Arwain Abertawe - Ionawr 2016

Page 1

Arwain Abertawe Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

Rhifyn 101

Ionawr 2016

tu mewn

Eich calendr casgliadau ailgylchu a sbwriel 2016 - gweler y tudalennau canol eich dinas: eich papur

Buddsoddiad Sut rydym yn helpu i greu swyddi yn y ddinas

hefyd

tudalen 5

CDLl • AILGYLCHU O'R RADD FLAENAF: Nid y Stryd Fawr yw'r unig le i fachu bargen yr adeg hon o'r flwyddyn. Beth am roi cynnig ar ein Siop Gornel a helpu i hybu cyfraddau ailgylchu'r ddinas? Mwy o wybodaeth ar dudalen 7 Llun gan Jason Rogers

YSGOLION a'r gwasanaethau cymdeithasol fydd prif flaenoriaethau ariannu Cyngor Abertawe wrth iddo edrych i arbed dros £90 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae'r cyngor yn disgwyl bwlch ariannu o leiaf £90m yn y blynyddoedd sydd i ddod. Y llynedd, cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad eang gan flaenoriaethu ysgolion a gofal cymdeithasol yn unol ag adborth y cyhoedd. Dywedodd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod yr awdurdod eisoes wedi gwneud arbedion sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bod angen gwneud mwy o hyd er mwyn cau'r bwlch rhwng yr hyn y mae'r cyngor angen ei wario ar wasanaethau a'r swm y mae'n ei dderbyn. Meddai, "Rydym yn byw mewn amser digynsail. Nid yw'r cyfnod

gwybodaeth

Amser i chi ddweud eich dweud ar gynigion cyllidebol GALLWCH ddweud eich dweud ar y cynigion cyllidebol drwy gasglu taflenni o dros 30 o lyfrgelloedd a swyddfeydd tai rhanbarthol ar draws y ddinas, neu drwy fynd ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/arolwgygyllideb Bydd barn preswylwyr a staff y cyngor yn cael ei hystyried cyn i adroddiad fynd gerbron y Cabinet fis nesaf cyn cyfarfod cyllidebol y cyngor ym mis Mawrth. Bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiynau ar gynigion cyllidebol penodol yn ogystal â cheisio barn pobl am sut y gall y cyngor drawsnewid gwasanaethau. Cynhelir ymgynghoriad â staff ac mae'r cyngor wedi ymrwymo i leihau colli swyddi drwy adleoli, colli swyddi'n wirfoddol, ymddeoliad cynnar a gweithio hyblyg.

ariannol anodd wedi dod i ben eto ac mae'r arian rydym yn ei dderbyn gan y llywodraeth yn gostwng ar adeg pan fo'r galw am ein gwasanaethau'n cynyddu. "Bydd toriadau cyllidebol yn effeithio ar bob adran o'r cyngor, ond rydym wedi blaenoriaethu ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol yn unol â barn y cyhoedd. Ychwanegodd, "Mae pobl yn deall ein bod yn wynebu dewisiadau anodd iawn ac y bydd gwasanaethau'n newid yn ddramatig. “Nid lleihau arian yn unig yw hyn;

mae'n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, moderneiddio gwasanaethau, bod yn glyfrach ac yn fwy effeithlon fel ein bod yn diwallu anghenion pobl yn y blynyddoedd i ddod." "Rydym yn gwario £4,000 y flwyddyn ar gyfartaledd ar wasanaethau'r cyngor am bob aelwyd sydd gyfwerth ag oddeutu £1m y diwrnod yn cael ei wario ar wasanaethau hanfodol a gaiff eu gwerthfawrogi yn ein cymunedau. "O ganlyniad i'r her anferthol rydym yn ei hwynebu, mae'n golygu

y gallai cyllidebau meysydd eraill, megis gwasanaethau amgylcheddol a gwasanaethau diwylliannol, gael eu lleihau'n fwy sylweddol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae £50m wedi cael ei dorri o gyllidebau'r cyngor yn ogystal â gostyngiadau cyllidebol ychwanegol ac, yn ôl y Cyng. Stewart, mae angen £38m arall ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r cyngor hefyd yn gobeithio arbed miliynau drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd, symleiddio systemau gweinyddol a gwasanaethau swyddfa gefn a chreu incwm ychwanegol er mwyn defnyddio'r arian i helpu i dalu am wasanaethau. Meddai, "Yn syml, ni fyddai cynyddu treth y cyngor yn unig yn gweithio gan y byddai cynnydd o 1% yn creu £800,000. Byddai'n rhaid cael cynnydd o dros 100% yn nhreth y cyngor i bontio'r bwlch rydym yn ei wynebu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Nid yw hynny'n deg ac ni fyddai unrhyw un yn cefnogi'r peth."

Dweud eich dweud ar y glasbrint tudalen 2

Annibynnol 'Mae staff gofal cymdeithasol yn ffrindiau go iawn â'm teulu' tudalen 6

Ysgolion newydd ar gyfer y tymor newydd tudalen 9


gwybodaeth

2

Arwain

Abertawe

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Ionawr 2016

Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040

Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081 Materion eraill y priffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Ymchwilio Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000

I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092 Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe

I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733

CDLl yn llywio’r dyfodol Yn ddiweddarach eleni, bydd y cyngor yn ceisio barn preswylwyr, busnesau ac eraill ar un o gynlluniau pwysicaf y ddinas - y Cynllun Datblygu Lleol. Fe'i gelwir yn CDLl, mae'r cynllun wedi'i ddatblygu ers 2009 ac mae'n lasbrint ar gyfer sut bydd tir sydd ar gael yn Abertawe'n cael ei ddefnyddio dros y ddeng mlynedd nesaf, gan gynnwys at ddibenion preswyl, hamdden a masnach. Mae preswylwyr eisoes wedi mynegi eu barn drwy gyfres o ymgynghoriadau a gynhaliwyd ers i'r broses ddechrau, a derbyniwyd dros 50,000 o ymatebion. Meddai Robert Francis Davies,

Pam mae ein gwasanaeth priffyrdd yn bwysig Rhaid i bob cyngor lunio CDLl ac fe'i defnyddir i helpu unrhyw benderfyniadau cynllunio yn y dyfodol, gan gynnwys tai, datblygu busnesau, mannau agored ac isadeiledd fel ysgolion. Gall preswylwyr ddarllen gwe-dudalennau CDLl y cyngor, lle ceir dogfennau y gellir eu lawrlwytho o'r holl adolygiadau ac asesiadau sy'n gysylltiedig â phroses y CDLl hyd yn hyn. Ewch i www.abertawe.gov.uk/cdll am ragor o wybodaeth

Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, "Y cam nesaf yw cyhoeddi'r cynllun adnau drafft, sef y cam terfynol cyn cyflwyno'r cynllun i'r arolygiaeth gynllunio i'w ystyried. "Y peth pwysig ar y cam hwnnw yw bod y cyhoedd wedi cael y cyfle i fynegi barn ar y broses ac rydym wedi dangos ein bod yn gwrando ar

eu barn. "Yn strategol, rhaid i'r pwyslais fod ar ganfod tir addas ar gyfer datblygiadau tai. Fel dinas, mae Abertawe'n tyfu a dengys rhagamcaniadau Llywodraeth Cymru fod disgwyl i'r boblogaeth gynyddu'n helaeth dros y ddeng mlynedd nesaf. Dyna pam y mae hi'n hanfodol canfod a chlustnodi tir addas ar gyfer

Ionawr Iona nawr EuroVisions EuroVisions: ons: Eur European opean Travellers T ravellers view ew of Wales Wales Tan T an a 25 Ionawr Amgueddfa Abertawe 01792 01792 653763 Sefydliad Brenhinol Brenhinoll Darlithoedd De Cymru: Ludwig Mond 14 Ionawr Amgueddfa Abertawe 01792 653763 01792 Supr eme Queen Supreme 15 Ionawr Theatr y Grand, Abertawe 01792 475715 01792

tai." Hyd yn hyn, mae'r cyngor wedi amlygu nifer o safleoedd strategol lle bydd y ffocws ar greu cartrefi newydd a datblygu cyfleoedd busnes. Mae tua 100 o safleoedd ymgeisiol llai hefyd wedi'u cynnwys yn y cynllun, gan eu clustnodi hwy i'w datblygu yn y dyfodol. Ychwanegodd y Cyng. Francis Davies, "Mae'r holl safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd i'r cyngor i'w cynnwys bellach wedi mynd drwy'r broses asesu ac mae'r cyhoedd hefyd wedi mynegi eu barn ar y safleoedd hyn. "Mae asesiad manwl o fannau agored hefyd wedi'i gwblhau i ystyried parciau a mannau gwyrdd a sut gallwn reoli’r agwedd hamdden ar y cynllun."

Chw Chwefror wefrorr Nos son o Hwyl a Noson Ffitr rwydd Am Ddim Ffitrwydd 18 IIonawr onawr Can nolfan Hamdden Canolfan Pen nlan Penlan 01792 17 588079 01792 Thin nk Floyd Think Yn Fyw F mewn Cynger Cyngerdd dd 29 IIonawr onawr The atr y Grand, Theatr Abe ertawe Abertawe 01792 475715 01792 Abe ertawe a’r Rhyfel Mawr Abertawe Parh haus Parhaus Amg gueddfa Abertawe Amgueddfa 01792 653763 01792

Am fwy o ddigwyddiadau gwych, gwych h, ewch i: joiobaeabertawe.com

Varda V enture: ur Bywyd Varda Venture: Sipsiw wn yng g Nghymru Sipsiwn Tan a 7 Chwefror Chwef C fror Tan Amgue eddfa Abertawe Amgueddfa 0179 92 653 3763 01792 653763

Antics Anifeiliaid: A Cyfar ch a Bwyta Cyfarch 16 - 18 Chwefr C or Chwefror Plantasia a 01792 474555 01792

Ffilmia au yn yr Amgueddfa: Ffilmiau Doctorr Zhivago Chwe efror 7 Chwefror Amgue eddfa Abertawe Amgueddfa 0179 92 653763 01792

Let’ s Write: Write: Gweithdy Let’s Ysgrifen nnu Creadigol Creadigol Ysgrifennu i Bobl Ifa anc Ifanc 17 Chwe efror Chwefror Canolfan n Dylan Thomas 01792 463980 01792

Anifeiliiaid Dylan: Anifeiliaid mygyd dau a phaentio aentio mygydau wyneb bau anifeiliai iaid wynebau anifeiliaid Chw wefror 15 Chwefror Canolfa an Dylan Thomas s Canolfan 0179 92 463980 01792

C erddorrfa Genedlaethol Cerddorfa Gymr eig g y BBC - Concerto Gymreig Driphlyg g Beethoven 19 Chwe efror Chwefror Brangwy yn Brangwyn 01792 475715

joiobaeab joiobaeabertawe.com bertawe.com

Cysylltwch ag Arwain Abertawe

• SAFLEOEDD O BWYS: Bydd y CDLl yn dylanwadu ar safleoedd ar draws y ddinas.


Arwain

i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor

Ionawr 2016

• CROESO ADREF: Mae ein canolfannau Abertawe Actif yn lleoedd cyfeillgar lle gallwch ganfod eich hun o'r newydd

MAE cyngor arbenigol a chyfarpar o'r radd flaenaf ar gael ar garreg eich drws i'ch helpu i gyrraedd eich nodau ffitrwydd yn 2016. Mae canolfannau hamdden Abertawe Actif ym Mhenlan, Penyrheol, Treforys, Llandeilo Ferwallt a Chefn Hengoed. Mae cyfarpar campfa o'r radd flaenaf, ystafelloedd pwysau rhydd, pyllau nofio a champau raced ymysg y cyfleusterau a gweithgareddau sydd ar gael. Trefnir dros 120 o ddosbarthiadau ffitrwydd bob wythnos i ddiwallu anghenion a lefelau ffitrwydd gwahanol pobl. Mae'r canolfannau hamdden yn Llandeilo Ferwallt, Treforys, Penlan a

gwybodaeth

Ar y ffordd i gorff newydd gyda chwtsh Abertawe Actif MAE llawer i bobl ifanc ei wneud yng nghanolfannau hamdden Abertawe Actif hefyd. Mae gwersi nofio, sgelfrolio, gymnasteg, atheltau, pêl-droed, pêl-rwyd a thrampolinio ymysg y gweithgareddau sydd ar gael fel rhan o'r rhaglen Plant Actif sy'n rhoi digon o gyfle i ddysgu sgiliau newydd, llosgi egni a gwneud ffrindiau newydd. Ewch i www.abertawe.gov.uk/abertaweactif i gael mwy o wybodaeth, chwiliwch am Abertawe Actif ar Facebook neu dilynwch @AbertaweActif ar Twitter.

Phenyrheol wedi'u hadnewyddu gyda chyfarpar Life Fitness gan gynnwys peiriannau rhedeg, traws hyfforddwyr a beiciau sy'n cynnwys technoleg fel mynediad i'r we a llu o ddewisiadau adloniant. Gall y rhai sy'n dwlu mynd i'r gampfa fwynhau sesiynau ymarfer corff wedi'u personoli, y cyfle i gofnodi eu cynnydd a'r cyfle i fynd am

dro rhyngweithiol ar y beic drwy olygfeydd hyfryd o wledydd megis Frainc a Seland Newydd. Meddai'r Cynghorydd Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddinas Iach a Lles, "Yn draddodiadol, mis Ionawr yw adeg y flwyddyn pan fydd pobl yn anghofio am y Nadolig a dechrau meddwl am wyliau'r haf a'r

misoedd sydd ganddynt i fod yn fwy heini, colli pwysau, tynhau neu gyflawni eu nodau ffitrwydd. "Mae gennym staff ymroddedig, arbenigol wrth law i lunio rhaglenni ymarfer corff unigol i bobl - beth bynnag yw eu lefelau ffitrwydd, eu hysgogiad neu eu nodau - a'u harwain a'u hannog drwy eu teithiau ffitrwydd." Mae pob aelod o Abertawe Actif yn derbyn 'cwtsh' unigol gyda hyfforddwr dros yr ychydig fisoedd cyntaf ar ôl ymaelodi. "Gall rhai campfeydd ddigalonni aelodau newydd, ond mae tîm Abertawe Actif wedi datblygu ymagwedd bersonol i helpu pobl i deimlo'n fwy cyfforddus a chyflawni eu nodau iechyd a ffitrwydd," meddai'r Cyng. Child.

3

Marcwyr dyddiadur y cyngor Croeso i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond sylwer efallai na fyddwch yn gallu dod i gyfarfod cyfan neu ran ohono. Mae’r rhestr hon yn gywir wrth fynd i’r wasg ond os ydych chi’n ystyried mynd i gyfarfod, ffoniwch 01792 636000 ymlaen llaw i wybod y lleoliad a’r amser. Gallwch hefyd gasglu manylion yr agenda ar wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary

11 Ionawr Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 12 Ionawr Pwyllgor Cynllunio, 2pm 13 Ionawr Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau Corfforaethol, 4pm 14 Ionawr Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 2pm 20 Ionawr Pwyllgor Cynghori'r Cabient ar Ddatblygu, 2pm 21 Ionawr Y Cabinet, 4pm 25 Ionawr Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Diwygio Gofal Cymdeithasol, 2pm 28 Ionawr Y Cyngor, 5pm 3 Chwefror Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Addysg a Phobl Ifanc, 3pm 8 Chwefror Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 9 Chwefror Pwyllgor Cynllunio, 2pm 10 Chwefror Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau Corfforaethol, 4pm 11 Chwefror Pwyllgor Arbennig y Cabinet, 2pm Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 4pm 12 Chwefror Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 16 Chwefror Pwyllgor Archwilio, 2.30pm 17 Chwefror Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ddatblygu, 3pm 18 Chwefror Y Cabinet, 4pm 22 Chwefror Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Ataliaeth a Diwygio Gofal Cymdeithasol, 2pm 25 Chwefror Y Cyngor, 5pm

Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.


4

Arwain

Abertawe

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Ionawr 2016

rhifyn arbennig am y gyllideb.....rhifyn arbennig am y gyllideb... Mae’n bryd i chi ddweud eich dweud

• DYFODOL CYNALIADWY: Mae addysg, gwasanaethau plant a gofal cymdeithasol wrth wraidd ein cynigion cyllidebol.

Gwasanaethau cynaliadwy wrth wraidd ein huchelgais GALL preswylwyr sydd am gael mwy o wybodaeth am yr heriau ariannol sy'n wynebu'r cyngor gael mwy o wybodaeth drwy wylio fideo newydd ar-lein. Mae'r fideo yn un o'r ffyrdd i gael gwybod mwy am sut mae'r cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â bwlch gwerth £90m yn ei gyllideb yn ystod y blynyddoedd nesaf. Gallwch ddweud eich dweud ar y cynigion cyllidebol drwy gasglu un o'r miloedd o daflenni sydd ar gael mewn bron 30 o lyfrgelloedd a swyddfeydd tai rhanbarthol yn y ddinas, neu gallwch fynd ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/arolwgygyllideb Mae'r fideo ar gael yn https://www.youtube.com/watch?v=V1m Ad8-dxNs ac mae'n cynnig trosolwg cyflym o'r gwasanaethau y mae'r cyngor yn eu cynnig a'r heriau cyllidebol rydym

Yn fy marn i

MAE’R cyngor yn cael effaith ar fywydau bron pob un o'i 241,000 o breswylwyr gan ddarparu cannoedd o wasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth. Mae ymgynghoriad 'Dweud eich Dweud' y cyngor ar Gyllideb 2016/17 yn edrych ar gynigion penodol i leihau gwariant mewn meysydd megis costau gweinyddol. Mae hefyd yn ceisio barn pobl ar sut i ariannu gwasanaethau yn y dyfodol, gan gynnwys gofal cymdeithasol a gwastraff, y gall y cyngor eu hystyried. Rydym yn gofyn am eich adborth ynghylch a fyddech yn barod i dalu mwy am rai gwasanaethau neu eu gweld yn cael eu cyflwyno mewn ffordd wahanol, yn hytrach na'u colli. Rydym hefyd yn ceisio barn a syniadau am sut i wella ein cyfraddau gwastraff ac ailgylchu er mwyn i ni allu lleihau effaith y dreth safleoedd tirlenwi ddrud ac osgoi dirwyon posib Llywodraeth Cymru hefyd. O ran gofal cymdeithasol rydym am gael gwybod, er enghraifft, beth arall y gellir ei wneud yn eich tyb chi i gefnogi pobl hŷn i fyw'n ddiogel ac mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain. Yng nghyd-destun gwasanaethau diwylliannol, rydym yn ceisio eich barn am ystod o gynigion a allai weld rhai gwasanaethau yn cael eu trosglwyddo i ddarparwyr trydydd parti nid er elw, er enghraifft, fel sydd eisoes yn digwydd gyda gwasanaethau hamdden yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rydym hefyd am gael eich sylwadau ar adolygiad cynhwysfawr rydym yn ei gynnal ar ein rhaglen ddigwyddiadau, casgliadau amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a chanolfannau croeso.

DYWEDODD Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Berfformiad a Thrawsnewid, y gall preswylwyr chwarae eu rhan drwy leihau'r galw am wasanaethau er mwyn arbed arian a diogelu gwasanaethau. "Un o'r rhesymau y mae pobl yn ymdrechu cymaint wrth ailgylchu yw oherwydd mae'n ein helpu i osgoi dirwyon drud.

yn eu hwynebu. Mae'r fideo yn tynnu sylw at incwm y cyngor, costau'r gwasanaethau a'r meysydd gwario y mae'r cyngor yn eu blaenoriaethu. Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Berfformiad a Thrawsnewid, "Blaenoriaethau trigolion Abertawe yw ein blaenoriaethau ni ac, er gwaethaf y gostyngiadau cyllidebol gwerth £90m rydym yn eu hwynebu, byddwn yn parhau i wireddu'r

Pe bai llai o daflu sbwriel, graffiti a thipio anghyfreithlon, gallem arbed mwy o arian. "Yn ystod y tair i bum mlynedd nesaf, mae'n rhaid i ni gyflwyno gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol iawn. Ond os ydym yn gweithredu nawr ac yn dod o hyd i atebion cynaliadwy, byddwn yn gallu diogelu mwy o wasanaethau yn y tymor hir."

blaenoriaethau hynny. "Mae cynigion yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn adlewyrchu rhaglen drawsnewid Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol y cyngor sy'n galw am fwy o effeithlonrwydd o fewn y cyngor a mwy o weithio mewn partneriaeth â phobl leol a grwpiau cymunedol." Eleni, mae'r cynigion yn tynnu sylw at y ffaith y bydd pobl a sefydliadau lleol nid yn unig yn cael mynegi eu barn, ond y byddant hefyd yn cael y cyfle i gymryd

rhan mewn cynnal gwasanaethau lleol eu hunain yn y dyfodol. Meddai'r Cyng. Lloyd, "Mae'r opsiynau posib yn cynnwys cyflwyno gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol, gweithio gyda phartneriaid a gweithio agos gyda'r gymuned. “Dyna pam rydym yn adolygu'n holl wasanaethau, gan gynnwys y gwasanaethau Diwylliannol, y Gwasanaethau Gwastraff a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd mwy o adolygiadau'n dilyn ac rydym am gael eich barn am sut gallwn eu cynnal yn wahanol ac arbed arian. "Rydym hefyd am weithio'n agosach gyda'n cymunedau. Yn y gorffennol pan rydym wedi gorfod terfynu neu newid rhai gwasanaethau, rydym wedi gweithio gyda grwpiau lleol er mwyn iddynt allu cymryd yr awenau. Mae wedi bod yn effeithiol iawn gyda Chanolfan Tenis Abertawe, er enghraifft."

Eich cyfle i gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol

NID yw preswylwyr sydd am helpu i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau erioed wedi cael cyfle gwell i wneud hynny diolch i raglen arloesol newydd a gyhoeddwyd gan Gyngor Abertawe. Mae gwasanaethau a chyfleustodau lleol yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau a bellach bydd grwpiau ac unigolion sydd â diddordeb yn gyffredin ynddynt yn cael y cyfle i wneud yn fawr o'u dyfodol gyda chymorth gan y cyngor. Nod y rhaglen Gweithredu yn y Gymuned newydd yw datgloi syniadau, egni a brwdfrydedd lleol i drawsnewid cyfleustodau lleol

hoffus megis caeau chwaraeon, parciau ac adeiladau cymunedol. Meddai Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, "Rydym yn edrych ar gyfnod newydd i'n cymunedau lle mae pobl leol yn cymryd yr awenau o'r cyngor fel y gallant lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion cymdogaethau. Y bobl orau i ofyn iddynt yr hyn y maent am ei gael o wasanaeth yw'r bobl sy'n byw ar garreg ei ddrws." Dan y cynllun Gweithredu yn y Gymuned, caiff preswylwyr sydd â chynlluniau hyfyw i roi cynnig ar eu gwasanaethau cymunedol eu hystyried am gefnogaeth ariannol a bydd ganddynt y cyfle i ddefnyddio

arbenigedd y cyngor fel y gallant ymsefydlu a sefyll ar eu traed eu hunain. Elfen allweddol o Weithredu yn y Gymuned yw gweld preswylwyr yn nodi gwasanaethau'r cyngor y gallent eu cynnal yn annibynnol yn lleol neu mewn partneriaeth â'r awdurdod. Gallai camau gweithredu posib eraill gynnwys trosglwyddo asedau'r cyngor i breswylwyr lleol eu cynnal. Gellir dod o hyd i'r gwe-dudalennau Gweithredu yn y Gymuned yn www.abertawe.gov.uk/article/10476/Community-Action-TransformationFund


Ionawr 2016

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe

5

Crynodeb o’r

newyddion Adrodd am oleuadau stryd diffygiol MAE preswylwyr yn cael eu hannog i adrodd am ddiffygion gyda goleuadau stryd yn eu hardal. Mae'r cyngor am glywed am lampau diffygiol fel y gellir eu hatgyweirio neu eu newid cyn gynted ag y bo modd. Mae mwy na 16,000 o oleuadau stryd yn y ddinas wedi'u diweddaru gyda goleuadau LED a dyfeisiau arbed ynni modern eraill dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gwaith yn rhan o raglen newid goleuadau stryd dair blynedd yn y ddinas, a disgwylir iddi arbed tua £400,000 y flwyddyn. Y cymunedau diweddaraf i elwa ar oleuadau stryd LED yw Clydach, Gellifedw, Townhill a Mayhill (prif ffyrdd). Mae'n hawdd adrodd am olau stryd diffygiol - ewch i www.abertawe.gov.uk/adroddw ch neu ffoniwch y Tîm Priffyrdd yn rhad ac am ddim ar 0800 317990.

Map digidol yn mynd â ni'n ôl mewn amser • Y TONIC GORAU: Bydd gwerthu safle Alberto Culver yn dod â mwy na 100 o swyddi i Abertawe

Asedau i roi hwb i fusnes yn ein dinas MAE swyddi'n cael eu creu ac mae cartrefi ac amwynderau lleol yn cael eu hagor i breswylwyr wrth i Gyngor Abertawe barhau i wneud y gorau o'i asedau. Yn ddiweddar, mae'r cyngor wedi gwerthu nifer o'i eiddo a lleiniau o dir wrth iddo fynd ati i symleiddio gwasanaethau a gweithredu'n fwy effeithlon yn y dyfodol. Ymysg y straeon llwyddiant y mae gwerthu budd rhyddfreiniol y cyngor yn hen safle Alberto Culver ym Mharc Menter Llansamlet i'r grŵp Dr Organic, cwmni yn Ne-orllewin Cymru a sefydlwyd gan yr entrepreneuriaid lleol, Steve Quinn a Fred Whitcomb. Bydd Dr Organic,

Gwneud yn fawr o'n hasedau'n brif flaenoriaeth MAE’R straeon llwyddiant yn cynnwys gwerthu llain o dir ym Mhenplas, lle roedd hen archfarchnad Leo's ar un adeg, i ddatblygwr â chysylltiadau agos at fanwerthwr bwyd gostyngedig blaenllaw. Gallai hyn arwain at 80 o swyddi newydd yn ogystal ag adeiladu tafarn a bwyty newydd ar y safle. Yn ddiweddar, mae Cyngor Abertawe hefyd wedi gwerthu safle ffoledd hanesyddol yn Sgeti i ddatblygwr ac mae trafodaethau â datblygwyr tai am safle'r Ganolfan Ddinesig ym Mhenllergaer yn parhau.

gweithgynhyrchydd cosmetigion ac atchwanegiadau bwyd, yn cyfnerthu ei weithrediadau Ewropeaidd ar safle Abertawe, gan greu mwy na 100 o swyddi dros y 2/3 blynedd nesaf. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae nifer yr eiddo a maint y tir yn ein portffolio bob amser yn cael ei adolygu wrth i ni geisio nodi'r hyn

sydd dros ben a symleiddio cymaint ag y bo modd. "Mae staff ein timau ystadau strategol yn gwneud gwaith aruthrol wrth sicrhau cytundebau sy'n cynrychioli gwerth gorau i'r cyngor, yn ogystal â rhoi manteision niferus i breswylwyr, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth, cartrefi newydd a chyfleusterau o safon ar eu stepen

drws. "Mae cytundeb Dr Organic yn un enghraifft o lawer o sut rydyn ni'n gwneud ein rhan, fel cyngor, i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gyllideb trwy greu incwm mewn ffordd flaengar sydd o fudd i bobl ar draws y ddinas. Rydyn ni'n gobeithio gallu cyhoeddi mwy o gytundebau â buddsoddwyr ar gyfer eiddo a lleiniau eraill o dir yn 2016." Disgwylir y bydd hen adeilad Ysgol Gynradd Trefansel a hen ganolfan drafnidiaeth y cyngor yng Nghlydach yn cael eu cynnig mewn ocsiwn yn y misoedd nesaf fel rhan o'r ymgyrch i wneud yn fawr o asedau'r cyngor yn y blynyddoedd i ddod.Ewch i adran busnes www.abertawe.gov.uk i weld tir ac eiddo sydd ar y farchnad.

Plac glas yn anrhydeddu chwiorydd a achubodd fywydau DWY chwaer a achubodd morwyr a oedd yn boddi yn y môr ger y Mwmbwls yn y 19eg ganrif sydd nesaf i gael plac glas yn Abertawe. Achubodd Margaret a Jennie Ace, merched William Ace, ceidwad goleudy'r Mwmbwls, aelodau criw bad achub y Mwmbwls ar ôl iddo daro creigiau o dan y goleudy ar fore Chwefror stormus ym 1883. Aeth bad achub y Mwmbwls, o'r enw'r Wolverhampton, i drafferthion pan gafodd ei lansio i helpu llong o'r Almaen o'r enw'r Prinz Aldabert o

Danzig a oedd hefyd wedi taro creigiau wrth Ben y Mwmbwls. Gan anwybyddu rhybudd eu tad, aeth y ddwy chwaer i'r dŵr, achub dau ddyn a helpu un arall i gyrraedd man diogel. Derbyniodd y ddwy ohonynt lodrau aur gan Ymerodres yr Almaen am ofalu am griw'r llong. Bydd Cyngor Abertawe'n datgelu plac glas i anrhydeddu'r chwiorydd Ace ym mis Chwefror ger Pier y Mwmbwls sy'n edrych dros y môr. Hwn fydd y trydydd plac glas ar ddeg y mae'r

cyngor wedi'i ddatgelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Nod ein cynllun plac glas yw dathlu pobl a lleoedd Abertawe sydd wedi cyflawni pethau mawr neu helpu i roi ein dinas ar y map. Ers dechrau'r cynllun, rydyn ni wedi anrhydeddu awduron, gwyddonwyr, fforiwr, cenhadwr, swffragét, parc a maes chwarae sydd wedi helpu Abertawe i adael ei hôl ar y byd.”

MAE archifwyr a gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i greu map digidol manylach nag erioed o Gymru ddechrau oes Fictoria. Mae'r prosiect i ddigido a mynegeio mapiau degwm Cymru'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn annog mwy o bobl i gymryd rhan. Cewch wybod mwy am fapiau'r degwm a'r prosiect ‘Cynefin: Mapio Cymru, Ymdeimlad o Le’ trwy fynd i Archifau Gorllewin Morgannwg yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe, neu yn http://cynefin.archiveswales.o rg.uk

Digon teg yw ein cefnogaeth masnach MAE ymrwymiad Abertawe i fasnach deg yn cael ei ddathlu unwaith eto. Mae statws yr ardal fel Sir Masnach Deg wedi'i adnewyddu am ddwy flynedd arall oherwydd ymrwymiad parhaus i fasnach deg. Rhoddwyd statws masnach deg yn wreiddiol i Abertawe yn ôl yn 2002 wrth gydnabod ffactorau fel argaeledd cynnyrch masnach deg mewn siopau a bwytai lleol yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer egwyddorion masnach deg a ddangosir gan y cyngor, busnesau, ysgolion a grwpiau ffydd.

Forge Fach wedi'i hachub MAE dyfodol adeilad nodedig, sydd wedi bod yn ganolog i fywyd cymunedol Clydach, wedi'i sicrhau ar gyfer cenedlaethau i ddod. Mae Canolfan Adnoddau Forge Fach wedi'i throsglwyddo i'r elusen genedlaethol Walsingham, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod ar agor i wasanaethu grwpiau a phrosiectau cymunedol yn y dyfodol.


Arwain

Abertawe Cynllun coridor arloesedd GALLWCH bellach fynegi eich barn ar gynlluniau i drawsnewid Ffordd Fabian yn goridor arloesedd. Mae ymgynghoriad bellach wedi dechrau ar ymagwedd gydlynol at gynllunio ar hyd rhan brysur 5k o'r ffordd sy'n cysylltu cylchfan Amazon yng Nghastellnedd Port Talbot â glan ddwyreiniol afon Tawe Abertawe. Cynhelir yr ymgynghoriad tan 25 Ionawr. Mae'r ymagwedd gydlynol a gynigir am wneud yn fawr o ddatblygiadau presennol a phosib, gan gynnwys Morlyn Llanw Bae Abertawe, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Stiwdios y Bae a chynlluniau Prifysgol y Drindod Dewi Sant am gampws newydd y glannau yn SA1. Gallwch ddweud eich dweud yn www.abertawe.gov.uk/c ynllunfforddfabian

Mynegi barn am lifogydd MAE preswylwyr wedi bod yn dweud eu dweud ar gynllun dinas gyfan i fynd i'r afael â llifogydd. Mae Cyngor Abertawe wedi llunio Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd sy'n pennu amrywiaeth eang o gamau gweithredu i amddiffyn cymunedau yn erbyn llifogydd. Mae'r cynllun yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009, a luniwyd ar ôl llifogydd mewn rhannau o'r DU yn 2007. Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Rhagfyr a chaiff yr adborth ei ystyried gan y cyngor a phartneriaid eraill fel Cyfoeth Naturiol Cymru.

Blodau gwyllt yn dychwelyd MAE eich adborth ar ein menter blodau gwyllt wedi bod mor gadarnhaol y byddwn yn dod â hwy yn ôl eleni. Derbyniodd y cyngor gannoedd o sylwadau canmoliaethus am y prosiect, a roddodd gyfoeth o liw i barciau, ymylon ffyrdd a thiroedd gwag eraill yr haf diwethaf. Bydd preswylwyr yn cael eu cyfle i wneud yr un peth ar eu darnau eu hunain o dir am y bydd pecynnau o Hadau Cymysg Abertawe ar gael yn y Gerddi Botaneg o ddiwedd mis Mawrth.

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Ionawr 2016

‘Mae hi fel cael ffrindiau yn y tŷ i’n helpu’ NI waeth pa mor anodd y bydd pethau, mae John Britton am wneud yr hyn sydd orau i'w wraig annwyl, Valerie. Mae'n gwybod mai bod gartref gyda'i gilydd yw'r hyn sy'n eu cynnal drwy'r holl heriau y maent yn eu hwynebu. Diolch i wasanaeth arloesol a ddarperir gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd PABM, mae'r pâr, sydd wedi bod yn briod ers mwy na 32 o flynyddoedd, bellach yn cael y gefnogaeth y mae ei hangen arnynt i barhau i fyw'n hapus gyda'i gilydd gartref. Newidiodd bywyd priodasol hapus John a Valerie am byth 15 mlynedd yn ôl pan gafwyd bod tiwmor ar ymennydd Valerie. Ers hynny, mae afiechyd a chymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth ar ei chlun wedi'i gadael gydag anghenion cymhleth. Ni all hi gerdded, siarad na bwyta bellach, felly mae'n dibynnu ar ei gŵr 73 oed, sy'n darparu gofal gwych ond mae angen cefnogaeth arno ef hefyd. Diolch i Rwydwaith Integredig Hwb Gorllewin Abertawe, sy'n ymweld â hwy bedair gwaith y dydd, mae e'n cael y gefnogaeth arbenigol honno i ofalu am Valerie ac amser gorffwys allweddol i'w alluogi i aros yn iach a pharhau i roi gofal. Meddai'r Cyng. Jane Harris, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn, "Rydym wedi bod yn gwrando ar breswylwyr, gofalwyr a staff mewn gofal cymdeithasol, iechyd a'r sector gwirfoddol i ddatblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy i bobl hŷn sy'n diwallu eu hanghenion yn well. "Mae'r gwasanaeth hwn yn enghraifft o sut gall dewis arall brofi'n well i bawb na gofal preswyl traddodiadol. Meddai John, "Mae'r tîm wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar ein bywydau, gan alluogi Valerie i fod gartref gyda fi lle mae hi hapusaf a newid ein bywydau er gwell. "Cyn hyn, roedd yn teimlo fel bod fy nghartref yn llawn hyd at 40 o ddieithriaid gwahanol o un wythnos i'r nesaf ac roedd gorfod sôn am bopeth gyda hwy bob tro'n llafurus iawn. "Bellach, mae gennym dîm rheolaidd sydd fel ffrindiau i'r ddau ohonom."

• GOFALGAR: John a'r tîm Rhwydwaith Integredig, sy'n ei alluogi ef a'i wraig, Valerie, i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain. Meddai Alison Ransome, Rheolwr Rhwydwaith Integredig Hwb y Gorllewin, "Mae cydleoli timau'n golygu y gall darparwyr gofal o sefydliadau gwahanol rannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn haws. "Mae dod â thimau'n agosach yn gwella perthnasoedd gwaith, yn torri trwy rwystrau canfyddedig ac yn darparu profiad gofal didor ac effeithlon ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.

beth rydym yn ei wneud

Gwnaethon ni

Dywedoch chi

Gofynnon ni

6

NOD y tîm Rhwydwaith Integredig yw galluogi staff ag amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd i gyfathrebu a gweithio gyda'i gilydd yn well i ddarparu gwasanaeth mwy effeithiol, cydlynol. Mae tri hwb wedi'u sefydlu bellach yng ngogledd, gorllewin a chanol Abertawe ac ym mhob un ohonynt mae tîm eang o staff iechyd a gofal cymdeithasol gwahanol sy'n ymgymryd â therapi, nyrsio, gwaith cymdeithasol, gofal yn y cartref a gwaith gweinyddol. Mae'r cynllun yn rhan o agenda integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ac mae wedi'i ariannu gan Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru. Gallwch gael mwy o wybodaeth am raglen Bae'r Gorllewin drwy fynd i www.westernbay.org.uk/?lang=cy

‘Rydym yn cadw pobl ddiamddiffyn yn ddiogel’ MAE gwasanaethau cymdeithasol o safon sy'n denu sylw arbenigwyr ledled y byd yn cadw pobl ddiamddiffyn yn ddiogel ac yn helpu i arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn. Mae menter ‘Arwyddion Diogelwch’ arloesol y cyngor, sy'n anelu at gadw plant yn ddiogel a'u hatal rhag bod angen derbyn gofal gan y cyngor, yn talu ar ei chanfed i blant a'u teuluoedd. O ganlyniad i'w llwyddiant, mae arbenigwyr o bedwar ban byd yn ceisio dysgu o ddulliau Abertawe. Roedd ‘Arwyddion Diogelwch’ yn un o uchafbwyntiau adroddiad blynyddol Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n ymchwilio i berfformiad gwasanaethau i blant, oedolion diamddiffyn, a phobl fregus ac oedrannus.

Uchafbwynt arall yw'r cynnydd sy'n cael ei wneud i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol i oedolion, lle mae'r cyngor yn rhoi ymagwedd at ofal sy'n seiliedig ar gryfderau ar waith; mae hyn yn cefnogi preswylwyr hŷn i fyw bywydau diogel ac annibynnol yn eu cartrefi am gyhyd ag y bo modd. Dywedodd David Howes, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, ei fod hefyd yn arbennig o falch o'r ffordd yr oedd staff ar draws y cyngor a chynghorwyr yn ymrwymo i fod yn rhan o'r stori ddiogelu. Meddai, "Cawsom ein rhoi ar y rhestr fer am wobr bwysig yn y DU oherwydd rydym wedi cymryd ymagwedd cyngor cyfan at ddiogelu. Rydym yn credu mai gwaith pawb yn y cyngor yw cadw ein plant a'n hoedolion

diamddiffyn yn ddiogel ac mae hynny'n cael effaith gadarnhaol iawn ar ein hymagwedd at ofal." Meddai Mr Howes, "Nod Arwyddion Diogelwch yw cael cymunedau i weithio gyda'i gilydd i nodi plant diamddiffyn yn gynnar iawn er mwyn i ni allu gweithio gyda theuluoedd, plant, iechyd, addysg a sefydliadau eraill i fynd i'r afael â phroblemau cyn iddynt fod mor ddifrifol y bydd yn rhaid i ni ystyried mynd â phlant i ofal. "Nid yw Arwyddion Diogelwch yn ddewis hawdd oherwydd ei fod yn gofyn am sgiliau, ymroddiad a llawer iawn o waith tîm. Mae plant a'u teuluoedd yn cael dweud eu dweud ar yr hyn sy'n digwydd a'r hyn y mae ein gweithwyr cymdeithasol yn ei weld yn aml yw teuluoedd yn cael eu trawsnewid a phlant yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial."


Ionawr 2016

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Ymwelwyr yn cefnogi’r ymgyrch biniau Mae ymgyrch #AbertaweDaclus i annog pobl i roi bwyd i’r bin ac nid i’r adar wedi'i datgan yn llwyddiant. Cefnogodd busnesau, siopwyr a phreswylwyr ymdrechion y cyngor i annog pobl i beidio â thaflu bwyd gwastraff i'w gasglu gan wylanod a cholomennod. Er y bydd yr ymgyrch i annog pobl i beidio â bwydo'r adar mewn mannau cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn parhau, dywedodd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, fod y fenter yn taro'r targed.

dodrefn stryd yn unig. Yn benodol, clywsom straeon am wylanod yn ymosod ar bobl am eu bwyd oherwydd nad oedd ofn arnynt bellach. "Bwriad ein hymgyrch 'bwyd i'r bin, nid i'r adar' oedd amlygu'r broblem a chreu testun trafod er mwyn i bobl fod yn fwy ymwybodol Meddai, "Cawsom gryn adborth o'r problemau. Y nod cyffredinol yw cadarnhaol a chefnogaeth am fod pobl creu amgylchedd mwy taclus a yn cydnabod bod gwylanod a chroesawgar. cholomennod yn niwsans. Nid oedd y Cafodd yr ymgyrch ei chefnogi gan broblem yn ymwneud â baw adar yn BID Abertawe a'i phrif weithredwr, difrodi palmentydd, adeiladau a Russell Greenslade, ac meddai, "Mae

gennym lawer o fusnesau bwyd yng nghanol y ddinas ac mae adborth gan fusnesau wedi nodi bod bwydo'r adar yn creu nifer o broblemau iddynt hwy ac i'w cwsmeriaid, megis adar yn dwyn bwyd.” Mae'r cyngor yn gwario mwy na £2m y flwyddyn yn glanhau ar ôl pobl sy'n gollwng sbwriel neu sy'n tipio'n anghyfreithlon yn eu cymunedau. Gall taflu sbwriel, sy'n cynnwys bwydo gwastraff bwyd i adar mewn ardaloedd cyhoeddus, arwain at hysbysiad o gosb benodol o £75.

Preswylwyr yn gwneud y mwyaf o ymgyrch ailgylchu’r ddinas Mae preswylwyr yn helpu i wthio'r ddinas tuag at darged allweddol y mae angen ei gyrraedd erbyn mis Ebrill eleni. Mae angen i bob cyngor yng Nghymru ailgylchu 58% o'i wastraff cartref fel rhan o'r ymdrechion parhaus i leihau swm y gwastraff y mae cynghorau'n ei anfon i safleoedd tirlenwi. Mae'r cyngor wrthi'n creu ffyrdd blaengar o wella cyfraddau ailgylchu, gan gynnwys ei Siop Gornel hynod boblogaidd yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet. Yno gall preswylwyr brynu pob math o nwyddau sydd wedi'u hailgylchu, a hynny am brisiau gostyngol. Mae’r holl eitemau wedi'u rhoi neu'u harbed rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, "Mae preswylwyr wedi bod yn chwarae eu rhan wrth wella cyfraddau ailgylchu drwy ddefnyddio ein gwasanaethau a chefnogi mentrau fel y Siop Gornel. Mae'n bwysig ein bod yn parhau â hyn, ac mae'n allweddol bod preswylwyr yn sicrhau eu bod yn ailgylchu eu gwastraff yn hytrach na'i roi mewn sachau du. "Mae ein timau ailgylchu hefyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod preswylwyr yn ymwybodol o'r gwasanaethau gwahanol rydym yn eu darparu, drwy barhau i guro ar ddrysau er mwyn cynnig cyngor ar ailgylchu mwy llwyddiannus. Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Mae cyflwyno terfynau ar sachau du wedi cael effaith gadarnhaol ar y ddinas. Bron o'r diwrnod cyntaf rydym wedi monitro gostyngiad sylweddol yn nifer y sachau du sy'n

Arwain

Abertawe

7

Crynodeb o’r

newyddion Hwb i ardal gadwraeth enwog Bydd cadwraeth yn Uplands a Ffynone yn derbyn hwb ar ôl adolygiad o'r ardal gadwraeth. Mae'r adolygiad yn cynnwys arfarniad cymeriad a chynllun rheoli â'r nod o lywio cadwraeth a gwelliant y ddwy gymuned. Bydd yr adolygiad yn mynd gerbron Pwyllgor Cynllunio'r awdurdod i'w fabwysiadu fel canllawiau cynllunio atodol. Mae'r adolygiad wedi canfod ardaloedd y dylid eu cadw neu eu gwella, gan gynnwys Eglwys St James, cysylltiadau'r ardal â Dylan Thomas a mannau gwyrdd megis Parc Cwmdoncyn, Gerddi St James a Pharc Cymunedol Chwarel Rosehill. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys filâu a thai teras ar Heol Ffynone a'r datblygiad rhwng rhyfeloedd yng Nghilgant Hillside.

Plant yn manteisio ar gyfleoedd chwaraeon Mae mwy o blant ysgol yn Abertawe nag erioed yn cymryd rhan mewn chwaraeon, yn ôl arolwg newydd. Dengys arolwg Chwaraeon Cymru 2015 fod 48% o blant ysgol y ddinas wedi 'gwirioni ar chwaraeon' – mae hynny'n 4% yn fwy nag yn 2013. Cynhaliwyd yr arolwg gyda phlant rhwng 7 ac 16 oed yn ysgolion y ddinas. Dengys canlyniadau eraill arolwg 2015 fod 81% o ddisgyblion wedi cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb y tu allan i'r ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf. Dengys yr arolwg hefyd fod gan 78% o ddisgyblion yr hyder i roi cynnig ar weithgareddau newydd.

Hwb i helpu ceir trydan • AMSER AM FARGEN: Mae'r Siop Gornel yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet yn boblogaidd iawn yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn. mynd i safleoedd tirlenwi ac mae'r duedd honno'n parhau o ganlyniad i ymdrechion preswylwyr." Yn fwy diweddar, mae'r cyngor wedi dechrau treialu cynllun casglu plastigion newydd lle mae sachau pinc wedi'u disodli gan fagiau mawr tebyg i'r rhai ar gyfer gwastraff gardd. Mae preswylwyr yn defnyddio'r rhain i gael gwared ar blastigion. Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella'r

Pam mae ailgylchu'n bwysig? Yn ogystal â thargedau ailgylchu cenedlaethol sy'n cynyddu bob blwyddyn, caiff lwfansau tirlenwi cynghorau eu lleihau hefyd. Bydd mynd dros y lwfans penodol yn arwain at ddirwyon ariannol costus ac mae'r cyngor am osgoi hynny. Un o'r camau mwyaf radical fu cyflwyno terfyn ar nifer y sachau du y gall preswylwyr eu rhoi allan i'w casglu, sydd wedi helpu i gynyddu ailgylchu'n llwyddiannus iawn.

gwasanaethau a sicrhau y cawn y prisiau gorau am ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu. Mae'r cynllun

casglu plastigion newydd yn ffordd y gallwn gyflawni hyn."

Cartrefi’r cyngor yn barod am falconïau gwell Bydd dwsinau o gartrefi yn Abertawe yn elwa'n fuan o falconïau gwell. Mae'r cyngor yn dechrau ar gynllun gwella lle caiff balconïau eu hadnewyddu mewn 48 o fflatiau lefel isel ym Mayhill, Treforys a chanol y ddinas. Mae'r gwaith, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, yn dilyn gwelliannau i

falconïau a gyflawnwyd eisoes ym Mlaenymaes. Bydd fflatiau lefel isel ar Stryd Calland, Stryd Davis, Cilgant Glandŵr, Rhes Hosea, Teras Mysydd, Heol Pentretreharne, Heol Siloh, Gerddi Trewyddfa a Pharêd Nicander ymysg y rhai i elwa. Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau'r Genhedlaeth

Nesaf, "Mae llawer o gynlluniau'n mynd rhagddynt i helpu ein stoc tai i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020 ac mae hwn yn un ohonynt. "Ar ôl cwblhau’r cam presennol hwn o adnewyddu balconïau, bydd gwelliannau tebyg eraill yn dilyn yn y dyfodol mewn eiddo ym Mhenlan ac yn Sgeti."

Efallai y bydd mwy o bwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan yn cael eu cyflwyno'n fuan yn Abertawe. Mae Cyngor Abertawe wedi cofrestru diddordeb gyda'r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel i dderbyn y rownd nesaf o arian i helpu i dalu am gostau gosod pwyntiau gwefru ychwanegol mewn trefi a dinasoedd ar draws y DU. Mae eisoes gan y cyngor 11 o geir trydan yn ei gerbydlu. Mae pwyntiau gwefru yn nepos y cyngor ond petai'r cais am arian yn llwyddiannus, gellid gosod mwy yn Abertawe yn y dyfodol.

Hwyl hamdden Bydd Canolfan Hamdden Penlan yn cynnal noson agored i blant ac oedolion nos Lun, 18 Ionawr, o 3.30pm. Bydd amrywiaeth o weithgareddau am ddim; gan fod y digwyddiad yn boblogaidd iawn bob amser, byddai'n werth cadw lle'n gynnar ar (01792) 588079.


8

Arwain Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Abertawe

Ionawr 2016

Timau trwsio’r ffordd yn barod am her y gaeaf Er gwaethaf tywydd diflas y gaeaf, bydd timau o staff arbenigol Cyngor Abertawe'n parhau i wynebu'r gwynt a’r glaw dros y misoedd nesaf i gadw'r ddinas i symud. Bydd gweithwyr ymroddedig hwnt ac yma ym mhob tywydd, yn archwilio rhwydwaith ffyrdd Abertawe, yn trefnu atgyweiriadau yn ôl blaenoriaeth ac yn dadflocio cwlferi i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd pan fo glaw trwm. Mae eu gwaith yn ychwanegol at y

Pam mae ein gwasanaeth priffyrdd yn bwysig? MAE’R prosiect PATCH (Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol) yn treulio wythnos ddwys ym mhob un o 32 ward etholiadol y ddinas bob blwyddyn. Mae canol y ddinas, Townhill, Treforys, Bonymaen, Cwmbwrla, Mynydd-bach, Gŵyr, Sgeti, Penlan, Gorseinon,

Pontarddulais, Clydach, Mawr, Casllwchwr, St Thomas ac Ystumllwynarth ymysg yr ardaloedd i fanteisio ar hyn. Adroddwch am faterion priffyrdd yn www.abertawe.gov.uk/problemau priffyrdd neu ffoniwch 0800 132081.

6,000 o dyllau ffyrdd ac atgyweiriadau ffyrdd eraill a wnaed ar draws y ddinas y llynedd, a gyfrannodd at astudiaeth Uned Ddata Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru a ganfu fod ffyrdd

Abertawe'r ail orau o ran cynnal a chadw ar draws holl ardaloedd cynghorau Cymru. "Mae Cyngor Abertawe, fel awdurdodau lleol eraill yng Nghymru

ac ymhellach i ffwrdd, yn wynebu toriadau cyllidebol digynsail," meddai'r Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant. "Mae tywydd oer a gwlyb adeg hon y flwyddyn, ynghyd â swm y traffig y dyddiau hyn, yn golygu yn naturiol y bydd effaith ar ein ffyrdd. Nid yw'n wahanol yn Abertawe i unrhyw ran arall o'r DU, ond gallwn sicrhau preswylwyr y byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r atgyweiriadau y mae angen eu gwneud. Gwneir atgyweiriadau brys o fewn 24 awr a

bydd ein prosiect PATCH yn dychwelyd o fis Ebrill tan ddiwedd y flwyddyn." Meddai'r Cyng. Hopkins, "Bu'r prosiect PATCH yn llwyddiant enfawr ers ei ddechrau flynyddoedd yn ôl oherwydd bydd pob cymuned yn cael sylw ac adnoddau. "Er ein bod yn gwneud ein gorau glas, ni all ein staff fod ym mhob man ar unwaith, felly rwy'n gofyn i'r cyhoedd wneud eu rhan hefyd. Fel cyngor, mae gennym rwydwaith ffyrdd sy'n 1,100km - sydd gyfwerth â thaith mewn car o Abertawe i Aberdeen.

Lansio ymgyrch nofio mewn pwll Mae cynlluniau uchelgeisiol i gael pob plentyn i nofio'n hyderus cyn iddo adael yr ysgol gynradd wedi'u lansio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Bydd 'Dysgu Nofio Cymru' yn annog miloedd o bobl ifanc i fynd i'w pwll nofio lleol ac meddai Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, "Rydym yn falch o gael cymryd rhan yn y rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol hon sydd â'r potensial i drawsnewid bywydau mewn cynifer o ffyrdd. "Yn gyntaf mae'n ymwneud â diogelwch ac rwy'n hapus i weld mai prif flaenoriaeth Dysgu Nofio Cymru yw dysgu plant am ddiogelwch dŵr. "Ac os bydd pob plentyn yn dysgu sut i nofio erbyn iddo gyrraedd ei ben-blwydd yn 11 oed, bydd yn datgloi ei botensial a'i frwdfrydedd am nofio a allai arwain at genhedlaeth newydd o fedalyddion y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad. Meddai Mr Cole, "Mae Pwll Nofio Cenedlaethol Cymru'n falch o fod yn gartref i gynifer o fabolgampwyr o'r radd flaenaf, megis Jazz Carlin ac Ellie Simmonds, ond rydym hefyd yr un mor falch o'n henw da fel pwll cymunedol, gan gefnogi pobl o bob oed i fod yn hyderus yn y dŵr ac o'i amgylch. Am y rhesymau hyn, Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yw'r lle perffaith i fabwysiadu'r cynllun Dysgu Nofio Cymru." I gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn PCCA, ewch i www.walesnationalpoolswansea.co.uk • GWAHANIAETH ER GWELL: Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n helpu cenhedlaeth newydd i ddysgu nofio

Hen glipiau’n hynod boblogaidd

Mae miloedd o bobl ym mhedwar ban byd wedi gweld clipiau fideo o orffennol canol dinas Abertawe. Mae'r clipiau hanesyddol, a lanlwythwyd i'r cyfryngau cymdeithasol gan staff Cyngor Abertawe yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, a dynnwyd yn dilyn blitz yr Ail Ryfel Byd, pan ailadeiladwyd darnau helaeth o ganol y ddinas.

Mae'r ffilmiau yn cynnwys Ffordd y Brenin, Marchnad Abertawe a Gerddi'r Castell yn y 1950au a'r 1960au cynnar. Mae clip Ffordd y Brenin yn cynnwys bwyty'r Mayflower, bws deulawr fel a geir yn Llundain a cheir y byddech erbyn hyn eu hystyried yn glasuron. Ewch i @ArchifGorllMor ar Twitter neu ffoniwch 01792 636589 i gael mwy o wybodaeth.

Paratoi ar gyfer ras 10k wych y ddinas Mae bellach yn bosib cofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral y flwyddyn nesaf. Ras 2016, a gynhelir ddydd Sul 18 Medi, fydd y 36ain ras o’i bath. Cyngor Abertawe fydd yn trefnu'r digwyddiad unwaith eto. Ewch i www.10kbaeabertawe.com i gofrestru. Cymerodd dros 4,000 o redwyr ran yn y ras

eleni ychydig dros fis yn ôl. Cwblhaodd y nifer mwyaf o blant y rasys 5k, 3k ac 1k a gynhaliwyd ar yr un prynhawn. Mae’r digwyddiad ymysg y gorau o'i fath yn y DU gan ei fod yn llwybr gwastad gyda Bae Abertawe'n gefndir gwych iddo. Mae'n ffordd wych i redwyr a'r rhai sy'n codi arian dros elusennau gymryd rhan.


Ionawr 2016

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe

Canlyniadau arholiadau o’r radd flaenaf MAE Abertawe wedi cyrraedd y brig drwy helpu mwy o ddisgyblion nag erioed o'r blaen i gael y cymwysterau angenrheidiol i agor drysau i ddyfodol mwy disglair. Mae ystadegau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru'n dangos bod disgyblion Abertawe wedi cyflawni eu canlyniadau TGAU gorau erioed yn 2014/15. Roedd canlyniadau yn Abertawe wedi gwella ar gyfradd sylweddol gyflymach na'r hyn a welwyd yng ngweddill Cymru. Abertawe oedd y gorau o holl

ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru o ran disgyblion yn perfformio'n well na'r lefelau a ddisgwylir gan ddangosyddion Llywodraeth Cymru ar gyfer canran y disgyblion sy'n cyflawni o leiaf 5 TGAU, gradd A* i C, gan gynnwys iaith (Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg) a Mathemateg. Roedd y llwyddiant yn eang, gyda disgyblion o bob rhan o'r sir yn mwynhau llwyddiant ysgubol ac roedd y bwlch rhwng y bechgyn a'r merched wedi lleihau hefyd. Roedd canlyniadau ar gyfer disgyblion a oedd yn hawlio

prydau ysgol am ddim 10% yn well na'r flwyddyn flaenorol. Meddai Jen Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg, "Da iawn wir i'r disgyblion, eu rhieni, ysgolion a thimau'r cyngor sy'n cefnogi ysgolion i gael llwyddiant. "Nid yw meddu ar gymwysterau o'r math a'r radd gywir erioed wedi bod mor bwysig i alluogi pobl ifanc i gael mynediad i addysg uwch a phellach, hyfforddiant, prentisiaethau a gwaith. "Mae safon yr addysg a'r gefnogaeth a roddwyd i ddisgyblion Abertawe, ynghyd â'u gwaith caled eu hunain yn

golygu bod mwy ohonynt wedi cyflawni'r safonau angenrheidiol i ddilyn eu gobeithion gyrfa ac osgoi tlodi. Ychwanegodd, "Yr her rydym yn ei hwynebu nawr yw parhau â'r duedd wella ar gyfer y disgyblion a fydd yn dilyn y cyrsiau hynny yn y blynyddoedd i ddod. "Dyna pam rydym yn gweithio gydag ysgolion, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i wella amgylcheddau ysgolion, herio a chefnogi gwell addysgu a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael i roi'r cyfle gorau i ddisgyblion am lwyddiant."

Disgyblion yn dathlu cyfnod newydd i Dregŵyr MAE cannoedd o ddisgyblion ysgolion cynradd yn nwyrain a gorllewin y ddinas yn profi newidiadau yn y flwyddyn newydd. Mae rhaglen Cyngor Abertawe i wella adeiladau ysgolion, sy'n werth miliynau o bunnoedd, yn dod â disgyblion o Ysgol Gynradd Tregŵyr at ei gilydd ar un safle mewn adeilad cyfoes a luniwyd ar gyfer dysgu yn yr 21ain ganrif. Yn y cyfamser, mae disgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las ar fin gadael eu hen adeiladau a dechrau gwersi ar safle dros dro, er mwyn i waith allu dechrau ar ysgol newydd a adeiladir yn bwrpasol ar eu cyfer. Meddai Susie Ralph, Pennaeth Ysgol Tregŵyr, "Mae llawer o atgofion yn perthyn i adeiladau presennol ein hysgol, ond rydym yn edrych ymlaen at greu atgofion hapus yn ein hysgol newydd well o lawer, un y mae mawr ei hangen. "Bydd yr adeiladau newydd yn ein galluogi i gyflawni cymaint yn fwy mewn amgylchedd dysgu modern, er mwyn i ni allu cefnogi ein plant i gyflawni eu potensial llawn.” Meddai Karen Thomas, Pennaeth Lôn-las, "Rydym yn ddiolchgar i ddisgyblion, rhieni a'r gymuned leol am eu cydweithrediad; mae hyn wedi ein caniatáu i symud i'n cartref dros dro yn gyflym er mwyn galluogi i'r gwaith ddechrau ar ein hadeilad newydd. "Ar ôl gweld yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn rhannau eraill o Abertawe a'r cynlluniau ar gyfer ein hysgol newydd, rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fyddwn yn symud yn ôl i Lansamlet a meddu ar ysgol sy’n addas i'r 21ain ganrif. Mae'r prosiectau'n rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor

Arwain

Abertawe

9

Crynodeb o’r

newyddion Bydd parthau 20mya yn helpu i leihau cyflymder CAIFF cyfyngiadau cyflymder is eu cyflwyno ar ffyrdd ger 18 o ysgolion. Nod y mesurau diogelwch ffyrdd yw darparu amgylchedd mwy diogel i blant sy'n cerdded i'r ysgol ac oddi yno. Caiff cyfyngiadau cyflymder eu gostwng i 20mya ar ddwsinau o strydoedd, a chaiff gwaith ei gwblhau hefyd i gyflwyno llinellau igam ogam ac arwyddion 'cadwch yn glir' i atal ceir rhag parcio'n uniongyrchol y tu allan i rai ysgolion. Mae'r ysgolion sy'n rhan o'r mesurau diogelwch ffyrdd diweddaraf yn cynnwys YGG Pontybrenin, Ysgol Gynradd Waunarlwydd, YGG Gellionnen ac Ysgol Gynradd Gorseinon. Mae'r buddsoddiad o £100,000 yn rhan o waith parhaus y cyngor i greu amgylchedd mwy diogel ger pob ysgol, sydd wedi cynnwys Gendros, Mayals a Phengelli hyd yn hyn.

Dirwyon am barcio ar linellau igam ogam MAE mwy na 500 o fodurwyr wedi cael dirwyon ar ôl parcio ar linellau igam ogam y tu allan i ysgolion yn Abertawe. Daliwyd y ceir gan gerbyd gorfodi parcio Cyngor Abertawe, sy'n goruchwylio ysgolion ar draws y ddinas ac sy'n sicrhau y cedwir ardaloedd cyfyngedig y tu allan i gatiau ysgolion yn glir pan fo plant yn cerdded i'r ysgol ac oddi yno. Lansiwyd y cerbyd gorfodi â chamera gan y cyngor ar ddechrau'r flwyddyn ac mae'n targedu ceir sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon ar linellau igam ogam yr ysgol, croesfannau i gerddwyr, arosfannau bysus neu fannau llwytho'n unig.

Ffilm am yfed yn peri i chi feddwl NODEDIG: Tregŵyr yw'r gymuned ddiweddaraf i elwa o ysgol newydd. Abertawe a'r nod yw buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn gwella cyfleusterau ysgolion ar draws y ddinas. Mae'r rhaglen eisoes wedi disodli a gwella adeiladau yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed ac Ysgol Gyfun Treforys, ac adeiladu ystafelloedd dosbarth newydd yn Newton a Glyncollen. Symudodd disgyblion Ysgol Gynradd Burlais o adeiladau Fictoraidd i ysgol sy’n addas i'r 21ain ganrif ym mis Medi.

Pam mae buddsoddi mewn adeiladau ysgolion yn bwysig? MEDDAI Jen Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg, "Fel cyngor, rydym am gefnogi athrawon a disgyblion i wella eu bywyd. “I rai o'n hysgolion, mae hynny'n golygu gwella adeiladau, ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau i roi'r offer a'r ysbrydoliaeth y mae eu hangen ar staff a disgyblion.

"Dyna pam rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn adeiladau ysgolion er mwyn gwella addysg a chymunedau ar draws y ddinas." "Mae gweld y llawenydd ymhlith disgyblion Ysgol Gynradd Tregŵyr yn ddigon i ddangos y bu'n werth yr ymdrech."

Lefelau presenoldeb yn uwch nag erioed yn ysgolion y ddinas MAE lefelau presenoldeb yn ysgolion Abertawe yn uwch nag erioed, yn ôl y ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru gyfan. Mynychodd bron 95% o ddisgyblion ysgolion cynradd yr ysgol yn rheolaidd o 2014 i 2015 – y ffigur gorau ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion cynradd ers dechrau casglu data.

Abertawe oedd yr awdurdod lleol yng Nghymru a oedd wedi gwella mwyaf o ran presenoldeb mewn ysgolion cynradd o 2014 i 2015. Mae rhieni hefyd wedi'u canmol am ystyried pwysigrwydd anfon eu plentyn i'r ysgol pan fo modd, er mwyn rhoi'r cyfle gorau posib i'w plentyn gael addysg dda a dyfodol

llwyddiannus. Neidiodd safle Abertawe o ran presenoldeb yng Nghymru o 18fed i 11eg – ei safle uchaf ers dechrau casglu data. Roedd presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn 2014/15 yn 94.9% o'i gymharu â 92.9% yn 2010/2011.

MAE disgyblion o Ysgol Gyfun Gellifedw wedi creu ffilm tair munud sy'n amlygu peryglon a chanlyniadau yfed a gyrru. Yn y ffilm, gwelir dau ffrind yn tyfu i fyny gyda'i gilydd tan i drychineb ddigwydd pan maent yn rhan o ddamwain ffordd angheuol ar y cyd â gyrrwr sydd dan ddylanwad alcohol. Enillodd y ffilm wobr o £500 i'r ysgol mewn ymgyrch flynyddol i atal yfed a gyrru a gellir ei chanfod drwy'r ddolen hon: https://www.youtube.com/ watch?v=rrbDgay3KkI

Dinas dysg MAE Abertawe wedi cael ei chydnabod gan UNESCO am ei hymdrechion i hyrwyddo dysgu, ynghyd â dinasoedd megis Beijing a Dinas Mecsico. Amlygwyd astudiaeth achos Dinas-ranbarth Bae Abertawe mewn cyhoeddiad UNESCO o'r enw 'Unlocking the Potential of Urban Communities'.


HYSBYSIADAU CYHOEDDUS CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG RHODFA ABERTAWE HYSBYSIAD: mae’r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 18/01/2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Mae copi o’r gorchymyn a’r cynllun ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI

Heol East Burrows

pwynt hwnnw.

Ochr y Gorllewin: O bwynt 11 metr i’r de i bwynt 49 metr i’r de o linell balmant ddeheuol Somerset Place, sef pellter o 38 metr.

GOLWG HAFREN

ATODLEN 5 AROS YN GYFYNGEDIG I 3 AWR, DIM DYCHWELYD O FEWN 3 AWR, AC EITHRIO DEILIAID TRWYDDEDAU, LLUN-SADWRN 8AM - 6PM. Gloucester Place Ochr y Gogledd-orllewin: O’i gyffordd â llinell balmant ddeheuol Somerset Place am bellter o 7 metr i gyfeiriad y de-orllewin Cambrian Place Ochr y de: O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Gloucester Place am bellter o 13 metr i gyfeiriad y gorllewin

ATODLEN 1

Stryd y Pier

DIDDYMIADAU

Ochr y Gogledd: O bwynt 26 metr i’r dwyrain i bwynt 63 metr i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Stryd Adelaide, am bellter o 37 metr.

Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy’n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 PARTH A REOLIR - GWAHARDD AROS, DIM LLWYTHO/DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG SOMERSET PLACE – Ar ei hyd cyfan Ferry Side Ochr y Gorllewin: O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Somerset Place am bellter o 11 metr i gyfeiriad y gogledd. Ochr y Dwyrain: O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Somerset Place am bellter o 14 metr i gyfeiriad y gogledd. Heol East Burrows Ochr y Gorllewin: O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Somerset Place am bellter o 11 metr i gyfeiriad y de. Ochr y Dwyrain: O ymyl deheuol y llwybr troed o Somerset Place i’r Hwylbont, am bellter o 7 metr i gyfeiriad y de. Ffordd Fynediad o Somerset Place (i Sainsbury’s) Ochr y Gorllewin: O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Somerset Place am bellter o 9 metr i gyfeiriad y gogledd. Ochr y Dwyrain: O ymyl deheuol y llwybr troed o Somerset Place i’r Hwylbont, am bellter o 16 metr i gyfeiriad y gogledd. Stryd y Pier Ochr y de: O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Stryd Adelaide i’w chyffordd â llinell balmant ogleddol Llys Jernegan. O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Llys Jernegan am bellter o 6 metr i gyfeiriad y gorllewin. Ochr y Gogledd: O bwynt 63 metr i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Stryd Adelaide am bellter o 17 metr i gyfeiriad y dwyrain ac yna 5 metr arall i gyfeiriad y de. (Er eglurder: mae hyn yn cynnwys y ffordd bengaead yn ei chyfanrwydd) ATODLEN 3 LLWYTHO YN UNIG AR UNRHYW ADEG Stryd y Pier Ochr y Gogledd: O bwynt 11 metr i’r dwyrain i bwynt 26 metr i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Stryd Adelaide, am bellter o 15 metr. ATODLEN 4 AROS YN GYFYNGEDIG I 2 AWR, DIM DYCHWELYD O FEWN 4 AWR, LLUN – SADWRN 8am – 6pm

Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG Y BRYN, GOLWG HAFREN A RHYD YR HELYG, DERWEN FAWR HYSBYSIAD: mae’r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 18/01/2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Mae copi o’r gorchymyn a’r cynllun ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodir yn yr atodlen isod ac i’r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd/ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlen isod. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS DYDD LLUN DDYDD GWENER 10AM – 12PM A 2PM 4PM Y BRYN Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 136 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno. Ochr y Gorllewin O bwynt 136 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 259 metr i’r gogledd o’r pwynt hwnnw. Ochr y de O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 136 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno. Ochr y Dwyrain O bwynt 136 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Derwen Fawr i bwynt 178 metr i’r gogledd o’r

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon

Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Y Bryn i bwynt 120 metr i’r dwyrain yna i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, gan gynnwys y pen morthwyl ar y pen gogleddol. RHYD YR HELYG Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol y Bryn i bwynt 260 metr i’r gorllewin yna i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, gan gynnwys y cylch troi ar y pen gogleddol. Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 WARDIAU GOGLEDD A DE CILÂ, ABERTAWE HYSBYSIAD: mae’r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 18/01/2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Mae copi o’r gorchymyn a’r cynllun ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i’r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd yr heol neu’r heolydd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS, LLWYTHO A DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG HEOL GOETRE FACH Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol yr A4118 Heol Gŵyr i bwynt 31 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. HEOL GŴYR Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Goetre Fach i bwynt 20 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. HEOL GOETRE FAWR Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Heol Goetre Fach i bwynt 67 metr o’r man hwnnw. CLOS COWPER Ochr y De O’i chyffordd â llinell balmant ogleddddwyreiniol Ffordd Taliesin i bwynt 17 metr i’r gogledd-ddwyrain o’r man hwnnw. FFORDD TALIESIN

ogleddol Heol Dyfnant. HEOL DYFNANT Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Ffordd Taliesin i bwynt 34 metr i’r gorllewin o’r man hwnnw. ATODLEN 3 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL GOETRE FACH Ochr y Dwyrain Rhwng pwyntiau 31 metr i’r gogledd a 75 metr i’r gogledd o linell balmant ogleddol yr A4118 Heol Gŵyr. O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Rhodfa Wimmerfield i bwynt 12 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Rhodfa Wimmerfield i bwynt 15 metr i’r de o’r man hwnnw. RHODFA WIMMERFIELD Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Goetre Fach i bwynt 30 metr i’r dwyrain o’r man hwnnw. Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Fairy Grove i bwynt 14 metr i’r dwyrain o’r man hwnnw. O’i chyffordd â llinell balmant orllewinol Fairy Grove i bwynt 60 metr i’r gorllewin o’r man hwnnw. RHODFA WOODSIDE Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol yr A4118, Heol Gŵyr i bwynt 15 metr i’r dwyrain o’r man hwnnw. HEOL GŴYR Ochr y Dwyrain O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Rhodfa Woodside i bwynt 7 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Rhodfa Woodside i bwynt 20 metr i’r de o’r man hwnnw. HEOL STEPHENSON Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol yr A4118 Heol Gŵyr i bwynt 27 metr i’r de o’r man hwnnw. HEOL GOETRE FAWR Ochr y Gogledd-orllewin O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Broadmead i bwynt 27 metr i’r deddwyrain o’r man hwnnw FAIRY GROVE (OCHR Y GORLLEWIN) Ochr y Gorllewin O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Rhodfa Wimmerfield i bwynt 49 metr i’r gogledd o’r man hwnnw Ochr y Dwyrain O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Rhodfa Wimmerfield i bwynt 20 metr i’r gogledd o’r man hwnnw FFORDD TALIESIN Ochr y Gorllewin Rhwng pwyntiau 22 metr i’r gogleddddwyrain a 45 metr i’r gogledd-ddwyrain o bwynt gyferbyn â llinell balmant ogleddol Heol Dyfnant, ac sy’n unol â hi ATODLEN 4 GWAHARDD AROS, DYDD LLUN I DDYDD GWENER 8AM-6PM RHODFA WIMMERFIELD

Ochr y Dwyrain O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Clos Cowper i’w chyffordd â llinell balmant

Parhad ar y dudalen nesaf


HYSBYSIADAU CYHOEDDUS Ochr y Gorllewin O’i chyffordd â llinell balmant ogleddol Keats Grove i bwynt 40 metr i’r gogledd o’r man hwnnw. KEATS GROVE Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell orllewinol Rhodfa Wimmerfield i bwynt 10 metr i’r gorllewin o’r man hwnnw. ATODLEN 5 MAN PARCIO I BOBL ANABL HEOL GOETRE FACH Ochr y Gorllewin Rhwng pwyntiau 31 metr i’r gogledd a 47 metr i’r gogledd o linell balmant ogleddol yr A4118 Heol Gŵyr. ATODLEN 6 AROS CYFYNGEDIG 2 AWR DIM DYCHWELYD O FEWN 3 AWR HEOL GOETRE FACH Ochr y Gorllewin Rhwng pwyntiau 47 metr i’r gogledd a 60 metr i’r gogledd o linell balmant ogleddol yr A4118 Heol Gŵyr Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2016 HEOL CASTELL-NEDD, YR HAFOD A’R STRYDOEDD CYFAGOS HYSBYSIAD: mae’r cyngor wedi gwneud y gorchymyn uchod o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a’r holl bwerau galluogi eraill. Bydd y gorchymyn ar waith o 18/01/2016, fel a nodir yn yr atodlenni isod. Mae copi o’r gorchymyn a’r cynllun ar gael i’w harchwilio yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Gall unrhyw berson sy’n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn neu’r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth wneud y gorchymyn hwn wneud cais i’r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLENNI Heol Castell-Nedd, yr Hafod a’r strydoedd cyfagos ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy’n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 CYFYNGIAD PWYSAU 7.5 TUNNELL (AC EITHRIO MYNEDIAD) B4603 Heol Castell-nedd O gylchfan Heol Normandy i’r A483/y B4489 Heol New Cut. Heol Pentremawr o’r B4603 Heol Castellnedd i Heol Llangyfelach – ar ei hyd cyfan. Ar eu hyd cyfan Stryd Vivian, Stryd Bowen, Stryd Graham, Stryd Glyn, Stryd Morgan, Stryd Monger, Stryd Aberdyberthi, Stryd Villiers, Stryd Jersey, Stryd Earl, Stryd Grandison, Stryd Maliphant, Rhodfa Tawe, Lôn Philadelphia, Stryd Odo, Stryd Gerald a Pharc yr Hafod. Dyddiad: 11/01/2016

Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2016 TERAS CARLTON A MOUNT PLEASANT HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau drostynt i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 30 Ionawr 2016 gan ddyfynnu cyfeirnod DVT00213163/RDC. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy’n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS, DIM LLWYTHO/DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG TERAS CARLTON Ochr y De-ddwyrain O’i gyffordd â llinell balmant dde-orllewinol Stryd Cradock am bellter o 25 metr i gyfeiriad y de-orllewin ATODLEN 3 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG MOUNT PLEASANT Ochr y Gorllewin Am bellter o 5 metr i bwynt 25 metr i’r gogledd o linell ymyl ogleddol Heathfield. Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2016 HEOL FACH HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau drostynt i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 30 Ionawr 2016 gan ddyfynnu cyfeirnod DVT00213165/RDC. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon

Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy’n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL FACH Ochr y Gogledd O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Llangyfelach am bellter o 37 metr i gyfeiriad y dwyrain Ochr y De O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol Llangyfelach i’w chyffordd â llinell balmant orllewinol y ffordd fynediad rhwng Heol Fach a Heol Llangyfelach O’i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol y ffordd fynediad rhwng Heol Fach a Heol Llangyfelach am bellter o 25 metr i gyfeiriad y dwyrain Y FFORDD FYNEDIAD RHWNG HEOL FACH A HEOL LLANGYFELACH Ochr y Gorllewin O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Heol Fach am bellter o 5 metr i gyfeiriad y de Ochr y Dwyrain O’i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Heol Fach am bellter o 8 metr i gyfeiriad y de Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2016 PARTH CYFYNGIAD CYFLYMDER 20 MYA A CHAMAU ARAFU TRAFFIG HEOL GLANYMOR, HEOL Y BWLCH A HEOL GWYNFE WARD LLWCHWR UCHAF HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion yn ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau drostynt i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod yn y cyfeiriad uchod erbyn 30 Ionawr 2016 gan ddyfynnu cyfeirnod DVT00213165/RDC. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Mae’r gorchymyn hwn yn diddymu pob gorchymyn blaenorol o ran hyd neu hydoedd y strydoedd y cyfeirir atynt yn hyn. ATODLEN 2 PARTH TERFYN CYFLYMDER 20 MYA HEOL GLANYMOR Ar ei hyd cyfan HEOL Y BWLCH Ar ei hyd cyfan HEOL GWYNFE O Heol y Bwlch am bellter o 650 metr

ATODLEN 3 Cynigir cyflwyno cyfres o gamau arafu traffig ar ffurf twmpathau cyflymder ar draws y ffordd gerbydau; cyflwynir y camau hyn ar hyd Heol Glanymor, yn unol â Rheoliadau Priffyrdd (Twmpathau Ffordd) 1999. Byddant yn y lleoliadau a ganlyn:– HEOL GLANYMOR - TWMPATHAU CYFLYMDER • Ar bwynt 68 metr i’r de o ymyl balmant ddeheuol Heol y Bwlch. • Ar bwynt 140 metr i’r de o ymyl balmant ddeheuol Heol y Bwlch. Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG STRYD LEE A STRYD YR YSGOL WARD ST THOMAS HYSBYSIAD 2016 HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd), y disgrifir ei effaith yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a chynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig, gan amlinellu’r rhesymau drostynt, i gyrraedd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN 30.1.2016 gan ddyfynnu’r cyfeirnod DVT00193678/MAW. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodwyd yn yr atodlenni isod sy’n ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 DEILIAID BATHODYN I’R ANABL AR UNRHYW ADEG STRYD LEE (y tu allan i rif 2) Ochr y Dwyrain O bwynt 35 metr i’r gogledd o’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Heol Port Tenant i bwynt 7 metr i’r gogledd o’r pwynt hwnnw. STRYD YR YSGOL (y tu allan i rif 94) Ochr y De O bwynt 1 metr i’r dwyrain o’i chyffordd ag ochr ddwyreiniol y lôn fynedfa i faes parcio meddygfa’r meddygon teulu am bellter o 7 metr i’r dwyrain o’r pwynt hwnnw. Dyddiedig: 11/01/2016 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.