Arwain Abertawe Rhifyn 108
Awst 2017 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Mae'r ysgol ar gau Hwyl yr haf i'r teulu cyfan hefyd
tudalen 3
• CHWARAEON GWYCH: Mae plant bach yn Ysgol Gynradd Sea View wedi bod yn dathlu eu diwrnod mabolgampau cyntaf ar eu cae chwaraeon newydd a grëwyd gan ddisgyblion gydag ychydig o help gan dîm NEAT y cyngor. Mwy ar dudalen 10. Llun gan Jason Rogers
Cyllid y fargen ddinesig yn paratoi ar gyfer dyfodol penigamp MAE cyngherddau penigamp, comedïwyr, sioeau teithiol, perfformiadau theatr ac arddangosfeydd ar y gweill wrth i brosiect adfywio canol dinas Abertawe fynd rhagddo. Mae Cyngor Abertawe bellach wedi penodi ATG (Ambassador Theatre Group) i gynnal yr arena dan do ddigidol â 3,500 o seddi sydd wedi'i chynllunio ar gyfer safle adeiladu Abertawe Ganolog. Mae ATG, busnes rheoli lleoliadau a chynyrchiadau yn berchen ar arenâu a theatrau mewn dinasoedd gan gynnwys Llundain, Efrog Newydd a Sydney, ac yn eu rheoli. Uwchben maes parcio aml-lawr newydd, cynllunnir adeiladu arena dan do ddigidol Abertawe yn ardal maes parcio'r LC o safle datblygu Abertawe Ganolog sy'n cynnwys hen ganolfan siopa Dewi Sant. Bydd yr arena'n denu hyd at 200 o
Rhan o’r fargen BYDD cyllid y fargen ddinesig hefyd yn arwain at ardal gyflogaeth newydd ar Ffordd y Brenin a fydd yn elwa o dechnoleg ddigidol gyfoes. Ymysg y datblygiadau fydd swyddfa newydd ar gyfer busnesau technoleg yn hen safle clwb nos Oceana. Bydd y gwaith adeiladu hefyd yn dechrau ar ddiwedd yr hydref eleni ar ddatblygiad Icon 21 ar Stryd Mariner, gan gynnwys llety ar gyfer 725 o fyfyrwyr uwchben siopau a busnesau eraill.
ddigwyddiadau'r flwyddyn. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dyma gam arall ymlaen ar gyfer ein cynlluniau i drawsnewid canol y ddinas yn gyrchfan bywiog sy'n bodloni dyheadau pobl leol ac ymwelwyr. "Mae cais cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad cyffredinol Abertawe Ganolog wedi'i
gymeradwyo'n ddiweddar, sy'n golygu ein bod nawr yn gweithio gyda Rivington Land, ein rheolwyr datblygu ar gyfer y safle, er mwyn sicrhau tenantiaid ac i gwblhau dyluniadau adeiladu manwl ar gyfer cynllun a fyddai hefyd yn cynnwys siopau, bwytai, caffis, sinema bwtîg, digonedd o leoedd parcio newydd a phont lydan newydd i gerddwyr ar draws Heol Ystumllwynarth. "Bydd yr arena dan do ddigidol yn llunio rhan o raglen y Fargen Ddinesig a fydd yn gweld £1.3biliwn yn cael ei fuddsoddi yn ardal Bae Abertawe. Rydym yn gobeithio dechrau ar y safle flwyddyn nesaf, a'r arena fydd cam cyntaf y datblygiad cyffredinol. "Ar y cyd â chynlluniau eraill, bydd y cynllun hwn yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, yn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario yn ein busnesau canol y ddinas ac yn hybu'r economi ranbarthol, gyda chanol dinas Abertawe yn wraidd i'r cyfan."
Yn y pinc Gwneud ailgylchu’n haws tudalen 4
Yr adeiladu mawr Mynd i mewn i dai cyngor newydd sbon tudalen 9
gwybodaeth
2
Arwain
Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040
Awst 2017
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Addewid tyllau yn y ffordd yn cadw’r ddinas i symud
Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081 Materion eraill y priffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Ymchwilio Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000
• YN EICH ARDAL CHI: Bydd ein timau PATCH yn ymweld â'ch cymdogaeth chi dros yr haf MAE miloedd o breswylwyr wedi bod yn gwneud yn fawr o addewid tyllau yn y ffordd 48 awr y cyngor. Mae blwyddyn wedi bod ers sefydlu'r addewid hwn ac mae ein timau wedi bod yn gwneud pob ymdrech fel bod mwy na 90% o dyllau yn y ffordd yr adroddwyd amdanynt wedi'u llenwi o fewn amser yr addewid. Ar ben hynny, mae ein tîm trwsio tyllau yn y ffordd, PATCH, wedi bod yn ymweld â chymunedau ar draws y ddinas yn ystod y misoedd diwethaf i wneud gwaith ailwynebu ac atgyweirio ffyrdd a phalmentydd. Dywedodd Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, fod yr addewid 48 awr wedi bod yn un o lwyddiannau gorau'r cyngor dros y flwyddyn ddiwethaf a'n bod yn ymdrechi i
Buddsoddiad sy'n gwneud gwahaniaeth MAE gwaith y tîm PATCH yn helpu i gynnal safonau ffyrdd y ddinas i lefel sydd, yn ôl asesiadau Llywodraeth Cymru, ymysg y gorau yng Nghymru. Mae ein tîm PATCH eisoes wedi ymweld â saith ardal ward y cyngor ar draws y ddinas, gan gynnwys Bonymaen, St Thomas, Cwmbwrla a Llangyfelach. Dros yr wythnosau nesaf, byddant yn mynd i leoedd fel Treforys, Mawr, Gorseinon a Phontarddulais. ddod o hyd i arian er mwyn sicrhau ei fod yn parhau. Meddai, "Roedd ein haddewid trwsio tyllau yn y ffordd yn ddull syml o ymateb i un o'r materion mwyaf y mae preswylwyr yn eu codi gydag aelodau ward bob dydd. "Does neb yn hoffi gweld tyllau yn y ffordd ond maent yn anochel o ystyried y draul mae ein ffyrdd yn destun iddi gyda chymaint o draffig a'r tywydd garw. Ein
hateb i'r broblem yw buddsoddi mwy ac addo i wneud atgyweiriadau'n gyflym. "Dros y flwyddyn ddiwethaf, adroddwyd am fwy na 4,000 o dyllau yn y ffordd ac mae ein tîm trwsio tyllau yn y ffordd gweithgar wedi atgyweirio mwy na 90% ohonynt o fewn y targed o 48 awr." Eleni, mae'r cyngor wedi dechrau defnyddio cyfarpar newydd er mwyn crafu arwynebau ffyrdd treuliedig a gosod
arwynebau tarmac yn eu lle mewn ffordd gyflym a syml. Meddai'r Cyng. Thomas, "Rydym yn gwybod bod pobl yn gwerthfawrogi'r hyn yr ydym yn ei wneud i drwsio tyllau yn y ffordd oherwydd ein bod wedi derbyn adborth cadarnhaol ar yr hyn a wnaed hyd yn hyn. "Gall unrhyw un sydd am adrodd am dwll yn y ffordd wneud hynny ar-lein yn www.abertawe.gov.uk/tyllauynyffordd ac, os ydynt yn cynnwys eu cyfeiriad e-bost yn yr ymateb, byddwn yn rhoi gwybod iddynt pan fyddwn wedi trwsio'r twll. "Mae adegau pan nad ydym wedi gallu trwsio'r twll, er enghraifft, oherwydd cyflwr y ffordd neu oherwydd y tywydd. "Ond byddwn bob amser yn ymdrechu i roi'r diweddaraf i bobl yn yr amgylchiadau hynny fel eu bod yn gwybod beth sy'n digwydd."
Awst - Hydref 2017 Cysylltwch ag Arwain Abertawe
Olly Murs 12 Awst Parc Singleton Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n derbyn unrhyw atebolrwydd dros unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a hysbysebir yn Arwain Abertawe nac yn eu hyrwyddo.
Hwyl Crefftau’r Haf i Blant 16 a 23 Awst Castell Ystumllwynarth Taith th Cyfnewid Cy Baton y Frenhines nes 5 Medi Yn dechrau yn Knab Rock
Proms yn y Parc y BBC 9 Medi Parc Singleton The Luna Cinema yn T cyflwyno: 13 Medi Gladiator 14 Medi Mamma Mia! Castell Ystumllwynarth 10k a Rasys Iau Bae Admiral A Abertawe 24 Medi Bae Abertawe
Penwythnos P Abertawe M Mawr 29 2 9 a 30 Medi Lleoliadau L leoliadau ar draws canol c anol y ddinas
Nosweithiau Nos osweithiau Calan Gaeaf Ga aeaf Bwganllyd B 30 a 31 Hydref Plantasia Plantassia
Gw G w ˆ yl Ryngwladol A Abertawe 29 2 9 Medi 1 4 Hydref 14 Lleoliadau L leoliadau Amrywiol Ysbrydion yn y Ddinas Y 2 8 Hydref 28 C Canol y Ddinas
Am fwy o ddigwydd ddigwyddiadau diadau adau gwych gwych, ew ewch i jo joiobaeabertawe.com oiobaeaberta oiobaeabertawe.com
joiobaeab joiobaeabertawe.com bertawe.com
I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092
Caffi Barddoniaeth oniaeth gyda Helen en May Williams 12 Awst A Canolfan Dylan Thomas
Awst 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain
Abertawe
3
Crynodeb o’r
newyddion Canolfan Dylan Thomas yw'r lle gorau i blant MAE’R man yn Abertawe sy'n sanctaidd i'r rheiny sy'n hoffi Dylan Thomas mor boblogaidd gyda theuluoedd mae wedi cael ei restru i ennill gwobr flaenllaw yn y DU. Bydd Canolfan Dylan Thomas yn cystadlu yn erbyn lleoliadau poblogaidd eraill ym Mhrydain i dderbyn teitl mawreddog 'Gwobr Amgueddfa Addas i Deuluoedd Plant mewn Amgueddfeydd'. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan blant a'u teuluoedd ac mae Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr yn dweud bod cyrraedd y rhestr fer yn gamp fawr. Cyhoeddir enillwyr Gwobr Amgueddfa Addas i Deuluoedd ym mis Hydref, a dywedodd y Cyng. Francis-Davies fod Canolfan Dylan Thomas yn llawn cyfleoedd addas i deuluoedd sy'n amrywio o 'Lwybr Anifeiliaid Dylan i Blant' i ddigwyddiadau rhyngweithiol, gweithdai a gweithgareddau â thema i deuluoedd a mannau dysgu.
• CASTELL YSTUMLLWYNARTH: cadarnle adloniant i'r teulu ar gynnig mewn tirnod eiconig.
BYDD sinema awyr agored, 10k gorau Cymru, a llawer iawn o hwyl am ddim (a hwyl sydd bron am ddim!) ar gynnig dros y misoedd nesaf yn Abertawe. Mae ein dinas yn croesawu cannoedd ar filoedd o ymwelwyr dros fisoedd yr haf ar gyfer digwyddiadau penodol megis 10K Bae Abertawe Admiral, a digwyddiadau theatr a sinema awyr agored Castell Ystumllwynarth. Mae'n gyfnod pwysig o'r flwyddyn i'r miloedd o swyddi sy'n ddibynnol ar dwristiaeth ac i breswylwyr lleol sydd am gymryd rhan mewn cymysgedd eclectig o atyniadau, golygfeydd a digwyddiadau. Yr haf hwn yn y ddinas mae miloedd o bobl eisoes wedi
info
Castell Ystumllwynarth yn beiriant amser yr haf i’r teulu cyfan MAE hefyd lawer yn mynd ymlaen yn Oriel Gelf Glynn Vivian, sydd wrthi'n mwynhau ei haf cyntaf ar ôl ailagor yn dilyn ei phrosiect adnewyddu gwerth miliynau o bunnoedd. Mae'n cynnwys y 'Troli Celf' blaengar newydd, sy'n teithio o amgylch yr oriel y rhan fwyaf o ddyddiau yn ystod mis Awst, yn cynnig cyfle i bobl ifanc fod yn greadigol drwy gael eu hysbrydoli gan y casgliadau sydd o'u cwmpas. Am fwy o wybodaeth ewch i www.abertawe.gov.uk/glynnvivian
mwynhau Sioe Awyr wych Cymru ym mis Gorffennaf - ac mae mwy ar ddod, gan gynnwys Proms yn y Parc a Phenwythnos Mawr Abertawe tua diwedd mis Medi a fydd yn dathlu statws Baner Borffor y ddinas am ei heconomi gyda'r nos. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant,
Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, "Mae ein dinas yn cynnig cyfleoedd dihafal i ymwelwyr a phreswylwyr ymlacio a mwynhau'r gwyliau haf hir o ddifri, drwy ymestyn yr haf i'r hydref cynnar gyda rhai o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Cymru. "Bydd gan breswylwyr ifanc y cyfle i fwynhau sesiynau nofio am ddim ym
mhyllau nofio'r cyngor yn ogystal â digwyddiadau llawn hwyl nad ydynt am eu methu mewn tirnodau megis Castell Ystumllwynarth, lle bydd rhywbeth yn cael ei gynnal bob penwythnos yn ystod yr haf.” Bydd Parc Singleton hefyd yn cynnal Proms yn y Parc y BBC ar 9 Medi, ac yn cysylltu â Neuadd Frenhinol Albert am y 12fed tro ar gyfer Noson Ola'r Proms. Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Mae rhaglen ddigwyddiadau Abertawe'n wych ac yn cefnogi ein hymgyrch i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021. Gyda'r cyhoeddiad ar y ffordd ddiwedd y flwyddyn, mae ein rhaglen ddigwyddiadau yn cyflwyno pobl i ystod eang o brofiadau diwylliannol mewn ffordd ddifyr ac ysgogol."
Hwyl yr haf ar flaenau'ch bysedd YN cynnwys popeth sy'n digwydd yr haf hwn a thu hwnt, mae dros 100,000 o lyfrynnau Joio Bae Abertawe wedi cael eu dosbarthu. Mae'r llyfrynnau, a luniwyd gan Gyngor Abertawe, wedi'u hanfon i westai, siopau, darparwyr gweithgareddau ac atyniadau ymwelwyr yn Abertawe a'r ardal gyfagos. Mae copïau hefyd ar gael yng ngorsafoedd trên a bws y ddinas. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae'r llyfryn hwn yn cyd-fynd â gwefan Joio Bae Abertawe er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd, gan helpu i ddenu mwy o bobl leol a hybu busnesau lleol."
Byddwch yn llysgennad ar ran Gŵyr godidog MAE yna gyfle i bobl leol gyflwyno'u hun fel llysgenhadon penrhyn Gŵyr er mwyn helpu i hyrwyddo'r ardal i ymwelwyr. Daw miloedd o ymwelwyr i'r ardal bob blwyddyn ac mae trefnwyr Partneriaeth Tirwedd Gŵyr (PTG) bellach wedi llunio digwyddiad deuddydd am ddim i helpu i hyfforddi ymgeiswyr posib fel llysgenhadon. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am fod yn llysgennad drwy e-bostio gareth@gka.org.uk neu drwy ffonio (07984) 127811.
Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.
4
Arwain
Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Awst 2017
Ailgylchu plastig wedi’i wneud yn hawdd
cwestiynau cyffredin
MAE newidiadau i'r ffordd y cesglir plastig ailgylchadwy'n cael eu cyflwyno ar draws y ddinas. Mae tua hanner yr aelwydydd yn y ddinas bellach yn defnyddio'r bagiau pinc ailddefnyddiadwy i gael gwared ar bopeth o boteli plastig i hambyrddau bwyd a tybiau hufen iâ gwag. Bydd y ffordd newydd i ailgylchu'n cael ei hestyn i weddill y cartrefi dros yr wythnosau nesaf a fydd yn galluogi'r cyngor i wneud yn fawr o'r hyn sy'n cael ei gasglu wrth ymyl y ffordd. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol, "Casglu plastigion gan breswylwyr y ddinas yn bendant yw un o'r gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf gyda miloedd yn cyfranogi. "Mae'r newidiadau a wnaed gennym wedi cael eu cyflwyno fel y gallwn wneud yn fawr o'r hyn yr ydym yn ei gasglu. "Bu'r hen system o gasglu plastigion mewn sachau defnydd sengl yn llwyddiannus iawn ond nid yw cwmnïau
yr ydym yn anfon ein plastig atynt yn derbyn bagiau siopa a deunyddiau eraill sydd fel ffilm. Y prif reswm yw nad yw'r system ddidoli a ddefnyddir ganddynt yn gallu hidlo'r bagiau siopa a'r ffilm ac mae hyn yn achosi problemau. "Mae'n rhaid i ni addasu i'r newidiadau hyn fel y gallwn sicrhau bod yr holl blastig yn cael ei ailgylchu ac nid yw'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. "Mae'r system newydd hefyd yn llawer mwy cost-effeithiol, gan gael gwared ar yr angen i brynu sachau defnydd sengl." Bydd preswylwyr sydd wedi derbyn y bagiau newydd hefyd yn sylwi bod pwysyn yn y gwaelod. Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Un o'r cwynion cyffredin gyda'r hen system yw bod plastig yn gallu bod yn ddeunydd ysgafn, hyd yn oed pan fydd llawer ohono. Diben y bagiau â phwysyn yw lleihau achosion lle mae bagiau'n cael eu • GWNEUD Y PETH CYWIR: Ailgylchu bagiau pinc yn lleihau safleoedd tirlenwi chwythu o gwmpas y stryd pan fydd tywydd gwyntog."
Pryd rydw i'n dechrau defnyddio'r gwasanaeth? Dechreuwch ddefnyddio'r bagiau newydd ar unwaith. Ni fyddwn yn casglu'r plastigion mewn sachau defnydd senglyn eich ardal chi ar ôl dosbarthu'r bagiau. Beth dylwn i ei roi yn y bag? Yn y bagiau ailddefnyddiadwy newydd, byddwn yn casglu'r mathau caletach o becynnu plastig yn unig, megis poteli, potiau, tybiau a hambyrddau. Ni fyddwn yn casglu bagiau os ydynt yn cynnwys plastig sy'n debyg i haenen lynu neu fagiau siopa, neu os yw'r plastig yn yr hen sachau defnydd sengl. Beth os oes angen mwy o sachau arnaf i? Gall y bagiau newydd ailddefnyddiadwy ddal llawer mwy na'r sachau plastig defnydd sengl. Gan olchi a gwasgu eich deunyddiau plastig dylai'r rhan fwyaf o breswylwyr fod â digon o le ar gyfer y pythefnos. Fodd bynnag, bydd y cyngor yn ystyried dosbarthu bagiau ailddefnyddiadwy ychwanegol yn ôl yr angen. Hefyd mae gennych yr opsiwn o fynd â'ch plastigion rhydd i'ch Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf. Beth os bydd fy mag wedi mynd ar goll neu wedi cael ei ddifrodi? Cysylltwch â ni trwy ffonio 635600 i gael bag newydd am ddim. Beth os oes angen rhagor o wybodaeth arnaf i? Bydd ateb i lawer mwy o'ch cwestiynau ar we-dudalennau ailgylchu'r cyngor yn http://www.abertawe.gov.uk/bagiaupincailddefnyddiadwy
Disgyblion yn dysgu sut i nofio’n ddiogel MAE disgyblion mewn ysgol yn Abertawe'n gweithio gyda Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe i addysgu pobl ifanc sut i fod yn ddiogel ger dŵr. Ysgol Gynradd Newton fydd partner cyntaf PCCA dan fenter Cymdeithas Frenhinol Achub Bywydau RLSS 'Mabwysiadu Ysgol' a fydd yn parhau â menter a ddechreuodd yn ystod Wythnos Atal Boddi mis Mehefin i fod yn fenter trwy'r flwyddyn. Nid yw cymunedau Gŵyr byth yn bell o'r dŵr felly mae'r ysgol a'r pwll wedi penderfynu gweithio ar y cyd i wella dealltwriaeth plant dan 12 oed o ddiogelwch dŵr.
Meddai Jeremy Cole, Rheolwr Cyffredinol PCCA, "Mae disgyblion Ysgol Gynradd Newton eisoes yn mwynhau gwersi nofio gyda ni yn y pwll. "Mae dysgu i nofio a mwynhau amser mewn pyllau nofio ac ar lan y môr yn ddifyr ac yn helpu i feithrin brwdfrydedd am ymarfer corff ymhlith plant. Meddai'r Pennaeth Helena Rees, "Mae'n gwneud llawer o synnwyr i ni weithio ar y cyd â PCCA fel y gall disgyblion ddysgu i nofio a dysgu mwy am yr hyn i'w wneud a'r hyn i beidio â gwneud wrth gael hwyl ger y dŵr." Mae RLSS yn fenter ledled y DU i gefnogi nofio'n ddiogel.
Awst 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Ymgynghoriad newydd ar gynigion HMO’r ddinas BYDD Cyngor Abertawe yn ailedrych ar y canllaw cynllunio sy'n ceisio rheoli tai amlfeddiannaeth yn y ddinas. Mae'r cyngor wedi cytuno i edrych eto ar lefelau crynodiad HMOs yn y ddinas gan gynnwys rhannau o wardiau Uplands a'r Castell lle ceir y rhan fwyaf o HMOs. Daw'r newyddion ar ôl i gynghorwyr y pwyllgor cynllunio gytuno i beidio â pharhau â Chanllawiau Cynllunio Atodol (CCA) a oedd yn bwriadu cyfyngu ar nifer yr HMOs mewn rhannau o Uplands a'r Castell sydd eisoes a nifer mawr o'r eiddo hyn hyd at derfyn o 25%. Mae'r canllaw hefyd yn cynnig lefel o 10% ar gyfer rhannau eraill o'r ddinas. Bellach, bydd y cyngor yn ystyried lefelau crynodiad gwahanol, gan gynnwys effaith lefel is o 15% yn ardal ddeheuol yr Uplands yn ogystal â chyflwyno polisi o beidio â 'rhyngosod' a fyddai'n atal aelwydydd preswyl rhag cael eu gosod rhwng dau HMO. Golyga benderfyniad y pwyllgor cynllunio y bydd y cyngor yn gofyn i ymgynghorwyr annibynnol edrych ar y newidiadau arfaethedig ac effaith bosib ar gymunedau cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus pellach. Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd, "Mae HMOs yn darparu math o dai gwerthfawr a mawr eu hangen. Mae'n hanfodol bod gennym bolisi â thystiolaeth drylwyr i helpu i benderfynu ar geisiadau am HMOs y dyfodol wrth amddiffyn cymunedau rhag nifer gormodol ohonynt."
Arwain
Abertawe
5
Crynodeb o’r
newyddion Amser chwarae, boed law neu hindda MAE’N amser cymryd y gic gyntaf ar ddau gae newydd o'r radd flaenaf sy'n addas ym mhob tywydd yn Abertawe. Mae gwaith ar y cyfleusterau 3G newydd yn Nhreforys ac ym Mhenyrheol bellach wedi'i gwblhau ac maent ar agor i'w defnyddio. Yn ogystal â darparu wynebau o'r radd flaenaf i ysgolion uwchradd cyfagos, maent hefyd ar gael i'w llogi gan glybiau chwaraeon ar gyfer hyfforddi a gemau pêl-droed a rygbi. Y gobaith yw y byddant yn helpu i leihau nifer y gemau sy'n cael eu canslo oherwydd tywydd gwael. Ar y cyd, maent yn cynrychioli buddsoddiad o bron £1m gan Gyngor Abertawe, gyda chefnogaeth gan Gronfa Gydweithio Cymru Gyfan. Mae gan y caeau newydd lifoleuadau ac felly gellir eu defnyddio ddydd a nos, beth bynnag yw'r tywydd. Mae'r wynebau chwarae yn addas ar gyfer pêl-droed neu rygbi cyswllt llawn cystadleuol.
Gwasanaethau hanfodol yn parhau i wella MAE gwasanaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr bob dydd yn gwella, yn ôl ffigurau diweddaraf y cyngor. Mae safonau mewn ysgolion, gwasanaethau cymunedol, mesurau i drechi tlodi mewn cyfnod o gyni yn ogystal ag adfywio economaidd oll yn wasanaethau'r cyngor sydd wedi dangos gwelliant o ran perfformiad. Er gwaethaf toriadau i gyllidebau a galw cynyddol am gefnogaeth, mae ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno gwasanaethau wedi helpu'r cyngor i wella 73% o'i ddangosyddion perfformiad dros y flwyddyn ddiweddaf.
• CARTREF NEWYDD: Mae HMOs yn fath o dai mawr eu hangen yn Abertawe
HMOs a Chanllawiau Cynllunio Atodol - atebion i'ch cwestiynau C: Beth yw Tai Amlfeddiannaeth (HMO)? A : Dyma eiddo lle mae nifer o bobl yn byw ynddo a chanddynt ystafell wely breifat ond maent yn rhannu cyfleusterau eraill, megis y gegin, yr ystafell fyw a'r ystafell ymolchi. C: Pwy sy'n byw mewn HMO? A : Gall HMO gynnig llety fforddiadwy i amrywiaeth eang o bobl, gan gynnwys myfyrwyr a phobl broffesiynol. Gall fod yn ffurf ar gartref hynod bwysig i'r sawl na all fforddio rhentu neu brynu eiddo yn ei gyfanrwydd. C: Sawl HMO sydd yn Abertawe? A : Ym mis Hydref 2016, roedd 1,615 o HMOs trwyddedig yn Abertawe, gyda'r rhan helaeth ohonynt naill ai yn Uplands neu yn y
Castell. C: Sut penderfynir ar HMOs yn Abertawe? A : Bydd y cyngor yn penderfynu ar geisiadau cynllunio drwy'r broses gynllunio arferol, ac weithiau cânt eu 'galw mewn' am ystyriaeth gan y Pwyllgor Cynllunio. C: Beth yw Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)? A : Caiff CCA ei ddefnyddio ynghyd â pholisïau cynllunio presennol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. C: Sut bydd CCA yn helpu i reoli nifer yr HMOs yn Abertawe? A : Nid yw polisïau cynllunio presennol y cyfeirir atynt yn nodi trothwy neu derfynau
o ran niferoedd derbyniol o HMOs mewn ardaloedd penodol. Mae mabwysiadu'r CCA yn rhoi'r cyfle i ni ddiffinio trothwy ar gyfer HMOs, a nodi canrannau clir o ran lefelau mewn ardaloedd penodol yn seiliedig ar dystiolaeth. C: Pryd bydd CCA ar HMOs yn cael ei fabwysiadu? A : Ni chymeradwywyd fersiwn y CCA a argymhellwyd gan yr Awdurdod Cynllunio gan y Pwyllgor Cynllunio. Nawr, cynhelir mwy o astudiaethau/ymgynghori er mwyn ystyried newid arfaethedig gan y Pwyllgor Cynllunio, gan gynnwys newidiadau i'r lefelau trothwy uchaf.
Arena ar garreg drws gwesty? MAE datblygwyr a gweithredwyr gwestai yn ceisio mynegiannau o ddiddordeb mewn safle datblygu yn Abertawe Ganolog i'r de o Heol Ystymllwynarth. Mae Cyngor Abertawe a Rivington Land - rheolwyr datblygu ar gyfer y safle yn gweithio gyda chwmni rheoli buddsoddiadau arbenigol o'r enw Jones Lang LaSalle (JLL) i fesur diddordeb gan y farchnad westai. Mae safle wedi'i nodi ar gyfer gwesty ger yr arena dan do ddigidol arfaethedig, a fydd yn cael ei hadeiladu ar y cyd â maes parcio aml-lawr yn ardal maes parcio'r LC. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, "Mae Rivington Land, ein rheolwyr datblygu ar safle datblygu Abertawe Ganolog, wedi nodi cyfle ar gyfer
gwesty ger yr arena dan do ddigidol arfaethedig, felly rydym bellach wedi dechrau chwilio am fynegiannau o ddiddordeb gan ddatblygwyr a gweithredwyr gwestai. "Mae hyn yn gwneud synnwyr oherwydd byddai'r gwesty'n cyd-fynd â'r arena dan do ddigidol â 3,500 o seddi a fydd yn cynnal hyd at 200 o ddigwyddiadau'r flwyddyn. Bydd hynny'n cynnwys sioeau ar daith, cyngherddau cerddoriaeth, digrifwyr, arddangosfeydd a pherfformiadau theatrig. “Bydd y cynlluniau ar gyfer yr arena dan do a'r gwesty i'r de o Heol Ystumllwynarth yn ychwanegu at ein cynlluniau ar gyfer safle hen ganolfan siopa Dewi Sant gan ddenu busnesau newydd i ganol y ddinas ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr a'r gwario."
Datgelu enwau ffyrdd coll GALL enwau ffyrdd coll gael eu hailgyflwyno fel rhan o gynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i adfywio canol y ddinas. Gall enwau strydoedd hanesyddol o'r oes a fu, megis Wassail Street, Orange Street, Rutland Street a Frog Street ddychwelyd wrth i Gyngor Abertawe roi treftadaeth wrth wraidd ei gynlluniau ar gyfer safle datblygu Dewi Sant. Ar un adeg yn ardal Sgwâr y Santes Fair presennol a hen ganolfan siopa Dewi Sant, mae'r enwau strydoedd coll hyn yn dyddio'n ôl i oes Victoria a chyn hynny.
Llwybr disglair MAE Abertawe wedi'i gydnabod fel un o gynghorau arweiniol y DU am drawsnewid rhai o'i wasanaethau. Cyrhaeddodd Cyngor Abertawe'r rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng ngwobrau blynyddol Llwyddiant Llywodraeth Lleol MJ. Canmolwyd y cyngor am ei fenter Abertawe Gynaliadwy a Gwasanaeth Datblygu Gwaith y Gwasanaethau Cymdeithasol.
6
Arwain
Abertawe
Rhosili yw’r lle gorau YNG nghwmni traethau eithriadol o brydferth o'r Dwyrain Pell, yr UD a'r Caribî, mae un o draethau Abertawe wedi'i enwi'n un o ddeg traeth prydferthaf y byd. Mae cyhoeddiad ar-lein, Suitcase Magazine, wedi barnu Bae Rhosili i fod ymysg traethau o fri sy'n cynnwys Ynys Tikehau ym Mholynesia Ffrengig, Traeth De Miami yn Fflorida a Koh Krandan yng Ngwlad y Thai. Bae Rhosili yw'r unig draeth Ewropeaidd i gyrraedd y deg safle uchaf. Mae traethau eraill yn y deg safle uchaf yn cynnwys Pamalican yn ynysoedd y Philipinau, Bocas del Toro ym Mhanama, Baia do Sancho ym Mrasil, Traeth Radhanagar yn yr India a Thraeth Loblolly yn Ynysoedd Prydeinig yr Wyryf. Enwyd Bae Rhosili yn ddiweddar hefyd gan y Daily Telegraph fel un o bum man picnic gorau'r DU. Meddai'r Cyng. Robert FrancisDavies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, "Nid yw cydnabyddiaeth fel hon yn newydd i Fae Rhosili, ond yr hyn mae'n ei wneud yw cadarnhau pa mor ffodus ydym ni i gael traeth o'r radd flaenaf ar garreg ein drws yma yn Abertawe. "Mae hefyd yn dangos pam rydym yn cynnwys delweddau syfrdanol a fideos o arfordir Gŵyr mor aml yn ein hymgyrchoedd hysbysebu awyr agored ac ar-lein."
Gŵyl sydd â llawer i’w gynnig BYDD Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn dychwelyd i'r ddinas ym mis Medi. Drwy gydol yr Ŵyl bydd yna lawer o ddoniau Cymreig a rhyngwladol yn perfformio, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni St Petersburg a fydd yn perfformio'i hunig cyngerdd yng Nghymru. Hefyd yn perfformio bydd Llŷr Williams, yr organydd Jonathan Hope ac Orpheus Sinfonia gyda'r sielydd Thomas Carrol, a bydd sgwrs â Michael Heseltine o Abertawe hefyd. Ewch i www.swanseafestival.org/cy i gael yr holl wybodaeth am yr hyn sydd ar gael, ac i gael gwybodaeth am docynnau ac amser y perfformiadau, neu i wefan Theatr y Grand lle mae'r tocynnau ar gyfer yr holl ddigwyddiadau ar gael i'w prynu.
Awst 2017
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Moderneiddio’n adeiladu ar lwyddiant y gorffennol MAE dau fusnes cymdeithasol yn ne Cymru'n helpu cannoedd o aelodau o staff Cyngor Abertawe i foderneiddio eu ffordd o weithio. Bydd cydweithredu â Ministry of Furniture a Greenstream Flooring CIC (cwmni budd cymunedol) yn helpu'r awdurdod i arbed arian wrth barhau i gyflwyno'r gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl. Mae Ministry of Furniture yng Nghastell-nedd yn cyflenwi celfi wedi'u hailgylchu a'u huwchgylchu ar gyfer swyddfeydd wedi'u had-drefnu yn y Ganolfan Ddinesig. Mae llawer o gelfi newydd y cyngor wedi
cael eu creu o'i hen stoc ei hun. Mae Greenstream yng Nghwm Rhondda yn cyflenwi teils carped newydd ac wedi'u hailddefnyddio ar gyfer yr un fenter. Mae hyn yn helpu i gefnogi gweithlu anabl y cwmni a'r prosiect lloriau fforddiadwy sy'n darparu carpedi am ddim i unigolion ar incwm isel. Pan fydd swyddfeydd y cyngor yn symud yn y dyfodol, caiff y celfi a'r lloriau eu hailddefnyddio mewn unrhyw adeilad arall ar gyfer ei swyddogion. Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros
Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes, “Rydym am fod yn hyblyg, yn effeithlon ac yn fodern – rydym am aros yn gynaliadwy mewn byd sy'n prysur newid. Meddai Rheolwr-gyfarwyddwr Ministry of Furniture, Graham Hurst, fod y cwmni wedi datblygu o Remploy Furniture ac ychwanegodd, "Roeddem yn edrych ymlaen at ennill y contract hwn oherwydd ei agwedd arloesol at ailddefnyddio ac ailgynhyrchu hen stoc celfi."
• ARLOESWYR: Mae'r staff yn y Ganolfan Cam-drin Domestig yn helpu teuluoedd lleol bob dydd.
‘Heb y ganolfan, ni fyddai wedi bod yn bosib i mi godi ar fy nhraed eto’ MAE mam o Abertawe a oroesodd gam-drin domestig wedi croesawu lansiad Canolfan Cam-drin Domestig newydd yn y ddinas. Achubodd fersiwn beilot o brosiect y ganolfan fywyd ei theulu ac mae hi'n gobeithio nawr y bydd y ganolfan amlasiantaeth lawn sydd wedi'i datblygu'n gallu gwneud yr un peth a mwy ar gyfer cannoedd o deuluoedd eraill hefyd. Mae Canolfan Cam-drin Domestig Cyngor Abertawe y lansiwyd yr haf hwn yn darparu ymagwedd teulu cyfan er mwyn sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn teimlo'n ddiogel, a heb ofn, nawr ac yn y dyfodol, drwy gael eu cefnogi gan y bobl gywir ar yr amser cywir fel eu bod yn cael y cymorth y mae ei
Sut rydym yn gwneud gwahaniaeth MEDDAI Will Evans, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Cryfach, "Mae'r ganolfan yn ein caniatáu i weithio gyda'n partneriaid i atal trais yn y cartref cyn i bobl gael eu niweidio ac i helpu goroeswyr i symud ymlaen gyda'u bywydau. "Mae'n atal yr un peth rhag digwydd eto, yn annog pobl i rannu gwybodaeth yn well, ac yn helpu i nodi ac ymyrryd yn gynnar. Dylai unrhyw un sydd am gael cefnogaeth gysylltu â 0808 80 10 800
eisiau a'i angen arnynt. Mae'n gweithio gyda theuluoedd lle mae cam-drin domestig yn digwydd ynddynt, neu gyda theuluoedd sydd mewn perygl o ddioddef cam-drin domestig, ac yn defnyddio ymagwedd teulu cyfan ar ddileu'r perygl drwy gynnwys gwaith grŵp a gwaith unigol gyda phlant, goroeswyr a'r sawl sy'n cam-drin. Mae'r ganolfan wedi deillio o gynllun peilot llwyddiannus lle daeth adroddiadau gan yr heddlu am drais
domestig posib i sylw gwasanaeth dan arweiniad y cyngor a oedd yn ceisio helpu i gadw plant yn ddiogel a chefnogi teuluoedd. Nawr, mae'r ganolfan newydd, y gyntaf o'i bath yng Nghymru, yn derbyn amrywiaeth ehangach o gyfeiriadau ac yn gweithio'n agosach gyda'r holl asiantaethau, gan gynnwys achosion lle mae teulu mewn perygl o gam-drin domestig. Meddai Vanessa, nid ei henw go iawn, sy'n fam, "Er mai prosiect
peilot yn unig yr oedd ef ar y pryd, mae'r cynllun hwn wedi fy nghyflwyno i lawer o wasanaethau eraill sydd wedi fy helpu i a fy nheulu. “Heb y gefnogaeth, ni fyddai wedi bod yn bosib i mi godi ar fy nhraed eto. "Mae angen help ar bobl er mwyn atal y trais, a llawer mwy hefyd. Cefais fy nghefnogi gan y ganolfan mewn modd oedd yn gwneud i mi deimlo fel nad oeddwn ar fy mhen fy hun, ac mai nid fy mai i oedd e. "Rhoddodd staff y ganolfan hyder a chyngor i mi er mwyn i mi wneud y penderfyniadau cywir am fy nyfodol i, a dyfodol fy mhlant. “Roedden nhw hefyd wedi gwneud pethau ymarferol iawn megis dod o hyd i rywle diogel i ni gael byw ac wedi fy helpu gyda'm cyflogwr."
Awst 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i @cyngorabertawe ar Twitter
Buddsoddiad £150m mewn piblinell MAE cynlluniau uchelgeisiol wedi cael eu llunio i fuddsoddi bron £150m yn adeiladau ysgolion Abertawe dros y blynyddoedd sydd i ddod. Defnyddir yr arian i drawsnewid y ddarpariaeth ar gyfer rhai o bobl ifanc mwyaf diamddiffyn y ddinas, ehangu nifer y lleoedd ar gyfer disgyblion a addysgir yn Gymraeg a lleihau ôl-groniad o waith cynnal a chadw ac atgyweirio strwythurol ar adeiladau ysgolion. Bydd hyn yn adeiladu ar effaith sylweddol y rhaglen Band A hyd yn hyn a fydd wedi buddsoddi £51.3m mewn cyfleusterau ysgolion erbyn mis Mawrth 2019. Mae hyn ar ben rhaglen cynnal a chadw adeileddol flynyddol y cyngor ac ariannu blaenorol gan Lywodraeth Cymru - cyfanswm o bron £100m.
Bydd rhan nesaf y rhaglen yn cynnwys y cyfnod o 2019 i 2024. Meddai'r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Mae miloedd o ddisgyblion yn Abertawe eisoes yn elwa o gyfleusterau modern newydd sy'n gwneud gwersi'n fwy pleserus. "Rydym bob amser wedi credu y dylai ein huchelgais gyfateb i uchelgais ein disgyblion a'n rhieni yn Abertawe ac mae'r pecyn hwn, sy'n cynrychioli buddsoddiad o bron £150m, yn dangos yn glir ein hymrwymiad i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob person ifanc." Bydd canolfan newydd yn y Cocyd yn cymryd lle'r un hen bresennol a ddefnyddir gan yr Uned Cyfeirio Disgyblion sydd ar wasgar mewn
lleoliadau amrywiol ar draws y ddinas. Bydd yn helpu disgyblion sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'r ysgol ar hyn o bryd (EOTAS) i aros neu ddychwelyd mor gyflym â phosib i addysg brif ffwrdd. Bydd achos busnes manwl hefyd yn cael ei ddatblygu i dderbyn y buddsoddiad cyfalaf angenrheidiol i gyflwyno adolygiad o ddarpariaeth Ysgolion Arbennig. Fel rhan o gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor, ceir cynlluniau i wella llety a chyfleusterau yn yr ysgolion uwchradd presennol yn ogystal ag adeiladau newydd a chyfleusterau gwell i YGG Tan-y-lan, YGG Tirdeunaw ac YGG Pontybrenin.
Arwain 7
Abertawe
Crynodeb o’r
newyddion Breuddwydio am Gymru yn talu ar ei ganfed i ddisgyblion MAE pedwar disgybl mewn ysgol yn Abertawe wedi ennill gwobr genedlaethol am ffilm a wnaethant am eu gobeithion a'u breuddwydion am ddyfodol Cymru. Enillodd Ffion Thomas, Anwen Morgan, Jack Thomas a Toby Porter, disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe wobr Sefydliad Morgan Parry eleni. Sefydlwyd y wobr er cof am Mr Parry, a oedd yn ffigwr blaenllaw ym mudiad amgylcheddol Cymru am fwy na 30 mlynedd cyn ei farwolaeth yn 2014. Eleni, gosododd y sefydliad her i bobl ifanc i greu ffilm fer ar thema 'y Gymru a Garem'. Amlygodd disgyblion Blwyddyn 8 o Fryn Tawe genedl sy'n diogelu'r amgylchedd, sy'n byw'n iach, sy'n cynnig help i eraill ac sy'n parhau i amddiffyn ein diwylliant.
Marciau llawn am ymdrechion disgyblion MAE safonau addysgu, cyrhaeddiad ac ymddygiad disgyblion mewn ysgol gynradd yn Abertawe wedi derbyn clod gan arolygwyr. Maent hefyd wedi tynnu sylw at yr arweinyddiaeth gref yn Ysgol Gynradd Pen-y-fro ac wedi dweud bod hyn yn golygu ei bod mewn sefyllfa dda i adeiladu ar hanes cryf o welliant. Yn gyffredinol, gwnaethant roi dyfarniad da i'r ysgol yng Nghilgant Priors yn Nynfant yn dilyn arolygiad yn gynharach eleni. Dywedasant fod sawl disgybl yn gwneud cynnydd cryf wrth iddynt symud drwy'r ysgol, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2, mae gan lawer ohonynt sgiliau siarad a gwrando da.
• FFORDD I LWYDDIANT: Disgyblion Pentrehafod yn dyst i drawsnewidiad eu hysgol
‘Mae ein hysgol ar ei newydd wedd yn edrych yn wych’ MAE disgyblion yn Ysgol Gyfun Pentrehafod eisoes yn mwynhau manteision prosiect trawsnewid gwerth £15.1m. Diweddarwyd yr ystafelloedd CAD/CAM a Dylunio a Thechnoleg, ynghyd â'r ystafell ddrama a cherdd ac maent bellach yn cael eu defnyddio unwaith eto. Dros y misoedd i ddod, bydd yr hen gaban cerdd yn y buarth canolog yn cael ei ddymchwel er mwyn gwneud lle ar gyfer estyniad i'r brif fynedfa a'r dderbynfa. Yn ystod yr haf, bydd gwaith dymchwel yn parhau ar Floc Dau a fydd yn galluogi'r contractwr i ddechrau gwaith ar yr ystafelloedd dosbarth newydd yn yr ardal hon, gan ddisgwyl eu cwblhau yn gynnar
Buddsoddi yn nyfodol plant MAE prosiect Pentrehafod yn rhan o'r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sydd wedi'i gyllido ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru. Ynghyd â mentrau a ffrydiau cyllido eraill, mae'r prosiect wedi gweld mwy na £100m o fuddsoddiad mewn isadeiledd ysgolion hyd yn hyn yn Abertawe. Mae cynlluniau ar gyfer cam nesaf y prosiect yn cael eu datblygu, gyda buddsoddiad pellach o £150m dros y blynyddoedd i ddod.
yn 2018. Ym mlaen yr ysgol, mae gwaith yn parhau ar adeilad newydd sbon ar gyfer rhaglen Addysg Cwricwlwm Amgen Pentrehafod (ACAP), a fydd yn galluogi disgyblion i ddychwelyd i'r campws ac yn rhoi mynediad haws i addysg brif ffrwd iddynt. Yn y tymor hwy, bydd cyfleusterau chwaraeon ar y safle'n cael eu gwella gydag ardaloedd chwarae newydd, adnewyddu'r
gampfa a chyfleusterau newid newydd. Bydd y cyfleusterau gwell hyn ar gael i'r gymuned leol i'w defnyddio y tu hwnt i oriau ysgol. Mae'r disgyblion Maddie Williams, Leila Simon ac Ashton Hartnoll yn aelodau o'r Cyngor Ysgol a Senedd y Myfyrwyr ym Mhentrehafod. Meddai Maddie, "Mae wedi bod yn dda iawn gweld sut mae'n datblygu ac mae llwyddo i
drawsnewid yr ysgol mewn cyn lleied o amser yn anhygoel." Ychwanegodd Ashton, "Mae llawer mwy o le ac felly mae'n llawer haws i ddysgu yn yr ystafelloedd dosbarth" Meddai Leila y bydd disgyblion ac athrawon yn falch o gael gwared ar yr hen gabanau, gyda'u lle cyfyngedig a'r toeon oedd yn gollwng dŵr. "Mae'r ystafelloedd dosbarth yn amgylchedd llawer gwell i ddysgu ynddo." Meddai Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Mae'n bleser cael gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ym Mhentrehafod, ac mae'n dda cael gwybod bod disgyblion ac athrawon yn gweld rhai o'r buddion yn barod."
Mae gan ein siop dan yr unto bopeth MAE mwy o wasanaethau nag erioed o'r blaen bellach ar gael yn Info-Nation ar Ffordd y Brenin. Mae'r siop dan yr unto ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac mae'n darparu gwybodaeth am ddim a chyfrinachol yn ogystal â chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd rhywiol, perthnasoedd, camddefnyddio sylweddau a dod o hyd i waith. Ewch i www.infonation.org.uk/cymraeg-home i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 484010.
Llygad barcud ar dipio anghyfreithlon MAE camerâu dirgel wedi'u gosod mewn nifer o fannau tipio anghyfreithlon poblogaidd yn Abertawe mewn ymgais i leihau tipio anghyfreithlon. Mae Cyngor Abertawe'n gobeithio y bydd y camerâu'n helpu i ganfod pobl sy'n gwaredu gwastraff ar unrhyw un o'r safleoedd er mwyn eu herlyn. Bydd y camerâu hefyd yn helpu i atal pobl rhag ystyried gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.
Gwnaethon ni
Dywedoch chi
Gofynnom ni
8
Arwain
Abertawe Gyrwyr yn cymryd gofal ar ôl ein rhybudd 'robo-car' MAE lansio car camera gorfodi parcio yn Abertawe wedi llwyddo i newid arferion parcio modurwyr. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Gyngor Abertawe wedi dangos bod nifer yr hysbysiadau o dâl cosb (PCN) a roddwyd gan y car bron wedi haneru yn ail flwyddyn yr ymgyrch o'i gymharu â'r flwyddyn gyntaf. Lansiodd y cyngor y car camera gorfodi yn 2015 mewn ymgais i fynd i'r afael â materion parcio y tu allan i ysgolion ac mewn safleoedd bysus. Yn ystod blwyddyn gyntaf (2015/16) yr ymgyrch, cyflwynwyd 8,144 o hysbysiadau o dâl cosb. Yn 2016/17, mae'r ffigur wedi gostwng i 4,903. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol, "Lansiwyd y cerbyd o ganlyniad uniongyrchol i dderbyn cwynion rheolaidd am geir a oedd yn parcio'n anghyfreithlon mewn safleoedd bysus, yn enwedig ar brif lwybrau bysus sy'n mynd allan o ganol y ddinas.”
Byddwch yn gyflym i leisio'ch barn GOFYNNIR i breswylwyr roi eu barn ar nifer o strategaethau a pholisïau gwahanol yn ystod y misoedd i ddod. Gall preswylwyr ddweud eu dweud ar ein Strategaeth Atal a'n Strategaeth Tlodi tan 7 Awst. Mae'r strategaethau'n ystyried sut y gallwn helpu i droi'r syniad bod 'atal yn well na thriniaeth' yn weithred ymarferol a sut gallwn drechu tlodi. Bydd ymateb preswylwyr yn cael ei ystyried cyn i unrhyw benderfyniadau terfynol gael eu gwneud. Ceir rhagor o wybodaeth yn http://www.abertawe.g ov.uk/lleisiwcheichbarn
Lleisiwch eich barn MAE preswylwyr sydd am ddweud eu dweud am wasanaethau'r cyngor a materion lleol yn gallu ymuno â'n panel dinasyddion, Lleisiau Abertawe. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithredu'r panel yn llwyddiannus ers 1999. Adnewyddir ei aelodaeth yn gyson i sicrhau bod y panel yn dal i gynrychioli poblogaeth y sir a rhoi'r cyfle i gynifer o bobl ag y bo modd gymryd rhan. Gwnewch gais yn: http://www.abertawe.g ov.uk/article/7003/Lleis iau-Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Awst 2017
Pam mae bod yn ofalwr yn gyfle ysbrydoledig OS ydych yn hoffi gweithio gyda phobl ac eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau o ddydd i ddydd, ydych chi wedi ystyried gyrfa mewn gofalu? Mae angen gofalwyr i helpu i drawsnewid gwasanaethau fel y gall preswylwyr gael eu cefnogi i fyw bywydau mor annibynnol â phosib trwy gael y gwasanaethau cywir, ar yr amser cywir, yn y lle cywir. Gallai cannoedd o swyddi gofal cyflogedig fod ar gael ar hyn o bryd yn ardal Bae'r Gorllewin Abertawe, Castellnedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Nid oes angen cymwysterau arnoch i ymgeisio oherwydd darperir hyfforddiant a chymwysterau. Yr hyn sy'n hanfodol yw'r dyhead i ofalu, y gallu i ddangos empathi â phobl o ystod o gefndiroedd a diwylliannau, y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, a'r gallu i fod yn aelod cryf a dibynadwy o dîm. Fel gofalwr, byddwch yn ennill arian wrth wella ansawdd bywyd pobl trwy ddarparu ystod eang o ofal a chefnogaeth. Gallwch weithio fel gofalwr ar y cyd â'ch ymrwymiadau eraill megis bywyd teuluol neu hyfforddiant. Ac os hoffech ddatblygu'ch gyrfa ymhellach, mae'r profiad a'r cyfleoedd a gynigir gan yrfa gofalu'n rhoi mantais i bobl wrth ymgeisio am swyddi nyrsio a gwaith cymdeithasol yn y dyfodol. Meddai Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Lles, "Rydym yn falch o fod yn rhan o'r ymgyrch Ymunwch â'n Cymuned Ofalgar Bae'r Gorllewin sy'n cael ei lansio'n swyddogol yr hydref hwn. "Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad a gofal yr holl weithwyr gofal p'un a ydynt yn cael eu cyflogi gan y cyngor yn uniongyrchol neu drwy un o'r darparwyr preifat yr ydym yn eu defnyddio i ddarparu gofal ar ran y cyngor. "Maent yn gefnogaeth wych wrth helpu preswylwyr i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt. "Byddwn yn annog pobl i ystyried a yw gyrfa mewn gofalu yn addas iddynt." Ychwanegodd, "Mae'n swydd gyflogedig gyda hyfforddiant, rhagolygon gyrfa ac oriau hygyrch os bydd angen. Mae pobl yn syrthio mewn cariad â'r yrfa oherwydd ei bod yn gyfle i wneud y pethau pwysig hynny sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl." I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, ewch i www.baergorllewin.org.uk/gofal
• GOFALGAR: Mae Georgia Wilson yn credu bod gwaith gofal yn werth chweil
Stori Georgia GEORGIA Wilson, 19 oed, o Brynhyfryd, Abertawe, yw un o wynebau'r ymgyrch i recriwtio gweithwyr gofal. Mae Georgia wedi gweithio fel gofalwr ers 14 mis ochr yn ochr â'i hastudiaethau yn y coleg gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol a'r gyfraith. Meddai, "Fel llawer o bobl ifanc nid oeddwn yn siŵr beth oeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i'n gwybod bod rhaid iddo gynnwys pobl ond allwn i ddim penderfynu a ddylwn i ddewis gyrfa mewn gofalu neu yrfa gyda'r heddlu. "Awgrymodd rhywun y dylwn i ystyried fod yn weithiwr gofal. O'm diwrnod cyntaf rwyf wedi dwlu ar
y swydd. Roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gofalu am bobl ac mae wedi rhoi'r ysbrydoliaeth i fi ystyried nyrsio. "Efallai y bydda i'n ystyried bod yn nyrs yn y pen draw ond nid yw hynny'n dweud nad ydw i'n dwlu ar yr hyn rwy'n ei wneud nawr. “Mae bod yn weithiwr gofal yn rhoi boddhad mawr i mi. “Mae wedi fy helpu i weld fy nghryfderau a sut i fynd i'r afael â'm gwendidau. "Rwy'n gobeithio parhau ym maes gwaith gofal yn fy astudiaethau yn y dyfodol."
Annibyniaeth yw’r ffordd ymlaen BYDD preswylwyr sy'n derbyn gofal cartref ymhlith y cyntaf i elwa o'r cynllun newydd ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol sy'n bwriadu darparu'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir ac yn y lle cywir. Bydd yr ymagwedd newydd yn rhoi mwy o reolaeth, dewis ac annibyniaeth i bobl o ran y gwasanaethau maent yn eu derbyn. Ac mae'n dechrau gydag ailddylunio gwasanaethau cartref (gofal cartref), gyda chefnogaeth preswylwyr mewn ymgynghoriad diweddar, i helpu pobl i fyw mor annibynnol
â phosib. Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Lles, "Mae gofal cymdeithasol yn fater pwysig i breswylwyr sy'n derbyn gofal a chenedlaethau'r dyfodol y bydd angen gofal arnynt yn y blynyddoedd sydd i ddod. “Mae'r cyngor wedi gwrando ar breswylwyr, gan gynnwys y rheiny sy'n defnyddio'r gwasanaethau presennol a'u perthnasau, gweithwyr gofal ac eraill, o ran yr hyn maent yn ei feddwl sy'n gweithio'n dda nawr a'r hyn fydd yn
gweithio'n dda yn y dyfodol. "Wrth wraidd yr hyn rydym yn ei gynllunio mae creu darpariaeth ofalgar, ymatebol a hyblyg sy'n helpu pobl i fyw eu bywydau gartref mor annibynnol â phosib a chyhyd â phosib." Mae'r rhaglen hefyd yn bwriadu mynd i'r afael â lles pobl ar sail pedair haen o annibyniaeth yn amrywio o rwydweithiau cyngor, megis cydlynu ardaloedd lleol sy'n helpu pobl i gadw'n weithgar ac yn hapus gartref, i ddarparu gofal 24 awr i'r rhai ag anghenion cymhleth.
Awst 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain 9
Abertawe
Crynodeb o’r
newyddion Gorffwys gyda golygfeydd trawiadol BYDD preswylwyr sy'n mwynhau gorffwys yn ystod taith ar hyd Promenâd Abertawe wedi sylweddoli bod y meinciau sydd yno wedi'u trawsnewid mewn pryd ar gyfer yr haf. Daeth Cyngor Abertawe a Chyngor Cymuned y Mwmbwls ynghyd er mwyn adnewyddu neu osod 58 o feinciau rhwng Norton a Knab Rock. Ac mae rhannau eraill o'r promenâd o'r Ganolfan Ddinesig i gyfeiriad y gorllewin hefyd wedi elwa o feinciau a wnaed yn lleol, sydd wedi'u hadeiladu o haearn bwrw ac estyll pren caled. Meddai Robert FrancisDavies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, "Efallai fy mod i'n unochrog ond mae'r golygfeydd ar draws y bae o bromenâd Abertawe o safon fyd-eang, felly rwy'n falch iawn o'r ymdrech a wnaed i ddiweddaru'r meinciau.
Meysydd parcio’n cael eu diweddaru • ADEILADU'R DYFODOL: Mae rhai o gartrefi mwyaf ynni-effeithlon Prydain yn cael eu hadeiladu yn Abertawe
Cartrefi arloesol yn barod ar gyfer tenantiaid BYDD tenantiaid yn Abertawe'n symud i fyw i rai o gartrefi mwyaf ynnieffeithlon y DU yn hwyrach eleni. Trefnir y trosglwyddiad fesul cam ar gyfer tai'r cyngor sy'n cael eu hadeiladu ar Ffordd Milford ar gyfer yr hydref. Mae'r cynllun, sy'n cynnwys deg cartref dwy ystafell wely ac wyth fflat un ystafell wely, yn cael ei ariannu gan refeniw o renti'r cyngor ac nid gan dreth y cyngor. Bydd drysau a ffenestri aerglos arbenigol yn cael eu gosod yn y cartrefi newydd i sicrhau bod y cartrefi'n bodloni safonau ardystiedig Passivhaus. Wedi'u dylunio yn ôl egwyddorion a ddatblygwyd yn yr Almaen yn wreiddiol, mae cartrefi Passivhaus yn defnyddio ychydig
Buddsoddi yn stoc tai'r ddinas MAE gwaith clirio safle bellach wedi dechrau ar gyfer cynllun tebyg ym Mharc-yr-Helig, Gellifedw, gyda'r bwriad o ddechrau ar y gwaith adeiladu yn yr hydref. Hefyd wedi'i ddylunio yn ôl safonau Passivhaus, bydd y cynllun hwn yn cynnwys nifer o gartrefi un neu ddwy ystafell wely. Mae'r ddau gynllun yn cael eu dylunio yn ôl safonau Cartrefi Gydol Oes hefyd, sy'n golygu y gall pob cartref gael ei addasu'n hawdd er mwyn diwallu anghenion presennol a dyfodol tenantiaid.
iawn o ynni i wresogi ac oeri. Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau, "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i adeiladu tai cyngor yn Abertawe. Roedd cyfyngiadau a oedd ar waith ers y 1980au'n golygu nad oeddem yn gallu adeiladu tai cyngor newydd am sawl blwyddyn, ond mae'r cyfyngiadau bellach wedi'u codi, felly rydym yn gobeithio y bydd hyn o fantais i gynifer o bobl â
phosib yn Abertawe. "Y cartrefi newydd ar Ffordd Milford yw'r cyntaf o nifer oherwydd bydd eu dyluniad yn helpu i lywio manyleb tai eraill yn y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion pobl. "Gyda'r cartrefi hyn yn cael eu dylunio i fodloni safonau arloesol Passivhaus, mae manteision diri i denantiaid y dyfodol edrych ymlaen atynt. "Yn ogystal â bod yn gyfforddus
ac yn fawr, bydd natur ynnieffeithlon yr eiddo'n arwain at filiau tanwydd sylweddol is, gan helpu i roi mwy o arian ym mhocedi pobl wrth fynd i'r afael ag angen Abertawe am lety fforddiadwy ag un neu ddwy ystafell. "Rydym yn bwriadu dechrau ar y cyfnod o drosglwyddo'r cartrefi newydd ar Ffordd Milford i denantiaid yn yr hydref." "Yn ogystal â nifer o fanteision i denantiaid, bydd y cynlluniau hyn yn cynnig nifer o fanteision eraill hefyd," meddai'r Cyng. Lewis. "Yn ogystal â bod o fantais i gyflogaeth leol trwy ddefnyddio gweithlu lleol a busnesau cadwyn gyflenwi leol, byddant hefyd yn helpu Abertawe i fodloni ei rwymedigaethau byd-eang trwy leihau ôl troed carbon y ddinas."
Baner Borffor yn aros yng nghanol y ddinas MAE canol dinas Abertawe wedi llwyddo i gadw statws pwysig y Faner Borffor ar gyfer 2017. Y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd yn gyfrifol am y Faner Borffor, statws sy'n gwobrwyo canol dinasoedd lle gall ymwelwyr ddisgwyl noson ddifyr, amrywiol, diogel a phleserus. Cyflwynwyd y statws i ganol dinas Abertawe am y tro cyntaf yn 2015 i gydnabod rhagoriaeth ei economi gyda'r hwyr a'r nos rhwng 5pm a 5am. Wrth ganiatáu i'r statws gael ei gadw ar gyfer 2017, dywedodd aseswyr annibynnol a ymwelodd
â'r ddinas yn gynharach eleni fod y bartneriaeth rhwng yr economi gyda'r hwyr a'r nos yn un o'r rhai cryfaf ac a gefnogir orau roeddent erioed wedi'i gweld. Mae cadw'r statws yn haeddiannol, yn eu barn hwy, oherwydd bod cynifer o enghreifftiau o arfer gorau. Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Lles: "Mae cadw statws pwysig y Faner Borffor am flwyddyn arall yn destun boddhad gan ei fod yn adlewyrchu'r holl
waith caled a wneir i sicrhau bod ymweld â'r ddinas gyda'r hwyr a'r nos yn brofiad mor fywiog, diogel, amrywiol a phleserus â phosib. "Er i ni ennill y statws ddwywaith yn olynol yn 2015 a 2016, rydym yn benderfynol o beidio â llaesu dwylo a dyna'r rheswm y sefydlwyd grŵp penodol ar ôl llwyddiant y llynedd, gan ddod â'r holl bartneriaid at ei gilydd a chanolbwyntio ar gadw'r statws ar gyfer 2017, yn ogystal â datblygu strategaeth ar gyfer gwella economi canol dinas Abertawe gyda'r hwyr a'r nos yn barhaus.”
MAE chwech o feysydd parcio'r ddinas wedi cael eu hailwynebu fel rhan o raglen weddnewid gwerth £100,000. Ymysg y chwe maes parcio a reolir gan Gyngor Abertawe a gafodd eu hailwynebu mae Salubrious Passage, Stryd Pell, Heol East Burrows, Y Llaethdy yn y Mwmbwls a Heol Brighton, Gorseinon. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys gosod atalfa newydd yn safle Gorseinon er mwyn ei wneud yn haws i fodurwyr sy'n ei ddefnyddio. Meddai Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, “Meysydd parcio cymharol fach yw'r rhain ond cânt eu defnyddio'n rheolaidd ac mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn addas at y diben. "Bydd y buddsoddiad yn helpu i gynnal parcio o safon."
Syniad rhieni'n dangos bod ganddynt ddoniau MAE grŵp o famau a thadau o Abertawe wedi profi bod gan bawb y ddawn i ysgrifennu llyfr. Mae'r rhieni ifanc, sydd wedi bod yn gweithio gyda thîm Jigso yn Abertawe, wedi tynnu ar eu profiadau eu hunain i greu llyfr darluniadol i blant sydd bellach ar silffoedd llyfrgelloedd ar draws Abertawe. Mae'r stori, 'An Adventure With Gramps’, yn ceisio annog rhieni, neiniau a theidiau a gwarcheidwaid i chwarae gyda'u plant.
Peidiwch â chael eich twyllo MAE gweithredoedd twyllodrus sy'n ymwneud â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) ar gynnydd yn Abertawe yn ôl Safonau Masnach. Mae swyddogion Safonau Masnach Cyngor Abertawe wedi rhybuddio preswylwyr drwy ei rwydwaith gweithredoedd twyllodrus i roi gwybod am y gweithgareddau sydd ar waith. Gall preswylwyr gael mwy o wybodaeth am weithredoedd twyllodrus a sut i amddiffyn eu hunain drwy ymweld â gwe-dudalen benodol y cyngor ar dwyll yn www.abertawe.gov.uk/twyll
10
Arwain
Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Awst 2017
Cae chwarae newydd diolch i dimau NEAT MAE gan ddisgyblion mewn ysgol gynradd yn Abertawe gae chwarae a gardd gymunedol newydd i'w mwynhau o ganlyniad i waith caled grŵp o oedolion dan anfantais. Mae timau NEAT Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Sea View yn Mayhill ar y prosiect. Un o'r digwyddiadau cyntaf i gael ei gynnal ar y cae chwarae oedd diwrnod mabolgampau blynyddol yr ysgol y cytunodd y bobl ifanc fod yr achlysur yn arbennig iawn ar ôl ymdrechion pawb. Meddai Pennaeth yr ysgol, Julie Dunn, "Mae wedi bod yn wych i gynnal Diwrnod Mabolgampau Sea View ar gae chwarae'r ysgol am y tro cyntaf. "Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'n plant ac rydym yn edrych ymlaen at wneud defnydd llawn o'r cae, yr ardd gymunedol a choetir yr ysgol. “Diolch yn fawr i'r tîm NEAT am ei waith caled, ei frwdfrydedd a'i ymrwymiad." Mae'r timau NEAT yn cynnwys oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl sy'n gweithio ar y cyd â gweithwyr y
cyngor ar brosiectau i wella cymunedau wrth ddatblygu sgiliau gwaith. Meddai Mrs Dunn, "Dechreuon ni gyda darn o dir segur ger yr ysgol y gwnaethom ei fabwysiadu a, chyda chyfraniad y timau NEAT, rydym wedi llwyddo i greu gardd gymunedol a chae chwarae yn yr ysgol fel y gall ein plant chwarae pêl-droed a'i ddefnyddio ar gyfer diwrnod mabolgampau ac yn ystod amser chwarae.” Dywedodd Debora Webb, Rheolwr Gwasanaeth Datblygu Gwaith y cyngor, yr holwyd staff a disgyblion yr ysgol yn ogystal â phreswylwyr lleol am yr hyn yr hoffent ei weld fwyaf yn yr ardal wrth i'r tir segur gael ei drawsnewid. "Y consensws cyffredinol oedd yr hoffent gael amgylchedd diogel ar gyfer chwarae, gyda mynediad at gae pêl-droed, maes chwarae a mwy o gyfranogiad gweithredol y gymuned," ychwanegodd. "Mae'r timau'n ymfalchïo yn eu gwaith ac mae llawer o unigolion sydd wedi gweithio ar y prosiect hwn yn dod o'r ardal leol, felly maent yn cyfrannu at rywbeth a fydd o les i'w cymuned gyfan.” Maent wedi dangos ethig gwaith gwych gan weithio trwy • CHWARAEON GWYCH: Disgyblion Sea View yn mwynhau eu diwrnod amodau tywydd gwael." mabolgampau cyntaf ar y cae chwarae newydd yr oeddent wedi helpu ei greu.
HYSBYSIADAU CYHOEDDUS ATODLEN
CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE CANOLFAN DDINESIG, HEOL YSTUMLLWYNARTH, ABERTAWE SA1 3SN GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2017 NORTHWAY, LLANDEILO FERWALLT, ABERTAWE
ATODLEN 1 DIDDYMIADAU Mae'r gorchymyn hwn yn diddymu pob gorchymyn blaenorol o ran hyd/hydoedd y strydoedd y cyfeirir atynt yma. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG
HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod ar 31 Gorffennaf 2017 o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi. Bydd y gorchymyn mewn grym o 7 Awst 2017, fel a nodir yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN (Cyfeirnod DVT/00222504/LJR). Caiff unrhyw un sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn, neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth ei wneud, wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Northway Ochr y Gogledd O bwynt 25 metr i'r gorllewin a gyferbyn â llinell balmant orllewinol Y Glebe i bwynt 63 metr i'r dwyrain a gyferbyn â llinell balmant ddwyreiniol Northlands Park. Ochr y De O bwynt 10 metr i'r dwyrain o linell balmant ddwyreiniol Northlands Park i bwynt 63 metr i'r dwyrain o hynny. 31 Gorffennaf 2017 TRACEY MEREDITH Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes
Mae cydraddoldeb yn bwysig i ni gan fod angen pobl o’r gymuned gyfan i ddarparu gwasanaethau o safon
CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE CANOLFAN DDINESIG, HEOL YSTUMLLWYNARTH, ABERTAWE SA1 3SN GORCHYMYN RHEOLEIDDIO TRAFFIG 2017 LLYFRGELL TREGŴYR A HEOL Y GOG, TREGŴYR, ABERTAWE HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud y gorchymyn uchod ar 31 Gorffennaf 2017 o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y'i diwygiwyd) a'r holl bwerau galluogi. Bydd y gorchymyn mewn grym o 7 Awst 2017, fel a nodir yn yr atodlen(ni) isod. Gellir gweld copi o'r gorchymyn a'r cynllun yn ystod oriau swyddfa yn y Ganolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN (Cyfeirnod DVT/00217540/LJR). Caiff unrhyw un sy'n dymuno herio dilysrwydd y gorchymyn, neu'r gweithdrefnau a ddefnyddiwyd wrth ei wneud, wneud cais i'r Uchel Lys o fewn 6 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad hwn. ATODLEN
ffordd/ffyrdd y cyfeirir ati/atynt yn yr atodlenni hynny. ATODLEN 2 GWAHARDD AROS AR UNRHYW ADEG HEOL Y GOG Ochr y Dwyrain O'i chyffordd â llinell balmant ddeheuol Mansel Street i bwynt 5 metr i'r de o hynny. MANSEL STREET Ochr y De O'i chyffordd â llinell balmant ddwyreiniol Heol y Gog i bwynt 5 metr i'r dwyrain o hynny. ATODLEN 3 GORCHYMYN DEILIAID BATHODYNNAU I'R ANABL A LLWYTHO/DADLWYTHO'N UNIG ARFAETHEDIG O DDYDD LLUN I DDYDD GWENER, 9AM – 6PM, A DYDD SADWRN, 9AM – 1PM Y TU ALLAN I LYFRGELL TREGŴYR Lle marciwyd cilfan yn ôl safon Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002 (1028.3) ac arwydd/hysbysiad unionsyth cyfatebol.
SCHEDULE 1
31 Gorffennaf 2017
DIDDYMIADAU
TRACEY MEREDITH
Diddymir y gorchmynion presennol i'r graddau y maent yn anghyson â'r cynigion a nodir yn yr atodlenni isod ac i'r graddau y maent yn berthnasol i hyd neu hydoedd y
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes
Awst 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain 11
Abertawe
Crynodeb o’r
newyddion Pont newydd ym Mhenrhyn Gŵyr MAE llwybr cerdded poblogaidd ym Mhenrhyn Gŵyr wedi cael hwb drwy adeiladu pont dros yr afon a grisiau newydd. Mae tîm Mynediad Cefn Gwlad Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr o grŵp cerdded Cerddwyr Abertawe a Chymdeithas Gŵyr i adeiladu'r bont sy'n cysylltu'r llwybrau cerdded ar y naill ochr o afon Twyni Pennard yn Parkmill. Bydd y bont newydd wyth metr o hyd yn sicrhau y bydd cerddwyr, marchogion a beicwyr mynydd yn gallu croesi'r afon rhwng y llwybrau heb yr angen i fynd ar y brif ffordd (yr A4118). Yn y gorffennol, roedd rhaid croesi'r afon pan fo'r llanw ar drai yn unig drwy ddefnyddio cyfres o gerrig camu ymhellach i lawr Dyffryn Pennard. Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Gŵyr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.
Eich cyfle i fod ar bwyllgor • DYFODOL DIGIDOL: Gyda'n gwasanaethau digidol, gallwch gysylltu â'r cyngor 24 awr y dydd o unrhyw le
Gwneud busnes gyda ni ar unrhyw bryd, yn unrhyw le MAE miloedd o breswylwyr yn derbyn newyddion Cyngor Abertawe gan ddewis yr amser a'r lle i wneud busnes. Mae bron i 40,000 o bobl bellach yn dilyn y cyngor ar Twitter ac mae 10,000 yn cael newyddion diweddaraf y cyngor ar Facebook hefyd. Yn fwy na hynny, mae preswylwyr yn defnyddio'n gwe-dudalennau i wneud busnes gyda ni gan ddewis amser a lle sy'n addas iddynt yn hytrach na dod i'r Ganolfan Ddinesig yn ystod oriau swyddfa. Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Aelod Cabinet y cyngor dros Drawsnewid a Gweithrediadau Busnes, fod gwneud busnes ar-lein yn dod yn gyffredin yn y rhan fwyaf o sefydliadau, o brynu trwydded yrru
Pa fath o fusnes alla i ei wneud ar-lein? • Gallwch gyflwyno cais ar gyfer gwasanaethau megis hawlenni parcio, trwyddedau sgip neu ostyngiad person sengl ar dreth y cyngor, gofyn am gasgliad gwastraff swmpus neu apelio'n erbyn tocynnau parcio trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/gwnewchearlein • I roi gwybod am golli casgliad ailgylchu, bin sbwriel llawn, tipio anghyfreithlon neu faw cŵn, ewch i www.abertawe.gov.uk/adrodd • I roi gwybod am dwll yn y ffordd, ewch i www.abertawe.gov.uk/tyllauynyffordd • Gallwch hefyd ein dilyn ni ar: Twitter: www.twitter.com/cyngorabertawe neu Facebook: www.facebook.com/swanseacitycouncil Instagram: www.instagram.com/swansea_council
gan y DVLA i brynu afocados o'r archfarchnad. Meddai, "Nid yw'n syndod bod Cyngor Abertawe'n manteisio ar y cyfle hwn hefyd. “Nawr mae preswylwyr yn gallu gwneud ystod eang o bethau gyda'r cyngor yn gysurus yn eu hystafelloedd byw, gan amrywio o adrodd bin sbwriel llawn i ofyn am
hawlen barcio i breswylwyr neu gasgliad gwastraff swmpus. "Ar ben hynny mae ein tudalennau Twitter a Facebook ymysg y rhai â'r nifer uchaf o ddilynwyr gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru achos bod preswylwyr yn gwybod mai dyna'r lle i gael yr wybodaeth neu'r newyddion diweddaraf am wasanaethau'r cyngor.
“Yn y gorffennol diweddar, os oedd angen hawlen barcio i breswylwyr arnoch roedd rhaid i chi ddod i un o'n swyddfeydd gydag amrywiaeth o ddogfennau ac aros am apwyntiad. Nawr gallwch ei wneud yn gyflym ac yn effeithlon ar-lein ar amser o'ch dewis. "Mae technoleg yn helpu'r cyngor i wneud ei waith yn fwy effeithlon ac yn effeithiol sy'n torri'n costau ni. Ond hefyd mae'n cyflymu'r gwasanaethau i breswylwyr, yn lleihau'r risg o wallau ac yn ei gwneud hi'n haws i ni olrhain ceisiadau busnes pobl trwy ein systemau. "Mae pawb ar eu hennill. Mae pobl dal yn gallu gwneud eu busnes gyda ni wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, ond lle mae'r opsiynau'n bodoli, mae mwy o bobl yn dewis ei wneud ar-lein."
Ffyrdd haws a chyflymach i chi dalu MAE preswylwyr yn talu am fwy o wasanaethau'r cyngor arlein erbyn hyn - a chyn bo hir byddant yn talu'n bersonol yn gynt o ganlyniad i'r ciosgau hunanwasanaeth newydd yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd yn bosib i chi ddefnyddio sgriniau cyffwrdd ein mannau talu er mwyn talu'ch biliau drwy gerdyn debyd neu gerdyn uniongyrchol, arian parod neu siec. Gallwch dalu biliau rheolaidd megis treth y cyngor, ardrethi busnes, rhent tai ac anfonebau'r cyngor yn ogystal â llawer mwy. Disgwylir i'r mannau talu, sy'n debyg i'r rhai sy'n cael eu
defnyddio mewn banciau, gael eu cyflwyno ym mis Medi. Bydd y mannau talu'n trawsffurfio'r cyngor yn unol ag anghenion modern. Byddant yn darparu derbynneb ac yn rhoi newid mewn papurau a darnau arian. Byddant yn bodloni safonau diogelwch a bydd gan bob un o'n peiriannau sglodyn a Pin nodweddion diogelwch ychwanegol. Bydd y ciosgau'n ddwyieithog ac yn hygyrch i gwsmeriaid o bob gallu. Rydym wedi siarad â'n cwsmeriaid er mwyn gwrando ar eu barn. Bydd y cwsmeriaid rhent tai a threth y
cyngor sydd â'n cardiau cyfeirnod plastig yn gallu eu sganio yn y ciosg. Yn y dyfodol, bydd gan lawer o'n biliau godau bar y gellir eu sganio yn y ciosg. Bydd y mannau talu'n disodli dwy ffenestr ar gyfer arianwyr yn neuadd fynedfa'r Ganolfan Ddinesig ac yn rhyddhau staff i gwblhau gwaith hanfodol arall. Nid oes unrhyw swyddi wedi'u colli. Bydd ymwelwyr â'r Ganolfan Ddinesig yn gallu mwynhau rhyngweithio'n bersonol â gweithwyr y cyngor. Ceir mwy o wybodaeth yn http://www.abertawe.gov.uk/taliadau
MAE Cyngor Abertawe yn chwilio am ddau aelod o'r cyhoedd i ymuno â'i Bwyllgor Safonau. Mae naw o bobl ar y Pwyllgor Safonau, gan gynnwys pum aelod annibynnol, tri chynghorydd a chynghorydd cymuned neu dref. Rôl y pwyllgor yw cynnal a hybu safonau moesegol uchel o ran ymddygiad ac uniondeb ymhlith 72 cynghorydd yr awdurdod ac aelodau cyfetholedig neu unrhyw unigolion neu gyrff eraill fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. I gael rhagor o wybodaeth am fod yn aelod o'r Pwyllgor Safonau, cysylltwch â gwasanaethau.democrataidd@ abertawe.gov.uk
Gweld y gorffennol MAE fideos hanesyddol wedi dod i'r amlwg sy'n dangos golygfeydd o rannau o'r ddinas yn y 1950au a'r 1970au. Ymysg y fideos, a gafodd eu darganfod gan staff Cyngor Abertawe yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, gwelir Stryd y Castell, cau Doc y De a modurwyr ar ddarn lleol o'r M4. I gael rhagor o wybodaeth am hanes Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/archifaug orllewinmorgannwg neu ffoniwch 01792 636589
Ceir trydan yn ne-orllewin Cymru GALLAI mwy o bwyntiau gwefru fod ar gael ar draws de-orllewin Cymru yn y dyfodol er mwyn galluogi defnyddio mwy o geir trydan. Mae Cyngor Abertawe'n ystyried cyflwyno mwy o bwyntiau gwefru trwy weithio ar y cyd â'i bartneriaid awdurdod lleol, prifysgolion a byrddau iechyd yn Abertawe, Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.
12
Arwain
Abertawe
Mae babanod ar eu hennill MAE ymgyrch sy'n annog rhieni newydd i roi'r gorau i gewynnau tafladwy a defnyddio cewynnau go iawn wedi ysgogi grŵp o rieni Abertawe i roi cynnig arnynt. Mae rhieni yn y ddinas wedi cael eu hannog i gofrestru ar gyfer y cynllun Cewynnau Go Iawn gyda Chyngor Abertawe, ac yn elwa o gael £100 yn ôl am eu defnyddio. Cofrestrodd llawer o rieni ar gyfer y cynllun o ganlyniad i'r ymgyrch Wythnos Cewynnau Go Iawn. Cafodd yr ymgyrch ei chefnogi gan fam o Gorseinon sydd eisoes yn gwybod beth yw'r manteision ariannol ac amgylcheddol. Meddai Kay Haines, 35, o Gorseinon, "I ddechrau roeddwn i'n meddwl y byddent yn drafferthus ac yn frwnt ond roeddwn i'n anghywir. Maen nhw'n anhygoel ac yn hawdd eu defnyddio. "I fi, y prif reswm oedd y gost, gan fy mod yn rhiant sengl. Nawr rwy'n arbed arian y byddwn i'n ei wario ar y rhai tafladwy fel arfer." Bydd rhaid i faban cyffredin wisgo tua 5,000 o gewynnau tafladwy am ddwy flynedd a hanner am gost o rhwng £650 a £1300. Ar y llaw arall, mae cewynnau go iawn yn costio £200 yn unig ar gyfer yr un cyfnod o ddwy flynedd a hanner. Os hoffech gofrestru ar gyfer y cynllun cewynnau go iawn, ewch i www.abertawe.gov.uk/cewynnau
Galw am strydoedd glanach MAE busnesau canol y ddinas yn cael eu hannog i reoli eu gwastraff masnachol yn gywir neu wynebu camau gorfodi. Daw'r cyngor gan Gyngor Abertawe yn dilyn busnes arall ar Heol San Helen sydd wedi derbyn dirwy a chostau gwerth mwy na £1,500. Mae nifer o hysbysiadau cosb wedi cael eu cyhoeddi'n ddiweddar oherwydd gwastraff masnachol ar Y Strand. Meddai llefarydd ar ran y cyngor, "Gobeithio bydd yr achosion hyn yn anfon neges i fusnesau eraill bod gwaredu eich gwastraff yn anghyfrifol yn annerbyniol." Mae'r cyngor yn gwario mwy na £2m y flwyddyn yn cadw strydoedd y ddinas yn lân ac yn mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Awst 2017
Rydym yn mapio’r llwybrau beicio gorau MAE cyfres o fapiau sy'n cynnwys llwybrau cerdded a beicio yn Abertawe wedi cael ei chyhoeddi fel rhan o ymgyrch genedlaethol i wella'r rhwydwaith yng Nghymru. Mae Cyngor Abertawe bellach yn gofyn i'r cyhoedd roi ei farn am y Map Rhwydwaith Integredig (INM) yn Abertawe - y mae'n rhaid i gynghorau ei lunio yn dilyn Deddf Teithio Llesol (Cymru) a ddaeth i rym yn 2014. O dan ofynion y Ddeddf, mae'n rhaid i gynghorau Cymru ddatblygu mapiau llwybrau cerdded a beicio presennol, yn ogystal â llwybrau y gellid eu datblygu yn y dyfodol. Y bwriad yw darparu rhwydwaith sy'n gallu annog mwy o bobl i ddewis cerdded a beicio fel ffordd amgen o deithio. Yn bresennol, mae gan Abertawe rwydwaith feicio
stori lwyddiant llwybrau beicio newydd MAE’R cyngor wedi gwella nifer o rannau o lwybrau beicio yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rhan dwy filltir o'r llwybr beicio cenedlaethol rhwng Stadiwm Liberty a Chyffordd 45 yr M4. Hefyd mae llwybrau beicio newydd wedi'u cyflwyno ar hyd Ffordd Fabian, gan ddarparu cyswllt cludiant hwylus i filoedd o fyfyrwyr sy'n teithio i mewn ac allan o Gampws y Bae Abertawe, a agorodd ei ddrysau yn 2015.
sy'n cwmpasu dros 50 cilometr sy'n helpu i ddarparu llwybrau diogel oddi ar y ffordd ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, "Mae dewis da o lwybrau
cerdded a beicio a rennir yn Abertawe eisoes, ac mae llawer yn eu defnyddio i deithio i'r gwaith ac yn ôl neu at ddibenion hamdden. “Bydd yr ymgynghoriad diweddaraf yn rhoi'r cyfle i bawb gyfrannu at wella a datblygu beicio a cherdded yn y ddinas yn y dyfodol.” Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Mae arian ar gyfer y prosiectau hyn yn gyfyngedig ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried opsiynau addas i ddatblygu llwybrau newydd. Mae sicrhau bod beicio'n opsiwn deniadol yn un ffordd o fynd i'r afael â â thagfeydd yn y ddinas. Gall y cyhoedd roi ei farn tan 8 Medi trwy fynd i http://www.abertawe.gov.uk/deddfteithiollesol Gallwch gael rhagor o wybodaeth a mapiau'r llwybrau beicio sydd ar gael ym Mae Abertawe yn: www.abertawe.gov.uk/beicio
• YN EICH GWASANAETHU: Mae gwasanaeth canclwm Cyngor Abertawe ar gael i berchnogion tir preifat hefyd
Gwasanaeth newydd i ddatrys problem canclwm MAE preswylwyr yn cael y cyfle i gael rhywfaint o help gan y cyngor i ddatrys eu problem Canclwm Japan. Mae'r cyngor yn bwriadu defnyddio'i flynyddoedd o brofiad o fynd i'r afael â'r broblem ar dir cyhoeddus i helpu preswylwyr i ddatrys y broblem yn eu gerddi eu hunain. Gan fod y tymor tyfu wedi dechrau, gallai'r fenter helpu cannoedd o berchnogion tai i ymdrin â phlanhigyn sydd ymysg y mwyaf ymledol ym Mhrydain. Meddai Sean Hathaway o dîm Gwasanaethau'r Amgylchedd Cyngor Abertawe fod gan y cyngor flynyddoedd o brofiad wrth fynd i'r afael â'r broblem ar dir y mae'n
mae gwybodaeth arbenigol yn gwneud gwahaniaeth MEDDAI Chris Williams, pennaeth tîm masnachol y cyngor, "Mae'r gwasanaeth canclwm yn rhan o ymrwymiad y cyngor i wneud popeth sy'n bosib i leihau effaith y gostyngiadau cyllidebol ar wasanaethau rheng flaen. Diben y tîm masnachol yw helpu i ddatgloi ysbryd entrepreneuraidd ymhlith ein staff a chreu incwm." Ewch i'r wefan yn https://www.abertawe.gov.uk/trincanclwm i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth trin canclwm Japan.
berchen arno. Dyma pam mae bellach yn cynnig ei arbenigedd i berchnogion tai a busnesau preifat ar sail fasnachol. Mae'r Gwasanaeth Parciau a Glanhau wedi rhoi hyfforddiant a chymhwyso ei staff sy'n gallu rhoi cyngor a rhaglen driniaeth ar gais. Bydd unrhyw raglen driniaeth a wneir ac y cytunir arni gan y
Gwasanaeth Parciau a Glanhau hefyd yn cynnwys 'Tystysgrif Cwblhau' Meddai, “Bydd unrhyw un sydd wedi dioddef canclwm Japan yn gwybod nad yw'r chwynladdwr safonol yn cael unrhyw effaith arno a bydd y darn lleiaf sydd ar ôl yn aildyfu'n gyflym yn ystod y tymor tyfu. Fel cyngor mae gennym
gyfrifoldeb i'w reoli'n ddiogel ar ein tir ein hun ac yng ngerddi tenantiaid tai'r cyngor. Ond mae deiliaid tai preifat bob amser wedi bod yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd ar eu tir eu hun. Mae'r gwasanaeth yn rhan o raglen fasnacheiddio Cyngor Abertawe, sy'n bwriadu defnyddio gwybodaeth arbenigol y cyngor i ddatblygu busnesau newydd. Bydd yr elw o hyn yn helpu i gynnal a chadw prif wasanaethau megis addysg a gofal cymdeithasol. Mae awdurdodau lleol yn Lloegr eisoes wedi cyflwyno gweithgareddau masnachol fel ffordd o gynyddu incwm i gydbwyso gostyngiadau cyllidebol i wasanaethau rheng flaen angenrheidiol.