NEWYDDION
ABERTAWE ACTIF su’n well Croeso i drydydd cylchlythyr Abertawe Actif - sy’n ceisio eich hysby eich canolfan am y campau a’r gweithgareddau iechyd y gallwch eu mwynhau yn leol ac yn eich ardal.
DIOLCH I GYNGOR TREF GORSEINON
PROFFIL STAFF
Roeddem yn gallu gwella ein rhaglen wyliau’r haf eleni oherwydd arian gan Gyngor Tref Gorseinon. Rydym wedi gwneud defnydd da o’r grant gwerth £1000 i brynu cyfarpar newydd ar gyfer ein gweithgareddau plant poblogaidd a helpu i dalu am deithiau tywys. Mae ugeiniau o blant wedi teithio gyda ni i Fferm Ffoli a Pharc Oakwood am ddau ddiwrnod llawn hwyl - roedd yr arian wedi’n helpu i gadw costau’n isel a galluogi mwy o blant i ymuno yn yr hwyl. Meddai David Lewis, Arglwydd Faer Cyngor Tref Gorseinon, “Ar ran Cyngor Tref Gorseinon, rwy’n falch bod Canolfan Hamdden Penyrheol wedi gwneud defnydd da o’r grant gwerth £1000, gan helpu i ariannu gweithgareddau gwyliau diweddar. Mae’r ganolfan hamdden yn ased gwych i gymunedau Gorseinon a Phenyrheola c mae’n darparu llawer o weithgareddau i bobl ifanc a hyˆn yn lleol a’r tu hwnt. Mae cyngor y dref yn falch o gefnogi canolfan mor deilwng.”
Enw: Huw David Edwards Canolfan a theitl swydd: Hyfforddwr Ffitrwydd ym Mhenyrheol. Pa mor hir ydych chi wedi gweithio gydag Abertawe Actif?: Blwyddyn, ac rwyf wedi dwlu ar bob munud ohono. Beth yw'r peth gorau am eich swydd: Cwrdd â phobl newydd a chael hwyl yn eu cwmni. Rwy'n dwlu ar siarad â chwsmeriaid ac rwy'n gwneud fy ngorau i helpu pobl i gyrraedd eu nodau. Mae'n hwyl, ac rwy'n cwrdd â rhai cymeriadau go iawn. Hoff fwyd: Anrhyw beth! Hoff chwaraeon: Mae'n rhaid i mi ddweud pêl-droed.
My Swansea Fy Abertawe
YDYCH CHI’N HEL ESGUSODION I OSGOI YMARFER? Mae’n debyg y bydd llawer ohonom yn hel unrhyw esgusodion i osgoi ymarfer – dyna’r un o’r prif resymau pam rydym yn ei chael yn anodd i golli pwysau a chadw’n heini. Mewn arolwg diweddar o 2,000 o oedolion a gynhaliwyd gan Weight Watchers, y prif resymau oedd:
1) Mae’n rhy ddrud (23%) 2) Diffyg amser (17%) 3) Mae ymarfer yn ddiflas (15%) Meddai Amy Lloyd, rheolwr ffitrwydd Abertawe Actif, “Nid yw’r canlyniadau hyn yn fy synnu. Pan gânt eu holi am ffitrwydd, mae aelodau’n meddwl am lawer o esgusodion i osgoi ymarfer yr adeg hon o’r flwyddyn! Nid yw pobl am ddod allan yn y tywydd oer, tywyll a gwlyb, ac mae’n hollbwysig bod eich cymhelliant yn parhau. Ond, mae’n werth parhau â’r drefn. Mae staff wrth law i annog aelodau i ddal ati, eu helpu i amrywio eu trefn a sicrhau bod eu hadrenalin yn llifo!”
Dyma’n hawgrymiadau gorau i ateb yr holl esgusodion… Mae’n rhy ddrud Ydy hyn yn wir? Mae gennym amrywiaeth o ddewisiadau yn y canolfannau i’w gwneud mor hygyrch â phosib. Rydym yn credu’n gryf bod cost ein haelodaeth safonol o £29.75 y mis ar gyfer y gampfa, nofio, dosbarthiadau a racedi yn werth gwych am arian, ond os ydych yn cael trafferth i wneud taliadau, siaradwch â rhywun o dîm y dderbynfa am ein cynlluniau aelodaeth PTL, pâr a chorfforaethol. Gyda llaw... os ydych yn mynd i’r canolfannau deirgwaith yr wythnos fel y cymeradwyir i chi’i wneud, bydd pob sesiwn yn costio llai na pheint o gwrw yn eich tafarn leol.
Diffyg amser A oeddech yn gwybod bod pob unigolyn ar gyfartaledd yn treulio 6 awr o flaen y teledu? Ie, 6 awr! Rydym yn sylweddoli ei bod yn anodd cydbwyso gwaith â bywyd y teulu a’i bod weithiau’n anodd gadael y tyˆ, ond nid oes angen iddo fod am amser hir. Gall sesiwn 20-30 munud wneud gwyrthiau – nid oes angen i chi dreulio oriau yn y gampfa i weld y manteision. Mae ymarfer corff yn aml am gyfnodau byr yn well na sesiwn hir unwaith yr wythnos. Beth am gynnwys sesiwn ymarfer yn ystod eich egwyl ginio neu cyn mynd i’r gwaith?
Mae ymarfer yn ddiflas! Gall fod yn ddiflas os ydych yn gwneud yr un peth trwy’r amser, ond mae’n rhaid i chi amrywio’ch trefn. Os ydych yn hoffi mynd i’r gampfa, gofynnwch i un o’r hyfforddwyr am raglen newydd, rhowch gynnig ar un o’n dosbarthiadau ffitrwydd neu ewch am drochiad yn y pwll.
Cofiwch... teimlo’n dda yw’r nod! Er mai prif ddiben mynd i ganolfan hamdden i lawer o bobl yw gwella gweithgaredd corfforol, y tro nesaf byddwch yn ymarfer, canolbwyntiwch ar sut mae ymarfer yn gwneud i chi deimlo. Mae’n ffaith y byddwch yn teimlo’n well wrth ymarfer. Byddwch yn teimlo llai o straen ac yn fwy hamddenol, byddwch yn cysgu’n well a byddwch yn fwy hyderus. Felly, mae pob croeso i chi fesur eich cynnydd mewn termau corfforol, ond peidiwch ag anghofio gymaint yn well y byddwch yn teimlo wrth ymarfer.
Mae nifer mawr o fenywod yn dweud mai nofio yw eu hoff weithgaredd, ond maent yn ddwywaith mor debygol â dynion o boeni am eu ‘darnau blonegog’, ac mae menywod hefyd yn poeni y bydd ‘ffyddloniaid ffitrwydd’ tenau yn edrych yn ffroenuchel arnynt. Ein hymateb yw... Peidiwch â phoeni am beth mae pawb arall yn ei feddwl ac yn ei wneud. Mae pobl o bob lliw a llun yn dod i’n lleoliadau ni ac rydym yn falch o hynny. O, ac ˆr, ni all neb unwaith eich bod wedi mynd o dan y dw weld eich darnau blonegog beth bynnag!
CANOLBWYNTIWCH AR... GAEL STUMOG MWY GWASTAD Cyfrinach bol cadarnach, mwy gwastad yw cyfuno ymarfer abdomenol â deiet braster isel synhwyrol. Ni waeth faint o grensiadau rydych yn eu gwneud, os ydych yn cario gormod o bwysau o gwmpas eich bol (ac ie, rydym yn sôn am y dolenni cariad ‘na!), bydd y braster yn cuddio unrhyw welliannau i ddiffiniad cyhyrau. Pa ymarfer oedd y gorau? Mewn gwirionedd, nid oes unrhyw ymarfer sy’n well nag unrhyw ymarfer arall. Er mwyn cael canlyniadau da, cymysgwch eich trefn ychydig i weithio ar y cyhyrau amrywiol yn eich bol. Edrychwch ar ein rhestr o awgrymiadau ar gyfer cael bol mwy gwastad yn y canolfannau ar eich ymweliad nesaf neu siaradwch ag un o’r hyfforddwyr am y drefn sydd orau i chi – a dechrau gweithio ar yr abs ‘na dros yr hydref!
FFIT I SGÏO I’r rhai sy’n meddwl am fynd i sgïo dros y Nadolig neu yn y Flwyddyn Newydd, mae’n bosib mai nawr yw’r amser perffaith i feddwl am eich rhaglen ffitrwydd a chyflyru. Os ydych yn ymarfer corff yn rheolaidd, mae’n debyg eich bod yn gwneud cryn dipyn o waith cardio beth bynnag – mae mwy neu lai’r holl waith cardio’n ymwneud â defnyddio’ch coesau, ond efallai yr hoffech gynyddu hwn am ychydig wythnosau cyn hedfan dramor. Mwy na thebyg y cyfarpar gorau yn y gampfa yw’r peiriant camu a’r croes-hyfforddwr, ond peidiwch ag anghofio’r peth mae pawb bob amser yn ei anghofio ymestyn. Canolbwyntiwch ar weyll eich migyrnau, crothau’ch coesau, eich cyhyrau pedryben, llinynnau eich gar, eich cluniau a chyhyrau’ch ffolen (os nad ydych yn siw ˆr beth yw’r rhain, gofynnwch i un o’n hyfforddwyr). O safbwynt cryfder, rhowch gynnig ar wasg-goesau, cyrcydu neu estyn coesau ar gyfer eich cyhyrau pedryben; ymarferion dipio, estyn cyhyrau triphen a chicio’n ôl ar gyfer eich cyhyrau triphen; a chofiwch gyhyrau craidd y cyhyrau abdomenol a rhan isaf y cefn. Cadwch lygad am gardiau rhaglen Ffit i Sgïo yn y canolfannau o fis Tachwedd ymlaen.
CAMGYMERIADAU I’W HOSGOI Y GAEAF HWN Camgymeriad: gwneud sesiynau ymarfer hir Nid yw sesiynau ymarfer hwy yn golygu canlyniadau gwell neu gyflymach. Os ydych wedi bod yn bustachu yn y gampfa ond nid yw eich corff yn newid, nid oes pwynt gwneud mwy o’r un peth gan ddisgwyl canlyniad gwahanol. O ran ceisio bod yn denau ac yn heini, mae eich corff yn ymateb i ansawdd dros faint.
Camgymeriad: Gwneud yr un drefn drosodd a throsodd Mae ail-wneud yr un ymarfer drosodd a throsodd yn ffordd sicr o FETHU â chael canlyniadau. Rydym yn gaeth i arfer ac yn tueddu i lynu wrth bethau rydym yn gyfarwydd â hwy ac yn eu gwneud yn dda. Ond wrth ymarfer, os ydych am barhau i wneud cynnydd a gweld newidiadau yn eich corff, mae angen i chi ddechrau cynyddu pethau. Mae gan eich corff y gallu anhygoel
i addasu’n gyflym a phan fo’n gwneud hyn, dyna’r amser pan fyddwch yn cyrraedd y gwastadedd mawr ei ofni ac yn peidio â gwneud cynnydd.
Beth dylech ei wneud? Mantais aelodaeth Abertawe Actif yw y gallwch ddefnyddio pyllau nofio, amrywiaeth anferth o ddosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon raced, yn ogystal â’r gampfa. Felly manteisiwch ar eich aelodaeth ac amrywiwch eich trefn gyda rhywbeth gwahanol – beth sydd gennych i’w golli? Os nad ydych yn siw ˆr beth sy’n addas i chi, gofynnwch i aelod o’n staff am gyngor.
I’ch helpu i gynnal eich cymhelliant... Cadwch lygad am ein her ym mis Rhagfyr. Bydd gwybodaeth ar gael yn ein holl gampfeydd trwy gydol mis Rhagfyr – cymerwch ran a chwblhewch yr her i sicrhau gwobr fach i chi’ch hun.
TRX YN LLWYDDIANT YSGUBOL A hwythau wedi’u lansio ym mis Medi ar draws pedwar o’n safleoedd, mae ein dosbarthiadau TRX yn hynod lwyddiannus. Meddai Jon Parry, rheolwr cynorthwyol yng Nghanolfan Hamdden Penlan sydd wedi arwain rhai o’r dosbarthiadau, “Mae TRX wedi bod yn llwyddiant ysgubol ym Mhenlan. Cawsom sesiynau rhagflas ddiwedd mis Medi a oedd yn boblogaidd dros ben a rhoddwyd cyfle i’n haelodau roi cynnig arno. Mae’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i aelodau ac mae’n berffaith os ydych wedi blino ar eich trefn Mae llawer o bobl yn meddwl ei fod yn heriol, felly os ydych yn meddwl ei fod yn rhy anodd, siaradwch ag un o’n hyfforddwyr a fydd yn hapus i roi arddangosiad byr i chi a’ch helpu i ymgyfarwyddo â’r cyfarpar.”
LLONGYFARCHIADAU I... PAUL FALA Mae Paul Fala yn un o’n haelodau sy’n hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Cefn Hengoed, ac rydym yn meddwl ei fod yn haeddu ei ganmol! Mae’n mynychu Ysgol Gyfun Cefn Hengoed, ac oddeutu 8 mis yn ôl, nid oedd ganddo fawr o diddordeb mewn cadw’n heini, bod yn actif neu ddilyn ffordd iach o fyw. Roedd ei fam yn poeni gan mai ei unig ddiddordebau oedd gemau cyfrifiadur a bod yn ‘gaeth i PlayStation’. Soniodd mam Paul am ei phryderon wrth un o’n hyfforddwyr, Mike Thompson. Mae gan Mike brofiad rhagorol o weithio gyda phobl ifanc yn eu harddegau, gan swyno pobl ifanc gyda threfnau ffitrwydd gwych a’u harwain oddi wrth achosi problemau niwsans, ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogi cyffredinol. Siaradodd Mike â Paul, gan ei dywys trwy sesiwn sefydlu i’r gampfa ac esbonio pwysigrwydd a manteision byw bywyd iach. Pennodd dargedau a nodau y gallai Paul anelu atynt.
GWOBRAU CHWARAEON ABERTAWE ACTIF 2011 Am bob Wayne Rooney, Andy Murray neu Victoria Pendleton, mae llu o bobl o’r byd chwaraeon lleol nad ydynt yn cael y gydnabyddiaeth maent yn ei haeddu. Nawr mae gennych gyfle i enwebu eich arwr chwaraeon lleol yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe Actif 2011. Pwy byddwch yn ei enwebu? Mae categorïau’n cynnwys y chwaraewr, y tîm a’r hyfforddwr gorau, ac mae enwebiadau ar agor tan ddydd Gwener 21 Hydref. Ewch i www.abertawe.gov.uk/sportsawards am y manylion.
Llongyfarchiadau i’n holl aelodau a redodd yn Ras 10k Bae Abertawe Admiral! Dyma rai lluniau o’r diwrnod...
Derbyniodd Paul yr her a chyn bo hir, roedd yn ymwelwr rheolaidd â’r gampfa yng Nghefn Hengoed. Roedd Mike wrth law i’w helpu trwy’i raglen hyfforddi bersonol. O ganlyniad, mae Paul bellach wedi colli pwysau, mynd yn fwy ffit ac iach, a hefyd wedi gwella’i waith ysgol. Mae’n gallu canolbwyntio’n hwy, mae ganddo fwy o ffocws, ac mae’n dangos mwy o falchder yn ei waith. Mae ei ymdrechion wedi tynnu sylw Sue Hollister, pennaeth ei ysgol. Dywedodd fod Paul wedi cael ei drawsnewid yn ddisgybl model ac mae’n canmol Mike Thompson am ei waith caled gyda’r holl blant sy’n mynd i’r gampfa yng Nghefn Hengoed. Caiff pob disgybl yng Nghefn Hengoed ei annog erbyn hyn i weithio gyda Mike a dilyn esiampl wych Paul. Gall plant ddefnyddio’r campfeydd mewn lleoliadau Abertawe Actif o 12 oed ar adegau penodol. Mae’r amserau’n amrywio ym mhob canolfan.
AGORIAD CYNNAR – YN BERFFAITH I’R RHAI SY’N CODI’N GYNNAR! Bydd campfa a phwll Penyrheol ar agor o 6.00am o 12 Hydref (Dydd Llun – dydd Gwener). Mae campfa Treforys ar agor o 6.15am. Mae campfa Penlan ar agor o 6.15am. Mae campfa Llandeilo Ferwallt ar agor o 7.00am. Bydd oriau agor y penwythnos yn amrywio o ganolfan i ganolfan.
OES GENNYCH SYNIADAU AR GYFER EIN RHIFYN NESAF? E-bostiwch Active.Swansea@swansea.gov.uk a byddwn yn falch o glywed gennych. Roedd hyd yn oed Arnie Actif wedi cymryd rhan!
www.facebook.com/ activeswansea