Arwain Abertawe Rhifyn 107
Mai 2017 tu mewn
Papur newydd Dinas a Sir Abertawe
eich dinas: eich papur
Eich Cyngor Y gwasanaethau sy'n gweithio drosoch chi bob dydd hefyd
tudalennau canol
• AMSER SBLASH: Nid yw'n rhywbeth arferol i bobl ifanc ddysgu nofio gydag enillydd medal aur ond dyna'r hyn y mae Chloe Davies, y nofiwr Paralympaidd, yn ei wneud ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Mwy ar dudalen 10. Llun gan Jason Rogers
Canol y ddinas yn datblygu’n gyrchfan o fri MAE trawsnewid canol dinas Abertawe'n gyrchfan blaenllaw ar gyfer manwerthu, hamdden, adloniant a busnes yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae cais cynllunio amlinellol ar gyfer safle datblygu Dewi Sant wedi'i gyflwyno. Bydd gwaith yn dechrau'n hwyrach eleni ar wella Ffordd y Brenin, ac mae brîff datblygu sy'n gofyn am gynigion i adfywio Sgwâr y Castell bellach yn cael ei lunio. Rivington Land sy'n rheoli ailddatblygu safle Dewi Sant ar ran Cyngor Abertawe. Mae'r cynlluniau ar gyfer safle hen ganolfan siopa Dewi Sant a maes parcio'r LC, yn cynnwys arena ddigidol dan do, siopau, bwytai, sinema bwtîc, gwesty, digon o fannau parcio ceir a phont lydan i gerddwyr dros Heol Ystumllwynarth. Bydd y brîff datblygu ar gyfer Sgwâr y Castell yn nodi nifer o amcanion allweddol, gan gynnwys
Cynlluniau Ffordd y Brenin BYDD gwaith dymchwel hen adeilad clwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin bron wedi'i gwblhau, gyda gwaith yn dechrau'n hwyrach eleni ar gynllun a fydd yn gwella golwg a naws Ffordd y Brenin yn sylweddol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys mwy o ardaloedd gwyrdd a newid y system draffig unffordd bresennol am system ddwyffordd, ynghyd â dileu'r lôn fysus ddynodedig.
mwy o wyrddni, cadw'r un faint o fannau cyhoeddus, ac argaeledd parhaus ar gyfer digwyddiadau. Meddai Phil Holmes, Pennaeth Cynllunio ac Adfywio Canol Dinas Abertawe Cyngor Abertawe, "Mae canol dinas Abertawe'n bwysig - nid ar gyfer preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr yn unig, ond hefyd fel ysgogwr economaidd ar gyfer Dinas-
ranbarth Bae Abertawe. “Mae canol y ddinas wedi dirywio dros y blynyddoedd am sawl rheswm gan gynnwys siopa ar y we a pharciau manwerthu ar gyrion y ddinas, ond yn ogystal â'r polisi cynlluniau sydd gennym ar waith sy'n rhwystro datblygu parciau manwerthu ar gyrion y ddinas yn y dyfodol, rydym hefyd wedi nodi nifer o gynlluniau a fydd yn gwrthdroi'r dirywiad. "Bydd y datblygiad defnydd cymysg ar gyfer safle Dewi Sant yn rhoi hwb i'r cynnig manwerthu a hamdden, a gallai syniadau ar gyfer Sgwâr y Castell ei drawsnewid yn lle mwy bywiog a phleserus wrth wraidd canol y ddinas. "Mae hefyd yn glir iawn bod angen denu mwy o ymwelwyr i ganol y ddinas i wario mwy a fydd yn creu buddsoddiad newydd, felly bydd ardal gyflogaeth ar Ffordd y Brenin ymhlith y cynlluniau a fydd yn arwain at fwy o bobl yn byw ac yn gweithio yng nghanol y ddinas."
Sioe Awyr Y Red Arrows yn dychwelyd i'r sioe genedlaethol tudalen 3
Rho 5 Ymunwch â Leon wrth iddo chwilio am y sêr tudalen 9
gwybodaeth
2
Arwain
Abertawe Rhifau ffôn defnyddiol Canolfannau Hamdden Abertawe Actif Penlan 01792 588079 Treforys 01792 797082 Penyrheol 01792 897039 Cefn Hengoed 01792 798484 Pentrehafod 01792 641935 Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt 01792 235040
Mai 2017
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Timau trwsio tyllau yn y ffordd yn ein cadw ni i symud
Priffyrdd Carthffosydd - 24 awr 0800 0855937 Draenio - dydd Llun i ddydd Gwener 01792 636121 Difrod i ffyrdd etc. 0800 132081 Materion eraill y priffyrdd 01792 843330 Tai Y prif rif 01792 636000 Atgyweiriadau (tenantiaid y tu allan i oriau arferol) 01792 521500 Y Gwasanaethau Cymdeithasol Ymholiadau Cyffredinol 01792 636110 Tîm Ymchwilio Mynediad Plant a Theuluoedd 01792 635700 Tîm Derbyn yr Henoed a’r Anabl 01792 636519 Anableddau Plant, Cefnogi Teuluoedd 01792 635700 Addysg Y prif rif 01792 636560 Yr Amgylchedd 01792 635600 Prif Switsfwrdd y Cyngor 01792 636000
• YN EICH ARDAL CHI: Bydd ein timau PATCH yn ymweld â'ch cymdogaeth chi dros yr haf MAE’R tîm trwsio tyllau yn ffyrdd ein dinas, PATCH, yn paratoi ar gyfer ei Daith Fawr flynyddol o Abertawe y mis hwn. Bydd y tîm yn ymweld â phob un o'r 34 o wardiau am hyd at bythefnos fel rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i atgyweirio ffyrdd a llenwi tyllau yn y ffordd o fewn 48 awr i adrodd am unrhyw ddiffyg. Y mis diwethaf canolbwyntiwyd ar atgyweirio ffyrdd yng Ngŵyr mewn lleoedd fel Llanilltud Gŵyr, Burry Green, Scurlage a Llangynydd cyn i ymwelwyr ddechrau heidio i'r ardal yn yr haf i weld rhai o atyniadau harddaf Prydain. Mae tyllau yn y ffordd ar draws y ddinas yn cael eu hatgyweirio ar gyfradd o 100 yr wythnos gyda
Buddsoddiad sy’n gwneud gwahaniaeth EWCH i www.abertawe.gov.uk/patch i weld pryd bydd y tîm yn dod i'ch ardal chi eleni. Gall preswylwyr roi gwybod am ddiffygion ffyrdd ar-lein, ac os ydynt yn darparu cyfeiriad e-bost, bydd y staff priffyrdd yn anfon e-bost atynt, gyda lluniau, pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau. Gellir dod o hyd i'r rhaglen waith yn www.abertawe.gov.uk/tyllauynyffordd
llawer mwy na 90% ohonynt yn cael eu llenwi o fewn 48 awr i adrodd amdanynt. Meddai Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant Cyngor Abertawe, y bydd yr addewid tyllau yn y ffordd yn parhau dros y misoedd nesaf. Meddai, "Mae Cyngor Abertawe wedi buddsoddi £1m ychwanegol o ran cynnal a chadw priffordd eleni,
ac mae peth o'r arian ychwanegol yn cefnogi'r Timau Trwsio Tyllau yn y Ffordd dynodedig. “Mae hyn yn ychwanegol at y timau cynnal a chadw cyson a thîm PATCH, sy'n ymweld â phob ward bob blwyddyn er mwyn targedu diffygion ffyrdd a'u trwsio.” Ers lansio'r addewid 48 awr ar gyfer tyllau yn y ffordd yr haf diwethaf, mae mwy na 3,000 o dyllau
yn y ffordd wedi cael eu llenwi ac mae adborth gan breswylwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dywedodd bron 94% o'r preswylwyr a holwyd eu bod yn fodlon ar sut yr ymdriniwyd â'u cais i lenwi twll yn y ffordd a dywedodd 93% ohonynt y cafodd y twll yn y ffordd ei lenwi o fewn 48 awr. Dywedodd Mr Davies, “Lle bynnag yr ewch, mae tyllau yn y ffordd yn broblem barhaus ond, yn ôl ystadegau annibynnol Llywodraeth Cymru, mae ffyrdd Abertawe ymysg y rhai sy'n derbyn y gofal gorau yng Nghymru. “Rydym yn benderfynol o gynnal lefel y gwaith hwn dros y misoedd nesaf a bydd tîm PATCH mor brysur ag erioed yr haf hwn.”
Mai - Gorffennaf 2017 Cysylltwch ag Arwain Abertawe
Arwain Abertawe yw papur newydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe
I gael y papur newydd hwn mewn fformat gwahanol ffoniwch 636226, ffôn testun 636733
Trysorau Coll Bae Abertawe 16 Mai - 13 Awst Amgueddfa Abertawe 01792 653763 Ysgrifennu i Blant gydag Eloise Williams 27 Mai Canolfan Dylan Thomas 01792 463980 Am fwy o ddigwyddiadau gwych, ewch i joiobaeabertawe.com
Gweithgareddau Gwyliau’r Hanner Tymor i Blant Actif 29 Mai - 2 Mehefin Canolfannau Hamdden Abertawe Actif abertawe.gov.uk/ abertaweactif Hwyl gyda Chrefftau i Blant 31 Mai Castell Ystumllwynarth 01792 635458 Taith Gyfrinachol George Ezra 3 Mehefin Neuadd Brangwyn 01792 635428
Gw ˆ yl Jazz Ryngwladol Abertawe 15 - 18 Mehefin Canolfan Dylan Thomas a Theatr Dylan Thomas jazzwales.com
joiobaeabertawe.com
I gysylltu â’r tîm newyddion ffoniwch 01792 636092
Parth Anifeiliaid: Bywyd Pryfed 30 - 31 Mai and 1 Mehefin Plantasia 01792 474555
Sioe Awyr Cymru 1 a 2 Gorffennaf Bae Abertawe sioeawyrcymru.co.uk Diwrnodau Dawns 8 a 9 Gorffennaf Lleoliadau Amrywiol 01792 602060 Gw ˆ yl Arbennig Abertawe 11 & 12 Gorffennaf Prifysgol Abertawe 01792 635428 SWANSEA – CANDIDATE CITY ABERTAWE – DINAS YMGEISIOL
Mai 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain
Abertawe
3
Crynodeb o’r
newyddion Clod i'r Glynn Vivian o ran ailgylchu
• YN HEDFAN HEIBIO: Tîm arddangos erobatig enwocaf y byd ar waith yn sioe awyr y llyned
Llun gan Stephanie Rutt
YN fuan bydd arddangosiadau erobatig o safon ryngwladol yn gwefreiddio cannoedd ar filoedd o bobl yn yr awyr uwchben Abertawe. Mae timau arddangos Red Arrows a Typhoon yr RAF eisoes wedi cael eu cadarnhau ar gyfer Sioe Awyr Cymru, un o ddigwyddiadau am ddim mwyaf y DU, a gynhelir ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf a dydd Sul 2 Gorffennaf. Mae Prifysgol Abertawe'n noddi Sioe Awyr Cymru eleni. Amcangyfrifir bod y digwyddiad, a ddenodd fwy na 200,00 o wylwyr y llynedd, yn werth miliynau o bunnoedd i economi Abertawe. Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer
Gwybodaeth
Uchafbwyntiau’r sioe awyr gyda’r Red Arrows MAE digwyddiadau arfaethedig eraill yn cynnwys Cynhadledd Comics a Gemau Cyfrifiadurol Abertawe 2017 yn y Brangwyn ar 27 Mai, Sioe Beiciau Modur Clasurol Amgueddfa Abertawe ar 11 Mehefin, Footloose yn Theatr y Grand o 19 Mehefin i 24 Mehefin, ac Olly Murs yn fyw ym Mharc Singleton ar 12 Awst. Ewch i www.joiobaeabertawe.com i gael mwy o wybodaeth.
Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae'r sioe awyr, a gynhelir yr haf hwn am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn ddigwyddiad mawr sy'n rhan o raglen digwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe. “Yn ogystal â darparu adloniant o safon ryngwladol i breswylwyr ac ymwelwyr, mae'r sioe awyr hefyd yn ddigwyddiad pwysig i fusnesau oherwydd
nifer yr ymwelwyr ychwanegol a'r gwariant oherwydd hynny. Mae Sioe Awyr Cymru bellach yn ddigwyddiad allweddol yn ein calendr blynyddol o ddigwyddiadau.” Yn ogystal ag arddangosiadau awyr, bydd adloniant ar y tir hefyd yn rhan o sioe awyr yr haf hwn, gydag awyrennau cyfranogol eraill i'w cadarnhau dros yr wythnosau nesaf.
Ymysg digwyddiadau eraill a gynhelir yn fuan bydd Gerddi Clyn yn eu Blodau trwy gydol mis Mai, diwrnod hanes byw canoloesol yng Nghastell Ystumllwynarth ddydd Sadwrn 27 Mai, a Threiathlon Abertawe ddydd Sul 28 Mai. Gyda 40 o ddigwyddiadau mewn 15 o leoliadau ar draws yr Ardal Forol, mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe hefyd yn dychwelyd i'r ddinas o ddydd Iau 15 Mehefin i ddydd Sul 18 Mehefin. Mae'r gantores Ruby Turner, sy'n adnabyddus am gydweithredu â Jools Holland, ymhlith y perfformwyr sy'n cymryd rhan. Cynhelir Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Sgwâr y Castell ar 24 Mehefin cyn i Farathon Abertawe JCP ddychwelyd ddydd Sul 25 Mehefin.
DENGYS ffigurau fod 82.9% o wastraff y prosiect adnewyddu wedi'i ailgylchu, cafodd 12.1% ei drawsnewid yn ynni a chafodd 1.8% ei atal neu ei ail-ddefnyddio. Dyma rai o'r rhesymau pam mae adnewyddu Oriel Gelf Glynn Vivian wedi'i amlygu gan Ragoriaeth Adeiladu yng Nghymru fel enghraifft o arfer gorau. Ac yntau'n gyfrifol am adeiladu amgylchedd adeiledig gwell, dywed Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru fod cyflawni cyfradd o 96.6% ar gyfer ailddefnyddio, ailgylchu neu adfer deunyddiau eraill ar gyfer prosiect Glynn Vivian, yn dangos pa mor hwylus yw cyflawni targed presennol Llywodraeth Cymru o 70%. Roedd adnewyddu Oriel Glynn Vivian yn un o nifer o brosiectau ar draws Cymru sydd wedi cymryd rhan yn y fenter Galluogi Dim Gwastraff, gyda Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru'n darparu cyngor technegol ac arweiniad.
Haf disgleiriach ar fin blodeuo CAIFF cannoedd o fasgedi crog eu harddangos ar draws Abertawe dros yr haf. Gyda'r gwanwyn bellach wedi cyrraedd, dywed Cyngor Abertawe ei fod eisoes wedi derbyn archebion am dros 700 o fasgedi crog gan breswylwyr a busnesau ar draws y ddinas. Meddai Mark Russ, o wasanaeth parciau a glanhau Cyngor Abertawe, "Yn ogystal â'r holl waith y mae'r gwasanaeth parciau'n ei wneud ar draws y ddinas drwy gydol y flwyddyn i wneud Abertawe'n lle mor hyfryd â phosib, mae gennym hefyd gynllun basgedi crog poblogaidd y mae llawer o breswylwyr a busnesau'n gwneud yn fawr ohono bob haf.”
£100k i weddnewid meysydd parcio prysur MAE nifer o barciau yng nghanol y ddinas wedi cael eu hailwynebu fel rhan o raglen weddnewid gwerth £100,000. Ymysg y chwe maes parcio a reolir gan Gyngor Abertawe a gafodd eu hailwynebu mae Salubrious Passage, Stryd Pell, Heol East Burrows, Y Llaethdy yn y Mwmbwls a Heol Brighton, Gorseinon. Meddai Stuart Davies, Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, “Meysydd parcio awyr agored cymharol fach yw'r rhain ond cânt eu defnyddio'n rheolaidd ac mae'n bwysig ein bod yn sicrhau eu bod yn addas at y diben.”
Eich Arwain Abertawe Y Post Brenhinol sy’n dosbarthu’ch Arwain Abertawe i chi. Fodd bynnag, nid yw unrhyw bost a ddosberthir ynghyd ag Arwain Abertawe’n cael ei gefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.
4
Arwain
Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Mai 2017
Amser i Gyrwyr tacsis yn ymuno ag ymgyrch ddiogelu ysgolion ddisgleirio MAE gyrwyr tacsis wedi cymeradwyo sesiwn Cadw ein cymunedau'n ddiogel hyfforddi am ddim i'w helpu i chwarae rhan wrth MAE mwy na 5,000 o weithwyr y cyngor - o ddiogelu pobl ddiamddiffyn yn Abertawe. blymeriaid a seiri coed i gyfrifwyr a Hyd yn hyn, mae dros 200 o yrwyr wedi dilyn y gweithredwyr canolfannau galwadau - hefyd cwrs a gynhelir gan staff arbenigol gwasanaethau wedi derbyn hyfforddiant. cymdeithasol Cyngor Abertawe. BYDD paneli solar yn cael eu Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cynnig yr Yn ôl llawer ohonynt, mae'r cwrs yn amhrisiadwy gosod mewn chwe ysgol yn hyfforddiant i grwpiau eraill o weithwyr yn y gan eu bod bellach yn gwybod beth i'w wneud os Abertawe er mwyn lleihau eu sector preifat yn y dyfodol. ydynt yn pryderu am ddiogelwch plentyn neu hôl troed carbon a darparu I gael mwy o wybodaeth am ddiogelu yn Abertawe ewch i cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu oedolyn diamddiffyn. Meddai'r gyrrwr Nigel Lucas, "Rwy'n credu y dylai www.abertawe.gov.uk/diogeluoedolion neu am yr amgylchedd a'r www.abertawe.gov.uk/diogeluplant pob gyrrwr fynd ar y cwrs er mwyn lledaenu'r neges. dechnoleg a ddefnyddir ar Rwy'n falch fy mod i wedi bod." gyfer y paneli. Mae mwy na 5,000 o weithwyr y cyngor - o Mae'r cyngor yn bwriadu darparu'r sesiynau 90 Cyngor Abertawe sy'n munud am ddim i'r 1,100 o yrwyr tacsis sy'n gweithio blymeriaid a seiri coed i gyfrifwyr a gweithredwyr gyfrifol am y cynllun a fydd canolfannau galwadau - hefyd wedi derbyn hefyd yn gweld paneli'n cael eu yn y ddinas dros y misoedd nesaf. gosod yn Oriel Gelf Glyn Vivian. Mae'r cyngor yn buddsoddi oddeutu £200,000 yn y prosiect ac yn amcangyfrif y bydd y paneli'n talu ar eu canfed o fewn 10 mlynedd ac wedyn yn darparu incwm i'r awdurdod ar ôl hynny. Cynhaliwyd astudiaethau dichonoldeb er mwyn nodi ym mha ysgolion y byddai'r paneli'n gweithio orau, gan ystyried ffactorau megis addasrwydd y to a gallu'r rhwydwaith trydan lleol. Caiff paneli eu gosod yn yr ysgolion canlynol: Ysgol Gynradd Pentrechwyth, Ysgol Gynradd Talycopa, Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gynradd Cilâ, Ysgol Gynradd St Thomas ac Ysgol Gyfun yr Olchfa. Mae'r cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Ynni Cyngor Abertawe a'i ymroddiad i leihau'r defnydd o ynni a gwella effeithlonrwydd ynni yn adeiladau'r cyngor. Mae hefyd yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth Cymru i leihau allyriadau tŷ gwydr holl awdurdodau lleol y wlad 80% erbyn 2050.
Galw am strydoedd glanach MAE busnesau canol y ddinas yn cael eu hannog i reoli eu gwastraff masnachol yn gywir neu wynebu camau gorfodi. Daw'r arweiniad gan Gyngor Abertawe ar ôl i fusnes arall ar Heol San Helen dderbyn dirwy a chostau gwerth dros £1,500. Cyflwynwyd nifer o gosbau penodol yn ddiweddar hefyd sy'n ymwneud â gwastraff masnachol wedi'i adael ar Y Strand. Meddai llefarydd ar ran y cyngor, "Gobeithio y bydd yr achosion hyn yn anfon neges i fusnesau eraill bod gwaredu eich gwastraff yn anghyfrifol yn annerbyniol.” Mae'r cyngor yn gwario mwy na £2m y flwyddyn ar gadw'r strydoedd yn lân a mynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.
hyfforddiant. Mae'r cyngor hefyd yn ystyried cynnig yr hyfforddiant i grwpiau allweddol eraill o weithwyr yn y dyfodol. Meddai Jayne Harries o Wasanaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd y cyngor, "Rydym yn falch iawn o'r adborth rydym wedi'i dderbyn gan y gyrwyr sydd wedi dilyn yr hyfforddiant hyd yn hyn, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am roi o'u hamser a gwneud ymdrech i gymryd rhan. "Mae Cyngor Abertawe'n credu y dylai diogelu pobl ddiamddiffyn ein cymunedau fod yn flaenoriaeth i bawb, a gall gyrwyr tacsis chwarae rôl bwysig oherwydd eu bod yn gweld llawer o'r hyn sy'n digwydd pan fyddant y tu ôl i olwyn eu cerbydau."
• YN EICH GWASANAETHU: Mae Rachel Richards yn mwynhau'r her o weithio yng Nghiosg Parc Victoria.
Mae ein timau’n cynnig ysbryd cymunedol gwych OS bydd Gwasanaeth Datblygu Gwaith Cyngor Abertawe'n cynnal cinio i ddathlu ei benblwydd yn 10 oed, gallai wneud dewisiadau llawer gwaeth na dewis y caffi bach a'r ciosg mae'n eu cynnal ym Mharc Victoria fel y lleoliad. Gyda phastai corn-bîff, sglodion a grefi am £2.75 yn ogystal â phrydau dyddiol arbennig, mae digon ar gael am bris rhesymol. Mae'r ciosg yn un o saith prosiect a gynhelir gan y Gwasanaeth Datblygu Gwaith, neu sydd wedi'i ddatblygu ganddo er mwyn helpu pobl ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl i ddod o hyd i swydd, a'i chadw, gan gefnogi adrannau'r cyngor ar yr un pryd.
Ein saith gwasanaeth gwych YMYSG y saith gwasanaeth gwych a ddarperir gan y Gwasanaeth Datblygu Gwaith mae'r Podiau Cymunedol sy'n mynd i'r afael â materion megis gordyfiant, sbwriel a chyfeirio aelodau'r cyhoedd i wasanaethau eraill y cyngor. Mae’r prosiect glanhau cymunedol adnabyddus, NEAT, bellach wedi cynyddu i saith tîm sy'n gyfrifol am bob ward yn ninas Abertawe. Nod y prosiect Uwchgylchu Beiciau yw trin beiciau sy'n cael eu cyfrannu neu sydd wedi'u taflu er mwyn creu rhai newydd sydd wedyn yn cael eu rhoi i ysgolion ac i achosion da eraill.
Yn yr amser hwnnw, mae dros 245 o bobl wedi cael cymorth i fynd i'r byd gwaith o ganlyniad i'r hyfforddiant a ddarperir, a'r hyder maent wedi'i fagu. Meddai Angela Hann, sy'n cefnogi'r ciosg, "Rydym yn teilwra'r patrwm gwaith i fod yn addas i'r unigolion ac felly, os oes ganddynt sgiliau mewn maes penodol, byddwn yn eu helpu i ffynnu. Yr hyn rwyf wir yn ei fwynhau yw gweld y newid
cadarnhaol yn ein cleientiaid a sut maent yn tyfu - rydych yn gweld person hollol wahanol." Meddai Rachel Richards, sydd wedi bod yn y ciosg ers mis Medi, "Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau newydd ac rwy'n mwynhau cwrdd â'r cwsmeriaid. Gall fod yn brysur, ond rwyf wir yn mwynhau dod i'r gwaith." Dywedodd Debora Webb, rheolwr y gwasanaeth a'r prosiectau, fod prosiectau
eraill y gwasanaeth, yn ogystal â'r ciosg, yn cynnwys y tîm ailgylchu sy'n gweithio gyda Gwastraff Abertawe i ddidoli'r deunyddiau ailgylchu sy'n cael eu derbyn yn y safle byrnu er mwyn sicrhau bod popeth y gellir ei ailgylchu yn Abertawe'n cael ei ailgylchu. Meddai, "Mae'r Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd yn cefnogi'r henoed i gynnal a chadw eu gerddi, ac yn helpu elusennau megis Ymddiriedolaeth Penllergaer gyda'r gwaith maent yn ei wneud. Mae'r rhandiroedd ym Meithrinfa Fforestfach yn tyfu ffrwythau a llysiau ffres drwy gydol y flwyddyn er mwyn eu defnyddio mewn siopau megis y ciosg, ac yn gweithio gyda myfyrwyr ac ysgolion i helpu i addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd bwyta'n iach a lles."
Mai 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Arwain
Abertawe
5
Crynodeb o’r
newyddion 10k Bae Abertawe Admiral 2017 GALL y rhai sy'n frwd dros ffitrwydd, pobl sy'n codi arian i elusennau ac addunedwyr Blwyddyn Newydd osod dyddiad yn eu calendrau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral eleni. Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd Ras 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd i'r ddinas ddydd Sul 24 Medi. Cyflwynwyd y 10k gyntaf ym 1981 ac mae wedi denu cannoedd ar filoedd o gystadleuwyr o bob oed a lefel ffitrwydd dros y blynyddoedd ac mae Admiral wedi penderfynu parhau i noddi'r digwyddiad. Meddai Geraint Jones, Prif Swyddog Ariannol Admiral, "Rydym yn falch iawn o noddi Ras 10k Bae Abertawe Admiral am dair blynedd arall.” Ewch i www.10kbaeabertawe.com i gofrestru ar gyfer Ras 10K Bae Abertawe Admiral 2017.
Rhybudd i breswylwyr am alwyr diwahoddiad • FFORDD I LWYDDIANT: Bydd arena canol y ddinas yn rhan allweddol o'n cynlluniau ar gyfer Dinas Diwylliant 2021.
Gall pawb gefnogi’n cais Dinas Diwylliant YN sgîl llofnodi'r Fargen Ddinesig, mae Abertawe wedi gwneud cais am statws Dinas Diwylliant y DU 2012. Wedi'i chanmol fel rhaglen adfywio a arweinir gan ddiwylliant, bydd statws Dinas Diwylliant y DU yn gweld y ddinas lwyddiannus yn dilyn yn ôl troed Lerpwl, Glasgow, Hull a Deri. Yn Abertawe, creadigrwydd ac arloesedd yw ysgogwyr allweddol cynigion i drawsnewid canol y ddinas ac mae Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid a grwpiau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod strategaeth ddiwylliannol yn rhan o'r weledigaeth. Creda'r cyngor y bydd meddu ar statws Dinas Diwylliant y DU yn rhoi dimensiwn newydd i'r gwaith hwn
Mae gwneud yn fawr o'n hasedau'n brif flaenoriaeth MAE cynghorau Sir Gâr a Chastell-nedd Port Talbot, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, PABM, Clwb Pêldroed Abertawe, BID Abertawe a busnesau lleol yn cefnogi'r cynnig. Bydd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn disgwyl i gynigion terfynol gan ddinasoedd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer gael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Medi. drwy ddatgloi gwerth miliynau o Mae hyn yn cynnwys sgwâr digidol bunnoedd o gyllid ychwanegol a a fydd yn cynnig mynediad digyffelyb fyddai'n galluogi preswylwyr ac i wybodaeth ac ymchwil, yn ogystal ag ymwelwyr â'r ddinas i fwynhau arena dan do newydd â gallu digidol amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau, cwbl gyfoes. Mae cynigion eraill yn gwyliau, cynyrchiadau teithiol a cynnwys cyrchfan digidol ar Ffordd y phrosiectau cymunedo. Brenin lle gall diwydiannau creadigol Ymysg y cynlluniau adfywio ar fanteisio ar isadeiledd digidol blaengar. gyfer Abertawe mae adeiladu Roedd Abertawe wedi colli allan o isadeiledd digidol o safon byd-eang a drwch blewyn i fod yn Ddinas fydd yn cynnig lled band a chysylltedd Diwylliant y DU yn 2017, ond mae'r gwell y gall busnesau a chymunedau cyngor a'i bartneriaid wedi bod yn elwa ohonynt. meithrin partneriaethau tymor hir,
ymrwymiadau polisi a strategaethau i gefnogi'r cais ar gyfer statws Dinas Diwylliant y DU yn 2021 hyd yn oed yn fwy. Meddai Tracey McNulty, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe, "Gydag amser ac arian yn brin, mae llwyddiant y tîm yn 2013 wrth ein helpu i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2017 yn dangos y gefnogaeth a gynigir yn Abertawe ar gyfer diwylliant. "Mae datblygu cyfleoedd newydd drwy raglen Dinas Diwylliant y DU ar gyfer ein cymunedau mwyaf tlawd a difreintiedig i greu a rhannu gweithgareddau diwylliannol a chreadigol a manteisio arnynt wrth wraidd ein cynnig. Rydyn ni am i'n cymunedau elwa, a'n pobl ifanc yn arbennig."
Castell ar agor i’r cyhoedd bob dydd MAE un o dirnodau mwyaf poblogaidd ein dinas wedi agor ei gatiau i'r cyhoedd ar gyfer tymor yr haf. Bydd Castell Ystumllwynarth, sy'n edrych dros gymuned y Mwmbwls, ar agor i'r cyhoedd rhwng 11am a 5pm bob dydd tan 30 Medi. Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy'n rheoli'r atyniad. Mae nodweddion y castell yn cynnwys hen waith celf o'r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy'n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Meddai Erika Kluge, Swyddog Cymunedol Castell Ystumllwynarth yng Nghyngor Abertawe, "Mae'r cyngor yn gweithio'n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth, i gynnal yr atyniad hanesyddol a hefyd i drefnu nifer o ddigwyddiadau sy'n addas i deuluoedd bob haf. "Daeth miloedd ar filoedd o bobl i ymweld â Chastell Ystumllwynarth y llynedd i fwynhau detholiad o weithgareddau, felly rydym yn disgwyl niferoedd tebyg eleni. "Mae'r castell yn cynnig profiad o'r radd flaenaf i
ymwelwyr sydd yr un mor bleserus ag y mae'n addysgol. Yn ogystal â hybu twristiaeth treftadaeth yn Abertawe, mae stori lwyddiant defnydd y castell drwy gydol misoedd yr haf hefyd yn cefnogi ein cynnig am statws Dinas Diwylliant 2021." Cyflawnwyd cynllun cadwraeth sylweddol yng Nghastell Ystumllwynarth yn ddiweddar gydag arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru trwy Cadw a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Cefnogwyd y cynllun gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
MAE Swyddogion Safonau Masnach yn annog preswylwyr i ddefnyddio'u synnwyr cyffredin a phwyllo cyn cytuno i bobl wneud mân dasgau a gwelliannau yn eu cartrefi. Daw'r alwad hon wrth i'r nosweithiau hwyhau ac mae masnachwyr a chwmnïau diwahoddiad yn dechrau cysylltu â phreswylwyr y ddinas. Mae'r cyngor hefyd yn dilyn cwyn gan breswylydd yn Nynfant a roddodd wybod i Gyngor Abertawe'n ddiweddar am gwmni a oedd yn curo ar ddrysau yn yr ardal, er ei bod hi wedi datgan ei hun yn 'Ardal Dim Galw Diwahoddiad'. Mwy o wybodaeth yma http://www.abertawe.gov.uk/ safonaumasnach
Mae gan ein siop dan yr unto bopeth MAE mwy o wasanaethau nag erioed o'r blaen bellach ar gael ar Info-Nation yn Ffordd y Brenin. Mae'r siop dan yr unto ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac mae'n darparu gwybodaeth am ddim a chyfrinachol yn ogystal â chyngor ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys iechyd rhywiol, perthnasoedd, camddefnyddio sylweddau a dod o hyd i waith. Ewch i www.infonation.org.uk/cymraeg-home i gael mwy o wybodaeth neu ffoniwch 01792 484010.
Llygad barcud ar dipio'n anghyfreithlon MAE camerâu dirgel wedi'u gosod mewn nifer o fannau tipio anghyfreithlon poblogaidd yn Abertawe mewn ymgais i leihau tipio anghyfreithlon. Mae Cyngor Abertawe'n gobeithio y bydd y camerâu'n helpu i ganfod pobl sy'n gwaredu gwastraff ar unrhyw un o'r safleoedd er mwyn eu herlyn. Bydd y camerâu hefyd yn helpu i atal pobl rhag ystyried gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.
Arwain
Abertawe Ceisiadau prentisiaid MAE cannoedd o bobl wedi cyflwyno ceisiadau am brentisiaethau mewn plymwaith, gwaith trydanol, gwaith saer, plastro a gosod briciau yng Nghyngor Abertawe. Mae'r cyngor yn chwilio am 12 o brentisiaid newydd yn yr Adran Gwasanaethau Adeiladau ac Eiddo Corfforaethol, a fydd yn helpu i weithio ar brosiectau fel gosod ystafelloedd ymolchi a cheginau newydd yn nhai'r cyngor, adeiladu cartrefi cyngor newydd a chynnal a chadw cyfleusterau i dwristiaid ar benrhyn Gŵyr. Ar ôl y profion, gwahoddir yr ymgeiswyr llwyddiannus i ddechrau swyddi pedair blynedd ym mis Medi. Meddai Martin Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd Cyngor Abertawe, "Mae nifer y ceisiadau am brentisiaethau'n dangos poblogrwydd ac enw da'r swyddi prentisiaeth yn y cyngor."
Sinema gyda golygfeydd go iawn YN ôl oherwydd galw mawr yng Nghastell Ystumllwynarth eleni mae'r sinema enfawr. Bydd ffilm Russell Crowe, Gladiator, ymysg y ffilmiau sydd ar gynnig, trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Abertawe a The Luna Cinema. Bydd y ffilm, sy'n cynnwys Russell Crowe, yn cael ei dangos yn y castell nos Fercher 13 Medi. Bydd y ffilm Mamma Mia, sy'n cynnwys Meryl Streep a Pierce Brosnan, yn cael ei dangos nos Iau 14 Medi. Mae tocynnau ar gyfer y ddwy ffilm ar werth yn www.thelunacinema.co m
Lleisiwch eich barn MAE preswylwyr sydd am ddweud eu dweud am wasanaethau'r cyngor a materion lleol yn gallu ymuno â'n panel dinasyddion, Lleisiau Abertawe. Adnewyddir ei aelodaeth yn gyson i sicrhau bod y panel yn dal i gynrychioli poblogaeth y sir a rhoi'r cyfle i gynifer o bobl ag y bo modd gymryd rhan. Gwnewch gais yn www.abertawe.gov.uk/a rticle/7003/LleisiauAbertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Mai 2017
Preswylwyr yn dod yn gyfarwydd â newidiadau i’r drefn ailgylchu PRYD nad yw plastig yn blastig? Neu, yn hytrach - pa blastigion y gellir eu hailgylchu a pha rai nad oes modd eu hailgylchu? Mae rhai preswylwyr wedi bod yn gofyn y cwestiwn hwn ers i'r newidiadau hyn gael eu cyflwyno yn gynharach eleni i gasgliadau plastig ymyl y ffordd. Gofynnir i bawb sy'n helpu'r cyngor i ailgylchu osgoi rhoi bagiau plastig a haenen blastig yn y casgliadau sachau pinc. Gall hyn deimlo fel cam yn ôl i rai, ond mae'n hanfodol bod y cyngor yn ymateb i ofynion newidiol ailbroseswyr fel ein bod yn gallu gwneud y gorau o'r plastig sy'n cael ei gasglu. Meddai Chris Howell, Pennaeth Gwastraff Cyngor Abertawe, "Mae preswylwyr yn gwneud gwaith gwych o ran ailgylchu eu plastig. Mae'n wych gweld cynifer o sachau pinc ar y strydoedd ar ddiwrnod casglu'r biniau ac mae'n dangos yn glir bod aelwydydd yn gwneud y peth iawn. "Mae'r newidiadau diweddar i'r hyn sy'n cael mynd yn y sachau yn bwysig am ein bod yn trosglwyddo'r plastigion i gwmniau ailgylchu trydydd parti, ac mae'n rhaid i safon y plastig y maent yn ei dderbyn fod mor uchel â phosib. Mae eitemau megis bagiau plastig, deunydd lapio a haenen blastig yn blastigion o ansawdd gwael iawn, ac felly nid yw llawer o'r cwmnïau ailgylchu eisiau nhw rhagor." Mae'r cyngor hefyd yn bwriadu cyflwyno cynlluniau i gyflwyno bagiau pinc y gellir eu hailddefnyddio ar draws y ddinas fel ffordd well o gasglu plastig. Meddai Mr Howell, "Rydym yn ymwybodol y gall sachau pinc untro, hyd yn oed pan maent yn llawn blastig, fod yn eithaf ysgafn, ac, oherwydd hyn, gallant gael eu chwythu ar draws y strydoedd pan fydd tywydd garw a gwyntog. Mae'r bagiau pinc newydd yn debyg i'r sachau gwyrdd presennol ar gyfer gwastraff gardd ac mae ganddynt hefyd bwysau yn y gwaelod sy'n helpu i'w hatal rhag chwythu i ffwrdd. Erbyn 2020, bydd angen i gynghorau Cymru ailgylchu 64% o'r gwastraff a
gynhyrchir.
Cwestiynau Cyffredin
Gwnaethon ni
Dywedoch chi
Gofynnom ni
6
• YN Y PINC: Rydym yn ei gwneud mor hawdd â phosib i ailgylchu
• Pam na allaf roi fy haenen lynu blastig a'm bagiau plastig mewn sachau pinc? Er mwyn ailgylchu'r plastig yn y DU, mae'n rhaid i ni wahanu'r haenen blastig/bagiau o'r pecynnau plastig anhyblyg oherwydd gofynion newydd y cwmnïau ailgylchu. • Mae'n bosib ailgylchu bagiau plastig, felly pam mae rhaid i mi eu tynnu nhw o'r sach binc? Pan fydd y deunyddiau hyn yn cael eu cymysgu ag eitemau plastig anhyblyg sy'n uwch eu gwerth megis poteli, tybiau a hambyrddau, mae hi'n anodd iawn gwahanu'r rhain ac maent yn cael eu dal ym mheirianwaith y ganolfan ailgylchu, sy'n achosi llawer o drafferthion. • Ble dylwn i roi fy haenen blastig/bagiau plastig nawr?
Bydd rhaid i'r eitemau hyn fynd yn eich sachau du. Yn y pen draw, bydd y penderfyniad hwn i gael gwared â'r haenen blastig a'r bagiau plastig yn diogelu'r gwasanaethau casglu ailgylchu. • A allaf roi fy magiau plastig unrhyw le arall? Mae gan rai o'r archfarchnadoedd mawr fannau casglu ar gyfer bagiau plastig yn eu siopau. • Ydy hyn yn golygu y gallaf roi sach ddu ychwanegol allan i'w chasglu? Gan fod modd cywasgu'r math hwn o wastraff yn hawdd, ni ddylai gymryd llawer o le ychwanegol yn eich sach ddu. Sicrhewch eich bod yn gwneud defnydd llawn o'n casgliadau ailgylchu ymyl y ffordd. • RHAGOR o wybodaeth: www.abertawe.gov.uk/recycling
Haf blodeuog ar y gweill BYDD mwy na 180 o safleoedd ar draws y ddinas, gan gynnwys cylchfannau, ymylon ffyrdd a pharciau, yn blodeuo erbyn canol mis Mehefin. Mae Gwasanaeth Parciau a Glanhau Cyngor Abertawe wedi bod yn hau mwy na 41,000 milltir sgwar o flodau gwyllt - sydd gyfwerth ag oddeutu saith cae pêl droed o ran maint. Bydd y blodau'n cael eu plannu yn ystod mis Ebrill a Mai.Ers iddo ddechrau, mae cynllun y blodau gwyllt wedi tyfu a thyfu, ac wedi dennu canmoliaeth preswylwyr ac ymwelwyr.
Bydd rhywfaint o weithio eleni i ddileu nifer o safleoedd lle nad yw'r blodau wedi ffynnu o'r rhestr ac ychwanegu safleoedd eraill. Ariennir y cynllun blodau gwyllt gan Gyngor Abertawe gyda chyfraniadau gan rai cynghorau cymuned a rhai adrannau mewnol. Meddai Mark Russ, o'r Gwasanaeth Parciau, "Mae'r cynllun blodau gwyllt wedi bod yn hynod boblogaidd gyda phreswylwyr ac ymwelwyr ers cael ei gyflwyno gyntaf, felly rwy'n falch o ddatgan bod paratoadau eisoes ar waith iddo ddychwelyd yr haf hwn. "Mae'n gynllun ardderchog gan ei fod yn codi hwyliau
pobl, yn gwella golwg y ddinas ac yn rhoi hwb i fioamrywiaeth drwy ddenu mwy o wenyn a pheillwyr eraill i ardaloedd trefol. "Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar gyfer y cynllun bob blwyddyn ac rydym yn hyderus y bydd hyn yn talu ar ei chanfed eto." Mae gwasanaeth parciau'r cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyfeillion y Gerddi Botaneg, sy'n gwerthu'r hadau yn ystod eu digwyddiadau gwerthu planhigion.
Mai 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.abertawe.gov.uk/newyddion
Arwain
Abertawe
7
Crynodeb o’r
newyddion Clod am agwedd ragorol MAE pedair o ysgolion Abertawe wedi cael eu cydnabod mewn gwobrau cenedlaethol sy'n dathlu rhagoriaeth mewn addysg. Cafodd Ysgol Gynradd San Helen, Ysgol Gynradd Penllergaer, Ysgol Gyfun Pontarddulais ac Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed y sylw i gyd mewn seremoni a drefnwyd gan Estyn, y Brif Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Roedd y gwobrau'n cydnabod ysgolion a cholegau y barnwyd eu bod yn rhagorol o ran eu perfformiad presennol neu eu rhagolygon i wella, neu'r ddau. Derbyniodd cynrychiolwyr o'r ysgol dystysgrif a llongyfarchiadau gan Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn. Meddai, "Mae'n bwysig dathlu rhagoriaeth a gyflawnwyd trwy waith caled ac ymrwymiad yn addysg Cymru."
Mae cais ariannu yn gyfle NEET • ADEILADU DYFODOL Bydd ysgol newydd Lôn-las yn ysgol y gall cymuned gyfan Llansamlet ymfalchïo ynddi.
Disgyblion i ffynnu mewn ysgol newydd gwerth £9.8m MAE mwy na 500 o ddisgyblion yn Abertawe wedi dychwelyd i gael gwersi ar ôl gwyliau'r Pasg mewn ysgol newydd sbon. Mae pobl ifanc a staff yn YGG Lôn-las yn dod i'r arfer â'u hamgylchoedd newydd ar ôl i'r gwaith ailadeiladu gwerth £9.8 gael ei gwblhau cyn amser. Mae arweinwyr yr ysgol yn dweud bydd eu cartref newydd o les i bawb. Nid oedd yr ysgol i fod i agor tan fis Medi ond gorffennodd Dawnus, prif gontractwr y gwaith, y gwaith yn gynnar. Dywedodd Karen Thomas y bu staff, disgyblion a rhieni yn gyffrous iawn am symud. Roedd YGG Lôn-las wedi bod yn rhannu safle Ysgol Gymraeg y Cwm ym Monymaen wrth i'r hen adeiladau a oedd mewn cyflwr truenus gael eu
Buddsoddiad addysg sydd o bwys MAE gwaith bellach yn mynd rhagddo ar brosiect gwerth £15.1m i adnewyddu Ysgol Pentrehafod. Mae'n cynnwys cael gwared ar gabanau presennol, gosod to a ffenestri newydd, ailfodelu, adnewyddu ac estyn yr adeiladau presennol, yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon gwell. Dyma un o'r darnau mawr olaf o waith sydd i'w wneud yng ngham diweddaraf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Abertawe, sydd wedi cynnwys buddsoddiad o oddeutu £100m mewn adeiladau ysgol yn y ddinas dros y blynyddoedd diwethaf. Mae prosiectau eraill wedi cynnwys adeiladau newydd ar gyfer ysgolion cynradd Tregŵyr a Burlais, gwaith adnewyddu helaeth yn Ysgol Gynradd Pentre'r Graig a buddsoddiad o £22m yn Ysgol Gyfun Treforys.
dymchwel. Meddai Mrs Thomas, "Mae'n mynd i gael effaith gadarnhaol iawn arnom ni i gyd. Roedd yr hen adeilad a oedd gennym mewn cyflwr gwael, ond bydd yr adeilad newydd hwn yn cefnogi safon uchel yr addysg rydym yn ei darparu. "Hoffwn ddiolch i'r Cwm am roi
lle i ni wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Roedd ein partneriaeth yn arbennig ac rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw am y dyfodol." Ariennir prosiect Lôn-las gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif i adnewyddu cyfleusterau ysgolion ar draws y
ddinas a helpu i wella addysg a hybu cyrhaeddiad disgyblion. Yn ogystal â gorffen yn gynt na'r disgwyl, mae Dawnus hefyd wedi gwneud gwaith ychwanegol yn Ysgol Gymraeg y Cwm ar ben prosiectau cymunedol yn ardaloedd Bonymaen a Llansamlet. Mae'r cwmni wedi atgyweirio a diweddaru llwybrau mynediad i warchodfa natur chwe hectar yn agos at Lôn-las, sy'n un o'r ychydig ardaloedd o wlyptir ar ôl yn y ddinas. Meddai Matthew Morgan, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Dawnus, "Mae Lôn-las wedi bod yn brosiect enghreifftiol, a gyflawnwyd yn gynt na'r disgwyl ac i safon uchel, a hwyluswyd trwy ymdrechion tîm rheoli prosiectau Dawnus a'r cyngor. "Mae'r prosiect wedi cefnogi gweithlu o dros 250 o bobl a gyflogir yn uniongyrchol yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe."
Presenoldeb yn anelu at y safon aur MAE cynlluniau llawn hwyl i annog plant i beidio â cholli ysgol yn dwyn ffrwyth yn Abertawe. Mae ffigurau diweddaraf yn dangos bod presenoldeb mewn ysgolion cynradd am y flwyddyn academaidd hon hyd yn hyn yn 95.3%, sydd wedi codi o 94.9% yn 2015/16. Eleni cyflwynodd Cyngor Abertawe ei Raglen Ysgogi Presenoldeb sy'n rhoi'r cyfle i bob disgybl sydd â phresenoldeb ardderchog neu sy'n gwella ennill gwobrau a gyflwynir mewn seremoni ar ddiwedd bob hanner tymor.
Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnal eu cynllun gwobrwyo mewnol eu hunain. Nawr mae un grŵp o ysgolion cyfagos wedi sefydlu her rhwng yr ysgolion gyda thabl cynghrair wythnosol a'r cyfle i ennill gwobrau ar draws yr ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn. Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yw Waun Wen, Clwyd, Gwyrosydd, Burlais, Brynhyfryd, Plasmarl a Phentrehafod. Mae pob ysgol yn cyfrifo'i data presenoldeb ar ddiwedd yr wythnos ac mae hyn yn cael ei ychwanegu at fwrdd râs bresenoldeb sy'n cael ei arddangos yn yr
MAE awdurdodau lleol ar draws gorllewin Cymru'n ymuno i wneud cais am arian Ewropeaidd ar gyfer prosiect â'r nod o drawsnewid bywydau pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Os yw'r cais yn llwyddiannus, gallai tua £1m o gyllid yr UE fod ar y ffordd i Abertawe fel y gall pobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd ennill y sgiliau sylfaenol i fod yn rhan o'r farchnad swyddi gael yr hwb sydd ei angen arnynt. Enw'r cynnig newydd yw "Cam Nesa" ac mae'n sôn am ddarparu cefnogaeth un i un fel bod y bobl ifanc hyn yn meddu ar y sgiliau ac yn cael yr hyfforddiant y mae ei angen arnynt i fod yn "barod i weithio". Fe'i cefnogir gan gynghorau, gan gynnwys Abertawe, Castellnedd Port Talbot a Chaerfyrddin.
Diolch, Kingsley MAE dwsinau o blant ysgol, athrawon a ffrindiau wedi dod ynghyd i ffarwelio ag arwr diogelwch ffyrdd Abertawe sy'n ymddeol. Cynhaliodd disgyblion yn Ysgol Gynradd Gwyrosydd wasanaeth arbennig i ddathlu ymdrechion Kingsley MacCarthy o Drefansel, sydd wedi bod yn wirfoddolwr Diogelwch Ffyrdd Kerbcraft am y 15 mlynedd diwethaf. Mae Kingsley, a fydd yn 80 oed eleni, wedi penderfynu gadael a rhoi o'i amser i waith arall a arweinir gan y gymuned.
Gwaith yn cychwyn
MAE gwaith i osod caeau 3G maint llawn newydd yn Abertawe wedi cychwyn. ysgol. Mae'r cyngor yn creu tri o'r Caiff presenoldeb ei raddio o bwyntiau 1 i 7 gyda'r tair cyfleusterau pob tywydd yng ysgol orau yn ennill y wobr aur, arian ac efydd. Mae hyn nghanolfannau hamdden yn newid bob wythnos gan ddibynnu ar bwy sy'n sgorio'r Penyrheol, Treforys a Chefn nifer mwyaf o bwyntiau ar gyfer yr wythnos flaenorol. Hengoed. Anogir rhieni i chwarae eu rhan wrth helpu'r ysgol i Dechreuodd gwaith ym mis Ebrill ar yr un cyntaf – cae sicrhau'r safle gorau. Cynhelir Gŵyl Bresenoldeb ym mis Mehefin ar gyfer yr newydd sbon y gellir ei lifoleuo ym Menyrheol gyda'r nod o ysgol sy'n ennill y wobr aur a bydd yr ysgolion sy'n ennill gwblhau'r prosiect erbyn diwedd arian ac efydd yn cael eu cydnabod hefyd. mis Mehefin.
8
Arwain
Abertawe
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Mai 2017
Ceisiadau am gyllid MAE byrddau padlo ar eich traed, rhaffau sgipio, sgwteri a ffoeliau cleddyfa newydd ymysg y cyfarpar sydd wedi rhoi hwb i brosiectau chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf. Nawr mae £129,000 ar gael eto i glybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid a grwpiau cymunedol yn Abertawe wneud cais amdano dros y flwyddyn nesaf i dalu am Amrywiaeth o bethau, o gyfarpar newydd a datblygiad staff i gyrsiau gwella i hyfforddwyr. Dyrennir arian y Gist Gymunedol a ddarperir gan Chwaraeon Cymru yn lleol gan Gyngor Abertawe. Mae grantiau gwerth hyd at £1,500 ar gael i glybiau chwaraeon, clybiau ieuenctid neu grwpiau cymunedol sydd am helpu i wella cyfranogiad a safonau. Mae rhai o'r sefydliadau a elwodd y llynedd yn cynnwys Tenis Abertawe 365, Rygbi Cyffwrdd Gower Dragons, Action Bike Ladies, Surfability UK, Clwb Celtic Mini Fencing, Canolfan Gymnasteg Abertawe a Chlwb Jiwdo Samurai. Meddai Ian Beynon, Rheolwr Datblygu ac Allgymorth yng Nghyngor Abertawe, "Gobeithiwn y bydd y math hwn o fuddsoddiad yn ein clybiau lleol yn annog mwy o bobl nag erioed i wneud chwaraeon ac ymarfer corff yn rhan allweddol o'u bywydau, gan helpu i roi hwb i'w hiechyd a'u lles." Cysylltwch â Nia Parry yn y cyngor trwy e-bostio nia.parry@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 635452 i gael mwy o wybodaeth.
• CEFNOGAETH ARBENNIG: Mae'r gefnogaeth y mae teuluoedd maeth yn ei derbyn wedi gwneud argraff ar Claire Hieron,
gofalwr maeth gyda Maethu Abertawe.
MAE swyddogion safonau masnach yn cynghori landlordiaid ac asiantiaid rhentu i gymryd camau ychwanegol i fonitro gwaith blynyddol er mwyn cynnal a chadw boeleri nwy yn eu heiddo. Daw'r alwad ddiogelwch hon yn sgĂŽl achos llys diweddar yn Llys y Goron Abertawe lle cafodd peiriannydd nwy hunangyflogedig yn y ddinas ei garcharu am 14 mis ar Ă´l cyflwyno tystysgrifau diogelwch nwy am waith na chafodd ei gyflawni. Yn dilyn yr achos, meddai Mr Picken o Gyngor Abertawe, "Rydym am bwysleisio y dylai unrhyw un sy'n ystyried gwaith nwy geisio gwasanaeth peiriannydd diogelwch nwy cofrestredig bob amser." Dylai cwsmeriaid wirio'r gofrestr arlein yn www.gassaferegister.co.uk
MAE galwad i gyplau, teuluoedd ac unigolion gofalgar yn Abertawe ystyried maethu. Mae tÎm Maethu Abertawe Cyngor Abertawe yn gwneud ymdrech arbennig i annog mwy o bobl i ddilyn gyrfa'n gofalu am blant, pobl ifanc a hyd yn oed rhieni â babanod neu blant. Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ar draws y ddinas yn ystod Pythefnos Gofal Maeth a gynhelir y mis hwn i dynnu sylw at y gwaith arbennig mae gofalwyr maeth yn ei wneud. Mae gan Faethu Abertawe 135 o ofalwyr maeth cymeradwy ar hyn o bryd. Ymhlith y rhain mae Ian a Claire Hieron sydd â thri o blant eu hunain ac a ddechreuodd faethu dair blynedd yn ôl. Dywedodd Claire nad oes gan unrhyw swydd fwy o botensial na maethu i newid
gwybodaeth
Maethu yn cynnig profiad Pwysigrwydd gwirio gwaith bythgofiadwy i deuluoedd nwy MAE’R cyngor wedi'i gydnabod fel cyflogwr swyddogol sy'n cefnogi gofalwyr maeth. Mae gan y cyngor nifer o bolisïau i hyrwyddo maethu, gan gynnwys absenoldeb o'r gwaith i helpu gweithwyr sy'n cyflwyno cais neu'n hyfforddi i fod yn ofalwr maeth ac i ddiwallu anghenion y plant maent yn gofalu amdanynt pan gânt eu cymeradwyo. Meddai Matt Simons, Swyddog Datblygu Busnes Maethu Abertawe, "Mae'r cyngor yn gwerthfawrogi'r cyfraniad a wneir gan ofalwyr maeth ac ymrwymiad staff sy'n darparu gofal maeth i blant. Rydym yn hapus i siarad â chyflogwyr eraill sydd efallai'n awyddus i ddilyn ein hesiampl ac esbonio'r buddion mae hyn yn eu cynnig i'r gymuned gyfan."
plentyn neu fywyd er gwell. Dywedodd y gall bod yn ofalwr maeth beri gofid ond bod y gefnogaeth mae hi a'i theulu wedi'i derbyn gan Faethu Abertawe'n amhrisiadwy. Meddai, "Roeddwn wedi bod yn warchodwr plant am 10 mlynedd ac roedd ffrind i mi'n maethu; gwnaeth ein hannog
i ystyried y peth o ddifrif." "Mae'n heriol dros ben ond mae'n rhoi boddhad mawr i mi sy'n drech na'r heriau hynny. Dyma'r peth gorau wnes i erioed pan fyddwch chi'n gweld y gwahaniaeth yn rhai o'r plant hyn mewn blwyddyn, mae'n gwneud y cyfan yn werth chweil i mi. Mae fy nau blentyn ieuengaf yn rhan
fawr o helpu'r plant hyn i ymgartrefu yn ein cartref. "Rydym bob amser wedi dweud wrthyn nhw y byddem yn rhoi'r gorau iddi os bydd unrhyw adeg pan nad ydynt am i ni faethu. Pan ddaw pob lleoliad i ben mi fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw - 'ydyn ni am faethu eto?' a'r ateb bob tro yw 'ydym - pwy fydd yn dod drwy'r drws nesaf?' "Mae grwpiau bach i ofalwyr maeth lle gallwch ddod ynghyd am goffi a sgwrs ac mae hynny'n ddefnyddiol, yn enwedig os ydych chi newydd ddechrau. Bydd y tĂŽm Maethu Abertawe'n cynnal sioeau teithiol yn Tesco ac yn y Cwadrant. Byddant yn cynnal dwy noson wybodaeth yn y Ganolfan Ddinesig ar 15 ac 22 Mai rhwng 6pm ac 8pm. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0300 555 0111 neu ewch i www.maethuabertawe.org
Pwy gaiff faethu? Cael gwybod mwy... 0300 555 0111 www.maethuabertawe.org
Mai 2017
I gael newyddion dyddiol am ddim, ewch i www.swansea.gov.uk/subscribe
Leon yn chwilio am ein sêr Rho 5
Abertawe
9
Crynodeb o’r
newyddion Edrychwch ar yr arwyddion cyn ymdrochi MAE arwydd electronig bellach ar waith i helpu ymdrochwyr i benderfynu a ydynt am fynd i'r dŵr yn nhraeth Abertawe. Bydd yr arwydd, a fydd yn dechrau gweithio pan fydd y tymor ymdrochi'n dechrau ar 15 Mai, yn cynnwys rhagolwg ansawdd dŵr dyddiol. Mae wedi'i osod ger pwynt samplu dŵr dynodedig traeth Abertawe ar ben y llithrfa ger y promenâd. Bydd gwybodaeth yn cael ei dangos ar ddwy ochr y sgrîn, sy'n golygu y bydd pobl yn gallu gweld manylion ar ansawdd dŵr, naill ai o'r traeth neu o'r promenâd, ac yn gallu penderfynu a ydynt am fynd i nofio. Meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe fod rheoliad y DU sy'n deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd yn golygu y bydd yn rhaid i bob traeth ar draws y wlad ddangos dosbarthiad ansawdd dŵr, sy'n seiliedig ar ddata a gasglwyd dros gyfnod o bedair blynedd.
Dadorchuddio plac yn dilyn taith cenhadwr DROS 5,000 o filltiroedd oddi cartref, bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio i ddathlu bywyd dyn o Abertawe a'i lwyddiant yn y dyfodol. Pan fydd cynrychiolwyr sy'n ymweld o Wuhan yn Tsieina'n ymweld â'r ddinas nesaf, bydd cyngor Abertawe cyflwyno plac glas iddynt i gydnabod Griffith John. Bydd y plac - sydd wedi'i ysgrifennu'n Gymraeg, yn Saesneg ac yn yr iaith Fandarin - yn cael ei osod y tu allan i Ysbyty'r Undeb yn Wuhan, a sefydlwyd gan John 150 o flynyddoedd yn ôl ac sydd bellach yn un o gyfleusterau ymchwil meddygol pwysicaf Tsieina. Roedd John, a anwyd yn Stryd Llangyfelach ym 1831, yn un o'r cenhadon Cristnogol cyntaf i ymweld â Tsieina.
Taro'r nodyn anghywir
• SEREN: Mae llysgennad Rho 5, Leon Britton, am glywed gennych chi. enwebiadau 2017, bydd croeso hefyd i enwebu dosbarth ysgol/blwyddyn gyfan sy'n cael eu dysgu yn y ddinas. Mae'r beirniaid yn chwilio am enghreifftiau o unigolion neu grwpiau sy'n dyheu i gyrraedd nodau personol neu i wella bywydau eraill yn eu teulu, ysgol neu'u cymuned ac, wrth wneud hynny, maen nhw'n ysbrydoli eraill.
Diolch yn fawr
MAE seren pêl-droed, Leon Britton, yn chwilio am sêr Rho 5 Abertawe wrth i'r gwobrau i bobl ifanc ysbrydolus gyrraedd ei chweched tymor. Mae chwaraewr canol cae'r Elyrch yn annog pawb i ystyried enwebu person ifanc, grŵp o bobl ifanc neu ddosbarth ysgol sydd wedi goresgyn adfyd neu sydd wedi gwneud eu hysgol neu'u cymuned yn falch ohonynt. Caiff y gwobrau eu harwain gan Gyngor Abertawe, eu noddi gan Goleg Gŵyr Abertawe a'u cefnogi gan fusnesau a sefydliadau ar draws y ddinas. Meddai Leon, "Dechreuodd Rho 5 gyda'r nod o ddangos pa mor ysbrydolus yw plant a phobl ifanc yn y ddinas hon. Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae eich enwebiadau yn ein helpu i brofi bod hyn yn wir. "Trwy ymdrechu i fod y gorau a gweithio'n galed, mae'r plant a'r bobl ifanc sydd wedi'u henwebu yn ysbrydoliaeth i eraill, yn glod iddynt eu hunain, eu cymunedau neu'u hysgolion, ac yn haeddu cydnabyddiaeth. "Peidiwch â gadael i berson ifanc teilwng rydych chi'n ei adnabod golli'r cyfle. Ewch ar-lein ac enwebwch yn: www.abertawe.gov.uk/gwobraurho5 ” Eleni mae Rho 5 wedi ychwanegu categori newydd wedi'i ysbrydoli gan gais gan fam o'r enw Heidi yn 2016 i gydddisgyblion yn nosbarth ei mab. Mae ei mab, Ellis Bonham Clatworthy yn anabl, ac roedd Heidi eisiau cydnabod yr holl ddisgyblion ym mlwyddyn 4 Ysgol Gynradd Penyrheol am eu cariad, eu dealltwriaeth a'u hymdrechion i addasu popeth y maent yn ei wneud er mwyn i Ellis gael bod yn rhan o bopeth. Mae hyn yn helpu ei mab i fod yn hapus ac yn llwyddiannus yn yr ysgol. Yn anffodus, roedd gormod o blant yn y flwyddyn i gymryd rhan yn seremoni wobrwyo swyddogol Rho 5 y llynedd. Ond, cafodd y stori gymaint o effaith ar y beirniaid, trefnwyd i'r disgyblion dderbyn gwobr arbennig. Dyna pam fod yr enwebiadau eleni yn cael eu gwahodd i'r wobr ychwanegol newydd ar gyfer enwebiadau ysgolion mwy. Mae'n hawdd enwebu person ifanc am wobr Rho 5 gan fod popeth mae ei angen arnoch ar-lein. Mae'r gwobrau yn agored i unrhyw blentyn neu berson ifanc neu grŵp mewn tri ystod oedran - dan 13 oed, 19 oed neu iau neu bobl 20-25 oed sy'n byw yn Abertawe, neu'n cael addysg neu gefnogaeth yma. Gall disgyblion ysgol gael eu cofrestru o hyd fel unigolion, clybiau neu grwpiau yn y prif gategorïau hyn, ond ar gyfer
Arwain
Ni fyddai'n bosib cynnal Gwobrau Rho5 heb gefnogaeth deyrngar ein noddwyr. Eisoes wedi cofrestru eleni y mae: • Coleg Gŵyr Services Ltd • Clwb Pêl-droed Dinas • Day's Rental Abertawe • Tîm Ailgylchu Cyngor • Clwb Rotari Abertawe Abertawe • Cymdeithas Adeiladu • LC Abertawe, Abertawe • McDonalds a • Swyddfa'r Arglwydd Faer • Pharc Trampolinau Go Air, • Stenor Environmental Abertawe
Ffordd newydd yn cynnig llwybr i aer glanach MAE llwybr trafnidiaeth gwerth £5 miliwn o bunnoedd ger canol dinas Abertawe yn cael ei gwblhau. Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu cwblhau cynllun Ffordd Ddosbarthu'r Morfa sy'n ymestyn am 1.7km o Stadiwn Liberty, wrth ymyl afon Tawe, i ganol y ddinas. Datblygwyd y llwybr er mwyn darparu cysylltiadau trafnidiaeth uniongyrchol i nifer o safleoedd datblygu ar hyd coridor afon Tawe a
lleihau tagfeydd ar Heol Castell-nedd gerllaw. Ers dechrau'r gwaith adeiladu ar y ffordd, mae datblygiad preswyl newydd wedi cael ei gwblhau ac mae Hitachi Rail hefyd am agor depo gerllaw fel rhan o'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd. Mae'r cynllun trafnidiaeth gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei ariannu gan gyfres o grantiau trafnidiaeth gan Lywodraeth Cymru ac mae'r arian a dderbyniwyd yn 2016 wedi golygu bod y cyngor wedi gallu cwblhau'r datblygiad
flwyddyn yn gynnar. Mae safleoedd eraill ar hyd y llwybr hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer datblygiadau pellach. Unwaith y bydd ar agor, mae'r cyngor yn gobeithio y bydd yn arwain at ansawdd aer gwell yn yr Hafod i filoedd o breswylwyr. Mae peth o'r cyllid wedi'i ddefnyddio er mwyn diogelu rhai o'r nodweddion hanesyddol ar hyd y llwybr sy'n gysylltiedig â Gwaith Copr yr Hafod.
MAE mwy na 40 o fanwerthwyr y ddinas wedi derbyn ymweliad gan Safonau Masnach Abertawe a'r heddlu fel rhan o ymgyrch ymwybyddiaeth o dwyll. Cydlynwyd yr ymgyrch yn dilyn adroddiadau o dwyllwyr yn targedu preswylwyr Abertawe, yn eu twyllo i brynnu talebau iTunes i dalu am filiau cyfleustodau ffug a gwasanaethau eraill. Mae swyddogion Safonau Masnach Abertawe yn gweithio gyda'r heddlu ar hyn o bryd, yn ymweld â siopau sy'n gwerthu talebau iTunes, i gynyddu ymwybyddiaeth o'r twyll.
Yn mynd, ar fynd, wedi mynd MAE adeilad yng nghanol y ddinas wedi'i werthu am chwe gwaith y pris y gofynnwyd amdano. Er gwaethaf y pris awgrymedig o £20,000, mae Cyngor Abertawe wedi gwerthu'r safle 0.47 erw ar gornel y Strand Uchaf a Stryd yr Hafod am £120,000 mewn arwerthiant yn Llundain. Caiff elw o werthiant y safle ei ailfuddsoddi yng ngwasanaethau'r cyngor a bydd yn helpu i leihau costau cynnal a chadw eiddo.
10
Arwain
Abertawe
Ewch am dro yn y coed MAE taflen newydd i gerddwyr a phecyn gweithgareddau i ysgolion wedi cael eu lansio gan Gyngor Abertawe i annog mwy o bobl i fwynhau chwe llwybr coediog yn y ddinas. Meddai Mark Winder, ecolegydd Cyngor Abertawe, fod coetir hynafol yn gyfoethog iawn o ran bywyd gwyllt, harddwch ac amgylchedd, a'i fod yn un o'n cynefinoedd mwyaf gwerthfawr yma yng Nghymru. Dywedodd fod coetiroedd ar eu prydferthaf am ychydig o wythnosau yn gynnar yn y gwanwyn, pan fydd blodau'r coetir, megis clychau'r gog a garlleg gwyllt, yn blodeuo. Mae'r daflen ar gael ar hyn o bryd o lyfrgelloedd cymunedol yn Abertawe ac o'r Ganolfan Ddinesig, a bwriedir ei dosbarthu mewn mwy o leoliadau ar draws Abertawe a phenrhyn Gŵyr cyn bo hir. Mae'r llwybrau coed yn cynnwys lleoedd fel Cwm Iorwg ger Llanmadog, Dyffryn Llandeilo Ferwallt a Chwm Clydach. Mae'r arweiniad hefyd yn cynnwys Coed Nicholston, Coed Cwm Penllergaer a Choed yr Esgob. Crëwyd y daflen fel rhan o brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri i gofnodi bioamrywiaeth coetir hynafol yn Abertawe, sef prosiect ar y cyd rhwng Tîm Cadwraeth Natur y cyngor a Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.
Mynd gyda’r llif MAE Cyngor Abertawe yn ymdrechu i wella llif y traffig i'r Mwmbwls ac yn ôl. Mae gwaith wedi'i gwblhau ar gyfres o oleuadau traffig ar hyd rhan o Heol y Mwmbwls a ddylai olygu y bydd gyrwyr yn gallu symud drwy oleuadau traffig yn gyflymach. Disgwylir i'r gwelliannau hyn gael eu cyflwyno wrth y groesfan i gerddwyr sy'n cysylltu llwybr beicio'r blaendraeth â Dyffryn Clun. Mae'r gwaith yn cynnwys gwneud y groesfan yn fwy llydan a chael gwared ar y cynllun croesgam. Bydd gwelliannau ychwanegol i ddau fan arall gerllaw sydd wedi'u rheoli gan oleuadau traffig lle cânt eu cysylltu â'r groesfan newydd.
am holl wybodaeth y cyngor, ewch i www.abertawe.gov.uk
Mai 2017
Y seren aur Chloe yn troi’n athrawes NID bob dydd y caiff nofwyr ifanc y cyfle i gael eu dysgu gan nofiwr Paralympaidd sydd wedi torri recordiau ac sydd yn bwriadu cystadlu yng Ngemau Tokyo yn 2020. Ac eto, dyna'n union y mae pobl ifanc sy'n heidio i Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe'n ei dderbyn bob wythnos gan Chloe Davies. Pan oedd Chloe yn 13 oed, hi oedd aelod ieuengaf tîm Paralympaidd Prydain Fawr yng Ngemau Llundain 2012. Ers hynny, mae hi wedi cynrychioli Prydain Fawr ar sawl achlysur ac wedi ennill medalau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Ei llwyddiant diweddaraf oedd cipio'r fedal aur yn y ras nofio ar y cefn 100m wrth gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Cyfres Nofio Paralympaidd Ryngwladol 2017 yn Copenhagen.
Bellach mae hi hefyd yn lansio gyrfa fel athrawes nofio ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe sy'n denu llawer o bobl ifanc i'w sesiynau, gyda rhai ohonynt yn gobeithio dilyn ei hôl troed hi. Felly ble dechreuodd hi? "Mae cael hwyl yn hollbwysig," meddai. "Dechreuodd fy mam fynd â fi i nofio pan oeddwn i'n fabi, a thyfais i fyny yn dwlu arno. Roeddwn i'n wirioneddol wrth fy modd pan gefais fy newis ar gyfer Llundain 2012 ac roedd yn anhygoel i feddwl mai fi oedd aelod ieuengaf y tîm." Mae cyflawniadau Chloe'n cynnwys meddu ar recordiau Prydeinig, Ewropeaidd a Rhyngwladol mewn sawl gornest yn ei chategori S14. Mae hi hefyd wedi ennill llawer o fedalau ar lefel y DU a byd-eang, gan gynnwys medal efydd ym Mhencampwriaethau Nofio'r
IPC a gynhaliwyd ym Montreal, yng Nghanada. Mae Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn bwll cymunedol yn ogystal ac yn ganolfan hyfforddi i nofwyr profiadol, gan feithrin y genhedlaeth nesaf o nofwyr â photensial Olympaidd a Pharalympaidd. Dywedodd fod ei rôl addysgu yn bluen arall yn ei chap ac mae'n credu y bydd yn ei helpu fel cystadleuydd hefyd. Meddai, "Mae gan Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe gyfleusterau gwych ac mae'r staff yn dda iawn, felly dyma'r lle perffaith os ydych chi am ddysgu sut i nofio neu wella eich sgiliau. Fel athrawes, fy nod i yw cefnogi nofwyr i fagu hyder yn y dŵr. Pan fyddwch yn dysgu sut i nofio, mae'n sgil sy'n aros gyda chi am oes. Pan fyddwch yn gweld plant yn gwneud yn dda iawn ac maent am wneud yn dda, gallwch eu hannog ac wedyn gallant wneud hyd yn oed mwy."
• HYRWYDDWR: Tim Gill, un o Hyrwyddwyr Dementia Cyngor Abertawe
Tim yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr dementia NI fydd pobl â dementia byth yn rhy bell o gyfaill a chefnogaeth yn Abertawe. Dyma nod y fenter Ystyriol o Ddementia sydd wedi gweld cannoedd o staff rheng flaen yn cofrestru ar ei chyfer. Mae miloedd o heddweision, gweithwyr iechyd ac aelodau'r gwasanaeth tân hefyd am weld Abertawe'n dod yn ddinas sy'n Ystyriol o Ddementia. Mae llu o staff y cyngor eisoes yn ymateb i'r her ac mae'r cyngor wedi derbyn cydnabyddiaeth swyddogol gan y Gymdeithas Alzheimer am ei ymdrechion hyd yn hyn. Mae Tim Gill yn gweithio i dîm tai'r cyngor ac, yn ei farn ef, mater o fod yn gymydog da'n unig yw bod yn
Sut gallwch chi helpu MAE cefnogaeth y cyngor i'r fenter Ystyriol o Ddementia yn rhan o'r cynllun gweithredu ar gyfer Heneiddio'n Dda. Mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys datblygu mentrau megis Dinas sy'n Groesawgar i Bobl o Bob Oed, cyflwyno Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a meithrin partneriaethau â sefydliadau eraill er mwyn hyrwyddo lles. I wybod mwy am ddementia, ewch i www.alzheimers.org.uk ac i wybod mwy am fod yn Ystyriol o Ddementia yn Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/dementia Os ydych chi neu aelod o'r teulu neu gyfaill yn byw â dementia a hoffech chi helpu i lunio gwasanaethau sy'n ystyriol o ddementia, e-bostiwch polly.gordon@swansea.gov.uk
hyrwyddwr Ystyriol o Ddementia. Meddai, "Mae mwy na 45,000 o bobl yng Nghrymu yn byw gyda dementia. Os yw pawb yn Ystyriol o Ddementia, yna mae'n golygu nad yw unrhyw un sydd â dementia byth yn rhy bell o rywun a allai ei helpu."
Cafodd mam Tim ei diagnosio â'r clefyd dair blynedd yn ôl a dyna'n rhannol pam roedd ef am gymryd rhan yn y fenter Ystyriol o Ddementia a gefnogir gan y Gymdeithas Alzheimer. Meddai, "Mae yna lawer o gamsyniadau ynghylch dementia ac, fel
hyrwyddwr, fy rôl i yw newid agweddau pobl tuag at y clefyd drwy roi'r ffeithiau iddynt. Mae'n waith hynod werthfawr oherwydd bod gan wasanaethau cyhoeddus, fel ein gwasanaeth ni, gannoedd o staff rheng flaen, a’r mwyaf maen nhw'n deall dementia, gorau oll bydd y gwasanaethau mae'r rhai sy'n dioddef ohono yn eu derbyn." Meddai Tim mai un o'r camdybiaethau ynghylch dementia oedd bod pobl yn meddwl bod diagnosis yn golygu bod y person yn wynebu dyfodol heb ansawdd bywyd. Nid yw hyn yn wir; mae canfod y clefyd yn gynnar yn helpu, ac mae cefnogaeth gan sefydliadau gwirfoddol a gwasanaethau cyhoeddus yn bwysig hefyd.
Y llynedd, gwnaeth eich treth y cyngo
Mwy o wybodaeth: Gallwch ddod o hyd i’r daflen "Gwybodaeth am eich bil Treth y Cyngor 2016/17" a gw Gallwch ofyn am gopi caled drwy ffonio 01792 635382.
or ein helpu i wneud hyn i gyd a mwy….. DIGWYDDIADAU yn Abertawe 2017 GORFFENNAF
MAI
I 1-31 Mai Gerddi Clun yn eu Blodau Gerddi Clun I 5 Mai CGG y BBC: Berlioz - Symphonie Fantastique Brangwyn I 27 Mai Diwrnod Hanes Byw Canoloesol Castell Ystumllwynarth I 28 Mai Treiathlon Abertawe Canol Dinas Abertawe
MEHEFIN
I 11 Mehefin Sioe Beiciau Modur Clasurol Sgwâr Dylan Thomas I 16-18 Mehefin Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe Lleoliadau amrywiol I 25 Mehefin Hanner Marathon Abertawe JCP Canol Dinas Abertawe
I 1 a 2 Gorffennaf Sioe Awyr Genedlaethol Cymru Bae Abertawe I 8 Gorffennaf Datblygu Gyrfa Ysgrifennu gyda Julia Forster Canolfan Dylan Thomas I 15 Gorffennaf Gŵyl Feganaidd Abertawe Brangwyn I 16 Gorffennaf Taith Feicio Sefydliad Prydeinig y Galon De Cymru Abertawe I 22 Gorffennaf Diwrnod Hwyl Archaeoleg Castell Ystumllwynarth I 22 Gorffennaf 5k Pretty Muddy Parc Singleton I 23 Gorffennaf Ras am Oes Parc Singleton
AWST
I 1-31 Awst Gerddi Botaneg yn eu Blodau Gerddi Botaneg Singleton I 12 Awst Olly Murs Parc Singleton I 20 Awst Ras Rafftiau RNLI y Mwmbwls Y Mwmbwls I 24-26 Awst Gŵyl Cwrw a Seidr Bae Abertawe Brangwyn
I 27 Awst Taith Dywys: Abertawe Dylan Canolfan Dylan Thomas I 28 Awst Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau Castell Ystumllwynarth
MEDI I 9 Medi Drysau Agored Castell Ystumllwynarth I 13 a 14 Medi The Luna Cinema Castell Ystumllwynarth I 24 Medi 10k Bae Abertawe Admiral Bae Abertawe I 30 Medi - 14 Hydref Gŵyl Ryngwladol Abertawe Lleoliadau amrywiol
HYDREF
I 7 Hydref Treiathlon y Mwmbwls Y Mwmbwls I 21 Hydref Gŵyl Gwrw Almaenig Brangwyn
Ewch i joiobaeabertawe.com i weld mwy o ddigwyddiadau
wybodaeth am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru yn www.abertawe.gov.uk/trethycyngor.