Arwain Abertawe Rhifyn 93
Medi 2014 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Canol y Ddinas Paratoi ar gyfer adfywio economaidd a hefyd
tudalen 3
CDLI • SYNIAD GWYCH SY'N DWYN FFRWYTH: Sut gall pawb hau hadau dyfodol cynaliadwy yn eu iardiau cefn. Gweler tudalen 7 Llun gan Jason Rogers
GOFYNNIR i breswylwyr y ddinas ymuno yn y drafodaeth am ddyfodol gwasanaethau eu cyngor. Mae pobl leol yn cael cyfle i ddweud eu dweud am ddyfodol gwasanaethau'r ddinas ac ystyried pa wasanaethau y byddent yn fodlon ymgymryd â nhw, gan adeiladu ar enghreifftiau o weithredu cymunedol sydd eisoes i'w gweld ar draws Abertawe. Bydd Abertawe Gynaliadwy: Yn Addas i'r Dyfodol, Parhau â'r Sgwrs yn mynd â rhaglen drawsnewid uchelgeisiol y cyngor i'r cam nesaf. Ei nod yw sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn diwallu anghenion preswylwyr ac yn fforddiadwy, gan ystyried yr heriau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Meddai Dean Taylor, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, "Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth gynghorau lleol i ddisgwyl 4.5% o doriadau mewn grantiau bob
gwybodaeth
Trawsnewid gwasanaethau wrth wraidd y drafodaeth fawr BYDD Cyngor Abertawe'n mynd allan i gwrdd â grwpiau cymunedol yn eu cymdogaethau dros yr wythnosau nesaf i barhau â'r drafodaeth am Abertawe Gynaliadwy - yn Addas i'r Dyfodol. Bydd nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd yn cael eu darparu i grwpiau cymunedol mewn canolfannau ar draws y ddinas. Bydd aelodau'r cyhoedd hefyd yn cael cyfle i ymuno yn y drafodaeth drwy fynd i un o'r cyfarfodydd cymunedol hynny, cymryd rhan ar-lein neu drwy gyfrannu at arolwg ar-lein. Bydd taflenni'n cael eu dosbarthu yn yr wythnosau nesaf i lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, adeiladau cymunedol a lleoliadau eraill. Caiff gwe-dudalennau arbennig y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/sustainableswansea eu diweddaru dros yr wythnosau nesaf hefyd, neu gallwch e-bostio sustainableswansea@swansea.gov.uk os hoffech wahodd tîm Abertawe Gynaliadwy - yn Addas i'r Dyfodol i roi cyflwyniad.
blwyddyn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn Abertawe, ar ben y galw cynyddol am wasanaethau megis cefnogaeth ar gyfer pobl hŷn, mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni nawr arbed o leiaf £70m yn y tair blynedd nesaf o'i gymharu â £45m o arbedion, sef y swm roeddem yn meddwl bod rhaid i ni ei arbed y llynedd. Meddai, "Mae'n rhaid i ni i gyd
wynebu'r realiti anodd hwn ac mae'n hollbwysig i ni ofyn i bobl leol beth yw'r blaenoriaethau yn eu barn nhw, pa ran gallan nhw ei gwneud wrth ddarparu rhai gwasanaethau yn y dyfodol a pha wasanaethau dylem eu lleihau neu roi'r gorau i'w darparu. Yn ôl Mr Taylor, roedd y cyngor wedi torri miliynau o bunnoedd o'i gyllidebau ers lansio Abertawe
Gynaliadwy: Yn Addas i'r Dyfodol y llynedd, drwy leihau costau rheoli, prynu'n effeithlon ac arbedion penodol mewn gwasanaethau. “Ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd ac mae angen i'n preswylwyr, ein staff, busnesau lleol a sefydliadau eraill edrych i'r dyfodol ac ymuno yn y drafodaeth am yr hyn y dylai'r cyngor ei wneud yn y blynyddoedd nesaf, oherwydd bydd rhaid i'r cyngor drawsnewid ei ffordd o wneud pethau yn y dyfodol. "Rydym hefyd am dderbyn syniadau gan breswylwyr a chymunedau am yr hyn y maent yn barod i'w wneud dros eu hunain ac eraill yn hytrach na disgwyl i'r cyngor ei wneud bob tro, a'r rôl y gall asiantaethau eraill ei chyflawni ar yr un pryd.” Meddai Mr Taylor, "Byddwn yn gofyn i'n preswylwyr hefyd pa wasanaethau na ddylai'r cyngor eu darparu bellach, efallai am y gallant gael eu cyflwyno yn fwy effeithlon neu'n fwy cynaliadwy gan rywun arall.”
Y cam diweddaraf ar gyfer glasbrint cynllunio'r ddinas tudalen 2
Taclus Plant yn arwain gwaith glanhau cymunedau tudalen 4
Ysgolion i elwa o waith adnewyddu gwerth £73m tudalen 5
Arwain
Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040
Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc 0800 132081 Materion eraill yn ymwneud â phriffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Archwillo Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600
Cysylltwch ag Arwain Abertawe I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092 Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe
I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733
Medi 2014
Eich barn yn helpu i lunio dyfodol ein dinas MAE cynllun a fydd yn dylanwadu ar ddefnydd tir mewn cymunedau ar draws Abertawe am genedlaethau i ddod wedi cymryd cam pwysig ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru'n gofyn bod pob cyngor yng Nghymru'n llunio CDLl, sef cynllun tymor hir ar gyfer pennu defnydd tir. Cafodd y Strategaeth a Ffefrir y cytunwyd arni ei chymeradwyo'r mis diwethaf ac mae'n garreg filltir bwysig wrth lunio'r cynllun. Y Strategaeth a Ffefrir yw'r cyhoeddiad ffurfiol cyntaf yn y broses gyffredinol o lunio'r cynllun ac mae'n amlinellu'n fras sut mae'r cyngor yn bwriadu datblygu Abertawe dros y 10 i 15 mlynedd nesaf mewn modd cynaliadwy. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio Abertawe, "Bydd angen tir yn Abertawe i ddarparu mwy na 17,000 o gartrefi newydd a 15,000 o swyddi yn y ddinas a'r sir hyd at 2025. Mae'n bwysig sicrhau bod y cynllun hwn yn gywir ac rydym am gael cymaint o fewnbwn gan y cyhoedd â phosib. O'r blaen, gofynnodd y cyngor i'r cyhoedd gyflwyno Safleoedd Ymgeisiol a ddylai gael eu cynnwys yn y CDLl yn eu barn hwy. Cyflwynwyd mwy na 500 o safleoedd i'w cynnwys, a diystyrwyd sawl un yn y camau cychwynnol. Torrwyd y nifer i 250 yn dilyn y cam didoli diweddaraf. Mae swyddogion cynllunio bellach yn ystyried y safleoedd sy'n weddill i asesu eu haddasrwydd i'w cynnwys. Un o brif flaenoriaethau'r cynllun yw nodi pocedi mawr o dir sy'n addas ar gyfer defnydd preswyl a chyflogaeth, gan gydbwyso'r gofynion hyn yn erbyn diogelu'r amgylchedd. Ychwanegodd Mr Holmes, "Mae'r CDLl yn un o'r cynlluniau tymor hir pwysicaf sydd gennym ar gyfer y
Mwynhau
Abertawe
yr hydref hwn
•SAFLEOEDD O BWYS: gallai'r CDLl gael dylanwad ar leoedd fel hyn ddinas. “Bydd poblogaeth Abertawe'n tyfu dros y degawd nesaf a bydd angen cartrefi, swyddi, isadeiledd a chyfleusterau cymunedol newydd arnom er mwyn cefnogi'r twf hwn a gwella safonau byw hefyd. "Mae'n bwysig ein bod yn cynllunio'n briodol ar gyfer y twf hwn gan roi sylw i fuddion Abertawe a'r bobl sy'n byw yma. Bydd y CDLl yn ein helpu i gyflawni hyn a gall preswylwyr helpu gyda'r broses hon drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau sydd ar ddod."
Medi Abertawe Dylan Amgueddfa Abertawe Tan 2 Tachwedd 01792 653763 Arddangosfa Llawysgrifau Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas 13 Medi - 23 Rhagfyr 01792 463980 Proms yn y Parc y BBC Parc Singleton 13 Medi bbc.co.uk/proms Tyˆ Agored Abertawe Castell Ystumllwynarth 13 Medi 01792 361302
Rigoletto Sgrîn Fawr Abertawe Sgwâr y Castell 17 Medi 01792 635428 Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf Cyngerdd Gala Neuadd Brangwyn 20 Medi 01792 637300 Gorymdaith Dadfyddino’r Milwyr Canol Dinas Abertawe 20 Medi 10k Bae Abertawe Admiral Bae Abertawe 21 Medi 01792 635428
Beth yw'r CDLl a beth yw ei ddiben? Bydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn darparu gweledigaeth hir dymor ar gyfer cynllunio defnydd tir yn Abertawe o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Bydd yn effeithio ar gymunedau ledled y ddinas. Beth sy'n digwydd nesaf? Ar ôl gwneud y penderfyniadau terfynol ar y Safleoedd Ymgeisiol a fydd yn rhan o'r CDLl, bydd y cyngor yn cyhoeddi Cynllun Cyn
Hydref Digwyddiad Cenedlaethol Diwrnod Barddoniaeth Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas 2 Hydref 01792 463980 Cerddorfa Philharmonia Neuadd Brangwyn 4 Hydref 01792 475715 Cerddi ym mis Hydref, Dylan a Shakespeare Lleoliadau amrywiol Canol Dinas Abertawe 25 Hydref - 9 Tachwedd Gwyl ˆ Dylan Thomas Canolfan Dylan Thomas 27 Hydref - 9 Tachwedd 01792 463980
Adnau a fydd yn nodi cyfyngiadau anheddiad a dyraniadau tir manwl. Hwn fydd y cam ffurfiol nesaf pan fydd pobl yn cael dweud eu dweud a rhagwelir y bydd hyn yn digwydd ar ddechrau 2015. Sut gallaf gymryd rhan? I gael mwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â Thîm Polisi Cynllunio'r Cyngor drwy ebostio CDLl@swansea.gov.uk neu ewch i www.abertawe.gov.uk/ldp Antics Anifeiliaid: Pryfetach Plantasia 27 - 29 Hydref 01792 474555 Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf Prom Abertawe 30 - 31 Hydref 01792 635411 Nos Galan Gaeaf Fwganllyd Plantasia 30 - 31 Hydref, 1 Tachwedd 01792 474555 Digwyddiad Bwganllyd Nos Galan Gaeaf Castell Ystumllwynarth 31 Hydref 01792 361302
www.dewchifaeabertawe.co.uk
Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
gwybodaeth
gwybodaeth
2
i gael y newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe
Arwain
Abertawe eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor
Medi 2014
3
Dyddiadau pwysig y cyngor CROESO i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir mwyafrif y cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond noder y gallech gael eich atal rhag mynd i gyfarfod neu ran ohono. Roedd y rhestr hon yn gywir pan gafodd ei hargraffu, ond os ydych yn ystyried mynd, ffoniwch 01792 636000 cyn gadael i gadarnhau’r lleoliad a’r amser. Gallwch gasglu manylion yr agenda drwy fynd i wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary
9 Medi Cyngor, 5pm
• ATYNIAD UNIGRYW: Bydd siopa’n un rhan yn unig o’r hyn sydd gan ganol y ddinas i’w gynnig yn y dyfodol
MAE arbenigwyr rhyngwladol ar gelf, dylunio trefol a phensaernïaeth yn dod i Abertawe fis nesaf i drafod dyfodol dinasoedd ac i gynnig cyngor ar y ffordd orau i drawsnewid canol y ddinas yn lleoliad diwylliannol bywiog. Bydd eu harbenigedd yn helpu Cyngor Abertawe i adeiladu ar ei gais diweddar am statws Dinas Diwylliant y DU gan ddatblygu cyrchfan unigryw ac arbennig a fydd yn manteisio ar gryfderau Abertawe. Cynhelir y gynhadledd yn Neuadd Brangwyn ac fe'i trefnir gan y cyngor mewn partneriaeth â Chomisiwn Dylunio Cymru fel rhan o adolygiad sylweddol o ganol y ddinas. Bydd aelodau'r cyhoedd a busnesau hefyd yn cael eu hannog i
gwybodaeth
Dyfodol bywiog wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer canol y ddinas MAE digwyddiadau yng nghanol y ddinas yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr a'r gwerthiannau yn ôl y ffigurau diweddaraf. Ym mis Mehefin eleni, er enghraifft, roedd gwerthiannau wedi cynyddu 4.6% o'u cymharu â'r un mis y llynedd ac roedd nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu 12.1%. Roedd ffigurau canol dinas
rannu eu barn mewn cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ychwanegol yr hydref hwn. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Adfywio Economaidd Cyngor Abertawe, "Mae canol ein dinas wedi wynebu cyfnod anodd, nid yn unig oherwydd y dirywiad economaidd ond am fod arferion siopa pobl yn newid. "Rydym yn gwneud popeth y gallwn i helpu ein masnachwyr ond mae effaith parciau manwerthu ar gyrion y ddinas a siopa ar-lein yn
Abertawe'n mynd yn groes i'r duedd ar draws gweddill y DU ym mis Mehefin gyda gwerthiannau cenedlaethol wedi disgyn 0.8% a nifer yr ymwelwyr wedi disgyn 1.6%. Ymysg y digwyddiadau a gynhaliwyd yng nghanol y ddinas ym mis Mehefin roedd GĹľyl Gludiant Abertawe a diwrnod hwyl Parti'r Byd.
golygu na all canol y ddinas ddibynnu ar ddatblygiadau manwerthu'n unig bellach. "Bydd siopau'n parhau i fod yn rhan fawr o'r ddarpariaeth yng nghanol y ddinas, ond mae'n rhaid cael llawer mwy o bethau yno i gynyddu nifer yr ymwelwyr er mwyn i'n busnesau ffynnu. "Mae'n rhaid i ganol y ddinas fod yn rhywle y mae pobl am ymweld ag ef, rhywle sy'n hawdd ei gyrraedd ac sy'n cynnig ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau
i greu awyrgylch a fydd yn denu pobl o bob oed a diddordeb. "Mae barn arbenigwyr, busnesau a thrigolion Abertawe'n hanfodol er mwyn i ni gyrraedd ein nod. Bydd y gynhadledd a'r amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill yr hydref hwn yn rhoi cyfle i bawb fynegi eu barn am y ffordd orau i wella canol y ddinas yn y dyfodol." Yn ogystal â hyn, gallai cannoedd mwy o bobl ddod i fyw a gweithio yng nghanol dinas Abertawe oherwydd hwb ariannol gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru. Mae datblygiadau defnydd cymysg a arweinir gan y gymdeithas tai ar y Stryd Fawr a Ffordd y Brenin ymysg y prosiectau y mae Llywodraeth Cymru bellach wedi'u cymeradwyo ar gyfer canol y ddinas fel rhan o'i rhaglen adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
16 Medi Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 1, 2pm 19 Medi Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 23 Medi Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 2, 2pm Cabinet, 5pm 24 Medi Pwyllgor Cydraddoldeb, 5pm 30 Medi Cyngor, 5pm 4 Hydref Pwyllgor Archwilio, 4pm 9 Hydref Pwyllgor Rheoli a Rheolaeth Datblygu, 5pm 14 Hydref Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 1, 2pm 17 Hydref Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 21 Hydref Pwyllgor Rheoli Datblygiad Ardal 2, 2pm Cabinet, 5pm 22 Hydref Pwyllgor Cydraddoldeb, 5pm 27 Hydref Pwyllgor y Rhaglen Graffu, 4.30pm 29 Hydref Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, 5pm 30 Hydref Pwyllgor Archwilio, 4pm
Eich Arwain Abertawe
DAW Arwain Abertawe atoch chi drwy'r Post Brenhinol. Fodd bynnag, ni chefnogir unrhyw bost a allai gyrraedd ar yr un pryd ag Arwain Abertawe gan Ddinas a Sir Abertawe mewn unrhyw ffordd.
4
Arwain Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk
Abertawe
Medi 2014
Craffu ar Siarter
Llwyddiant cynllun hyfforddi MAE cynllun sydd wedi cynhyrchu dros 4,000 o wythnosau o hyfforddiant yn y gweithle ers ei sefydlu wedi derbyn canmoliaeth am arfer rhagorol. Roedd cynllun Y Tu Hwnt i Frics a Morter Cyngor Abertawe yn fuddugol yng nghategori Manteision i'r Gymuned yn y Gwobrau Caffael Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Nod y cynllun yw sicrhau hyfforddiant a swyddi newydd ar gyfer pobl leol sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser hir mewn contractau gyda'r cyngor megis adeiladu. Mae dros 130 o weithwyr dan hyfforddiant wedi elwa o brentisiaethau, gwaith gyda hyfforddiant a hyfforddiant coleg ers sefydlu Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn 2009. Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio mewn partneriaeth agos ar y cynllun gyda sefydliadau megis Gweithffyrdd y Deorllewin, y Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Gorllewin Cymru.
• BYWYD AR Y TRAETH: Pobl ifanc o Ysgol Gynradd Christchurch yn helpu i gadw Bae Abertawe'n lân ac yn daclus
Pobl ifanc yn arwain y ffordd i lanhau’r ddinas MAE ein hymgyrch 'Abertawe Daclus' ar draws y ddinas yn gwneud gwahaniaeth o draethau Gŵyr i ganol y ddinas a'r cymunedau rhyngddynt. Mae casgliadau sbwriel mewn ysgolion, rheolau llymach ar faw cŵn a baneri mewn parciau i gyd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth wrth helpu i gadw'r ddinas yn lanach ac yn daclusach. Mae'n flwyddyn ers cyflwyno swyddogion gorfodi sbwriel ar ein strydoedd ac mae mwy na 3,000 o bobl sydd wedi gollwng sbwriel wedi derbyn hysbysiadau o gosb benodol am beidio â gwneud y peth iawn. Meddai Bob Fenwick, Swyddog
yn fy marn i
MAE Maethu Abertawe'n cynnal digwyddiad ymgynghori nodedig fis nesaf ar gyfer cannoedd o ofalwyr a'u plant i gynyddu ymwybyddiaeth o'r CCUHP. Bydd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn annerch y digwyddiad yn Neuadd Brangwyn sy'n dod â gofalwyr maeth, eu plant hwy a'r plant maent yn gofalu amdanynt ar ran Cyngor Abertawe ynghyd. Diben y diwrnod ymgynghori a elwir - Let's Get it RIGHT Swansea yw bod pawb sy'n ymwneud â Maethu Abertawe yn dod ynghyd i drafod y goblygiadau wrth i Abertawe gofrestru'n ffurfiol fel yr awdurdod lleol cyntaf yn y DU gyda'r CCUHP. Meddai Kelly Lewis, Datblygu Busnes Maethu Abertawe, "Rydym yn falch iawn ein bod yn trefnu'r digwyddiad nodedig hwn a fydd yn ein helpu i ymgynghori â'r holl deuluoedd maeth, gan roi cyfle iddynt fynegi eu barn ynghyd â chanolbwyntio ar bwysigrwydd hawliau plant. I gael mwy o wybodaeth am Faethu Abertawe, ewch i www.fosterswansea.org
MAE Cadwch Gymru'n Daclus wedi croesawu'r camau gweithredu a gymerwyd gan y cyngor. Meddai Phil Davies, Swyddog Trefi Taclus, "Mae'r cyngor wir yn gwneud ymdrech i geisio newid arferion pobl a helpu i gadw'r ddinas yn lân. Rydym hefyd yn gweithio gyda digon o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol sydd am weld cymunedau disbwriel. Maent yn cymryd rhan mewn casgliadau sbwriel grŵp ac mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'r ardal yr ydynt yn byw ynddi."
Amgylchedd Cymdogaethau Cyngor Abertawe, "Rydym yn ceisio annog cynifer o bobl â phosib i wneud y peth iawn a gwaredu sbwriel mewn ffordd gyfrifol. "Nid oes angen taflu sbwriel oherwydd dylai pobl ddefnyddio biniau. Rydym wedi buddsoddi llawer o arian i ddarparu biniau
gwastraff, yn enwedig yng nghanol y ddinas, ac yn ystod yr haf, mae pobl ar eu ffordd i'r traeth hefyd wedi'u hannog i beidio â gadael sbwriel ar draethau na gadael sbwriel ger bin os yw'r bin yn llawn." Caiff mwy na £2 filiwn ei wario bob
blwyddyn yn Abertawe i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel gan gynnwys tipio'n anghyfreithlon. Mae ysgolion hefyd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch Abertawe Daclus, gan gynnwys Ysgol Gynradd Seaview, a dywedodd Helen Rabab, athrawes ac ecogydlynydd, "Mae ein hysgol yn cynnal sesiynau casglu sbwriel bron bob pythefnos. Mae'n helpu'r plant ysgol i fod yn ymwybodol o swm y sbwriel sy'n cael ei ollwng ar y llawr. "Gobeithio y gallant weld yr effaith mae'n ei chael ar eu cymuned leol a dysgu iddynt beidio â gollwng sbwriel." • Cymerwch ran yn Abertawe Daclus drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/tidyswansea
Gallwch ddysgu sut i nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru MAE cenhedlaeth newydd o sêr Paralympaidd, y Gymanwlad a phara-chwaraeon o Gymru'n cael y cyfle i ddysgu sut i nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Ar ôl haf o chwaraeon gyda'r ddinas yn cipio chwe medal yng Ngemau'r Gymanwlad, mae'r pwll yn ehangu ei ystod o wersi nofio cymunedol. Gall preswylwyr weld manylion llawn rhaglen newydd sy'n cynnig gwersi i bobl hen ac ifanc yn ogystal â sesiynau
i'r rhai ag anabledd neu awtistiaeth yn www.walesnationalpool.co.uk Meddai Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol PCCA, "Mae gan PCCA enw da ym mhedwar ban byd am ei gyflawniadau nofio a phara-chwaraeon yn benodol. Ond yr unig beth sydd gan y rhai sydd wedi ennill medal yn gyffredin yw eu bod wedi dechrau drwy ddysgu sut i nofio. "Ein gobaith yw y bydd pobl yn cael eu hysbrydoli gan yr hyn a welsant yng Ngemau'r Gymanwlad a'u bod am roi
cynnig ar nofio. "Hyd yn oed os nad yw pobl yn anelu at nofio cystadleuol, mae digon i'w ennill o ran ffitrwydd, iechyd a lles drwy ymweliadau rheolaidd â'u pwll lleol. "Mae hyfforddwyr Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe wir o'r radd flaenaf ac maent yn hyfforddedig wrth gefnogi pobl ag anableddau i ddefnyddio'u hamser yn y dŵr yn y ffordd orau fel eu bod yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel."
Medi 2014
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe
Disgwylir i fwy na £140m gael ei fuddsoddi mewn ysgolion
Arwain
Abertawe
5
Crynodeb o’r
newyddion Tâl i arbed £58,000 y flwyddyn MAE Cyngor Abertawe'n dilyn olion traed y DVLA a'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol eraill drwy gyflwyno tâl o 2% i'r rhai sy'n defnyddio cerdyn credyd i dalu am wasanaethau'r cyngor. Wrth wneud hyn, mae'n dilyn enghraifft sefydliadau eraill, gan gynnwys asiantiaid teithio, cwmnïau yswiriant a hyrwyddwyr cyngherddau sy'n trosglwyddo cost trafodion cerdyn credyd i'w cwsmeriaid. Ni fydd y ffi'n creu elw i'r cyngor ond bydd yn adennill cost prosesu taliadau cardiau credyd a bydd yn arbed tua £58,000 y flwyddyn. Ni chodir tâl ar ddefnyddwyr cardiau debyd a disgwylir y caiff y tâl ei gyflwyno o fis Hydref. Mae'r cyngor yn annog pobl i ddefnyddio debyd uniongyrchol ar gyfer taliadau fel treth y cyngor er mwyn lledu'r gost ac atal dyled rhag cronni.
Plac glas i barc hanesyddol
MAE ein rhaglen uchelgeisiol o fuddsoddi mewn ysgolion newydd ac adnewyddu cyfleusterau addysgol yn dwyn ffrwyth sylweddol ac yn helpu i drechu tlodi ymhlith plant a chymunedau ym mhob rhan o Abertawe. Dros y ddeng mlynedd diwethaf fwy neu lai, mae £70m wedi cael ei wario ar ddarparu cyfleusterau ac ystafelloedd dosbarth sy'n addas i'r 21ain ganrif mewn mwy na 40 o ysgolion a fydd yn fuddiol i genedlaethau o ddisgyblion. Ac mae buddsoddiad gwerth £73m arall yn yr arfaeth i ddarparu ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau addas ar gyfer hyd yn oed mwy o blant yn y blynyddoedd i ddod. Dywedodd Arwyn Thomas, Prif Swyddog Addysg Abertawe, fod y
y gwaith adeiladu mawr
• YN ADDAS I'R DYFODOL: Mae disgyblion Ysgol Gyfun Cefn Hengoed wedi elwa ar brosiect gwella gwerth £10m i ddarparu ystafelloedd dosbarth sy'n addas i'r 21ain ganrif. DROS y 10 mlynedd diwethaf mae adeiladau newydd wedi'u codi yn YGG Llwynderw, Ysgol Gynradd St Thomas, Ysgol Gynradd Sgeti ac Ysgol Gyfun Cefn Hengoed gyda mwy i ddod yn ysgolion Burlais, Tregŵyr, Gorseinon ac YGG Lôn-las. Mae bron 90 o ystafelloedd dosbarth mewn hen gabanau a oedd mewn cyflwr gwael wedi cael eu disodli gan gyfleusterau wedi'u hadnewyddu mewn ysgolion fel Gellifedw, YGG Pontybrenin, Newton a Glyncollen. Ymysg gwaith adnewyddu arfaethedig yn y rownd nesaf o wariant mae codi adeiladau newydd yn ysgolion Burlais a Thregŵyr a gwaith uwchraddio yn Ysgol Gyfun Pentrehafod, YG Gŵyr ac Ysgol Gynradd Pentre'r Graig.
rownd ddiweddaraf o welliannau sy'n cael eu hariannu'n rhannol trwy werthu tir dros ben mewn rhai ysgolion yn y ddinas - yn hanfodol er mwyn cynnal y llwyddiant sydd wedi cael ei gyflawni dros y 10 mlynedd diwethaf. Meddai, “Mae pob un ohonom yn gwybod bod cyswllt uniongyrchol rhwng darparu cyfleusterau addysgol addas a disgyblion yn gwneud yn dda yn yr ysgol.
“Bydd parhau â'r rhaglen hon yn ein helpu i fynd i'r afael â thlodi trwy wella rhagolygon disgyblion a'u cyfleoedd economaidd. “Nid galluogi rhai i wneud yn dda yw'r diben hyn; y nod yw rhoi'r cyfle i gynifer o blant â phosib wneud yn dda. “Yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen yw gwerthu tir dros ben mewn rhai ysgolion y gellir ei wneud gan barhau i adael digon o le ar gyfer
chwaraeon a dysgu awyr agored.” Ers hynny mae miloedd o blant wedi elwa mewn 40 ysgol arall trwy waith y bartneriaeth. Dywedodd disgyblion yn Ysgol Gyfun Cefn Hengoed fod y gwelliannau gwerth £10m yno wedi'u helpu i drawsnewid eu cyfleoedd a'u hagwedd tuag at fywyd ysgol. Ar y pryd meddai Dunya Satdarzada, a oedd ymhlith y cyntaf i elwa pan agorwyd yr ysgol newydd yn 2012, “Mae'r adeilad newydd yn ysbrydoliaeth. “Mae'n gwneud i mi eisiau dysgu. Mae'n gwneud i mi eisiau creu pethau. Mae'n gwneud i mi eisiau dod i'r ysgol.” Ac meddai ei chyd-ddisgybl Connor Davies, a oedd hefyd ym Mlwyddyn 7 ar y pryd, “Rydych yn edrych ar yr ysgol nawr ac rydych yn teimlo'n falch. Mae fel – ie, dyna ble dwi'n mynd!”
Rydym yn dewis y ffordd glyfar o ailgylchu MAE dros 1,200 o ddefnyddwyr ffôn clyfar yn Abertawe wedi lawrlwytho ap arbennig sy'n helpu preswylwyr i ailgylchu mwy o wastraff a rhoi eu sbwriel allan ar y diwrnod cywir. Comisiynwyd yr ap 'Connect Swansea' gan Gyngor Abertawe ac mae'n darparu'r holl wybodaeth y mae ei hangen ar breswylwyr ynglŷn ag ailgylchu a chasgliadau gwastraff. Mae'r ap hefyd yn rhoi gwybod i breswylwyr am newidiadau i ddiwrnodau casglu yn ystod gwyliau,
megis y Nadolig a gwyliau banc. Yn ddiweddar cyhoeddodd y cyngor ystadegau ailgylchu misol ar gyfer mis Ebrill a mis Mai eleni ar ôl cyflwyno terfyn ar wastraff sachau du. Mae'r ffigurau'n dangos cynnydd mawr yn
swm yr ailgylchu a gasglwyd o'i gymharu â'r un misoedd yn 2013. Ar gyfartaledd rhoddodd preswylwyr 25 o dunelli'n fwy o wastraff ar ymyl y ffordd i'w gasglu gan y gwasanaeth ailgylchu bob dydd dros y pedwar mis ers lansio'r ymgyrch Cadwch at 3 ym mis Ebrill o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2013. Mae ystadegau newydd yn dangos y bu cynnydd yn nifer cyfartalog y deunydd ailgylchu a gasglwyd bob dydd gan breswylwyr ar draws Abertawe o 95 o dunelli ym
misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf y llynedd i 120 o dunelli yn yr un pedwar mis eleni. Bydd rhaid i gynghorau yng Nghymru ailgylchu 58% o wastraff dinesig erbyn 2016. Mae'r ffigurau diweddaraf yn Abertawe yn dangos bod y ddinas yn ailgylchu ychydig dros 53%. • Er mwyn lawrlwytho'r ap am ddim, ewch i'r iPhone AppStore neu'r Play Store Android, neu gallwch fynd i www.abertawe.gov.uk/recyclingapp
MAE parc yn Abertawe a ysbrydolai Dylan Thomas yn ei ieuenctid yn cael ei ddathlu fel un o uchafbwyntiau treftadaeth y ddinas. Mae Cyngor Abertawe wedi dadorchuddio parc glas coffaol ym Mharc Cwmdoncyn, sydd wedi ennill y Faner Werdd, er mwyn cydnabod ei gysylltiadau â'r bardd bydenwog. Ganwyd Dylan o fewn tafliad carreg i'r parc yn Rhodfa Cwmdoncyn a threuliai oriau maith yn chwarae yno pan oedd yn blentyn. Yn un o'i weithiau mwyaf nodedig o'r enw 'Reminiscences of Childhood', cyfeiriodd Dylan at y parc fel "a world within the world of a sea town".
Cael y diweddaraf am waith ffordd y ddinas GALL modurwyr gael y diweddaraf am waith ffordd mawr yn y ddinas gan gwmnïau cyfleustod trwy weithred mor syml â throi eu ffonau clyfar neu eu cyfrifiaduron ymlaen. Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i wasanaeth mapiau monitro ffyrdd newydd sy'n cael ei ddiweddaru bob hanner awr gyda'r nod penodol o helpu modurwyr i gynllunio eu teithiau, p'un ai ydynt yn teithio i Abertawe at ddibenion gwaith neu ymweld. Ceir y gwasanaeth newydd yn www.abertawe.gov.uk/roadwatch ac mae'n ychwanegol at grynodeb wythnosol y cyngor o waith ffordd sydd ar yr un dudalen.
Reacher ar y brig MAE awdur Jack Reacher, Lee Child, wedi sgorio camp 10 uchaf ryfeddol yn Abertawe. Mae ffigurau gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe yn dangos bod pob un o'r deg e-lyfr a lawrlwythwyd fwyaf ym mis Mehefin a mis Gorffennaf gan yr awdur Prydeinig. Ewch i www.abertawe.gov.uk/librarie s am fwy o wybodaeth.
6
Arwain Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk
Medi 2014
Abertawe
Syniad sain yn uchafbwynt Dylan MAE’R seren Hollywood Michael Sheen ymhlith yr actorion y bydd ymwelwyr â chanol y ddinas yn eu clywed yn fuan yn darllen rhannau o weithiau enwog Dylan Thomas a William Shakespeare. Bydd recordiad o’i lais yn rhan o gyfres o osodiadau sain sy’n cael eu cyflwyno i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan ddiwedd mis Hydref a dechrau mis Tachwedd. Mae’r orsaf drenau, Marchnad Abertawe, Theatr y Grand, bar gwin No Sign a’r Uplands Tavern yn rhai o’r lleoliadau lle caiff y recordiadau eu gosod. Mae’r prosiect yn rhan o raglen Oriel Gelf Glynn Vivian o ddigwyddiadau a gweithgareddau oddi ar y safle. Mae arddangosfa barhaol Abertawe am Dylan Thomas hefyd yn cael ei gwella yn barod am ddechrau Gŵyl Dylan Thomas flynyddol ddydd Llun 27 Hydref. Mae’r arddangosfa, yng Nghanolfan Dylan Thomas, yn cael ei hailwampio a’i gwneud yn fwy trwy gymorth grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd ardal yr arddangosfa barhaol
yn cael ei hadnewyddu hefyd a bydd man dysgu newydd ac ystafell arddangosfeydd dros dro. Meddai Jo Furber, Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Abertawe, “Bydd prosiect y gosodiadau sain yn cyd-fynd â phopeth a fydd yn rhan o Ŵyl Dylan Thomas 2014. O Bob Kingdom i John Goodby a Michael Bogdanov, bydd ffigurau blaenllaw byd y celfyddydau’n dod i Abertawe i ddathlu canmlwyddiant un o ysgrifenwyr mwyaf dylanwadol y byd erioed. “Hefyd cynhelir penwythnos barddoniaeth ryfel teimladwy fel rhan o ddigwyddiadau parhaus i goffáu canrif ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.” Yn agor ar 13 Medi, bydd arddangosfa llawysgrifau newydd a fydd yn cynnwys ffotograffau o Dylan nad oes llawer wedi’u gweld, llawysgrifau gwreiddiol a drafft o “Do not go gentle into that good night” yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Dylan Thomas tra bydd ardal yr arddangosfa barhaol ar gau dros dro. Cewch gip ar www.dylanthomas.com am fwy o wybodaeth.
• BWYD O SAFON: Prydau ysgol o safon wych yn rhoi llawer i blant wenu amdano
Cinio am £2.10 yn unig BLE gallech chi gael pryd o fwyd dau gwrs a diod am lai na phris tiwb o bast dannedd? Yn un o ysgolion cynradd ein dinas bum niwrnod yr wythnos. Wrth i bobl ifanc ddychwelyd i’r ysgol, mae ein gwasanaeth prydau ysgol yn cynnig gwerth ardderchog am arian gyda £2.10 y dydd am wledd amser cinio sy’n flasus ac
Ymdrech dim smygu yn chwa o awyr iach MAE dwy o ardaloedd chwarae newydd i blant yn Abertawe wedi’u datgan yn ddi-fwg mewn ymgais i amddiffyn plant. Mae Pwynt Abertawe yn y Marina a Bryn-y-don ym Mayhill wedi creu ardaloedd chwarae newydd i blant yn ddiweddar ac mae arwyddion newydd wedi cael eu gosod fel rhan o ymdrechion parhaus Cyngor Abertawe i annog rhieni i beidio â smygu mewn ardaloedd chwarae. Mae pob un o’r 77 o ardaloedd chwarae awyr agored i blant y cyngor wedi cael eu dynodi’n rhai difwg fel rhan o ymgyrch iechyd ar draws y ddinas. Lansiodd y cyngor y fenter dim smygu yn 2013 â’r
nod o wneud pob ardal chwarae yn y ddinas yn ddifwg. Bellach mae arwyddion arbennig wedi cael eu gosod yn yr holl ardaloedd chwarae yn gofyn i oedolion beidio â smygu. Gobeithio bydd y fenter newydd yn annog oedolion i roi’r gorau i smygu ac atal plant rhag dechrau smygu. I smygwyr sydd am gyngor ar sut i roi’r gorau, ewch i www.stopsmokingwales.com neu ffoniwch Dim Smygu Cymru ar radffôn 0800 085 2219. Mae mwy o wybodaeth am brosiectau smygu ar gael yn www.abertawe.gov.uk/smokefreehome
Ciniawau mwy diogel MAE ciniawyr call mewn tafarnau, bwytai a chaffis lle maen nhw’n gweld sgorau hylendid bwyd uchel yn helpu Abertawe i fod yn lle mwy diogel i fwyta gyda bwyd mwy blasus. Mae’n rhaid i leoedd bwyta arddangos eu sgorau hylendid bwyd ar eu drysau blaen, eu ffenestri neu fannau blaenllaw eraill i helpu cwsmeriaid i ddewis a dethol lle i giniawa ac mae hynny’n gwneud i fusnesau weithio’n
galetach i gael sgorau uwch a rhoi hwb i fasnach. Ac mae cymhelliant gallu arddangos sgôr dda wedi helpu i gynyddu nifer y busnesau bwyd lleol â’r sgôr uchaf, sef 5, a lleihau nifer y rhai â’r sgôr isaf, sef 1. Mae nifer y safleoedd sy’n sgorio 5 wedi cynyddu o 507 i 672. Ewch i www.food.gov.uk/ratings i wirio sgorau busnesau bwyd yn Abertawe.
yn gytbwys o ran maeth. Meddai Jane Woolcock, Pennaeth Ysgol Gynradd Penllergaer, “Rydym wrth ein boddau gyda’r dewisiadau helaeth ac ansawdd y ciniawau. “Yn union fel arwyddlun ein hysgol, ‘Mae ein hysgol ni i bawb’, mae ciniawau ysgol yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae prydau ysgol yn werth da am arian
Oes rhywun arall yn gofalu am eich plentyn chi?
oherwydd eu bod yn faethlon ac yn flasus.” Meddai Dominic Protheroe, disgybl ym Mlwyddyn 6, “Enillodd ein cogyddes, Mrs Cullen, wobr am fod yn gogyddes orau’r mis ond dwi’n meddwl mai cogyddes orau’r flwyddyn ydy hi.” Meddai Ben Lazenby, Blwyddyn 5, “Y cyri yw’r pryd ysgol gorau!”
Ydych chi’n gofalu am blentyn rhywun arall?
Os oes rhywun nad yw’n berthynas agos yn gofalu am blentyn am fwy nag 28 niwrnod, mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol amdano I roi gwybod i Gyngor Abertawe 01792 635700 Yr enw ar hyn yw
Maethu Preifat I gael gwybod mwy, ewch i: www.abertawe.gov.uk/privatefostering www.privatefostering.org.uk
Medi 2014
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe
Mynegwch farn am y frwydr yn erbyn tlodi MAE preswylwyr Abertawe'n cael eu hannog i ddweud eu dweud ar sut mae'r cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â thlodi ac effaith tlodi yn ein cymunedau. Mae ymgynghoriad wedi'i lansio am Strategaeth Trechu Tlodi ddrafft Cyngor Abertawe ac mae'r awdurdod yn gofyn i bobl fynegi eu barn. Roedd lleddfu effaith tlodi ac amddifadedd yn un o ymrwymiadau canolog y cyngor ac mae'n dilyn cyflwyno nifer o raglenni Llywodraeth Cymru, megis Cymunedau'n Gyntaf, Dechrau'n Deg a
Theuluoedd yn Gyntaf, yn llwyddiannus. Nid rôl Cyngor Abertawe'n unig yw trechu tlodi yn Abertawe - mae angen i hyn fod yn ymdrech ar y cyd â chyrff cyhoeddus eraill, Llywodraeth Cymru, elusennau a'r cyhoedd, a dyna pam hoffai'r cyngor i bawb lenwi'r arolwg a dweud eu dweud. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddiwedd mis Medi. Gallwch ddweud eich dweud trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/povertystrategy
Bydd y strategaeth a'r arolwg ar gael i'r cyhoedd ar wefan y cyngor a bydd copïau caled ar gael yn swyddfeydd Cymunedau'n Gyntaf. Byddan nhw'n cael eu hanfon at sefydliadau a grwpiau cymunedol a gwirfoddol ac ar gael ar-lein i bartïon eraill â diddordeb i wneud sylwadau a rhoi adborth. Caiff canlyniad y broses ymgynghori hon ei ddefnyddio i ddatblygu'r Strategaeth Trechu Tlodi derfynol i'w hystyried gan y cyngor er mwyn ei chymeradwyo ym mis Tachwedd 2014.
Lleoedd tyfu disglair yn bwrw gwreiddiau yn ein dinas
Cynnig teg MAE defnyddwyr parcio a theithio'n cael cyfle i estyn eu hymweliad y tu hwnt i ganol y ddinas oherwydd cynnig teithio diderfyn ar fysus First Cymru yn Abertawe am £1.50 ychwanegol. Mae'r fenter teithio wedi'i datblygu i gynnig ffordd arall i ddefnyddwyr ceir deithio i fannau megis y Mwmbwls a
Abertawe
7
Crynodeb o’r
newyddion Mwynhewch daith gerdded yng nghanol y ddinas MAE castell hanesyddol Abertawe, Eglwys y Santes Fair a thŵr eiconig Cei Meridian i gyd mewn arweinlyfr i lwybr cerdded newydd trwy ganol dinas Abertawe. Lluniwyd yr arweinlyfr gan Ganolfan Croeso Abertawe mewn ymateb i'r deg ymholiad mwyaf cyffredin a ofynnir i'r staff yno bob wythnos. Mae'r llwybr cerdded yn dechrau yn y Ganolfan Croeso ar Stryd Plymouth a hefyd yn cynnwys lleoliadau megis Marchnad Abertawe, Stryd y Gwynt a Chanolfan Dylan Thomas. Mae'r llwybr yn dod i ben yn Archifau Gorllewin Morgannwg yn y Ganolfan Ddinesig ar Heol Ystumllwynarth. Mae copïau caled o'r llwybr ar gael o'r Ganolfan Croeso neu yn www.dewchifaeabertawe.com
Baw anifeiliaid MAE rhwydwaith atal troseddu Abertawe, Cŵn ar Batrol, yn arwain ymgyrch yn erbyn taflu sbwriel trwy annog perchnogion i godi baw eu hanifeiliaid anwes. Mae grŵp Cŵn ar Batrôl Abertawe Mwy Diogel yn cynnwys perchnogion cŵn brwdfrydig anhunanol sy'n gweithio gyda'r heddlu, Cyngor Abertawe a sefydliadau eraill i fynd i'r afael â materion cymunedol trwy roi gwybod am droseddau a'u hatal. Maen nhw nawr yn cefnogi ymgyrch y cyngor i annog perchnogion cŵn i lanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes trwy ddosbarthu bagiau baw cŵn mewn cynwysyddion arbennig y gellir eu clymu i dennyn.
Goleuadau gwyrdd gyda'r nos
• MAE Llysiau'r Vetch yn hau hadau ar gyfer yr ymgyrch ar draws y ddinas, Tyfu'n Lleol
fy marn i
MAE syniad disglair yn datblygu i droi darnau o dir, pennau to gwastad ac ierdydd cefn trefol concrit hyd yn oed yn 'lleoedd tyfu'. Mae Cyngor Abertawe'n lansio arweiniad cyntaf Cymru ar sut gall preswylwyr dinas greu perllan gardd, gardd pen to neu ardd fertigol hyd yn oed ar fannau bach a allai fynd yn ddiffaith fel arall. Ei enw yw “Abertawe – Ein Cymuned Tyfu” ac mae'n cael ei lansio ar 26 Medi. Mae'n adeiladu ar lwyddiant rhyfeddol prosiect Llysiau'r Vetch wedi ffynnu o fenter tyfu cymunedol i ffordd hollol newydd o fyw i'r rhai sy'n cymryd rhan. Meddai Amanda Owen, Tîm Bwyd a Thyfu Cymunedol y cyngor, "Mae tyfu cymunedol yn golygu mwy na rhandiroedd, sy'n fendigedig, ond sy'n brosiectau mawr ac mae galw mawr amdanynt. "Gall amrywio o erddi cymunedol ar ddarn o hen dir llawn chwyn, cynwysyddion a rennir i welyau uchel neu arddio fertigol hyd yn oed lle mae cynnyrch yn tyfu mewn strwythur megis wal neu ochr adeilad. "Mae'r arweiniad newydd yn rhoi arweiniad fesul cam i bobl ar y math o brosiectau sydd ar gael, y math o le a fyddai'n addas a sut i ddechrau. "Hefyd, mae arweiniad i ddatblygwyr ar sut i ymgorffori tir bwyd yn eu cynlluniau. “Gallai hyn fod mor syml â neilltuo darn o dir mewn datblygiad preswyl i'w drosglwyddo i gymdeithas preswylwyr fel lle tyfu cymunedol yn nes ymlaen, neu greu olwynion perlysiau mewn lleiniau gardd preswyl.” Bydd yr arweiniadau'n cynnig syniadau i grwpiau neu unigolion
Arwain
MEDDAI Amanda Owen: "Rydyn ni yn y cyngor wedi gweld droson ni ein hunain sut mae cynlluniau tyfu cymunedol fel Llysiau'r Vetch yn rhoi hwb i les unigolion ac ardaloedd lleol trwy gymdeithasu, tyfu a choginio bwyd ffres ac ymarfer corff yn yr awyr agored. “Mae'r prosiect wedi dod â'r gymuned at ei
sydd â diddordeb mewn cael mwy o wybodaeth am sut gallant ddechrau prosiect tyfu cymunedol, yn ogystal â rhoi arweiniad cynllunio i ddatblygwyr sy'n gallu chwarae rôl allweddol wrth wneud lle ar gyfer
gilydd ac mae'n enghraifft o mor bell mae tyfu cymunedol wedi symud o fodel hanesyddol rhandir traddodiadol. "Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr un teimladau sydd wedi golygu bod Llysiau'r Vetch wedi tyfu'n werddon werdd yng nghanol y ddinas yn bwrw gwreiddiau ym mhob man ar draws y ddinas."
tir bwyd. Mae Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i gynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan mewn tyfu bwyd yn eu cymunedau yn y ddinas ac mae cymunedau'n dechrau
elwa. • Hefyd, mae cronfa Tyfu'n Lleol
gwerth £50,000 ar gael gan y cyngor. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/growlocal
Mae’n amser pefrio pharciau lleol. Cost parcio a theithio yw £2.50 yn unig yn Abertawe am gar a hyd at bum teithiwr. Mae'r ffi ychwanegol yn golygu y gall pawb yn y grŵp ddefnyddio'r gwasanaeth bws lleol yn ddiderfyn unrhyw le yn ardal Abertawe am £4.
MAE digwyddiad sy'n dod yn rhan o galendr trawsrywiol y ddinas yn cael ei gynnal yn YMCA Abertawe ar 22 Tachwedd. Digwyddiad gwybodaeth ac adloniant blynyddol yw Pefr i bobl drawsrywiol ac mae Heddlu De Cymru a Chyngor Abertawe'n ei
gefnogi. Eleni, mae'n dathlu ei drydedd flwyddyn gydag artistiaid colur proffesiynol yn rhoi gweddnewidiadau a chyngor am ddim a noson o gerddoriaeth ac adloniant byw. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.tawebutterflies.co.uk
MAE dros 8,500 o oleuadau stryd sy'n arbed ynni wedi'u gosod ar strydoedd Abertawe fel rhan o ymgyrch ar draws y ddinas i leihau costau a bod yn ddinas wyrddach. Mae'r cyngor wedi arbed oddeutu £130,000 y flwyddyn mewn costau gweithredu ar ôl gosod goleuadau LED ac mae cynlluniau ar y gweill i osod miloedd mwy. Mae'n rhan o ymrwymiad y cyngor i'r Hinsawdd Leol, sef menter sy'n annog cynghorau i fabwysiadu arferion gwyrdd. Cewch fwy o wybodaeth yn www.local.gov.uk
Cipolwg camera MAE technoleg gamera'n cael ei defnyddio yng nghanolfannau ailgylchu gwastraff cartref Abertawe i atal safleoedd rhag cael eu camddefnyddio gan fusnesau masnachol. Mae Cyngor Abertawe wedi gosod y cyntaf o gyfres o gamerâu ANPR (adnabod rhif cofrestru awtomatig) ym mhrif Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref y ddinas yn Llansamlet. Mae'r camerâu'n cael eu defnyddio i fonitro amlder cerbydau sy'n defnyddio'r safleoedd a bydd yn helpu i nodi'r rhai sy'n eu defnyddio'n anarferol o aml.
8
Arwain Mae holl wybodaeth y cyngor ar gael yn www.abertawe.gov.uk
Abertawe Gwasanaeth gwerth chweil
Llwybr sêr yn ein parc GOSODWYD llwybr sêr sy'n tywynnu yn y tywyllwch mewn parc yn Abertawe sy'n edrych dros oleuadau llachar canol y ddinas. Mae'r dechnoleg arloesol yn golygu bod y llwybr sy'n mynd drwy Barc Bryn-y-don yn North Hill bellach yn goleuo gyda'r nos. Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am y prosiect UV oherwydd cafwyd arian gan fenter Trefi Taclus Llywodraeth Cymru. Y llwybr sêr yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'r dechnoleg chwistrellu'n creu ei hynni ei hun yn ystod y dydd ac yna mae'r cemegau trin yn rhyngweithio i greu goleuni gyda'r nos. Mae gwelliannau diweddar eraill ym Mharc Bryn-y-don yn cynnwys ardal chwarae newydd i blant. Mae adrannau parciau a phriffyrdd Cyngor Abertawe hefyd wedi torri llystyfiant, clirio sbwriel a gwneud mynedfeydd yn fwy hwylus yn ogystal â phlannu blodau gwyllt. Bydd llwyni newydd yn cael eu plannu’n fuan hefyd.
• TRWSIO TYLLAU: Mae'n tîm PATCH hwnt ac yma ym mhob tywydd yn llenwi tyllau yn y ffordd i gynnal llif y traffig.
Diolch i dîm PATCH am drwsio ffyrdd y ddinas MAE dros 3,000 o dyllau a diffygion ffyrdd eraill wedi cael eu hatgyweirio ar draws Abertawe hyd yn hyn eleni. Ymgymerwyd â'r gwaith gan nifer o dimau arbenigol Cyngor Abertawe ers dechrau mis Ionawr. Mae gan y cyngor dimau trwsio ffyrdd ar waith bob dydd yn llenwi tyllau ac yn mynd i’r afael â diffygion ffyrdd eraill ar draws y ddinas. Mae dau dîm ychwanegol hefyd yn rhan o'r fenter PATCH flynyddol (Gweithredu Blaenoriaeth ar gyfer Priffyrdd Cymunedol) sy'n ymweld â phob cymuned yn Abertawe o fis Ebrill i ddiwedd mis Rhagfyr bob blwyddyn.
gwybodaeth
MAE gwasanaethau cludiant cymunedol yn cael eu hestyn i rannau eraill o'r ddinas yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus ym Mhenrhyn Gŵyr. Ymunodd Cyngor Abertawe â'r gweithredwr cludiant cymunedol, DANSA, ar ddechrau’r flwyddyn i roi gwasanaeth peilot ar waith rhwng gogledd Gŵyr a Thregŵyr. Mae'r gwasanaeth yn un o sawl llwybr bws â chymhorthdal a ariennir gan y cyngor mewn ymdrech i ddiwallu anghenion preswylwyr mewn ardaloedd lle nad oes gwasanaethau bws masnachol ar waith, a lle mae gwasanaethau bws cymunedol yn fwy priodol a chost effeithiol. Mae'r cyngor nawr yn bwriadu rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith mewn partneriaeth â DANSA dros y misoedd nesaf. Bydd un o’r gwasanaethau newydd yn darparu cyswllt hanfodol rhwng Garnswllt, Felindre, Rhydypandy ac Ysbyty Treforys, lle bydd yn cysylltu â gwasanaethau rheolaidd i ganol y ddinas. I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.TravelineCymru.info neu ffoniwch y llinell wybodaeth ar 0871 200 22 33.
Medi 2014
MAE’R tîm PATCH eisoes wedi ymweld ag 20 o gymunedau ym mhob rhan o'r ddinas hyd yn hyn eleni, gan gynnwys St Thomas, Bonymaen, Townhill, Gŵyr, Mawr, Sgeti, y Cocyd a Phenyrheol. Maent hefyd wedi bod yn atgyweirio ffyrdd yn ardal Ward y Castell sy'n cynnwys canol y ddinas. Mae timau diogelwch Cyngor Abertawe hefyd yn archwilio ffyrdd ac ardaloedd i gerddwyr yn rheolaidd i nodi diffygion ffyrdd ac mae tîm ar gael bob amser i ymateb i argyfyngau. Bydd tîm PATCH yn ymweld â chymunedau Penderi, Gorseinon a Chasllwchwr yn ystod mis Medi. I adrodd am dyllau yn y ffordd neu ddiffygion ffyrdd eraill, ewch i www.abertawe.gov.uk/reportit
Mae un tîm PATCH yn mynd i’r afael â gwaith cryfhau ffyrdd mwy ac mae'r llall yn mynd i’r afael â diffygion llai. Meddai Bob Fenwick, Gwasanaeth Priffyrdd y Cyngor, "Rydym yn gwybod mor bwysig yw ein ffyrdd i
breswylwyr ym mhob rhan o'r ddinas. Dyma pam mae gennym weithwyr allan bob dydd o'r flwyddyn yn llenwi tyllau ac yn atgyweirio diffygion ffyrdd eraill. "A phan fydd cyfnodau o law trwm
iawn, yr un gweithwyr fydd yn gweithio'n galed i ddadflocio ceuffosydd a mynd i'r afael â phroblemau eraill a achosir gan lifogydd. "Byddant allan yn gweithio ym mhob tywydd i gynorthwyo â gweithrediad parhaus y ddinas. "Cafwyd tywydd arbennig o dda am gyfnodau hir yn ystod y gwanwyn a'r haf, felly rydym wedi gallu dal i fyny â llawer o'r difrod a achoswyd yn ystod misoedd gwlyb ac oer y gaeaf. "Mae hyn yn golygu bod ein ffyrdd mewn cyflwr da ar hyn o bryd, ond byddwn yn parhau i lenwi tyllau a thrwsio diffygion eraill fel blaenoriaeth gymaint ag y gallwn."
Bryn Terfel i arwain y Proms ym Mharc Singleton YR arwr o fyd opera, Bryn Terfel, fydd y seren ym Mae Abertawe'r hydref hwn yn ystod cyfres o ddigwyddiadau llawn hwyl. Bydd y bas bariton ac enillydd Gwobr Grammy ymhlith y sêr a fydd yn perfformio yn y digwyddiad Proms yn y Parc sy'n dychwelyd i Barc Singleton ar 13 Medi. Hefyd yn perfformio fydd Casi, y gantores/gyfansoddwraig ifanc, sydd wedi bod yn cydweithio â BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o'r prosiect cerddoriaeth, Gorwelion.
Bydd y cantorion enwog o Gymru yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC a Chorws Cymru, dan arweiniad Tecwyn Evans, a aned yn Seland Newydd ond y daw ei dad o Abertawe. Gwahoddir y sawl sy'n dwlu ar gerddoriaeth i ddod â phicnic a baneri i ddathlu yn y cyngerdd awyr agored. Uchafbwynt y noson fydd y sesiwn cydganu draddodiadol a fydd yn cynnwys cyfres o ganeuon Mary Poppins, gan ddathlu Noson Olaf y Proms gyda pharciau ledled y DU. Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata
a Digwyddiadau, "Mae gan Abertawe draddodiad balch o gynnal cyngherddau â'r perfformwyr gorau o'r byd cerdd. Yn y blynyddoedd diweddar, mae sêr gan gynnwys The Kings of Leon, Elvis Costello a Katherine Jenkins wedi bod ymhlith y cerddorion amrywiol sydd wedi perfformio mewn lleoliadau megis Stadiwm Liberty, Neuadd Brangwyn, a adnewyddwyd yn ddiweddar, a Pharc Singleton." Ewch i www.gwylbabertawe.com am fwy o wybodaeth neu ewch i www.bbc.co.uk/promsinthepark i brynu tocynnau ar gyfer y cyngerdd ym Mharc Singleton.
Medi 2014
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/subscribe
Mynd adref diolch i’r tîm gofalu
Arwain
Abertawe
9
Crynodeb o’r
newyddion Cyhoeddi'r cynllun gwella MAE’R cyngor newydd gyhoeddi diweddariad o'r Cynllun Gwella Corfforaethol (CGC) ar gyfer 2014/15 sy'n tynnu sylw at uchelgeisiau'r awdurdod ar gyfer gwella'r ddinas rhwng 2013 a 2017. Mae'r CGC yn canolbwyntio ar gyflwyno gwelliannau mesuradwy ym maes materion sy'n effeithio ar fywydau pobl leol bob dydd. Ceir copïau caled o'r cynllun drwy ffonio'r Is-adran Perfformio a Chyflwyno ar 01792 636602 neu drwy e-bostio Ray.Mitchell@swansea.gov.uk Gallwch hefyd weld amlinelliad o'r cynllun ar y tudalennau Perfformio a Gwella yn http://www.abertawe.gov.uk/in dex.cfm?articleid=155
Parc hanesyddol yn ennill y Faner Werdd MAE parc hanesyddol yn Abertawe, lle bu cewri'r cae pêl-droed megis Ivor Allchurch a John Charles yn ymarfer pan oeddent yn blant, wedi ennill statws pwysig y Faner Werdd am y tro cyntaf. Mae Parc Llewelyn yn Nhreforys yn un o chwe pharc yn Abertawe sydd wedi cael eu cydnabod am eu rhagoriaeth. Mae statws y Faner Werdd yn rhoi gwarant i ymwelwyr bod parc yn fan gwyrdd o safon. Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Victoria, Parc Brynmill a Pharc Cwmdoncyn hefyd wedi ennill statws y Faner Werdd yn 2014.
Amser i siarad am iechyd meddwl MAE menyw o Bontarddulais yn mwynhau cysur cartref unwaith eto ar ôl bod yn yr ysbyty oherwydd iddi gwympo - gyda chymorth gwasanaeth a ddyluniwyd yn arbennig i helpu pobl fel hi. Roedd Martha Jones - Mair i'w holl ffrindiau - yn 88 oed ac yn gyn-nyrs annibynnol ei natur ond nid oedd modd iddi ddychwelyd adref yn syth ar ôl cael damwain. Oherwydd hyn, gallai fod wedi wynebu dyfodol mewn gofal preswyl tymor hir. Ond cafodd Mair y cyfle i fanteisio ar wasanaeth blaengar 'Cam i Fyny a Cham i Lawr' Cyngor Abertawe sy'n darparu lle i bobl hŷn aros er mwyn eu
fy marn i
• Mae cefnogaeth gan y tîm yn Nhŷ Bonymaen yn golygu gall Mair ac eraill fel hi ddychwelyd adref gan deimlo’n ddiogel ac y gofelir amdanynt ar ôl cyfnod yn yr ysbyty neu salwch MEDDAI Mair am ei phrofiad o gwympo'n gynharach eleni, "Doedd dim ofn arna i - dwi ddim y fath o berson sy'n dychryn yn hawdd - ond doeddwn i ddim yn gwybod sut ar wyneb y ddaear y byddwn i'n gallu codi ar fy nhraed eto a dyna beth oedd yn fy mhoeni." Wrth siarad am ei chyfnod yn Nhŷ Bonymaen, meddai, "Dwi wedi cael gofal da yma. Mae wedi bod yn wych. Alla i ddim ond canmol popeth a nawr dwi'n edrych ymlaen at fynd adref amser llawn. Dwi'n llawer gwell nawr. Dwi'n gallu cwympo'n galed - ond dwi bob amser yn llwyddo i fownsio'n ôl."
helpu i addasu i fyw gartref eto yn dilyn argyfwng iechyd. A bellach mae'n derbyn y gofal a'r gefnogaeth mae eu hangen arni yn ei chartref ei hun. Cafodd Mair driniaeth yn yr ysbyty ond roedd yn rhy fregus i fynd yn syth adref, felly cafodd ei rhyddhau i Dŷ Bonymaen, cartref preswyl sy'n helpu pobl i ddychwelyd i'w cartrefi eu
hunain os dyna yw eu dymuniad ac os yw hynny'n addas iddynt. Gall pobl aros yn Nhŷ Bonymaen am hyd at chwe wythnos ac yn ystod y cyfnod hwn, cânt eu cefnogi i adennill y sgiliau a'r hyder mae eu hangen arnynt a darperir pecyn cartref ar ôl iddynt ddychwelyd adref. Rheolir Tŷ Bonymaen gan Jackie Mathews sydd â 31 o flynyddoedd o
brofiad ym maes gofal pobl hŷn gyda Chyngor Abertawe. Meddai, "Weithiau, pan fydd pobl hŷn wedi gorfod treulio cyfnod yn yr ysbyty ar ôl bod yn sâl neu gwympo, maen nhw'n amau a fyddan nhw'n gallu ymdopi gartref, a gallan nhw wneud penderfyniad yn yr ysbyty - er enghraifft i symud i ofal preswyl efallai y byddan nhw'n difaru amdano nes ymlaen. "Mae'r gwasanaeth Cam i Fyny, Cam i Lawr, rydym yn ei ddarparu yma yn caniatáu i bobl fynd adref, efallai am awr y dydd yn unig i ddechrau, gyda chymorth staff Tŷ Bonymaen, nes byddan nhw'n barod i symud yn ôl yn barhaol os mai dyna'r llwybr iawn iddyn nhw."
Enwebiadau Rho 5 yn llifo i mewn
MAE mwy na 160 o bobl dan 25 oed wedi'u henwebu ar gyfer Gwobrau Rho 5 a gynhelir gan Gyngor Abertawe i godi proffil ein pobl ifanc Mae'r gwaith yn cael ei gwblhau fel rhan sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu o nifer o gynlluniau blaengar a cymunedau neu wedi llwyddo ddatblygwyd gan Bartneriaeth Tirwedd er gwaethaf anawsterau. Gŵyr, y mae Cyngor Abertawe yn bartner Mae'r gwobrau nodedig yn arweiniol iddi. cael eu cefnogi gan seren yr Bydd y rholer dur yn plygu ac yn Elyrch, Leon Britton, a cleisio'r rhedyn a thros amser bydd y chynhelir y seremoni wobrwyo'r mis nesaf. rhedyn yn marw.
Cae cymunedol am byth
Ceffylau yn datrys problem y rhedyn
BYDD parc ym Mhontarddulais yn cael ei gadw am byth yn fan gwyrdd yng nghanol y gymuned. Dyfarnwyd statws Maes Brenhines Elizabeth II i Barc Coed Bach gan sefydliad Prydeinig o'r enw Fields in Trust. Enwebwyd y parc ar gyfer y statws gan Gyngor Abertawe ar ôl gweithio'n galed
MAE nerth ceffyl yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â thwf rhedyn mewn mannau sy'n anodd eu cyrraedd ym Mhenrhyn Gŵyr. Mae tîm arbenigol, gan gynnwys dau geffyl diwyd, yn ymgymryd â'r gwaith o dynnu rholer dur mawr dros erwau o redyn sy'n tyfu'n rhydd ym Mhenrhyn Gŵyr.
gyda Chyfeillion Parc Coed Bach am nifer o flynyddoedd. Mae gwelliannau diweddar yn y parc yn cynnwys clirio llystyfiant, cyflwyno llwybrau cerdded ac adnewyddu'r cyrtiau tenis. Ewch i www.fieldsintrust.org am fwy o wybodaeth.
MAE Cyngor Abertawe wedi ymuno â'r ymgyrch i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r awdurdod yn ymrwymo i addewid 'Amser i Newid Cymru', i fynd i'r afael â'r broblem a chael pobl i siarad am iechyd meddwl a salwch meddwl. 'Amser i Newid Cymru' yw enw ymgyrch genedlaethol sy'n cael ei chefnogi gan elusennau iechyd meddwl blaenllaw yng Nghymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.amserinewidcymru.org.u k
HYSBYSIADAU CYHOEDDUS HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN LLWYBR CYHOEDDUS DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBR CERDDED CYHOEDDUS RHIF 22 CYMUNED MAWR GORCHYMYN DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Ar 16 Ebrill 2014, cadarnhaodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe'r gorchymyn uchod a wnaed o dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980. Effaith y gorchymyn uchod fel y'i cadarnhawyd yw dargyfeirio'r llwybr cerdded cyhoeddus sy'n dechrau ar y ffordd sirol ar fan (Cyfeirnod Grid SN 672 034), tua 100 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r gyffordd ger Bwlch y Gwynt ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad cyffredinol y dwyrain-dde-ddwyrain am ryw 137 metr ar hyd ochr ogleddol ffin cae i gyrraedd man (Cyfeirnod Grid SN 673 033) ryw 140 metr i'r de o Faes y Bryn i linell sy'n dechrau ac yn dod i ben yn yr un mannau ac yn mynd heibio i gyfeiriad cyffredinol tebyg ond am ryw 144 metr ac ar hyd ochr gyferbyn (ddeheuol) ffin y cae. Rhoddwyd copi o'r gorchymyn fel y cafodd ei gadarnhau a map y gorchymyn yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-253/KAO. Daeth y gorchymyn i rym ar 24 Ebrill 2014, ond os dymuna rhywun sy'n anghytuno â'r gorchymyn herio'i ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth ynddo, ar y sail nad yw o fewn grym Deddf Priffyrdd 1980, fel y'i diwygiwyd, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, fel y'i diwygiwyd, neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw reoliad a wnaed o dan y Ddeddf mewn perthynas â'r gorchymyn, caiff gyflwyno cais i'r Uchel Lys o dan Baragraff 2 Atodlen 2 y Ddeddf fel y'i cymhwyswyd gan Baragraff 5 Atodlen 6 y Ddeddf, o fewn 6 wythnos i 8 Medi 2014. Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe
621 085) ac yn parhau am ryw 288 metr neu oddeutu hynny i gyfeiriad cyffredinol y dedde-ddwyrain trwy'r fferm i fan (Cyfeirnod Grid SN 623 083) ryw 275 metr i'r dwyrainogledd-ddwyrain o Droed y Rhiw i linell sy'n dechrau ar Heol Garnswllt, ryw 70 metr i'r de o'r trac mynediad i Fferm Garnant Ganol (Cyfeirnod Grid SN 621 084) ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad cyffredinol y de-ddwyrain ar hyd yr afon am ryw 270 metr neu oddeutu hynny i fan ryw 260 metr i'r dwyrain o Droed y Rhiw (Cyfeirnod Grid SN 623 082). (b) y rhan o lwybr cerdded 36 sy'n dechrau ryw 243 metr ar hyd y trac mynediad i Fferm Lletty-Ffwlbert oddi ar Heol y Mynydd (Cyfeirnod Grid SN 625 084) ac yn mynd ymlaen ar draws rhan o fuarth y fferm oddi yno i gyfeiriad cyffredinol y gorllewin-ddeorllewin am ryw 50 metr i fan ryw 330 metr i'r dwyrain-dde-ddwyrain o Fferm Garnant Ganol (Cyfeirnod Grid SN 625 084) i linell sy'n dechrau ac yn dod i ben yn yr un mannau ond sy'n ymestyn ar hyd llwybr mwy deheuol trwy gaeau am ryw 79 metr gan osgoi buarth y fferm o ganlyniad. Rhoddwyd copi o'r gorchymyn fel y cafodd ei gadarnhau a map y gorchymyn yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-100810/KAO. Daeth y gorchymyn i rym ar 1 Mai 2014, ond os dymuna rhywun sy'n anghytuno â'r gorchymyn herio'i ddilysrwydd, neu ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth ynddo, ar y sail nad yw o fewn grym Deddf Priffyrdd 1980, fel y'i diwygiwyd, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion y Ddeddf, fel y'i diwygiwyd, neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw reoliad a wnaed o dan y Ddeddf mewn perthynas â'r gorchymyn, caiff gyflwyno cais i'r Uchel Lys o dan Baragraff 2 Atodlen 2 y Ddeddf fel y'i cymhwyswyd gan Baragraff 5 Atodlen 6 y Ddeddf, o fewn 6 wythnos i 8 Medi 2014. Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE
HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN LLWYBR CYHOEDDUS HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBR CERDDED CYHOEDDUS RHIF 36 CYMUNED MAWR GORCHYMYN DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Ar 16 Ebrill 2014, cadarnhaodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe'r gorchymyn uchod a wnaed o dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980. Effaith y gorchymyn fel y cafodd ei gadarnhau yw dargyfeirio (a) y rhan o lwybr cerdded 36 sy'n dechrau ar Heol Garnswllt wrth fynedfa'r trac sy'n arwain at Fferm Garnant Ganol (Cyfeirnod Grid SN
LLWYBR CERDDED CYHOEDDUS RHIF 9 CYMUNED LLANRHIDIAN UCHAF GORCHYMYN CREU LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Bydd y gorchymyn uchod a wnaed ar 10 Gorffennaf 2014 o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980 yn creu llwybr cerdded cyhoeddus sy'n mynd o (a) fan ryw 150 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r ffermdy ym Mhenllwyn Robert (cyfeirnod grid SS 539 940) ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad cyffredinol y de-orllewin o gwmpas y ffermdy am 360 metr cyn mynd i gyfeiriad cyffredinol y de am ryw 270 metr trwy goetir cyn ymuno â'r trac mynediad i Fferm Penllwyn Robert ac yn parhau ar hyd y trac am ryw 172 fetr i gyrraedd y brif heol i'r gorllewin o Fferm Highfield (cyfeirnod grid SS 537 935)
We value equality because quality services need people from the whole community
(b) man ryw 35 metr i'r de o Afon Morlais i'r dwyrain o'r hen ffald ffesynt (cyfeirnod grid SS 542 944) ac yn mynd ymlaen ac yn troi i gyfeiriad y de-orllewin yn bennaf am ryw 157 metr i fan ryw 430 metr i'r gogledd-ddwyrain o Fferm Penllwyn Robert (cyfeirnod grid SS 541 942). Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u rhoi yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-158/KAO. Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 21 Hydref 2014 fan bellaf gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau. Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980
mynd i'r de-dde-ddwyrain am ryw 135 metr, yna i'r de-dde-orllewin am ryw 147 metr i fan ryw 190 metr i'r gogledd-orllewin o Benrheol Fawr (cyfeirnod grid SN 667 030). Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u rhoi yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-00100811/KAO. Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 21 Hydref, 2014 fan bellaf gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau. Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn. Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe NHYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE
CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE
LLWYBRAU CERDDED CYHOEDDUS RHIFAU 25, 26A A 27
LLWYBRAU CERDDED CYHOEDDUS RHIFAU 8B, 8C, 10 AC 11
CYMUNED MAWR
CYMUNED MAWR
GORCHYMYN DARGYFEIRIO LLWYBR CYHOEDDUS 2014
GORCHYMYN CREU LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Bydd y gorchymyn uchod a wnaed ar 18 Gorffennaf, 2014 o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980 yn creu llwybr cerdded cyhoeddus sy'n mynd o (a) fan (cyfeirnod grid SN 664 039) ryw 250 metr i'r de-orllewin o Flaen yr Olchfa Fawr ac yn mynd i'r dwyrain-dde-ddwyrain am ryw 182 fetr, wedyn i'r gogledd-ddwyrain am ryw 105 metr i fan ar ochr orllewinol Afon Llan (cyfeirnod grid SN 666 040). (b) man (cyfeirnod grid SN 666 040) ar lan ddwyreiniol Afon Llan ryw 130 metr i'r deddwyrain o Fferm Blaen yr Olcha Fawr ac yn mynd yn gyffredinol i gyfeiriad y de-ddwyrain am ryw 279 metr i fan (cyfeirnod grid SN 668 037) ryw 60 metr i'r gogledd-ddwyrain o Lidiardau. (c) man (cyfeirnod grid SN 666 038) ryw 145 metr i'r gogledd-orllewin o Lidiardau ac yn mynd yn gyffredinol i gyfeiriad y de-ddeorllewin am ryw 500 metr ar hyd Afon Llan i gyfeirnod grid SN 665 034 cyn hollti i ddau gyfeiriad, y cyntaf yn mynd i'r gorllewin-ddeorllewin am ryw 10 metr i'r bont dros Afon Llan, a'r ail yn mynd ryw 98 metr i gyfeiriad y de-dde-ddwyrain i fan (cyfeirnod grid SN 665 033) ryw 35 metr i'r gogledd-orllewin o Gynghordy Fach. (ch) man (cyfeirnod grid SN 668 033) ryw 190 metr i'r dwyrain o Gynghordy Fach ac yn
Bydd y gorchymyn uchod a wnaed ar 23 Gorffennaf 2014 o dan Adran 119 Deddf Priffyrdd 1980, yn dargyfeirio'r llwybr cerdded cyhoeddus (a) sy'n dechrau ar fan (cyfeirnod grid SN 623 038) ar y Ffordd Sirol ryw 200 metr i'r gogledd o Fferm Cwrt Mawr ac yn mynd yn gyffredinol i gyfeiriad y de-dde-ddwyrain trwy'r buarth yn Fferm Cwrt Mawr am ryw 612 metr i gyrraedd man ryw 240 metr i'r gogledd-ogledd-orllewin o Ffynnon Fedw i linell sy'n dechrau mewn man (cyfeirnod grid SN 624 038) ryw 50 metr yn bellach i'r gogledd-ddwyrain ar hyd y Ffordd Sirol ac yn mynd yn gyffredinol i gyfeiriad y de-dde-ddwyrain am ryw 737 metr i'r un man terfyn (cyfeirnod grid SN 624 038) (b) sy'n dechrau mewn man (cyfeirnod grid SN 626 030) ryw 35 metr i'r de-orllewin o Ffynnon Fedw ac yn mynd trwy fuarth y fferm i fan ryw 60 metr i'r de-ddwyrain o Ffynnon Fedw (cyfeirnod grid SN 627 030) i linell sy'n dechrau yn yr un man (cyfeirnod grid SN 626 030) ac yn mynd i gyfeiriad y gogleddogledd-ddwyrain ar hyd y trac am ryw 82 fetr i fan ryw 36 metr i'r gogledd-orllewin o Ffynnon Fedw (cyfeirnod grid SN 626 031) (c) sy'n dechrau mewn man ryw 36 metr i'r gogledd-orllewin o Ffynnon Fedw (cyfeirnod Parhad ar y dudalen nesaf
HYSBYSIADAU CYHOEDDUS grid SN 626 031) ac yn mynd am ryw 68 metr i gyfeiriad y dwyrain-dde-ddwyrain i fan i'r gogledd-ddwyrain o Ffynnon Fedw (cyfeirnod grid SN 627 031) i linell sy'n dechrau yn yr un man ac yn mynd i'r un cyfeiriad cyffredinol am ryw 68 metr, ond gan gymryd llwybr ychydig mwy gogleddol i'r un man terfyn (cyfeirnod grid SN 627 031) (ch) sy'n dechrau mewn man (cyfeirnod grid SN 631 035) ryw 330 metr i'r de-ddwyrain o Ysgiach Ganol ac yn mynd am ryw 260 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain i fan (cyfeirnod grid SN 633 033) ryw 250 metr i'r de-orllewin o Lwyn Gweno i linell sy'n dechrau ac yn terfynu yn yr un mannau, ond yn mynd i gyfeiriad cyffredinol y dwyrain am ryw 172 fetr, yna i gyfeiriad cyffredinol y de-ddeddwyrain am ryw 148 metr ar hyd ffin y cae. Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u rhoi yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-00193209/KAO. Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 21 Hydref 2014 fan bellaf gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau. Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn. Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBR CERDDED CYHOEDDUS RHIF 9 CYMUNED LLANRHIDIAN UCHAF GORCHYMYN DIDDYMU LLWYBR CYHOEDDUS 2014
Dyfynnwch gyfeirnod ROW-158/KAO. Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 21 Hydref 2014 fan bellaf gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau. Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn. Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe
y gwaith, caiff rhwystrau cerddwyr dros dro eu codi fel mesur diogelwch.
Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn.
Caiff y gwaith ei wneud oddeutu 37 metr i'r gogledd-ddwyrain o fynedfa Parc Cannisland ar ymyl dwyreiniol yr A4118 a rhyw 36 metr i'r de-orllewin o gyffordd yr A4118 â Lôn Bryn Kittle (cyfeirnod grid SS 567 900) ar 18 metr sgwâr o dir comin.
Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBR CERDDED CYHOEDDUS RHIF 27
HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBRAU CERDDED CYHOEDDUS RHIFAU 8B, 8C, 10 AC 11 CYMUNED MAWR GORCHYMYN DIDDYMU LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Bydd y gorchymyn uchod, a wnaed ar 18 Gorffennaf 2014 o dan Adran 118 Deddf Priffyrdd 1980, yn diddymu'r llwybr cerdded cyhoeddus sy'n mynd o (a) fan (cyfeirnod grid SN 664 039) ryw 275 metr i'r dwyrain-dde-ddwyrain o Fwthyn Pentrebedw ar y trac sy'n arwain at Flaen yr Olchfa Fawr cyn mynd am ryw 276 metr i gyfeiriad cyffredinol y gogledd-ddwyrain cyn mynd trwy ysgubor yn Fferm Blaen yr Olchfa Fawr ac yn mynd i gyfeiriad cyffredinol y deddwyrain i fan (cyfeirnod grid SN 666 040) ar ochr orllewinol Afon Llan (b) man (cyfeirnod grid SN 666 040) ar lan ddwyreiniol Afon Llan ac yn mynd i gyfeiriad cyffredinol y de-dde-ddwyrain am ryw 282 fetr i gyrraedd Llidiardau cyn parhau i fan (cyfeirnod grid SN 668 037) ryw 60 metr i'r gogledd-orllewin o Lidiardau (c) man yn Llidiardau (cyfeirnod grid SN 667 037) ac yn parhau i gyfeiriad cyffredinol y deorllewin am ryw 466 metr i fan (cyfeirnod grid SN 665 033) ryw 10 metr i'r gogledd-orllewin o Gynghordy Fach
Bydd y gorchymyn uchod, a wnaed ar 10 Gorffennaf 2014 o dan Adran 118 Deddf Priffyrdd 1980, yn diddymu'r llwybr cerdded cyhoeddus sy'n mynd o
(ch) man (cyfeirnod grid SN 665 033) ryw 35 metr i'r gogledd-orllewin o Gynghordy Fach ac yn parhau i gyfeiriad cyffredinol y gogleddorllewin am ryw 100 metr i gyrraedd y bont dros Afon Llan (cyfeirnod grid SN 665 034)
(a) fan ryw 150 metr i'r gogledd-ddwyrain o'r ffermdy ym Mhenllwyn Robert (cyfeirnod grid SS 539 940) ac yn mynd ymlaen am ryw 192 fetr i gyfeiriad y de-orllewin i fan ryw 15 metr i'r gogledd-orllewin o'r ffermdy (cyfeirnod grid SS 538 939)
(d) man (cyfeirnod grid SN 666 032) i'r deddwyrain o Gynghordy Fach ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad cyffredinol y de-ddwyrain am ryw 288 metr i fan ryw 190 metr i'r gogledd-orllewin o Benrheol Fawr (cyfeirnod grid SN 667 030).
(b) man ryw 35 metr i'r de o Afon Morlais i'r dwyrain o'r hen ffald ffesynt (cyfeirnod grid SS 542 944) ac yn mynd ymlaen am ryw 144 metr i gyfeiriad y de-orllewin i fan ryw 430 metr i'r gogledd-ddwyrain o Fferm Penllwyn Robert (cyfeirnod grid SS 541 942).
Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u rhoi yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-00100811/KAO.
Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u rhoi yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00.
gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau.
Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 21 Hydref 2014 fan bellaf
CYMUNED MAWR GORCHYMYN DIDDYMU LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Bydd y gorchymyn uchod a wnaed ar 23 Gorffennaf 2014 o dan Adran 118 Deddf Priffyrdd 1980, yn diddymu'r llwybr cerdded cyhoeddus sy'n mynd o fan (cyfeirnod grid SN 623 036) ym muarth Fferm Cwrt Mawr ac yn mynd ymlaen i gyfeiriad y dwyrain-ogleddddwyrain am 98 metr, neu oddeutu hynny, i fan (cyfeirnod grid SN 624 036) ryw 330 metr i'r gorllewin-dde-orllewin o Ysgiach Ganol.
Gellir gweld copi o'r ffurflen gais a map sy'n dangos y gwaith arfaethedig yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN rhwng 09:00 am a 4:30 pm yn ystod yr wythnos (nid gwyliau cyhoeddus) tan 21 Hydref 2014. Gellir cael copi o'r cais trwy ysgrifennu at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y cyfeiriad uchod. Dylid anfon gwrthwynebiadau neu sylwadau'n ysgrifenedig AR neu CYN y dyddiad hwnnw at Yr Arolygiaeth Gynllunio yn Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu Wales@pins.gsi.gov.uk. Nid oes modd i lythyrau a anfonir at yr Arolygiaeth Gynllunio gael eu trin yn gyfrinachol. Byddant yn cael eu copïo i'r ymgeisydd ac efallai i bartïon eraill sydd â budd yn y mater. Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe HYSBYSIAD O GADARNHAU GORCHYMYN ADDASU
Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u rhoi yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. Dyfynnwch gyfeirnod ROW-00193209/KAO.
DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981
Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 21 Hydref 2014 fan bellaf gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau.
GORCHYMYN ADDASU, RHIF 436, 2014
Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn. Dyddiedig 8 Medi 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe TIR COMIN FAIRWOOD A CHLUN (CL15) DEDDF TIROEDD COMIN 2006 - ADRAN 38
DEDDF PARCIAU CENEDLAETHOL A MYNEDIAD I GEFN GWLAD 1949 AROLWG O FAP DIFFINIOL HAWLIAU TRAMWY CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE CYMUNED CASLLWCHWR
Ar 9 Gorffennaf 2014, cadarnhaodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe y gorchymyn a nodwyd uchod. Effaith y gorchymyn yw addasu map a datganiad diffiniol yr ardal trwy ychwanegu atynt hyd y llwybr cerdded sy'n dechrau rhwng tai, rhifau 64 a 66 Rhodfa Glandŵr ac yn mynd ymlaen yn bennaf i gyfeiriad y gorllewin am 28 metr cyn mynd yn gyffredinol i gyfeiriad y de-orllewin am 67 metr i ymuno â'r llwybr cerdded rhif 43 (cyf. grid SS 567982). Hefyd, ychwanegu hyd y llwybr cerdded sy'n dechrau yng nghornel ogledd-orllewin heol bengaead The Croft ac yn mynd i gyfeiriad y gogledd am 6 metr i ymuno â'r llwybr cerdded rhif 43. Yn olaf, ddileu hyd y llwybr cerdded rhif 43, sy'n dechrau yn y man a grybwyllwyd ddiwethaf ac yn mynd, i ddechrau, i gyfeiriad y dwyrain am 9 metr, wedyn i gyfeiriad y de ac yn mynd ar hyd canol a hyd y Croft am 100 metr.
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd o dan Adran 38 Deddf Tiroedd Comin 2006 i wneud gwaith cyfyngedig ar Dir Comin Fairwood a Chlun (CL15).
Mae copi o'r gorchymyn fel y'i cadarnhawyd a'r map ynddo wedi'u gosod yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe a gellir eu gweld yno am ddim rhwng 8.30 am a 5.00 pm. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30am a 4.30pm ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. ( Dyfynnwch gyf. row-203/MJW).
Y gwaith arfaethedig yw adeiladu safle bws â llawr caled, 18 metr sgwâr o garreg raddedig â gorffeniad graean a chwrbyn carreg 130 mm o uchder ger y ffordd gerbydau. Yn ystod
Daeth y gorchymyn i rym ar 9 Gorffennaf, 2014, ond os hoffai rhywun sy'n anghytuno â'r gorchymyn herio'i ddilysrwydd ar y sail nad yw o fewn grym Adran 53 neu 54 neu ar y
CYMUNED PENNARD DINAS A SIR ABERTAWE
HYSBYSIADAU CYHOEDDUS sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o ofynion Adran 15 mewn perthynas â'r gorchymyn, caiff gyflwyno cais i'r Uchel Lys, o fewn 42 ddiwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad hwn. Dyddiedig 8 Medi, 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe K: MJWCEBR1W10Y02 HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBRAU CERDDED, RHIFAU 13 A 69 CYMUNED ILSTON GORCHYMYN DIDDYMU LLWYBR CYHOEDDUS 2014 Bydd y gorchymyn uchod a wnaed ar 23 Gorffennaf, 2014 o dan Adran 118 Deddf Priffyrdd 1980 yn diddymu llwybr cerdded rhif 13 sy'n dechrau wrth fynedfa Cartersford Isaf (Cyf. Grid SS 551913) ac yn mynd yn gyffredinol i gyfeiriad y gogledd am 230 metr, gan barhau fel llwybr cerdded rhif 69, i'r un cyfeiriad i fynd trwy Wimblewood Isaf am 730 metr arall. Hefyd, hyd llwybr cerdded rhif 69, sy'n dechrau o iard y fferm honno, ond yn parhau i gyfeiriad y gorllewin am 63 metr (Cyf. Grid SS 552921). Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u gosod yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. ( Dyfynnwch gyf. ROW00194663/MJW). Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 27 Hydref, 2014 fan bellaf gan nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau. Os caiff y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Brif Ysgrifennydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chawsant eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn. Dyddiedig 8 Medi, 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe MJW/ROW-00194663 (KL) 14.05.2014 HYSBYSIAD O WNEUD GORCHYMYN DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 26 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE LLWYBR CYHOEDDUS RHWNG WILMBLEWOOD ISAF A CHARTERSFORD ISAF GORCHYMYN CREU LLWYBR CYHOEDDUS 2014 CYMUNED ILSTON Gwnaed y gorchymyn uchod ar 23 Gorffennaf, 2014 o dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980. Effaith y gorchymyn fydd creu llwybr cyhoeddus sy'n dechrau ar fan ar y
B4271 (Cyf. Grid SS 553 914) ryw 170 metr i'r gogledd-ddwyrain o Bont Cartersford ac yn mynd, i ddechrau, yn gyffredinol i gyfeiriad y gogledd am 125 metr, wedyn i gyfeiriad y gorllewin-ogledd-orllewin am 90 metr, cyn parhau'n fras i gyfeiriad y gogledd am 360 metr. Mae'r llwybr yn parhau i gyfeiriad y gogledd-orllewin am 155 metr i ymuno â llwybr cerdded rhif 69 (Cyf. Grid SS 551 921). Mae'r llwybr yn ailddechrau ar yr un llwybr cerdded (Cyf. Grid SS 552 921) ac yn parhau am 110 metr arall i ailymuno â llwybr cerdded rhif 69 (Cyf. Grid SS 552 922). Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn wedi'u gosod yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 a.m. a 4.30 p.m. ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. ( Dyfynnwch gyf. ROW00194663/MJW). Gellir anfon sylwadau ar y gorchymyn neu wrthwynebiadau iddo'n ysgrifenedig at Bennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, erbyn 27 Hydref, 2014 fan bellaf. Os na wneir sylwadau neu wrthwynebiadau, neu os cânt eu tynnu'n ôl ar ôl eu gwneud, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn fel gorchymyn diwrthwynebiad. Os anfonir y gorchymyn at Weinidogion Cymru i'w gadarnhau, caiff sylwadau a gwrthwynebiadau na chafodd eu tynnu'n ôl eu hanfon gyda'r gorchymyn. Dyddiedig 8 Medi, 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe MJW/ROW-00194663 EJF 13.05.2014 HYSBYSIAD O ORCHYMYN ADDASU ADRAN 53 DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE DEDDF PARCIAU CENEDLAETHOL A MYNEDIAD I GEFN GWLAD 1949 A DEDDF CEFN GWLAD 1968 AROLWG HAWLIAU TRAMWY - MAP DIFFINIOL DINAS A SIR ABERTAWE CYMUNED BONYMAEN GORCHYMYN ADDASU, RHIF 443, 2014 Bydd y gorchymyn uchod a gafodd ei wneud ar 15 Gorffennaf, 2014, os caiff ei gadarnhau fel y'i gwnaed, yn addasu'r map a datganiad diffiniol ar gyfer yr ardal trwy ychwanegu'r hyd o lwybr cerdded sy'n dechrau ar Heol Pentrechwyth rhwng tŷ rhif 96, a hen Gapel Canaan ac yn mynd i gyfeiriad y de-ddwyrain am 47 metr, gydag un gangen yn parhau i gyfeiriad y de-orllewin am 65 metr i ymuno â Heol Brokesby a'r gangen arall yn mynd ymlaen i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am 94 metr i ymuno â llwybr cerdded rhif 381, y tu cefn i 75 Heol Pentrechwyth. Mae copi o'r gorchymyn a map y gorchymyn ar gael yn swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Abertawe, a gellir eu gweld yno'n rhad ac am ddim rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30am a 4.30pm ar ddydd Gwener. Gellir prynu copïau o'r gorchymyn a'r map yno am £1.00. ( Dyfynnwch gyf. row 262 mjw) Mae'n rhaid anfon sylwadau neu wrthwynebiadau mewn perthynas â'r
gorchymyn hwn yn ysgrifenedig at Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael, Dinas a Sir Abertawe, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe, erbyn 4 Tachwedd, 2014 fan bellaf a gofynnir i'r sawl sy'n eu cyflwyno nodi sail y sylwadau neu'r gwrthwynebiadau. Os na chyflwynir sylwadau neu wrthwynebiadau i'r gorchymyn nac unrhyw ran ohono, neu os cânt eu tynnu'n ôl, caiff Cyngor Dinas a Sir Abertawe gadarnhau'r gorchymyn ei hun yn hytrach na'i gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gadarnhau. Os cyflwynir y gorchymyn cyfan neu ran ohono i Weinidogion Cymru, caiff y sylwadau neu wrthwynebiadau a wnaed yn briodol a heb eu tynnu yn ôl, eu hanfon gydag ef. Dyddiedig 8 Medi, 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe MJW/ROW-262 (KL) 23.06.2014 CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG RHODFA HENDREFOELAN, CILÂ GORCHYMYN 2014 HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe ar 8 Medi, 2014 wedi gwneud gorchymyn yn unol â'i bwerau fel y'u cynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) ("y Ddeddf") a Deddf Rheoli Traffig 2004 y nodir ei effaith yn yr atodlenni isod. Daw'r gorchymyn i rym ddydd Llun 15 Medi, 2014. Gellir gweld copi o'r gorchymyn a'r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn Adran y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe (trwy gais i'r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT- 00195197/MAW). Caiff unrhyw un sy'n dymuno herio'r gorchymyn ar y sail nad yw o fewn pwerau'r Ddeddf neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o'i gofynion, neu ofynion unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, wneud cais at y diben hwnnw i'r Uchel Lys yng Nghofrestrfa Ddosbarth Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd CF1 1ET o fewn chwe wythnos i wneud y gorchymyn at y diben hwnnw. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Mae'r gorchymyn hwn yn diddymu pob gorchymyn blaenorol ynglŷn â hyd/hydoedd y strydoedd y cyfeirir atynt yma. ATODLEN 2 TERFYN CYFLYMDER 20 MYA Y B4603, Heol Pontardawe O'i chyffordd â llinell balmant ogleddddwyreiniol y Stryd Fawr/Heol Ynys Penllwch am 120 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Y B4291 Heol Ynys Penllwch O'i chyffordd â llinell balmant dde-ddwyreiniol y B4603, Heol Pontardawe am 75 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain. Y B4603, y Stryd Fawr O fan 10 metr i'r gorllewin o linell balmant orllewinol Adeiladau'r Capel i'w chyffordd â'r B4603, Heol Pontardawe. Adeiladau'r Capel Ar ei hyd cyfan. Heol y Faerdre O fan 10 metr i'r gogledd-orllewin o linell balmant ogledd-orllewinol Adeiladau'r Capel/Heol y Capel i'w chyffordd â'r B4603, y Stryd Fawr.
Heol y Capel O'i chyffordd â llinell balmant ogleddddwyreiniol Heol y Faerdre am 15 metr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain. Dyddiedig dydd Llun 8 Medi, 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG CYFFORDD HEOL NORTH HILL A STRYD WATKIN, ABERTAWE HYSBYSIAD 2014 HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe ar 8 Medi, 2014 wedi gwneud gorchymyn yn unol â'i bwerau fel y'u cynhwysir yn Neddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) ("y Ddeddf") a Deddf Rheoli Traffig 2004 y nodir ei effaith yn yr atodlenni isod. Daw'r gorchymyn i rym ddydd Llun 15 Medi, 2014. Gellir gweld copi o'r gorchymyn a'r cynllun priodol yn ystod oriau swyddfa arferol yn Adran y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe (trwy gais i'r brif dderbynfa gan ddyfynnu cyfeirnod DVT- 00193951/MAW). Caiff unrhyw un sy'n dymuno herio'r gorchymyn ar y sail nad yw o fewn pwerau'r Ddeddf neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o'i gofynion, neu ofynion unrhyw offeryn a wnaed dan y Ddeddf, wneud cais at y diben hwnnw i'r Uchel Lys yng Nghofrestrfa Ddosbarth Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd CF1 1ET o fewn chwe wythnos i wneud y gorchymyn at y diben hwnnw. ATODLENNI ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac sy'n berthnasol i hyd neu hydoedd yr heol/heolydd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG STRYD WATKIN Ochr y Gorllewin O'i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Heol North Hill i fan 17 fetr i'r de o'r gyffordd honno. Ochr y Dwyrain O'i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Heol North Hill i fan 26 metr i'r de o'r gyffordd honno. HEOL NORTH HILL Ochr y De O fan 10 metr i'r de-orllewin o'i chyffordd â llinell balmant orllewinol Stryd Watkin i fan 10 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Stryd Watkin. Ochr y Gogledd O fan 13 metr i'r de-orllewin o'i chyffordd â llinell balmant orllewinol Teras Sea View i fan 44 metr i'r de-orllewin o'r man hwnnw. Dyddiedig 8 Medi, 2014 Patrick Arran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chaffael Canolfan Ddinesig Abertawe