Arwain Abertawe Mawrth 2015

Page 1

Arwain Abertawe Rhifyn 96

Mawrth 2015 tu mewn

Papur newydd Dinas a Sir Abertawe

eich dinas: eich papur

Canol y Ddinas Cynlluniau adfywio yn cael canmoliaeth gan ddatblygwyr

a hefyd

tudalen 7

Sioe awyr • DYSGU FEL TEULU Bydd Ryan ac Andrea Smith yn treulio prynhawn ddydd Mercher yn gweithio gyda'i gilydd yn yr ysgol gyda chefnogaeth gwasanaeth Dysgu fel Teulu'r cyngor. Mwy o wybodaeth ar dudalen 11.

Sioe awyr yn dychwelyd i’r ddinas dros yr haf

Llun gan Jason Rogers

MAE Cyngor Abertawe yn bwriadu gwario miliynau o bunnoedd yr wythnos yn cefnogi cymunedau lleol, gan roi blaenoriaeth resymol i ysgolion a gofal cymdeithasol. Bydd y cyngor yn gwario tua £1.5m y dydd yn diogelu pobl ddiamddiffyn, yn cefnogi cyrhaeddiad disgyblion ac yn mynd i'r afael â thlodi i hyrwyddo economi leol a chymunedau cynaliadwy. Bydd dros £127m yn cael ei wario yn ein hysgolion, £105m ar ofal cymdeithasol yn ogystal â £52.5m ar wasanaethau megis llyfrgelloedd, canolfannau hammden, parciau, strydoedd a thoiledau. Ar ben hynny, mae miliynau mwy o bunnoedd wedi cael eu clustnodi ar gyfer gwelliannau i dai cyngor ac adeiladau ysgol newydd. Dywedodd Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau

gwybodaeth

Miliynau i gefnogi blaenoriaethau rheng flaen CYNHALIWYD ymgynghoriad ar raglen Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol a chynigion cyllideb penodol dros bedwar mis ac roedd yn cynnwys 10 sioe deithiol i staff, 15 sgwrs gymunedol a 5 digwyddiad dros dro ym Marchnad Abertawe, archfarchnadoedd a'r Ganolfan Ddinesig. Dosbarthwyd miloedd o lyfrynnau ymgynghori i dros 60 o lyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol. Denodd y cyfryngau cymdeithasol ac ymgyrch ar y we lawer o sylw gan filoedd o bobl. Hefyd cynhaliwyd 'Sgwrs Fawr' ar gyfer pobl ifanc, cyfarfodydd ag undebau llafur ac ymgynghoriad â phenaethiaid ysgolion. Ymatebodd 16 ysgol yn unigol hefyd. Ceir manylion llawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn www.abertawe.gov.uk/democratiaeth Hefyd ceir mwy o wybodaeth ar dudalen 4 a 5.

Corfforaethol, fod y cyngor yn ymdrechu i fod yn gallach, yn fwy effeithiol ac effeithlon wrth iddo geisio arbed o leiaf £81m o'i gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Dywedodd fod cymaint o'r gyllideb flynyddol â phosib yn cael ei wario ar flaenoriaethau rheng flaen a nodwyd gan drigolion Abertawe. Meddai, "Rydym wedi bod yn parhau i drafod rhaglen Abertawe

Gynaliadwy – Yn Addas i'r Dyfodol y cyngor â phreswylwyr, grwpiau a sefydliadau lleol dros y misoedd diwethaf. "Gwnaethom ofyn am farn pobl, cawsom sylwadau ganddynt ac mae'r cyngor wedi ymateb i'w syniadau a'u hawgrymiadau." Mae cynigion sydd wedi newid o ganlyniad i ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd dros bedwar mis yn

cynnwys y penderfyniad i beidio â chodi tâl i breswylwyr barcio. Mae adborth hefyd wedi sbarduno penderfyniad i ddatblygu adolygiadau ehangach o feysydd megis gofal cymdeithasol i oedolion, casglu gwastraff, toiledau cyhoeddus a threfniadau parcio ceir. Mae'r cyngor eisoes wedi arbed miliynau ar gostau rheoli dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys lleihau nifer y cyfarwyddwyr o saith i bedwar. Mae'r cyngor hefyd yn ymdrechu i symleiddio gwasanaethau gweinyddol, cyflwyno ffyrdd callach o weithio a lleihau gorbenion drwy fuddsoddi mwy mewn technoleg ddigidol. Mae hefyd yn ystyried gwerthu asedau, gan gynnwys adeiladau nad oes eu hangen arno bellach, buddsoddi'r gweddill i gefnogi gwasanaethau yn ogystal â lleihau mwy ar gostau.

tudalen 3

Gŵyr Gwyllt Ap am ddim i'ch arwain o gwmpas Penrhyn Gŵyr tudalen 9

Cyfle i ennill gwobrau am ailgylchu tudalen 11


Arwain

Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040

am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2015

Clod mawr gan ymwelwyr am farchnad eiconig

Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc 0800 132081 Materion eraill yn ymwneud â phriffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Archwillo Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600

Cysylltwch ag Arwain Abertawe I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092 Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe

I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733

MAE marchnad dan do ragorol ein dinas yn cael ei gweddnewid ar gyfer yr 21ain ganrif i'w helpu i fynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd sy'n dod. Mae craen enfawr 35 metr o uchder yn cael ei ddefnyddio hefyd i helpu gyda'r gwaith £1.9m i adnewyddu to eiconig y farchnad yn llwyr. Y to yw'r diweddaraf mewn cyfres hir o lwyddiannau i'r farchnad dirnod sydd newydd gael ei phleidleisio'n farchnad dan do orau Prydain. Mae'n dilyn rhaglen ddogfen 'pryf ar y pared' pedair rhan a ddarlledwyd gan y BBC gan ddangos ei chymeriadau a'i hatyniadau, a denu cenhedlaeth newydd o edmygwyr o

Joio

Abertawe

y Gwanwyn hwn

MAE’R wefan deithio TripAdvisor yn rhestru Marchnad Abertawe fel atyniad siopa orau'r ddinas gyda bron pob ymwelydd yn ei sgorio'n rhagorol neu'n dda iawn. Meddai un ymwelydd, “Roedd yn hyfryd ei gweld mor brysur a ffyniannus. Roedd golwg y stondinau bwyd yn arbennig o ddeniadol, gyda phopeth yn edrych yn ffres ac yn flasus iawn.” Ychwanegodd un arall, “Rwyf yn y farchnad wrth ysgrifennu'r adolygiad hwn yn cael dysgled neis o de. Mae ganddi bob math o stondin y gallwch feddwl amdani. Gallwn dreulio oriau yma...mae'r lle hwn yn sicr yn werth ymweld ag ef.”

ganlyniad. Ac ar ben hynny, mae pob un o'r 109 o stondinau'r farchnad wedi cael ei meddiannu - y gyfradd feddiannu uchaf yn y pum mlynedd diwethaf. Meddai John Burns, rheolwr y farchnad, “Yn wir, mae'r misoedd

diwethaf wedi bod yn wych i ni ac roedd ennill y statws ‘Marchnad Orau Prydain’ wedi pwysleisio hyn yn fwy byth. “Y peth pwysig i'w gofio yw bod y farchnad yn gweithredu fel arfer, er gwaethaf yr holl waith i adnewyddu'r lle, a bydd y croeso i siopwyr yr un mor

Mawrth

Ebrill

Perfformiad Cory Dydd Gw ˆ yl Ddewi 1 Mawrth Neuadd Brangwyn 01792 637300

Russell Watson: Up close and personal 10 Mawrth Neuadd Brangwyn 01792 637300

Diwrnod y Llyfr 5 Mawrth Canolfan Dylan Thomas 01792 463980

Gemau’r Chwe Gwlad Yr Eidal v Cymru 21 Mawrth Sgrîn Fawr, Sgwâr y Castell 01792 635423

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 12 Mawrth Neuadd Brangwyn 01792 475715 Gemau’r Chwe Gwlad Cymru v Iwerddon 14 Mawrth Sgrîn Fawr, Sgwâr y Castell 01792 635423

gynnes a chysurus ag erioed.” Dechreuwyd ar waith i adnewyddu to'r farchnad ym mis Ionawr a bwriedir ei gwblhau yn yr haf. Bydd y gwaith yn cynnwys ailwampio'r to fowt faril presennol, adnewyddu'r to a'r talcen gwydr a gwneud gwaith hanfodol i atgyweirio'r to gwastad a llusernau'r to. Bydd mynediad i'r farchnad ac o'i chwmpas yn cael ei gynnal ar bob adeg. Caiff y prosiect £1.9 miliwn ei ariannu gan Gyngor Abertawe a'r Rhaglen Gwella Adeiladau, a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae mwy o wybodaeth yn http://www.swanseaindoormarket.co.uk/?l ang=cy

Antics Anifeiliaid: Y Goedwig Law 31 Mawrth/ 1 & 2 Ebrill Plantasia 01792 474555

Diwrnod y Llyfr Rhyngwladol i Blant 2 Ebrill Dylan Thomas Centre 01792 463980 Gweithdy’r Pasg 2 & 9 Ebrill Amgueddfa Abertawe 01792 653763 Asynnod y Pasg 5 Ebrill Plantasia 01792 474555 Parth Anifeiliaid 7 - 9 Ebrill Plantasia 01792 474555

Am fwy o ddigwyddiadau gwych, ewch i: joiobaeabertawe.com

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC 17 Ebrill Neuadd Brangwyn 01792 635432 Cyngerdd Gala Blynyddol Côr Orffews Treforys 18 Ebrill Neuadd Brangwyn 01792 637300 Artist Preswyl: Jessica Hoad Trwy gydol mis Ebrill Glynn Vivian oddi ar y Safle yn y YMCA Abertawe 01792 516900

joiobaeabertawe.com

Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000

• DOES UNMAN TEBYG: Mae miloedd o ymwelwyr bob dydd yn gwybod eu bod gartref yn y farchnad dan do

rhif un

gwybodaeth

2


Arwain

i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor

Mawrth 2015

3

Marcwyr dyddiadur y cyngor Croeso i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond sylwer efallai na fyddwch yn gallu dod i gyfarfod cyfan neu ran ohono. Mae’r rhestr hon yn gywir wrth fynd i’r wasg ond os ydych chi’n ystyried mynd i gyfarfod, ffoniwch, 01792 636000 ymlaen llaw i wybod y lleoliad a’r amser. Gallwch hefyd gasglu manylion yr agenda ar wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary

9 Mawrth Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau, 2pm 11 Mawrth Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Fusnes a Gweinyddu, 11am

• HEDFAN FRY: Roedd Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain wedi helpu i ddenu bron 200,000 o ymwelwyr i Fae Abertawe yn 2013.

DISGWYLIR i fwy o ymwelwyr nag erioed ddod i ganol dinas Abertawe dros yr haf pan fydd sioe orau'r awyr – sef Sioe Awyr Genedlaethol Cymru – yn dychwelyd i'r ddinas. Daeth bron 200,000 o bobl i Abertawe yn 2013 i weld y jamborî awyr dwyflynyddol a fu'n cynnwys Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain a'r Red Arrows byd-enwog. Nawr disgwylir i arwyr yr awyr ddychwelyd ym mis Gorffennaf am yr hyn sy’n addo bod yn sioe awyr am ddim orau o bell ffordd yn y DU. Meddai Fran Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Pan gafodd ei chynnal

gwybodaeth

Anelu at yr awyr yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru MAE twristiaeth yn un o ddiwydiannau mwyaf Abertawe, gan gyflogi mwy na 5,000 o bobl ac roedd yn werth mwy na £360m i'r economi leol y llynedd. Dros y blynyddoedd diwethaf ac er gwaethaf cyni economaidd, mae Abertawe a Gŵyr wedi bod

yma'r tro diwethaf yn 2013, teithiodd pobl o bob rhan o'r DU i Abertawe er mwyn gwylio rhai o'r campau hedfan mwyaf anhygoel i'w gweld unrhyw le. “Daeth y digwyddiad â thua £8m i'r economi leol ac roedd yn helpu i gadw Abertawe yn sylw twristiaid ac yn annog ymwelwyr i ddod yn ôl. Rwy'n gwybod ei bod yn hynod boblogaidd gyda busnesau twristiaeth a manwerthu canol y ddinas oherwydd eu bod wedi

ar flaen y gad wrth gynyddu'r economi dwristiaeth leol. Yn ôl y ffigurau swyddogol, cyrhaeddodd cyfraddau defnydd gwlâu mewn gwestai ym Mae Abertawe 91% ym mis Gorffennaf a mis Awst y llynedd, gan ragori'n hawdd ar gyfartaledd Cymru.

dweud wrthyf pa mor bwysig i fasnach fydd dychweliad y sioe eleni.” Mae'r rhaglen ar gyfer penwythnos 11 a 12 Gorffennaf yn parhau i gael ei llunio a chaiff manylion eu cyhoeddi cyn gynted â phosib ar gyfer y digwyddiad a fydd yn lansio gwyliau'r haf. Ynghyd â'r Red Arrows a Hedfaniad Brwydr Prydain – a oedd yn cynnwys awyren fomio Lancaster, Hurricane a

Spitfire yn rhuo dros y bae, roedd y sioe yn 2013 hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o berfformwyr awyr megis y Redbull Matadors Aerobatic Team, Breitling Wingwalkers, tîm parasiwtio y Tigers a hofrenyddion Sea King yr RAF. Roedd arddangosiadau daear ar y promenâd yn cynnwys reidiau efelychydd ar gyfer y Red Arrows, awyren jet hyfforddi Hawk ac un ar gyfer Hedfaniad Coffa Brwydr Prydain. Meddai Fran Jenkins, “Hon fydd pedwaredd Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a phob tro mae'n gwella ychydig yn fwy. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau gorau yn Abertawe trwy edrych ar www.gwylbaeabertawe.co.uk

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 5pm 12 Mawrth Pwyllgor Archwilio, 3pm 13 Mawrth Pwyllgor Archifau Gorllewin Morgannwg, 11am 16 Mawrth Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 17 Mawrth Pwyllgor Cynllunio, 2pm Cabinet, 5pm 31 Mawrth Cyngor, 5pm 2 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Gymunedau, 2pm 8 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Fusnes a Gweinyddu, 11am 9 Ebrill Pwyllgor Archwilio, 3pm 10 Ebrill Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 13 Ebrill Pwyllgor Cynghori'r Cabinet ar Wasanaethau, 2pm Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 14 Ebrill Pwyllgor Cynllunio, 2pm Cabinet, 5pm 22 Ebrill Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 5pm 28 Ebrill Cyngor, 5pm

Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.


4

Arwain

Abertawe

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2015

Newyddion y gyllideb.....Newyddion y gyllideb..........

YN ystod y blynyddoedd nesaf, bydd tenantiaid y cyngor yn elwa o fuddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd i geginau, ystafelloedd ymolchi a boeleri yn eu cartrefi. Mae bron £27m wedi cael ei wario ar wella eiddo'r cyngor yn Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae miliynau mwy yn cael ei glustnodi ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â gwelliannau mewnol, mae cynlluniau hefyd

gwybodaeth

Rhaglen adnewyddu sylweddol ar gyfer tai cyngor MAE’R rhaglen o welliannau i stoc dai y cyngor yn seiliedig ar raglen gyfalaf bedair blynedd a fydd yn cyfrannu at nod strategol y cyngor o wella tai a bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Yn ôl SATC, dylai anheddau fod mewn cyflwr da ac yn ddiogel, dylid eu gwresogi'n

wedi cael eu nodi ar gyfer ffenestri, toeau a diogelwch tân mewn cymunedau ar draws y ddinas. Ni fydd prif goffrau'r cyngor yn ariannu unrhyw ran o'r gwaith.

ddigonol a'u hinswleiddio'n dda y dylent fod yn ynnieffeithlon. Dylai cartrefi hefyd gynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern, dylent fod mewn lleoliad deniadol a diogel a dylent fodloni gofynion penodol yr aelwyd.

Ariennir y rhaglen o welliannau drwy Gyfrif Refeniw Tai y cyngor, gan rent a delir gan denantiaid, drwy grant Llywodraeth Cymru a thrwy fenthyca.

Diben y gwaith yw helpu'r awdurdod i weithio tuag at fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae rhai o nodweddion allweddol y rhaglen dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys gwelliannau i fflatiau Dyfaty yng nghanol y ddinas a thai a adeiledir yn ôl system, mewn prosiect gwerth £23.5m. Mae £8m arall wedi cael ei glustnodi ar gyfer ceginau ac ystafelloedd ymolchi, £6.4m ar gyfer diogelu rhag gwynt a thywydd gwael, £2.1m ar gyfer

systemau gwresogi a bron £2.4m ar gyfer prosiectau toi. Meddai Lee Morgan, Pennaeth Tai Cyngor Abertawe, "Mae llawer o waith i'w wneud i adnewyddu tai cyngor dros y blynyddoedd nesaf ac mae'r arian yn cael ei wario a'i flaenoriaethu'n ofalus. "Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yng nghartrefi'r cyngor yn fuddsoddiad pwysig a bydd yn helpu'r cyngor i gyflawni ei flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys adeiladu cymunedau cynaliadwy."

Glynn Vivian wrth wraidd diwylliant y ddinas BYDD dros £3.6m yn cael ei fuddsoddi yn oriel gelf enwog y ddinas, y Glynn Vivian, eleni fel rhan o'i drawsnewidiad parhaus gwerth miliynau o bunnoedd. Mae'r cyfleuster nodedig ar Heol Alexandra wedi bod ar gau er mwyn gwneud y gwaith adnewyddu, ond mae ysbryd y fforiwr a fu'n teithio'r byd, Richard Glynn Vivian, wedi cael ei gynnal drwy sioeau teithiol yr oriel. Ers i'r Glynn Vivian fod ar gau ar gyfer ei adnewyddu, mae miloedd o ymwelwyr wedi mwynhau amrywiaeth eang o sioeau teithiol â'r nod o ddod â stori Richard Glynn Vivian yn fyw ac i arddangos rhai o'r gweithiau celf poblogaidd. Yn ogystal â hyn, fis nesaf bydd plant yn lansio gêm gyfrifiadurol yn seiliedig ar Richard Glynn Vivian y maent wedi bod yn gweithio arni ers sawl mis. Gobeithir cynnal y lansiad yn Sgwâr y Castell ddiwedd mis Ebrill lle bydd ymwelwyr â'r ddinas yn cael cyfle i roi cynnig ar y gêm. Ariennir gwaith adnewyddu'r Glynn Vivian gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Abertawe. Sicrhawyd arian hefyd trwy gynllun grant y Rhaglen Gwella Adeiladau a gynhelir gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Gronfa Datblygu • SEREN ETIFEDDIAETH: Mae'r Glynn Vivian yn eicon diwylliannol poblogaidd iawn yn ein dinas. Rhanbarthol Ewrop.

Hwb i’r gronfa gymunedol MAE’R cyngor wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol yn y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned fel rhan o'i gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd y Gronfa Trawsnewid Gweithredu yn y Gymuned yn cael ei defnyddio i gefnogi prosiectau lle caiff grwpiau a sefydliadau lleol eu paratoi ar gyfer cynnal gwasanaethau a oedd yn arfer cael eu darparu gan y cyngor. Fel rhan o'r rhaglen Abertawe Gynaliadwy – yn Addas i’r Dyfodol, clustnodwyd £300,000 yn 2013/14

ar gyfer y gronfa ac mae'r cyngor bellach wedi cytuno rhoi hwb ychwanegol gwerth £1.7m yng nghyllideb y gronfa y flwyddyn nesaf. Ysbrydolwyd y gronfa gan gais Abertawe Gynaliadwy – yn Addas i’r Dyfodol am ffyrdd newydd o wneud pethau fel rhan o ymgyrch y cyngor i fod yn gallach, yn fwy effeithiol ac effeithlon dros y blynyddoedd nesaf. Bydd yr arian ychwanegol yn cydnabod gradd y trawsnewidiad y mae ei angen ar wasanaethau.

Adolygu gwastraff MAE adolygiad o wasanaethau casglu gwastraff yn cael ei gynnig ar gyfer Abertawe â'r nod o adeiladu ar lwyddiant ymgyrch 'Cadwch at 3’. Cynigwyd y syniad yn dilyn proses ymgynghori ar y gyllideb y cyngor a nododd amrywiaeth eang o safbwyntiau am y ffordd ymlaen. Mae Cyngor Abertawe eisoes yn rhan o adolygiad sy'n ymdrin â dewisiadau eraill yn lle gwaredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi a gall dyfodol y gwasanaethau casglu sbwriel ac ailgylchu fod yn rhan

o hynny. Mae syniadau megis cau canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref yn Nhir John a Phenlan, a chasglu sachau du bob tair wythnos neu osod terfyn o ddwy sach ddu wedi cael eu gohirio yn amodol ar yr adolygiad gwastraff cynhwysfawr. Mae preswylwyr wedi gwneud gwaith gwych yn codi'r cyfraddau ailgylchu i dros 56% a diben yr ymgynghoriad ar y gyllideb oedd edrych ar beth ddylai cam nesaf y broses fod ac ystyried arbedion posib.


Mawrth 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Arwain

Abertawe

5

Newyddion y gyllideb.....Newyddion y gyllideb.......... Gofalwyr ifanc yn dweud eu dweud CLYBIAU ieuenctid cymunedol yn Abertawe i barhau ar agor yn sgîl ymgynghoriad helaeth yn y ddinas â phobl ifanc. Rhoddwyd cyfle i bobl ifanc o bob rhan o'r ddinas fynegi eu barn ar gynigion cyllidebol yr awdurdod lleol i gadw clybiau ieuenctid ‘hwb’ mwy o faint ar agor a chau clybiau llai yng Nghlydach, Gendros, Pontarddulais, St Thomas, Rhosili a Threforys. Ond gwnaethant ymbil yn daer i gadw'r clybiau llai ar agor, gan gynnig i godi arian eu hunain hyd yn oed er mwyn helpu i gadw'r gwasanaethau. Bu barn pobl ifanc dan sylw mewn sesiwn ‘Sgwrs Fawr’ arbennig â'r cyngor fel rhan o'i broses ymgynghori ar y gyllideb. Roedd y sesiwn hefyd yn cynnwys trafod newidiadau cyllidebol eraill a gynigir gan y cyngor.

Cyfle ariannu grŵp theatr • INVESTMENT: The council will be spending around £1.5m a day on vital services like social care at Bonymaen House over the next financial year

MAE bron £360m yn cael ei wario yn y flwyddyn nesaf ar wasanaethau blaenoriaeth sy'n bwysig i bobl ein dinas. Bydd gwasanaethau addysg a gofal cymdeithasol yn cael y rhan fwyaf o'r arian, y caiff llawer o'r hyn ei wario'n lleol i gefnogi swyddi a'r economi leol. Caiff £127m ei wario mewn ysgolion ar ddisgyblion, llyfrau ac athrawon, heb gynnwys £15.1m ychwanegol ar gynlluniau adnewyddu a buddsoddi fel rhan o raglen AoS y cyngor. Caiff bron £105m ei wario ar wasanaethau ar gyfer pobl hŷn, pobl

ysgolion

Sut rydym yn buddsoddi yn flaenoriaethau pobl YMHLITH yr ysgolion a fydd yn elwa o fuddsoddiad adeiladu yn y flwyddyn ariannol nesaf mae Ysgol Gyfun Pentrehafod ac ysgolion cynradd yng Ngorseinon a Phentregraig. Hefyd yn elwa o fuddsoddiad bydd ysgolion cynradd Burlais a Thregŵyr lle mae gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau. Cyfanswm gwariant cyfalaf i ysgolion yn 2015/16 yw £15.1m ac mae hynny'n ogystal â'r £28m a wariwyd dros y ddwy flynedd diwethaf sydd wedi fod o les i filoedd o blant ar draws y ddinas. Mae'r gwaith wedi cynnwys cynlluniau adnewyddu ac adeiladu rhagor o ystafelloedd dosbarth mewn ysgolion cynradd yn Newton a Glyncollen.

ddiamddiffyn, plant a'u teuluoedd, gan gynnwys cartrefi gofal preswyl, gwasanaethau dydd, gofal cartref, gofal maethu a gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill.

Ar ben hynny, mae £4.6m wedi'i neilltuo ar gyfer rhaglen uchelgeisiol y cyngor i fynd i'r afael â thlodi yn ogystal â £44.3m ar wasanaethau corfforaethol.

Meddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, “Mae gan y cyngor bum blaenoriaeth allweddol sy'n diogelu'r rhai diamddiffyn, gwella cyrhaeddiad disgyblion, adeiladu cymunedau cynaliadwy, cefnogi'r economi leol a mynd i'r afael â thlodi. “Yn ogystal â'r £360m a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau lleol, rydym hefyd yn buddsoddi miliynau o bunnoedd i wella tai. “At ei gilydd mae hyn yn golygu y byddwn yn gwario tua £1.5m y dydd yn cefnogi pobl leol a'r economi leol trwy ddarparu gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau.”

Hwb gwerth £1m boost i fynd i’r afael â thyllau ffyrdd BYDD hwb i waith y cyngor wrth lenwi tyllau ffyrdd, cynnal a chadw ffyrdd a'u gwella dros y flwyddyn nesaf. Y llynedd cafodd mwy na 6,000 o dyllau ffyrdd ar draws y ddinas eu llenwi, yn rhannol oherwydd ychwanegiad annisgwyl o £1m at gyllideb y priffyrdd o arian yswiriant dros ben. Eleni, bydd y gronfa yswiriant yn

cyfrannu £1m arall o'i chyllid dros ben. Yn ôl ffigurau swyddogol Llywodraeth Cymru, mae gan Abertawe rai o'r ffyrdd sy'n derbyn y gofal mwyaf yn y wlad nad oes ond rhyw 6% ohonynt mewn cyflwr gwael. Mae'r fenter yn cael ei datblygu fel rhan o ffrwd atal rhaglen Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol

oherwydd y cyswllt awgrymedig rhwng cynnal a chadw priffyrdd a rheoli hawliau yswiriant yn effeithiol. Mae gwariant arall ar briffyrdd yn cynnwys tua £4m ar gynnal a chadw isadeiledd a phontydd a'u gwella. Mae'r gwaith yn ategu mentrau gwerth miliynau o bunnoedd yn 2014/15 megis ffordd ddosbarthu

newydd y Morfa, adnewyddu goleuadau stryd, diogelwch ffyrdd, amddiffyn arfordirol, y blaendraeth ac Amgueddfa Abertawe. Mae gwariant arall o'r gyllideb gyfalaf yn cynnwys £5.2m ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, cyfraniad £380,000 at y Cynllun Benthyciadau Gwella Cartrefi Cenedlaethol a £3.1m ar gyfer gwaith Tir John.

DISGWYLIR y bydd actorion ifanc o Gwmni Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg dderbyn arian gan y cyngor yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae'r penderfyniad i barhau i ddarparu grant i'r cwmnïau ond ar lefel lai yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y caiff y grant ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15 ei leihau ar gyfer y flwyddyn nesaf a bydd rhaid i'r cwmni wneud cais cystadleuol am arian grant yn y blynyddoedd ar ôl hynny.

Gwasanaethau cerddoriaeth i barhau BYDD disgyblion yn parhau i elwa o wasanaethau cerddoriaeth ysgol fel rhan o'r trefniadau cyllidebol y cytunwyd arnynt gan y cyngor. Mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Gorllewin Morgannwg (GCGM) yn gweithio gydag ysgolion ar draws y ddinas a Chastellnedd Port Talbot gan gynnig gwersi cerddoriaeth a chefnogi ensembles cerddoriaeth a Cherddorfa Gymunedol Gorllewin Morgannwg. Mae'r penderfyniad i barhau â'r gwasanaeth ar lefel lai o gymorth ariannol yn sgîl ymgynghoriad cyhoeddus.

Adolygu gwastraff MAE adolygiad o wasanaethau casglu gwastraff gyda'r nod o adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch ‘Cadw at 3’ yn yr arfaeth i Abertawe. Deilliodd y syniad o broses ymgynghoriad cyllidebol y cyngor a ddatgelodd amrywiaeth eang o syniadau am y ffordd ymlaen. Mae Cyngor Abertawe eisoes yn adolygu dewisiadau amgen i dirlenwi gwastraff.


Arwain

Abertawe

Croesfan sebra ddisgleiriach MAE math newydd o groesfan sebra yn cael ei gyflwyno mewn cymuned yn Abertawe er mwyn helpu i wella diogelwch ffyrdd. Mae'r offer croesi ffordd wedi'i ail-lunio - a elwir yn 'Zebrites' - yn cael ei osod mewn nifer o safleoedd yn Townhill ar ôl i'r gymuned dderbyn dros £550,000 o arian Llywodraeth Cymru fel rhan o'r fenter Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Bu swyddogion diogelwch ffyrdd yng Nghyngor Abertawe'n helpu i lunio'r cais am gyllid ar ôl gweithio gydag ysgolion lleol a'r gymuned. Prif ffocws y cynllun yw creu llwybrau cerdded diogel i'r ysgolion yn ardal Townhill ac oddi yno a hefyd er mwyn helpu i leihau cyflymder ar hyd prif strydoedd y gymuned. Mae chwe set o 'Zebrites' wedi cael eu gosod ar fannau croesi. Mae'r offer croesi yn debyg i oleuadau croesfan sebra traddodiadol ond mae hefyd yn cynnwys goleuadau LED llachar er mwyn rhybuddio modurwyr eu bod yn agosáu. Mae cyfyngiadau cyflymder 20 mya hefyd yn cael eu cyflwyno ar hyd strydoedd ger ysgolion cymunedol Townhill, Seaview a'r Gors ac mae croesfannau pelican yn cael eu gosod ar hyd Heol Townhill, Rhodfa'r Gors a Heol Pen y Graig. Mae croesfan sebra arall gyda goleuadau 'Zebrite' yn cael ei gosod ar Heol Elphin.

Gwasanaethau cefnogi i’r byddar MAE dehonglwyr ar-lein yn cael eu defnyddio fel negeseuwyr i helpu pobl fyddar wrth gysylltu â'r cyngor. Erbyn hyn, gall pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (IAP) i gyfathrebu ddefnyddio gwasanaeth dehongli byw o'r enw Interpreter Now i gyfathrebu â staff. Mae'r gwasanaeth wedi'i sefydlu mewn un o'r ystafelloedd cyfweld ac yn darparu dolen fideo fyw i ddehonglwr IAP (Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y dehonglwr yn lleisio'r hyn mae defnyddwyr IAP yn ei ddweud fel y gall staff ddeall eu ymholiadau ac ymateb yn briodol. Mae gwasanaeth Interpreter Now ar gael yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig.

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2015

Cymorth ar ôl ymweliad â’r ysbyty MAE menter newydd yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn ac oedolion diamddiffyn yn Abertawe yn cael gwell cefnogaeth ar ôl ymweld ag adran achosion brys Ysbyty Treforys. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe, mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, wedi datblygu gwasanaeth rhyddhau â chymorth gyda'r Groes Goch Brydeinig yn Ysbyty Treforys i sicrhau lles pobl hŷn ar ôl iddynt ymweld â'r ysbyty ac i atal ymweliadau diangen â'r adran. Ariennir y cynllun gan y Gronfa Ranbarthol Gydweithredol a bydd staff ymroddedig a gwirfoddolwyr gyda'r Groes Goch Brydeinig yn sicrhau

bod pobl yn dychwelyd i'w cartrefi eu hunain yn ddiogel. Mae'r tîm hefyd yn helpu i sicrhau y gall y claf gael mynediad i ragor o gefnogaeth, pe bai angen, ar ôl eu hymweliad â'r ysbyty i helpu i'w diogelu yn y dyfodol. Dechreuodd Gyngor Abertawe'r bartneriaeth â'r Groes Goch Brydeinig a PABM i helpu i gryfhau'r rhwydwaith o gymorth y mae ei angen ar bobl hŷn a diamddiffyn. Datblygwyd y bartneriaeth ar ôl arsylwi ar yr adran achosion brys a ddangosodd y byddai nifer o bobl yn elwa o gael cymorth i ymgartrefu a chael sgyrsiau dilynol am eu cefnogaeth ar ôl dychwelyd gartref. Gallai cymorth a gynigir i bobl hŷn sy'n gadael yr

ysbyty amrywio o ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cefnogi eraill megis gofal cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol eraill. Meddai Roxane Dacey, Cydlynydd Datblygu Gwasanaethau a Chynnwys ar gyfer y Groes Goch Brydeinig, "Nod staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig yw ategu'r tasgau sy'n cael eu gwneud gan y staff yn adran achosion brys Ysbyty Treforys a lleddfu peth o'r pwysau." Meddai Roxane, "Mae adborth gan gleifion a staff wedi bod yn llawn canmoliaeth - mae cleifion yn hapus iawn gyda'r gwasanaeth maent wedi bod yn ei dderbyn."

GÊM Y DYDD: Mae disgyblion o Ysgol Gynradd Tregŵyr eisoes yn rhoi cynnig ar yr ardal chwaraeopn 3G newydd ar safle'r sadeiladau newydd y byddant yn symud iddynt y flwyddyn nesaf.

Cyffro am waith i ysgolion y ddinas MAE cyffro ar gynnydd mewn ysgolion cynradd ar draws ein dinas wrth i ddisgyblion weld eu hysgolion newydd ar fin cael eu cwblhau. Mae ysgol gynradd newydd Burlais gwerth £8.25m wedi codi o ran isaf Parc Cwmbwrla gan ddisodli adeiladau oes Victoria presennol yr ysgol sy'n dirywio â champws sy'n addas ar gyfer addysg gynradd yr 21ain ganrif. Ac yn Nhregŵyr mae disgyblion yn gweld ffrâm eu cartref newydd yn datblygu hefyd. Ond nid ydynt yr unig rai sy'n gweld newid trawiadol mewn gwasanaethau addysg yn y ddinas a fydd o les i ddisgyblion am genedlaethau i ddod.

gwybodaeth

6

MAE disgyblion yn Ysgol Gynradd Tregŵyr eisoes yn manteisio ar eu hysgol newydd ac nid yw wedi'i gorffen eto. Mae'r plant wedi bod yn rhoi cynnig ar yr ardal chwarae 3G newydd ar safle chwaraeon yr Elba lle mae eu hysgol newydd gwerth £6.8m yn cael ei hadeiladu. Un rhan yn unig yw'r cae chwaraeon newydd hwn o'r rhaglen welliannau ar gyfer y gymuned ar dir chwaraeon yr Elba a fydd yn rhan o adeilad newydd yr ysgol y bwriedir ei hagor y flwyddyn nesaf. • I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen adeiladau ysgol ar gyfer Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/21ainganrif

Mae Abertawe'n fwrlwm o weithgarwch sy'n cynnwys cwblhau'r gwaith gwerth £22m i weddnewid Ysgol Gyfun Treforys, penodi contractwyr ar gyfer ysgol newydd yn YGG Lôn-las yn Llansamlet ac ymgynghori â'r gymuned ar ysgol newydd un safle i greu Ysgol Gynradd Gorseinon gyflawn.

Ariennir y prosiectau, yn amodol ar achosion busnes yn cael eu cymeradwyo, trwy grantiau Llywodraeth Cymru a chyllid a godwyd gan Gyngor Abertawe. Mae'r holl brosiectau hyn yn rhan o raglen Addysg o Safon (AoS) y cyngor sydd â'r nod o wella addysg trwy roi

cyfleusterau i athrawon a staff eraill sy'n ysbrydoli dysgu a lle gall disgyblion ffynnu. Ers uno ym mis Medi 2012, mae Ysgol Gynradd Burlais wedi bod yn gweithredu o safleoedd hen ysgolion cynradd Trefansel a Chwmbwrla. Meddai Alison Bastian, Pennaeth Ysgol Gynradd Burlais, “Mae gennym dîm rhagorol o staff, disgyblion gwych a rhieni cefnogol sydd wedi ein galluogi i gyflawni llawer er gwaethaf amgylchedd presennol yr ysgol nad yw'n ddelfrydol o bell ffordd. “Bydd bod ar un safle mewn adeilad newydd yn dwyn manteision i'r addysg y gallwn ei chynnig i'n disgyblion sy'n llawer rhy niferus i'w rhestru.”


Mawrth 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Y dyfodol yn ein dinas

Arwain

Abertawe

7

Crynodeb o’r

newyddion Cyrsiau cymorth cyntaf i achub bywydau GALLAI cannoedd o gyflogwyr gael cyngor arbenigol yn fuan ar y ffordd orau o ofalu am eu staff sydd wedi’u hanafu. Mae Cyngor Abertawe'n sicrhau bod cyrsiau arbenigol ar gael i roi'r sgiliau ymarferol a'r wybodaeth angenrheidiol i fusnesau am sut i roi cymorth cyntaf yn y gweithlu. Cynhelir y cyrsiau rhad gan y Tîm Diogelwch Dŵr dros un neu dri diwrnod. Byddant yn ymdrin ag amrywiaeth o sefyllfaoedd, gan gynnwys trawiad ar y galon, adfywio, llosgiadau a sgaldiadau, gwaedu ac anafiadau i’r pen a’r asgwrn cefn. Darperir y cyrsiau mewn ymateb i ystadegau a ryddhawyd gan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a oedd yn amcangyfrif mai cost anafiadau yn y gweithle i economi Abertawe yn 2012/2013 oedd £21 filiwn. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cymorthcy ntaf neu ffoniwch 01792 635162.

Dangos y ffordd i atyniadau'r ddinas

• Hedfan yn fry: Sut olwg fydd ar ganol y ddinas wedi’i adfywio. Cewch gipolwg ar y fideo o’r awyr yn www.youtube.com/watch?v=WZ1hfM81hPI GOFYNNWYD i brif ddatblygwyr eiddo ledled Cymru, y DU a'r tu hwnt roi bywyd newydd i gynigion adfywio ar gyfer dau safle yng nghanol dinas Abertawe. Mae Cyngor Abertawe bellach wedi rhoi safleoedd Dewi Sant a'r Ganolfan Ddinesig ar y farchnad wrth iddo geisio datblygu canol dinas bywiog gyda chysylltiadau cryf â'r glannau. Gofynnwyd i ddatblygwyr am eu mynegiadau o ddiddordeb mewn cynigion sy'n cynnwys sgwâr cyhoeddus, sinema, siopau, bwytai a swyddfeydd newydd ar safle Dewi Sant. Mae maes parcio aml-lawr gyda lle ar gyfer datblygiad masnachol yn cael

MAE datblygwyr o bob cwr o Gymru a'r DU eisoes wedi bod yn edrych ar gynigion Cyngor Abertawe ar gyfer adfywio canol y ddinas mewn cyflwyniad yn Llundain ac Abertawe. Mae Fframwaith Strategol diwygiedig Canol y Ddinas - dogfen a fydd yn arwain adfywio - hefyd wedi cael ei lansio. Ewch i www.canolyddinasabertawe.com/buddsoddi-abusnes/fframwaith-strategol-canol-y-ddinas i fynegi'ch barn am y fframwaith erbyn diwedd mis Mawrth.

ei glustnodi ar gyfer maes parcio presennol yr LC, gyda datblygiadau i dwristiaid, cartrefi newydd a mannau cyhoeddus o safon yn cael eu cynnig ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig. Mae 'llwybr awyr' blaengar i gerddwyr a beicwyr a fyddai'n croesi uwchben Heol Ystumllwynarth yn cael ei ystyried i gysylltu safle Dewi Sant â'r glannau. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn archwilio'r potensial ar gyfer

cyfleuster canolfan ymchwil a datblygu hydro ar safle'r Ganolfan Ddinesig a allai gynnwys acwariwm. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe, "Y cynigion hyn yw'r cam cyntaf ar gyfer creu canol dinas bywiog, defnydd cymysg gyda chysylltiadau cryf â'n glannau. "Rydym am ddatblygu canol dinas unigryw, cyfeillgar, addas i deuluoedd sy'n cyfuno siopau â hamdden a

diwylliant. Mae mwy o swyddfeydd ac unedau byw trefol hefyd yn allweddol i'n cynigion oherwydd bydd mwy o ymwelwyr yn helpu'n masnachwyr i ffynnu a denu mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol. "Byddwn yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i bobl wrth i ddatblygwyr ddod â'u syniadau i ni am y briffiau datblygu rydym wedi'u datgelu bellach ar gyfer y ddau safle." Cytunwyd ar werthu safle'r Ganolfan Ddinesig mewn egwyddor, yn amodol ar baratoi achos busnes a gaiff ei ystyried yn y dyfodol. Gallai adeilad dinesig newydd gael ei adeiladu hefyd yng nghanol y ddinas ac mae rhaglen caffael eiddo yn yr arfaeth ar gyfer Ffordd y Brenin i sbarduno creu ardal gyflogaeth.

Codi’r faner ar gyfer noson mas wych MAE ymdrechion i sicrhau bod atyniadau gyda'r nos ein dinas yn brofiadau diogel, pleserus a llawn hwyl wedi talu ar eu canfed gyda dyfarniad y Faner Borffor nodedig. Abertawe yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i ennill statws y Faner Borffor ar gyfer economi'r nos sydd gyfwerth â'r Faner Las i draethau. Mae'r achrediad hynod werthfawr hwn, sy'n cael ei ystyried fel safon aur canol

trefi a dinasoedd gyda'r nos y DU ac Iwerddon, yn seiliedig ar gyfres o feini prawf sy'n gofyn llawer, sy'n ymwneud ag ansawdd profiad defnyddwyr yng nghanol y ddinas. Diben statws y Faner Borffor, a gynhelir gan Gymdeithas Rheolwyr Canol y Ddinas yw cydnabod rhai o'r camau blaengar a gymerwyd gan Gyngor Abertawe, Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel a gwirfoddolwyr lleol i helpu ymwelwyr i

fwynhau eu noson mas. Dywedodd tîm asesu'r ATCM mai'r hyn a wnaeth gryn argraff arnynt oedd y cyfleuster Man Cymorth yng nghanol dinas Abertawe sy'n galluogi'r cyhoedd i gael eu trin yn y fan a'r lle gan staff meddygol cymwys ar gyfer mân-anafiadau, salwch neu bryderon sy'n ymwneud â diod feddwol. Mae'n arwain at arbed ar adnoddau cyhoeddus. Roeddent hefyd wedi canmol y

ffaith fod gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cael eu defnyddio i roi arweiniad a chymorth i'w cyfoedion yn y Man Cymorth a'r Man Gollwng. Mae'r statws hefyd yn cydnabod sut mae Abertawe wedi cyflawni cynnydd cyson yn nifer y bobl sy'n defnyddio'r tafarndai, y bwytai, y sinemâu a'r lleoliadau adloniant eraill yng nghanol y ddinas rhwng 5pm a 5am. Cafwyd gostyngiad cyson hefyd mewn troseddau yn y ddinas.

BYDD arwyddbyst cyfeiriol newydd yn ymddangos yng nghanol y ddinas cyn bo hir iawn i ddangos y ffordd i ymwelwyr. Bydd yr arwyddion cyfeiriol yn cael eu gosod mewn deg lleoliad gwahanol, o gyffordd Stryd Dillwyn â Stryd Singleton yn y de i'r orsaf drenau yn y gogledd. Bydd yn cyfrannu at dwf y rhwydwaith arwyddion i gerddwyr yng nghanol y ddinas drwy brosiectau gan gynnwys y rhodfa. Bydd atyniadau a nodir ar yr arwyddbyst yn cynnwys y traeth, y marina, Theatr y Grand, y farchnad a Neuadd Brangwyn.

Cael gwybodaeth am waith ffyrdd y ddinas GALL modurwyr gael gwybodaeth am waith ffyrdd sylweddol yn y ddinas gan gwmnïau cyfleustodau drwy droi eu ffonau clyfar neu eu cyfrifiaduron ymlaen. Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i wasanaeth map gwylio'r ffyrdd newydd sy'n cael ei ddiweddaru bob hanner awr a'i nod penodol yw helpu modurwyr i gynllunio eu teithiau. Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn ychwanegol at y bwletin gwaith ffyrdd, ac mae ar gael yn www.abertawe.gov.uk/gwylioffy rdd

Llwyddiant y siop gyfnewid MAE preswylwyr yn Abertawe wedi cyfnewid 10,000 o eitemau ar y wefan cyfnewid ar-lein. Crëwyd y wefan Siop Gyfnewid gan Gyngor Abertawe i annog preswylwyr i gyfnewid eitemau cartref dieisiau am rywbeth maent am ei gael, yn lle eu taflu. Gallwch ymuno drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/siopgyf newid


Arwain

Abertawe Rhybudd am absenoldeb o’r ysgol

MAE ymdrech newydd sy'n annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd wedi cael ei lansio. Mae presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Abertawe'n cynyddu ac mae'r cyngor yn gweithio gyda phenaethiaid i wneud eu gorau i sicrhau bod y gwelliannau'n parhau. Derbyniodd rhieni lythyron a thaflenni yn amlinellu effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i ofyn i bob cyngor gyflwyno hysbysiadau cosb penodol i rieni disgyblion sy'n absennol o'r ysgol yn rheolaidd heb awdurdod. Gallai rhieni wynebu hysbysiad o gosb benodol o £60 os yw disgyblion wedi bod yn absennol o'r ysgol, heb awdurdod gan y pennaeth, am o leiaf 10 sesiwn ysgol - sy'n cyfateb i bum niwrnod ysgol ac mae eu presenoldeb wedi gostwng islaw 90%. Os na chaiff y ddirwy ei thalu o fewn 28 niwrnod, bydd yn cynyddu i £120. Gellir gweld manylion llawn y rheolau newydd yn www.abertawe.gov.uk/cosbadd ysg

Rhyngrwyd y ddinas yn datblygu’n gyflym OS ydych am wneud mwy o bethau ar-lein yn gynt, gweithio gartref, sefydlu busnes neu astudio ar gyfer eich cymhwyster nesaf, mae band eang ffeibr bellach ar gael i nifer o breswylwyr a busnesau yn y ddinas. Bydd Cyflymu Cymru, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT, yn rhoi hwb masnachol ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau er mwyn cyflwyno band eang ffeibr cyflym iawn i 96% o gartrefi a busnesau yng Nghymru erbyn 2016. Gall cyfanswm o 22,000 o adeiladau mewn 11 cymuned yn Abertawe gael mynediad i fand eang ffeibr. Mae eiddo yng nghanol y ddinas, Treforys a Ravenhill ymysg y rheini a all fanteisio. Mae band eang ffeibr hefyd ar gael yn Llandeilo Ferwallt, Clydach, Gorseinon, Gŵyr, Tregŵyr, y Mayals, y Mwmbwls a Phenclawdd. Bydd cymunedau eraill gan gynnwys Llangynydd, Penmaen a Phontarddulais yn dilyn yn y gwanwyn.

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2015

Tîm PATCH yn paratoi i drwsio tyllau’r ddinas

• ATGYWEIRIO FFYRDD: Mae ein timau PATCH allan ym mhob math o dywydd yn mynd i'r afael â thyllau yn y ffordd er mwyn cadw traffig yn symud. BYDD y tîm atgyweirio tyllau yn y ffordd yn dechrau eu taith flynyddol o Abertawe yn y gwanwyn fel rhan o'u brwydr barhaol yn erbyn yr elfennau i gadw traffig ein dinas yn symud. Bydd timau PATCH (Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol) y cyngor yn gweithio'n galed wrth i'r gaeaf droi i'r gwanwyn a byddant yn targedu pob un o'r 32 ward yn y ddinas ar gyfer o leiaf pythefnos o atgyweirio tyllau yn y ffordd. Dywedodd Stuart Davies, y pennaeth priffyrdd, y gwnaeth timau gwella ffyrdd y cyngor atgyweirio dros 6,000 o dyllau yn y ffordd y llynedd ac eleni maent yn disgwyl bod yr un mor brysur.

gwybodaeth

8

YN ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae ansawdd ffyrdd y ddinas ymysg y gorau yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2014, yn dangos ym mlwyddyn ariannol 2013/14, roedd 6.7% o ffyrdd Abertawe mewn cyflwr gwael yn gyffredinol. Sir y Fflint yn unig a oedd â ffyrdd o safon well gyda 4.3% o'r ffyrdd mewn cyflwr gwael yn gyffredinol o'u cymharu â'r 13.2% ar gyfer Cymru gyfan. Ym mlwyddyn ariannol 2014/15, gwariodd Cyngor Abertawe £1 filiwn ychwanegol ar wella ffyrdd yn y ddinas o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Meddai, "Mae gennym dimau'n gweithio drwy gydol y flwyddyn ac mewn pob math o dywydd yn mynd i'r afael ag atgyweiriadau brys ar y ffyrdd ac yn atgyweirio tyllau yn y ffordd. Mae ein timau'n brysur yn y gaeaf hyd yn oed pan fydd amodau'n heriol gan ein bod yn gwybod bod y cyhoedd angen y gwaith rydym yn ei wneud i gadw’r traffig i

symud ac yn ei werthfawrogi. "Rydym yn gwybod ei bod yn dasg ddiddiwedd ond mae'r preswylwyr yn falch iawn ein bod yn gweithio yn eu hardal." Mae'r prosiect 36 wythnos, sydd werth £450,000, yn cynnwys dau dîm. Eleni bydd y ddau dîm yn mynd i'r afael â thyllau yn y ffordd a diffygion eraill yn hytrach na phrosiectau i gryfhau'r ffyrdd. Mae'r gwaith

PATCH yn ychwanegol i waith timau eraill Cyngor Abertawe sydd hwnt ac yma bob diwrnod yn archwilio ffyrdd y ddinas, yn llenwi tyllau ac yn trwsio diffygion ffyrdd eraill. Dywedodd Mr Davies, "Mae cynghorau ym mhob cwr o'r DU yn wynebu cyfnodau ariannol arbennig o anodd ar hyn o bryd, ond rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cyflwr ein ffyrdd i'n preswylwyr ac i'r rhai sy'n ymweld â'r ddinas. Dyma pam ein bod yn parhau i fuddsoddi cymaint yn ein rhwydwaith ffyrdd yma yn Abertawe.” Er mwyn adrodd am dwll yn y ffordd neu ddiffygion ffordd eraill megis goleuadau stryd sydd wedi torri, ewch i www.abertawe.gov.uk/adroddwch

Plant Actif yn derbyn hwb yng nghanolfannau hamdden ein dinas MAE pecyn chwaraeon newydd i blant ar gael er mwyn helpu i fynd i'r afael â gordewdra plant ar draws y ddinas. Mae Cyngor Abertawe yn lansio rhaglen Plant Actif mewn pum canolfan hamdden gymunedol sy'n cynnwys gweithgareddau megis nofio, pêl-droed, gymnasteg, pêl-rwyd, tenis, athletau a sglefrolio. Daw'r rhaglen newydd o ganlyniad i adroddiad a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'r llynedd a oedd yn nodi bod gan dros chwarter o blant 5 oed yn y wlad fynegai màs y corff nad oedd yn iach.

Mae aelodaeth fisol fforddiadwy ar gael yn ogystal â chyfleoedd chwarae yng Nghanolfannau Hamdden Abertawe Actif a chanolfannau chwaraeon Cefn Hengoed, Penlan, Penyrheol, Treforys a Llandeilo Ferwallt. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau ar gael ar gyfer plant o bob oedran hyd at 16 oed. Mae pilates, caiacio, polo dŵr, codi hwyl a thrampolinio ymysg y gweithgareddau sydd ar gael. Gall plant rhwng 14 ac 16 oed hefyd wneud yn fawr o'r dosbarthiadau ffitrwydd megis dosbarthiadau ffitrwydd dwys,

zumba a cardio blast. Meddai llefarydd ar ran y cyngor, "Mae gordewdra plant yn broblem sy'n gwaethygu yn y gymdeithas, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i helpu. Mae argaeledd gweithgareddau fforddiadwy ac amrywiol i blant o bob oedran yn ein canolfannau hamdden a chwaraeon cymunedol yn allweddol, felly dyma pam mae'r rhaglen Plant Actif wedi cael ei lansio. Ewch i www.abertawe.gov.uk/abertaweactif am fwy o wybodaeth.”


Mawrth 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Gŵyr gwyllt yn ôl y galw DOES dim amheuaeth bod y rhan fwyaf o bobl sy'n ymweld â Gŵyr yn mynd yno am ei draethau godidog. Ac ni fydd yr haf hwn yn wahanol pan fydd miloedd o bobl yn heidio yno i fwynhau harddwch arfordirol y penrhyn. I'r rhai a hoffai fentro oddi wrth y traethau ac archwilio'r llwybrau, mae ap ffôn clyfar newydd arloesol wedi cael ei ddatblygu i roi gwell dealltwriaeth i ymwelwyr am Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU a'r hyn sydd ar gael yno. Gellir lawrlwytho'r ap ‘This is Gower’ ar ffôn clyfar neu lechen ac mae'n cynnwys cyfoeth o bynciau diddorol sy'n ymwneud â Gŵyr, gan gynnwys cyfres o deithiau cerdded tywys. Ceir mwy na 80 o wahanol fannau o ddiddordeb gan dynnu sylw at dirwedd, treftadaeth a diwylliant unigryw ac arbennig Gŵyr ac mae'r ap yn defnyddio GPS i chi ddod o hyd i'ch ffordd fel bod hanesion am leoedd penodol yn ymddangos wrth i chi nesáu atynt. Mae'r ap arbennig yn un o nifer o brosiectau sydd wedi'u datblygu gan Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr – partneriaeth o wahanol sefydliadau, grwpiau cymunedol a busnesau lleol. Mae ganddynt oll yr un nod, sef dathlu a diogelu Gŵyr fel y gall pawb gael mynediad i dirwedd hardd a threftadaeth unigryw y penrhyn a'u mwynhau. Meddai Helen Grey, Cydlynydd

• GOGONEDDUS: Mae'r ap yn cynnig dimensiwn hollol newydd i brofiad ymwelwyr Partneriaeth Tirwedd Gŵyr, “Rydym yn ffodus bod gennym cynifer o draethau rhyfeddol ar garreg ein drws, ond mae cymaint mwy gan benrhyn Gŵyr i'w gynnig na'r mannau twristaidd sy'n denu ymwelwyr.

“Gobeithio y bydd yr ap newydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i bobl am yr hyn sydd i'w ddarganfod yn bellach i mewn i'r tir hefyd.” Mae lleoedd poblogaidd, megis Rhosili a Maen Ceti, wedi'u cynnwys yn

yr ap yn ogystal â mannau llai adnabyddus, ac felly bydd yr ap yn apelio at ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Mae cwmnïau lleol hefyd yn cefnogi'r ap gan y bydd yn hwb i fusnesau.

Ble mae modd cydbwyso gwaith a hamdden yn well?

Crynodeb o’r

newyddion Bydd goleuadau nos yn arbed arian hefyd

MAE plant ysgol gynradd yn Abertawe wedi cael eu gwisgoedd patrôl croesi ysgol eu hunain fel rhan o fenter diogelwch ffyrdd i gadw plant yn ddiogel. Mae dau blentyn lwcus yn Ysgol Gynradd Danygraig wedi derbyn gwisgoedd replica a chânt eu defnyddio fel rhan o addysg diogelwch ffyrdd yr ysgol i'w disgyblion. Rhoddwyd y gwisgoedd gan y cwmni yswiriant Admiral, sydd eisoes yn noddi gwisgoedd maint llawn sy'n cael eu gwisgo gan ddwsinau o batrolau ar draws y ddinas, er mwyn helpu Tîm Diogelwch Ffyrdd y cyngor gyda'i waith.

Nofwyr y ddinas yn y dwylo mwyaf diogel

Neu arbed amser a datgelu pethau newydd?

MAE nofwyr Abertawe yn y dwylo mwyaf diogel ar ôl i'n Tîm Diogelwch Dŵr dderbyn canmoliaeth gan y Gymdeithas Achub Bywyd Frenhinol. Mae Is-adran Diogelwch Dŵr Cyngor Abertawe wedi cael sgôr o 100% mewn asesiad diweddar gan yr aseswyr allanol, IQL Ltd, sy'n gweithredu ar ran y gymdeithas. Cyfrifoldeb y Tîm Diogelwch Dŵr yw sicrhau bod pob un o'r 120 o achubwyr bywyd hyfforddedig ym mhyllau nofio'r cyngor, Pwll Cenedlaethol Cymru a'r LC yn cael eu hasesu a'u hyfforddi'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn gallu darparu gwasanaeth o safon uchel.

Tri yn unig o’r senarios posibl. Mae un peth yn gyffredin rhyngddynt… maent yn fwy tebygol o ddigwydd wrth ddefnyddio band llydan uwchgyflym. Ar hyn o bryd, mae Cyflymu Cymru, partneriaeth rhwng BT a Llywodraeth Cymru, yn cyflwyno band llydan ffeibr optig yn Abertawe. Gwasanaeth sy’n cynnig cyflymder llawer uwch na’r fersiynau blaenorol.

a Facebook www.facebook.com/superfastcymru a chofrestru eich diddordeb yn www.cyflymu-cymru.com.

9

Gwisgoedd yn helpu plant i groesi

Cartref ble mae’r teulu cyfan yn gallu dilyn eu diddordebau’n annibynnol, ond eto rhannu gyda ffrindiau?

Manylion pellach wrth ein dilyn ar Twitter @Superfastcymru

Abertawe

MAE strydoedd ein dinas yn mynd yn fwy llachar gyda'r nos wrth i'r cyngor barhau i osod goleuadau stryd arbed ynni newydd. Mae oddeutu 10,000 o oleuadau stryd LED newydd eisoes wedi'u gosod ar draws y ddinas. Dechreuodd y rhaglen ailosod yn 2013 mewn ymgais i adnewyddu hen oleuadau stryd ac arbed arian ar gostau ynni. Mae oddeutu 27,000 o oleuadau stryd ar draws y ddinas. Mae'r goleuadau newydd yn defnyddio llai o ynni, yn para'n hwy ac yn fwy llachar na'r goleuadau stryd presennol. Ariennir y rhaglen newid goleuadau trwy fenter fenthyca Cymru gyfan dan arweiniad y llywodraeth.

Beth yw cartref cytûn?

Mae unrhyw beth yn bosibl gyda chysylltiad uwchgyflym. Mae BT a Llywodraeth Cymru yn buddsoddi’n helaeth yn rhaglen Cyflymu Cymru er mwyn trawsnewid cysylltiadau digidol Abertawe yn fuan iawn. Bydd rhaid archebu gwasanaeth ffeibr er mwyn elwa o’r gwasanaeth cyflymach. Mae cannoedd o gwmnïau gwasanaeth rhyngrwyd yn cynnig band llydan ffeibr dros rwydwaith BT, felly dewiswch y pecyn gorau i chi.

Arwain

Dim mwy o gwm ar y stryd Band llydan ffeibr yn cysylltu cartrefi a busnesau Cymru, manylion yn: www.cyflymu-cymru.com

GALLAI cael gwm cnoi yn sownd ar waelod esgidiau fod yn rhan o'r gorffennol i ddisgyblion mewn tair ysgol gyfun yn Abertawe. Mae ysgolion cyfun Gellifedw, Yr Esgob Gore a Phentrehafod wedi ymrwymo i ymgyrch cael gwared ar sbwriel sy'n annog disgyblion i gael gwared ar gwm cnoi'n briodol mewn biniau unigryw a wneir o gwm cnoi wedi'i ailgylchu. Mae Tîm Ailgylchu Cyngor Abertawe'n cefnogi'r ymgyrch trwy ddarparu biniau Gumdrop pinc llachar.


10

Arwain

Abertawe

Help gyda dyledion ar gael

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Plant yw blaenoriaeth ein harloeswyr

MAE datblygwr arfer arloesol sy'n helpu i ddiogelu plant diamddiffyn ym mhedwar ban byd wedi canmol gweithwyr cymdeithasol Abertawe sy'n ei roi ar waith. Mae Cyngor Abertawe wedi bod ar flaen y gad yng Nghymru o ran ei ymagwedd flaengar at amddiffyn CYNIGIR y cyfle i breswylwyr plant o'r enw Signs of Safety. yn y ddinas fynd i'r afael â'u Mae'n cynnwys tîm o weithwyr cymdeithasol sy'n problemau dyled gydag gweithio'n agos gyda phlant diamddiffyn a'u ychydig o gefnogaeth gan teuluoedd i'w helpu i adeiladu ar eu cryfderau wrth Gyngor Abertawe a gadw pobl ifanc yn ddiogel a'u cefnogi. Chymunedau'n Gyntaf. Ac mae'r llwyddiant sydd wedi'i ddatblygu yn Gall pobl leol sy'n ceisio Abertawe wedi denu edmygedd ymarferwyr o bob rhoi trefn ar eu dyledion ar ôl y cwr o'r byd, gan gynnwys Andrew Turnell, cyd-grëwr Nadolig alw heibio i swyddfeydd Cymunedau'n Gyntaf neu fynd ar-lein am ddim yn llyfrgelloedd y ddinas i fanteisio ar y cyngor sydd ar gael. Mae Cyngor Abertawe'n rheoli gwasanaeth ar-lein am ddim o'r enw Botwm Panig Dyled sy'n cynnig cyngor synnwyr cyffredin. Mae preswylwyr nad oes ganddyn nhw fynediad i'r rhyngrwyd gartref yn gallu mynd i lyfrgell eu cyngor lleol lle maen nhw'n gallu mynd ar-lein am ddim. Mae pobl sy'n byw yn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf yn Abertawe'n gallu cael cyngor am ddim ar fynd i'r afael â dyled a chyngor ar gyflogaeth trwy fynd i'w swyddfa leol. Mae'r cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau a sefydliadau eraill hefyd yn cynnig cefnogaeth i breswylwyr i sicrhau eu bod nhw'n hawlio'r holl fudddaliadau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.debtpanicswansea.org.uk

BYDD un o rasys heol gorau Prydain yn dod yn ôl i Abertawe eleni. Trefnir 10k Bae Abertawe Admiral gan Gyngor Abertawe ac mae'n dychwelyd ym mis Medi, ond gallwch gofrestru'n gynnar am eich lle am bris rhatach nawr. Mae'r cwrs yn wastad, yn ysgubol ac yn olygfaol, gan ei wneud yn ffefryn cadarn ymhlith rhedwyr proffesiynol a miloedd sy'n rhedeg am hwyl o bob cwr o'r DU a'r byd. Cynhelir y ras brydferth ar Heol Ystumllwynarth rhwng Maes Rygbi San Helen a'r Mwmbwls ac, yn ogystal â'r brif ras, mae rasys iau 1k, 3k a 5k. Mae'r holl fanylion am 10k Bae Abertawe Admiral, cofrestru a llwyth o gyngor hyfforddi ar gael trwy fynd i www.10kbaeabertawe.com

Signs of Safety, mewn cynhadledd yn Perth, Awstralia. Meddai, “Cyflwynoch chi bopeth gallwn i fod wedi gobeithio amdano, gan ddod â gweledigaeth, brwdfrydedd a gobaith newydd i'r gwaith hwn sy'n canolbwyntio ar blant a'u teuluoedd.” Mae Signs of Safety yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol hyfforddedig sy'n cefnogi plant a theuluoedd i ganolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar er mwyn mynd i'r afael â phroblemau a phryderon, gan eu hatal rhag datblygu'n argyfwng pryd bynnag y bo modd. Mae'r ymagwedd hon yn helpu'r cyngor i weithio'n agos gyda theuluoedd fel bod plant yn llai tebygol o

dderbyn gofal gan y cyngor. Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Abertawe gyda Signs of Safety'n denu diddordeb gan awdurdodau lleol eraill ar draws y DU. Mae hefyd wedi'i ganmol gan arolygwyr rheoleiddwyr gofal cymdeithasol yn Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a ddywedodd fod yr ymagwedd wedi helpu i greu'r perfformiad gorau ym maes gwasanaethau plant a theuluoedd ers blynyddoedd. Mae'r timau o weithwyr cymdeithasol yn gweithio mewn cymunedau ar draws y ddinas a chyda phartneriaid eraill, gan gynnwys gwasanaethau iechyd ac addysg.

• Mae Andrea a Ryan Smith yn meddwl bod sesiynau Dysgu fel Teulu yn Ysgol Gynradd Seaview o'r safon orau

Pam mae Ryan a’i fam yn dwlu ar ddydd Mercher MAE mamau ar draws y ddinas yn mynd i gael brecwast yn y gwely a phwysi o gennin Pedr ar 17 Mawrth i anrhydeddu eu rôl fel rhoddwyr bywyd i'w plant annwyl (yn ogystal â threfnwyr dyddiaduron, enillwyr cyflog, cogyddion, trefnwyr partïon, cydlynwyr gwaith cartref, ceidwaid heddwch a'r gweddill). Ond mae rhai mamau - ac ychydig o dadau - sydd wedi bod yn gwneud llawer mwy na'r arfer i ddysgu gyda'u plant mewn ymdrech i'w helpu i ddysgu a chael y dechrau gorau mewn bywyd. Dyna'r rhai ymhlith 300 o

gwybodaeth

Ein 10k yn ôl ar yr heol

Mawrth 2015

CYNHELIR sesiynau Dysgu fel Teulu mewn ysgolion ar draws y ddinas gyda rhieni, gofalwyr a phlant yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd gyda'i gilydd. Mae’r cyrsiau am ddim ac wedi'u hachredu ac mae pob un yn gysylltiedig â'r Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae oedolion yn gallu defnyddio'r sesiynau i ddatblygu sgiliau a gweithio tuag at ennill cymwysterau. Cewch wybod mwy am sesiynau Dysgu fel Teulu trwy gael sgwrs ag athro'ch plentyn neu ffonio 01792 795551.

deuluoedd sy'n elwa bob blwyddyn ar fynd i sesiynau Dysgu fel Teulu a drefnir gan Dîm Dysgu fel Teulu a Sgiliau Hanfodol Cyngor Abertawe ac ysgolion cynradd y ddinas. Nod y cyrsiau yw gwella sgiliau hanfodol rhieni a phlant ac maen nhw wedi bod yn cael eu cynnal yn llwyddiannus iawn ers llawer o flynyddoedd.

Un o'r ysgolion hyn yw Ysgol Gynradd Seaview ac mae Andrea Smith, mam 33 oed o Mayhill, yn mynd yno bob dydd Mercher. Meddai, “Dechreuon ni ddod i sesiynau Dysgu fel Teulu tua 18 mis yn ôl oherwydd bod Ryan yn cael ychydig o drafferth gyda'i ddarllen ac roeddwn i eisiau ei helpu gartref. “Yn y bôn, yn y sesiynau Dysgu fel

Teulu, rydyn ni'n dysgu'r un peth â'r plant, felly mae gen i'r profiad nawr i helpu Ryan gartref. Mae wedi bod yn fuddiol i'r grŵp cyfan. “Mae e fel gwneud cwrs gloywi ac rydyn ni'n cael achrediad am gwblhau'r cwrs. Dwi'n gobeithio defnyddio'r wybodaeth dwi wedi'i dysgu i fod yn weithiwr cefnogi a helpu eraill.” Mae ei mab, Ryan sy'n chwe blwydd oed, yn gwerthfawrogi ymdrechion ei fam. Meddai, “Dwi'n hoffi bod mami'n dod i'r ysgol i wneud Dysgu fel Teulu. “Mae hi'n helpu fi i ddarllen. Dwi'n drist os dw i'n dost achos dwi ddim yn cael mynd i’r sesiynau Dysgu fel Teulu.”


Mawrth 2015

I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe

Gwobr am ailgylchu nwyddau swmpus DYMA’CH cyfle i gael gwared ar hen welyau, soffas, cypyrddau dillad a thrugareddau mawr mewn ffordd sy'n llesol i'r amgylchedd - a chasglu gwobr yn y broses. Mae gwasanaeth casglu'r cyngor yn cynnig taleb gwerth £5 ar gyfer ei Siop Gornel enwog yn y Safle Byrnu yn Llansamlet os ystyrir bod unrhyw un o'r eitemau swmpus y byddant yn eu casglu yn gallu cael ei ailddefnyddio. Gallwch drefnu casglu hyd at dair eitem am £17 neu chwech am £34 ymlaen llaw drwy ffonio 01792 635600 neu drwy ymweld â'r ganolfan gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig. Y syniad craidd ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus yw y gall nifer o eitemau yn eich aelwyd nad ydych yn eu defnyddio bellach gael eu defnyddio gan eraill neu eu hailgylchu. Ac os bydd gwerth gan eich eitemau i eraill byddwch yn derbyn taleb gwerth £5 fel gwobr. Mae'r Siop Gornel, er enghraifft, yn atgyweirio cyfrifiaduron i'w gwerthu am brisiau rhatach er mwyn i breswylwyr na fyddai fel arall yn gallu fforddio mynd ar-lein. Ceir mwy o wybodaeth yn • APÊL TALEB: Casglwch wobr fach pan fyddwch yn rhoi eitem fawr y gellir ei ailddefnyddio www.abertawe.gov.uk/swmpus

MAE preswylwyr arobryn ar y trywydd cywir i fodloni targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru flwyddyn yn gynnar. Mae'r ymgyrch 'Cadwch at 3' wedi helpu mewn ffordd fawr gan y disgwylir i ailgylchu gynyddu i oddeutu 60% erbyn diwedd mis Mawrth - cynnydd o 8% mewn 12 mis yn unig gan fodloni targed 2016 Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'r cyngor yn ceisio ymuno â dwy gymuned yn y ddinas er mwyn arloesi bagiau ailgylchu pinc ailddefnyddiadwy fel rhan o'r ymdrechion i wneud hyd yn oed yn well mewn blynyddoedd i ddod. Mae bagiau ailgylchu pinc ailddefnyddiadwy yn cael eu cyflwyno yn ardaloedd St Thomas a Phontarddulais o fis Mawrth fel rhan o gynllun peilot a allai gael ei gyflwyno ar

ffeithiau cyflym

Cymunedau arloesol i ailddefnyddio’u bagiau pinc • Roddodd aelwydydd dros 400 tunnell yn fwy o ailgylchu allan fis Rhagfyr diwethaf o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2013. • Y cyfanswm ar gyfer y mis oedd 2,780 tunnell o ddeunydd ailgylchadwy o'i gymharu â 2,303 tunnell y flwyddyn flaenorol. • Erbyn 2025, Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ni ailgylchu 70% o wastraff. • Gallwch gael mwy o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/ailgylchu

draws y ddinas yn ddiweddarach yn y flwyddyn, os yw'n llwyddiannus. Meddai Chris Howell, Pennaeth Gwastraff Cyngor Abertawe, "Bydd y bagiau pinc ailddefnyddiadawy newydd yn edrych yn debyg i'r bagiau gwastraff gardd y mae pobl eisoes yn eu defnyddio. Y gwahaniaeth fydd y bydd ganddynt gaead, gwaelod â phwysau ynddo er mwyn ei

stopio rhag chwythu i ffwrdd, ac wrth gwrs, byddant yn binc." Ychwanegodd, "Bydd pob aelwyd yn yr ardaloedd peilot yn derbyn dau fag a gellir rhoi mwy os oes angen. Bydd y plastigion yn cael eu casglu o'r bagiau newydd yn ystod yr wythnosau pinc yn yr ardaloedd hyn fel arfer." Bydd pecynnau plastig aelwydydd yn cael eu casglu fel o'r blaen

ond bydd rhaid i ddeunydd tynlapio a deunydd lapio swigod fynd mewn sach ddu. Dywedodd Mr Howell fod y fenter yn gwneud llawer o synnwyr gan y bydd yn helpu i wella ansawdd y plastig sy'n cael ei gasglu a bydd yn ddull mwy cynaliadwy a chost effeithiol na'r sachau un defnydd presennol. Ychwanegodd, "Bydd yr aelwydydd sy'n cael eu targedu ar gyfer y cynllun peilot yn derbyn taflen gyda'u bagiau pinc ailddefnyddiadwy er mwyn esbonio'r gwasanaeth newydd. Bydd angen i aelwydydd eraill yn Abertawe barhau i ddefnyddio eu sachau ailgylchu plastig ar wythnosau pinc fel arfer." Os ydych yn byw yn St Thomas neu Bontarddulais ac am gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/bagtrial

Dirwy bosib am daflu sbwriel BYDD pobl sy'n taflu sbwriel yn cael eu targedu er mwyn ceisio cadw strydoedd ein dinas yn lanach. Mae preswylwyr yn dweud eu bod wedi cael digon ar sbwriel a baw cŵn ac maent yn cefnogi ymgyrch Abertawe Daclus y cyngor er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem. Mae eisoes arwyddion yng nghanol y ddinas bod smygwyr yn gwrando ar y neges gan fod biniau bonion sigaréts yn llenwi'n gynt nag erioed.

MAE Phil Davies, swyddog Trefi Taclus Cadwch Gymru'n Daclus wedi canmol y cyngor a dywedodd, "Rydym hefyd yn gweithio gyda digon o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol sydd am gael gwared ar wastraff am byth." Ond mae siawns dda y bydd y rhai nad ydynt yn gwrando ar y sticeri rhybudd ar finiau sbwriel yn derbyn dirwy o £75 gyda bron 3,000 ohonynt wedi'u cyflwyno'r

llynedd yn unig. Dywedodd Bob Fenwick, Arweinydd Grŵp Cynnal a Chadw Priffyrdd, “Mae'r cyngor yn gwario £2.5m y flwyddyn yn glanhau sbwriel a thipio anghyfreithlon. Mae dros 500 o finiau baw cŵn a channoedd o finiau sbwriel, a does dim esgusodion am daflu sbwriel. Rydym am i bawb gefnogi'r ymgyrch Abertawe Daclus gan y bydd yn golygu dinas lanach a thrwy beidio â gollwng sbwriel, ni fydd pobl yn derbyn dirwy."

Arwain

Abertawe

11

Crynodeb o’r

newyddion Talwch am ddim gyda'ch cerdyn debyd MAE Cyngor Abertawe yn annog cwsmeriaid i ddefnyddio dulliau talu am ddim yn hytrach nag achosi taliadau ychwanegol am ddefnyddio cardiau credyd. Mae newidiadau yn golygu y bydd rhaid i gwsmeriaid sy'n dewis defnyddio cardiau credyd i dalu am bethau megis Treth y Cyngor dalu taliadau ychwanegol a godir ar y cyngor gan y banciau eu hunain. Mae'r cyngor wedi talu'r gost yn y gorffennol ond nawr mae wedi ymuno ag awdurdodau lleol a sefydliadau eraill i godi tâl ar berchnogion cardiau credyd. Cyflwynwyd y newid ar gyfer taliadau awtomataidd dros y ffôn yn ddiweddar ac mae ar waith ar gyfer pob math arall o daliad, gan gynnwys taliadau ar-lein.

Dewch i ni leihau bygythiad cyflymder BYDD cannoedd o blant ysgol yn Abertawe yn fwy diogel ar y ffyrdd yn 2015 yn sgîl cyflwyno mwy o gyfyngiadau cyflymder 20mya ger ysgolion. Dylai'r cynllun diogelwch ffyrdd diweddaraf gan Gyngor Abertawe gyflwyno cyfyngiadau cyflymder is mewn strydoedd ger chwe ysgol. Yr ysgolion yw Ysgol Gynradd Gendros, Ysgol Gynradd Mayals, Ysgol Uwchradd Gellifedw, Ysgol Gynradd Llangyfelach, Ysgol Gynradd Pengelli ac Ysgol Gynradd Knelston. Yn 2014, cyflwynwyd gwelliannau diogelwch ffyrdd tebyg ger 11 ysgol arall gan gynnwys cyfyngiadau cyflymder is.

Cliciwch i gael gwasanaeth 24 awr BYDD preswylwyr sydd am wneud busnes gyda Chyngor Abertawe ar adegau sy'n addas iddynt hwy yn derbyn hwb o ganlyniad i lansiad o amrywiaeth o wasanaethau ffôn awtomatig newydd a gwefan newydd y cyngor. Mae gwefan Cyngor Abertawe www.abertawe.gov.uk/gwnewch arlein yn cynnig y cyfle i bobl wneud pob math o bethau o brynu tocynnau theatr ac archebu e-lyfrau llyfrgell i gofrestru i bleidleisio, gwneud cais am le mewn ysgol neu adrodd am fin sbwriel sy'n gorlifo neu gasgliad ailgylchu a gollwyd.

Anrhydedd hanesyddol MAE’R gwyddonydd o Abertawe a ddyfeisiodd y gell danwydd gyntaf wedi cael ei anrhydeddu â phlac glas yn agos at y lle 'roedd yn byw. Dyfeisiodd Syr William Grove y gell danwydd gyntaf trwy gyfuno hydrogen ac ocsigen i greu trydan ym 1842. Gannwyd ef yn Abertawe ym 1811 ac roedd ei dŷ ar y safle lle mae Pencadlys Rhanbarthol Heddlu De Cymru yn Grove Place. Mae'r plac glas bellach ar ochr yr adeilad.


12

Arwain

Abertawe

Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk

Mawrth 2015

Swimathon yn ôl NID yw Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n anghyfarwydd i dorwyr recordiau ar ôl yr holl nofwyr adnabyddus sydd wedi hyfforddi yno dros y blynyddoedd. Ond nawr mae'n gobeithio torri record neu ddwy o'i heiddo ei hun pan fydd yn cynnal Swimathon 2015, digwyddiad codi arian elusennol mwyaf y flwyddyn nofio. Mae'r pwll bob amser ar flaen y gad wrth godi arian ar gyfer Swimathon ac eleni mae'n gobeithio rhagori ar bob lleoliad arall yn nifer y rhai sy'n cymryd rhan i gefnogi Gofal Canser Marie Curie ac elusennau eraill. Meddai Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol

PCCA, "Rydym wedi bod yn gartref i nifer o nofwyr gorau Cymru gan gynnwys Elena Jones a Jack Thomas. Ond rydym hefyd yn bwll sy'n rhan fawr o'i gymuned leol. Dyna pam rydym wrth ein boddau i fod yn rhan o Swimathon unwaith eto. “Mae Swimathon yn gyfle gwych i bobl wella'u ffitrwydd a chodi arian ar gyfer rhai o elusennau mwyaf poblogaidd Prydain ar yr un pryd.” Disgwylir i filoedd o bobl gymryd rhan yn Swimathon y DU 2015 a gynhelir dros benwythnos 17 - 19 Ebrill. Gallwch gofrestru i gymryd rhan yn y Swimathon yn PCCA drwy Swimathon.org neu • SÊR: Elena Jones a Jack Thomas ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe ffoniwch 0845 36 700 36 i gael mwy o wybodaeth.

HYSBYSIADAU CYHOEDDUS DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG 2015 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG, FFORDD HOME FARM FFORDD SPRUCE A FFORDD DILLWYNLLEWELLYN, PENLLERGAER, ABERTAWE HYSBYSIAD mae’r Cyngor yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig 1984 (fel y’i diwygiwyd), ac mae effaith y Gorchymyn wedi’i nodi yn yr atodlenni isod. Gellir gweld copi o’r gorchymyn, y datganiad o resymau a’r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r gorchymyn yn ysgrifenedig, ynghyd â’r rhesymau dros wrthwynebu, i’r cyfeiriad uchod i gyrraedd y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 30 Mawrth 2015 gan ddyfynnu’r cyfeirnod: DVT204936. ATODLEN ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac sy’n berthnasol i hyd neu hydoedd y ffordd/ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG FFORDD HOME FARM Ochr y gogledd ac ochr y de O’i chyffordd ag ymyl palmant ddwyreiniol yr A483 i bwynt 126 metr i’r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Ffordd Spruce. (Er eglurhad, mae hyn yn cynnwys cyffordd cylchfan Ffordd Home Farm, Ffordd Spruce a Ffordd Dillwyn-Llewellyn) FFORD DILLWYN-LLEWELLYN Ochr y dwyrain a’r gorllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant ddeheuol Ffordd Home Farm i bwynt 19 metr i’r de o hynny. (Er eglurhad, mae hyn yn cynnwys cyffordd cylchfan Ffordd Home Farm, Ffordd Spruce a Ffordd Dillwyn-Llewellyn) FFORDD SPRUCE Ochr y dwyrain a’r gorllewin O’i chyffordd ag ymyl palmant ogleddol Ffordd Home Farm i bwynt 20 metr i’r gogledd o hynny. (Er eglurhad, mae hyn yn cynnwys cyffordd cylchfan Ffordd Home Farm, Ffordd Spruce a Ffordd Dillwyn-Llewellyn) Dyddiedig dydd Llun 2 Mawrth 2015 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe

CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG STRYD BALACLAVA, TERAS CILFÁI, RHODFA LYDFORD A STRYD MAESTEG, ST THOMAS, ABERTAWE HYSBYSIAD 2015 HYSBYSIR trwy hyn y gwnaeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe, ddydd Llun, yr 2il ddiwrnod o fis Mawrth 2015, orchymyn, yn unol â’i bwerau fel y’u cynhwyswyd yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) a Deddf Rheoli Traffig 2004, y nodir effaith hynny yn yr atodlenni isod. Bydd y gorchymyn yn dod i rym ddydd Llun, 9 Mawrth 2015. Gellir gweld copi o’r gorchymyn a’r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe (trwy gais i’r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT201717). Gall unrhyw un sy’n dymuno herio’r gorchymyn ar y sail nad yw o fewn pwerau’r Ddeddf, neu oherwydd na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed yn unol â hi, wneud cais i’r Uchel Lys yng Nghofrestrfa Ddosbarthol Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd CF1 1ET o fewn chwe wythnos i greu’r gorchymyn at y diben hwnnw. ATODLEN ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodir yn yr Atodlen isod ac i’r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr Atodlen isod.

Balaclava at bwynt 20 metr i’r gogledd gan gynnwys ar draws y pen caeedig a’r pen morthwyl ar yr ymyl palmant dwyreiniol. Dyddiedig dydd Llun 2 Mawrth 2015 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe

GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG ARFAETHEDIG HEOL DYFFRYN A PHANTGLAS, GORSEINON HYSBYSIAD 2015 HYSBYSIR trwy hyn bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n bwriadu gwneud gorchymyn yn unol â’i bwerau a gynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) y disgrifir ei effaith yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o’r Gorchymyn arfaethedig, y Datganiad o Resymau a’r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN trwy gais i’r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT-00204733. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynigion a’r rhesymau drostynt yn ysgrifenedig at Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN erbyn 30 Mawrth 2015. ATODLEN 1 DIDDYMIADAU

TERAS CILFÁI Y Ddwy Ochr

ATODLEN 2

O’i gyffordd ag ymyl palmant dwyreiniol Heol Pentreguinea am bellter o 15 metr i’r deddwyrain o’r gyffordd honno.

GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG

GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG

STRYD MAESTEG Y Ddwy Ochr O’i chyffordd â Heol Foxhole at bwynt 15 metr i’r dwyrain o’r gyffordd honno.

Heol Dyffryn Ochr y Gorllewin O bwynt 10 metr i’r gogledd o’i chyffordd ag ymyl palmant gogleddol Pantglas i bwynt 10 metr i’r de o’i chyffordd ag ymyl palmant deheuol Pantglas.

O’i chyffordd â Rhodfa Lydford at bwynt 5 metr i’r gorllewin o’r gyffordd honno.

Pantglas

RHODFA LYDFORD

O’i chyffordd ag ymyl orllewinol Heol Dyffryn i bwynt 20 metr i’r gorllewin o’r gyffordd honno.

Ochr y Gorllewin O bwynt 10 metr i’r de o’i chyffordd â Stryd Maesteg at bwynt 10 metr i’r gogledd o’r gyffordd honno. STRYD BALACLAVA Y Ddwy Ochr O ymyl palmant y pen caeedig i’r de o Stryd

Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon

DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981 DEDDF PARCIAU CENEDLAETHOL A MYNEDIAD I GEFN GWLAD 1949 AROLWG O FAP DIFFINIOL HAWLIAU TRAMWY CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE

CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE

Diddymir y Gorchmynion Traffig presennol i’r graddau y maent yn anghyson â’r gofynion a nodir yn yr Atodlen isod ac i’r graddau y maent yn ymwneud â hyd neu hydoedd y ffordd neu’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn yr Atodlen isod.

ATODLEN 2

HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN ADDASU

Y Ddwy Ochr

Dyddiedig dydd Llun 2 Mawrth 2015 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe

CYMUNED LLANRHIDIAN UCHAF GORCHYMYN ADDASU, RHIF 217, 2013 Ar 16 Ionawr 2015, cadarnhawyd y Gorchymyn a enwyd uchod gan Arolygydd a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Bydd y gorchymyn yn addasu’r Map Diffiniol a’r Datganiad ar gyfer yr ardal drwy amrywio’r manylion ar gyfer llwybr cerdded rhif 64, “Gan ddechrau ar Heol Blue Anchor Poundffald i’r dwyrain o Fferm Pen yr Heol, ac yn parhau i’r de ar draws caeau i Fferm Pant yr Heol”, gan ddefnyddio hyd y llwybr hwnnw “Gan ddechrau ar Heol Blue Anchor Poundffald (Cyfeirnod Grid SS 556 946) a pharhau i gyfeiriad y de yn bennaf i deithio ar hyd y trac i’r gorllewin, ond gyferbyn â Fferm Pen yr Heol am 172 metr cyn parhau i gyfeiriad y deddwyrain yn bennaf am 70 metr (Cyfeirnod Grid SS 556 994).” Mae copi o’r Gorchymyn fel y’i cadarnhawyd a’r Map a geir ynddo wedi’i osod yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe a gellir ei weld yno am ddim rhwng 8.30am a 5.00 pm. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o’r Gorchymyn yno am £1.00. Daeth y Gorchymyn i rym ar 16 Ionawr 2015 ond os yw rhywun yn anghytuno â’r Gorchymyn ac yn dymuno cwestiynu ei ddilysrwydd ar y sail nad yw o fewn pŵer Adran 53 neu 54 neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion Adran 15 mewn perthynas â’r Gorchymyn, gall gyflwyno cais i’r Uchel Lys o fewn 42 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r Hysbysiad hwn. Dyddiedig yr 2il ddiwrnod o fis Mawrth 2015 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.