Newyddion Abertawe Actif - Haf 2011

Page 1

NEWYDDION

ABERTAWE ACTIF well am Croeso i ail gylchlythyr Abertawe Actif - sy’n ceisio eich hysbysu’n canolfan y campau a’r gweithgareddau iechyd y gallwch eu mwynhau yn eich leol ac yn eich ardal.

MAE’R HAF AR Y FFORDD! Gyda gwyliau’r haf yn prysur nesáu, mae ein nodau ffitrwydd yn dechrau symud o gynnal corff a meddwl iach i gael gwared ar ein bloneg cyn i ni ddatgelu ein cyrff ar y traeth. Yn anffodus, does dim ots faint rydym am gredu’r miloedd o erthyglau mewn cylchgronau ac ar-lein, nid oes deiet na chynllun ymarfer corff ‘cyflym’ a fydd yn newid siâp eich corff yn gyfan gwbl mewn ychydig wythnosau; fodd bynnag, mae ffyrdd mwy clyfar ac effeithiol i ymarfer corff a bwyta’n iachach, a fydd yn eich helpu i edrych a theimlo’n fwy hyderus, mewn pryd ar gyfer eich datgeliad mawr. Yma rydym yn gobeithio rhoi ysbrydoliaeth i chi fel y gallwch ddechrau cymryd camau cadarnhaol at gael y corff rydych yn dymuno ei gael ar y traeth.

NEWYDD! Byddwch ar flaen y gad a chymerwch ran yn ein sesiynau ffitrwydd TRX newydd yn Llandeilo Ferwallt, Penlan, Treforys a Phenyrheol. Mae ffitrwydd TRX yn ymarfer corff cyflawn i’r corff lle’r ydych yn defnyddio pwysau eich corff fel gwrthiant. Gyda thros 300 o ymarferion i chi eu gwneud, ni fyddwch yn diflasu! Edrychwch am fanylion yn y canolfannau cyn bo hir.

My Swansea Fy Abertawe

PROFFIL STAFF

Enw: Jodie Clarke, Hyfforddwr Nofio. Eich canolfan: Canolfannau Hamdden Penlan a Threforys yn bennaf. Eich Gwaith: Rwy’n athrawes nofio ac rwy’n dysgu nodweddion sylfaenol nofio i blant hyd at y technegau nofio datblygedig. Pam rydych chi’n hoffi’ch swydd: Rwy’n mwynhau gweld plentyn heb unrhyw hyder yn y dw ˆr yn datblygu i ennill sgil achub bywyd a’r gallu i fwynhau’r sgil fel amser hamdden hefyd. Mae gweithio i Abertawe Actif yn caniatáu i mi gwrdd â phobl ddiddorol a’u helpu i feithrin eu hyder a’u sgiliau yn y dw ˆr. Y cyflawniad gorau yn eich bywyd: Fy nghyflawniad gorau yn fy mywyd yw fy mhlant.


SIAPIWCH EICH CORFF AR GYFER YR HAF 1 Yn gynnar ar ddechrau’r haf yw’r amser gorau i osod her gorfforol i chi’ch hun. Ceir heriau ar sawl ffurf, gan gynnwys teithiau cerdded elusennol, amrywiaeth o rediadau (a ydych chi wedi cofrestru ar Ras 10k Bae Abertawe Admiral?), teithiau beicio, digwyddiadau nofio, triathlonau a rhywbeth mor syml â heicio. Does dim ots pa weithgaredd rydych yn ei wneud, cyhyd a’ch bod yn mwynhau’r gweithgaredd a’i fod yn rhoi rhywbeth i chi weithio tuag ato.

5 Neidiwch i’r pwll - Beth sy’n well ar ddiwrnod cynnes na nofio mewn pwll oer? Mae nofio’n ymarfer cyflawn ar gyfer y corff cyfan. Yn gynnar yn y bore, amser cinio, ar ôl cinio neu efallai mai aerobeg dw ˆr sy’n well gennych - mae nofio’n wych ar gyfer colli pwysau ar gyfer yr haf.

6 Un ffordd o wneud yn fawr o’ch bywyd dros y misoedd nesaf yw rhoi cynnig ar gamp hafaidd megis golff, tenis, chwaraeon dw ˆr, bowls, beicio neu loncian. Unwaith rydych wedi penderfynu ar yr hyn rydych am ei wneud, gadewch i’r hyfforddwyr wybod fel y gallant helpu gyda’ch ffitrwydd.

2 Mae ymarfer corff yn y bore’n fanteisiol, yn arbennig wrth i’r tywydd gynhesu. Manteisiwch i’r eithaf ar y tymheredd is yn y bore a’r aer glanach a rhowch gic i’ch metaboledd! Mae Canolfannau Hamdden Penlan a Threforys ar agor i chi ymarfer corff yn gynnar y bore (Penlan am 6.00am a Threorys am 6.15am), felly manteisiwch i’r eithaf ar yr oriau agor cynnar gan gychwyn eich diwrnod y ffordd orau bosib.

7 Gall olrhain eich nodau ffitrwydd fod yn heriol, dyna pam mae ein hyfforddwyr ffitrwydd yma i sicrhau eich bod yn cyflawni eich nodau ar gyflymder sy’n addas i’ch ffordd o fyw. Beth am gymryd rhan yn un o’r heriau campfa i’ch ysgogi?

3 Rydym yn sôn llawer am fanteision ymarfer corff cardio a hyfforddiant cryfhau ond mae ymestyn hefyd yn bwysig iawn, oherwydd ei fod yn rhyddhau tensiwn o’ch cyhyrau, mae’n gwella cylchrediad y gwaed, yn cynyddu hyblygrwydd ac yn gwella cydbwysedd. Yn ogystal â hynny, mae ymestyn yn ffordd wych i wella’ch tymer, cynyddu eich egni a’ch gwneud i deimlo’n dda.

8 Diet yr haf - manteisiwch i’r eithaf ar ffrwythau a llysiau ffres yr sydd ar gael yn y siopau, neu efallai eich bod wedi tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun eleni? Mae aeron yn wrthocsidyddion naturiol gwych - mae’r rhan fwyaf ohonynt yn naturiol felys ac nid oes angen llawer o ymdrech i’w paratoi. Golchwch hwy a’u gweini fel byrbryd neu bwdin maethlon.

4 Rydym yn pwysleisio pwysigrwydd hyfforddiant cryfhau’n aml. Y rheswm am hyn yw bod ychydig o hyfforddiant cryfder yn helpu i wella’ch egni a’ch gallu i fyw bywyd llawn. Yn ogystal â gweithio ar yr holl grwpiau o gyhyrau, mae’n arbennig o bwysig i weithio ar adeiladu cryfder a sefydlogrwydd yn eich craidd. Os ydych yn cael hwn yn gywir, mae cyflyrau gwanychol megis poen cefn yn dueddol o fod yn llawer llai.

9 Cofiwch gael hwyl! Cofiwch mai yn yr haf rydych yn creu rhai o’r atgofion gorau. Felly ymlaciwch a mwynhewch eich gweithgaredd a gadewch i ni fod yn iach un awgrym ar y tro!

DIGWYDDIADAU I’R PLANT YR HAF YMA Os ydych am adael y plant drwy’r dydd er mwyn i chi fynd i’r gwaith, neu am awr neu ddwy i’w cadw’n actif (a’u blino!), bydd digon o gampau a gweithgareddau drwy’r gwyliau i’w cadw’n brysur. Bydd gwersi caiacio a sesiynau polo dw ˆr, yn ogystal ag amrywiaeth o gyrsiau chwaraeon a phethau i’r plant roi cynnig arnynt. Ewch i www.abertawe.gov.uk/holidayactivities o ganol mis Gorffennaf am lwyth o syniadau am yr hyn i’w wneud a lle i fynd â’r plant yr haf hwn.

Bydd nofio AM DDIM i blant o dan 16 oed yn dychwelyd (bob amser yn boblogaidd).


GALW AR HOLL SÊR TENIS Y DYFODOL! Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer 68ain Pencampwriaeth Tenis Bach Abertawe rhwng 8 a 13 Awst a gynhelir yn Langland a Chanolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt.

Cofrestrwch nawr yn lta.org.uk 111) (nodwch gôd y twrnamaint, sef S.W neu ffoniwch 01792 635428.

10K BAE ABERTAWE ADMIRAL Eisiau rhedeg Ras Bae Abertawe Admiral eleni? Rhedwch gyda ni a chewch 33% o ostyngiad ar y ffi gofrestru. Cofrestrwch erbyn 1 Awst mewn unrhyw leoliad Abertawe Actif am £10 yn unig. Gofynnwch i staff y dderbynfa am fwy o fanylion. (Cynhelir rasys iau ar y diwrnod hefyd - ewch i www.10kbaeabertawe.com i gael mwy o fanylion).

CANOLBWYNTIO AR NOFIO Yn aml, rydych yn clywed pobl yn dweud mai nofio yw’r ffordd orau i ymarfer corff. Ond beth yn union sy’n gwneud nofio’n ffordd mor wych i fod yn actif ac aros yn actif? RHESYMAU I BLYMIO Mae hanner awr o nofio ar gyflymder cyson yn llosgi dros 200 o galorïau. Mae unrhyw nofio sy’n gwneud i chi anadlu’n drymach yn weithgaredd ‘cymedrol’. Mae troedio dw ˆr yn ymdrech, felly rydych yn gweithio drwy’r amser yn y pwll... Ond cofiwch mae sgwrsio yn y pen bas yn gweithio’r cyhyrau yn eich wyneb yn unig! Mae’r dw ˆr yn cynnal eich pwysau, felly mae nofio’n wych i bobl sydd am gymryd rhan mewn ymarfer corff effaith isel - er enghraifft menywod beichiog neu bobl â phroblemau symudedd. Mae nofio’n gweithio’ch corff cyfan er mwyn tynhau pob man! Gall bod yn y dw ˆr gael manteision seicolegol gall y pwll eich ‘tywys i fyd arall’ a gall y teimlad o fod yn y dw ˆr eich adfywio, eich ymlacio a bod yn rhyddhad wrth i’r dw ˆr gymryd eich pwysau. Gall pobl o wahanol oed a gallu fwynhau nofio gyda’i gilydd - os ydych yn dewis gweithgaredd y gallwch ei wneud gyda’ch ffrindiau a’ch teulu, mae’n fwy tebygol y byddwch yn cadw ato. Byddwch yn cael cymaint o hwyl fel na fyddwch yn sylweddoli eich bod yn ymarfer corff.

METHU NOFIO? Nid yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Rydym yn cynnig gwersi grw ˆp a sesiynau personol i oedolion gydag athrawon cymwys a phrofiadol. Cynhelir gwersi iau yn ystod yr wythnos.

MEDDWL BOD NOFIO’N DDIFLAS? Mae’r pwll yn fan chwarae ac yn gampfa wych. Mae digon i’w gael yn ein pyllau gan gynnwys polo dw ˆr, caiacio, achub bywyd, plymio sgwba a sesiynau cyfarpar chwythadwy llawn hwyl.

dros Mae nofio AM DDIM ar gael i bobl i blant 60 oed drwy gydol y flwyddyn ac . o dan 16 oed yn ystod gwyliau’r haf Am fanylion llawn nofio yn Abertawe Actif, ewch i www.abertaweactif.com neu ffoniwch eich pwll lleol: Pwll Penlan

01792 588079

Pwll Penyrheol

01792 897039

Pwll Treforys

01792 797082

Pwll Pentrehafod (Gyda’r nos yn unig)

01792 641935


ARWAIN DRWY ESIAMPL Arwain drwy esiampl… cymerodd Steve Smith, Rheolwr Canolfan Hamdden Penlan ran yn Taith Feicio’r Ddraig ddydd Sul 5 Mehefin. Mae llwybr y ras feicio 200km sy’n cynnwys dringo rhai o’r bryniau mwyaf serth yn ne Cymru. Dyma ddisgrifiad byr o’i daith... “Ymunais â’r 4500 o feicwyr ar y llinell gychwyn am 8.00am ddydd Sul 5 Mehefin. Mae’r reid yn dechrau’n eithaf gwastad gyda llwybr llawn golygfeydd drwy Ewenni a Phorthcawl i’r orsaf fwydo gyntaf. Mae’n hawdd iawn ar y dechrau mynd yn rhy gyflym cyn i’r camau mynydd difrifol ddilyn. Drwy Bort Talbot, yna i gam mynydd y Bwlch ar gyfer y ddringfa gyntaf i’r cymylau. Mae seibiant cyflym yn yr orsaf fwydo yn rhoi bwyd a diodydd llawn siwgr angenrheidiol i chi a bananas i’ch cadw i fynd. 60 milltir i mewn i’r daith - HANNER FFORDD YN UNIG, roeddwn eisoes yn teimlo’n flinedig ac ar 90 milltir, roedd Bwlch arall i’w ddringo (500m yn uwch na lefel y môr).

DECHRAU YM MIS MEDI! Mae’r Uwch Gynghrair yn dod i’ch canolfan leol… Mae Abertawe Actif wedi ymuno â Thîm Pêldroed yn y Gymuned Dinas Abertawe ac o fis Medi, darperir cyrsiau i blant rhwng 4 ac 11 oed mewn sawl Canolfan Abertawe Actif. Bydd sesiynau rhagflas hefyd yn ystod gwyliau’r haf ym mhob un o’r canolfannau. Mae’r cwrs hefyd yn sicrhau eich bod yn derbyn cynigion gwych drwy aelodaeth Cygnet. Mae’r lleoedd yn brin ac mae’r cyrsiau’n dechrau ym mis Medi. Ffoniwch eich canolfan agosaf am fwy o fanylion.

Unwaith i mi gyrraedd dros y dringiad olaf, roedd hi’n rhyddhad gwybod bod y cam olaf i Bencoed yn weddol gwastad. Llwyddais i ymuno â grw ˆp o reidwyr clwb a’u dilyn i’r llinell derfyn dros yr 20 milltir olaf. Fy amser oedd 7 awr a 49 munud. Roedd hwn yn brofiad anodd tu hwnt, ond byddwn yn argymell y digwyddiad i unrhyw un sy’n mwynhau her, ond mae opsiynau byrrach ar gael!” www.wiggledragonride.com/routes-200km.php

cymryd Os ydych yn adnabod unrhyw un sy’n wybod i ni ar rhan mewn heriau o’r fath, rhowch ea.gov.uk. e-bost yn Active.Swansea@swans

DIGWYDDIADAU YN ABERTAWE I’W RHOI YN EICH DYDDIADUR Dilyn y Fflam 12 Mehefin i 10 Gorffennaf Sioe Awyr Genedlaethol Cymru 9 a 10 Gorffennaf Ras am Fywyd 24 Gorffennaf Gerddi Botaneg yn eu Blodau 1 i 31 Awst Pencampwriaethau Tenis Bach Abertawe 8 i 13 Awst Ras Rafftiau’r Mwmbwls 28 Awst www.gwylbaeabertawe.com

f am yr hyn Derbyniwch y newyddion diweddara ch i’n tudalen sy’n digwydd yn Abertawe Actif. Ew ansea neu facebook, facebook.com/activesw euon cofrestrwch ar gyfer e-byst/neges testun yn www.fyabertawe.info

OES GENNYCH SYNIADAU AR GYFER EIN RHIFYN NESAF?

swansea.gov.uk E-bostiwch Active.Swansea@ h. a byddwn yn falch o glywed gennyc


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.