Cysylltu pobl â hanes
Ar 1 Rhagfyr 2011, derbyniodd Dinas a Sir Abertawe ei ryddfreinwragedd etifeddol cyntaf. Mae Mrs Nicola Carvalho a Mrs Claire Goss yn y llun yma gyda Chyn-arglwydd Faer Abertawe, y Cyng. Ioan Richard. Chwaraeodd y Gwasanaeth Archifau rôl allweddol wrth ddiwygio rheolau’r cyngor i dderbyn meibion a merched rhyddfreinwyr etifeddol yn gyfartal.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod y fwyaf heriol i’r Gwasanaeth Archifau ers nifer o flynyddoedd, wedi wynebu tro sydyn am i lawr mewn defnydd ar ôl lleihau ein horiau agor ym mis Ebrill 2011. Wedi siarad â phobl, mae’n debyg bod y patrwm hwn i’w weld mewn archifau awdurdodau lleol eraill yn y DU, ond nid yw’r data ar gael eto. Er gwaethaf yr ystadegau siomedig a’r gwyll economaidd, mae’r flwyddyn wedi cynnwys cyflawniadau nodedig fel cyhoeddi ein
catalog archifau ar-lein. Yn wir, mae’n debyg bod nawr yn adeg dda i ystyried o’n cyfraniad i’n cymuned leol ac ymhellach i ffwrdd nad ydynt yn cael cymaint o glod. Eleni, mae’r adroddiad yn canolbwyntio’n benodol ar rôl gadarnhaol gwirfoddolwyr yn yr Archifau. Mae’r Gwasanaeth Archifau’n gweithio gyda gwirfoddolwyr o bob oedran yn ein swyddfeydd yn Abertawe a Chastellnedd. Mae ein man gwasanaethau yng Nghastell-nedd yn dibynnu ar rota o aelodau
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
3
Cymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd sy’n gwirfoddoli eu gwasanaeth yn yr ystafell chwilio archifau’n rheolaidd i helpu i gadw’r gangen ar agor i’r cyhoedd. I’r gwrthwyneb, mae gwaith ein gwirfoddolwyr yn Abertawe’n ymweud yn fwy â phrosiectau. Mae ein holl wirfoddolwyr wedi’u hysgogi gan eu hawydd i gyfrannu i gadw ein treftadaeth ddogfennol a rennir. Yn y broses, maen nhw’n cynyddu eu gwybodaeth eu hunain am y dreftadaeth honno ac yn datblygu sgiliau newydd. Yn yr adroddiad hwn, mae dau o’n gwirfoddolwyr yn sôn am y boddhad sy’n deillio o’u gwaith. Ar 7 Gorffennaf 2011, aeth catalogau Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd ar-lein ar y cyd fel y gellir eu chwilio, carreg filltir bwysig yn hanes y gwasanaeth. Tan yn ddiweddar roedd y catalogau archifau ar gael ar bapur yn unig, a phrin oedd y ffyrdd o’u chwilio heb fynd i’r swyddfa gofnodion. Dechreuodd y prosiect catalog ar-lein yn 2007 trwy brynu CALM (a ariannwyd gan CyMAL). Pecyn meddalwedd rheoli archifau a ddefnyddir yn helaeth yw CALM, a
blwyddyn yn ddiweddarach, dechreuodd dau staff ar y gwaith o nodi’r catalogau i’w lanlwytho i’r gronfa ddata. Ymhen llai na dwy flynedd a hanner, llwythwyd dros 161,000 o ddisgrifiadau dogfen i CALM ynghylch casgliadau yn Abertawe a Chastell-nedd. Yn 2010, defnyddiwyd arian grant eto i brynu’r modiwl sy’n galluogi chwilio’r gronfa ddata o bell ar y rhyngrwyd. Cyfluniwyd y rhyngwyneb defnyddwyr yn fewnol gan staff y Gwasanaeth Archifau a dyma’r wefan gyntaf yng Nghymru sy’n defnyddio meddalwedd CALM i gynnwys chwilio a thudalennau help dwyieithog. Gan ei fod ar gael yn yr ystafell chwilio ac unrhyw le sydd â mynediad i’r rhyngrwyd, mae’r catalog newydd bron â disodli’r mynegeion cardiau a chatalogau papur yn gyfan gwbl yn ystafell chwilio Abertawe, ond mae’r rhain ar gael o hyd i ymchwilwyr y mae’n well ganddynt ddulliau mwy traddodiadol. Mae’r catalog ar-lein yn arbennig o ddefnyddiol ym man gwasanaethau Castell-nedd, lle nad oedd y casgliadau erioed wedi’u mynegeio ac roedd yn anodd eu chwilio yn ôl enw, lle neu bwnc.
Mae archifau a ariennir gan arian cyhoeddus yng Nghymru yn dod o dan un ymbarél o'r enw Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru (ARCW). Mae ARCW yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer prosiectau ar y cyd a fydd yn fuddiol i ddefnddwyr archifau ledled Cymru sy'n chwilio am arian allanol o amrywiaeth o ffynonellau. Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn parhau i chwarae rôl weithredol yn y sefydliad, ac Archifau Morgannwg sydd â’r gadeiryddiaeth ar hyn o bryd. Ar ddiwedd y prosiect catalogio Cymru gyfan Pweru’r Byd: Edrych ar Ddiwydiant Cymru trwy Archifau a adroddwyd ym mis Gorffennaf 2011 (prosiect a oedd yn cynnwys catalogio cofnodion busnes a oroesai ynghylch Yorkshire Imperial Metals), cyflwynodd ARCW gais llwyddiannus am arian Llywodraeth Cymru trwy CyMAL am brosiect dilynol i gyhoeddi gwerth archifau busnes Cymru. Roedd Elwa o Bweru’r Byd, prosiect yn Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe, yn cynnwys prosiect catalogio arall ymysg ei elfennau niferus, y tro hwn ar gyfer rhestru cofnodion cloddio glo a gesglid gan Amgueddfa Glowyr De Cymru yn Afan Argoed ac a drosglwyddwyd i Archifau Gorllewin Morgannwg sawl blwyddyn yn ôl. Mae’r cofnodion bellach wedi’u catalogio gan Stacy Capner, archifydd y prosiect, ac maent ar gael i ymchwilwyr yn ein hystafell chwilio yn Abertawe. Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
4
Denu cynulleidfaoedd newydd
Mae Ellen Davis, sy’n byw yn Abertawe, yn sefyll wrth ddau banel o arddangosfa’r Gwasanaeth Archifau ‘Ffoaduriaid Iddewig yn Ne Cymru 1933-1945’. Mae’r panel ar y chwith yn adrodd y stori am sut daeth hi i Brydain o’r Almaen ar kindertransport. Mae’r panel ar y dde’n atgynhyrchu’r ddogfen a helpodd i ddod â hi i ddiogelwch yn y Deyrnas Unedig ym 1939. Crëwyd arddangosfa fawr Gwasanaeth Archifau’r flwyddyn ddiwethaf ar gyfer Diwrnod Coffáu’r Holocost yn Abertawe ym mis Ionawr 2012. O’r enw ‘Ffoaduriaid Iddewig yn Ne Cymru 19331945’, cafodd ei chreu gan yr archifydd David Morris gan ddefnyddio straeon cyhoeddedig ac anghyhoeddedig ffoaduriaid Iddewig, goroeswyr yr Holocost a’u disgynyddion. Mae eu tystiolaeth fel mae wedi’i chofnodi yn yr arddangosfa’n deyrnged ingol ond ysbrydolus i’r cyfraniad y gall cymuned ffoaduriaid ei wneud i fywyd economaidd a diwylliannol ei chymuned letyol. Mae’r arddangosfa, yr arianwyd y rhan fwyaf ohoni gan grant Llywodraeth Cymru trwy CyMAL, i’w gweld ar hyn o bryd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe tan ddechrau mis Gorffennaf. Oherwydd rhagor o arian CyMAL, cafwyd y cyfle i ddatblygu adnoddau i ysgolion sy’n ymweld â’r arddangosfa, gan herio myfyrwyr i wneud cysylltiadau rhwng eu profiadau eu hunain, hanes lleol a digwyddiadau’r byd.
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
5
Mae trefniadau wedi’u gwneud iddi fod i’w gweld yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ac yn Eglwys Dewi Sant yng Nghastell-nedd y naill ochr o Ddiwrnod Coffáu’r Holocost nesaf, sef 27 Ionawr 2013. Adolygwyd yr arddangosfa’n helaeth yn Bimah, cylchgrawn cymuned Iddewon Cymru. Stori arall o lwyddiant arwyddocaol yn 2011/12 fu twf cyflym y gwasanaeth addysg ysgolion yn ei ail flwyddyn sydd wedi mwy na threblu nifer yr athrawon a disgyblion mae wedi’u cyrraedd, o 514 yn 2010/11 i 1,758 yn 2011/12. I raddau helaeth roedd hyn oherwydd egni a brwdfrydedd y ddau staff sy’n cyflwyno’r rhan fwyaf o sesiynau i’r ysgolion, yr archifydd Katie Millien a’r Cynorthwy-ydd Cynhyrchu Anne-Marie Gay. Mae’r gwasanaeth am ddim ac ar gael i bob ysgol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sy’n gallu archebu’n uniongyrchol neu drwy raglen 4-site Cyngor Abertawe. Mae gan yr ysgolion y dewis o sesiynau wedi’u trefnu yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, Sefydliad Mecanyddion Castell-nedd a Llyfrgell Port Talbot neu drefnu i ni gyflwyno sesiynau ar eu safleoedd. Yn ogystal â’r opsiwn o astudiaeth ardal sy’n canolbwyntio ar yr ysgol unigol, mae’r pynciau eraill sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm a gynigir ar hyn o bryd yn cynnwys ‘Tair Noson y Blitz a’r Ffrynt’ Cartref, ‘Fictoriaid Cyfoethog a Thlawd’ ac (i’r rhai sy’n ymweld ag Abertawe) ‘Y Tu Ôl i’r Llenni yn yr Archifau’. Mae cynlluniau ar gyfer cyflwyno sesiwn ar y Tuduriaid mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf wedi hen ddechrau. Cyflwynir rhan o’n rhaglen addysg mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe. Eleni, rydym wedi cyflwyno sesiynau o’r enw ‘Mynd i’r Afael â Chyfrifiad 1851’, ‘Treialon Copper Smoke’; a suddo’r Arandora Star ym 1940. Cyflwynwyd llawer o’r sesiynau hyn i ddisgyblion sy’n astudio ar gyfer Bagloriaeth Cymru. Un o uchafbwyntiau eleni fu’r gwaith gyda disgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen, Abertawe, i’w helpu i greu eu harchif eu hunain. Fel rhan o brosiect cymunedol, daeth y plant â dogfennau a gwrthrychau o’r cartref a dangoswyd iddynt sut i’w catalogio, eu cadw a’u storio. Hefyd, bu’n fraint gennym helpu i ddathlu Canmlwyddiant Ysgolion Iau Gorseinon trwy weithio gyda phob dosbarth ar brosiect ardal.
Pwy sy'n defnyddio'r gwasanaeth? Mae'r graff ar y chwith yn dangos dosbarthiad côd post ein darllenwyr cofrestredig (y rhai â thocyn darllenydd Archifau Cymru gennym ni) fel ar 31 Mawrth 2011. Mae’r canlyniadau bron yn union debyg i rai’r llynedd. Mae'n bwysig nodi bod llawer o'n hymchwilwyr yn ymweld yn achlysurol, heb fod angen tocyn am nad ydynt yn defnyddio dogfennau gwreiddiol. Mae hyn yn arbennig o wir ym mannau gwasanaethau Castell-nedd Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
6
Port Talbot a ddefnyddir yn bennaf gan haneswyr teulu. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnydd cyhoeddus o’n gwasanaeth yn dod o ddadansoddi ein ffurflen monitro amrywiaeth ddienw a roddir bob tro mae ymchwilydd yn gwneud cais am docyn darllenydd. Roedd 45% o’n darllenwyr a gofrestrodd yn 2011/12 yn ddynion ac roedd 55% yn fenywod. Y grŵp oedran mwyaf a gofrestrodd am docyn darllenydd oedd 55-64 oed (29%), gyda’r nesaf mewn trefn: 65-74 (22%), 45-54 (16%), 35-44 (11%), 22-34 (10%), 14-21 (9%) a 75+ (3%). O’i gymharu â ffigur cronnol y llynedd, bu cynnydd bach yn y grwpiau oedran iau a gostyngiad bach digolledol ar ben uchaf yr ystod oedran. Mewn cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol a oedd yn caniatáu ticio mwy nag un blwch, nododd 59% eu bod yn Gymry, 21% eu bod yn Brydeinwyr, 16% eu bod yn Saeson, 1% yn Albanwyr a 3% fel arall, a oedd yn cynnwys Gwyddelod a dinasyddion tramor. Ar wahân i Saesneg, nododd 3% Cymraeg fel prif iaith. Dywedodd 51% nad oeddent yn gallu deall unrhyw Gymraeg, roedd 35% yn gallu deall peth a 15% yn gallu deall yr iaith. 1% yn unig oedd o gefndir nad oedd yn wyn, i lawr o gyfanswm cronnol y llynedd, sef 2%. Mae 11% o'n darllenwyr cofrestredig yn ystyried bod ganddynt ryw ffurf ar anabledd.
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
7
Yn haf 2011, comisiynodd y Gwasanaeth Archifau ymchwil ymhlith panel a luniwyd i gynrychioli croestoriad teg o boblogaeth Abertawe (Lleisiau Abertawe). Yn gyffredinol, roedd 40% o’r ymatebwyr yn ymwybodol o Archifau Gorllewin Morgannwg a’r Ganolfan Hanes Teulu yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Roedd ymwybyddiaeth yn uwch ymhlith ymatebwyr 60 oed + (62%) a 45-59 oed (47%), yn isel ymhlith pobl 16-24 oed (13%) ac yn is na’r cyfartaledd ymhlith y rhai 25-34 oed (32%) a 35-44 oed (31%). Yn ôl ardal, dywedodd mwy o ymatebwyr yn is-ardaloedd de-orllewin (59%) a gorllewin (45%) Abertawe eu bod yn gwybod am y cyfleuster o’u cymharu â’r rhai sy’n byw yn is-ardaloedd y gogledd (31%) a’r canol a dwyrain (35%). Dywedodd 13% o’r ymatebwyr eu bod wedi ymweld â’r archifau yn y Ganolfan Ddinesig. Roedd y ffigur hwn eto’n uwch ymhlith ymatebwyr sy’n byw yn is-ardaloedd y de-orllewin (19%) a’r gorllewin (16%) o’u cyferbynnu â’r rhai sy’n byw yn isardaloedd llai cefnog y canol a dwyrain (12%) a’r gogledd (9%). Roedd ymatebwyr 60 oed + yn tueddu i ymweld yn amlach nag ymatebwyr mewn grwpiau oedran eraill. Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd yn gwybod am ein bodolaeth am fwy o fanylion am beth roeddent yn ei wybod am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Yn ychwanegol at help gydag ymchwil hanes teulu (96%), roedd cyfran uchel hefyd yn gwybod bod yr archifau’n gwerthu cyhoeddiadau am hanes lleol (88%), y gallwn roi gwybodaeth am hanes yr ardal leol (79%), ein bod ni’n cynnig mynediad am ddim i wefannau hanes teulu i ddefnyddwyr (77%), ac yn gwerthu cardiau a rhoddion (62%). Roedd ychydig dros hanner yn gwybod bod cymorth ar gael ar gyfer ymchwilio i gyhoeddiad/erthygl (55%), help gyda gwaith yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol (54%), a gweithdai hanes teulu i ddechreuwyr (52%). Roedd llai’n gwybod y gallen nhw gael gwybodaeth am hanes eu tŷ (41%) a bod y gwasanaeth yn cynnig gweithdai sgiliau archifau (35%). Gofynnwyd i’r ymatebwyr nad oedd erioed wedi ymweld â’r archifau i nodi pam. Y prif reswm nad oeddent wedi ymweld, a nodwyd gan 33% o’r 688 o ymwelwyr nad oedd erioed wedi ymweld, oedd peidio â gwybod lle roedd yr archifau. Y rhesymau eraill oedd Nid yw archifau’n berthnasol i mi (15%); Fyddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud yno (13%); Ddim yn gwybod pa wybodaeth a gedwir yno (13%); Ddim yn gwybod beth yw archif (8%); Heb wybod ei fod yn bodoli (7%); Dim diddordeb (7%); Dim amser i ymweld (6%); Nid yw’r archifau ar agor pan dw i eisiau (2%).
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
8
Adeiladu a diogelu ein casgliadau
D/D NAI L/64/1 Yn ystod gwaith cadwraeth yn Archifau Gwynedd, cafodd y Gwasanaeth Archifau grant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol er Gwarchod Llawysgrifau (gydag arian cyfatebol CyMAL) i atgyweirio 97 o ddarluniau peirianneg sy’n ymwneud â locomotifau, llongau a gwaith nwy yng Nghasgliad Gwaith Haearn Mynachlog Nedd. Mae’r prosiect yn rhan o’n hymdrechion parhaol i gadw’r casgliad hwn o ddarluniau peirianneg, sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, a’i wneud yn fwy hygyrch. Prif rôl y Gwasanaeth Archifau yw diogelu ein treftadaeth ddogfennol er budd cenedlaethau'r dyfodol gan dderbyn rhoddion ac adneuon archifau ychwanegol a chynnal a datblygu'r mynediad gorau posib i'r casgliadau yn ei ofal. Cedwir yr archifau mewn ystafelloedd diogel a reolir yn amgylcheddol yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe, er y cedwid lleiafrif sylweddol mewn storfa allanol yn Neuadd y Ddinas Abertawe tan eleni. Fel a adroddwyd y llynedd, condemniwyd y storfa allanol yn Neuadd y Ddinas gan yr Archifau Cenedlaethol yn ystod ei arolygiad yn 2010 a’u datgan yn anaddas ar gyfer storio archifau, ond ni ddaeth ateb hawdd i’r amlwg o ran sut mae trosglwyddo cynnwys y storfa allanol i’r Ganolfan Ddinesig pan oeddent yn llawer mwy na’r lle a oedd ar gael yng nghyfadeilad yr ystafell ddiogel bresennol. Fel y digwyddodd, gorfodwyd ateb i’r pos hwn ar y gwasanaeth oherwydd roedd rhan o Neuadd y Ddinas ar fin cael ei chau ar gyfer gwaith atgyweirio ac adfer i ffabrig yr adeilad ac roedd yn rhaid symud cynnwys cyfan y storfa allanol cyn i’r contractwyr ddod ar y safle. Byddai dwy ystafell islawr yn y Ganolfan Ddinesig, a ddefnyddir ar hyn o bryd i reoli a storio cofnodion ac maent yn bodloni rhai o’r gofynion ar gyfer storio archifau, yn cael eu gwella ar ôl i’r gwaith yn Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
9
Neuadd y Ddinas gael ei gwblhau. Byddai cynnwys y ddwy ystafell dan sylw yn y Ganolfan Ddinesig yn cael ei drosglwyddo i’r man storio ar ei newydd wedd yn Neuadd y Ddinas. Yn ystod y flwyddyn rhwng hynny yn ystod cyflawni’r gwaith, mae cynnwys y storfa allanol yn Neuadd y Ddinas yn cael ei gadw mewn amrywiaeth o leoliadau â graddau amrywiol o hygyrchedd o ran eu harchwilio yn yr ystafell chwilio. Yn anochel, roedd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ynglŷn â rhan o’r deunydd archifol a gedwid yn Neuadd y Ddinas y trosglwyddwyd rhywfaint ohono i storfeydd eraill. Yn benodol, rhoddwyd rhediadau hir o gopïau rhwym o bapurau newydd i Lyfrgell Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd rhai cyfresi o gofnodion y cyngor heb eu catalogio (ond dim byd a roddwyd gan unigolion i hen Archifau Dinas Abertawe) yn destun ôl arfarniad a dinistriwyd rhannau ar ôl ailystyried, gan nad oedd yn werth eu cadw am eu gwerth archifol. Fel hyn, lleihawyd y casgliad 25%. ADFER ABERTAWE 1941-1958 Cyhoeddiad nesaf y Gwasanaeth Archifau yn 2013 fydd gan Dinah Evans, hanesydd modern a chyfoes ym Mhrifysgol Bangor. Yn seiliedig ar ei thesis yn 2007, bydd y llyfr yn ymdrin ag ailadeiladu Abertawe, y berthynas a’r rhyngweithio rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn y broses a’r rhesymau dros ailadeiladu’r dref fel y gwnaed.
Dros 4 metr o hyd a lled, yr eitem fwyaf (ac yn un o’r olaf) i’w throsglwyddo o Neuadd y Ddinas i’r Ganolfan Ddiesig oedd y cynllun 1852 wedi’i rolio hwn o Abertawe. Dyma staff George Bros Removals yn ei ddal i fyny. Graddfa’r map yw 10 troedfedd hael i’r filltir.
Gwaith cadwraeth a wnaed yn ystod 2011-2012 • 39 o gyfrolau • 102 o gynlluniau
Yn Abertawe, fel mewn llawer o drefi a dinasoedd eraill a gafodd eu bomio, roedd argyhoeddiad y byddai’r llywodraeth yn cydymdeimlo â’u hachos ac y byddai’n deall mai’r unig ffordd y byddai hyder y cyhoedd yn cael ei fagu oedd trwy adfer ardaloedd a ddifrodwyd gan y rhyfel. Felly, byddent yn gadael i Abertawe gael ei hailadeiladu fel roedd pobl Abertawe am ei hailadeiladu. Fodd bynnag, roedd dau wersyll yn y dref, y rhai a oedd am ail-greu Abertawe yn ei hôl troed gwreiddiol fel y bu cyn y rhyfel ac eraill a oedd am groesawu moderniaeth. Yn y pen draw, byddai’r broses o ailadeiladu Abertawe’n cylchdroi’n llai ar gystadleuaeth rhwng traddodiadol a modern ac yn fwy ar yr ymdrech i godi unrhyw adeilad o gwbl.
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
10
Ein perfformiad yn 2011/12 Nifer yr ymweliadau ag Archifau Gorllewin Morgannwg yn ystod 2011/12 oedd 9,815. Mae’r ffigur hwn dros 17% yn is na’r defnydd o’r gwasanaeth y llynedd, a dorrodd record. Er y disgwyliwyd gostyngiad o ganlyniad i gwtogi ein horiau agor, eto fyth roedd yn fwy na’r disgwyl ac mae’n gyfwerth â lefel defnydd sydd ychydig yn uwch na nifer yr ymweliadau a gafwyd yn ystod 2007/8. Yn Abertawe, lle cwtogwyd yr oriau agor o 40 i 34 yr wythnos, gan beidio ag agor ar ddydd Sadwrn, cafwyd cwymp ychydig o dan 20% yn nifer yr ymweliadau gan ddefnyddwyr unigol. Ond, yn Llyfrgell Port Talbot, mae nifer defnyddwyr y Gwasanaeth Archifau wedi gostwng bron yn union i hanner ar ôl haneru’r oriau roeddem yn bresennol yno ym mis Ebrill 2011. Arhosodd ffigurau Castell-nedd fwy neu lai yn sefydlog gyda’r un nifer o oriau agor â’r llynedd, fel y gwnaeth y niferoedd cyffredinol sy’n dod ar ymweliadau grŵp. Fodd bynnag, cafwyd rhai straeon llwyddiant o bwys am y flwyddyn: mae’r gwasanaeth addysg wedi mwy na threblu faint o bobl mae’n ymwneud â hwy o 514 i 1,758 (cyflwynwyd y sesiynau yn yr ysgolion gan mwyaf) a chafodd hyn effaith fuddiol ar nifer y bobl a gyrhaeddwyd mewn sesiynau grŵp (ffigur ar y cyd ar gyfer oedolion a phlant), sydd wedi mwy na dyblu i 2,244. Mae’r ystadegyn siomedig am ymweliadau defnyddwyr yn Abertawe’n codi pryder arall am effaith cyflwyno taliadau parcio ceir yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe’n nes ymlaen yn 2012. Bydd y taliadau am barcio dros ddwy awr yn cael effaith anghymesur ar ddefnyddwyr yr archifau, sy’n treulio amser cymharol hir Bob blwyddyn, cyflwynir ffigurau ar gyfer o’u cymharu â defnyddwyr eraill y defnyddio'r gwasanaeth i CIPFA, Sefydliad cyfleusterau cyhoeddus yn y Ganolfan Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg. Mae'r Ddinesig. ffigurau a gyhoeddir yn flynyddol gan CIPFA yn ymwneud â’r defnydd o archifau awdurdodau lleol yn ystod y flwyddyn flaenorol, sef 2010/11, Cyfanswm aelodau'r ein blwyddyn frig yn yr achos hwn.
cyhoedd a fu'n ymweld â'r Gwasanaeth Archifau yn ystod 2011-12: 9,815
Gan gynnwys: Abertawe Castell-nedd Port Talbot Ymweliadau grŵp
6,643 2,178 441 553
Mae dadansoddiad ystadegau diweddaraf CIPFA yn dangos fod Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn 17eg ar restr prysurdeb gwasanaethau archifau awdurdodau lleol yn y DU yn ystod y flwyddyn honno (lan o 24ain yn ystod 2009/10), gan ddod y tu ôl i Swydd Gaerlŷr ac un ymweliad darllenydd yn unig o flaen East Riding Swydd Efrog. Yng Nghymru, roedd Gorllewin Morgannwg ymhell ar y blaen o ran ymweliadau darllenydd yn ystod 2010/11, gyda ffigurau 79% yn uwch nag Archifau Gwynedd, y gwasanaeth prysuraf nesaf. Gydag 11,394 o ymweliadau darllenydd unigol yn ystod 2010/11, roedd Gorllewin Morgannwg yn cyfrif am 26% o’r 43,066 o ymweliadau ag archifau awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn honno.
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
11
Yn ystod mis Mehefin 2011, cymerodd y Gwasanaeth Archifau ran unwaith eto yn Arolwg Cenedlaethol Defnyddwyr Archifau Prydain Grŵp Ansawdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae archifau ar draws y DU wedi bod yn ceisio adborth gan eu defnyddwyr ers 1996 a dyma’r ail dro mae arolwg cwsmeriaid cendlaethol wedi’i gynnal ers ailwampio Canolfan Ddinesig Abertawe. Sgoriodd ymatebwyr yn Abertawe a Chastell-nedd faint o wybodaeth sydd ar gael cyn eu hymweliad yn uwch na phan gynhaliwyd yr arolwg diwethaf yn 2009. Mae lefelau cyffredinol boddhad cwsmeriaid yn parhau i fod ar yr un lefelau uchel a gyflawnwyd yn 2009, ond roedd sgôr gymharol isel ar fynediad ffisegol i Sefydliad y Mecanyddion Castell-nedd sydd, ar 69%, yn sefyll allan fel gwyriad o’r sgorau uchel fel arall. Canran yr ymatebwyr a roddodd sgôr ‘da’ neu ‘da iawn’ i’r gwasanaeth Gwybodaeth cyn ymweld (ffôn) Gwybodaeth cyn ymweld (deunyddiau print) Gwefan Oriau agor Mynediad ffisegol i’r adeilad ac ynddo Cyfleusterau ymwelwyr Catalogau ac arweiniadau (gan gynnwys arweiniadau ar-lein) Cyflwyno dogfennau Cyfleusterau gwylio microffilm a microfiche Gwasanaethau copïo Cyfleusterau cyfrifiaduron ar y safle Ansawdd a phriodoldeb cyngor y staff Cymwynasgarwch a chyfeillgarwch y staff Y gwasanaeth archifau’n gyffredinol Mae cynorthwyo ymchwilwyr rhaglenni teledu a radio’n rhan safonol ond anfynych o’n gwaith. Fodd bynnag, mewn un wythnos ym mis Awst 2011, cafwyd rhuthr sydyn o weithgarwch. Ar 10 Awst, ymwelodd Steve Punt, digrifwr teledu a radio, â’r archifau yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe i recordio rhaglen, ‘Punt P.I.’, am y dyfeisiwr ecsentrig Harry Grindell Matthews, a ddarlledwyd ar 10 Medi ar BBC Radio 4. Yn ystod yr un wythnos, daeth ITV atom yn ceisio lluniau o gasglwyr cocos ar gyfer cyfres am fwyd Prydain a adroddir gan Adrian Edmondson, ‘Ade in Britain’. Hefyd, daeth BBC4 atom yn ceisio lluniau o drên y Mwmbwls ar gyfer rhaglen am dramiau Prydain; a daeth ITV Wales atom am luniau o’r diwydiant copr a ddefnyddiwyd ar raglen arbennig o ‘Wales Tonight’ am Abertawe ar 17 Awst.
Sgôr Sgôr Abertawe Castellnedd 100% 97% 100% 95% 93% 100% 95% 98% 98% 69% 99% 90% 97% 100%
93% 90% 84% 83% 93% 88% 86%
98% 91% 97% 97% 97% 98% 98%
91% 84% 81% 88% 94% 95% 96%
94% 97% 98% 98% 100% 100% 100%
Cyfartaledd y DU
PETH ADBORTH AR Y GWASANAETH YSGOLION YN 2011/12 “Dwi’n meddwl mai agwedd bwysicaf yr ymweliad oedd eich brwdfrydedd a’ch mwynhad amlwg wrth weithio gyda’r plant.” “Mae dod â dogfennau hen ac unigryw i ysgol a gadael i 120 o blant, i gyd, eu trin heb anffawd. Fe wnaethoch gyflawni’r dasg hon yn wych a chafodd y plant brofiad pleserus ac addysgiadol iawn.” “Dwi’n meddwl eu bod nhw wedi dangos eu sgiliau meddwl yn dda iawn wrth ofyn cwestiynau i chi ac yn eu hatebion i’r cwestiynau a ofynnoch chi iddyn nhw!” (Ysgol y Grange, West Cross, Abertawe)
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
12
Newidiadau staff Cafwyd newid arwyddocaol ddechrau’r flwyddyn fel rhan o gyfres arfaethedig o fesurau a gyflwynwyd gan y ddau awdurdod rhiant i leihau cyllideb y gwasanaeth archifau ar y cyd 10% ar gyfer 2011/12. Ym mis Ebrill 2011, datgysylltwyd y gwasnaeth rheoli cofnodion ar y cyd, gyda phob awdurdod rhiant yn cymryd cyfrifoldeb am ei wasanaeth ei hun. Dilëwyd swydd Rheolwr Cofnodion o strwythur staff y Gwasanaeth Archifau a throsglwyddwyd y staff cefnogi rheoli cofnodion i’r awdurdod lle roeddent yn gweithio. Trosglwyddodd Lynwen Davies, Cynorthwy-ydd Cofnodion ym Mhort Talbot, i Wasanaethau Cyfreithiol Castell-nedd Port Talbot, ac arhosodd staff rheoli cofnodion Abertawe’n rhan o dîm y Gwasanaeth Archifau er nad yw’r gyllideb ar y cyd. Trosglwyddwyd Rosemary Davies, Rheolwr Cofnodion, yn y broses hon i swydd gyfatebol wag, Uwch-archifydd. Felly, yn ffodus, cwblhawyd y gwaith hwn heb fod angen unrhyw adleoli y tu allan i’r gwasanaeth. Yr Archifydd dan Hyfforddiant ar gyfer 2011/12 yw Rhodri Lewis o Abertawe, a raddiodd mewn Hanes o Brifysgol Caerdydd. Mae Rhodri wedi sicrhau lle ar y cwrs rheoli archifau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer 2012/13. Mae gwrifoddolwyr yn ystod y flwyddyn wedi cynnwys Sarah Ellis, Lucy Soper, John Curtis, Steffan Dennis, Christine Febbraro, Ashley Jenkins, Andrew Thynne a Vivien Lake. Mae Christine Febbraro wedi bod mor garedig â chyfrannu erthygl i’r adroddiad hwn am brosiect y cymerodd hi ran ynddo eleni.
Cynllun Hyfforddeion yr Archifau Mae cynllun hyfforddeion y Gwasanaeth Archifau wedi darparu sbringfwrdd i’r proffesiwn archifau i 25 o raddedigion ers ei gyflwyno ym 1994 (cafwyd dau hyfforddai rai blynyddoedd). Er gwaethaf hysbysebion cenedlaethol a chystadleuaeth fawr amdanynt, mae llawer o’r hyfforddeion hyn wedi dod o orllewin Morgannwg ac mae’r rhan fwyaf wedi mynd ymlaen i dderbyn lle ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae cynhyfforddeion GAGM wedi’u gwasgaru mewn swyddi ar draws y DU. Erbyn hyn, mae rhai ohonynt wedi cyrraedd uwch-swyddi yn y proffesiwn. Fe wnaeth dau o staff presennol y Gwasanaeth Archifau ddechrau ar eu gyrfaoedd yma fel hyfforddeion. Ymgymerais i â hyfforddeiaeth yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn 2009/10. Rhoddodd hyn lawer iawn o brofiad ymarferol i mi a’m helpu i sicrhau lle yn Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth yn ystod y flwyddyn academaidd 2010/11. Ar hyn o bryd, dwi’n Swyddog Prosiectau yn Archifau Ceredigion ac yn ddiweddar, dwi wedi bod yn cynllunio trosglwyddo Archifau Ceredigion i safle newydd ac yn rhoi hyn ar waith. (Andrew Westerman o Dywyn yng Ngwynedd)
I undertook udemic
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
13
Sesiwn Holi ac Ateb Gwirfoddolwr Isod mae cyfweliad byr ag un o’n gwirfoddolwyr, John Curtis. Pryd dechreuoch chi weithio gyda’r Gwasanaeth Archifau? Mis Mawrth 2010, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl. Beth oedd eich gwaith? Dechreuais wirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Archifau a ches i’r gwaith o fewnbynnu cardiau mynegai’n disgrifio’r casgliad ffotograffig a oedd yn cael ei gadw yn yr Archifau. Ar ôl cwblhau hynny, gwnes i ychydig o brosiectau llai i’r gwasanaeth nes i mi ddechrau mewnbynnu’r wybodaeth ar gardiau mynegai’n disgrifio’r casgliad sleidiau 35mm ym mis Chwefror 2011. Beth rydych chi’n ei fwynhau am eich ymweliadau? Mae staff a hyfforddeion yr archifau bob amser yn rhoi croeso i mi pan dwi yn yr ystafell chwilio ac maen nhw’n gwerthfawrogi beth dwi’n ei wneud bob wythnos. Yn gyffredinol, dwi’n gwirfoddoli ar ddydd Iau, sy’n digwydd bod pan fo sawl menyw o Gymdeithas Hanes Teulu Morgannwg yn dod i’r archifau i fynegeio enwau o gofrestri ysgolion a chofnodion eraill. Felly, dwi hefyd wedi dod i adnabod rhai o’r bobl hyn yn eitha’ da. Hefyd, mae nifer o bobl sy’n astudio ar gyfer graddau PhD yn defnyddio’r archifau i wneud ymchwil ar gyfer eu traethodau. Mae wedi bod yn ddiddorol i mi ddysgu sut mae eu prosiectau ymchwil wedi symud ymlaen bob wythnos a gweld faint o wybodaeth maen nhw’n ei chael yn aml dros ychydig fisoedd o ymchwil. Pa fanteision gredwch chi fydd yn deillio o’ch gwaith i’r archifau? Yn y gorffennol, doedd neb fel arfer yn dweud wrth ymchwilwyr a oedd yn ymweld â’r ystafell chwilio am y casgliad sleidiau oherwydd nad oedd wedi’i fynegeio a byddai wedi bod yn rhy anodd trefnu mynediad. Mae’r casgliad o ffotograffau a sleidiau’n eitha’ helaeth ac amrywiol a, phan fydd y catalog yn eu cynnwys nhw i gyd, bydd e’n adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr. Er na fydd gan y catalog y ddelwedd wirioneddol ar y cardiau, bydd syniad da iawn gan ymchwilydd trwy ddarllen y testun a yw ffotograff neu sleid yr hyn mae arno ei eisiau ei weld ar gyfer ei ymchwil. Pa fanteision ydych chi’n eu cael trwy wirfoddoli? Mae gwirfoddoli gyda’r Gwasanaeth Archifau wedi rhoi dealltwriaeth dda i mi o ddyletswyddau cyffredinol archifydd a’r tasgau amrywiol a wneir mewn archif. Ar yr un pryd, mae wedi gwneud i mi sylweddoli na fyddwn i’n ddigon cryf nac yn gallu trin dogfennau oherwydd f’anableddau corfforol er y byddwn, siŵr o fod, wedi mwynhau rhai o’r agweddau ar ddyletswyddau archifydd. Dwi’n meddwl bod gwrifoddoli i’r Gwasanaeth Archifau wedi bod yn bleserus i mi’n gyffredinol a gobeithio y bydd beth dwi wedi’i wneud yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n astudio hanes lleol a hanes teulu dros y misoedd a blynyddoedd i ddod.
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
14
Diolchiadau Wrth roi’r cyfarwyddiadau olaf ar yr adroddiad hwn, roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth yr hanesydd lleol, Bernard Morris. Ymysg llyfrau ac erthyglau cyhoeddedig niferus Bernard mae tri darn a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Archifau, The Houses of Singleton (1995), Historic Swansea (2005) a George Orleans Delamotte: A South Wales Sketch Book (2007). Rydym i gyd yn gyfoethocach am ei gyfraniad amrywiol ac ysgolheigaidd i hanes Abertawe a Gŵyr a bydd colled fawr ar ei ôl. Un o’n partneriaethau mwyaf hirsefydlog yw gyda Chymdeithas Hynafiaethwyr Castell-nedd. Fel arfer, hoffwn dalu teyrnged i rota bresennol y gymdeithas o wirfoddolwyr, na fyddem yn gallu darparu gwasanaeth hebddynt yng Nghastell-nedd: Christine Davies, Robert Davies, Clive Evans, Martin Griffiths, Philip Havard, Josie Henrywood, Annette Jones, Peter Loaring, John Marston, Hywel Rogers, Gloria Rowles a Janet Watkins. Eleni, fel yn y gorffennol, mae Ymddiriedolaeth Ethel a Gwynne Morgan wedi rhoi cyfraniad hael i waith y gwasanaeth, yr ydym yn ddiolchgar iawn amdano. Hefyd, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gadeirydd ac aelodau Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg am eu diddordeb a’u cefnogaeth i waith y gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf. Diolch yn arbennig i’r Cyng. John Miles a ymddiswyddodd fel Cynghorydd Abertawe yn 2012 ar ôl sawl blwyddyn o gefnogi’r Gwasanaeth Archifau a gwaith y pwyllgor. ……………………………………………... Kim Collis Archifydd Sirol Gorllewin Morgannwg Mai 2012 ……………………………………………... Mae’r adroddiad hwn wedi’i argraffu ar bapur 100% ailgylchedig ac yn cael ei ddosbarthu i restr bostio ddethol. Mae’n cael ei gyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/westglamorganarchives
Adroddiad Blynyddol Archifydd y Sir 2011-2012
15