Arwain Abertawe Gorffennaf 2015

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 98

Gorffennaf 2015 tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

eich dinas: eich papur

Sioe Awyr Y diweddaraf am uchafbwyntiau'r haf a hefyd

tudalen 3

•AMSER BRECWAST: Mae’r cyngor ac ysgolion ar draws y ddinas yn gwneud eu gorau glas i barhau i ddarparu brecwastau i blant ysgolion cynradd y ddinas bob bore o fis Medi. Mwy ar dudalen 9. Llun gan Jason Rogers

MAE pobl mewn tair ardal yn Abertawe'n arloesi newid sylweddol yn y ffordd mae'r cyngor a chymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i gefnogi pawb yn ei gymdogaeth i barhau'n iach, yn ddiogel ac yn hapus. Mae Abertawe'n arwain y ffordd yng Nghymru gyda ffordd newydd o gefnogi pobl o'r enw cydlynwyr ardaloedd lleol. Bydd y fenter mewn tair ardal i ddechrau; Gorseinon, gan gynnwys Pentre'r Ardd a Chasllwchwr, Sgeti a St Thomas/Bonymaen. Mae pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn cael eu haddysgu yn yr ardaloedd hyn wedi bod yn helpu i lywio'r ffordd mae eu cymunedau'n dod yn fwy gofalgar a chadarn i gefnogi pobl y mae angen cefnogaeth arnyn nhw. Erbyn hyn, maen nhw wedi bod yn helpu'r cyngor i sicrhau bod cydlynu ardaloedd lleol yn gallu digwydd. Mae'r prosiect wedi deillio o raglen Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r

gwybodaeth

Arloeswyr lleol yn barod i helpu i wneud gwahaniaeth MAE cydlynu ardaloedd lleol wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol yn Awstralia lle dechreuodd, ac mae'n cael effaith gadarnhaol mewn mannau eraill yn y DU lle mae wedi cael ei fabwysiadu. Ar hyn o bryd, mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Atal Cyngor Abertawe i gefnogi pobl i bennu eu gweledigaeth ar gyfer bywyd da. Mae Abertawe wedi gwneud cryn dipyn gyda'r broses hon o'i chymharu â rhannau eraill yng Nghymru. Bydd y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe'n archwilio pa mor dda mae'r broses yn gweithio yma fel bod profiad mewn un ardal o'r ddinas yn gallu helpu i wella'r gwasanaeth mewn un arall.

Dyfodol ac mae'n annog preswylwyr i weithio gyda'i gilydd i ofalu amdanyn nhw eu hunain, meithrin cryfderau a brwdfrydedd personol a chymunedol i ddatrys problemau'n gyflym. Mae atal yn llinyn allweddol o Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol, ymdrech y cyngor i arbed o leiaf £81m dros y blynyddoedd sydd i ddod. Nod gwaith cydlynwyr ardaloedd lleol yw dod â chymunedau at ei gilydd fel bod preswylwyr yn gallu cefnogi ei gilydd a gwneud

gwahaniaeth yn eu cymdogaethau. Helpodd preswylwyr lleol i gyfweld â thri chydlynydd ardaloedd lleol a'u recriwtio i'r cyngor i helpu i feithrin partneriaethau rhwng cymunedau ac asiantaethau i ddiwallu anghenion pobl a'u teuluoedd. Mae'r cydlynwyr, a fydd yn ganolog i'r rhwydwaith cefnogi cymunedol, eisoes yn adeiladu rhwydweithiau yn eu hardaloedd perthnasol. Nhw yw Jon Franklin yn Sgeti, Dan Morris yn St Thomas a

Bonymaen a Ronan Ruddy yng Ngorseinon a Chasllwchwr. Yn y cyfamser, mae'r bobl leol a helpodd nhw ar y dechrau'n defnyddio'u syniadau a'u gwybodaeth am eu cymdogaethau eu hunain i arwain y cyngor a'r cydlynwyr ardaloedd lleol. Un ohonyn nhw yw Mandy Harvey o Sgeti, a oedd yn rhan o'r broses gyfweld a benododd Jon Franklin. Meddai, “Rydyn ni'n gwybod bod cydlynu ardaloedd lleol wedi gweithio yn Awstralia ac mewn rhannau eraill o'r DU. “Rydyn ni eisiau rhoi cynnig arno yma fel bod cymunedau'n dod yn ddiogelach ac yn iachach yn y ffordd sydd fwyaf addas iddyn nhw a chyn i bobl gyrraedd y fath argyfwng sy'n golygu bod angen i'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r gwasanaeth iechyd ymyrryd. “Rydyn ni'n gwybod bod cymunedau gwych yn Abertawe. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y cryfder hwnnw i sicrhau bod pawb yn parhau'n gysylltiedig.”

Canol y ddinas Paratoi at ddyfodol llewyrchus tudalen 5

Dim bwyd mewn sachau du Gadewch i ni anelu at gadw bwyd allan o sachau du tudalen 7

Bwyd i’r bin, nid i’r adar #abertawedaclus tudalen 11


Arwain

Abertawe

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Gorffennaf 2015

Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040

Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc 0800 132081 Materion eraill yn ymwneud â phriffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Archwillo Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560

• PATCH: Mae dros 2,000 o dyllau ffyrdd wedi'u llenwi eleni.

Timau tyllau ffyrdd yn paratoi strydoedd at yr haf BYDD wyth cymuned yn Abertawe yn cael gwaith gan PATCH dros yr wythnosau nesaf wrth i dimau atgyweirio ffyrdd y cyngor baratoi at yr haf. Y mis diwethaf elwodd cymunedau glan môr Gŵyr ar dimau llenwi tyllau ffyrdd y cyngor cyn y gwyliau haf ar y traeth. Y mis hwn ac ym mis Awst bydd lleoedd fel Penllergaer, y Cocyd, Mawr, Sgeti a Phennard yn gweld criwiau PATCH wrth eu gwaith. Dywedodd Stuart Davies, pennaeth priffyrdd Cyngor Abertawe, fod llenwi tyllau ffyrdd yn dasg ddiderfyn oherwydd traul ar ffyrdd gan draffig ac effeithiau naturiol y

Yr Amgylchedd 01792 635600

Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe

I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733

tywydd. Meddai, "Y gaeaf yw'r gwaethaf pan fo glaw yn rhewi mewn craciau mân ar ffyrdd a phalmentydd ac yna'n dadmer i dorri'r arwyneb a chreu'r tyllau rydym i gyd wedi gweld. "Mae'r cyngor yn gwybod bod ein preswylwyr yn disgwyl i ni lenwi'r tyllau yn y ffordd. Dyna un o'r

rhesymau pam rydym wedi dyrannu £1m yn ychwanegol at y dasg eleni." Mae gan Gyngor Abertawe dri thîm atgyweirio ffyrdd yn ogystal ag arolygwyr sy'n gofalu am y ffyrdd, yn nodi lle mae'r tyllau ac yn trefnu i'w hatgyweirio. Bron bob amser mae gwaith atgyweirio ffyrdd brys yn cael ei gyflawni o fewn 24 awr ar ôl adrodd

Bae Aber Abertawe’r rtawe’ t ’r Haf Hwn

Don Giovanni 3 Gorf Gorffennaf ffennaf f Sgrîn Fawr Abertawe, Sgwâr y Castell 01792 01792 635428 Ffair Briodas das Genedlaethol Gened nedlaethol Cymru 5 Gorf Gorffennaf G ffennaf f Brangwyn 01792 01792 635253

amdano. Y llynedd cafodd miloedd o dyllau ffyrdd eu hatgyweirio yn Abertawe ac mae dros 2,000 yn rhagor wedi'u llenwi hyd yn hyn eleni. Mae tîm PATCH yn ymweld â'r 32 ward cyngor yn Abertawe unwaith y flwyddyn ac maent i fod i ymweld â chymunedau fel Casllwchwr, Tregŵyr, Penclawdd a Phontarddulais erbyn mis Hydref fan bellaf. Dywedodd Mr Davies fod y cyngor am annog preswylwyr i roi gwybod am dyllau ffyrdd a phroblemau o ran palmentydd er mwyn i arolygwyr fwrw golwg drostynt a phenderfynu sut i flaenoriaethu unrhyw waith angenrheidiol.

A Awst wst Diwrnod Diwr rnod Hwyl Archaeoleg Archaeoleg eol Gorffennaf 25 Gorf G fffennaf Castell Cast Ca tell Ystumllwynarth 01792 01 1792 792 468321 46832

Gerddi Gerddi Botaneg yn eu Blodau 1-3 31 1A Awst wst Gerddi Gerrdd di Botaneg Singleton 01792 0 01792 636000 36000

Xstatic Parc Xsta Xs atic yn y Par c Gorffennaf 25 Gorf G fffennaf Cae Lacrosse, Lacrosse, Parc Par c Singleton S g 01792 01 1792 635428

Abertawe Aberttawe Dylan Taith Taith a Dywys 2, 16, 16, 23 a 30 Awst Awst Canolfan Cano olfan Dylan Thomas 01792 01792 463980

Sioe Awyr Awyr w Genedlaethol Cymru 11 - 12 Gorf Gorffennaf fennaf Bae Abertawe 01792 01792 635428 01

Gw w ˆ yl y Deuluol Selsig a Se Seidr eidr Abertawe 26 Gorf G Gorffennaf fffennaf Cae Lacrosse, Lacrosse, Par Parc c Singleton 01792 01 1792 468321

Diwrnodau Dawns Diwrnodau wns 18 - 19 Gorf Gorffennaf fennaf Lleoliadau amrywiol 01792 01792 602060

Am fwy o ddigwyddiadau ddigwyddia adau gwych, gwy ych, ewch i: joiobaeabertawe.com joiob baeabertawe.com m

Drama: Dram ma: The Reluctan Reluctant R ctant Dragon 3 Awst Aws st Castell Ystumllwynarth Caste ell Ystumllwynart narth 01792 01792 468321 Tymor Ty ymo or Ffilmiau Plant: 5, 12, Awst 12, 19 1 & 26 A wst Sgrîn Sgrîn Fawr wr Abertawe, A Sgwâr Sg gwâ âr y Castell ell 01792 01792 635428

Par Parth rth Anifeiliaid: Rhy Rhyngweithiol yngweithiol 18 - 20 A Awst wst Plan Plantasia ntasia ntasi 01792 0 01792 474555 55 Parti’r Par rti’r Byd Awst 22 A wst Sgwâr Sgw wâr y Castell Cas 01792 01792 635428 01792 ˆ yl Gwrw a Gw w Seidr Seid dr Bae Abertawe Awst 27 - 29 A wst Brangwyn Bra ngwyn 01792 0 01792 635428

joiobaeab joiobaeabertawe.com bertawe.com

I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092

DYWEDODD Stuart Davies fod yn rhaid i'r cyngor flaenoriaethu'i amser a'i arian er mwyn ymdrin yn brydlon â'r problemau pwysicaf o ran tyllau ffyrdd. Ond mae croeso i breswylwyr roi gwybod i ni pan fyddant yn gweld un. Er mwyn rhoi gwybod am dyllau ffyrdd ewch ar-lein i www.abertawe.gov.uk/adroddwch ac os hoffech wybod pryd bydd PATCH yn dod i'ch ardal er mwyn i chi awgrymu tyllau ffyrdd posibl i'r tîm fwrw golwg drostynt, ewch i www.abertawe.gov.uk/patch

Gorffennaf Gorf fennaf af

Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000

Cysylltwch ag Arwain Abertawe

Rhowch wybod amdano

gwybodaeth

2


Arwain

i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor

Gorffennaf 2015

3

Marcwyr dyddiadur y cyngor Croeso i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond sylwer efallai na fyddwch yn gallu dod i gyfarfod cyfan neu ran ohono. Mae’r rhestr hon yn gywir wrth fynd i’r wasg ond os ydych chi’n ystyried mynd i gyfarfod, ffoniwch, 01792 636000 ymlaen llaw i wybod y lleoliad a’r amser. Gallwch hefyd gasglu manylion yr agenda ar wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary

9 Gorffennaf Pwyllgor Cynghori'r Cabinet Cymunedau, 2pm 14 Gorffennaf Pwyllgor Cynllunio, 2pm

• EHEDWR UCHEL: Roedd yr awyren fomio anhygoel hon, y Vulcan, wedi helpu i ddenu dros 200,000 o ymwelwyr i’r sioe awyr yn 2013.

MAE The Tales of Peter Rabbit, selsig a seidr a chymysgedd eclectig o gerddoriaeth ym Mharc Singleton ar y gweill i bawb fwynhau'r haf yn Abertawe. Efallai mai Sioe Awyr Genedlaethol Cymru ar 11 a 12 Gorffennaf yw uchafbwynt y tymor yn Abertawe, ond mae cip cyflym ar lyfryn diweddaraf Joio Abertawe'n dangos bod llawer mwy'n digwydd. Bydd cannoedd ar filoedd o bobl yn ymweld â'r ddinas yr haf hwn ac mae digwyddiadau sefydlog fel Gŵyl Xstatic a Gŵyl Deuluol Selsig a Seidr Abertawe sy'n cynnwys amrywiaeth o fandiau teyrnged fel Bon Jovi a'r Red Hot Chilli Peppers yn cystadlu am sylw.

gwybodaeth

Ein dinas yw’r lle gorau i fwynhau anterth yr haf • Mae copïau o lyfryn Joio Abertawe ar gael yn lleol o lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau croeso a busnesau twristiaeth. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.joiobaeabertawe.com • I gael yr holl wybodaeth angenrheidiol am Sioe Awyr Genedlaethol Cymru, gan gynnwys trefniadau parcio ar draws y ddau ddiwrnod, ewch i www.sioeawyrcymru.com

Bydd Castell Ystumllwynarth ar agor bob dydd yn ystod yr haf ac yn cynnal digwyddiadau theatr awyr agored, megis ‘A Midsummer Night’s Dream’ gan Shakespeare, yn ogystal â pherfformiadau o ffefrynnau teulu, Charlotte's Web a The Tales of Peter Rabbit and Benjamin Bunny. Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol dros Dwristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae Sioe Awyr

Genedlaethol Cymru'n addo bod yn benwythnos ardderchog yn Abertawe a'r peth perffaith i godi awydd pobl ar gyfer gwyliau'r haf. “Ond nid dyma'r unig beth y gallwch ei wneud am ddim chwaith. Gall plant hefyd fwynhau nofio am ddim mewn canolfannau hamdden a reolir gan y cyngor, saffaris glan môr a digwyddiadau yn Sgwâr y Castell. Wrth ddarllen trwy'r

llyfryn, prin iawn yw'r dyddiau dros yr haf lle nad oes rhywbeth newydd neu ffres i'w fwynhau. Ond bydd rhai o'r hen ffefrynnau'n cael eu cynnal hefyd, megis 10k Bae Abertawe Admiral, y Gerddi Botaneg yn eu Blodau a Gŵyl Feicio Gŵyr. Meddai, "Y llynedd oedd dathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas ac am fod Teithiau Tywys Dylan Thomas mor llwyddiannus, rydyn ni wedi penderfynu eu cynnal eto eleni. Mae rhai o'r digwyddiadau eraill yn cynnwys Gŵyl Gludiant Abertawe, Ras Rafftiau RNLI y Mwmbwls a Diwrnod Parti'r Byd. "Mae'r llyfryn yn ddyddiadur defnyddiol o holl ddigwyddiadau'r haf i helpu ymwelwyr a theuluoedd lleol fel ei gilydd i gynllunio'u haf."

15 Gorffennaf Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar yr Economi a Buddsoddi, 5pm 16 Gorffennaf Y Cabinet, 4pm 23 Gorffennaf Y Cyngor, 5pm 27 Gorffennaf Pwyllgor Cynghori'r Cabinet Gwasanaethau, 2pm 5 Awst Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Fusnes a Gweinyddu, 11am 10 Awst Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 11 Awst Pwyllgor Cynllunio, 2pm 12 Awst Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gynnwys a Chynhwysiad, 4pm 13 Awst Pwyllgor Cynghori'r Cabinet Cymunedau, 2pm 14 Awst Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 18 Awst Pwyllgor Archwilio, 2pm 19 Awst Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar yr Economi a Buddsoddi, 5pm 20 Awst Y Cabinet, 4pm 24 Awst Pwyllgor Cynghori'r Cabinet Gwasanaethau, 2pm 27 Awst Y Cyngor, 4pm

Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.


4

Arwain

Abertawe

Llwybr creadigol i lwyddiant

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Gorffennaf 2015

Cynllun yn cynnig ynni i bobl

GALLAI prosiect ynni cymunedol arloesol a allai greu swyddi, cefnogi'r amgylchedd a lleihau biliau trydan gael ei dreialu mewn 11 ysgol yn Abertawe. Gallai toeon nifer o ysgolion ac adeiladau eraill o eiddo'r cyngor fod yn gartref i gyfres o eneraduron MAE rhaglen Effaith Leonardo, ynni solar sy'n gallu darparu ynni ar gyfer yr yn helpu entrepreneuriaid ifanc adeiladau ac ar gyfer y grid cenedlaethol. mewn ysgol yn Abertawe i gyflawni gan eu hannog i fod yn Ac os yw'r prosiect yn llwyddiannus, bydd yn cynhyrchu elw yn ei bum mlynedd cyntaf a hefyd yn frwdfrydig am ddysgu a'r paratoi'r ffordd ar gyfer ehangu'r prosiect i fwy o celfyddydau creadigol. ysgolion, adeiladau'r cyngor ac o bosib, tai'r cyngor Tynnwyd sylw at Ysgol Gynradd Ynystawe, er enghraifft, yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r cynnig am gynllun menter ac adnewyddu ynni am y ffordd y mae'n defnyddio

cymunedol (CREES) wedi'i gymeradwyo gan Gabinet Cyngor Abertawe. Menter gymdeithasol fyddai'n berchen ar y cynllun CREES ac yn ei reoli, a'r cymunedau lleol a fydd yn ei weithredu fyddai'n gwneud y penderfyniadau. Byddai Cyngor Abertawe yn gwneud ei ran drwy ddarparu swyddog a chefnogaeth arall. Mae'r adroddiad i'r Cabinet yn amlygu pum model gweithredu posib ar gyfer y cynllun, gan gynnwys rhai y byddai angen arian gan y cyngor arnynt. Mae'r Cabinet yn cytuno i gefnogi'r model busnes a fyddai'n golygu bod menter gymdeithasol gymunedol yn berchen ar y cynllun ac yn ei ariannu 100%.

Ymysg yr adeiladau a nodwyd fel cartrefi posib i'r paneli solar mae 11 ysgol gan gynnwys YGG Bryn Tawe, Dylan Thomas a'r Esgob Vaughan, yn ogystal ag ysgolion cynradd Townhill, y Gors, Blaenymaes, y Clâs a Phortmead. Mae Canolfan Hamdden Penlan a Thŷ Rose Cross hefyd ar y rhestr. Rhagwelir mai cost gosod y paneli solar fydd ychydig dros £560,000, ond disgwylir y byddai'r cynllun, heblaw am greu swyddi, biliau ynni llai a datblygiad ynni glanach, yn cynhyrchu gwerth oddeutu £270,000 o ynni dros ben ar ôl 20 mlynedd.

celf i ennyn diddordeb disgyblion mewn menter a dysgu, gan hybu sgiliau ar draws y cwricwlwm drwy brosiect o'r enw Effaith Leonardo a ddatblygwyd yn Iwerddon. Defnyddiodd athrawon dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe fel adnodd i ddatblygu'r celfyddydau creadigol hefyd, er enghraifft, defnyddio'r hanes lleol o gloddio am gopr. Adlewyrchwyd hyn yng ngwaith grŵp menter yr ysgol yn ddiweddar pan wnaethant ddylunio a chynhyrchu platiau clai a werthwyd yn Oriel Mission, mewn siopau crefft lleol ac yn yr ysgol. Yn ddiweddar, arddangoswyd gwaith disgyblion yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Meddai'r Pennaeth, Helen Houston-Phillips, "Fel un o'r ysgolion peilot ar gyfer Effaith Leonardo, rydym wedi gweithio i sicrhau bod ein plant yn cael eu cymell i ddysgu, bod creadigrwydd yn cael ei hyrwyddo a bod eu dychymyg yn cael eu datblygu. Mae'r ymagwedd hon yn flaengar ac yn heriol a gwelir yn glir bod y safonau'n codi."

MAE meddalwedd uwchdechnoleg yn cael ei roi ar waith mewn ysgolion yn Abertawe i hybu dysgu wrth dorri costau a lleihau ôl troed carbon. Er y caiff bydoedd rhithiol eu cysylltu â phobl ar yr Xbox neu PlayStation yn chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr o bedwar ban byd fel arfer, mae Cyngor Abertawe yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio technoleg rithiol er mwyn iddynt weithredu'n effeithiol ac yn ddidrafferth. Mae'r awdurdod lleol wedi buddsoddi £46,000 mewn caledwedd a thrwyddedau sy'n defnyddio technoleg rithiol er mwyn disodli hen weinyddwyr â llai o rai newydd i wella cyflymder a lleihau aflonyddwch gan leihau costau a defnydd o bŵer.

• PARTI CHWARAE: Efallai bydd rhaid i ddisgyblion Ysgol Gynradd Tregŵyr aros tan fis Ionawr er mwyn symud i'w hysgol newydd. Ond nid yw hynny wedi eu hatal rhag mwynhau'r cyfleusterau awyr agored eisoes.

Disgyblion yn croesawu cartrefi newydd sbon MAE cannoedd o ddisgyblion ysgolion cynradd yn edrych ymlaen at fynd i gyfleusterau ysgol newydd yn y flwyddyn academaidd newydd. Yr haf hwn, dywedir hwyl fawr wrth hen adeiladau Fictoraidd sy'n anodd eu cynnal a'u cadw ar ddau safle ar gyfer Ysgol Gynradd Burlais. Ym mis Medi bydd disgyblion yn cael eu croesawu i adeiladau ysgol arobryn a fydd yn rhoi manteision addysg yr 21ain ganrif iddynt. Ac yn y Flwyddyn Newydd, bydd Ysgol Gynradd Tregŵyr yn symud i ysgol newydd hefyd. Yn y cyfamser, y gobaith yw y bydd

gwybodaeth

Ffordd rithiol o arbed ynni

BYDD disgyblion Ysgol Gyfun Treforys yn dathlu llwyddiant eu hysgol sydd wedi'i hailddatblygu gydag agoriad swyddogol y mis hwn. Symudodd yr ysgol i gam olaf y gwaith adnewyddu gwerth £22 miliwn ym mis Ionawr, prosiect a gefnogir gan bron £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Meddai Tom Diamond, disgybl Blwyddyn 9, “Mae popeth am fy niwrnod ysgol yn well ers symud i'r adeilad newydd. Roedd yr holl waith adeiladu ar y safle werth chweil er mwyn cael bod yn ddisgybl mewn ysgol sydd gan, yn fy marn i, y cyfleusterau addysg gorau, nid yn unig yn Abertawe ond yng Nghymru gyfan."

disgyblion Lôn-las yn symud o'u hen lety i safle dros dro fel y gallant hwythau hefyd gael ysgol newydd i roi hwb i'w haddysg. Meddai Lindsay Harvey, Prif Swyddog Addysg Cyngor Abertawe, "Mae pob un o'r datblygiadau hyn yn garreg filltir bwysig yn ein rhaglen AoS

2020 sy'n ceisio hybu addysg drwy gael ysgolion sy'n addas ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif. Daw hyn o ganlyniad i lawer o waith sy'n dod â'r cyngor, ysgolion, disgyblion, rhieni, y gymuned a datblygwyr ynghyd i sicrhau bod pob ceiniog a fuddsoddir yn cael ei gwario'n gall.

Bydd Ysgol Gynradd newydd Burlais yn disodli'r hen adeiladau Fictoraidd yng Nghwmbwrla a Threfansel. Disgwylir y bydd y prosiect cyfan yn costio tua £8.25 miliwn. Fe'i hariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a bydd Cyngor Abertawe'n talu'r gweddill. Disgwylir iddi agor ei drysau i ddisgyblion ym mis Medi. Mae Ysgol Gynradd Tregŵyr ar dri safle ar hyn o bryd. Pan fydd disgyblion yn symud i'w hysgol newydd ym mis Ionawr, dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu haddysgu ar un safle, gyda chyfleusterau'r 21 ganrif a man gwyrdd y tu allan i'w hystafelloedd dosbarth. Ceir mwy o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/aos


Gorffennaf 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe

5

Crynodeb o’r

newyddion Cadwch eich lle parcio ar gyfer gemau'r Elyrch MAE gan gefnogwyr trefnus Dinas Abertawe'r cyfle i drefnu eu lle parcio ar gyfer gemau cartref y tymor nesaf. Gallant archebu eu tocynnau parcio â blaenoriaeth tan 20 Gorffennaf am £99 yn unig, a gellir eu defnyddio ym mhob gêm gartref yr Uwch-gynghrair y tymor nesaf. Cynnig ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe a chlwb yr Uwchgynghrair yw hwn sy'n galluogi cefnogwyr i brynu tocynnau parcio â blaenoriaeth yn safle Parcio a Theithio Glandŵr ar gyfer pob gêm gynghrair yn Stadiwm Liberty. 200 o docynnau tymor yn unig sydd ar gael a gellir parcio hyd at ddwy awr cyn dechrau'r gêm, felly byddai hyn yn golygu y byddai'r maes parcio ar agor rhwng 1.00pm a 7.00pm petai'r gêm yn dechrau am 3.00pm. Mae'r tocynnau parcio'n ddilys o 8 Awst a gellir eu prynu ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/parcioelyrc h

• ABERTAWE’R DYFODOL? Argraff arlunydd o sut olwg gallai fod ar ganol y ddinas yn y blynyddoedd i ddod.

MAE arbenigwyr sy'n gyfrifol am ddatblygiadau sylweddol, megis Sgwâr Canolog Caerdydd a Friar's Walk yng Nghasnewydd, ar y rhestr fer i adfywio dau safle yng nghanol dinas Abertawe. Mae cynigion gan Rightacre/Exemplar a Queensberry Real Estate ymysg y pump y mae Cyngor Abertawe bellach yn eu hystyried i ailddatblygu safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant. Mae rhai o'r datblygwyr eraill ar y rhestr fer yn cynnwys Bellerophon, sy'n arwain cynnig consortiwm sy'n cynnwys M&G (Prudential), Dawnus Construction, SSE ac Apollo (IMAX). Mae'r cwmnïau hyn yn gyfrifol am ddatblygiadau

Yr Adeiladu Mawr

Uchelgais wrth wraidd ymgyrch i adfywio CYNIGIR cyrchfan hamdden a manwerthu defnydd cymysg ar gyfer safle Dewi Sant a fyddai'n cyfuno sgwâr cyhoeddus newydd â siopau, bwytai, sinema a datblygiad swyddfa newydd. Mae cynigion amlinellol ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig yn cynnwys datblygiadau twristiaeth nodedig a mannau cyhoeddus o safon. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn archwilio i'r potensial o greu canolfan ymchwil a datblygu ynni dŵr ar y safle a fyddai'n cynnwys acwariwm eiconig.

llwyddiannus megis Glan Tafwys yn Llundain, Trostre yn Llanelli a Drake Circus yn Plymouth. Mae cynigion gan Trebor Developments, yn ogystal â Rivington Land and Acme, wedi cael eu rhoi ar y rhestr fer hefyd. Mae rhai o'r prosiectau y maent wedi'u harwain yn cynnwys y datblygiad manwerthu Gateway yn Cannock a The Arc yn Bury St

Edmunds. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe, "Rydym yn credu bod y cynigion rydym wedi'u rhoi ar y rhestr fer yn cynnwys cymysgedd da o arbenigwyr rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol wrth i ni chwilio am bartner neu bartneriaid datblygu i'w penodi erbyn diwedd y flwyddyn.

"Mae'r cynigion amlinellol sydd gennym ar gyfer y ddau safle yn dangos pa mor fawr yw ein huchelgais. "Rydym yn gwneud popeth y gallwn i wneud pethau'n iawn, ond rydym hefyd yn cydnabod bod rhaid i ni wneud cynnydd cyflym i gyflwyno'r math o ganol dinas bywiog a defnydd cymysg y mae trigolion Abertawe yn aros amdano. Meddai, "Ddiwedd mis Ionawr y gwnaethom farchnata'r safleoedd, ond rydym eisoes wedi llunio rhestr fer o gwmnïau datblygu cyffrous ac mae trafodaethau â chynrychiolwyr y cynigion hyn bellach yn nesáu at y camau olaf. "Mae cyffro mawr ynghylch Abertawe ar hyn o bryd ac rydym yn benderfynol o fynd o nerth i nerth."

Twf gwerthiannau’n mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol YN ôl y ffigurau diweddaraf, mae busnes yng nghanol dinas Abertawe'n gwella. Mae ystadegau mis Ebrill yn dangos y cynyddodd gwerthiannau 12.4% o fis Mawrth a 4.6% o'u cymharu â'r un mis y llynedd. Casglodd cwmni dadansoddi manwerthu annibynnol o'r enw Springboard ystadegau ar ran Cyngor Abertawe. Aeth Abertawe'n groes i'r duedd ar draws y DU lle'r oedd gwerthiannau cenedlaethol i lawr 2.4% ym mis Ebrill o gymharu â'r un mis y llynedd. Ffigurau mis Ebrill yw'r seithfed mis o dwf gwerthiannau blwyddyn ar flwyddyn yn Abertawe.

Dywedodd Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID (Rhanbarth Gwella Busnes), “Mae'r ystadegau gwariant diweddar yn newyddion cadarnhaol iawn maent yn darparu sylfaen gadarn i adeiladu arni. Rydym wedi gweld gwelliant yn ein cynnig parcio NCP, ein cerdyn ffyddlondeb Calon Fawr Abertawe a phresenoldeb yn ein digwyddiadau. Mae prosiectau diweddar, megis swyddogion heddlu ychwanegol a gosod sticeri finyl ar flaenau unedau gwag, hefyd wedi gwella'r amgylchedd siopa a masnachu yng nghanol y ddinas. Gyda'r cynlluniau adfywio arfaethedig ar gyfer safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant, mae

cyfnod cyffrous o'n blaenau ar gyfer canol y ddinas ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r cyngor ar y cynlluniau hyn maes o law." Mae ystadegau eraill yn dangos y gwnaeth tîm ceidwaid canol y ddinas fynd i'r afael â dros 1,900 o faterion ym mis Ebrill - ymholiadau gan breswylwyr ac ymwelwyr oedd dros 500 ohonynt. Gwnaeth Abertawe'n dda iawn hefyd mewn arolwg diweddar ar gyfer cefnogwyr pêl-droed sy'n teithio a oedd yn gofyn pa ddinasoedd yr Uwch-gynghrair oedd y gorau i ymweld â hwy yng Nghymru a Lloegr.

Gwirio goleuadau stryd MAE preswylwyr yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw ddiffygion maent yn eu canfod gyda goleuadau stryd yn eu hardal. Mae'r cyngor am gael gwybod am lampau diffygiol er mwyn gallu eu trwsio neu eu newid cyn gynted â phosib. Mae miloedd o oleuadau stryd ar draws y ddinas wedi cael eu newid am rai LED a dyfeisiau arbed ynni modern eraill dros y ddwy flynedd ddiwethaf a disgwylir y byddant yn arbed oddeutu £400,000 y flwyddyn. I roi gwybod am oleuadau stryd diffygiol, ffoniwch y tîm priffyrdd ar 0800 317990 neu ewch ar-lein i www.abertawe.gov.uk/adroddwc h

Galw mawr am ragor o flodau gwyllt MAE’R blodau gwyllt yn ôl! Mae blodau gwyllt yn blodeuo mewn dros 125 o leoliadau ar draws y ddinas yr haf hwn. Cafodd cannoedd ar filoedd o hadau blodau gwyllt eu plannu mewn lleoedd megis ardal laswelltog ger Neuadd y Ddinas, Heol Normandy ger Stadiwm Liberty a'r brif ffordd rhwng Gorseinon a Phontarddulais. Mae hadau blodau gwyllt hefyd wedi'u hau ar ran o lain ganol Ffordd Fabian. Mae pabïau a blannwyd y llynedd wedi dechrau blodeuo hefyd.

Cyngor defnyddiol OS oes angen cyngor arnoch cyn cyflwyno cais cynllunio, mae staff o dîm cynllunio'r cyngor wrth law i'ch cynorthwyo. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi'r cyfle i bobl ddeall yn fanwl sut i fynd ati i lunio cais cynllunio'n gywir. I gael mwy o wybodaeth ac i weld y raddfa taliadau, ewch i www.abertawe.gov.uk/article/1381 0/Gwasanaeth-Cynghori-CynCyflwyno-Cais


Arwain

Abertawe

Golygfeydd o'r traeth MAE traethau Abertawe sydd ymysg goreuon y byd yn paratoi at haf o hwyl pan fyddant yn croesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i'n glannau. Mae'r cyngor wedi ymuno â busnesau a sefydliadau lleol i greu rhai o'r cyrchfannau gorau yng Nghymru ac mae'r gwaith yn dilyn dyfarnu y Faner Las i bedwar o'n hoff draethau'r wythnos ddiwethaf. Rydym bellach yn paratoi o ddifrif ar gyfer gwyliau'r haf ac mae'r cyngor yn gweithio gyda busnesau a grwpiau lleol i sicrhau bod y traethau ym Mae Bracelet, Bae Caswell, Gorllewin Langland a Phorth Einon yn dwt ac yn daclus trwy gydol adeg brysuraf y flwyddyn. Maent hefyd yn bwriadu holi barn ymwelwyr yr haf hwn am beth gellir ei wneud i wella eu profiad. Yn ystod tymhorau tawelach y flwyddyn mae'r cyngor wedi bod yn cydweithio â chymunedau'r traethau Baner Las a busnesau ar gynlluniau rheoli traethau – y cyntaf o'u bath yng Nghymru – sydd wedi canolbwyntio ar ddatblygu trefniadau newydd ar gyfer meysydd allweddol megis taflu sbwriel, glendid traeth ac addysg amgylcheddol. Mae cyfarfodydd hefyd wedi ystyried ffyrdd y gall cymunedau, busnesau a'r cyngor gydweithio i ddatblygu cynigion ariannu ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy'n ychwanegu at fwynhad ymwelwyr o'u hamser.

Prosiect ariannol o fudd i blant MAE disgyblion yn Abertawe'n gwella'u sgiliau mathemateg a rheoli arian oherwydd prosiect newydd yn y ddinas. Mae Grŵp Bancio Lloyds a Choleg Gŵyr Abertawe wedi ymuno i roi hwb i sgiliau rhifedd ymarferol yn ysgolion cynradd Trallwn, Clwyd, Craigfelen a Gwyrosydd, prosiect a gefnogir gan Gyngor Abertawe. Mae'r prosiect yn golygu bod 10 o gydweithwyr Banc Lloyds yn treulio 90 munud yr wythnos, dros ddeuddeg wythnos, yn helpu disgyblion 8 a 9 oed i ddeall materion ariannol allweddol ynghylch cynilo a benthyca. Mae disgyblion yn cael y cyfle i sefydlu busnesau bach a chreu nwyddau.

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Gorffennaf 2015

Codi’r to ym Marchnad Abertawe MAE gwaith i osod gwydr newydd ar dalcen gogleddol Marchnad Abertawe wedi gorffen erbyn hyn. Mae'r gwaith yn un elfen o brosiect cyffredinol i adnewyddu to'r atyniad hanesyddol er lles masnachwyr a miliynau o siopwyr yn y dyfodol. Bwriedir gorffen y prosiect cyfan ddechrau mis Medi. Mae gwydr newydd eisoes wedi'i osod ar doeau dwyreiniol a gorllewinol y farchnad, ac mae gwaith i adnewyddu'r toeau baril a deheuol yn parhau. Mae gwaith hanfodol i atgyweirio to gwastad a llusernau to'r farchnad hefyd yn cael ei wneud. Penododd Cyngor Abertawe'r contractwr arbenigol, R & M Williams, i ymgymryd â'r gwaith.

Caiff y prosiect ei ariannu gan Gyngor Abertawe a'r Rhaglen Gwella Adeiladau, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae cyfraddau TripAdvisor ar gyfer yr atyniad gwerthfawr hwn yng nghanol y ddinas yn uchel bob amser, gydag ymwelwyr o rannau eraill o Gymru a Lloegr yn canmol yr hyn sydd ar gael yno'n rheolaidd. Mae dau draean o'r adolygwyr yn rhoi pum seren iddo, a dywedodd un ymwelydd, "Marchnad dda iawn. Mae popeth y mae eu hangen arnoch yma ac mae'r staff yn gyfeillgar ac yn barod i helpu. Rwyf wrth fy modd ei fod dan do a gallwch gael cynnyrch ffres. Byddwn yn sicr yn ei argymell.

Roedd cael to newydd ar frig y rhestr ar gyfer cynnal a chadw'r farchnad ar ôl i'r cyngor holi'r masnachwyr y llynedd pa waith gwella yr hoffent ei weld fwyaf. Clywodd swyddogion eu bod am i'r cyngor flaenoriaethu adnewyddu to'r farchnad gan ei fod yn dechrau dangos ôl traul. Dyna pam y dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr a hyd yn hyn ni chollwyd unrhyw ddiwrnod o fasnachu yn ystod y prosiect gwella. Defnyddiwyd craen enfawr a thimau o abseilwyr yn ystod y prosiect hyd yn hyn er mwyn helpu i ostwng a gosod cwarelau o wydr. Ewch i www.marchnadabertawe.co.uk

• AR Y FFORDD ADREF: Mae gweithgareddau oddi ar y safle Oriel Gelf Glynn Vivian, gan gynnwys creu gêm gyfrifiadur gyda phlant sy'n cynnwys Richard Glynn Vivian, wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Bron yn amser mynd adref ar ôl adferiad mawr y Glynn Vivian MAE’R manion olaf yn cael eu gwneud i brosiect a fydd yn trawsnewid Oriel Gelf Glynn Vivian yn gyrchfan o bwys rhyngwladol. Mae gwaith ailddatblygu cynhwysfawr, y bwriedir ei gwblhau erbyn dechrau'r hydref, yn cynnwys ardal ddarlithio a chadwraeth, llyfrgell, arddangosfa, mannau dysgu ac ardal gymunedol. Bydd mynediad newydd, cwbl hygyrch hefyd a storfa gasgliadau ar gyfer y casgliad celf, sy'n golygu y bydd mwy o bobl nag erioed yn gallu mwynhau mynediad llawer gwell i'r gweithiau celf. Ariennir y gwaith ailddatblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru,

ar daith

6

MAE degau ar filoedd o bobl ifanc o bob cwr o'r ddinas wedi bod yn parhau i fwynhau digwyddiadau'r Glynn Vivian ers i'r oriel gau ar gyfer y gwaith ailwampio. Mae'r cyfan wedi bod oherwydd rhaglen o weithgareddau oddi ar y safle, sydd wedi cynnwys creu ffilmiau cartŵn a gemau cyfrifiadur yn cynnwys sefydlydd yr oriel a deithiodd y byd, Richard Glynn Vivian. Gadawodd Indiana Jones Cymru ei gasgliadau i bobl Abertawe ac mae timau'r oriel wedi bod yn cynnal ysbryd y Glynn Vivian drwy ymweld â chymunedau ar draws y ddinas gyda'u sioeau teithiol. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.glynnviviangallery.org neu ffoniwch 01792 516900.

Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cadw a Chyngor Abertawe. Sicrhawyd arian hefyd drwy’r Rhaglen Gwella Adeiladau a gynhelir gan Gyngor Abertawe a'i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd estyniad cyfoes yn cysylltu â'r adeiladau hanesyddol, gan gynnwys yr

oriel restredig gradd dau o 1911, a fydd yn elwa o adferiad llawn a gwelliannau i'r cyfleusterau a mynediad. Bydd hyn yn cynnwys lifftiau a dolenni clyw er mwyn sicrhau bod y Glynn Vivian yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd paratoadau di-ri yn dechrau ar gyfer ailagoriad cyhoeddus yr oriel

flwyddyn nesaf unwaith y daw'r gwaith ffisegol i ben. Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe, "Bydd ailddatblygu Oriel Gelf Glynn Vivian yn cefnogi enw da Abertawe fel ardal o arloesedd, creadigrwydd a rhagoriaeth, gan roi'r un gwerth i ni â dinasoedd mawr eraill y DU. "Unwaith y caiff y gwaith strwythurol sylweddol ei orffen bydd y broses o gludo, dadbacio a thrin y miloedd o weithiau celf yn ofalus gan gynnwys cerameg, paentiadau, cerfluniau a darluniau ar bapur - yn dechrau. "Bydd hynny'n arwain y ffordd i ailagor yr oriel i'r cyhoedd yn ystod haf 2016."


Gorffennaf 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Ailgylchu gwastraff bwyd yw ein her nesaf

7

Crynodeb o’r

newyddion Tyfu'n Lleol yn cynnig help llaw MAE Cyngor Abertawe yn cynnig cymorth i breswylwyr lleol sydd am dyfu eu llysiau eu hunain. Mae'r cyngor wedi lansio cynllun grant Tyfu'n Lleol Abertawe sy'n cynnig hyd at £5,000 i grwpiau, sefydliadau ac ysgolion cymwys ar gyfer eu prosiectau tyfu bwyd eu hunain. Mae'r cynllun Tyfu'n Lleol yn annog ein cymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain trwy ariannu amrywiaeth o brosiectau tyfu cymunedol gyda'r nod o wella'r cyfle i bobl gael ffrwythau a llysiau ffres yn y ddinas, yn arbennig i'r rhai sydd ar incwm isel. Mae posteri a thaflenni wedi cael eu gosod mewn nifer o leoliadau cymunedol ar draws y ddinas i hyrwyddo'r cynllun. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/tyfunlleo lAbertawe

CYMUNED leol yn Abertawe fydd y cyntaf i ddechrau rheoli canolfan gymunedol leol a ddefnyddiwyd yn flaenorol gan yr henoed yn unig. Mae Cyngor Abertawe yn gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau cymunedol yn y Glais sydd am ddefnyddio'r Pafiliwn Henoed presennol fel canolfan gymunedol. Mae'r cam hwn yn dilyn cynigion gan y cyngor i drosglwyddo rheolaeth pafiliynau'r ddinas megis y rhai yn Neuadd Baywood, Gellifedw, De La Beche, Dyfaty, Fforestfach a Threfansel i gymunedau er mwyn gwneud gwell defnydd ohonynt.

Cysylltu ysgolion y ddinas • CADWCH AT 3: Gall preswylwyr leihau eu defnydd o sachau du drwy ddefnyddio’u biniau bwyd ailgylchu ar gyfer gwastraff bwyd.

• MAI tua 25% o wastraff sach ddu yn wastraff bwyd, llawer ohono'n dal yn y pecyn • Caiff tua 800 tunnell o wastraff bwyd ei gasglu bob mis o deuluoedd yn Abertawe • Mae gwastraff arall y gellir ei ailgylchu a geir yn aml mewn gwastraff sach ddu'n cynnwys dillad, esgidiau, papurau newydd a chylchgronau. • Gallwch gasglu sachau ailgylchu mewn mwy nag 80 o leoliadau ar draws Abertawe. • Gallwch gael mwy o wybodaeth trwy lawrlwytho'r ap Connect Swansea neu fynd i www.abertawe.gov.uk/ailgylchu

Hoffech chi fod yn berchennog ffoledd gwych ddinas? MAE ffoledd hanesyddol yn Abertawe sy'n dyddio'n ôl i deyrnasiad y Brenin Siôr IV yn un o gyfres o adeiladau yn y ddinas sydd bellach ar werth. Mae'r ffoledd, oddi ar Ffordd Saunders yn Sgeti a adwaenid yn wreiddiol fel y Belvedere, yn dŵr rhestredig Gradd II a adeiladwyd rhwng 1820 a 1830. Y diffiniad cyffredinol o ffoleddau yw adeiladau diswyddogaeth a oedd yn

Abertawe

Pafiliynau'n derbyn bywyd newydd

Cadwch at 3

ANOGIR preswylwyr i ymuno â'r cyngor mewn ymgyrch newydd i leihau swm y gwastraff bwyd sy'n cael ei dirlenwi bob wythnos. Dengys y ffigurau diweddaraf mai tua chwarter o'r holl wastraff sach ddu y mae preswylwyr yn ei roi allan fel rhan o'u casgliadau pythefnosol yw bwyd y byddai'n well ei roi mewn blwch gwastraff bwyd gwyrdd cyfleus. Ac nawr mae tîm ailgylchu'r cyngor yn teithio o le i le dros y misoedd nesaf gan guro ar ddrysau mewn cymdogaethau ar draws y ddinas er mwyn annog pobl i ymuno yn yr ymgyrch gwastraff bwyd newydd. Meddai Chris Howell, Pennaeth Gwastraff Cyngor Abertawe, “Mae teuluoedd wedi ymateb yn dda dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf trwy gymryd rhan yn yr ymgyrch Cadwch at 3, sydd â'r nod o leihau swm y gwastraff sach ddu sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. “Ond rydym wedi sylwi bod chwarter o'r gwastraff y mae pobl yn ei roi yn eu sachau du erbyn hyn yn wastraff bwyd y dylent ei roi yn eu blychau gwastraff cegin gwyrdd. “Mewn gwirionedd, mae'n haws ac yn fwy hylan cael gwared ar fwyd yn y blychau gwastraff oherwydd ei bod bron yn amhosib i blâu gael mynediad iddynt ond gall sachau du gael eu rhwygo ar agor gan gathod, gwylanod a llygod mawr, gan ledaenu'r cynnwys ar draws y stryd gyfan. Yn ogystal â hynny, mae blychau gwastraff bwyd gwyrdd yn cael eu casglu bob wythnos, gan atal pobl rhag gorfod dygymod â golwg a drewdod bwyd sy'n pydru y mae'n rhaid iddo aros am hyd at bythefnos os caiff ei roi allan mewn sachau du.” Ymwelodd timau ailgylchu â degau ar filoedd o gartrefi mewn cymdogaethau ar draws y ddinas cyn lansio'r ymgyrch ‘Cadwch at 3’ 18 mis yn ôl a chaiff llwyddiant y cynllun ei brofi bob wythnos gan swm cynyddol y gwastraff i'w ailgylchu sy'n cael ei gasglu yn ogystal â gostyngiad yn swm y gwastraff sach ddu.

Arwain

cael eu codi i wella tirlun naturiol. Mae'r ffoledd yn un mewn cyfres o adeiladau y mae Cyngor Abertawe bellach yn ystyried eu gwerthu neu eu prydlesu. Ceisir mynegiannau ychwanegol o ddiddordeb mewn prydlesu'r Bwthyn Swistirol ym Mharc Singleton hefyd. Mae'r holl dir ac adeiladau sy'n eiddo'r cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson wrth i ni ystyried sut gallwn

wneud y defnydd gorau o'n heiddo a bod mor effeithlon â phosib. Mae gwerthu neu brydlesu adeiladau nad oes eu hangen mwyach yn fwy pwysig nag erioed erbyn hyn. Gallai'r posibilrwydd ychwanegol o adfywio'r safleoedd diweddaraf hyn ar y farchnad rhoi bywyd newydd i adeiladau a chymunedau ar draws Abertawe. Hefyd ar werth mae tir yn Heol Cwm

Lefel yng Nglandŵr, hen ddepo'r cyngor ger Heol Pontardawe, yr hen ganolfan hen bobl ar Rodfa Cwmgelli yn Nhreboeth, a naw safle gweithdai diwydiannol gyda thua 110 o unedau ym Mharc Menter Abertawe a lleoliadau eraill. Ewch i'r adran tir ac eiddo yn www.abertawe.gov.uk am fwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 636727 neu 01792 637249.

MAE gan ysgolion a disgyblion ar draws Abertawe gysylltiad gwell â'r holl adnoddau addysgol y mae eu hangen arnynt oherwydd buddsoddiad yn y dechnoleg Wi-Fi ddiweddaraf. Cyflwynodd Cyngor Abertawe gais llwyddiannus am Grant Dysgu yn y Gymru Ddigidol Llywodraeth Cymru ar gyfer pob ysgol a'i gefnogi trwy fuddsoddiad ychwanegol a chefnogaeth wedi'i theilwra i roi cysylltiad gwell â'r rhyngrwyd i ysgolion. Mae hyn yn golygu y gall ysgolion ddefnyddio technoleg megis e-bost a chyfryngau cymdeithasol i gydweithio.

Mynd i’r gwyllt O lamidyddion a morloi i wystrys y Môr Tawel a letys môr, mae llyfryn newydd yn cael ei lansio i nodi bywyd gwyllt arfordirol cyfoethog Bae Abertawe. Mae'r llyfryn, a luniwyd gan y cyngor, ar gael yn y Ganolfan Ddinesig, Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 a'r Ganolfan Croeso ar Stryd Plymouth.


Arwain

Abertawe

Mae mynd ar-lein yn well na chiwio GALL cannoedd o breswylwyr Abertawe arbed amser a thrafferth i'w hunain bob mis drwy wneud cais am drwyddedau parcio ceir gan Gyngor Abertawe ar-lein. Mae cyfartaledd o 750 o bobl yn dod i'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig bob mis i wneud cais am drwydded parcio, i adnewyddu eu trwyddedau parcio neu i wneud cais am drwydded ar ran ffrindiau ac ymwelwyr. Ond ar gyfer trwyddedau na chodir tâl amdanynt, megis trwyddedau preswylwyr ar gyfer eich stryd neu stryd gyfagos, y ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus i breswylwyr wneud cais yw ar wefan y cyngor. Nawr mae Cyngor Abertawe yn gobeithio y bydd mwy o bobl yn ymdrin â hwy yn ddigidol ac maent wedi creu'r stwnshnod #gwnewchearlein er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth. Mae lleiafrif o drwyddedau y mae'n rhaid talu amdanynt ac ar hyn o bryd ni ellir ymdrin â'r rhain arlein, er mae gwaith yn cael ei wneud er mwyn mynd i'r afael â hyn. Gellir gwneud cais am drwyddedau yn www.abertawe.gov.uk/trwyddeda uparcio. Gallwch hefyd wneud amrywiaeth o bethau eraill ar-lein gyda'r cyngor gan gynnwys adrodd am dyllau yn y ffordd, talu treth y cyngor, gofyn am fwy o sachau ailgylchu neu lawrlwytho aps ar gyfer gwasanaethau megis casgliadau ymyl y ffordd. Ceir mwy o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk

Cynnig i fusnesau gael mynediad i’r rhyngrwyd MAE cymorth ariannol ar gael i fusnesau yn Abertawe sydd am weithio'n fwy effeithlon, denu cwsmeriaid newydd a gwneud mwy o elw. Mae cynllun talebau bellach ar waith ar draws y ddinas sy'n rhoi cyfle i fusnesau bach a chanolig dderbyn grant o hyd at £3,000 er mwyn eu helpu i naill ai gosod band eang cyflym iawn neu gyflymu eu cysylltiadau band eang presennol. Mae'r cynllun eisoes wedi bod ar waith yn ardal Caerdydd ers peth amser felly, am y tro, dylai busnesau Bae Abertawe fynd i www.digitalcardiff.net i wneud cais am arian neu i gael mwy o wybodaeth.

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Gorffennaf 2015

Newidiadau ar ôl adolygu’r bathodyn glas BWRIEDIR newid trefniadau i gyflwyno cais am fathodyn glas yn Abertawe ar ôl adolygiad o'r gwasanaeth. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithredu'r gwasanaeth yn gywir ar sail pecyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru ers mis Hydref y llynedd. Ond mae bellach wedi newid ei ymagwedd ac wedi dychwelyd at ddefnyddio'r pecyn cymorth cyn mis Hydref 2014, ar ôl cynnal ei adolygiad ei hun. Mae hyn yn golygu bod newidiadau i'r system wedi cael eu cyflwyno er mwyn i Abertawe gydymffurfio â rhai awdurdodau lleol eraill sydd hefyd wedi peidio â rhoi'r pecyn cymorth ar waith. Yn ddiweddar gofynnodd Llywodraeth Cymru i'r

Gwasanaeth Cynghori Annibynnol adolygu sampl o benderfyniadau bathodyn glas a wnaed gan Gyngor Abertawe ar sail y pecyn cymorth a dywedwyd wrth swyddogion bod penderfyniadau wedi cael eu gwneud yn gywir yn unol â system sgorio'r pecyn cymorth. Fodd bynnag, effaith penderfyniad y cyngor yw y bydd bellach yn dilyn arweiniad Llywodraeth Cymru a roddid cyn cyflwyno'r pecyn cymorth newydd ym mis Hydref y llynedd. Pwysleisiodd llefarydd ar ran y cyngor nad oedd angen i ddeiliaid bathodynnau glas a'r rhai y mae eu ceisiadau am fathodynnau wedi'u gwrthod ers 13 Hydref y llynedd wneud dim byd.

Meddai, “Bydd achos pob person y cafodd ei gais am fathodyn glas ei wrthod eleni ar sail y pecyn cymorth newydd yn cael ei adolygu gan ddefnyddio'r hen system. “Wrth i bob cais gael ei adolygu, byddwn yn ysgrifennu at yr ymgeisydd i'w hysbysu am ein penderfyniad. Bydd cyfle gan unrhyw un sy'n cael ei wrthod ar y cam hwn apelio yn y ffordd arferol.” Mae'r rhai sydd wedi cyflwyno ceisiadau dan y cynllun ers mis Ebrill wedi cael eu hasesu yn ôl yr hen becyn cymorth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei hysbysu am benderfyniad Cyngor Abertawe.

• HWYL I'R TEULU: Wrth i rieni a gofalwyr gael awgrymiadau defnyddiol am warchod plant neu wybodaeth arall, gall plant fwynhau yn ardal chwarae siop y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar y Stryd Fawr.

Siop dan yr unto i deuluoedd ar y Stryd Fawr MAE siop newydd sbon wedi agor ar y Stryd Fawr. Ond ni fydd hi'n gwerthu unrhyw beth. Bydd hi'n lle i fynd i gael gwybodaeth am ofal plant, gwarchod plant ac ystod o bynciau eraill sy'n ymwneud â phlant. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) Cyngor Abertawe wedi sefydlu siop yn 214 y Stryd Fawr ac am dridiau'r wythnos tan 8 Awst, bydd staff ar gael i roi cymorth i fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymholiadau sy'n ymwneud â theuluoedd. Mae'r siop wedi bod ar agor am bythefnos eisoes ac mae dwsinau o bobl wedi bod yno, sy'n golygu ei bod yn

gwybodaeth

8

MAE’R Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd wedi bod ar ddyletswydd yn 214 y Stryd Fawr ers mis Mehefin. Trwy gydol mis Gorffennaf a dechrau mis Awst, byddant ar agor bob dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener o 10am tan 3pm. Byddant hefyd yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth fanwl yn ystod wythnosau â themâu penodol, gan amrywio o wythnosau gweithgareddau ac arweiniadau digwyddiadau, i gyngor ar ofal plant a sut i ddechrau busnes gwarchod plant. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/ggd, ebostiwch fis@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 517222.

llwyddiant mawr i deuluoedd sydd am ychwanegu gwerth at eu teithiau siopa i ganol y ddinas. Dywedodd Claire Bevan o'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd mai nod y fenter, a ariennir ac a reolir gan y cyngor, yw rhoi ychydig o gymorth ychwanegol i deuluoedd yn y ffordd fwyaf cyfleus bosib.

Meddai, "Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eisoes yn gwneud gwaith gwych mewn cymunedau yn y ddinas. Mae'n siop dan yr unto sy'n darparu gwybodaeth am ddim, o safon a diduedd am amrywiaeth o faterion gofal plant, cefnogi teuluoedd a theuluol. "Ac os na all y staff yno helpu, byddant

yn eich cyfeirio at rywun sy'n gallu helpu. Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd eisoes yn lle poblogaidd i bobl sy'n darparu gofal plant ac mae angen iddynt ehangu eu sgiliau mewn meysydd megis cymorth cyntaf a diogelwch bwyd." Meddai Claire Bevan o'r GGD, "Mae'r GGD yn adnabyddus yng nghymdogaethau'r ddinas oherwydd ein sioeau teithiol cymunedol. Ond dyma'r tro cyntaf rydym wedi sefydlu siop dan yr unto yng nghanol y ddinas ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn. "Nid oes rhaid i deuluoedd wneud apwyntiadau, gall rhieni alw heibio unrhyw bryd. Os nad oes gennym yr wybodaeth ein hunain, gwnawn eu hanfon i'r cyfeiriad cywir."


Gorffennaf 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe

9

Crynodeb o’r

newyddion Y marina'n chwifio’i faner las yn falch MAE Marina Abertawe wedi derbyn statws y faner las, gan amlygu safon y cyfleusterau i ymwelwyr a defnyddwyr cychod ym mhedwar ban byd. Rheolir y marina, sydd ag angorfa i 550 o gychod, gan Gyngor Abertawe ac mae'n un o 4,000 o draethau a marinâu yn Ewrop i dderbyn y statws arbennig yn ddiweddar ar gyfer 2015. Mae'r statws mawreddog yn sicrhau bod ymwelwyr a pherchnogion cychod ym marina canol y ddinas yn gallu bod yn dawel eu meddwl am safon y cyfleusterau sydd ar gael, gan gynnwys ansawdd dŵr, nodweddion diogelwch a rheoli'r safle o ddydd i ddydd. Mae cynlluniau diweddaraf gan y cyngor yn cynnwys cyflwyno cerfluniau celf fodern o amgylch y marina fel rhan o brosiect y Rhodfa. Bydd un o'r cerfluniau'n bedwar metr a hanner uwchlaw lefel y dŵr yng nghornel ogledd-orllewin y marina.

• BWYTA: Mae clybiau brecwast yn ffordd boblogaidd o ddechrau'r dydd mewn ysgolion cynradd.

BYDD Cyngor Abertawe ac ysgolion ar draws y ddinas yn gwneud pob ymdrech i barhau i ddarparu miloedd o frecwastau i blant ysgolion cynradd y ddinas bob bore o fis Medi. Gweinwyd brecwastau am ddim gan Gyngor Abertawe dan fenter Llywodraeth Cymru i ddisgyblion ysgolion cynradd dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r cyngor wedi cymorthdalu amser ychwanegol i ehangu'r clybiau i ddarparu gofal plant. O fis Medi, caiff trefniadau newydd eu cyflwyno mewn ysgolion cynradd sy'n golygu y bydd yn rhaid i ysgolion fynd i'r afael â'r trefniadau gofal plant i ddisgyblion cyn y clybiau brecwast 30 munud a ddarperir gan y cyngor.

Trefniadau newydd

Ysgolion yn derbyn arweiniad ar glybiau brecwast DAN y trefniadau newydd sy'n cael eu cyflwyno ym mis Medi, bydd ysgolion cynradd yn gyfrifol am wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch a gynhelir clybiau gofal plant cyn-clwb brecwast. Os ydynt, penderfyniad ysgolion neu weithredwyr unigol fydd faint o'r gloch y byddant yn agor ac a fydd yn rhaid i rieni dalu am y gwasanaeth. Bydd angen i glybiau gofal plant gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a bydd yn rhaid i aelodau staff arweiniol feddu ar y cymwysterau perthnasol. Dylai rhieni sydd am wybod beth fydd yn digwydd yn ysgol gynradd eu plant ym mis Medi gysylltu â'u hysgol.

Bellach mae'r cyngor yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion fel y gellir darparu gofal plant mor rhad â phosib os yw'r ysgol yn dymuno gwneud hynny. Dywedodd Lindsay Harvey, Prif Swyddog Addysg, y bydd y clybiau brecwast a ddarperir gan y cyngor yn para 30 munud ac y byddai'n rhaid darparu unrhyw ofal plant y mae ei

angen cyn i'r ysgol ddechrau ar wahân. Meddai, "Mae clybiau brecwast yn boblogaidd iawn mewn ysgolion cynradd ymhlith rhieni, disgyblion a staff. Maent yn paratoi plant ar gyfer diwrnod o ddysgu oherwydd ansawdd y bwyd maent yn ei dderbyn ac maent yn dda i rieni

hefyd oherwydd y gallant ollwng eu plant ar y ffordd i'r gwaith. "Rydym yn rhoi cyngor ac arweiniad i ysgolion am yr hyn y mae'n rhaid iddynt ei roi ar waith erbyn mis Medi os ydynt yn dewis darparu gofal plant cyn amser dechrau'r clwb brecwast 30 munud. "Rydym am gefnogi ysgolion i weithio drwy'r rheoliadau fel bod y gofal plant maent yn ei gynnig yn effeithiol, yn ddigon hyblyg i ddiwallu eu hanghenion ac mor rhad â phosib." Meddai Mr Harvey, "Rhan o waith y cyngor yw sicrhau bod gan ysgolion a rhieni'r wybodaeth berthnasol ynghylch yr hyn mae angen iddynt ei wneud a pha gefnogaeth ariannol neu grant a allai fod ar gael iddynt."

Gall ymagwedd fasnachol arbed arian GALLAI Cyngor Abertawe ddefnyddio'r llu o arbenigedd ymhlith ei staff i ddatblygu mentrau newydd a fydd yn helpu i leihau costau neu dalu am wasanaethau hanfodol y cyngor yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae gwybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd mor amrywiol ag adeiladu a chynnal a chadw, cyflenwi ynni ac argraffu yn cael eu defnyddio at ddibenion masnachol i helpu i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu Strategaeth Masnacheiddiwch sy'n rhan o Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol, rhaglen drawsnewid y cyngor.

Dywedodd Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, y gallai cyngor masnachol sydd eisoes yn defnyddio sgiliau a doniau ei weithlu greu incwm newydd a lleihau costau er mwyn helpu i dalu am wasanaethau y mae preswylwyr yn dibynnu arnynt bob dydd. Meddai, "Rydym am ddatgloi ysbryd entrepreneuraidd ymhlith ein staff a rhoi cyfle ac ysgogiad iddynt feddwl am syniadau a fydd yn creu incwm i helpu i dalu am wasanaethau. Rydym eisoes yn cyflogi llawer o bobl â'r sgiliau y gellir eu defnyddio neu eu datblygu mewn ffordd greadigol. Dros amser, rydym am greu amgylchedd sy'n

annog ein staff i feddwl am ffyrdd lle gellir defnyddio'r sgiliau sydd ganddynt mewn ffordd wahanol i naill ai arbed arian neu i greu incwm. Meddai, "Rhaid i ni arbed £81 miliwn dros y blynyddoedd nesaf ac ar yr un pryd rydym am ddiogelu a gwella gwasanaethau gymaint ag y gallwn.” Mae'r strategaeth yn cynnwys cynigion ar gyfer hyfforddi a chynyddu ymwybyddiaeth ymhlith staff am fasnacheiddiwch yn ogystal â nodi cryfderau a chyfleoedd i fwyafu asedau'r cyngor a dysgu gan eraill a chydweithio â hwy.

Traethau sy'n addas i'ch cŵn MAE perchnogion cŵn yn cael eu cynghori i gadw at draethau lle caniateir cŵn yn Abertawe a Gŵyr tan ddiwedd mis Medi. Y traethau sy'n croesawu cŵn yw Horton o Orsaf y Bad Achub i'r dwyrain tuag at Oxwich, y Mwmbwls, Pwll Du, Pobbles, Bae'r Tri Chlogwyn, Bae Oxwich (gan gynnwys Crawley a Bae Tor), Bae Mewslade, Bae Rhosili, Llangynydd, Bae Broughton, Twyni Whiteford, Porth Einon (o'r prif risiau i'r gorllewin i'r Tŷ Halen) a Bae Abertawe (o'r slip, gyferbyn â Pharc Victoria, i'r traeth gyferbyn â Lôn Sgeti ac o'r Crwys o dafarn West Cross i'r Mwmbwls.

Abertawe Dylan yn eich poced MAE arweinlyfrau newydd wedi cael eu llunio i helpu preswylwyr ac ymwelwyr ganfod mwy am gysylltiadau Abertawe â Dylan Thomas. Mae'r arweinlyfrau maint poced yn cynnwys dyfyniadau, lluniau, map hawdd ei ddilyn a gwybodaeth am leoedd ar draws y ddinas sy'n enwog oherwydd y bardd nodedig. Mae'r arweinlyfrau ar gael mewn lleoliadau sydd wedi'u nodi ar y map, gan gynnwys Canolfan Dylan Thomas, ei fan geni yn Rhodfa Cwmdoncyn ac Amgueddfa Abertawe, neu gellir eu lawrlwytho yn www.dylanthomas.com.

Cyngor defnyddiol OS oes angen cyngor arnoch cyn cyflwyno cais cynllunio, mae staff o Dîm Cynllunio'r cyngor wrth law i'ch cynorthwyo. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi'r cyfle i bobl ddeall yn fanwl sut i fynd ati i lunio cais cynllunio'n gywir. I gael mwy o wybodaeth ac i weld y raddfa taliadau, ewch i www.abertawe.gov.uk/article/1381 0/Gwasanaeth-Cynghori-CynCyflwyno-Cais.


10

Arwain

Abertawe

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Gorffennaf 2015

Eich Gweledigaeth ar gyfer y safle gwaith copr arweiniad digidol

MAE canolfan ymwelwyr newydd, cyfleusterau cynadledda ac unedau meithrin busnesau digidol newydd ymysg y cynlluniau ar gyfer safle Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa, Abertawe yn y dyfodol. Mae dogfen weledigaeth sydd wedi'i rhyddhau GALL preswylwyr sydd am bellach ar gyfer y safle hefyd yn cynnwys cynigion ar archwilio byd digidol blogio, gyfer labordy hanes byw, sgwâr trefol, bragdy, bwyty, skype a hyd yn oed pont i gerddwyr sy'n cysylltu â safle'r Graig Wen, tai ffotograffiaeth gael gafael ar fforddiadwy ac adfer siediau peiriannau hanesyddol i amrywiaeth o arweiniadau cam ddangos sut roeddent yn gweithio pan roeddent ar eu wrth gam hawdd wedi'u creu gan hanterth. y cyngor i ddatblygu eu sgiliau. Mae'r ddogfen weledigaeth bellach ar gael ar y Mae arweiniadau dysgu wefan benodol ar gyfer y safle yn Digital Unite ar gael i unrhyw un sydd wedi ymgyfarwyddo â hanfodion mynd ar-lein ac am gyrraedd y lefel nesaf drwy adrodd eu straeon eu hunain arlein, cysylltu â ffrindiau wyneb yn wyneb neu ddangos eu ffotograffau ar-lein. Mae'r arweiniadau hefyd yn rhoi gwybodaeth glir a syml am amrywiaeth o destunau, o rwydweithio cymdeithasol i ddiogelwch ar y rhyngrwyd a dwyn hunaniaeth. Y datblygiad hwn i gael yr adnoddau dysgu hyn i'r cyhoedd drwy wefan Cyngor Abertawe yw cam nesaf ymgyrch Dewch Ar-lein Abertawe gan Gyngor Abertawe, sy'n ceisio sicrhau bod manteision technoleg a'r rhyngrwyd ar gael i gynifer o bobl â phosib yn y ddinas. Gellir llogi cyfrifiaduron a defnyddio Wi-Fi am ddim yn llyfrgelloedd y ddinas sy'n golygu nad oes rhaid i breswylwyr dalu i gael y rhyngrwyd yn eu cartrefi er mwyn mynd ar-lein. I ddod o hyd i Arweiniadau Dysgu Digital Unite ac i gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael gan y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk/dewcharle inabertawe.

Llwybr beicio ar waith MAE rhan newydd o lwybr beicio yn cael ei hadeiladu ar hyd Ffordd Fabian Abertawe i helpu i ddarparu cyswllt allweddol i'r datblygiad campws prifysgol newydd. Bydd campws Prifysgol Abertawe'n agor ym mis Medi ac mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno cais llwyddiannus am arian grant trafnidiaeth lleol gan Lywodraeth Cymru i helpu i ariannu adeiladu'r llwybr beicio newydd. Bydd gwaith ar y llwybr newydd yn parhau yn ystod mis Gorffennaf a bydd yn cynnwys ehangu'r palmant presennol i greu llwybr beicio a phalmant a rennir i gerddwyr - o safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian i Bont Baldwin.

www.hafodmorfacopperworks.com Mae gwaith i adfywio'r safle eisoes wedi dechrau fel rhan o brosiect sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe a Chyngor Abertawe. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cadw ac arian Ewropeaidd, mae cynnydd wedi cynnwys clirio llystyfiant, sefydlogi adeiladau mewn perygl, gwella mynediad i ymwelwyr, gwaith maes archaeoleg gymunedol, llwybrau newydd, llwybr clyweledol a phaneli gwybodaeth. Mae rhaglen o deithiau safle bob pythefnos hefyd yn cael ei threfnu bob yn ail ddydd Mercher o 6 Mai, gan ddechrau am 2pm. Mae'r teithiau'n para oddeutu awr a hanner a byddant yn arwain ymwelwyr o

gwmpas y safle, gan archwilio'i hanes, y prosiect presennol a chynlluniau'r dyfodol. Mae Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe ar fin llofnodi cytundeb i gadw a dathlu'r safle ymhellach. Meddai'r Athro Huw Bowen, Prifysgol Abertawe, "Mae'r cytundeb newydd yn ymrwymiad gan y brifysgol a'r cyngor i barhau i adfywio safle Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa, sydd o bwys rhyngwladol. “Rydym yn gobeithio adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes wedi'i wneud i ddatblygu safle bywiog a chyffrous sydd wedi'i adfywhau a fu unwaith wrth wraidd y chwyldro diwydiannol.”

• CAMAU BACH: Os nad ydych wedi defnyddio cyfrifiadur o'r blaen neu os oes angen ychydig o gymorth arnoch, Dewch Ar-lein Abertawe yw'r lle perffaith i ddechrau. Ewch i'ch llyfrgell leol am fwy o wybodaeth.

Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn hawdd! MAE’N haws nac erioed i ddefnyddio'r rhyngrwyd gyda mynediad am ddim iddo yn eich llyfrgell leol a chefnogaeth ychwanegol mewn sesiynau Dydd Gwener Digidol. Mae llu o breswylwyr yn defnyddio sesiynau Dydd Gwener Digidol fel ffordd hawdd a rhad i ddechrau penwythnos o syrffio, siopa a threfnu gwyliau yn yr haul neu rannu syniadau am ddyddiau allan da gyda ffrindiau ar Facebook. Steve Jenkins yw arbenigwr digidol y cyngor ac arweinydd y tîm sydd wedi dysgu cannoedd o bobl sut i fynd ar y cyfrifiadur a chael mynediad i'r rhyngrwyd. Dywedodd fod y sesiynau Dydd Gwener

OS ydych chi am gael mwy o wybodaeth am ymgyrch Dewch Ar-lein Abertawe neu i argymell ffrind ar gyfer cwrs, holwch yn eich llyfrgell leol neu ewch i www.abertawe.gov.uk/article/6564/Dydd-Gwener-Digidol Tan 24 Gorffennaf, cynhelir sesiynau Dydd Gwener Digidol am ddwy awr yn y llyfrgelloedd canlynol: Townhill, 10am; Treforys, 11am; Llyfrgell Ganolog, 1pm; Llansamlet, 2pm O 31 Gorffennaf i 18 Medi, cynhelir sesiynau Dydd Gwener Digidol am ddwy awr yn y llyfrgelloedd canlynol: Pennard, 10am; Townhill, 10am; Clydach, 1pm; Ystumllwynarth, 1pm

Digidol yn rhan o'r ymgyrch Dewch Arlein Abertawe a'u bod yn ffordd ddelfrydol i bobl ddysgu mwy am y byd digidol. Meddai, "Mae llyfrgelloedd yn lleoedd sy'n hwylus i ddefnyddwyr ac maent hefyd yn cynnig mynediad am ddim i'r rhyngrwyd. Felly mae'n gwneud synnwyr i gynnal sesiynau Dydd Gwener Digidol yn rhai ohonynt. "Gydag ychydig o gymorth gan aelod

o'n tîm, bydd y rhyngrwyd yn newid o fod yn rhywbeth dryslyd i fod yn ffordd gyfleus o gysylltu â ffrindiau ym mhedwar ban byd neu i ymweld â'ch hoff siop." Ychwanegodd, "Mae toreth o gyfleoedd ar gael ar-lein, ac os oes gennych ffrind neu berthynas sydd am roi cynnig ar ddefnyddio'r rhyngrwyd ond sydd ddim yn siŵr ble i ddechrau byddai sesiwn Dydd Gwener Digidol yn syniad da iddynt.

Mae Dewch Ar-lein Abertawe yn rhan o ymdrech y cyngor i atal pobl rhag cael eu gadael ar ôl gan y chwyldro digidol. Mae'r adborth diweddaraf yn dangos y ganmoliaeth y mae'r cyrsiau Dewch Ar-lein yn ei chael, gyda 90% o ymatebwyr yn dweud eu bod am barhau i ddefnyddio'r rhyngrwyd i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Ychwanegodd un cyfranogwr, "Nid oeddwn yn gwybod unrhyw beth pan ddechreuais ar y cwrs. Gyda chefnogaeth y tiwtor, rwyf bellach yn gwybod yr hanfodion cyfrifiadurol." Ychwanegodd un arall, "Roedd y math o gyngor a gafwyd yn addas iawn i mi. Ymarfer amyneddgar yw'r cam nesaf nawr."


Gorffennaf 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Cewch ysbrydoliaeth i faethu BYDD pobl ysbrydolgar sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc yn cael y cyfle i gymryd cam ymlaen ac ymuno â Maethu Abertawe. Mae mwy na 270 o bobl ifanc o bob oed yn Abertawe heddiw y byddai cartref sefydlog a dylanwad cadarnhaol yn gwneud byd o wahaniaeth i'w bywydau. Dywedodd Kelly Lewis, rheolwr datblygu busnes Maethu Abertawe, fod gan y tîm lwyth o brofiad ac arbenigedd mewn gofal maeth ac maent yn gefnogol o'r teuluoedd maent yn gweithio gyda hwy. Meddai, “Efallai fod rhai pobl yn gweld maethu fel profiad brawychus ond gyda Maethu Abertawe, ni

fyddwch byth ar eich pen eich hun." Yn ei barn hi does dim y fath beth â gofalwr maeth cyffredin yn fwy na phlentyn cyffredin sydd angen cefnogaeth gan ofalwyr maeth. Ar hyn o bryd, mae gan Faethu Abertawe, a gefnogir ac a ariennir gan Gyngor Abertawe, ddiddordeb penodol mewn teuluoedd sy'n gallu gofalu am frodyr a chwiorydd gyda'i gilydd. Meddai Kelly Lewis, "Mae llawer o bobl yn meddwl bod gofal maeth yn golygu rhoi cartrefi hir dymor i blant ac i rai, dyna yw'r achos. Ond heddiw mae llawer o opsiynau eraill hefyd. "Er enghraifft, mae rhai o'n gofalwyr maeth yn

cynnig gofal dros y penwythnos a chyda'r nos ac mae eraill nid yn unig yn cefnogi plant ond eu rhieni hefyd. "Y math o bobl y byddai gofal maeth yn apelio atynt yw'r rhai sy'n gallu ysbrydoli ac annog pobl ifanc i gyflawni eu potensial a chyflawni eu nodau fel y byddant yn teimlo bod rhywun yn gofalu amdanynt ac yn rhoi sicrwydd iddynt. Yn ymarferol yr unig beth y mae ei angen arnoch yw ystafell sbâr yn eich cartref." I gael mwy o wybodaeth am Faethu Abertawe, ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch i'r wefan yn www.fosterswansea.org

Bwyd i’r bin, nid i’r adar yng nghanol y ddinas

Abertawe

11

Crynodeb o’r

newyddion Prynwch docyn yr Elyrch i'ch car MAE cyfle i gefnogwyr brwd yr Elyrch fynd ar-lein a phrynu tocynnau a fydd yn sicrhau parcio iddynt ar gyfer gemau cartref yr Uwch-gynghrair. Mae Cyngor Abertawe'n cynnig 200 o docynnau parcio â blaenoriaeth ar gyfer safle Parcio a Theithio Glandŵr mewn cynnig newydd sbon ar gyfer tymor 2015-16. Gallwch brynu tocynnau am £99 yn www.abertawe.gov.uk/parcioel yrch. Bydd y tocynnau'n gwarantu lle i'r deiliaid ar safle Parcio a Theithio Glandŵr, gyferbyn â Stadiwm Liberty ac o fewn cyrraedd hawdd y siopau a'r bwytai ym Mharc Manwerthu'r Morfa. Mae'r cynnig yn cynnwys 19 o gemau cartref y gynghrair. Nid yw gemau cwpan yn cael eu cynnwys, er y bydd y safle Parcio a Theithio ar agor. Mae'r cynnig ar agor yn awr ac yn cau ddydd Llun 20 Gorffennaf 2015.

Compostio'n tyfu ANOGIR preswylwyr i roi cynnig ar gompostio gartref a rhoi hwb i'w gerddi. Mae'r cyngor wedi ymuno â chyflenwr biniau compost er mwyn i breswylwyr brynu biniau'n rhatach. Gall preswylwyr hefyd fynd i Ganolfan Ailgylchu Cartref Tir John i gasglu peth compost am ddim os nad ydynt am ei wneud eu hunain. I gael mwy o wybodaeth am gompostio gartref a'n cynllun bin compost, ewch i www.abertawe.gov.uk/ailgylch u

Dewch ar daith bert

• CNOI CIL: Gall bwydo'r adar yng nghanol y ddinas eu hannog i boenydio a chodi ofn ar blant ifanc yn ogystal â baeddu palmentydd ac adeiladau. hysbysiadau o gosb benodol i bobl sy'n bwydo'r adar yng nghanol y ddinas a byddant yn gwneud hynny'n ddiymdroi os oes angen." Meddai, "Nid yn Abertawe'n unig y mae colomennod a gwylanod yn broblem. Mae dinasoedd fel Caerfaddon yn Lloegr eisoes wedi cyflwyno mesurau llym i atal ymwelwyr a phreswylwyr yng nghanol y ddinas rhag eu bwydo, gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau o gosb benodol."

Yn fy marn i

BWYD i'r bin, nid i'r adar. Dyna'r neges yng nghanol y ddinas dros yr haf i ymwelwyr a phreswylwyr. Mae gwylanod a cholomennod yn niwsans yng nghanol y ddinas, i'r cyngor yn ogystal ag ymwelwyr nad ydynt yn hoffi cael eu poenydio ganddynt na chael baw adar ar eu pennau. Felly nawr, mae'r cyngor a BID Abertawe wedi uno i annog pobl i beidio â thaflu eu byrbrydau ar y llawr ond eu rhoi nhw yn y bin. Rhoddwyd posteri ar finiau sbwriel canol y ddinas yn annog pobl i wneud y peth cywir ac mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu'r neges fel rhan o'i ymgyrch #Abertawedaclus. Dywedodd Bob Fenwick, Arweinydd Grŵp Gwaith Cymdogaethau, fod dinasoedd eraill, megis Caerfaddon a Bryste, yn ogystal â chymunedau glan môr, megis St Ives a Padstow, eisoes wedi gwahardd pobl rhag bwydo gwylanod a cholomennod. Mae wedi cael ei wahardd yn Sgwâr Trafalgar Llundain ers dros ddegawd. "Bydd modurwyr yn dweud wrthych pan fydd baw adar yn cael ei lanhau, ei fod yn gadael staenau tymor hir ar eu cerbydau ac mae'r un peth yn wir am waith carreg a chelfi stryd hefyd. "Mae'r cyngor am wneud popeth y gall i fynd i'r afael â'r broblem. Mae ein timau sbwriel yn gweithio'n galed iawn i lanhau canol y ddinas, gan glirio biniau a chasglu gweddillion bwyd sydd wedi cael eu gadael yn ddifeddwl. "Ond mae tîm hefyd o swyddogion gorfodi sydd â phwerau i gyflwyno hysbysiadau o gosb benodol i bobl sy'n taflu sbwriel. Mae ganddynt yr awdurdod hefyd i gyflwyno

Arwain

MAE Russell Greenslade, Prif Weithredwr BID Abertawe'n cefnogi'r neges bwyd i'r bin, nid i'r adar. Meddai, "Mae gennym lawer o fusnesau bwyd yng nghanol y ddinas. Yn ôl adborth gan fasnachwyr mawr a bach, mae bwydo'r adar yn creu problemau niferus iddyn nhw a'u cwsmeriaid, er enghraifft yr adar yn dwyn bwyd ac mae'r llanast maent yn ei achosi'n effeithio ar y profiad i ymwelwyr a'r amgylchedd masnachu."

Mynegwch eich barn ar ddyfodol llwybrau sathredig MAE cerddwyr a beicwyr yn cael y cyfle i fynegi eu barn ar ddarpariaeth llwybrau beicio a cherdded yn y dyfodol drwy'r ddinas. Mae Cyngor Abertawe'n cynnal ymgynghoriad ar y map llwybrau presennol, gan alw ar y cyhoedd i roi eu barn ar eu hoff lwybrau a'r hyn y gellir ei wneud i'w gwella.

Bydd gofyn i'r cyhoedd roi eu barn hefyd ar yr archwiliad diweddaraf sydd wedi'i gwblhau ar y llwybrau eu hunain. Mae gan Abertawe dros 50km o lwybrau beicio ac mae llawer ohonynt ar-lein ac mewn arweinlyfrau poced defnyddiol a lunnir gan y cyngor. Cyflwynwyd llwybrau beicio a cherdded a rennir hefyd ger canol y ddinas fel rhan o'r

cynllun Cysylltiadau â'r Glannau. I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad diweddaraf, ewch i www.abertawe.gov.uk/deddfteithiollesol Yng Nghymru, daeth y Ddeddf Teithio Llesol i rym ym mis Medi 2014 sy'n ei gwneud yn ofyniad i gynghorau fapio, cynllunio a pharhau i wella teithio llesol.

MAE gwasanaethau bysus dydd Sul wedi dychwelyd i benrhyn Gŵyr i helpu i roi hwb i dwristiaeth yn yr ardal dros yr haf. Mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno cais llwyddiannus am arian gan fenter Croeso Cymru a arweinir gan Lywodraeth Cymru i lansio'r gwasanaeth cludiant cyhoeddus a fydd yn parhau tan 4 Hydref. Mae lleoliadau poblogaidd yn cynnwys mannau megis Porth Einon, Oxwich a Llangynydd. Bydd y gwasanaethau'n mynd o orsaf fysus Dinas Abertawe i Rosili bob awr rhwng 9am a 5pm ac o Rosili i Abertawe rhwng 10.10am a 6pm.

Amddiffynfa greigiau MAE’R cyngor wedi bod yn gosod amddiffynfa greigiau ar hyd rhan o'r morlin ger West Cross. Mae'r mesur amddiffynnol yn cynnwys gosod clogfeini mawr o feintiau amrywiol i amddiffyn y promenâd rhag unrhyw ddifrod gan y llanw.


Arwain

12

Abertawe

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Gorffennaf 2015

Mae Andy yn creu hanes MAE waliau cerrig sych hanesyddol sy'n amgylchynu cae canoloesol ym Mhenrhyn Gŵyr wedi cael bywyd newydd ar ôl cael eu hailadeiladu. Mae'r waliau cerrig sych crwm 'arddull Gŵyr' nodedig ger Pen Pyrod yn Rhosili wedi cael eu diogelu er mwyn rhwystro defaid rhag crwydro i'r caeau ffrwythlon llawn llysiau ar ddarn o dir a adnabyddir fel 'y Vile' - nodwedd amaethyddol ganoloesol. Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau fel rhan o Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr - cynllun sy'n cynnwys amrywiaeth eang o brosiectau, pob un wedi'i gynllunio er mwyn diogelu a dathlu tirwedd unigryw Gŵyr. Mae Cyngor Abertawe wedi comisiynu'r contractwr waliau cerrig sych lleol, Andy Roberts, • GWAITH YMARFEROL: Mae'r adeiladwr waliau cerrig sych, Andy Roberts, wrth ei fodd gyda'i 'swyddfa' ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae'r i adfer y waliau i'w cynwaliau crwm nodedig yn rhan ddeniadol o'r dirwedd ac maent yn ennyn diddordeb cerddwyr ac ymwelwyr. ogoniant. Llun gan Jason Rogers

HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG Y BRYN, GOLWG HAFREN A RHYD YR HELYG, DERWEN FAWR HYSBYSIAD 2015 HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Mae copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN drwy ddyfynnu cyfeirnod DVT-208204. Dylech gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau drostynt yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad uchod erbyn 30/07/2015. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodir yn yr atodlen isod ac i’r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd/ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlen isod. ATODLEN 2

bwynt 259 metr i’r gogledd o’r pwynt hwnnw. Ochr y De O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 136 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno. Ochr y Dwyrain O bwynt 136 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 178 metr i’r gogledd o’r pwynt hwnnw. GOLWG HAFREN Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Y Bryn i bwynt 120 metr i’r dwyrain yna i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, gan gynnwys y pen morthwyl ar y pen gogleddol. RHYD YR HELYG Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Y Bryn i bwynt 260 metr i’r gorllewin yna i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, gan gynnwys y cylch troi ar y pen gogleddol. Dyddiedig 01/07/2015 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe

GWAHARDD AROS DYDD LLUN - DDYDD GWENER 10AM – 12PM A 2PM - 4PM Y BRYN Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 136 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno. Ochr y Gorllewin O bwynt 136 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon

CYNGOR SIR A DINAS ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2015 STRYD PLEASANT A STRYD Y BRENIN, ABERTAWE HYSBYSIAD mae’r cyngor yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) y disgrifir ei effaith yn yr Atodlenni isod. Mae copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Dylech gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig, ynghyd â’r rhesymau dros wrthwynebu, i’r cyfeiriad uchod i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 30/07/2015 gan ddyfynnu’r cyfeirnod: DVT204889. ATODLENNI ATODLEN 1: DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy’n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS, DIM LLWYTHO/DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG. STRYD PLEASANT Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Alexandra am 23m i gyfeiriad y dwyrain. O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Stryd y Berllan am 42m i gyfeiriad y gorllewin. Ochr y De O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Alexandra am 18m i gyfeiriad y dwyrain. O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Richard’s Place am 13m i gyfeiriad y

gorllewin. O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Richard’s Place i’w chyffordd â llinell balmant orllewinol Stryd y Berllan (28m). ATODLEN 3: DEILIAID TRWYDDEDAU YN UNIG AR UNRHYW ADEG. STRYD PLEASANT Ochr y De O bwynt 18m i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Heol Alexandra, i bwynt 13m i’r gorllewin o linell balmant orllewinol Richard’s Place (33m). ATODLEN 4: DIM AROS AC EITHRIO BYSUS STRYD PLEASANT Ochr y Gogledd O bwynt 23m i’r dwyrain i bwynt 47m i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Heol Alexandra (24m). ATODLEN 5: LLWYTHO YN UNIG AR UNRHYW ADEG STRYD PLEASANT Ochr y Gogledd O bwynt 47m i’r dwyrain i bwynt 58m i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Heol Alexandra (11m). ATODLEN 6: GWAHARDD GYRRU STRYD Y BRENIN O bwynt 4m i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Stryd y Berllan am 27m i gyfeiriad dwyreiniol. Er eglurder: bydd hyn yn cynnwys hyd cyfan Stryd y Brenin. 01/07/2015 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.