Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyfrol 4, Rhifyn 1 Mai 2013
Newidiadau i ddata gwasanaeth a hunanasesu gwybodaeth am y gwasanaeth - rhaid cwblhau hyn ddydd Mawrth 30 Ebrill, 2013
CYLCHLYTHYR Y GWASANAETH GWYBODAETH I DEULUOEDD
DINAS A SIR ABERTAWE
(Mae'r wybodaeth hon yn ddilys o hyd) Mae AGGCC wedi newid y ffordd maent yn casglu data gwasanaeth a hunanasesu gwybodaeth am y gwasanaeth drwy gyflwyno un dyddiad unigol mewn blwyddyn - dyddiad cyfrifiad - i ddarparwyr gwblhau'r wybodaeth sy'n ymwneud â'u darpariaeth gwasanaeth. Beth mae'n rhaid i mi ei wneud? Fel darparwr gwasanaethau gofal, bydd gofyn i chi nawr gwblhau’r holl ddogfennaeth ar ddiwrnod y cyfrifiad sef dydd Mawrth 30 Ebrill 2013. Dylid dychwelyd dogfennaeth i AGGCC o fewn 28 niwrnod o ddyddiad y cyfrifiad h.y. erbyn 29 Mai 2013. Ni fydd fy lleoliad ar agor ddydd Mawrth 30 Ebrill, beth mae'n rhaid i mi ei wneud? Os nad yw eich lleoliad ar agor ar y dyddiad hwn, mae’n rhaid i chi ddefnyddio'r diwrnod cyntaf rydych ar agor ar ôl 30 Ebrill 2013. Beth os rydw i'n anghofio? Ceisiwch eich gorau i gwblhau'r ddogfennaeth ar 30 Ebrill. Fodd bynnag, os ydych yn anghofio, ceisiwch ddarparu'r wybodaeth sy'n seiliedig ar waith eich lleoliad ar 30 Ebrill. Pam mae AGGCC yn newid? Maent yn newid fel eu bod yn symud yn agosach at arolygiadau hollol annisgwyl a chael dyddiad penodol i gasglu data a fydd yn eu galluogi i gymharu'r sector flwyddyn ar ôl blwyddyn. Pryd byddaf yn derbyn y ffurflenni? Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost i AGGCC, yna dylech ddisgwyl derbyn eich data gwasanaeth a'ch pecynnau hunansesu yn electronig yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill. Sicrhewch fod gan AGGCC eich cyfeiriad ebost erbyn diwedd mis Mawrth 2013. Os ydych yn dymuno parhau i dderbyn eich dogfennaeth drwy'r post, nid 1 oes rhaid i chi weithredu.