Asiantaethau sy’n darparu cymorth a chyngor i bobl sy’n byw yn Abertawe
Hawlau Lles, Uned Trechu Tlodi Rhafyr 2017
Mynediad Cyhoeddus Uniongyrchol Cyngor ar Bopet Abertawe Castell-nedd Port Talbot Llys Glas, Stryd Pleasant, Abertawe SA1 5DS Yn darparu ystod lawn o gyngor am ddim ar fudd-daliadau, dyled, tai, cyflogaeth, defnyddwyr etc. Yn cynnig gwasanaethau cwblhau ffurflenni PIP er mwyn cael gwell dealltwriaeth o hawlio PIP, a'r hyn sy’n digwydd ar ôl cyflwyno’r ffurflen o ran sut caiff y cais ei asesu. Cynigir cymorth hefyd gyda gwiriadau budd-daliadau. Amserau Galw Heibio Llys Glas: Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Gwener rhwng 9.00am a 3.00pm, Dydd Mercher rhwng 9.00am a 12.00pm Llinell Gymorth Cymru (am gymorth dros y ffôn) 03444 77 20 20 dydd Llun I dydd Gwener; rhwng 9.00am a 4.00pm Llinell Apwyntiadau: Ffôn 01792 474882 – canolfannau allgymorth amrywiol – apwyntiad yn unig Lleoliadau allgymorth: Canolfan Deuleoedd Mayhill, Canolfan y Ffenics, Canolfan Waith Treforys, ARC Blaenymaes, Canolfan Gymunedol De Penlan, Adeilad Cymunedau’n Gyntaf – ffordd Caernarfon, Man cyswllt, Y Strand. DS: Bydd Cyngor ar Bopeth yn ysgrifennu cyflwyniadau papur ar gyfer apeliadau budddaliadau, ond nid oes gwasanaeth cynrychioli ganddo. Am wybodaeth ddefnyddiol, taflenni ffeithiau a llythyrau enghreifftiol: www.citizensadvice.org.uk/wales Bellach yn cynnig apwyntiadau ‘Energy Best Extra’ – gostyngiad cartref cynnes, darlleniadau mesurydd, cofrestr gwasanethau blaenoriaeth a gwiriad boeler nwy blynyddol am ddim ar gyfer grwpiau penodol o bobl ddiamddifyn. Mesuryddion clyfar ac ynni-effeithlon NYTH. (Diweddarwyd 14/09/2017)
Age Cymru Bae Abertawe: Tŷ Davies, Pentref Busnes Tawe, Ffordd y Ffenics, Parc Menter Abertawe, Abertawe, SA7 9LA Bellach yn darparu cyngor budd-daliadau am ddim I bobl o bob oed (nid I’r rheiny dros 50 oed yn unig) a chymorth a chyngor I bobl dros 50 oed drwy eu rhaglen Iach a Chynnes; Gwiriadau Budd-dal Llawn a chymorth gyda chael mynediad i amrywiaeth o fudd-daliadau yn ogystal â chyda llenwi ffurflenni hawlio budd-dal. Gwasanaethau y codir tâl amdanynt – Ailystyriaeth Orfodol: £100 Mae’r fenter ‘Stay Safe at Home’, sydd wedi’I ariannu gan Tesco, yn cyflenwi cloeon a chadwyni drysau, yn ogystai â blychau allweddi diogel am ddim (codir tâl am osod y rhain). Cynhelir cymhorthfa cyngor cyfreithiol. Gallwch alw heibio ond mae’n well gwneud apwyntiad ar gyfer hwn – mae’r awr gyntaf am ddim.
Cynigir cyngor a gwybodaeth arall, gan gynnwys cyngor ar dai, er mwyn eich helpu i ddeall biliau ynni. Hefyd, cynigir amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys cefnogaeth i bobl sy'n teimlo'n ynysig neu'n unig, cefnogaeth i bobl sy'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty, help ymarferol gyda gwaith bach a glanhau yn eich cartref, i enwi ond ychydig. Codir tâl am rai gwasanaethau. Ffôniwch 01792 648 866 I ofyn am gyngor neu I ddysgu mwy am eu gwasanaethau, neu galwch heibio I’w gweld yn y ganolfan ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener – 10.00am – 3.00pm. Gallwch hefyd e-bostio’ch ymholiadau i enquiries@agecymruswanseabay.org.uk **Oherwydd prinder staff, rhaid aros 6 I 8 wythnos am ymweliadau cartref.** **Mae 8-10 wythnos o oedi ar gyfer apwyntiadau gwiriadau budd-daliadau/ llenwi ffurflenni yn y swyddfa ** (Diweddarwyd 20/10/2017)
Y Ganolfan Cefnogi Gofalwyr: 104 Stryd Mansel, Abertawe: Ffôn 01792 653344 Yn cyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau a gwybodaeth i ofalwyr. Cyngor a gwasanaethau am ddim i ofalwyr a'r bobl ag anableddau y maent yn gofalu amdanynt. Darperir cynrychiolaeth mewn tribiwnlysoedd apeliadau gan ddefnyddio tystiolaeth feddygol. Cyngor dros y ffôn: dydd Llun – dydd Gwener – 9.00am – 4.30 pm Galwch heibio: dydd Llun – dydd Gwener – 11.00am – 4.00 pm Gellir ymweld â’r cartref os oes angen oherwydd na allwch ddod I apwyntiad am resymau iechyd. Efallai bydd rhaid I gleientiad aros yn hwy am apwyntiad os oes angen ymweld â’r cartref. e-mail: admin@swanseacarerscentre.org.uk (Diweddarwyd 20/10/2017)
Gwasanaeth Cyngor ar Arian: Yn rhoi cyngor ar unrhyw beth sy’n ymwneud ag arian, yswiriannau, pensiynau a morgeisiau etc. Yn darparu cyngor ar fudd-daliadau ac yn cynnal gwiriadau budd-dal ond nid ydynt yn llenwi ffurflenni hawlio Ffôn: 0344 477 2020 Gellir gwneud apwyntiadau’n uniongyrchol â Marie, ac fel arfer fe’i cynhelir o fewn wythnos. E-bost: marie.james@rctcab.org.uk Ffôn: 07758621644 / 01443 409284 (Diweddarwyd 03/01/2017)
Kin Cymru: Rhan o TA Law – Elusen newydd yw hon sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Maent yn y broses o ddod o hyd i 10 gwirfoddolwr a gwneud gwaith i godi arian. Ar hyn o bryd, maent yn cynnig cymorth gyda llenwi ffurflenni hawlio PIP. Gallant wneud ymweliadau cartref. Mae’r gwasanaeth hwn AM DDIM. * Byddant yn ehangu i fudd-daliadau eraill yn ogystal â PIP ond gan mai megis dechrau maen nhw, dim ond ffurflenni hawlio PIP wneir ar hyn o bryd.* www.kincymru.org.uk
TA Law Ffôn 01792 485100
(Diweddarwyd 20/10/2017)
Cyflogadwyedd Mae cefnogaeth cyflogadwyedd ar gael – ffoniwch eich canolfan agosaf am gymorth:
Ffordd Caernarfon, Bôn-y-maen - 01792 464751 Canolfan y Ffenics, Townhill - 01792 457025 ARC, Portmead – 01792 578632 (Diweddarwyd 03/11/2017)
Cydlynwyr Ardaloedd Lleol Diben Cydlynu Ardal Leol yw cefnogi pobl i deimlo'n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy cysylltiedig a'u teulu, eu ffrindiau a'r gymuned ehangach. Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn cefnogi pobl i gael cefnogaeth arbenigol ynghylch budd-daliadau a materion sy'n ymwneud ag incwm, pan fo angen. Gall unrhyw un 'hunangyfeirio' neu gael eu 'cyflwyno' gan weithwyr proffesiynol, ffrindiau neu eraill o'r gymuned leol. Dyma'r manylion cyswllt: St Thomas a Bonymaen (gan gynnwys Danygraig, Port Tennant, Glannau SA1 a Pentrechwyth) – 07471 145352 Gorseinon (gan gynnwys Pentr’r Ardd, Pontbrenin a Chasllwchwr) – 07471 145353 Sgeti (gan gynnwys Parc Sgeti, Derwen Fawr a Thŷ Coch) – 07471 145351 Uplands (gan gynnwys Brynmill a Ffynone) – 07900 702749 Canol y ddinas (Gan Gynnwys Dyfaty, Mount Pleasant, y Marina, San Helens a Sandfields) – 07900 702829 Pontarddulais (gan gynnwys Pontlliw, Tircoed, Penllergaer, Garnswllt, Felindre, Waun Gron, Pengelli a Penyrheol) – 07900 702812 (Diweddarwyd 02/12/2016)
Gwasanaeth Digartrefedd Ieuenctid BAYS Barnardo’s: 32-36 Y Sytryd Fawr, Abertawe, SA1 1LG. Ffôn 01792 455105 neu ebost: bayspartnership@barnardos.org.uk Yn cefnogi pobl ifanc 16 i 21 oed sy'n ddigartref gyda chyngor cyffredinol, tai, gwahaniaethu a budd-daliadau. Gellir cyflwyno gwasanaeth ymweld â'r cartref, ynghyd ag apwyntiadau wyneb yn wyneb. - cyngor ar fudd-daliadau i bobl ifanc 16-17 oed, help gyda llenwi ffurflenni hawlio a gallant ddod gyda chi i apwyntiadau os oes angen. BAYS Plus @ Info-Nation, 47 Ffordd y Brenin, Abertawe, SA1 5HG Ffôn 01792 460007 Mae proseict BAYS Barnardo’s wedi ymuno â thîm PDG 14+ I ddod yn wasanaeth BAYS Plus @ info-nation. Maent yn darparu: cyngor/cefnogaeth o ran llety I bobl ifanc 16 I 17 oed; cyngor/cefnogaeth o ran tai i oedolion ifanc 18 i 21 oed; cyngor cyffredinol, tai a budd-daliadau i bobl ifanc ddigartref 16 i 21 oed (24 oed os ydynt mewn addysg barhaus); cyngor cyffredinol ar fudd-daliadau; cefnogaeth I sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad i feddygon/ddeintyddion/ gofal iechyd. (Diweddarwyd 08/06/2017)
Infonation : 01792 484 010, 47 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5HG
Oriau agor: Dydd Llun a dydd Mawrth 12.30pm – 4.30pm, dydd Mercher 12.30pm – 5.30pm, dydd Iau 12.30pm - 4.30pm, dydd Gwener 12.30pm – 4.15pm Maent yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth arbenigol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o faterion i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, a'u teuluoedd. (Diweddarwyd 26/10/2017)
YMCA: 1 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5JQ 01792 652032 neu e-bostiwch: info@swanseaymca.org.uk - Llety brys a byw â chymorth - Amrywiaeth eang o wasanaethau i'r teulu megis canolfannau crèche, meithrinfeydd, clybiau gwyliau, rhaglenni magu plant a chyfryngu teuluol; - Mwy na 270 o gyfleusterau iechyd a lles, gan gynnwys campfeydd, pyllau nofio a neuaddau cymunedol; - Amrywiaeth o gynlluniau addysg, hyfforddiant sy'n seiliedig ar sgiliau, lleoliadau a phrentisiaethau; - Cefnogaeth a chyngor ar: gyflogaeth a gyrfaoedd, iechyd meddwl a chwnsela, iechyd rhywiol, cyffuriau ac alcohol, lles a budd-daliadau, cyngor ar dai, banciau bwyd (Diweddarwyd 27/10/2017)
Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (CCC): Cynorthwyo gyda cheisiadau am gymorth cyfreithiol i gynorthwyo gyda dyled, tai a chyfraith teulu a mynd ag achosion budd-dal lles i'r Uwch Dribiwnlys. Cynhelir asesiad ariannol dros y ffôn ac os nad ydych yn gymwys, cewch eich cyfeirio at sefydliad sy'n gallu eich helpu. Ffôn 0845 345 4345: Dydd Llun i dydd Gwener 9.00am – 8.00pm, Dydd Sadwrn 9.00am – 12.30pm
Tai Housing Options: Ffôn : 01792 533100 or email: housing.options@swansea.gov.uk Galwch heibio: 17 Y Stryd Fawr, Abertawe; dydd Llun i ddydd Iau - 10.00am tan 4.30pm; dydd Gwener - 10.00am tan 4.00pm Yn rhoi cyngor a chymorth tai i'r rhai y derbynnir eu bod yn gymwys. Mae’r rhain yn darparu cyngor ar dai, asesu ceisiadau ar gyfer tai cyngor a throsglwyddo tenantiaid y cyngor a chynnal a chadw'r gofrestr o anghenion tai cyngor. Os ydych mewn perygl o golli'ch llety, cysylltwch ag Opsiynau Tai am help. (Diweddarwyd 08/06/2017)
Shelter Cymru: 25 Heol Walter, Abertawe; Ffôn: 01792 469400 Mae Shelter yn rhoi cyngor arbenigol ar dai, dyledion a budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys dyletswydd llys, os yw cleientiaid wedi derbyn gorchmynion adfeddiannu; mae gwefan Shelter www.sheltercymru.org.uk yn darparu amrywiaeth o ffeithlenni sy'n ymwneud â materion tai, ynghyd â mynediad i apwyntiadau wyneb yn wyneb am gyngor ar faterion tai a dyled. Mae gwasanaeth cyngor a chefnogaeth dros y ffôn ar gael hefyd. Ffôn: 0345 075 5005. (Diweddarwyd 08/06/2017)
Gwalia: Ffôn: 0800 012 1080 (01792 488288 os ydych yn galw o ffôn symudol) E-bost: enquiries@gwalia.com Yn darparu opsiynau tai rhent cyffredinol, canolraddol a lloches i bobl sydd am symud i gartref eu hunain. (Diweddarwyd 26/10/2017)
Cymdeithas Tai Teulu: Landlord cymdeithasol cofrestredig yn Abertawe. Mae'n darparu cefnogaeth sy'n ymwneud â thai i bobl sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain. Atgyweiriadau: 0800 435223 e-bost: repairs@fha-wales.com Tai: 0800 0213930 / 01792 482702 e-bost: lettings@fha-wales.com Adennill rhent/incwm: e-bost 01792 482705: rent@fhs-wales.com Cyllid: 01792 482768 e-bost: finance@fha-wales.com (Diweddarwyd 26/10/2017)
Grŵp Tai Coastal: Ffôn: 01792 479200, neges destun: 0777564775 0213930 / 01792 482702 e-bost: ask@coastalhousing.co.uk Llinellau ffôn ar agor 8.00am – 5.30pm dydd Llun – dydd Iau, 8.00am – 4.30pm dydd Gwener Llinell atgyweiriadau: 01792 619200 (Diweddarwyd 26/10/2017)
Crisis: YMCA, 1 Ffordd y Brenin, Abertawe SA1 5JQ Ffôn: 0800 0213930 / 01792 482702 e-bost: southwales@crisis.org.uk Cefnogir pobl allan o ddigartrefedd am byth trwy addysg, hyfforddiant a chefnogaeth gyda thai, cyflogaeth ac iechyd. Maent yn cynnig cefnogaeth un i un, cyngor a chyrsiau i bobl ddigartref mewn ardaloedd ledled Cymru. (Diweddarwyd 26/10/2017)
Y Groes Goch Brydeinig Tŷ Cydwely, Charter Court, Ffordd y Ffenics, Parc Menter Abertawe, Abertawe SA7 9FS: Ffôn: 01792 772146 Dwy ffordd i dderbyn cefnogaeth: (1) Uned Cefnogi Tenantiaid (Ffoniwch Abertawe 774360) ar gyfer cefnogaeth tenantiaid (mae'n rhaid i'r cleient fod yn 55 oed neu'n hŷn) ac ailgartrefu ffoaduriaid neu (2) hunangyfeirio i gael mynediad i'r cynllun gadael yr ysbyty â chymorth.. Nod cefnogaeth tenantiaid yw helpu cleientiaid i barhau i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys help gyda chyfleustodau, cysylltu â 3ydd partïon,
rheoli materion aelwyd, deall llythyrau swyddogol ac ymdrin â dyledion a budd-daliadau lles. Gall ailgartrefu ffoadur gynorthwyo'r hawliwr i integreiddio i gymunedau drwy gael mynediad i wasanaethau a llety. Mae'r cynllun gadael yr ysbyty â chymorth yn gynllun hunangyfeirio i sicrhau y caiff cleientiaid eu rhyddhau i amgylchedd diogel. Gall asesiadau gynnwys cymhorthion ac addasiadau anabledd, grantiau, ailgartrefu posib neu addasiadau i'r cartref.
Cyngor Cydraddoldeb Hiliol Bae Abertawe (SBREC): Tŷ Mansel, 101 Stryd Mansel, Abertawe SA1 5UE Ffôn: 01792 457035 Ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, 9.00am – 5.00pm a dydd Gwener, 9.00am – 4.30pm Mae gweithgareddau SBREC yn cynnwys addysg, cyflogaeth, ymwybyddiaeth o gydraddoldeb, tai, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, datblygiad cymunedol a chyfiawnder troseddol. Mae’n darparu cyngor a gwybodaeth am wahaniaethu a chyfleoedd cyfartal a gall ddarparu cyngor a chefnogaeth o ran tai/digartrefedd. (Diweddarwyd 24/01/2017)
Family Fund: Help i deuluoedd sydd â phlant ag anableddau: Elusen sy'n darparu grantiau i deuluoedd ar incwm isel sy'n magu plant a phobl ifanc anabl neu â sydd salwch difrifol yw Family Fund. Darperir grantiau ar gyfer amrywiaeth eang o eitemau, fel peiriannau golchi, teganau synhwyraidd, gwyliau teuluol, dillad gwely, tabledi, cyfarpar chwarae awyr agored, dillad a chyfrifiaduron. Ewch i'r wefan ar https:/ /www.familyfund.org.uk/ neu eu ffonio ar 01904 621115, neu drwy ysgrifennu iddynt yn 4 Alpha Court, Monks Cross Drive, York YO32 9WN (Diweddarwyd 08/06/2017)
T. A. Law Solicitors: Suite 40-44, Orchard Business Centre, 9 Stryd y Berllan, Abertawe SA1 5AS. Ffôn: 01792 485100 Yn darparu cyngor ar dai a mewnfudo am ddim, a chynrychiolaeth i bobl sy'n gymwys am gymorth cyfreithiol a chynrychiolaeth mewn apeliadau i'r Uchel Dribiwnlys mewn achosion budd-dal lles. Mae ffi sefydlog ar gyfer cyngor a chynrychiolaeth mewn apeliadau budd-dal i'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Gellir trefnu apwyntiadau dros y ffôn.
Kin Cymru: Rhan o TA Law – Elusen newydd yw hon sy’n cael ei sefydlu ar hyn o bryd. Maent yn y broses o ddod o hyd i 10 gwirfoddolwr a gwneud gwaith i godi arian. Ar hyn o bryd, maent yn cynnig cymorth gyda llenwi ffurflenni hawlio PIP. Gallant wneud ymweliadau cartref. Mae’r gwasanaeth hwn AM DDIM. * Byddant yn ehangu i fudd-daliadau eraill yn ogystal â PIP ond gan mai megis dechrau maen nhw, dim ond ffurflenni hawlio PIP a wneir ar hyn o bryd.*
Uned Cefnogi Tenantiaid (UCT): 71 Heol Creswell, Y Clâs, Abertawe; Ffôn: 774360/774320 neu e-bost: uct@swansea.gov.uki
Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid (UCT) yn rhoi cyngor a chefnogaeth am ddim i denantiaid a pherchnogion preswyl â phroblemau sy'n gysylltiedig â thenantiaeth. Gall hyn gynnwys symud i gartref newydd neu beidio ag ymdopi'n dda yn eu llety presennol a bod ag angen cefnogaeth ac arweiniad ar gyfer amrywiaeth o faterion.
Budd-daliadau I bobl sydd â chanser Macmillan: Mae Gwasanaethau Cyngor ar Fudd-daliadau Macmillan yn cynnig gwasanaeth budd-daliadau lles cyfrinachol i bobl â chanser a'u gofalwyr. Gallwch drefnu apwyntiad yn Ystbyty Singleton drwy ffonio Jasmine Roberts, Ymgynghorydd Budddaliadau Lles Macmillan ar 07816 290260, neu drwy e-bostio j.roberts@npt.gov.uk
- Canolfan Gofal Canser Maggie: Ysbyty Singleton, Lôn Sgeti, Abertawe SA2 8QA. Yn cynnwys de-orllewin a de-ddwyrain Cymru. Ffôn: 01792 200 000. Mae'r ganolfan ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm. Mae cyngor ar fudddaliadau ar gael i bobl â chanser a'u teuluoedd drwy wasanaeth galw heibio o ddydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 10am ac 1pm. www.maggiescentres.org/our-centres/maggies-swansea
- Tenovus: Gall preswylwyr sy'n byw yn ardal Abertawe gysylltu â Neil Jones drwy ffonio 07748 117859 neu drwy e-bostio neil.jones@tenovuscancercare.org.uk. Bydd ymgynghorwyr cefnogaeth canser Tenovus yn cynghori ac yn cefnogi unrhyw un yng Nghymru yr effeithir arno gan ganser, gan gynnwys cleifion, perthnasau a gofalwyr, ac yn ddiweddar berthnasoedd sydd wedi dioddef profedigaeth. Mae'r cyngor yn cynnwys budddaliadau a grantiau, a pheth cyngor ar ddyled, tai a gofal yn y gymuned. Mae hefyd gwasanaeth cwnsela a gwasanaeth cefnogi nyrsio dros y ffôn ar gael. I'r rheiny sy'n byw y tu allan i ardal Abertawe, gallwch ffonio Llinell Gymorth Radffôn Tenovus ar 0808 808 1010 (8am tan 8pm, 365 niwrnod y flwyddyn) e-bostio refertous@tenovuscancercare.org.uk neu ffacsio 029 2076 8880.
Cyngor ar fudd-daliadau i'r rheiny sy'n colli eu golwg neu eu clyw Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion (RNIB): Sut mae cysylltu â ni: Ffôn: 0333 323 0227; Ffacs: 01492 534809; Text Relay: 18001 03333230227; Neges Destun: 07860 031200 E-bost: RAISE@rnib.org.uk Mae RNIB Cymru'n gweithio gydag Action on Hearing Loss Cymru, Deafblind Cymru a Sense Cymru i roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n colli golwg neu glyw yng Nghymru. Gall y gwasanaeth wirio eich bod yn cael y budd-daliadau a'r consesiynau y mae gennych hawl iddynt a rhoi gwybod i chi am y gefnogaeth a'r gwasanaethau eraill sydd ar gael i chi yn eich ardal. Byddwn yn trefnu i unrhyw ffurflenni cais am fudd-daliadau gael eu llenwi ar eich rhan ac yn rhoi cefnogaeth drwy gydol y broses hawlio. Mae hefyd gennym dîm o weithwyr achos arbenigol a all eich cefnogi wrth herio'r penderfyniadau mwyaf cymhleth ar fudd-daliadau os yw eich penderfyniad yn anghywir. www.rnib.org.uk/wales
Cyngor ar Fudd-daliadau a Dyledion i Gyn-bersonél y Lluoedd Arfog Gall cyn-bersonél y lluoedd arfog gael mynediad i unrhyw asiantaeth yn Abertawe sy'n rhoi cyngor ar fudd-daliadau, ond mae rhai sefydliadau sy'n rhoi help i'r lluoedd arfog a chyn-filwyr rhyfel yn benodol. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan ellid hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig â rhyfel.
SSAFA: Canolfan y Fyddin Diriogaethol, Heol Alamein, Ystâd Ddiwydiannol y Morfa, Abertawe, SA1 2HP. I drefnu i weithiwr achos o'r SSAFA eich cynorthwyo gyda'ch budd-daliadau, ffoniwch 01792 653432 rhwng 10am a 12pm ar ddydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener. Gellir trefnu i weithiwr achos ymweld â chi yn eich cartref. Darperir help gyda phopeth yn ymwneud â budd-daliadau, gan gynnwys budd-daliadau Pensiwn Rhyfel. Gall cynrychiolaeth mewn apeliadau o ran materion budd-daliadau fod ar gael. Ni all SSAFA roi cyngor uniongyrchol ar ddyledion, ond gall eich cyfeirio at gyngor arbenigol. Gall SSAFA helpu gyda llawer o faterion eraill yn ogystal â budd-daliadau, fel tai. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan: http://www.ssafa.org.uk
Y Lleng Brydeinig Frenhinol Mae gwasanaeth cyngor ar fudd-daliadau ac arian gan y Lleng Brydeinig Frenhinol sy'n cynnig cyngor ar fudd-dal a dyled i ddynion a menywod sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a'u teuluoedd. Efallai y gallant ddarparu cynrychiolaeth ar gyfer apeliadau budd-daliadau mewn tribiwnlys. Er mwyn trefnu i ymgynghorydd lleol gysylltu â chi i drefnu i ymweld â chi yn eich cartref, bydd angen i chi ffonio llinell gymorth genedlaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol: 0808 802 8080 - 8am8pm 7 niwrnod yr wythnos. Bydd angen i chi roi eich rhif gwasanaeth, manylion eich catrawd a'ch rhif YG. Gall rhywun ffonio'r llinell gymorth ar eich rhan. Mae gwefan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn rhoi gwybodaeth fanylach: www.britishlegion.org.uk/can-we-help/financial-assistance/benefits-and-money-advice
Veterans UK: Mae staff y llinell gymorth yn cynnig cyngor penodol ar hawlio pensiwn anabledd rhyfel neu gynllun iawndal y lluoedd arfog. Mae'r llinell gymorth hefyd yn cynnig cyngor ar faterion eraill sy'n cynnwys budd-daliadau, pensiynau, benthyciadau a grantiau, llety brys, dod o hyd i swydd, ailhyfforddi, materion iechyd, pryderon lles, cofnodion gwasanaeth a medalau. Gallwch hefyd gysylltu â nhw dros y ffôn i gael cyngor a chefnogaeth wrth lenwi ffurflenni hawlio. Rhif Ffôn y Llinell Gymorth: 0808 1914218 neu e-bost: veterans-uk@mod.uk Dydd Llun – dydd Gwener 8.00am – 5.00pm
Dyled Undeb Credyd Bae Abertawe (Undeb Credyd Celtic): 13, Stryd Portland, Abertawe SA1 5LR. 0333 006 / 3002 482702 e-bost: admin@celticcreditunion.co.uk gwefan: 111.celticcreditunion.co.uk Fe'i sefydlwyd i helpu pobl leol - gan ddarparu gwasanaethau ariannol syml, fforddiadwy i'w haelodau. Mae'n cynnig benthyciadau am gyfraddau llog teg, heb gostau cudd, cyngor ar gyllidebu, cardiau debyd a chynilion. Dyma amserau agor cyhoeddus y swyddfa gangen:
Dydd Llun i ddydd Gwener 9.30am - 4.30pm Dydd Gwener 9.30am - 4.00pm Dydd Sadwrn 9.30am – 12 ganol dydd (Diweddarwyd 08/12/2017)
My Community Bank Wales: Yr enw newydd ar gyfer Undeb Credyd LASA. 139 Heol Walter, Abertawe SA1 5QQ 01792 643632 (9.30am-2.30pm) e-bost: friends@mycommunitybankwales.co.uk. Yn darparu benthyciadau â chyfraddau teg a chyfrifon cynilo â'r cyfraddau gorau. (Diweddarwyd 30/10/2017)
Step Change: 0800 138 1111 Llinellau'n agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.00am - 8.00pm a dydd Sadwrn 8.00am - 4.00pm Yn darparu cyngor diduedd, am ddim ar ddyled. Gyda Chynllun Rheoli Dyledion StepChange (CRhD), gall eich helpu i ad-dalu'ch dyledion drwy wneud un taliad fforddiadwy bob mis. Mae ganddo hefyd offeryn Datrys Dyled ar-lein - offeryn cyllidebu gwych os nad oes gennych ddyledion. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Cristnogion yn Erbyn Tlodi (CAP): Ffôn am ddim: 0800 3280006 Dydd Llun i dydd Gwener 8:30am-5:00pm Gwasanaeth am ddim yw hwn – mae’n derbyn cyfraniadau gan eglwysi ac unigolion. Ar ôl i chi ffonio CAP, bydd ymgynghorydd dyledion yn ymweld â chi yn eich cartref. NID yw’r gwasanaeth hwn ar gyfer Cristnogion yn unig. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Shelter Cymru – Cyngor ar Ddyled Abertawe: 25 Heol Walter, Abertawe SA1 5NN 01792 469400 Cyngor ar ddyled arbenigol, annibynnol, cyfrinachol, am ddim ar amrywiaeth o ddyledion. Dydd Mawrth a dydd Iau: Drwy apwyntiad yn unig yn swyddfa Shelter Cymru, Abertawe. Dydd Llun a dydd Mercher: Cyngor dros y ffôn (gweler y rhif uchod). Cyngor drwy e-bost ar gael hefyd. E-bost: melanien@sheltercymru.org.uk Mae Melanie Nicholas - Uwch-ymgynghorydd Dyled Shelter Cymru ar gael hefyd i gynnig cyngor yn: Banc Bwyd Eastside (28 Heol Mansel, Bôn-y-maen, Abertawe SA1 7AU) ar ddydd Gwener, 11am tan 1pm. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol: 0300 500 5000 Llinellau'n agor dydd Llun - dydd Gwener 8am-8pm a dydd Sadwrn 9am-1pm Cyngor diduedd, am ddim ar arian, gan gynnwys: - cyngor ac arweiniad i'ch helpu i wella'ch trefniadau ariannol; - offer a chyfrifianellau i'ch helpu i gadw trefn ar bethau a chynllunio ymlaen llaw; - Cefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Cyngor ar Bopeth, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot 01792 474882
Cyngor cyfrinachol, diduedd am ddim ar bob agwedd ar y gyfraith, gan gynnwys eich hawliau a'ch cyfrifoldebau. Darperir cyngor ar ddyled ac arian. Hefyd, mae cyngor ar gael ar-lein. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Botwm Panig Dyled: Yn llawn gwybodaeth am ddim am sut i reoli dyled ac osgoi trafferthion mewn arweiniad cam wrth gam hawdd ei ddilyn. www.debtpanicswansea.org.uk/ - Gwybodaeth i'ch helpu i ddelio â dyled boed honno’n fach neu'n fawr. Money Made Clear Wales: Gwefan: www.moneymadeclear.wales Cyngor diduedd, am ddim ar reoli eich arian, mynd i'r afael â dyled a thorri costau. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Y Llinell Ddyled Genedlaethol: 0808 808 4000 Dydd Llun i ddydd Gwener: 9pm - 8pm, dydd Sadwrn: 9.30am - 1pm Gwefan: www.nationaldebtline.org/ Cymorth annibynnol, cyfrinachol am ddim ar-lein neu dros y ffôn neu drwy we-sgwrs ag ymgynghorydd. (Diweddarwyd 08/12/2017)
Adrannau’r Llywodraeth Lwfans Gweini: Attendance Allowance Unit, Mail Handling Site A, Wolverhampton, WV98 2AD. Ffôn: 0345 605 6055; Ffôn testun: 0345 604 5312 o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm Lwfans Byw i'r Anabl i blentyn dan 16 oed: Disability Benefit Centre 4, Post Handling Site B, Wolverhampton, WV99 1BY. Ffôn: 0345 712 3456; Ffôn testun: 0345 722 4433. Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm Lwfans Byw i'r Anabl 65+: Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) 65+ Mail Handling Site A, Wolverhampton WV98 2AH. Ffôn: 0345 605 6055 Ffôn testun: 0345 604 5312. Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm Uned Lwfans Gofalwr: Mail Handling Site A, Wolverhampton WV98 2AB ffôn: 0345 608 4321. Ffôn testun: 0345 604 5312. Dydd Llun – dydd Iau 8.30pm – 5.00pm; dydd Gwener 8.30am-4.30pm Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP): Freepost RTEU-HAGT-SLBL’ PIP 1, Mail Handling site A, Wolverhampton, WV98 1AA Er mwyn cyflwyno cais newydd, ffoniwch: 0800 917 2222; Ffôn testun: 0800 917 7777 Ymholiadau eraill: Ffôn: 0345 850 3322; Ffôn testun: 0345 601 6677 Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm Y Gwasanaeth Pensiwn: The Pension Service 8, Post Handling Site B, Wolverhampton,WV99 1AN: Ffôn: 0345 6060265. Ffôn testun: 0345 606 0285 Os ydych yn hawlio am y tro cyntaf: 0800 731 7898 Ffôn testun: 0800 7317339 Yn gweinyddu budd-daliadau i'r rhai dros oedran pensiwn menywod. Ewch i
www.direct.gov.uk am wybodaeth ar-lein, gan gynnwys cyfrifiannell oedran y pensiwn gwladol. Asiantaeth Gweithwyr y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr (SPVA): Veterans UK, Ministry of Defence Norcross, Thornton Cleveleys, FY5 3WP. E-bost: veterans-uk@mod.uk Rhadffôn: (DU yn unig): 0808 1914 218; Ffôn (tramor): +44 1253 866 043 7.30am tan 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 7.30am tan 5.00pm ar ddydd Gwener
Cludiant: Bathodyn Car (Bathodyn Glas): Os oes gennych broblemau/anawsterau cerdded neu mae cerdded yn achosi poen neu anghysur i chi, efallai y byddwch yn gymwys am fathodyn car. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall neu mae gennych gerbyd wedi'i addasu oherwydd anableddau difrifol i'r breichiau. Chi Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn elfen symudedd Lwfans Byw i'r Anabl, neu gyfradd uwch elfen symudedd y Taliad Annibyniaeth Bersonol, nac yn bodloni rhai o ddisgrifwyr yr elfen hon, ond os ydych, bydd hawl awtomatig gennych i fathodyn car. Er mwyn hawlio, ffoniwch y Ganolfan Ddinesig ar 01792 637366 neu ewch i wefan y cyngor i gael gwybodaeth: http://www.abertawe.gov.uk/bathodynnauglas Tocyn bws: Mae hwn yn darparu teithio consesiynol i'r henoed a phobl anabl. Os ydych yn chwe deg oed ac yn hŷn, neu unrhyw oed ac mae gennych anableddau penodol ac yn breswylwyr parhaol yn Ninas a Sir Abertawe, byddwch yn gymwys am docyn bws. Rhoddir tocynnau bws am ddim ac maent yn caniatáu teithio am ddim ar yr holl fysys lleol cofrestredig yng Nghymru heb gyfyngiadau. www.abertawe.gov.uk/buspasses Teithio ar y Trên: Os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd teithio ar y trên, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cerdyn Rheilffordd i Bobl Anabl. Mae'r cerdyn rheilffordd hwn yn caniatáu i chi ac un oedolyn sy'n teithio gyda chi gael 1/3 oddi ar y rhan fwyaf o brisiau trên. Er mwyn cyflwyno cais ar gyfer y cerdyn hwn, cysylltwch ag Ymholiadau National Rail. Gellir trefnu i staff gwrdd â chi yn yr orsaf adael, mynd gyda chi i'r trên a sicrhau eich bod yn mynd yn ddiogel ar y trên. Gellir gwneud trefniadau tebyg yng ngorsaf eich cyrchfan ac mewn gorsafoedd eraill. Tacsis Symudedd/Cludiant Cymunedol: Mae’r rhain yn darparu cludiant hanfodol i bobl hŷn ac anabl. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn. Mae gan rai o'r cynlluniau hyn geir sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Gorseinon 01792 899933 Gŵyr 01792 851942 Pontarddulais 01792 884944 Abertawe 01792 463675 www.dansa.org.uk Cynllun Motability: Er mwyn defnyddio'r cynllun hwn, mae'n rhaid eich bod wedi cael hawl i dderbyn cyfradd uwch elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, Cyfradd uwch y Taliad Annibyniaeth Bersonol am o leiaf 12 mis, neu'n derbyn atodiad symudedd pensiynwr rhyfel. Bydd yr Uned Cyswllt a Phrosesu Anabledd yn talu'n uniongyrchol i Motability. Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe (Shopmobility gynt): Mae hyn yn benthyca sgwteri a chadeiriau olwyn trydan i helpu pobl ag anawsterau cerdded i wneud eu siopa'n haws. Codir tâl bach blynyddol i ymuno â'r cynllun, a thâl bach bob tro rydych yn defnyddio'r cynllun. Mae cyfradd ddyddiol i ymwelwyr ar gael hefyd. Mae angen i chi drefnu i logi'r cyfarpar 2 ddiwrnod ymlaen llaw. I gofrestru, cysylltwch â Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe ar 01792 461785 neu ewch i'w swyddfa yng ngorsaf fysus canol y ddinas, Stryd Plymouth, Abertawe SA1 3AR. Bydd angen dau fath o
brawf adnabod arnoch gyda'ch enw a'ch cyfeiriad arnynt. Cadeiriau Olwyn, Ffyn Baglau, Fframiau Zimmer a Sgwteri: Ar gyfer anghenion tymor hir, gall eich meddyg drefnu i chi gael un am ddim. Fodd bynnag, mae'r Groes Goch Brydeinig yn benthyca cadeiriau olwyn am gyfnodau tymor byr. Gall Age Cymru Bae Abertawe ddarparu cyngor ar ble y gallwch gael cadair olwyn, gan gynnwys ble y gallwch logi un.
Materion y cartref Casglu Sbwriel gyda Chymorth: Os ydych yn cael anhawster rhoi'ch sbwriel yn y man cywir ac nad oes person abl yn byw gyda chi, gallwch ofyn am gasgliad sbwriel gyda chymorth lle nodir lleoliad mwy addas i chi roi eich sbwriel/deunydd ailgylchu. Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch ag Is-adran Rheoli Gwastraff yr awdurdod lleol. Mân Dasgau a Garddio: Mae amrywiaeth o asiantaethau'n darparu 'gwasanaethau cartref' sy'n gallu helpu pobl a chanddynt dasgau ar ôl i'w gwneud o gwmpas y cartref ac, mewn rhai amgylchiadau, gall grantiau fod ar gael i gynorthwyo gyda'r costau. I gael mwy o wybodaeth am wasanaethau cartref, cysylltwch ag Age Cymru neu Gofal a Thrwsio, Gofal a Thrwsio: Asiantaeth gwella cartrefi annibynnol y sector gwirfoddol yw hon i bobl hŷn ac anabl a'u gofalwyr. Mae'r staff yn cynnig cefnogaeth amrywiol i gleientiaid gyda'u problemau tai, o helpu i arwain cleientiaid drwy broses y grantiau tai i ddarparu gwasanaeth tasgmon sy'n gallu ymateb yn gadarnhaol i anghenion mân atgyweiriadau ac addasiadau pobl hŷn ac anabl yn Abertawe. Ffôn: 01792 798599
Ariannol: Undebau Credyd: My Community Bank Wales: Yr enw newydd am Undeb Credyd LASA. 139 Heol Walter, Abertawe SA1 5QQ 01792 643632 (9.30am - 2.30pm) e-bost: friends@mycommunitybankwales.co.uk. Yn darparu benthyciadau â chyfraddau teg a chyfrifon cynilo â'r cyfraddau gorau. Undeb Credyd Bae Abertawe (Undeb Credyd Celtic): 0333 006 3002 e-bost: admin@nptcu.co.uk Fe'i sefydlwyd i helpu pobl leol - gan ddarparu gwasanaethau ariannol syml, fforddiadwy i'w haelodau. Mae'n cynnig benthyciadau am gyfraddau llog teg, heb gostau cudd, cyngor ar gyllidebu, cardiau debyd a chynilion. (Diweddarwyd 30/10/2017) Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl: Diben y rhain yw helpu i dalu am addasu eiddo ar gyfer anghenion person anabl. Mae'n rhaid i'r person â'r anableddau (y mae angen y grant arno) a'i bartner, os oes ganddo un, gael prawf modd. Mae'r prawf modd yn wahanol i fathau eraill o brawf modd. Cysylltwch â'r cyngor am fwy o wybodaeth am Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.. Grantiau/Taliadau Gofalwyr: Os ydych yn ofalwr, mae gennych hawl i Asesiad Gofalwr y mae timau gwaith cymdeithasol yn eu cyflawni. Os asesir bod angen 'gofal sylweddol a rheolaidd' arnoch, bydd yr asesiad yn nodi effaith a chynaladwyedd eich rôl a pha wasanaethau ychwanegol y gellid eu rhoi ar waith i'ch cefnogi. Gallai'r taliadau hyn dalu am unrhyw gostau/taliadau ychwanegol sy'n codi yn sgîl y gefnogaeth/gwasanaethau y nodwyd bod eu hangen. Mae grantiau ar gael hefyd i ofalwyr sy'n wahanol o bryd i'w gilydd, gan ddibynnu ar gyllid. I gael
gwybod am y grantiau a'r gwasanaethau sydd ar gael i ofalwyr, cysylltwch â'r Ganolfan Ofalwyr (wedi'i rhestru uchod) Nwy/Trydan: Mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o ddarparwyr ynni gynnig prisiau cymdeithasol i helpu eu cwsmeriaid mwyaf diamddiffyn i ymdopi â chostau uchel nwy a thrydan. Mae'n rhaid i'r holl brisiau cymdeithasol fod yn gyfartal â chynigion rhataf y cyflenwyr. Siaradwch â'ch cyflenwr ynni i weld a oes modd eich symud i bris rhatach. Gostyngiad Cartrefi Cynnes: Gallech gael £140 oddi ar eich bil trydan ar gyfer gaeaf 2017-2018. Efallai gallech gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle os yw'ch cyflenwr yn darparu trydan a nwy i chi. Cysylltwch â'ch cyflenwr i gael gwybod am hyn. www.gov.uk/the-warm-home-discount-scheme 0345 603 9439 (Llun-Gwe 8:30-4:30) Grantiau inswleiddio llofftydd a waliau ceudod am ddim: Gweler y wefan: moneysavingexpert.com i gael manylion y cynigion sydd ar gael. Mae Nwy Prydain ar hyn o bryd yn cynnig inswleiddio am ddim i rai cwsmeriaid. I weld a ydych yn gymwys, ffoniwch 0800 294 0237 Trethi Dŵr: Mae gan Dŵr Cymru nifer o gynlluniau/prisiau cymdeithasol i helpu cwsmeriaid i dalu eu biliau dŵr. Mae HelpU yn cefnogi aelwydydd y mae cyfanswm eu hincwm (ac eithrio rhai budddaliadau fel TAP/LBA) yn llai na £15,000. Mae WaterSure Cymru'n cefnogi aelwydydd â mesurydd dŵr sy'n derbyn budd-dal prawf modd ac mae ganddynt gyflwr meddygol arbennig neu oherwydd cyflwr meddygol, mae angen i chi ddefnyddio llawer mwy o ddŵr; neu os oes gennych aelwyd dri neu fwy o blant dibynnol. Os ydych yn gymwys, gosodir terfyn ar eich trethi dŵr am y flwyddyn, a phennir hyn bob blwyddyn. Gellir ei ôl-ddyddio i 1Ebrill y flwyddyn y cymhwysir y gostyngiad. Gall mesuryddion dŵr gael eu gosod yn rhad ac am ddim. Mae eu cynlluniau dyled yn cynnwys Dŵr Uniongyrchol a'r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid. 0800 052 0145 Dydd Llun – dydd Gwener, 8.00am-8.00pm; dydd Sadwrn, 8.00am - 1.30pm; Neu gallwch gael ffurflen gais yn www.dwrcymru.com a dilyn y dolenni ar gyfer Fy Nghyfrif a Cymorth i dalu fy mil. Trwydded Deledu: Pan fyddwch yn cyrraedd 74 oed, gallwch gyflwyno cais ar-lein ar y wefan trwyddedu setiau teledu am drwydded deledu am ddim i’r rhai dros 75 oed. Er mwyn cael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 555 0286 neu ewch i'r wefan: http://www.tvlicensing.co.uk/ Yswiriant: Os oes gennych broblemau meddygol neu os ydych dros oed arbennig, efallai y bydd hi'n anodd i chi gael yswiriant, yn enwedig yswiriant gwyliau. Mae Age Cymru yn darparu gwybodaeth am bob math o yswiriant. Disgowntiau mewn Siopau: Mae sawl siop yn gweithredu cynllun disgownt os ydych dros chwe deg oed, fel Boots y Fferyllydd. Mae siopau eraill yn rhoi disgownt i'r rhai chwe deg oed ac yn hŷn os ydynt yn siopa ar ddiwrnodau arbennig o'r wythnos.