Arwain Abertawe Rhifyn 110
Chwefror 2018 tu mewn
Papur newydd Cyngor Abertawe
eich dinas: eich papur
Trawiadol Sean yw'r seren sy'n arwain ymgyrch y morlin
hefyd
tudalen 3
• DECHRAU CYNNAR: Mae pobl ifanc ym Meithrinfa Ddydd Highgate yn Nhreforys yn cael y dechrau gorau mewn bywyd diolch i benderfyniad y cyngor i estyn ei gynnig gofal plant am ddim. Gweler tudalen 11 am fwy o fanylion.
MAE Cyngor Abertawe'n bwriadu buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn y flwyddyn nesaf ar wasanaethau sy'n cyffwrdd â bywydau preswylwyr bob diwrnod. Mae'r cyngor yn gwario cyfwerth â £4,000 ar bob aelwyd ym mhob cymuned yn Abertawe, gan amrywio o gasgliadau ailgylchu'n gynnar yn y bore i raeanu ffyrdd gyda'r hwyr, o addysg plant i ofal am yr henoed a'r anabl. Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd cynghorwyr yn penderfynu sut caiff cyllideb y cyngor ei gwario yn y flwyddyn sydd i ddod. Yn dilyn ymgynghoriad mis o hyd, ystyrir barn miloedd o breswylwyr, pobl ifanc a staff cyn i benderfyniadau gael eu gwneud. Ymysg y cynigion sydd yn yr arfaeth y mae cynnydd gwerth £2.2m yn y cyllid ar gyfer ein hysgolion a fydd yn mynd yn uniongyrchol i benaethiaid, gan sicrhau y caiff ymhell dros £160m y flwyddyn ei wario ar wasanaethau addysg.
gwybodaeth
Buddsoddi yn ein cymunedau Dyma nodweddion allweddol y cynlluniau cyllidebol: • Bydd y gyllideb yn gwario £1.6m y diwrnod ar wasanaethau hanfodol ar gyfartaledd • Oddeutu £100m ar wasanaethau cymdeithasol a thua £50m ar ailgylchu, llyfrgelloedd, priffyrdd a gwasanaethau eraill • Cynnydd arfaethedig o ran y cyllid i ysgolion a gwasanaethau addysg ehangach • Arbedion eraill gwerth oddeutu £22m yn ogystal â'r cyfanswm gwerth £60m dros y tair blynedd diwethaf
Mae hyn yn ychwanegol at fuddsoddiad arfaethedig gwerth dros £140m dros y blynyddoedd nesaf i adeiladu ysgolion newydd sy'n addas i'r 21ain ganrif. Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae'r broses ymgynghori wedi helpu i sicrhau mai blaenoriaethau pobl Abertawe yw ein blaenoriaethau ni hefyd. "Mae'n 'Sgwrs Fawr' â phobl ifanc yn gwneud
gwahaniaeth gan eu bod wedi dylanwadu ar ein meddylfryd am y pethau sy'n bwysig iddyn nhw, fel cyfleusterau dysgu da." Ychwanegodd, "Mae'r cyngor yn gwneud mwy gyda llai drwy fod yn gallach, yn fwy effeithiol, ac yn fwy effeithlon. Rydym wedi awtomeiddio gwasanaethau er mwyn i bobl allu gwneud busnes gyda ni 24/7 yn hytrach na phryd gallwn ni. "Rydym hefyd yn gweithio gyda chymunedau lleol sydd am gefnogi gwasanaethau yn eu hardaloedd ac rydym yn darparu gwasanaethau cymdeithasol yn gynt er mwyn hyrwyddo iechyd a lles ac atal problemau nes ymlaen. "Er gwaethaf toriadau cyllidebol o ganlyniad i'r agenda cyni, mae gan arolygwyr annibynnol farn uchel am ein gwasanaethau blaenoriaeth fel addysg a'r gwasanaethau cymdeithasol ac maent yn dweud ein bod mewn sefyllfa dda i barhau i'w cyflwyno i bobl Abertawe ddydd ar ôl dydd yn y blynyddoedd i ddod."
Edrych i'r dyfodol
Does dim terfyn ar ddyfodol ein dinas tudalen 5
Ein dyfodol Buddsoddi ym Mhentrehafod yn werth chweil
DOWNLOAD your
LAWRLWYTHWCH eich
Calendar
Calendr Casgliadau 2018
from www.swansea.gov.uk/recyclingsearch
o www.abertawe.gov.uk/chwiliocasgliadau
2018 Recycling
tudalen 9
gwybodaeth
2
Arwain
Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Chwefror 2018
Timau trwsio tyllau yn y ffordd yn cadw’r ddinas i symud ym mhob tywydd
Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081 Materion eraill y priffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Ymchwilio Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cymorth i Deuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000
• TRWSIO TYLLAU: Mae ein timau trwsio tyllau yn y ffordd yn fuddsoddiad doeth ER gwaethaf tywydd diflas y gaeaf, bydd timau o staff arbenigol Cyngor Abertawe'n parhau i wynebu'r elfennau dros y misoedd nesaf i gadw'r ddinas i symud. Bydd ein Timau Trwsio Tyllau yn y Ffordd hwnt ac yma ym mhob tywydd yn sicrhau bod y cyngor yn parhau i gyflawni'i addewid i drwsio tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr o adrodd amdanynt. Lle bo angen, byddant yn gweithio ochr yn ochr â'n timau priffyrdd eraill i ddadflocio cwlferi a draeniau i sicrhau nad ydynt yn achosi llifogydd mewn cyfnodau o law trwm. Ers lansio'r ymgyrch i drwsio tyllau y ffordd mewn 48 awr mae'r
Buddsoddiad sy'n gwneud gwahaniaeth O Bontarddulais i Sgeti, Townhill a Bôn-y-maen, mae tîm priffyrdd y cyngor wedi llenwi miloedd o dyllau yn y ffordd. Gwnaed yr addewid ynglŷn â thyllau yn y ffordd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem ar gais preswylwyr, ac ar ôl amheuaeth ar y dechrau, mae'r cyhoedd wedi canmol y cynllun. Mae'r addewid yn cynnwys trwsio tyllau yn y ffordd yn hytrach na gwelliannau cynnal a chadw priffyrdd arfaethedig ar gyfer ffyrdd mwy sy'n cael eu rheoli'n wahanol.
Timau Trwsio Tyllau y Ffordd wedi llenwi mwy na 5,800 o dyllau yn y ffordd o fewn y cyfnod dynodedig. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, "Er gwaethaf y tywydd oer, gwlyb neu rewllyd rydym yn ei gael yr adeg hon o'r flwyddyn, mae ein timau atgyweirio'n parhau i fod
yn ymroddedig i gyflawni'n haddewid tyllau yn y ffordd. "Does neb yn hoffi gweld tyllau yn y ffordd, ond mae'n anochel o ystyried y treuliant ar ein ffyrdd o ganlyniad i'r traffig sylweddol a'r tywydd. Ein hateb i'r broblem yw buddsoddiad ychwanegol ac addewid i drwsio'r tyllau'n gyflym.
Meddai'r Cyng. Thomas, "Mae'r her yn anoddach i'n timau ffyrdd yn y gaeaf oherwydd bod tywydd gwlyb a rhewllyd yn ymdreiddio i graciau yn y ffyrdd a all arwain at fwy o dyllau. “Mae tywydd gwael hefyd yn creu trafferthion o ran trwsio tyllau yn y ffordd yn effeithiol a chael yr effaith y dymunwn. "Er ein bod yn gwneud ein gorau glas, ni all ein staff fod ym mhob man ar unwaith, felly rwy'n gofyn i'r cyhoedd wneud eu rhan hefyd. Fel cyngor, mae gennym rwydwaith ffyrdd sy'n 1,100km - sydd gyfwerth â gyrru o Abertawe i Aberdeen.” I roi gwybod am dwll yn y ffordd, ewch i http://www.abertawe.gov.uk/tyllauyn yffordd
Chwefror - Ebrill 201 2018 8 Cysylltwch ag Arwain Abertawe
Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Nid yw Dinas a Sir Abertawe'n derbyn unrhyw atebolrwydd dros unrhyw gynnyrch neu wasanaethau a hysbysebir yn Arwain Abertawe nac yn eu hyrwyddo.
Hwyl Gwyliau Hanner Tymor 19 - 23 Chwefror Canolfannau Abertawe Actif abertawe.gov.uk/plant Clw Ffilmiau i Deuluoedd Clwb 20 Chwefror Ch Oriel Gelf elf Glynn G Vivian 01792 01792 516900 5169 16900
Parth Anifeiliaid: Antur Coedwig oedwig Law 20 - 22 Chwefror Plantasia 01792 474555 01792 Diwrnod y Llyfr 1 Mawrth Canolfan Dylan Thomas 01792 01792 463980 Croeso Dathliad Cymreig 1- 3 Mawrth Canol y Ddinas 01792 01792 637300
Am fwy o ddigwyddiadau gwych, ewch i joiobaeabertawe.com
Cô ôr Byw Sister ter A Act Côr 10 Mawrth Bra angwyn Brangwyn 01792 637300 30 01792
Man En ngine e Cymru C Engine 12 Ebrill Ebriill Lleoliad da amrywiol dau Lleoliadau 017 792 9 637300 01792
Gw wobrau Gwobrau Chwaraeon Ch hwaraeon Abertawe 14 Mawrth Bra angwyn Brangwyn abertawe.gov.uk/ ab bertawe.gov.uk/ gw wobrauchwaraeon gwobrauchwaraeon
Ra En Ras nfys Tyyˆ Hafan Enfys 2 Ebrill 28 Ebriill Abertawe Bae Ab bertawe joiobae eabertawe com eabertawe.com joiobaeabertawe.com
Public Pu ublic Service Broadcasting Br roadcasting 11 Ebrill Brangwyn Bra angwyn 01792 01792 637300
joiobaeab joiobaeabertawe.com bertawe.com
I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092
Y Burton Angof: P.H. Burton, Athro, Dramodydd, Cynhyrchydd a Pherfformiwr 17 Chwefror Canolfan Dylan Thomas 01792 01792 463980
Arwain
www.abertawe.co.uk
Abertawe 3 eich arweiniad i gyfarfodydd y cyngor
Chwefror 2018
Cyfarfodydd y cyngor CROESO i’ch arweiniad i gyfarfodydd y cyngor. Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn y Ganolfan Ddinesig, ond sylwer efallai na fyddwch yn gallu dod i gyfarfod cyfan neu ran ohono. Mae’r rhestr hon yn gywir wrth fynd i’r wasg ond os ydych chi’n ystyried mynd i gyfarfod, ffoniwch 01792 636000 ymlaen llaw i wybod y lleoliad a’r amser. Gallwch hefyd gasglu manylion yr agenda ar wefan y cyngor yn http://bit.ly/councildiary
6 Chwefror Pwyllgor Cynllunio, 2pm 8 Chwefror Y Cabinet, 2pm Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd, 2pm 9 Chwefror Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol 13 Chwefror Pwyllgor Archwilio, 2pm
• Y DDIHANGFA FAWR: Mae Sean Fletcher wedi cwympo mewn cariad â'n cefn gwlad hardd
NID Dylan Thomas yn unig sy'n dweud mai Abertawe yw'r lle gorau mae enwogion, newyddiadurwyr ac ymwelwyr o bob rhan o'r DU yn canmol penrhyn godidog Gŵyr i'r cymylau. Mae cyflwynydd Good Morning Britain a Countryfile, Sean Fletcher, wedi cwympo mewn cariad ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain. Ac mae bellach yn mynd i arwain blwyddyn o ddathliadau i ddenu sylw at natur arbennig ein hatyniadau arfordirol. 'Blwyddyn y Môr' yw hi eleni, sy'n rhan o fenter ledled Cymru i ddathlu ein diwylliant arfordirol. Fel rhan o'r ymgyrch, bydd Sean
gwybodaeth
Enwogion fel Sean yn cwympo mewn cariad â phenrhyn Gŵyr • Mae Bae Rhosili'n un o ddeg traeth gorau'r byd, yn ôl Trip Advisor. • Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn am 51 o filltiroedd o amgylch Abertawe • Mae 10 gwarchodfa natur, 22 o warchodfeydd yr ymddiriedolaeth natur, 35 o safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chwe Ardal Cadwraeth Arbennig • Pum Baner Las, gan gynnwys traethau ym Mhorth Einon, Bae Bracelet, Bae Caswell a Bae Langland. I gael mwy o wybodaeth, ewch i croesobaeabertawe.com
Fletcher mewn cylchgrawn newydd a gaiff ei lansio yn y gwanwyn. Bydd y cylchgrawn yn ddathliad o gysylltiadau Bae Abertawe â'n harfordir a'r diwylliant sydd wedi tyfu o'i amgylch. Bydd erthyglau'n cynnwys sut mae pŵer dŵr wedi
dylanwadu ar ein dinas, cipolwg ar wirfoddolwyr yr RNLI ac atyniadau Gŵyr sydd â chynaladwyedd wrth wraidd eu busnes. Dywedodd Robert FrancisDavies, Aelod y Cabinet dros
Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, fod y cyngor yn gwneud pob ymdrech i hyrwyddo'r ardal fel cyrchfan bywiog. Meddai, "Mae twristiaeth yn cyflogi mwy na 5,000 o bobl yn Abertawe ac mae'n dod â mwy na £400m y flwyddyn i'r economi leol. Mae gennym arfordiroedd a chefn gwlad naturiol gwych. Felly, gan weithio ar y cyd â'n busnesau twristiaeth lleol, gallwn gynnig profiad anhygoel i'n hymwelwyr. "Mae gwaith ein tîm twristiaeth yn sicrhau bod atyniadau diwylliannol a thwristiaeth ein dinas yn parhau i dynnu sylw'r cyhoedd ledled y DU a'r tu hwnt. Rydym yn gwybod pam bod Abertawe'n lle arbennig ac rydym am sicrhau bod pawb arall yn hefyd."
14 Chwefror Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau 22 Chwefror Y Cyngor, 5pm 6 Mawrth Pwyllgor Cynllunio, 2pm 8 Mawrth Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd 9 Mawrth Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol 14 Mawrth Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau 15 Mawrth Y Cabinet, 2pm 22 Mawrth Y Cyngor, 5pm 3 Ebrill Pwyllgor Cynllunio, 2pm 10 Ebrill Pwyllgor Archwilio, 2pm 11 Ebrill Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau 12 Ebrill Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi'r Economi ac Isadeiledd, 2pm 13 Ebrill Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol, 10am 19 Ebrill Y Cabinet, 2pm 26 Ebrill Y Cyngor, 5pm
Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.
4
Arwain
Abertawe
Canolfan werth chweil MAE staff uchel eu cymhelliant a brwdfrydig yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant yn lleoliad Dechrau'n Deg Little Gems yn Ysgol Gynradd Seaview, yn ôl arolygiad. Canfu'r arolygiad fod y plant sy'n mynd i'r lleoliad yn hapus ac yn cael eu hysbrydoli gan eu profiadau chwarae a dysgu. Mae canolfannau Dechrau'n Deg yn cynnig gofal plant rhanamser o ansawdd uchel a ariennir i blant rhwng 2 a 3 oed a chânt eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Noda'r adroddiad am Seaview, "Mae gan blant yn y cyfleuster hwn lais cryf. Maent yn ddiogel, yn hapus a chânt eu gwerthfawrogi. Caiff plant gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n dda, gan hefyd fwynhau cyfnodau o chwarae rhydd. "Mae tîm gwybodus, gofalgar a brwdfrydig o staff yn gofalu amdanynt ac maent yn ymroddedig i ddiwallu anghenion unigol a dysgu'r plant." Ychwanegodd yr adroddiad fod cysylltiadau cryf â rhieni, gofalwyr a sefydliadau eraill a chanmolwyd arweinyddiaeth staff fel rhywbeth effeithiol iawn. Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Lles, "Mae Little Gems yn Seaview yn ymfalchïo yn yr adroddiad hwn a hoffwn longyfarch y staff a diolch iddyn nhw am eu gwaith caled."
Gwasanaeth yn cynnig cymorth MAE pobl sy'n byw gyda dementia neu broblemau symudedd mewn canolfan ddydd yn Abertawe yn derbyn cludiant er mwyn iddynt allu mynd o le i le. Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â'r darparwr cludiant cymunedol DANSA a Chanolfan Ddydd St John's i lansio cynllun cludiant cymunedol newydd a fydd yn helpu'r rheiny sy'n dioddef o ddementia ac eraill i fynd o le i le, gan gynnwys yr archfarchnad leol neu apwyntiadau yn yr ysbyty. Mae'r cynllun yn cael ei dreialu yng Nghanolfan Ddydd St John's yng Nghwmbwrla ac mae gyrwyr gwirfoddol wedi derbyn hyfforddiant fel rhan o'r rhaglen.
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Chwefror 2018
Hwb i ailgylchu gyda cherbydlu newydd
• POPETH YN BAROD: Bydd ein casgliad newydd o gerbydau ailgylchu'n gwneud miliynau o ymweliadau'r flwyddyn MAE cerbydau casglu sbwriel newydd sbon wedi bod ar y ffyrdd yn dilyn buddsoddiad gwerth £6m gan y cyngor. Mae'r cyngor wedi cytuno i brydles pum mlynedd am gyfanswm o 38 o gerbydau a fydd yn teithio cannoedd ar filoedd o filltiroedd rhyngddynt yn casglu degau ar filoedd o dunelli o wastraff ac ailgylchu o fwy na 108,000 o aelwydydd. Mae'r cerbydlu newydd yn cynnwys 22 o gerbydau ailgylchu sy'n gallu casglu oddeutu naw tunnell o ddeunyddiau yr un - mwy na phwysau eliffant. Bydd tri cherbyd arall yn llai ac yn gallu ymdopi â lonydd cul rhannau gwledig Abertawe. Caiff gweddill y
Siop Trysorau'r Tip ar agor ar gyfer eich anrhegion dieisiau OS ydych yn chwilio am gartref newydd i anrheg ddieisiau neu rydych eisiau gwneud lle i rywbeth a gawsoch gan Siôn Corn, peidiwch â'i daflu - ewch ag ef i siop ailddefnyddio'r cyngor, Trysorau'r Tip. Mae siop Trysorau'r Tip ar safle byrnu Llansamlet ac mae fel ogof Aladdin o nwyddau trydanol, dodrefn, pethau i'r tŷ ac eitemau rhad eraill a achubwyd o'r safle tirlenwi. Mwy o fanylion yma: www.abertawe.gov.uk/siopailddefnyddio
cerbydau eu defnyddio i gasglu gwastraff sachau du. Bydd y cerbydlu yn gwneud rhwng 11m a 12m o ymweliadau ag eiddo y flwyddyn i roi hwb i gasgliadau ailgylchu a gwastraff. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, "Mae ein cerbydlu o gerbydau casglu'n teithio milltiroedd
lawer bob wythnos yn casglu gwastraff, ac mae ein cerbydlu presennol wedi bod dan bwysau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. "Nid yw'n gyfrinach bod ambell gerbyd wedi torri lawr, gan effeithio ar gasgliadau felly rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dechrau cyflwyno'r cerbydau newydd a sicrhau bod
preswylwyr yn cael y gwasanaeth maen nhw'n ei ddisgwyl." Mae'r cerbydau newydd, cyfoes hefyd yn cynnwys nifer o nodweddion diogelwch modern gan gynnwys system rybuddio ar ochr teithiwr y cerbyd i rybuddio'r gyrrwr am feiciwr ger ymyl y palmant. Caiff cerddwyr sy'n agos at gefn y cerbyd eu diogelu hefyd gan system frecio awtomatig. Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Mae'r rhain yn gerbydau mawr ac rydym am sicrhau bod defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ddiogel pan fyddant yn agos iddynt. Rydym yn parhau i hyrwyddo beicio yn y ddinas fel dull amgen o gludiant ac mae cynnydd yn nifer y beicwyr yn rhywbeth y mae angen i'n gyrwyr fod yn ymwybodol ohono."
Arweiniad yn cynnig awgrymiadau ar drechu twyllwyr GALL preswylwyr ddiogelu eu hunain yn erbyn gweithredoedd twyllodrus yn dilyn lansiad arweiniad gwybodaeth newydd. Mae'r llyfryn yn tynnu sylw at ddwsinau o weithredoedd twyllodrus sy'n codi'n rheolaidd ledled y wlad - naill ai ar y rhyngrwyd, mewn llythyrau neu drwy alwyr diwahoddiad wrth y drws. Mae'r gweithredoedd twyllodrus amlycaf yn cynnwys y galwyr hynny sy'n honni eu bod o gwmnïau cyfrifiadurol byd-eang, megis Microsoft ac Apple, ac yn annog y cyhoedd i fewngofnodi ar eu
cyfrifiadur gartref i gywiro problem maent yn dweud sydd wedi codi. Mae hyn yn galluogi'r galwr i lawrlwytho firysau i'r cyfrifiadur er mwyn cael gafael ar ddata personol. Mae enghreifftiau eraill o weithredoedd twyllodrus yn y llyfryn yn cynnwys loterïau a chystadlaethau ffug neu dwyll pensiwn. Mae'r llyfryn hefyd yn rhoi cyngor ar sut i ymdrin â masnachwyr twyllodrus sy'n curo ar eich drws. Meddai Will Evans, Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, "Mae gweithredoedd twyllodrus
yn ymddangos mewn llawer o wahanol ffyrdd a'u nod yw twyllo'r derbynnydd i roi ei arian neu ei fanylion personol i'r twyllwyr. "Pobl ddiamddiffyn, gan gynnwys yr henoed, sydd yn y perygl mwyaf o lawer o'r gweithredoedd twyllodrus sy'n codi'n aml ac rydym yn benderfynol o wneud popeth y gallwn i ddiogelu ein preswylwyr rhag cael eu twyllo fel hyn." Mae'r llyfryn bellach ar gael yn holl lyfrgelloedd a swyddfeydd y cyngor a gellir ei lawrlwytho o wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/gweithreddwyllodrus
Chwefror 2018
Arwain
www.abertawe.co.uk
Abertawe 5 Crynodeb o’r
newyddion 10k Admiral yn y ras am wobr fawr MAE ras 10k Bae Abertawe Admiral wedi'i henwi fel y digwyddiad gorau o'i fath yng Nghymru ac mae nawr wedi cael ei rhestru i ennill gwobr flaenllaw yn y DU. Mae'r digwyddiad ymysg y 12 ras ar y rhestr derfynol ar gyfer y teitl ar draws y DU ac mae'n golygu bod gan y rheiny sydd eisoes wedi pleidleisio'r cyfle i wneud hynny eto. Mae'r ras 10k yn gobeithio y bydd yn llwyddo ar y trydydd cynnigar ôl iddi ddod yn ail y llynedd ac yn 2016 yn y bleidlais ar draws y DU. Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy'n rhan o raglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Ewch i'r man pleidleisio yn www.therunningawards.co.uk i bleidleisio dros ras 10k Bae Abertawe Admiral sy'n cystadlu yn erbyn digwyddiadau yn Berkshire a Doncaster am y teitl.
Dod â thwyll inswleiddio i ben • AM OLYGFA: Mae gan gar cebl ar Fynydd Cilfái y potensial i ddenu miloedd o ymwelwyr i'n dinas.
Does dim terfyn ar waith adfywio’r ddinas ERBYN diwedd y flwyddyn bydd gwaith wedi dechrau ar arena dan do ddigidol newydd Abertawe a bydd y gwaith trawsnewid mawr ar Ffordd y Brenin wedi datblygu hyd yn oed yn fwy. Mae'r ddau brosiect yma gan Gyngor Abertawe ymysg llawer a fydd yn helpu i drawsnewid canol dinas Abertawe'n gyrchfan o safon uchel ar gyfer adloniant, hamdden, manwerthu a busnesau dros y blynyddoedd nesaf. Bydd contractwr ar gyfer cam cyntaf datblygiad Abertawe Ganolog yn cael ei benodi erbyn yr haf, sy'n cynnwys yr arena dan do ddigidol â lle i 3,500 o bobl, cyfleusterau parcio a phont lydan newydd i gerddwyr ar draws Heol Ystumllwynarth. Bydd yr arena dan do ddigidol, a fydd
Cynllun car cebl o'r radd flaenaf MAE prosiect arall sydd ar y gweill yn cynnwys atyniad newydd o'r radd flaenaf sy'n cael ei ddatblygu er mwyn cysylltu Stadiwm Liberty â Mynydd Cilfái. Mae gwaith ar ddyluniadau manwl a thrafodaethau cyfreithiol â chwmni o Seland Newydd o'r enw Skyline Enterprises yn parhau a gallant weld atyniad newydd gyda cheir cebl, reid toboganau, reid gwifrau sip, bwyty a llwyfan gwylio yn cael ei ddatblygu yno. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu'n gyfan gwbl gan arian preifat. yn cynnal hyd at 200 o ddiwrnodau o sioeau teithiol, cyngherddau, arddangosfeydd a digwyddiadau eraill bob blwyddyn, yn agor yn 2020. Rivington Land sy'n rheoli datblygiad Abertawe Ganolog ar gyfer Cyngor Abertawe, a fydd yn gweld siopau newydd, bwytai, mannau cyhoeddus a chyfleusterau eraill yn cael eu hadeiladu ar hen safle canolfan siopa Dewi Sant yn ystod ail gam o waith. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor
Abertawe, "Bydd yr arena dan do ddigidol yn ganolbwynt i ddatblygiad cyffrous Abertawe Ganolog, gan roi mynediad i adloniant o'r radd flaenaf i bobl ar draws de-orllewin Cymru, a hefyd ysgogi buddsoddiad yn y dyfodol. "Rydym hefyd wedi dechrau chwilio am weithredwr gwesty sy'n agos at yr arena dan do, gyda'r camau cynnar bellach ar waith er mwyn gwella golwg a naws Ffordd y Brenin yn sylweddol wrth i ni baratoi ar gyfer trawsnewidiad y stryd
yn ardal gyflogaeth a fydd yn creu miloedd o swyddi ar gyfer pobl leol ac yn hybu gwariant yng nghanol y ddinas. "Rydym bob amser wedi bod yn benderfynol o gyflawni ein haddewid i drawsnewid canol y ddinas yn lleoliad sy'n bodloni dyheadau pobl, gyda 2018 yn flwyddyn y bydd pobl yn dechrau gweld esgidiau ar y llawr a chraeniau yn yr awyr.” Bydd ardal ddigidol hefyd yn ffurfio rhan o ddyfodol Ffordd y Brenin, a ariennir gan fuddsoddiad y Fargen Ddinesig a ddiogelwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Gyda thraffig dwyffordd yn dychwelyd, adeiladau presennol yn cael eu hadnewyddu, adeiladau newydd yn cael eu codi a chyflwyno mannau gwyrdd cyhoeddus, gobeithir y bydd Ffordd y Brenin yn helpu i ddenu cyflogwyr mawr.
Gweinidog yn cefnogi uchelgais diwylliannol MAE Llywodraeth Cymru'n barod i weithio gyda Abertawe i gyflwyno agweddau ar ei chais ar gyfer statwsDinas Diwylliant y DU 2021. Mae cryfder y cais ynghyd â'r cyfleoedd niferus yn ystod Blwyddyn y Môr 2018 yn golygu bod nawr yn gyfle go iawn i Abertawe. Roedd yr Arglwydd Elis-Thomas, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yn awyddus i bwysleisio ei ymrwymiad i barhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i sicrhau bod yr egni, yr hyder a'r
brwdfrydedd a oedd mor amlwg wrth i'r penderfyniad ynghylch 2021 agosáu yn parhau ac yn dwyn ffrwyth. Meddai'r Arglwydd Elis-Thomas, "Ar ôl cwrdd â pherchnogion busnes, cynghorwyr ac aelodau tîm hynod dalentog cais Abertawe 2021, rwy'n fwy penderfynol nag erioed bod gan y rhanbarth yr holl gynhwysion sydd eu hangen er mwyn bod yn gadarnhaol iawn am y blynyddoedd i ddod, wrth ehangu ar ei gynnig unigryw a chynyddu niferoedd yr ymwelwyr. “Mae'r trafodaethau cychwynnol i bennu'r
blaenoriaethau ynghylch diwylliant a thwristiaeth y ddinas wedi bod yn galonogol iawn." Croesawodd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe'r ardystiad ac ychwanegodd, "Rydym yn barod i gyflwyno gweledigaeth a rhaglen drawsffurfiol dros ben ar gyfer Cymru er mwyn arddangos sut mae diwylliant yn ffordd allweddol o gynyddu balchder, uchelgais, proffil ac enw da o ran mewnfuddsoddi, ysgogi cefnogaeth busnesau a gweithio ar draws y sectorau er mwyn trechu tlodi, drwy wella cydlyniant, cysylltedd a lles."
MAE deiliad tai yn Abertawe'n cael eu rhybuddio am alwyr carreg drws yn y ddinas sy'n cynnig hawlio yn erbyn inswleiddio waliau ceudod diffygiol. Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, fod adroddiadau diweddaraf y tîm yn dangos bod cwmnïau'n gwneud datganiadau camarweiniol i ddeiliaid tai ynghylch symiau mawr o arian sydd wedi'u neilltuo iddynt eu hawlio. Mewn gwirionedd, mae'r mwyafrif o eiddo y mae eu waliau ceudod wedi'u inswleiddio wedi'u gwarchod gan warant 25 mlynedd Asiantaeth Gwarantu Inswleiddio Waliau Dwbl, a bydd unrhyw faterion dan y warant gyda'r crefftwaith neu broblemau sy'n cael eu nodi'n cael eu harchwilio a'u cywiro am ddim.
Mae gan ein siop dan yr unto bopeth MAE mwy o wasanaethau nag erioed bellach ar gael yn InfoNation ar Ffordd y Brenin. Mae'r siop dan yr unto ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac mae'n darparu gwybodaeth am ddim a chyfrinachol yn ogystal â chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd rhywiol, perthnasoedd, camddefnyddio sylweddau a dod o hyd i waith. Ewch i www.infonation.org.uk/cymraeg-home i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 484010.
Syniad arloesol BYDD partneriaeth gyffrous newydd yn gweld Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe'n ehangu i ran o'r Ganolfan Ddinesig. O ganlyniad i'r cytundeb, bydd timau'r brifysgol yn gweithio o'u Canolfan Arloesedd Rhanbarthol newydd a fydd yn llenwi trydydd llawr y Ganolfan Ddinesig. Bydd y cyngor yn ennill incwm rhentu, a bydd yr ysgol yn tyfu ac yn elwa o'r rhagoriaeth academaidd newydd yn ei chymuned fusnes.
6
Arwain
Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Chwefror 2018
Mynediad i’n gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn
Gwasanaethau’n gwella
• AR WAITH: Gallwch wneud busnes gyda ni 24 awr y dydd ar-lein
MAE Cyngor Abertawe'n arbed miliynau o bunnoedd y flwyddyn trwy leihau gwaith papur ac awtomeiddio gwasanaethau fel rhan o'i ymgyrch foderneiddio. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf arbedwyd £60m mewn costau swyddfa gefn a chostau eraill diolch i raglen sydd wedi arwain at greu mwy o incwm a buddsoddi mewn symleiddio gwasanaethau. Dywedodd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes, fod rhaglen foderneiddio'r cyngor yn helpu i leihau costau er mwyn sicrhau bod ei gyllideb gyffredinol yn parhau ar y trywydd iawn. Meddai, "Rydym wedi cwtogi ar y lle swyddfa y mae ei angen arnom, wedi awtomeiddio dros 30 o geisiadau am wasanaethau ac wedi symleiddio gwasanaethau er mwyn lleihau gorbenion. Dros y blynyddoedd nesaf mae'r cyngor yn bwriadu mynd hyd yn oed ymhellach yn ei ymgyrch dros effeithlonrwydd ac arbedion er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau a swyddi rheng flaen. Ychwanegodd, "Mae'r gwasanaethau mae'r cyngor yn eu darparu'r dyddiau hyn yn wahanol iawn i'r rhai a darparwyd
gennym ychydig flynyddoedd yn ôl a byddant yn newid eto yn y blynyddoedd nesaf. "Yn hytrach na gwneud llawer o doriadau bach fel cynghorau eraill, rydym wedi buddsoddi mewn ymagweddau newydd ac mae hyn wedi arwain at arbedion effeithlonrwydd pwysig. Er enghraifft, mae ein menter 'gweithio ystwyth' i staff wedi arwain at ostyngiad yn y lle swyddfa y mae ei angen arnynt. Mae'r gostyngiad o ran y lle swyddfa angenrheidiol yn golygu ein bod yn arbed £1m y flwyddyn." Ar ben hynny mae'r cyngor hefyd yn buddsoddi mewn darparu gwasanaethau digidol newydd er mwyn ei wneud yn haws nag erioed i bobl wneud busnes gyda'r cyngor ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw. Ac mae hyn wedi arwain at naid o 26% yn y nifer o weithiau y mae pobl wedi mynd ar wefan y cyngor i chwilio am wasanaethau neu wybodaeth o fewn 12 mis yn unig. Meddai'r Cyng. Lloyd, "Mae gweithredu'n ddigidol yn gyfleus iawn, ond mae hefyd yn ffordd fwy effeithlon ac effeithiol o gyflawni pethau. Mae cael gwared ar waith papur yn golygu ein bod yn gallu cyflawni pethau'n gyflymach a'n bod yn eu gwneud yn gywir y tro cyntaf yn fwy aml."
MAE gwasanaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau preswylwyr yn Abertawe bob dydd yn gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ôl ffigurau diweddaraf y cyngor. Mae presenoldeb ysgol, gwasanaethau cymdeithasol a mesurau i helpu i drechu tlodi mewn cyfnod o gyni, yn ogystal ag ailgylchu ac adfywio economaidd, yn flaenoriaethau sydd wedi gweld cynnydd wrth wneud gwahaniaeth i gymunedau'r ddinas. Meddai'r Cyng. Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes, "Yr hyn sy'n bwysig i'n preswylwyr yw darparu ysgolion gwych gydag addysgu gwych, gwell cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu tlodi, a'r gofal cywir yn y lle cywir ar yr adeg gywir." Mae cyfraddau ailgylchu wedi gwella i 64.4% sy'n uwch na tharged Llywodraeth Cymru sef 58%. Mae presenoldeb mewn ysgolion yn gwella, yn enwedig mewn ysgolion cynradd lle mae'r ffigur o 94.28% yn cyfateb i'r gyfradd wella uchaf ar y cyd ymysg ysgolion cynradd ledled Cymru.
Gadewch i Lowri eich ysbrydoli i ymweld â’r awyr agored BYDD anturiwr a chyflwynydd teledu sy'n teithio'r byd yn helpu i ysbrydoli pobl o bob oedran i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ym mhenrhyn Gŵyr yn Abertawe. Enwyd Lowri Morgan fel y llysgennad dros wasanaeth gweithgareddau awyr agored Cyngor Abertawe sy'n denu miloedd o bobl bob blwyddyn i'w dwy ganolfan ym mhenrhyn Gŵyr. Fel rhan o'i rôl newydd bydd Lowri'n helpu i hyrwyddo digwyddiadau a chefnogi gweithgareddau gan gynnwys dringo, heicio, crefft y goedwig, sgiliau goroesi, cerdded bryniau, cerdded ceunentydd, syrffio, arfordiro a chaiacio. Meddai Lowri, "Rwyf wrth fy modd i fod yn llysgennad ar gyfer gwasanaeth
gweithgareddau awyr agored y cyngor ym mhenrhyn Gŵyr, yn enwedig gan mai Gŵyr wnaeth fy nghyflwyno i anturiaethau yn y lle cyntaf.” "Rwyf hefyd yn frwdfrydig dros ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i fwynhau'r awyr agored, felly mae'n anrhydedd fy mod yn gallu chwarae rhan fach wrth helpu i gyflawni hyn yn Abertawe sef fy ninas enedigol." Yn ogystal â chynnig gweithgareddau i blant ysgol a phobl ar eu gwyliau, mae gwasanaeth gweithgareddau awyr agored y cyngor yn darparu pecynnau gweithgareddau wedi'u teilwra i nifer o grwpiau eraill. Mae mwy o wybodaeth yn www.goweractivitycentres.co.uk
Chwefror 2018
Arwain
www.abertawe.co.uk
Abertawe 7 Crynodeb o’r
newyddion Mae eiddo gwag yn llenwi ADFERWYD mwy o eiddo gwag yn Abertawe'r llynedd nag yn unrhyw ran arall o dde Cymru. Mae ffigurau ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/2017 yn dangos bod 358 o dai gwag wedi cael eu defnyddio eto ar draws y ddinas - y trydydd uchaf yng Nghymru yn ei chyfanrwydd. Mae bron i 1,400 o eiddo gwag yn Abertawe wedi'u hadfer i'w defnyddio eto dros y pum mlynedd diwethaf. Dywedodd Cyngor Abertawe y gall hyn fod oherwydd ymagwedd ragweithiol lle mae swyddogion yn cymryd pa gamau gweithredu bynnag y mae eu hangen i annog ailddefnyddio eiddo gwag. Dan gynllun Grantiau ar gyfer Enwebiadau Cyngor Abertawe, mae grantiau hyd at £5,000 ar gael i berchnogion preifat eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy er mwyn eu helpu i adfer yr eiddo i'w defnyddio unwaith eto.
• CAMAU CYNTAF: Dim ond y dechrau yw'r datblygiad Ffordd Colliers o ran buddsoddiad y cyngor mewn cartrefi sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Tai newydd yn rhagflas o’r hyn sydd i ddod GYDA phreswylwyr bellach yn ymgartrefu yn nhai newydd cyntaf Cyngor Abertawe ers cenhedlaeth, mae gwaith paratoi wedi dechrau ar gyfer ail gynllun. Mae'r cynllun newydd, ym Mharcyr-Helyg yng Ngellifedw, yn dilyn adeiladu 18 o gartrefi newydd yn Ffordd Colliers ym Mhenderi, sydd oll yn elwa o dechnoleg effeithlonrwydd ynni arloesol, sy'n golygu nad oes angen llawer iawn o ynni arnynt er mwyn eu cynhesu a'u hoeri. Ymysg y nodweddion maent yn eu cynnig mae drysau a ffenestri arbenigol sy'n aerglos iawn. Dyluniwyd y cartrefi yn Ffordd Colliers i fodloni safonau arloesol Cartrefi Gydol Oes fel y gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion
cyngor yn buddsoddi yn nyfodol y gymuned MEDDAI Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau, "Roedd cyfyngiadau gan Lywodraeth y DU a oedd mewn rym ers y 1980au yn golygu nad oeddem yn gallu adeiladu tai cyngor newydd am lawer o flynyddoedd, ond rydym yn benderfynol i achub ar y cyfle nawr bod y cyfyngiadau hyn wedi'u codi. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod cartrefi cyngor newydd yn hanfodol yn Abertawe er mwyn diwallu anghenion y ddinas am fwy o dai fforddiadwy.” Yn ogystal â'r cynllun newydd ym Mharc-yr-Helyg, bydd prosiectau tebyg eraill yn dilyn yn Abertawe.
tenantiaid nawr ac yn y dyfodol. Bwriedir adeiladu deuddeg o fflatiau ag un ystafell wely a phedair fflat â dwy ystafell wely yn y safle yng Ngellifedw gyda gwaith yn cynnwys draeniad a gwaith ar y llawr gwaelod, adeiladu waliau cynnal mawr a dargyfeirio ceblau lefel uchel cyn i'r cartrefi newydd gael eu hadeiladu. Yn debyg i brosiect Ffordd Colliers, caiff y cynllun ei ariannu
gan renti'r cyngor, nid gan dreth y cyngor. Meddai'r Cyng. Andrea Lewis, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau, "Roedd cynllun Ffordd Colliers, a adeiladwyd i safonau arloesol ac effeithlonrwydd ynni uchel, yn fenter beilot a fydd yn llywio manyleb prosiectau adeiladu cartrefi cyngor eraill yn y dyfodol.
"Rydym bellach yn gweithio gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru ar astudiaeth a fydd yn pennu'r arbedion ynni yn natblygiad Ffordd Colliers. Gwneir gwerthusiadau cyn i ni benderfynu ar fanyleb derfynol cynllun Parc-yr-Helyg, ond bydd y cartrefi yno hefyd yn ynni-effeithlon iawn ac wedi'u hadeiladu i safonau Cartrefi Gydol Oes wrth i ni fwriadu mynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy helpu tenantiaid i arbed arian ar eu biliau gwresogi. "Yn debyg i Ffordd Colliers, bydd ein tîm gwasanaethau adeiladau ac eiddo corfforaethol eto yn adeiladu'r cartrefi newydd, a fydd yn rhan o ddatblygiad Parc-yr-Helyg. “Bydd prentisiaid ymhlith aelodau'r tîm ar y safle, sy'n bwysig oherwydd bydd pobl ifanc leol yn dysgu sgiliau allweddol a fydd yn fantais iddynt yn y dyfodol."
Ffyrdd haws a chyflymach i chi dalu MAE preswylwyr Abertawe'n talu am fwy o wasanaethau'r cyngor ar-lein erbyn hyn - a gallant dalu'n bersonol yn gynt o ganlyniad i'r ciosgau hunanwasanaeth newydd yn y Ganolfan Ddinesig. Bydd yn bosib i chi ddefnyddio sgriniau cyffwrdd ein mannau talu er mwyn talu'ch biliau drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd, arian parod neu siec. Gallwch dalu biliau rheolaidd megis treth y cyngor, ardrethi busnes, rhent tai ac anfonebau'r cyngor yn ogystal â llawer mwy. Mae'r mannau talu, sy'n debyg i'r rhai mewn banciau,
bellach yn gweithredu ac maent yn trawsnewid y cyngor yn unol ag anghenion modern. Byddant yn darparu derbynneb ac yn rhoi newid mewn papurau a darnau arian. Maent yn bodloni safonau diogelwch a bydd gan bob un o'n peiriannau sglodyn a PIN nodweddion diogelwch ychwanegol. Mae'r ciosgau'n ddwyieithog ac yn hygyrch i gwsmeriaid o bob gallu. Rydym wedi siarad â'n cwsmeriaid er mwyn gwrando ar eu barn. Bydd y cwsmeriaid rhent tai a threth y cyngor sydd â'n cardiau cyfeirnod plastig yn gallu eu sganio yn y
Gwybodaeth fusnes ar flaenau eich bysedd I HELPU i gadw arian yn economi Abertawe, lansiwyd cyfeiriadur ar-lein o fusnesau lleol. Mae'r cyfeiriadur newydd am ddim wedi'i integreiddio'n llawn gyda chyfeiriadau, Google Maps a Google Street View. Mae'r cyfeiriadur, sydd ar gael yn www.itslocalswansea.co.uk, yn cysylltu â gwefannau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr holl fusnesau a gynhwysir. Gellir cael mynediad i'r cyfeiriadur newydd drwy anfon neges destun '123Swansea' ar ffonau symudol a thabledi i 88802. Gall busnesau ychwanegu eu manylion am ddim ac mae bron 2,000 o gwmnïau wedi nodi eu manylion hyd yma.
Gweld y gorffennol MAE fideos hanesyddol wedi dod i'r amlwg sy'n dangos golygfeydd o rannau o'r ddinas yn y 1950au a'r 1970au. Ymysg y fideos, a gafodd eu darganfod gan staff Cyngor Abertawe yng Ngwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, gwelir Stryd y Castell, cau Doc y De a modurwyr ar ddarn lleol o'r M4. I gael rhagor o wybodaeth am hanes Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/archifaug orllewinmorgannwg neu ffoniwch 01792 636589.
Gwefru ceir trydan
GALLAI mwy o bwyntiau gwefru fod ar gael ar draws ciosg. Yn y dyfodol, bydd gan lawer o'n biliau godau bar y de-orllewin Cymru yn y dyfodol gellir eu sganio yn y ciosg. er mwyn galluogi defnyddio Bydd y mannau talu'n disodli dwy ffenestr ar gyfer mwy o geir trydan. Mae Cyngor Abertawe'n arianwyr yn neuadd fynedfa'r Ganolfan Ddinesig ac yn ystyried cyflwyno mwy o rhyddhau staff i gwblhau gwaith hanfodol arall. Nid oes unrhyw swyddi wedi'u colli. Bydd ymwelwyr â'r Ganolfan bwyntiau gwefru trwy weithio ar y cyd â'i bartneriaid yn Ddinesig yn gallu mwynhau rhyngweithio'n bersonol â awdurdodau lleol, prifysgolion cherddwyr ar lawr y cyngor. a byrddau iechyd yn Abertawe, Ceir mwy o wybodaeth yn Sir Gâr, Castell-nedd Port www.abertawe.gov.uk/taliadau Talbot a Sir Benfro.
Arwain
Abertawe
Rhoi help llaw i bobl ddi-waith BYDD llawer mwy o bobl ddi-waith ar draws Abertawe a de-orllewin Cymru'n gyffredinol yn elwa'n fuan o gynllun i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith. Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cymeradwyo grant gwerth £10m o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a fyddai'n caniatáu i raglen Gweithffyrdd+ weithredu tan fis Rhagfyr 2022. Ers dechrau cyflwyno'r rhaglen ym mis Mehefin 2016, mae Gweithffyrdd+ eisoes wedi helpu 270 o bobl sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir yn Abertawe. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Ceredigion. Meddai'r Cyng. Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Gyda thîm Gweithffyrdd+ nawr yn sefydledig, mae gwaith parhaus yn cael ei wneud i gynnwys cyfranogwyr newydd yn y rhaglen, yn ogystal â chynnal cysylltiadau â lleoliadau, sefydliadau atgyfeirio a chyflogwyr a chreu cysylltiadau newydd. "Gyda fframwaith hyfforddi rhanbarthol y disgwylir iddo fod yn barod erbyn haf 2018, yn fuan bydd hyd yn oed mwy o bobl yn ennill cymwysterau neu dystysgrifau sy'n berthnasol i'r byd gwaith."
Canmol Gweithwyr Caled ANRHYDEDDWYD ugain o wirfoddolwyr sy'n cefnogi chwarae plant ar draws Abertawe gan yr Arglwydd Faer, y Cynghorydd Philip Downing. Mae'r gwirfoddolwyr yn gweithio ar draws y ddinas ar brosiectau ac mewn sefydliadau megis y cynllun Cyfeillion ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol, Tîm Chwarae i Blant y cyngor, Grŵp Pobl Ifanc Treforys, Y Llyfrgell Cyfleoedd Chwarae a Hamdden a Fferm Gymunedol Abertawe. Meddai'r Cyng. Downing, "Heb yr unigolion ymroddedig hyn yn rhoi o'u hamser, ni fyddai gan blant a'u teuluoedd fynediad i amrywiaeth mor eang o chwarae o safon."
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Chwefror 2018
Gyrfaoedd sy’n newid bywydau, un person ar y tro
• NEWID GYRFA: Mae gwaith gofal yn ymdrin â bywydau MAE gofalwyr sydd am newid bywydau yn cael y cyfle i wneud hynny drwy lansiad ymgyrch recriwtio ar draws y rhanbarth. Mae cynghorau yn Abertawe, Pen-ybont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot wedi ymuno â PABM er mwyn annog pobl i ddechrau ar yrfa fel gofalwr. Mae angen gofalwyr i helpu i drawsnewid gwasanaethau fel y gall preswylwyr gael eu cefnogi i fyw bywydau mor annibynnol â phosib trwy gael y gwasanaethau iawn, ar yr amser iawn, yn y lle iawn. Gallai cannoedd o swyddi gwaith gofal â thâl fod ar gael a gallai fod yn gam cyntaf mewn gyrfa a allai wneud gwahaniaeth go iawn i safon bywyd pobl
Yn fy marn i
8
MAE John Gerring, 53 oed, wedi cael sawl swydd yn y gorffennol, gan gynnwys dyn dosbarthu brechdanau, porthor mewn gwesty, trydanwr a pheiriannydd. Daeth ar draws byd gofal pan ddychwelodd i fyw yn Abertawe er mwyn bod yn agosach at ei deulu ac i helpu ei fam o bryd i'w gilydd. Meddai, “Dechreuais wirfoddoli i weithio gyda'r digartref a sylweddolais fy mod i'n gallu, ac am helpu pobl i wella safon eu bywydau. Cyflwynais gais am swydd fel gweithiwr gofal gyda Deluxe Homecare a dwi erioed wedi edrych yn ôl. "Rwyf wedi dod o hyd i swydd sy'n ei gwneud hi'n werth codi yn y bore. Mae pob dydd yn wahanol ond mae un peth yn aros yn gyson – mae'r swydd hon bob amser yn wych."
mewn cymunedau lleol. Gallwch weithio fel gofalwr ar y cyd â'ch ymrwymiadau eraill megis bywyd teuluol neu hyfforddiant. Os hoffech ddatblygu'ch gyrfa ymhellach, mae'r profiad a'r cyfleoedd a gynigir i ofalwyr yn rhoi mantais i bobl wrth ymgeisio am swyddi nyrsio a
gwaith cymdeithasol yn y dyfodol. Meddai Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Lles, "Rydym yn falch o fod yn rhan o ymgyrch Ymunwch â'n Cymuned Ofalgar Bae'r Gorllewin. "Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad a gofal yr holl weithwyr
gofal, p'un a ydynt yn cael eu cyflogi gan y cyngor yn uniongyrchol neu drwy un o'r darparwyr preifat yr ydym yn eu defnyddio i ddarparu gofal ar ran y cyngor. Maent yn gefnogaeth wych wrth helpu preswylwyr i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt. Byddwn yn annog pobl i ystyried a yw gyrfa fel gofalwr yn addas iddynt." Ychwanegodd, "Mae'n swydd gyflogedig gyda hyfforddiant, rhagolygon gyrfa ac oriau hygyrch os bydd angen. Mae pobl yn syrthio mewn cariad â'r yrfa oherwydd ei bod yn gyfle i wneud y pethau pwysig hynny sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl." I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, ewch i www.baergorllewin.org.uk/gofal
Gwobr ar gyfer Ffordd Ddosbarthu’r Morfa MAE’R ffordd ddiweddaraf yn Abertawe wedi ennill gwobr genedlaethol o ganlyniad i'w manteision amgylcheddol. Yn ddiweddar, casglodd Ffordd Ddosbarthu'r Morfa'r wobr am gynaladwyedd amgylcheddol yng ngwobrau Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant Cymru. Agorodd Cyngor Abertawe'r ffordd 1.7km yn ffurfiol ym mis Awst y llynedd ar ôl buddsoddi mwy na £5m i greu'r llwybr newydd. Roedd y costau hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan ddatblygwyr sydd wedi sicrhau safleoedd
datblygu ar hyd y llwybr. Mae'r ffordd, sy'n ymestyn rhwng Stadiwm Liberty a chanol y ddinas, yn helpu i ddarparu llwybr amgen i fodurwyr sy'n teithio fel arfer ar hyd Heol Castell-nedd yn yr Hafod. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, "Mae'r ffordd newydd yn rhan bwysig o'n hisadeiledd priffyrdd ac mae wedi creu nifer o fanteision i bobl leol. "Mae Heol Castell-nedd yn yr Hafod yn llwybr sy'n cael
ei ddefnyddio'n helaeth ac sy'n dioddef o lefelau uchel o lygredd aer. Un o'r prif fanteision yw bod modurwyr bellach yn defnyddio Ffordd Ddosbarthu'r Morfa fel llwybr amgen i ganol y ddinas." Mae creu'r llwybr hefyd wedi arwain at wneud safleoedd allweddol ar hyd coridor Tawe'n fwy atyniadol fel safleoedd datblygu, gan ddenu buddsoddiad gwerth dros £50m ar ei hyd. Mae manteision eraill wedi cynnwys gwaith i adfer elfennau o safle Gwaith Copr yr Hafod.
Chwefror 2018
Arwain
www.abertawe.co.uk
Abertawe 9 Crynodeb o’r
newyddion Cynllun mabwysiadu’n tyfu GALL preswylwyr a busnesau bellach fabwysiadu rhai o welyau blodau harddaf Abertawe. Gallwch drefnu i fabwysiadu gwely yn un o ardaloedd cyhoeddus hyfryd Cyngor Abertawe - Parc Victoria neu Erddi Botaneg Parc Singleton. Bydd plac dur gwrthstaen gydag ysgythriad y cytunwyd arno yn sefyll yn y gwely blodau a fabwysiedir am dair blynedd. Mae'r trefniad, a all ddechrau gydag ymholiad syml drwy wedudalen y cyngor, yn adlewyrchu cynllun llwyddiannus hirsefydlog y cyngor i fabwysiadu meinciau parc. Bydd y cynllun yn helpu'r cyngor i leihau costau a chreu incwm er mwyn helpu i ddiwallu anghenion preswylwyr nawr ac yn y dyfodol. Ceir mwy o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/mabwysi adwchfainccoffa
Gorffwys gyda golygfeydd godidog • ADEILADU DYFODOL: Mae mwy na £15 miliwn yn helpu i wella cyfleusterau addysg yn Ysgol Gyfun Pentrehafod
Disgyblion eisoes yn elwa o fuddsoddiad MAE eleni'n mynd i fod yn flwyddyn wych i ddisgyblion a staff ysgol gyfun yn Abertawe. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym ar adnewyddiad gwerth £15.1m yn Ysgol Pentrehafod ac mae ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau'r flwyddyn hon. Mae'r buddsoddiad mawr i ddiweddaru'r adeiladau a'r cyfleusterau'n rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif rhaglen sy'n cael ei hariannu ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru. Cytunwyd ar gynlluniau ar gyfer buddsoddiad ychwanegol gwerth £149.7m er mwyn gwella adeiladau a chyfleusterau ysgolion dros y blynyddoedd nesaf mewn egwyddor yn ddiweddar gan y ddau bartner. Mae disgyblion Pentrehafod yn dweud
Ysgolion yn helpu i lunio dyfodol ein plant DISGWYLIR y bydd y trosglwyddiad mawr nesaf yn digwydd ym mis Ebrill pan fydd yr ail adeilad yn cael ei roi yn ôl i'r ysgol a bydd hyn yn creu swm sylweddol o fannau dysgu ac addysgu newydd a llyfrgell newydd hyfryd. Mae adeilad newydd ar gyfer Addysg Cwricwlwm Amgen Pentrehafod (ACAP) hefyd wedi'i gwblhau sy'n caniatáu i ddisgyblion ar y rhaglen ddychwelyd i brif safle'r ysgol a rhoi mynediad haws iddynt i'r cwricwlwm prif ffrwd.
bod y buddsoddiad i'w hysgol eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar eu haddysg. Dywedodd Catherine Matthews, disgybl blwyddyn 7, "Mae rhai o'r ystafelloedd dosbarth newydd wedi'u cwblhau, megis yr adeiladau celf newydd ac maent yn ystafelloedd dosbarth braf a mwy mewn maint." Dywedodd Abbie Durran, cynddisgybl, "Fel y dywedodd Catherine, mae'r ystafelloedd dosbarth yn fwy ac mae mwy o le. Maent yn dda iawn ac
erbyn y diwedd rwy'n meddwl y byddant yn edrych yn wych." Un o ardaloedd eraill yr ysgol sydd wedi'u cwblhau yw neuadd yr ysgol, sydd nawr â seddi codadwy sy'n ei gwneud hi'n lleoliad llawer gwell ar gyfer cynnal gwasanaethau a pherfformiadau. Meddai Curtis Woolley, disgybl, "Pan oedd rhesi o gadeiriau'n unig nid oedd hi'n bosib i'r bobl yn y cefn weld yr hyn a oedd yn digwydd yn y tu blaen, ond nawr bod yna risiau mawr mae pob disgybl yn
gallu gweld, ac mae'r seddi'n llawer mwy cyfforddus." Morgan Sindall yw'r contractwr ac mae'r cwmni wedi creu 10 swydd newydd a thrwy weithio mewn partneriaeth â Thîm Y Tu Hwnt i Frics a Morter Cyngor Abertawe maent wedi cynnig pum prentisiaeth. Meddai'r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Gwnaed cynnydd sylweddol ar y gwaith adnewyddu ym Mhentrehafod ac rwy'n hapus iawn gydag adborth cadarnhaol dros ben y disgyblion. "Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer mwy o fuddsoddiadau mawr mewn ysgolion eraill yn Abertawe ac rydym wedi cytuno ar raglen amlinellol gwerth £149.7m ar gyfer rownd nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif."
Ewch am dro i’r goedwig o’ch soffa GALL pobl o bedwar ban byd sy'n dwlu ar fyd natur bellach archwilio un o atyniadau hyfrytaf Abertawe heb adael sgrîn eu cyfrifiaduron diolch i ddisgyblion yn un o ysgolion y ddinas. Mae disgyblion Daearyddiaeth yn Ysgol Gyfun Gellifedw wedi helpu i fapio Coed Cwm Penllergaer ar gyfer Google. Gwnaethant ddefnyddio camera 360 gradd a ddarparwyd gan Google a defnyddiwyd eu gwaith i greu taith dywys Google Street View o'r atyniad. Felly gall pobl nawr fynd ar daith dywys rithwir o'r
parc a gobeithir y bydd rhai yn cael eu hysbrydoli i ymweld â'r lle drostynt eu hunain. Roedd y prosiect yn rhan o waith parhaus gan Kevin Williams, Rhiant-lywodraethwr yn Ysgol Gellifedw, sydd â rôl hefyd yn y Gymdeithas Gwybodaeth Ddaearyddol er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd ym maes Daearyddiaeth. Meddai Cath Davies, Pennaeth Daearyddiaeth yn Ysgol Gyfun Gellifedw, "Roedd gwaith y disgyblion yn ystod y daith yn fuddiol iawn iddyn nhw ac rydym yn gobeithio y bydd yn helpu i hyrwyddo'r parc ac yn annog mwy o bobl i ymweld ag ef.
"Roedd yn gyfle i'r disgyblion, y mae pob un ohonynt wedi dewis astudio TGAU Daearyddiaeth, adael yr ystafell ddosbarth i ymweld ag ardal ac archwilio'r dirwedd. Gwnaethant ddefnyddio map i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas y cwm ac i werthfawrogi sut mae'r dirwedd wedi newid oherwydd gweithgareddau dynol mewn cyd-destun hanesyddol." Roedd Ystâd Penllergaer ar ei hanterth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn enghraifft nodedig o dirwedd ramantaidd brydferth, a grëwyd er mwynhad ei pherchnogion.
BYDD preswylwyr sy'n chwilio am seibiant hyfryd wrth grwydro ar hyd Prom Abertawe wedi sylwi ar y meinciau yno sydd wedi cael eu trawsnewid. Mae Cyngor Abertawe a Chyngor Cymuned y Mwmbwls wedi dod ynghyd i ailwampio neu osod 58 o feinciau rhwng Norton a Knab Rock. Mae darnau eraill o'r prom o'r Ganolfan Ddinesig i'r gorllewin hefyd wedi elwa o feinciau a adeiladwyd yn lleol o haearn bwrw ac estyll pren caled. Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, "Efallai nad ydw i'n gwbl ddiduedd, ond mae'r golygfeydd o Brom Abertawe o'r radd flaenaf."
Amser yn oedi mewn canolfan deuluoedd newydd MAE capsiwl amser a grëwyd gan staff a phlant yng Nghanolfan Deuluoedd Mayhill wedi cael ei gladdu yn waliau'r adeilad cyfoes newydd. Mae'r capsiwl amser yn cynnwys gwybodaeth ac arteffactau sydd wedi bod yn y ganolfan deuluoedd wreiddiol ers iddi gael ei hagor dros 30 mlynedd yn ôl. Mae hefyd yn cynnwys eitemau mwy cyfoes a ddewiswyd gan y plant, gan gynnwys copi diweddar o'r Evening Post, rhaglen Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, darluniau a thegan bysdroellwr.
Chwarae yn y parc MAE gan Barc Victoria atyniad newydd i blant o'r enw siglen gallu. Mae'r darn newydd o offer arbenigol yn caniatáu i blant chwarae ar y siglen heb orfod gadael eu cadair olwyn, a hon yw'r cyntaf o'i bath mewn parc cyhoeddus yn Abertawe. Mae Cyngor Abertawe wedi gosod y siglen fel ymateb i'r galw gan rieni a phobl ifanc a gallai mwy gael eu gosod mewn mannau eraill yn y ddinas.
Gwnaethon ni
Arwain
Abertawe Ymunwn oll â'r sgwrs
MAE preswylwyr yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am gynllun lles lleol drafft y cyngor. Y weledigaeth y tu ôl i'r cynllun drafft yw i gymunedau weithio gyda'igilydd i wneud Abertawe'n lleoliad sy'n ffyniannus, lle gwerthfawrogir a chynhelir ein hamgylchedd naturiol a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd, swydd dda, byw'n dda, heneiddio'n dda a chael pob cyfle i fod yn iachus, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gall fod. Mae gan y cynllun bedwar prif amcan, sef canolbwyntio gwasanaethau cyhoeddus ar y Blynyddoedd Cynnar; Cymunedau Cryf; Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda; a gweithio gyda natur. Cynhelir yr ymgynghoriad ar 18 Chwefror; i gael mwy o wybodaeth, ewch i www.abertawe.gov.uk/bg c Disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mai.
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Chwefror 2018
Cyfle i ddweud eich dweud am gynlluniau newydd ar gyfer tai amlfeddiannaeth
Gwasanaethau'n barod pan fydd yn gyfleus i chi MAE preswylwyr yn gwneud y mwyaf o amrywiaeth newydd o wasanaethau y maent bellach yn gallu cael mynediad iddynt pan fydd yn gyfleus iddynt 24 awr y dydd. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r cyngor wedi bod yn buddsoddi mewn datblygu gwasanaethau newydd sy'n ei wneud yn haws nag erioed i bobl wneud busnes gyda'r cyngor pan fydd yn gyfleus iddynt. Mae hynny wedi arwain at gynnydd o 26% mewn 12 mis yn unig o ran pa mor aml mae pobl wedi mynd ar wefan y cyngor i chwilio am wasanaethau neu wybodaeth. Cyflwynwyd gwasanaethau ar-lein o ganlyniad i ymgynghoriad.
Lleisiwch eich barn MAE preswylwyr sydd am ddweud eu dweud am wasanaethau'r cyngor a materion lleol yn gallu ymuno â'n panel dinasyddion, Lleisiau Abertawe. Mae'r cyngor wedi bod yn gweithredu'r panel yn llwyddiannus ers 1999. Adnewyddir ei aelodaeth yn gyson i sicrhau bod y panel yn dal i gynrychioli poblogaeth y sir a rhoi'r cyfle i gynifer o bobl â phosib gymryd rhan. Gwnewch gais yn www.abertawe.gov.uk/ article/7003/LleisiauAbertawe
• YMGYNGHORIAD: Bydd gan breswylwyr gyfle i ddweud eu dweud ar niferoedd y tai amlfeddiannaeth yng nghymunedau'r ddinas yn y dyfodol. AR ddechrau'r gwanwyn, bydd gan breswylwyr y cyfle i ddweud eu dweud ar y canllawiau drafft y disgwylir i'r cyngor eu cyhoeddi, mewn cysylltiad â thai amlfeddiannaeth (HMO). Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar y canllawiau, sy'n ceisio gosod terfyn ar nifer y tai amlfeddiannaeth mewn cymunedau ar draws y ddinas. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 2,000 o dai amlfeddiannaeth yn Abertawe ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn wardiau'r Castell ac Uplands. Yn dilyn newidiadau diweddar i ddeddfwriaeth gynllunio, mae angen caniatâd cynllunio ar bob tŷ amlfeddiannaeth, ni waeth beth yw ei faint. Mae dau gynllun trwyddedu hefyd ar waith i sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal o ran ansawdd a diogelwch y tai. Gofynnwyd i'r cyngor gyflwyno
gwybodaeth
Dywedoch chi
Gofynnom ni
10
ANOGIR landlordiaid a'u tenantiaid i fod yn gymdogion da yn eu cymunedau. Mae tîm trwyddedu tai amlfeddiannaeth Cyngor Abertawe wedi cysylltu â mwy na 700 o landlordiaid tai amlfeddiannaeth ar draws y ddinas, gan gynnig cefnogaeth a chyngor iddynt ynghylch yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i gadw eu heiddo mewn cyflwr da. Ar yr un pryd, mae tîm ailgylchu'r cyngor wedi rhoi cyngor penodol i fyfyrwyr sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth ar sut i reoli eu cyfrifoldebau ailgylchu.
Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) y cyfeirir atynt pan ystyrir ceisiadau cynllunio am dai amlfeddiannaeth. Ni chymeradwywyd drafft cynharach o'r canllawiau a fyddai wedi cyfyngu ar dai amlfeddiannaeth mewn rhannau o'r Uplands a'r Castell, sydd eisoes â llawer o dai amlfeddiannaeth, i 25%, ar y cyd â chynnig i gyfyngu'r lefel i 10% ar gyfer rhannau eraill y ddinas. Yn lle hynny, daethpwyd i gytundeb i ystyried niferoedd gwahanol o dai, gan gynnwys yr effaith o gael lefel is o 15%
yn ne Uplands. Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau, "Mae tai amlfeddiannaeth yn darparu gwasanaeth sylweddol i'r sector rhentu tai preifat yn Abertawe. "Fe'u defnyddir gan fyfyrwyr yn ogystal ag unigolion a theuluoedd eraill nad ydynt wedi prynu eu tai eu hunain. "Ond, mae hefyd angen i ni gydnabod bod angen pwerau ychwanegol ar y cyngor i sicrhau nad yw niferoedd a dwysedd tai amlfeddiannaeth yn peryglu
gorlethu eu cymunedau. “Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn rhoi'r pwerau ychwanegol y mae eu hangen arnom er mwyn gwneud hyn. “Ond mae'n rhaid i unrhyw ganllawiau yr ydym yn eu cyflwyno fod yn seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll apeliadau gan ymgeiswyr y gwrthodwyd eu cynigion o bosib." Gwnaed llawer o ymarferion ymgysylltu cymunedol eisoes ac mae'r cyngor yn siarad ag amrywiaeth eang o grwpiau ac unigolion, gan gynnwys cwmnïau rhentu, landlordiaid a phrifysgolion. Ychwanegodd y Cynghorydd Lewis, "Mae'r wybodaeth yr ydym wedi'i chasglu yn ystod y trafodaethau hyn yn golygu ein bod ni'n gallu cyflwyno canllawiau cryf sy'n ystyried tai amlfeddiannaeth yn ogystal â sicrhau eu bod nhw'n parhau i gael eu darparu fel ffordd o fyw ar gyfer llawer o bobl yn ein dinas."
Gwelliant presenoldeb ysgolion cynradd gorau Cymru MAE presenoldeb mewn ysgolion cynradd yn Abertawe wedi dangos y gwelliant mwyaf yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Bum mlynedd yn ôl, 93% oedd y raddfa ar draws y ddinas, ond diolch i ymdrechion Cyngor Abertawe i roi ffocws ar wella'r ffigur hwn, gwaith caled staff a disgyblion yr ysgolion a chefnogaeth rhieni a gofalwyr, cododd y raddfa i 95% ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-2017. Mae'r ffigurau, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru'n ddiweddar, yn dangos bod Abertawe, o ran
cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion cynradd, wedi codi o safle hanner isaf 22 o awdurdodau lleol Cymru i'r wythfed safle. Mae amrywiaeth o fesurau wedi'u cyflwyno yn Abertawe er mwyn gwella presenoldeb ysgolion. Mae'r canlyniadau hefyd yn gadarnhaol ymhlith disgyblion ysgolion cyfun. Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, 94.3% oedd y gyfradd bresenoldeb ar gyfartaledd mewn ysgolion uwchradd yn Abertawe, a oedd yn uwch na'r cyfartaledd bum mlynedd yn ôl, sef 92.3%,
ac yn uwch na chyfartaledd Cymru. Meddai'r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos bod gan Abertawe'r ffigurau sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru o ran presenoldeb ysgolion cynradd dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae hyn yn adlewyrchu'r gwaith caled a'r ymdrech a wnaed. "Ceir cyswllt clir rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad ac rydym oll am sicrhau bod pob plentyn yn Abertawe'n cyflawni ei botensial llawn."
Chwefror 2018
www.abertawe.co.uk
Mwy o bobl ifanc am gael dechrau gwych mewn bywyd
Abertawe Crynodeb o’r
newyddion Cofiwch oedi i batrolau diogelwch ffyrdd MAE modurwyr yn cael eu hannog i stopio pan gânt eu cyfarwyddo i wneud hynny gan batrolau croesi ffyrdd ysgolion. Daw'r alwad yn dilyn adroddiadau gan Dîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Abertawe fod rhai patrolau sy'n gweithio y tu allan i ysgolion lleol yn cael problemau gyda modurwyr yn gwrthod stopio pan fyddant yn helpu plant ifanc i groesi ffyrdd prysur. Mae'r cyngor bellach wedi lansio ei ymgyrch 'Mae stop yn golygu stop' lle caiff baneri mawr eu harddangos ar safleoedd o gwmpas y ddinas lle mae patrolau ar waith. Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd, "Mae clywed gan ein patrolau nad yw rhai modurwyr yn stopio pan fyddant yn ceisio helpu plant ifanc i groesi'r ffordd yn peri pryder mawr. Mae gan ein patrolau rôl bwysig i'w chyflawni."
Creu hanes a thai BYDD Abertawe'n elwa o dri gwerthiant diweddar, gwerth dros £1m i gyd, drwy ddarparu cartrefi newydd a helpu i ddod â hanes yn fyw unwaith eto. Mae Cyngor Abertawe bellach wedi gwerthu hen safle Ysgol Cwmbwrla, dwy erw o dir oddi ar Heol Eifion yng Ngorseinon a'i hen ddepo cludiant oddi ar Heol Pontardawe, Clydach. Disgwylir datblygiad preswyl ar gyfer yr hen ddepo cludiant sydd bellach wedi'i werthu i ddatblygwr preifat am £212,000. Mae'r gwerthiant hwn yn dilyn Cyngor Abertawe'n rhoi rhan o'r tir yno fel anrheg i Gymdeithas Camlas Abertawe, gan helpu gyda chynlluniau i adfywio'r ddyfrffordd.
Celf yn y parc yn ysbrydoli disgyblion • DECHRAU GORAU: Plant ym Meithrinfa Ddydd Highgate yn mwynhau eu llyfrau. Mae teuluoedd hapus ac iach yn rhoi'r dechrau gorau posib mewn bywyd i'w plant a'r cyfle i wneud yn fawr o'u potensial yn yr ysgol ac yn ddiweddarach. Dyna pam ein bod yn falch bod y cynnig hwn yn cael ei roi ar waith yn ehangach ar draws Abertawe." Darperir y gwasanaeth ar hyn o bryd yn Nynfant, Penclawdd, Llangyfelach, West Cross, Treforys, Pontarddulais a Gorseinon.
Yn fy marn i
BYDD mwy o deuluoedd yn elwa cyn bo hir o 30 awr o ofal plant blynyddoedd cynnar wedi'i ariannu. Bydd y ddarpariaeth yn cael ei chyflwyno mewn naw cymuned arall ar draws y ddinas, chwe mis ar ôl iddi gael ei lansio'n llwyddiannus mewn saith ardal yn y ddinas. Mae Cabinet y cyngor a Llywodraeth Cymru wedi cytuno i estyn y cynnig i ardaloedd Penderi, Pontybrenin, Llwchwr Uchaf, Llwchwr Isaf, Penyrheol, y Cocyd, Llansamlet, Penllergaer a Thre-gŵyr. Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd cannoedd mwy o deuluoedd yn gymwys dan y cynllun ar gyfer plant 3 a 4 oed. Rhoddir y cynllun ar waith ym Mhenllergaer, Tre-gŵyr a Llansamlet ym mis Ionawr a'r gweddill cyn gynted â phosib ar ôl hynny. Bydd teuluoedd cymwys yn cael cyfanswm o 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu gan y llywodraeth gan ddarparwyr gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cofrestredig am 48 wythnos o'r flwyddyn, gan gynnwys 30 awr o ofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol. Meddai'r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Mae'n gyffrous iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i estyn y cynllun ar draws Abertawe. "Mae'n dilyn lansiad llwyddiannus ym mis Gorffennaf ac mae eisoes yn helpu i newid bywydau, gan gefnogi rhieni sydd eisoes mewn gwaith ond y mae angen addysg a gofal plant cyn oed ysgol o safon arnynt. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â rhieni a gofalwyr i sicrhau eu bod yn cael cyfle i dderbyn holl fanteision y rhaglen flaenllaw hon." Mae Abertawe'n un o saith ardal yng Nghymru sy'n treialu'r rhaglen y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei rhoi ar waith ledled y wlad erbyn 2020. Mae'n rhaid i rieni cymwys fod yn gweithio gyfwerth ag o leiaf 16 awr yr wythnos ar y cyflog byw cenedlaethol neu'r isafswm cyflog cenedlaethol, gan felly ennill o leiaf £107 yr wythnos. Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, "Mae adborth cynnar gan rieni a darparwyr yn gadarnhaol iawn gyda rhai rhieni'n adrodd bod ansawdd bywyd eu teulu wedi gwella'n sylweddol gan nad oes rhaid iddynt boeni am dalu am ofal plant mwyach.
Arwain11
JAYNE Lewis o Feithrinfa Ddydd Highgate yn Nhreforys, "Rydym wedi cael llawer o adborth cadarnhaol gan rieni. Mae rhai rhieni a oedd gyda ni o'r blaen wedi gweld eu biliau gofal plant yn lleihau ac mae wedi gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. Mae gennym hefyd ychydig o rieni newydd sydd wedi dechrau gweithio. "Rydym yn cynnal cynllun chwarae mawr ar ein safle yn Nhreforys sydd wedi gweithio'n dda iawn oherwydd gallant gael eu 30 awr am ddim yn ystod y gwyliau ac felly gall rhieni weithio yn ystod y gwyliau pan nad oeddent o bosib yn gallu gwneud hynny o'r blaen. "Dylai pobl wybod ei fod yn hawdd iawn. Ffoniwch Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd y cyngor - tîm hyfryd dros ben - rhowch eich côd post a'ch manylion iddyn nhw a gallant roi gwybod i chi'n syth a ydych chi'n gymwys ai peidio."
Adeiladu dyfodol ar gyfer cartrefi a swyddi CYNHELIR trafodaethau ffurfiol yn fuan a allai arwain at gannoedd o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle yn Abertawe bob blwyddyn. Mae Cyngor Abertawe wedi llofnodi cytundeb â chwmni o'r enw Live Verde i archwilio opsiynau a fyddai'n helpu i fynd i'r afael ag angen y ddinas am fwy o dai yn y dyfodol. Live Verde yw ateb y WElink Group i adeiladu tai oddi ar y safle yn y DU a lansiwyd tua diwedd 2016 o ganlyniad i bartneriaeth newydd rhwng y cwmni a chwmni Deunyddiau Adeiladu Cenedlaethol Tsieina.
Caiff tai modwlar Live Verde eu hadeiladu'n gyflym ac yn effeithlon oddi ar y safle drwy broses llinell gynhyrchu ac maent yn elwa o dechnoleg effeithlonrwydd ynni well. Gallai cytundeb Cyngor Abertawe â Live Verde arwain at gannoedd o swyddi lleol a chyfleuster gweithgynhyrchu yn ardal Abertawe. Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Yn sgîl Brexit, rydym wedi bod yn gweithio'n galed i ddatblygu partneriaethau newydd dramor er budd trigolion Abertawe dros y
blynyddoedd nesaf, yn enwedig yn Tsieina. Mae'r cytundeb hwn yn dangos partneriaeth economaidd sy'n tyfu rhwng Abertawe a Tsieina, lle rydym wedi bod yn brysur yn hyrwyddo Abertawe fel dinas arloesol sy'n addas i fusnesau a lle croesewir mewnfuddsoddi. "Byddwn nawr yn cynnal rhagor o drafodaethau â Live Verde i sefydlu menter ar y cyd â'r cwmni a fydd yn helpu i fynd i'r afael yn gyflym ag angen Abertawe am fwy o dai gan greu cannoedd o swyddi i bobl leol."
MAE un o barciau mwyaf poblogaidd Abertawe wedi ysbrydoli disgyblion o chwe ysgol gynradd. Ymunodd y plant â'r artist Sara Holden ar ymweliad â Pharc Brynmill a buont yn archwilio'r safle hardd a'r Ganolfan Ddarganfod. Yna defnyddiodd y disgyblion bopeth y gwnaethant ei glywed, ei arogli a'i gyffwrdd i wneud amrywiaeth o waith celf. Trefnwyd y prosiect gan Dîm Celfyddydau mewn Addysg y cyngor gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.
Yn y lle cywir MAE cyfarpar sy'n gallu achub bywydau wedi cael ei osod mewn pedwar man hardd ar arfordir Abertawe. Mae'r cyngor wedi cydweithio ag elusen o'r enw Cariad i roi diffibrilwyr ym Mae Langland, Bae Caswell, Knab Rock a Chastell Ystumllwynarth. Dyfais sy'n rhoi sioc drydanol reoledig i'r galon drwy'r frest os yw rhywun yn dioddef ataliad ar y galon yw diffibriliwr.
12
Arwain
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Abertawe
Chwefror 2018
Ewch am Gwobr i dimau sy’n newid bywydau dro yn y goedwig MAE taflen newydd i gerddwyr a phecyn gweithgareddau i ysgolion wedi cael eu lansio gan Gyngor Abertawe i annog mwy o bobl i fwynhau chwe llwybr coediog yn y ddinas. Meddai Mark Winder, ecolegydd Cyngor Abertawe, fod coetir hynafol yn gyfoethog iawn o ran bywyd gwyllt, harddwch ac awyrgylch, a'i fod yn un o'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr yma yng Nghymru. Dywedodd fod y goedwig fwyaf prydferth am ychydig o wythnosau yn gynnar yn y gwanwyn, pan fydd blodau'r coetir, megis clychau'r gog a garlleg gwyllt, yn blodeuo. Mae'r daflen ar gael ar hyn o bryd o lyfrgelloedd cymunedol yn Abertawe ac o'r Ganolfan Ddinesig, a bwriedir ei dosbarthu mewn mwy o leoliadau ar draws Abertawe a phenrhyn Gŵyr cyn bo hir. Mae'r llwybrau coediog yn cynnwys lleoedd fel Cwm Iorwg ger Llanmadog, Dyffryn Llandeilo Ferwallt a Chwm Clydach. Mae'r arweiniad hefyd yn cynnwys Coed Nicholston, Coed Cwm Penllergaer a Choed yr Esgob. Crëwyd y daflen fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri i gofnodi bioamrywiaeth coetir hynafol yn Abertawe, sef prosiect ar y cyd rhwng Tîm Cadwraeth Natur y cyngor a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
MAE gwasanaeth arloesol sy'n gwella bywydau plant diamddiffyn a'u teuluoedd wedi ennill gwobr genedlaethol glodwiw. Mae rhaglen Tîm am y Teulu mewn Ysgolion yn hyfforddi staff ysgolion cynradd ar draws y ddinas i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol. Mae hyn yn arwain at lai o achosion cymdeithasol cymhleth, lefelau gwell o bresenoldeb ysgol a chydnerthedd cymunedol cryfach. Enillodd y tîm y categori Dysgu a Datblygu yng Ngwobrau Gwasanaeth Cyhoeddus mawreddog y Guardian yn 2017. Meddai'r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y
Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, "Mae'r gwasanaeth hwn yn trawsnewid bywydau plant. "Dyma fenter leol radical, arloesol a chynaliadwy lle mae gweithwyr y cyngor yn hyfforddi ac yn datblygu staff ysgolion cynradd i adnabod heriau cymdeithasol cynnar sy'n wynebu disgyblion diamddiffyn a'u teuluoedd a mynd i'r afael â nhw." Meddai Aelod Cabinet y Cyngor dros Iechyd a Lles, y Cyng. Mark Child, "Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyfrannu at fuddugoliaeth y gwasanaeth - dyma gydnabyddiaeth gan un o gynlluniau gwobrau sector cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r DU. Ychwanegodd Sue Peraj, Rheolwr Tîm am y Teulu
mewn Ysgolion, "Mae ein llwyddiant yn dangos brwdfrydedd a phroffesiynoldeb pawb sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun hwn wrth iddo gael ei roi ar waith ar draws Abertawe. "Mae ysgolion wedi bod yn arbennig. Maent wedi ymroi'n llwyr i'r gwasanaeth, gan fynd ymhellach na'r hyn a ddisgwyliwyd drwy brynu adnoddau, rhyddhau staff, cynnal grwpiau, trefnu sesiynau hyfforddi a rhannu adborth gwerthfawr y byddwn yn ei ddefnyddio i gynllunio ar gyfer y dyfodol." Lansiwyd Tîm am y Teulu mewn Ysgolion yn 2015 ac mae bellach ar waith mewn 63 o ysgolion cynradd ac mae wedi cefnogi dros 600 o blant.
•
Rôl newydd ar gyfer Plasty Abertawe GALLAI Plasty Abertawe fod ar drothwy pennod newydd yn ei hanes disglair. Ar hyn o bryd, y Plasty yn Ffynone, a gwblhawyd ym 1863, yw lleoliad nifer o ddigwyddiadau a gynhelir gan Arglwydd Faer Abertawe. Mae Cyngor Abertawe bellach yn bwriadu gweithio gyda chwmni i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau newydd yno. Mae gan y cyngor gytundeb eisoes â Neuadd Brangwyn, y lleoliad hanesyddol sy'n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a dathliadau drwy gydol y flwyddyn. Adeiladwyd y Plasty gan adeiladwr lleol, Evan Matthew Richards, ac fe'i prynwyd gan Fwrdeistref Sirol Abertawe ar y pryd ym 1922.
Sliperi yw’r ateb yn erbyn y perygl o gwympo GALLAI pâr da o sliperi fod yn ateb mewn ymgyrch newydd i helpu pobl hŷn i osgoi cwympo o amgylch y tŷ. Er nad yw'n ymddangos y byddent yn gwneud llawer o wahaniaeth, mae sliperi addas yn gallu darparu cysur a sadrwydd i bobl hŷn sy'n cerdded o amgylch eu tai a gallant eu hatal rhag cwympo a gorfod mynd i'r ysbyty. Nawr, mae tîm pobl hŷn Cyngor Abertawe yn cefnogi ymdrechion i godi ymwybyddiaeth ymhlith pobl hŷn a'u teuluoedd i'w hannog i fabwysiadu syniadau a fydd yn helpu i leihau'r risg o bobl hŷn yn cwympo yn eu cartrefi eu hunain. Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles, "Rydym oll yn gallu llithro, baglu a chwympo ar unrhyw adeg. Ond mae sawl peth y gallwn ei wneud yn ein cartrefi ein hunain i leihau'r
Sut gallwch chi helpu MEDDAI Marie Jones, Prif Nyrs y Gymuned gyda Thîm Clinigol Acíwt Abertawe, "Nid yw'r rhan fwyaf o gwympiadau yn achosi anaf difrifol, ond mae rhai yn arwain at dorri esgyrn a gall wneud i bobl deimlo'n llai annibynnol, yn fwy swil ac yn llai hyderus. "Ond mae sawl peth syml y gall pobl ei wneud megis gwneud ymarfer corff, bwyta'n dda, gwirio bod unrhyw feddyginiaeth y maen nhw'n ei defnyddio yn gywir iddyn nhw, yn ogystal â sicrhau eu bod nhw'n cael gwiriadau golwg a chlyw yn rheolaidd." I gael mwy o wybodaeth, gallwch fynd i'r wefan Heneiddio'n Dda, lle byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth eang o adnoddau: http://www.ageingwellinwales.com/wl/resource-hub/fp-resources risg. "Ar gyfer rhai pobl hŷn, gall cwympo arwain at gyfnod yn yr ysbyty, ffisiotherapi a gwasanaethau gofal cymdeithasol wedyn. Yr hyn y bydd yr ymgyrch atal cwympo yn ei wneud, gobeithio, yw lleihau nifer y bobl y mae angen triniaeth feddygol arnynt. Cynhelir yr ymgyrch ar y cyd â Bwrdd
Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM) a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe ac maent wedi llunio llyfryn defnyddiol llawn cyngor ar yr hyn y gall pobl ei wneud eu hunain i atal cwympo o amgylch y tŷ. Ceir copïau mewn meddygfeydd. Meddai'r Cyng. Child, "Er enghraifft, gall mat neu rỳg ar y carped edrych yn
gyfforddus ac yn dwym, ond mae hefyd yn berygl baglu os yw eich troed yn bachu ynddo. Mae ymyl y carped yn beryglus hefyd os nad yw wedi'i osod yn gywir. "Y cyngor gorau posib ar gyfer pobl hŷn yw sicrhau bod eu cartrefi mor daclus â phosib ac wedi'u goleuo'n dda fel y gellir gweld unrhyw beryglon baglu neu lithro'n rhwydd." Y llynedd, aeth mwy na 4,000 o bobl dros 75 oed i ysbytai PABM ar ôl iddynt gwympo. Er nad yw'r holl achosion o gwympo yn ymwneud ag esgidiau nad ydyn nhw'n ffitio'n dda, mae llawer ohonynt yn gysylltiedig â hyn. Mae'r sliperi sy'n fwyaf addas ar gyfer pobl hŷn yn isel, gyda chefn, sawdl llydan, ffasnydd felcro a gwadn cadarn, gwrth-lithr eu bod yn cynnig y gefnogaeth fwyaf. Dylid osgoi hen sliperi neu rai nad ydynt yn ffitio'n dda.