonio rhai o dermau'r budd-daliadau a ddefnyddir trwy gydol y ddogfen: ‘budd-daliadau disodli enillion’, ‘budd-daliadau â phrawf modd’ a ‘budd-daliadau heb brawf modd’. Ceir peth gwybodaeth hefyd am fudd-daliadau sydd heb eu cynnwys yn y pecyn hwn. Tudalen am bob budd-dal: Bydd esboniad mewn iaith syml a chlir ar bob budd-dal (os yw’n bosib!), dan y penawdau canlynol: Beth ydyw? Disgrifiad byr o’r budd-dal, y lwfans neu’r credyd treth. Faint yw'r budd-dal? Rydym yn rhoi amcangyfrif o'r ffigurau er mwyn rhoi syniad i chi (yn ôl cyfraddau 2013/14). Mae'r symiau union yn newid bob blwyddyn. Pwy sy'n gallu hawlio? Disgrifiad o’r amodau hawlio ar gyfer pob budd-dal. Ble gallaf hawlio? Lle cewch y ffurflenni a phwy sy'n eu prosesu. Pryd galla i hawlio? Y dyddiadau allweddol ar hawlio, ôl-ddyddio ac os yw’n berthnasol, hyd y dyfarniad. Beth dylwn i ei wneud? Mae’r adran hon yn disgrifio’n fras sut mae’r taliadau’n cael eu gwneud, beth i’w wneud os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad, neu os bydd amgylchiadau’n newid.
1
Pwy sy'n gallu hawlio budd-daliadau? Fel arfer, byddwch dros 16 oed ac yn bodloni'r amodau er mwyn hawlio budd-daliadau. Mae rhai amodau ychwanegol i bobl 16 a 17 oed. Os ydych rhwng 16 ac 20 oed, mae’n bosibl y bydd dewis gennych rhwng hawlio budd-dal eich hunan neu rywun arall yn ei hawlio drosoch. Os ydych dan 16 oed, yr unig fudd-dal y gallwch ei hawlio yw’r Budd-dal Plant am blentyn rydych chi’n gyfrifol amdano. Mae’n rhaid i rywun arall hawlio Budd-dal Plant a Chredyd Treth Plant ar gyfer gofalu amdanoch chi, a gallant hawlio Credyd Treth Plant ar gyfer eich baban (a Budd-dal Plant os ydych yn cytuno) nes i chi gyrraedd 16 oed. Gallant hefyd hawlio unrhyw grant a fyddai’n berthnasol i chi, ond bydd hynny’n dibynnu ar eu hamgylchiadau nhw'n hytrach na’ch rhai chi. Os ydych chi'n byw fel un o gwpl, bydd yn rhaid i chi hawlio ar y cyd â’ch partner i gael rhai budd-daliadau. Mae cyfyngiadau pwysig ynghylch hawlio budd-daliadau os ydych yn dod o dramor. Dylech geisio cyngor cyn hawlio.
Mathau gwahanol o fudd-daliadau • Budd-daliadau cyfrannol: er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid eich bod wedi gweithio yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i gael y budd-dal hwnnw. • Budd-daliadau anghyfrannol (a elwir hefyd yn fudd-daliadau prawf modd): byddwch yn gymwys os ydych yn bodloni meini prawf penodol, beth bynnag yw'ch cyfraniadau yswiriant gwladol, a'ch incwm arall. • Budd-daliadau prawf modd: mae'n rhaid i chi fodloni meini prawf penodol er mwyn cymhwyso. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar arian arall rydych chi neu unrhyw bartner yn ei dderbyn a'ch cynilion. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer budd-daliadau gwahanol o unrhyw un neu bob un o'r grwpiau hyn, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Byddwn yn esbonio hyn ar gyfer pob budd-dal wrth i chi fynd drwy'r arweiniad.
Ble gallaf hawlio? • Byddwn yn nodi hyn wrth fynd trwy'r manylion. Mae enwau wedi newid ac mae swyddfeydd wedi symud dros y blynyddoedd diweddar.
Awgrymiadau a chysylltiadau: Yn y cefn, a thrwy'r arweiniad hwn, ceir awgrymiadau defnyddiol ynglŷn â hawlio a rhifau ffôn cyswllt defnyddiol.
2
Rhan 1. Budd-daliadau a Grantiau pan fyddwch yn feichiog Gall sawl budd-dal fod o help: • Yn gyntaf, dylech gadarnhau a allwch gael y Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) gan eich cyflogwr (os oes un gennych). Mae rhai cyflogwyr yn ychwanegu at y tâl hwn. • Os na allwch hawlio’r SMP, ond rydych wedi gweithio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, efallai y bydd hawl i chi gael Lwfans Mamolaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). • Fel arall, efallai y bydd hawl i chi gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Dyma fudd-dal i bobl y mae ganddynt “allu cyfyngedig i weithio”. Ystyr hyn yw bod rhaid i rywun fod ag anabledd meddyliol neu gorfforol, salwch neu gyflwr iechyd sy'n ei atal rhag gweithio ac mae'n gweddu i'r disgrifwyr yn y Prawf Asesiad Gallu i Weithio. (Ystyrir bod gennych “allu cyfyngedig i weithio” yn awtomatig o 6 wythnos cyn y dyddiad y byddwch yn rhoi genedigaeth tan 14 diwrnod ar ôl cael y baban.) • Gan ddibynnu ar fudd-daliadau ac incwm/chynilion eraill sydd gan eich partner a chi, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael: o Cymorth Incwm - os na allwch weithio oherwydd beichiogrwydd neu os oes 11 wythnos neu lai cyn yr wythnos y bydd eich baban yn cael ei eni; neu os cawsoch eich baban heb fod yn fwy na 15 wythnos yn ôl. o Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm o Budd-dal Tai o Budd-dal Treth y Cyngor Help arall: Mae’r adran hon hefyd yn sôn am Dalebau Bwyd Cychwyn Iach a Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Yn feichiog ac o dan 16 oed: Ni allwch hawlio budd-daliadau mamolaeth na grantiau eich hunan. Mae’n rhaid i rywun arall hawlio drosoch chi (gweler tudalen 4).
Bwyd Cychwyn Iach Beth ydyw? Gall siopau, groseriaid, dynion llaeth, etc. gyfnewid talebau am laeth ffres, llysiau a ffrwythau ffres neu rewedig yn ogystal â fformiwla babanod. Gallwch hefyd gael fitaminau am ddim. Os nad oes siop fwyd gofrestredig o fewn pellter rhesymol o'ch cartref, caiff swm ei dalu i chi sy'n gyfartal â gwerth y daleb. Caiff talebau eu talu i helpu: • menywod beichiog • mamau â phlant dan 1 oed • plant dan 4 oed. 3
Mae pob taleb yn werth tua £3.10 yr wythnos. Gallwch weld a oes siop gofrestredig yn eich ardal trwy edrych ar wefan Cychwyn Iach neu gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd os na fedrwch ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Pwy sy'n gallu hawlio? Gallwch hawlio os ydych wedi bod yn feichiog ers dros 10 wythnos ac: • yn fam feichiog dan 18 oed beth bynnag yw'ch incwm, oni bai'ch bod wedi'ch eithrio am eich bod yn destun rheolaeth mewnfudo. • yn fam feichiog dros 18 oed; neu'n fam â chyfrifoldeb magu plant am blentyn ifanc os yw incwm y teulu'n cynnwys: o Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm. o Credyd Treth Plant ar yr amod bod yr incwm crynswth yn llai nag £16,190 (mae’r ffigur yn newid bob mis Ebrill) ac nad oes Credyd Treth Gwaith. • yn fam ac mae'ch plentyn dan un oed neu mae'n llai na blwyddyn ers ei ddyddiad geni disgwyliedig; ac mae'ch incwm yn cynnwys y budd-daliadau uchod (ac eithrio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm)
Ble gallaf hawlio? Gallwch gael y ffurflen (HS01) o glinigau mamolaeth a rhai meddygfeydd a chan ymwelwyr iechyd; neu gallwch lawrlwytho ffurflen o www.healthystart.nhs.uk; neu ffonio 0845 607, Mae’n rhaid i weithiwr iechyd proffesiynol fel bydwraig ei chydlofnodi, er mwyn tystio eich bod yn feichiog a’ch bod wedi cael cyngor iechyd; ac os ydych dan 16 oed, mae'n rhaid i'ch rhiant neu'ch gofalwr ei llofnodi hefyd.
Pryd gallaf hawlio? Gallwch hawlio o ddegfed wythnos y beichiogrwydd.
Er enghraifft: Mae gan Susan efeilliaid 2 oed ac mae hi'n 19 wythnos yn feichiog. Mae’n cael ei chynnwys ar hawliad ei phartner am Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ac maent yn derbyn y Credyd Treth Plant uchaf a Budd-dal Plant. Yn ystod ei beichiogrwydd, bydd Susan yn derbyn 3 taleb yr wythnos, un yr un ar gyfer y gefeilliaid ac un iddi hi fel mam feichiog. Ar ôl i'r baban gael ei eni, bydd yn cael 4 taleb - un yr un ar gyfer y gefeilliaid, un ar gyfer y baban (plentyn dan 4 oed) ac un iddi hi (mam plentyn dan 1 oed).
Fitaminau Cychwyn Iach Os oes hawl i chi gael talebau bwyd Cychwyn Iach, byddwch yn gymwys ar gyfer fitaminau Cychwyn Iach. Mae gan famau a menywod beichiog hawl i 56 o dabledi fitamin ac mae gan blant dan bedair oed hawl i 10 mililitr o ddiferion fitamin bob 8 wythnos. Eich clinig mamolaeth neu iechyd plant sy'n gyfrifol am roi fitaminau i chi am ddim. 4
Lwfans Mamolaeth (LM) Beth ydyw? Caiff Lwfans Mamolaeth ei dalu i fenywod beichiog sy’n methu cael y Tâl Mamolaeth Statudol. Gallai hyn fod am eich bod yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith neu am nad ydych wedi bod gyda'ch cyflogwr yn ddigon hir i gael SMP. Neu efallai nad ydych yn ennill digon i gael SMP. ☺ Budd-dal heb brawf modd yw’r LM felly nid yw unrhyw incwm arall neu gynilion sydd gennych chi neu’ch partner yn effeithio arno. ☺ Nid oes amodau cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond mae amodau enillion a gwaith diweddar yn berthnasol. ☺ Ni allwch dderbyn LM ar yr un pryd â budd-dal arall yn lle enillion (gweler yr Atodiad). Bydd LM yn cyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau â phrawf modd, ond caiff ei anwybyddu ar gyfer Credyd Treth.
Faint yw'r budd-dal? Rydych yn gymwys ar gyfer LM dim ond os yw'ch enillion wythnosol cyfartalog o leiaf yn gyfartal â throthwy'r LM, sef £30 yr wythnos. Gall fod yn gymhleth cyfrifo'ch enillion cyfartalog os ydych wedi newid swyddi sawl gwaith neu wedi bod yn hunangyflogedig, felly mae'n well cael cyngor os ydych yn y sefyllfa hon. Os ydych yn gymwys ar gyfer LM, cewch 90% o'ch enillion cyfartalog neu £136.78 yr wythnos (cyfraddau 2012/13), p'un bynnag yw'r lleiaf.
Pwy sy'n gallu hawlio? I fod yn gymwys ar gyfer LM, mae'n rhaid: 1. eich bod yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar ac rydych chi yn y
cyfnod lwfans mamolaeth 2. eich bod wedi gweithio fel cyflogai neu’n hunangyflogedig am 26 wythnos o leiaf yn y 66 wythnos yn union cyn “wythnos ddisgwyliedig y geni” (EWC). Mae wythnosau rhannol yn cyfrif fel wythnosau llawn wrth gyfrifo'r “cyfnod prawf” hwn. Nid oes rhaid i'r 26 wythnos fod yn olynol ac efallai eich bod wedi newid cyflogwyr yn ystod y cyfnod hwn. 3. eich bod wedi ennill £30 o leiaf yr wythnos ar gyfartaledd dros unrhyw 13
wythnos yn y “cyfnod prawf”. 4. nad oes gennych hawl i SMP.
Ble gallaf hawlio? Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen MA1 (ar gael o'ch clinig cyn geni, eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu ei gwefan www.jobcentreplus.gov.uk., neu ffoniwch 0800 055 6688). Dylech ei hanfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen neu gallwch gadarnhau yn y Ganolfan Byd Gwaith leol. Weithiau, caiff LM ei weinyddu'n lleol ac 5
weithiau o ganolfannau rhanbarthol. Hefyd, dylech gynnwys MAT B1 (tystysgrif mamolaeth) ac SMP 1 os oes gennych un (os oes gennych gyflogwr sy'n dweud nad oes hawl gennych i hyn, mae'n rhaid iddo roi un i chi).
Pryd galla i hawlio? Mae'n rhaid i chi hawlio o fewn 3 mis fan bellaf ar ôl stopio gweithio am gyfnod mamolaeth, neu gallech golli taliadau. Anfonwch yr MA1 cyn gynted ag y bo modd ar ôl 26ain wythnos y beichiogrwydd. Gallwch anfon MAT B1 ac SMP 1 (os yw'n berthnasol) yn nes ymlaen. Y cynharaf y gellir ei dalu yw 11 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni; os ydych yn ddi-waith, bydd yn dechrau bryd hynny. Os ydych yn gweithio, mae gennych fwy o ddewis ynglŷn â phryd mae'n dechrau.
Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) Beth ydyw? Y Tâl Mamolaeth Statudol yw’r lleiafswm y mae’n rhaid i gyflogwr dalu i weithiwr ‘cymwys’ am hyd at 39 wythnos. Efallai y bydd gan eich cyflogwr gynllun mwy hael fel rhan o’ch amodau a thelerau gwaith. Mae SMP yn cyfrif fel incwm at ddibenion budd-daliadau â phrawf modd, ond anwybyddir y swm sylfaenol ar gyfer Credydau Treth. Ni ellir talu SMP yn ogystal â "budd-daliadau disodli enillion" eraill (gweler tudalen 38).
Pam dylwn i hawlio? Mae SMP yn rhoi incwm sicr i chi am 39 wythnos. Os oes gennych hawl iddo, dyma'r unig fudd-dal disodli enillion a gewch. Cofiwch! Os ydych yn bodloni’r holl amodau isod gyda mwy nag un cyflogwr, gallwch hawlio SMP gan bob un ohonynt. Gall hynny fod yn berthnasol hefyd os oes gennych ddau gontract gwahanol gyda’r un cyflogwr. Ni fydd hynny’n gweithio os oes rhaid i chi ychwanegu enillion er mwyn cyrraedd yr isafswm i fod yn gymwys.
Beth yw ei werth? • Ar gyfer y 6 wythnos gyntaf: 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog (bydd eich cyflogwr yn cyfrifo'ch enillion crynswth cyfartalog trwy edrych dros gyfnod 8 wythnos o leiaf, hyd at y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch baban gael ei eni) • Ar gyfer y 33 wythnos sy'n weddill: £136.78 yr wythnos, neu 90% o'ch enillion wythnosol cyfartalog, p'un bynnag yw'r lleiaf.
Pwy sy'n gallu hawlio? Mae’r budd-dal hwn yn llawn iaith dechnegol ac amserlenni! Ond peidiwch â digalonni – cydiwch mewn dyddiadur neu galendr a dilynwch y camau. Dylai'ch cyflogwr wneud yr holl waith i weld a ydych yn gymwys ar gyfer hwn, ond mae'n werth gwybod sut mae'n ei wneud, rhag ofn eich bod chi'n meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad. 6
Y cam cyntaf yw gwybod wythnos ddisgwyliedig y geni a'ch enillion wythnosol Byddwch yn cymhwyso ar gyfer SMP os: 1. oeddech/ydych yn gweithio i'r un cyflogwr am gyfnod parhaol o 26 wythnos o leiaf hyd at (ac yn cynnwys 1 diwrnod o leiaf o'r) 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni. 2. enilloch chi/byddwch yn ennill digon yn yr wythnosau (8 wythnos o leiaf) cyn y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni. Mae'n rhaid bod hyn yn gyfartal o leiaf â'r Terfyn Enillion Is ar gyfer Yswiriant Gwladol (£109 yr wythnos yn 2013-14). Gallwch ychwanegu cyflogau gan gyflogwyr gwahanol a chynnwys unrhyw godiad cyflog a ôl-dalwyd yn y ffigur hwn. 3. ydych chi'n rhoi’r "rhybudd priodol" a’r wybodaeth i’ch cyflogwr. (Gweler Pryd gallaf hawlio? isod.) Mae’n rhaid i chi roi 28 niwrnod o leiaf o rybudd cyn cael yr SMP (gwell gwneud hynny'n ysgrifenedig a chadw copi). Mae’n rhaid i chi hefyd roi Ffurflen MATB1 gan eich meddyg neu’ch bydwraig i gadarnhau’r EWC o fewn 3 wythnos i ddechrau’r cyfnod mamolaeth. Mae’n bosib estyn y terfynau amser yma os oes gennych “achos da”.
Ni chewch wneud unrhyw waith taledig, i'r cyflogwr sy'n talu'r SMP i chi neu unrhyw gyflogwr arall, yn ystod y cyfnod SMP. Gallwch fynd i’r gwaith am hyd at 10 niwrnod “cadw mewn cysylltiad”, ond mynnwch gyngor neu gallai effeithio ar eich SMP.
Ble gallaf hawlio? Er bod SMP yn dod dan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM), rydych chi'n hawlio trwy'ch cyflogwr trwy ddweud wrtho pryd yr hoffech i'r SMP ddechrau. Os yw’ch cyflogwr yn herio’ch hawl i SMP, bydd yn rhaid iddo roi ffurflen SMP1 i chi o fewn 7 niwrnod, lle bydd yn rhaid i chi hawlio dewis arall megis Lwfans Mamolaeth. Mae gennych hawl i ofyn i’ch cyflogwr am ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â’ch SMP a’r rhesymau nad ydych yn gymwys. Os byddwch yn dal i anghytuno, gallwch gysylltu â’r “tîm ar gyfer herio taliadau statudol” ar 0191 225 5221. Gall CThEM ymyrryd a dyfarnu yn erbyn eich cyflogwr os yw’n anghywir.
Pryd galla i hawlio? Mae'n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod eisiau dechrau Absenoldeb Mamolaeth 15 wythnos o leiaf cyn wythnos ddisgwyliedig y geni, fel y gallwch ddechrau proses hawlio'r SMP bryd hynny. Mae angen i chi roi 28 niwrnod o rybudd pryd rydych am i'r tâl ddechrau ac mae'n rhaid iddo weld eich ffurflen MATB1 cyn y gall dalu SMP i chi. Y cynharaf y gellir talu SMP yw'r 11eg wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni. Fodd bynnag, cewch weithio nes i'r baban gyrraedd. (Os ydych bant o'r gwaith am unrhyw reswm sy'n ymwneud â beichiogrwydd yn y 4 wythnos olaf cyn wythnos ddisgwyliedig 7
y geni, bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau'n awtomatig bryd hynny.) Yr hwyraf y gallwch ddechrau’ch cyfnod mamolaeth a pharhau i gael SMP am y 39 wythnos gyflawn yw’r diwrnod wedi geni’r baban.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n mynd yn dost? Gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol os nad ydych yn gallu gweithio cyn y bydd eich “cyfnod mamolaeth” yn dechrau mewn gwirionedd. Ni all neb eich gorfodi i ddechrau'ch cyfnod mamolaeth yn gynnar oherwydd salwch. Fodd bynnag, os ydych bant oherwydd salwch sy'n ymwneud â beichiogrwydd yn y 4 wythnos cyn y bydd eich baban yn dod; bydd eich cyfnod mamolaeth yn dechrau'n awtomatig bryd hynny.
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) Beth ydyw? Mae’r un amodau’n berthnasol â’r Tâl Mamolaeth Statudol, ond mae’n rhaid eich bod yn 21 oed o leiaf (oherwydd na allwch fabwysiadu os ydych yn iau na hynny). Gall y naill bartner mewn cwpl hawlio – gallai’r partner arall gael y Tâl Tadolaeth Statudol (Mabwysiadu) – gweler isod. Yr un amodau sydd i’r tâl â’r SMP ac mae am “gyfnod tâl mabwysiadu” o hyd at 39 wythnos. Ond yn lle amseru popeth o “wythnos ddisgwyliedig y geni”, y dyddiad allweddol ar gyfer SAP (ar gyfer enillion, dyddiadau dechrau etc) yw “dyddiad disgwyliedig y lleoli”. Y cynharaf y gallwch ddechrau SAP yw 14 diwrnod cyn y dyddiad hwnnw, yn hytrach nag 11 wythnos. Y dyddiad olaf yw dyddiad y lleoli. Fel yr SMP, gallwch gael SAP o ddwy swydd os yw’r ddwy’n gymwys.
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) a Thâl Tadolaeth Statudol (mabwysiadu) Mae gan y rhain amodau tebyg i'r SMP (ac maen nhw'n cael eu talu ar yr un gyfradd â'r SMP) ond bod y taliad hwnnw am 1 neu 2 wythnos (eich dewis chi). Y cynharaf y gellir ei dalu yw o ddyddiad geni'r plentyn neu ddyddiad lleoli'r plentyn ar gyfer mabwysiadu, a'r cynharaf yw 8 wythnos ar ôl y dyddiadau hynny.
Pwy sy'n gallu hawlio? Gellir talu SPP neu SPP (Mabwysiadu) i dad biolegol neu bartner y fam neu i un o’r rhieni sy’n mabwysiadu (felly, gallai menyw gael SPP). Bydd yn rhaid cymryd y cyfnod TADOLAETH o fewn 56 diwrnod i enedigaeth y baban neu ddyddiad y lleoli (mabwysiadu).
Ble a phryd galla i hawlio? 8
Er mwyn hawlio SPP, bydd yn rhaid i chi ddweud y canlynol wrth eich cyflogwr yn ysgrifenedig o leiaf 28 niwrnod ymlaen llaw (naill ai trwy lythyr neu drwy Ffurflen SC3 neu SC4 (mabwysiadu) sydd ar gael o www.hmrc.gov.uk). • wythnos ddisgwyliedig y geni neu’r lleoli (a hysbysiad o’r mabwysiadu). • mai chi yw naill ai: o tad y plentyn ac y bydd gennych gyfrifoldeb am ei fagu; neu'n o bartner y fam/y sawl sy’n mabwysiadu (neu’n un sy’n mabwysiadu ar y cyd) ac y bydd gennych brif gyfrifoldeb am fagu’r plentyn. • y byddwch yn gofalu am y plentyn neu’n cefnogi’r fam/y sawl sy’n mabwysiadu ar y cyd yn ystod cyfnod yr SPP.
Genedigaethau cyn pryd Os bydd eich baban yn cael ei eni cyn y dyddiad y byddwch yn disgwyl cael eich SMP neu’ch SAP, efallai na fyddwch wedi cael amser i roi gwybod i'ch cyflogwr hyd yn oed. Mae angen i chi ddweud wrth eich cyflogwr o fewn 4 wythnos i’r enedigaeth. Gallwch gael SMP o hyd os oeddech: • wedi dweud wrth eich cyflogwr am ddyddiad disgwyliedig dechrau'ch cyfnod mamolaeth, ond mae’n rhaid bellach ei symud ymlaen: neu • nad oeddech wedi dweud, ond bod y baban wedi’i eni yn ystod neu cyn y 15fed wythnos cyn dyddiad disgwyliedig y geni. Mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o enedigaeth y baban, (e.e. tystysgrif geni) ac wythnos ddisgwyliedig y geni (e.e. MATB1) o fewn 3 wythnos i ddechrau’r cyfnod tâl mamolaeth. Gellir estyn hwn i 13 wythnos os bydd gennych reswm da.
Genedigaethau marw Yn anffodus, nid yw pob baban yn cael ei eni’n fyw. Bydd rhai’n farw-anedig neu’n marw'n fuan wedi cael eu geni. • Os bydd baban yn farw-anedig wedi 24ain wythnos y beichiogrwydd, byddwch yn gymwys i dderbyn SMP ac SPP fel arfer. • Os bydd baban yn farw-anedig cyn 24ain wythnos y beichiogrwydd, ystyrir hyn yw erthyliad naturiol ac ni fydd SMP nac SPP yn daladwy. Serch hynny, os bydd y baban yn cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg - hyd yn oed am ychydig - ac yna’n marw, ystyrir hyn yn enedigaeth fyw ac mae SMP/SPP yn daladwy.
Budd-daliadau eraill pan fyddwch yn feichiog Beth ydyw? 9
Efallai na fyddwch yn gallu hawlio SMP na’r Lwfans Mamolaeth os, er enghraifft • nad ydych wedi bod gyda chyflogwr yn ddigon hir neu wedi ennill digon i hawlio Tâl Mamolaeth Statudol; • nad ydych wedi bod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn ddigon hir i gael Lwfans Mamolaeth. Ond efallai y gallwch gael help trwy’r canlynol: • Lwfans Ceisio Gwaith – ar unrhyw adeg trwy gofrestru'n ddi-waith. • Cymhorthdal Incwm – o’r 11eg wythnos cyn dyddiad disgwyliedig y geni a 15 wythnos wedi hynny. Yn ystod y cyfnod yma, ni fydd gofyn i chi fod yn chwilio am waith. • Budd-daliadau ar gyfer salwch: Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh).
Budd-daliadau ar gyfer salwch • Nid cyflwr meddygol na salwch yw beichiogrwydd, ond mae’n bosib i chi gael peth help o fudd-daliadau ar gyfer salwch hyd yn oed os nad oes gennych salwch sy’n ymwneud â beichiogrwydd. Budd-dal heb brawf modd yw’r LCCh cyfrannol (fel SMP a’r Lwfans Mamolaeth), felly byddwch yn cael eich talu hyd yn oed os yw’ch partner yn gweithio neu os oes gennych gynilion dros £16,000. Bydd maint eich hawliad yn dibynnu a oes gennych ddigon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gall LCCh ar sail incwm gael ei dalu yn lle’r LCCh cyfrannol (os nad oes gennych y cyfraniadau YG cywir). Gall hefyd ychwanegu at yr LCCh cyfrannol os nad oes gennych lawer o incwm arall. Fel y Cymhorthdal Incwm, mae'r rhan fwyaf o incwm neu gynilion eraill sydd gennych chi neu’ch partner yn effeithio ar LCCh sy'n seiliedig ar incwm. Cael eich ystyried yn dost Efallai'ch bod yn teimlo’n iach iawn yn ystod eich beichiogrwydd, ond gellir eich ystyried yn dost os yw’r canlynol yn wir: • bod perygl i’ch iechyd chi neu’r baban heb ei eni pe baech yn gweithio; neu • eich bod o fewn 6 wythnos i roi genedigaeth ac am y 2 wythnos ganlynol wedi'r geni. Y tu allan i’r cyfnodau hyn, gallwch hawlio LCCh fel arfer os ydych yn rhy dost i weithio (boed hynny’n ymwneud â beichiogrwydd ai peidio). Mae hyn yn golygu nodyn ffitrwydd cychwynnol gan eich meddyg teulu, ac yna holiaduron hunanasesu ac archwiliad meddygol fel arfer gan ddoctor a benodwyd gan y DWP. Efallai na fydd y rhain yn talu mwy na’r budd-daliadau eraill rydych chi’n eu cael (e.e. Lwfans Ceisio Gwaith).
Ble gallaf hawlio? 10
Mae angen i chi ffonio 0800 055 6688 i gofrestru'ch hawliad. Gall yr hawliad gael ei gymryd dros y ffôn - sy'n cymryd tua 45 o funudau. Fodd bynnag, gallwch ofyn iddynt anfon ffurflen hawliad bapur.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn Beth ydyw? Taliad un-tro yw hwn o'r Gronfa Gymdeithasol (rhan o'r DWP) • Grant yw hwn, nid benthyciad, ac nid oes rhaid ei dalu’n ôl. • Os ydych yn bodloni’r amodau, rydych yn cael y grant.
Pam ddylwn i hawlio? Mae’n daliad £500 di-dreth a fydd o help mawr gyda’r holl gostau ychwanegol pan fydd eich baban cyntaf yn cael ei eni.
Pwy sy'n gallu hawlio? 1. Nid oes gennych blentyn dan 16 oed sy'n byw yn eich aelwyd ac rydych chi (neu aelod o'ch teulu): • yn feichiog neu wedi cael baban yn ystod y 3 mis diwethaf; neu • yn rhiant (ond nid y fam) a ddim yn bartner y fam ac yn gyfrifol am blentyn dan 1 oed; neu • wedi mabwysiadu neu wedi cael gorchymyn preswylio ar gyfer plentyn dan un mlwydd oed; neu wedi cael gorchymyn magu plant ar gyfer plentyn sydd wedi’i eni i fam fenthyg neu • mae gennych blentyn dan 16 oed sy'n byw gyda chi ac rydych yn feichiog neu wedi cael genedigaeth luosog yn ystod y 3 mis diwethaf. Bydd gennych hawl i grant ychwanegol ac 2. yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau/Credydau Treth cymhwysol hyn ar y diwrnod rydych yn gwneud eich hawliad neu wedi gwneud cais a bydd hawl gennych i'r budd-dal: • Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm; Credyd Pensiwn neu Gredyd Cynhwysol; neu • Gredyd Treth Plant lle caiff mwy ei dalu na’r elfen teulu sylfaenol • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol ac 3. wedi cael cyngor ar feichiogrwydd ac iechyd plant gan ymwelydd iechyd, clinig etc. • ddim yn destun rheolaeth fewnfudo • dydych chi neu'ch partner ddim yn rhan o anghydfod masnach
Ble gallaf hawlio? 11
Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen SF100 sydd ar gael gan y DWP, swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu glinig cyn geni neu drwy ffonio’r Gronfa Gymdeithasol. Mae’n rhaid i weithiwr iechyd proffesiynol ei llofnodi i gadarnhau'ch bod wedi cael cyngor.
Pryd gallaf hawlio? Gallwch hawlio o 11 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni neu hyd at 3 mis wedi geni’r baban neu ddyddiad y gorchymyn mabwysiadau/preswylio etc. Nid yw hawlio hwyr yn cael ei ganiatáu ac eithrio’r canlynol: • os na allwch ddod o hyd i ffurflen, anfonwch lythyr (trwy ddosbarthiad cofnodedig) gan gynnwys cymaint o fanylion ag y bo modd. Byddant yn anfon ffurflen yn ôl atoch, gan roi mis arall i chi. • os ydych yn aros am ddyfarniad am un o’r budd-daliadau cymhwysol, gwnewch eich hawliad mewn pryd a dywedwch wrthynt. Bydd y Gronfa Gymdeithasol yn gohirio’r penderfyniad neu'n eich gwrthod. Ond os ewch yn ôl atynt o fewn 3 mis i gael y budd-dal/Credyd Treth, fe gewch eich Grant Mamolaeth o hyd, ar yr amod bod y budd-dal cymhwysol yn cynnwys diwrnod eich hawliad gwreiddiol.
Rhan 2: Budd-daliadau ar gyfer plant dan 16 oed Mae'r rhan hon yn ymdrin â Budd-dal Plant a Chredyd Treth Plant - budd-daliadau (bron) yr holl blant hyd at 16 oed. Mewn rhai amgylchiadau, gallwch barhau i hawlio ar gyfer ‘plant’ dibynnol hyd at 20 oed. ☺ Dylai Budd-dal Plant gael ei dalu i brif ofalwr pob plentyn neu berson ifanc.
Budd-dal Plant Beth ydyw? Y budd-dal mwyaf adnabyddus sydd ar gael mae’n siŵr. Mae pobl yn dal i’w alw yn ôl yr hen enw, sef Lwfans Teulu. Ar hyn o bryd, mae'n fudd-dal heb brawf modd, ond oes os gan un o'r rhieni/gofalwyr enillion crynswth dros £50k, caiff yr hawl ei gostwng ac ni fydd hawl o gwbl pan fydd yr enillion yn cyrraedd £60k. Mae'r amodau'n syml - rydych yn ei gael am eich bod yn gofalu am blentyn neu berson ifanc 'sy'n gymwys'. Mae’n bwysig ei hawlio cyn gynted ag y bo modd oherwydd mae’n allwedd i agor y drws neu i gyflymu’r broses o hawlio budd-daliadau eraill ar gyfer plant.
Faint yw'r budd-dal? Nid yw budd-dal plant ei hun yn swm mawr ac mae'r cyfraddau wedi'u rhewi tan fis Ebrill 2014: • £20.30 ar gyfer y plentyn cyntaf a £13.40 are gyfer pob plentyn arall.
Pwy sy'n gallu hawlio? 12
Unrhyw un sy’n gyfrifol am: • blentyn dibynnol (plentyn dan 16 oed) neu • person ifanc sy'n gymwys (dan 20 oed ac mewn addysg amser llawn hyd at safon uwch neu gyfwerth, neu mewn rhai mathau o hyfforddiant a gymeradwyir gan y DWP). Nid oes rhaid mai chi yw rhiant y plentyn. Gallwch fod yn dad-cu neu'n fam-gu, yn berthynas, yn frawd neu'n chwaer hŷn, ar yr amod mai chi yw'r prif ofalwr. Mae'n rhaid eich bod yn gyfrifol am y plentyn oherwydd: • ei fod yn byw yn eich aelwyd neu • am eich bod yn cyfrannu i'w gefnogi ar raddfa sydd o leiaf yn gyfwerth â’r Budd-dal Plant.
Ble gallaf hawlio? Cyn i chi hawlio ar gyfer baban, mae’n rhaid cofrestru’r enedigaeth yn Swyddfa’r Cofrestrydd. Bydd angen i chi gysylltu â nhw i wneud apwyntiad. Mae'n rhaid i chi gofrestru'r enedigaeth o fewn 42 ddiwrnod. Gall arbed amser os ydych wedi meddwl am enw cyn cyrraedd... • Os yw’r rhieni’n briod, gall y naill neu’r llall gofrestru’r enedigaeth. • Os NAD yw’r rhieni’n briod â’i gilydd, mae’n RHAID i’r ddau fod yn bresennol er mwyn cofnodi manylion y tad. Wedi’r cofrestru, caiff tystysgrif geni ei chyhoeddi – mae un am ddim ond bydd rhaid talu am unrhyw gopi arall. Mae’r dystysgrif geni’n caniatáu i’r rhieni hawlio Budd-dal Plant. Bydd angen i chi anfon y dystysgrif geni ynghyd â ffurflen yr hawliad i'r Child Benefit Centre, PO Box 1, Newcastle upon Tyne NE88 1AA. Eu rhif ffôn cyswllt yw 0845 302 1474.
Credyd Treth Fel rheol, dylai unrhyw un â chyfrifoldeb am blant hawlio Credydau Treth Plant (CTP). (Os ydych chi neu'ch partner yn gweithio am 16 neu 24 awr yr wythnos (gwiriwch pa oriau sy'n berthnasol i'ch sefyllfa), gallwch hawlio Credyd Treth Gwaith (CTG) hefyd ar yr un ffurflen.) Gwnewch gais hyd yn oed os ydych yn meddwl y gallai'ch incwm fod yn rhy uchel; mae'r system yn gymhleth, ac efallai y cewch eich synnu. 13
Beth ydyw? • Caiff CTP ei dalu gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (Cyllid y Wlad gynt). • Gallwch gael CTP os ydych yn gweithio am dâl neu beidio - ar yr amod eich bod yn bodloni'r prawf modd. • Mae pob dyfarniad yn un dros dro, yn seiliedig ar eich incwm y llynedd – a chaiff pob un ei gwblhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Os yw'ch incwm yn y flwyddyn bresennol yn wahanol, gallech gael gormod neu ddim digon o dâl. • Os nad ydych wedi cael digon o dâl, byddant yn anwybyddu'r £2,500 cyntaf ac yn talu'r gwahaniaeth i chi'n nes ymlaen. Os cewch ormod o dâl, bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl. • Os yw’ch incwm yn is na £15,910 y flwyddyn (cyn didynnu treth ac Yswiriant Gwladol), cewch uchafswm y CTP ac nid yw'r cymhlethdodau hyn oherwydd gormod neu ddim digon o dâl yn codi.
Pwy sy'n gymwys? Chi a/neu unrhyw bartner os ydych yn gyfrifol am: • blentyn o dan 16 oed, NEU • person ifanc dan 20 oed sy'n aros ymlaen yn yr ysgol neu addysg bellach yn amser llawn neu mewn ffurfiau penodol o hyfforddiant a gymeradwyir gan y DWP. Mae’n rhaid bod y plentyn fel arfer yn byw gyda chi ac mae'n rhaid bod gennych brif gyfrifoldeb amdano. A dyna ni!! • Nid oes rhaid eich bod yn cael y Budd-dal Plant, felly gallai un gael BP a’r llall gael CTP. • Nid oes rhaid i chi fod y rhieni. • Nid oes terfyn cyfalaf – dim ond incwm trethadwy o gynilion a fydd yn cyfrif (ac nid os ydynt yn ddi-dreth - e.e. ISAs, rhai Cynilion Cenedlaethol).
Pam dylwn i hawlio? • Gall hawliadau fod yn syml. • Gall roi’r hawl i chi gael budd-daliadau eraill – prydau ysgol am ddim, Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn etc. • Mae'n cael ei dalu i'r sawl â phrif gyfrifoldeb gofal, ac mae'n hollol ar wahân i Fudddal Plant.
Sut galla i hawlio Credydau Treth? 14
Mae’r ffurflen TC600 ar gael o’r Ganolfan Byd Gwaith leol a swyddfeydd CThEM neu gallwch ofyn am becyn hawlio, gwirio a ydych yn gymwys neu ofyn am eich hawliad trwy ffonio CThEM ar 0845 399 3900 (ar agor o 8.00am tan 8.00pm). Gallwch wirio a ydych yn gymwys a llenwi’r ffurflen gais ar-lein yn: www.hmrc.gov.uk/taxcredits Gallwch ôl-ddyddio hawliad am fis yn unig, felly mae'n bwysig i chi wneud yr hawliad cyn gynted ag y bo modd. Nid oes lle ar y ffurflen i ofyn i'r hawliad gael ei ôl-ddyddio. Weithiau mae'n digwydd yn awtomatig, weithiau ddim. Pan gewch hysbysiad o ddyfarniad gan CThEM, gwiriwch, ac os nad yw wedi'i ôl-ddyddio, ffoniwch nhw.
Hawlio ar y cyd: Gwneir yr holl hawliadau Credyd Treth ar y cyd ag unrhyw bartner: gŵr, gwraig, partner (sifil neu fel arall) a bydd incwm y ddau ohonoch yn cael ei ystyried. Mae hyn yn golygu bod y ddau ohonoch yn atebol ar y cyd am unrhyw ordaliad. Mae hyn yn gallu golygu anghyfiawnder os yw CThEM yn mynd ar eich ôl chi am yr arian yn lle'ch cynbartner. Mynnwch gyngor. Mae’n RHAID hawlio o’r newydd os ydych yn gwahanu neu’n mynd gyda phartner newydd hyd yn oed os nad yw’ch incwm yn newid.
Llenwi'r ffurflen: Os ydych chi’n hen law ar ffurflenni hawlio gyda’r DWP neu’ch cyngor lleol, cewch weld bod CThEM yn gwneud pethau'n wahanol iawn. • Y newyddion da: mae’r ffurflenni’n fyrrach gyda llawer llai o gwestiynau na hen ffurflenni’r DWP ac nid oes rhaid i chi gynnwys tystiolaeth, slipiau cyflog diweddar etc. Mae’r ffurflenni adnewyddu’n fyrrach byth. • Y newyddion drwg: Bydd yn rhaid i rai pobl gyfrifo cyfanswm eu hincwm blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, sy’n gallu bod yn anodd. Ond os ydych yn derbyn un o’r prif fudd-daliadau â phrawf modd (e.e. Cymhorthdal Incwm, LCG yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm), ticiwch y blwch – ni fydd gofyn i chi gyfrifo cyfanswm eich incwm. • …Ac - os yw'ch incwm trethadwy'n wahanol i'r flwyddyn dreth flaenorol, bydd angen i chi roi gwybod i gredydau treth ar ôl i chi gael y penderfyniad dros dro, gan ofyn iddynt ail-addasu’ch dyfarniad yn seiliedig ar eich incwm amcangyfrifedig ar gyfer y flwyddyn bresennol - mae hyn er mwyn atal talu gormod neu ddim digon. • …Ac os ydych am i'ch hawliad gael ei ôl-ddyddio neu os ydych yn disgwyl penderfyniad ar hawliad ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl, bydd rhaid i chi ffonio CThEM ar wahân neu gynnwys yr wybodaeth hon mewn llythyr ynghlwm wrth y ffurflen hawlio. Mae hyn am fod cyfrifiadur yn darllen y ffurflenni ac nid yw'n gallu darllen gwybodaeth sy'n cael ei hysgrifennu y tu mas i'r blychau ac nid oes blychau ar wahân ar y ffurflen hawlio i gynnwys yr wybodaeth hon. Gellir talu hawliadau syml ymhen wythnos, ond gall hawliadau gydag ychwanegiadau â llaw gymryd llawer mwy o amser. 15
Adnewyddu'ch hawliad: Adolygiadau blynyddol a datganiadau Dyma ddechrau perthynas hir ac weithiau hapus gydag CThEM... Rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf, bydd CThEM yn anfon Ffurflen Adolygu Blynyddol (TC603R) atoch ac, yn y rhan fwyaf o achosion, Ffurflen Datganiad Blynyddol hefyd (TC603D). Yn y cyfamser, bydd CThEM yn eich talu yn ôl cyfraddau’r llynedd. Gwiriwch yr wybodaeth, nodwch unrhyw newid, llofnodwch a dychwelwch y ffurflenni. Bydd methu â dychwelyd y ffurflen erbyn 31 Gorffennaf yn golygu y bydd gormod o gredydau treth wedi'u talu i chi a bydd yn rhaid i chi eu talu'n ôl.
Cofiwch – mae terfynau amser: • 31 Gorffennaf – os na fydd eich ffurflen wedi'i chyflwyno, bydd credydau treth yn anfon hysbysiad atoch, gan ddweud bod eich taliadau wedi dod i ben; os ydych yn dychwelyd eich ffurflen o fewn 60 niwrnod i'r hysbysiad hwn, bydd CThEM yn dechrau'ch hawliad adnewyddu ac yn ei ôl-ddyddio i 6 Ebrill. • 31 Ionawr – Os nad oeddech wedi dychwelyd eich datganiad blynyddol ar neu cyn y dyddiad hwn, gellir ôl-ddyddio'ch hawliad adnewyddu ar gyfer credyd treth i 6 Ebrill dim ond os gallwch ddangos nad oeddech yn gallu llenwi'r ffurflen oherwydd amgylchiadau eithriadol ac nid oedd modd gwneud trefniadau i rywun arall eich helpu. Os nad yw CThEM yn ôl-ddyddio'ch hawliad adnewyddu, bydd unrhyw gredyd treth sy'n cael ei dalu i chi'n gallu cael ei adfer - mynnwch gyngor.
Faint yw'r Credyd Treth Plant? Mae CTP yn fudd-dal â phrawf modd a bydd yn dibynnu ar faint o incwm trethadwy sydd gennych chi a'ch partner dros y flwyddyn ariannol bresennol; faint o blant sydd gennych a'ch amgylchiadau. Er mwyn rhoi syniad i chi o uchafswm posibl yr CTP, rydym yn dangos y symiau ar gyfer mis Ebrill 2013/14, ond mae'r cyfraddau hyn yn newid bob blwyddyn.
Beth yw fy uchafswm CTP? Mae uchafswm eich Credyd Treth Plant yn cynnwys dwy ran: Elfennau o'r Credyd Treth Plant 1: Elfen y teulu (un y teulu) •
un swm y teulu tua £10.50 yr wythnos/£545 y flwyddyn. 2): Elfennau unigol – un y plentyn • Swm sylfaenol ar gyfer pob plentyn/person ifanc, £52.22 yr wythnos/£2,720 y flwyddyn. • hefyd, ar gyfer “anabledd”, £57.82 neu £3,015 y flwyddyn 16
(h.y. ar gyfer pob plentyn â’r hawl i unrhyw gyfradd o’r Lwfans Byw i’r Anabl – Gofal a/neu Symudedd). • hefyd, ar gyfer “anabledd difrifol”, £23.45 yr wythnos/£1,220 y flwyddyn ( h.y. swm ychwanegol y plentyn sy’n cael LBA Gofal ar y gyfradd uchaf).
e.e. Mae Rhiannon yn rhiant sengl sy’n cael Cymhorthdal Incwm. Mae ganddi ddau o blant, Geraint (3 oed) a Bethan (6 mis). Gan fod Rhiannon yn cael Cymhorthdal Incwm, mae’n cael uchafswm y Credyd Treth Plant: • Elfen y teulu £10.50 • 2 Elfen Unigolion ar £52.22, un yr un ar gyfer Bethan a Geraint = £104.44. Uchafswm Credyd Treth Plant Rhiannon yw £114.94 yr wythnos. Mae Geraint yn dechrau cael problemau gydag asthma ac ecsema, sy'n golygu bod rhaid i Rhiannon roi gofal ychwanegol iddo (e.e. lapio gwlyb, nebiwleiddiwr, meddyginiaeth). Ar ôl gwirio’r adran ar y Lwfans Byw i’r Anabl yn y canllaw hwn, mae ymwelydd iechyd Rhiannon yn awgrymu ei bod yn ceisio am LBA. Ar ôl 10 wythnos, mae Rhiannon yn cael llythyr sy’n dweud ei bod yn cael LBA Gofal (cyfradd is) sef oddeutu £21.00 yr wythnos (ac yn cael £210 o ôl-daliad). Caiff yr arian ychwanegol hwn ei dalu ar ben unrhyw incwm arall. Mae Rhiannon wrth ei bodd. Wedyn, mae ei hymwelydd iechyd yn cofio'r dudalen hon ac yn dweud wrth Rhiannon am gysylltu ag CThEM o fewn mis i'r penderfyniad LBA. Mae Rhiannon yn darganfod ei bod yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer anabledd (£57.823) yn ychwanegol at elfen unigol Geraint. Mae cyfanswm ei Chredyd Treth Plant yn cynyddu i £172.76 yr wythnos (a bydd yr elfen anabledd yn cael ei hôl-ddyddio i'r dyfarniad LBA, ar yr amod ei bod hi'n rhoi gwybod iddynt o fewn mis am y penderfyniad i roi LBA i Geraint. Er mwyn sicrhau bod cynnydd uchaf CTP oherwydd y dyfarniad LBA yn cael ei dalu, dylid dweud wrth CThEM am yr LBA ar adeg ei hawlio. Felly, at ei gilydd, mae cael yr LBA wedi bod yn werth £78.82 ychwanegol yr wythnos i Rhiannon.
Newidiadau a Chredydau Treth Dweud wrth CThEM am newidiadau: Mae’n rhaid i chi ddweud wrth CThEM am rai newidiadau – rhai y mae’n rhaid i chi sôn amdanynt ac eraill y gallwch ddewis peidio â sôn amdanynt! Mae’r categorïau hyn wedi newid eisoes yn hanes byr Credydau Treth – mae’r wybodaeth yn gywir ar adeg ysgrifennu’r arweiniad (Awst 2013) – ond ffoniwch nhw rhag ofn. 17
Mae'n rhaid i chi ddweud wrthynt o fewn mis os: ydych chi'n dod yn rhan o gwpl neu'n gwahanu (bydd angen i chi wneud hawliad newydd; cewch ostyngiad mwy na £10 yr wythnos yn eich costau gofal plant am 4 wythnos yn olynol; yw'ch plentyn yn gadael addysg berthnasol/hyfforddiant cymeradwy, nad ydych yn cael eich ystyried mwyach yn gyfrifol am eich plentyn/plant, neu fod eich oriau gwaith yn newid; ydych yn gadael y DU yn barhaol neu am fwy nag 8 wythnos (12 wythnos oherwydd salwch neu brofedigaeth); ar gyfer credyd treth plant, gallech golli'ch hawl i breswylio; Os ydych chi’n dod yn rhan o gwpl neu’n gwahanu, bydd eich hawliad yn dod i ben ac mae’n rhaid i chi gyflwyno cais sengl/ar y cyd newydd, hyd yn oed os nad yw hynny’n gwneud gwahaniaeth i’r swm. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth CThEM o fewn mis i hynny, neu gallech gael dirwy neu orfod ad-dalu unrhyw Gredyd Treth a dalwyd. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth CThEM am unrhyw newid arall sy’n effeithio ar yr elfennau yn eich Credydau Treth. Neu gallech golli unrhyw gynnydd neu gronni gordaliad y gallai fod yn rhaid i chi ei dalu’n ôl. Does dim rhaid i chi ddweud am newidiadau mewn incwm, oherwydd y byddant yn ailasesu ar ddiwedd y flwyddyn beth bynnag, gan ddefnyddio gwybodaeth eich treth incwm; ond efallai y bydd yn well gennych i'ch Credydau Treth barhau i gael eu talu ar y gyfradd iawn ac atal unrhyw ordaliad.
Pryd mae’r Budd-dal Plant a'r CTP yn dod i ben? Mae’r system fudd-daliadau a Chredydau Treth yn ystyried pobl yn blant nes iddynt gyrraedd 16 oed ac yn bobl ifanc o’u pen-blwydd yn 16 oed. Gallwch barhau i hawlio Budd-dal Plant neu Gredyd Treth Plant ar gyfer pobl ifanc gymwys hyd at 20 oed. Person ifanc cymwys yw rhywun sydd: mewn addysg amser llawn (dros 12 awr) nad yw’n addysg uwch (hyd at safon uwch neu gyfwerth). Gallent hefyd gael eu Lwfans Cynhaliaeth Addysg wrth wneud hyn; NEU yn dilyn cyrsiau hyfforddi penodol a gymeradwyir gan y DWP. Mae’r hyfforddiant cymeradwy'n amrywio o ardal i ardal ac mae enwau’r cyrsiau’n tueddu i newid – os nad ydych yn siŵr, mynnwch gyngor gan eich swyddfa gyrfaoedd leol.
Beth sy’n digwydd yn y flwyddyn olaf yn yr ysgol? Bydd y taliadau’n parhau tan ddiwedd addysg orfodol, sef diwedd y flwyddyn ysgol pan fydd person ifanc yn cyrraedd 16 oed yng Nghymru a Lloegr, sef 31 Awst (yn yr Alban, diwedd y tymor ysgol yw e). Mae CThEM fel arfer yn anfon hysbysiad y bydd eich credyd treth plant a'ch budd-dal plant yn dod i ben. Os ydych yn gwybod bod eich plentyn yn aros ymlaen yn yr ysgol neu'r coleg, neu y bydd yn mynd i hyfforddiant cymeradwy, mae'n rhaid i chi roi gwybod iddynt cyn gynted ag y bo modd i barhau i dderbyn budd-dal ar gyfer eich plentyn. Bydd Credyd Treth Plant wedyn yn parhau i gael ei dalu nes iddo gyrraedd 20 oed; felly mae'n 18
bwysig rhoi gwybod i gredydau treth pan fydd yn gadael addysg berthnasol neu hyfforddiant i osgoi gordalu a chosbau. Nid ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Plant ar gyfer plant yn y brifysgol gan nad yw hyn yn addysg berthnasol. Os nad yw wedi trefnu i fod yn yr ysgol/coleg y tymor nesaf, ystyrir ei fod wedi gadael ‘addysg berthnasol’. Mae’r dyddiadau terfynol ychydig yn wahanol: ☺ Mae Budd-dal Plant parhau tan “ddyddiad terfynol”, sy'n newid, gan ddibynnu ar bryd maen nhw'n gadael yr ysgol. I’r rhai sy’n gadael yn yr haf, y dyddiad yw 31 Awst. Ystyrir bod y person ifanc yn parhau i fod mewn addysg tan hynny. Mae Credyd Treth Plant yn parhau tan 31 Awst i'r rhai sydd newydd orffen Blwyddyn 11 a daw i ben ar unwaith i'r rhai sy'n gadael yr ysgol ar ôl Blwyddyn 11. Ond gellir estyn talu’r ddau fudd-dal am ychydig yn hwy…
Estyn y taliadau Y bwriad wrth estyn y taliadau yw rhoi amser i bobl ifanc 16 ac 17 oed benderfynu ac i leoliadau hyfforddi gael eu trefnu'n iawn. Mae angen yr help hwn ar y bobl ifanc hyn oherwydd na allant fel arfer gofrestru am Lwfans Ceisio Gwaith. Nid yw’r estyniad hwn yn berthnasol i bobl ifanc dros 18 oed. Mae’r estyniad yn parhau am hyd at 20 wythnos o'r dydd Llun ar ôl gadael addysg berthnasol neu hyfforddiant cymeradwy. Er mwyn cael y taliadau estynedig hyn, mae'n rhaid bod y person ifanc yn 16 neu'n 17 oed: • wedi ei gofrestru gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd/Connexions ar gyfer gwaith a hyfforddiant; • ddim yn gweithio am fwy na 24 awr yr wythnos; • ddim yn hawlio budd-dal trwy ei hawl ei hun. (e.e. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (LCCh) neu Lwfans Gofalwyr.
Gofalwyr Ifanc: Ar adeg ysgrifennu, gallech gael Credyd Treth Plant ond nid Budd-dal Plant ar gyfer gofalwr ifanc sy’n hawlio Lwfans Gofalwyr yn ystod y cyfnod estyn.
Pobl ifanc â phroblemau iechyd/anableddau: Os yw person ifanc yn parhau mewn addysg, efallai y gellir dewis pwy sy'n hawlio budd-daliadau ar ei gyfer. Gall y rhiant barhau i hawlio Credydau Treth Plant a Budddal Plant i gefnogi ei blentyn, neu efallai y bydd hawl gan y person ifanc i hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth trwy ei hawl ei hun, ond fel arfer mae'n rhaid bod ganddo ddyfarniad LBA neu TAB. Bydd y dewis yn dibynnu ar a yw'r person ifanc yn gallu hawlio budd-daliadau trwy ei hawl ei hun ac a fyddai'n well ei fyd yn ariannol na phe byddai ei riant/rieni'n parhau i hawlio budd-daliadau ar ei gyfer. Fel arfer, mae rhieni sy'n cael bron uchafswm y Credyd Treth Plant yn cael mwy o arian na phe byddai'r person ifanc yn hawlio trwy ei hawl ei hun. Dylech geisio cyngor i sicrhau gwneud y dewis iawn i'ch teulu chi.
19
Rhan 3: Yr annisgwyl mewn bywyd... Anabledd a salwch tymor hir Mae'r ffigurau sydd ar gael yn amcangyfrif bod tua 700,000 o blant ag anabledd yn y D.U. Fodd bynnag, 270,000 yn unig o’r rhain sy’n hawlio Lwfans Byw i’r Anabl. Gall hawlio budd-daliadau anabledd wneud gwahaniaeth sylweddol i incwm teulu. Eleni, bu newidiadau mawr i fudd-daliadau anabledd. Erbyn hyn gellir derbyn hawliadau newydd ar gyfer Lwfans Byw i'r Anabl dim ond os yw'r plentyn dan 16 oed; os yw'ch plentyn/person ifanc yn 16 oed neu'n hŷn, bydd yn rhaid iddo wneud hawliad am Daliadau Annibyniaeth Bersonol (TAB); dyma fudd-dal newydd sydd wedi disodli Lwfans Byw i'r Anabl i'r rhai rhwng 16 a 64 oed. Os ydych eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl, bydd rhaid i chi wneud hawliad am Daliadau Annibyniaeth Bersonol pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 oed. Wrth i'r hawliad am TAB gael ei asesu, bydd LBA yn parhau i gael ei dalu am hyd at flwyddyn neu nes i benderfyniad gael ei wneud ar yr hawliad am TAB. Oherwydd bod y meini prawf dyfarnu'n wahanol, efallai y gwelwch nad oes hawl gan eich plentyn i TAB, ond byddai ganddo hawl i LBA. Gallai'r newid hwn gael effaith sylweddol; oherwydd efallai na fydd hawl gennych mwyach i hawlio budd-daliadau eraill; efallai na fydd eich plentyn yn gymwys ar gyfer budd-dal trwy ei hawl ei hun; gall leihau swm y budd-daliadau rydych eisoes yn eu cael; a gallech golli eithriad o'r terfyn budd-dal. Felly, mae'n bwysig iawn i chi geisio help a chymorth gyda'ch budddaliadau.
Lwfans Byw i'r Anabl (i'r rhai dan 16 oed) Beth ydyw? Mae LBA yn rhoi arian ychwanegol – beth bynnag yw'ch incwm - i'r rhai y mae ganddynt salwch tymor hir, anableddau, anawsterau dysgu, problemau iechyd meddwl neu anhwylderau ymddygiad.
Mae dwy ran: •
Elfen ‘Gofal’ - caiff ei thalu ar un o 3 cyfradd: is, canol neu uwch ac mae ar gyfer help gyda gofal personol a/neu oruchwyliaeth.
•
Elfen ‘Symudedd’ - caiff ei thalu ar un o 2 gyfradd: is neu uwch ac mae ar gyfer help i fynd mas.
Mae’r ystod o anghenion sy’n cael eu cwmpasu gan LBA yn sylweddol – o blant â phroblemau iechyd tymor hir (megis asthma difrifol, ADHD) i anableddau amlycach, i'r rhai sy’n dioddef o afiechydon sy’n peryglu bywyd. Mae “rheolau arbennig” sy’n hwyluso’r prosesau hawlio i blant ag afiechydon sy’n peryglu bywyd. 20
Gall yr help a roddir fod yn gorfforol, ond mae hefyd yn cynnwys help llafar i wneud pethau (annog, ysgogi neu atgoffa) neu oruchwyliaeth ychwanegol i’w cadw nhw ac eraill yn ddiogel. Wrth gwrs, mae gan bob plentyn hyn a hyn o anghenion gofal a goruchwyliaeth. Er mwyn cael LBA ar gyfer plant, bydd rhaid i chi ddangos bod anghenion eich plentyn yn llawer mwy na phlentyn cyffredin o'r un oed.
Pam dylwn i hawlio? Gall LBA helpu gyda’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â salwch ac anabledd. Nid oes prawf modd, mae’n ddi-dreth a chi sy’n penderfynu sut mae ei wario. Mae’n cael ei dalu bob tro ar ben budd-daliadau eraill. Gall cael y Lwfans Byw i’r Anabl hefyd arwain at symiau ychwanegol sylweddol mewn Credyd Treth Plant a gallai oedolyn hawlio arian ychwanegol fel ‘gofalwr’. Gall yr effaith gyfunol olygu y gall y dyfarniad isaf fod yn werth dros £78 ychwanegol yr wythnos a thros £200 yn achos dyfarniadau cyfradd uchaf! Ar gyfer teulu ar fudddaliadau neu incwm isel, gall hyn newid eu bywydau.
Pwy sy'n gallu hawlio? Gall rhieni neu warcheidwaid hawlio ar ran y plentyn. Mae isafswm gofynion oedran ac mae'n rhaid i chi ddangos bod anghenion ychwanegol o'i gymharu â phlentyn cyffredin o'i oed. Cyfnodau cymhwyso: mae LBA fel arfer ar gyfer cyflyrau tymor hir. Mae’n rhaid bod y plentyn wedi cael anawsterau ers 3 mis ac yn debygol o ddioddef am 6 mis arall o leiaf. Nid yw hyn yn berthnasol ar gyfer hawliadau Rheolau Arbennig.
Sut gallaf hawlio? Mae'n well gofyn am ffurflen gais ddyddiedig gan Wasanaeth Anabledd, Gofalwyr a Phensiynau'r DWP. Ffoniwch 08457 123 456. Gofynnwch am becyn hawlio LBA ar gyfer plant. Bydd y rhain yn cynnwys y dyddiad y gofynnoch chi am y ffurflen a dyddiad 6 wythnos yn ddiweddarach. Os dychwelwch y ffurflen o fewn 6 wythnos, bydd unrhyw LBA a gaiff ei dalu'n dechrau o’r dyddiad y gofynnoch chi am y ffurflen. Os byddwch yn colli hyn, dylech ei hanfon beth bynnag, ond efallai na chaiff y tâl ei ôl-ddyddio. Os byddwch yn hwyr wrth ddychwelyd y ffurflen, ceisiwch esbonio pam mae wedi cymryd mor hir – e.e. doeddwn i ddim yn deall y ffurflen ac roedd angen help arnaf. Mae fy mhlentyn wedi bod yn dost ac felly doedd dim amser. Dwi’n cael trafferth darllen ac ysgrifennu a doeddwn i ddim yn deall beth roedd angen i mi ei wneud. Roeddwn i wedi trefnu apwyntiad i gael help ond roedd y gweithiwr yn dost. Roedd gweithiwr cymdeithasol fy mhlentyn yn mynd i helpu ond roedd e ar wyliau.
21
Dylai’r pecyn hefyd gynnwys amlen ragdaledig i’w ddychwelyd i’r swyddfa sy’n ymdrin â'r cais.
Rheolau LBA ar gyfer plant Terfynau oedran: Mae terfynau oedran gwahanol ar gyfer plant sy’n hawlio LBA. • LBA Gofal: o enedigaeth, ond oherwydd y cyfnod cymhwyso 3 mis, ni ellir ei dalu nes bod y plentyn yn 3 mis oed, oni bai'ch bod yn hawlio dan 'reolau arbennig' lle does dim cyfnod cymhwyso. • LBA Symudedd Uwch: o 3 oed. • LBA Symudedd Is: o 5 oed. “O’i gymharu â phlentyn cyffredin o’r un oed” Y prawf ychwanegol ar gyfer tair cyfradd LBA Gofal ac LBA Symudedd (Is) yw bod angen llawer mwy o help ar y plentyn na phlentyn cyffredin o’r un oed – o gofio bod angen rhywfaint o ofal neu oruchwyliaeth/gwmni ar bob plentyn mewn mannau anghyfarwydd. Po ifancaf y plentyn, anoddaf yw profi’r gofyniad ‘ychwanegol’ hwn. Mae dyfarniadau LBA dros y blynyddoedd wedi sefydlu’r canlynol: ☺
Mae unrhyw angen sy’n ymwneud â salwch neu anabledd bob amser yn ‘ychwanegol’.
☺
Mae faint o ofal neu oruchwyliaeth, neu help mewn mannau anghyfarwydd, sydd ei angen yn bwysig, e.e. gall pob plentyn ifanc fod ag angen help rhywun ar adegau prydau bwyd, neu arweiniad mewn man anghyfarwydd, ond efallai y bydd angen llawer mwy o help, neu fath gwahanol o help, ar blentyn â phroblemau ymddygiad neu gorfforol.
Nid yw hyn yn berthnasol i Symudedd Cyfradd Uwch.
LBA Elfen Gofal Caiff LBA Gofal ei dalu am un o ddau reswm: ! “sylw” – sy’n golygu help corfforol neu lafar (ysgogi, annog, atgoffa etc) gyda thasgau gofal personol megis codi, ymolchi, ymdopi â hylendid, gwisgo a dadwisgo, bwyta, symud yn y cartref, mynd i’r toiled, gweld, chwarae, rhyngweithio gydag eraill, anadlu, cysgu etc. ! “goruchwyliaeth” – lle bo angen cadw llygad ar blentyn oherwydd y perygl i’r plentyn neu eraill. Mae’n cael ei dalu ar un o dair cyfradd. Mae’r gyfradd yn ymwneud yn llai â difrifoldeb yr anabledd ac yn fwy â faint o sylw neu oruchwyliaeth ychwanegol y mae ei hangen ar blentyn a phryd y mae angen y sylw a’r oruchwyliaeth honno: Anghenion gofal am ran o’r diwrnod: 22
Tua awr o help ychwanegol, naill ai mewn un bloc neu wedi’i rannu rhwng cyfnodau byrrach. Mae’n rhaid i hwn fod yn help corfforol neu lafar - nid yw goruchwyliaeth yn cyfrif. Gofal yn ystod y dydd: Mae hyn yn golygu bod angen un o’r canlynol ar blentyn: ! help corfforol neu lafar ‘ychwanegol’ – ysgogi, annog neu atgoffa sawl gwaith dros y dydd – gall fod am ychydig funudau ar y tro; NEU ! rhywun i gadw llygad arno am y rhan fwyaf o’r dydd oherwydd anghenion ychwanegol - gall gynnwys seibiannau byr – i’w cadw nhw neu eraill yn ddiogel ac yn iach. Does dim rhaid cadw llygad barcud arno trwy’r amser – ond mae'n rhaid i chi ddangos bod angen mwy o oruchwyliaeth arno ac y gallai beryglu ei hun neu eraill. Gofal yn ystod y nos: Mae hyn yn golygu bod angen un o’r canlynol ar blentyn: ☺ help corfforol neu lafar ‘ychwanegol’ - ysgogi, annog neu atgoffa – naill ai unwaith am 20 munud neu am fwy nag un cyfnod byrrach; NEU ☺ rhywun a fydd ar ddi-hun ac yn gwylio’r plentyn unwaith am 20 munud neu am fwy na 2 neu 3 chyfnod byrrach. Mae hynny’n golygu aros ar ddi-hun. Pryd mae ‘nos’ a ‘dydd’? Diffinnir y nos fel y cyfnod wedi i’r teulu i gyd 'fynd i’r gwely am y nos’. Os bydd plentyn yn mynd i’r gwely am 9.00pm a chithau’n aros ar ddi-hun tan 11.00pm, ystyrir unrhyw help a roddir rhwng 9.00pm ac 11.00pm fel y dydd. Ond os yw’r plentyn yn eich cadw rhag eich gwely y tu hwnt i’ch amser gwely arferol, ystyrir yr amser fel nos. Mae diffiniad arall sydd gennym yn dweud bod nos rhwng 11.00pm a 7.00am. Mae'r cyfraddau budd-dal a gaiff eu talu'n cael eu penderfynu'n ôl y canlynol: • Os oes gan blentyn anghenion gofal am ran o’r diwrnod, bydd yn cael y Gofal Cyfradd Is. • Os bydd gan y plentyn anghenion gofal yn ystod y dydd yn unig neu’n ystod y nos yn unig, dylai gael Gofal Cyfradd Ganolig. • Os oes anghenion gofal gan y plentyn ddydd a nos, bydd yn cael y Gofal Cyfradd Uwch.
LBA Elfen Symudedd: Symudedd Cyfradd Is (yn daladwy o 5 oed) Caiff hyn ei dalu os yw’r plentyn yn gallu cerdded, ond bod angen llawer mwy o arweiniad neu oruchwyliaeth arno na phlentyn arall o’r un oed mewn mannau awyr agored anghyfarwydd. 23
Ni fydd y rhan fwyaf o blant ifanc yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn mannau anghyfarwydd. OND: !
efallai y bydd angen mwy o arweiniad ar blentyn â golwg rhannol er mwyn osgoi camu i berygl neu i osgoi rhwystrau,
!
efallai y bydd angen ar blentyn â phroblemau ymddygiad oruchwyliaeth/arweiniad ychwanegol i osgoi problemau a allai godi pan fydd e'n mynd mas.
Symudedd Cyfradd Uwch (yn daladwy o 3 oed) Caiff hyn ei dalu os bydd gan y plentyn anawsterau wrth gerdded oherwydd achosion corfforol neu oherwydd problemau ynghylch datblygiad ymenyddol. Bydd plentyn yn gymwys: !
os yw’n cael ei asesu'n 80% yn fyddar a 100% yn ddall neu
!
os yw â nam difrifol ar y golwg – mae hyn yn golygu bod gan eich plentyn lai na 3/60 o graffter gweledol (gyda sbectol neu lensys os oes angen); neu graffter gweledol (gyda sbectol neu lensys os oes angen) 3/60 neu'n fwy, ond yn llai na 6/60 YNGHYD â cholled maes golwg ymylol llwyr a maes golwg canolog heb fod yn fwy na 10° i gyd. Bydd eich optegydd neu'ch offthalmolegydd yn gallu cadarnhau a yw'ch plentyn yn bodloni'r meini prawf hyn neu os nad oes ganddo draed neu
! !
os nad yw’n gallu cerdded o gwbl (e.e. oherwydd parlys neu anffurfiad ar y coesau neu’r asgwrn cefn) neu
!
os yw cerdded bron yn amhosibl, (e.e. oherwydd diffyg anadl, arafwch, anghysur difrifol, cydsymudiad gwael neu golli’r gallu i gerdded dros dro). Mae’r prawf yn yr awyr agored, felly meddyliwch am arwynebau anwastad, rhwystrau arferol, esgyniad bach (e.e. ramp), ond nid bryniau, effeithiau tywydd gwael, amgylchedd llai rheoledig neu os yw cerdded yn cael effaith niweidiol ddifrifol ar ei iechyd (e.e. oherwydd cyflwr ar y galon) neu
! !
os yw’n gymwys oherwydd ‘nam meddyliol difrifol’ (gweler isod).
Os yw cerdded bron yn amhosibl: Mae hyn fel arfer yn gysylltiedig â phroblemau â’r traed, y coesau a’r cefn. Ond gallai rhai plant ag anawsterau dysgu fod yn gymwys: • Syndrom Down – gall problemau cydsymud a chydbwysedd sy’n gysylltiedig â gwahaniaethau ffisegol yn yr ymennydd gyfrif fel cyfyngiadau corfforol ar gerdded yn ogystal â phroblemau gyda’r coesau neu’r cefn. • Awtistiaeth – gall rhai plant ag awtistiaeth wrthod mynd ymhellach yn sydyn, yn enwedig yn yr amgylchedd ‘anrheoledig’ yn yr awyr agored. Nid rhywbeth pengaled neu strancio yw hwn. Ni fydd cynnig trît, neu fygwth etc. yn ddigon iddynt gychwyn eto. Mae’n fater o ‘fethu cerdded' yn hytrach na 'gwrthod cerdded'. Nam meddyliol difrifol: 24
I fod yn gymwys am y rhesymau hyn, mae'n rhaid i blentyn fodloni POB UN o'r canlynol: 1. yn gymwys ar gyfer LBA Gofal – Cyfradd Uwch – h.y. gofal dydd a nos: a 2. bod â datblygiad ymennydd 'gohiriedig' neu ‘anghyflawn’ sy’n cael effaith ddifrifol ar ei ddeallusrwydd a’i weithredu cymdeithasol; ac 3. yn dangos ymddygiad aflonyddgar eithafol; a 4. bod angen i rywun arall ymyrryd yn aml a'i atal yn gorfforol fel nad yw'n anafu ei hun, eraill neu eiddo; a 5. bod ei ymddygiad mor anrhagweladwy bod yn rhaid i rywun arall ei wylio pan fo ar ddi-hun
Sut gallaf hawlio LBA? Y pethau pwysicaf yn gyntaf – tystiolaeth ategol Os oes gennych feddyg teulu, ymwelydd iechyd, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cefnogi, nyrs arbenigol, seicolegydd ymgynghorol neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n deall eich cais ac yn gallu ei gefnogi, mae’n werth gofyn i bob un yn fuan iawn a fyddai'n barod i roi datganiad neu lythyr ategol i chi ei gynnwys fel rhan o’ch hawliad. Mae hawliadau y mae ganddynt dystiolaeth dda, fanwl, ategol yn tueddu i gael eu prosesu'n gyflymach ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus. Os ydych yn gwybod bod llythyr ar y ffordd ond heb ei gael mewn pryd i’w gynnwys, esboniwch hynny ar y ffurflen a gofynnwch iddynt aros amdano cyn penderfynu. Llenwi'r ffurflen EFALLAI y bydd rhywun sy’n eich helpu chi gydag iechyd neu anableddau'ch plentyn hefyd yn barod i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni. Os ydych chi’n gallu, mynnwch help gan ganolfan cynghori leol. Fel arall, llenwch dudalen ar y tro. Dyma rai awgrymiadau cyn i chi ddechrau: Mae'n mynd i gymryd amser hir – mwy na 2 awr – ewch ati i'w wneud mewn camau bach. Bydd braidd yn ddiflas. Gall effeithiau cael LBA fod yn gadarnhaol iawn – mwy o arian, dewisiadau, opsiynau a chyfleoedd i’ch plentyn, ond er mwyn ei gael, mae angen i chi ganolbwyntio ar ei anawsterau'n hytrach na’r pethau cadarnhaol. Gall fod yn annymunol – efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn labelu'ch plentyn (ond dydych chi ddim) neu’n wynebu’r ffaith ei fod yn wahanol. Os bydd yn mynd yn drech na chi, gadewch lonydd i’r ffurflen a cheisiwch ddod o hyd i rywun all helpu.
Canllawiau fesul tudalen Adran 1 - 18: Mae hyn yn gofyn manylion ynglŷn â'ch plentyn rydych yn gwneud yr hawliad ar ei gyfer; a chwestiynau am ddyddiau mewn gofal neu yn yr ysbyty, meddyg teulu'ch plentyn etc. Mae’r LBA fel arfer yn ysgrifennu at yr ysgol os yw’r plentyn yn yr ysgol neu at y meddyg teulu. Fodd bynnag, dylech roi gwybod iddynt pwy yw'r person gorau i ysgrifennu ato yn Adran 19. 25
Adran 19: Unrhyw un arall mewn gwirionedd, ond yn amlwg byddai’n well cael rhywun mewn awdurdod. Ond gair o rybudd – efallai na fydd gweithwyr proffesiynol yn gwbl gyfarwydd â’r materion ar gyfer LBA ac wrth gwrs, am bwysleisio’r cadarnhaol. Dylech esbonio bod dyfarniadau LBA yn seiliedig ar yr anawsterau y mae’r plentyn yn eu hwynebu a darllen y datganiad gyntaf. Amlygwch y pethau sy'n berthnasol am y plentyn, fel y bydd yn gwybod y byddwch yn cytuno â'r hyn y bydd efallai'n ei ddweud a fydd e ddim yn cynhyrfu! Does dim o'i le chwaith gyda llungopïo’r dudalen a chael amrywiaeth o bobl i'w llenwi. Adran 20: Mae angen i'r person y mae ganddo brif gyfrifoldeb am ofal y plentyn lofnodi'r ffurflen ganiatâd yma a'r datganiad yn nes ymlaen yn y ffurflen. Adran 21: Rhestrwch yr holl afiechydon ac anableddau sydd gan eich plentyn, nid y rhai rydych chi'n meddwl yw'r mwyaf arwyddocaol yn unig; Adran 22: Bydd angen i chi restru unrhyw gymorth neu addasiad mae'r plentyn yn ei ddefnyddio; pa help mae ei angen arno i'w defnyddio neu esboniad pam nad yw cymhorthion ac addasiadau sydd wedi'u darparu'n cynorthwyo. Adran 23: Rheolau Arbennig (ar gyfer plant tost iawn) - ticiwch y blwch yma os yw'r rhain yn berthnasol. Does dim rhaid llenwi’r tudalennau Gofal, ond os oes gan y plentyn anghenion symudedd, bydd angen i chi gynnwys manylion y rhain. Mae rheolau arbennig yn disodli'r rheolau arferol a llenwi ffurflenni os oes gan blentyn gyflwr y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fod yn angheuol o fewn y 6 mis nesaf; Nid yw hynny’n gyfystyr â dweud mai dim ond 6 mis sydd ganddo ar ôl i fyw; mae llawer yn parhau i fyw am flynyddoedd a bydd rhai'n dod oddi ar 'reolau arbennig' os bydd eu cyflwr yn gwella neu os bydd triniaethau newydd ar gael. Mae’r DWP yn gofyn i feddyg teulu neu ymgynghorydd eich plentyn am ffurflen DS1500 sy’n manylu ar y cyflwr a’r triniaethau presennol. Nid yw’n gofyn am brognosis ynghylch hyd oes. Does dim rhaid i chi gael un o’r rhain i fynd gyda’r ffurflen yma. Bydd y cais yn cael ei drin yn gyflym. Os bydd y DWP yn cytuno, bydd eich plentyn yn cael LBA Gofal Cyfradd Uwch, beth bynnag yw’r anghenion o ddydd i ddydd. Nid oes terfyn ar y dyfarniadau, ond y polisi ar hyn o bryd yw eu gwirio bob 3 blynedd. Adran 24: Mae'r adran hon yn ymwneud ag unrhyw amrywioldeb yng nghyflwr eich plentyn. Mae'n bwysig iawn i chi nodi unrhyw amrywioldeb ym mhob adran. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer dyfarniad, mae'n rhaid bod gennych yr anghenion yn amlach na pheidio. Adran 25 - 31: Symudedd Uwch - Llenwch y dudalen hon os yw’ch plentyn yn cael anhawster wrth gerdded NEU os oes problemau sy’n ymwneud ag anaf ymennydd neu anabledd dysgu a allai olygu ei fod yn gymwys (gweler yr adran flaenorol ar Symudedd Cyfradd Uwch). Mae pellter yn golygu cerdded cyn bod plentyn mewn anghysur difrifol: poen, diffyg anadl etc, nid pan fo rhaid iddo beidio neu’n methu mynd ymhellach. Mae 26
anawsterau eraill yn cyfrif hefyd: cydbwysedd, cydsymudiad, gwrthod yn llwyr cerdded ymhlith plant ag awtistiaeth. Adran 32 - 34: Symudedd is - Llenwch y dudalen hon os oes angen goruchwyliaeth neu arweiniad ychwanegol ar y plentyn yn yr awyr agored oherwydd anhawster dysgu, problemau ymddygiad neu resymau iechyd meddwl. •
Wrth gwrs, bydd angen rhywun i fod gyda phob plentyn ifanc, yn enwedig mewn mannau anghyfarwydd neu ddieithr.
•
Yr hyn sy’n berthnasol yma yw maint y monitro neu’r arweiniad y mae ei angen ar blentyn, yn enwedig gyda’r anawsterau ychwanegol pan fydd mewn man dieithr.
•
Ceisiwch esbonio pam mae’r math o arweiniad neu oruchwyliaeth yn wahanol – e.e. ‘mae angen help ar blant eraill yr un oedran â Simon i groesi’r heol a bod eu mamau’n cadw llygad arnyn nhw yn y lle chwarae, ond mae’n rhaid i mi fod wrth ei ochr trwy’r amser oherwydd mae mor fyrbwyll.’
Adran 35: Dylech nodi unrhyw wybodaeth arall rydych chi'n meddwl ei bod yn berthnasol yma. Cofiwch fod angen i chi greu darlun o anghenion eich plentyn i rywun sy'n eistedd mewn swyddfa nad yw'n adnabod eich plentyn nac wedi'i weld. Adran 36: Mae'r cwestiwn hwn yn ymwneud â'r 'cyfnod cymhwyso’ – mae'n rhaid bod eich plentyn wedi bod â'r anghenion ers 3 mis oni bai bod 'rheolau arbennig’. Gallwch lenwi'r ffurflen hon hyd yn oed os nad yw'r anghenion wedi bod ar eich plentyn ers 3 mis eto - mae dim ond yn golygu y bydd rhaid i chi aros y tro hwn cyn y gall taliad ddechrau os dyfernir budd-dal i chi. Adran 37: Help gyda gofal personol – mae hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o fywyd dyddiol y plentyn ac yn ymwneud â rhan Gofal LBA. • Os oes gan y plentyn fwy nag un cyflwr, efallai y byddai’n help i chi gadw rhestr ohonynt ar ddalen ar wahân wrth eich ymyl er mwyn i chi gofio ystyried pob un o’i gyflyrau mewn perthynas â phob gweithgaredd y mae’r ffurflen yn holi amdano. o e.e. ‘Mae iselder Mari ar ôl y ddamwain yn golygu bod angen ei hannog i fwyta ar adegau prydau bwyd. Mae’r niwed i’w braich hefyd yn golygu bod angen help arni i dorri’r bwyd sydd ar ei phlât.’ • Ceisiwch gofio’r math o help sy’n cael ei ystyried ar gyfer Gofal LBA wrth lenwi’r ffurflen – h.y. naill ai help corfforol ychwanegol, neu anogaeth lafar, ysgogi, atgoffa etc. • Ceisiwch esbonio faint y mae’r plentyn yn gallu ei wneud neu’n methu ei wneud heb yr help neu’r oruchwyliaeth hon a cheisiwch egluro bod hynny’n wahanol iawn i’r help y byddai ei angen ar blentyn o’r un oedran nad yw’n anabl. • Cofiwch gyfrif yr amser y mae pob elfen o’r dasg yn ei gymryd – e.e. efallai y bydd angen y canlynol ar blentyn i'w helpu i fwyta: 27
o o o o o o o o
ei setlo mewn cadair arbennig. gwisgo rhyw fath o bib neu amddiffyniad arall dros ei ddillad. ei berswadio i roi cynnig ar rywbeth neu ddechrau bwyta. gorfod bwydo’r plentyn â llwy. y plentyn yn teimlo’n rhwystredig neu’n grac ac angen ei dawelu. y plentyn yn poeri’r bwyd. yn llyncu’r bwyd yn rhy gyflym ac yn dechrau tagu. glanhau wedyn.
• Efallai y cewch eich synnu hefyd mor aml y mae’n rhaid gwneud rhai pethau, e.e. byddai’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai rhywbeth dwywaith y dydd yw gwisgo/dadwisgo. Ond efallai y bydd yn rhaid i blentyn ymdopi ag elfennau gwisgo/dadwisgo sawl gwaith: • • • • • • • • • • •
Y peth cyntaf yn y bore. Ar gyfer A.G., nofio, pêl-droed. Gweithgareddau/gwersi ar ôl yr ysgol/ar benwythnosau. Am ei fod yn sarnu pethau'n aml. Am ei fod yn anymataliol. Gwisgo dillad ychwanegol i fynd mas. Yn ystod apwyntiadau meddyg/ysbyty. Cael ffisiotherapi neu driniaeth arall. Wrth fynd i’r toiled. Newid o’i wisg ysgol wrth ddod adref. Newid i byjamas yn y nos.
Mae’r cyfan yn cyfrif! Efallai y bydd angen help i ymolchi bob tro y bydd plentyn yn defnyddio’r toiled. Hefyd mae plant yn aml yn bwyta mwy na thair neu bedair gwaith y dydd – maen nhw’n cael byrbrydau bach. Efallai y bydd angen help i chwarae neu gymdeithasu neu gyfathrebu yn awr ac yn y man trwy’r dydd. • Er mwyn nodi’r math o help ychwanegol angenrheidiol, gallai helpu i gwrdd â rhieni plant o’r un oedran nad oes ganddyn nhw afiechydon ac anableddau i’ch helpu i nodi’r ‘gwahaniaeth’. • Peidiwch â phoeni am y sillafu a’r gramadeg – mynegwch eich hunan cystal ag y gallwch a cheisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth ag y bo modd – p'un ai mewn rhestr neu fel brawddegau llawn. • Yr hyn rydych chi am ei gyfleu yw: o beth sy’n achosi’r broblem. o pa effaith mae'n ei chael. o beth yw’r anghenion neu’r oruchwyliaeth ychwanegol sy’n codi o’r herwydd.
28
Adran 48: Goruchwyliaeth – mae’r dudalen hon yn ymwneud â’r rhesymau goruchwyliaeth er mwyn cael LBA - dyma lle bydd rhaid i chi esbonio’r angen i rywun gadw llygad ar y plentyn i sicrhau ei fod ef a phobl eraill yn ddiogel. • Fel y cwestiynau gofal, bydd rhaid i chi berswadio’r DWP bod gan y plentyn anghenion goruchwyliaeth y tu hwnt i’r rhai sy’n angenrheidiol ar gyfer plentyn cyffredin o’r un oedran. • Nid yw’n golygu bod adegau wedi codi pan oedd y plentyn neu rywun arall mewn perygl er mwyn bod yn gymwys am resymau Goruchwyliaeth, ond mae’n rhaid bod tebygolrwydd rhesymol y bydd rhywbeth gwael yn digwydd os na fydd y plentyn yn cael ei oruchwylio. • Os cafwyd enghreifftiau o hynny, gall helpu os byddech yn eu disgrifio: • 'Tynnwyd fy sylw gan y ffôn yn canu'r mis diwethaf. Yn yr ychydig funudau hynny, roedd wedi tynnu’r sosban oddi ar y ford. Gallai’n hawdd fod wedi bod ar ben y cwcer.' • ‘Pan fydd y ffitiau’n digwydd, mae'n gallu anafu ei hun wrth gwympo. Dwi ddim yn gallu atal y ffitiau, ond gallaf sicrhau ei bod hi’n iawn ar ôl hynny a chael help os bydd angen.' • Cofiwch, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y dydd, mae’n rhaid bod angen goruchwyliaeth bron yn barhaus – gyda seibiannau prin iawn. A allai’r angen godi ar unrhyw bryd? • Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y nos, dim ond unwaith am 20 munud neu fwy y bydd angen goruchwyliaeth, neu fwy na 2 neu 3 gwaith am ba hyd bynnag. Mae’n rhaid bod angen i rywun fod ar ddi-hun i ddarparu’r oruchwyliaeth honno. Adran 50: Datblygiad y plentyn – mae’r tudalennau yma’n ymwneud â’r oedi yn natblygiad y plentyn: corfforol, sgiliau synhwyraidd, sgiliau dysgu, sgiliau cymdeithasol a help wrth chwarae. Yn aml, bydd yr un broblem yn codi mewn blychau gwahanol, felly mae’n werth ailadrodd hynny. Mae’n lle da hefyd i gymharu â phlant eraill rydych chi’n eu hadnabod o’r un oedran. Adran 51: Efallai nad ydych yn gwybod yr ateb i'r cwestiynau hyn a dylech ofyn i'r ysgol neu'r feithrinfa; fodd bynnag, os ydych yn sylwi bod eich plentyn yn dychwelyd adre wedi'i faeddu; neu â'i ginio heb ei fwyta, mae angen i chi sôn am hyn yma. Adran 52: Mae'r adran hon yn gofyn pa help ychwanegol mae ei angen ar eich plentyn i fynd i leoedd; os nad yw'ch plentyn yn mynd i lawer o leoedd oherwydd natur ei anabledd, gallwch nodi hyn yma; e.e. oherwydd problemau ymddygiad, mae angen cefnogaeth 2 i 1 ar fy mab/merch a dyw hyn ddim bob amser yn bosibl ac, o ganlyniad, nid yw'n gallu cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau. Adran 53: Mae'r adran hon yn ymwneud ag anghenion yn y nos. Cofiwch fod amser nos yn dechrau pan fyddwch chi fel arfer yn mynd i'r gwely - nid pan fydd y plentyn yn 29
mynd i'r gwely. Nod y blychau pa mor aml a pa mor hir yw darganfod a oes angen i chi godi fwy nag unwaith y noson (mynych) neu am fwy nag 20 munud (estynedig). Adran 54: Mae'r adran hon yn rhoi mwy o le - felly gellir ei ddefnyddio i barhau o adrannau blaenorol; neu i gynnwys gwybodaeth nad oes lle iddi yn yr adrannau eraill, ond mae'n rhoi gwybodaeth ychwanegol a pherthnasol i helpu i roi gwybod i'r sawl sy'n penderfynu am afiechydon neu anableddau'ch plentyn. Adran 55: Dyma'r cyfnod cymhwyso – gweler Adran 36 Adran 56 – 65: Mae'r adran hon yn gofyn am wybodaeth am y prif ofalwr - fel arfer y rhiant neu'r gwarcheidwad, ond gall fod yn ofalwr maeth os yw'r plentyn mewn gofal. Adran 66: Mae angen i'r person a lenwodd yr adran uchod ei llofnodi.
Beth sy'n digwydd nesaf? Ar ôl i chi anfon y ffurflen gydag unrhyw dystiolaeth ategol, cewch lythyr i ddweud bod y ffurflen wedi cyrraedd. Gall penderfyniad gymryd tua 2 neu 3 mis. Bydd penderfynwr DWP yn ystyried y ffurflen ac efallai y bydd yn penderfynu ysgrifennu at feddyg teulu neu ysgol eich plentyn neu bobl eraill a enwir ar y ffurflen. Efallai y bydd am i un o’u meddygon nhw alw heibio a llunio adroddiad. Dywedwch wrth eich meddyg teulu a’r ysgol eich bod yn cyflwyno cais am LBA er mwyn iddynt baratoi’r dystiolaeth ymlaen llaw.
Os caiff eich cais ei wrthod ... Peidiwch â digalonni! Mae llawer o geisiadau’n cael eu gwrthod ar gam. Nid yw’r penderfyniad yn hawdd ac yn aml gall y sawl sy’n penderfynu gamddeall natur cyflwr eich plentyn, neu’r rheolau, neu fethu â phwyso a mesur yr holl dystiolaeth. Nid ydynt yn cael llawer o amser i wneud hyn. Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad, cewch ofyn iddynt ailystyried neu gyflwyno apêl annibynnol. Mae’r rhan fwyaf o apeliadau’n llwyddo, yn enwedig os cewch chi help a chyngor neu fwy o dystiolaeth ategol. Felly, peidiwch â rhoi'r gorau iddi, mynnwch gyngor.
Taliadau Annibyniaeth Bersonol (16 – 64 oed) Beth ydyw Mae'r budd-dal hwn yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl i'r rhai rhwng 16 a 64 oed (gan estyn i 66 oed yn unol ag oedran ymddeol y wladwriaeth); Budd-dal di-dreth heb brawf modd yw hwn a does dim rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol i'w gael. Mae'n cael ei dalu ar ben budd-daliadau eraill a gellir ei dalu os ydych yn gweithio ai peidio.
Mae dwy ran iddo 30
•
Byw Dyddiol - telir ar un o 2 gyfradd: safonol neu uwch ar gyfer help wrth gymryd rhan mewn bywyd pob dydd.
•
Symudedd - telir ar un o 2 gyfradd: safonol neu uwch: ar gyfer help wrth fynd o le i le.
Mae meini prawf TAB yn wahanol i LBA am fod hawl yn seiliedig ar fodloni set o ddisgrifwyr mewn rhestr o weithgareddau ar gyfer 50% neu fwy o'r amser. Mae sgorio 8 pwynt yn dyfarnu'r gyfradd safonol ac mae sgorio 12 pwynt yn dyfarnu'r gyfradd uwch.
Cyfnod cymhwyso Mae'n rhaid eich bod wedi bod â'r anghenion ers 3 mis a bod disgwyl iddyn nhw barhau am y 9 mis canlynol;
Sut Ar gyfer hawliadau cyntaf, mae angen i chi ddechrau'ch hawliad trwy ffonio 0800 917 2222. Caiff gwybodaeth sylfaenol ei chymryd a chaiff eich hawliad ei gofrestru. Caiff ffurflen PIP2 ei hanfon atoch i'w llenwi, gan ofyn sut mae'ch salwch/anabledd yn effeithio arnoch. Os yw'r person ifanc bron yn 16 oed; caiff llythyr ei anfon at y rhiant a'r gwarcheidwad sy'n esbonio TAB a'r hyn y mae angen ei wneud; caiff llythyr arall ei anfon at y rhiant a'r gwarcheidwad sy'n dweud y caiff y person ifanc ei wahodd i hawlio TAB pan fydd yn cyrraedd 16 oed. Pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 16 oed, caiff ei wahodd i hawlio TAB; os yw'n methu ag ymateb i'r gwahoddiad hwn, bydd ei daliad LBA yn cael ei ohirio; bydd peidio â gwneud cais am TAB o fewn 8 wythnos yn arwain at derfynu ei ddyfarniad am LBA.
Help arall i blant a phobl ifanc ag anableddau Cynlluniau Bathodyn Glas Eich awdurdod lleol sy'n ymdrin â hawliadau. Mae bathodynnau ar gael i'r rhai y mae cyfyngiadau difrifol ar eu symudedd. Os oes gennych ddyfarniad o elfen symudedd LBA ar gyfradd uwch, byddwch yn gymwys yn awtomatig ar gyfer bathodyn glas, fel arall cewch eich galw am gyfweliad yn ôl pob tebyg. Fel arfer, mae plant dan 3 oed wedi'u heithrio o'r cynllun hwn oni bai bod angen cyfarpar meddygol swmpus ar y plentyn neu gerbyd modur i roi meddyginiaeth benodol.
Cronfa'r Teulu Cronfa llywodraeth sy'n darparu taliadau a grantiau disgresiynol i deuluoedd ar incwm isel y mae ganddynt blant ag anabledd difrifol dan 17 oed i dalu costau un-tro - e.e. gwyliau, peiriant golchi - ystyrir pob cais ar ei deilyngdod; un cais y flwyddyn - fodd bynnag gellir gwneud cais am grantiau'n gynnar os oes amgylchiadau neu angen eithriadol. 31
• • •
•
Mae’r gronfa'n agored i deuluoedd sy’n cynnwys plant a phobl ifanc ag anabledd difrifol hyd at eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae'n rhaid bod y teulu wedi bod yn byw yn y DU ers y 6 mis diwethaf o leiaf. Mae'n rhaid bod teuluoedd yn cael naill ai Cymhorthdal Incwm; Budd-dal Analluogrwydd; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Credyd Pensiwn; Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. Fodd bynnag, caiff incwm blynyddol o'r budddaliadau hyn ei ystyried wrth ddyfarnu. Nid oes cyfyngiad cyfalaf, ond caiff unrhyw incwm trethadwy o gyfalaf ei ystyried. Ni all Cronfa'r Teulu helpu plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda pherthnasau neu ofalwyr maeth.
Gallwch gysylltu â nhw: Trwy'r Post - Family Fund, Unit 4, Alpha Court, Monks Cross Drive, Huntington, York YO32 9WN Ffôn: 0844 9744 099 Ffôn testun: 01904 658085 E-bost: info@forestschoolsnpt.org.uk www.familyfund.org.uk
Lwfans Gofalwyr Beth ydyw? Budd-dal yw’r Lwfans Gofalwyr i bobl sy’n gofalu am oedolion neu blant sy’n cael Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfradd ganolig neu uwch yr elfen 'Gofal'; cyfradd byw dyddiol Taliadau Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Gweini. Gallwch hawlio’r Lwfans Gofalwyr am ofalu am eich plentyn eich hunan – nid yw bod yn dad neu'n fam yn golygu eich bod yn anghymwys. Weithiau, gallwch fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Gofalwyr ond ni chaiff ei dalu - ond gallai fod yn werth ei hawlio o hyd - darllenwch ymlaen. Nid oes prawf modd ar Lwfans Gofalwyr ac nid oes angen cyfraniadau YG. Mae'r cyfan yn cyfrif fel incwm ar gyfer budd-daliadau prawf modd. Ystyr hyn yw y bydd unrhyw daliad o Lwfans Gofalwyr yn cael ei dynnu o'ch budd-daliadau prawf modd. Fodd bynnag, mae dyfarnu Lwfans Gofalwyr yn cynyddu lefel y budd-daliadau prawf modd mae gennych hawl iddi. Mae’r gyfradd yn eithaf isel – tua £59.75 yr wythnos, felly yn aml gall pobl sy’n ei hawlio gael ‘ychwanegiad’ trwy’r Cymhorthdal Incwm hefyd. Os ydych chi'n hawlio Lwfans Gofalwyr ar gyfer oedolyn, dylech geisio cyngor oherwydd gallai taliad gwirioneddol gael effaith andwyol ar incwm y person rydych yn gofalu amdano. Efallai y byddai rhywun arall yn y teulu mewn sefyllfa well i gael y lwfans hwn
Pwy sy'n gallu hawlio? Gallwch hawlio os ydych yn hŷn nag 16 oed ac yn gofalu am rywun sy'n cael LBA Gofal (cyfradd ganolig neu uwch) neu Lwfans Gweini a chithau: ☺ yn treulio 35 awr yr wythnos yn gofalu – gellid gwneud hynny mewn penwythnos. ☺ ddim mewn addysg amser llawn (dros 21 awr yr wythnos). ☺ ddim yn ennill mwy na £100 yr wythnos.
32
Gellir ôl-ddyddio Lwfans Gofalwyr am 3 mis ar yr amod eich bod yn bodloni’r amodau yn ystod yr adeg honno. Os ydych yn hawlio Lwfans Gofalwyr o fewn tri mis i ddyfarnu LBA, gallwch gael y Lwfans Gofalwyr wedi’i ôl-ddyddio i ddyddiad dyfarnu'r LBA hyd yn oed os yw’n cymryd blwyddyn neu fwy i drin yr hawliad LBA (sy'n gallu digwydd). Gellir gwneud un hawliad yn unig am Lwfans Gofalwyr ar gyfer pob person. Mae hyn yn golygu nad oes gwahaniaeth faint o bobl rydych yn gofalu amdanynt na faint o ofalwyr sydd gan y person hwnnw, dim ond un hawliad y gellir ei wneud ar gyfer pob person. Fodd bynnag, efallai y bydd gofalwyr eraill yn gallu hawlio Credyd Gofalwyr. Rydych chi’n gymwys – ond ni ellir eich talu Budd-dal yn lle Enillion (gweler yr atodiad) yw Lwfans Gofalwyr. Dim ond un o’r rhain y gallwch ei gael ar yr un adeg, p’un bynnag yw’r mwyaf – ac nid Lwfans Gofalwyr yw hynny fel arfer! Felly pam trafferthu hawlio Lwfans Gofalwyr? ☺ Gallai fod hawl gennych i ‘bremiwm gofalwyr’ mewn budd-daliadau â phrawf modd – gallai hynny fod yn werth £33.30 yr wythnos. ☺ Gellir talu Lwfans Gofalwyr os bydd y budd-dal arall roeddech chi'n ei hawlio'n dod i ben. ☺ Cewch gredydau Yswiriant Gwladol sy’n eich helpu i adeiladu hawliad am bensiwn ymddeol y wladwriaeth. ☺ Gan nad yw Lwfans Gofalwyr yn cael ei dalu, does dim perygl o wneud llanast o incwm y person rydych yn gofalu amdano, fel a grybwyllwyd uchod. (Er mwyn sicrhau na fydd hyn yn digwydd, ceisiwch gyngor cyn hawlio. Nid yw'r cymhlethdod uchod yn codi os yw'r person sy'n derbyn y gofal yn blentyn.)
Credyd Gofalwyr Yn dechnegol, nid budd-dal yw hwn, ond credyd (Dosbarth 3) ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a fydd yn helpu i adeiladu hawl i Bensiwn Ymddeol sylfaenol y Wladwriaeth a chynorthwyo gyda hawliadau am Fudd-daliadau Profedigaeth. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y credyd hwn, mae'n rhaid i chi: • ofalu am un neu fwy o bobl am 20 awr neu fwy yr wythnos ac mae'n rhaid bod y person sy'n derbyn gofal yn cael: – Elfen gofal Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganol neu uwch – Elfen byw dyddiol Taliadau Annibyniaeth Bersonol – Lwfans Gweini ar unrhyw gyfradd – Lwfans Gweini Cyson ar unrhyw gyfradd; neu • bod gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol wedi ardystio bod angen arnoch yr oriau gofal a ddarperir bob wythnos; a • Bod yn hŷn nag 16 oed a than Oedran Ymddeol y Wladwriaeth - gellir ei ddyfarnu i'r rhai sydd mewn addysg amser llawn.
Lwfans Gwarcheidwaid Beth ydyw? 33
Budd-dal ychwanegol yw Lwfans Gwarcheidwaid sy’n cael ei dalu i bobl o unrhyw oedran sy’n gofalu am blant neu bobl ifanc cymwys sydd i bob pwrpas yn amddifaid. Budd-dal heb brawf modd yw Lwfans Gwarcheidwaid ac nid oes rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’n cael ei dalu hyd yn oed os nad yw’r “gwarcheidwad” yn gweithio ac a ydyn nhw'n warcheidwaid cyfreithiol ai peidio.
Pwy sy'n gymwys? Rydych yn gymwys ar gyfer pob plentyn cymwys os: • yw'r ddau riant wedi marw neu • yw un rhiant wedi marw ac ni wyddys ble mae’r llall ar adeg y farwolaeth ac ni ellir dod o hyd iddo er gwaethaf pob ymdrech neu • mae un rhiant wedi marw ac mae’r llall yn y carchar neu’n destun gorchymyn llys sy’n ei gadw yn yr ysbyty.
Sut gallaf hawlio? Mae ffurflen hawlio BG1 ar gael o Uned y Lwfans Gwarcheidwaid (0845 302 1464) neu o swyddfeydd lleol Cyllid y Wlad neu’r Ganolfan Byd Gwaith. Gellir ôl-dalu’r lwfans am 3 mis. Ond gallai’r sawl sy’n penderfynu ddewis ôl-ddyddio ymhellach os cafwyd cais am Fudd-dal Plant yn gynharach. Mynnwch gyngor.
Rhan 4: Help Ychwanegol Prydau ysgol am ddim • Ar gael i’r rhai sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm. • I’r rhai sy’n cael y Credyd Treth Plant mwyaf (ond nid os yw’r Credyd Treth Gwaith yn rhan o’r cyfrifiad) a’r rhai y mae eu hincwm blynyddol trethadwy yn llai na lefel y flwyddyn bresennol (£16,190 ar hyn o bryd). • Y rhai sy’n hawlio credyd gwarantedig y Credyd Pensiwn. Hefyd: • Pobl 16-18 oed sy’n hawlio ac yn derbyn trwy eu hawl eu hunain Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, y Credyd Treth Plant mwyaf ond nid Credyd Treth Gwaith. • Ceiswyr Lloches sy’n cael cymorth a ddarperir dan ran V1 Deddf Mewnfudo a Lloches 1999.
Grantiau gwisg ysgol Mae croeso i ysgolion bennu eu polisïau gwisg ysgol eu hunain, felly gall costau amrywio'n sylweddol. Efallai y gallech gael grant Llywodraeth Cymru gwerth £105 y plentyn cymwys os yw'n gymwys am brydau ysgol am ddim.
Pwy all hawlio • Disgyblion sy'n mynd i Flwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn y flwyddyn ysgol 2012/13, sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim 34
Sut gallaf hawlio Cysylltwch â'r ysgolion i gael manylion am sut mae gwneud cais.
Y Gronfa Cymorth Dewisol Disodlodd y gronfa hon Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng a oedd yn rhan o'r Gronfa Gymdeithasol Ddewisol. Mae Benthyciadau Cyllidebu'n parhau oni bai eich bod yn cael y budd-dal; Credyd Cynhwysol newydd sy'n disodli Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant a Budd-dal Tai. Efallai y bydd hawlwyr sy'n cael Credyd Cynhwysol yn gymwys ar gyfer blaenswm cyllidebu, ond ni fyddant yn gallu cael benthyciad cyllidebu gan y Gronfa Gymdeithasol. Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu grantiau i bobl y mae angen cymorth brys arnyn nhw a lle mae angen wedi'i nodi i ddiogelu iechyd a lles. Bydd y grantiau hyn yn wasanaethau a ddarperir; yn daliadau cerdyn ar gyfer eitemau penodol neu'n daliadau arian parod ar gyfer taliadau byw dyddiol. Yn y gronfa, mae dau fath o gefnogaeth grant nad oes rhaid i chi ei thalu'n ôl:
Taliadau Asesu Unigol (TAU) Beth ydyw? Ar gael i’r rhain yn unig - pobl sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm a Chredyd Pensiwn (y naill ran neu’r llall). Gall cynilion effeithio ar y swm a gaiff ei dalu i chi. Diben y grantiau hyn yw: • Lliniaru pwysau eithriadol ar deuluoedd. • Os oes rhaid i chi deithio yn y DU i ymweld â rhywun sy’n dost, neu fynd i angladd perthynas, lleddfu argyfwng yn y cartref, ymweld â phlentyn sy’n aros gyda rhiant arall wrth ddisgwyl penderfyniadau gwarchodaeth. • Ailsefydlu rhywun yn y gymuned wedi cyfnod mewn gofal preswyl/mewn sefydliad. • Atal rhywun rhag gorfod mynd i ofal preswyl/mewn sefydliad. • Helpu rhywun i sefydlu cartref fel rhan o raglen adsefydlu gynlluniedig, yn dilyn cyfnod o fyw’n ansefydlog.
Taliadau Cymorth Brys (TCB) Nod y grantiau hyn yw helpu pobl beth bynnag yw eu hawl i fudd-daliadau lle mae bygythiad uniongyrchol i iechyd neu les. Gall unrhyw un dros 16 oed gael ei ystyried yn gymwys ar gyfer grant y mae ei angen arnyn nhw i'w helpu gyda threuliau o ganlyniad i argyfwng neu drychineb. Gallwch gael tri grant yn unig mewn cyfnod o 12 mis treigl. 35
Sut gallaf hawlio? Gallwch wneud cais ar-lein yn: http://www.moneymadeclearwales.org; trwy ffonio 0800 859 5924 am ddim o linell dir neu 03301 015 000 - codir tâl ar y gyfradd leol neu gallwch lawrlwytho ffurflen gais a'i hanfon i: Cronfa Cymorth Dewisol; Blwch Post 2377; Wrecsam LL11 0LG. Os ydych yn cael eich gwrthod ar gyfer grant - mynnwch gyngor…
Y Gronfa Gymdeithasol Mae dwy ran iddi. Mae'r Gronfa Gymdeithasol reoleiddiedig sy'n cynnwys Taliadau Cychwyn Cadarn (soniwyd amdanynt yn gynharach yn y llyfryn hwn); Taliadau Costau Angladd a Thaliadau Tywydd Oer; a'r Gronfa Gymdeithasol Ddewisol sy'n darparu benthyciadau cyllidebu ar gyfer hawlwyr budd-daliadau. Roedd y Gronfa Gymdeithasol Ddewisol yn arfer cynnwys Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Argyfwng. Fodd bynnag, mae hyn wedi'i ddisodli gan y Gronfa Cymorth Dewisol.
Y Gronfa Gymdeithasol Reoleiddiedig: Taliadau Tywydd Oer Beth ydyw? Telir £25 am bob wythnos pan gafwyd cyfnod o saith niwrnod yn olynol pan gafodd y tymheredd dyddiol cyfartalog yn yr orsaf dywydd leol ddynodedig (Pen-bre yn yr ardal hon) ei gofnodi'n sero gradd Celsius neu'n is. Pwy sy'n gymwys? Rydych chi wedi cael dyfarniad Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm; Credyd Cynhwysol ac • mae'ch dyfarniad yn cynnwys y premiwm anabledd arferol, difrifol neu uwch ar gyfer oedolyn neu blentyn; yr elfen gweithgarwch neu gefnogaeth gysylltiedig â gwaith; neu Bremiwm Pensiynwr/Bremiwm Pensiynwr Uwch; neu • rydych yn gyfrifol am blentyn dan 5 oed; neu • rydych yn cael Credyd Treth Plant sy'n cynnwys elfen anabledd neu anabledd difrifol ar gyfer plentyn. Sut gallaf hawlio? Dylai'r DWP eich talu'n awtomatig os ydych yn gymwys. Bydd eich Adran Gwaith a Phensiynau leol yn cyhoeddi pan fydd cyfnodau o dywydd oer yn eich ardal.
Taliad Costau Angladd Beth ydyw? Efallai y byddwch yn gymwys am daliad i helpu gyda chostau angladd os yw'r DWP yn eich trin fel 'rhywun cymwys'. Hyd yn oed os ydych yn trefnu'r angladd ac yn cymryd cyfrifoldeb amdano, nid yw'n golygu o reidrwydd y byddwch yn cael y taliad hwn. Mae 36
trefn gaeth o ran y sawl yr ystyrir ei fod yn gymwys - mynnwch gyngor cyn gwneud cais.
Pwy sy'n gymwys? Mae'n rhaid eich bod yn cael budd-dal prawf modd - Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm; Budd-dal Tai; Credyd Treth Plant (sy'n fwy na £10.50 yr wythnos); Credyd Treth Gwaith sy'n cynnwys elfen ar gyfer gweithiwr anabl neu elfen anabledd difrifol, neu Gredyd Cynhwysol;
Faint byddaf yn ei gael? Bydd taliad yn talu am gostau penodol iawn o ran prynu lleiniau claddu; ffioedd amlosgi angenrheidiol a thystysgrifau meddygol a dogfennaeth berthnasol arall a chost resymol trafnidiaeth a hyd at £700 ar gyfer treuliau angladd eraill, sy'n cynnwys ffioedd trefnydd angladd, blodau etc. Nid yw dyfarniadau'n ddigon o bell ffordd i dalu am holl gostau angladd ac efallai y bydd rhaid i hawlwyr wneud cais am fenthyciad cyllidebu i dalu'r gweddill.
Sut gallaf hawlio? Gallwch hawlio ar ffurflen SF200 sydd ar gael o'ch Canolfan Byd Gwaith leol neu drwy lawrlwytho ar-lein neu ffonio'r Gwasanaeth Profedigaeth ar 0845 606 0265. Gallwch hawlio o unrhyw adeg o ddyddiad marwolaeth hyd at dri mis ar ôl dyddiad yr angladd.
Cronfa Gymdeithasol Ddewisol Benthyciadau cyllidebu Benthyciadau di-log yw’r rhain ac maen nhw ar gael i’r rhai sy’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm a Chredyd Pensiwn (y naill ran neu’r llall). Mae'n rhaid eich bod chi/eich partner wedi bod yn cael un o’r budd-daliadau hyn am y 26 wythnos diwethaf. Mae'n rhaid bod y benthyciad yn bodloni un o'r categorïau penodol a restrir ac am £100 o leiaf, bydd yr uchafswm yn amrywio ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ond ni all fod am fwy na £1500 (wedi tynnu unrhyw fenthyciad dyledus sydd eisoes gennych gan y Gronfa Gymdeithasol). Bydd faint o gynilion sydd gennych yn effeithio ar faint y gallwch ei hawlio. Bydd yn rhaid i chi ddangos y gallwch ad-dalu’r benthyciad.
Sut gallaf hawlio? Gallwch hawlio trwy lenwi ffurflen hawlio SF500 o'ch swyddfa DWP leol neu lawrlwytho un o www.gov.uk
Credyd Cynhwysol 37
Mae'r budd-dal hwn yn mynd i ddisodli'r budd-daliadau prawf modd ar gyfer pobl 18 – 64 oed (gan gynyddu i 66 oed yn unol ag oedran pensiwn y wladwriaeth); Bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn dal i allu hawlio mewn amgylchiadau eithriadol (tebyg i'r meini prawf presennol) Bydd Credyd Cynhwysol yn disodli Cymhorthdal Incwm; Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm; Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm; Credyd Treth Gwaith; Credyd Treth Plant a Budd-dal Tai. Bydd e'n un budd-dal a delir i un aelod o gwpl, p'un ai'n gweithio ai peidio, sy'n gweddu i'r prawf modd. Caiff ei dalu'n fisol mewn ôl-daliadau a bydd taliadau'n cynnwys symiau ar gyfer rhent. Bydd dyfarniadau'n seiliedig ar wybodaeth amser go iawn; a bydd rhaid bod gan hawlwyr ymrwymiad hawliwr sy'n nodi pa weithgarwch rydych chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) yn ymgymryd ag ef i ddod o hyd i waith; cynyddu'ch oriau gwaith; cynyddu'ch cyfradd dâl. Bydd newid mewn amgylchiadau'n effeithio ar ddyfarniad mis cyfan yn hytrach na phryd cafwyd y newid - mae hyn yn gadarnhaol os yw'n golygu cynnydd mewn hawl budd-dal, ond yn negyddol os yw'n golygu gostyngiad mewn hawl. Bydd rhaid ystyried eich 'cyfnod asesu' pan fydd amgylchiadau'n newid. Gall ambell newid mewn amgylchiadau fod wedi'i gynllunio, e.e. os yw'ch plentyn am adael yr ysgol yn ystod y tymor; symud cartref, ond does dim modd cynllunio eraill; e.e. chwalu teulu. Caiff y budd-dal hwn ei weinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Herio Penderfyniadau Os ydych yn meddwl bod penderfyniad yn anghywir neu fod eich amgylchiadau wedi newid ac nid yw'r penderfyniad bellach yn gywir, dylech ofyn i benderfynwr ailystyried y penderfyniad trwy geisio adolygiad (y cyfeirir ato'n aml fel ailystyriaeth) neu ddisodliad. Mae angen i chi ofyn am adolygiad os oedd (neu os ydych yn credu bod) y penderfyniad yn anghywir pan gafodd ei wneud. Fel arfer, dim ond un mis sydd gennych i ofyn am adolygiad am unrhyw reswm - er y gellir estyn hyn i hyd at 13 mis neu'n hwy os oedd gwall yn y gyfraith. Os yw'ch amgylchiadau'n newid, ac felly roedd y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, bydd angen i chi ofyn am ddisodliad ar y sail bod amgylchiadau wedi newid. Ar adeg ysgrifennu, gallwch gyflwyno apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad - fel arfer o fewn un mis, ond gellir estyn hyn i 13 mis os gallwch ddangos achos da, os yw'ch achos yn deilwng neu os yw er lles cyfiawnder. O fis Hydref 2013, bydd ailystyriaethau gorfodol cyn apêl yn cael eu cyflwyno. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi ofyn i'r penderfynwr ailystyried eich penderfyniad cyn y gallwch apelio. Os ydych yn anfodlon o hyd, bydd yn rhaid i chi apelio gyda'r 38
Gwasanaeth Tribiwnlys, nid yr adran a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol. Bydd angen eich penderfyniad ailystyriaeth ar y Gwasanaeth Tribiwnlys i dderbyn bod yr apêl wedi'i gyflwyno; fodd bynnag, os ydych wedi colli hwn, apeliwch beth bynnag, gan roi gwybod i'r Gwasanaeth Tribiwnlys eich bod yn gofyn am gopi arall. Bydd rhaid i chi gael copi arall o'r penderfyniad ailystyriaeth a'i anfon ymlaen at y gwasanaeth tribiwnlys cyn gynted ag y bo modd.
Cyngor ac Awgrymiadau Pan fydd rhaid i chi ffonio unrhyw un o’r asiantaethau neu adrannau sy’n gyfrifol am roi unrhyw fudd-dal neu Gredyd Treth, gallai’r canlynol fod yn ddefnyddiol. • Cadwch gofnod o’r dyddiad a’r amser y gwnaethoch gysylltu. • Gofynnwch am enw’r person ac ym mha adran y mae’n gweithio. • Os bydd yn rhaid i chi ofyn cwestiynau neu’n ansicr ynghylch rhywbeth, gwnewch nodyn o hynny cyn ffonio. • Os ydych ar ffôn symudol, gofynnwch iddynt eich ffonio’n ôl. • Os nad ydych yn deall beth sy’n cael ei ddweud yn iawn, gofynnwch iddyn nhw ei ddweud eto ac esbonio mewn ffordd y gallwch ei deall. Os byddwch yn gorfod defnyddio’r post: • Cadwch gofnod o'r dyddiad postio, os ydych wedi defnyddio amlen ragdaledig a ddarparwyd ganddyn nhw, neu bost dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth etc. • Os bydd rhaid i chi anfon mwy o wybodaeth fel slipiau cyflog neu dystysgrifau meddygol, cofiwch roi'ch enw, eich cyfeiriad a’ch rhif Yswiriant Gwladol ac, os yw’n rhan o gais ar y cyd, manylion eich partner hefyd. • Os oes modd, cadwch lungopïau o bopeth sy’n cael ei anfon – neu gall rhai argraffwyr cyfrifiaduron sganio dogfennau. Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn cael llythyr i gadarnhau bod DWP (neu CThEM) wedi cael eich cais. Mae hynny’n wir hefyd os byddwch yn anfon rhagor o dystiolaeth sy’n ymwneud â’ch cais, neu os yw'r asiantaeth yn gofyn i chi ei hanfon ati. Dylech hefyd gael llythyr penderfyniad sy’n dweud wrthych am ganlyniad yr hawliad. Bob tro y byddwch yn cysylltu â’r swyddfa Credydau Treth i ddweud am newid yn eich amgylchiadau neu i roi gwybodaeth, dylech gael hysbysiad am ddyfarniad a wnaed gan gyfrifiadur o fewn 4 wythnos. Os oes rhaid i chi roi gwybodaeth i swyddfeydd tai lleol neu isadrannau budd-dal tai/treth y cyngor, byddant yn rhoi derbynebau i chi, fel y dylai swyddfeydd lleol y Ganolfan Byd Gwaith.
39
Rhifau ff么n defnyddiol: Saesneg
Cymraeg
Bangor (hawliadau cyntaf) Wrecsam (ymholiadau/ newid mewn amgylchiadau)
0800 055 6688 0845 6003 016
0800 121 888 0800 0234 888 0845 600 3018 0845 6088 563
Budd-daliadau Profedigaeth
0845 606 0265
Lwfans Gofalwyr
0845 604 5312
Cronfa Cymorth Dewisol
0800 859 5924 / 03301 015 000 (codir t芒l ar y gyfradd genedlaethol)
Lwfans Byw i'r Anabl
08457 123 456
Budd-dal Tai/Treth y Cyngor
01792 635353 (Abertawe)
Canolfan Byd Gwaith Minicom Canolfan Byd Gwaith
0845 604 3719 01792 476692 (Abertawe)
Lwfans Mamolaeth
0845 608 8610
Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau/ Partneriaethau Sifil
01792 636188 (Abertawe)
Llinell Ymholiadau'r Gronfa Gymdeithasol: Credydau Treth
0845 300 3900
40
0845 603 6967
Ff么n testun
Atodiad
Sut gallaf fod yn siŵr fy mod wedi hawlio’r holl fudd-daliadau y mae gennyf hawl iddynt? Trwy grwpio'r budd-daliadau'n dri 'bloc adeiladu' a nodi'r rhai sy'n berthnasol i chi…
Bloc 1: Budd-daliadau Disodli Enillion: Mae'r rhain yn cynnwys 'Budd-daliadau Cyfrannol' a Thaliadau Statudol Enghreifftiau: Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cyfrannol, Lwfans Ceisio Gwaith Cyfrannol, Lwfans Mamolaeth, Lwfans Gofalwyr, Lwfans Rhieni Gweddw, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Salwch Statudol o
Nid oes prawf modd i’r rhain: rydych yn eu cael os oes gennych hawl iddynt, beth bynnag yw'ch incwm. Mae rhai'n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol gan eich gwaith; dyw eraill ddim.
o
Efallai y byddwch yn bodloni amodau sawl un ohonyn nhw, ond weithiau dim ond un y gallwch ei gael ar y tro. Os yw hynny'n wir, caiff yr un mwyaf ei dalu i chi.
o
Gall fod yn werth hawlio mwy nag un (yn enwedig yn achos y Lwfans Gofalwyr). Efallai na chewch chi’r budd-dal is, ond gallai effeithio ar y symiau a gewch ym Mloc 3.
Bloc 2: Budd-daliadau ychwanegol heb brawf modd: Mae’r rhain yn cael eu talu'n ychwanegol at at unrhyw incwm arall i helpu gyda chostau ychwanegol plant a phroblemau iechyd tymor hir/anabledd. Enghreifftiau: Budd-dal Plant, Lwfans Byw i'r Anabl. o
Nid oes prawf modd i'r rhain a gellir eu talu ar ben unrhyw incwm arall sydd gennych (megis budd-daliadau Bloc 1 neu gyflogau)
o
Nid oes rhaid eich bod wedi talu cyfraniadau YG i gael yr un ohonyn nhw.
o
Gellir eu talu os ydych yn gweithio am dâl ai peidio.
o
Weithiau, gall cael budd-dal Bloc 2 sbarduno hawl i fudd-dal Bloc 1, felly os cewch un, edrychwch eto ar Floc 1!
o
Gall budd-daliadau Bloc 2 gael effaith gadarnhaol ar fudd-daliadau Bloc 3…
Bloc 3: Budd-daliadau â phrawf modd a Chredydau Treth: Mae'r rhain i gyd yn fudd-daliadau i bobl ar incwm isel, a gaiff eu talu yn lle budd-daliadau Bloc 1, (e.e. os nad ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol) neu fel ychwanegiad. •
Mae rhai'n cynyddu'ch incwm (e.e. Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Treth Plant).
•
Mae eraill yn helpu gyda biliau penodol: Budd-dal Tai ar gyfer rhent; Budd-dal Treth y Cyngor ar gyfer treth y cyngor.
•
Gall y symiau a gewch gynyddu os ydych yn hawlio budd-daliadau Bloc 1 neu 2 penodol. Er enghraifft: o
Gall Lwfans Gofalwyr roi ‘premiwm gofalwr’ ychwanegol i chi mewn Cymhorthdal Incwm/LCG ac ESA. Ond byddwch yn ofalus os ydych yn hawlio am ofalu am
.
oedolyn o
Bydd unrhyw gyfradd o’r Lwfans Byw i’r Anabl yn ysgogi “elfen plentyn anabl” ychwanegol wrth gyfrifo Credyd Treth Plant a phremiwm plentyn anabl wrth gyfrifo budd-dal tai/treth y cyngor.
41
Blociau Adeiladu ar waith Mae'r enghraifft hon yn dangos sut gall bywyd pob dydd wneud hawlio budd-daliadau'n gymhleth iawn, a phwysigrwydd cael cyngor trwyadl, arbenigol ar y pethau gorau i'w hawlio, a phryd. Mae gan Siôn a Siân ddau o blant, Beti 2 oed a Bili 5 oed. Mae'r ddau'n gweithio'n amser llawn, ond mae eu cyflogau'n isel. Mae ganddyn nhw gostau ychwanegol oherwydd problemau ymddygiad Bili. • Bloc 1: Dim Budd-daliadau Disodli Enillion gan fod y ddau'n gweithio'n amser llawn. • Bloc 2: Budd-dal Plant gan mai nhw sy’n gyfrifol am y plant. • Bloc 3: Efallai y gallan nhw gael Credyd Treth Gwaith (am eu bod yn gweithio) a Chredyd Treth Plant am eu bod yn gyfrifol am y plant.
Beth arall allan nhw ei gael? Gyda phroblemau ymddygiad Bili, gwneir cais am Lwfans Byw i’r Anabl (LBA). Ar adeg y cais, dylid dweud wrth CThEM (credydau treth). Rhai misoedd yn ddiweddarach, ceir penderfyniad i roi elfen Gofal Cyfradd Ganolig ac elfen Symudedd Cyfradd Is LBA. Mae'r dyfarniad yn cael ei ôl-ddyddio i adeg hawlio'r LBA. Felly nawr: •
Bloc 1: Am fod elfen Gofal Cyfradd Ganolig LBA wedi'i dyfarnu i Bili, gallai'r naill riant neu'r llall fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Gofalwyr, os yw ei enillion net yn llai na £100 yr wythnos. Os ydyn nhw'n cael Lwfans Gofalwyr, bydd rhaid iddyn nhw ddweud wrth CThEM gan ei fod yn fudd-dal trethadwy ac yn cael ei gyfrif fel incwm wrth gyfrifo'u credydau treth.
•
Bloc 2: Maen nhw'n dal i gael Budd-dal Plant, ond byddan nhw hefyd yn cael LBA i Bili.
•
Bloc 3: Oherwydd eu bod wedi dweud wrth CThEM o fewn un mis i ddyfarniad LBA, caiff yr Elfen Plentyn Anabl ei hychwanegu at eu Credyd Treth Plant a'i hôl-ddyddio i ddechrau dyfarniad LBA (sef pan gafodd ei hawlio).
Rhai misoedd wedyn Oherwydd problemau iechyd tymor hir, mae Siôn wedi gorfod rhoi'r gorau i weithio. • Bloc 1: Gall gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cyfrannol, beth bynnag yw enillion Siân. Gall fod yn gymwys am ychwanegiad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, os yw Siân yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos ac mae ei henillion yn isel. Hefyd, gall hawlio Lwfans Gofalwyr am ofalu am Bili (ar yr amod nad oes neb arall yn ei hawlio). Efallai na chaiff y Lwfans Gofalwyr ei dalu os yw'n cael ESA Cyfrannol, ond os caiff yr hawliad ei ddyfarnu, gallai hyn gynyddu ei fudd-daliadau eraill ym Mloc 3. • Bloc 2: Gall Siôn ystyried hawlio TAB iddo’i hun – gallwch gael salwch ac anabledd a bod yn ofalwr i rywun arall. Gellir talu TAB hyd yn oed os byddwch yn dychwelyd i’r gwaith, ond bydd rhaid i chi ddweud wrth yr Uned LBA. • Bloc 3: Os dyfernir TAB i Siôn, bydd eu hawl ar y cyd i fudd-daliadau prawf modd fel Budd-dal Tai neu Gynllun Gostyngiad Treth y Cyngor yn cynyddu. Os bydd Siôn yn hawlio Lwfans Gofalwyr am ofalu am Bili, efallai y bydd Siân yn gallu hawlio Lwfans Gofalwyr am ofalu am Siôn (mae hynny’n dibynnu ar enillion Siân). Bydd hynny hefyd yn cynyddu eu hawl ar y cyd i fudddaliadau â phrawf modd. Mae Siôn wedi rhoi'r gorau i weithio ac mae ei incwm wedi disgyn; gallai hyn olygu cynnydd yng Nghredydau Treth Gwaith a Phlant y teulu, ond bydd unrhyw daliad o 42
Lwfans Gofalwyr a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cyfrif fel incwm trethadwy wrth gyfrifo hawl i Gredydau Treth.
Tair blynedd yn ddiweddarach Mae Siân a Siôn yn gwahanu. Mae Siân wedi gorfod rhoi'r gorau i'w gwaith oherwydd problemau gofal plant. Mae Siôn wedi symud mas a dychwelyd i’r gwaith. Mae Beti'n cael problemau gydag asthma ac ecsema. Mae ei hymwelydd iechyd yn cefnogi hawliad LBA: • Bloc 1: Mae Siân yn hawlio Lwfans Gofalwyr am ofalu am Bili. • Bloc 2: Mae Siân eisoes yn cael Budd-dal Plant ac LBA ar gyfer Bili. Ond mae hi nawr yn hawlio LBA ar gyfer Beti – mae hyd yn oed y gyfradd isaf yn rhoi £21.00 ychwanegol yr wythnos iddi. Mae’n rhaid iddi ddweud wrth CThEM am hawlio LBA. • Bloc 3: Mae Siân yn cael Cymhorthdal Incwm (fel gofalwr). Gan ei bod hi'n 'ofalwr', does dim rhaid iddi hi fod ar gael ar gyfer gwaith a chofrestru am Lwfans Ceisio Gwaith. Gallai Siân hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, ond byddai'n rhaid iddi hi fod ar gael ar gyfer gwaith a mynd ati i geisio gwaith ac, ar ôl 12 mis, byddai'n rhaid iddi hi ymuno â'r Rhaglen Waith. Mae hi hefyd yn cael uchafswm Credyd Treth Plant, ond os yw'n cael unrhyw ddyfarniad LBA ar gyfer Beti, bydd hyn yn cynyddu £57.82 yr wythnos. Mae angen iddi hi ddweud wrth CThEM beth sy'n digwydd. Mae hefyd yn cael y Budd-dal Tai/Treth y Cyngor llawn.
Crynodeb o'r Budd-daliadau Nid yw bod yn rhiant yn eich atal rhag cael yr un problemau â phawb arall. Gallai unrhyw fudd-dal fod yn berthnasol i chi fel rhywun heb blant, felly gobeithio y bydd y crynodeb canlynol yn ddefnyddiol.
43
Bloc 1: Budd-daliadau Disodli Enillion a thaliadau statudol Telir ar gyfer: Profedigaeth Budd-dal cyfrannol, yn seiliedig ar hanes Yswiriant Gwladol eich diweddar briod. Gofalu - Budd-dal anghyfrannol, heb brawf modd Mamolaeth a mabwysiadu – budd-dal anghyfrannol a heb brawf modd Ymddeoliad Cyfrannol
Salwch
Diweithdra – Cyfrannol
Budd-dal Lwfans Profedigaeth - ar gyfer gweddwon/gwŷr gweddw am 12 mis. Lwfans Rhieni Gweddw – ar gyfer gweddwon/gwŷr gweddw â phlant y mae Budd-dal Plant yn daladwy amdanyn nhw.
Lwfans Gofalwyr – am ofalu am blentyn neu oedolyn (am 35 awr yr wythnos) sy'n cael Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfradd ganolig neu uwch yr elfen 'Gofal' neu unrhyw gyfradd o Lwfans Gweini ac mae enillion net y gofalwr o gyflogaeth yn llai na £100 yr wythnos. . Tâl Mamolaeth Statudol – y lleiafswm cyfreithiol y mae’n rhaid i gyflogwr ei dalu i weithwyr sy’n gymwys am 39 wythnos. Tâl Mabwysiadu Statudol – fel yr SMP, ond pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn. Tâl Tadolaeth Statudol – am 2 wythnos i dadau sy’n disgwyl. Lwfans Mamolaeth – ar gyfer menywod sy’n methu cael SMP. Pensiwn Ymddeol – yn cael ei dalu i fenywod a dynion oed pensiwn (mae'r oedran yn cynyddu i 65 oed i fenywod erbyn 2018 ac i 66 oed i bawb erbyn 2020). Mae’r swm yn amrywio yn ôl y cyfraniadau, a oeddech wedi gohirio hawlio’ch pensiwn ac a ydych yn cael ail bensiwn gan SERPS neu Ail Bensiwn y Wladwriaeth. Gellir ychwanegu ato trwy Gredyd Pensiwn. Tâl Salwch Statudol – y lleiafswm y mae’n rhaid i gyflogwr ei dalu – hyd at 28 wythnos - Budd-dal Anghyfrannol Budd-dal Analluogrwydd (cyfrannol) – i bobl a oedd yn rhy dost i weithio cyn 27/10/08 ac mae ganddyn nhw'r cyfraniadau Yswiriant Gwladol cywir (oni bai eu bod dan 20 oed ac weithiau 25 oed pan gaiff amodau’r cyfraniadau eu hepgor) Gellir cael ‘ychwanegiad’ trwy Gymhorthdal Incwm. Bydd pobl sy'n hawlio'r budddaliadau hyn yn trosglwyddo i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth rhwng 2011 a 2014 Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cyfrannol – yn disodli’r Budd-dal Analluogrwydd o 27 Hydref 2008. Bydd y rhai a gaiff eu rhoi yn y Grŵp Gweithgarwch Cysylltiedig â Gwaith yn cael taliad am 52 wythnos yn unig. Ar ôl hyn, efallai y gallant gael ESA yn Seiliedig ar Incwm, ond bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau eu partner neu a oes ganddyn nhw gynilion. Mae'n bwysig parhau â'r broses o hawlio ESA - hyd yn oed os na chaiff budd-dal ei dalu i chi, gan y bydd eich cofnod Yswiriant Gwladol yn parhau i gael ei gredydu ac os bydd eich cyflwr yn dirywio, efallai y byddwch yn gymwys am daliad os cewch eich rhoi yn y Grŵp Cefnogi. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd gennych fwy o hawl i fudd-daliadau prawf modd. Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau – ar gyfer y 6 mis cyntaf, ar y gyfradd sylfaenol i chi’n unig. Efallai y bydd angen ychwanegiad trwy’r LCG yn seiliedig ar incwm neu newid iddo'n llwyr ar ôl 6 mis.
Bloc 2: Budd-daliadau ychwanegol heb brawf modd Plant
Costau anabledd ychwanegol
Iawndal Anabledd Arbennig
Budd-dal Plant - am ofalu am blant a phobl ifanc sy’n gymwys. Lwfans Gwarcheidwaid – am ofalu am blant y mae’r ddau riant wedi marw, neu os yw un wedi marw a’r llall i bob pwrpas wedi diflannu, neu yn y carchar neu yn yr ysbyty dan orchymyn llys. Lwfans Byw i'r Anabl – i blant a rhai oedolion ag anghenion Gofal neu Symudedd ychwanegol o ganlyniad i salwch neu anabledd tymor hir. Taliad Annibyniaeth Bersonol – disodlodd LBA i bobl 16 – 64 oed Lwfans Gweini – fersiwn lai hael o LBA i bobl dros 65 oed wrth hawlio am y tro cyntaf. . Cynllun Anafiadau Diwydiannol a Chynlluniau Analluogi Rhyfel - Mae’r rhain fel systemau budd-daliadau bach unigol, sy’n gallu bod yn fwy hael na’r prif fudd-daliadau ar gyfer anabledd. Dylech edrych ar y rhain os yw problem iechyd dymor hir/anabledd yn ymwneud ag anaf diwydiannol, clefyd galwedigaethol, gwasanaeth yn y lluoedd arfog neu fel dinesydd yn ystod rhyfel. 44
Bloc 3: Budd-daliadau â phrawf modd a Chredydau Treth Telir ar gyfer
Budd-dal/Credyd Treth
Oedolyn budd-daliadau 'diogelu'
Cymhorthdal lncwm – gall weithio fel ‘ychwanegiad’ at fudd-daliadau eraill ar yr amod eich bod yn gweddu i un o’r grwpiau sy’n gymwys ar gyfer Cymhorthdal Incwm, megis Lwfans Gofalwyr, Tâl Salwch Statudol, Lwfans Mamolaeth. Gellir ei dalu hefyd i rai rhieni sengl. Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm) – os ydych yn gorfod ‘cofrestru’ a chwilio am waith. Gall ychwanegu at LCG ar sail cyfraniadau neu ei dalu ar ei ben ei hun. Credyd Pensiwn – i fenywod a a dynion dros oedran pensiwn menywod. Yn 'ychwanegu' at y Pensiwn Ymddeol. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm) - disodlodd Gymhorthdal Incwm ar gyfer salwch o 27 Hydref 2008.
Plant
Credyd Treth Plant – telir i’r holl rieni cymwys, p'un ai'n gweithio am dâl ai peidio. Rhieni ar fudd-daliadau ‘diogelu’ neu ag incwm sy’n is nag oddeutu £15,910 y flwyddyn fydd yn cael y symiau mwyaf.
Ychwanegu at gyflogau isel
Credyd Treth Gwaith – rhieni sengl neu bobl ag anabledd sy'n gweithio dros 16 awr yr wythnos; neu gyplau lle mae un yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ond maent yn gweithio 24 awr rhyngddyn nhw neu bobl dros 25 oed nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb am blentyn ac nad oes ganddyn nhw anabledd, ar yr amod eu bod yn gweithio dros 30 awr yr wythnos sy'n gallu hawlio hyn. Mae’n cynnwys symiau ar gyfer gofal plant. Budd-dal Tai - yn helpu gyda rhent. Gellir ei dalu p’un a ydych yn gweithio ai peidio. Nid oes rhaid eich bod ar Gymhorthdal Incwm i hawlio. Caiff ei weinyddu gan yr awdurdod lleol ar ran y llywodraeth. Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor – fel Budd-dal Tai, ond mae’n helpu gyda biliau Treth y Cyngor. Mae llawer yn methu hwn, yn enwedig pobl hŷn. Costau Tai – Os ydych yn talu morgais (neu fenthyciadau gwarantedig penodol eraill), gallwch gael help trwy'r budd-daliadau ‘diogelu’ i oedolion uchod i dalu’r llog.
Costau Tai
Taliadau un-tro o'r Gronfa Gymdeithasol "reoleiddiedig"
Taliadau untro/tymor byr Cronfa Cymorth Dewisol; DWP Benthyciadau Cyllidebu a Benthyciadau Dros Dro Awdurdod Lleol Taliad Tai Dewisol
Taliadau sengl yw’r rhain os ydych yn bodloni’r amodau:
• Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn • Taliadau Costau Angladd – i helpu gyda chostau angladd. • Taliadau Tywydd Oer – Swm wythnosol sy’n cael ei sbarduno yn ystod cyfnodau oer iawn i’r rhai sy’n gymwys – e.e. mae gennych blentyn dan 5 oed neu blentyn anabl ac yn cael budd-dal ‘diogelu’.
• Taliadau Cymorth mewn Argyfwng - ar gyfer argyfyngau a thrychinebau a byddant yn diogelu iechyd a lles • Taliadau Cymorth Unigol - ar gael mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig, ond byddai ‘teulu dan bwysau eithriadol’ yn cyfrif. Gellir ystyried mam feichiog yn ‘deulu’. • Benthyciadau Cyllidebu - benthyciad heb log ar gyfer eitemau un-tro, ond addaliadau trwm iawn. Gellir eu lleihau os oes gennych filiau eraill. • Taliadau Dros Dro - wrth aros i fudd-daliadau eraill ddod trwodd. • Taliad Tai Dewisol – i gynorthwyo gyda diffyg yn eich rhent
45